__MAIN_TEXT__

Page 1

Rhif 46 | Awst | 2016

“Dwi’n teimlo mwy fel Ger ers talwm.”

y-selar.co.uk Band Pres Llareggub | Brwydr y Bandiau | Alffa

1


12 AR HYD A LLED CYMRU DRWY’R HAF

AFRO CLUSTER

ANELOG

CASEY

CASTLES

CONNAH EVANS

DANIELLE LEWIS

FLEUR DE LYS

REUEL ELIJAH

ROUGHION

TIBET

WE’RE NO HEROES

YSGOL SUL

Am fwy o wybodaeth ac i weld lluniau a fideos o’r bandiau ewch i’r wefan:

bbc.co.uk/gorwelion @horizonscymru facebook.com/horizonscymru


y Selar

cynnwys

RHIF 46 | AWST | 2016

Golygyddol Bonjour! Os oes ’na typo neu ddau yn y rhifyn hwn, beiwch Chris Coleman; os oes ’na do bach neu gollnod ar goll, beiwch Gareth Bale ac os oes ’na deimlad brysiog a blinedig i’r holl beth, beiwch Y gôl ’na gan Hal Robson-Kanu. Do, mae’r Selar wedi cael mwy o gyfarfodydd golygyddol yn Ffrainc na Chymru dros y misoedd diwethaf! Fe aeth hi braidd yn dynn ond fe lwyddon ni i baratoi rhifyn ar eich cyfer erbyn y ’Steddfod! Yn ffodus i ni roedd yna hen ddigon yn digwydd yn y sin i lenwi rhwng y cloriau mewn dim o dro. Cerddor chwedlonol yn rhyddhau ei unfed albwm ar bymtheg ac yn ymddangos ar glawr y Selar am y tro cyntaf, un o fandiau byw gorau’r sin a hed-leinars nos Sadwrn Maes B yn rhyddhau eu halbwm cyntaf o ganeuon gwreiddiol a llond llwyfan o fandiau ac artistiaid ifanc addawol yn paratoi am Frwydr y Bandiau. Allez le Selar, profitez du Eisteddfod! Gwilym Dwyfor

4

8

Band Pres Llareggub

4

Brwydr y Bandiau

8

Jarman

12

Hongian Y Bandana

15

Selar yn y Stiwdio

16

Ti di Clywed

18

Adolygiadau

20

Gigio gyda’r Selar

22

Llun clawr: Betsan Haf Evans

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

y-selar.co.uk

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Griff Lynch, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Bethan Williams, Elain Llwyd, Lois Gwenllian, Miriam Elin Jones, Leigh Jones, Ciron Gruffydd

16

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


Kurn Werth Eich Pres

4

R

hyddhawyd Kurn ddechrau Gorffennaf ac erbyn i’r Selar sgwrsio â’r hogia’ wythnos yn ddiweddarach yn Nhafwyl roedd yr albwm eisoes yn cael ymateb da.

“Ma’n gwerthu’n dda yn barod,” eglura’r wyneb cyfarwydd

tu ôl i’r dryms, Gethin Evans. “Ma’n braf gallu werthu fo mewn gigs, ma’r ymateb wedi bod yn grêt.” “Ma’i wedi bod yn bleser cydweithio efo offerynwyr mor dalentog, profiadol a phroffesiynol,” ychwanega swsaffonydd y band a thad y prosiect, Owain Roberts. “Mwng oedd yr albwm cyntaf felly oeddan ni isho gneud rwbath hollol wreiddiol efo’r stwff newydd. O’n i isho cydweithio efo pobl fel Alys Williams a Lisa [Jên], ac oedd hi’n brilliant cael Ed Holden on board eto. Oedd hi’n broses hynod sydyn, ddaru Mwng gymryd ryw ddwy flynadd i’w wneud ond ryw dri mis gymrodd hwn.” Yn wahanol i Mwng, roedd rhaid dechrau o’r dechrau gyda llechen lân ar Kurn, Owain sydd yn egluro’r broses. “Dwi’n cyfansoddi pob peth fy hun, ei sgwennu fo lawr ac yna ma’ pawb arall yn ei chwara’ fo. Ond gesh i help gan Ed ar ddwy o’r caneuon ac mae Alys wedi sgwennu’r geiriau ar

Ffrwydrodd Band Pres Llareggub ar y

gyfer ‘Gweld y Byd Mewn Lliw’. Dwi’n meddwl mai hwnnw

sin llynedd gan adael eu marc gyda’r EP,

’di’r trac gora, ma’ hwnnw’n cracar, dyna fydd anthem yr haf

Bradwr, a’u fersiwn unigryw hwy o albwm

i ni.”

chwedlonol Super Furry Animals, Mwng.

Profa Kurn fod gan Owain ddawn gyfansoddi yn ogystal â

Flwyddyn yn ddiweddarach mae’r hogia’

threfnu cerddoriaeth a does fawr o syndod fod aelodau eraill

nôl gyda chasgliad o ganeuon gwreiddiol

y band yn llawn edmygedd. “Pan dwi’n gwrando ar yr albwm

ac yn barod i ddiddanu cynulleidfaoedd

dwi’n gwrando fel byswn i wedi ei brynu fo a’i fod o’n albwm

Cymru’r haf yma eto. Owain Gruffudd

rhywun arall,” meddai Gethin. “Ac ella nad fy lle i ydi deud, ond

aeth i Gastell Caerdydd i holi dau o’r criw

i mi, mae o gystal ag unrhyw beth gan fand yn y genre yma. O

ar ran Y Selar.

ran safon, mae o gystal ag unrhyw fand brass tebyg.”


Mae Gethin yn cydnabod cyfraniad pwysig y gwesteion ar y casgliad hefyd. “Ma’ pobl yn licio gweld un person yn y canol yn canu,

ffyddiog bod mwy i ddod gan y criw. “Dwi’n meddwl fod ’na ddau neu dri cham arall. ’Da ni heb gael set fyw iawn at ei gilydd eto, ’da ni heb ymarfer yn iawn

master of ceremony yn cynnal y peth,” meddai. “Ma’n dda cael

eto! Maes B eleni ydi’r tro cyntaf ’da ni am roi ymdrech go

Ed achos mae o’n dod â rwbath gwahanol i’r llwyfan ac ma’r

iawn mewn i’r peth a rhoi sioe ymlaen.”

gynulleidfa’n ymateb.” “Ia, ma’n neis cael yr hyblygrwydd,” cytuna Owain. “Dwi’n licio’r ffordd ma’r caneuon efo vocal yn torri’r peth i fyny, ma’

Fel cyn aelod o Genod Droog, teg dweud fo Gethin yn gwybod dipyn am roi sioe gyffrous i gynulleidfa. “Wrth chwara’n fyw ti’n gorfod meddwl sut i’w wneud o’n

albwm cyfa’ o sŵn brass yn mynd yn undonog braidd. Ti’n

ddiddorol. Mae’r sail yna o ran egni’r band felly dim ond matar

gallu gwrando ar rai o’r tracs yma heb sylwi mai band pres ydi

o wneud petha’ ychwanegol fel cael Ed i mewn ydi o i’w atal

o bron.”

o rhag mynd yn undonog. Yn ei hanfod, ma’n fand uffernol

Band Byw Wedi iddynt ddatblygu’n un o fandiau byw gorau Cymru dros y deunaw mis diwethaf, un o brif heriau Band Pres Llareggub ar Kurn oedd trosglwyddo bwrlwm y sioeau byw i record. “Mae’n anodd iawn cyfleu’r egni sydd mewn gigs ond dwi’n

o gyffrous i chwara ynddo fo a dwi’n siŵr bod hynny’n dod drosodd.” Gyda chymaint o aelodau yn y band mae’r berthynas rhyngddynt yn hollbwysig hefyd wrth gyfleu’r natur hwyliog. “Ma’ ’na naw ohona ni felly ma’ ’na lot o gymeriadau,” eglura Gethin. “Yn aml iawn ma’r band yn wahanol, ma’r ddynameg

meddwl ein bod ni wedi llwyddo tro yma yn fwy na Mwng,”

yn newid o hyd. ’Da ni gyd yn ffrindia’, ’da ni’n trafeilio o

meddai Owain. “Mae’r albwm yma’n amrwd ac ma’n swnio’n

gwmpas efo’n gilydd, mae o’n teimlo fel gang.”

fawr. Ma’n swnio fatha bo’ ni wedi cael hwyl yn ei neud o, ac wrth gwrs fe gafon ni uffar o laff! Gobeithio bod hynny’n dod drosodd.” “Ti’n gorfod meddwl be’ sy’n gweithio’n fyw,” ychwanega Gethin. “I mi, ‘di band ond mor dda â’u sioe byw nhw. Alli di neud lot o betha’ ar CD ac yn y stiwdio ond i mi mewn sioeau byw ma’ band yn Er cystal y sioeau byw yn barod, mae Owain yn

Lluniau: Kristina Banholzer

profi’u hunain.”

