Page 1

y Selar RHIF 30 | AWST | 2012

Sw ˆ nami

y-selar.co.uk Cowbois Rhos Botwnnog, Datblygu 30, @Violas_, Adolygiadau

1


y Selar RHIF 30 | AWST | 2012

Su’mai unwaith eto gerddoriaeth-garwyr! Os ydych chi’n darllen hwn ar faes yr Eisteddfod gobeithio ei bod hi’n braf (mae Maes B yn yr awyr agored eleni cofiwch!) Does yna ddim ffasiwn beth â chinio am ddim yn ôl y Sais, (trio pabell Prifysgol Bangor ar y dydd Gwener fyswn i ond stori arall ydi honno). Yn wir, yn yr Eisteddfod go brin fod yna ffasiwn beth â chinio am lai na phum punt, ond peidiwch â digalonni bobl – o leiaf mae gennych chi gylchgrawn gwerth chweil i bwdin, a hwnnw am ddim. Ond beth sydd yn y rhifyn hwn dwi’n eich clywed chi’n gofyn. Wel, yn fras... Ciron yn chwarae Cowbois, Lowri mewn Sŵnami, Twmffat yn sôn am gelf, Violas yn ffidlan efo trydar a chyfres radio yn Datblygu yn Y Selar. A llwyth o adolygiadau wrth gwrs gan gynnwys un estynedig arbennig iawn. Mwynhewch a byddwch lawen, a pheidiwch â derbyn da da gan ddieithriaid (na losin o faniau di Gymraeg).

CYNNWYS Sgwrsio â Sw ˆ nami

4

trydar gyda @Violas

9

Dydi Fama’n Madda i Neb

10

Dathliadau Datblygu

12

Mentro Draw Dros y Mynydd

14

Cronicl cerdd

18

Adolygiadau

20

Hwyl, Gwilym Dwyfor

4

Llun Clawr: Sŵnami Ffotograffydd: Andrew Kime

10

GOLYGYDDION

Owain Schiavone (yselar@live.co.uk) Gwilym Dwyfor (gwilymdwyfor@hotmail.co.uk)

DYLUNYDD

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

MARCHNATA

Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)

CYFRANWYR Gwilym Dwyfor, Griff Lynch, Casia Wiliam, Owain Gruffudd, Miriam Elin Jones, Ifan Edwards, Ciron Gruffydd a Heledd Williams.

12

14

@yselar yselar@live.co.uk

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


Sgwrsio â Sw ˆ nami Does yna ddim byd yn ein plesio ni yma yn Y Selar yn fwy na chael “un yn iawn”. Does gennym ni ddim diddordeb mewn medalau aur na rhubanau glas, mewn sefyll ar bodiwm nac eistedd ar gadair – y cwbl yr ydym ni eisiau yw cael “un yn iawn” o dro i dro. A gyda Sw ˆ nami fe gawsom ni “un yn iawn”. Gadewch i mi egluro: Rhagfyr 2011 – Dau i’w Dilyn, Awst 2012 – Tudalen flaen. Do, mae hi wedi bod yn dipyn o flwyddyn i’r band o Feirionydd, a Lowri Johnston fu’n holi mwy ar ran Y Selar.

M

ae’n noson lawiog a does dim i’w wneud heblaw swatio ar y soffa. Heblaw, mae gen i gyfweliad i’w wneud a hynny gyda band Sŵnami o Ddolgellau. Be’ dwi’n ei wybod am Sŵnami? Eu bod nhw’n dod o Ddolgellau, bod ganddyn nhw sengl hynod o afaelgar mas ar hyn o bryd ac un arall ar y ffordd ... a bod y to bach ar yr ‘w’ yn bwysig iawn! Heblaw hynny, dim llawer, felly rhaid cael sgwrs fach i ddarganfod mwy am y band ’ma. Dwi’n gofyn i ddechrau iddyn nhw gyflwyno eu hunain. Mae hanner y band yn nhŷ Ifan Ywain (gitâr). Yno hefyd mae Huw Ynyr sy’n chwarae Synth ac Ifan Davies sy’n canu a chwarae’r gitâr. Dyw Gerwyn (bas) na Tom (drymiau) yn gallu bod yna felly dyma’r tri sy’n fy nghyflwyno i Sŵnami. Ifan Davies sy’n esbonio o lle ddaeth y grŵp, “Roeddwn i ac Ifan Ywain yn ffrindiau yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac fe wnaeth y ddau ohonon ni ddechrau jamio ac ysgrifennu caneuon. Roedd Ifan yn ’nabod hogia’ eraill fase’n medru cychwyn band felly dyna wnaethon ni. Gathon ni ein hymarfer cyntaf yn Nhŷ Siamas yn Nolgellau ac wedi hynny ’nath o jyst digwydd rili!” A fel yr esbonia Huw, mae’r ymateb wedi bod yn dda “Wel ’da ni hefo’n gilydd ers rhyw flwyddyn a hanner, ac ma’ pethau ’di digwydd yn eithaf cyflym. Fe wnaethon’ ni gymryd rhan ym Mrwydr y Bandiau C2 llynedd a chael ymateb da a chael cyfleoedd o ganlyniad. Aethon ni i’r stiwdio i recordio cân a chael tipyn o sylw, ac fe ’naethon ni Brwydr y Bandiau Maes B hefyd. Oedd e’ i gyd yn grêt ac o achos y cyfleoedd yna gafon ni dipyn o sylw ac ymateb da.” Dwi’n cyfaddef wrthyn nhw mod i ’di ystyried fod y

4

y-selar.co.uk

band wedi bod yn gigio ers mwy na blwyddyn a hanner - mae’n teimlo’n hirach ers i Sŵnami fod yn ein swyno!

Creu Tonnau Diolch i gystadleuaeth Frwydr y Bandiau arall, fe enillodd Sŵnami yr hawl i chwarae yng ngŵyl Wakestock eleni. “Do, welon ni gystadleuaeth ar dudalen facebook Wakestock i ddod o hyd i fand i chwarae yn yr ŵyl felly ’naethon ni anfon un o’n caneuon ni atyn nhw ac roedden ni’n lwcus iawn i ennill!” meddai Huw. “Falle ein bod ni wedi bod yn lwcus mai Lisa Gwilym oedd y beirniad - rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddi hi am ein dewis pryn bynnag!” Dwi’n siŵr ei bod hi wedi bod yn gig gyffrous iawn? Ifan Davies sy’n cytuno... “Oedd. Honno oedd ein gig mwyaf ni hyd yma yn bendant ac fe wnaethom ni fwynhau’n fawr iawn. Roedd hi’n wahanol iawn i gigs eraill rydyn ni wedi eu chwarae - doeddem ni heb arfer chwarae ar lwyfan mor fawr a chael cyfleusterau cystal. Ac roedd treulio amser gefn llwyfan yn hwyl!” Roedd yna fandiau reit amlwg yn chwarae gyda’r bois yn yr ŵyl don fyrddio enfawr. “All American Rejects oedd yn headleinio ein llwyfan ni. Ac roedd bandiau eraill fel Ed Sheeran a Benjamin Francis Leftwich yno hefyd... llwyth o fandiau!” Maen nhw’n amlwg wedi dal y llygad yn genedlaethol, ond sut ymateb sydd wedi bod yn lleol? “Rydyn ni wedi cael ymateb rili da. Rydym ni’n chwarae yn Sesiwn Fawr Dolgellau a bydd tipyn o bobl leol yn dod i weld hwnna. ’Da ni wedi cael ymateb da tu allan i ardal Dolgellau hefyd.” meddai Huw. Ifan Ywain sy’n ymhelaethu, “Does dim llawer iawn o gigs yn digwydd yn lleol a dweud y gwir. Rydym ni wedi gwneud mwy o gigs yn ardal Bangor, Dyffryn Conwy, Caernarfon ac ati...” “Rydym ni newydd chwarae gig Hanner Cant Cymdeithas yr Iaith hefyd ac roedd hi’n wych chwarae gyda chymaint o fandiau mawr o Gymru - gan gynnwys Gruff Rhys!” ychwanega Ifan. “Fe chwaraeon ni ar y dydd Sadwrn, ond roeddem ni yno am y penwythnos yn dathlu penblwydd Ifan Davies yn ddeunaw oed!” Ac ydy gweddill yr haf yn mynd i fod yr un mor brysur hefyd? “Ydy yn bendant, mae ganddom ni gig bob penwythnos yn ystod mis Gorffennaf ac mae ganddom ni dipyn o gynigion yn dod mewn dros ebost sy’n grêt. Fyddan ni’n chwarae ym Maes B ar y nos Wener yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ar y llwyfan ar y maes ar y dydd Mawrth ... felly dewch draw!”

Dylanwadau di-Gymraeg Oes ’na fandiau Cymraeg penodol maen nhw’n hoff o chwarae gyda nhw? “Rydym ni wedi chwarae tipyn gyda bandiau fel Y Bandana, Candelas a Sen Segur.” meddai Huw. Felly oes ’na fandiau Cymraeg wedi dylanwadu arnyn nhw? “Does ’na ddim wir band Cymraeg sy’n dylanwadu arnon ni’n gerddorol.


