Issuu on Google+

y Selar RHIF 28 | EBRILL | 2012

Crash.

Disco!

y-selar.co.uk y llongau | gwobrau’r selar 2011 | albyms y flwyddyn | adolygiadau

1


Sêl ar ôl gatalog

Hwre! Hwre! Mae’r teitlau canlynol ar gynnig arbennig o FawrTH y 1 aF yMlaen … bacHwcH Fargen!

Rasal•Gwymon•Copa £4.99

£4.99

£4.99

£4.99

£2.50

£1.50

£4.99

£1.50

£2.99

£2.99

£2.99

£1.50

POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY WWW.SAINWAlES.COM

£4.99

£2.50

£4.99

Newydd :

Georgia Ruth In Luna Nifer cyfyngedig o finyl 10” yn y siopau nawr neu lawrlwythwch o iTunes

www.sainwales.com £4.99

£4.99

£4.99

ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 sain@sainwales.com


y Selar RHIF 28 | EBRILL | 2012

Ydy wir, mae amser hynny o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto! Dyma rifyn cyntaf 2012 o’r Selar, (a blwyddyn newydd dda i chi gyda llaw) sy’n golygu un peth... mae’n amser cyhoeddi enillwyr Gwobrau’r Selar 2011! Dwi’n siŵr eich bod chi ddarllenwyr brwdfrydig wedi bod yn methu cysgu’r nos cymaint yw eich cyffro ynglŷn â’r gwobrau eleni. Yn sicr fe wnaeth nifer fawr ohonoch fwrw’ch pleidlais dros y 10 categori sy’n agored i bleidlais y cyhoedd, ac roedd yr enwebiadau’n ddiddorol ac yn amrywiol ym mhob categori – tystiolaeth o fwrlwm y sin ar hyn o bryd heb os. Ond pwyllwch am eiliad canys mae llawer iawn mwy i gynnwys y rhifyn yma o’ch hoff gylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg cyfoes, oes wir. Mae ‘na gyfweliadau difyr gyda dau artist sy’n arloesi gyda’u cerddoriaeth, arolwg o fideos cerddorol annibynnol Cymraeg ac wrth gwrs eich hoff eitemau amrywiol arferol. Heb oedi ymhellach felly, ewch ymaith i bori trwy dudalennau lliwgar rhifyn diweddaraf Y Selar, ond cofiwch un peth os gwelwch yn dda, ni ellir bwyta’r wy cyn ei ddodwy! Owain S

4

6

GOLYGYDD

Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

DYLUNYDD

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

MARCHNATA

Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)

CYFRANWYR Gwilym Dwyfor, Griff Lynch, Casia Wiliam, Owain Gruffudd, Miriam Elin Jones, Ifan Edwards, Huw Stephens, Gareth Iwan a Ciron Gruffydd.

CYNNWYS DYL MEI

4

FIDEOS ANNIBYNNOL

6

GWOBRAU’R SELAR 2011

10

10 UCHAF ALBYMS 2011

12

CRASH.DISCO!

14

DAU I’W DILYN

18

NEWYDDION

20

ADOLYGIADAU

22

Llun clawr: Crash.Disco! Ffotograffydd: Betsan Evans

12

14

@yselar yselar@live.co.uk

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


Y LLONGAU YN HWYLIO I’R TYWYLLWCH ...

GEIRIAU: CIRON GRUFFYDD

M

LLUNIAU: RHYS LLWYD

ae Dyl Mei yn adnabyddus i unrhyw un sydd wedi dilyn y sin gerddoriaeth yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf. Roedd yn aelod o’r band hiphop Pep le Pew a’r band parti Genod Droog, a fo hefyd oedd yn gyfrifol am gynhyrchu rhai o albyms gorau’r cyfnod gan gipio tlws cynhyrchydd y flwyddyn yng ngwobrau roc a phop Radio Cymru bump o weithiau. Ond dros y misoedd diwethaf mae Dyl wedi bod yn rhyddhau caneuon prosiect arall, Y Llongau, ar y we yn rhad ac am ddim. Ond nid prosiect newydd yw hwn yn ôl Dyl. “Mi o’n i wedi bod yn rhan o Pep le Pew ac roedd Genod Droog ar fin dechrau felly mi o’n i isho albwn mwy acwstig yn hytrach na phethau electroneg a hip-hop,” meddai. “Felly nes i ddechrau ‘sgwennu ar gyfer Y Llongau tua 2005.” Gan fod Y Llongau wedi bod yn hwylio ers sawl blwyddyn bellach, ac oherwydd mai Dyl sy’n recordio’r offerynnau ei hun, mae’r awen a’r awydd i sgwennu yn mynd a dod: “Mi allai sgwennu deg cân mewn wythnos ac wedyn dim byd am bedair blynedd arall,” esbonia. Mae’r elfen bersonol yma’n amlwg yng nghaneuon Y Llongau ac mae’r geiriau i gyd yn golygu rhywbeth i Dyl. “Does ‘na ddim llawer o fandiau Cymraeg sy’n ‘sgwennu geiriau amlwg, lle ti’n gweld teimlad y gân yn syth,” meddai Dyl. “Mae Cowbois Rhos Botwnnog yn neud o ac mae ‘na rhai pethau gan Meic Stevens - a dwi’n gobeithio bod Y Llongau yn swnio fel ‘na hefyd.” Yn ogystal â geiriau personol am berthnasau mae o hefyd yn hel atgofion am ei blentyndod yn ardal Porthmadog yn y caneuon. “Mae ‘Gestiana’ am y llong olaf gafodd ei hadeiladu ym mhorthladd Porthmadog ac a suddodd ar ei thaith gyntaf un. Ac mae ‘Carreg Samson’ yn sôn am graig ym Mhorth y Gest lle oedd nain yn mynd â ni am dro pan oedden ni’n tyfu fyny.” O ran dylanwadau cerddorol, mae Dyl yn dweud mai edrych nôl ar hen gerddoriaeth Gymraeg y ‘60au a’r ‘70au mae o’n bennaf erbyn hyn. “Mae’n siŵr mai’r dylanwad cerddorol mwyaf Y Llongau ydi Super Furry Animals a Gruff. Ond mae caneuon pobl fel Eleri Llwyd a Dewi Pws hefyd yn seicadelig yn ei ffordd ei hun. Dwi hefyd wedi bod yn gwrando lot ar Dafydd Iwan yn ddiweddar. Mae ganddo fo fersiwn wych o ‘Ji Ceffyl Bach’ ar un record o’r ‘60au! “Ond hefyd, gan fod Y Llongau wedi ei recordio yn lo-fi ac

4

y-selar.co.uk

yn ddiymdrech - yn wahanol i’r Genod Droog lle o’n i wedi gwneud ymdrech i fod yn high-fi ac yn polished - dwi’n cael sŵn eithaf seicadelig.” Oherwydd bod Y Llongau yn brosiect unigol mae Dyl yn mwynhau’r rhyddid mae’n ei gael i ysgrifennu yr hyn y mae o eisiau. “Y peth ydi, dwi’n gasglwr mawr o bethau,” esbonia. “Dwi’n casglu recordiau ac yn cadw straeon diddorol dwi’n gweld ar y we. Mi alla’i gadw stori am ddwy flynedd ac yna dod ar ei


“Oherwydd bod Y Llongau yn brosiect unigol mae Dyl yn mwynhau’r rhyddid mae’n ei gael i ysgrifennu yr hyn y mae o eisiau.” thraws hi eto a chofio mod i fod i sgwennu cân amdani. A gan ym mod i’n chwarae pob offeryn fy hun, dwi ddim yn gorfod delio hefo politics band ac mi fedrai ddilyn fy nhrywydd fy hun yn gerddorol.” Ond er bod Y Llongau yn brosiect hirdymor dim ond rŵan mae’r caneuon yn cael eu rhyddhau ac mae datblygiad y we dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn allweddol i hynny yn ôl Dyl. “Mae’r we wedi ei gwneud hi’n gymaint haws i rannu

cerddoriaeth. Bum mlynedd yn ôl mi fyswn i wedi gorfod creu a thalu am fil o CDs ac wedyn gwneud colled gan fod neb yn prynu nhw. Rŵan, mi alla’i roi’r caneuon i fyny am ddim a ti’n cael ymateb iddyn nhw’n syth. Mai jest yn dda clywed pobol yn deud petha neis!” Ac mae o hefyd yn meddwl bod technoleg fodern wedi bod o fantais fawr i fandiau Cymru. “Mae lawr lwytho wedi bod yn ddrwg i fandiau ac artistiaid rhyngwladol ond yng Nghymru does ‘na neb erioed wedi gwneud pres mawr yn gwerthu recordiau. Gigio, ac yn y gorffennol, arian gan radio a theledu oedd y prif incwm. Mae’r meddylfryd DIY yma yn gwneud y sin yn anhygoel o iach ac er bo chdi’n gorfod tyrchu drwy lot o shit, mae ‘na bethau anhygoel yno hefyd fel Amrwd.com. Y wefan gerddoriaeth Gymraeg orau ar hyn o bryd.” Pan oedd o’n ddeunaw oed, fe symudodd Dyl i Blaen y Cae yng Ngarndolbenmaen gan agor stiwdio recordio, ac roedd o yno am ddeng mlynedd. Yna, ddwy flynedd yn ôl, fe roddodd o’r ffidil yn y to. Ydy o’n falch ei fod o wedi rhoi’r gorau iddi pan wnaeth o? “Erbyn y diwedd, do’n i ddim yn gwerthfawrogi byw yn y lle prydferth ‘ma yng nghanol unlle hefo stiwdio drws nesa i’n stafell wely fi. Mi o’n i’n teimlo bo fi angen toriad o’r byd cerddorol am sbel. “Erbyn hyn, dwi’n cael fy awydd i greu cerddoriaeth nôl a dwi wedi prynu offer newydd. Ond y peth ydi, mae’r set-up sydd gen i rŵan yn lot llai na be oedd gen i. Mae pethau DIY mor hawdd erbyn hyn, mae dydd y stiwdio wedi mynd achos does ‘na ddim angen cynyrchiadau mawr.” Ac yntau wrthi’n recordio eto, oes record Y Llongau ar y gorwel neu a fydd Dyl yn parhau i roi’r gerddoriaeth am ddim ar we? “Dwi awydd creu EP,” meddai. “Ond nifer cyfyngedig iawn fydd ‘na pan ddaw o - a dwi’n awyddus i roi gwaith celf yn rhan ohono fo fel mae VVolves neu’r Record Goch wedi gwneud yn ddiweddar. Dwi’n meddwl bod rhaid cynnig rhywbeth ychwanegol os wyt ti’n mynd i’w werthu dyddiau yma.” A phryd ddylai darllenwyr Y Selar edrych ‘mlaen at yr EP? “Dros y flwyddyn nesa gobeithio. Ond ella neith o ddigwydd ac ella neith o ddim. Gawn ni weld.” A gyda hynny roedd fy nghyfweliad gyda Dyl Mei ar ben ac fel sawl morwr arall dros y blynyddoedd fe aeth o allan i’r oerni heb addo dim. y-selar.co.uk

5


Fideos Annibynnol GWILYM DWYFOR SY’N EDRYCH AR RAI O’R ARTISTIAID SYDD WEDI BOD YN CYNHYRCHU FIDEOS I FYND GYDA’U CANEUON, GAN OFYN PAM NAD OES RHAGOR YN GWNEUD YR UN PETH?

