Page 1

Rhif 49 | Mehefin | 2017

ANI GLASS Gai Toms | Lastigband | Geid y Gwyliau | Eädyth

Y SELAR

1


SAIN

Calan Solomon

Y band gwerin o Gymru sydd wedi ennill clod am eu sain pop-gwerin swmpus a’u hegni gwefreiddiol Buzz magazine **** SonglineS *** RnR ****

Daniel Lloyd a Mr Pinc Mesur y Dyn

Sengl digidol newydd sbon – wedi saith mlynedd o seibiant mae’n braf cael croesawu un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru yn ôl i’r sîn

Elin Fflur Hiraeth sy’n gwmni i mi

Yn dilyn llwyddiant Gwely Plu, dyma sengl newydd gan y bartneriaeth gyfansoddi elin Fflur a mei gwynedd – elin a’r band fydd yn cloi’r Eisteddfod ym Môn eleni o’r maes, ac mae’n perfformio yng ngwyl nôl a mlaen yn Llangrannog

Ar y gweill… Patrobas

Bydd albym cyntaf y band gwerin roc o Ben Llyˆn allan mis Mehefin ac mae taith i gefnogi’r albym – www.patrobasband.com

Bwncath

Wrthi’n brysur yn gorffen recordio eu halbym cyntaf gyda Robin llwyd yma’n Stiwdio Sain

Sesiynau Stiwdio Sain Casgliad gan 6 artist fu’n recordio yn Stiwdio Sain yn ddiweddar, Rhys gwynfor, Bwncath, glain Rhys, alffa, gwion emlyn a Hywel Pitts

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 sain@sainwales.com

Chwilio am stiwdio i recordio eich prosiect nesaf? stiwdio recordio yn mesur 12m x 9m gyda rhannau acwstig byw a marw yn cynnwys bwth wedi’i ynysu o weddill y gofod ystafell reoli mawr – desg 56 sianel, system Pyramix – modd plygio i Pro Tools modd llogi’r stiwdio gyda pheiriannydd neu heb (dry hire – rhaid cytuno i amodau o flaen llaw) offerynnau – hammond, yamaha grand piano, fender USA strat gitâr a yamaha gitâr fas telerau gofod ymarfer – £15 yr awr telerau dry hire – £175 y diwrnod + taw

2

CysylltwCh â sion neu siwan

Y SELAR

– sion@sainwales.com – siwan@sainwales.com –

01286 831.111


y Selar

cynnwys

RHIF 49 | MEHEFIN | 2017

Golygyddol Roeddwn i’n pori’n ddiweddar dros y rhestr o albyms sydd yn gymwys ar gyfer gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2017. Does gen i ddim ystadegau i gefnogi’r datganiad yma ond mae hi’n teimlo fel nad oes yna gymaint â hynny o albyms yn cael eu rhyddhau y dyddiau hyn. Rhyw bump ar hugain albwm Cymraeg a gafodd eu rhyddhau rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2017 yn ôl pob tebyg, gyda tua hanner y rheini efallai yn dod o dan y faner “cerddoriaeth Gymraeg gyfoes” sydd yn cael sylw yn Y Selar. Mae gennym ein gwobr Record Hir Orau ein hunain wrth gwrs bob blwyddyn yng Nghwobrau’r Selar ac mae hi wedi bod yn sialens dod o hyd i ddigon o albyms i ffurfio rhestr hir o ddeg ar ambell achlysur dros y blynyddoedd diwethaf. Parhau ar dudalen 17. Gwilym Dwyfor

4

8

Gai Toms

4

Sgwrs Sydyn Lastigband

8

Geid i’r Gwyliau

10

Ani Glass

12

Gigio gyda’r Selar

16

Eädyth

18

Adolygiadau

20

Llun clawr: cardifftothesee.com

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

y-selar.co.uk

MARCHNATA Ellen Hywel (hysbysebionyselar@gmail.com) CYFRANWYR Ifan Prys, Bethan Williams, Elain Llwyd, Gethin Griffiths, Rhys Tomos, Lois Gwenllian, Miriam Elin Jones, Casi, Catrin Jones.

18

facebook.com/cylchgrawnyselar

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar. Y SELAR

3


BOED FEL RHAN O ANWELEDIG, MIM TWM LLAI, BRYTHON SHAG NEU O DAN EI ENW’I HUN, DOES DIM DWYWAITH FOD GAI TOMS YN UN O GERDDORION MWYAF TOREITHIOG Y SIN GYMRAEG DROS Y DDAU DDEGAWD DIWETHAF. AG YNTAU AR FIN RHYDDHAU ALBWM ARALL, BU’N SIARAD Â’R SELAR. GEIRIAU: Gwilym Dwyfor

A

wgrymais yn fy ngolygyddol ar gyfer y rhifyn diwethaf y bydd hi’n ddiddorol gweld y sin yn ymateb yn greadigol i’r newidiadau mawr a welodd y byd yn 2016. Ychydig a wyddwn i fod rhywun wrthi’n barod mewn hen festri yn Nhanygrisiau! Bydd Gai Toms yn rhyddhau Gwalia yr haf yma, ac er iddo ryddhau albwm Saesneg ddwy flynedd yn ôl, hon fydd ei record hir Gymraeg gyntaf ers 2012. “Roedd yr albwm dwytha, The Wild The Tame And The Feral yn ryw fath o arbrawf” eglura’r cerddor amryddawn. “Dwi wedi sgwennu ambell gân Saesneg yn y gorffennol ond erioed wedi rhyddhau albwm, ond dwi’n falch mod i wedi gwneud hynny rŵan. Fel dudodd Tom Waites ‘I never saw the East coast ’till I moved to the West’. Ma’ angan gwthio syniadau weithia’ er mwyn

LLUNIAU: Alwyn Jones

dod yn ôl i wneud be ti’n ei neud fel arfer yn well.” Bethel oedd albwm Cymraeg diwethaf Gai, wedi ei enwi ar ôl y capel lle mae Gai wedi troi’r festri yn Stiwdio SBENSH. Dyna le y bu wrthi eto’r tro hwn, gan recordio, cynhyrchu a rhyddhau’r cwbl ei hun ar ei label, Recordiau SBENSH. “Dwi’n gweld yr albwm yma braidd fel Tchaikovsky yn cyfansoddi symffoni, dwi’n clywad y darnau i gyd. Felly yn hytrach na gofyn i rywun arall chwara’n union be’ dwi isho’i glywad mi wnai jysd ei neud o fy hun. Dwi’n mwynhau’r broses yna, dwi’n cyfansoddi wrth chwara’r drymiau, ma’ be’ dwi’n ei wneud ar y dryms yn effeithio’r bass line ac yn y blaen felly ma’n broses eitha’ methodic. Ond ella fydd yr albwm nesaf yn live takes, cael y band i mewn a recordio mewn un take, bang. Dwi’n licio arbrofi efo prosesau gwahanol wrth gynhyrchu.”

“MAE’R ALBWM YN RYW FATH O YMGAIS I DDEFFRO’R ISYMWYBOD, I DDEFFRO’R YSBRYD ’NA.”

GWALIA GALW AM DDEFFROAD

4

Y SELAR


“DWI’N FOI GEIRIAU GYNTA’.”

A Y SELAR

5


YSBRYDOLIAETH Daw yn amlwg wrth sgwrsio â Gai mai rhywun sydd yn cael ei ysgogi i greu ydi o. Ni cheir yr argraff ei fod o’n gorfodi pethau, ond yn hytrach yn cael i ysbrydoli i ymateb yn greadigol i bethau. Gwalia yn amlwg yw un o brif ysbrydoliaethau’r albwm, gair sy’n golygu un peth i’r mwyafrif o Gymry, ond mae ganddo ddau ystyr i drigolion yr ardaloedd chwarelyddol. “Dwi wedi meddwl erioed bod tomeni llechi bron fel pyramids, nid yn unig eu siâp ond y ffordd ma’ nhw’n dominyddu’r olygfa. Mae’r syniad yna bod ein cyndeidiau ni wedi cyffwrdd y llechi ’na hefyd, mae o fel ryw fath o aberth bron, fel yr oedd o i’r Aztecs a’r Mayans. Mae ’na aml ddiwylliant yn perthyn i thema’r albwm. Dwi’n cymryd rwbath Cymreig fel tomeni llechi a gwalia, sef y cytiau lle oeddan nhw’n hollti a naddu cyn y felin llifio. Roedd y chwarelwyr i gyd mewn rhyw gytiau bach ar y mynydd yn hollti a naddu ac yn taflu’r gwastraff dros y doman. Wedyn o’n i’n gweld rhyw baralel yn fanna efo diwylliant aberthu LladinAmericanaidd.” Yn y gair mwys yma mae’r gŵr o Fro Ffestiniog wedi llwyddo i blethu rhywbeth lleol iawn iddo ef gyda thema fwy cenedlaethol. “A gair Sacsonaidd ydi ‘Gwalia’ efo ‘G’ fawr cofia, gair sy’n deillio o’r ffordd mae eraill yn gweld Cymru.” Dylanwad arall ar y Cymro wrth greu’r casgliad yma oedd llyfr gan ŵr o Wrwgwái, Eduardo Galeano, Las venas abiertas de América Latina (Gwythiennau Agored America Ladin). “Mae’r llyfr yn trafod coloneiddio de America a’r holl allforio adnoddau ddigwyddodd yno felly mae yna baralels i Gymru yn fanno hefyd. Ddim mo’r eithafol ella ond yr un egwyddor. Rydan ni’n allforio cyfoeth ein hadnoddau ni i bobl eraill. Os fysan ni’n berchen ar yr holl adnoddau yna fysan ni’n wlad hollol wahanol. Rydan ni mewn cyfnod rŵan o ail afael yn y syniad yma o ail feddiannu adnoddau ac ma’ ‘na ryw thema fel’na yn rhedeg trwy’r albwm hefyd.”

