Page 1

Rhif 57 // AWST // 2019

GWILYM Concro Cymru


Gig bach Candelas 13/09 6-7y.h. £3 Gig Dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr i Ysgolion Cynradd

Gig mawr Candelas 13/09 8-11y.h. £9

Noddir gan Prifysgol Aberystwyth


y Selar Rhif 57 // AWST // 2019

Golygyddol

cynnwys

Bydd y rhai craffaf yn eich mysg wedi sylwi nad oedd rhifyn ym mis Mehefin ond peidiwch â phoeni, rydym ni yma o hyd! Dim ond dwywaith y flwyddyn y byddwn yn cyhoeddi o hyn ymlaen, yn ystod yr Eisteddfod ym mis Awst ac i gydfynd â’r Gwobrau ym mis Chwefror. Fel y dywedodd neb erioed, mae chwe mis yn amser hir mewn miwsig. Golyga hynny bod y rhifyn hwn yn llawn dop, o Gwilym i Blodau Papur ac o Hyll i Carwyn Ellis, mae yma rhywbeth i bawb. Cewch glywed am ambell brosiect newydd cyffrous hefyd a dod i adnabod artistiaid rownd derfynol Brwydr y Bandiau fymryn yn well. Heb anghofio’r adolygiadau, mae rhai o hoelion wyth y sin yn rhyddhau’r haf hwn felly nid oes prinder deunydd. Sôn am ddeunydd, mae digonedd o hwnnw’n ymddangos ar y wefan felly fe gewch chi eich ffics yno yn y bylchau rhwng rhifynnau. Ond i’r rhai ohonoch sy’n hoffi’r oglau papur ffresho’r-wasg yna... mwynhewch!

Gwilym

4

Sgwrs Sydyn - Hyll

8

Blodau Papur

12

Iaith y Nefoedd

16

Brwydr y Bandiau

20

Carwyn Ellis a Rio ‘18

24

Adolygiadau

28

GWILYM DWYFOR

Llun clawr: Ffotonant

4

8

12

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

yselar.cymru

21

facebook.com/cylchgrawnyselar

HYSBYSEBION yselar@live.co.uk CYFRANWYR Lois Gwenllian, Bethan Williams, Ifan Prys, Aur Bleddyn, Gethin Griffiths, Dylan Huw, Elain Llwyd, Marged Tudur

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau.’


GWI yn barod Geiriau: Gethin Griffiths Mae hi’n teimlo fel oes wahanol, erbyn hyn, pan oedd rhywun yn gorfod ciwio y tu allan i Palas Print am 9 o’r gloch y bore i gael tocyn i fynd i weld Yws Gwynedd a Sŵnami yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon. Mae hi’n teimlo fel oes wahanol, erbyn hyn, i’r adeg ’na lle ’naethoch chi weld Candelas am y tro cyntaf, a chael eich synnu gan ymateb y gynulleidfa o’ch cwmpas. Mae hi’n teimlo fel blynyddoedd, erbyn hyn, ers gallu dweud bod gan fand newydd y gallu i greu’r un math o gynnwrf â’r bandiau hynny. Mae yna fwlch wedi bodoli ers ychydig o flynyddoedd bellach, sydd yn fwlch cyfarwydd i’r rhai hŷn ohonom ni. O bryd i’w gilydd, mae’r prif fandiau’n distewi, gan adael her i’r bandiau llai poblogaidd lenwi eu hesgidiau. Ambell dro, does ’na ddim band eisiau llenwi’r fath 4

yselar.cymru

fwlch, ac yn hapusach i apelio at y rhai sy’n credu eu bod nhw’n fwy soffistigedig yn ddiwylliannol. Ar adegau eraill, efallai nad oes gan ambell fand y gallu na’r dylanwad ar y gynulleidfa i greu sŵn o’u hamgylch. O bryd i’w gilydd, fodd bynnag, mae ’na rywun fel Gwilym yn cnocio ar y drws. Dim ond ddwy flynedd yn ôl, Gwilym oedd y band ’na oedd ’di rhoi’r gân ’na o’r enw ‘Llechan Lân’ ar SoundCloud. Fis Chwefror eleni, Gwilym oedd y band ’na oedd yn gadael tref Aberystwyth gyda phum gwobr Selar (Band Gorau, Cân Orau am ‘Catalunya’, Record Hir Orau a Gwaith Celf Gorau gyda Sugno Gola a’r Fideo Cerddoriaeth Gorau hefo ‘Cwîn’) a phrawf o lwyddiant a oedd fel pe bai wedi ymddangos o nunlle. Roedd Llew Glyn a Rhys Grail yn barod iawn i drafod dros beint yng Nghaernarfon, ac Ifan Pritchard yn ymuno dros FaceTime o Lundain. Gyda chwe mis wedi mynd


LYM i goncro heibio ers y Gwobrau, mi oedd y tri’n sylweddoli pa mor bwysig y maen nhw wedi bod iddyn nhw dros yr hanner blwyddyn ddiwethaf. “Ar ôl curo’r gwobrau,” meddai Ifan, “roedd o fel ein bod ni’n cael gwneud beth bynnag ’oeddan ni eisiau wedyn, gan ei fod wedi’n gwneud ni’n fwy hyderus yn yr hyn yr ydym ni’n ei wneud. Roedd o’n rhoi rhwydd hynt i ni fynd ati i fod yn greadigol, achos ein bod ni’n gwybod bod pobl yn ein mwynhau.”

yselar.cymru

Lluniau: Ffotonant

ìíDa niím yn sylwi pa mor lwcus ydym ni.î

Bu i Llew sylweddoli ar y noson honno bod ganddyn nhw gynulleidfa ehangach na’r wynebau cyfarwydd oedd o’n eu hadnabod o’r colegau, “Oedd o’n eithaf od sylweddoli bod y fan base yn llawer ieuengach na’r disgwyl. ’Dw i’n cofio edrych i mewn i’r gynulleidfa heb adnabod llawer o’r wynebau. Fel arfer, pan ’dw i’n chwarae yn y ddawns Ryng-Gol, ’dw i’n nabod pawb o’m mlaen i.” Roedd yn amlwg nad oedd y band wedi rhagweld y llwyddiant yma’n dod mor sydyn, ond yn sylweddoli bod natur eu cerddoriaeth nhw’n cynnig ei hun yn dda i gynulleidfaoedd eang. I Rhys, mae hynny’n eu rhoi nhw ar wahân i rai o’r bandiau eraill sydd o gwmpas ar hyn o bryd, yn enwedig bandiau’r brifddinas. “’Da ni’n fand sydd yn eithaf canol y ffordd, ac oherwydd hynny, mae’r gynulleidfa’n fawr. Os ti’n sbio ar fandiau Caerdydd, maen nhw’n llawer mwy amgen na ni.” 5


I Llew, mae hynny’n golygu nad yw eu cerddoriaeth yn cael ei gyfyngu i bobl o oedran penodol. Mae’r modd y bu i Edward H Dafis bontio’r cenedlaethau yn eu gig olaf yn Eisteddfod Dinbych 2013 wedi aros yn y cof iddo. “Mi oedd fy nhaid a nain yna, roedd mam a dad yna, ac mi’r oeddwn i yno hefo fy mrodyr a fy chwaer. ’Dw i’n meddwl y buasai nain llawer mwy tebygol o wrando arnom ni na gwrando ar rywun fel Los Blancos, er fy mod i wrth fy modd hefo nhw.” Maen nhw i gyd i weld yn cytuno fod eu dyled am hynny i Yws Gwynedd, sydd yn gyfrifol am eu label, Recordiau Côsh, a Rich Roberts, eu cynhyrchydd o Stiwdio Ferlas. Mae Ifan yn cofio ffigwr dylanwadol arall o’r sin yn awgrymu iddo fynd draw i Benrhyndeudraeth i recordio ei gerddoriaeth, “’Dw i’n cofio siarad hefo Dyl Mei ar ôl ein gig cyntaf ni, ac mi ddywedodd o ein bod ni angen mynd at Rich, gan ei fod o’n un o’r cynhyrchwyr gorau o gwmpas ar hyn o bryd. Mae ’na lot o bobl yn siarad am ‘sŵn’ Rich yn y stiwdio. Mae o’n adnabod personoliaethau cerddorol ei fandiau, ond mae o’n rhoi ei stamp ei hun arno fo hefyd. Mae hynny’n mynd â’r peth i lefel mwy masnachol, ac yn creu rhywbeth hawdd i wrando arno fo fel cerddoriaeth Sŵnami ac Yws Gwynedd.” Mae’r prif leisydd hefyd yn cofio’r peth cyntaf y dywedodd Yws wrthyn nhw ar ôl eu gweld nhw’n chwarae. ‘’Naeth o ddim dweud ‘helo’, ond mi ddywedodd o nad oedd ‘Llyfr Gwag’ mor dda ag y gallai fod, a dweud wrthym ni fynd at Côsh i sortio hynny. Ar ôl i ni glywed y gân wedi cael ei hail wneud, mi’r oeddan ni’n deall yn syth.” Roedd Rhys yn credu bod Yws yn eu gweld nhw fel olyddion naturiol iddo fo wrth iddo gymryd hoe o berfformio, “Ni oedd un o’r bandiau cyntaf i arwyddo ar Côsh. Yng nghefn ei feddwl o, roedd o’n gwybod ei fod o’n mynd i stopio gigio, ac yn meddwl pwy fydd yn cario pethau ymlaen, ac am ryw reswm, mi welodd o botensial yno ni.”

GIMMICKS A GORWELION Mae’r Eisteddfod yn uchafbwynt amlwg i fand o’r fath, a bydd Eisteddfod Llanrwst yn arwydd pellach o lwyddiant Gwilym, wrth iddyn nhw gloi llwyfan Maes B ar y nos Wener. “’Da ni ddim yn nerfus,” honna Llew, “ond mi’r ydan ni’n gobeithio y bydd pobl yn ein mwynhau ni, fel y gwnaethon nhw yn Tafwyl.” Er hynny, maen nhw’n ymwybodol bod perfformio ym Maes B ychydig yn wahanol, a bod bandiau’n tueddu i wneud ymdrechion arbennig i ychwanegu at eu perfformiadau byw wrth chwarae yno. Fodd bynnag, dydi Ifan ddim yn credu bod hynny’n gweithio bob tro. ‘Mae’r gimmicks i gyd yn dod allan ym Maes B, ac mi fedra’ i enwi lot ohonyn nhw sydd wedi methu dros y blynyddoedd. Mi’r oeddan ni’n siarad am beth allwn ni wneud, ac oeddan ni’n teimlo bod pethau fel taflu peli i mewn i’r gynulleidfa wedi cael ei wneud yn rhy aml rŵan. ’Da ni’n rhedeg allan o syniadau, ond mae’n rhaid cofio mai’r gerddoriaeth sy’n dod gyntaf. ’Da ni’n ymwybodol iawn o’n delwedd ni a sut ’da ni isio’r gynulleidfa ein gweld ni.’ Bydd hynny’n golygu y bydd Gwilym wedi cyflawni 6

yselar.cymru

popeth (heblaw cloi’r nos Sadwrn, efallai) sydd i’w gyflawni yn draddodiadol i fand Cymraeg yng Nghymru. Wedi dweud hynny, mae’r ffaith eu bod wedi cael eu cynnwys ym mhrosiect Gorwelion eleni yn golygu bod modd iddyn nhw edrych ymhellach na hynny. Roedd Llew yn edrych ymlaen at yr her. “Mae Gorwelion yn ein taflu ni allan o’r comfort zone ’wan. Mi’r oedd pethau fel Tafwyl yn grêt, ond ’da ni’n cael cynigion gwahanol rŵan fel gigs yn llefydd fel Manchester, a ’da ni ’di rhoi cais i mewn i gael mynd i Taiwan a Chanada! Wedi dweud hynny, does ganddo ni ddim targedau na disgwyliadau. Mae o fel dechrau o’r newydd. Mae o fel dechrau career mode newydd ar FIFA.” Yn y byd sydd ohoni, gyda’r mwyafrif ohonom ni’n gwrando ar gerddoriaeth drwy wasanaethau ffrydio, mae gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg unrhyw le yn y byd yn haws nac erioed o’r blaen. Mae’r band yn gweld hyn fel cyfle gwych i ddenu mwy o sylw. Daw i’r amlwg bod gan Ifan farn gref am hyn. “Mae Alffa ’di profi ei fod o’n bosib. ’Da ni angen cael gwared o’r syniad ’ma nad


ìMae mor hawdd gwrando ar gerddoriaeth ^ Gymraeg rw an.î ydy cerddoriaeth Gymraeg yn apelio at glustiau Seisnig. Dyna ’di’r cam nesaf i bob band Cymraeg - cofleidio’r byd ffrydio.” Sylwodd Llew hefyd bod ganddyn nhw ddilyniant annisgwyl o brifddinas Lloegr. “Llundain ’di’r ail leoliad mwyaf o ran ffrydiau i ni. Dwi’n nabod tua dau berson o Lundain, a dwi’n cymryd nad nhw sy’n gyfrifol am hynna i gyd. Mae mor hawdd gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg rŵan.” Mae’n mynd ymlaen i egluro pa mor hawdd yw gwrando ar gerddoriaeth o Gymru law yn llaw â cherddoriaeth o ben arall y byd. “’Dwi wedi bod yn

gwrando ar albwm Carwyn Ellis yn ddiweddar, law yn llaw hefo pethau Tropicália a phethau tebyg.” Er hynny, dydi Ifan ddim yn barod i farnu’r llwybr naturiol y mae bandiau Cymraeg yn ei ddilyn. Gan ei fod yn astudio cerddoriaeth boblogaidd yn Guildford, mae’n siarad yn ddyddiol gyda bandiau sydd heb gael yr un math o gefnogaeth â’r hyn y mae o wedi ei gael dros y blynyddoedd. “’Dw i’n gweld bandiau o gwmpas campws y Brifysgol sy’n chwarae cerddoriaeth anhygoel, ond heb gael y cyfleoedd yr ydym ni wedi eu cael. ’Da ni’m yn sylwi pa mor lwcus ydym ni.” Mae’r syniad yma o gyfyngiadau ar yr hyn y mae band yn gallu ei gyflawni yng Nghymru yn bwnc sydd wedi profi i fod yn anodd i nifer o gerddorion ar hyd y blynyddoedd, ond mae yna ymdeimlad, yn sicr ymysg bandiau label Côsh, bod oes cerddorol sydd ohoni heddiw yn cynnig mwy o gyfleoedd nac erioed. Efallai mai Gwilym yw’r Yws Gwynedd neu’r Sŵnami newydd, ond mae ganddyn nhw eu llygaid ar bethau llawer ehangach na hynny... yselar.cymru

7


Yr EP, Rhamant, allan ers cwpl o wythnosau, teimlad da rhannu’r tiwns? Yn bendant! Ni wedi bod yn rhannu cwpl yn fyw ers sbel, ac mae rhai yn gwbl newydd... felly ni’n buzzing i gael nhw allan i bobl gael gwrando arnynt!

