Page 1

y Selar

RHIFYN 22 . AWST . 2010

AM DDIM

Y BANDANA ^

^

^

GWYL NOL A MLAN DAU I’W DILYN COLOFN NIA MEDI

I L O H

S A D L I G

RHIFYN ‘STEDDFOD GLYN EBWY 2010

1


Gwlad yrganAddewid Ed Thomas

Cyfieithiad Sharon Morgan o ‘House of America’ Cyfarwyddwr: Tim Baker Cast: Alun ap Brinley, Sara Harris-Davies, Rhodri Meilir, Elin Phillips, Sion Young Cyfieithiad i’r Gymraeg o stori ffrwydrol ac angerddol Ed Thomas, ‘House of America’, am frwydr anobeithiol dyn yn erbyn amgylchiadau a diwedd y freuddwyd Americanaidd mewn tref ddiwydiannol yn ne Cymru yn yr 1980au Perfformiad Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010 Theatr Y Met, Abertyleri Nos Fawrth 03 Awst 2010 – Nos Wener 06 Awst 2010 7:30pm 01495 322510 Tocynnau hefyd ar gael o Theatr y Maes ar Faes yr Eisteddfod Theatr Y Lyric, Caerfyrddin Nos Iau 09 Medi 2010 – Nos Wener 10 Medi 2010 7:30pm 0845 226 3510 Galeri, Caernarfon Nos Fawrth 14 Medi 2010 – Nos Iau 16 Medi 2010 7:30pm 01286 685222 Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre Nos Fawrth 21 Medi 2010 – Nos Fercher 22 Medi 2010 7:30pm 01970 623232

Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe Nos Sadwrn 25 Medi 2010 7:30pm 01792 602060 Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug Nos Iau 30 Medi 2010 – Nos Sadwrn 02 Hydref 2010 7:45pm 0845 330 3565 Theatr Mwldan, Aberteifi Nos Fercher 06 Hydref 2010 – Nos Iau 07 Hydref 2010 7:30pm 01239 621200 Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd Nos Iau 14 Hydref 2010 – Nos Sadwrn 16 Hydref 2010 8pm


GILDAS

Y BANDANA

L O D D Y GOLYG

yn arall nnes i rif ch chi ei y c o s e dw chro raeg! Gre nnwyl, a dr feillion a rddoriaeth Cym afbwynt y calen y g h c y e h c c n n y U Henff w d ? gylchgra addo bo ethol eto o’ch hoff ddfod Genedla i nifer, ac mae’n apus rhwng Ste hymru iodas h bod hi’n a yng Ng wn yn dilyn y br g Nglyn Ebwy. m y l ro o cerdd ydd ia es-B yn di d ddedw Gigs Ma gyfleoed Eisteddfo eithas yr Iaith a digon o ac d , s fo o y n d d y ’r gyda dfod d s Gigs Cym te ig g S y y rif p n rau am ’n cael es ac y ethau go ormio ar y ma anc cyffrous sy w p ’r u o a n U if rff ps D i’ ifanc be brosiect 009 o’r Selar, ti a a n a d 2 artistiaid dweud mai dau n Ba rth raf ifyn Maw nyn nhw oedd Y eunydd mae’n b n. Yn rh d r w a u h a g h n d lw y d o if g . yn rhy u sylw y rh rtistiaid i gadw a d l yr SRG d o g ’r a go ys , mae n y a Dilyn am n rhyfedd iawn yn prysur ddrin ym cy ac yn golew Gildas, a byn y Steddfod in stwff e d o b r w e g newydd y’n ni yn gweld, d wedi’r cwbl! rhoi sylw efyd yn Da chi’n r h la n e n, S w h Y dd rhifyn wydd iaw rhengoe d, mae’r ni – un yn un ne dio ym id fa a h u i bod ele isio ailgy y themâ I gynnal^ sydd eisoes wed nes, ond sy’n ce l a y h i ddwy w n sydd â chryn nu a’r llall y mau u. hoff eite mhetha m ni’ch y h n ic n e e g n ae ori y yn oll m i’ch didd u n e o n ig . .. D Ar ben h . y s rth gwr nctid fell wn i ra arferol w ar y maes ieue h ’r cylchg c a efnyddio lawr y glaw pebyll b d d ta s a ys hi w allwch c n bydd hi’n arllw oi i’r dudalen a tr p i n d y c o g d s On gy doeth chi isho! ... gwell cyngor h c a d y s n o hy tyriwch nesaf, ys eth! o c nag aur