6

Y SELAR

Teg fyddai galw’r llyfr yn rhyw fath o faniffesto asgell chwith ac yn ôl Gai “rhaid i Gymru ail afael yn y meddylfryd chwith yn y byd sydd ohoni. Fel arall rydan ni’n mynd i gael ein sugno mewn i ryw unbennaeth asgell dde dorïaidd.” Daw hynny â ni’n daclus at un arall o brif sbardunau’r albwm, sef yr hinsawdd wleidyddol bresennol. “Gen ti lefydd traddodiadol llafur yn y cymoedd yn troi at UKIP. Colli disgyblaeth ydi o, mae ’na lot o Gymry’n gweld pethau trwy fframwaith prydeinig, yn eu hadloniant a’u diwylliant. Wedyn ma’r Cymry Cymraeg traddodiadol eisteddfodol yn cael eu galw’n Welsh nash. Colli disgyblaeth ysbrydol bron iawn, colli ymwybyddiaeth o bwy ydan ni, yr hunaniaeth ’na. Ond efo’r cyfryngau sydd ohoni mae’n anodd. Mae’r albwm yn ryw fath o ymgais i ddeffro’r isymwybod, i ddeffro’r ysbryd ’na. Mae pobl wedi ei wneud o cyn fi, dwi’m yn trio deud mod i’n troedio tir newydd ond hwn ydi’r albwm mwyaf gwleidyddol neu ysbrydol dwi wedi ei wneud. Rhyw ddeffroad sydd ei angen.” Ysbrydoliaeth arall i’r albwm ac yn benodol i’r gân ‘Gwalia’ yw’r gân ‘O Gymru’, gyda fersiwn hyfryd Eleri Llwyd ohoni’n cael ei samplo ar y teitl-drac. “O’n i jysd yn gyrru yn y car a ddoth y gân yna ’mlaen ar Radio Cymru,” eglura Gai. “O’n i wedi ei chlywad hi o’r blaen ond y tro yma nesh i sylweddoli pa mor arbennig oedd hi. Wrth i’r dryms gicio i mewn nesh i feddwl, waw, fyswn i’n gallu gneud wbath efo hon. Dwi wedi cymryd cordia’r gân wreiddiol a chreu un newydd gan ychwanegu synths i’w gwneud hi’n eitha’ epig a modern.”

GIGS GAI TOMS Gorffennaf 15 - Parti Ponty, Pontypridd Gorffennaf 23 - Sesiwn Fawr, Dolgellau Awst 8 - Llwyfan y Maes, Eisteddfod Môn Awst 12 - Cymdeithas yr Iaith, Eisteddfod Môn Medi 16 - Gŵyl Gwrw, Llanbedr, Harlech

Hon fydd y gân fwyaf cyfarwydd i’r gwrandawyr, gyda fideo gwych wedi ymddangos ar Ochr 1 llynedd. Mae’n sicr yn gân epig ac yn drac cyntaf delfrydol i osod naws ar ddechrau’r casgliad. “Ma’n ddigon hawdd canu caneuon traddodiadol neu werin ond ma’n bwysig edrych tuag at y dyfodol hefyd. Mae cerddoriaeth electroneg Gymraeg yn gryf ar hyn o bryd ac er nad ydw i’n ystyriad fy hun yn artist electroneg dwi’n licio cynnwys elfennau o’r genre. Mae angen cydbwysedd o edrych ymlaen ac edrych yn ôl.”

“DWI’N GWELD FY HUN FEL SGWENNWR YN FWY NA POP ARTIST.”


“MAE ALBWM YN GELFWAITH GWAHANOL I CHWARAE’N FYW.” CYMRU’R CYSYNIAD Mae pedwar dylanwad clir i’r casgliad felly; gwalia, llyfr Galeano, ‘O Gymru’ a sefyllfa’r byd sydd ohoni. Wrth gwrs, mae llawer o orgyffwrdd yn y themâu hyn ac er bod posib priodoli’r dylanwadau penodol i ganeuon unigol, gan bod y cwbl yn plethu mor dynn i’w gilydd mae’r teimlad o gyfanwaith yn gryf a bron y gellid galw’r albwm yn un cysyniadol. Mae’n amlwg o ddisglyfr Gai Toms ei fod yn ffafrio’r fformat hir dros EP’s a senglau, mae creu cyfanwaith yn bwysig iddo. “Dwi’n meddwl ei fod o’n rhan o fy natur i i gysylltu petha i gael mwy o ystyr. Dwi’n gweld senglau’n rwbath ffwrdd a hi, er mai dyna’r cyfeiriad y bydd rhaid mynd iddo yn y byd digidol sydd ohoni. Dwi’m yn sgwennu miwsig am sylw, dwi’n ei weld o fel rwbath cathartig, dwi’n gweld fy hun fel sgwennwr yn fwy na pop artist.” ‘Brethyn’ yw un o draciau’r casgliad ac yn ôl Gai “mae’r albwm fel brethyn, yn blethiad o liwia a phatrymau. Dyna oedd y syniad wrth blethu’r dracwisg Cymru a’r head dress Lladin Americanaidd ar gyfer fideo ‘Gwalia’. Dangos nad dim ond pobl sy’n chwara ffidl mewn rhyw gwt pellenig ydan ni, mae’r Cymry’n bobl sy’n meddwl am y byd a’r ddaear. Fysan ni’n gallu cyfranu gymaint i’r byd os fysa ganddo’n ni’r tŵls i’w wneud o. Mae angen i bobl ddeffro.” Mae Gai’n cynnwys ei hun yn yr alwad honno. “Mae’r albwm yn fater o ‘deffrwn’ mwy na ‘deffrwch’”. Mae yma naws wleidyddol heb os, mae yma farn gadarn, ond nid yw’r farn honno’n cael ei stwffio i lawr ein corn gwddw. Does dim rhy benodol yma, tydi’r geiriau “Trump” neu “Brexit” ddim i’w

clywed unwaith, mae’r cyfan yn fwy cynnil. “Diolch i fandiau fel Radio Rhydd a Twmffat mae hynny,” eglura Gai. “Ma’ nhw’n rant bands da ac mae angen rant bands. Ond dydw i ddim yn rantiwr, dwi’n cymryd petha ac yn meddwl sut fedra i wneud hyn mewn ffordd wahanol.” Mae’r teimlad cynnil-wleidyddol yma’n creu llinyn cryf i’r geiriau trwy’r casgliad a gellid dadlau fod hynny’n rhyddhau Gai i amrywio ac arbrofi mwy gydag arddull y gerddoriaeth. “Ma’ ’na elfen o hynny ella. Mae’r geiriau’n aml yn arwain arddull y gân achos dwi’n foi geiriau gynta’. Dwi’n ’chydig bach o ragrithiwr achos pan dwi’n gwrando ar albyms multigenre eraill dwi’m yn ei mwynhau nhw ond pan dwi’n cyfansoddi fy hun allai’m stopio arbrofi.” “Os ydi Tarantino yn ‘Director DJ’ ma’ Gwalia yn ‘DJ gyfansoddwr’,” meddai Gai. O jazz Ffrengig ‘Tafod’ i’r cyffyrddiad Gruff Rhys-aidd yn ‘Chwyldro Bach Dy Hun’ a’r hiwmor eironig yn ‘Costa del Jeriatrica’, mae’r albwm yn sicr yn deilwng o’r disgrifiad. Yr her nesaf fydd trosi Gwalia yn ei holl amrywiaeth i set fyw. “Gan mai fi ydi’r unig gerddor ar yr albwm mi fydd rhaid trosglwyddo hynna’n fyw trwy gerddorion eraill. Ac mi wneith o gymryd ei fywyd ei hun, dwi’m yn mynd i drio’u cael nhw i swnio’n union run peth achos mae albwm yn gelfwaith gwahanol i chwarae’n fyw.” Rhywbeth i edrych ymlaen ato’r haf hwn yn sicr, a phwy a ŵyr, efallai y cawn gyfle i glywed Eleri Llwyd ei hun yn ymuno â Gai ar ‘Gwalia’. Siawns y bydd hynny’n ddigon i ddechrau’r deffroad. Y SELAR

7


n y d y S s r w g S

LASTIGBAND Prosiect newydd Gethin Davies, gynt o Sen Segur, yw Lastigband. Mae’r band seicedelig o ogledd Cymru wedi bod yn denu sylw cynulleidfaoedd gyda’u perfformiadau byw ers dros flwyddyn, a bellach mae’r EP cyntaf yn barod ar ein cyfer hefyd. Doedd dim amdani felly ond Sgwrs Sydyn gyda Geth. Mae’r EP newydd, Torpido, allan ers diwedd Ebrill, sut deimlad yw rhyddhau dy ddeunydd cyntaf gyda’r prosiect newydd? Hyfryd! Neis cael cynnyrch allan hefo Lastigband.   Lle a phryd fuoch chi wrthi’n recordio? Aethon ni i Stiwdio Drwm i greu takes o fi, Alex a Dav yn chware, i gyd efo’n gilydd.  Pwy wnaeth gynhyrchu? Llŷr Pari nath gynhyrchu’r EP, wedyn es i draw i neud overdubs yn ei stiwdio fo ym Melin y Coed.

Y cwestiwn pwysicaf, beth all y rhai sydd heb wrando eto ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? EP Cymraeg sydd am feddalu eich meddyliau i fyd arall! Hehe!   I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd, eglura ychydig o gefndir Lastigband. Prosiect nath gael ei gychwyn gen i a Dav (sydd chware dryms). Fe benderfynom ni neud gigs felly mae’r prosiect wedi tyfu o hynny i greu EP a gigio mwy.   Mae’r prosiect wedi bod yn mynd ers tua blwyddyn a hanner do? Do mae’r prosiect wedi bod yn mynd ers rhyw flwyddyn go lew, ’da ni fel arfer yn cael jam/practice bob wythnos i drio datblygu stwff newydd. Fel yna ’da ni wedi datblygu rhan fwyaf o’r caneuon.   Beth yw’r broses wrth i chi recordio wedyn? Ydi’r caneuon yn gyflawn cyn i chi fynd i’r stiwdio neu ydach chi’n mynd yno efo sgerbwd yn unig a gweithio dipyn arnyn nhw yn ystod y cyfnod recordio? Dwi’n trio cael y strwythur i gyd at ei gilydd cyn mynd i stiwdio, a trio

gwneud yn siŵr ein bod ni wedi ymarfer y caneuon hefyd fel ein bod ni ddim yn wastio amser yn y stiwdio! Pa gerddoriaeth oeddat ti’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio?  O’n i’n gwrando ar Courtney Barnett, Pond, Real Estate a King Gizzard and the Lizard Wizard.   Oes ’na rhai o’r dylanwadau hynny i’w clywed yn y cynnyrch terfynol? King Gizzard and the Lizard Wizard a Courtney Barnett. Mae gwaith celf y clawr yn dda, beth yw hanes hwnnw? Diolch! O’n i’n hoffi gwaith celf Luned [Vaughan Williams], felly ath hi ’mlaen a gyrru llwyth o syniadau i ni ar gyfer y EP! Oes gen ti hoff gân o blith y casgliad, a pham? ‘Rhedeg’ mashwr, achos bod ail hanner y gân yn newid yn llwyr.