Lle a phryd fuoch chi wrthi’n recordio? Yn stiwdio Mei Gwynedd yn Tyllgoed, dros un penwythnos ym mis Tachwedd ac ail benwythnos ym mis Mawrth. A rhyddhau gyda JigCal hefyd? The one and only. Ar Spotify i ddechrau, a falle CD os oes unrhyw un actually yn gwrando ar yr EP. A’r cwestiwn pwysicaf, beth all y gwrandawyr ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Iwan: Mwy o grooves a riffs a stwff fel ’na. Ma’ ’na bedwar o’ ni nawr lle’r odd dim ond tri. Hefyd, ni ’chydig yn well ar ein hofferynnau nawr. Ma’ pethau ’di esblygu ychydig.


Gwaith celf: Bethan Scorey

Bedwyr: Dwi dal methu chware’r gitâr yn iawn felly nes i droi at y tamborin ar ambell drac. Fi yw chwaraewr tamborin gorau’r SRG nawr, don’t @ me. Cwpl o flynyddoedd ers yr EP diwethaf, roedd honno’n bangar, sut mae’r sŵn wedi esblygu yn y cyfamser? Jac: Nes i, Iwan a Bedwyr chwarae’r dryms ar yr EP cyntaf, so oedd y rhythm section a’r egni yn newid yn gyfan gwbl rhwng pob cân. Ni’n lot fwy “solid” nawr bod ’da ni drummer go iawn, sŵn mwy cyson. Owain: Dwi yma nawr! ‘Womanby’ oedd y gân gyntaf i ni ryddhau fel pedwar, ond nath y newid ddigwydd yn fuan ar ôl yr EP yna yn 2017. Mae Iwan a Bedwyr wedi sefydlu perthynas gryfach gyda’r ddau nawr ar flaen y llwyfan fel prif ganwyr. Pam “rhamant”? Iwan: O’n i’n awyddus i sgwennu lyrics oedd yn weddol agored amdano’n profiadau personol ni, i drio cyfathrebu efo pobl. Ma’r rhamant yma’n bodoli mewn cysylltiadau rhyngddo ni gyd, efo’ch cariadon neu’ch mates neu’ch local pub neu unrhyw beth chi’n teimlo cysylltiad emosiynol tuag ato. ’Na be’ ma’ lot o’r caneuon ’ma amdano, really. Beth yw’r broses wrth i chi recordio? Iwan: O’n i’n meddwl am y tiwns ’ma fel casgliad cyn i ni ddechrau recordio. Efo’r EP cynta’ o’n ni just eisiau pedwar banger gydag un hwiangerdd, heb lawer o gynllun tu hwnt i hynna. Efo’r un ’ma, odd ganddon ni ’chydig o syniad amdano’r naws a’r strwythurau a stwff pretentious fel ’na. Owain: Yn gyffredinol ma’r caneuon yn eithaf cyflawn pan ni’n mynd i’r stiwdio, caneuon fel ‘Dyn Sbwriel’ a ‘Sai’n Siŵr’. Ond odd ‘Gwrthgymdeithasu’ wedi datblygu

loads wrth ei recordio, gyda ‘Morforwyn’ basically wedi ei sgwennu ar y spot... ’bach fel aftermath i ‘Dyn Sbwriel’. Bedwyr: Y tro cyntaf i ni fynd i mewn i’r stiwdio gyda’r senglau cyntaf – ‘DGTMR’ ac ‘Ysgol’ - doedd dim llawer o glem gyda ni sut i fynd ati ond fe wnaeth Mei Gwynedd ei wneud yn haws i ni. Y tro yma roedd llawer mwy o syniad gyda ni sut roedden ni eisiau i’r caneuon swnio ar ddiwedd y broses, a ma’ Mei wedi gwneud iddynt swnio hyd yn oed yn well! Beth oedd rhai o’r dylanwadau wrth i chi recordio’r EP? Iwan: Ni gyd yn gwrando ar gerddoriaeth rili gwahanol ond ma’ ’na rai artistiaid ni gyd yn cytuno arno, Stella Donnelly, Angel Olsen, Fontaines D.C., King Krule, jyst i enwi rhai. Nhw yw’r enwau sy’ fel arfer yn dod lan pan ni’n dadlau am chord progressions neu basslines neu rywbeth. Owain: O ran dylanwadau Cymraeg, ni gyd yn ffans mawr o Los Blancos, a daeth EP class Papur Wal allan tra’r oedden ni’n recordio ’fyd. Er bod pob band isie dweud bo’ nhw’n 100% unigryw, does dim dadlau ein bod wedi dysgu lot gan y bands ’da ni wedi’u cefnogi dros y blynyddoedd, Breichiau Hir a Mellt i enwi dau. Bedwyr: Gyda ‘Dyn Sbwriel’, roedd SFA yn bendant yng nghefn y meddwl, ond hoffwn allu dweud bod sŵn y gweddill yn reit unigryw. Oes gennych chi hoff gân o blith y casgliad, a pham? Jac: ‘Dydd a Nos’, fi’n ffeindio caneuon emosiynol yn fwy diddorol, a dyma’r fwyaf emosiynol a difrifol ni ’di neud. Iwan: Probably ‘Morforwyn’, yr un lleiaf. Babi bach fi. Bedwyr: ‘Gwrthgymdeithasu’ yw fy un i bendant! Mae bron fel dwy gân mewn un ac yn cyfleu ein rhagolwg ar fywyd yn eitha’ twt. yselar.cymru

9


byw mewn unrhyw recordiad yn sialens. Yn bersonol dwi’n ei ffeindio’n reit anodd ond mae Iwan yn edrych reit naturiol yn y bŵth recordio!

Pa un fydd yr “hit”? Jac: Mae’n cerddoriaeth ni mor erratic mae’n anodd dweud. Mae’r caneuon mor wahanol i’w gilydd mewn egni a “poppiness”, bydd ’da pobl wahanol ffefrynnau. Siŵr o fod mai ‘Gwrthgymdeithasu’ yw’r gân fwya’ hygyrch though. Iwan: Credu taw ‘Sai’n Siŵr’ yw’r gân fwya’ normal ni erioed ’di sgwennu. Bedwyr: ‘Gwrthgymdeithasu’, ‘Sai’n Siŵr’, ‘Dydd a Nos’, ‘Dyn Sbwriel’, ‘Morforwyn’. Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un ydach chi fwyaf balch ohoni? Owain: Siŵr o fod ‘Gwrthymdeithasu’, gan ei fod yn mammoth o gân dros 5 munud o hyd, ac felly’n dipyn o workout ar y dryms! Iwan: Odd y recordio’n chilled iawn tro ’ma. Mae’n helpu lot pan chi’n gallu just ymlacio a neud eich thing. Bedwyr: Gan mai chwarae’r tamborin oeddwn i’n neud ar ambell gân roedd recordio’n hynod o chilled i fi... Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Iwan: Jac ac Owain yn trio recordio backing vocals ar gyfer ‘Womanby’ (sydd ddim ar yr EP ond gath ei recordio’n yr un sesiynau). Odden nhw literally angen canu dau air ond odd e’n ormod iddynt. Ma’ ’na fideo yn rhywle. Bedwyr: Ceisio bwyta corned beef pastie ond methu esbonio i Owain beth oeddwn i’n neud. Ma’ ’na fideo arall yn rhywle. Rydych chi’n fand byw naturiol iawn ond mae recordio’n ddisgyblaeth hollol wahanol, ydi hi’n anodd newid o un i’r llall? Owain: Ni bendant yn sgwennu caneuon gyda’r prif bwrpas o’u chwarae’n fyw, ond ’da ni wedi sylweddoli pwysigrwydd recordio’n ddiweddar. Mae modd joio gig lot mwy os ydych yn gyfarwydd â’r caneuon! Dwi’n teimlo bod hwn yn wir iawn gyda bands fel Mellt, sydd wedi bod o gwmpas ers sbel, ac yn cael y clod y maent yn haeddu o’r diwedd. Iwan: Gigs mewn clybiau bach neu dafarndai yw cynefin ein cerddoriaeth ni. ’Na lle mae’n neud y mwyaf o sense. Bedwyr: Mae cyfleu’r egni sydd i’w deimlo mewn gig 10

yselar.cymru

Mae gennych chi berthynas dda iawn gyda Chlwb Ifor fel y profodd y sengl, ‘Womanby’. Pa mor bwysig i fand fel chi yw bod Clwb a lleoliadau byw tebyg yn bodoli ac yn cael eu hamddiffyn? Iwan: Nes i honestly just sgwennu e’ i drio blagio drinks am ddim. Dyw e’ heb weithio unwaith. Owain: Ni gyd am gael tatoos Clwb Ifor ar ein pen olau just to sweeten the deal. Ond ar nodyn fwy cheesy, ma Clwb Ifor wedi bod yn class gyda ni, a ma’ gyda ni lot i’ ddiolch iddyn nhw! Bedwyr: Dwi am gael tatoo o Clwb ar fy mhidyn, wedyn bob tro dwi’n cael codiad bydd Ifor Bach yn ymddangos! Ar nodyn mwy difrifol, mae Stryd Womanby wedi rhoi llwyfan i lwyth o fandiau lleol a chymaint o fandiau Cymraeg o bob cwr o Gymru. Dyma ein hoff le i fynd allan yng Nghaerdydd hefyd felly dyma ein ffordd ni o dalu teyrnged a dweud diolch wrth le mor fendigedig! Mae clawr yr EP yn un trawiadol iawn, beth yw hanes y llun? Owain ac Iwan: Rodden ni gyd yn awyddus i gael llun gan un o’n ffrindiau ni fel clawr. Mae ein lyrics yn aml yn sôn am stwff sy’n digwydd i ni, ein ffrindiau, pethau sy’n weddol gyffredin i’n cyfoedion, felly ma’ cael mewnbwn oddi wrthyn nhw’n teimlo’n werthfawr iawn. Llun gymerodd ein ffrind, Harri Watt, gyda hen gamera ffilm ar wyliau yn Llyn Bled (Slofenia) haf diwethaf yw hwn. I ni mae cyfuno llun fel yna efo’r gerddoriaeth yn ychwanegu at ystyr caneuon fel ‘Gwrthgymdeithasu’ neu ‘Morforwyn’, lle ma’ nhw ’di deillio o’n profiadau personol. Mae’n ychwanegu haen arall i bopeth. Dyma eich ail EP, albwm nesaf? Owain: Mae’n sicr wedi bod yn sialens i greu cerddoriaeth newydd gyda ni’n pedwar wedi gwasgaru rhwng prifysgolion (Bryste, Manceinion, Rhydychen ac Abertawe), ond ma’r ffaith ein bod i gyd yn symud yn ôl i Gaerdydd blwyddyn yma’n argoeli’n dda o ran gallu arbrofi a chreu mwy. Iwan: Dwi’n meddwl newn ni siŵr o fod parhau i siarad shit a sgwennu tiwns. Ond ’sneb yn siŵr yn union sut fydd ’na’n troi mas. ’Dy ni erioed ’di cael cynllun, really. Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr EP? Owain: Yfed tinnie twym o lager mewn cae gyda’ch ffrindiau a dawnsio tan oriau mân y bore. Iwan: Coginio falle? Mae tua’r hyd cywir ar gyfer berwi pasta neu gneud frozen pizza. Naill ai hynna neu yfed yn ystod y dydd fo’ch mates. Bedwyr: Coginio?! Tasech chi’n coginio pasta am hyd yr EP, dim ond slwtch fydd ar ôl! Iwan, ti’n scum. Rhaid i fi gytuno gydag Owain heb amheuaeth! Gwerthwch y record i ni mewn pum gair! Gwell na’r EP blaenorol cont.


