Page 1

Rhif 51 // RHAGFYR // 2017

Y CLEDRAU

Y SELAR

1


Chwilio am stiwdio i recordio eich prosiect nesaf? stiwdio recordio yn mesur 12m x 9m gyda rhannau acwstig byw a marw yn cynnwys bwth wedi’i ynysu o weddill y gofod ystafell reoli mawr – desg 56 sianel, system Pyramix – modd plygio i Pro Tools modd llogi’r stiwdio gyda pheiriannydd neu heb (dry hire – rhaid cytuno i amodau o flaen llaw) offerynnau – hammond, yamaha grand piano, fender USA strat gitâr a yamaha gitâr fas telerau gofod ymarfer – £15 yr awr telerau dry hire – £175 y diwrnod + taw

CysylltwCh â sion neu siwan

– sion@sainwales.com – siwan@sainwales.com –

01286 831.111

CHWILIO AM ANRHEG NADOLIG? £8.99 £5.99 £5.99

£8.99

£7.99

£7.99 £7.99

www.ylolfa.com


y Selar

cynnwys

Rhif 51 // RHAGFYR // 2017

Y Cledrau

4

Golygyddol

Gwobrau’r Selar

8

Y Niwl

10

Wel wir, dyma’r Nadolig ar ein gwarthau unwaith eto. Mae gwyliau’r haf yn teimlo fel dim ond ddoe, ond dyma gyfnod prysur arall wedi cyrraedd yn barod. Dwi’n gwneud fy nheimladau am ganeuon Nadoligaidd yn berffaith glir yn adolygiadau’r rhifyn hwn ond mae’n rhaid i mi gyfaddef fod cyfnod yr ŵyl yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn o ran cerddoriaeth fyw. Gyda gigs cyffrous ar y gweill yn Aberteifi, Bangor, Bethesda, Caerdydd, Caernarfon, Hermon, Llanberis, Llanrwst a Llithfaen ym mis Rhagfyr, fydd dim rhaid i neb deithio’n rhy bell i fwynhau ychydig o gerddoriaeth Gymraeg yn eu siwmperi bach snyg. Dyma gyfle gwych i bobl sydd yn byw i ffwrdd yn ystod y flwyddyn ac yn mynychu’r gwyliau mawr dros yr haf, gefnogi eu hyrwyddwyr a’u lleoliadau gigs lleol wrth gymdeithasu â hen ffrindiau. Fydd dim rhaid aros yn rhy hir tan Wobrau’r Selar wedi hynny ac fe fydd y cwbl yn dechrau eto!

Oshh!

12

Gigio gyda’r Selar

16

Ti ‘di clywed?

17

Darllen y Label

18 20

Adolygiadau

Llun clawr: Kristina Banholzer

GWILYM DWYFOR

4

10

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

yselar.cymru

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Ciron Gruffydd, Ifan Prys, Owain Gruffydd, Lois Gwenllian, Bethan Williams, Rhys Dafis, Griff Lynch, Megan Tomos, Gethin Griffiths

17

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’


D

dwy flynedd ers rhyddhau’r EP Un Ar Ôl y Llall, mae’r pedwarawd ifanc o ardal Y Bala yn paratoi i ryddhau eu halbwm cyntaf, Peiriant Ateb. Cefais i sgwrs gyda hanner Y Cledrau, Joseff ac Ifan, tra roedden nhw’n mwynhau peint a phlatiad o fwyd yn Y Glôb ym Mangor. Bydd Peiriant Ateb yn cael ei ryddhau ar 1 Rhagfyr ac mae’n debyg y bydd yn dangos aeddfedrwydd na welwyd ar yr EP. Bydd y casgliad yn y siopau’n gyfleus erbyn y Nadolig ond mae’r broses o greu’r albwm yn un sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers dros chwe mis. “Mi ’naethom ni ddechrau’r gwaith arno fo tua mis Ebrill, a deud bod ni wedi gorffen tua mis Gorffennaf,” amcangyfra Joseff, cyn i Ifan ymhelaethu. “Ie, roedd y recordio wedi gorffen ym mis Gorffennaf, ond erbyn yr ôl-gynhyrchiad roedd hi’n tua diwedd Medi arnom ni’n gorffen.

4

Felly mae o ’di cymryd ryw chwe mis i gyd efo’i gilydd.” “O ystyried fod pawb ym mhob man braidd, dydy recordio’r albwm ddim wedi bod yn rhy ddrwg,” meddai Joseff. “Mi ’naethom ni o mewn bloc o dri thrac ar y tro; recordio tair cân, ac wedyn gap, tair cân, ac wedyn gap a’r un peth eto. Mater o drefnu wythnos benodol oedd hi i ni fynd i’r stiwdio, er mwyn cael pawb yna.” Mae’r grŵp ar wasgar ledled Cymru i bob pwrpas, felly roedd recordio

mewn blociau’n syniad synhwyrol. Mae Alun ac Ifan yn astudio yng Nghaerdydd, mae Joseff yn gweithio yn y gogledd ac mae Marged yn gweithio yn y Bala ac Aberystwyth. Cynhyrchwyd yr albwm yn Stiwdio Drwm yn Llanllyfni gydag Ifan Jones ac Osian Huw o’r band poblogaidd Candelas. Gyda chynifer o fandiau’n cynhyrchu eu deunydd eu hunain erbyn hyn, roeddwn i’n awyddus i wybod sut aethon nhw ati i recordio. Oedden nhw’n ymyrryd yng

“MAE GENNYCH, UN, ALBWM NEWYDD” Y SELAR


ngweledigaeth y cynhyrchwyr? Mae’r hogiau’n dweud wrthyf mai gan Ifan ac Osian y mae’r credyd cynhyrchwyr a pheirianwyr ar yr albwm, ond eu bod nhw’n ffrindiau da ac felly roedd cynhyrchu’r albwm yn broses o gydweithio yn hytrach na gwahaniaethu rhwng rôl y band a rôl y cynhyrchydd. “Obviously, achos bod ni’n ’nabod nhw mor dda ’da ni’n cael lot o input i be’ ’da ni actually isio ’lly,” meddai Joseff. “So ti basically yn y stiwdio efo dy ffrindia’.” Ac mae Ifan yn cytuno; “Ia, mae cyd-weithio’n hawdd wedyn ac mae creu’r albwm terfynol yn mynd yn un broses fawr gyffrous.” O gael gwrandawiad ecsglwsif

ar yr albwm ar gyfer Y Selar, mentraf ddweud fod dylanwad y cynhyrchwyr i’w glywed drwyddi draw gydag adlais tyner o Candelas ar sawl trac. (Gallai hynny fod yn rhywbeth i’w wneud â’r acen nodweddiadol hefyd). Gyda riffs cofiadwy, geiriau bachog ac alawon radio-gyfeillgar y mae’r albwm yn berffaith ar gyfer cymudo i’r gwaith ar fore diflas. Bydd caneuon fel ‘Cam wrth Ddiflas Gam’, ‘Peiriant Ateb’, ‘Swigen

o Genfigen’ a ‘Cliria Dy Bethau’ yn atsain yn dy benglog drwy’r dydd, ac yn cythruddo pwy bynnag sy’n eistedd wrth y ddesg drws nesaf am dy fod yn hymian yr un llinell drosodd a throsodd! Maen nhw eu hunain yn datgan fod yr albwm yn eitha’ popi ei naws. “Yn sicr ’da ni wedi datblygu,” barna Joseff. “Mae o’n sŵn mwy llawn na’r EP. Ond mae ’na snippets ohono fo’n mynd yn ôl at yr hen stwff cynharach ’fyd, ac mae ’na rhai mwy poppy fyswn i’n deud.” Ond nid oedd y cyfeiriad fymryn yn wahanol hwn yn rhywbeth bwriadol o angenrheidrwydd, fel yr eglura Ifan:

Lluniau: Kristina Banholzer

DOES NEB YN DEFNYDDIO PEIRIANT ATEB BELLACH, OND ETO, DYNA FYDD MEWN SAWL HOSAN LEDLED CYMRU’R NADOLIG HWN. PAM? WEL, ACHOS MAI DYNA ENW ALBWM NEWYDD Y CLEDRAU! AR ÔL GADAEL AMBELL NEGES, LOIS GWENLLIAN A LWYDDODD I SIARAD Â RHAI O’R BAND I’W HOLI AM Y RECORD HIR NEWYDD AR RAN Y SELAR. Y SELAR

5


“’Dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi cychwyn allan yn trio gwneud record gallach, nath o jyst datblygu mewn i be’ ydy o rŵan ’lly. Dwi’n meddwl fod o rywle rhwng record roc a record bop, ond jyst digwydd yn naturiol wnaeth hynny.” “Fel cyfanwaith, fyswn i’n dweud ei fod o’n gweithio’n grêt de,” ychwanega Joseff. Er bod datblygiad yn sŵn y band ar Peiriant Ateb y mae’n ddiddorol clywed Ifan yn egluro bod llawer o’u prif ddylanwadau yn rhai sydd wedi bod yno ers y dechrau. “Mae ’na lot o ddylanwadau arnom ni, yr un rhai ag oedd ’na flynyddoedd yn ôl yn ei hanfod ’lly. Bandiau gitâr ’da ni wedi gwrando arnyn nhw’n tyfu i fyny; Arctic Monkeys, Kings of Leon. Mae’r rheina’n ddylanwadau amlwg dwi’n meddwl.” Ychwanega Joseff y “classics 6