8

Y SELAR


Beth fysa’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr EP? Ww cwestiwn da! Dreifio dwi’n meddwl ’sa’n gweithio’n dda neu wylio hen adverts ar youtube.

Pa un fydd yr “hit”? Dwi’m yn gweld yr un o’r caneuon ar y EP fel “hit”! Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un wyt ti fwyaf balch ohoni? Mashwr mai ‘Rhedeg’ oedd yr un anodda’ i chware. Dwi’n eitha’ balch sut nath ‘Jelo’ droi allan hefyd, mashwr mai ‘Jelo’ ydi sengl yr EP.  

Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Unrhyw hanesion doniol neu droeon trwstan? Roedd y broses recordio yn llawn gwaith caled, ond pleserus hefyd, o’n i’n teimlo ’mod i wedi creu rhywbeth adeiladol efo fy amser.   Cyflwyna’r band byw i ni. Dwi, Gethin, yn chware gitâr a chanu. Wedyn ganddo ni Dav [Williams] ar y dryms a Sam [Thomas] ar y gitâr fâs yn creu’r rhythm section. Mae Alex Morrison wedyn yn dod a rhoi sprinkle neis dros bopeth gyda steil neis gitâr flaen. Mae George Omaloma yn picio i mewn weithie hefyd i chware ’bach o allweddellau a sacsoffon.   Fe wnaethoch chi daith fach i lansio do, sut aeth honno? Lle fuoch chi i gyd a beth oedd yr uchafbwyntiau? Penwythnos cyn y lansiad gawson ni gyfle i chware ym Mryste, dwi’n caru vibes y ddinas felly oedd o’n braf cael chware yno. Penwythnos

y lansiad nes i drefnu noson ym Mhenmachno a chael help Dilwyn Llwyd i roi noson ymlaen yn Neuadd Ogwen gyda Argrph a Phalcons. Dwi’n meddwl mai’r peth mwyaf doniol nath ddigwydd i mi’r penwythnos yna oedd cael fy nghicio allan o’r Sior ym Methesda, ond dal gadel ar dermau da!   Pa mor hawdd oedd hi ail greu sŵn yr EP yn fyw? Roeddwn wedi cael cwpwl o effects pedals i’r gitâr cyn mynd i’r stiwdio, felly roeddwn wedi meddwl ’mlaen llaw am eu defnyddio nhw yn fyw ’fyd.    Unrhyw gigs eraill ar y gweill yn fuan, unrhyw wyliau dros yr haf? Na! ’Da ni’n brysur yn trio sgwennu pethau newydd.   Beth allwn ni ei ddisgwyl nesaf felly, fydd ’na albwm Lastigband yn y dyfodol? Sengl o ganeuon newydd dwi’n gobeithio.   Gwertha Torpido i ni mewn pum gair! Bubble-gum pop dynamig trwm (o’r) gofod.

HOFF EP I orffen, rhaid oedd holi Geth am ei hoff EPs yn y categorïau isod. Hoff EP Erioed? Beta Band – Champion Versions Hoff EP yn y flwyddyn ddiwethaf? Anyone - Swim Mountain Yr EP ddiwethaf i ti ei phrynu? Dwi’n ddiawledig am ‘streamio’ miwsig, ond am brynu mwy gan fod gen i swydd rŵan! Y SELAR

9


Sŵnami

id e G i’r Gwyliau TAFWYL

GŴYL ARALL

SESIWN FAWR

Pryd: 1 – 2 Gorffennaf Lle: Caeau Llandaf, Caerdydd Pris: Am ddim! Beth: Dim ond yr Eisteddfod all gystadlu â Thafwyl o ran leinyp bellach. Gyda deuddydd o gerddoriaeth ar ddau lwyfan, byddai’n haws rhestru’r bandiau a’r artistiaid sydd DDIM yn chwarae yno eleni! Arlwy’r prif lwyfan ddydd Sadwrn fydd Yws Gwynedd, Geraint Jarman, Y Niwl, Alys Williams, Brython Shag, Aled Rheon, Argrph a Cpt Smith. Yna, ddydd Sul bydd cyfle i weld Bryn Fôn, Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, Meic Stevens, Geraint Løvegreen, Cadno, Omaloma a’r Gerddorfa Ukulele. Bydd ambell i beth difyr yn digwydd yn y babell acwstig hefyd; rêf deuluol Big Fish Little Fish ar y dydd Sadwrn a dathlu chwarter canrif ers Noson Claddu Reu ar y nos Sul. Bydd The Gentle Good, Ani Glass, Plu, Welsh Whisperer, Alun Tan Lan, Danielle Lewis, Kizzy Crawford, Heather Jones, Brigyn ac Iwan Huws i gyd i’w clywed ar y llwyfan acwstig yn ystod y penwythnos hefyd.

Pryd: 6 – 9 Gorffennaf Lle: Amrywiol leoliadau o gwmpas Caernarfon Pris: Tocyn penwythnos bargen gynnar ar gael am £30 tan ddiwedd Mai, £35 wedi hynny. Ticedi i ddigwyddiadau unigol ar gael hefyd. Beth: Mae digon i’w wneud bob blwyddyn yn yr ŵyl gelfyddydol aml leoliad yma yn nhre’r Cofis. O ran cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, dyma lein-yp gryfaf Gŵyl Arall ers tro. Bydd cyfle i glywed artistiaid cymharol newydd fel Panda Fight, Patrobas, Beth Celyn ac EÄDYTH yn ogystal â rhai o brif enwau’r sin. Bydd Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, Yr Eira, Alys Williams, CaStLeS ac Ani Glass yn ffurfio arlwy sydd nid yn unig yn amrywiol ond yn hynod safonol hefyd.

Pryd: 21 – 23 Gorffennaf Lle: Y Sgwâr, Dolgellau Pris: £35 am docyn penwythnos (£15 dydd Gwener, £18 dydd Sadwrn, £12 dydd Sul) Beth: Mae’r ŵyl chwedlonol yma’n dathlu penblwydd go arbennig eleni. Mae’r Sesiwn wedi profi sawl newid dros y blynyddoedd ond wedi goroesi ac yn barod i ddathlu chwarter canrif ers ei sefydlu. Yn driw i’w harfer bydd Dolgellau’n rhoi llwyfan i rai o artistiaid gwerin amlycaf Cymru a thu hwnt yn ogystal ag ambell i fand lleol eto eleni. Peatbog Faeries o’r Alban, Coco & The Butterfields o Loegr a Dallahan o’r Alban, Iwerddon a Hwngari a fydd yn cynnig y blas rhyngwladol eleni, yn ogystal â Lewis & Leigh, prosiect Al Lewis ac Alva Leigh o Mississippi. O Gymru, bydd Alys Williams, Tecwyn Ifan, Climing Trees, Lowri Evans a Calan yn camu i’r llwyfan, heb anghofio hogiau Meirionnydd wrth gwrs, Sŵnami.

Tip y Selar: Peidwch â chyfyngu’ch hunain i’r gigs yn yr ŵyl yma, mae yna ddigon o stwff llenyddol difyr fel lansiad llyfr newydd ar eiriau caneuon o dan olygyddiaeth Marged Tudur ac Elis Dafydd.

Tip y Selar: Cofiwch mai yng Nghaeau Llandaf mae Ffair Tafwyl eleni, peidiwch â mynd i Gastell Caerdydd a meddwl “lle mae pawb?”

10

Y SELAR

Yws Gwynedd

Ffaith y Selar: Does unman yng Nghymru ym mhellach na thair awr yn y car o Ddolgellau.


GŴYL NÔL A MLA’N Pryd: 7 – 8 Gorffennaf Lle: Tafarndai’r Llong a’r Pentre Arms, Llangrannog Pris: Am ddim! Beth: Elin Fflur fydd yn hedleinio’r nos Wener gyda chefnogaeth gan Mari Mathias a Hoffgan yn yr ŵyl ddeuddydd hon ar arfordir Ceredigion. Ond tamaid i aros pryd yn unig fydd hynny gyda chwip o lein-yp i ddilyn ar y dydd Sadwrn. Bydd rhywbeth at ddant pawb wrth i chi ymlwybro nôl a mla’n rhwng y ddwy dafarn; o Mobinagi i Mabli Tudur, o Mellt i Tecwyn Ifan ac o Trŵbz i Ryland Teifi. Yna, i orffen y noson mewn steil, Yr Eira ac Yws Gwynedd.

Tip y Selar: Mae gwersylla ar gael yn yr ŵyl fach hon sydd wedi ei lleoli yn un o ardaloedd prydferthaf Cymru felly gwnewch benwythnos hir ohoni.

PARTI PONTY Pryd: 15 Gorffennaf Lle: Parc Ynysangharad, Pontypridd Pris: Am ddim Beth: Yn debyg i Tafwyl, gŵyl deuluol wedi ei threfnu gan y Fenter Iaith leol. Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn yr achos hwn ac mae’r trefnwyr wedi sicrhau lein-yp gryf. Bydd cymysgedd iach o artistiaid lleol fel Chroma, Amy Wadge, Jack Ellis, EÄDYTH a Cara Cullen yn ogystal a Ragsy, Gai Toms, Geraint Jarman a Daniel Lloyd a Mr Pinc. Bydd Pabell Cymryd Rhan a Phabell Ysgolion Cynradd hefyd felly fe ddylai fod yn ddiwrnod bendigedig gyda digon o stondinau, cerddoriaeth a gweithdai i gadw pawb yn hapus!

Tip y Selar: Mae yna stwff da yn dod o gymoedd y de felly manteisiwch ar y cyfle hwn i weld artistiaid fel Chroma ac EÄDYTH yn chwarae yn eu cynefin!

Candelas

Cpt.Smith

MAES B Pryd: 4 – 12 Awst Lle: Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, Bodedern Pris: Yn dibynnu pa ddiwrnod y byddwch yn cyrraedd, £20 - £110 ar hyn o bryd ond yn codi i £30 £140 ar y 1af o Orffennaf. £12/£15 fydd gigs unigol heb y gwersylla. Beth: Mae arlwy Maes B yn gryf iawn fel arfer eleni, er bod rhaid nodi fod bandiau gitâr yn llwyr reoli’r lein-yps. Y nos Fercher gyda Candelas, Ffug, Cpt. Smith a Chroma fydd y noson drymaf o bosib a bydd rhai’n siŵr o ddefnyddio’r term, “Môn pop” i ddisgrifio’r nos Iau gyda Bryn Fôn, Fleur De Lys, Calfari a Ffracas Fe gawn ni ychydig o synths a seicedelia nos Wener efo Sŵnami, Yr Eira, Ysgol Sul, Hyll ond efallai mai’r nos Sadwrn fydd yn cynnig yr amrywiaeth orau wrth i Yws Gwynedd, Y Reu a HMS Morris gamu i’r llwyfan ar ôl enillwyr Brwydr y Bandiau.