PRIFYSGOL BANGOR DYDDIAU AGORED

13 HYDREF I 27 HYDREF I 9 TACHWEDD Ff: 01248 383561 / 01248 382005 E: diwrnodagored@bangor.ac.uk G: www.bangor.ac.uk/diwrnodagored

Eisteddfod-2019-ad-landscape.indd 1

30/07/2019 09:55:51


Geiriau: Lois Gwenllian Blodau Papur, fyddech chi ddim yn anghywir eu galw nhw’n siwpyr-grŵp Cymraeg: Gwion Llewelyn (Yr Ods, Race Horses a mwy), Aled a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), Branwen Williams (Siddi, Cowbois Rhos Botwnnog), Osian Williams (Candelas, Siddi a mwy) ac Alys Williams. Dyma grŵp o gerddorion medrus, gweithgar a phoblogaidd sydd, o’r diwedd, yn rhyddhau eu halbwm hir ddisgwyliedig. Cerddorion gweithgar, ac felly’n brysur hefyd, oedd yn gwneud cwrdd wyneb yn wyneb yn her. Llwyddon ni, wedi gohebu sylweddol, i drefnu sgwrs yn ystod rhyw amser cinio a’r tri oedd ymuno â mi oedd Branwen, Osian ac Alys. Mae’r band i gyd yn rhyddhau stwff eu hunain, neu’n teithio’r byd yn chwarae i fandiau eraill, felly ro’n i’n awyddus i wybod sut ar wyneb y ddaear mae pobl sydd â mwy nag un haearn cerddorol yn y tân yn dod at ei gilydd i recordio albwm cyfan? “Mae cael yr amser i recordio wedi bod yn job, do?” dywed Osian ac mae’r ddwy arall yn ategu. “Mae Branwen jest yn gorfod bod yn drefnus!” Aiff Osian yn ei flaen gan ddweud, “mae o fisoedd o flaen llaw. ’Da 12

yselar.cymru

ni’n deud ’nawn ni’r wythnos yna, ’da ni’n bwcio hi ac mae o’n gorfod digwydd wedyn.” Un peth sy’ wedi fy nharo i am Blodau Papur ydy fod y broses o recordio’r albwm i gyd wedi’i gadw o fewn y band - o gyfansoddi i gynhyrchu i gyhoeddi (mae Branwen yn rhedeg y label I KA CHING). Yw hynny’n beth braf? “’Naethon ni recordio hi yn Stiwdio Crychddwr yn Llanllyfni a hynny i gyd yn fyw, oedd yn ofnadwy o braf. Dwi ’rioed ’di gwneud albwm fel ’na o’r blaen; lle ’da ni gyd yn chwarae efo’n gilydd ’run pryd ’lly. Ond achos y band sy’ gyno ni oedd hi’n ofnadwy o braf gallu gneud hynna.” Mae Branwen yn ychwanegu, “Ac Aled. Mae arbenigedd Aled yn dod yn fwyfwy amlwg fel cynhyrchydd a pheiriannydd sain.” Parha Osian, “Does ’na byth ormod o bwyslais ar yr ochr recordio. Yn y bôn yr offerynnwr neu be’ ti’n chwarae sy’ bwysica’. Mae rhai pobl yn licio bocha efo’r meicroffon a gweld sut mae cael y sŵn gora’ ohono fo. Ond efo band fel yma mae’n well gosod meicroffon ac awê, achos perfformiad ydy o’i gyd.” “Dwi’n gobeithio ein bod ni wedi dal yr ysbryd byw,” ychwanega Branwen. Dwi’n holi a ydy hynny’n


bwysig iddyn nhw ac Alys sy’n ateb, “achos ein bod ni’n chwarae efo’n gilydd [wrth recordio’n fyw], dwi’n cael rhyw deimlad nad ydw i ’rioed wedi’i gael o’r blaen… mae’n anodd ei esbonio. Mae o fel ein bod ni’n connected i gyd. ’Da ni wedi jelio yn ofnadwy o dda, ac o’n i isio cyfleu hynny [ar y record]. Ella pan ’sa ti’n recordio un offeryn ar y tro ’sa ti’n colli’r feel yna.” Cytuna Branwen, “Mae’n rhoi rhyw ddimensiwn arall pan ti’n gallu recordio rhywbeth yn fyw.”

yselar.cymru

Lluniau: Kristina Banholzer

Blodau byw Rwy’n awyddus i wybod sut maen nhw’n teimlo am symud o’r stiwdio i’r llwyfan. Gyda chyngherddau byw yn dod yn rhan annatod o yrfa unrhyw fand sydd eisiau gwneud mymryn o bres, mae’r disgwyliadau o berfformiad byw, yn fy marn i, yn uwch. Nid drwy brynu CD mae rhywun yn buddsoddi mewn band y dyddiau hyn oherwydd ein bod ni, ar y cyfan, yn ffrydio

cerddoriaeth. Mae’r buddsoddiad ariannol, ac yn wir y buddsoddiad emosiynol, yn dod drwy brynu tocyn i gig a’r profiad byw. Oedd hynny’n rheswm dros recordio’n fyw? Ar ôl eiliadau tawel o ystyried y cwestiwn, mentra Osian, “Dwi isio disgwyliadau pobl fod yn uwch, wastad, fel bod pawb yn rhoi mwy o ymdrech i’r set byw.” “Mae o’r ffordd ora’ o fod yn onest am be’ wyt ti,” medd Alys. Aiff Branwen ymlaen, “Ydy, mi gei di’r gor-gynhyrchu ’na cei? Y gor-bolisho a’r gor-awto-tiwnio nes bod cyrraedd disgwyliadau’n fyw yn amhosib. Ond penderfyniad y band ydy hwnna. Mae’n dibynnu ar genre’r gerddorieth hefyd. Mae’n math ni o ganeuon yn gweddu i recordio’n fyw lle ti ddim angen layer-io na chwarae efo pethau.” “Yn chwarae’n fyw - dyna pryd ’da ni ar ein gora’, dwi’n teimlo,” datgana Alys. 13


ìMae hiín neis cael cynulleidfa yn eistedd a gwrando.î “Ia,” cytuna Branwen, “a ’da ni wedi llwyddo i sefydlu’n hunain heb ryddhau dim byd am flwyddyn a hanner. Felly ’da ni wedi bod yn hollol ddibynnol ar berfformiadau byw.” Felly sut beth oedd mynd o berfformio’n fyw fel “Alys Williams a’r Band” i fod yn Blodau Papur? Yn naturiol, ar y brif leiswraig mae hyn, o bosib, yn effeithio fwyaf a hi yw’r cyntaf i egluro pam newid yr enw. “Mae o’n gwneud mwy o synnwyr achos bod Osian yn sgwennu caneuon, mae Branwen yn sgwennu caneuon, dwi’n sgwennu petha’ a weithia’ ’da ni’n sgwennu petha’ efo’n gilydd. Wedyn oedd o’n g’neud lot mwy o synnwyr bod gyno ni enw. Mae pawb yn cyfrannu gymaint, o’n i’n teimlo’n ddrwg yn cymryd y clod i gyd!” Osian sy’n ymhelaethu, “Erbyn i ni gael yr enw, oedd o’n dda i ni ei gael o. Roeddan ni wedi jelio fwy, mi oedd gyno ni ddigon o ganeuon.” Mae’r caneuon rheiny ar fin cael eu rhyddhau, ac yn sgil hynny mae taith wedi’i threfnu. Cyhoeddwyd y daith theatrau cyn rhyddhau’r albwm, sy’n brawf o boblogrwydd y band a’r awydd sy’ ’na i glywed Alys yn canu’n fyw. Dwi’n gofyn iddyn nhw, a ydyn nhw’n eitha’ hyderus y bydd yr albwm yn hit? Branwen atebodd, “Dwi’m yn gwybod sut, ond ’da ni wedi bod yn ofnadwy o lwcus dros y ddwy flynedd ddwytha bod gigs yn gwerthu allan. Fel noson [Alys] efo’r gerddorfa yn Pontio. ’Naethon ni ganeuon Blodau Papur yn honno, ac mi oedd o wedi gwerthu allan heb i boster fynd allan. Mae’n sefyllfa braf. Felly gobeithio y bydd mynd i theatrau yn gweddu i’r math o gerddoriaeth ’da ni’n ei chreu.” 14

yselar.cymru

Mae Alys yn edrych ymlaen at y daith, “Mae o’n wahanol i gig achos ei bod hi’n neis cael cynulleidfa yn eistedd a gwrando. Mae o’n neis perfformio a chanu mewn theatr, mae pobl wedi prynu tocyn i wrando.” “Pan ti mewn theatr mae o’n fath gwahanol o wrando ’fyd,” ychwanega Branwen. “’Nes i wneud taith theatrau efo Cowbois [Rhos Botwnnog] ac mae pobl yn gwrando’n wahanol ac yn gwerthfawrogi mewn ffordd wahanol.” Mae Osian wedi hen arfer â gigs gwyllt wrth gwrs fel ffryntman Candelas ond sut mae ffans y band hwnnw’n ymateb mewn gigs i gerddoriaeth addfwyn Blodau Papur? “Dydy o’m yn rhywbeth dwi’n meddwl amdano fo” meddai, “‘fatha pob prosiect dwi’n ’neud, ti jyst isio gneud yn siŵr dy fod di’n cyrraedd y safon ucha’ ti’n gallu. Dwi jyst yn gobeithio fod y ddau fand mor dda ag y maen nhw’n gallu bod.” Noda Branwen, “Yr unig dro dwi wedi gweld unrhyw fath o crossover ydy, yn amlwg, maen nhw ’nabod Osian ac Alys o’r gân ‘Llwytha’r Gwn’. Weithia’ mae ’na ambell un sy’n deud ‘canwch ‘Llwytha’r Gwn’’.” “Un waith ’da ni wedi’i g’neud hi” medd Osian, “ond rŵan mae ’na reol: cân Candelas ydy honna, dydy hi’m byd i wneud efo’r band yma. Felly wnawn ni ddim ei chanu hi!”

Rhyddhad rhyddhau Mae yna hen ddisgwyl wedi bod am yr albwm, ond beth mae rhyddhau’r record yn ei olygu i’r tri yma? Yn unsain bron, maent yn ateb “Cael hi allan! Gallu ateb pobl sy’n gofyn, ’Sgyno chi CD allan?’” “Dwi ’di cael dau berson yn y gym bore ’ma’n holi am y CD!” ebycha Alys, “a dwi’n medru deud rŵan y bydd hi allan yn Steddfod. Dwi ’di bod yn gorfod deud ‘ar y ffordd’ ers blwyddyn a hanner!” Ac ar ôl deunaw mis o aros, beth allwn ni ei ddisgwyl o’r albwm? “Llwyth o amrywiaeth,” eglura Osian. “O ganeuon mwy soulful ar adegau i un hollol country. Felly

ìMae oír ffordd oraí o fod yn onest am beíwyt ti.î


dwi’n meddwl fod hynny’n mynd i fod reit wahanol, er ti isio fo fod yn gyfanwaith. Rhywsut mae o’n gweithio fod gen ti mixed bag go iawn o ganeuon.” Ymhlith y bag hwnnw, mae Branwen yn awyddus i nodi, “Mae gyno ni un gân newydd… dwi’n trio meddwl ffor’ i’w disgrifio hi. Mae hi’n dipyn o hwyl. ‘Mynd i ’Neud O’ ydy’i henw hi.” Ar ôl i’r tri chwerthin am natur y gân hon dwi’n chwilfrydig, ac yna mae Osian yn fodlon datgelu ’chydig. “O’n i efo’r syniad ’ma fi ’nath ’neud y miwsig - anaml iawn mae’r gair Cymraeg a’r gair rhywiol yn cael eu rhoi efo’i gilydd.

’Dyn nhw byth yn gweithio. So’r challenge oedd gwneud cân fel ’ne.” Mae’n debyg mai her a ddaeth gan rywun arall oedd honno yn ôl Branwen. “Oedd Bethan Gwanas wedi gosod y sialens i ti, ’doedd Alys?” “Yn Galeri dwi’n meddwl oeddwn i yn mynd i weld sioe Carys Eleri, Lovecraft,” ateba Alys. “Dim her oedd hi rili, ’nath hi jest gofyn i fi, ‘wyt ti am ’neud cân rywiol Gymraeg, fel Barry White neu rwbath? Achos does ’na ddim rhai rili nac oes?’ ’Di ddim ’di troi allan fel Barry White o gwbl ’chwaith! Ond, y peth ydy, achos bo’ ni’n gymaint o ffrindia’ a’i fod o’n gymaint o hwyl mae’r gân ’di troi

yn rhyw 80s seduction, do? Mae o’n rhywiol ond yn fwy o jôc rywiol, ridiculous ’lly. Dwi’n rili edrych ’mlaen at berfformio honno’n fyw. Fydd hi’n laff.” Mae’n sicr i mi fod cael “laff” yn bwysig i Blodau Papur, ac mae’r berthynas dwi wedi’i weld rhwng y tri’n tystio bod yr hwyl yn dod yn naturiol. Er hynny, mae cadw safonnau a chynhyrchu cerddoriaeth onest y maen nhw i gyd yn coelio ynddi hi’n hollbwysig iddyn nhw hefyd. Heb os, maen nhw’n driw i’w hunain ac i’w perfformiadau boed hynny ar record neu’n fyw ac, i mi, honno fydd cyfrinach eu llwyddiant. yselar.cymru

15


Lluniau: Iolo Penri

YN DDIWEDDAR, CAFODD GŴYL-FYNYCHWYR YNG NGHAERDYDD A CHAERNARFON GYFLE I GLYWED AM BROSIECT NEWYDD CYFFROUS SYDD AR Y GWEILL RHWNG YR ODS A’R NOFELYDD, LLWYD OWEN. ‘IAITH Y NEFOEDD’ YW ENW’R CYWAITH A BU AELODAU O’R BAND A’R AWDUR YN TRAFOD MEWN SESIYNAU LLAWN YN NHAFWYL A GŴYL ARALL. BACHODD Y SELAR AR Y CYFLE HEFYD I GAEL YR HANES GAN LLWYD.