Rydan ni’n fwy tebygol o wrando ar y bandiau Saesneg sydd o gwmpas nawr. Rydan ni’n hoff iawn o fandiau fel Kasabian. Fasen i’n dweud bod cymysgedd o fandiau fel Artic Monkeys a 2 Door Cinema Club wedi dylanwadu’n fawr arnon ni ac mae hyn yn dangos yn ein cerddoriaeth.” Felly os mai bandiau Saesneg sydd wedi dylanwadu ar Sŵnami, pam dewis canu’n Gymraeg? Ifan Davies sy’n ateb, “roedd o’n ddewis naturiol llwyr i ganu’n Gymraeg. Doedd o ddim yn croesi’n meddwl ni i ganu’n Saesneg pan ddechreuon ni.” Rwy’n holi ymhellach am gynnwys y caneuon ...“mae’n job deud rili am be’ ma’r caneuon...” meddai Huw, “... does dim neges benodol i’r rhan fwyaf ohonynt. Rydan ni i gyd yn cyfrannu at ysgrifennu’r geiriau ac oherwydd hynny rydan ni’n bownsio oddi ar ein gilydd. Gall un gân berthyn i sawl aelod o’r band achos yn aml mae mwy nag un ohonon ni yn ysgrifennu. Felly mae’r neges yn aml yn wahanol i bob aelod mae’n gwneud y cyfan yn fwy amwys. Weithiau bydd y pump ohonom ni wedi ysgrifennu un gân!” Mae gan y grŵp sengl newydd allan ar hyn o bryd, ac Ifan Ywain sy’n dweud mwy “mae ein sengl gyntaf sef ‘Mynd a Dod’ allan ar hyn o bryd. Dyma’r gyntaf o ddwy sengl fydd allan ym mis

6

y-selar.co.uk

Gorffennaf. Bydd ein hail sengl sef ‘Eira’ allan o gwmpas adeg yr Eisteddfod Genedlaethol ar label Copa.” Sut deimlad ydy rhyddhau cynnyrch cyntaf felly? “Grêt, dydan ni heb ryddhau dim o’r blaen ac mae popeth rydan ni wedi recordio wedi bod ar gyfer y radio neu sesiynau gwahanol. Fe wnaethon ni recordio’r caneuon yma yn Stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth. Fydd o’n gyfle gobeithio i gael mwy o sylw, gyda’r gobaith yn y diwedd o fynd ati i recordio EP neu albwm.” “Mae modd prynu’r senglau trwy label Copa neu ar y we ar itunes neu amazon ac mae’r caneuon ar ein tudalen Spotify ni hefyd.” Rwy’n awgrymu eu bod nhw’n gwneud y mwyaf o wefannau cymdeithasol, “ydyn, rydyn ni’n hoff iawn o Spotify gan ei fod mor hawdd i’w ddefnyddio. Rydyn ni hefyd yn defnyddio dipyn ar Facebook. Mae’n ffordd dda o gael ein cerddoriaeth ‘allan yna’ a chyrraedd cynulleidfa ehangach.” A gyda hynny, dwi’n dymuno pob lwc i’r band gyda’u gigs a’u senglau wrth gwrs. Bydd Sŵnami yn ymddangos mewn nifer o gigs dros yr haf felly fyddwch chi’n ddwl i’w colli nhw. Does dim ar ôl i mi i’w wneud felly ond mynd nôl i swatio ar y soffa i gyfeiliant y bechgyn o Ddolgellau.


Cymdeithas yr Iaith gigs Clwb Rygbi Llanilltud Fawr

Sadwrn, Awst 4ydd

CwiS CAwlACh MeiC AgoRed

Mynediad am Ddim | 7yh Sul, Awst 5ed

NoSoN o FlAeN y BoCS gydA SiANel ’62

Mynediad am Ddim | 7yh llun, Awst 6ed Noson Munud i Ddathlu

yR odS BReiChiAu hiR y RwtCh Ffilm ‘Munud i Ddathlu’

£7 | 7yh

Mawrth, Awst 7fed Gig Coleg Cymraeg

iau, Awst 9fed Noson PRS: Chwarae Teg i Gerddorion Cymru MeiC SteveNS huw M £10 | 7yh

JAMie BevAN A’R gweddillioN

gwener, Awst 10fed Noson Tynged yr Iaith 2 a Chynghrair Cymunedau Cymru

Steve eAveS lleuweN CASi wyN

£10 | 7yh

Sadwrn, Awst 11eg Gig Cymdeithas yr Iaith yn hyrwyddo’r SRG dros y degawdau

JeSS CliNigol JJ SNeed BlAidd

£10 | 7yh

y BANdANA MR huw y CoNduCtoRS NeBulA

£7 | 7yh

Mercher, Awst 8fed dathliad 50 tuduR oweN yn cyflwyno

dAFydd iwAN + heAtheR JoNeS £7 | 7yh

gweRSyllA dim ond

£6 y noson!

Cawodydd, Bwyd,10% o ostyngiad i wersyllwyr wrth y bar, Llai na 2 filltir o faes yr eisteddfod, Agos i dafarndai a siopau Llanilltud Fawr, Gigs dan do

Steddfod Bro Morgannwg

+ ar y maes! Parti Pen-blwydd y gymdeithas yn 50

‘Brwydr y Beasleys’

gweithdy Sianel 62

Cyflwyniad i ddathlu safiad y Beasleys dros y Gymraeg gydag aelodau o’r teulu yn cymryd rhan. 5pm Dydd Iau Awst 9 Pabell y Cymdeithasau 2

Sioe 50

ocsiwn Cyn – gadeiryddion Cymdeithas yr iaith gymraeg

Dewch draw i dorri’r gacen! 2pm Dydd Sadwrn Awst 4 Pabell Cymdeithas yr Iaith 3pm Dydd Llun, Awst 6 Gofod Hacio’r Iaith, Pabell Cefnlen

Rifíw am Gymdeithas yr Iaith 2.30pm Dydd Mawrth Awst 7 Theatr Fach y Maes

Fforwm agored i hybu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

2pm Dydd Mercher Awst 8 Pabell y Cymdeithasau 2

Cerddi hanner Cant

6pm Dydd Iau Awst 9 Pabell y Cymdeithasau 2

Cyfarfod Cynghrair Cymunedau Cymru

Cyfarfod cenedlaethol cyntaf y Gynghrair- croeso i bawb . Cadeirydd: Craig ab Iago 12 o’r gloch Dydd Sadwrn Awst 11, Y Neuadd Ddawns

1.30pm Dydd Iau Awst 9 Y Babell Len

Rhagor o fanylion a thocynnau: post@cymdeithas.org | 02920 486469 | cymdeithas.org/steddfod

hysbys 487 selar:487 01/05/2012 12:22 Page 1 Hysbys_CyIG_Steddfod_2012_190x138mm.indd 1

RHAGORIAETH ˆ MEWN GWYL A GWAITH

14/07/2012 11:48:56

• Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2013 • Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuadd Gymraeg ar safle Ffriddoedd sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Ffôn: 01248 382005 / 383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk

Dilynwch ni: Facebook.com/PrifysgolBangor • Twitter: @prifysgolbangor


“Pawb yn gwylio pawb yn gwylio pawb a nabod neb.”

1.10.12 – 17.11.12 @aradgoch

#SXTO

13+

www.aradgoch.org

hysbysA5.indd 1

25/7/12 09:11:48

Newydd o’r Lolfa!

£8.95

£5.95

Rhif Elusen 702506

gan Bethan Gwanas

aradgoch

£7.95

£5.95

www.ylolfa.com

£7.95

£5.95


trydar gyda @Violas @y_selar Su’mai @Violas_, croeso i gyfweliad trydar @y_selar! ’Da chi’n iawn?

@y_selar A dwi’n iawn yn meddwl fod neb llai na T.H. Parry Williams yn ymddangos ar un o draciau’r EP?!

@Violas_ Helo! ‘Den ni’n iawn diolch.

@Violas_ Ydi wir! Cân offerynnol i gyd-fynd efo cerdd T.H Parry Williams, Moelni. ‘Den ni ’di bod yn chware hi’n fyw ers dipyn!

@y_selar Clywed fod yna EP newydd ar y gweill, oes ’na enw? @Violas_ Oes - Nos Somnia. @y_selar Be’ allwn ni ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth ta? @Violas_ Wel, mae’r EP lot mwy “dreamy”. ’Chydig o post rock. EP dwyieithog eto. 5 cân ‘tro ‘ma! @y_selar A lle fuoch chi’n recordio, yn Music Box [Caerdydd] eto? @Violas_ Ie! A thŷ Llion [Robertson, y cynhyrchydd]. @y_selar Ond rhyddhau efo’r label, I Ka Ching y tro yma wrth gwrs, sut brofiad ’di hynny? @Violas_ Grêt! Cyffrous iawn! Ma’ nhw ’di rhyddhau stwff gan Texas Radio Band, Jen Jeniro a Sen Segur. Gyd yn fandiau gwych. Yep, edrych ’mlaen yn arw. @y_selar Roedd ’na waith celf trawiadol iawn efo’r EP diwetha’, Hwylio. Allwn ni ddisgwyl rhywbeth difyr felly eto? @Violas_ Ma’r gwaith celf ’chydig yn wahanol tro ‘ma ond gobeithio bydd o’n plesio. Mae’r elfen weledol yn bwysig i ni.

@y_selar Fydd athrawon Lefel A Cymraeg yn eich caru chi! Be’ arall sydd ar y gweill dros yr haf? Unrhyw wyliau diddorol? @Violas_ Ha! Ni’n chware gŵyl o’r enw Lodestar wrth Caergrawnt ddiwedd Awst. Ac eitha’ dipyn o gigs sydd yn siawns gwych i hybu’r EP. @Violas_ Ni hefyd yn gweithio ar fideo... @y_selar Cyffrous iawn. Digon o waith hyrwyddo felly. Fydd ’na un gig lansio swyddogol? @Violas_ Fydd y noson lansio yn Undertone yng Nghaerdydd ar y 29ain o Awst. @y_selar Edrych ymlaen yn barod, a beth am y fideo yma, beth allwn ni ei ddisgwyl yn hwnnw? @Violas_ Wel, ‘dyma’r fideo cynta’ i ni neud felly ddim yn siw ˆr be’ i ddisgwyl! Dal yn trafod efo’r tîm ffilmio/cynhyrchu... @y_selar Edrych ymlaen. I gyd yn help efo’r hyrwyddo. Fyddwch chi’n defnyddio dipyn o twitter a facebook i ledaenu’ch cerddoriaeth hefyd?

@y_selar Da iawn. A be’ ’di hyn dwi’n ei glywed am gardiau post hefyd?

@Violas_ Byddwn. Tueddu i ddefnyddio twitter yn fwy na facebook dyddie yma......felly dilynwch ni!

@Violas_ Ie, fe fydd yna gardiau post ar gael yn y Steddfod gyda lawrlwythiad am ddim.

@y_selar Ia, yn sicr! Mi fyddwn i yma yn @y_selar yn siwr o gadw llygad arnoch chi dros y cyfnod prysur ’ma pryn bynnag.

@y_selar Diddorol. Tamaid bach i aros pryd.

@y_selar Diolch yn fawr iawn am gymryd yr amser i siarad efo ni a phob lwc efo’r EP, y gigs, y gwyliau, y fideo a phob dim arall. Hwyl!

@Violas_ Ie!

@Violas_ Dioooolch!

y-selar.co.uk

9


Dydi Fama’n Madda i Neb Does dim prinder CDs Cymraeg yr adeg yma o’r flwyddyn ac felly mae’n bwysig bod unrhyw gynnyrch newydd yn tynnu sylw. Gwaith celf un albwm sy’n sicr yn gwneud hynny’r haf hwn yw Dydi Fama’n Madda i Neb, a dyna pam mai Twmffat sydd yn cael sylw O Glawr i Glawr y tro hwn.