OWAIN S

FFLUR DAFYDD

12

4 Golygydd

Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

Dylunydd

18 Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

16 SESIWN FACH ... SESIWN FAWR

MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebion@yselar.com)

Cyfranwyr Nia Medi, Barry Chips, Casia Wiliam, Hefin Jones, Gwilym Dwyfor

y Selar RHIFYN 22 . AWST . 2010

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3


I, R O L G R E C O STICER B

OND DIM

T I L P S A N A D BAN “

Wedi’r anrhydedd o ymddangos fel un o fandiau Dau i’w Dilyn Y Selar, mae’n rhaid holi beth sydd wedi bod ar y gweill gyda’r Bandana ers hynny. “Wel, da ni di bod yn gigio lot. Natha ni chwarae rhyw 40 gig i gyd yn 2009 a da ni wedi gigio lot yn barod yn 2010” meddai Tomos. ^ “Gatha ni chwarae fel rhan o w yl Frinj y Big Weekend a oedd yn brofiad grêt.” Mae Sion yn mynd ymlaen i ategu “Gigio

4

mor aml â da ni’n gallu rili. Da ni’n trio ein gorau i dderbyn pob gig da ni’n cael cynnig gwneud, felly rydym wedi bod yn eitha’ prysur! Cafon ni saib bychan ar gyfer ein harholiadau a ballu cyn yr haf, ^ ond rw an rydan ni’n trio gwneud y mwya’ da ni’n gallu o’n hamser.” Aiff Tomos ymlaen “Ar ben hynna da ni di bod yn recordio ychydig o ganeuon efo Rich Roberts, dwy o’r caneuon yma sydd ar y sengl, ac mae gennym ni gwpwl o rai eraill wedi eu gorffen a rhai traciau eraill lle da ni jyst di rhoi dryms lawr arnyn nhw.” Mae Sion yn egluro eu bod nhw hefyd wedi llwyddo i gael cryn sylw ar y cyfryngau hefyd “Da ni wedi neud dipyn o waith teledu yn 2010 hefyd. Uned 5, Wedi 7, Gofod a Dathlu sy’n beth braf achos mae o’n dod a mwy o sylw i ni ac yn denu cynulleidfa newydd.” Mae’r nifer o gigs mae’r band wedi chwarae yn sefyll allan - ychydig iawn o fandiau newydd sy’n llwyddo i gael hanner cymaint â 40 o gigs mewn blwyddyn! Byddai sawl band yn hoffi gwybod sut yn y byd maen nhw wedi llwyddo i gael cymaint o gyfleoedd i berfformio’n fyw? “Just ffonio/e-bostio o gwmpas a gofyn os oes ‘na rywun angen band i lenwi slots is-lawr ar y line-up” ^ medd Tomos. “Dwi’n siw r dwi di e-bostio ^ trefnwyr bron i bob un w yl Gymreig sy’n bodoli dros y flwyddyn ddiwethaf yngly^ n â’r posibilrwydd o gael slot. Da ni’n lwcus hefyd gan fod yna gigs yn cael eu cynnal yn wythnosol yng Nghaernarfon mewn dwy dafarn wahanol felly mae ‘na ddigon o gyfle i ni gael gigs yn lleol.” Mae Sion yn ychwanegu “y peth arall ydy bod ni ddim yn bothered os da ni’n neud colled ariannol allan o gig. Da ni di chwarae rhai gigs lle di’r ffi dda ni’n

myspace.com/bandana ?

DA NI’N TRIO EIN GORAU I DDERBYN POB GIG DA NI’N CAEL CYNNIG ...