Tydi fideos cerddoriaeth ddim yn newydd i’r sin Gymraeg. Dwi’n cofio gwylio albwm Sobin, Caib, i gyd ar fideo yn y dyddiau pan oedd fideo’n llythrennol yn fideo - roedd rhaid i chi ei roi o mewn bocs mawr du o dan eich teledu pren ac yn aml iawn roedd o’n mynd yn sownd. Ond mae pethau’n llawer haws y dyddiau yma ac mae gwylio fideo cerddoriaeth ar y we mor hawdd â chael gêm o solitare. Ond mae rhywun yn dal i deimlo ein bod ni ychydig bach ar ei hôl hi o ran cynhyrchu fideos cerddoriaeth annibynnol yma yn yr SRG. Mae yna fandiau ac artistiaid yn gwneud ac mae’r rheiny yn ei wneud o’n dda iawn, ond yn yr oes sydd ohoni beth sydd yn stopio pob band neu artist rhag cynhyrchu rhyw fideo bach i’w roi ar y we? Mae’n ffordd dipyn gwell o wylio band nag ymdrech feddw rhywun efo camera ffôn yng nghefn rhyw gig lle ’da chi’n clywed mwy o’r gynulleidfa na’r band ei hun. A phan dwi’n dweud fideos dwi ddim yn golygu rhyw rapiwr Americanaidd yn dawnsio’n chwareus gyda’i harîm o ferched hanner noeth - soft porn (gwael) efo cerddoriaeth (gwaeth) dwi’n galw hynny. Sôn yr ydw i’n hytrach am artistiaid yn gwneud ymdrech i greu rhywbeth sy’n rhoi dimensiwn arall i’w cerddoriaeth, rhywbeth creadigol, dim rhywbeth i lenwi tair munud ar sianeli cerddoriaeth fydd yn cael eu dangos mewn tafarndai o dro i dro heb y sain! Mi gefais i fy ngyrru gan Y Selar i holi ambell i fand ac artist sydd wedi bod yn creu fideos yn ddiweddar i ddarganfod mwy am y fideo cerddoriaeth annibynnol Cymraeg, gan ddechrau trwy holi pa mor bwysig ydyn nhw. Un dyn sydd yn hoff iawn o’i fideos yw mr huw, rhyddhaodd un i gyd fynd â phob cân oddi ar ei albwm diwethaf, Gogleddwyr Budur. “Erbyn hyn dwi’n teimlo’i fod o’n hanfodol. Mae o’n wych, mae dy gynulleidfa di’n fyd eang erbyn hyn. Mae o’n gallu dod ag elfen

6

y-selar.co.uk

arall allan yn y gerddoriaeth, dod â chân yn fyw mewn rhai achosion.” Un arall sydd wedi rhyddhau ambell fideo i hybu ei gerddoriaeth yw Alun Battrick. “Mae fideos yn bwysig iawn i mi fel artist, maen nhw’n cynnig cyfle ychwanegol i mi atgyfnerthu’r syniadau yr wyf yn trio’u cyfleu trwy’r geiriau a’r gerddoriaeth. Maen nhw hefyd yn effeithiol iawn o ran hysbysebu fy ngwaith i’r byd a chreu argraff dda dros y we.” Un o fandiau prysuraf y sin yn 2011 oedd Creision Hud. Fe ryddhaodd y band sengl ym mhob mis yn ystod y flwyddyn ac roedd y fideos yn rhan hollbwysig o’r arbrawf honno yn ôl y prif leisydd, Rhydian Lewis. “Roedden nhw’n help i werthu’r senglau ac yn ffordd wahanol o roi’r miwsig allan, mae pobl yn licio gweld rwbath wrth wrando.” Ac mae Owain Gwilym o Trwbador yn cytuno bod yr elfen weledol yn hollbwysig wrth ryddhau cerddoriaeth ar y we. “Mae fideos yn bwysig iawn i ni. Mae pawb yn gwrando ar gerddoriaeth ar Youtube a phethau felly ac mae’n rhaid cael rhywbeth diddorol iddyn nhw’i weld ar yr un pryd.” Ond pam felly nad oes mwy o fandiau ac artistiaid yn gwneud hynny? Achos rhaid derbyn mai yn y lleiafrif y mae’r criw gweithgar yma a fu’n siarad â’r Selar. Yn sicr, dyw Alun ddim yn meddwl fod digon o fideos annibynnol. “Mae ’na ddigonedd o bethau Cymraeg efo artistiaid yn meimio ar lwyfan neu mewn stiwdio ond dim hanner digon o fideos dychmygol sy’n dilyn naratif o ryw fath ac yn gwneud y gorau o’r cyfrwng.” Serch hynny, mae’n hyderu y gwelwn fwy yn y blynyddoedd i ddod wrth iddi ddod yn haws creu fideo eich hunain, “Dwi’n teimlo y daw llawer mwy i’r golwg cyn hir gan fod hi gymaint rhatach y dyddiau ’ma i gynhyrchu fideos o ansawdd da gartref.”


“Ma’ hi’n ddigon hawdd ista o gwmpas yn disgwyl i rywun ddod i ffilmio ond mai’r un mor hawdd jyst mynd allan a’i neud o dy hun.”

Mae Rhydian hefyd yn teimlo y gall bandiau eraill wneud mwy, “Ma’ ’na dipyn yn gwneud ar hyn o bryd ond ’swn i’n licio gweld mwy achos dio’m gymaint â hynny o drafferth. Mae ’na ambell un ’di bod ac maen nhw wedi bod yn rhai da ond gora’ po fwya’ dwi’n meddwl.” Mae mr huw yn hyderus bod fideos ar gynnydd ac mae’n adleisio’r ffaith fod creu fideo o fewn cyrraedd unrhyw un erbyn heddiw. “Ma’ ’na fwy a mwy yn gwneud, felly mae’r sefyllfa yn un iach iawn. Mae gan bawb bron erbyn hyn gamera o ryw fath. Cafodd fideo ‘y lleisiau’ ei wneud jyst yn defnyddio iPhone. Does ’na’m esgus peidio os di’r gallu a’r offer gen ti.”

Teledu Efallai bod gan S4C draddodiad eithaf iach o ran rhaglenni cerddoriaeth, o Fideo 9 i i-dot ac yn fwy diweddar, Bandit. Ond doedd Bandit ddim yn darlledu’n gyson ers blynyddoedd ac mae bellach wedi gorffen yn gyfan gwbl gan adael bwlch mawr. Ac er y daw rhywbeth i lenwi’r bwlch hwnnw yn gymharol fuan gobeithio, efallai nad yw’n beth drwg i gyd gan y gallai orfodi bandiau ac artistiaid i dynnu eu bysedd o’u clustiau a gwneud rhywbeth eu hunain. Mae gan mr huw deimladau eithaf cryf ar y mater. “Mae o’n siomedig iawn bod S4C ddim efo rhaglen gerddoriaeth ar hyn o bryd. Ma’n bwysig cael llwyfan i artistiaid Cymraeg ar y sianel. Ma nhw i weld yn lluchio pres at raglenni cachu efo actio gwael... dwi’n gwybod ei bod hi’n hawdd cwyno am y peth, ond ma’r sianel ar ei thin.” Ai dyma’r amser am fwy o fideos annibynnol felly? “Mae fideos annibynnol yn rhoi rheolaeth lwyr i’r artist ddeud beth bynnag mae o/hi eisiau. Dwi’n meddwl os fysa chdi’n sbïo nôl dros y bum cyfres ddiwethaf o’n rhaglen gerddoriaeth, ’sa chdi’n sylwi ar yr un fideos yn cael eu gwneud eto ac eto, jyst efo cân/band/artist gwahanol. Felly ma’n beth gwych bod pobol arall, efo syniadau gwahanol yn gallu cael eu fideos allan yna ... jyst ddim ar y teledu.” Adleisio hynny a wna Rhydian, gan gytuno bod angen rhaglen fel Bandit eto ynghyd â’r allbwn annibynnol, ond mae’n meddwl hefyd bod rhaglen o’r fath yn gallu creu diogrwydd. y-selar.co.uk

7


“Mae angen y ddau, yn sicr mae angen rwbath ar S4C, rwbath mwy swyddogol fel’na, ond dwi ddim yn meddwl mai dyna’r unig beth ddylsa pobl fod yn ei wneud. Dwi’m yn meddwl y dyla bandiau ddibynnu gormod ar rwbath fel’na achos mai’n ddigon hawdd ei neud o dy hun. Ma’ hi’n ddigon hawdd ista o gwmpas yn disgwyl i rywun ddod i ffilmio ond mai’r un mor hawdd jyst mynd allan a’i neud o dy hun.” Er bod Trwbador yn grŵp sydd wedi gwneud defnydd da o fideos annibynnol i hyrwyddo’u cerddoriaeth mae Owain yn credu fod lle i raglen fel Bandit o hyd. “Dw i’n meddwl bod bandiau yn y SRG yn lwcus iawn. Mae sioe fel Bandit yn rhoi cyfle i fandiau ifanc gael gwneud fideo proffesiynol ac wedyn maen nhw’n gallu defnyddio’r fideo ‘na i hyrwyddo’r grŵp ymhellach.” Ac er bod Alun Battrick hefyd yn pitïo nad yw S4C yn gwneud digon mae o’n meddwl bod newid mawr ar droed. “Dwi o’r safbwynt bod y llwyfan swyddogol wedi

symud yn lle diflannu’n gyfan gwbl. Dwi’n credu bod llawer mwy o bobol erbyn hyn yn cysylltu efo cerddoriaeth Gymraeg trwy’r cyfrifiadur na’r teledu... Mae’n llawer gwell gen i fel artist gael rheolaeth hollol dros y ffordd mae fy ngwaith yn cael ei ddangos i’r cyhoedd.”

“Dwi’n credu bod llawer mwy o bobl erbyn hyn yn cysylltu efo cerddoriaeth Cymraeg trwy’r cyfrifiadur na’r teledu...”

Yr Ochr Ariannol Wrth gwrs, mae yna ysgogiad ariannol i wneud rhywbeth gyda S4C ac ni ellir gweld bai ar fandiau am dderbyn y siec pan mae’r cynnig yn dod. Ond does dim rhaid i fideo annibynnol gostio arian mawr ac yn wir, gall creu fideo fod yn werth chweil os yw’n cynyddu gwerthiant cân. Rhaid cofio ein bod yn sôn am niferoedd cymharol isel wrth sôn am ‘werthiant’ deunydd Cymraeg a dyw’r fideo gorau erioed ddim yn mynd i roi record blatinwm ar y wal ond mae fideo da yn sicr o godi ymwybyddiaeth o gân. “Does dim rhaid iddo fo fod yn ddrud” medd Rhydian. “’Da ni wedi trio cadw costau i lawr wrth wneud rhai ni achos yn amlwg mae pres yn brin fel mae hi. Yn amlwg, mae’n neis cael pres gan S4C i wneud rhywbeth mwy uchelgeisiol ond alli di neud o jyst wrth gael dipyn o ffrindiau i dy helpu di. Er enghraifft wnaethon ni jyst rhedeg o gwmpas Caerdydd ar gyfer ‘She Said’, nath hynny ddim costio dim.” Ac mae’n bosib gweld effaith fideos yng ngwerthiant caneuon yn ôl mr huw, “Ma’r elfen weledol yn bwysig iawn. Dwi wedi sylwi bod nifer fy lawr lwythiadau wedi mynd fyny pob tro dwi wedi rhoi fideo fyny ar fy ngwefan ac ar Youtube.” Ond nid gwerthiant recordiau yw’r unig linyn mesur o fantais creu fideo fel yr eglura Alun. “Mae fideos yn bendant yn cynyddu diddordeb yn fy ngwaith yn gyffredinol sydd o ganlyniad yn cynyddu diddordeb yn y perfformiadau byw a

8

y-selar.co.uk

dyna le dwi’n ennill y rhan fwyaf o’r pres.” A thynnodd Owain fy sylw at un arall o fanteision y fideos. “Mae’n help mawr ar y we. Mae blogs yn fwy parod i wneud eitem ar fand os oes fideos a lluniau da gyda nhw.”