Sôn ychydig am gefndir y prosiect, sut ddoist ti a’r Ods i gydweithio? ’Odd hi’n alwad “allan o’r glas” fel petai. O’n i wedi cyfarfod Griff Lynch a Rhys Aneurin cwpl o weithie ond o’n i ddim yn adnabod nhw’n dda. Wedyn, un dydd ges i alwad yn gofyn am gyfarfod, hollol amwys. O’n i’n intrigued yn syth achos bo’ fi’n ffan o’r band. Fe wnaethon nhw gyflwyno’r syniad, sef eu bod nhw’n bwriadu recordio albwm cysyniadol am cults Cymraeg. Roedd teitl yn barod, Iaith y Nefoedd. Oedden nhw eisiau cynnig rhywbeth mwy na set o ganeuon, oedden nhw eisiau i fi sgwennu novella neu stori fer i gydfynd â’r albwm. Cyn diwedd y frawddeg o’n i on board! ’Odd e’n swnio fel prosiect cyffrous a’r agosa’ ddo’i at fod mewn band roc a rôl i fod yn onest!

16

yselar.cymru

Oeddet ti’n ffan o’r band pryn bynnag felly? O’n, fi’n meddwl mai Llithro yw un o albyms gorau’r ddegawd ddiwethaf. Naethon ni drafod y syniad ymhellach a dod i ddeall bod y bois yn eitha’ obsessed efo podcasts a rhaglenni dogfen am cults! Naethon nhw argymell fy mod i’n darllen a gwylio gymaint ag o’n i’n gallu. Y bwriad gwreiddiol oedd bod y nofel a’r caneuon yn bodoli heb unrhyw gysylltiad uniongyrchol, jyst albwm am cults a novella am cults. Ond fel digwyddodd pethau, odd ’da fi gwpl o fisoedd eitha’ tawel o ran gwaith felly es i ati’n syth i ymchwilio ac ysgrifennu, ac odd y drafft cyntaf yn barod o fewn deufis. Odd y band wedi dechrau ar y gerddoriaeth ond ddim y geiriau, felly fel nath hi weithio allan, ma’ nhw wedi defnyddio’r novella fel sbringfwrdd ar gyfer geiriau’r caneuon. Mae rhai o’r caneuon gorffenedig â chysylltiad uniongyrchol â’r novella a rhai â chysylltiad mwy amwys. Canlyniad hyn yw bod y cynnyrch terfynol yn mynd i fod yn fwy cysyniadol na beth odd y syniad gwreiddiol.


Oeddet ti’n rhannu’r diddordeb mewn cults ymlaen llaw neu rywbeth a ddaeth gyda’r ymchwil oedd hynny? Wel, mae cults yn bethau reit ryfedd. Ti’n clywed amdanyn nhw, pobl fel David Koresh a [Charles] Manson, ac mae’r syniadau a’r straeon yma’n rhan o’r byd celfyddydol cyfoes. Felly odd hi reit hawdd plymio i mewn i’r pwnc. Mae cymaint o bodlediadau a rhaglenni dogfen i’w cael a ma’ nhw mor ddiddorol, a’r rheswm am hynny fi’n meddwl yw achos eu bod nhw mor dywyll. Ni’n siarad am ganibaliaeth, ni’n siarad am losgach, ni’n siarad am bwyll-dreisio, ni’n siarad am bobl yn dilyn yn ddall... ni’n siarad am aliens! Llawer ohono mae’n debyg yn fwy afrealistig na’r hyn y byddai hyd yn oed Llwyd Owen yn cael get awê efo’i ysgrifennu mewn ffuglen! Dyna’r peth gwych amdano fe fel awdur. Dim ots beth fi’n ei ysgrifennu, ’does neb yn gallu dweud ei fod e’n far-fetched achos ma’ lot gwaeth wedi digwydd! O’n i hefyd isie chwarae gyda’r syniad o’r cult personality ac anobaith y cyfnod sydd ohoni heddiw. Dyw hi ddim yn stori am Brexit fel y cyfryw ond mae canlyniadau’r bleidlais yn 2016 yn chwarae rhan bwysig. Mae’n teimlo fel diwedd y byd ar adegau ar y foment, anrhefn wleidyddol a chymdeithasol ac mae hyn i gyd yn bwydo i ran gyntaf y novella. Heb sboilars, eglura fymryn ar y plot. Mae’r rhan gyntaf wedi ei gosod yn 2026, yn adrodd hanes awdur nofelau sci-fi sy’n cael gweledigaeth o nefoedd yn dilyn near-death experience. Ma’n mynd i’r nefoedd a gweld pawb yn siarad Cymraeg yno. O dan ddylanwad ei olygydd a’i gyhoeddwr mae e’n gwerthu’r ffuglen yna fel ffaith i siaradwyr Cymraeg sydd wedi gorfod mynd yn danddaearol yn y Gymru ôl-Brexit. Yn yr ail ran ry’n ni’n gweld y cult ’ma, a’u nod nhw yw cyrraedd y nefoedd er mwyn parhau i siarad Cymraeg. Mae’r rhan yma’n amlwg yn tynnu ar hanes Heaven’s Gate [gwglwch o] ond ry’n ni’n gweld y byd dyfodolaidd yma trwy lygaid merch ifanc sydd wedi gweld trwy’r celwydd a’r rhagrith ac eisiau dianc. Nofel fer yw hi, dim ond ryw 23,000 o eiriau felly, mewn theori, gallet ti ei darllen hi wrth wrando ar y record cwpl o weithiau. Y gobaith yw y bydd y ddau beth yn ehangu ar ei gilydd. Bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â dy bodcast, Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM, yn gwybod dy fod ffan mawr o gerddoriaeth Gymraeg. Oes yna ddigon o gydweithio rhwng celfyddydau gwahanol yng Nghymru a fyset ti’n agored i wneud hyn eto? Fydden i’n agored i unrhyw beth. Mae cymaint o gerddoriaeth yn cael ei ryddhau, mae’n anodd sefyll allan a chael sylw. Hyd yn oed yn yr iaith Gymraeg, mae cymaint yn cael ei ryddhau o wythnos i wythnos nes mae’n hawdd i fandiau fynd ar goll. Mae hwn yn ymdrech gan Yr Ods i sefyll allan a chynnig rhywbeth gwahanol, ac fel ffan o gerddoriaeth fi’n gallu deall hynny’n iawn.

O ran cydweithio eto, mae yna gymaint o artistiaid anhygoel mas yna, fydden i wrth fy modd yn cael y cyfle i weithio ar brosiect arall yn y dyfodol. Yn wir, fi a Griff eisoes yn trafod y posibilrwydd o ddatblygu Iaith y Nefoedd yn ffilm. Dyna un o’r pethau gorau am fod yn Gymro Cymraeg. Yn gyffredinol ni’n gefnogol tu hwnt o’n gilydd ac eisiau gweld ein gilydd yn llwyddo. Achos yn y bôn, mae llwyddiant yn golygu ffyniant i’r iaith. Wrth i Llwyd orffen ar y nodyn cadarnhaol hwnnw, arhosodd un o’i bwyntiau cynharach yn fy meddwl. Soniodd am yr awch a’r angen i fandiau wneud rhywbeth gwahanol i sefyll allan ac mae hynny’n hynod ddiddorol yng nghyd-destun Yr Ods. Dyma fand sydd wedi hen sefydlu eu hunain yn y sin Gymraeg ond band sydd wedi bod yn gymharol dawel yn ddiweddar. Does dim byd yn bod ar hynny wrth gwrs, mae gennynt brosiectau eraill, a bywydau a swyddi go iawn wedi’r cwbl! Ac i fod yn deg, lle mae rhywun yn mynd ar ôl albwm fel Llithro? Albwm sydd, fel y dywedodd Llwyd, yn un o oreuon y ddegawd ddiwethaf. Tybed felly os mai dyna brif ysgogiad y band dros feddwl y tu allan i’r bocs y tro yma? Hynny yw, i fand sydd wedi cyrraedd eu haeddfedrwydd cerddorol, a oedd angen rhywbeth fymryn yn wahanol i’w denu nôl i’r stiwdio? Holais Griff Lynch... Dwi’n teimlo bod y llyfr, a’r naratif, a’r cysyniad wedi rhoi mwy o ffocws i’r albwm, ac o ganlyniad dwi’n meddwl mai hwn ydi’r albwm gora’ ’da ni wedi ei wneud. Bron iawn, pan mae gen ti lai o bethau i feddwl amdanyn nhw a rhyw fath o ffocws a chanllawiau o dy flaen di, mae o’n gwneud y sgwennu’n haws achos ti’n cyfyngu dy hun a’r pynciau ti’n eu trafod. Roeddan ni isio creu record oedd ddim jyst yn set o ganeuon achos ’da ni wedi gneud dwy o’r rheiny. Ma’r oes wedi newid, mae pawb yn gwrando ar eu cerddoriaeth mewn ffurf wahanol, trwy playlists Spotify ac yn aml fesul ychydig o ganeuon, felly mae creu cyfanwaith yn rhwybeth hyd yn oed pwysicach y dyddiau yma er mwyn sefyll allan. yselar.cymru

17


Newydd ar y Sin Gyda’n heitemau Dau i’w Dilyn a Ti Di Clywed, maen Y Selar wedi hyrwyddo llu o artistiaid newydd dros y blynyddoedd. Ond gyda dim ond dau rifyn y flwyddyn bellach, mae’n beryg y bydd artistiaid newydd cyffrous yn ymddangos yn amlach na’n rhifynnau ni! O hyn allan felly, ym mhob rhifyn byddwn yn achub ar y cyfle i daro golwg yn ôl dros y chwe mis blaenorol i weld beth sy’n Newydd ar y Sin. Wynebau cyfarwydd sy’n mynd â’n sylw ni y tro hwn, ond yn creu argraff gyda phrosiectau newydd diddorol.

Ynys

gydfynd â ‘Caneuon’ hefyd ac mae rhywbeth tebyg ar y gweill unwaith eto ar gyfer yr ail sengl, ‘Mae’n Hawdd’.

Hanes

Bydd ffans Racehorses ac Endaf Gremlin yn gyfarwydd iawn â doniau cerddorol Dylan Hughes ac yn croesawu’r ffaith ei fod yn creu cerddoriaeth unwaith eto. Mae’r prosiect newydd wedi bod yn cyniwair ers tro, fel yr eglura Dylan. “O’n i wedi bod yn ysgrifennu a chwarae rownd gyda syniadau am ganeuon ers amser, a llynedd nes i recordio cwpl ohonyn nhw am y tro cynta’. Daeth y sengl gyntaf, ‘Caneuon’ mas mis Ebrill ar label Libertino. “Do’ ni byth wedi meddwl chwarae’n fyw, ond ar ôl cael cynnig cwpl o gigs, ges i fand at ei gilydd, ac mae’r gigs ’di mynd yn dda hyd yma...fi’n gobeithio!” Eisoes wedi chwarae yn y triawd

Mared Hanes Go brin fod llawer o leisiau mwy trawiadol nag un prif leisydd Y Trŵbz, Mared Williams. Mae’r gantores sydd yn wreiddiol o ardal Rhuthun ond bellach yn astudio yn Llundain wedi rhyddhau ei senglau Cymraeg cyntaf fel artist unigol yn ddiweddar, prosiect sydd wedi bod yn tyfu’n organig ers tro. “Dwi wastad ’di sgwennu cerddoriaeth ar yr ochr,” eglura. “Ma’r ddwy sengl gynta’ ’ma’n reit ddiweddar, tua blwyddyn yn ôl nes i sgwennu nhw. Mewn ffordd dwi wastad ’di cal y prosiect yma’n datblygu ers o’n i’n tua 16, dio’m yn rhywbeth ’dwi ’di deud reit dwi’n mynd i neud o, achos ma’r caneuon yn sgwennu eu hunain i raddau.” Cafodd ‘Dal ar y Teimlad’ ei rhyddhau ym mis Mehefin ac ‘Y 18

yselar.cymru

Sŵn

sanctaidd; Llundain, Caerdydd a Thalacharn, mae Dylan yn edrych ymlaen at barhau i gigio. Ymddangosodd fideo Ochr 1 i

Reddf’ ym mis Gorffennaf, ynghyd â fideo ar gyfer Ochr 1, ac mae Mared wedi bod yn hynod brysur yn gigio hefyd. “Dwi ’di neud gigs yn ddiweddar yn Llundain gan gynnwys Sofar Sounds. Sesiwn Fawr Dolgellau hefyd a collabs efo pobl fel Band Pres Llareggub. Ar hyn o bryd, dwi’n datblygu set fwy gwerinol i gigs Steddfod Llanrwst efo Patrick Rimes a Gwyn Owen.”

Sŵn Y llais heb os sy’n gyrru caneuon Mared ac mae’r llinyn cryf hwnnw’n ei galluogi i arbrofi gydag arddull y gerddoriaeth sy’n gyfeiliant iddo. “Ma’ ‘Dal ar y Teimlad’ yn reit RnB ambient, ond wedi cyfuno efo arddull gwerinol a phop. Meddyliwch am London Grammar efo bach o Lleuwen, Lucy Rose a Rhye wrach? “Ma’ ‘Y Reddf’ wedyn efo’r un dylanwadau ond ’bach mwy o naws

Mae alawon gitârs ‘Caneuon’ yn hyfryd o heintus ond ni fydd Dylan yn cyfyngu cerddoriaeth Ynys i un arddull. “Fi’n meddwl fod ‘y sŵn’ dal yn esblygu. Dyw’r sengl gyntaf, sydd â lot o gitars ac yn eithaf ‘pop’, ddim o reidrwydd yn adlewyrchu gweddill y caneuon. Mae’r gân yna’n tynnu ar ddylanwadau fel Elliott Smith, Neil Young, Teenage Fanclub, a hefyd bandiau fel Real Estate, Mac DeMarco ac Orange Juice. “Fi’n ceisio gwneud yn siŵr fod ‘y sŵn’ yn un sydd â digon o elfennau arbrofol, ond yn cael ei

country iddi, yn tynnu ar bobl fel Courtney Marie Andrews, Susan Tedeschi ac Eva Cassidy o ran lleisiau. Ma’ lot o’r sŵn yn datblygu o wrando ar leisiau a beth sy’n cydfynd efo’r steil yna.” Yn amlwg, mae Mared yn hyddysg iawn ei cherddoriaeth ac yn eangfrydig. “Ma’ gen i gariad at berfformio jazz a sioe gerdd dros y blynyddoedd ac felly ma’ ’na ddylanwad yn fan hyn hefyd.”