Y SELAR

Cymraeg”; Big Leaves, Ffa Coffi a Super Furries i’r rhestr ac mi faswn i’n ychwanegu bandiau Britpop y 90au at hynny hefyd. Clywir hynny yn enwedig ar yr unig gân Saesneg ar y casgliad, ‘An English Song (Get Me on the Radio)’. Yn y geiriau, “Get me on the radio, I’ve got a bed-bound revolution I want to share”, mae nod o gydnabyddiaeth i glasur Oasis ‘Don’t Look Back in Anger’ ac mae’r llinell fas amlwg a’r alaw isel yn dwyn i gof rai o ganeuon arafach Blur, fel ‘Coffee and TV’. Bwrlwm Buddug Efallai i ffans mwyaf Y Cledrau deimlo eu habsenoldeb nhw yn rhai o gigs mawr yr haf. Dywedodd Ifan fod bod yn y stiwdio yn golygu aberthu cael gwahoddiad i gigs. Holais am gigio’n gyffredinol a buan iawn y daethom i sôn am Neuadd Buddug, lleoliad


“YN SICR ’DA NI WEDI DATBLYGU.”

annwyl i drigolion Y Bala sydd wedi mwynhau nosweithiau cofiadwy yno mewn gigs, cyngherddau a mwy, a’r ansefydlogrwydd diweddar am ei dyfodol. “Mae’n cael ei redeg rŵan gan y gwirfoddolwyr,” disgrifia Ifan yn frwdfrydig. “Ond dydy hynny ddim yn golygu fod y gwaith wedi’i wneud. Mae’n waith parhaol rili. Mae’n brysurach yno rŵan. Ond o be’ dwi’n ei gofio o erstalwm, mae ’na wastad waith da wedi digwydd yno.” Cytuna Joseff. “Mae ’na ryw ddigwyddiad ’mlaen yno bob wythnos ’does. Ac mae’r gigs Cymraeg sy’ ’di bod yna wedi cael turnout da bob tro de. Dwi’n meddwl fod pawb yn cytuno ei fod o’n le da i gael gig o ran awyrgylch a safle ac o ran sain a ballu hefyd.” “Mae hi jyst yn braf cael gigs yn

’Bala dydi,” crynhoa Ifan. A sôn am gigs, beth sydd gan Y Cledrau ar y gweill i gyd-fynd â’r rhyddhau? “Unwaith ti’n dechrau rhyddhau rhywbeth mae’r gigs yn dechrau dod yn haws wedyn,” eglura Ifan, cyn i Joseff barhau. “’Da ni wedi rhyddhau sengl bob mis ers mis Awst ac ers hynny mae’r gigs wedi bod yn dod i mewn. ‘Da ni newydd orffen tri gig diweddar ac mae gynno ni rai ym mis Rhagfyr ac Ionawr i’w cadarnhau. Mi fydd ’na gigs yn dilyn yr albwm, jyst dydyn nhw ddim yn official eto!” A gan droi ei olygon ymhellach i’r flwyddyn newydd mae Ifan yn ein pryfocio gydag ychydig o newyddion annelwig i danio ein chwilfrydedd! “Mae ’na gig mawr in the works yn Bala, ond mi fydd hwnne dipyn i mewn i’r flwyddyn

newydd so cadwch lygaid!” Rhwng hynny a’r albwm newydd, mae digon i gadw ffans Y Cledrau ar flaenau eu traed dros y misoedd i ddod. Dwi’n siŵr fod y flwyddyn nesaf am fod yn un llawn hwyl a llwyddiant i’r band. Dwi’m yn amau na fyddwn ni gyd yn bloeddio canu ‘Swigen o Genfigen’ o’u blaenau ar ryw lwyfan yn rhywle yng Nghymru cyn bo hir.

MWY GAN Y CLEDRAU

SOUNDCLOUD.COM/ Y-CLEDRAU TWITTER.COM/YCLEDRAU FACEBOOK.COM/ YCLEDRAU/

Y SELAR

7


Gwobrau’r Selar YDY, MAE’R AMSER YNA O’R FLWYDDYN WEDI CYRRAEDD UNWAITH ETO – MAE GWOBRAU’R SELAR AR Y GWEILL! 16-17 Chwefror – dyna ddyddiad y penwythnos pwysig i chi nodi yn eich dyddiaduron Lolfa (neu Gŵgyl calendyr) wrth i chi ddechrau cynllunio 2018 dros wyliau’r Nadolig. Rydym yn cynnal digwyddiad byw i nodi Gwobrau’r Selar am y chweched tro, ac unwaith eto Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth fydd cartref un o uchafbwyntiau cerddorol mwyaf y flwyddyn. Fe wyddoch erbyn hyn nad ydan ni’n rai i orffwys ar ein rhwyfau, ac er bod y prif leoliad yr un fath, mae’r cynlluniau ar gyfer y penwythnos yn datblygu ac yn tyfu. Y gig mawr ar y nos Sadwrn gyda llwyth o artistiaid gorau a bywiocaf 2017 fydd yn cael y prif sylw’n ôl yr arfer, ond

bydd nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill yn Aber dros y penwythnos. Bydd hyn yn cynnwys gig ‘Cyfraniad Arbennig’ ar y nos Wener eto, yn ogystal â Ffair Recordiau, sgyrsiau amrywiol a llawer mwy. Dewis yr enillwyr Erbyn i chi ddarllen hwn, bydd y bleidlais gyhoeddus ar agor, a bydd modd i chi fwrw eich pleidlais trwy dudalen Facebook Y Selar cyn y dyddiad cau ar 5 Ionawr. Dros yr wythnosau rhwng hynny a phenwythnos y Gwobrau byddwn yn cyhoeddi y rhestrau byr yn seiliedig ar eich pleidleisiau, cyn cyhoeddi’r enillwyr ar nos Sadwrn 17 Chwefror yn y gig mawreddog yn Aberystwyth.


Llyfr Y Selar “...DARLLENWCH A DATHLWCH, DIOLCHWCH AM Y GÂN.”

G

Dod i’r Gwobrau Erbyn i chi ddarllen hwn hefyd, bydd tocynnau Gwobrau’r Selar ar werth... ac ar sail y blynyddoedd diwethaf yn prysur werthu allan! Felly peidiwch oedi cyn bachu eich tocyn. Rydym wrth ein bodd yn gweld bysus o bob cwr o’r wlad yn teithio i Aberystwyth ar gyfer y Gwobrau, ac yn ôl yr arfer mae cynnig arbennig i unrhyw drefnydd bws. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion – gwobrau-selar@live.co.uk

eiriau neb llai na Huw Stephens yn ei ragair ar gyfer Llyfr Y Selar – y gyfrol newydd a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa, a sydd bellach ar gael i’w phrynu yn y siopau ac ar-lein. A phrin y bydden ni wedi gallu dewis geiriau gwell i grynhoi bwriad y llyfr, sef dathlu’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes iach a fywiog rydym i gyd mor gyfarwydd â hi. Wedi hanner cant o rifynnau o’r cylchgrawn, roedd cyhoeddi llyfr i’w weld yn beth naturiol i’w wneud yn enwedig mewn cyfnod sy’n haeddu ei gofnodi mewn print. Y cylchgrawn yma ydy bara menyn Y Selar wrth gwrs, a’r gobaith yw bod ei rhifynnau rheolaidd yn adlewyrchu cyffro’r sin ryw gymaint o leiaf. Ond mae cylchgrawn yn beth dros dro rhywsut – rhywbeth ‘byw’, i’w ddarllen ar y pryd cyn ei roi i’r neilltu neu yn y bin ailgylchu. Y gobaith gyda Llyfr Y Selar ydy y bydd yn ennill lle teilwng ar eich silffoedd llyfrau, ac yn rywbeth i fwrw golwg nôl arno mewn blynyddoedd i ddod. Felly beth allwch chi ddisgwyl ei weld yn Llyfr Y Selar? Wel yn gryno, cymysgedd o erthyglau hen a newydd, ond y cyfan yn canolbwyntio ar uchafbwyntiau’r sin dros y flwyddyn a fu. Ar y naill law rydym wedi dewis a dethol uchafbwyntiau rhifynnau’r Selar yn ystod 2017 – y cyfweliadau, adolygiadau a cholofnau. Ac ar y llall mae gennym swp o erthyglau newydd yn talu sylw i uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwethaf trwy lygaid cyfranwyr amrywiol, gan gynnwys nifer ohonoch chi, darllenwyr ffyddlon Y Selar.

Gobeithio y byddwch yn cytuno bod y gyfrol yn nodi, ac yn dathlu cyfnod go arbennig yn hanes ein diwydiant cerddoriaeth a’i bod yn ddarllen hanfodol i unrhyw un sydd wedi mwynhau gig, record neu fand Cymraeg yn ddiweddar. Ac os nad ydy hynny’n ddigon i’ch denu chi, mae ‘na lun hyfryd o Yws Gwynedd ar y clawr – gwerthwyd! Gallwch brynu copi o Lyfr Y Selar yn eich siopau llyfrau Cymraeg lleol, neu ar-lein ar wefan Y Lolfa - www.ylolfa.com/

Y SELAR

9


YR ALBWM NEWYDD, 5, ALLAN MIS

LLE A PHRYD FUOCH CHI WRTHI’N

MAE YNA SAITH MLYNEDD ERS

AT RYDDHAU DEUNYDD NEWYDD?