5


Yn gang cymharol newydd o hyd, mae hed-leinio nos

wedi ennill fel unawdwyr yn yr eisteddfod yn y gorffennol),

Gethin yn meddwl bod cryfder Llareggub fel band byw yn

beth yw’r tebygrwydd y gwelwn ni Fand Pres Llareggub, nid

elfen bwysig yn hynny.

yn unig yn perfformio ym Maes B, ond yn cystadlu ar lwyfan

“O ran hed-leinio Maes B dwi’n meddwl eu bod nhw’n chwilio am betha eitha’ cyffrous yn fyw.” Nid yw Owain am ddatgelu gormod serch hynny am yr hyn y gallwn ei ddisgwyl i gloi’r wythnos yn y Fenni. “Mae o’n ’chydig bach o gyfrinach ar hyn o bryd, alla’i ddim

yr Eisteddfod yn y dyfodol tybed? Ceir yr argraff nad yw’r awgrym yn apelio ryw lawer at Owain ond mae Gethin ar y llaw arall yn fwy agored i’r syniad! “Fysan ni’n cal? Be’ ’di’r broses, sut ma’n gweithio? Wyt ti jysd yn troi fyny ar y diwrnod a deud bod yr ’ogia isho

deud. Fydd ’na guest vocalists wrth gwrs, fydd o fel pwy ’di pwy

chwara? Ond o ddifrif, er bod rhywun yn cydnabod y

o’r sin roc Gymraeg. Ydi Bryn Fôn ’di ffonio chdi nôl Geth?”

traddodiad a’r hanas yna mae o’n gysylltiad rhy hawdd i’w

“Na, disgwl yr alwad ydw i.”

Poblogrwydd Pres

wneud. Mae o bron fel siarad efo rywun sy’n chwara gitâr a deud, ti’n licio George Formby wyt? Mae o’n hollol wahanol.”

Wrth feddwl am Llareggub a’r Barry Horns hefyd, teg dweud

Llond Llwyfan

fod bandiau pres yn cŵl yng Nghymru ar hyn o bryd.

Un o’r prif resymau wrth gwrs dros sŵn pwerus y band a’u

“Ma’ bandiau pres wedi bod yn cŵl erioed!” dadleua Gethin. “Ma’r math yma o fiwsig yn bodoli, dwi’n meddwl mai jysd ni’r Cymry sydd yn araf yn dod ato fo.”

presenoldeb fel band byw yw’r nifer o aelodau, ond mae hynny’n rhoi sialens ymarferol i’r hogia’ wrth drefnu pethau. “I fod yn deg Owain sydd yng ngofal hynny,” eglura

Cytuna Owain...

Gethin. “Ma’ logistics y peth yn anodd, ma’r WhatsApp chat

“Mae o’n boblogaidd iawn yn America. Be’ sy’n neis i ni, ’da

sy’ gynnon ni’n boncyrs, ti’n deffro yn bora a ma’ ’na ryw 39

ni jysd ’di neidio ar y bandwagon ’ma o fandiau Americanaidd

negas, pobl yn trio trefnu pwy sy’n pigo pwy i fyny yn lle ac

ond ’da ni efo’r traddodiad anhygoel ’ma o fandiau pres yng

ati. ’Da ni’n lwcus fod Owain mor drefnus, ma’r athro ynddo

Nghymru yn barod. Mae o fel pe bai ’na gysylltiad eitha’

fo’n dod allan pan ma’ hi’n dod i drefnu!

dwfn i’r gerddoriaeth yn barod felly mae o wedi bod yn eitha’ hawdd.” Fel un o’r unig aelodau sydd ddim yn dod o gefndir bandiau

Mae’r sgiliau trefnu yn sicr yn haeddu clod, yn enwedig wrth ystyried calendr prysur y band yr haf hwn. Maent eisoes wedi chwarae yn Nhafwyl, Gŵyl Nôl a M’lan a Gŵyl

pres traddodiadol mae’n ddiddorol clywed sylwadau Gethin

Jazz Manceinion. Wedi’r Steddfod bydd y band wrthi yn

am y genre.

Boomtown, Festival no. 6 a Caught by the River Thames

“Be’ sy’n anhygoel ydi, ma’ ’na lwyth o bobl ifanc yn chwara’ brass does, ma’ bob yn ail berson ti’n gyfarfod yng Ngwynedd wedi chwara mewn band pres ryw dro ac mi fysa

6

O ystyried cefndir y gweddill (mae dros hanner y band

Sadwrn Maes B eleni yn dipyn o bluen yn eu het ac mae

gyda’r Super Furries. Digon i’w cadw’n brysur felly ond cadwodd Owain y newyddion mwyaf cyffrous tan y diwedd. “’Da ni’n mynd ar US tour flwyddyn nesa! ’Da ni’n mynd i

fo’n anhygoel os fysa ’na fwy o bobl ifanc yn dechra bandiau

New Orleans mis Ebrill a gneud taith efo band o’r enw The

tebyg i Llareggub. I mi, os fysan ni’n gorffan fory a bod ’na

Hot 8 Brass Band. ’Da ni’n mynd i’r lle y cafodd cerddoriaeth

fand ifanc yn dechra fysa fo’n anhygoel achos ma’ ‘na ddigon

jazz a cherddoriaeth boblogaidd fel ’da ni’n ei nabod o ei eni,

o dalent yna.”

edrych ymlaen!”

y-selar.co.uk


DYMA ERS. 1872

# CaruAber

DY LE CLIRIO

0800 121 40 80 aber.ac.uk


BRWYDR Y

BANDIAU

Yn dilyn priodas lwyddiannus rhwng C2, Maes B a Mentrau Iaith Cymru i greu un Frwydr y Bandiau o safon llynedd, dychwelodd y gystadeuaeth ar yr un ffurf eleni. Cynhaliwyd rowndiau rhanbarthol yn y Gwanwyn ond wythnos yr Eisteddfod fydd pen llanw’r holl beth unwaith eto, wrth i’r rownd derfynol gael ei chynnal ar Lwyfan y Maes ddydd Mercher cyn i’r enillwyr agor gweithgareddau Maes B ar y nos Sadwrn. Miriam Elin Jones a aeth ar ran Y Selar i holi ychydig ar y cystadleuwyr cyn y prynhawn pwysig yn y Fenni.

GLAIN RHYS

Lluniau: Kristina Banholzer

Pwy? Glain Rhys, o’r Bala, gyda band bellach yn chwarae iddi hefyd! Sŵn? Cwestiwn anodd yw hwn, yn ôl Glain, gyda hithau’n dal i arbrofi gyda’i sain! Er hynny, meddai, “Dwi wrth fy modd yn chware stwff gwerinol, jyst bod o’n fwy cyfoes a mwy pop.” Dylanwadau cerddorol? “’Gen i lawer o gerddorion ac artistiaid sydd wedi a sydd dal yn dylanwadu arna’i,” cyfaddefa Glain “Ma’r math o gerddoriaeth dwi’n licio’n amrywio gymaint o stwff sioeau cerdd i stwff gwerin. Ond dwi’n meddwl ’swn i’n goro

DWI WRTH

FY MODD YN

CHWARE STWFF GWERINOL,

JYST BOD O’N

FWY CYFOES A MWY POP.”

8

y-selar.co.uk

dewis y bobl dwi’n eu hedmygu fwya, ’swn i’n goro dewis Caryl Parry Jones, Siân James, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym (#GirlPower), a ma’n sicr angen mwy o ferched yn y SRG.” Sut brofiad yw cyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau 2016? “Ma’n anhygoel bo ni ’di cyrraedd mor bell â hyn, felly fydda i’n falch os ’da ni’n ennill neu beidio! Odd y bandie eraill i gyd yn anhygoel so o’n i wrth fy modd pan nes i glywed bo’ ni ’di mynd trwadd.” Be’ nesa’? Albwm ac EP yw’r gobaith mawr, serch hynny: “Ma’n siwr fydd o’n anodd hefo aelode’r band ’di gwasgaru dros Gymru gyfan i fynd i’r brifysgol, ac isio dilyn llwybr gyrfaoedd gwahanol!”


JACOB ELWY Pwy? Daw Jacob Elwy o Lansannan, ac o bosib, mai ei enw’n gyfarwydd, gan ei fod yn frawd hŷn i Morgan Elwy, o Y Trŵbz, sef enillwyr Brwydr y Bandiau C2 2014. Sŵn? “Folk rock acwstig,” yw ateb pendant Jacob wrth ddisgrifio’i gerddoriaeth. Dylanwadau cerddorol? Er y disgrifiad pendant uchod, mae dylanwadau Jacob yn amrywiol iawn ac yn cynnwys Oasis, Led Zeppelin, Maharishi, Jeff Buckley, Meic Stevens, Eric Clapton, blink-182 ac Il Divo. “Mae’r list yn ddi-ddiwedd braidd...” Sut brofiad yw cyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau 2016? “Roedd hi’n noson wych yn Nghaernarfon, gyda safon uchel iawn o gerddoriaeth, mae hi’n fraint cael mynd trwodd i’r ffeinal a dwi’n edrych ymlaen at gael trip i’r Fenni.” Be’ nesa’? Astudio gradd mewn cyfansoddi caneuon ym Manceinion yw’r cam nesaf, gan barhau i ddatblygu fel cantor. “Mewn pum mlynedd does wybod lle fydda’i, ond yn sicr byddaf yn dal i wneud cerddoriaeth ac yn medru gwneud bywoliaeth ohono gobeithio.”