M

ae yna rywbeth am lun o fwnci sy’n tynnu’r sylw’n syth does. Yn enwedig felly mwnci sydd yn gwenu’n od ac yn chwarae symbals. A waeth imi fod yn onest ddim, dyna pam y dewiswyd albwm newydd Twmffat, Dydi Fama’n Madda i Neb, ar gyfer eitem O Glawr i Glawr y rhifyn hwn. Ond yn ffodus i mi ac i chithau sydd ar fin darllen fydd dim rhaid imi wastraffu hanner tudalen yn ceisio cyfiawnhau fy hoffter i o fwncïod achos mae yna ddigon i’w ddweud am y clawr dan sylw. Mae’n debyg mai un peth sydd yn hynod ddefnyddiol i fand wrth feddwl am gynllunio eu cynnyrch cerddorol yw aelod

sydd hefyd yn rhedeg cwmni dylunio! Dyna yn union sydd gan Twmffat yn Justin Davies. Mae Justin yn chwarae’r harmonica a mandolin ar yr albwm ond fel perchennog cwmni Dylunio Gringo ym Mhenygroes, ef hefyd sydd yn gyfrifol am y gwaith celf. Aeth Y Selar felly i holi’r cerddor-gynllunydd ynglŷn â’r CD a rhaid oedd dechrau trwy holi beth oedd hanes yr hen fwnci bach hoffus yna? “Syniad y mwnci yw bod tueddiad yn y sin Gymraeg i drio ail greu ffasiwn cerddoriaeth Lloegr gan weithiau fynd mor bell â chanu’n Saesneg, mae’n sefyllfa Monkey see, monkey do.” Eglura Justin. “Yna, yn y cefndir, fel cysgod y mwnci mae logo Twmffat, sy’n golygu bod rhywbeth gwahanol ar gael wrth i chi edrych yn fanylach. Mae hefyd yn golygu bod rhywbeth newydd ar ei ffordd o gysgod y diwylliant Monkey see, monkey do.” Mae’r mwnci bach yn dipyn mwy arwyddocaol nag o’n i wedi ei feddwl felly. Ac mae’r logo yn y cysgod yn ddifyr iawn ynddo’i hun. Beth oedd y syniad y tu ôl i hwnnw tybed? “Logo Twmffat yw hwn... sef llwyth o bobl gyda dylanwadau a syniadau gwahanol yn mynd mewn i dop twmffat ac yn dod allan ar y gwaelod fel un band. Mae’r logo yn addas iawn gan fod y rhan fwyaf o’r band yn aelodau o fandiau eraill ac â diddordebau a steil hollol wahanol.”


o glawr i glawr

“Mae yna rywbeth am lun o fwnci sydd yn tynnu’r sylw’n syth does...” Sôn am steil, pa mor bwysig yw cadw cysondeb rhwng steil y gerddoriaeth a steil y gwaith celf? Ydi’r berthynas rhwng y ddwy elfen greadigol yma’n bwysig? “Mae’r gerddoriaeth ar yr albwm yn eitha’ trwm mewn rhannau, ond mae gen ti ganeuon fel ‘Plis Gai Wy’ sy’n eitha’ digri. Mae pawb sydd wedi gweld Twmffat yn perfformio yn ymwybodol bod y band yn eitha’ gwyllt ac yn licio hwyl felly roedd o’n bwysig i mi gadw’r elfen hwyliog yma yn y gwaith celf, ond wrth gyfleu neges bwysig hefyd.” Mae’r clawr yn sicr yn llwyddo yn hynny o beth. Siawns fod Justin yn hapus â’r gwaith terfynol felly? “Yndw ond dwi ddim yn siŵr am bawb arall! Job fwya’ oedd trio plesio pob aelod yn y band gan eu bod nhw’i gyd efo syniadau gwahanol!” Un o’r aelodau hynny wrth gwrs yw’r prif leisydd, Ceri Cunnington, felly aeth Y Selar ati i’w holi yntau hefyd ynglŷn â chlawr yr albwm. Yw yntau hefyd yn hapus? “Yndw tad, roedd ’na dipyn o anghytuno ac roedd arian ac amser yn brin ond dwi’n meddwl bod o’n wych ac yn gweithio ar sawl lefel.” Ceri sydd yn gyfrifol am ysgrifennu’r caneuon felly faint o’i ddylanwad ef yn bersonol fel dyn y geiriau sydd yn mynd i’r lluniau? “Dwi’n ’nabod Justin yn dda ers dyddiau Anweledig,” eglura cyn brif leisydd y grŵp eiconig. “Mae’n amlwg wedi clywed fi’n rantio am ystyr y caneuon ar yr albwm ac wedi trosglwyddo hynny i ddelweddau sy’n gweithio. Mae ’na ddylanwad anuniongyrchol mawr yn mynd i mewn i’r gwaith oherwydd y cysylltiad cryf rhwng y geiriau, y gân a’r gelf.” Roedd y gwaith celf ar albwm diwethaf Twmffat, Myfyrdodau Pen Wy, hefyd yn drawiadol iawn felly mae hi’n amlwg fod y band yn rhoi cryn bwyslais ar yr elfen weledol. Pa mor bwysig felly ydy gwaith celf ar gynnyrch cerddorol? Pwysig iawn ym marn Justin, “Mae celf a cherddoriaeth wastad wedi eu cysylltu rywsut ac mae pobl sy’n arbrofi mewn un yn aml iawn yn dablo yn y maes arall hefyd. Mae’r ddau ddull yn ffyrdd o gyfleu neges ac mae sawl person yn hoff iawn o brynu cerddoriaeth ar CD gan fod y gwaith celf

yn gwneud y gwaith yn gyflawn.” Ac mae Ceri’n cytuno, “Mae o’n bwysig dros ben! Yn enwedig yn yr oes sydd ohoni lle ti’n gallu lawrlwytho bob dim i wagle. Nai fyth anghofio gafael a syllu ar glawr LP, The Wall gan Pink Floyd tra’n gwrando ar yr yr albwm... oedd o’n gwneud synnwyr i mi. Dwi’n meddwl bod negeseuon albwm yn dod allan yn y gwaith celf er dy fod yn creu delweddau dy hun yn dy ben hefyd!” Serch hynny, mae mwy a mwy o fandiau ac artistiaid yng Nghymru fel ym mhob man arall yn troi at ddulliau digidol o ryddhau eu cerddoriaeth. Oes yna rywbeth yn cael ei golli felly wrth i fwy a mwy o wrandawyr lawrlwytho cerddoriaeth yn hytrach na’i estyn o gas a’i daro yn yr hi-fi? “Mae llwyth o bobl yn pasio ffeils mp3 i’w gilydd dyddiau yma,” meddai Justin, “felly mae bod yn berchen ar gopi caled o albwm a’r gwaith celf yn medru gwneud i ti deimlo bod gen ti rywbeth am dy bres yn hytrach nag ychydig o kilobytes ar gyfrifiadur!” Mae Ceri hefyd yn gefnogwr brwd o’r copi caled. “Oes ma’ ’na rhywbeth yn sicr yn cael ei golli yn fy marn i. Mae o fel petai o’n dibrisio’r gwaith - yr albwm fel cyfanwaith. Dim cyfres o ganeuon ti’n gallu lawrlwytho ydi albwm i fod ond cyfanwaith. Roedd cynhyrchu 200 copi o Dydi Fama’n Madda i Neb yn costio pedair gwaith gymaint â rhyddau’r caneuon i farchnad di-ben-draw Amazon, iTunes a Spotify. Mae o’n drist oherwydd mae’r siopau cerddoriaeth Cymraeg yn diodda ac eto mae o’n catch 22 oherwydd tisio cyn gymaint o bobl â phosib glywed dy gerddoriaeth di. Ond wnai fyth anghofio’r wefr o afael ar finyl Bob Marley am y tro cyntaf. Beth sydd yn od ydi; ti dal yn gallu prynu copi caled a’i lawrlwytho fo i dy declyn wedyn pryn bynnag, ffordd yna ti’n cael y gorau o’r ddau fyd! Mae gen i dros 10,000 o ganeuon ar fy iPod ac ma’ rheiny i gyd gen i ar CD, tâp neu finyl.” Ond beth bynnag fydd dyfodol yr hen gryno ddisg druan, gwnewch yn siwr eich bod yn ychwanegu Dydi Fama’n Madda i Neb i’ch casgliad cyn iddi ddiflannu. Nid yn unig gan ei fod yn gasgliad da o ganeuon ond achos bod yna lun o fwnci ar y ffrynt! y-selar.co.uk

11


Dathliadau Datblygu Mae 2012 wedi bod yn dipyn o flwyddyn o ran penblwyddi cerddorol – Cymdeithas yr Iaith a’r Rolling Stones yn hanner cant a Hywel Gwynfryn yn 70! Ond un garreg filltir gerddorol arall sydd wedi bod yn cael dipyn o sylw’n ddiweddar (a hwnnw’n sylw dyledus iawn) yw penblwydd y band Datblygu yn 30. O’r diwedd mae cyfraniad y band tanddaearol chwedlonol yn cael ei ddathlu. Talodd Yr Ods deyrnged addas iawn iddynt yn gig Hanner Cant trwy orffen eu set gyda geiriau David R. Edwards yn atseinio trwy Bafiliwn Pontrhydfendigaid. Fe fydd rhai ohonoch wedi sylwi hefyd fod y penblwydd yn cael ei ddathlu mewn ffordd hyfryd ac addas o wrth sefydliadol ar rai o strydoedd Caerdydd trwy gyfrwng celf stryd. Mae ciosg prydeinig ei natur ar Ffordd Cowbridge wedi ei addurno mewn eironi perffaith ers rhai misoedd bellach, a’r hyn sy’n gwneud y cyfan yn well fyth yw’r ffaith fod y ffyliaid dal heb sylwi. Hefyd yn ardal Treganna o Gaerdydd fe allwch chi ddod o hyd i arddangosfa arbennig iawn yng nghaffi Waffle sydd yn cofnodi ac yn dathlu hanes y band. Ychwanegwch at hynny wedyn y ffilm ddogfen newydd sydd wrthi’n cael ei pharatoi gan Owain Llŷr o gwmni bwcibo cyf. ac fe sylwch chi ei bod hi’n ferw gwyllt o ddathliadau penblwydd heb jeli nac hufen iâ ar gyfyl y lle.