Mewn diwydiant mor gystadleuol mae’n bwysig iawn gwneud rhywbeth gwahanol i dynnu sylw ac yn sicr mae yna le i arbrofi gyda fideos yn y SRG. Er enghraifft, fe gafodd mr huw bobl wahanol i gynhyrchu ei fideos ef i gyd, “Odd o’n wych cymryd rhan yn y fideos, heb fod â llawer o ddeud yn y cynnwys. Mae rhywbeth neis mewn gadael i rywun arall gymryd rheolaeth o beth wnaeth ddechrau i ffwrdd fel cân gen i.” Ac un peth a oedd yn gyffredin yn yr holl artistiaid y bûm i’n siarad â nhw oedd eu bod yn annog eraill i wneud yr un peth. Cyngor Owain oedd “ewch amdani - benthyg fideo recorder a jyst cael hwyl yn ffilmio!” Clywch clywch medd Y Selar, a phwy a ŵyr, gydag ychydig bach mwy o fideos gan fwy o artistiaid yn 2012 efallai y bydd categori newydd yng ngwobrau’r Selar erbyn yr amser yma’r flwyddyn nesaf!


o glawr i glawr

Gathering Dusk Un o gloriau mwyaf trawiadol y flwyddyn a fu yw clawr ail albwm y canwr-gyfansoddwr Huw M. Wrth ddigwydd siarad â Huw am yr albwm yn ddiweddar, daeth yn amlwg iawn bod tipyn o feddwl tu ôl i’r cynllun a’i fod yn awyddus i sôn mwy am y clawr arbennig yma. Pa reswm gwell i’w holi ymhellach felly nag ar gyfer O Glawr i Glawr...

Felly ydy’r clawr terfynol wedi troi allan yn union fel y cynllun oedd gen ti yn dy ben ar ôl ffeindio’r llun? Ro’n i’n eitha’ pendant mai’r cyfan o’n i isho ar y clawr oedd y llun yma, gyda’r teitl. Ond roedd gan Aled syniadau eraill, ac roedd o’n teimlo bod angen gwneud rhywbeth mwy diddorol gyda’r ddelwedd. Aeth syniadau a sylwadau yn ôl ac ymlaen am gryn dipyn, a doedden ni ddim cweit yn gallu cytuno ... tan i Aled ddylunio’r

Mae clawr dy ddau albwm, Os Mewn Sŵn a Gathering Dusk yn rai trawiadol (roedd Os Mewn Sŵn ar restr fer ‘Clawr y flwyddyn’ yng ngwobrau’r Selar 2009). Ti’n amlwg yn credu bod clawr da yn bwysig? Mae’n rhyfeddol pa mor bwysig yw clawr CD mewn gwirionedd. Mae ‘na lawer mwy o bobl yn mynd i weld y clawr na fydd yn clywed y gerddoriaeth, a bydd y clawr yn siŵr o greu argraff ar nifer fawr o’r rheiny. Dwi’n nabod pobl sydd yn prynu recordiau ar sail y clawr yn unig. Dwi’n meddwl ein bod ni gyd yn llunio barn am y gerddoriaeth ar sail cloriau - mae’n anodd peidio mewn gwirionedd. Efallai ym mod i’n hen ffasiwn ond dwi’n hoffi gallu gafael mewn gwaith celf unrhyw albwm - mae’n rhan o’r cyfanwaith i mi. Mae cael gwaith celf da, gyda llyfryn bach i gyd-fynd, yn gallu ychwanegu cymaint i’r profiad, ac yn gallu rhoi rhyw olwg neu ddimensiwn gwahanol i’r gerddoriaeth. Hefyd wrth gwrs, os ti’n casáu’r gerddoriaeth, o leiaf mae gen ti rywbeth neis i edrych arno fo!

y-selar.co.uk

arthmanual.wordpress.com

Felly, digwydd bod, roedd gen ti’r enw Gathering Dusk dan ystyriaeth, ac yna dyma ti’n digwydd dod ar draws llun oedd yn gweddu’n berffaith yng nghasgliad Aled? Tipyn o gyd-ddigwyddiad! Yndi, nes i edrych trwy gannoedd o luniau Aled gan ym mod i’n chwilio am luniau addas i’r llyfryn hefyd, ond roedd hwn yn y batch cyntaf a nes i feddwl yn syth ei fod yn addas. Dwi’n meddwl mai coeden yng ngardd Aled ydy o, ond roedd o’n fy atgoffa i o goeden yn ein gardd ni hefyd ac roedd hynny’n fwy o apêl eto. Nes i’r un peth efo Os Mewn Sŵn, hynny ydy meddwl am nifer o enwau posib a’u trafod efo Aled a phenderfynu ar ôl gweld rhai o’i syniadau ar gyfer y clawr.

Mae ‘na lyfryn bach neis i’r albwm hefyd... Dim ond cychwyn y gwaith oedd y clawr ei hun - mae’r llyfryn bach sy’n dod efo’r CD yn cynnwys delwedd wahanol i gyd-fynd â phob cân. Unwaith yr oedd y clawr yn ei le, fe ddaeth gweddill y lluniau yn eitha’ rhwydd - maen nhw’n gymysgedd o luniau wedi eu tynnu gan Aled, a rhai wedi eu tynnu gen i. Y syniad ydy bod pob delwedd yn cyfleu rhywbeth neu’i gilydd am y gân.

|

Mae’n amlwg dy fod ti’n frwdfrydig iawn ynglŷn â’r clawr, bron cymaint â’r caneuon fyswn i’n dweud! Beth oedd y syniad tu ôl i’r cynllun felly? Roedd Aled wedi cytuno i wneud clawr yr albwm, ac roeddwn i’n mynd trwy gasgliad enfawr o luniau polaroid oedd ganddo. Fe ddes i ar draws llun o goed yn y gwyll oedd yn dal goleuni’r haul mewn ffordd drawiadol - llun oedd yn dal rhyw naws arbennig iawn. Do’n i heb benderfynu ar deitl yr albwm ar y pwynt yma - roedd gen i tua dwsin o syniadau gwahanol, rhai’n Gymraeg, rhai’n Saesneg, ac eraill yn bethau disynnwyr a di-iaith. Un o’r teitlau hynny oedd Gathering Dusk, a phan weles i’r llun yma nes i benderfynu’n syth - dyna’r teitl a dyma’r llun i’r clawr.

ddelwedd sydd bellach yn glawr i’r record. Yn syth pan weles i hwn, nes i deimlo cyffro mawr. Roedd o’n berffaith! Dwi’n ffan o waith yr artist MC Escher sydd yn chwarae gyda chymesuredd a delweddau amhosib mae’n cael ei ddylanwadu gan batrymau mathemategol. Roedd yr elfen yma yn apelio yn fawr yng nghynllun clawr Gathering Dusk - mae Aled wedi cymryd y llun gwreiddiol a chreu delwedd drych ohono. Mae’n syniad mor syml, ond mae o wedi creu gwead anhygoel o batrymau diddorol trwy wneud hyn.

huwm.net

Pwy sy’n gyfrifol am y campwaith? Aled ‘Arth’ Cummins - mae Aled wedi gweithio gydag artistiaid eraill fel Jen Jeniro, Sen Segur, Al Lewis, a fo wnaeth gwaith celf fy albwm cyntaf ‘Os Mewn Sŵn’.

9


Gwobrau’r Selar 2011 Dyma ni, yr amser yna o’r flwyddyn lle rydan ni’n rhamantu am y flwyddyn a fu, ac yn clodfori’r rhai hynny a gafodd flwyddyn gofiadwy. Gwobrau’r Selar ydy’r unig wobrau cerddorol Cymraeg lle gallwch chi, y cyhoedd bleidleisio dros yr enillwyr. Mae’r ymateb wedi bod yn dda iawn unwaith eto eleni, ac roedd nifer o’r categorïau’n agos iawn. Heb oedi ymhellach felly, dyma ganlyniadau llawn Gwobrau’r Selar 2011.

CATEGORI: SENGL ORAU Rhestr Fer: Undegsaith / Undegchwech – Y Niwl Bedd – Creision Hud Indigo – Creision Hud Enillydd: Indigo – Creision Hud Gan fod Creision Hud wedi rhyddhau 12 o senglau yn 2011, efallai nad yw’n synod gweld cwpl o’r rhain yn cyrraedd y rhestr fer. Yn wir, roedd pleidleisiau wedi eu bwrw dros nifer o’r senglau eraill hefyd ac fe allai hynny fod wedi mynd yn eu herbyn nhw. Yn ffodus iddyn nhw, roedd Indigo yn ddigon o ffefryn gyda digon o ddarllenwyr i olygu mai hon oedd sengl y flwyddyn. CATEGORI: EP GORAU Rhestr Fer: Kim y Syniad – Candelas Swimming Limbs – Jen Jeniro Pen Rhydd – Sen Segur Enillydd: Swimming Limbs – Jen Jeniro Doedd hi ddim yn flwyddyn arbennig o gynhyrchiol o ran nifer yr EPs newydd i fod yn gwbl onest, ond roedd y frwydr yn boeth rhwng y tri chasgliad byr a ddaeth i’r brig eleni. Roedd EPs cyntaf Candelas a Sen Segur yn ffres, yn amrwd ac yn egnïol - mae’r dyfodol yn saff yn nwylo bandiau fel hyn. Er hynny, yr hen bennau, Jen Jeniro, a sglein aeddfed eu record finyl, Swimming Limbs sy’n cipio’r wobr eleni.

10

y-selar.co.uk

CATEGORI: CÂN ORAU Rhestr Fer: Wyt ti’n nabod Mr Pei? – Y Bandana Indigo – Creision Hud Boi Bach Skint – Yr Angen Enillydd: Wyt ti’n nabod Mr Pei? – Y Bandana Fe alla’i Indigo fod wedi cipio’r dwbl, ond nid felly y bu. Yn hytrach, un o ganeuon amlycaf albwm cyntaf Y Bandana, sy’n dod i’r brig. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r grŵp ennill gwobr ‘Cân y Flwyddyn’ ar ôl i ‘Cân y Tân’ gipio’r teitl llynedd. Tybed fydd cynnyrch newydd ganddyn nhw mewn ymgais i wneud yr hattrick flwyddyn nesaf? CATEGORI: HYRWYDDWR GORAU Rhestr Fer: Dilwyn Llwyd Iwan Williams, Goleuo Guto Brychan Enillydd: Guto Brychan Categori pwysig – heb hyrwyddwyr, does dim gigs. Heb gigs, does dim llwyfan i artistiaid hyrwyddo eu cynnyrch. Mae’r tri hyrwyddwr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni’n gwneud gwaith da iawn – mae’r gigs rheolaidd yn Nyffryn Conwy ac ardal Bethesda yn bennaf oherwydd egni Iwan Williams a Dilwyn Llwyd (enillydd llynedd). Ond, Guto Brychan a’i waith yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd a Maes B yw’r enillydd eleni. CATEGORI: CLAWR GORAU Rhestr Fer: Troi a Throsi – Yr Ods Gathering Dusk – Huw M Gorffen Nos – Yr Angen Enillydd: Gathering Dusk – Huw M Mae tipyn o gloriau trawiadol wedi ymddangos ar silffoedd siopau eleni, ac mae’n syndod bod rhai fel Y Record Goch a Brecwast Astronot heb hyd yn oed gyrraedd y rhestr fer. Gwaith celf cywrain Aled ‘Arth’ Cummins ar Gathering Dusk sy’n mynd â hi, sef testun eitem ‘O glawr i glawr’ y rhifyn yma o’r Selar yn addas iawn! CATEGORI: DJ GORAU Rhestr Fer: Crash.Disco! Meic P Lisa Gwilym Enillydd: Lisa Gwilym Categori pwysig arall – rhain ydy’r bobl sy’n penderfynu ar ba ganeuon i’w chwarae ar y tonfeddi ac mewn setiau DJio byw. Ar ôl buddugoliaeth Huw Stephens y llynedd, un arall o DJs C2 sy’n mynd â hi eleni. Da di Lisa.