HENEBION Pwy yw pwy? Kristian sy’n chwarae’r gitâr, Jake ar y bas, gyda Dio wrth y dryms, ac mae’r tri o Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth. Band sydd eisoes yn gyfarwydd i ni, gan iddynt ryddhau ‘Mwg Bore Drwg’ yn rhan o Glwb Senglau’r Selar mis Mawrth ’leni. Sŵn? Disgrifia’r bois eu

sŵn fel rhywbeth sydd “rhywle rhwng roc a punk,” gan gydnabod bod hynny, wrth reswm, yn newid o gân i gân. Dylanwadau cerddorol? Er bod y triawd yn crybwyll llwyth o ddylanwadau cerddorol gwahanol, mae yna gonsensws ynglyn â phwy yn union

sy’n crisialu eu sŵn, sef blink-182 a Nirvana. O’r SRG, maent yn hoff iawn o Candelas. “Lot o pethau punk a pop-punk,” esbonia Dio sy’n eu hysbrydoli. Sut brofiad yw cyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau 2016? “Profiad gwych,” medd Dio. “Ac mae cael cwrdd â phawb yn massive

achos chi’n dod i ’nabod pobl fysech chi byth wedi eu cwrdd heb y cyfle hwn.” Be’ nesa’? “Gobeithio dal ati a chario ’mlaen i dyfu fel band,” yw’r uchelgais yn ei grynswth, ond y freuddwyd fawr yw chwarae mewn gwyliau enwog megis y Warped Tour yn y dyfodol.

Pwy yw pwy? Zac, y drymiwr, a Liam, y gitârydd a’r basydd, ddaeth at ei gilydd yn wreiddiol mewn band blaenorol, cyn chwilio am gantor neu gantores i ymuno gyda nhw. Katie yw prif leisydd y band o Bontypridd. Sŵn? “Alt-rock trwm,” meddai Zac, ac mae eu dylanwadau yn dyst i hynny. Dylanwadau cerddorol? Bandiau sy’n creu lot o sŵn sy’n mynd â bryd Chroma, bandiau megis The White Stripes, Biffy Clyro, Slave a

Marmozets. Mae tebygrwydd amlwg i’w sŵn nhw â steil Royal Blood. Sut brofiad yw cyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau 2016? “Bod yn rhan o Frwydr y Bandiau 2016 yw un o’r pethau gorau ni wedi gwneud fel band. Rydym wedi cael gymaint o hwyl, gan ddatblygu caneuon Cymraeg hefyd.” Be’ nesa’? “Ysgrifennu albwm a chyhoeddi EP. Bydd hi’n anhygoel cael y cyfle i fynd ar tour a chwarae mwy o gigs.”

Llun: Gareth Bull

CHROMA

y-selar.co.uk

9


RWY’N EDRYCH

YMLAEN YN FAWR IAWN I’R ROWND

PYROCLASTIG Pwy yw pwy? Band newydd sbon danlli yw Pyroclastig, a daw’r pump swynol o Lŷn ac Eifionydd. Geth sy’n chwarae’r gitâr ac yn canu, Llŷr sy’n canu’r sacsaffon, Kieran sydd wrth yr allweddellau, Hawys yw’r basydd a Gruff sydd wrth y dryms. Sŵn? Mae’n amhosib i osod un label taclus ar sŵn Pyroclastig. “Efallai mai’r ffordd symlaf o geisio disgrifio ein sŵn ni yw roc, sydd weithiau’n gallu bod yn drwm ond eto’n gallu bod yn ‘poppy’ iawn ar adegau, gyda dylwandau o’r byd jazz.” Dylanwadau cerddorol? Yn naturiol, mae pob un o’r pump yn tynnu ei ddylanwadau ei hun i’r crochan, ond fel yr esbonia Gruff, “Nid oes modd gwadu fod dylanwad bandiau fel Candelas a’r Big Leaves ar ein cerddoriaeth.” Sut brofiad yw cyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau 2016? “Swreal”, medd Gruff , “mae o’n aml yn ein taro ni mewn ymarferion, waw ’da ni acshyli drwadd!” – yn enwedig a hwythau’n fand mor newydd. Be’ nesa’? “’Da ni’n edrych ymlaen at haf prysur o gigs ac yn gobeithio gwireddu’r freuddwyd o gael chwarae ym Maes B a rhyddhau o leiaf un albwm!”

10

y-selar.co.uk

DERFYNOL.”

^ SIA N RICHARDS Pwy? Cantores-gyfansoddwraig yw Siân o Abertawe, sydd wedi hogi ei chrefft mewn corau yn yr ysgol ac yn y capel ers pan oedd yn ferch fach. Dysgodd chwarae’r gitâr dair neu bedair blynedd yn ôl, a dyma hi heddiw! Sŵn? “Mae hwn yn gwestiwn anodd i’w ateb... Rwy’n hoffi arbrofi gyda genres gwahanol, felly mae’n anodd cymharu fy ngherddoriaeth gydag un person.” Dylanwadau cerddorol? Cantoresau o’r 1960au a’r 1970au sy’n mynd a bryd Siân yn bennaf, gan gynnwys Dusty Springfield a Dolly Parton, ond mae ei rhestr o ddylanwadau

cerddorol hefyd yn cynnwys Neil Young, The Cranberries, The Fray a Dishwalla. Sut brofiad yw cyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau 2016? “Mae wedi bod yn brofiad anhygoel!” dywed Siân yn gyffrous. “Wnes i wir fwynhau y rownd gyntaf yn cystadlu yn erbyn bandiau gwych. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i’r rownd derfynol.” Be’ nesa’? Parhau i chwarae gigs a chyfansoddi yw cynllun Siân, serch hynny, un gobaith penodol sydd ganddi: “Hoffwn gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglen deledu neu ffilm yn y dyfodol.”


Rasal•Gwymon•Copa

allan nawr Ryland Teifi Man Rhydd

Y canwr-gyfansoddwr yn cyhoeddi albym newydd sbon o ganeuon – recordiwyd yn Iwerddon yn Clancy House Studio Lansio’r albym – pnawn Mawrth am 2yp – Tyˆ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Fenni

Senglau’r Selar

Casgliad o 11 sengl gan amrywiol fandiau newydd – Estrons, Y Trw ˆbz, Ysgol Sul, Henebion, Terfysg, Patrobas, Cpt Smith, Y Galw, Raffdam, Argrph, Magi Tudur

albym newydd allan nawr Y Bandana Fel tôn gron

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com


Jarman Cychwyn newydd

Dros y deufis diwethaf yng Nghymru, prin oedd sgwrs yn mynd heibio heb gyfeirio at bêldroed. Addas felly ’mod i’n eistedd yng nghegin Geraint Jarman - arloeswr yn y sin bop yng Nghymru, awdur caneuon â thema pêl-droed, fel ‘Kenny Dalglish’ a chyn gyd-ddisgybl i Terry Yorath. Ac yn gysgod uwch ein pennau, yn hongian ar y wal, clawr albwm Y Ceubal Y Crossbar A’r Quango - cyfeiriad at benaltî enwog Paul Bodin yn ’93. Geiriau: Owain Gruffudd

A

m unwaith, dim wedi dod i drafod y pêl-droed ydw i. Mae gan Jarman albwm newydd, Tawel Yw’r Tymor. Albwm rhif un ar bymtheg, ag yntau’n dathlu deugain mlynedd ers rhyddhau’r cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976. Ers hynny mae albyms fel Hen Wlad Fy Nhadau, Gwesty Cymru a Fflamau’r Ddraig yn cael eu hystyried ymysg goreuon ein hiaith, a chyfuniad Jarman a’i garfan o gerddorion talentog o reggae, roc a phop yn rhedeg fel llinyn arian trwy hanes cerddoriaeth Gymraeg. Ond ochr newydd i Jarman a welwn ni ar yr albwm diweddaraf

yma. Casgliad o ganeuon acwstig sydd yma, dim drymiau, prin yw’r defnydd o offerynnau trydan ac mae ’na bwyslais mawr ar y llais. Ac fel mae’r dyn ei hun yn ei esbonio, syniad Recordiau Ankst oedd hyn. “Roedd gan Emyr Glyn Williams y syniad gwreiddiol o ryddhau feinyl efo’r tracs acwstig dwi ’di sgwennu yn ddiweddar, a recordio ambell gân arall hefyd. O’n i’n licio’r syniad, felly es i mewn i’r stiwdio a gweithio yn bennaf hefo Gareth Bonello a ddaru ni recordio naw o ganeuon i gyd.” Er mai ar CD ac yn ddigidol mae’r albwm ar gael ar hyn o bryd, y gobaith ydi y bydd allan ar feinyl yn hwyrach yn y flwyddyn. Aiff Jarman ymlaen i dalu teyrnged i waith

Bonello yn y stiwdio. “Oedd gen i’r caneuon yn barod, ac ’odd o’n deimlad eithaf hawdd bod yn y stiwdio, gan ’mod i’n mwynhau gweithio efo Gareth gymaint. Mae o’n weithgar iawn, mae o’n ddwfn ac mae ganddo fo gariad at y gân. Ma’i stwff o mor gyfoethog.” “Pobl dwi’n licio gwrando arnyn nhw, fel Sid Barrett; mae Gareth yn gallu rhoi’r cyswllt yna i fy stwff acwstig i. Dyna pam bod y peth yn gweithio. Mae o’n gallu ffeindio’r sŵn yma, a dwi’n gallu canu drosto fo. Nes i erioed feddwl y byswn i’n gwneud albwm cyfan fel ’ma, ond mae o’n teimlo’n ffantastig, fel rhyw gychwyn newydd.”