Beth nesaf? Mae Mared ar fin gorffen cwrs meistr mewn Perfformio Sioe Gerdd yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ac wedi dechrau dod o hyd i sin bach dda yno. Ond mae hi’n edrych ymlaen at ddod adref i Gymru dros yr haf i weithio ar brosiectau, gigio a gorffen recordio EP. “Dwi’n ffendio bod fy ysbrydoliaeth i wastad yn dod i’r amlwg pan dwi’n


ddal at ei gilydd gan alawon cryf, harmonïau, digonedd o synths analog, mellotrons a reverb guitars. Gobeithio fod pob cân gyda’i sŵn ei hunan. Os fi’n clywed bod cân yn dechrau mynd yn rhy ‘pop’ nai roi rhywbeth mewn i dynnu fe bant o’r man peryglus!”

Beth nesaf? Gyda’r ail sengl, ‘Mae’n Hawdd’, yn ffres yn ein clustiau, bydd Ynys yn gigio tipyn dros yr Haf a’r Hydref. Bydd yn chwarae ddwywaith wythnos yr Eisteddfod - gig Cymdeithas yr Iaith nos Fercher a Llwyfan y Maes ddydd Gwener. Yna Hub Festival yng Nghaerdydd ddiwedd Awst a gwyliau Ffrinj (Abertawe) a Sŵn (Caerdydd) fis Hydref. Daeth cyhoeddiad hefyd bod Ynys i chwarae yng nghyfres gigs PYST yn ninasoedd Glasgow, Llundain a Manceinion ym mis Hydref. “Fi’n gobeithio gwneud tipyn o recordio dros yr haf, a siŵr o fod bydd sengl arall mas yn yr Hydref, wedyn gobeithio albwm dechrau flwyddyn nesaf” meddai Dylan. Edrych ymlaen yn barod!

cyrraedd adre,” meddai. Dwi’n teimlo fel bo’ gen i rywbeth i’w ddeud yn y caneuon, pe bai o’n newid, hiraeth neu symud ymlaen i’r cam nesaf. “Dwi’n edrych ymlaen at gefnogi Blodau Papur ar eu taith yn Hydref hefyd a pharhau efo’r sgwennu a gwneud clyweliadau i sioeau.” Cyfnod prysur ond cyffrous.

Kim Hon Hanes Fel y ddau brosiect arall yn yr eitem hon, mae sawl wyneb cyfarwydd yn y grŵp newydd yma hefyd. Ond nid yw Kim Hon yn cymryd eu hunain yn ormod o ddifrif felly bydd yn rhaid i chi ddehongli pwy dros eich hunain! “Trafodaeth oedd wedi ei hysbrydoli’n gemegaidd oedd sbardun genedigaeth Kim Hon. Hyd heddiw, ar ôl blwyddyn o ddatblygu syniadau mae cemegion yn rhan dyngedfennol o ddatblygiad a chyfeirad y band. Pwy sydd yn y band medda chi? Sbiwan, Sion dosbarth canol, Kai, Boi del o Gôr Penrhyn, Gunz a phwy bynnag sy’ about. “Hyd yma ’da ni wedi arwyddo gyda label Libertino, recordio’n stiwdio Sain gyda Robin Jones a rhyddhau ein sengl gyntaf, ‘Twti Ffrwti’ a gafodd ei chymysgu gan Steff Pringle a’i mastro gan Charlie Francis. Mae fideo i’r sengl hefyd a gafodd ei gomisiynu gan Ochr 1 a’i saethu gan yr hynod dalentog Billy Bagihole yn Llundain.”

Sŵn Yn gymysgedd berffaith o synths a churidau drum machine, un gair sydd i ddisgrifio’r sengl gyntaf, ‘Twti Ffrwti’... Tiwn! Ond nid yw Kim Hon yn barod i roi label ar eu cerddoriaeth. “Mae’r sŵn yn dibynnu ar y gân, ’da ni’n dueddol o neidio genres. Os ’da chi isio gwbo’ sut mae Kim Hon yn swnio, cerwch i wrando, lot haws. Mae llawer o ddylanwadau gan y band! Rhai fysa Sera a sarcasm Dan (mam a dad Sbiw) Beni, Edgar Davids, milkshakes, jeli blwmonj, mwncis a physgod.”

Beth nesaf? Efallai nad yw hyn i gyd yn gwneud llawer o synnwyr i chi felly’r neges yn y bôn yw y dylech ni i gyd wrando ar Kim Hon! Yn ffodus i chi, gyda sengl arall a digon o gigs ar y ffordd, bydd digon o gyfle i wneud hynny dros y misoedd nesaf. “Mae’r ail sengl allan yn o fuan. Blydi edrych ’mlaen i chi glwad o! Gigs hefyd yn Hub Festival Caerdydd ym mis Awst a Fringe Abertawe a Sŵn yng Nghaerdydd mis Hydref. Dilynwch ein helyntion ni ar soshal midia; Instagram (@kimhon420), Twitter (@kimhon420) a Facebook.” Gwyliwch y gofod. yselar.cymru

19


Un o uchafbwyntiau wythnos yr Eisteddfod i’r rhai sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth newydd gyffrous yw cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru. Mae tri band wedi cyrraedd y rownd derfynol yn Llanrwst eleni, a bydd pob un yn cystadlu ar Lwyfan y Maes brynhawn Mercher, gyda’r enillwyr yn agor gweithgareddau Maes B ar y nos Sadwrn olaf. Tipyn o wobr a thipyn o gyfrifoldeb, felly beth am ddod i adnabod y cystadleuwyr yn well.

C y f a r f o d y C y s ta d l e u w y r

Spectol Haul Pwy? Cadan ar y bas a llais, I Willz ar y drums, Aled ar gitâr a Morgan ar y gitâr ac yn canu. O le? Cwm Gwendraeth.  Pryd, sut a pham wnaethoch chi ffurfio’r band? Ar noson oer o Dachwedd 2018, o dan olau cannwyll, cafodd Morgan y syniad o ffurfio band. Chwiliodd ledled y cwm am gitarydd, drymiwr/ drymwraig a rhywun a oedd yn gallu chwarae’r bas. Darganfod I o dan goeden yn Llanddarog a wnaeth Morgan yn gyntaf, ac yn fuan ar ei ôl, ymunodd Cadan ac Aled. Ers hynny, maent wedi ymgolli yn chwarae eu caneuon ar draws Cymru. Ffaith ddifyr am bob un ohonoch Nath Cadan guro Morgan yn yr unawd canu yn 2010. Ma’ ’da I gymhwyster Diploma 20

CACHE lefel 2/3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. Ma’ ’da Aled lwmp ar cos e’. Dyw Morgan ddim yn gallu parallel parco. Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair Bang, crash, grrrrr, ooooo, ping. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Los Blancos, Adwaith, SYBS, Mellt, Papur Wal a HMS Morris.  Arwr(es) cerddorol CPJ. Uchafbwynt Brwydr y Bandiau hyd yma?   ’Ware yn Clwb Ifor gyda SYBS a Mari Mathias.  Gobeithion am y rownd derfynol? Ni’n gobeithio ennill ond fi’n credu yn bennaf ni just ishe joio fe a chwrdd â phobl newydd. 

yselar.cymru Llun: Aled Llywelyn


Mari Mathias a’r Band yn cael Burger King ar ffordd nôl adre ar ôl ffilmio Pobl y Cwm yng Nghaerdydd. Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Gwilym, Calan, Patrobas, Gwyneth Glyn. Arwr(es) cerddorol Sam Lee. Uchafbwynt Brwydr y Bandiau hyd yma? Perfformio yn Clwb Ifor Bach am y tro cyntaf a chwrdd â bandiau ac artistiaid newydd yn y sin. Gobeithion am y rownd derfynol? Ennill! Lluniau: Aled Llywelyn

Pwy? Fi, [Mari], ar y electro-acoustic guitar a phrif lais, Elinor Parsons ar yr ail lais, Gruff Owen ar y drymiau ac Ioan Gwyn ar y gitâr fas. O le? Wedi sefydlu fel band yng Nghaerdydd trwy gysylltiadau’r byd cerddoriaeth a phrifysgol, ond ni i gyd yn byw mewn pennau gwahannol o Gymru, mae Gruff ac Ioan o Ogledd Cymru, Elinor o ardal Caerdydd ac rydw i o Geredigion. Pryd, sut a pham wnest ti ddechrau creu cerddoriaeth? Rydw i wedi perfformio ers blynyddoedd ac wedi cyfansoddi caneuon trwy gydol fy mywyd. Dwi wedi bod yn rhan o fandiau a phrosiectau cerddorol gyda session musicians yn y gorffennol ac mae sefydlu grŵp o bobl gyda thalent ac angerdd dros greu sŵn ag arddull diddorol iawn yn yr iaith Gymraeg, yn rhywbeth spesial iawn i mi. O ran ffurfio’r band, wnes i ofyn i fy ffrind o’r brifysgol [Elinor] i ganu fel rhan o’r prosiect gan ein bod yn gwneud cwrs perfformio ac roedd hi’n bles iawn i gael y profiad. Mae Gruff yn astudio yn yr Atrium gan ffocysu ar y drymiau ac roedd e’ wedi gofyn i’w ffrind sy’n chwarae bas [Ioan] i ymuno hefyd! Ffaith ddifyr amdanat Wnes i gwrdd â Lady Gaga yn service station Abertawe

yselar.cymru

21


Kuider Pwy? Will (allweddellau), Sion (gitâr a llais), Ben (dryms) a Niall (bas). O le? Mae Niall yn dod o Berth Ddu sydd y tu allan i Rhosesmor, dwi [Will] yn dod o Dreffynnon ac mae Ben a Sion yn dod o’r Wyddgrug. Mae band ei hun yn dod o’r Wyddgrug gan ein bod ni i gyd ’di mynd i’r un ysgol, Maes Garmon. Pryd, sut a pham wnaethoch chi ffurfio’r band? Roedd Sion yn gallu chwarae gitâr ers blwyddyn 7. Dechreuodd Niall ddysgu’r bas o gwmpas yr un amser. Daeth Niall a Sion yn ffrindiau a dechrau chwarae efo’i gilydd yn yr ystafell ymarfer cerdd yn yr ysgol. Roedd Ben yn ffrind i Sion ers ysgol gynradd felly roedd o ’di ymuno trwy chwarae drymiau efo’r ddau. Doedd Ben ddim ’di chwarae drymiau tan hyn. Fe wnes i [Will] wylio’r tri phractis dros flwyddyn 7, ac erbyn blwyddyn 8 roeddwn i eisiau ymuno. Er nad oeddwn i erioed wedi chwarae piano, dangosodd Sion rai cordiau i mi ac fe aethon ni o fanna. Dros y blynyddoedd wedyn, roedden ni’n parhau i gael hwyl yn yr ystafelloedd cerddoriaeth efo’n gilydd.

Disgrifiwch eich sŵn mewn 5 gair Roc diddorol (efo) llais unigryw iawn.  (Llais unigryw iawn oedd sut yr oedd ein hathrawes cerdd yn disgrifio llais Sion weithiau). Hoff artistiaid yn y sin Gymraeg ar hyn o bryd? Dwi [Will] yn caru cerddoriaeth HMS Morris. Dwi wedi gweld nhw’n sawl gwaith o gwmpas Wrecsam rŵan. Mae Ben yn mwynhau cerddoriaeth rap ac wedi bod yn gwrando ar ychydig o Mr Phormula yn ddiweddar. Sŵnami yw’r all-rounder efo’r band i gyd gan mai eu cân nhw, ‘Trwmgwsg’, oedd y gân Gymraeg gyntaf i ni ei chwarae.  Uchafbwynt Brwydr y Bandiau hyd yma?   Fe wnaethon ni hoffi ein trip i Gaernarfon i chwarae efo Candelas. Oedd ein perfformiad ni ddim y gorau o’n rhan ni ond fe wnaethon ni fwynhau beth bynnag! Gobeithio ein bod ni’n gallu rhoi ein gorau yn y rownd derfynol. Gobeithion am y rownd derfynol? Dydyn ni ddim yn disgwyl mynd trwodd i ennill y gystadleuaeth achos ’da ni ddim ’di perffeithio ein caneuon Cymraeg eto. Mae Spectol Haul a Mari Mathias yn wych a ’da ni’n dymuno pob lwc iddynt!

Llun: Ffotonant

22

yselar.cymru


yselar.cymru

23


MAE CARWYN ELLIS YN ENW CYFARWYDD I NI DIOLCH I’W FAND COLORAMA, PROSIECT BENDITH, AC FEL AELOD O FANDIAU THE PRETENDERS AC EDWYN COLLINS. EI BROSIECT DIWEDDARAF YDY RIO 18…. Joia! allan ers diwedd Mehefin, sut ymateb mae’r albwm wedi ei gael? Gwych! Fi mor falch bod cymaint o bobl yn hoffi’r gerddoriaeth newydd ’ma. Atgoffa ni lle a phryd fuost ti’n recordio? Dechreuon ni yn stiwdio Audio Rebel yn Rio de Janeiro mis Tachwedd, wedyn parhau yn Stiwdio Sain ym mis Rhagfyr ac Ionawr, a nethon ni orffen yr albwm a’i gymysgu yn Llunden mis Chwefror. Pwy fu’n cynhyrchu? Nath fy ffrind [Alexandre] Kassin o Rio de Janeiro gynhyrchu’r rhan fwya’. Ma fe’n artist hynod o dda ei hun, gyda solo albums a llwyth o waith gyda bandiau eraill, yn enwedig y +2’s, fi’n ffan ohono nhw. Nath Shawn Lee gynhyrchu’r gweddill yn Llunden, mae fe’n athrylith llwyr o Wichita yn America yn wreiddiol ond mae stiwdio fe yn Finsbury Park yn Llunden nawr. Wnes i lot o waith ychwanegol gydag Aled Hughes hefyd, roedd e’n bwysig iawn i’r albwm.