Tip y Selar: Cofiwch eich llyfr llofnodion ar y nos Iau achos fe fydd canran helaeth o gyn gystadleuwyr Fferm Ffactor yn siŵr o fod o gwmpas.

GIGS STEDDFOD CYMDEITHAS YR IAITH Pryd: 4 – 12 Awst Lle: Fferm Penrhos Bodedern Pris: £10 y noson, neu tocyn wythnos yn ddim ond £50. Beth: Mae Gigs Cymdeithas yn y Steddfod yn cynnig opsiwn amgen, ac ychydig yn fwy amrywiol i Maes B, a hynny i’w groesawu. Ydy, mae Bryn Fôn yn agor yr wythnos ar y nos Sadwrn cyntaf, ac mae noson gyfoes mewn partneriaeth â label I Ka Ching gyda Candelas, Ysgol Sul a Cpt Smith. Ond mae’r amrywiaeth yn cynnwys noson gomedi, Steve Eaves yn hedleinio nos Wener a Meinir Gwilym yn arwain lein-yp o artistiaid lleol ar Noson Gwlad y Medra. Bydd nos Sadwrn olaf yn glamp o noson hefyd gyda Gai Toms, Bob Delyn a’r Ebillion a’r anfarwol Geraint Jarman yn cloi yr wythnos.

Geraint Jarman

Tip y Selar: Os am fan canol rhwng y maes carafanau ‘parchus’ a gwallgofrwydd y maes gwersylla ger Maes B, yna mae modd mynd â phabell neu garafán i Fferm Penrhos.

Y SELAR

11


MAE CRYN GYFFRO WEDI BOD O GWMPAS YR ARTIST AML DALENTOG O GAERDYDD, ANI GLASS, ERS TRO. AC WRTH IDDI RYDDHAU EI EP CYNTAF PA WELL CYFLE I’R SELAR YRRU LOIS GWENLLIAN AM SGWRS? GEIRIAU: Lois Gwenllian

LLUN: cardifftothesee.com

GLAS Y

YN FFRWYDRO'N DAWEL

I

’r rhai â’u bys ar byls y sin gerddoriaeth yng Nghaerdydd, a cherddoriaeth o Gymru yn ehangach, bydd wyneb Ani Saunders yn gyfarwydd fel aelod nifer o fandiau, gan gynnwys The Lovely Wars a The Pipettes. Dyma’r tro cyntaf iddi ryddhau cerddoriaeth dan yr alias Ani Glass. Ymddengys

12

Y SELAR

i’r penderfyniad i ddefnyddio’r ‘glass’ ddeillio o ddiddordeb Ani yng nghymdeithas amgen Efrog Newydd, a’i hoffter o enw’r cyfansoddwr Americanaidd, Philip Glass - a hefyd “achos bod Ani Saunders yn boring”. Ffrwydrad Tawel yw enw ei EP cyntaf hir ddisgwyliedig. Er bydd ambell un wedi deall mai ar ôl arddangosfa o waith yr artist Ivor Davies y cafodd yr EP ei enwi,

gellir priodoli ystyron eraill iddo. Nid gor ddatgan fyddai dweud bod presenoldeb Ani ym maes cerddoriaeth Cymru wedi bod yn ffrwydro’n dawel ers tro. Nawr, mae’r tawelwch hwnnw ar fin torri. Yn nhywyllwch cyfarwydd Clwb Ifor Bach lansiwyd yr EP, gyda chynulleidfa ddigonol yno i fwynhau synau pop electronig anghyfarwydd Ani Glass. Roedd ymdeimlad fod


SS

“Fi isie ysbrydoli merched i wneud mwy o gerddoriaeth.”

rhywbeth arbennig ar droed yno, neu anarferol yw’r gair efallai. Dyma gig ar nos Sadwrn, yn un o sefydliadau cerddoriaeth fyw mwyaf eiconig y ddinas, lle mae merch (sy’n lansio ei record fer gyntaf) ar ben y lein-yp yn canu cerddoriaeth bop electronig, yn Gymraeg, ar ei phen ei hun. Anaml iawn y gwelwch chi hynny. Ychydig ddyddiau ar ôl gorfoledd lansio ffrwyth deunaw mis o waith, es i am beint efo Ani i’w holi hi beth sy’n ei chymell i droedio’i llwybr ei hun. “Cwpwl o bethe sy’n ysbrydoli fi i wneud e’, ac isie ei wneud e’ fwy, yw yn gyntaf, does dim gymaint â ’ny o gerddoriaeth pop Cymraeg fi’n uniaethu gyda fe, a pan o’n i’n ifancach roedd e’r un peth. Roedd ’na gerddoriaeth Gymraeg dda, ond os ti yn dy arddege a dyw cerddoriaeth ddim yn taro gyda ti, ti ddim yn mynd i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Felly cael mwy o gerddoriaeth pop yn Gymraeg yw un o’r pethe. “Yn ail, s’dim gymaint a ’ny o ferched yn gwneud stwff sy’ ddim yn roc neu werin. Eto, mae’r pethe sydd ar gael yn y genres yna’n ffantastig, ond do’n i ddim yn teimlo ei fod e’ wir yn adlewyrchu beth mae rhai pobl yn lico. Ac yn drydydd, fi isie ysbrydoli merched i wneud mwy o gerddoriaeth, a meddwl am syniadau newydd am sut i wneud cerddoriaeth. Ers fi’n gallu cofio, bechgyn â gitârs sydd wastad wedi cymryd drosodd y sin Gymraeg, a fi jyst isie cyfrannu at sin y merched.” Y SELAR

13


“Sin y Merched” Rwy’n chwilfrydig i wybod barn Ani am “sin y merched”. Mae cydraddoldeb yn air rydyn ni’n ei ddarllen yn ddyddiol, ac mae’r cyfryngau dan y lach byth a hefyd am yr anghydbwysedd rhwng y gynrychiolaeth o ferched a dynion mewn gwyliau cerddoriaeth er enghraifft. Yw hi wedi teimlo effaith yr anghydbwysedd yma? “Fi’n meddwl y teip o gerddoriaeth fi’n neud, fi’n cael fy rhoi gyda merched ta beth. Felly fi ddim yn gweld e’ o ddydd i ddydd. Ond, ie, fi ’di gweld lineups rhai gwylie ac mae e’n dal i ddigwydd. Be’ fi’n trial gwneud yw, yn lle cwyno - a gallen i gwyno drwy’r dydd achos fi’n caru cwyno - am sefyllfaoedd fel hyn, fi jyst yn un person ychwanegol at y mix. Ma fe jyst am drial bod yn ymarferol am y probleme, neu’r anghyfiawndere hyn.” Yn rhifyn diwethaf Y Selar, roedd Ani’n golofnydd gwadd a soniodd am ddynion yn dod ati ar ôl gigs i gynnig tips sut i ddefnyddio’r offer electronig sy’n rhan mor ganolog o’i pherfformiadau. Holais hi ymhellach am y profiadau hyn, ac yn amlach na dim, cerddorion ydy’r unigolion sy’n dod i rannu eu ‘harbenigedd’ efo hi. Dywedodd fod yr ymddygiad “ddim yn gas, jyst yn uffernol o anghwrtais, ond dy’ nhw ddim yn gwybod eu bod nhw’n anghwrtais. Fi mor shocked fod pobl yn gallu bod mor hy, fi ddim yn gwybod sut i ymateb. Felly tro nesa mae’n digwydd, fi jyst yn mynd i ddweud, ‘aros funud, fydda i nôl nawr’ a jyst cerdded i ffwrdd.” Pe bai rhywun eisiau siarad efo Ani ar ddiwedd gig am ei hoffer, yna am rwyddineb ei defnydd hi ohono y dylai hynny fod. Nid ar chwarae bach mae

GIGS MAI 26 - VICTORIA HALL, LLAMBED MAI 31 - EISTEDDFOD YR URDD, PEN-Y-BONT MEHEFIN 7 - BUFFALO, CAERDYDD GORFFENNAF 1 - TAFWYL, CAERDYDD GORFFENNAF 7 - THE PARROT, CAERFYRDDIN GORFFENNAF 9 - GŴYL ARALL, CAERNARFON GORFFENNAF 16 - GWDIHW, CAERDYDD AWST 12 - EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YNYS MÔN, BODEDERN

14

Y SELAR


“Os mai dy nod di yw bod pobl yn ei hoffi e’, dim celf yw e’ wedyn.”

dibynnu’n llwyr ar beiriant, nid band, mewn gig. Mae angen canolbwyntio gant y cant drwy’r adeg. Pan welwch chi Ani’n perfformio, mae hi’n gwneud yn union hynny. Perfformio, a thrin ei hoffer yr un pryd. “Mae ’di bod yn broses hir. Fi ddim yn naturiol yn berson technegol. Ond i fod yn gerddor electroneg, mae’n ymarferol. Os ti isie bod mewn band dy hunan, a ti ddim isie chwarae gitâr - does dim lot o opsiyne gyda ti. Felly, mae jyst ’di bod yn fater o ymarfer ac ymarfer, a mynd ar nerfe pawb! Yna, ychwanegu pethe; peidio neud e’n rhy anodd i ddechre. I ddechre, fysen i ddim yn defnyddio gormod o offer, fysen i’n gwneud llai o ranne gwahanol. Wrth i ti deimlo’n fwy hyderus, alli di ychwanegu pethe. Hefyd, s’gen ti ddim dewis mynd yn rhacs mewn gigs, achos nei di jyst cawlo pethe!” Talodd yr holl ymarfer ar ei ganfed. Mae Ffrwydrad Tawel yn gasgliad hyderus, bachog ac aml-haenog o ganeuon sy’n mynnu sylw eich clustiau a thapiad eich troed. Mae’r trac agoriadol ‘Y Newid’ yn adeiladu’n araf nes cyrraedd ei uchafbwynt iwfforig, gan osod sylfaen gadarn i weddill yr EP. Yna, daw dihangfa ‘Y Ddawns’ - y sengl a ryddhawyd rai misoedd yn ôl - sy’n fflach fawr o hapusrwydd. Yn debyg iawn i’w theitl, mae ‘Dal i Droi’ yn dal i droi yn fy mhen ers dyddiau. Cyrhaedda’r EP ei anterth ar ‘Geiriau’ o bosibl. Â’i churiad didrugaredd a sibrwd-ganu Ani, hon o bosibl yw’r gân sy’n dal enaid yr EP orau. Ceir saib fer o’r carnifal electronig ar ‘Cŵn Hapus’ sy’n fwy o glwstwr o synau na chŵn. Daw’r parti pop-newydd i derfyn cadarn gyda ‘Cariad Cudd’. I mi, roedd hon yn un o’r mwyaf cofiadwy o’r gig lansio, lle ’roedd rhwystredigaeth awgrymedig y recordiad yn amlygu’i hun ym mherfformiad Ani.

