Y Selar - Steddfod 08

Page 6

wedi dod o’r cefndir hwnnw, mae yna dynfa rhwng y filltir sgwar a’r byd mawr, a dyna beth sydd yn ‘Madryn’.

Roedd hefyd yn amlwg o ‘Hiraeth’ fod cryn ofal a meddwl tu ôl i eiriau’r caneuon. O lle ddaeth yr ymhyfrydu hwnnw mewn geiriau? Mi oeddwn i’n swil o fedru sgwennu geiriau yn y Gymraeg, a doeddwn i ddim yn dod o gefndir llenyddol academaidd. Ond mae swn gair i’r nodyn yn bwysig i mi, mae delweddau o ran geiriau yn bwysig i mi-mae barddoniaeth y peth agosaf at ganu a ffilmiau i mi. Felly, mi roeddwn i’n trio rhoi rhyw fath o sglein ar y geiriau, ond yn rhy aml mae’r gerddoriaeth wedi cael blaenoriaeth gen

Efo pwy yr hoffai gydweithio ag o-yn fyw neu’n farw? John Cale, achos dwi’n ei edmygu am beth mae wedi ei wneud. Roedd Karl Jenkins yn yr un ieuenctid gerddorfa, a fuaswn i’n licio gofyn iddo fo pam ei fod wedi dyfeisio iaith pan roedd ganddo iaith werth y byd? Dwi hefyd yn edmygu Frank Sinatra, achos does neb yn lleisio brawddeg cystal hyd heddiw. Sut byddwch chi’n ymlacio? Mae gen i randir lle dwi’n tyfu pethau, a dwi wrth fy modd yn tyfu pethau. Mae gen i gi, Lili, ac mae’n gyfaill da. Dwi’n hoffi chwarae cerddoriaeth, a cherddoriaeth sydd yn cysylltu ddyfnaf gyda’r emosiynau. O ran cerddoriaeth, dwi’n gatholig iawn yn y pethau sydd yn fy mhlesio, o Stevie Ray Vaughan i Aimee Mann a Tom Waits. Beth sydd yn eu cysylltu nhw i gyd yw fod eu cerddoriaeth yn dod o’r bol rhywsut. Wrth edrych yn ôl, dwi’n gweld fod y pethau gorau wedi dod o rywbeth tu fewn, yn hytrach nag o rhyw ‘riff’ glyfar. Felly dwi’n tueddu i wrando ar bobl sydd yn lleisio rhwbeth dynol, gwreiddiol, deifiol a dwys, ac mi allai fod yn John Lennon, Larry Carlton, Lowell George, Little Feat, Dr John, Brahms, Mahler neu Mozart-mae’n rhyfeddol o eang.

6

i—mi oeddwn i‘n canu geiriau ffwrdd-ahi fel ‘rownd a rownd’ a ‘Macrell wedi ffrio yn y badell ffrio’. Roedd hynny yn mynd yn waeth wrth i fy niddordeb mewn cerddoriaeth gynyddu; fel roedd fy ngeirfa cerddorol yn ymestyn, roedd y sylw yr oeddwn i roi i eriau yn prinhau. Bellach, dwi eisiau gwneud yn iawn a dwi’n trio dod yn ôl at y geiriau.

Bythefnos yn ôl, chwaraeodd Endaf Emlyn ei ail albym ‘Salem’ bron yn ei chyfanrwydd yn Sesiwn Fawr Dolgellau. Mae’n cael ei chydnabod fel y ‘concept album’ gyntaf yn y Gymraeg, sef albym gyda chaneuon sy’n troi o gwmpas un syniad neu thema ganolog. Y thema oedd y cymeriadau yn llun enwog Curnow Vosper o gapel bychan Salem ger Harlech. Beth a’i ddenodd at y delweddau arbennig hynny? Roedd o’n ymgais i roi ffurf a thema i’r gwaith. Dwi ddim yn efengylwr nag yn gapelwr, felly doeddwn i ddim yn mynd ati gyda rhyw fath o arddeliad crefyddol. Ond, wrth edrych yn ôl, roeddwn i yn digwydd bod yn rhan o’r genhedlaeth honno a oedd yn ffarwelio gyda’r capel, ac yn cofio ffordd o fyw gwahanol. Roeddwn i wedi cael fy nhrwytho yn y cefndir Hen Gorff ffwndamental Cymreig cadarn iawn hwnnw, a mi oeddwn i’n gweld bod hwnnw’n mynd. Ni oedd y genhedlaeth gyntaf oedd yn cerdded oddi wrth hynny. Mi oeddwn i’n dweud ‘Iawn, o dyna lle dwi di dod, dwi ddim yn gwybod lle dwi’n mynd rwan, ond dwi’n gwybod ein bod ni’n gadael y byd yna, a ddown ni byth yn ôl iddo fo’.

Ar ddiwedd ‘Salem’, mae’r adroddwr yn ffarwelio gyda’i gariad Laura i fynd ar daith o amgylch y byd. Felly y ganwyd ei albym nesaf ‘Syrffio Mewn Cariad’, sydd yn troi o amgych anturiaethau’r adroddwr mewn gwahanol rannau

o’r byd. Roedd yr albym hefyd yn ehangach o ran dylanwadau ac arddulliau cerddorol, gydag elfennau Motown a ffync yn cael ei hychwanegu i’r gymysgfa. Mae’r delweddau hefyd yn fwy sinematig hyd yn oed nag yn ‘Salem’, ac yn awgrym cryf o gyfeiriad diweddarach Endaf Emlyn fel gwneuthurwr ffilmiau. Mae ‘Syrffio Mewn Cariad’ yn record od iawn. Mae yna bob math o bethau ynddi - lobsgows o bethau. Dipyn bach o ‘hubris’ ar fy rhan i. Ar ôl rhyw lefel o lwyddiant efo ‘Salem’, dwi’n meddwl mod i wedi colli fy ffordd ychydig bach efo ‘Syrffio’, er efallai fod pobl eraill yn gweld lle oeddwn i’n mynd. Mae’r dylanwadau ar Syrffio yn cynnwys pobl fel Robert Louis Stevenson, Somerset Maugham, Arthur Grimble a’r syniad o’r Prydeiniwr neu bobl o’r gorllewin allan yn y byd. Roeddwn i hefyd yn gweld bod traddodiad o fynd i’r môr yng Nghymru, felly er ein bod ni’n byw ym mhendraw’r byd ym Mhen Llyn, roedd ambell dy^ gydag enwau fel ‘Valpariso’ a ‘Santiago’, felly roedd yna ramant o fynd i’r môr. Roedd gen i ffrindiau wedi mynd i’r môr o Bwllheli, ac ar un adeg mi oeddwn i eisiau mynd fy hun, ond roedd fy nhad

MI OEDDWN I’N SWIL O FEDRU SGWENNU GEIRIAU YN Y GYMRAEG YN RHY AML MAE’R GERDDORIAETH WEDI CAEL BLAENORIAETH GEN I ...

MAE ‘SYRFFIO MEWN CARIAD’ YN RECORD OD IAWN

ENDAF EMLYN


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Y Selar - Steddfod 08 by Y Selar - Issuu