Pan gyhoeddwyd rhifyn Mawrth 2009 o’r Selar, un o fandiau Dau i’w Dilyn oedd Y Bandana ... ac fel mae’n digwydd y llall oedd Gildas, sydd hefyd yn cael ei gyfweld yn y rhifyn hwn! Ers hynny maen nhw wedi bod yn brysur tu hwnt, ac o’r diwedd yn rhyddhau eu deunydd cyntaf ar ffurf sengl ar label Copa. Pa gyfle gwell i’r Selar ddal fyny gyda Tomos a Siôn o’r band felly.

cael ddim yn cyfro’r costau teithio, ond da ni’m rili’n poeni achos da ni wastad yn mwynhau jyst cael chwarae gigs.” Agwedd ffres ac iach iawn mae’n rhaid dweud, ac mae’n amlwg ei fod yn gweithio. Pan fuodd y Selar yn siarad efo’r band ar gyfer Dau i’w Dilyn bron i ddeunaw mis yn ôl, roedden nhw’n sôn am recordio EP yn y dyfodol agos. Pam felly ei bod hi wedi cymryd cyhyd i ni weld unrhyw ddeunydd gan Y Bandana - trafferth yn ffeindio label mewn cyfnod anodd i labeli Cymraeg? Ddim felly yn ôl Tomos, “natha ni ddim rili mynd allan a chwilio am label o gwbl. Ein bwriad oedd jyst mynd i’r stiwdio, recordio caneuon, ac wedyn rhyddhau o ein hunain.” Pam yr oedi felly? “Dwi’n meddwl mai’r rheswm bod o wedi cymryd mor hir ydy’r ffaith bod fi i ffwrdd ym Mhrifysgol Manceinion so dim ond ar benwythnosau sw’n i’n gallu dod


cyfweliad: ybandana

‘nôl i recordio/gigio. Ar ben hynna hefyd doedd genna ni ddim yr arian i fynd i stiwdio i recordio tan yn ddiweddar.” Mae Sion yn cytuno gyda’r eglurhad “Y broblem fwyaf oedd gallu ffeindio adegau lle’r oedd pob aelod o’r band yn rhydd i recordio caneuon - anaml oedd y 4 ohono ni’n rhydd yr un pryd!” O’r diwedd mae eu sengl gyntaf yn dod allan ar label Copa - sut ddaeth hynny i fod? Sion sy’n egluro “Cafodd Tomos neges gan Copa yn deud bod nhw isho gneud rhywbeth efo’r band ac yn gofyn be oedd ein cynlluniau i ryddhau rhywbeth.

Ar ôl i ni ddweud ein bod ni’n gobeithio rhyddhau rhywbeth cyn blwyddyn nesa, ddaru nhw ofyn i ni os oeddan ni eisiau rhyddhau sengl efo nhw!” “Nath o jyst dod o nunlla fel rhyw sypreis bach neis” medd Tomos. “Ddaru ni benderfynu felly ‘sa ni’n rhyddhau sengl ar y label erbyn yr Eisteddfod ac wedyn adeiladu oddi ar hynny.” Rich Roberts, sydd hefyd yn chwarae i Gola Ola ac Y Rei, sydd wedi cynhyrchu traciau’r sengl, ond aeth y broses ddim yn llwyr i’r cynllun fel yr eglura Tomos, “ddaru ni recordio’r trac ‘Dal dy Drwyn’ yn stiwdio Livewire, Dinbych. Oddan ni

wedi bwcio’r lle efo Rich am 4 diwrnod nôl ym mis Chwefror ond nath hi benderfynu bwrw eira y penwythnos yna ac roedd rhaid i ni ganslo 2 ddiwrnod o recordio, so roedd huna bach o boen i ddeud y lleia’.” Mae Sion yn mynd ymlaen “yn stiwdio Sain ddaru ni recordio’r ail gân, sef ‘Cân y Tân’, ac mi roedd o’n grêt!” Mae’n ymddangos fod ganddyn nhw ddigon o gynlluniau ar y gweill ar gyfer hyrwyddo’r sengl newydd hefyd, gan ddechrau gyda’r Steddfod. “Ma gyna ni gigs ar faes y Steddfod ar stondin Bwrdd yr Iaith am 3pm ar y dydd Mercher,

5


cyfweliad: ybandana chwarae Maes B ar y nos Wener ac ar y maes eto ar y pnawn Sadwrn olaf” eglura Sion. “Ella bod rhai ohona chi’n cofio’r sticeri Y Bandana a oedd o gwmpas y maes blwyddyn diwethaf, y bwriad ydy gobeithio printio rhai newydd ar gyfer yr wythnos eleni hefyd i drio hyrwyddo’r sengl.” Mae Tomos yn ychwanegu “da ni hefyd wedi bod yn gigio drwy fis Gorffennaf mewn gwahanol wyliau ac fel rhan o Daith Bandiau Ifanc Chwiw i geisio hyrwyddo’r sengl. Ar y funud da ni’n chwilio am ‘chydig o gigs ar gyfer diwedd mis Awst cyn bod pawb yn mynd ffwrdd i’r coleg ac ella cael ‘chydig o amser yn y stiwdio i gael trio recordio mwy o ganeuon.”