CARWYN ELLIS &

24

yselar.cymru

Llun: Rhodri Brooks

A sut wnes di ryddhau? Dwi wedi rhyddhau’r albwm yn ddigidol. Mae’r label Banana & Louie Records o Madrid wedi gwneud yr ochr ffisegol. CDs ac LPs ar gael o’r siopau Cymreig a siopau recordiau.


A’r cwestiwn pwysicaf, beth all y rhai sydd heb wrando eto ei ddisgwyl o ran y gerddoriaeth? Tipyn o amrywiaeth. Mae’r rhan fwya’n uptempo a hafaidd gyda blas Brasilaidd.

gwledydd eraill gyda cherddorion da a ’sdim llawer o arian mewn cerddoriaeth Gymraeg. Dwi’n meddwl bod pawb yn gwneud eu gorau.

Recordio yn Rio, sut ddigwyddodd hynny? Bues i ar daith ym Mrasil llynedd yn chwarae’r allweddellau i’r Pretenders. Nath Chrissie Hynde, cantores y band, sylweddoli faint o recordiau Brasilaidd o’n i’n prynu yn Rio de Janeiro a São Paulo ac awgrymodd hi bo’ fi’n recordio’n Gymraeg yn Rio gyda rhai o’r cerddorion oedd hi’n ’nabod yno. Nath hi gyflwyno fi i Kassin, ac mae’r gweddill yn hanes!

Pa fath o gerddoriaeth oeddet ti’n gwrando arno yn ystod y cyfnod recordio? Llwyth o stwff MPB - bossa nova a samba o Frasil - pobl fel João Gilberto, Quarteto Em Cy, Baden Powell, Vinicius de Moraes, Paulinho da Viola; tropicália o’r 60au a’r 70au gan bobl fel Gal Costa, Caetano Veloso, Jorge Ben, Gilberto Gil a Tom Zé; pop Ffrangeg gan Françoise Hardy, Sébastien Tellier a hefyd stwff cumbia o Colombia, Peru a Mexico, yn enwedig y Meridian Brothers.

Sut brofiad oedd o? Hollol briliant! Ges i groeso cynnes gan bob un o’r cerddorion a’r gymuned gerddorol yna - mae stiwdio Audio Rebel yn dipyn o hwb yn Rio – a gan bob un nes i gwrdd â nhw pan ges i’r cyfle i grwydro’r ddinas.

Mae’r briodas rhwng y Gymraeg a’r gerddoriaeth Frasilaidd yn gweithio’n berffaith, llongyfarchiadau! Pam hynny ti’n meddwl? Diolch! Achos bo’ fi wedi gwneud fy ngwaith cartref a gwneud jobyn da tybed?

Sut oedd o’n cymharu â dy broses recordio arferol di? Dim rhy wahanol i fod yn onest ond rhaid i mi ddeud jyst pa mor gyflym a thalentog oedd y band: Kassin ar gitar fâs, Domenico Lancellotti ar y drymiau ac André Siqueira ar yr offerynnau taro. Bues i’n chwarae’r gitâr a chanu. Bu’r anhygoel Manoel Cordeiro mewn ’da ni yn chwarae’r gitâr ar ‘Unman’ hefyd. Tîm uffernol o dda!

Pa un fydd yr hit? Sai’n gwybod. Mae ‘Duwies Y Dre’ wedi bod yn boblogaidd iawn hyd yn hyn sy’ wedi bod yn neis i weld.

Cyfnod byr yn y stiwdio, sialens neu peth da? Peth da! Fi’n hoffi gweithio dan bwysau. Mae’n ychwanegu tipyn o gyffro i’r broses. Fel cerddor, ti’n meddwl ei bod hi’n bwysig rhoi dy hun y tu allan i dy comfort zone ac wyt ti’n meddwl bod cerddorion Cymraeg yn gwneud digon o hynny? Cwestiwn da. Ar y cyfan, mae pawb yn wahanol felly ’does dim un ateb i ffitio pawb. I fi, mae’n bwysig iawn cadw pethau’n symud ac anturio’r byd cerddorol cymaint ag y medrwn i. Ond mae’n ddrud recordio mewn

Sôn ychydig am y cerddorion eraill sydd yn ymddangos ar y record. Fi wedi sôn am y cerddorion o Frasil yn barod, ond mae Nina Miranda yn westai ar yr albwm hefyd. Mae hi’n Frasiliad ond wedi bod yn Llundain rhan fwya’ o’i hoes. Mae’n hudolus a’i llais fel mêl. O Gymru, mae Elan a Marged Rhys (o Plu) yn canu’r lleisiau cefndir yn berffaith! Dwi wedi gweithio gyda nhw o’r blaen ar yr albwm Bendith, maen nhw mooooor gerddorol. Mae Georgia Ruth yn chwarae’r delyn ar ‘Unman’, gan ychwanegu ei Alice Coltrane vibes i’r gân. Ac mae Gwion Llewelyn yn chwarae’r corn flugel ar ‘Dant Melys’. Pawb yn hollol lyfli a hynod dalentog. Pa gân oedd y sialens fwyaf yn y stiwdio neu pa un wyt ti fwyaf balch ohoni? Roedd ‘Unman’ yn sialens gan i ni’i recordio hi mewn un go. Oedd lot fawr o editing i’w wneud gan ei bod

hi’n jam ac roedd gymaint o gitâr solos anhygoel gan Manoel, o’n i’n ffaelu dewis pa rhai i’w defnyddio! ‘Undiú’ hefyd, dyna’r unig cover version ar yr albwm. Mae’r fersiwn wreiddiol gan João Gilberto felly roedd RHAID ei gwneud hi’n dda. Beth oedd profiad mwyaf cofiadwy’r broses recordio? Recordio ‘Unman’ gyda Manoel a’r bois, roedd hynna’n sbesial. Gwrando ar Marged ac Elan yn canu ar ‘Tywydd Hufen Iâ’. Y teimlad bo fi’n gallu chwarae gyda rhai o’r cerddorion gorau ym Mrasil, o’n i’n ’itha hapus am hyn hefyd. Mae taith fer ar y gweill i hyrwyddo’r record yn yr Hydref, ti’n edrych ymlaen at chwarae’r stwff yn fyw? Ydw, ond teimlo ofn hefyd! Bydd yn sialens, ond rwy’n edrych ’mlan yn fawr. Yn ymarferol, sut fydd hynny’n gweithio gyda’r Rio18 o ben arall y byd? Fi’n rhoi band byw at ei gilydd. Trwy lwc, mae llwyth o gerddorion da iawn yn Llunden (nifer wedi gadael Brasil a Venezuela yn ddiweddar) felly bydd lein-yp rili da gen i. Beth fyddai’r gweithgaredd perffaith i gydfynd â gwrando ar yr albwm? Eistedd tu fas yn yr ardd neu ar y traeth gyda’ch pals a phawb yn joio. Gwertha’r record i ni mewn pum gair! Neith e’ newid eich bywyd.

Hoff albw

m

I orffen, beth yw dy hoff a yn y cate lbyms gorïau is od. Hoff albw m 2019 h yd yma? Fi’n hoff iawn o alb y m s Bibio, F Lotus a S lying inkane h yd yn hy n. Hoff albw m o Fras il? Mwy na th ebyg Os Afro-sam Baden Po bas gan well a Vin icius de M oraes. Hoff albw m gan fa nd neu a gyda rhif rtist yn eu he nw? Sergio M endes & B 25 rasil 6yselar.cymru 6 - Stillne ss


Colofnau

Colofn Sera

Dosbarth llawn hogiau Mae’r ystadegau am ferched yn y diwydiant cerddoriaeth yn drist. O ferched yn cael eu cyflogi gan y cewri Warner, Sony, Universal a Spotify (y ‘gender pay gap’ bron yn 30%) i’r nifer fach yn y swyddi uchel, i’r nifer llai byth o gyfansoddwyr sy’n aelod o PRS (15%). A lle ma’r cynhyrchwyr benywaidd a’r perchnogion labeli? Ma’ pob gitarydd, baswr a drymiwr sydd erioed wedi chwarae efo fi wedi bod yn ddyn. Mae bob cynhyrchydd dwi ‘di gweithio gyda wedi bod yn ddyn, a ma’ bron bob person sain mewn gigs a gwyliau wedi bod yn ddynion, yn ogystal â phob rhan arall o’r diwydiant fel trefnwyr gigs a rheolwyr llwyfan. Mae digonedd o genod yn canu yn y siartiau, ond gyda thîm o ddynion yn y cefndir. Sy’n dal i greu’r argraff mai canu, dawnsio ac edrych yn dda ar lwyfan ydi rôl merch yn y diwydiant cerddoriaeth. Hen stori ddiflas. Ond o roi’r ystadegau i’r naill ochr, mae be’ ’da ni’n ei weld yng Nghymru yn obeithiol. Na, mwy na hynny, yn ysbrydoledig; mae rhan fwyaf o fy hoff berfformwyr o Gymru yn ferched, ac maent yn bodoli ar draws genres, ieithoedd, ac yn perfformio, recordio, cyfansoddi a chwarae offerynnau. Artistiaid diddorol, gyda rhywbeth i’w ddweud. Eleni mae Gorwelion gyda phedair artist benywaidd unigol yn ogystal â bandiau cymysg, sy’n arwydd ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir. Ond ’da ni’n dal i weld gwyliau yng Nghymru yn llawn dop o ddynion. Pam? Braf ydi mynd i rai digwyddiadau fel Focus Wales a gweld artistiaid fel Gwenno a Cate Le Bon yn hed-leinio gŵyl sydd nawr yn denu pobl o ledled y byd i gyd. Ond pam na all hyn fod yn arferol, nid yr eithriad? Ac os oes yna, i ddod yn ôl at yr ystadegau ’ma, lai o artistiaid benywaidd o gwmpas... Pam? Dwi ’di cael y sgwrs o’r blaen; 26

yselar.cymru

“Mae’r cyfleoedd allan yna i bawb, hogiau a genod. Dim bai ni ydi o os ‘di genod ddim eisiau gwneud.” Ok. Ond yn amlwg nid y diffyg cyfleoedd yw’r holl broblem yma, mae’n mynd yn ddyfnach na hynny. Dwi’n edrych yn ôl ar fy amser i yn yr ysgol. Roeddwn i eisiau dewis DT i TGAU, roeddwn i’n dda gyda gwaith metel. Cafodd fy ngwaith ei ddangos fel esiampl i’r dosbarth ac roeddwn i MOR prowd. (Dwi dal yn!) Ond gan mai fi oedd yr unig ferch oedd eisiau dewis DT, dywedodd yr athro wrtha’i ddewis rhywbeth arall, gan y byswn i’n anghyffyrddus mewn dosbarth llawn hogiau. A dyna nes i. Ffrangeg neu rywbeth fel ‘na. Dwi’m yn cofio. Dosbarth llawn hogiau ydi’r diwydiant cerddoriaeth. Dyma sydd wedi gwneud i mi ddyfeisio prosiect newydd, gyda chymorth y Cyngor Celfyddydau. Dwi’n mynd yn ôl i fy hen ysgol - Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon - i weithio gyda chriw o ferched yn ei harddegau ar bob agwedd o’r diwydiant, a dod â merched eraill o’r diwydiant i mewn. Er mod i wedi sgwennu caneuon ers i mi fod yn tua 14 oed, nes i ddim dechrau perfformio’n iawn yn unigol nes i mi recordio fy CD cyntaf gyda Sain pan yn 21. Diffyg hyder ella, a gyda neb arall yn fy nheulu yn rhan

o’r diwydiant, nac yn gerddorion. Doeddwn i ddim yn rhan o griw Glanaethwy nac yn canu’n unigol yn y ‘steddfod. Doedd gen i ddim syniad, nac unrhyw un ro’n i’n ei adnabod, sut i fynd ati i gigio, a’r holl broses o ryddhau miwsig. Mae angen llwybr arall. Mae yna lawer o genod, fel oeddwn i, yn 14 oed yn sgwennu caneuon, ond yn llai parod i ffurfio band a neidio ar y llwyfan fel yr hogiau, heb boeni am wneud camgymeriad neu ganu allan o diwn. Bydd y prosiect yn ceisio magu hyder, ond hefyd yn cyflwyno agweddau eraill o’r diwydiant all fod o ddiddordeb a rhoi sgiliau ychwanegol iddynt; yr ochr busnes, technoleg, celf a mwy. Byddwn yn trafod yr her o fod yn hunangyflogedig a sut i edrych ar ôl eich iechyd corfforol a meddyliol tra’n gweithio fel cerddor, cadw’n ddiogel a bod yn ymwybodol o’r peryglon. Mae’n bwysig i drafod yn agored y pethau sy’n anodd i ferch yn gigio. I fi, mae teithio i gigs pell i ffwrdd yn hwyr yn y nos ar ben fy hun wedi bod yn brofiad anodd ar adegau; y car yn torri lawr ar y ffordd nôl o gig yng nghanol nunlle yn y tywyllwch heb signal ffôn. Parcio’r car tu ôl i ryw dafarn llawn dynion