Lluniau: Betsan Haf Evans

“Dwi’n teimlo fod fy llais i ’di gwella wrth i mi fynd yn hŷn.”

Cychwyn newydd Tawel Yw’r Tymor yw’r trydydd albwm yn yr hyn mae Jarman yn ei ystyried fel “cychwyn newydd” iddo fel cerddor, yn dilyn Brecwast Astronot a Dwyn yr Hogyn Nôl. Ac yn sicr mae ’na newid wedi bod yn ei steil o ganu ar yr albyms diweddar o’u cymharu â’i waith blaenorol. “Dwi’n teimlo fod fy llais i ’di gwella wrth i mi fynd yn hŷn, dwi’n canu’n well. Gyda’r math yma o ganeuon mae gofyn cael arddeliad i’w canu nhw,” esbonia. “A’r rhyddhad oedd ’mod i’n cael canu nhw’n eithaf rhydd, a rhoi gymaint fedrwn i i mewn i’r peth. Dyna o’n i’n poeni amdano, er nad ydw i’n ffantastig yn canu, oni isho rhoi’r teimlad i’r neges oedd yn y gân. O’n i’n awyddus i’r geiriau ddod drosodd yn gryf.” Un agwedd nodweddiadol o Geraint Jarman fel cerddor sydd wedi parhau yn gyson dros flynyddoedd o berfformio ydi ei egni ar lwyfan. Allwn ni ddisgwyl math gwahanol o gigs wrth iddo hyrwyddo’r albwm diweddaraf yma? “Mae perfformio fel hyn yn wbath cwbl newydd i fi. Mae gen i ofn mewn ffordd, ond dwi isho’i neud o achos dwi’n meddwl bydd o’n grêt ac yn gyfle i ddatblygu mwy o’r ochr yna. Yn fyw fydd Gareth a finna’, Pete ar y bas, Frank ar y keys a Tim ar y dryms; ac wedyn y genod hefyd wrth gwrs. Y gobaith yn yr Hydref a’r Gaeaf ydi chwarae mewn theatrau, canolfannau a lleoliadau bach.” “Efallai byddwn ni’n gallu ychwanegu caneuon eraill i’r set newydd hefyd, ‘Sgip ar Dân’ er enghraifft. Pan dwi’n chwarae set gyda’r band llawn mae’n rhaid i fi chwarae’r ffefrynnau. ’Di o ddim yn faich achos i’r gynulleidfa mae’r sioe, a dwi’n mwynhau rhoi iddyn nhw. Ond mae o’n braf trio rhywbeth newydd weithiau.” Un gân sydd yn sefyll allan ar y casgliad ydi ‘Plis Mr. Parsons’, cân deyrnged i’r cerddor canu gwlad o America, Gram Parsons, ac mae cefndir diddorol iddi. “Oeddwn i a Cowbois Rhos Botwnnog wedi creu rhyw fath o pact y bysan ni’n recordio hefo’n gilydd. Aeth amser yn ei flaen a dim byd yn digwydd achos mae’n beth anodd ei drefnu. Felly nes i sgwennu dwy gân, sef ‘Plis Mr. Parsons’ a ‘Fi yw’r Ffwl’ ar gyfer y prosiect yna.” “Nes i ganu am Gram Parsons achos ’mod i’n gwbod fod o’n ddylanwad arnyn nhw, ac mae o ’di bod yn ddylanwad arna i hefyd. O’n i’n gwrando arno yn y ’70au cynnar, ac yn deall be’ oedd o’n trio’i wneud, sef adennill diddordeb pobl mewn cerddoriaeth Americanaidd draddodiadol. O’n i’n weld o’n rhyfedd darganfod, pan nes i gyfarfod Cowbois Rhos Botwnnog am y tro cyntaf, fod Gram Parsons yn gymaint o ddylanwad arnyn nhw ag oedd o arna i.”

y-selar.co.uk

13


Prentisiaeth Artist sy’n ymddangos ar un o draciau Tawel Yw’r Tymor yw Huw M, cerddor y mae Geraint yn mwynhau gwrando arno, ac wedi cyd-weithio ag o ar gyfres radio yn y gorffennol. “O’n i eisiau ei wahodd o i’r stiwdio, a nath o ddewis gweithio ar y gân ‘Mae’n Rhaid Dihuno Cariad’, sef cân nes i ’sgwennu efo Meic Stevens. O’n i ddim yn gwbod ond oedd Meic wedi ail-recordio hi’n barod o dan y teitl ‘Oes Rhywun Yna?’ ar Icarws. Oedd hi’n gân o opera werin oeddem ni ’di wneud ym 1969. I mi mae hi’n un o’r caneuon gorau nes i sgwennu tra’r oeddwn i’n

“Os fyswn i’n hogyn parchus, fyswn i eisoes wedi rhoi’r gorau iddi.”

14

y-selar.co.uk

gwneud fy mhrentisiaeth, fel petai, hefo Meic.” Ers y brentisiaeth yna gyda’r gŵr o Solfach, mae ei awch i ysgrifennu wedi parhau. Er mai newydd ryddhau Tawel Yw’r Tymor mae Geraint, mae’n parhau i gadw un llygad ar gyfleoedd newydd. “Es i drwy gyfnod anodd, lle oedd fy nghefn i’n sâl, o’n i ar morffin, yn flin ac anhapus. Dyna pryd nes i wneud Brecwast Astronot. Wedyn yn 2013 ges i lawdriniaeth ar fy nghefn ac ers hynny mae pethau wedi bod lot gwell, dwi’n teimlo mwy fel Ger ers talwm.” “Mae gen i dal lot o ganeuon i’w rhyddhau eto, os daw’r cyfle. Dwi’n ddiolchgar iawn i Emyr yn Ankst am fod yn gymaint o gefn i mi. Mae ’na ryw sôn y bydd yr albwm nesaf yn un reggae, dyna beth mae Frank [Naughton] isho! Ond cawn weld.” Ddeugain mlynedd ers yr LP cyntaf, mae’n saff dweud bod amryw o uchafbwyntiau yng ngyrfa’ Jarman dros y blynyddoedd, ond mae’n cael yr un wefr o ysgrifennu a pherfformio hyd heddiw. “Dwi fel adolecent nath byth dyfu fyny. Ti isho’r rhyddid ’na i gael space mewnol. Mae ’sgwennu caneuon dal i gynhyrfu fi. Os fyswn i’n hogyn parchus, fyswn i eisoes wedi rhoi’r gorau iddi. Ond pam ddylwn i?” “Yn y gig Rhyng-Gol eleni oedd rhai o aelodau’r grŵp yn ofni mynd, yn meddwl bysa fo’n racs ac yn llawn pobl feddw ac yn y blaen, a gawson nhw sioc o weld y gynulleidfa yn mwynhau, yn gwbod y caneuon. Oedd o’n mindblowing. Ti’n gallu byw ar hwnna. Dwi’m yn chwilio am yr un glory ag ers talwm, mae dwsin o gigs y flwyddyn yn ddigon i fi. Ond oedd y noson yna’n mynd â fi nôl i’r hen ddyddiau.” Mae’r gân sydd yn cloi’r albwm yn mynd â Geraint yn ôl i un o’i hoff wyliau. Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion ydi testun ‘Helo Hiraeth’, sydd hefyd yn cynnwys Griff Lynch. Ac er bod Geraint wedi chwarae yn yr ŵyl ym Mhortmeirion amryw o weithiau, bydd profiad newydd yn ei ddisgwyl eleni. “‘Da ni’n chwarae yn Rhif 6 eto, ond eleni ’da ni ar y prif lwyfan, nid ar Lwyfan Clough. O’n i’n cwyno wrth bobl nad oedd ’na grwpiau Cymraeg ar brif lwyfannau’r ŵyl, a bod y bandiau Cymraeg yn cael eu ghetto-eiddio mewn un babell. Wrth ddweud hyn, doeddwn i wir ddim yn meddwl am fi fy hun, o’n i’n meddwl am y bandiau ifanc cyffrous sydd gynno ni.” “Dwi’n meddwl bydd hyn yn cychwyn efo fi eleni ac wedyn yn parhau a datblygu. Mae cael y babell Gymraeg yn iawn, ond mae gin ti fandiau fel Yr Ods, Candelas - hyd yn oed Datblygu - fysa’n gallu cael eu cyflwyno i gynulleidfa newydd. Neith o’m brifo’r gynulleidfa.” “Dwi ’di bod yn gneud cerddoriaeth Gymraeg achos oedd o’n wbath o’n i isho’i neud, ond oedd o’n bwynt gwleidyddol hefyd. A dwi dal i deimlo fel ’na rŵan. Efo’r albyms diwethaf mae’r adolygiadau ’di bod yn grêt, ac oedd hi’n braf gweld fod y gerddoriaeth dal yn berthnasol. Fyswn i wedi stopio tasa pobol ’di deud fod o’n shit!”