... Y PETH ARALL YDY BOD NI DDIM YN BOTHERED OS DA NI’N NEUD COLLED ARIANNOL ALLAN O GIG

Mae’r Bandana yn un o’r bandiau ‘na sydd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant mewn cystadlaethau Brwydr y Bandiau amrywiol ac mae’n arwyddocaol eu bod nhw’n teimlo fod hyn wedi cynnig ^ cyfleoedd da iddyn nhw. “Mae’n siw r bod hi’n deg dweud bod ni ‘di cal ein ‘break’ cynta’ ar ôl i Lisa Gwilym ein gweld ni mewn cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn Galeri, Caernarfon nôl yn niwedd 2007, lle ddaru ni gael cynnig recordio sesiwn acwstig C2 i’w sioe, er mai ail gaethom ni” dywed Tomos yn ysgafn. ^ “Mae’n siw r mai trio yn y gwahanol gystadlaethau Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Caerdydd 2008 a gododd ein proffil ni. Ddaru ni ennill un Cymdeithas yr Iaith ac o ganlyniad mi gawsom ni recordio sesiwn C2 a bod yn rhan o Daith Tafod 2009 yn ogystal â chwarae lot o gigs eraill i’r Gymdeithas. Rhai o fois Sibrydion oedd yn beirniadu Brwydr y Bandiau Maes B ac er mai dim ond ail gatha ni, roeddan nhw wedi licio’n stwff ni ac fe gawsom ni eu cefnogi nhw mewn cwpwl o gigs o ganlyniad.” Ydyn nhw’n teimlo fod cystadlaethau fel hyn yn bwysig i fandiau ifanc Cymru felly? Sion sy’n ateb “yn bendant dwi’n teimlo bod y cystadlaethau yma yn rhoi cyfle i fandiau ifanc. Ma lot o fandiau sydd yn y sin ar y funud wedi cystadlu mewn, ac wedi ennill, Brwydr y Bandiau yn y gorffennol, er enghraifft Creision Hud, Plant Duw, Derwyddon Dr Gonzo,

Jen Jeniro, a gweld ein ffrindiau ni yn y math yma o gystadleuaeth nath roi’r hwb i ni i ffurfio band yn y lle cyntaf.” Mae Tomos eisoes yn y coleg ym Manceinion wrth gwrs, a dau o’r aelodau eraill erbyn hyn yn bwriadu ei ddilyn i golegau amrywiol. Tomos sy’n egluro’r sefyllfa, “da ni am drio gneud gymaint ag y gallwn ni dros haf eleni - hynny ydy recordio, gigio a chael hwyl - cyn bod Sion a Robin yn mynd i Brifysgol ym mis Medi. Bydd Gwilym yn yr ysgol am flwyddyn arall felly fydda ni’n ‘spread out’ braidd. Gobeithio byddwn ni’n gallu rhyddhau mwy o ganeuon a da ni cael cynnig gigs ar gyfer flwyddyn nesaf yn barod.” Fydd hi’n anos i’r band gigio a dod at ei gilydd i recordio ac ati o hyn allan felly? Mae ‘na nifer o fandiau da iawn wedi’i chael hi’n anodd cynnal momentwm wrth i aelodau wasgaru i fynd i’r coleg ac ati. “Yn bendant fydd hi’n anoddach i ni ddod at ein gilydd ar ôl mis Medi ond da ni’n benderfynol o ddal ati” meddai Tomos. Dywed Sion “wel da ni di llwyddo ei wneud o gyda Tomos i ffwrdd ym Manceinion ers dwy flynedd hyd yn hyn felly does dim rheswm i’r momentwm stopio. Fydd rhaid i ni dderbyn bod ni ddim am gael gymaint o ymarferion a ballu dros y flwyddyn nesa a bydd rhaid i ni weithio’n galetach a derbyn pob cyfle sy’n cael ei gynnig i ni.” Mae’n swnio fel eu bod nhw’n benderfynol o gadw’r band gyda’i gilydd, a da o beth yw hynny gan na all y sin fforddio colli band sydd â photensial ac agwedd iach fel y Bandana. Cadwch olwg allan amdanyn nhw a’u sticeri yn y Steddfod! Bydd sengl Y Bandana, ‘Dal Dy Drwyn / Cân y Tân’, yn cael ei ryddhau ar 2 Awst ar label Copa.