ddim yn brofiad ges i. Wedyn ddes i’n ôl ac roedd pawb o ’ngwmpas i’n siarad Cymraeg - roedd e’ mor amlwg fy mod i fod i wneud cerddoriaeth Gymraeg. Mae ’di bod yn broses eitha hir. Fi’n eitha self-conscious a fi ’di bod yn poeni os ydyn nhw [y gynulleidfa Gymraeg] ddim ond yn hoffi guitar bands, dy’ nhw byth yn mynd i hoffi e’. Wedyn, nes i weithio mas mai beth sy’n bwysig yw ei greu e’, creu celfwaith. Os mai dy nod di yw bod pobl yn ei hoffi e’, dim celf yw e’ wedyn.” Yn sicr, mae hi wedi llwyddo yn yr orchwyl o greu rhywbeth sy’n unigryw iddi hi. Teg dweud ei bod hi’n fwy na cherddor electroneg - mae hi’n artist. Ym mhob dim mae hi’n ei greu o’i ffotograffiaeth i’w darluniau (hi ddyluniodd clawr albwm Dulog gan Brigyn), mae’n tynnu eich sylw at rywbeth na fyddai wedi goglais eich chwilfrydedd. Mae’r un peth yn wir am yr EP. Yn y casgliad hwn, ceir delweddau dinesig a thywyll ei gwaith ffotograffiaeth, wedi’i gymysgu â thasgiad go helaeth o guriadau mor lliwgar â’i gwaith celf hi, gyda phinsiad o wleidyddiaeth (os hoffech chi), i greu cybolfa gerddorol, arallfydol ar adegau. Trwy hyn oll, mae Ani yn driw i’w llais, i’w dinas ac iddi hi ei hun. Boed chi’n hoffi Ffrwydrad Tawel neu ddim - un peth sy’n sicr, mae Ani Glass yn chwa o awyr iach mewn ’stafell sy’n dechrau llethu ei thrigolion.

Cerddoriaeth Gymraeg Nid yw Ani’n anghyfarwydd â gigio dros y ffin, mae hi eisoes wedi perfformio fel Ani Glass yn Llundain a Chaerfaddon eleni. O’i phrofiad hi, gofynnais, sut mae hi’n teimlo am gael y label “cerddoriaeth Gymraeg” ac agwedd gyffredinol pobl o drin cerddoriaeth Gymraeg fel genre ar ei ben ei hun. “Dw i’n credu ei bod hi wedi bod fel yna, bendant yn y gorffennol. Weithie fe gei di lwyfan Cymraeg mewn gwylie, felly dydy e’ ddim wir yn helpu ein hachos fel cenedl, achos ti’m yn denu cynulleidfaoedd Saesneg i mewn. Ond yn bersonol, fi braidd wedi gwneud gigs jyst Cymraeg, fi wedi cymysgu gyda bandie Saesneg. ’Dyw e’ jyst ddim yn gwneud gwahaniaeth. Fel Cymry Cymraeg, ry’n ni’n poeni’n fwy nag y mae pobl di-Gymraeg. Bydden i’n rhoi arian ar y peth, mae cynulleidfaoedd gymaint yn fwy soffistigedig nag y maen nhw’n cael credit am fod.” Dyma’r tro cyntaf i Ani ganu’n fwriadol yn Gymraeg. Beth wnaeth ei chymell hi? “Fi ’di bod yn creu cerddoriaeth yn Lloegr, cyn The Lovely Wars, roeddwn i mewn dau fand yn Lloegr a doedd e’ [canu’n Gymraeg]

6 YSGOL, DROS 70 CLYWELIAD, 1 BAND CYSTADLEUAETH I FFURFIO BAND NEWYDD UNIGRYW I GERDDORION IFANC BYDD Y BENNOD OLAF YN CAEL EI DARLLEDU AR FEHEFIN 7FED AM 5.30PM AR S4C  MAE MAE'R GYFRES HEFYD AR GAEL I'W GWYLIO AR-LEIN  Y SELAR

15


GigiSoeglayrda’r

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Môn eleni fe benderfynom ei bod yn hen bryd i ni gael blas bach o gerddoriaeth fyw ar yr ynys. Cynhaliwyd Gŵyl Gaerwen ddechrau mis Mai, felly lle well ar gyfer cymal diweddaraf ein taith? Catrin Jones a fu’n sgwrsio â’r gynulleidfa ar ein rhan.

DYDDIAD: 06/05/2017 LLEOLIAD: CLWB PÊL-DROED GAERWEN, YNYS MÔN LEIN-YP: MADARCH / CALFARI / MONIARS / MEINIR GWILYM / BRYN FÔN

Enw: Mared Edwards Oed: 17 O le: Rhydwyn Hoff fand/artist? Y Bandana Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Gwilym Lle ti’n mynd i gigs? Caernarfon Gig cofiadwy diweddar? Daniel Lloyd a Mr Pinc Clwb Canol Dre, Caernarfon Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Palas Print Y gerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Anrheoli - Yws Gwynedd

Enw: Cadi Hughes Oed: 14 O le: Maenaddwyn Hoff fand/artist? Shawn Mendes Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Mabli Tudur Lle ti’n mynd i gigs? Pontio Gig cofiadwy diweddar? Copperfest Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Itunes Y gerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? ÷ - Ed Sheeran

Enw: Erin Grieves Oed: 15 O le: Llandrygarn Hoff fand/artist? Fleur de Lys Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Cadi Gwyn Edwards Lle ti’n mynd i gigs? Pontio Gig cofiadwy diweddar? Copperfest Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Itunes Y gerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Illuminate Shawn Mendes

Enw: Deio Jones Oed: 17 O le: Benllech Hoff fand/artist? Big Leaves Band/artist newydd mwyaf cyffrous? Madarch Lle ti’n mynd i gigs? Gaerwen Gig cofiadwy diweddar? Gig olaf y Bandana - Neuadd y Farchnad, Caernarfon Lle ti’n prynu dy gerddoriaeth? Amazon Prime Y gerddoriaeth ddiwethaf i ti ei brynu? Hadyn - Y Reu

GALWAD BAN GELTAIDD! IESTY N TY NE Rhy brin ydi’r cyfleoedd i fandiau Cymraeg fentro tu hwnt i ffiniau’n gwlad fach ni a pherfformio ar lwyfan ryngwladol, ond ydi’r bai am hynny ar y Cymry eu hunain weithiau? Efallai i chi weld fy 16

Y SELAR

rant ar dudalennau’r Cymro (28 Ebrill) yn sôn am hynny yng nghyd-destun yr Ŵyl Ban Geltaidd yng Ngharlow eleni. Digon hallt oedd yr erthygl honno yn ei beirniadaeth o top dogs yr ŵyl, a digon hallt fu ymateb rhai o’r top dogs rheini i’r erthygl! Heb fanylu’n ormodol (rhyw stribedyn o golofn dwi ’di gael!), roedd agweddau ceidwadol, cul, a hunanfodlon y gynrychiolaeth Gymraeg yng Ngharlow yn fy ngwylltio.

Rydan ni’n wlad liwgar ac amrywiol; mae gennym ni gerddoriaeth a barddoniaeth a llenyddiaeth a chelf, mae gennym ni bobl o bob lliw a llun, strêt a hoyw, crefyddol ac anghrefyddol, eisteddfodol a gwrth-eisteddfodol, rhai sy’n glynnu at draddodiad a rhai sy’n codi dau fys ato. Mae’n eitha’ boncyrs felly mai corau, partïon cerdd dant a grwpiau dawnsio gwerin yw trwch y bobl sydd yn ein cynrychioli NI, Cymru’r unfed ganrif ar

hugain, mewn gŵyl a ddylai fod ar gael i ni oll fel llwyfan i’n diwylliant a’n celfyddyd. Dwi am bwysleisio yma, er bod sail yn sicr i’r gred mai rhyw fath o ‘closed shop’ yw’r ŵyl wedi bod yn y gorffennol, na ddylai neb deimlo na fedran nhw fynd draw i’r Ŵyl Ban Geltaidd. Mae ’na griw bychan wedi cael monopoli o fath ar y gynrychiolaeth Gymraeg yn ddiweddar, ond mae’n amser i bethau newid. Ddaw ’na ddim byd o anfon criw o hen bobl


Parhad o dudalen 3

Hir oes i’r albwm Mae dau gwestiwn felly am wn i. Yn gyntaf, ai dim ond cyd-ddigwyddiad dros dro yw hyn neu ydi fformat y record hir yn mynd allan o ffasiwn yn barhaol? Yn ail, ac yn bwysicach o bosib, oes ots? Dwi’n siŵr fod sawl rheswm pam fod bandiau ac artistiaid yn gynnyddol ffafrio senglau ac EP’s dros gasgliadau hirach. Arian yw’r prif un dwi’n siŵr ac efallai bod digidoleiddio’r broses ryddhau yn un o’r lleill. Heddiw, gall unrhyw un gyfansoddi, recordio, cynhyrchu a rhyddhau cerddoriaeth heb symud o’u hystafell wely ac mae hynny’n beth i’w groesawu ar sawl ystyr. Golyga hynny wrth gwrs fod yr hidlen safon yn dipyn haws i’w osgoi ond yn y bôn, y gwrandawyr a ddylai feirniadu os ydi rhwybeth ddigon da. Mewn cyfweliad yn y rhifyn hwn gyda Gai Toms roedd hi’n ddifyr clywed ei fod o’n gweld senglau fel rhywbeth mwy “ffwrdd a hi” ac fod albyms yn cynnig cyfle gwell i roi ystyr a syniad o gyfnawaith i’w gerddoriaeth. Mae albwm ddiweddaraf Gai, Gwalia, yn sicr yn cefnogi’r ddadl honno. Ac os y dychwelwn at yr albyms sydd yn gymwys ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, mae’r un peth yn wir am sawl un o’r rheiny. Rhyddhawyd albyms gwych fel Fforesteering gan CaStLeS, Adfeilion gan The Gentle Good a Bendith gan Bendith yn y flwyddyn ddiweddaf, a’r hyn sy’n nodweddu’r casgliadau hyn i gyd yw’r hunaniaeth gref fel darnau o gelfyddyd. Efallai nad os dyfnder felly ond mae yna safon, a dyna’r peth pwysicaf. Hir oes i’r albwm.

yn unig i eistedd mewn hotel crand yn Iwerddon am wythnos. Mi wnes i orffen yr erthygl yn Y Cymro efo’r paragraff yma: ‘Galwad ydi’r darn yma, galwad am gic ym mhen ôl y parchusrwydd bondigrybwyll a galwad i’r bobl ifanc niferus hynny sy’n teimlo’n gryf dros eu diwylliant a’u traddodiadau godi pac am wythnos a dŵad draw i Derry flwyddyn

nesaf... Dŵad am sesh, a dŵad i ganu caneuon hen a newydd fel ei gilydd, a phrofi ar lwyfan ryngwladol nad breuddwydion sydd wedi encilio i fyd y genhedlaeth hŷn yw ein hiaith a’n diwylliant. Rydan ni’n wlad sydd ar ganol profi adfywiad aruthrol yn ein cerddoriaeth ein hunain. Mae angen i ni ddangos hynny i’n cefndryd Celtaidd hefyd, rhag ofn i ni gael ein gadael ar ôl.’