Hongian y Bandana Wedi bron i ddegawd o berfformio’n ddi-dor ym Maes B, bydd y Bandana yn chwarae yno am y tro olaf wrth iddynt hed-leinio’r nos Wener eleni. Gall Y Selar ddatgelu’r newyddion trist y bydd band o Gaernarfon a Bethel yn rhoi’r gorau i berfformio yn hwyrach eleni. Wedi eu hysbrydoli gan lwyddiant band arall o Gaernarfon ym Mrwydr y Bandiau Maes B 2007, dilynodd y Bandana ôl troed Creision Hud trwy gystadlu’r flwyddyn ganlynol. Maent wedi bod yn rhan annatod o’r leinyp ers hynny ac eleni fydd y nawfed flwyddyn yn olynol iddynt gamu i’r llwyfan. Tri albwm a llu o Wobrau Selar yn ddiweddarach maent yn barod i hongian y bandana. Maent yn sicr o gael eu cofio fel un o fandiau byw amlycaf eu cyfnod. Gyda dros 300 o gigs go brin fod band mwy gweithgar ac mae’n anodd meddwl

am haf heb daith Bandana. Does fawr o syndod felly iddynt gipio gwobr Band Gorau/Band Byw Gorau yng Ngwobrau’r Selar dair blynedd yn olynol rhwng 2011 a 2013. Ychwanegwch dair gwobr Cân Orau, un Record Fer Orau ac un Band Newydd Gorau ac mae digon o dlysau i’r pedwar aelod gadw dwy yr un ar y silff ben tân! Sôn am bedwar, mae’n werth nodi i’r Bandana gadw’r un lein-yp dros y blynyddoedd. Gyda’r eithriad o ambell gig cynnar fel triawd cyn i Robin ymuno, y mae yntau, Tomos, Siôn a Gwilym wedi aros yn driw i’w gilydd. Bydd y band yw cau pen y mwdl gyda dwy gig ym mis Hydref eleni, yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar y 1af ac yn eu milltir sgwâr yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ar y 15ed. Peidiwch â digaloni gormod, fyddan nhw ddim yn mynd yn bell. Bydd Siôn yn parhau i berfformio’n unigol a gydag Uumar a Rhys Gwynfor; Robin yn cynhyrchu ac yn chwarae gyda Rhys Gwynfor a Bwncath; a Gwilym yn

#apffrydio – dewch draw i’n gweld ar faes yr Eisteddfod!

Disglyfr Albyms - Y Bandana (2011), Bywyd Gwyn (2013), Fel Tôn Gron (2016) Senglau - Dal dy Drwyn/ Cân y Tân (2010), Heno yn yr Anglesey/Geiban (2012), Mari Sâl (2014)

Gwobrau Selar Band Newydd Gorau (2010) Cân Orau (2011, 2012 a 2013) Band Gorau (2011 a 2012) Band Byw Gorau (2013) Record Fer Orau (2013)

perfformio gyda Plu a Bendith ac yn canolbwyntio ar ei stwff gwerin unigol. Yn wir, mae albwm unigol cyntaf Gwilym, O Groth y Ddaear, allan nawr. Ac os ydych chi dal wedi torri’ch calon er gwaethaf hynny i gyd ewch i weld Tomos, mae o ar fin hyfforddi fel meddyg teulu! Gwilym Dwyfor

NEWYDD O’R LOLFA

Y gwasanaeth ffrydio newydd yn benodol ar gyfer cerddoriaeth gan labeli Cymru – ap ar gyfer ffonau iOS ac Android ynghyd â fersiwn gwe tanysgrifiad misol Sylfaenol £6 Premiwm £9 mis o dreialu am ddim

£7.99 £9.99

£7.99

£8.99

twitter.com/aptoncymru facebook.com/aptoncymru instagram.com/aptoncymru www.apton.cymru apton@apton.cymru

Cofiwch alw heibio ein stondin! 01970 832304

www.ylolfa.com

15


sELAR YN Y STIWDIO enw: Seindon Cyfeiriad: Heol Norbury, Tyllgoed, Caerdydd Offer: Cyfrifiadur – Mac mini quad core i7, Vortex Extreme i7 Music PC a Quad Processor. Monitors a preamps – 2 fonitor Apple 22 modfedd, AKG LSM-50 a Genelecs 8030B, RME Fireface UFX, MOTU 828 MK2, Focusrite Platinum OctoPre 8-Channel a DAV BG8 8. Mics – AKG (D112, 451 a c414 XLS stereo pair), Rode (NT4 a NTK), Shure (Beta 58 x 6, 91b, SM7b a 57 x 2) a Sennheiser ME64 x 2. Offerynnau – Drum kit Pearl; allweddellau Korg (MicroKorg a R8) a M-Audio Keystation Pro; casgliad eang o gitârs vintage yn cynnwys Fenders (Strat ’91,

Telecaster Custom, 12 string, Jazzmaster ’68 a Precision bass), Gibsons (335 ’86, 335 ’76, a Country and Western) a Les Paul; lap steel, mandolins, charangos, ukuleles, banjos, autoharp. Amps - Marshall JCM 800, Fender Deluxe, Fender Champ a Marshall 4x12.

Wedi ymweld â dwy stiwdio gymharol newydd yn y gogledd yn y ddau rifyn diwethaf roedd hi’n bryd troi’n golygon tua’r de yn Selar yn y Stiwdio y tro hwn a busnesu mewn stiwdio sydd wedi hen ennill ei phlwyf fel mangre i fandiau ifanc Cymraeg yn y brifddinas. Mae Recordiau JigCal yn gynhyrchiol iawn ar hyn o bryd ac yn cadw Mei Gwynedd yn brysur yn Stiwdio Seindon.

Ers y rhifyn diwethaf mae hi fel petai’r newyddion wedi mynd yn hollol boncyrs. Wrth ysgrifennu’r erthygl hon, mae Theresa May ar fin dod yn Brif

16

y-selar.co.uk

Tom ap Dan a oedd y cyntaf i recordio yn y stiwdio newydd ac ers hynny mae Mei wedi recordio Al Lewis, Bandana, Endaf Gremlin, Aled Rheon a llawer mwy. “O ran petha’ diweddar efo JigCal, dwi ’di gneud albym Rifleros fydd allan yn ’Sdeddfod,” eglura Mei. Cafodd EP Uumar, Briw, ei recordio yn Seindon ac felly hefyd senglau ddiweddar Hyll a Cadno.

Hanes “Ddoth y cwbl at ei gilydd adag Sibrydion,” eglura’r cyn brif leisydd. “Symudon ni mewn i lock-up, lle bach da i gadw gêr a gwneud ’chydig o ymarfer. Wedyn oedd ’na ryw hen hipi wedi convertio a sound proofio uned ochor arall i’r adeilad ac oedd o’n symud o’r stiwdio felly nathon ni gymryd hi drosodd. O ludw Sibrydion ddoth o mewn ffordd”

Brexit a Cherddoriaeth Fel un sydd yn gweithio i, ac yn berchen ar label recordio, Leigh Jones sydd yn edrych ar oblygiadau Bradael ar gerddoriaeth yng Nghymru a’r diwydiant yn gyffredinol.

Hyd yn Hyn

Weinidog ac erbyn i’r Selar fynd i’r wasg pwy a ŵyr faint mwy o bobl fydd wedi gadael Top Gear. Mae’r gair “Brexit” mor hyll yn fy meddwl i. Mae gen i gywilydd ei ddefnyddio hyd yn oed, ond dyma air sy’n llawfer am holl helyntion cyfansoddiadol y wlad ar hyn o bryd. Ac mae’r trafferthion yma’n ymestyn at y diwydiant

cerddoriaeth hefyd. Cynhyrchir y mwyafrif helaeth o gerddoriaeth sydd ar werth yn siopau Prydain yn yr UE. Nid yn unig mae hi’n rhatach cynhyrchu CDs yn Ewrop, does dim dewis gennych os ydych chi’n rhyddhau feinyl gan nad oes yna ffatrïoedd feinyl sy’n gallu cynhyrchu ar raddfa fawr ym Mhrydain erbyn heddiw. 

Leigh Jones Does dim osgoi’r ffaith - wrth adael Ewrop, mi fydd cost cynhyrchu cerddoriaeth yn codi i labeli, ac o ganlyniad i hynny, yn effeithio’r bobl sy’n cefnogi cerddorion trwy brynu eu miwsig. Mae llawer mwy o fandiau ac artistiaid Cymraeg wedi bod yn gigio yn Ewrop dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf ond os rhwystrir


“Mellt hefyd,” cofia Mei wedyn. “’Da ni bron yna efo LP, wedi gobeithio cael honno’n barod erbyn ’Sdeddfod ond ’da ni am ei neud o’n amser ein hunain. Dwi’n gweithio efo Breichiau Hir hefyd felly ma’ ’na chwe band JigCal i gyd.”

Ar y Gweill Golyga’r berthynas agos gyda JigCal fod gan Mei stabl ddibynadwy o artistiaid i gadw Seindon yn brysur. “Ddechreuodd hynny efo Mellt flynyddoedd yn ôl, Breichiau Hir ddoth on board wedyn a nath o ddatblygu o hynny.” Mae Mei yn gweithio gydag artistiaid eraill hefyd. “Dwi newydd recordio sengl nesh i gyd-ysgifennu efo Elin Fflur, a gobeithio bydd ’na @jigcal

fwy i ddod ar yr ochr yna. Mae o’n ongoing struggle i’w gadw fo fynd ond dwi’n mwynhau gweithio efo bandiau ac artistiaid Cymraeg.”