NATH O JYST DOD O NUNLLA FEL RHYW SYPREIS BACH NEIS

GIGS ‘STEDDFOD Y BANDANA: DYDD MERCHER 4 AWST – LLWYFAN BWRDD YR IAITH GYMRAEG, 3PM NOS WENER 6 AWST – MAES-B DYDD SADWRN 7 AWST – LLWYFAN PERFFORMIO’R MAES, 6PM

6


hysbys 398 selar:395 13/05/2010 16:04 Page 1

ADDYSG AC AWYRGYLCH HEB EU HAIL • Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gael ar gyfer mynediad yn 2011 • Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru • Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuadd Gymraeg newydd yn agor ym Medi 2010 sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru • Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar • Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau newydd yn ogystal a bwrsari o £500 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg Mae’r cyrsiau a gynigir yn cynnwys: Addysg; Astudiaethau Crefyddol; Astudiaethau Plentyndod; Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau; Amaethyddiaeth a Choedwigaeth; Busnes; Cyfrifeg; Bioleg Môr; Cemeg; Cerddoriaeth; Cyfathrebu a’r Cyfryngau; Cyfrifiadureg; Cymdeithaseg; Cymraeg (Iaith a Llenyddiaeth); Daearyddiaeth; Dylunio a Thechnoleg; Dysgu Cynradd; Gwaith Cymdeithasol; Gweinyddu Busnes a Chymdeithasol; Gwyddorau’r Amgylchedd; Gwyddorau Biolegol; Gwyddor Chwaraeon; Hanes a Hanes Cymru; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Ieithoedd Modern; Marchnata; Nyrsio; Newyddiaduraeth; Polisi Cymdeithasol; Peirianneg Electronig; Saesneg; Seicoleg; Y Gyfraith; Y Gyfraith a’r Gymraeg; Ysgrifennu Creadigol.

Tel: 01248 382005 / 383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk

Elusen cofrestredig 702506

www.bangor.ac.uk

postera3land.indd 1

21/7/10 13:47:18

7


DAU I’W DILYN HYN O BRYD. DYMA DDAU AR AS MP GW O D YD W NE ID AC ARTISTA “MAE ‘NA LWYTH O FANDIAU LWG ARNYN NHW DROS Y GO DW GA I CH I US RO FF O’R RHAI MWYAF CY MISOEDD NESAF...”

Pwy: Mae Fan Alffresco yn fand ifanc o Wynedd – yn eu geiriau eu hunain maen nhw’n “chwech boi o ardal Gaernarfon, sy’n hoffi dod at ei gilydd i greu cerddoriaeth a ^ cal laff wrth neud o”. Drymiwr y grw p ydy Cai Llwyd, ar y gitâr fas mae Aled Emyr, Osian Hughes sy’n chwarae’r gitâr, mae Cai Jones yn chwarae’r corn, Morys Williams ar y sacsaffôn, ac yna’n olaf, Huw Ifan ^ ydy’r gw r ifanc sy’n rapio. “Da ni’n nabod ein gilydd trwy’r ysgol a trwy chwara rygbi efo’n gilydd. Un noson oeddan ni’n ista yn y dafarn a nathon ni benderfynu dechrau band.” Pam lai de! Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau’n fyfyrwyr yn Ysgol Syr Huw Owen, heblaw am Morys sydd yng Ngholeg