Datblygu30

Datblygu30 yw enw’r arddangosfa hyfryd sydd i’w gweld yng nghaffi Waffle ar hyn o bryd. Eto, rwy’n gyndyn o’i galw’n ‘arddangosfa’ achos tydi ymweliad â’r caffi bach clud yma ddim byd tebyg i ymweliad ag amgueddfa neu oriel gelf ddiflas. Chewch chi ddim byseddu pob dim a thynnu pethau oddi ar y wal yn y Tate Modern na chewch! Fydd curadur y Guggenheim ddim yn diflannu allan i’r stryd yn Bilbao ac yn dychwelyd ddau funud yn ddiweddarach efo mwy o stwff na fydd! Ac o ia... mae’r bwyd yn well na Sain Ffagan hefyd. Yn wir, mae brwdfrydedd y perchenog, Victoria Morgan am fand ei chwaer, Pat, yn heintus. Ac nid jôc oedd y busnes diflannu i nôl mwy o stwff yna – fe aeth hi i’r tŷ i nôl copiau gwreiddiol o ffansins Datblygu, Yn Syth O’r Rhewgell. Ond cyn pori trwy rheiny roeddwn wedi cael cyfle i fwynhau gweddill y deunydd ac i holi ychydig o’r hanes. “I ddechrau, na i gyd o’n i ishe oedd rhywbeth diddorol i roi lan ar y wal,” eglura Victoria “Ofynnes i Pat, fy chwaer, os oedd rhywbeth ’da hi a hi wedodd eu bod nhw’n dathlu tri deg mlynedd. Feddylies i ei fod e’n gyfle gwych i wneud rhywbeth a ma’ fe wedi datblygu ers ’ny.”

12

y-selar.co.uk

Yn sicr, mae’r diddordeb yn y casgliad syml o doriadau papur newydd a chloriau finyl wedi tyfu a thyfu gan ennyn cryn ddiddordeb yn y wasg. Ac mae’r diddordeb ar wefannau cymdeithasol wedi bod yn gryf hefyd fel yr eglura Victoria: “Fi wedi creu tudalen ar facebook a twitter a ma’ gyda fi dros 500 o bobl yn y grŵp facebook erbyn hyn! Wnes i erioed ddychmygu fydde gymaint o ddiddordeb ynddo fe, yn enwedig gan bobl ifanc oedd ddim hyd yn oed wedi cael eu geni pan oedd Datblygu’n dechre.” Mae’r caffi wedi cael ambell i ymwelydd adnabyddus hefyd. “Do, Gruff Rhys! Odd hynny’n ddoniol. Gerddodd e’ mewn ac o’n i’n meddwl yn naturiol ei fod e’ wedi clywed am yr arddangosfa, ond wedi dod â’i ferch i wers taekwando gerllaw odd e’ ac wedi dod i mewn am baned! Ac wedyn welodd e’ hyn i gyd a hyd yn oed sbotio fe’i hunan yn un o’r lluniau, yn fachgen ifanc yn un o’r gigs!” Mae’r holl beth yn berl eithaf annisgwyl mewn stryd gefn ac mae’n braf gweld cerddoriaeth Gymraeg yn cael sylw mewn lleoliad amgen. Ond pa mor bwysig ydi dogfennu hanes y sin fel hyn ym marn Victoria? “Fi’n meddwl ei fod e’n bwysig iawn. Ma’ fe’n gyfle i atgoffa pawb pa mor dda oedd Datblygu a gobeithio y bydd e’n annog pobl i ail wrando arnyn nhw achos yn wleidyddol, mae’r caneuon yr un mor berthnasol heddiw ag erioed.” Mae’n od meddwl bod y band yn cael yr holl sylw yma eleni gan gofio eu bod yn arfer ysgrifennu eu ffansins eu hunain o dan ffugenwau gan nad oedd neb arall yn rhoi sylw iddynt. Tybed felly beth mae Dave Datblygu ei hunan yn ei feddwl o hyn i gyd? “Fi’n


meddwl bod David yn blês â’r holl beth,” meddai Victoria, “ma’ fe wedi mwynhau’r holl sylw!” Fe fydd y deunydd ar y wal yn Waffle tan wythnos yr Eisteddfod o leiaf felly cofiwch ddianc draw rhyw fore os ydych chi’n dechrau laru ar bot nwdls o’r Gorlan i frecwast!

Prosiect Datblygu

Prosiect Datblygu yw ffilm ddogfen ddiweddaraf Owain Llŷr o gwmni bwcibo cyf. Beth oedd yr ysgogiad felly i wneud ffilm ar y band? “Ro’n i wedi bod yn gwneud stwff ychydig yn wahanol ers ychydig o flynyddoedd a ro’n i wastad wedi meddwl fod Datblygu yn bwnc da ar gyfer rhaglen ddogfen – edrych ar ddylanwad y grŵp a sut argraff maen nhw wedi ei gael ar bobl.” Cyfweliadau fydd y ffilm yn bennaf er bod Owain yn gobeithio sicrhau ychydig o ddeunydd archif S4C hefyd. Mae wedi cyfweld pobl fel John Griffiths (Llwybr Llaethog), Gareth Potter (Tŷ Gwydr) a Huw Stephens i gael syniad o ddylanwad y band ond wedi cyfweld aelodau o’r band hefyd wrth gwrs gan gynnwys hen ffrind iddo, y dyn ei hun, David R. Edwards. “Fe wnes i gyfweliad gyda Dave dros benwythnos y briodas frenhinol llynedd achos oedd e’ ffansi cael cwmni ar y dydd!” Yn ogystal â chyfweliadau a deunydd archif mae Owain yn gobeithio defnyddio ychydig o stwff o arddangosfa Waffle yn y ffilm a fydd yn cael ei dangos yn Theatr y Mwldan, Aberteifi yn ystod yr Hydref. Pa mor bwysig oedd Datblygu fel band felly ym marn Owain? “Nhw oedd un o’r bandiau mwyaf gwreiddiol. Fe wnaethon nhw greu llwybr newydd gyda bandiau eraill ar y pryd fel Anhrefn, Y Cyrff, Fflaps, Llwybr Llaethog a Thŷ Gwydr. Yr argraff maen nhw’n ei adael yw eu bod nhw’n fand oedd yn datblygu (mind the pun), a hynny gyda’r sain gymaint â’r geiriau. Ac ar ben hynny roedd

ganddyn nhw ganeuon ffantastig, er bod y geiriau yn chwarae ar Gymreictod roedden nhw’n dweud rhywbeth eithaf gonest a diffuant.” Mae Owain wedi bod yn rhan o’r sin ei hunan, fel aelod o amrywiol fandiau yn y 90au ac yna fel cyfarwyddwr fideos ar Bandit yn y degawd diwethaf. Beth tybed yw ei argraffiadau ef felly o’r sin heddiw ac yn enwedig y sin danddaearol dri deg mlynedd ers genedigaeth Datblygu? “Un peth sy’n anodd falle wrth i gyfryngau ehangu yw dweud beth sy’n boblogaidd a beth sy’n danddaearol. Erbyn heddiw, fi ddim yn gweld y peth yn gallu cael ei adlewyrchu ar y teledu. Ond mae C2 yn chwarae stwff bach mwy amgen na’r hyn oedd yn arfer cael ei chwarae ar Radio Cymru.” Allwn ni ddisgwyl unrhyw ffilmiau eraill am y sin ar ôl Prosiect Datblygu felly? “Ddim gen i na, fi’n ymddeol ar ôl hon! Ond fe lenwith hon fy amser i am ryw fis neu ddau eto!” Edrychwn ymlaen yn arw at yr hydref felly, am y cyfle i ddysgu mwy am un o fandiau mwyaf chwedlonol y sin ac i orffen y parti mewn steil. y-selar.co.uk

13


Mentro Draw Dros y Mynydd

Does dim dwywaith mai Cowbois Rhos Botwnnog yw un o fandiau mwyaf y sin ers sawl blwyddyn bellach. Felly pan glywodd Y Selar fod y brodyr o Lŷn yn rhyddhau eu trydydd albwm, Draw Dros y Mynydd, rhaid oedd inni yrru Ciron Gruffydd am sgwrs â’r hogia’.

F

e es i i gyfarfod brodyr Cowbois Rhos Botwnnog mewn tafarn yng Nghaerdydd yn ystod pencampwraeth Ewro 2012. Roedden nhw lawr yn y brifddinas am yr ail waith mewn wythnos ac yn edrych ’mlaen at ddwy gig arall yn y deheubarth dros y dyddiau nesaf, un ohonyn nhw fel band Georgia Ruth. Does dim dwywaith eu bod nhw’n cadw’n brysur. Ro’n i wedi mynd i gyfarfod Iwan, Aled a Dafydd Hughes i drafod yr albwm newydd, Draw Dros y Mynydd, ddaeth allan ym mis Gorffennaf. Albwm, sydd, yn ei anian, yn ddilyniant i Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn a gafodd dderbyniad gwresog pan ei ryddhawyd yn 2010. “Mi oedd lot o’r caneuon ar yr albwm yma wedi cael ei sgwennu’n barod,” meddai Aled, yr hynaf o’r tri brawd. “Felly mae’i bron fatha’r ail ran i fod yn onest – ar wahân i’r geiriau sydd ddim mor bersonol ella”. “Ond, mae’n swnio’n wahanol,” ychwanega Iwan. “Fe wnaethon ni arbrofi fwy hefo hwn.”

Cafodd yr albwm newydd ei recordio yn yr un stiwdio â Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn - ym Mryn Derwen gyda’r cynhyrchydd Dave Wrench. Buodd hyn o help i’r teimlad o ddilyniant rhwng y ddwy record a hefyd wrth arbrofi gyda’r sŵn. Oedd y ffaith bod y band a Dave ychydig mwy cyfforddus yng nghwmni ei gilydd y tro yma yn help gyda hynny? “Dwn’im. Gan ein bod ni’n ymarfer y caneuon yn reit dda cynt, mae’r esgyrn yno’n barod pan ’da ni’n mynd i’r stiwdio,” esbonia Aled. “A ’da ni’n gwybod lle i roi pethau dros y caneuon hefyd felly mi oeddan ni wedi gorffen recordio yn eithaf handi. Ella, gan ein bod ni wedi gorffen m’bach cynt na’r albwm diwethaf mi oedd gennom ni amser i drio pethau newydd.” Ers i’r band ddechrau gyda’r tri brawd mae aelodau eraill wedi ymuno â nhw. Euron ‘Jôs’ Jones ar y gitâr bedal ddur; Llŷr Pari, sydd erbyn hyn yn chwarae’r drymiau i’r Niwl, ar y gitâr; Branwen Williams, sy’n canu un o’r caneuon ar yr albwm newydd, ar yr allweddellau; a rŵan ei brawd hi, Osian, o’r band Candelas, hefyd. Ydi’r ychwanegiadau yma wedi effeithio ar sŵn y band? “Pan ’naethon ni recordio Dyddiau Du, doeddan ni heb fod yn chwarae’n fyw hefo’r band llawer. Ond rŵan, a ninnau’ wedi bod yn chwarae hefo nhw ers dros flwyddyn, ella’i bo’ nhw yn fwy cyfforddus nag oeddan nhw ar y dechrau.” meddai Dafydd. “’Da ni’n lwcus iawn hefo’r band,” meddai Aled. “Maen nhw i gyd yn gerddorion

“... mae’r esgyrn yno’n barod pan ’da ni’n mynd i’r stiwdio.”