3 Ffaith Ddifyr - Y peth olaf i gael ei recordio yn yr hen lock-up cyn symud i’r uned newydd oedd albwm Sibrydion, Uwchben y Drefn. - Roedd Lawson, cyn berchenog y stiwdio yn arfer chwarae yn yr Incredible String Band! - Y band mwyaf roc a rôl i recordio yno yw Breichiau Hir. “Trio cal nhw i mewn i’r stiwdio’r un pryd oedd y peth anodda’,” eglura Mei. “ Pan ma’ nhw’n dod i mewn dwi’n gneud yn siŵr mod i wedi cael deuddeg awr o gwsg!”

facebook.com/Recordiau-Jigcal-Records

symudiad rhydd, mi fydd hi’n llawer anoddach i gerddorion deithio a gweithio ar y cyfandir, ac fe fydd tirlun diwylliannol Cymru’n wanach o golli cerddorion fydd ddim yn gallu dod i berfformio heb waith papur i wneud hynny. Heb sbardun o du hwnt i’r ffiniau, ai dim ond cystadlaethau cerdd dant fydd ’na i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf? Torrodd fy nghalon pan ddywedodd ffrind Cernyweg

Y Slot Nos Wener

wrtha’i ei bod hi am gael tatŵ newydd dros ei thatŵ Celtaidd ar ôl i Gernyw bleidleisio i adael yr UE. Dwi’n ddiolchgar i mi beidio gorfod pendroni felly, mae’r bleidlais yng Nghymru i adael wedi cynnau tân ynof i i geisio gwella fy mamwlad rywsut. Rhamant pur mae’n siŵr, ond dwi’n sicr fydd maes yr Eisteddfod eleni yn llawn sgyrsiau hynod o bwysig yng nghyd-destun Cymru a’i dyfodol.

Ffrindiau coleg eich rhieni, eich hen athrawes Gymraeg, ryw foi sy’n mynd i’r capel efo’ch nain... lle ydach chi? Ddim rhy bell o Lwyfan y Maes ar nos Wener yr Eisteddfod. Ond pa mor hir all hyn bara? Ydi o’n gynaliadwy? Griff sy’n gofyn y cwestiwn. Mae nos Wener ar faes yr Eisteddfod bellach wedi troi’n barti mawr nostajig. Mae’r ofyr 50s yn gadael eu gwalltiau i hongian, yn llithro’i ‘sgidiau dawnsio ‘mlaen ac yn teithio nôl i ddegawd arall, i gyfeiliant sŵn eu hieuenctid. Wrth i griw ’chydig yn iau gael blas o “oes aur y sin” a gwrando ar rai o glasuron yr iaith Gymraeg yn fyw, am y tro cyntaf. Eleni Huw Chiswell fydd yn gyrru’r bws nostaljia, gydag Edward H, Bryn Fôn a Geraint Jarman wedi cael y llwyfan yn y blynyddoedd diweddar. Ond pwy sydd ar ôl? Lle ydan ni’n mynd o fan hyn? Dyma ambell opsiwn. Mi fydda Big Leaves yn ddewis poblogaidd iawn. Ches i ddim cyfle i’w gweld nhw’n fyw pan oeddwn i’n ifanc fy hun, ac mae eu ffans gwreiddiol nhw bellach yn eu 30au a’u 40au. Digon nostaljig, ond yn fand a’u sŵn dal yn hynod berthnasol. I aros yn yr un ddegawd, mae Topper wedi ail ffurfio ar gyfer Gŵyl Rhif 6 eleni, ac ydi Ffa Coffi Pawb yn opsiwn? Go brin. Mae ’na rai o’r old guards eto i chwarae’r slot yma wrth gwrs. Mi fydda Maffia Mr Huws neu Heather Jones yn ddewis poblogaidd. Tecwyn Ifan neu Meic Stevens gyda band llawn? Neu falle’r Trwynau Coch. Os am ddewis chydig yn fwy left field, beth am Rhiannon Tomos? Neu Tynal Tywyll? Poblogaidd iawn yn eu dydd, ond falle heb y back-catalogue cryf sydd ei angen ar gyfer slot o’r fath. I ddod a phethe yn agosach eto ato’ ni, mi oedd Genod Droog, Anweledig a Mattoidz yn denu cynulleidfa fawr yn eu dydd. Efallai fod hi’n rhy gynnar i ystyried y rhain, ond rhowch 5-10 mlynedd fach iddi, fydd ffans y bandiau yma yn rhieni dosbarth canol Cymraeg yn pwshio’r pram o amgylch y maes. Dwi’n saff o fod wedi gadael ambell fand arall allan, ond y neges gyffredinol yma ydi fod modd i’r “parti smalio bod yn ifanc eto” barhau am rai blynyddoedd eto!

y-selar.co.uk

17


Alff

a

ed ... Ti

... Ti d e

di Clyw PWY? Deuawd un ar bymtheg oed o Lanrug ger Caernarfon yw Alffa, Dion Jones (canu a gitâr) a Sion Eifion Land (dryms). Mae’r ddau wedi bod yn chwarae eu hofferynnau ers dipyn ond dim ond yn ddiweddar maent wedi dechrau arni o ddifrif fel band. “Roedd y ddau ohonom ni wedi bod yn jamio efo’n gilydd ers sbelan ond heb wneud dim byd cadarn,” eglura Dion. “Roedd yna Frwydr y Bandiau yn lleol felly nesh i benderfynu canu. Ac ers hynny ’da ni wedi bod yn fand. Digwyddodd hyn adeg y Nadolig flwyddyn dwytha.”

di Clyw

Swn? Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan power duo mae elfen gref o roc blŵs yn perthyn i gerddoriaeth Alffa. “’Da ni’n disgrfio ein sŵn fel blŵs trwm,” ymhelaetha Dion. “Gellir ei labelu fel roc neu pync blŵs hefyd ond blŵs trwm ydi o i ni. Mae’n sŵn reit fudur ac amrwd.”

^

Dylanwadau? Yn naturiol, mae gan dau hanner y ddeuawd ddiddordebau cerddorol gwahanol. Mae’r dylanwad roc yn amlwg ar Sion wrth iddo enwi John Boham (Led Zeppelin) a Taylor Hawkings (Foo Fighters) fel dau o’i hoff ddrymwyr. Mae Dion ar y llaw arall yn ffond iawn o’i blŵs ac yn rhestru pobl fel Seasick Steve, The Black Keys a The White Stripes fel rhai o’i hoff artistiaid. Yn nes at adref, mae Dion hefyd yn hoffi Tymbal, Ysgol Sul ac Yr Eira. Hyd yn hyn? Yn ogystal â bod yn y gystadleuaeth Brwydr y Bandiau mae Alffa wedi gwneud sesiwn i orsaf radio MônFM. Maent

Gwrandewch os yn ffan o Tymbal, The Black Keyes, The White Stripes ac Alabama Shakes

hefyd wedi bod yn chwarae’n fyw yn gyson dros y misoedd diwethaf, fel yr eglura Dion. “’Da ni wedi chwarae yn All Deiar CPD Gaerwan gyda Bryn Fôn, ar Lwyfan Perfformio Eisteddfod yr Urdd ac yn Neuadd Ogwen gyda Chwalfa a Band Pres Llareggub. Un o’n gigs mwyaf diweddar ni oedd Snowdon Rocks, lle cawson y cyfle i chwarae awr cyn Mike Peters, braint fawr i ni fel band.” Mae’r hogia’ wedi cadw’n brysur ers hynny yn chwarae yng Ngŵyl Arall, Caernarfon a Hwyl y Bont, Bontnewydd.

Ar y Gweill? Mae’n amlwg fod Alffa yn gweithio’n galed ac yn mwynhau gigio. Does dim syndod felly mai parhau i wneud hynny yw cynlluniau’r ddau yn y tymor byr. “Mae ganddom ni gigs yn dod a ’da ni am drio gigio mor aml â sy’n bosib.” Y cam nesaf wedi hynny fydd hitio’r stiwdio gyda’r gobaith o ryddhau EP erbyn y Nadolig. Uchelgais? Parhau i gigio yw cynllun tymor hir Sion a Dion hefyd ac mae ambell ŵyl benodol ar y rhestr. “Uchelgais y band yw cael llwyth o gigs am flynyddoedd i ddod a chwarae ym Maes B, Tafwyl a Festival no 6,” eglura Dion. “’Da ni wedi bod yn mynd i Wobrau’r Selar am y ddwy flynedd ddiwethaf hefyd a ’sa ni wrth ein bodd yn chwarae yno! Hefyd rhyddhau digon o ganeuon a thrio cael gymaint o bobl â sy’n bosib i wrando ar ein cerddoriaeth.

Barn Y Selar Braf gweld band ifanc yn gweithio’n galed i fireinio eu crefft. Mae Alffa yn chwarae’n fyw yn gyson ac yn awyddus i gigio mwy ac all hynny ond bod yn beth da. Pan ddaw’r amser i recordio a rhyddhau, yr her fydd trosglwyddo egni ac agwedd perfformiadau byw’r pwer-ddeuawd o’r llwyfan i’r stiwdio. Efallai y bydd angen mwy haenau o dro i dro, os y gellir gwneud hynny heb aberthu’r naws. Beth bynnag fydd diwedd y frawddeg, mae Alffa yn addawol.