CATEGORI: BAND NEWYDD GORAU

Y NIWL

Rhestr Fer: Sŵnami Nebula Y Gwirfoddolwyr Enillwyr: Sŵnami Braf yw gweld cymaint o fandiau ifanc, newydd yn creu argraff eleni. Er hynny, roedd Sŵnami yn enillwyr clir yn y categori hwn. Roedd addewid o EP cyntaf ganddyn nhw yn rhifyn diwethaf Y Selar, a gobeithio’n fawr y bydd hwnnw’n gweld golau dydd erbyn yr haf. CATEGORI: ARTIST UNIGOL GORAU

AL LEWIS

Rhestr Fer: Lleuwen The Gentle Good Al Lewis Enillydd: Al Lewis Mae Al Lewis yn treulio rhan fwyaf o’i amser yn Llundain erbyn hyn, ac yn gigio’n rheolaidd ar y syrcit yno. Er hynny, mae’n parhau’n agos at galonnau darllenwyr Y Selar. Rhyddhawyd ei drydydd albwm, Ar Gof a Chadw, ym mis Ebrill ac roedd yn llawn o’r tiwns melodig a chofiadwy y mae pawb yn disgwyl ganddo bellach. CATEGORI: DIGWYDDIAD BYW GORAU Rhestr Fer: Gŵyl Gwydir Gŵyl Sŵn Maes B, Eisteddfod Wrecsam Enillydd: Maes B, Eisteddfod Wrecsam Am yr ail flwyddyn yn olynol, gigs Maes B yn yr Eisteddfod sydd wedi eu pleidleisio’n ddigwyddiad byw gorau’r flwyddyn. Llongyfarchiadau i’r prif drefnydd, Guto Brychan hefyd sy’n cipio ei ail wobr eleni. CATEGORI: BAND GORAU

YR ODS

Rhestr Fer: Yr Ods Y Bandana Yr Angen Enillwyr: Y Bandana Yn does yna lot o fandiau efo enwau’n dechrau gydag ‘Y’ neu ‘Yr’ ar hyn o bryd! Wel, roedd tri ar restr fer categori band y flwyddyn ... ac Y Niwl oedd yn bedwerydd gyda llaw! Dyma’r ail gategori eleni, lle mae Y Bandana’n ennill am yr eildro’n olynol. Maen nhw’n grŵp ifanc sydd yn amlwg â dilyniant mawr, ac wedi cael blwyddyn dda arall yn dilyn rhyddhau eu halbwm cyntaf ym mis Ionawr. Dwi’n siŵr eu bod nhw eisoes yn cynllunio 2012 yn ofalus er mwyn cipio’r teitl am y drydedd gwaith y flwyddyn nesaf.

BANDANA

y-selar.co.uk

11


Mae’n rhyfedd fel ma’r rhod yn troi. Flwyddyn yn ôl rhwng y cloriau hyn roedden ni’n cwyno am y diffyg yn nifer yr albyms Cymraeg a gafodd eu rhyddhau yn 2010, er bod safon y rhai a gafodd eu rhyddhau’n uchel iawn. Roedd 2011 ar y llaw arall yn flwyddyn gyfoethog iawn o ran albyms newydd, ac rydan ni wedi cael ein sbwylio gan y nifer A’R safon! Yn ôl arfer rhifyn cyntaf y flwyddyn, dyma ddathliad o ddeg albwm gorau’r flwyddyn yn ôl cyfranwyr doeth y cylchgrawn.

10 Uchaf Albyms 2011 10

Curiad Cariad – Llwybr Llaethog

Ym 1986, rhyddhaodd Llwybr Llaethog eu cynnyrch cyntaf ar ffurf EP 4 trac o’r enw Dull Di-drais. 26 mlynedd yn ddiweddarach mae John Griffiths a Kevs Ford dal wrthi a daeth albwm rhif 13 y ddeuawd electro-dub arloesol i’r golwg cyn y Nadolig. Ciron Gruffydd sy’n crynhoi - “wedi gwrando ar Curiad Cariad, mae John a Kevs yn parhau i greu synau sydd mor ffres ag erioed.”

9

8

Label: Neud nid Deud / Rhyddhawyd: Rhagfyr

Gorffen Nos – Yr Angen Label: Sbrigyn Ymborth / Rhyddhawyd: Rhagfyr

Fe greodd y grŵp o Abertawe gryn argraff wrth ddod i’r brig yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 2010. Roedd cryn edrych ymlaen at albwm cyntaf Yr Angen, a daeth hwnnw i’r golwg ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’n cynnwys yr hit ‘Nawr mae drosto’ a syfrdanodd feirniaid Brwydr y Bandiau, yn ogystal â’r caneuon cofiadwy ‘Boi Back Skint’ a ‘Torri ni Lawr’. “Mae yna asbri ieuenctid yn perthyn i’w roc indi bywiog ac mae’n beth braf clywed acen newydd hefyd i’n hatgoffa ni bod yna sin tu hwnt i Gaerdydd a’r gogledd. Mae o’n uchel, yn gyflym ac yn llawn solos gitâr” (darn o adolygiad Gwilym Dwyfor, rhifyn 28 o’r Selar, Ebrill 2012)

Tân oedd trydydd albwm y gantores o Riwlas, a’i chyntaf ers pedair blynedd yn dilyn Penmon (2007). Roedd yn werth yr aros hefyd gan ei bod wedi llwyddo i greu perthynas gerddorol hudolus gyda’r cerddor o Lydaw Vincent Guerin. Y ddeuawd sy’n chwarae pob offeryn ar y casgliad Cymraeg a Llydaweg, gan gynnwys nifer o offer y gegin mae’n debyg! Dyma farn Casia Wiliam, “mae Tân yn chwareus ac yn fentrus - mae sŵn cyfoethog y gitâr a llais Lleuwen yn ddeuawd perffaith. Mae’r albwm yn gyfanwaith, fel gwrando ar rywun yn adrodd stori ac iddi sawl pennod.”

7

SIBRYDION

y-selar.co.uk

Distewch Llawenhewch – Plant Duw Label: Sbrigyn Ymborth / Rhyddhawyd: Awst

Albwm cyntaf Plant Duw ddaeth i’r brig yn rhestr 10 uchaf albyms y flwyddyn yn 2008, ac nid yw’n syndod gweld eu hail albwm yn cyrraedd y deg uchaf eleni. Cafodd y casgliad o ganeuon pop egnïol ei ryddhau yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan atgoffa pawb o’r hyn roedden ni wedi’i golli tra bod Conor o’r grŵp yn byw yn Affrica Lowri Johnston fu’n adolygu’r albwm, “.... ma’r albwm cyfan yn chwareus, a phwy sy’n gwneud chwareus yn well na Plant

GWYNETH GLYN

12

Tân – Lleuwen Label: Gwymon / Rhyddhawyd: Mawrth


Duw? Mae wedi bod yn amser hir… ond croeso nôl Plant Duw!” (adolygiad o rifyn 26 o’r Selar, Awst 2011)

6

Y Record Goch Label: Recordiau Lliwgar Rhyddhawyd: Gorffennaf

Dyma chi syniad diddorol...ffurfio label er mwyn rhyddhau casgliadau o ganeuon gan artistiaid gwahanol, a hynny ar ffurf finyl lliw, gyda gwaith celf gwreiddiol hyfryd yn becyn bendigedig, yn ogystal â bod yn wledd i’r glust. Dyma’n union y gwnaeth criw Recordiau Lliwgar llynedd. Ciron Gruffydd sy’n canmol: “Y Record Goch oedd prosiect criw o ffrindiau sy’n rhannu eu cariad at gerddoriaeth a phethau del. Gyda gwaith celf gan Elfyn Lewis a thraciau newydd sbon gan Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bwgan, Dau Cefn a Sen Segur roedd hon yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn ddi-os.”

5

Cainc – Gwyneth Glyn Label: Gwinllan / Rhyddhawyd: Mai

Ah, pwy all beidio â disgyn mewn cariad gyda llais ac alawon swynol Gwyneth Glyn. Roedd ei halbwm cyntaf, Wyneb dros Dro, yn un o recordiau mwyaf llwyddiannus y ddegawd tra bod Tonau yn 2007 bron cystal. Llwyddodd i ryddhau Cainc eleni, jyst cyn rhoi genedigaeth i’w phlentyn cyntaf! Yn ôl Gwilym Dwyfor, hon ydy “Albwm orau Gwyneth Glyn o bell, bell ffordd” sy’n ddweud mawr o ystyried poblogrwydd y rhai blaenorol! “Alawon a geiriau syml sydd yma, ond eto, mae’r briodas rhwng y ddwy elfen yma mor gryf nes y mae’r cyfan yn gweithio’n berffaith.” (adolygiad o rifyn 25 o’r Selar, Mehefin 2011)

4

Uwchben y Drefn – Sibrydion Label: JigCal / Rhyddhawyd: Gorffennaf

O’r diwedd daeth trydydd albwm Cymraeg y Sibrydion i’r fei yn yr haf - roedd y pedair blynedd ers y diwethaf, Simsalabim, yn teimlo’n hir, er bod un albwm Saesneg wedi torri rhywfaint ar chwant. Mae gan y brodyr Gwynedd rhyw allu prin, sef y gallu i ysgrifennu tiwn fachog sy’n siŵr o gael ei chwarae’n rheolaidd ar y tonfeddi. Ac mae sawl

enghraifft o hyn ar y casgliad diweddaraf - ‘Dros y Byd i Gyd’, ‘Dawns y Dwpis’ a ‘Cadw’r Blaidd o’r Drws yr amlycaf’. Mae tipyn o amrywiaeth yna hefyd os gredwch chi Casia Wiliam - “... un funud fe fyddwch chi’n meddwl eich bod chi’n Sbaen neu Giwba, a’r munud nesa fe fyddwch chi wedi eich chwyrlio i mewn i fyd cartŵn honky-tonky gwallgof.” (adolygiad o rifyn 26 o’r Selar, Awst 2011)

3

Brecwast Astronot – Geraint Jarman Label: Ankstmusik / Rhyddhawyd: Mai

Mae Geraint Jarman yn anifail prin. Mae’n un o griw bychan, dethol o gerddorion Cymraeg sydd wedi llwyddo i oroesi a phontio sawl degawd, gan esblygu yn ôl y gofyn, a parhau i swnio’n ffres. Rhyddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Gobaith Mawr Y Ganrif, ym 1976. Yn 2011 - 35 mlynedd yn ddiweddarach – rhyddhawyd y diweddaraf ac mae wedi llwyddo i ffeindio sŵn newydd, ffres i’w hun unwaith eto. Mae Huw Stephens yn ffan, o Brecwast Astronot, “hir yw pob aros, medde nhw, a’r albwm yn profi fod e’n werth yr aros. Yr uchafbwynt yw’r gân Brecwast Astronot ei hun, gyda geirie arallfydol, hudol Jarman yn eistedd yn berffaith gyda’r gerddoriaeth wych.”

2

Gathering Dusk – Huw M Label: Gwymon / Rhyddhawyd: Tachwedd

Mae Huw M wedi gwneud rhywbeth nad oes neb arall wedi llwyddo i’w wneud. Roedd ei albwm cyntaf, Os Mewn Sŵn ar restr deg uchaf albyms Y Selar yn 2009, ac yna eto yn 2010 ar ôl iddi gael ei ail-ryddhau ar label Rasal. Y farn gyffredinol ydy bod Os Mewn Sŵn yn dipyn o gampwaith fel albwm cyntaf i’r canwr-gyfansoddwr, ac wrth ei golwg hi mae’r ail yn llawn cystal. Mae’r albwm yma’n felodig, yn hynod o aeddfed a choeth, ac yn chwa o awyr iach. Huw Stephens sydd unwaith eto’n canmol, “yn gam ymlaen o Os Mewn Sŵn, mae’r cynhyrchu ar yr albwm yma’n wych, a hyder Huw M fel cerddor wedi datblygu’n aruthrol.” 