14

y-selar.co.uk


gwych ac yn gwneud i ni swnio’n well. Sef be’ tisio mewn band a dweud y gwir.” Ond er yr arbrofi, does dim gymaint o amrywiaeth rhwng y caneuon ag oedd ar Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn yn ôl Aled: “Hefo hon, does ’na ddim gymaint o amrywiaeth o ran tempo – mai’n drymach dwi’n meddwl. Dim o ran geiriau, ond o ran y cyfansoddi.” “Jans ei bod hi’n anoddach gwrando arni,” ychwanega Iwan, sy’n canu ac yn sgwennu’r rhan fwyaf o’r caneuon, cyn i Aled gytuno. “Yn y diwethaf, mi oedd ’na un neu ddwy o ganeuon cyflym i dorri ar draws y pethau lleddf. Does ‘na ddim ar hon dwi’m yn meddwl.” Ond yn ogystal â bod yn brysur yn paratoi’r albwm newydd, mae newid byd arall wedi bod i’r Cowbois dros y flwyddyn ddiwethaf - ers iddyn nhw droi’n broffesiynol ym mis Hydref. “’Da ni’n sgint, ond ’da ni hefyd yn brysur sy’n ofnadwy o braf,” meddai Dafydd y drymiwr. “Fysai’n dorcalonnus os fysan ni wedi penderfynu gwneud hyn a ninnau’n ddistaw.” Ond onid breuddwyd gwrach yw’r meddylfryd bod band sy’n canu’n Gymraeg yn gallu ei gwneud hi’n broffesiynol? “Mae pobl yn deud ei bod hi’n amhosib ond mi rydan ni’n neud o,” meddai Dafydd. “ Mae ’na lot yn gofyn hyn - oes ’na blaniau i sgwennu’n Saesneg a ballu. ’Da ni’m yn ei weld o fel ‘na. A deud y gwir, dydi’r peth ddim yn codi o gwbl ar wahân i pan mae pobl Cymraeg yn gofyn y cwestiwn. ’Dio’m byd gwleidyddol, dim byd i wneud hefo profi y gallwn ni ei gwneud hi drwy ganu’n Gymraeg. ’Da ni jyst yn chwarae’r gerddoriaeth

ma’ bobl isio i ni chwarae a bod yn brysur hefo fo.” “’Da ni ’di chwarae’n eithaf aml yn Lloegr eleni a di’r peth erioed ’di codi ei ben,” esbonia Aled. “’Da ni’n gwneud yr hen gân werin Americanaidd, ‘Fall on your Knees’, a ’na fo. Tydi o ddim i’w weld yn amharu ar faint mae rhywun yn mwynhau na faint o CDs ’da ni’n eu gwerthu mewn gig.” “Ond,” meddai Iwan. “’Da ni’n gwneud hyn dan amgylchiadau lwcus ac unigryw. Fysan ni methu gwneud hyn oni bai ein bod ni’n byw hefo’n gilydd yn Llithfaen.” Ond dyw’r ffaith fod y brodyr yn byw gyda’i gilydd ddim yn golygu bod y Cowbois yn cyfansoddi pob awr o’r dydd. “Tydi o ddim mor glamorous a ma’ bobl yn ei feddwl,” meddai Iwan. “A gan mai dyma di’n gwaith ni, ’da ni’n fwy tebygol o ymlacio pan ’da ni adra”.“A ’da ni’m yn sgwennu hefo’n gilydd beth bynnag,” ateba Aled. “Mae Iwan yn sgwennu 90% o bethau ac os dwi’n sgwennu un neu ddwy, dwi’n sgwennu’r rheini ar ben fy hun hefyd.” A beth yw cynlluniau’r band yn y dyfodol? “Gigio i hyrwyddo’r albwm ’di bob dim ar hyn o bryd. Mi rydan ni hefyd yn chwarae gyda Georgia Ruth ac mi fyddwn ni’n gwneud taith o Brydain gyda hi yn yr Hydref yn ogystal â gwneud taith theatrau ein hunain o amgylch Cymru. Beth bynnag sy’n digwydd, dwi’m yn gweld ni’n stopio.” “Os nad ’da ni’n ffraeo’n arw rhyw ben,” oedd ateb parod Iwan cyn i Aled ymateb, “Ia. Ma’ ’na hynny.” Ond, dyw’r Cowbois heb ffraeo hyd yma. A chyn cic gyntaf gêm ddiweddaraf pencampwriaeth Ewro 2012, daeth y cyfweliad i ben, a throdd y tri i wynebu’r teledu yn fodlon iawn eu byd. y-selar.co.uk

15


dau i’w dilyn Un wyneb cyfarwydd yn arbrofi ar ei liwt ei hun ac un band newydd sbon danlli sydd wedi dal sylw Owain Gruffudd yn ddiweddar.

Gwilym Bowen Rhys Pwy: Un o’r bandiau cyntaf i gael eu henwi yng nghyfres Dau i’w Dilyn oedd Y Bandana. Gyda’r band yn mynd o nerth i nerth, mae eu prif ganwr a gitarydd, Gwilym Bowen Rhys, yn cymryd y cyfle i berfformio fel artist unigol pan mae unrhyw seibiant o’r band yn codi. Yn wyneb cyfarwydd ac amlwg i ddilynwyr yr SRG (a ffans Rownd a Rownd!), mae Gwil yn siŵr o ddenu torf wrth gigio’n fyw.

“ ... mae’n ystyried y posibilrwydd o gael ei ddwy chwaer, Elan a Marged, i ymuno â’r band.”

Y Reu Pwy: Band newydd o ardal Dyffryn Nantlle yw Y Reu. Dau ffrind o’r ysgol uwchradd leol, sef Mathonwy Llwyd ac Iwan Fôn, sy’n gyfrifol am y prosiect. Daeth y band at ei gilydd ar gychwyn mis Mehefin yn dilyn trafodaethau yn nhafarn y Morgan Lloyd yng Nghaernarfon – lleoliad bywiog yn y sin Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf! Ond nid yw’r ddau’n gwbl anghyfarwydd â pherfformio’n fyw, gyda Math yn DJ mewn gwahanol leoliadau yng ngogledd Cymru ac Iwan yn gyn aelod o’r band, Y Stereotypicals. Sŵn: “Cerddoriaeth hefo neges tu ôl iddo sydd am wneud i chi ddownsio” yw’r ffordd y mae’r band yn disgrifio eu hunain ar eu proffil Soundcloud. Mae Math ac Iwan yn rhannu’r un diddordebau cerddorol; Noel Gallagher’s High Flying Birds, We Are

16

y-selar.co.uk

Animal, Arctic Monkeys a Masters In France. Gellir clywed cyfuniad o ddylanwadau’r bandiau hyn yng nghaneuon Y Reu, gyda’r defnydd cryf o gitârs a synthiau - steil sy’n tyfu’n boblogaidd iawn trwy’r byd cerddorol ar hyn o bryd. Hyd yn Hyn: Roedd y band yn rhan o gystadleuaeth Band 50 Gŵyl Hanner Cant yn ddiweddar, gyda’r ennillydd yn cael agor arlwy dydd Sadwrn yn

“Cerddoriaeth hefo neges tu ôl iddo sydd am wneud i chi ddownsio”


Sŵn: I’r gwrthwyneb i roc Y Bandana, mae Gwilym yn canolbwyntio fwy ar gerddoriaeth gwerin draddodiadol. Gan gymryd dylanwadau gan fandiau fel The Dubliners, Bob Dylan a Chowbois Rhos Botwnnog, mae Gwil yn defnyddio nifer o offerynnau gwahanol yn ystod ei setiau byw, gan gynnwys banjo, gitâr acwstig, harmonica a phib. Yn y setiau hyn, mae Gwil yn chwarae nifer o covers yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â rhai o’i ganeuon ei hun. Hyd yn Hyn: Bydd llawer wedi gweld Gwil yn perfformio’n unigol, am y tro cyntaf yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2012, pan gyfansoddodd Garth Celyn ar y cyd gyda’i fam. Yn dilyn hyn, cafodd y cyfle i wneud Sesiwn Byw ar raglen Lisa Gwilym ar C2. Mae Gwilym hefyd yn perfformio’n aml yn y Belle Vue ym Mangor Uchaf fel rhan o’i swydd rhan amser yn y dafarn. Cynlluniau: Yn amlwg, Y Bandana, fydd blaenoriaeth Gwil yn y dyfodol, ond nid yw hyn yn golygu y bydd ei yrfa unigol yn dod i ben. Yn ogystal â’r gigs cyson yn y Bell Vue dros yr Haf, mae Gwil yn gobeithio symud lawr i Gaerdydd i astudio yn y Brifysgol ym mis Medi, lle gellir disgwyl ei weld yn perfformio mewn gigs a nosweithiau meic agored ar draws y ddinas. Mae hefyd yn gobeithio ysgrifennu mwy o ganeuon i gymryd lle rhai o’r covers yn ei set, ac mae’n ystyried y posibilrwydd o gael ei ddwy chwaer, Elan a Marged, i ymuno â’r band.

gig enfawr Cymdeithas yr Iaith. Er na ddaeth y band yn fuddugol, cawsant ymateb addawol iawn gan y cyhoedd. Mae’r band hefyd wedi cael eu canmol gan yr artist Drum and Bass amlwg o Fryste, Tom Casswell, neu TC fel y mae’n cael ei adnabod. Mae un demo ar eu safle Soundcloud, sef Beth Genai Ddweud, ac mae’r trac hwnnw wedi cael ei chwarae dros 1000 o weithiau ar y safle yn ogystal ag ar raglenni Lisa Gwilym a Huw Stephens ar C2. Cynlluniau: Mae Iwan a Math yn gobeithio cael drymiwr a gitarydd ychwannegol ar gyfer eu setiau byw dros yr haf. Maen nhw hefyd yn gobeithio mynd ati i recordio mwy o draciau yn y stiwdio. Ar gyfer y diweddaraf am eu gigs dros yr haf, dilynwch y band ar twitter, @Y_Reu , ac ewch i ymweld â’u tudalen Facebook.