Cafodd y record ei recordio yn Stiwdio Mwnci yn Hebron, Sir Gaerfyrddin.

A SBEL ERS I CHI RYDDHAU

YMA, WYT TI’N EDRYCH YMLAEN

Edrych ’malen yn arw, ma’ llawer o’r caneuon ar yr albwm newydd wedi eu cyfansoddi ers sbel rŵan, felly mae’n braf eu bod yn cael gweld golau dydd o’r diwadd.

RECORDIO?

PWY WNAETH GYNHYRCHU?

Iwan ‘Recall’ Morgan. AR BA LABEL YDYCH CHI’N RHYDDHAU?

Aderyn Papur.

YR ALBWM CYNTAF, Y NIWL, UNRHYW GYNNYRCH; PAM

YR AROS A BETH YDYCH CHI

WEDI BOD YN EI WNEUD YN Y CYFAMSER?

Pawb wedi bod yn gweithio ar brosiectau gwahanol. Hefyd, mi oedd angen egwyl i ail ddarganfod yr hwyl o jamio a chwara’n fyw eto.

Y Sgwrs Sydyn

NIWL Y CWESTIWN PWYSICAF, BETH ALL

SUT MAE’R SŴN WEDI DATBLYGU

RAN Y GERDDORIAETH?

Yn ara’ deg.

Y GWRANDAWYR EI DDISGWYL O

Mae’r gerddoriaeth newydd yn esblygiad o’r gerddoriaeth a oedd ar yr albwm cyntaf. Dim mor surf falle? A ’chydig bach mwy melodic yn fy marn i. Ma’ dal yn offerynnol... ’da ni dal heb ddarganfod canwr eto... SUT MAE SŴN 5 YN CYMHARU Â STWFF BLAENOROL Y NIWL?

Mae’r sŵn dal yn eitha’ triw i’r records blaenorol. Ma’ popeth wedi ei recordio’n fyw mwy neu lai... mae yna un overdub ar yr albwm i gyd o be’ dwi’n ei gofio.

RYDYM I GYD YN GYFARWYDD Â’R HEN DDYWEDIAD AM YR AIL ALBWM ANODD. DYNA PAM EI BOD HI’N BWYSIG CYMRYD AMSER I WNEUD PETHAU’N IAWN. GYDA SAITH MLYNEDD WEDI MYND HEIBIO ERS RHYDDHAU EU HALBWM CYNTAF, MAE Y NIWL YN SICR WEDI CYMRYD PWYLL! DIM SYNDOD FELLY BOD Y SELAR DDIM AM AROS EILIAD YN RHAGOR I GAEL SGWRS SYDYN GYDA SION GLYN O’R BAND AM Y RECORD NEWYDD GWIRIONEDDOL HIR DDISGWYLIEDIG.

YN Y CYFNOD HWNNW?

BETH YW’R BROSES WRTH I CHI RECORDIO? YDI’R CANEUON YN

GYFLAWN CYN MYND I’R STIWDIO

NEU YDYCH CHI’N MYND YNO GYDA SGERBWD YN UNIG A GWEITHIO ARNYNT WRTH RECORDIO?

Mae popeth wedi ei ysgrifennu a’i rehersio yn reit dda cyn mynd i mewn i’r stiwdio, er, ma’ yna un neu ddau o improvs a gafodd eu hysgrifennu yn y stiwdio ar yr albwm yma. Ond fel arfer mae popeth wedi’i ysgrifennu ac wedi’i ymarfer cryn dipyn. PA FATH O GERDDORIAETH

OEDDECH CHI’N GWRANDO ARNO YN YSTOD Y CYFNOD RECORDIO?

Kevin Ayers, Man or Astro-man?, Bob Dylan, Mike Nesmith. OES RHAI O’R DYLANWADAU HYNNY I’W CLYWED YN Y CYNNYRCH TERFYNOL?

Na, ddim rili... OES GEN TI HOFF GÂN O BLITH Y CASGLIAD?

‘Dauddegnaw’. 10

Y SELAR


PA UN FYDD YR “HIT”?

Pob un gobeithio. PA GÂN OEDD Y SIALENS FWYAF

YN Y STIWDIO NEU PA UN WYT TI YN

FWYAF BALCH OHONI? Ma’ popeth wedi ymarfer yn eitha’ trwyadl i osgoi unrhyw benbleth fel hyn. BETH OEDD PROFIAD MWYAF

COFIADWY’R BROSES RECORDIO? UNRHYW HANESION DONIOL NEU

DROEON TRWSTAN? Alun Tan Lan a’i

obsesiwn gyda ffilmiau Jackie Chan. BETH FYDDAI’R GWEITHGAREDD

PERFFAITH I GYDFYND Â GWRANDO AR 5? Hwfro.

BETH YW HANES GWAITH CELF YR ALBWM?

Y gwaith celf wedi ei ddylunio gan Llyr Pierce unwaith eto. Mae’n dilyn yr un themâu â’r cloriau a’r crysau t blaenorol.

RYDYCH CHI WEDI GWNEUD

PA MOR HAWDD YW HI I AIL GREU

CYNLLUNIAU AR GYFER FIDEOS I

Mae yna un ar ganol cael ei wneud i ‘Tridegtri’ ar hyn o bryd...

Ma popeth yn cael ei ysgrifennu gyda’n gilydd a’i recordio’n fyw, felly mae ail greu’r sŵn yn ’wbath eitha’ naturiol a di ffwdan.

FE CHWARAEOCH CHI GWPL O

RYDYCH WEDI GIGIO’N ACHLYSUROL

YM MIS HYDREF OND A OES

ALLWN NI DDISGWYL GWELD MWY

AMBELL FIDEO COFIADWY, OES RAI O’R TRACIAU NEWYDD?

GIGS YNG NGHLWB IFOR A PONTIO UNRHYW GYNLLUNIAU PELLACH O RAN GIGIO/LANSIO’R ALBWM?

DROS Y BLYNYDDOEDD, OND RŴAN? Gobeithio.

BETH SYDD AR Y GWEILL NESAF?

I orffen, rhaid oedd gofyn i Sion am ei hoff albyms yn y categorïau isod. HOFF AIL ALBWM?

Newid bob wythnos. The Fantastic Expedition of Dillard & Clark gan Dillard & Clark heddiw. HOFF ALBWM OFFERYNNOL?

The In Sound from Way Out! gan y Beastie Boys. HOFF ALBWM EFO RHIF YN

Ysgrifennu albwm arall a thyfu locsyn

YR ENW? Third/Sister Lovers gan Big Star

GWERTHA 5 I NI MEWN PUM GAIR!

HOFF ALBWM O 2017?

Ewch i brynu’r record plis.

Achw Met gan Pasta Hull.

Lluniau: Iolo Penri

Ma’ siŵr geith yr albwm ei ryddhau’n iawn ddechrau’r flwyddyn, tua mis Chwefror/dechrau Mawrth gobeithio... Bydd gigs i gydfynd â’r release hefyd.

SŴN YR ALBWM YN FYW?


DEFNYDDIR Y GEIRIAU “HIR DDISGWYLIEDIG” YN AML WRTH GYFLWYNO DEUNYDD NEWYDD OND GO BRIN Y BU ERIOED DDEFNYDD MWY ADDAS O’R YMADRODD HWNNW NAG WRTH DDISGRIFIO ALBWM CYNTAF OSHH. BYDD DILYNWYR Y CERDDOR O FÔN YN GWYBOD BOD Y GACEN HON WEDI BOD YN Y POPTU ERS SBEL FELLY AETH Y SELAR I WELD SUT YR OEDD HI’N BLASU. GEIRIAU: GWILYM DWYFOR

OSHH


Y

HH

ella fod yr albwm wedi ei orffan ers sbel ond ti angan hyrwyddo a gigio ac ati o’r newydd ’does. O’n i’n gweld bod gen i ’chydig o amsar i wneud hynny rŵan.” Nid yw Osian wedi bod yn hollol ddistaw dros y blynyddoedd diweddar. Rhyddhawyd y senglau ‘All Mistakes’, ‘Lleisiau’n Galw’ a ‘Dal i Frwydro’ ganddo, caneuon a gafodd eu recordio yn yr un cyfnod â’r traciau ar yr albwm ond a oedd ddim cweit yn perthyn i’r casgliad. “O ran y tracs ar yr albwm, ma’r cwbl wedi cael ei roi at ei gilydd i weithio fel cyfanwaith. Ella fysa rhai o’r senglau ddim cweit yn ffitio i sŵn yr albwm. Nesh i ddewis y caneuon yma a’u cynhyrchu nhw fel eu bod nhw’n gweithio efo’i gilydd, fel bod yr un math o sŵn yn treiddio trwy’r albwm.” Does dim dwywaith fod y cwbl yn gweithio fel cyfanwaith, sydd yn glod i broses recordio sydd yn dechrau yn

nhŷ Osian cyn gorffen yn y stiwdio. “Fel arfar, fyddai’n recordio’r cwbl adra, fel demos. Wedyn mi fydda i’n llwytho’r cwbl i gyfrifiadur Kev yn Stiwdio Crychddwr a jysd chwara’ o gwmpas efo petha’, ail recordio’r lleisiau ac ychwanegu ’chydig bach o gitâr ti’n gwbod. Ond go iawn roedd asgwrn cefn yr albwm wedi’i wneud cyn mynd i’r stiwdio.” Fel nifer cynyddol o gerddorion y mae Osian yn llwyddo i greu cerddoriaeth o safon uchel yn ei gartref ei hun. “Ti’m angan lot dyddia’ yma ti’n gwbod. Mae’r dyddiau pan oeddat ti angan stiwdios mawr i recordio wedi mynd. Go iawn, yr unig amsar ti’n gorfod mynd i stiwdio ydi i recordio wbath fatha dryms. Ma’n anhygoel be’ ti’n gallu’i neud adra dy hun erbyn ’wan. Synths ydi prif offerynnau’r albwm yma wedyn ti’m angan stiwdio ar gyfer hynna, jysd plygio dy synth i mewn!”