1

Troi a Throsi – Yr Ods Label: Copa / Rhyddhawyd: Tachwedd

LLEUWEN STEFFAN

Anodd credu bod Yr Ods a ffurfiodd dros bum mlynedd yn ôl bellach, wedi tyfu i fod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru... ond eto heb ryddhau albwm tan ddiwedd 2011. Yn ôl Griff Lynch o’r grŵp, roedden nhw eisiau bod yn siŵr eu bod yn barod cyn rhyddhau albwm llawn. Mewn cyfweliad â Golwg360, fe gyfaddefodd “petai ni wedi rhyddhau albwm tua dwy flynedd yn ôl byddai wedi bod yn siomedig.” Mae un peth yn sicr, tydi Troi a Throsi ddim yn siomedig – i’r gwrthwyneb! Roedd EP y grŵp yn 2010 yn cynnwys casgliad o ganeuon oedd yn fachog, yn gofiadwy ac yn ymdebygu’r fwy i gasgliad o senglau. Mae eu halbwm cyntaf yn hollol wahanol – mae’n gyfanwaith aeddfed a phrin fod unrhyw un gân yn disgleirio’n fwy na’r lleill. Gwilym Dwyfor sy’n crynhoi: “Casgliad proffesiynol gan un o fandiau mwyaf gweithgar y sin. Prawf o beth sy’n digwydd wrth weithio ar sŵn a pheidio â rhuthro i ryddhau albwm yn rhy gynnar”

y-selar.co.uk

13


14

y-selar.co.uk


GAMEBOY MEWN DISCO! GEIRIAU: OWAIN GRUFFUDD LLUNIAU: BETSAN EVANS

M

ae ein sgwrs, yn naturiol, yn cychwyn ar ddechrau ei yrfa dan yr enw Crash.Disco!. “Arbrawf yn y coleg, dyna’r oll oedd e. Gawsom ni aseiniad lle’r oedd rhaid i ni gynhyrchu cerddoriaeth electroneg neu fel band ac o’n i isho trio rhywbeth newydd. Rhodri Owen o Cyrion oedd yn dysgu ni, draw yng Ngholeg Menai. Oedd e’n gwrs dwy flynedd ac roedd Rhodri’n ddylanwad mawr arna’i.” Aiff yn ei flaen i ddweud mai lwcus oedd o fod y prosiect wedi dechrau yn y lle cyntaf: “O’n i’n brysur iawn yn y cyfnod yma. Roedd y cwrs yn eitha caled, efo gofynion uchel. Doedd gen i ddim llawer o amser rhydd ar fy nwylo, felly ro’n i wedi synnu fy hun mod i wedi mynd ati a phenderfynu cychwyn ar y prosiect.” Doedd Gruff ddim yn hollol ddiarth i berfformio ar lwyfan cyn ei ymddangosiad cyntaf fel ‘Crash.Disco!’ yn Wythnos Fach Radio 1 ym Mangor. Arbrofodd gyda gwahanol fandiau, fel ‘Ffrwchnedd’, yn ogystal â bod yn DJ mewn clybiau nos o gwmpas Bangor, cyn troi tuag at y prosiect unigol yma. Ond, ydi o’n gwbl fodlon ei fod wedi ffeindio rhywbeth at ei ddant? “Dwi ddim yn anhapus, ond dwi’n dal i arbrofi gyda’r sŵn. Pan o’n i yn y bandiau yma erstalwm, roedd o’n rhywbeth i mi wneud, i basio amser, a doeddwn i ddim yn ystyried beth o’n i eisiau setlo arno yn y diwedd.” Ond mae Gruff yn dal yn ystyried parhau i arbrofi a newid ymhellach, er gwaethaf ei lwyddiannau gyda ‘Crash.Disco!’: “Mae gen i lot o draciau adref ar y cyfrifiadur, ond byswn i byth yn eu rhyddhau nhw o dan yr enw ‘Crash.Disco!’ oherwydd tydyn nhw ddim yn ffitio gyda fy steil i - maen nhw’n gwbl wahanol. Dwi’n siŵr y gwna’i rywbeth efo nhw, oherwydd dwi’n gwneud pethau i brosiectau eraill ar wahân hefyd.” Ond, nid Gruff yw’r unig artist electronig o Gymru i gael sylw’n ddiweddar. Mae prosiectau fel Ifan Dafydd, Plyci ac Acid Casuals hefyd wedi creu argraff ar y sin gerddorol yma yng Nghymru a thu hwnt. Ond, mae Gruff yn dilyn trywydd ei hun wrth ysgrifennu a chynhyrchu’r caneuon. “Dwi ddim rili’n dilyn unrhyw ddylanwadau gan fandiau pan

Wrth i mi gyfarfod Gruff Jones mewn siop gaffi yng nghanol Caerdydd, nid yw’n fy synnu mai cerddoriaeth o steil gemau fideo mae’n ei gynhyrchu mae’n edrych yn union fel petai wedi dod allan o ffilm Scott Pilgrim. Mae ei brosiect electronig, Crash.Disco!, wedi bod ar waith ers bron i ddwy flynedd bellach, ac mae i’w weld yn mynd o nerth i nerth. Ers cychwyn yn y brifysgol ym mis Medi, ar gwrs Technoleg Cerddoriaeth, mae enillydd Brwydr y Bandiau Maes B 2010 wedi rhyddhau ei EP cyntaf, gyda sengl arall hefyd rownd y gornel.

dwi’n sgwennu a chyfansoddi. Dwi dim ond yn meddwl am yr hyn dwi’n ei wneud ar y foment ei hun. Does dim sylfaen i’r gerddoriaeth gan unrhyw un arall heblaw amdana i.” Er nad yw Gruff wedi’i ddylanwadu gan fandiau eraill yn benodol, mae ei gwrs yng Nghanolfan Creadigol yr Atrium, sef cangen o Brifysgol Morgannwg yng nghanol Caerdydd, yn rhoi’r cyfle iddo gydweithio a thrafod cerddoriaeth gyda cherddorion eraill. Mae’r Atrium yn cael ei ystyried ymysg y cyfleusterau gorau ym Mhrydain ar gyfer disgyblion cerddoriaeth a chyfryngau, ac mae Gruff yn teimlo fod hyn yn help mawr iddo allu datblygu ei yrfa dan yr enw ‘Crash.Disco!’

Genre Gameboy Ers bod yn y brifysgol mae Gruff wedi cyfansoddi a recordio ei EP cyntaf. Gruff ei hun wnaeth ryddhau’r EP ei hun, ac mae ar gael ar ffurf CD ac i’w lawr lwytho o’r we. Ond roedd gan Gruff syniad clir yn ei ben o beth oedd o eisiau i’r EP hwn fod. “Dwi’n defnyddio’r term ‘electronig Gameboy’ i ddisgrifio fy ngherddoriaeth oherwydd byddai ddim yn ffitio mewn i unrhyw beth arall. Pan o’n i’n sgwennu’r EP o’n i’n meddwl amdano fel soundtrack i gêm fideo. Mae trefn y caneuon, a’r steil, yn swnio fel dy fod yn mynd trwy lefelau ar gêm fideo. Mae gemau hen, retro fel Super Mario yn ddylanwad arnai.” Ac mae Gruff yn teimlo fod yr EP wedi bod yn llwyddiant iddo’n bersonol, oherwydd yr ymateb y mae wedi gael: “Nes i lwyddo i werthu tipyn o CDs. Dim ond 50 nes i gynhyrchu’n wreiddiol er mwyn eu gwerthu, ond roeddwn i’n y-selar.co.uk

15


gorfod prynu stoc newydd ohonyn nhw oherwydd bod pobl yn gofyn am fwy o gopïau. Ac os dwi wedi llwyddo i werthu cymaint â hynny o CDs, dwi’n hapus! Does dim llawer o bobl sy’n dal i brynu CDs, dim ond lawr lwytho ar y we, felly dwi’n meddwl fod hynny’n eithaf da.” Ond wrth gwrs, ym Mrwydr y Bandiau Maes B yng Nglyn Ebwy y gwnaeth Gruff ei enw gyntaf. Daeth yn fuddugol ar ôl llwyddo i greu argraff gyda’i berfformiad byw cyntaf, lle’r oedd band yn chwarae gydag o. Roedd hyn gwta bedwar mis ar ôl iddo berfformio am y tro cyntaf ar lwyfan, ac wrth edrych yn ôl ar y profiad, mae’n hynod falch ei fod wedi mentro cystadlu. “Oedd e werth o. Roedd y wobr wedi rhoi cyfle i mi brynu nwyddau. Roedd e hefyd yn neis gallu rhoi o ar fy CV cyn mynd i’r Brifysgol hefyd. Mae’r gystadleuaeth yn rhoi llwyfan i fandiau ar gyfer y dyfodol. Pan ti’n edrych ar Sŵnami, wnaeth ennill blwyddyn ddiwethaf, maen nhw’n cael sylw da ar y foment.”

O le i le Un o’r cyfleoedd gafodd Gruff yn dilyn y gystadleuaeth oedd ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer rhaglen adloniant pobl ifanc Y Lle. Yn ôl Gruff, dyma’r unig raglen ar y funud sydd yn parhau i roi llwyfan i gerddorion y Sin: “Er bod Bandit, Gofod a Nodyn wedi gorffen, mae Y Lle yn rhoi llwyfan i fandiau. Mae ‘na gyfle i recordio am ddim, sydd wastad yn help i fandiau wrth iddyn nhw gychwyn.” Ond ro’n i’n awyddus i wybod pa mor wahanol oedd cyfansoddi cerddoriaeth i raglen deledu fel hyn o’i gymharu ag ysgrifennu caneuon i’w rhyddhau. “Ar ôl yng ngweld i yng Ngŵyl Sŵn, roedden nhw’n meddwl byddai’r math o gerddoriaeth dwi’n cyfansoddi’n ffitio i themâu’r rhaglen. O’n i wedi mynd ffordd fy hun wrth gyfansoddi. Ges i ddim unrhyw themâu yn benodol, felly ro’n i’n gallu bod yn hyblyg efo beth o’n i’n ysgrifennu. Roedd o’n brofiad gwych i mi ac yn gyfle i wthio fy ngherddoriaeth.” O ran cynlluniau ar y gweill, mae Gruff wedi datgelu i ni fod e’n barod i ryddhau sengl newydd sbon, o’r enw ‘Alice’. “Byddai’n rhyddhau’r sengl am ddim ar fy mhroffil Soundcloud. Bydd o ‘chydig yn wahanol i’r EP, gan y bydd o ychydig mwy up-beat nag y caneuon dwi wedi rhyddhau’n barod. Hefyd dwi wedi samplo rhywun yn canu ar gyfer y trac, felly bydd hyn yn gam newydd eto i mi. Mae’r trac yn barod felly fydd hi ddim yn hir nes byddai’n ei ryddhau o.” Ond beth arall sydd ar y gweill i Gruff yn y dyfodol agos? “Dwi’n cael cyfleoedd i DJio lawr yng Nghaerdydd felly byddai’n parhau i wneud hynny. Dwi eisiau gwneud y gorau o’r cyfleoedd dwi’n gael yn y ddinas, oherwydd mae’r sin electronig yn fwy poblogaidd yma nag yn y Gogledd. Byswn i’n hoffi trefnu gig arall dan ‘REU’, lle o’n i’n cyd-drefnu gyda’n ffrind i, Gerallt,” “Does dim byd yn bendant ar gyfer gigs yr Haf eto. Dwi dal angen cadarnhau cwpwl o gigs. Byddai hefyd yn edrych mewn i ryddhau rhywbeth ar ôl ‘Alice’ ond efallai dan enw newydd eto.” Beth bynnag fydd Gruff yn penderfynu ei wneud, bydd bîpiau electronig unigryw ‘Crash.Disco!’ yn ddigon hawdd i’w hadnabod. Ond, am y tro, gwyliwch allan am ei newyddion diweddaraf trwy ei ddilyn ar Twitter: @CrashDisco.

16

y-selar.co.uk


trydar gyda @Clinigol Y_Selar Geraint, diolch am gytuno i gymryd rhan yn ail arbrawf ‘cyfweliad Twitter’ Y Selar! Wyt ti wedi cyffroi am y peth? Clinigol Odw glei! Fire away! Y_Selar Gwych iawn. Reit, o’r diwedd mae Discopolis wedi glanio! Beth allwn ni ddisgwyl (yn gryno achos 140 nod sydd gen ti cofia)? Clinigol 2 awr o gerddoriaeth pop/dawns/electroneg cyfoes, gyda rhai o enwau mwyaf Cymru yn canu. Does dim albwm tebyg iddo yn y Gymraeg!