Griff yn Trafod Gigs Ys dywed Anweledig yn y dull hynod farddonol, “Mae ’na wythnos gyfa’ i ddod, o’r eistedd-fod. Yn yr eisteddfod ie”. Wythnos gyfa’ o sgwrsio, barddoni, cystadlu, ymgolli mewn gwledd o ddiwylliant, ac ymfalchio ein bod ni’n Gymry Cymraeg. Neu feddwi. Eleni mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn ‘Y Fro’ (saethwch fi os dwi byth yn galw’r lle yn ‘Y Fro’ eto), ac mae’n wir fod ’na rywbeth i bawb dros yr ŵyl, boed wedi ei drefnu gan y sefydliad neu yn rhywbeth ymylol. I’r mynychwr gigs, mae yna amrywiaeth eang o nosweithiau ond ydi hyn o reidrwydd yn beth da i’r diwydiant cerddorol Cymraeg? Mae Cymdeithas Yr iaith yn cynnal gigs o’r nos Lun hyd at ddiwedd yr wythnos, a Maes B o’r nos Fercher ymlaen. Yn amlwg mae rhai’n teimlo’n rhy hen i fynd i Faes B, neu’n rhy ifanc i fynd i gigs Cymdeithas, ac felly’n dibynnu ar yr opsiwn. Ond does bosib fod yna rhyw gyfaddawd, i greu cyfres o gigs cryf, gyda chynulleidfa frwd? A’i ddim i’r ddadl os mai’r Eisteddfod ta’r Gymdeithas ddylai fod yn cynnal y gigs, achos mae’r ddau’n gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo diwylliant Cymraeg. Ond â chynulleidfaoedd yn brin, a chynulleidfa sy’n gwrando’n brinach fyth, mae rhannu’r gynulleidfa’n ddwy eto ’chydig yn wallgof. Yn y gorffennol, pan oedd y sin bop yn gryfach o lawer, roedd un gyfres o gigs yn gweithio’n iawn. A bosib fod y sin yn gryfach oherwydd hynny? Yn amlwg mae sawl dadl o blaid dwy gyfres o gigs e.e. mwy o amrywiaeth, dewis amgen a bod yn rhan o rywbeth ymylol, dim problem cael serve o dan oed ym Maes B a dim plant pissed yn gigs y Gymdeithas. Ond o safbwynt y diwydiant cerddorol mi fydda’ sianelu’r gynulleidfa, yr ymdrech, a’r arian i un ffrwd o gigs yn gweithio’n well. I fod yn deg â’r Gymdeithas, dydi eu lineup nhw ddim yn debygol o amharu ar line-up Maes B eleni, achos nid ydynt yn apelio at yr un gynulleidfa, ond mae rhoi dewis eang i gynulleidfa weithia’, fel sbwylio plentyn bach efo gormod o anrhegion, fydd y prat bach ddim yn gwerthfawrogi be’ ma’n ei gael wedyn. Yn anffodus yma yng Nghymru mae gennym ni draddodiad o weithio yn erbyn ein gilydd a chystadlu, pan fyddai rhoi adnoddau efo’i gilydd a chydweithio yn dod â chanlyniad gwell. Efallai fod hyn yn rhywbeth i’r Gymdeithas a Maes B ystyried, os nad ydynt wedi gwneud yn barod. y-selar.co.uk

17


d d r e c l c i n o r C Ym mis Awst bydd cyfres radio gan Y Selar yn cael ei darlledu ar Radio Cymru. Mae’n gyfres sy’n edrych nôl ar nifer o ragflaenwyr Y Selar, y cylchgronau Cymraeg sydd wedi rhoi sylw i’r sin gerddoriaeth gyfoes dros y blynyddoedd. Cyn gyflwynydd ‘Hwyrach’ ar Radio Cymru Ian Gill, fydd yn cyflwyno’r gyfres. Ymysg y cyfranwyr bydd yr hanesydd cerddoriaeth Hefin Wyn, cerddorion amrywiol gan gynnwys Dafydd Iwan, Caryl Parry Jones, Geraint Løvgreen a Dyl Mei, ynghyd â hyrwyddwr fel Rhys Mwyn ac Alun Llwyd. Dyma ragflas o’r hyn sydd i ddod, a chyflwyniad i rai o’r cyhoeddiadau bydd y gyfres yn talu sylw iddyn nhw..

Asbri Asbri oedd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ganolbwyntio’n llwyr ar gerddoriaeth. Cafodd y rhifyn cyntaf ei gyhoeddi ym Mai 1969, dan olygyddiaeth Eilyr Davies, Huw Evans a chriw o unigolion brwdfrydig o ardal Caerfyrddin. Erbyn hyn mae’n ymddangos yn sidêt iawn, gan roi llawer o sylw i’r grwpiau ‘pop’ oedd yn bodoli ar y pryd Perlau Taf, Tony ac Aloma a’r amrywiol ‘Hogia’ a thriawdau merched oedd yn boblogaidd ar ddiwedd y 60au. Doedd dim yn ddadleuol nac yn grafog ynglŷn ag Asbri, ond fe wnaeth gyfraniad pwysig i’r sin gerddoriaeth Gymraeg ar ddechrau’r 1970au.

Mae’n siŵr mai Asbri oedd y cyntaf i gyflwyno’r syniad o wobrau cerddorol yn y Gymraeg gyda ‘Phleidlais Asbri’. Dafydd Iwan enillodd bleidlais y Canwr gorau ym 1970, gyda Heather Jones yn dod i frig y categori Cantores, Tony ac Aloma’n Grŵp neu Ddeuawd gorau, Meic Stevens yn mynd a theitl yr Offerynnwr a ‘Myn Duw Mi a Wn y Daw’ gan Dafydd Iwan yn Record orau. Mae Asbri hefyd yn enwog heddiw am un peth arall, sef cystadleuaeth Miss Asbri. Rhyw fath o gystadleuaeth prydferthwch oedd hon, gyda chyfle i’r enillydd fynd am ddêt gyda Hywel Gwynfryn neu Huw Jones. Fe ganodd Geraint Jarman am ‘Miss Asbri ‘69’ ar ei albwm diweddar Brecwast Astronôt, ond ym 1970 y dyfarnwyd y teitl gyntaf, a hynny i Rosalind Lloyd, sydd bellach yn adnabyddus fel rhan o’r ddeuawd ‘Rosalind a Myrddin’. Cyhoeddwyd y rhifyn olaf o Asbri ym 1978.

Sw ˆn Sŵn oedd yr antidôt i Asbri a gyhoeddwyd gyntaf ym 1972. Alun ‘Sbardun’ Huws a’r diweddar Dafydd Meirion oedd y golygyddion ac roedd yn llawer iawn mwy amrwd nag Asbri a’i gloriau sgleiniog a thaclus. Roedd Sŵn yn debycach i ffansin o ran ei wneuthuriad, ond roedd yn fwy arloesol ei gynnwys nag Asbri ac yn rhoi llawer mwy o sylw i’r don newydd o grwpiau roc oedd yn dechrau ymddangos ar ddechrau’r 70au. Roedd y cylchgrawn yn llawer iawn mwy crafog, ac yn barod iawn i ddweud ei ddweud heb ofni pechu. Dim ond 9 rhifyn o Sŵn a gyhoeddwyd, y diwethaf ym 1974.

Sgrech Mae brand Sgrech yn reit chwedlonol erbyn hyn, gyda’r nosweithiau gwobrwyo enfawr a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Corwen yn dal i gael eu rhamantu amdanynt.

18

y-selar.co.uk


Roedd Sgrech yn llwyddiannus iawn, yn cael ei redeg yn fwy proffesiynol na’r cylchgronau oedd wedi bod o’i flaen gyda rhwydwaith eang o gyfranwyr a gwerthwyr ledled y wlad. Llwyddodd Sgrech i greu rhyw ddiwylliant o gwmpas y cylchgrawn hefyd, yn ôl un o gyfranwyr y gyfres, Dylan Iorwerth roedd yn “beth diwylliannol yn fwy na pheth cerddoriaeth go iawn, ond yn cyd-fynd a’r cynnwrf a’r holl drefnu cyngherddau a dawnsfeydd ar y pryd ”. Er hyn, mae Sgrech yn gylchgrawn sy’n hollti barn ac yn cythruddo llawer hyd heddiw oherwydd elfennau gwleidyddol oedd yn perthyn iddo. Roedd y bobl tu ôl i Sgrech yn aelodau blaenllaw o fudiad Adfer, oedd yn awyddus i hyrwyddo’r ‘Fro Gymraeg’, ac yn gwrthwynebu pethau oedd y tu hwnt i’r Fro honno. Mae llawer o artistiaid y cyfnod, gan gynnwys Caryl Parry Jones, yn credu bod Sgrech wedi rhoi beirniadaeth annheg iddynt gan eu bod yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn y cyfryngau. Cawn weld beth fydd ymateb cyfranwyr y gyfres i’r feirniadaeth yma.

Llmych Ar ôl Sgrech, roedd bwlch am rai blynyddoedd lle na chafwyd cylchgrawn cerddoriaeth ‘swyddogol’ yn y Gymraeg. Er hynny, fe lanwyd y bwlch hwnnw gan nifer o ffansins oedd yn barod iawn i fynegi barn am gerddoriaeth, gwleidyddiaeth, ac unrhyw beth arall oedd yn mynd â bryd y rhai oedd yn gyfrifol amdanynt.

Sothach Ar ôl cyfnod y ffansins, daeth cylchgrawn mwy ffurfiol gan gwmni Cytgord o Fethesda. Roedd Llŷr Edwards eisoes wedi cyhoeddi rhai rhifynnau cyn i Cytgord dynnu’r cylchgrawn i mewn i’w gweithgarwch hwy. Rhwng 1988 a 1996 cyhoeddwyd 85 o rifynnau o’r cylchgrawn, a gan fod Cytgord yn gwneud gwaith ymchwil am y sin roc i brosiectau eraill fel teletestun ‘Y Sgrin Roc’ ar S4C, roedden nhw’n gyson mewn cysylltiad â cherddorion Cymru ar y pryd. Yn ôl Dafydd Rhys, un o sylfaenwyr Cytgord roedd yna alw am y cylchgrawn - “roedd yna’n bendant fwlch, roedd ‘na lawer mwy o fandiau, llawer iawn o fwrlwm ac roedd ‘na angen mawr i’w adlewyrchu o.”