^ Y sw n: Mae’r band yn disgrifio eu cerddoriaeth yn “ffynclyd gydag elfen fach o hip-hop yn mynd ymlaen wrth bod Huw yn rapio tu ôl i’r riff bas cryf.” Ymysg eu dylanwadau mae Fan Alffresco yn rhestru enwau mor amrywiol â Brothers Johnson, Red Hot Chilli Peppers a’r Commodores. “Hefyd mae MC’s fel Del the Funky Homosapien a Dizzee Rascal yn rhoi syniadau i ni yngly^ n â sut i

sgwennu ac adrodd y raps.” Yn anffodus, ^ mae cymariaethau gyda grw p arall o ardal Caernarfon, Derwyddon Dr Gonzo, yn anochel ... ond, os rhywbeth, mae’r rhain yn swnio’n dipyn gwell nag oedd y Derwyddon pryd yr oedden nhw’n dal i fod yn yr ysgol. Mae ‘na dair cân fach dda ar eu MySpace nhw sy’n adlewyrchu elfennau o’r dylanwadau uchod, ond hefyd rhai o fandiau Cymraeg y 90au fel Hanner Pei. Mae rapio Huw hefyd yn atgoffa rhywun o fand bach da o Lanbed gynt o’r enw Java.

FAN ALFFRESCO

Meirion Dwyfor a Cai Jones sy’n Ysgol Brynrefail.

CHWECH BOI O ARDAL GAERNARFON, SY’N HOFFI DOD AT EI GILYDD I GREU CERDDORIAETH A CAL LAFF WRTH NEUD O.

YR ANGEN

8

yselar@live.co.uk

Pwy: Yr Angen ydy Jac Davies, sy’n chwarae’r gitâr ac yn canu; Jamie Price ar y gitâr flaen; David Williams yn chwarae’r drymiau ac yn llais cefndir; ac yn olaf Gareth Jones ar y gitâr fas. Ffurfiwyd Yr Angen yn 2007 wedi i Jac, Jamie a David benderfynu dechrau band “gan fod y tri ohonom ni wedi dechrau chwarae offerynnau”. Bu’r band yn chwarae’n offerynnol yn unig am gyfnod, gyda Jac a Jamie yn chwarae’r gitârs a David yn chwarae’r drymiau. Hyn oedd yr achos nes 2008 pan ymunodd Gareth ar y bas a dechreuodd Jac ganu. Ers hynny mae’r band wedi bod yn gigio’n ddwyieithog ledled De Cymru. Maen ^ nhw’n fyfyrwyr yn Ysgol Gyfun Gw yr yn Abertawe.

yn cael eu dylanwadu gan artistiaid gwahanol.” Jac ydy prif gyfansoddwr y band ac mae’n cael ei ddylanwadu gan fandiau fel y Stereophonics, Kings Of Leon, Arctic Monkeys, Joy Division, Black Rebel Motorcycle Club a Kasabian. Mae’r basydd Gareth ar y llaw arall yn ffan mawr o fandiau metal megis Iron Maiden a Children Of Bodom ond hefyd yn hoff o fandiau roc fel Muse a’r Foo Fighters. Mae Jamie yn hoffi cymysgedd o roc indî a metel ac mae’n debyg fod David “yn gwrando ar bron unrhyw beth o’r Arctic Monkeys i Rihanna!” Heb os mae’r traciau sydd ar eu MySpace nhw, ‘Gad Dy Wallt Lawr’ a ‘Nawr Mae Drosto’ yn arbennig yn ddwy glamp o gân.

^ ^ Y sw n: Meddai’r band am eu sw n ^ “ni’n credu bod sw n y band yn eitha’ amrywiol, mae elfennau roc, indî, pop, dixie a country yn dod mas yn ^ y caneuon. Mae’r sw n mor amrywiol oherwydd fod pob aelod o’r band

Hyd yn hyn: Moment fawr Yr Angen hyd yn hyn oedd dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru. Yr ‘hit’ a gipiodd y deitl iddyn nhw yn y rownd derfynol oedd ‘Nawr mae Drosto’ a ddisgrifiwyd


www.myspace.com/fanalffresco Hyd yn hyn: Fe wnaeth y band chwarae eu gig cyntaf mor bell yn ôl â Rhagfyr 2008...a hynny dan yr enw Maniffesto. Erbyn y diwrnod canlynol, roedden nhw wedi penderfynu newid eu henw i Fan Alffresco – ac mae hwnnw wedi sticio diolch byth. Mae’r band wedi gigio tipyn ers hynny, yn bennaf mewn llefydd fel y Morgan Lloyd a thafarn Yr Anglesey yng Nghaernarfon, ond ^ fe gawson nhw hefyd slot yng Ngw yl ^ Gardd Goll llynedd, yn ogystal â Gw yl Porthmadog. Maen nhw hefyd wedi cael cyfle i recordio sesiwn C2, Radio Cymru ac mae’r traciau i’w clywed ar eu tudalen MySpace nhw.