Aros yn Agos Mynd yn Bell

Ymunwch â ni yn 2016 Caerfyrddin · Llambed · Abertawe · Caerdydd

0300 323 1828 www.ydds.ac.uk/clirio

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant UWTSD @AstudioYDDS


adolygiadau I Ka Ching – 5 Aml-gyfrannog Fel label, mae I Ka Ching wedi bod yn gartref i nifer o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin gerddorol Gymraeg. Eleni, maent yn bump oed, ac yn dangos eu camp ar ffurf albwm aml-gyfrannog ag arno 16 o draciau. Bydd caneuon indie-roc megis ‘Pan Na Fyddai’n Llon’ Yr Eira a ‘Breuddwyd Brau’ Sŵnami yn boblogaidd ar Radio Cymru yn syth, gydag Yr Ods yna’n cynnig cân heintus, ond arafach na’r arfer, gyda ‘Tonfedd Arall’. Siom braidd yw ‘Canfed Rhan’ acwstig Candelas, sy’n wahanol iawn i’w hanthemau poblogaidd arferol. Un peth sy’n fy nharo’n syth yw’r diffyg lleisiau benywaidd. Mae traciau Clwb Cariadon a Siddi felly’n sefyll allan fymryn yn lletchwith yng nghanol y casgliad, er eu bod yn ganeuon da. Nid wyf chwaith yn ffan mawr o mics Bodegon o ‘Y Cudd’ gan Texas Radio Band, ond mae fersiwn iasol R. Seiliog o ‘Lemonêd Cymylog’ Sen Segur yn anhygoel. Gyda chynifer o draciau a phrinder lle yn y fan hon, mae’n anodd trafod y cyfanwaith. Poenaf fod traciau cynnil, crefftus ‘Gofyn Cwestiwn’ Palenco a ‘Winter’ gan Violas, yn rhai all gael eu hanghofio ymhlith artistiaid mwy adnabyddus. Un trac sy’n serennu yw bloedd herfeiddiol aelodau diweddaraf teulu I Ka Ching, Cpt Smith â ‘Llenyddiaeth’. Ydy, mae’n glamp o albwm ag arno wledd o ganeuon, ac yn ddathliad teilwng o’r hyn mae I Ka Ching wedi ei wneud dros y pum mlynedd ddiwethaf. Miriam Elin Jones Bendith Bendith ydy’r prosiect newydd sy’n cyfuno Carwyn Colorama a Plu. Mae’r albwm yr union hyn fyddech chi’n disgwyl o wybod hynny – cerddoriaeth hynod

safonol a swynol gydag asio lleisiol hyfryd. Mae ‘na deimlad braf a hudolus i’r casgliad i gyd – pob cân yn teimlo’n gyfarwydd rhywsut. Fe rannir y casgliad o ddeg trac gan dair cân offerynnol – ‘Dinas’ yn agor, ‘Ffynonlefrith’ yn egwyl yn y canol a ‘Bendith’ yn un fach dwt a swynol i gloi. Ac mae rhain yn gosod teimlad yr albwm, a’r teimlad hwnnw’n un nostaljic o hafau hirfelyn tesog. ‘Danybanc’ ydy’r gân radio gyfeillgar sydd wedi ei chodi gan Radio Cymru, a honno ydy’r adlais amlycaf o waith blaenorol Carwyn, ond mae ‘na berlau eraill fel ‘Lliwiau’ a ‘Dan Glo’ sydd bron fel cân o sioe gerdd gyda’r piano a’r llinynnau’n serennu. Mae gwrando ar yr albwm fel hel atgofion breuddwydiol am hafau a fu, wrth dwrio trwy hen luniau polaroid sydd wedi dechrau pylu’n naturiol, nid trwy ffilter instagram. Owain Schiavone Datod Chroma Cyfyr Chroma o ‘Can’t Feel My Face’ gan The Weekend ydi’r peth gora dwi wedi’i glywed eleni. Os nad ydach chi wedi clywed y triawd yma o ardal Pontypridd eto, paratowch. Maen nhw’n dod atoch chi ar gan milltir yr awr i roi slap wlyb llawn agwedd ar eich gwep. Peidiwch â chael eich twyllo gan ddechrau araf eithaf swynol ‘Datod’. Mae’r dryms cadarn a’r bas pwerus yn adeiladu’n araf i roi’r llwyfan perffaith i lais Katie’r prif leisydd ffrwydro tua hanner ffordd trwy’r gân. Mae o’n berfformiad lleisiol gwirioneddol dda. Os fysa chi ddim yn gwybod yn well mi fysach chi’n taeru mai Kizzy Krawford sy’n canu’r hanner cyntaf tawel cyn i Taliesyn Estrons gymryd yr awenau yn yr ail hanner! Dwi’n awgrymu troi hon i fyny tan mae’r ystafell yn crynu, a’r newyddion da, mae EP ar y ffordd yn fuan. Gwilym Dwyfor

Tawel Yw’r Tymor Geraint Jarman 40 mlynedd ers rhyddhau ei record gyntaf a 51 mlynedd ar ôl i Dylan fynd yn electric mae Jarman wedi mynd yn unplugged. Mae’r canlyniad yn llawer gwell na mae hynny’n swnio. Mae rhywbeth anorfod a chynnes am y record ac mae cydweithio’n agos gyda Gareth Bonello (The Gentle Good) wedi dylanwadu’n amlwg ar y caneuon gwerin a gwlad eu naws.   Mae’r trac agoriadol ‘Fi yw’r Ffwl’ yn ddechrau dewr gyda dim byd ond gitâr a Geraint Jarman, sydd ddim yn enwog am ei lais swynol, yn ei gynnal. Ond mae’r melodi, y gitâr a’r gytgan dorcalonnus yn gweithio gyda’r llais unigryw Syml ond effeithiol yw gweddill yr albwm hefyd gyda dim ond ‘Cheb a Salif’ yn atgof o’r Jarman a fu. Mae’r gweddill yn gignoeth a gonest ac mae rhai caneuon arbennig yma - ‘Ddoe Roeddwn i’n Gofyn’ a ‘Solzhenitsyn’ yn ffefrynnau personol.   Oes, mae rhai caneuon sydd ddim yn gweithio gystal; oes, mae rhai o’r geiriau yn jiberish llwyr; ac er bod rhywun yn disgwyl i ‘Helo Hiraeth’ fynd i mewn i ABBA yn y gytgan, mae’r gambl wedi gweithio. Mae mynd yn stripped down yn llwyddo i roi mwy o sylw i’r geiriau a’r melodiau ac mae’r sŵn amrwd fel gwrando arno’n canu yn ei dŷ ei hun. ’Na i ddim galw Jarman yn fradwr y tro hwn. Ciron Gruffydd Gwely Plu Elin Fflur Dyma sengl sy’n dynodi pennod newydd yng ngyrfa hynod lwyddiannus Elin Fflur. Mae’r gân sydd wedi ei chyd-gyfansoddi hefo Mei Gwynedd (sydd eto i ysgrifennu cân dydw i ddim yn licio) mewn steil fymryn yn wahanol i be’ ’da ni wedi arfer ei glywed ganddi, ac mae’r arddull cymysg o jazz/country/soul yma’n siwtio!


Mae’r gân yn gynnil, aeddfed, yn taro nodau Norah Jones-aidd a dal yn rhoi cyfle i ni glywed pŵer ei llais hi. Dwi’n falch o weld y cyfnod newydd ’ma ganddi hi a’r band yn cychwyn, ac yn edrych ymlaen at ei chlywed yn ‘Steddfod, a dwi’n hynod obeithiol y daw ’na albwm atom ni erbyn flwyddyn nesa’! Elain Llwyd Y Ddawns Ani Glass Mi gyrhaeddodd sengl newydd ANi GLASS, ‘Y Ddawns’, fy nghyfrif e-bost ar yr union adeg gywir. Roedd penawdau’r newyddion, ers bron i fis, yn un pennawd anobeithiol ar ôl un trychinebus arall ac roedd angen codi fy nghalon. “Cer i ddianc i’r ddawns” cana Ani, ac yn wir, roeddwn i’n fwy na pharod i wneud. Wrth wrando cewch eich tywys i fyd y dychymyg, i hafan o gerddoriaeth a churiadau. Profiad na chefais gyda chân Gymraeg ers talwm iawn. Does dim byd fel hyn yn Gymraeg ar hyn o bryd. Anaml iawn glywch chi gerddoriaeth bop electronig Cymraeg. Dylai Ani ymfalchïo yn ei hymdrech i dorri tir newydd. Bydd yn siŵr o agor drysau i gerddorion ifanc eraill, a mynd a cherddoriaeth bop o Gymru i weddill y byd. Mae’n chwa o awyr iach, hwyliog a hapus. O bosibl, ‘etheraidd’ yw’r gair sy’n cael ei ddefnyddio amlaf i ddisgrifio cerddoriaeth Ani; mae ‘Y Ddawns’ yn sicr yn haeddu’r disgrifiad. Gallwch ychwanegu gwreiddiol, mentrus a gwych at hynny hefyd. Nawr esgusodwch fi, dw i’n mynd “i ddianc i’r ddawns dan don o hapusrwydd”. Lois Gwenllian Diwedd Gwanwyn Tragwyddol Max Rockatansky Hyll Ychydig dros ddau funud yw’r trac yma (sydd â theitl rhy hir i’w ailadrodd) ond mae’n ddigon i greu argraff. Mae offrwm cyntaf Hyll, y band tri darn o

yn serennu cyn i’r band ei hun Kurn gymryd yr awenau ac ateb y llais. Band Pres Drwy’r albwm mae rapio, sampls Llareggub o leisiau’n llefaru ac effeithiau ar Yn dilyn ganeuon eraill a’r cyfan yn dod i Mwng roedd ben yn ‘Gweld y Byd Mewn Lliw’. disgwyliadau Yn honno, rhwng y gymysgedd o mawr o Fand Pres Llareggub, ddrwm a bas, rapio Mr Phormula a fydd yr albwm yma ddim a llais swynol Alys Williams yn siomi. Mae’n agor yn bron na fyddai rhywun yn gryf, yn mynnu sylw meddwl bod lle i’r band o’r dechrau un ac yn RHA GWR ID ei hun – ond maen nhw llawn agwedd. Mae’n AND O yno. cadw i ddal sylw hefyd Drwy’r albwm mae drwy fynd â ni i genres elfennau clasurol, ambell gân gwahanol ac amrywio’r yn agor gyda trills neu dechnegau tempo weithiau o fewn un gân. cerddorol na fyddai mas o le Ar ‘Mawr Mawr’ mae cerddoriaeth mewn cyngerdd band pres, cyn i’r samba-aidd y gallwch chi’n drwm a’r bît ffynci ddod mewn yn rhwydd ddychmygu pobl yn hollol naturiol. Fydd bandiau pres rhuthro i ddawnsio iddi mewn byth yn swnio’r un peth. gig. Yn ‘Cant a Mil’, er bod y band Bethan Williams yn gefndir drwyddi mae’r llais