Gwelwyd dim ond rhifyn neu ddau o ffansins fel Llygredd Moesol a Dracht, ond roedd eraill yn fwy hirhoedlog. Un o’r amlycaf oedd Llmych, oedd yn cael ei gynhyrchu gan griw o gell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Nyffryn Conwy a Chlwyd. Yr hyn oedd yn fwyaf diddorol am Llmych oedd y ffaith ei fod yn newid ei enw gyda phob rhifyn, ond gan ddefnyddio’r un llythrennau mewn trefn wahanol. Yn ôl Rhys Mwyn gellir dweud bod Llmych wedi chwarae rhan yn nyfodiad cŵl Cymru, “petai Llmych heb roi sylw i’r Cyrff, gallet ti fod wedi colli y prif ‘sgwennwr yn Catatonia.”

Tacsi, ffansins a’r Selar Bydd y gyfres hefyd yn talu sylw i’r cyhoeddiadau sydd wedi ymddangos ers troad y Mileniwm. Mae rhain yn cynnwys Bydd Cronicl Cerdd cylchgrawn Tacsi, ffansins fel Ffwdanu, yn cael ei ddarlledu Viva Sparky a Crafu Byw ac wrth gwrs dros dair wythnos Radio cylchgrawn gwych Y Selar! Cymru gyda’r rhaglen Byddwn hefyd yn gofyn beth gyntaf ar nos Fercher yw dyfodol y cylchgrawn print am 15 Awst. gerddoriaeth wrth i’r byd technegol cyffrous ddatblygu.

y-selar.co.uk

19


20

Llwybrau Gwyn (Y casgliad llawn gyda 7 cân newydd) –

Tecwyn Ifan

Am ryw reswm dwi’n cael trafferth dechrau ysgrifennu’r adolygiad hwn, ac ar ôl stwnna am dipyn a gwneud dwn i ddim sawl paned o de, dwi’n meddwl ’mod i wedi sylweddoli pam. Mae yna rywbeth am Tecwyn Ifan; ei lais, ei eiriau a’i ysbryd, sydd yn anodd rhoi bys arno. Rhywbeth sy’n anodd ei ddisgrifio a’i ddiffinio gyda gair a gair, ond mae’r rhywbeth hwnnw yn hawdd iawn i’w deimlo wrth wrando ar Y Dref Wen. Ers rhyddhau Y Dref Wen ar label Sain ddiwedd y saithdegau mae Tecwyn Ifan, yn dawel wylaidd a diymhongar, wedi naddu lle ac wedi perthyn yn annatod i dirwedd, calon a chân Cymry Cymraeg y genedl. Gyda chaneuon fel ‘Angel’, ‘Y Dref Wen’ a ‘Dychwelwn’, gan beidio cilio am eiliad rhag y pynciau mawr cenedlaetholdeb, gobaith, cariad, ffydd a cholled, dwi’n meddwl mai saff yw dweud bod llais gwerin melfedaidd Tecwyn Ifan wedi siarad ar ran y genedl ers dros ddeg mlynedd ar hugain bellach. Roedd hi felly’n hwyr glas rhyddhau casgliad o gatalog cerddorol cyflawn y dyn ei hun. Ydyn, dwi’n cyfaddef bod casgliadau fel hyn yn tueddu i greu tolc bach mewn waled, ond wir yr, dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig nodi bod y casgliad yma yn anhygoel o resymol. Pump cryno ddisg; naw albwm; cant a saith o ganeuon; y cwbl am ugain punt! Ac mae dogn da o’r teimlad hwnnw yr oeddwn i’n sôn amdano’n gynharach rhwng cloriau’r casgliad arbennig hwn hefyd ac mae hwnnw’n rhywbeth na allwch roi pris arno. Cyffrous oedd clywed saith cân newydd yn cael eu cynnwys yn y casgliad hefyd. Mae yma amrywiaeth o fewn y saith – cân draddodiadol yw ‘Dy Garu Di Sydd Raid’, ond doeddwn i ddim wedi cysidro hynny tan imi ddarllen y llyfryn. A dyna rywbeth sy’n nodweddiadol am waith y boi chwedlonol a elwir Tecwyn Ifan; mae’n llwyddo i gyfansoddi caneuon sy’n oesol, yn hen fel aur ond yn feiddgar eu neges ar yr un pryd. Geiriau’r diweddar Iwan Llwyd yw ‘Y

20

adolygiadau

y-selar.co.uk

y-selar.co.uk

Groesffordd’, cân sy’n darlunio’r olygfa ac yn creu’r awyrgylch yn y loddest enfawr a fu yng Nghatraeth cyn i’r gwŷr fynd i ymladd. Mae rhywbeth yn chwerwfelys am y gân hon o wybod hynny ac mae’n braf ei bod wedi ei chynnwys yn y casgliad. Mae ‘Ar Doriad Gwawr’ wedyn yn rhoi i ni hanes diwedd yr hen gymdeithas a hynny trwy ddefnydd o ddelweddau hynod drawiadol, fel cwch yr hen bysgotwr dal yn sownd wrth y cei ar doriad gwawr, pan yr arfer fod allan yn nŵr y bae. Mae ‘Ar Doriad Gwawr’ yn amlygu dawn ddihafal Tecwyn Ifan i blethu tristwch ysgytwol yn gelfyddyd gudd i alaw ysgafn. Dyma’r hen law ar ei orau. Ac i gloi mae’n rhaid i mi sôn am ‘Gwrthod Bod yn Blant Bach Da’. Yma mae Tecwyn yn canu geiriau’r Prifardd Myrddin ap Dafydd, cân sy’n cofnodi sefydlu Cymdeithas yr Iaith hanner canrif yn ôl i eleni. A minnau newydd fwynhau penwythnos Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid i ddathlu’r union beth hynny, mae’n rhaid i mi gyfaddef fod fy enaid i’n cyffroi wrth wrando ar hôn. Yn ystod y penwythnos fe deimlais wefr wrth wrando ar Tecwyn Ifan yn canu ‘Y Dref Wen’, a throeon wedyn wrth glywed y Gymraeg o fy nghwmpas ym mhobman. Pwy â ŵyr, efallai mai yn y mwstas ’na mae’r majic. Prynwch y casgliad gwerthfawr hwn i fwynhau oriau o’r hud hwnnw. 9/10 Casia Wiliam Draw Dros y Mynydd Cowbois Rhos Botwnnog

Yn dilyn yr ymateb anhygoel gafodd albwm ddiwethaf Cowbois Rhos Botwnnog, mae’n deg dweud fy mod i ychydig yn betrusgar cyn gwrando ar drydedd record y band o Ben Llŷn. Ond o nodyn gyntaf y gitâr ar ‘Glaw’ at ddrôn olaf ‘Tawel yma Heno’, mae’r albwm yn gyfanwaith medrus o’r sŵn gwerinol/americana maen nhw’n adnabyddus amdano. Er ei bod hi’n ddilyniant o’r albwm ddiwethaf,

mae’r Cowbois wedi tyfu fyny ac mae’r aeddfedrwydd i’w weld mewn caneuon fel ‘Ceffylau ar D’rannau’ gyda’r synths yn ychwanegu dyfnder nad oedd ar Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn. Nid bod y band wedi teithio’n bell o’i gwreiddiau gwerinol. Mae llais Branwen Williams o Siddi sy’n canu’r hen gân werin, ‘Deio Bach’, yn ategu’r geiriau torcalonnus ac fe alla’i ‘Mastiau Hen Longau’ fod yn gân gafodd ei hysgrifennu ganrifoedd yn ôl. Fel cyfanwaith, mae hi’n gam ymlaen i Cowbois Rhos Botwnnog. Y cwestiwn ydi, lle fyddan nhw’n mynd nesa? 9/10 Ciron Gruffydd

Ffydd Gobaith Cariad Fflur Dafydd

Dyma albwm arbennig iawn gan yr athrylith-wraig, Fflur Dafydd. Hoffwn ddweud fy mod wedi mwynhau gwrando ar yr albwm yn ei chyfanrwydd yn fawr iawn. Ac o’r eiliad y pwysais y botwm ‘chwarae’, daeth llif o ddylanwad i’m gwneud i wrando ymlaen, a dyna wnes i… Mae’r albwm yn cynnwys traciau hamddenol â sylfaen wych tu ôl i bob un. Wrth wrando, deallais fod ôl meddwl gwych tu ôl i’r caneuon. Ar ben hynny, mae’r traciau wedi’u trefnu’n wych a cheir y teimlad eu bod


adolygiadau

y-selar.co.uk

Di Fama’n Madda i Neb Twmffat

yn suddo mewn i’w gilydd i wneud un campwaith mawr.Casgliad aeddfed iawn yn wir, ond mae rhai caneuon yn aros yn y cof, yn enwedig ei theyrnged i’r arwr, Ray Gravell. Felly, chwilio am ’wbeth sydd ddim yn rhwygo eich clustiau? Ydych chi eisiau profi gwir ystyr y gair ‘hamddenol’? Wel, os hynny, dyma’r albwm ichi! O ‘Rhoces’ i ‘Rachel Myra’, dyma albwm llawn gwychtineb - Ardderchog! 8/10 Ifan Edwards Mynd a Dod Sw ˆ nami

Yn dilyn blwyddyn brysur iawn, mae Sŵnami, o’r diwedd, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf! Wedi blwyddyn o gigio brwd, dod i frig Brwydr y Bandiau Maes B Wrecsam a Brwydr y Bandiau Wakestock, yn ogystal ag ennill dwy wobr RAP nid yw eu sengl gyntaf swyddogol, Mynd a Dod, yn siomi. Mae hi yr un mor anthemig â chaneuon blaenorol y band, ac mae natur ffres ac unigryw’r criw o ardal Dolgellau yn eich tynnu i’ch traed, ac mae’n amhosib peidio â chyd-ganu gyda’r geiriau. Mae dawn ryfeddol y band i gyfuno riffts gitâr bachog â llais swynol Ifan y prif ganwr yn dod i’r amlwg unwaith eto yn Mynd a Dod... ac wedi clywed y gân hon, sut allwch chi osgoi pendroni, beth sydd gan Sŵnami i’w gynnig i ni nesaf? Dwi’n weddol sicr nad fi yw’r unig un sy’n gobeithio am chwip o albwm yn y dyfodol! 9/10 Miriam Jones