COLOFN CASI

Hip-Hop Cymraeg? Gan ystyried bod hip hop yn gyfrwng artistig a cherddorol a dyfodd o boen, annhegwch cymdeithasol a’r angen i sefydlu llais, mae’n ddifyr nad oes ’na lawer o gerddorion ac artistiaid o Gymru’n creu cerddoriaeth neu weithiau ag iddynt flas o ddylanwadau diwylliant rap neu hip-hop. Roedd Datblygu, am wn i, yn arbrofi gyda mynegiant llafar a lleisiol, oedd yn gymharol eneidiol mewn rhai ffyrdd, yn sicr felly’n ffurf o fynegiant a oedd yn sylwebu ar arferion a rhwystredigaethau cenedl. Ma’ Mr Phormula yn enghraifft o rywun sy’n amlwg wedi ei ddylanwadu’n sylweddol gan artistiaid Affro-Americanaidd, fel yr oedd MC Mabon hefyd. Ac wrth gwrs, yr athrylithgar Pep Le Pew, sydd yn fy nhyb i’n un o’r grwpiau gorau i Gymru gynhyrchu erioed. Dim un o’r rhain yn ferched. Un grŵp sydd yn ysgrifennu o bersbectif merched yw Reykjavíkurdætur (‘merched Reykjavik’) o Wlad yr Iâ, a wnaeth imi feddwl am gerddoriaeth a diwylliant mwy llafar ei fynegiant yng nghyd-destun Cymru. Dyma grŵp o tua 19 o ferched o’r ynys sy’n prysur wneud dipyn o enw iddynt ei hunain. “Dwi’n dynnach na motherfuc*ing plethan Ffrengig / dwi’n lledu fy hun ar dy gynfasau gwely fel staen mislif,” (cyfieithiad digon gwantan ar fy rhan, er dydi’r ‘Ffrengig’ a’r ‘mislif’ ddim yn swnio’n rhy ffol gyda’i gilydd). Dyma grŵp sy’n canu am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, gyda rhyw, trais a ffeministiaeth ymhlith y prif themâu. Cymysg yw’r ymateb wedi bod i Reykjavíkurdætur yn eu gwlad enedigol, gyda’r gynulleidfa wrywaidd yn enwedig (pwy fysa’n meddwl) wedi bod yn anghefnogol gan honni nad ydyn nhw’n ‘gerddorion go iawn’. Yn amlwg, gellir dadlau ei bod hi’n broblematig gweld pobl wyn yn ceisio rhoi cynnig ar greu cerddoriaeth a’i wreiddiau mewn diwylliant sy’n ganlyniad i ormes yn erbyn y gymuned ddu. Ar y llaw arall, mae’n bwysig cydnabod fod hip-hop a rap yn blatfform agored gyda’r pwer i lwyfannu ystod eang o leisiau lleiafrifol. Ymladd dros hawliau merched y mae Reykjavíkurdætur gan weld hip-hop fel ffordd o sianelu barddoniaeth wleidyddol yn eu hiaith gynhenid. Felly, Gymru, efallai ei bod hi’n amser gadael y gitâr cyn ail-danio’r hyn a elwid yn ddychymyg? Y SELAR

17


d ... e w

d. we .. T

Y TH

E aD

T

i di Cly

i di Cly

Pwy? Yn wreiddiol o Rydychen, symudodd Eady Crawford i Aberaeron pan yn ddyflwydd oed. “Roeddwn yn hynod o lwcus i allu dysgu’r Gymraeg mor ifanc a dwi mor ddiolchgar i fy mam am hynny,” eglura’r gantores 19 oed. Yn fuan iawn ar ôl symud i Gymru fe ddechreuodd Eady a’i chwaer, Kizzy, gystadlu mewn eisteddfodau yn canu deuawdau. “Roeddem yn cystadlu bob blwyddyn hyd nes 2012, pryd symudom ni i Ferthyr, i fod yn agosach at Gaerdydd, fel bod fi a Kizzy’n gallu parhau â gyrfa gerddorol yn ne Cymru. “Dyma pryd nes i ddechrau gigio, gyda Kizzy ar y dechrau, ond ar ôl amser o’n i’n awyddus i ymuno â’r sin gerddoriaeth Gymraeg ac adeiladu proffil bach fy hunan trwy gigio o amgylch de Cymru a gweithio gydag artistiaid fel Amy Wadge a chanwr Keys, Matthew Evans.” Sŵn? Dechreuodd EÄDYTH fel prosiect yn 2014 pan ddechreuodd Eady greu cerddoriaeth dawns electronig a drwm a bas gyda Sam Humphreys o’r band, Calan. “Dechreuom weithio ar syniadau newydd a rhai o fy hen syniadau. Mae’r ddau ohonom yn caru ychydig o drwm a bas, pwy sydd ddim? Ond dwi’n caru’r broses gyfan o ysgrifennu a dod lan efo beats a synths, mae’n llawer o hwyl!” Dylanwadau? Mae Eady “yn caru Eden! Roeddwn yn ddigon ffodus i’w cefnogi nhw yng Nghlwb Ifor Bach ym mis Chwefror. Bands eraill dwi’n hoffi yw Super Furries, Manics, Sŵnami, Ffug, Calfari... Mae ’na lwyth!” Ymhlith rhai o’i dylanwadau o du hwnt i’r ffin mae hi’n rhestru Disclosure, NAO, Erykah Badu a Janelle Monáe.

18

Y SELAR

Hyd yn hyn? Yn ogystal â recordio gyda Sam Humphreys a rhoi tomen o stwff da ar ei safle Soundcloud mae Eady wedi bod yn brysur yn gigio, yn fwyaf diweddar gyda’r cerddor o Gaernarfon, Rhodri Foxhall. “Rydym wedi bod yn perfformio gyda’n gilydd ers tua blwyddyn ac yn ceisio adeiladu enw i’n hunain gan gigio a pherfformio ble bynnag a phryd bynnag y gallwn. Hyd yma eleni ni ’di perfformio yng ngŵyl Free For All yng Nghaerdydd ac yng Nghlwb Ifor. Ni hefyd wedi bod yn teithio lan i’r gogledd i ffilmio fideo ar gyfer un o’r traciau fydd ar fy EP newydd, Cyfrinach.” Ar y Gweill? Mae EÄDYTH yn brysur yn gweithio ar yr EP ar hyn o bryd ond mae’r dyddiadur gigs yn prysur lenwi hefyd. “Rydym yn gigio dros y de a’r gogledd. Ar ôl cefnogi Sam Brookes yn Gwdihw byddwn yn chwarae yn Focus Wales, yr Eisteddfod, Gŵyl Arall, Tafwyl ac rwy’n gobeithio bod llawer mwy i ddod. Byddwn yn rhyddhau fideo cerddoriaeth yn fuan hefyd a dwi’n edrych ymlaen at gystadlu ym Mrwydr y Bandiau Eisteddfod Ynys Môn!

Uchelgais? Boed hynny gyda’i chwaer, Kizzy, neu bellach ar ei phen ei hun, does dim dwywaith fod gan Eady fôr o brofiad am artist mor ifanc. Does fawr o syndod felly ei bod yn awyddus i barhau i chwarae rhan amlwg yn y sin. “Rwy’n gobeithio bod yn gerddor adnabyddus trwy ganu yn y Gymraeg, parhau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg trwy gerddoriaeth ac i greu gyrfa gydol oes i fy hunan yn ysgrifennu, gigio a theithio o gwmpas Cymru yn canu.” Barn Y Selar Er bod tipyn o gerddoriaeth electronig dda iawn o gwmpas yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd mae llawer ohono’n dueddol o fod yn eithaf tywyll, does dim digon o stwff pop yng ngwir ystyr y gair. Ond dyna’n sicr yw cerddoriaeth ddawns electronig EÄDYTH, riffs synths lliwgar, curiadau clwb nos a llais gwych, pop perffaith!

GWRANDEWCH OS YN FFAN O... SŴNAMI, DISCLOSURE A CASI


DYDDIAU AGORED

ANTUR NEWYDD O’CH BLAEN

Bydd Dyddiau Agored ar y dyddiadau canlynol yn 2017: DYDD SADWRN, MEHEFIN 24 DYDD SADWRN, GORFFENNAF 8 DYDD SUL, HYDREF 15 DYDD SADWRN, HYDREF 28 DYDD SADWRN, TACHWEDD 11

www.bangor.ac.uk

Nos Sadwrn 5 Awst £10

Ffermwyr Ifanc Môn yn cyflwyno

gigs CYMDEITHAS

Nos Fercher 9 Awst £10 Noson Gwlad y Medra

BRYN FÔN A’R BAND MEINIR GWILYM A’R BAND Calfari • Y Chwedlau Sophie Jayne • Dilys DJ

Panda Fight • Cordia

Nos Sul 6 Awst £10 Noson stand-yp gyda

Nos Iau 10 Awst Noson Cwis Cymru Rydd

TUDUR OWEN

Nos Wener 11 Awst £10

*noson anaddas i’r gwan-galon!