Y_Selar Ac eto, mae fformat CD yn bwysig iawn gyda Discopolis yn tydi, mae’n CD dwbl. Ti’n meddwl bod rhaid i CD gynnig rhywbeth gwahanol dyddiau yma? Clinigol Ma pobl yn prynu’r fformat sy’n eu plesio, beth bynnag sy’ ar gynnig. Er, ni di rhoi mwy o draciau ar y CD na’r fersiwn ddigidol. Y_Selar Wyt ti’n meddwl bod dyfodol i fformat CD felly?

Y_Selar Swnio’n dipyn o brosiect! Beth fydd yr uchafbwyntiau?

Clinigol Ma finyl wedi para, fydd CDs hefyd mae’n siŵr, yn enwedig i artistiaid sydd a fanbase mawr, gan fod CDs yn rhywbeth i gasglu.

Clinigol Lle ma dechre?! Gormod i grybwyll! Elin Fflur goes dubstep a Caryl Parry Jones yn mynd nôl i’w gwreiddiau disgo yn uchafbwyntiau amlwg!

Y_Selar Ti’n meddwl bydd pobl yn gweld Discopolis fel ychwanegiad gwerthfawr i’r casgliad? Mae o eisoes yn hanesyddol fel y CD dwbl Cymraeg cyntaf!

Y_Selar Cyffrous iawn yn wir! Rydach chi wedi llwyddo i gael tipyn o sylw yn barod yn do?

Clinigol Wrth gwrs, mae’n albwm unigryw! Gyda 28 trac o gerddoriaeth pop, dawns, electro, dubstep ac acwstig, dyle rhywbeth blesio!

Clinigol Popeth yn mynd yn dda hyd yma. Gobeithio bydd mwy i ddod!

Y_Selar Gyda chymaint o wahanol bobl yn cyfrannu at yr albwm, sut mae set byw Clinigol yn gweithio?

Y_Selar Gan ein bod ni’n sgwrsio ar Twitter, faint o ddefnydd ydach chi wedi gwneud o’r cyfrwng yma wrth hyrwyddo? Clinigol Ni’n weddol newydd i Twitter ond y bwriad yw i ddefnyddio fe mwy a mwy... Y_Selar Rydych chi’n gwneud tipyn o ddefnydd o dechnoleg wrth gyfansoddi, ond ydy technoleg, a’r we yn ffordd dda i gyrraedd cynulleidfa ehangach? Clinigol Heb os, mae’n anhygoel. Mae mor instant, uniongyrchol, personol, scary... Cwestiwn rhy i anodd i ateb mewn 140 nod! Y_Selar Beth ydy dy farn di am werthu cerddoriaeth yn electroneg felly... neu ganeuon i’w lawr lwytho am ddim? Clinigol Dwi’n lawr lwytho popeth nawr, sa’i di prynu CD ers oes. Caneuon am ddim yn ffordd dda i ledu’r gair ond ma cerddoriaeth yn rhesymol fel mae!

Clinigol Y set up arferol yw Nia Medi, Carys Eleri a fi â’r llais, Aled ar y cyfrifiadur, visuals ar sgrin, a weithie percussionists a string section! Y_Selar Dim Margaret Williams felly? Clinigol Haha! Dyna’r freuddwyd! Rhyw ddydd...! Y_Selar Un cwestiwn i orffen, ti wedi awgrymu yn y gorffennol mai hwn fydd albwm olaf Clinigol. Ti’n dal i gredu hynny? Clinigol Dyma albwm ola’ Clinigol as we know it - mae’n lot o waith. Fe fydd na senglau achlysurol ac OS fydd albwm arall, fydd e’n hollol wahanol! Y_Selar Geraint, mae wedi bod yn bleser. Phob lwc gyda’r albwm. Clinigol Diolch i ti a diolch am gefnogaeth Y Selar!

y-selar.co.uk

17


dau i’w dilyn ^ Grwp pync o Geredigion a deuawd acwstig o Bontypridd sy’n cael sylw Dau i’w Dilyn y rhifyn yma.

Blaidd Pwy - Ma’r Blaidd yn fand newydd o Aberystwyth ac Aberporth yng Ngheredigion. Mae un aelod cyfarwydd iawn, sef Sam Rhys James gynt o’r Poppies, Mozz, Rogues a’r Heights, sy’n chwarae gitâr ac yn canu. Mae dau aelod arall sef y brodyr Garyson Price (gitâr fas a llais) a Roy Price Jr (drymiau) - mae Roy yn gyn aelod o’r Dancing Bullets. “Dechreuais i chwarae gigs solo acwstig blwyddyn ddiwethaf” meddai Sam, “ ond fe ddaeth yn amlwg bod digon o singersongwriters diflas ambiti’r lle’n barod ac roedd angen cychwyn band.” Yn ôl Sam, mae tipyn o frawdgarwch yn perthyn i’r grŵp newydd, ac nid dim ond gan fod dau frawd yn aelodau! “Mae Gary a Roy yn hen ffrindiau i mi, a’r unig fois dwi’n gallu cydymdeimlo â nhw a’u trystio bellach. Ma Blaidd yn fwy na band imi, mae’n gang.”

Y Rwtch Pwy - Cai Morgan a Carwyn Geraint ydy aelodau Y Rwtch ac maen nhw’n ddeuawd acwstig newydd o Bontypridd. Mae’r ddau wedi bod yn chwarae cerddoriaeth gyda’i gilydd ers amser maith, ac wedi bod mewn nifer o fandiau gwahanol gyda’i gilydd. “Y grŵp diwethaf o’n i’n aelod ohono oedd band o’r enw ‘Indie-Go Modem’,” meddai Cai. “O’n i’n chwarae’r dryms ac roedd Carwyn yn chwarae’r gitâr. Nethon ni gael llwyddiant gyda’r band, gan recordio gyda chynhyrchwyr fel Greg Haver, chwarae gyda Creision Hud, The Automatic a’r Blackout, a hefyd recordion ni albwm.” Erbyn hyn mae Cai yn chwarae’r gitâr ac yn canu a Carwyn yn canu hefyd – “creon ni Y Rwtch i’r ddau ohonom ni allu gwneud rhywbeth bach gwahanol i’r arfer. Hefyd mae creu Y Rwtch wedi rhoi cyfle i’r ddau ohonom ni ysgrifennu mwy

18

y-selar.co.uk

Sŵn - Mae’n siŵr mai’r gair amlwg i’w ddefnyddio i ddisgrifio cerddoriaeth Blaidd ydy ‘pynci’. Mae unrhyw un sy’n cofio Sam o’i grwpiau blaenorol yn gwybod bod ganddo ddigon o agwedd ac mae hynny’n trosglwyddo i’r aelodau eraill. Maen nhw’n egnïol iawn ar lwyfan, a does dim llawer o grwpiau’n gwneud unrhyw beth tebyg iddyn nhw yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Dyw Sam ddim eisiau datgelu gormod am ddylanwadau cerddorol y grŵp. “Mae yna fandiau sydd di creu argraff arna’i ond dwi ddim eisiau datgelu fy ffynonellau: ‘The secret to creativity is knowing how to hide your sources’ - Albert Einstein.”  Hyd yn hyn – Eu gig cyntaf oedd yn cefnogi Meic Stevens yn y Llew Du, Aberystwyth ym mis Hydref – tipyn o gig cyntaf! Ers hynny maen nhw wedi bod ar daith o amgylch clybiau ieuenctid Ceredigion a chwarae mewn nifer o dafarnau lleol. “Hyd yn hyn ma rhan fwyaf o’r gigs wedi bod i gynulleidfaoedd di-gymraeg,” meddai Sam “ond roedd y caneuon yn boblogaidd ac ry’n ni wedi cael ymateb da. Ni’n awyddus i barhau i bontio’r bwlch yma sy’n bodoli rhwng cynulleidfaoedd

yn y Gymraeg, rhywbeth ry’n ni’n rili mwynhau gwneud.”   Sŵn - Yn ôl Cai mae ‘na nifer fawr o fandiau ac artistiaid wedi dylanwadu arnyn nhw. Ymysg yr artistiaid Cymraeg, mae Huw M ac Al Lewis, tra bod Mumford and Sons a Newton Faulkner yn artistiaid rhyngwladol sydd wedi dylanwadu arnyn nhw. “O ran ein sain, baswn i’n dweud, cerddoriaeth acwstig gydag amryw o genres eraill wedi ‘mashio’ mewn i’r caneuon.” Hyd yn hyn – Mae Y Rwtch wedi bod yn canolbwyntio ar gyfansoddi dros y misoedd diwethaf “er mwyn trio ffeindio be ydyn ni fel band, a pha fath o gerddoriaeth ydyn ni’n creu.” Mae’r grŵp wedi cymryd amser i ffeindio eu sŵn yn ôl Cai “mae sawl achos wedi bod lle ysgrifennon ni gân gyfan ac wedyn sgrapio fo oherwydd o’n ni jyst ddim teimlo ei fod yn gweithio i ni.” Ym mis Ionawr fe dreuliodd y ddeuawd dridiau yn Llanuwchllyn

yn ysgrifennu gyda Cowbois Rhos Botwnnog a Llŷr Parry o Jen Jeniro a’r Niwl. “Ysgrifennon ni dair cân soled o’n ni’n hapus â nhw, ac rydan ni’n ddiolchgar i bawb oedd ‘di helpu ni’n ystod y cyfnod yna” meddai Cai. Maen nhw wedi bod yn perfformio eu caneuon yn fyw yn ddiweddar mewn nosweithiau meic agored yn y cymoedd “i weld sut oedden nhw i chwarae’n fyw a pha fath o ymateb o’n ni’n cael.”


Cofio’r Cob Cymraeg a Saesneg eu hiaith yng Nghymru.” Mae gan y grŵp nifer o ganeuon wedi’u hysgrifennu’n barod yn ôl Sam, “ry’n ni wedi ysgrifennu gwerth dau albwm o ganeuon ac yn gweithio ar y trydydd nawr. Mae’r broses ysgrifennu yn rhywbeth greddfol i ni, ac mae pob cân ambiti rhywbeth pwysig a phenodol oedd angen cael ei ddweud... ffrindiau colledig, hiraeth, ffigyrau hanesyddol, gwleidyddiaeth a chymdeithas, serch, creulondeb yr heddlu ac ati.” Cynlluniau – Mae Blaidd wedi recordio casét demo ar “4-track Portastudio Meic Stevens” ac mae modd archebu copi trwy e-bostio - blaiddcymru@live.com. “Ni newydd recordio sesiwn C2 a fydd yn cael ei rhyddhau fel sengl neu EP cyn gynted â bo modd. Bydd yr albwm cyntaf yn dilyn yn y misoedd nesaf. Mae digon o gigs ar y gweill fydd yn cael eu hysbysebu ein tudalen Facebook. Ewch i www.facebook. com/blaiddcymru a chliciwch “hoffi’!”

Cynlluniau - Mae Y Rwtch yn bwriadu dal ati i ysgrifennu yn y tymor byr cyn gobeithio mynd i’r stiwdio i recordio rhai ohonyn nhw. “Mae gennym ni 4-5 o ganeuon ry’n ni’n hyderus a hapus iawn gyda” meddai Cai. Pryd siaradodd Y Selar â nhw roedden nhw’n edrych ymlaen at chwarae mewn gig mawr yn y Miwni ym Mhontypridd ar 2 Mawrth, gyda neb llai nag Elin Fflur a Bryn Fôn!