Lluniau: Kristina Banholzer

n hen gyfarwydd i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg fel aelod o Yr Ods ac Yucatan, dechreuodd Osian Howells ryddhau deunydd unigol nôl yn 2014. Dair blynedd ac ambell sengl yn ddiweddarach, a bellach yn rhyddhau o dan yr enw Oshh, wedi hir ymaros, daeth ei albwm cyntaf allan ddechrau mis Hydref ar Recordiau Blinc. Y cwestiwn cyntaf i’r seren o Star (sori) felly oedd sut ymateb sydd wedi bod i Oshh, yr albwm? “Iawn dwi’n meddwl, ma’ ’na amball gân wedi cael eu chwarae ar y radio a ballu ond ’sgen i’m syniad sut ma’n gwerthu ar hyn o bryd, ti’m yn cael y wybodaeth yna am dipyn. Mae o wedi cael dipyn o adolygiadau reit dda felly dwi’n falch o hynny.” Dwi’n cofio Osian yn sôn wrth Y Selar bod record hir ar y gweill dros ddwy flynedd yn ôl ac er mai nawr y mae’r casgliad yn gweld golau dydd am y tro cyntaf, yn ddigidol, ar CD ac ar finyl clir hyfryd, dyma ben llanw proses hir. “Ws’di be, mae’r albwm yn barod yn ei gyfanrwydd ers tipyn, ond mod i wedi dal yn ôl cyn rhyddhau. Mi wnaethom ni orffan cyn i Kev[in Jones] fynd i ffwrdd i India i weithio mewn stiwdio yn fanno. Ella bod hynny dair blynadd yn ôl erbyn hyn felly teg deud bod yr albwm wedi ei orffan ers dipyn, jyst wedi bod yn aros am yr amsar iawn i ryddhau.” Fe ddaeth yr amser iawn eleni wrth i brysurdeb prosiectau eraill arafu. “’Odd lot o betha’ eraill wedi distewi gen i ac o’n i’n gweld ’chydig o amsar ar fy mhlât i weithio ar brosiect fel’ma. Achos prosiect newydd ydi o mewn ffordd,

Y SELAR

13


Mentro’n unigol Mae’n ddiddorol clywed Osian yn sôn am bwysigrwydd rhoi amser o’r neilltu i hyrwyddo ac ati achos nid yw rhyddhau deunydd yn ddieithr iddo wrth gwrs. Mae rhywun yn ceisio osgoi holi gormod am y bandiau pan mae aelod yn rhyddhau deunydd unigol ond mae’n ddiddorol clywed Osian yn sôn sut mae’r profiad o ryddhau’i stwff ei hun, a’r pwysau a ddaw gyda hynny, yn cymharu â rhyddhau fel grŵp. “Os ti’n rhyddhau rwbath dy hun, dim ond chdi sy’n gyfrifol amdano fo felly mae o’n eitha’ nerve-racking ac ella bod hynny’n rhan o’r rheswm dwi wedi dal yn ôl gyhyd. Ti’n rhoi rwbath allan i’r byd a jysd chdi sydd wedi ei greu o. Efo prosiectau eraill fel Yr Ods, cyfanwaith pum person

ydi o ac ma’ gen ti fewnbwn pum person does. Ac yn yr un modd efo stwff Yucatan. Ond efo stwff unigol dim ond chdi sydd yna. Yn amlwg, gen ti farn cynhyrchydd sydd yn help mawr ac mae Kev reit dda felly. Dwi’n dueddol o roi gormod o stwff i lawr ac mae o’n dda am ddewis a dethol beth sydd ei angan o fewn y mix.” Mae’n gweithio’r ddwy ffordd wrth gwrs, pris teg i’w dalu am fwy o reolaeth greadigol yw’r pwysau ychwanegol yn y pen draw. “Ia, os ti’n gweithio efo pobl eraill, ma’ ’na wastad rwbath lle ti’n gorfod rhoi i mewn i rywun arall. Ti’n gorfod dysgu i adael i betha’ fynd. Ma’ ’na ddwy ffordd o sbio arni does.” Sialens arall sydd ynglwm â phrosiect unigol yw gigio. “Mi fydd ’na fand byw,” cadarnha Osian.

“Dwi’n edrach ymlaen at drio gweithio allan sut i’w wneud o a deud y gwir. Dyna fydd y cam nesaf, cael cerddorion i mewn a ffendio ffordd o’i wneud o’n fyw. Ma’n mynd i fod yn dipyn o gamp achos ma’ ’na lot o bethau’n mynd ymlaen ac ma’n sŵn eitha’ anodd i’w ail greu.” Gellir gwerthfawrogi hynny wrth wrando ar y casgliad. Mae nifer o haenau cymhleth yn perthyn i’r caneuon ond mae Osian, sydd â gradd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Bangor, yn hyderus y bydd yn bosib. “Caneuon pop wedi cael eu sgwennu ar biano ydi pob un yn y bôn, ac mewn gwirionedd, os oes gen ti’r math yna o ganeuon mi ddylan nhw weithio efo unrhyw gynhyrchiad. Felly trio ei gael o mor agos â phosib at sŵn y record fydda i’n ei wneud.”

“CANEUON POP WEDI CAEL EU SGWENNU AR BIANO YDI POB UN YN Y BÔN.” Sin o fewn sin Cyrhaedda cerddoriaeth synth tywyll Oshh ein clustiau mewn cyfnod pan mae cerddoriaeth electronig yn gryf yn y sin Gymraeg. Nid yw Osian, serch hynny, yn teimlo’n rhan o unrhyw symudiad. “Mae yna lot o stwff electronig wedi ei ryddhau’n ddiweddar ’does, gen ti lot o’r math yna o fandiau o gwmpas. Ond o fy rhan i, dwi wedi creu hwn ers tipyn o flynyddoedd felly dwi’m yn meddwl amdano fo fel bod yn rhan o wbath fel’na, ti jysd yn creu be’ wyt ti isho ar y pryd dwyt.” Sôn am sin o fewn sin, byddai rhai’n dadlau fod gan Ynys Môn ei sin nodweddiadol ei hun ar hyn o bryd felly tybed a yw Oshh yn ystyried ei hun yn rhan o sin

14

Y SELAR


y Monwysion? “Be’ ’di sin Ynys Môn ydi’r cwestiwn am wni i! Dwi’n meddwl mai rhyw ddwy gig ydw i wedi ei chwarae yn Sir Fôn erioed felly dwi’m yn gwbod os ydi hynny’n ateb y cwestiwn!” Does dim dwywaith y bydd apel eang i’r albwm dwyieithog yma ym Môn, Cymru a thu hwnt a’r cwestiwn mawr i Oshh yw beth nesaf ar ôl y record hir gyntaf yma. “Dwi’n sgwennu trwy’r adag ond gawn ni weld gynta’ sut eith yr albwm a’r set byw i lawr a pheidio rhoi gormod o bwysa arna i fy hun. Ond ia, ella recordio albwm arall ydi’r bwriad.” Mae rhai o’r amgylchiadau wedi newid ers recordio’r albwm yma serch hynny, tydi Kev ddim yn Crychddwr

bellach ond mae Osian yn awyddus i weithio gydag ef eto. “Dwi wastad yn mwynhau gweithio efo Kev ond ma’n dibynnu’n llwyr pa ran o’r byd mae o ynddo fo! Mae o’n Sbaen yn rwla ar hyn o bryd dwi’n meddwl. Pwy a ŵyr, gawn ni weld. Ella y gwnai greu rwbath ’chydig bach yn wahanol y tro nesa jysd i’w gadw fo’n ddiddorol i fi fy hun yn fwy na dim.” A dyna grynhoi agwedd Oshh at greu cerddoriaeth, ceir yr argraff ei fod yn ei wneud o er ei ddifyrrwch ei hun yn anad dim. Ond mae o’n bod yn ddiymhongar iawn, mae Oshh yn albwm o safon sydd yn haeddu cynulleidfa eang, a dwi’n siŵr bod mwy i ddod gan y dewin electro.

Y SELAR

15


Gigio gyda’r Selar EFALLAI Y DYLEM FOD WEDI NEWID ENW’R EITEM HON I “GŴYLIO GYDA’R SELAR” Y TRO HWN ACHOS NID I GIG FACH GLUD MEWN BAR CEFN Y CAFODD OWAIN GRUFFUDD EI YRRU GENNYM, OND I UN O WYLIAU CERDDOROL MWYAF CYMRU! YN OGYSTAL Â DENU ARTISTIAID BYD ENWOG I BENTREF EIDALAIDD YM MEIRIONNYDD Y MAE FESTIVAL N°6 YN RHOI LLWYFAN I DORETH O ARTISTIAID CYMRAEG.