DJ Bethan Ruth

Beth Angell • Eilir Jones Hywel Pitts • DJ Dyl Mei

STEVE EAVES • KIZZY

CYMDEITHAS YR IAITH

Nos Lun 7 Awst £10 Noson Ikaching gyda

Nos Sadwrn 12 Awst £10

5-12 AWST 2017

Ysgol Sul • Cpt Smith DJ Branwen Ikaching

BODEDERN

YN EISTEDDFOD MÔN

CANDELAS

Nos Fawrth 8 Awst £5 NOSON BRAGDY’R BEIRDD

Lowri Evans • Brodyr Magee

GERAINT JARMAN BOB DELYN A’R EBILLION Gai Toms

DRYSAU 7.30 BOB NOS

Gwersylla ar gael!

tocynnau ar werth nawr: cymdeithas.cymru/steddfod hysbyseb selar.indd 1

Y SELAR

19

12/05/17 20:24


adolygiadau Ffrwydrad Tawel Ani Glass Pop electronig gwrth gyfalafol yw’r hyn a geir yn EP cyntaf Ani Glass fel artist unigol. Er y nostalgia y mae sain retro Ffrwydrad Tawel yn ei gynnau ym mhennau ffans cerddoriaeth yr 80au, darlunia Ani ddyfodol apocalyptaidd yn ei chasgliad o chwe chân. Nid ffuglen wyddonol sydd yma, chwaith, gan iddi ein rhybuddio bod ein ffordd o fyw yn y byd sydd ohoni’n daith stryd un ffordd i ddinistr llwyr. Mae’r electronica robotig, y melodïau bachog a’r llais benywaidd cryf yn fy atgoffa’n syth o albwm llwyddiannus Gwenno, Y Dydd Olaf. Mae’n amlwg fod natur arwynebol ein bywyd ni heddiw a’n obsesiwn â gwrthrychau arwynebol a masnach faterol yn bwnc pwysig i’r ddwy. Wedi dweud hynny, mae dylanwadau eraill yn amlwg ar Ani, ac mae’r bregeth lafar ailadroddus ar ‘Cariad Cudd’ yn atgoffa rhywun o Datblygu.  Heb os, ‘Y Ddawns’ ac ‘Y Newid’ yw’r ddwy gân gryfaf. Clywir y llais yn llawer cliriach yn y mics arnynt, sydd yn ei gwneud hi’n haws i

Morbid Mind / Arth HMS MORRIS Hyfryd gweld mwy o ddeunydd cyffrous a chwalupenaidd gan HMS Morris efo’r sengl ddwbl ddwyieithog Morbid Mind / Arth. Mae’r trac Cymraeg, ‘Arth’ yn agor gyda theimlad mabinogiaidd efo llais pwerus Heledd a harmonïau hurt (mewn ffordd dda) Sam! Mae’r agoriad yn teimlo’n hynafol bron wrth iddyn nhw fynd â ni i ryw fyd arall, ac fel o’n i’n setlo mewn i’r teimlad ges i sypreis i fy nghyffroi i wrth iddyn nhw newid gêr i haen drymach, a llais Heledd eto’n mynegi teimlad y neges am bwysigrwydd cadw enaid yr arth yn fyw ynddon ni’n hunain

amsugno ei negeseuon a’i sylwadaeth gymdeithasol graff. Mae ’na anthem gudd yn ‘Y Newid’ ac mae’r campwaith hwn yn arddangos hyblygrwydd ei llais hypnotig i’r eithaf. Mewn cyfnod lle mae ein cerddorion electronig yn fwy cynhyrchiol a swnllyd yn eu hymgyrch i hawlio sylw, mae’r EP hon yn ymuno â’r Dydd Olaf fel casgliad sy’n diffinio cyfnod cyffrous i gerddoriaeth danddaearol. Gethin Griffiths Dros Y Bont Yr Eira Yn adnabyddus am eu riffiau bachog a’u geiriau cofiadwy, dyma fand sy’n parhau i gyffroi’r sin gyda’u hanthemau gitaraidd. Er mai adlais o’r themâu a geir yn ‘Pan Na Fyddai’n Llon’ sydd yma, maent yn sicr wedi bod yn fwy arbrofol gyda’u sŵn y tro hwn, gyda datblygiad amlwg ers rhyddhau’r ddwy sengl ddiwethaf wrth iddynt wyro tuag at naws mwy pop-aidd. Gellir hefyd clywed elfen seicedelig yn treiddio mewn i’r sengl, wrth i rai pytiau yn ‘Dros y Bont’ fy atgoffa’n

wrth i’r byd gwffio i gadw cymunedau RHAID a chynefinoedd GWRANDO naturiol yn fyw. Mae ‘Morbid Mind’ yn dechrau’n hollol wahanol ac mae hi’n un anrheg o rythmau a haenau gwahanol! Mae sain dipyn trymach i’r gitârs yn hon, a’r llinell fas nodweddiadol o gymhleth yn cyd-fynd gyda rhythmau diddorol y dryms i greu cân i’w mwynhau a dawnsio iddi... er y neges dywyll! Fedra i ddim gorffen heb sôn am adran ganol ‘Morbid Mind’ sy’n gadael i ni glywed llais Heledd yn agor allan i rywle mor amrwd sy’n pwysleisio gallu’r band yma i roi caneuon gonest, creadigol yn eu steil unigryw eu hunain. Elain Llwyd

fawr o waith diweddaraf Tame Impala, a gydag albwm allan ym mis Gorffennaf, mi fydd hi’n ddiddorol gweld i ba gyfeiriad y maent am fynd nesaf. Ifan Prys Ta Ta Tata Geraint Rhys Er ein bod yn wynebu cyfnod tymhestlog yn wleidyddol, nid oes yna ryw lawer o gerddorion yn ymdrin â’r problemau hyn yn uniongyrchol yn eu cerddoriaeth. Nid un felly yw Geraint Rhys, sydd wedi ei gythruddo gan argyfwng gweithfeydd dur Tata. Roedd cerddoriaeth yn ddull poblogaidd i brotestio yn erbyn problemau tebyg a wynebwyd yn yr wythdegau, ond nid yw’r un peth yn wir am heddiw. Adlewyrcha Geraint ei ddicter yn ei ddewis o genre, mae ei gytganau’n atgoffa rhywun o fandiau ôl-bync y ddegawd ddiwethaf, Green Day neu My Chemical Romance efallai, a’i benillion yn eironig ac yn ysgafnach. Mae’r cryfder yn y neges, yn sicr, ac mae’n pigo’n cydwybod ni o’r cychwyn cyntaf. Er i’r fideo, a ryddhawyd gyda’r gân, roi llawer o bwyslais ar Geraint ei hun, sy’n atgoffa rhywun o Rhys Ifans yn ‘Importance of Being Idle’ gan Oasis, cawn weld y tir ôlddiwydiannol diffaith o’i amgylch sy’n ychwanegu at ei ddarlun sinigaidd o’n cymdeithas ni heddiw. Ys dywed y graffiti y tu ôl i Geraint a’i siwt, ‘Austerity is Failing’. Gethin Griffiths


Anrheoli Yws Gwynedd Ar ôl llwyddiant ysgubol albwm cyntaf Yws Gwynedd roedd y disgwyliadau’n uchel ar gyfer ei ail ac nid yw’n siomi. ‘Sgrîn’ a ‘Disgyn Am Yn Ôl’ sy’n dechrau’r albwm, dwy gân fachog sy’n nodweddiadol o steil pop hwylus Yws Gwynedd. Mae’r ddwy gân nesaf, ‘Dal i Wenu’ ac ‘Effro Fyddi Di’, yn fwy aeddfed, ddim mor chwareus na chyflym a’r ddwy gyntaf ond yr un mor ganadwy, yn enwedig yn ystod y cytgan. Braf cael digon o amrywiaeth gyda fersiwn newydd

Eniwe Omaloma Dyma gam i gyfeiriad seicedelig llawer dwysach na gwaith blaenorol Omaloma megis ‘Ha Ha Haf’. Er yn sengl sy’n ddigon hamddenol ei naws, mae sŵn yr artist wedi trymhau rhyw fymryn, gyda’r ymdriniaeth gerddorol ofalus a’r naws arbrofol sy’n cael ei gynhyrchu yn llwyddo i fynd â’r gwrandawyr i fyd breuddwydiol pellenig.         O Pink Floyd i Mac DeMarco, mae dylanwad rhai o frenhinoedd y byd seicedelig yn amlwg ar waith yr artist, ffactor sy’n gwneud iddo sefyll allan ymysg artistiaid eraill, a braf ydi gweld cynnyrch sy’n cynnig rhywbeth gwahanol, ffres a chyfoes i’r sin yng Nghymru. Cyffrous dros ben. Ifan Prys Torpido Lastigband Dychmygwch petai anghenfil wedi bwyta Blaidd, Uumar a’r Super Furries ac yna’n chwydu’i berfedd. Dyna, wrth straffaglu i feddwl am well gymhariaeth, yw’r ffordd orau o ddisgrifio sŵn unigryw Lastigband. Wedi ffurfio o aelodau Sen Segur a Memory Clinic, mae’r band yn gyfuniad o roc amrwd a synau seicedelig, a’r cyfuniad hwnnw’n blastio’n uchel ac eofn.  Mae’r trac agoriadol, ‘Jelo’, yn sicr yn debyg i stwff Sen Segur gynt

o ‘Dy Anadl Dau’ yn defnyddio llais a phiano’n unig i greu sain newydd, ac i mi, un o uchafbwyntiau’r albwm, cân sy’n dangos cryfder a safon uchel llais Yws. Dechreua ‘Geni Yn Y Nos’ a ‘Hyd Yn Oed Un’ yn debyg iawn cyn datblygu’n wahanol iawn gyda’r ddwy yn adleisio sain yr albwm cyntaf. Mae ‘Anrheoli’ yn debyg i’r ddwy gân gyntaf, yn fachog ofnadwy ac yn llawn egni, dwi’n gweld y dorf yn neidio i hon ym Maes B yn barod. Mae’r albwm yn gorffen â’r trac ‘Un Man’, cân arafach arall sy’n dangos dawn chwarae gitâr Ywain ac Ifan Davies, nodyn swynol i orffen albwm safonol iawn. Rhys Tomos

gyda gitârs ychwanegol yn tarfu ar y seicedelia gan altro’r alaw yn llwyr gyda’r gytgan. Naws dawelwch sydd i ‘Ti’n Rhydd’, tra bod ‘Rhedeg’ yn gân ag iddi alaw heintus sy’n eich denu i dapio’ch troed. Heb os, ‘Arnofio’ yw seren yr EP i mi, gyda sŵn yr allweddellau’n ffrantig a’r synths yn heintus. Bedyddiwyd yr EP gan deitl addas iawn, Torpido, yn arf chwim a chyflym sy’n gwibio cyn ffrwydro. Mae’r casgliad yn fywiog, yn ymosodol felly ar brydiau, a theimlir weithiau (er ’mod i’n swnio fel Mamgu yn datgan hyn) bod y foliwm dwtsh yn rhy uchel. Fodd bynnag, dyma gyfuniad diddorol o genres, ac er nad at ddant bawb, bydd hi’n ddiddorol gweld y sain yn datblygu a throsi’n rhan o set fyw yn y dyfodol.  Miriam Elin Jones Gwalia Gai Toms Mae Gai Toms yn cydnabod ei fod yn benthyg ac ailgylchu ar yr albwm yma, boed hynny yng ngeiriau Bob Marley-aidd ‘Yr Hwyliau’ neu yn y nod a roddir i Gruff Rhys yn ‘Bôrd’, neu hyd yn oed yn yr alawon Cyndi Lauper sydd yn codi’u pen yma ac acw. Ond cyn i chi ddigalonni, benthyg o barch sydd yma, nid ryw gopïo slei dros yr ysgwydd. Daw’r enghraifft amlycaf o hyn yn nheitl-drac yr albwm, ‘Gwalia’, ble mae Gai wedi llwyddo i gymryd fersiwn Eleri Llwyd o’r gân ‘O