Colofnau

meddw ar ôl gig am hanner nos a nhw’n gweiddi pethau anweddus. Cysgu’n car neu gampio ar ben fy hun mewn gŵyl i arbed pres gan fod y gig prin yn talu costau teithio. Dwi wedi cael dyn yn tynnu ei drowsus i lawr o fy mlaen i yng nghanol cân, i drio codi cywilydd arna’i, a dyn noeth yn neidio ar lwyfan ata’i.  Neb yn gwneud unrhyw beth! Tydi hyn ddim yn dderbyniol. Ond yn ifanc a neb yn camu i mewn, yr unig beth i’w wneud i beidio edrych yn ffôl oedd chwerthin. Mae angen i ferched sy’n perfformio fynnu cael eu trin yn well. Dwi wedi cael gwahoddiadau gan gynhyrchwyr a cherddorion i ddod draw i’w tŷ i weithio, ond ddim yn siŵr am fod ar ben fy hun gyda rhywun dieithr. Dwi’n gwybod mod i yn teimlo’r pethau yma oherwydd, fel merch, dwi i fod ‘ofn’. Mae’r ffaith yma yn ’neud i mi deimlo’n flin. Yn yr un ffordd ’dylwn i fel merch ddim cerdded adra ar ben fy hun, y peth call i’w wneud ond dal yn llwyddo i neud ti deimlo fel dioddefwr. Mae hyn yn rhan o fywyd gigio, ac mae’n amser ei drafod a chael merched yn ymwybodol o’u hawliau. Ond heb fod yn rhy seriws am eiliad! Mae’n bwysig hefyd cofio yng nghanol gwleidyddiaeth y ‘diwydiant’ fod cerddoriaeth a’r broses o fod yn greadigol wirioneddol yn ’neud bywyd yn well. Roeddwn i’n ffodus iawn fel plentyn i glywed y geiriau yma gan mam: “Gwna mewn bywyd beth sy’n dy neud di’n hapus” ac yna cael y gefnogaeth i neud yn union hynny. Ac os oes yna genod gyda diddordeb yn y maes yma, yna mae’n bwysig dangos iddynt fod posibiliadau a chyfleoedd ar gael, a rhoi ychydig o’r sgiliau iddynt i ’neud y llwybr yn ychydig llai brawychus.

Co Iol lofn oJ on es

Gitarydd a chanwr Ysgol Sul, a’r gohebydd gwleidyddol, Iolo Jones sy’n annog cerddorion i fanteisio ar y we.

Hir oes i’r ‘amhersain’ ’Dw i ’di rhyfeddu â chymaint mae’r ‘diwydiant cerddoriaeth’ wedi newid dros y degawd diwethaf. Does dim ond angen bwrw golwg yn ôl ar y noughties i sylweddoli pa mor wahanol mae pethau erbyn hyn. Pan ’dw i’n cofio’r cyfnod yna mae sawl peth yn dod i’r meddwl, fringes Justin Bieber, ffonau symudol Sony Ericcson, a’r diweddar Bebo (heddwch i’w lwch). Ond un peth amlwg sy’n aros yn fy nghof yw dylanwad cryf yr NME. I’r rheini sy’n rhy ifanc i gofio, cylchgrawn cerddoriaeth oedd y New Musical Express (mae’n dal i fynd ond fel gwefan yn unig). Byddech yn troi at yr NME i ddod o hyd i fandiau newydd, i ddarllen adolygiadau gigs, ac i ffeindio mas am yr albyms diweddaraf. Erbyn hyn, mae modd gwneud hyn i gyd ar y we trwy amryw o ffynonellau gwahanol (a bod yn berffaith onest, ffynonellau llawer gwell). Dim peth newydd yw’r we wrth gwrs, ond dim ond yn ddiweddar mae monopoli’r NME, MTV a’r tastemakers wedi dod i ben. Ac mae’n rhaid i mi gyfaddef, ’dw i’n gweld llawer o botensial i gerddoriaeth Cymraeg yn hyn i gyd. Mae manteision y we i’r ‘Sin Gymraeg’ yn ddigon amlwg yn barod. Mae bandiau fel Adwaith ac Alffa wedi cael tipyn o sylw yn

barod trwy gael tiwns wedi’u gosod ar restrau chwarae Spotify. A ’dw i’n siŵr bod nifer helaeth o fandiau wedi derbyn sylw rhyngwladol ar ryw lefel, o like gan ffan ym Mecsico i adolygiad gan wefan Almaenaidd. Gan eithrio ambell fand Cymraeg, doedd dim sôn am y fath exposure tan yn gymharol ddiweddar. A ’dw i’n meddwl mai twf y we, a dirywiad yr hen fonopoli sydd i ddiolch am hynny. Dim grŵp bach o bobl sy’n llwyr reoli’r diwydiant bellach (wel, y diwydiant roc ta beth). Mae Britpop wedi hen fynd, ynghyd â’r oes lle’r oedd newyddiadurwyr cerddoriaeth a’r labeli’n cosi cefnau’i gilydd. Efallai mai fi sy’n naïf, ond mae’r holl beth yn teimlo’n llawer iachach erbyn hyn. Yn y 2010au gallwch ennyn sylw jest trwy roi demo arlein. Mae’r we wedi dod â rhyddid i gerddorion, a buaswn i’n annog pob un i fanteisio ar hynny. Bellach dim dynion mewn siwtiau sy’n cael dewis beth sydd sy’n haeddu sylw. Sgwennwch a chrëwch beth y mynnoch. Trwy Soundcloud, Bandcamp, Facebook, Twitter, a’r gweddill; mae gennych gyswllt uniongyrchol â’ch gwrandawyr. A pha bynnag mor weird neu ‘amhersain’ yw eich cerddoriaeth, mi gewch chi gynulleidfa! yselar.cymru

27


adolygiadau Joia! Carwyn Ellis & Rio18 Mae’r disglyfr brith sydd i enw’r cerddor hwn yn adlewyrchiad o berthynas llawn cariad Carwyn Ellis â cherddoriaeth, a theg dweud fod pob record sydd â sêl hudolus y dewin gwalltgoch arni’n cyferbynnu i’w gilydd i raddau helaeth. Yn sgil hynny, mae hi wastad yn gyffrous gweld pa lwybr mae am ei droedio nesaf o ran arddull. Bellach yn teithio ers dwy flynedd hefo The Pretenders, dyma unigolyn sydd wedi’i ddylanwadu gan gerddoriaeth o bob cyfandir. Yn fwy diweddar, cerddoriaeth o Frasil sydd wedi ennyn diddordeb Carwyn, ac adlewyrchir hynny fel pin mewn papur yn Joia! Dychmygwch Colorama wedi’i gymysgu’n dda mewn caipirinha cry’, coctêl cerddorol sy’n drwm o ddylanwad Rio De Janeiro, ond coctêl sydd â thinc o werin yn ei ganol. Dyma’r albwm hwn yn ei hanfod, a thrwy gydweithio gyda’r cynhyrchydd enwog o Frasil,

Ewropa Ffrancon Dau ddeg saith o draciau sydd ar Ewropa, record ddiweddaraf yr artist sain electronig, Geraint Ffrancon, a phob un yn ddi-iaith. Maent yn cynrychioli’r gwledydd fydd ar ôl yn yr Undeb Ewropeaidd pan/os yr ydym yn gadael. Mae dilyniant y traciau - sydd i gyd yn cymryd enwau’r gwledydd yn eu prif ieithoedd - yn fras yn dilyn pŵer y gwledydd o fewn yr Undeb, sydd hefyd yn adlewyrchiad llac o’r cyfnodau yr ymunodd pob un. Y cysgod sy’n gorchuddio’r cwbl wrth gwrs yw absenoldeb ein

Teyrnas ni. (Mae’r drefn yn ffordd ddifyr o’n hatgoffa, hefyd, cyhyd y bu’r U.E. yn ffynnu hebddom.) Gosoda ‘France’, y trac agoriadol, naws ofergoelus, yn llawn synths crynedig sy’n rhoi’r argraff eu bod yn adeiladu’n araf at ryw ddigwyddiad. Fel datblygiad perthynas y D.G. a’r U.E. dros y degawdau diwethaf, naws o aneglurder a straen sy’n hongian dros nifer o’r caneuon. Gallwn ddychmygu niwl neonoir-aidd yn drac gweledol i bron pob un o’r darnau. Ceir motiffs melodaidd, patrymau’n amlygu eu hunain yn raddol o wlad

Kassin, ynghyd â cherddorion amryddawn eraill o Rio a Chymru, dyma gasgliad sy’n uno dau gyfandir. Yn daith o record, dyma brofiad cerddorol ffres ac eneidiol sy’n boddi mewn hapusrwydd. Wedi’i ddylanwadu’n gryf gan recordiau y prynodd y cerddor yn Ne America, ceir cyfuniad cyffrous o arddulliau bossa nova, soul a thropicália yng nghrombil y campwaith. Yn wir, ceir caneuon sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd. Os am dorheulo yn yr ardd ar ddiwrnod crasboeth, mae ‘Dant Melys’ a ‘Hen Beth Cas’ yn siwtio i’r dim. Os ydych awydd jeif, mae ‘Ymosodwyr Anweledig’ ac ‘Olion’ yn draciau lle mae’r elfen ffync yn gryf. Yn yr un modd, mae ‘Tywydd Hufen Iâ’ yn boddi mewn bossa nova, a ‘Duwies y Dre’ yn prysur droi’n anthem bop. Mae’r cyfieithiad Portiwgaleg o ‘joia’ yn crisialu’r casgliad – groovy. Dyma drac sain haf 2019, ac yn fy marn i, un o albyms gorau’r flwyddyn. Gwrandewch a byddwch wrth eich boddau, credwch fi. IFAN PRYS

i wlad. Ond mae’n gasgliad mwy boddhaol i’w fwynhau heb chwilio am y fath daclusrwydd, i wrando arno a myfyrio, dros ein gorffennol a’n dyfodol, gyda’n gilydd ac ar wahân. Mae Ewropa yn estyniad amserol o archwiliad hirdymor yr artist o hunaniaeth a symudiad drwy weadau sain electronig. Mae lleoliad yn bwysig iddo; y cymhlethdod o berthyn i rywle, a’r melancolia sy’n gallu deillio o orfod gadael. Mae’n ddiddorol gwrando ar yr archwiliadau rhain mewn perthynas â’i waith

fel Machynlleth Sound Machine, y prosiect lle defnyddiodd hanesion lleol Machynlleth a Detroit i bontio naratifs cerddorol a diwydiannol cymleth y ddau leoliad. Ar glawr Ewropa gwelwn ddyffryn Cymreig (ei olwg o leiaf), â phatrwm sêr cyfarwydd baner yr Undeb Ewropeaidd yn gorchuddio’r olygfa’n ysgafn. Golwg Gymreig, flin a blinedig a geir yma ar y sefyllfa rydym ynddi. Dyma’r ymdeimlad pennaf a ddeillir o’r casgliad cyfoethog hwn o draciau: dim ond un cornel fach fach o’r blaned gymhleth hon ydym ni; mae’r cwbl yn gysylltiedig. DYLAN HUW


Mae’r Haul Wedi Dod Geraint Løvgreen a’r Enw Da

Orig! Gai Toms a’r Banditos

Dwi’m yn meddwl ’cawn ni gân well i agor albwm ar gyfer haf 2019 na ‘Mae’r Haul Wedi Dod’! Clasur i’w hychwanegu at ‘Babi Tyrd i Mewn o’r Glaw’ a’i thebyg, a dwi’n siŵr fod yr wyrion bach wrth eu bodd hefo hi. Dyluniad syml, lliwgar gan Sioned Medi Evans sydd i glawr yr albwm. Rydw i wastad yn mwynhau busnesu i fyd band wrth bori trwy’r llawes, ac mi wnes i wirioneddol fwynhau darllen y pytiau byrion am greadigaeth pob cân ar hon. Mae’n amlwg o’r dyluniad ar y cefn o gysgod y diweddar Iwan Llwyd a’r holl eiriau gan y cyn-aelod sy’n cael eu defnyddio fod hwn yn albwm er cof amdano. Ond peidiwch meddwl am eiliad mai casgliad o ganeuon trist sydd o’n blaenau; i’r gwrthwyneb, mae hon yn deyrnged sy’n llawn hwyl, dychan ac ella ambell i ddeigryn hefyd i fod yn deg. Mae dylanwad amlwg cynhyrchu Aled Wyn Hughes ar ambell drac yn rhoi amrywiaeth i’n bodloni, ond mae sŵn soul a harmoniau cyfarwydd yr Enw Da a dawn Løvgreen i ysgrifennu tiwns yn byrstio allan o’r casgliad newydd yma. Mae yna deimlad byw i’r holl draciau a naws noson o farddoni gyda chymorth Myrddin ap Dafydd ac Ifor ap Glyn. Dwi’n fwy na hapus i wrando ar yr albwm yn ei gyfanrwydd heb sgipio, ond mae gen i uchafbwyntiau amlwg! Hwyl a chwerthin ‘Mae’r Haul Wedi Dod’, symlrwydd stori ‘Y Dieithryn’, dychan ‘Gwylio Guto ar y Teli’ (mae’r dynwarediad o Farage ar y diwedd werth ei glywed!) Ac mae’n rhaid i mi sôn am ‘Hydref o Hyd’, cân amrwd, sy’n llawn hiraeth ac yn ymuno ag ‘Yma Wyf Finnau i Fod’ fel cân sy’n mynd i dynnu deigryn dim otsh lle fydda i. Mae diweddglo epig ‘Am Fod Yr Haul yn Noeth’ yn cloi albwm fydd yn cael ei chwarae drosodd a throsodd gen i! Cymysgedd wych o ganeuon dychanol, atgofion, a’r classic tiwns ’da ni’n eu disgwyl gan Geraint Løvgreen a’r Enw Da!