Guto

Owain

Bethan

Gwen

ENW? Guto Rhys Huws

ENW? Bethan Sleep

LLE TI’N MYND I GIGS? Clwb Ifor

OED? 22

OED? 25

O LE? Y Felinheli

O LE? Penrhyn Gŵyr

HOFF FAND/ARTIST? The Velvet Underground, Steely Dan, Ffa Coffi Pawb, The Clash BAND/ARTIST NEWYDD MWYAF

HOFF FAND/ARTIST? Cwestiwn anodd! Newid lot ar hyn o bryd, ond y 3 uchaf yw Elbow, The Gentle Good ac Abba

Bach, Tramshed, Llofft yn Nhafarn y Fic GIG COFIADWY DIWEDDAR? Steve Eaves yn gig Cymdeithas yr Iaith, Eisteddfod Môn

CYFFROUS? Pasta Hull

BAND/ARTIST NEWYDD MWYAF

LLE TI’N MYND I GIGS? Clwb Ifor Bach

CYFFROUS? Adwaith, Bendith ac

Spillers Records

GIG COFIADWY DIWEDDAR? The

Alys Williams

Y GERDDORIAETH DDIWETHAF I TI

Lemon Twigs yn End of the Road Festival

LLE TI’N MYND I GIGS? Fi’n byw yng

EI BRYNU? This Old Dog gan Mac

Demarco

Y GERDDORIAETH DDIWETHAF I TI

Nghaernarfon felly mynd i Glwb Canol Dre lot GIGS COFIADWY DIWEDDAR? Band Pres Llareggub ym mhabell craft beer Rhif 6. Pawb yn dawnsio ar y byrdde! Anhygoel!

EI BRYNU? Bongo Rock gan Michael

LLE TI’N PRYNU DY GERDDORIAETH?

OED? 22

Viner’s Incredible Bongo Band UCHAFBWYNT N°6? The Cribs

Tŷ Tawe pan fydda’i gytre neu Palas Print yng Nghaernarfon

O LE? Penygroes

Y GERDDORIAETH DDIWETHAF I

Killers a Fleur de Lys

TI EI BRYNU? Adfeilion/Ruins gan The Gentle Good, fy hoff albwm o’r flwyddyn. Fi wrth fy modd â’r synau naturiol ac ma’r gwaith celf yn cŵl ‘fyd! UCHAFBWYNT N°6? Band Pres Llareggub yn amlwg, ond fi wrth fy modd â chomedi felly es i i weld Henning Wehn - hollol hileriys!

BAND/ARTIST NEWYDD

LLE TI’N PRYNU DY GERDDORIAETH?

Mudshark Records ym Mangor; Spillers Records, Kellys Records a D’Vinyl yng Nghaerdydd

ENW? Owain Williams OED? 20 O LE? Yr Wyddgrug

LLE TI’N PRYNU DY GERDDORIAETH? Y we, Llên Llyn,

UCHAFBWYNT N°6? Public

Service Broadcasting a Flaming Lips ENW? Gwen Prys

HOFF FAND/ARTIST? The

MWYAF CYFFROUS? Elin -

GIG COFIADWY DIWEDDAR? Gig y

ENW? Mared Fflur Thomas

artist Cymraeg newydd sy’n byw yn Llundain LLE TI’N MYND I GIGS? Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon a Pontio ym Mangor GIGS COFIADWY DIWEDDAR? Gig olaf Y Bandana a set Eden ar faes Eisteddfod Môn

Pafiliwn yn Eisteddfod Môn

OED? 20

LLE TI’N PRYNU DY

LLE TI’N PRYNU DY GERDDORIAETH?

O LE? Y Rhiw

GERDDORIAETH? iTunes... sori!

Gwrando trwy Spotify

HOFF FAND/ARTIST? Cowbois Rhos

Y GERDDORIAETH DDIWETHAF I TI

Y GERDDORIAETH DDIWETHAF I TI EI

Botwnnog

EI BRYNU? Albwm Bwncath

BRYNU? French Kiwi Juice gan FKJ

BAND/ARTIST NEWYDD MWYAF

UCHAFBWYNT N°6? Yws

UCHAFBWYNT N°6? Bloc Party

CYFFROUS? Papur Wal

Gwynedd

HOFF FAND/ARTIST? Two Door

Cinema Club BAND/ARTIST NEWYDD MWYAF CYFFROUS? Ffracas LLE TI’N MYND I GIGS? Gorilla ym

Manceinion

16

Mared

Y SELAR


HYD YN HYN? Roedd Serol Serol wedi datblygu dilyniant da a llawer o edmygwyr cyn hyd yn oed rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Cadwyni’ gydag I Ka Ching ar iTunes a Spotify ym mis Mehefin. Dilynodd ail sengl, ‘Aelwyd’ ym mis Awst ac mae llawer mwy o ddeunydd i ddod yn ôl y genod, “Mae albwm wedi cael ei recordio ond tydi hi ddim cweit yn barod eto.” Chwaraeodd y band yn fyw am y tro cyntaf ym mis Hydref yn rhan o lein-

i Cl d i T

DYLANWADAU? Bandiau ac artistiaid eraill a restrir yma gan amlaf ond diddorol clywed bod prif ddylanwad Serol Serol yn dod o gyfrwng celfyddydol arall. “Sci-fi yw prif ysbrydoliaeth y band, yn enwedig hen sci-fi ble mae’n bosib gweld disgwyliadau pobl o’r gorffennol o’r amser sydd i ddod. Hefyd mae yna lawer o fandiau ’da ni’n edrych tuag atynt am ysbrydoliaeth, Dumbo Gets Mad yn un amlwg.”

ed ... w y S E RO L S E RO L

wed ...

SŴN? Syml a chryno yw disgrifiad y ddwy o’r sŵn, “space pop”, ac mae’n anodd gwella ar hynny a dweud y gwir! Mae’n anodd iawn i’w ddiffinio ond

mae’r amwysedd hwnnw’n gweddu’n berffaith i naws hudol, breuddwydiol, gofodol a hollol unigryw eu cerddoriaeth synth-aidd.

di Cly Ti

PWY? Mae Serol Serol wedi creu cryn argraff ers glanio ar ein planed ni ddechrau’r flwyddyn ond teg dweud fod peth dirgelwch yn eu cylch, yn enwedig yn y dyddiau cynnar. “Space pop o Ddyffryn Conwy” oedd yr unig ddisgrifiad ar y dechrau ond wrth i’r misoedd fynd heibio ac wrth i senglau gwych ddechrau glanio ar y radar fe ddaethant yn fwyfwy i’r amlwg. Mali Sion a Leusa Rhys yw Serol Serol, ond fel y mae’r ddwy yn egluro “’Da ni’n gweithio’n agos iawn efo Llyr Pari a George Amor i gynhyrchu ein caneuon ac yn recordio gyda nhw yn Stiwdio Glan Llyn ym Melin y Coed ger Llanrwst. Ddaru ni gychwyn sgwennu caneuon ar ôl cael ein hysbrydoli gan sci-fi, mae’r gair ‘serol’ yn golygu ‘stellar’ ac roedd y ddwy ohona ni’n cytuno bod Serol Serol yn enw da i’r band.”

yp noson Femme yng Nghlwb Ifor Bach, “Noson anhygoel! Gawsom ni dderbyniad gwych a ‘da ni’n edrych ymlaen at wneud mwy.” AR Y GWEILL? Wedi cael blas ar gigio, bydd Serol Serol yn ymddangos eto’n fuan. Bydd cyfle i’w gweld yn perfformio yn eu milltir sgwâr rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd wrth iddynt chwarae yn Llanrwst ar yr 28 Rhagfyr gydag Omaloma, Phalcons, Lastig Band a Bitw. Rhwng hynny a rhyddhau eu halbwm cyntaf, mae cyfnod prysur ar y gorwel. UCHELGAIS? Mae Serol Serol yn edrych ymhellach na’r gorwel yn y tymor hir. “Y gobaith mawr ydi cael chwarae gig ar y blaned Fenws. Mae trafodaethau gyda NASA yn parhau.” Gwyliwch y gofod am y newyddion hynny!

BARN Y SELAR Tua blwyddyn ers iddynt lanio ar y sin, dydw i heb ddod ar draws neb eto sydd ddim yn eu hoffi. Maen nhw’n ddirgel, yn cŵl, yn ffres, yn wahanol ac yn gerddorol gadarn. Mae’r senglau, ‘Cadwyni’ ac ‘Aelwyd’ wedi cael eu troelli gan ystod eang o DJ’s radio am y rheswm syml eu bod nhw’n wych ac yn uffernol o fachog. Os fydd hyn yn cael ei gynnal trwy’r albwm cyfan, bydd rhywbeth arallfydol o’n blaenau. Gwrandewch os yn ffan o... Omaloma, Dumbo Gets Mad, Adwaith... a’r gofod!