Gaerdydd, yn ymdrech lew. Dim malu cachu, mae’r trac yma’n mynd yn syth mewn i riff cofiadwy ar y gitâr sy’n parhau trwy’r trac ac yn cynnal y gân. Wrth wrando, roedd ‘Diwedd Gwanwyn...’ yn fy atgoffa i o rywun ond do’n i’n methu meddwl pwy. Yn y diwedd, mi wnes i ddod i’r casgliad mai rhyw gyfuniad o Texas Radio Band a Gorky’s Zygotic Mynci oedd hi, riff chwareus fel TRB a middle 8 hollol swreal fel Gorky’s. Dwi’n gwybod, dwi’n gwybod, am beth ysgubol i’w ddweud, ond nid dweud mai Hyll fydd y next big thing ydw i, dim ond dweud eu bod nhw werth sbin. Mi fetia i na wnewch chi aros yn llonydd. Gwilym Dwyfor Am Be Wyt Ti’n Aros? Rifleros Roedd adolygu ‘Yr Ochr Arall’ gan y Rifleros ar gyfer

rhifyn diwethaf Y Selar yn damaid bach blasus i aros pryd cyn clywed albwm cyntaf y grŵp newydd yma. Roedd y sengl yn arwydd o’r hyn i ddod, sef roc melodig safonol iawn gyda digon o riffs a chytganau cofiadwy. Wrth wrando ar yr albwm mae caneuon fel ‘Mellt Mehefin’ a ‘Sownd yn y Canol’ yn fy atgoffa i dipyn o sŵn Candelas – digon o distortion ar y gitars a drymio cadarn yn gyrru’r traciau. Efallai bod angen grŵp roc go iawn arall i gystadlu gyda Candelas erbyn hyn, ac o gofio sioeau byw ei fand blaenorol, Hud, mae gan Rhydian Lewis ddigon o bresenoldeb i fod yn ffryntman effeithiol. Nid dim ond caneuon roc sydd yma cofiwch, mae ‘Silfra’ yn cynnig egwyl fach felodig yng nghanol y casgliad, ac yna sŵn mwy ffynci i ‘Yr Ochr Arall’ i gloi. Mae’r cynhwysion i gyd yma, nawr mae angen perfformiadau byw trawiadol i ddal sylw’r gynulleidfa. Owain Schiavone


r a d y g o i ’ g i G Selar Dyddiad: 10/07/2016 Lleoliad: Neuadd y Farchnad, Caernarfon Lein-yp: Y Bandana / Brython Shag / Cledrau / Y Galw / Rhys Gwynfor / Siôn Owens / Glain Rhys

Enw: Deian Jones Oed: 18 O le: Bala Hoff fand? Candelas, Yr Ods Band newydd gorau? Cpt Smith Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaernarfon/gogledd Cymru? Clwb Canol Dre Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Awen Meirion ac ar y wê Albwm/EP diwethaf iti brynu? IV (Cowbois) Gigs cofiadwy diweddar? Tafwyl Enw: Siwan Fflur Jones Oed: 18 O le: Bala Hoff fand? Cowbois Rhos Botwnnog Band newydd gorau? Glain Rhys a’r Band Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaernarfon/gogledd Cymru? Neuadd Buddug a Chlwb Canol Dre Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Mewn gigs ac Awen Meirion Albwm/EP diwethaf iti brynu? Huno (Ysgol Sul) Gigs cofiadwy diweddar? Houdini Dax, Candelas a’r Cledrau yn Neuadd Buddug Enw: Cadi Dafydd Oed: 18 O le: Llan Ffestiniog Hoff fand? Cowbois Rhos Botwnnog Band newydd gorau? Jambyls Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaernarfon/gogledd Cymru? Clwb Canol Dre a Pengwern Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Siop Lyfrau’r Hen Bost ac Awen Meirion Albwm/EP diwethaf iti brynu? IV (Cowbois) Gigs cofiadwy diweddar? P’nawn yn y Farchnad

22

y-selar.co.uk

Ro e d d Gŵ yl Ara b e nw ll elen ythno i yn s llaw amry n gig wiol. s da a Ro e d Fe i r i o d n aw c ny d d s e it h yn pe a f Si r Y Farc r t hy n hnad i P’na Bryth ar y d wn Yn on Sh yd d S ag, C ul g yd a Gla ledra in Rh a u, Rh ys yn ys Gw well f rh a n y elly, p n fo r o’r lei an na n-yp. c hw a d oed Pwy re g yd d yn br a Cled ysur y r au , i darlle n sgwrs nw y r io â’n n a If a n Pry s?

Enw: Ela Pari Huws Oed: 19 O le: Caerdydd Hoff fand? Yr Ods Band newydd gorau? Hwligang Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaernarfon/gogledd Cymru? Clwb Canol Dre a Neuadd y Farchnad Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Caban, Caerdydd Albwm/EP diwethaf iti brynu? IV (Cowbois) Gigs cofiadwy diweddar? Clwb Ifor ar ôl Tafwyl ac Yws Gwynedd a Sŵnami yn Neuadd y Farchnad Enw: Elis Derbyshire Oed: 19 O le: Y Felinheli Hoff fand? Yr Ods Band newydd gorau? Ffracas Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaernarfon/gogledd Cymru? Neuadd y Farchnad a Chlwb Canol Dre Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Y wê a Cob Records Albwm/EP diwethaf iti brynu? KURN (Band Pres Llareggub) Gigs cofiadwy diweddar? Y Bandana yn Neuadd Y Farchnad Enw: Ianto Gruffydd Oed: 20 O le: Ynys Môn/Caerdydd Hoff fand? Ysgol Sul Band newydd gorau? Anelog Lle ti’n mynd i gigs yng Nghaernarfon/gogledd Cymru? Neuadd y Farchnad Lle ti’n prynu cerddoriaeth? Kelly’s, Caerdydd Albwm/EP diwethaf iti brynu? Huno (Ysgol Sul) Gigs cofiadwy diweddar? Twrw Trwy’r Dydd, Clwb Ifor Bach


C D C Y N TA F

-

G W I LY M B OW EN RH Y S ‘ O G r o t h y D d a ea r ’ -

ALLAN NAW R

gwilym.rhys

7.30 CLWB PÊL DROED Y FENNI DRYSAU Nos Sadwrn 30/7/16 £12 Cowbois Rhos Botwnnog Kizzy Crawford • Rogue Jones Hyll • DJ Carl Morris

Nos Fercher 3/8/16 Dangosiad o’r ffilm “Penyberth” gyda thrafodaeth i ddilyn

Nos Sul 31/7/16 £10

Nos Iau 4/8/16 £12

Noson Werin

Noson “On’d oedden nhw’n ddydd IAU da?”

Gwibdaith Hen Frân Gareth Bonello • Raffdam Jamie Bevan

Eden • Skep • Jambyls Yr Elvis Cymraeg • Carioci Cymraeg DJ Carl Morris

Nos Lun 1/8/16 £8 Alun Gaffey • Cpt Smith HMS Morris • Efa Supertramp DJ Sgilti

Nos Wener 5/8/16 £8

Nos Fawrth 2/8/16 £4 Bragdy’r Beirdd : “Sieffre, Sieffre!” NOSON O GERDDI A CHANEUON YN DATHLU PETHAU COFIADWY A GORAU SIR FYNWY www.bragdyrbeirdd.com

@bragdyrbeirdd

Noson Electroneg

Roughion • Ani Glass • JJ Sneed DJ Wuwzer gyda Rufus Mufasa DJ’s Gwenno a Pat Nos Sadwrn 6/8/16 £10 Bob Delyn • Candelas Brython Shag • DJ Carl Morris

TOCYNNAU AR GAEL YMLAEN LLAW O CYMDEITHAS.CYMRU/STEDDFOD NEU AR Y DIWRNOD O STONDIN CYMDEITHAS YR IAITH AR Y MAES NEU AR Y DRWS hysbyseb gigs cyig - selar - steddfod16.indd 1

12/07/16 17:49


Profile for Y Selar

Y Selar - Awst 2016  

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg.

Y Selar - Awst 2016  

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg.

Profile for y_selar
Advertisement