Yn fwy nag albwm gysyniadol, mae hwn yn ffilm i’r clustiau sy’n ein cyflwyno i Orig Williams, neu’r reslar El Bandito, cymeriadau eraill yn ei fywyd, y lleoliadau y bu’n ymweld â nhw a’r Cymreictod yr ai ag e’ i bob man. Mae’r dramateiddio ar ei orau yn ‘Reu Reu Reu / Tarw Nefyn’ sydd wedi’i lleoli ar gae pêl-droed a ‘Bwth Micky Kiely’ sydd wedi’i lleoli mewn ffair. Nid yn unig mae bloeddio a chymeradwyo’r dorf yn creu awyrgylch ond mae’r gerddoriaeth ei hun cyfleu hwyl a bwrlwm, a goslef lleisiau Gai Toms a Tara Bethan yn ychwanegu at hynny. Wrth iddyn nhw annog y dorf i ddod i wylio gornest focsio allwn ni ddim bod yn unman ond y ffair. Er iddo ddechrau bocsio mewn ffeiriau lleol aeth ei yrfa reslo ag Orig Williams ar draws y byd, ac mae un gân, ‘Y Cylch Sgwâr’, yn dweud y cyfan: ‘Does neb yn ei gweld hi fel fi... Mi welaf y byd o’r cylch sgwâr’.  Yn ogystal â mynd ar daith ddaearyddol aiff Gai â ni ar daith gerddorol. Mae’n tynnu’n bennaf ar ddylanwadau Cymreig, Mecsicanaidd ac Americanaidd. Mae elfennau o ganeuon gwerin a chanu gwlad Americanaidd yn ‘Palmant Aur y Migneint’, ffync Lladinaidd yn ‘Calabar’, mae ‘Bandits’ fel un o ganeuon American surf ond â chorn yn rhoi sŵn Mecsicanaidd iddi, ac mae’r gitâr a’r acordion yn rhoi naws Sbaenaidd i ‘Dy Wên’.   Yr alaw Gymreig amlwg sydd i’w chlywed fwy nag unwaith yw Marwnad yr Ehedydd. Mae i’w chlywed am y tro cyntaf yn ‘Marwnad y Penhawlan’, sy’n newid cyfeiriad llwyr wedi holl gyffro’r caneuon blaenorol.  Wrth gloi’r albwm gyda llais Orig ei hun yn diolch i dorf ac yna llinellau agoriadol Marwnad yr Ehedydd ar gorn mae’n cyfuno Cymru a Mecsico’n berffaith gyda last post sy’n cyhoeddi diwedd yr albwm. 

ELAIN LLWYD

BETHAN WILLIAMS

Blodau Papur Blodau Papur Gyda’r albwm hwn, gall Blodau Papur fod yn sicr mai eu cryfder nhw fel grŵp fydd yn denu’r gwrandawyr o hyn allan, ac nid llais unigryw Alys yn unig. Yma ceir casgliad cryf o ganeuon amrywiol sy’n amlygu talent pob un ohonynt fel cantorion, offerynwyr a chyfansoddwyr. ‘Blodau Papur’ yw’r trac agoriadol ac er nad yw’r gryfaf o draciau’r albwm, mae o’r hyn fyddech chi’n ei ddisgwyl gan y band ac yn fesur da o’r hyn sydd o’ch blaen yn y 10 trac nesaf. Mae’r trydydd a’r pedwerydd trac ‘Mynd i ‘Neud O’ a ‘Dagrau Hallt’ yn gwyro oddi ar lwybr y ddwy gân gyntaf. Gyda’r gyntaf o’r ddwy yn ’chydig o hwyl trachwantus, tafod-yn-y-boch a’r ail yn gweld y pumawd yn troi eu llaw at arddull Johnny Cash o ganu gwlad. Mae’r ddwy gân yn gweithio’n dda ond ymhell o fod yn uchafbwyntiau. I mi, mae’r albwm yn troi cornel gyda ‘Coelio Mewn Breuddwydio’ i mewn i ail hanner cryfach o lawer. Mae’r gân yn arddangos ac yn dathlu ystod llais Alys a’i gallu hi i newid o elfennau roc i rai mwy jazzy yn ddiymdrech. I mi, mae Alys ar ei gorau mewn caneuon jazzy, fel ‘Llonydd’ ac ‘Yr Un Hen Ddyn’ sy’n f’atgoffa i o Norah Jones yn ei chyfnod Feels Like Home. Mae’r caneuon hyn hefyd yn dangos rhan mor bwysig yw piano Branwen i bwy ydy Blodau Papur. Yn ‘Llygad Ebrill’ mae’r piano’n rhoi cymaint o gymeriad i’r gân ag y mae dehongliad Alys, ac mae’n gyferbyniad ysgafn sy’n dod â ni’n ôl i lawr i’r ddaear o anterth y gân. Daw’r albwm i ben gyda chân ddigyfeiliant swynol, ‘Tyrd Ata’ I’ a fyddai ddim allan o’i lle mewn cyngerdd Plygain. Mae’n hyfryd.  Casgliad da, amrywiol a hyderus a fydd hyd yn oed yn well ar lwyfan. LOIS GWENLLIAN


Bitw Bitw Nid siom mo’r albwm hwn. Os ydych chi’n chwilio am frêc o’r gerddoriaeth pop canol y ffordd ar gyfer yr haf, dyma albwm seicedelig hamddenol at ddant ffans o Tame Impala, Gorky’s Zycotic Mynci ac Y Niwl. Yn aelod o’r diwethaf, mae rôl Gruff ab Arwel yn Y Niwl yn ddylanwad cryf ar ei offeryniaeth ar yr albwm hwn. Mae ‘Siom’ yn drac cryf i gychwyn y casgliad. Cewch eich taro gan lais breuddwydiol ab Arwel, sy’n plethu’n hyfryd â llais sibrydol Mari Morgan. Yn grefftus mae’r lleisiau’n toddi i mewn i’r synths fel adlais cosmig. Ceir elfen o natur tafod mewn boch yn ‘Diolch Am Eich Sylwadau, David’, wrth i’r arddull ailadroddus hypnotig ar derfyn y gân ymddangos fel bod y sylwad yn diflannu i bellafion y gofod ymhell o fywyd y cerddor. Ymhlith y llinellau breuddwydiol mae rhai ymadroddion yn sefyll allan mwy nag eraill, megis ‘daw’r gwirionedd gan y gwirion’, sy’n rhoi sylw uniongyrchol i negeseuon. I’r gwrthwyneb a naws hamddenol yr albwm mae’r trac ‘Poen Tyfiant’

Y Dal yn Dynn, y Tynnu’n Rhydd Steve Eaves a Rhai Pobl Mae’n dweud llawer i mi gael lwmp yn fy ngwddw wrth wrando ar yr albwm hwn a finnau ddim ond wedi clywed tair cân. Dyma gasgliad sy’n llwyddo i wneud i rywun deimlo’n gynnes braf tu mewn. Ceir naws ymlaciedig iawn i’r gerddoriaeth, sawl gwaith mi ddaliais fy hun wedi ‘zonio allan’ ac wedi mynd i rywle arall. A dwi’n ystyried hynny i fod yn ganmoliaeth oherwydd mae’n profi grym y gerddoriaeth i allu trosglwyddo a chodi rhywun o’i ymwybyddiaeth ei hun. Mae dawn anhygoel Steve o drin geiriau yn amlwg drwy’r albwm. Mae’n feistr ar greu darlun a rhoi cip ar fyd cyflawn mewn ychydig eiriau syml. Gwelir hynny’n arbennig yn

yn troi’r naws freuddwydiol yn hunllefus. Drwy arbenigedd cynhyrchu Llyr Parri ceir organ wedi ei arafu i greu synau tebyg i beiriant corff yn trafferthu i dyfu. Mae’r trac yn eich ysgwyd o’r gerddoriaeth hamddenol gyffyrddus i fan oeraidd, a thrwy hynny mae’r trac yn gampwaith sy’n ein tywys ar daith i begynau emosiynol. Mae yna sin seicedelig yn tyfu yng Nghymru, sin sy’n caniatâu i’n cerddoriaeth ehangu a chrwydro i fannau arallfydol. O.N. Os ydech chi heb wylio’r fideos i’r caneuon, gwyliwch nhw rŵan. AUR BLEDDYN

Rhamant Hyll Does neb eisiau gweld band yn sefyll yn llonydd, boed yn llythrennol neu’n drosiadol, ac er cymaint yr oeddwn i’n mwynhau asbri ieuenctid stwff cynnar Hyll, mae’n braf eu gweld yn arbrofi ar eu hail EP. Mae naws arafach, mwy ystyriol i Rhamant o’i gymharu â’r EP cyntaf a’r senglau, gyda dylanwad bandiau fel Los Blancos yn amlwg yn enwedig ar y trac cyntaf, ‘Gwrthgymdeithasu’, a’r olaf, ‘Dydd a Nos’.

Ond peidiwch â phoeni, dyw’r bois heb anghofio’i gwreiddiau cerddorol. Hanner ffordd trwy’r casgliad, daw ‘Dyn Sbwriel’ i’n hatgoffa o awch, angerdd ac agwedd Hyll, yn slap wlyb yn ein hwynebau fel yr oeddan ni’n dechrau ymlacio. Da. ‘Mor Forwyn’ ydi’r unig drac dwi ddim yn rhy siŵr ohono, mae’n cael ei dorri yn ei flas braidd. Datblyga’r melodiau’n hamddenol braf am funud a hanner, ond yna, fel yr o’n i’n disgwyl iddi gicio i mewn ac adeiladu i uchafbwynt, mae’r gân yn dod i ben! Fel pêl droediwr newydd gael ei “megio”, ro’n i’n pissed off ond yn edmygu’r gwreiddioldeb ar yr un pryd. Buan iawn y maddeuais i wrth i’r casgliad orffen gyda’r hyfryd ond trist, ‘Dydd a Nos’. Mae’r lyrics yn gryf ac yn driw i’r thema ganolog trwy gydol Rhamant ond efallai mai yn y gân serch yma y maent ar eu gorau; ‘Ti’n ’neud be’ ma’r dydd yn ’neud i’r nos i mi bob tro... fi’n ’neud be’ ma’r nos yn ’neud i’r dydd i ti bob tro.’ Does dim hits fydd yn sefyll ar eu traed ei hunain yn yr un modd â chaneuon fel ‘Diwedd Gwanwyn Tragwyddol Max Rockatansky’ a ‘Sling Shot’ yma ond mae Rhamant yn gyfanwaith aeddfed a fydd yn gam pwysig yn natblygiad Hyll. GWILYM DWYFOR

dynn, y tynnu’n rhydd / ffair wagedd fawr yw’r hen fyd yma.’ Bydd hon eisoes yn gyfarwydd i rai sydd wedi arfer mynychu gigs Steve Eaves, yn enghraifft dda o’r hyn sy’n digwydd pan ceir priodas berffaith rhwng geiriau a cherddoriaeth. Llwydda’r caneuon oll i gyffwrdd rhywun yn eu ffyrdd unigryw eu hunain ond i mi, y tair cân agoriadol yw’r cryfaf RHAID a’r caneuon sy’n dal i ganu GWRANDO yn y co’ ac yn dal eu gafael yn y meddwl wedi gwrando. Cyrhaeddir uchafbwynt gyda’r ‘Ffair Wagedd’. Dyma chi ddweud drydedd yn arbennig; ‘Ma Copine’. i agor cân: ‘Toedd dim byd arall ar Dyma gân o’i chlywed yn fyw y basa fy meddwl / ond siâp ei chorff drwy gen i ofn anadlu bron wrth wrando gil y drws.’ Ac aiff yn ei flaen: ‘O, mae’r holl fryniau a’r dyffrynnoedd arni rhag ofn i mi ar amharu ar / yn llenwi’r cof ar ddiwedd dydd / y dynerwch a chynildeb y sŵn. MARGED TUDUR babis bach, yr addewidion / y dal yn


a

LLUN aa LLUN LLUN LLUN SADWRN LLUN SADWRN SUL LLUN LLUNaaaaa GWILYM BRYN GWILYM BRYN FÔN FÔN TUDUR OWEN GWILYM GWILYM GWILYM GWILYM GWILYM HYWEL PITTS CRAWIA ALFFA CRAWIA ALFFA ALFFA ALFFA ALFFA ALFFA ALFFA TANT TANT SEROL SEROL SEROL SEROL SEROL SEROL SEROL SEROL SEROL SEROL SEROL SEROLSEROL SEROL

Ar gael nawr! £7.99

£5.99

£9.99

£9.99

MAWRTH MERCHER IAU SEN SEGUR Ifor ap Glyn a Bragdy’r Beirdd... OMALOMA GWIR FEL GWYDIR YNYS

Canwn i Ddyffryn Conwy Cerddi a miri a mwy...

GWENER SADWRN Y NIWL ANI GLASS BITW PYS MELYN

Q MR îñ¶ßîñc™Ö CHROMA FFRACAS LASTIGBAND

carwyn ellis & RIO 18 cowbois rhos botwnnog tecwyn ifan alun tan lan

a

CYMDEITHAS.CYMRU CYMDEITHAS.CYMRU /GIGSLLANRWST

.com

Llyfrau dros Gymru


Ysgoloriaethau Clirio gwerth £2,000 ar gael Gwarant o lety i fyfyrwyr

101793-0719

Nifer cyfyngedig o lefydd Clirio ar gael:

Profile for Y Selar

Y Selar - Awst 2019  

- Gwilym - Blodau Papur - Hyll - Carwyn Ellis + llawer mwy

Y Selar - Awst 2019  

- Gwilym - Blodau Papur - Hyll - Carwyn Ellis + llawer mwy

Profile for y_selar
Advertisement