Y SELAR

17


Darllen y Label

ENW: Libertino DYDDIAD SEFYDLU: 10.04.2017 SEFYDLWR/PERCHENOG: Gruff Owen LLEOLIAD: Caerfyrddin ARTISTIAID: Adwaith, ARGRPH, Hei Kesä, Hotel Del Salto, ilu, La Forme, Los Blancos, Names, Phalcons, The Tates, Young Parisians. Hanes “Rwyf wedi bod yn gerddor oddi ar f’arddegau ac mae cerddoriaeth a diwylliant pop wedi bod yn obsesiwn i mi ers hynny,” eglura Gruff Owen, sylfaenydd Libertino. “Roeddwn wastad eisiau sefydlu label a oedd yn canolbwyntio ar yr artistiaid gan roi rhyddid creadigol iddynt a meithrin eu talentau. Daeth y cyfle ar ddechrau 2017 gan fy mod wedi bod yn gweithio gydag amryw o’r artistiaid fel rheolwr/mentor cyn hynny. Erbyn hynny roeddwn yn teimlo fy mod wedi magu digon o hyder a phrofiad i fedru sefydlu label.”

The Tates

DAETH EIN TAITH O GWMPAS STIWDIOS RECORDIO CYMRU I BEN, SYDD YN BECHOD, ACHOS RYDYM YN GRIW BACH BUSNESLYD YMA YN Y SELAR. OND NA PHOENER, MAE DIGON O LABELI, HEN A NEWYDD, YN CHWARAE RHAN BWYSIG YN ISADEILEDD Y SIN HEFYD FELLY DYMA GYCHWYN AR DAITH NEWYDD YN DYSGU MWY AM RAI O GWMNÏAU RECORDIO’R WLAD. A LLE GWELL I DDECHRAU NA GYDAG UN O’R LABELI NEWYDD MWYAF CYFFROUS...

Los Blancos

Phalcons

18 Names

Y SELAR

Uchafbwyntiau Am label mor ifanc, mae Libertino wedi datblygu ôl-gatalog hynod gyffrous yn barod, gydag artistiaid fel ARGRPH, Adwaith, Names a The Tates yn denu sylw yng Nghymru a thu hwnt. Gyda chymaint o fandiau yn gwneud mor dda does fawr o syndod mai un peth sy’n aros yn y cof i Gruff yw gweld llu ohonynt yn perfformio gyda’i gilydd yn un o brif wyliau cerddorol Cymru. “Ymysg nifer o uchafbwyntiau roedd cael llwyfan i’r label yng ngwyl Sŵn eleni yn binacl i’r flwyddyn,” meddai. “Mae’r camau creadigol a wnaed gan yr artistiaid yn gyffrous iawn ac yn argoeli’n dda i’r dyfodol.”


COLOFN GRIFF LYNCH

Adwaith

Ar y Gweill Nid yw Gruff yn un i orffwys ar ei rwyfau ac er i 2017 fod yn flwyddyn brysur yn barod mae mwy i ddod wrth i bethau newid gêr eto ym misoedd olaf y flwyddyn. Bydd sengl neu sengl ddwbl yn cael eu rhyddhau gan Phalcons, Names, ARGRPH, Los Blancos ac Adwaith i gyd cyn diwedd y flwyddyn ond efallai mai’r newyddion mwyaf cyffrous gan Gruff yw hwn: “Fe fydd albwm compilation yn dod allan gan Libertino o rai o uchafbwyntiau’r label yn 2017. Mae I’r Gofod a Byth yn Ôl, Libertino Mix 1, yn cael ei ryddhau ar 8 Rhagfyr. Bydd noson lansio’r albwm yng Nghlwb Ifor Bach ar yr un dyddiad.” Ac fel pe bai hynny ddim yn ddigon, mae’r label eisoes yn paratoi deunydd newydd ar gyfer 2018. Gweledigaeth Mae rhyddhau deunydd yn rheolaidd yn un peth ond mae’n bwysig bod gan unrhyw label gyfeiriad pendant a hunaniaeth gref hefyd ac mae hyn yn sicr yn wir am Libertino. “Mae gweledigaeth glir gan y label i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig yn enwedig yn yr iaith Gymraeg, nid yn unig ledled Cymru ond yn fyd-eang. Rwyf am wneud y sin yng Nghymru yn fwy proffesiynol a fydd yn ei dro yn galluogi cerddorion Cymreig i ryddhau eu deunydd i gynulleidfa ehangach.” Dyma label eangfrydig iawn hefyd sydd yn eiddgar iawn i gyd-weithio a rhoi cymorth i labeli eraill, hyrwyddwyr a lleoliadau perfformio, “ni all ein diwylliant cerddorol ffynnu heb gydweithrediad pawb,” eglura Gruff. Clywch clywch. Beth yw’r peth gorau am redeg label? “Gweithio gydag artistiaid creadigol a bod yn rhan o’u datblygiad a’u gweledigaeth. Mae bod mewn gig/cyngerdd un o’r artistiaid a’u gweld yn perfformio’n dda ac yn cysylltu â’r gynulleidfa yn rhoi boddhad mawr i mi. Mae derbyn demos o ganeuon newydd bob amser yn bleser, oherwydd ar ddiwedd y dydd, fi yw ffan mwyaf artistiaid y label.”

libertinorecords.com @LibertinoRecs facebook.com/libertinorecords

Maes B Caerdydd – Cyfle i arbrofi? Mae Maes B wedi hen hawlio’i hun fel y gig mwyaf yng nghalendr y sin gerddoriaeth Gymraeg, gyda thorfeydd nos Sadwrn olaf Eisteddfod Sir Fôn yn torri pob record posib. Ond y gwir amdani ydi fod perygl i’r ŵyl droi’n fwystfil na ellir ei reoli, efo unman i fynd ond am i lawr. Ydi Eisteddfod ddinesig Caerdydd y flwyddyn nesaf felly’n gyfle i Faes B arbrofi, a dangos bod mwy i’r ŵyl na headliners a thorfeydd anferth? Mae gwyliau cerddorol Cymraeg yn ffynnu mewn cycles o’r hyn wela’ i, a’r cylchdroeon hynny’n ddibynnol ar boblogrwydd yr headliners. Dim syndod felly fod Maes B wedi profi’n llwyddiant ysgubol dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf, gyda Candelas ac Yws Gwynedd yn benodol yn taro nodyn cyffredin iawn ymysg pobl ifanc yn eu harddegau, ac yn headliners byw eithriadol o gryf. Ond pan mae’r headliners hynny’n diflannu, mae gwagle amlwg yn cael ei adael, sy’n cymryd amser i’w lenwi. Dwi’n siŵr y byddai sawl un o gyfnod Anweledig, ac wedyn Genod Droog yn gwybod be’ dwi’n sôn amdano ac yn cytuno â’r gosodiad. Ydi Maes B dinesig, felly yn cynnig cyfle i chwarae gyda llwyfannau â naws mwy clos. Dau lwyfan? Torfeydd llai yn llenwi mwy nag un gofod mewn adeilad? Mwy nag un lleoliad hyd yn oed? Llwyfan DJ’s? Y gwir amdani yw na all gŵyl ddibynnu ar fand fel Yws Gwynedd, achos tydi nhw ‘mond yn bodoli ar y lefel yna o boblogrwydd, unwaith neu ddwy mewn cenhedlaeth. Efallai bod arbrofi gyda headliners yn syniad? Gwthio bands fengach yn uwch ar y bil, i roi hwb iddy’ nhw ddal ati a thargedu hed-leinio’r flwyddyn ganlynol? Byddai dau lwyfan hefyd yn cynnig yr opsiwn o roi artistiaid electronig ymlaen ar yr un pryd. Nid Eisteddfod draddodiadol fydd un 2018, ac felly pam ddyla’ Maes B fod yn un traddodiadol? Beth am gymryd ambell risg greadigol a pheidio poeni’n ormodol am y canlyniadau, achos mi fydd o nôl mewn cae flwyddyn wedyn!

Y SELAR

19


adolygiadau Llareggub Band Pres Llareggub Mae Band Pres Llareggub, sydd yn fwy dyledus i New Orleans na Deiniolen wedi hen sefydlu eu sain. Bron ein bod yn gwybod pa grŵf sydd yn dod nesaf, pryd mae’r rhythm yn torri i lawr i hanner yr amser, a phryd y mae’n bryd am solo-torri-stumog gan Bari Gwilliam ar y prif drwmped. Roedd fersiynau offerynnol y band o ganeuon cyfarwydd, fel ail gynhyrchiad llawn o Mwng gan y Super Furries, yn goctel â blas cwbl newydd arno. Rŵan, mae’r coctêl wedi hen sefydlu ac yn un o ffefrynnau pob meddwyn lleol. Mae Llarreggub yn gyfle i adeiladu ar y llwyddiant a’n gyfle i chwalu ein disgwyliadau eto. Diddorol felly iddynt benderfynu cydweithio ag artistiaid fel Amlyn Parry (Gwyllt) ac Alys Williams unwaith eto. Er nad yw agwedd ac egni ‘Pwarr’ a direidi breuddwydiol Lily Allen-aidd ‘Cymylau’ yn cyrraedd uchelfannau ‘Foxtrot Oscar’ a ‘Gweld y Byd Mewn Lliw’, mi’r ydw i’n dal fy hun yn ymgolli yn y curiadau yn erbyn fy ewyllys. Mae’n teimlo, hefyd, fel bod yna rhyw sacsoffonydd a gafodd ei gloi yng nghefn y fan wedi dianc yn rhydd o’r diwedd ar ‘Cymylau’, ac er i’r solo jazzy cignoeth sefyll allan yn ormodol, mae’n rhaid i rywun

herio egos y chwaraewyr pres traddodiadol, ’does? Mae hyd yn oed Osian Williams yn cyfaddef ei fod yn cael ei swyno gan y falfiau ar ‘Cyrn yn yr Awyr’, fydd yn sicr o gael ei chwarae hyd syrffed ar Radio Cymru. Fodd bynnag, y trac olaf un, fersiwn o ‘Chwarae’n Troi’n Chwerw’, yw’r arbrawf mwyaf o ran teimlad rhythmig, ac mae bron fel petai’r band yn ceisio claddu’r albwm (neu Caryl Parry Jones, efallai?) mewn angladd jazz yn New Orleans. Rhowch eich cyrn yn yr awyr gyfeillion. Gethin Griffiths