Gymru’ a chreu darn newydd o gelfyddyd sydd yn berthnasol i 2017 ond yn deilwng o’r gwreiddiol hefyd. Yng nghanol amrywiaeth aml genre Gwalia yr hyn sy’n clymu’r cwbl at ei gilydd yw’r thema gref, gyda llais cenedlaetholgar asgell chwith heddychlon Gai’n plethu’n gywrain trwy’r cyfanwaith. Weithiau’n ddwys fel yn ‘Hau / Chwyldro Mawr Pawb’ ac weithiau’n ddoniol fel yn ‘Costa del Jeratrica’, yr un yw’r alwad, “deffrwn”. Gwalia mewn gair? Perthnasol. Gwilym Dwyfor Taxol Twinfield Bît cryf a nodyn heriol yn ailadrodd sy’n agor y gân cyn i’r geiriau ‘Does dim byd da i ddod’ daro ergyd yr un mor gryf â’r bît. Pan nad yw’r llais yn canu/adrodd mae allweddellau’n ailadrodd riff byr aflonydd ac yn hwyrach mae sŵn synth bygythiol yn tawelu a chynyddu, sy’n creu naws gwych. Mae’r gân yn yr un arddull â chaneuon eraill Twinfield, pob-electro gyda geiriau’n cael eu hadrodd ar ei ben. Rhwng tebygrwydd y llais, cynnwys geiriau’r caneuon, eu sŵn a’r agwedd, digon rhwydd fyddai camgymryd caneuon Twinfiled am waith Datblygu, sydd ddim yn beth drwg o gwbl. Bethan Williams


adolygiadau Cymorth ARGRPH Mae popeth sydd yn dod allan o stabl Libertino Records ar hyn o bryd yn eithaf cyffrous ac nid yw sengl ddiweddaraf ARGRPH yn eithriad. Wedi’r intro R.Seiliog-esque, ceir adlais o Palenco ac Ysgol Sul yn synau gitâr breuddwydiol ‘Cymorth’, sy’n fawr o syndod efallai o ystyried mai Llŷr Pari fu’n cynhyrchu. Eto, mae stamp Emyr Siôn ei hun yn gryf ar y sengl hefyd, yn ei arddull lleisiol nodweddiadol. Mae yna hygrededd yn perthyn i’r geiriau y mae o’n eu canu hefyd wrth iddo drin thema anodd iechyd meddwl yn aeddfed a theimladwy. Dyma drac sy’n gwneud digon i ddal sylw fel sengl ond mae’n gadael blas mwy a dwi’n teimlo efallai y byddai’n gorwedd yn fwy cyfforddus fel rhan o gasgliad ar EP neu albwm. Gallaf yn sicr ddychmygu gwrando ar fersiwn fyw estynedig ohoni’n adeiladu’n raddol tuag at uchafbwynt epig. Gwilym Dwyfor Sws Olaf Messrs Beth ydach chi’n ei gael wrth ddod â thri o gerddorion mwyaf dylanwadol Cymru ynghyd i greu band? Awgryma EP cynta’ Messrs mai rhywbeth cyffrous iawn ydy’r ateb. Dyma gasgliad byr amrywiol, gyda phedair cân wahanol iawn i’w gilydd sydd efallai’n adlewyrchu ystod cerddorol eang y gwŷr (gweld be nes i fana?) sy’n gyfrifol. Er cyfraniad Mark Roberts a John Griffiths yn cynnig cynfas perffaith, does dim amheuaeth mai Dave R. Edwards ydy seren y campwaith yma. Gall geiriau caneuon fod destun gwawd yn aml ac yn bethau ffwrdd a hi, ond dwi’n un sy’n gweld gwerth mawr mewn geiriau da, ac mae Dave yn un o’r meistri: “Mi wn roedd rhaid i ti symud ymlaen, a fy ngadael yn fy unfan. I eistedd mewn pwll o atgofion heb dy wen, heb unrhyw gusan.”

Does dim llawer o gerddorion sy’n gallu gweu cwpled fel’na i gân, a dim ond un esiampl o nifer ydy hon. Bu’n llawer rhy hawdd i ddisgrifio mynegiant Dave fel ‘poeri geiriau’ yn y gorffennol, ond ar Sws Olaf, mae o wir yn canu’r caneuon gyda theimlad, sy’n beth hyfryd iawn. Er yr amrywiaeth cerddorol – o sŵn low-fi peiriant drymiau a strymio cyson ‘Hangover Rhyw’, i’r faled swynol ‘Gwasanaeth Lles’ a chynildeb synths ‘Heb Unrhyw Gusan’ – mae un thema’n clymu’r caneuon, sef diwedd perthynas. Ond er y testun, does dim chwerwder yn y caneuon, dim ond hiraeth. Owain Schiavone Solomon Calan Roeddwn i’n poeni braidd cyn gwrando ar yr albwm yma. Yn eironig uffernol, mae cerddoriaeth gwerin wastad wedi fy nharo i fel ryw glwb egslwsif sydd yn gaeedig i’r rhai sydd ddim yn meddu ar yr arbenigedd angenrheidiol. Yna, dyna wrando ar drac agoriadol Solomon, ‘Kân’, a meddwl “waw, ma’ hon yn eitha’ cŵl”! Mae sain dwfn yr acordion yn swnio fel ryw setting gwallgo’ ar synths ac er bod arddull y cytgan wedi ei ysbrydoli gan yr hen arfer o lafarganu salmau mae’n swnio bron iawn fel rap modern. Mae samplo’r diweddar Nigel Jenkins yn darllen ei gerdd ‘The Creation’ yn gyffyrddiad neis hefyd. Rhaid cyfaddef bod gweddill y record yn nes at yr hyn yr oeddwn i’n disgwyl ei glywed cyn gwrando. Dwi’n deall digon i ddweud wrthych fod cerddorion meistrolgar ar waith yma a bod y cwbl yn amlwg o safon uchel. Mi wnes i hyd yn oed dal fy hun yn (trio) dawnsio gwerin i gyfeiliant ‘#Deportationselfie’. ‘Kân’ heb os yw’r trac mwyaf hygyrch i ddechreuwr fel fi, a dwn’im, efallai bod gofod i gyhoeddiad mwy arbenigol i wneud cyfiawnder â’r gweddill? Gwilym Dwyfor

Pam Fod y Môr Dal Yna Tegid Rhys Dydw i heb glywed dim byd gan Tegid Rhys o’r blaen felly roedd y trac yma’n hollol newydd i mi. Dwi wir yn hoffi’r gwaith offerynnol ar y gân yma! Mae’r dryms yn hamddenol braf, a’r dur pedal yn gweddu steil gwerinol/ canu gwlad y gân. Er hynny, ’dw i’n teimlo fod mics y llais dros y gân ddim cweit yn iawn. Mae o’n teimlo’n or-amrwd i mi ac felly dwi’m yn cael yr un teimlad hamddenol hawdd-i-wrando arno fo pan mae’r llais yn canu’r penillion. Mae ’na effaith clyfar iawn ar y gân hefyd sydd yn swnio fel tonnau môr gan wneud i’r gytgan swnio bron fel ei bod yn cael ei chanu yn ddwfn o dan y dŵr yn rhywle. Tydi’r geiriau ddim at fy nhâst i’n anffodus ac yn teimlo braidd yn clunky weithia’, ond mae hon yn gân hawdd i’w chael yn chwarae yn y cefndir. Elain Llwyd Trugaredd / Nos Da Myfanwy A. W. Huws Cân offerynnol yw ‘Trugaredd’ yn bennaf, dim ond tuag at y diwedd mae llais sydd bron yn annisgwyl ar y gwrandawiad cyntaf, yn ymuno ac yn canu’r alaw. Mae sŵn syml iawn iddi, gyda dim ond gitârs a dryms. Mae ‘Nos Da Myfanwy’ yn offerynnol drwyddi, ac yn chwareus ar adegau. Eto, dim ond gitârs a dryms sydd. Ond mae’r ddwy gitâr, er bod un yn cyfeilio i’r llall, mor amlwg â’i gilydd ac yn cyd-blethu’n un sain nes bron bod rhaid gwrando’n astud i glywed y ddau ar wahân. Er bod y ddwy gân yn swnio’n syml, mae’n amlwg o wrando’n iawn mai cyfansoddi a threfnu da a chydblethu sain sy’n rhoi’r argraff hynny, ac yn ychwanegu at yr hud. Bethan Williams


NEWYDD O’R LOLFA

#apffrydio – gwasanaeth yn fyw! Y gwasanaeth ffrydio newydd yn benodol ar gyfer cerddoriaeth gan labeli Cymru – ap ar gyfer dyfeisiadau iOS ac Android ynghyd â fersiwn gwe

£9.99

tanysgrifiad misol Sylfaenol £6 Premiwm £9 mis o dreialu am ddim

£7.99

Cofrestrwch ar y wefan am fis o dreial am ddim, yna lawrlwythwch yr ap i’ch dyfais o’r App Store neu’r PlayStore

£10 £6.99 Cofiwch alw heibio ein stondin! 01970 832304

www.ylolfa.com

#chwyldroffrydio #tâlteg #cefnogiartistiaid twitter.com/aptoncymru facebook.com/aptoncymru instagram.com/aptoncymru www.apton.cymru apton@apton.cymru

Y SELAR

23


Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant AstudioYDDS UWTSD SNAPUWTSD 24

Y SELAR

www.ydds.ac.uk

Profile for Y Selar

Y Selar - Mehefin 2017  

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg.

Y Selar - Mehefin 2017  

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg.

Profile for y_selar
Advertisement

Recommendations could not be loaded

Recommendations could not be loaded

Recommendations could not be loaded

Recommendations could not be loaded