Mae amrywiaeth eang i gynnwys y caneuon ar yr albwm yma. Cawn ‘Ofn’ sydd yn gatharsis seicolegol, cân yn erfyn ar iâr i ddodwy yn ‘Plis Gai Wy’ a chaneuon llawn rhwystredigaeth a phrotest yn erbyn y system. Mae’r sŵn yn gymysg o roc, gwerin a ska-dybllyd. Dywedodd rhywun wrtha’i bod Twmffat yn swnio’n union fel y band pync sipsi, Gogol Bodello. Roeddynt yn llygaid eu lle! Dydych chi byth yn siŵr be’ ddigwyddith mewn gig byw Twmffat. Ym Methesda unwaith ddaru un o’r gynulleidfa gipio meic Ceri C a dechrau mwydro-bregethu yng nghanol cân, a dyna sut orffennodd y gig yn gynnar. Dyna un rheswm ei fod yn dda o beth fod y casgliad yma o ganeuon ar CD! Albwm llawn caneuon bachog ond caneuon efo testun go iawn i gnoi cil arno hefyd. Mae’r albwm yn gyfanwaith sydd wedi llwyddo i gyfuno’r tywyll gyda gwiriondeb rhywsut. Mae’r caneuon yn llawn angerdd ac yn hollol ‘boncyrs ond byth yn boring’! Yr unig beth negyddol y dywedwn i amdani ydi ei bod hi weithiau’n swnio fymryn yn anaeddfed a gwibiog, ond i ddweud y gwir fe wnes i fwynhau gwrando yn arw a dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy! 8/10 Heledd Williams Heno yn yr Anglesey / Geiban Y Bandana

Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud fod Y Bandana wedi hollti’r farn gyhoeddus ers iddynt fyrstio ar y sin gwpl o flynyddoedd yn ôl bellach. Gewch chi geshio pa ochr i’r hollt hwnnw dwi’n sefyll ond mai’n saff dweud fy mod i wedi symud mymryn at yr ochr ar ôl gwrando ar y sengl yma sydd newydd gael ei rhyddhau yn ddigidol ar label Copa. Achos mae ‘Heno yn yr Anglesey’ yn gân dipyn aeddfetach na’r rhai dwi wedi eu clywed gan y band o’r blaen.

21

Yn aeddfetach o ran y gerddoriaeth ac yn sicr felly o ran y geiriau. Dim cân am Sali Mali na rhyw Mr Pei ydi hon ond cân serch bach ddigon annwyl deu’ gwir. Mae’r ail drac, ‘Geiban’ yn debycach i stwff blaenorol y band felly mi anwybyddwn ni’r b-side dwi’n meddwl. Wedi dweud hynny, peidiwch â synnu os welwch chi fi rhyw ben yr haf yma (yn geiban) yn dawnsio i gyfeiliant honno hefyd! 6/10 Gwilym Dwyfor

Lakeside Dan Amor

Mae o wedi bod yn ddirgelwch imi erioed pam nad yw Dan Amor wedi cael mwy o sylw achos dwi wirioneddol yn meddwl mai fo ydi un o’r canwyrgyfansoddwyr hawsaf i wrando arno yn y sin. Ta waeth, fel yr awgryma’r teitl, cân Saesneg yw prif drac ei sengl newydd, ‘Lakeside’ (cân wych gyda llaw ond yma i sôn am y gweddill ydw i). Fe fydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â’r gân, ‘Yr Anhaeddiannol’ o albwm ddiwethaf Dan Amor, Neigwl. Os ydych chi, fe fyddwch yn gwybod ei bod yn blethiad hyfryd o ganu a strymio di ymdrech. Ond fel bonws ar y sengl hon fe gewch chi ddwy fersiwn o’r gân wedi ei hail gymysgu. Mae yma un trac newydd sbon hefyd sef ‘Mehefin’. A’r cwbl ’da chi angen ei wybod am hon ydi ei bod hi gan mil gwaith brafiach peth na’r Mehefin gawsom ni eleni. 8/10 Gwilym Dwyfor y-selar.co.uk

21


Unwaith eto mae’r Selar wedi bod yn cadw golwg ar y perlau cerddorol Cymraeg sy’n cyfnewid dwylo ar wefan prynu a gwerthu eBay. Dyma’r rai ddaliodd ein sylw yn ddiweddar.

Y Blew - Maes B Pris Gwerthu - £271.66 (2 gynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Qualiton Records QSP 7001. 2 drac, 1 disg, stereo finyl 7 modfedd, 45rpm. Blwyddyn rhyddhau - 1967. Cyflwr clawr: Da, hollt ar yr ymyl gwaelod, nifer o grychiadau. Cyflwr label: Gwych. Cyflwr finyl: Ochr 1 - Da iawn+ Ochr 2: Gwych Gwerthodd y diwethaf o’r rhain i ymddangos ar eBay yn 2011 am £500 - peidiwch colli hwn. Barn Y Selar: Record eiconig, yn unig sengl y grŵp ‘roc’ Cymraeg cyntaf un. Gwnaeth Y Blew un daith a rhyddhau un record, gan chwalu lai na blwyddyn ar ôl ffurfio. Efallai’r record brinnaf yn y Gymraeg - anaml iawn y gwelir hon ar werth a dim syndod felly bod y pris mor uchel. Sidan - Teulu Yncl Sam Pris Gwerthu - £52.57 (14 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: LP gwerin/ roc psych ar label Sain 1975. Record chwedlonol ac anodd iawn i’w ffeindio gan y grŵp o 5 merch gan gynnwys y rhyfeddol Caryl Parry Jones. Mae ar label pinc gwreiddiol a chwedlonol label Sain 1017M o 1975. Mae’r clawr yn dda iawn, a’r record yn chwarae’n wych gyda rhai “eiliadau da iawn” Barn Y Selar: Er mai ifanc oedd Caryl a’i ffrindiau pan oedden nhw’n perfformio fel Sidan, roedd eu caneuon yn hynod o aeddfed ac yn reit arloesol yn y Gymraeg. Mae’r record yma’n cynnwys y glasur ‘Dwi ddim isho’, a’r tiwns ffynci ‘Ar Goll’ a ‘Di Enw’. Un o’r recordiau gorau’r cyfnod. Datblygu: Hwgr Grawth Og Pris Gwerthu: £9.48 (5 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: EP 7” ryddhawyd ym 1986 ar Recordiau Anhrefn Traciau - Braidd, Casserole Efeilliaid, Firws i Frecwast, Mynd. Yn cynnwys

22

y-selar.co.uk

dalen eiriau caneuon wreiddiol Barn Y Selar: Dyma EP a recordiwyd yn stiwdio Foel, Llanfair Caereinion, a’r record finyl cyntaf i Datblygu ei ryddhau wedi cyfres o gasetiau. Mae’n debyg mai ar ôl clywed hon y gwahoddwyd Datblygu i wneud sesiwn Radio 1 i John Peel am y tro cyntaf. Bargen am y pris record arloesol ac anaml y gwelir hon ar werth mewn cyflwr da. Amlgyfrannog - Croeso ‘99 Pris Gwerthu - £4.99 (2 gynnig) Disgrifiad Gwerthwr: Casgliad Indî Iaith Gymraeg ar Recordiau Ankst (ANKSTMUSIK 089) 1999. Clawr cerdyn. Casgliad yn cynnwys bandiau indî: Datblygu, Rheinallt H. Rowlands, Infinity Chimps, Tystion, Ectogram, Llwybr Llaethog a Da Da. Barn Y Selar: Dyma chi eitem fach ddiddorol. Cafodd hwn ei gyhoeddi a’i ddosbarthu am ddim yn ystod Gigs Cymdeithas yr Iaith yn Maes-B, Steddfod Llangefni 1999. Roedd rhain ar lawr dros y maes gwersylla ar fore dydd Sul ola’r Steddfod - os fu rhywun yn eu casglu mae cyfle iddyn nhw wneud ffortiwn! Eirin Peryglus - Bronson/Y Dyn Newydd Pris Gwerthu - £17.02 (8 cynnig) Disgrifiad Gwerthwr: 7” Synthpop Cymraeg. Pop indî/synth swigoglyd o 1987. Mae’n eithaf prin yn ôl pob golwg. Cyflwr finyl - gwych, y clawr yn dda iawn+ Mae hwn yn rhan o gasgliad pync/ton newydd/synth/ senglau obsgiwâr y byddaf yn cynnig dros y misoedd nesaf. Os nad ydach chi wedi clywed amdano fo, byddai siŵr o fod yn ei werthu! Barn Y Selar: Grŵp pop electronig oedd wrthi ar ddiwedd yr 80au a dechrau’r 90au oedd Eirin Peryglus. Un o’r aelodau oedd Fiona Owen, sef gwraig y cynhyrchydd gwych Gorwel Owen - Gorwel gynhyrchodd stwff Eirin Peryglus. Dyma record gyntaf y grŵp, ac mae’n werth yr £17 i’r prynwr!


Sêl ar ôl gatalog

Hwre! Hwre! Mae’r teitlau canlynol ar gynnig arbennig b a c H w c H fa r g e n !

Rasal•Gwymon•copa £4.99

£4.99

£4.99

£4.99

£2.50

£1.50

£4.99

£1.50

£2.99

£2.99

£2.99

£1.50

POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY www.sainwales.com

CD newydd :

Fflur Dafydd Ffydd, Gobaith, Cariad £9.99

Sengl ddigidol newydd : Sw ˆ nami Mynd a dod / Eira

Sengl ddigidol newydd :

Y Bandana Heno yn yr Anglesey / Geiban

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 sain@sainwales.com


Creu, Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth BA Cerddoriaeth BA Cyfryngau Creadigol BA Perfformio • Cyfle i ddatblygu eich creadigrwydd a'ch cyflogadwyedd o fewn y diwydiant cerddorol a meysydd perthnasol • Cyfle i gael cefnogaeth ariannol i'ch astudiaethau, gan gynnwys Ysgoloriaeth am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg • Cyfleon gwych i bontio rhwng meysydd astudiaeth a doniau Ysgol y Celfyddydau Perfformio • Lleoedd ar gael ar gyfer 2012 a 2013 • Addysgir y cyrsiau hyn ar ein campws yng Nghaerfyrddin

Am fwy o fanylion ewch ar lein www.ydds.ac.uk 0300 500 1822

Y Selar - Awst 2012  

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc gymraeg

Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you