Tro Gwyneth Glyn Dwi wedi bod yn eitha’ diystyriol o gerddoriaeth Gwyneth Glyn yn y gorffennol ond mae’r albwm diweddaraf yn cydio’n dynn o’r nodau cyntaf. Mae’r gân gyntaf honno, ‘Tanau’, gyda sitar yn y cefndir, yn dy dynnu di mewn dros dy ben a dy glustiau i fyd arall breuddwydiol. Dyw Gwyneth Glyn ddim yn ’sgwennu caneuon generic am hiraeth a straeon ’sgotwyr rhagor. Mae ei llais tyner wedi aeddfedu ac mae’r hiraeth i’w glywed trwy’r gerddoriaeth a’r geiriau gonest. Mae steil y caneuon yn newid diolch i’r cerddorion medrus a’u hamryw offerynnau sy’n cyfrannu trwy’r record, gan gynnwys Seckou Keita, y chwaraewr kora adnabyddus o Senegal, a Rowan Rheingans, enillydd

Pyroclastig Pyroclastig Pleser oedd darganfod, wrth wrando ar yr EP newydd yma, ei bod yn cynnig mwy i’r SRG na’r hyn sy’n arferol o fandiau ifanc newydd. Yn hytrach, mae Pyroclastig yn plethu lleisiau meddal a riffiau bywiog confensiynol gydag ambell i solo secsi ar y sacsoffon. Mae dawn hyfryd, naturiol i lais Hawys Williams, sy’n arwain y perfformiadau lleisiol ar bedair o’r caneuon ar y casgliad. Mae’r bumed gân, ‘Run Un’ yn disgyn yn nwylo Gethin Glyn sy’n defnyddio’i lais trymach ar drac mwy bywiog sy’n

Gwobr Werin BBC Radio 2. Weithiau dwi’n meddwl bod Gwyneth Glyn yn swnio fel Vashti Bunyan, dro arall dan ddylanwad Alela Diane a cherddorion gwerin modern Americanaidd, ac mae ‘Bratach Shi’ yn swnio fel Cowbois Rhos Botwnnog ar eu gorau. Ond dim ots ble yn y byd, neu Ben Llŷn, mae hi’n mynd â chdi, mae hi’n gwneud hynny’n ddiymddiheuriad ac yn gadarn o du mewn i ffiniau Eifionydd. Mae tair cân Saesneg ar y record ac mae’r rhain, os rhywbeth, yn amlygu gallu ’sgwennu Gwyneth ymhellach ac maen nhw’n teimlo mor naturiol â’r gwynt. Mae bron i ddegawd ers i mi gyfrannu fy adolygiad cyntaf i’r Selar. Dwi wedi bod yn gybyddlyd gyda fy marciau dros y RHAID blynyddoedd ond os fysan ni dal yn eu GWRANDO rhoi nhw mi fysa Tro yn cael 10/10! Ciron Gruffydd


Llosgi Me/Llawn ARGRPH Bu rhaid i mi eistedd lawr i geisio ysgrifennu’r adolygiad yma sawl gwaith. Nid achos ’mod i’n methu meddwl am rywbeth i’w ddweud ond achos fy mod i wirioneddol yn ymgolli yn y gerddoriaeth bob tro gan anghofio’r hyn yr oeddwn i’n ceisio’i wneud! Mae yna rywbeth am y curiadau araf, y bas tew a’r riffs gitâr melfedaidd ar y sengl ddwbl yma sy’n creu awyrgylch sinematig bron. Yn clymu’r cwbl â’i gilydd y

herio delwedd ysgafn, jazzy yr EP. Teg dweud nad yw’r offeryniaeth yn rhy gymhleth ond mae’r cynildeb a’r diniweidrwydd yn y sŵn yn ei gwneud hi’n hynod bleserus i wrando arni. ‘Dwytha’’ yn sicr yw’r orau o’r casgliad. Mae curiad cyson y drymiau yn sail i synau cyfoethog tu hwnt y gitâr a’r sacs sy’n llifo’n hyfryd gyda’r alaw ysblennydd yn llais Hawys. Mae’r band yn bendant wedi llwyddo i arddangos eu sgiliau cerddorol gwreiddiol yn yr EP yma, ond dim ond megis cychwyn mae Pyroclastig, a dwi’n sicr fod dyfodol cyffrous yn eu disgwyl. Megan Tomos 5 Y Niwl Er bod Y Niwl wedi cael cyfnod cymharol ddistaw dros y blynyddoedd diwethaf, dydyn nhw’n sicr heb anghofio sut i greu cerddoriaeth. Wrth iddynt ryddhau deunydd am y pumed tro, dyma esgus unwaith eto i eistedd yn ôl a dychmygu eich bod yn gowboi yn un o ffilmiau Tarantino.               O ran arddull cerddorol, does dim llawer wedi newid i’r band surf, wrth i’r naws chwedegau barhau i dreiddio’n gryf trwy’r gwaith. Yn gyfuniad perffaith o alawon bachog ac offeryniaeth gadarn, dyma griw o gerddorion amryddawn sy’n amlwg yn mwynhau chwarae.

mae llais di ymdrech Emyr Sion Taylor sydd yn ymylu ar ddiog ar adegau (ond diog mewn ffordd dda)! Mae’r ddau drac yn rhannu’r cryfderau uchod ond mae gwahaniaethau cynnil yn yr arddull hefyd sy’n golygu eu bod yn gweithio’n dda fel double A side. Ceir adlais o Sen Segur wrth i riff seicedelig hamddenol y gitâr arwain ‘Llosgi Mi’. Yna, mae’r synth a’r sŵn dŵr yn ychwanegu dimensiwn arall i ‘Llawn’ a phe bawn yn cael fy ngorfodi i ddewis byddwn yn dweud mai hon yw fy hoff gân o’r ddwy. Gwilym Dwyfor

Does dim amheuaeth fod eu gwaith wedi bod yn weddol amrwd erioed ond y mae 5 yn fy marn i yn bortread arbennig o’r hyn y mae’r band yn gallu ei gyflawni’n fyw. Yn ogystal â hynny, mae’n ddrych o allu’r band i arbrofi, wrth i ganeuon megis ‘Tridegchwech’ sefyll allan yn wahanol wrth wrando ar yr albwm yn ei gyfanrwydd. Mae hi bob tro yn gyffrous cael clywed rhywbeth newydd gan Y Niwl, a dydyn nhw heb fy siomi. Ifan Prys Croesa’r Afon Y Trŵbz Does dim dwywaith mai cân roc yw hon ac o’r dechrau mae’n llawn agwedd. Mae’n agor â riff gitâr fas, sydd, er ei fod yn solo hollbresennol, yn gosod y naws. Yr un herio sydd i’r llais, drwy’r sŵn a’r geiriau. Er bod cryfder a dyfnder i’r llais o’r dechrau, mae’n llwyddo i gryfhau, a’r gitârs, y dryms a’r lleisiau cefndirol achlysurol yn dilyn hynny, a’r gân yn magu mwy o agwedd a hyder wrth fynd yn ei blaen. Mae’r llawnder a’r haenau o sŵn yn wrthgyferbyniad llwyr i’r agoriad. Cyfres o gordiau gitâr pendant a dryms sydd yn rhoi clo taclus a phendant iddi ac yn cynnal yr agwedd hyd at y diwedd. Bethan Williams