Ddiwedd Ionawr fe dorrodd y newyddion trist y bydd siop Recordiau Cob ym Mangor yn cau ei drysau am y tro olaf y mis hwn. Un o selogion y Cob, ac aelod Yr Ods, Griff Lynch sy’n talu teyrnged i un o siopau recordiau mwyaf eiconig Cymru. Yn ôl y sôn, mae stryd fawr Bangor yn un o strydoedd siopa hira’ Ewrop. Dwi wedi ei cherdded cannoedd o weithiau, ond mae’r llwybr wastad yn arwain at un siop yn benodol - y man gwyn fan draw ym mhen isaf y stryd, Siop Recordiau Cob. Roedd Siop Recordiau Cob Bangor yn agoriad i fyd newydd o gerddoriaeth i fachgen pedair ar ddeg oed. Heb frawd hŷn i roi arweiniad cerddorol i mi, roedd rhaid i mi benderfynu ar chwaeth gerddorol fy hun, ac roedd y pnawniau Sadwrn a dreuliais yno, yn sicr yn fodd o ddatblygu a mwytho chwaeth! Mae’r bagiau melyn a du bellach wedi dod yn eiconig i unrhyw lanc ifanc sydd â diddordeb cerddorol ehangach na Rhydian neu Only Men Aloud. Yn Recordiau Cob y gwnes i brynu holl CDs y Super Furry Animals, holl CDs y Manics, a holl CDs Nirvana mewn mater o dair wythnos. Mae gen i lond 3 bocs adref o gryno ddisgiau, sy’n sŵn cefndir i fy arddegau cynnar, ac mae mwy neu lai pob un wedi dod o Recordiau Cob Bangor. Unrhyw beth oedd ddim yno, mi fydda’ nhw’n ei archebu. Hon mewn gwirionedd oedd yr unig siop ‘cŵl’ ym Mangor. Mae’r newyddion trist bod y siop i gau yn adlewyrchu sefyllfa eithaf difrifol. Rydan ni gyd yn euog o lawr lwytho cerddoriaeth, ac mae unrhyw un sy’n honni’n wahanol unai yn saint neu yn dweud celwydd. Anaml fydda i’n prynu CDs erbyn hyn - fyddai yn prynu record finyl, neu yn lawr lwytho. Mae recordiau yn dod yn fwy poblogaidd, ond hyd yn oed wedyn dydi’r diddordeb newydd mewn finyl ddim yn ddigon i achub Recordiau Cob. Gallwn ni bwyntio bys at bobl ifanc am beidio â chefnogi siop leol fel Cob, ond realiti ydi o mewn gwirionedd, nid trosedd. Rhaid i mi ddiolch felly i griw Cob am y p’nawnia’ braf yn byseddu drwy CDs a recordiau, mewn awyrgylch Gymreig. Efallai fyddwn ni dal i weld dirywiad yn nifer y siopau recordiau annibynnol, ond mi fydd yr atgofion yn felys o hyd. Pump perl Griff o’r Cob: Mwng – Super Furry Animals Rage Against the Machine - Rage Against the Machine Forever Delayed – Manic Street Preachers Dark Side of the Moon - Pink Floyd I’m Wide Awake its Morning - Bright Eyes

y-selar.co.uk

19


newyddion

n ga n m o e lia Stra ia Wi s Ca

IWAN YN ABBEY ROAD Ym mis Ionawr eleni cafodd Iwan Huws, prif leisydd adnabyddus Cowbois Rhos Botwnnog, gyfle arbennig i fynd i stiwdio chwedlonol Abbey Road yn Llundain ar gyfer diwrnod BBC Introducing Musicians Masterclass 2012. Roedd gan Radio Cymru bedwar tocyn euraidd i’w rhoi i artistiaid o Gymru [fel Carlo a’r ffatri siocled erstalwm - gol] , i wrando ar rai o enwau mwya’r sin yn trin a thrafod eu profiadau fel cerddorion proffesiynol gan gynnig cyngor i sêr y dyfodol. Iwan, Catrin Herbert, Rhydian Lewis o’r Creision Hud a Gruff Jones, Crash. Disco! oedd y pedwar lwcus. “Roedd o’n le neis,” meddai Iwan, “roeddan ni yno o hanner awr wedi naw yn y bora tan saith y nos, a roedd ‘na gyfle i glywed pob math o bobl o’r diwydiant yn trafod gwahanol fathau o gerddoriaeth.”  Un o uchafbwyntiau’r diwrnod i Iwan oedd trafodaeth am y sin electroneg

ym Mhrydain rhwng Ms Dynamite, Magnetic Man a Wretch 32. “Roedd o reit cŵl gwrando ar Ms Dynamite! A diddorol clywed am y sin electroneg gan fod o’n rhywbeth nad ydw i’n gwybod llawer amdano. Nes i fwynhau’r Question Time efo Huw Stephens hefyd, ac roedd o’n dda achos roedd ‘na gyfle wedyn i bawb wneud rywfaint o rwydweithio a chyfarfod pobl sy’n cael profiadau tebyg ond gwahanol hefyd o ran cychwyn band a gigio ac ati.” Gwych o beth yw cyfleoedd fel hyn i Gymry ifanc gael golwg ar y sin tu hwnt i Gymru, gan weld sut mae cerddoriaeth ein gwlad ni’n ffitio yn y darlun mawr. Gobeithio bydd cyfle i bedwar arall gael trip tebyg y flwyddyn nesaf! Mae mwy am y diwrnod ar wefan BBC Cymru. Yn ôl Iwan mae Cowbois Rhos Botwnnog yn gweithio ar albwm newydd ar hyn o byd a bydd yna sesiwn C2 gan Iwan i’w chlywed yn fuan ar Radio Cymru.

y-selar.co.uk

20

LLWYTH O RWTCH  Os ydach chi wedi darllen Dau i’w Dilyn, fe wyddoch fod y ddeuawd newydd o Bontypridd, Y Rwtch, yn barod i recordio EP ac yn brysur yn gigio. Fel petai hynny ddim yn ddigon maen nhw hefyd wrthi’n creu albwm aml-gyfrannog ddwyieithog a fydd yn codi arian at elusen sy’n gofalu am blant sy’n ddifrifol wael, The Joshua Foundation. “Rhan o brosiect wnaethom ni ar gyfer ‘Prentis Ifanc y Flwyddyn’ Rhondda Cynon Taf oedd e”, meddai Cai Morgan. “Roedden ni ishe meddwl am ffordd wahanol o godi arian felly dyma benderfynu creu albwm dwyieithog, a mi gawso ni wybod cyn y Nadolig mai ni oedd wedi ennill felly ry’n ni wrthi’n dod a phopeth at ei gilydd ar hyn o bryd.” Bydd nifer o fandiau adnabyddus yn cyfrannu ac eraill sydd fymryn yn fwy newydd i’r sin. “Ry’n ni wedi bod yn lwcus,” eglura Cai, “mae ‘na gymaint o fandie wedi bod yn awyddus i gyfrannu. Mae ‘na gân gan Colorama, Al Lewis, Cuba Cuba, Creision Hud ac Y Rwtch wrth gwrs!” Bydd yr albwm arbennig hwn ar y silffoedd yn fuan ar ôl y Pasg felly cadwch lygaid allan amdani a chofiwch gefnogi.

50 - GIG Y GANRIF? Heb os nac oni bai, uchafbwynt y calendr cerddorol yr haf hwn fydd Gig 50 - gig i ddathlu bod Cymdeithas yr Iaith yn hanner cant oed. Os am ddathlu, gwneud yn iawn ynte - mae’r criw sydd yn trefnu wir wedi torchi llewys - dros ddau ddiwrnod mi fydd pum deg, ia PUM DEG o fandiau yn chwarae ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ger Aberystwyth. Mae dros 30 o fandiau ac artistiaid wedi eu cyhoeddi hyd yn hyn a mwy o sêr y sin yn cael ei datgelu yn wythnosol - o Gruff Rhys i Meic Stevens, Steve Eaves i mr huw. “Ry’n ni’n ymwybodol bod y digwyddiad yma’n uchelgeisiol” meddai un o’r trefnwyr, Huw Lewis “ond mae hwn yn achlysur arbennig iawn ac yn ddigwyddiad o bwys

gwirioneddol. Mae’r Gymdeithas wastad wedi cynnal perthynas glos â’r sin gerddoriaeth, ac mae 50 yn ddathliad o hynny.” “Mae’r Gymdeithas wedi trefnu gigs mawr yn y gorffennol – mae rhai fel y Tafodau Tân a Rhyw Ddydd Un Dydd yn hanesyddol erbyn hyn. Efallai mai hwn fydd y mwyaf eto achos mae rhai eisoes yn ei alw’n ‘gig y ddegawd’ ac eraill yn ‘gig y ganrif ’!” Aeth tocynnau ar werth ar Ddydd Gŵyl Dewi, am ddim ond £25 - ac i’r gwir fathemategwyr yn ein plith, rydych chi’n gywir, dim ond hanner can ceiniog y band ydi hynna! Weles i’r rioed y ffasiwn fargen yn Kwiks hyd yn oed. Tri gair - welai.chi.yno.


21

y-selar.co.uk

NYTHOEDD NEWYDD Mae criw Nyth wedi bod yn trefnu a chynnal gigs ledled Cymru ers tua dwy flynedd bellach, ac maen nhw’n dal i drefnu fel tasa ‘na ddim fory! Mi ges i air gyda Gwyn Eiddior, un o brif drefnwyr Nyth, i gael gwybod beth yn union sydd ar y gweill. “Wel mi fyddwn ni’n cychwyn gyda’r gig ar Ddydd Gŵyl Dewi efo neb llai na Mr Meic Stevens yn headleinio!” Mae noson Nyth yn codi ei hadenydd ac yn symud o’r Gwdihw hefyd - bydd Gig Dydd Gŵyl Dewi yn Y Bunkhouse yng Nghaerdydd, a’r gig nesaf wedyn yn y Conwy Falls ym Mhenmachno. “Y bwriad ydy cynnal mwy o betha gwahanol o gwmpas Cymru benbaladr, gan rannu’r cariad a’r gerddoriaeth” meddai Gwyn yn gyffrous. Bydd y gig yng Nghaffi Conwy Falls ar 6 Ebrill - nos Wener y Groglith. “Sen Segur a’r Violas fydd yn

chwarae yn y Falls - mi fydd hi’n chwip o noson. ‘Da ni wedi gwneud gig yno o’r blaen ac mae ‘na wastad groeso dihafal i’w gael yno ac mae’n braf cael mynd nôl.” Oes yna Ŵyl Nyth yr haf yma yn geiriosen ar y gacen o gigs yma? “Wel oes! Mae’r diwrnod hwnnw wedi bod mor llwyddiannus yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ‘da ni’m yn mynd i’w newid o gwbl - felly eto eleni, nôl yn y Gwdihw, mi fyddwn ni’n trawsnewid y maes pacio i fod yn llwyfan agored gyda gemau, gwaith celf a pimms yn llenwi’r lle, ac mae ‘na dipyn o leinyp; Cowbois Rhos Botwnnog, Creision Hud, Dau Cefn, Ifan Dafydd ... da ni’n chuffed iawn bo ni di cael Ifan Dafydd, Plyci, Trwbador, Y Bwgan, Y Pencadlys a mwy i’w cyhoeddi. Felly mi fydd hi’n gwd teim i bawb!” Argol, mae jyst meddwl am y diwrnod yna yn gwneud iddi deimlo fel diwrnod o haf. Yn ogystal â

hyn i gyd mae criw Nyth wedi bod yn rhyddhau Nyth-cast ar y we yn ddiweddar ac mae mwy o’r rhain ar y ffordd. “Wel ‘da ni wastad yn dod at ein gilydd fel ffrindiau ac yn y diwedd yn trin a thrafod ac yn dadlau am gerddoriaeth felly dyma ni’n meddwl, beth am rannu hyn efo’r byd!” Mae ‘na bobl mor bell â Sweden a Rwsia wedi gwrando ar y Nyth-casts felly mae ganddyn nhw apêl eang iawn yn amlwg! Roeddwn i wedi clywed si bod ‘na CD Nyth yn mynd i gael ei rhyddhau hefyd, dyma holi Gwyn am y goss. “Oes! Rhywdro yn yr haf ‘da ni’n gobeithio rhyddhau albwm a fydd yn gasgliad o ganeuon arbennig gan amryw artistiaid a gobeithio y bydd yr albwm yn canmol a chanu clodwiw i artistiaid Cymru.” Wel jiw jiw, mae hogia Nyth wedi bod yn brysur. Dewch i’w cefnogi!

hysbys 472 selar:472 15/02/2012 16:38 Page 3

ADDYSG AC AWYRGYLCH HEB EU HAIL

• Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2013 • Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuadd Gymraeg ar safle Ffriddoedd sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Ffôn: 01248 382005 / 383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk

Dilynwch ni: Facebook.com/PrifysgolBangor • Twitter: @prifysgolbangor


adolygiadau

y-selar.co.uk

SARAH // NOFA SCOSIA SENGL SEN SEGUR Does dim llawer o eiriau fedrith ddisgrifio’r sengl yma, ond mae’n bosib fod yna un anhygoel. Sengl ‘dwbl A’ sydd yma’n cynnwys y traciau ‘Sarah’ a ‘Nofa Scosia’. Rwyf wrth fy modd efo’r ffaith fod y sengl wedi ei rhyddhau ar gasét, a bod y traciau wedi’u recordio ar beiriant 8-trac yng Nghae Gwyn, gyda Huw Owen (mr huw) a Rhys Llwyd. Mae’r dechneg retro o recordio wedi llwyddo, oherwydd mae sŵn eithaf muted y casét yn cyd-fynd â naws a sŵn Sen Segur, ac mae elfen o sŵn byw yna, sy’n caniatáu i’w naws hollol unigryw ddod allan yn naturiol. Dwy gân sy’n cyfuno â’i gilydd yn berffaith, caneuon syml efallai, ond mae’r holl beth wedi dod at ei gilydd i greu un campwaith. Yn y dyfodol, mae’n bosib mai’r sengl yma fydd yn dod i’ch meddwl wrth glywed yr enw ‘Sen Segur’. Hon yw Sengl gyntaf y band ers rhyddhau eu EP Cyfoeth Gwlyb, a mawr yw ein gobaith o weld mwy o gynnyrch yn cael ei ryddhau gan y band gwych yma yn y dyfodol agos! 8/10 Ifan Edwards

YR AUR A’R BAW ALIEN SQUARE O be’ dwi wedi ei weld, mae sioeau byw Alien Square yn rocio ac maen nhw wedi gwneud enw iddyn nhw eu hunain yn chwarae roc trwm. Ond, yn rhyfedd ddigon, maen nhw wedi cefnu ar hynny a mynd i gyfeiriad hollol wahanol ar gyfer eu EP cyntaf nhw. Mae’r band yn esbonio bod y record wedi cael ei hysbrydoli gan eu magwraeth wledig ac yn mynd o felodïau gwerin at ganu gwlad-roc. Disgrifiad digon apelgar ond yn anffodus, dyw’r cynnyrch ddim yn cyrraedd yr un safon â’r gwaith marchnata. Mae ‘Sibrydion’ yn dechrau fel hen gân Iwcs a Doyle ac er bod gallu gitâr Dafydd Dabson yn dod yn amlycach wrth i’r gân ddatblygu, dyw llais cras Ceri Ambrose (sy’n swnio fel dynwarediad gwael o ganwr Nickleback, Chad Kroeger) ddim yn gweddu â’r gerddoriaeth. Mae’r trac acwstig, ‘Yr Aur a’r Baw’, wedyn yn swnio fel petai Geraint Griffiths wedi mynd nôl i’r stiwdio ac eto mae llais y canwr yn swnio allan o le. Mae gwaith gitâr ‘Addewid Cwsg’ yn eitha seicadelig a breuddwydiol – y gân orau ar y record heb os – ond mae ‘Hogyn’ wedyn yn troi’n un drôn hir erbyn y diwedd. 4/10 Ciron Gruffydd

22

AFTER AN ALIBI

12 [deuddeg] Daeth rhifyn olaf 2011 o Y Selar â chasgliad o draciau Cymraeg cyfoes i’n clustiau. Albwm aml gyfrannog gan Y Selar a Menter Môn oedd ‘12’ [deuddeg], a dyma gasgliad cyffrous gan rai o dalentau mwyaf y sin roc Gymraeg. O wylltineb ‘Fy Mocs Cyfrinachol Bach i’ gan Plant Duw, i symlrwydd a naws hamddenol ‘Cariad’ gan Dau Cefn. Roedd y deuddeg trac yma mewn rhyw ffordd yn cyfuno’n berffaith ac mae pob trac yn suddo mewn i’w gilydd a chyfuno hefo’i gilydd yn eu trefn. Gwrandewch ar yr albwm yn ei gyfanrwydd heb neidio unrhyw draciau - cewch foddhad mawr yn gwrando ar y casgliad gwych yma. Gallaf feddwl am hwn fel albwm y byddai rhywun yn gwrando arno wrth deithio yn y car. Mae’n cynnwys traciau a fydd yn aros yn hir yn y cof, er enghraifft ‘Madfall’ gan Jen Jeniro a ‘Dadansoddi’ gan Yr Ods. Anrheg Nadolig cofiadwy! ‘Sgwni be’ ‘gawni’r Nadolig nesaf? ‘13’ [tairardddeg]? 9/10 Ifan Edwards

CURIAD CARIAD LLWYBR LLAETHOG Dyma albwm sydd yn glytwaith o haenau sain â hoel meddwl arnynt. Gan gyfuno rhai o leisiau, doniau a meddyliau gorau Cymru (John a Kevs, Catrin Dafydd, Mark Roberts, Geraint Jarman a llawer mwy) mae Curiad Cariad yn llwyddo i drydanu tympan y glust wrth ddelio â materion mawr bywyd heb gilio o gwbl - cariad, cyfalafiaeth, chwant, bodlondeb mewn bywyd a rhwyg mewn cymdeithas – mae’r cwbl yma mewn môr o dyb, reggae, ffync a hip-hop. Allwch chi ddychmygu nofio mewn unrhyw well peth? Rhowch eich paned i lawr,  gadewch yr e-bost yna ar ei hanner, a rhedwch fel gwallgofddyn lawr y lôn i brynu copi o Curiad Cariad heddiw! AID O RHRAND 9/10 GW Casia Wiliam

O’r diwedd! Dyma EP Gymraeg hir ddisgwyliedig After An Alibi, band a ddaeth i amlygrwydd yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau nôl yn 2009. Yn gwbl wahanol i indie-roc hynod boblogaidd y sin, mae brand unigryw o roc trymach a thywyllach y band yma’n chwa o awyr iach, er efallai nad yw’n rhywbeth fydd at ddant pawb. Maen nhw’n debyg iawn i fandiau roc megis Funeral For A Friend a Lostprophets, ac mae’r dylanwad hwnnw’n amlwg ar y traciau ‘Rheda i Ffwrdd’ a ‘Dim Ffydd’ yn enwedig. Mae ‘Ni di’r Unig Rai’ yn anthem, gyda chytgan sy’n eich gorfodi i gyd-ganu, tra bod ‘Penwythnos Gwyllt’ yn gân wych ar gyfer paratoi i fynd allan ar nos Sadwrn. Cân ddwys, yw ‘Colli Ffrindiau’ sydd â naws iasoer, eerie iddi, ac mae ‘Llond Bol’ unwaith eto’n gân â’i geiriau’n serio yn eich cof. Mae llais dwfn, aeddfed y prif ganwr, Siôn Foulkes, yn eich hudo, a’r gitars egnïol yn eich codi i’ch traed. Dyw hi ddim yn record ar gyfer ymlacio ar bnawn Sul tawel, o bell ffordd, ond mae hi’n sicr yn EP sy’n mynnu eich sylw, ac yn arwain y ffordd i fandiau alternative rock Cymru. 8/10 Miriam Elin Jones

GORFFEN NOS YR ANGEN Llais ydi’r gair pwysig wrth drafod yr albwm yma gan Yr Angen. Llais yn yr ystyr llythrennol i ddechrau sef y peth yna sy’n dod allan o’ch ceg chi. Fe fydd gan bawb ei farn ei hun am lais unigryw’r prif leisydd, Jac Davies, ond dwi’n meddwl ei fod o reit ffresh a diddorol unwaith yr ydach chi wedi cael rhyw gân neu ddwy i ddod i arfer ag o. Ac mae gan y band ei hun lais newydd hefyd. Mae yna asbri ieuenctid yn perthyn i’w roc indi bywiog nhw ac mae’n beth braf clywed acen newydd hefyd i’n atgoffa ni bod yna sin tu hwnt i Gaerdydd a’r gogledd. Mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod i braidd yn amheus ar ôl gwrando ar y pedair cân gyntaf os oeddwn i’n mynd i allu ei gwneud hi tan y diwedd achos mae o’n uchel, yn gyflym ac yn llawn solos gitâr. Ond mae’r band yn llwyddo i ddangos amrywiaeth yn ail hanner yr albwm gydag ambell drac arafach. Un o’r rheiny, ‘Torri ni Lawr’ ydi fy ffefryn i ynghyd â ‘Nawr Mae Drosto’ a ‘Boi Bach Skint’ sydd eisoes yn hits i’r hogia’. Dwi’m yn foi roc rhy drwm ond mi goda i fy nghap i Yr Angen serch hynny. 7/10 Gwilym Dwyfor


23

y-selar.co.uk

PLYCI Y tro diwethaf i mi weld Plyci yn fyw oedd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam lle’r oedd pawb - o laslanciau yn eu crysau T Cyw at neiniau ar shopmobility – yn dawnsio a gwneud wheelies. Mae’n anodd, felly, bod yn wrthrychol o dan y fath amgylchiadau ond dwi’n siŵr bod o leia’ rhywbeth yn y cynnig diweddaraf i blesio’r sinig mwyaf o gerddoriaeth electro. Mae ‘Intro’ yn dechrau bron yn emynaidd gan atsain albwm cyntaf Justice o stabl Ed Banger Records ac felly hefyd ‘Meta Montage’, i raddau. Ond cyn gwneud cymariaethau byrbwyll, mae llais Plyci ei hun yn dod yn amlycach wrth i’r record barhau. Mae’r ail gân, ‘Slut’ (oedd hefyd ar compilation Electroneg 1000) yn drwm, yn lliwgar ac yn swnio fel sut dwi’n dychmygu mae Ibiza’n blasu. Mae ‘Flump’ wedyn yn datblygu’n ara’ at felodi hyfryd cyn disgyn yn ôl i’r dyfroedd lle daeth hi. Ond yr uchafbwynt i mi yw ‘Tube’ - cân filain, ddidrugaredd, saith munud o hyd sy’n mynd â mi nôl i ref mewn chwarel yn Yr Almaen. Oes angen dweud mwy? 9/10 Ciron Gruffydd

DISCOPOLIS CLINIGOL Albwm dwbl gwreiddiol cyntaf yr iaith Gymraeg yn ôl pob sôn, ac albwm dwbl arbennig o glyfar ydy o hefyd! Mae disg un yn gasgliad o draciau pop a disco gyda digon o fynd iddyn nhw, gyda 9 o ferched hynod dalentog yn benthyg eu lleisiau hyfryd. Beth mae Clinigol yn ei wneud ydy cynnig rhywbeth nad oes unrhyw un arall yn ei wneud yn y Gymraeg ar hyn o bryd - pop budr heb unrhyw gywilydd! Jyst y boi i’ch rhoi chi yn y mŵd

cyn mynd allan ar nos Sadwrn! Ac yna mae disg dau, sy’n gasgliad hollol wahanol o ran arddull y gerddoriaeth er bod nifer o’r caneuon yr un fath! Cymysgedd o draciau electronica ac acwstig sydd yma – rhai yn ailgymysgiadau o ganeuon disg un, ac eraill yn fersiynau newydd o stwff blaenorol Clinigol. Yr uchafbwyntiau? Mae’r tair fersiwn o ‘Discopolis’ yn crynhoi amrywiaeth y casgliad, tra bod ‘Perygl’ gyda Rufus Mufasa yn ffefryn mawr hefyd. 8/10 Owain Schiavone

Dodd com

Eich rhaglen chi yn fyw ar y we 7pm Llun – Gwener bbc.co.uk /c2

Dilynwch y sw ˆn ar Facebook a Twitter c2_advert_190x138mm.indd 1

18/11/2010 15:06


fi d i

duw 9.3 0 8M aw Be rth ba th fyd Ma Wh it ti’n det t rch cou at wo dduwi’n ei ld p uld am wn lay

s4c .co .uk

you dd eud p i go d f do if wrnod e or a dyou ? ay?


Y Selar - Ebrill 2012