Cynlluniau: Mae Fan Alffresco wedi bod yn gymharol dawel yn ddiweddar gan bod yr aelodau i gyd yn gydwybodol, ac wedi bod yn brysur yn canolbwyntio ar eu harholiadau lefel A – chwarae ^ teg iddyn nhw wir, call iawn. Rw an fod yr arholiadau wedi dirwyn i ben, maen nhw’n gobeithio mentro i’r stiwdio er mwyn recordio a rhyddhau sengl yn y dyfodol agos, cyn mynd gam ymhellach a rhyddhau EP. Meddai’r sacsaffonydd, Morys, “rydan ni hefyd yn awyddus i ddechrau gigio unwaith eto ac os oes gan rywun ddiddordeb mewn rhoi gig i ni yna mae modd iddyn nhw gysylltu ar fanalffresco@hotmail.co.uk

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Hanner Pei, Derwyddon Dr Gonzo, Red Hot Chilli Peppers

www.myspace.com/532185717 gan Ian Cottrell fel “hit radio enfawr.... hit stadiwm enfawr”. Maen nhw wedi cael cryn sylw diolch i’r fuddugoliaeth a ^ chafodd y grw p eu gwahodd i berfformio ^ yng Ngw yl ymylol Penwythnos Mawr Radio 1 ym Mangor. “Fe wnaethom ni gwrdd â Chris Moyles a’i dîm yn y gig yn ogystal â Huw Stephens a Greg James.” Dechrau da i yrfa ddywedwn i! Cynlluniau: Mae eu llwyddiant ym Mrwydr y Bandiau wedi codi statws Yr Angen cryn dipyn, ac mae gan y band nifer o gigs wedi eu trefnu ar gyfer yr haf. “Mae sawl gig ‘da ni wedi trefnu yn ystod Gorffennaf ac Awst yn Abertawe a ledled De Cymru, yn cynnwys nos Wener y Steddfod ym Maes B gyda bandiau fel Gwibdaith Hen Frân ac Y Bandana.” Fel rhan o’u gwobr, mae’r band hefyd yn cael recordio sesiwn i C2 wrth gwrs, “ni’n barod i recordio ein sesiwn i C2 rhywbryd ym mis Gorffennaf a ni’n gobeithio recordio cwpl o draciau cryf iddyn nhw chwarae trwy’r haf.”

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Kings of Leon, U2, Stilletoes