Perlau Crawia Yr hunaniaeth gref sy’n perthyn iddi, dyna’r peth mwyaf sydd yn eich taro wrth wrando ar ‘Perlau’, sengl gyntaf Crawia, prosiect newydd Sion Richards (Wyrligigs/Jen Jeniro). Mae’n anodd meddwl am y gân yma â’i gwreiddiau’n ddwfn yn unman arall ond Bethesda. Mae llechen yn enw’r prosiect ac mae rhyw naws chwarelyddol yn perthyn i wead yr holl beth. Ceir adlais o ambell gân Steve Eaves yn sacsoffon hyfryd Edwin Humphreys ac mae yna ryw briodwedd Iwcs-a-Doyle-aidd bron yn perthyn i naturioldeb llafar y geiriau. Cymer “ei di’n bell ar hanner tanc o betrol...” Americana Cymreig sydd yma yn y bôn. Dim byd newydd felly, hen ffasiwn bron, ond dyna ble mae gorchest Crawia. Mae newydd-deb yn dal sylw ond yn cuddio pechodau’n aml iawn. Does dim lle i guddio gyda’r math yma o gerddoriaeth, does dim dewis ond ei wneud o’n dda, ac ar dystiolaeth ‘Perlau’ mae Crawia’n ei wneud o’n dda iawn. Gwilym Dwyfor Llwch Mei Emrys Os ydych chi’n ffan o waith blaenorol Mei Emrys a Vanta byddwch yn siŵr o fwynhau’r albwm yma, yn enwedig ‘Goleudy’. Honno yw cân Tri Mis a Diwrnod-aidd yr albwm hwn. Ei lais unigryw yw prif rym yr albwm, gyda gitârs a haenau amrywiol o harmonïau yn atgyfnerthu’r pop/roc cyfarwydd hwnnw sy’n plesio trwch y bobl. Ac eithrio cwpwl o ganeuon, mae’r albwm yn swnio fel un gân hir, sy’n grêt os ydych chi’n ffan o Mei. Anaml y cafodd fy sylw ei brocio wrth wrando. Tueddodd mwyafrif yr albwm ymdoddi i’r cefndir a methu ennyn fy niddordeb am y deugain munud. Y traciau trawiadol i mi yw ‘Lawr’ a ‘Saetha Fi Lawr’. Er bod y rhan fwyaf o’r caneuon yn f’atgoffa i o ganeuon poblogaidd eraill, buan iawn y mae llais Mei yn hawlio’i le ac yn gwneud y gân yn gyfan gwbl un ei hun. Lois Gwenllian


adolygiadau OSHH OSHH Pan mae aelod o fand adnabyddus yn taro allan ar ei ben ei hun, mae’n hawdd i rywun ddechrau cymharu’r gwaith newydd yn anffafriol gyda’r hen, ond mae albwm cyntaf OSHH – prosiect solo Osian Howells – yn ymadawiad o’i waith gydag Yr Ods. Mae’r caneuon yn bennaf yn synth hudolus dros beiriant drymiau, a gan nad oedd Osian gan fwyaf yn canu prif lais ar ganeuon Yr Ods, mae ei lais unigryw yn gymharol newydd i ni. Ail gân yr albwm, ‘Alive’, yw’r sengl gyntaf oddi arno, ac mae’n hawdd gweld pam y dewiswyd hon. Mae’n agor gyda riff allweddellau catchy, ac mae’r penillion yn adeiladu at gytgan bachog. Mae’r cyferbyniad rhwng y lleddf a’r swnllyd yn amlwg yma, gyda rhai caneuon ychydig yn arafach megis ‘Hen Hanesion’, a hyd yn oed o fewn y caneuon eu hunain, gyda ‘Sibrydion’ ac ‘All Mistakes’ yn neidio mewn i gytganau enfawr ewfforig. Mae yma hefyd ddeuawd gyda Casi ar ‘Used to Fly’, ond fy hoff gân i oedd ‘Oriau Prin’. Yn wahanol i weddill yr albwm, piano sy’n gyrru’r gân hon ac mae llai o effeithiau a drymiau arni. Mae’r record yn dechrau colli momentwm erbyn y diwedd, ond ar y cyfan wnes i ei mwynhau hi’n fawr. Rhys Dafis Peiriant Ateb Y Cledrau Dyma albwm cyntaf sy’n gwneud yn union beth sy’n rhaid iddo wneud: dangos datblygiad ers yr EP a diffinio’r math o gerddoriaeth mae’r Cledrau eisiau ei chynhyrchu. Deg o ganeuon pop roc a geir yma ag ambell un yn amlygu eu hunain fel y rhai a fydd fwyaf poblogaidd, ‘Swigen o Genfigen’ a’r trac teitl, ‘Peiriant Ateb’. Fel llawer o fandiau ifanc mae’r band wedi dewis rhoi cân Saesneg ar yr albwm, gyda’r teitl hunanwawdiol ‘An English Song (Get Me On The Radio)’. Mae hon yn gofiadwy iawn, ac yn talu gwrogaeth i fandiau y maen nhw’n eu hedmygu yn

y geiriau a’r gerddoriaeth. Dylanwadau eraill amlwg drwy gydol yr albwm yw Candelas a Big Leaves. Mae yma botensial i’r albwm hwn, neu’n sicr llond llaw o ganeuon oddi arno i fod yn hirhoedlog, a mentraf ddweud y byddwn ni’n eu clywed nhw ar donfeddi’r radio am flynyddoedd. Lois Gwenllian Gad i mi Gribo dy Wallt Bitw Mae ‘Gad i mi Gribo dy Wallt’, sydd â’i theitl yn ddyledus i’r Gorky’s a’r Super Furries, yn union yr hyn y mae rhywun yn ei ddisgwyl gan Bitw. Er ei bod ar brydiau’n swnio fel Y Niwl hefo geiriau, mae’r rhythmau herciog a’r synths retro yn eich tywys ar daith seicedelig â blas newydd iddi. Mae llais Mari Morgan, gynt o Saron, yn ychwanegu’n gelfydd at y pop bachog sydd yn gyrru’r holl beth, ac yn cadarnhau lle’r cytganau fel uchafbwyntiau amlwg y gân. Diddorol hefyd yw’r ffaith bod y synths yn tueddu i ddilyn alaw y prif lais, sydd yn creu plethiad sonig hynod effeithiol i’r math hwn o gerddoriaeth. Mae pethau cyffrous ar y gweill gan y bartneriaeth rhwng Sain a Turnstile, sydd yn dod â’r cwmni recordio chwedlonol o Landwrog yn agosach at weddill y sin o ran eu delwedd a’u pwrpas, a dim ond y dechrau yw’r gân hon gan Bitw.  Gethin Griffiths Rhannu’r Hen Gyfrinachau Lleisiau merched byd canu pop a gwerin Cymru 1965 – 1975 Weithiau, mae’n braf cael teithio’n ôl mewn amser a chymryd eiliad neu ddwy i werthfawrogi’r hyn oedd yn bodoli ymhell cyn Maes B. I’r perwyl hwnnw, y mae’r albwm yma’n berffaith, gyda’r casgliad yn ein tywys yn ôl i ddyddiau’r chwyldro cerddorol Cymreig ac i oes aur rhai o’n lleisiau mwyaf eiconig. Mae’r caneuon felly’n dyddio’n ôl

cryn dipyn o flynyddoedd, ond, yr hyn sy’n eich taro’n syth yw safon ragorol y sain. Er bod y traciau cynharaf dros hanner can mlwydd oed, y mae’r sŵn byw ac amrwd yr un mor unigryw, ac o ganlyniad, llwyddir i adlewyrchu cyfoeth y gerddoriaeth. Dyma gerddoriaeth sy’n addas ar gyfer pob emosiwn. Nid yn unig y mae’r lleisiau persain a’r offeryniaeth gadarn yn gyfuniad sy’n rhoddi gwir deimlad a naws arbennig i’r caneuon, ond mae’r testunau a genir amdanynt yn rhoi amrywiaeth i’r casgliad. Er y byddai rhai’n cwestiynu pwrpas ail ryddhau’r caneuon hyn, y mae poblogrwydd cynyddol rhai o’r traciau yn adlewyrchiad o’r ffaith fod yr hen glasuron yn parhau i’n diddanu. Mae’r cyfanwaith yma felly yn gofnod arbennig o’n clasuron bytholwyrdd. Mi fydd hi’n anodd troi’r albwm yma i ffwrdd. Watshiwch chi eich hunain. Ifan Prys Adre dros ’Dolig Glain Rhys Dwi wedi mwynhau stwff Glain Rhys hyd yma, ac am y rheswm hwnnw, dwi’n fodlon anwybyddu’r sengl Nadoligaidd yma! Does dim llawer i beidio’i hoffi am y gerddoriaeth ond mae’n anodd edrych heibio’r geiriau llawn ystrydebau Nadoligaidd ac odlau hawdd. Ac ia, dwi’n gwybod, dyna ydi cân Nadolig i fod, ond dwi’n foi blin. Prin yw’r caneuon Nadolig dwi’n hoff ohonynt. Yn gyffredinol, mi fysa hi’n haws osgoi caws yn Hufenfa De Arfon ac mae’n anodd i sinig beidio â meddwl fod y cymhelliant masnachol yn llawn mor gryf â’r ysbrydoliaeth greadigol. Mi gaiff y sengl hon ei chwarae’n gyson dros yr wythnosau nesaf, ac os ydi hynny’n cyllido rhagor o gerddoriaeth gan yr artist fe fydd hi wedi gweini ei phwrpas cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn. Mae’r offeryniaeth i gyd yn sboton a’r cynhyrchu’n broffesiynol ond dwi wirioneddol ddim yn meddwl y byddwn ni’n edrych nôl ar ‘Adre dros ’Dolig’ fel un o uchafbwyntiau corff o waith Glain Rhys. Gwilym “Herod” Dwyfor


Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Gwobrau gwych am eich barn ar raglenni a gwasanaethau teledu PANEL CYFRYNGAU CYMRU wythnosol am ▪ Holiaduron raglenni a gwasanaethau teledu

Cewch dalebau siopa neu ▪ arian i elusen neu grŵp cymunedol

@pccmpw

gymryd rhan ▪ Gallwch ar-lein neu drwy’r post gan TRP ar ▪ Gweithredir ran S4C

YMUNWCH www.panelcyfryngau.cymru

2018


24

Y SELAR

Y Selar - Rhagfyr 2017  

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg

Y Selar - Rhagfyr 2017  

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg

Advertisement