9


Y BADELL

FFRIO

Barry Chips

Y BAND PERFFAITH Roedd gweld dyfodiad y stribed cartw^ n Planed Roc a’r band dychmygol Yr Oes wedi gwneud i rywun feddwl: beth petase’r hawl yn codi i bigo a dewis gwahanol rocars yr SRG – ddoe a heddiw – i ffurfio band ... pwy fyddai’n cael yr anrhydedd o ymaelodi efo’r Sglodion Peryglus? Rhaid dweud o’r dechrau’n deg, mi fyddai unrhyw ddwy o weithwyr diwyd y Fantasy Lounge yng Nghaerdydd yn darparu’r lleisiau cefndir. Sori fawr i’r ddwy yna sy’ wrthi efo Bryn Fôn, ond band fi ydi hwn a dwi’n dewis dawnswregedd polyn. Y canwr/ffrynt-man/messeia ar y meicroffôn – cystal canwr ag ydi Bryn Fôn, mae o’n colli marciau am fethu dawnsio. I’r gwrthwyneb, mae Ceri Anweledig yn ddawnsiwr-yn-ei-unfan tan gamp, a chodwr miri heb ei ail. Ond i fod yn onest, o ran un dyn rhyfadd yr olwg yn sefyll o flaen y dorf, mae hi braidd yn fain ar y Sîn Roc Gymraeg yntydi? Maen nhw’n dueddol o fod yn ddynion digon di-lun yn cuddio tu ôl i gitârs – y Cyrff, y Trwynau Coch, yr Anhrefn, Kentucky AFC. Neb wir yn  hoelio ein sylw...ac eto, wele Geraint Jarman. Synith neb i glywed ei fod o wedi hyfforddi i fod yn actor, ac mae o’n ticio’r blwch pretentious efo’i gyfrol o gerddi cachu. Mae angen boi dwys a dychanol i sgwennu’r geiriau, a chei di ddim gwell na ‘Bourgoise roc’. Mae o’n dal hefyd, felly mi wneith o ddal sylw’r bobol yn y cefn. Bonws. Y gitâr flaen – mae ffretwaith Titch Gwilym ar ‘Dal dy dir’ a ‘Nos da Saunders’ yn ddi-fai, a llyfiadau chwaethus Meilyr Gwynedd ar allbwn y Big Leaves yn dal i ragori ar bron bopeth yn y canon Cymraeg ... ac eto, rwy’n cael fy nhynnu at Aaron Elias, a chyfnod Y Rei yn benodol. Mae’r ffync yn ei chwarae trwm, cyhyrog sy’n llawn o’r math o ddyfeisgarwch sy’n ffrwyth blynyddoedd o arbrofi ar ei ben ei hun. Ac mae’n ddyn golygus, sydd wastad yn help wrth geisio denu dilyniant. Bass – dwi’n credu’n gryf dylai pob band gael un aelod cegog sydd methu wir chwarae nodyn i safio’i fywyd. Rhys Mwyn ar y bass felly... Drymio – Dafydd Ieuan yn rhoi o’i orau ar ‘Guacamole’, ac mae Alex Moller yn haeddu parch am ei waith gydag Y Rei, ond y boi oedd yn taro’r bît efo Anweledig sy’n mynd â hi. Roedd o’n ffab, ond nid Ringo mohono.

10

www.y-selar.com

LANSIO SIOP GERDDORIAETH AR-LEIN Bydd rhai ohono chi ddarllenwyr sy’n prynu eich CD’s ar y we yn cofio gwefan www.sebon.co.uk oedd yn gwerthu pob math o CD’s Cymraeg. Daeth y wefan i ben llynedd yn anffodus...ond y newyddion da ydy fod gwefan newydd sbon, www. sadwrn.com, wedi ei lasio i gymryd ei lle! Mae dosbarthu CD’s yng Nghymru wastad yn mynd i fod yn gur pen i labeli bach, neu bandiau sy’n rhyddhau eu cerddoriaeth dros eu hunain...er enghraifft mae pobl Aberystwyth yn dal i ddisgwyl am albwm gwych Plant Duw, y Capel Hyfryd! Ydy, mae’r rhan fwyaf o fandiau Cymraeg wedi ymuno â’r oes ddigidol erbyn hyn ac mae modd lawr lwytho eu cerddoriaeth, dwi’n clywed chi’n dweud. Ond, nid pawb sy’n berchen ar I-pod, tra fod rhai yn hoffi pori trwy gloriau CD’s hefyd. Mae adnodd fel sadwrn.com yn hynod werthfawr i’r sin felly. Guto Brychan ydy perchennog y cwmni newydd, “Mi wnaeth cyfnod Sebon ddangos bod ‘na wir angen gwasanaeth fel hyn ar gyfer cerddoriaeth o Gymru, felly pan glywais fod sebon.co.uk yn dod i ben fe benderfynais fod angen parhau efo’r gwasanaeth” meddai. “Mae’r siop ar-lein yn bwysig am sawl rheswm; i fandiau newydd sy’n ffeindio fe’n anodd cael eu

cynnyrch mewn siopau ac i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.“ Os ydach chi angen diweddaru eich casgliad CD’s mae’n sicr yn werth taro draw i www.sadwrn.com gan fod 250 o artistiaid yn y bas data a dros 400 o CD’s Cymraeg i’w canfod yno! Y bonws arall yw nad oes unrhyw gostau cudd ar y wefan – y pris sy’n ymddangos wrth ochr y Cd ydy’r pris yr ydach chi’n ei dalu, does ‘na ddim pris cludiant ac ati – da! Mae Guto yn y broses o ehangu’r catalog ymhellach felly os ydach chi’n fand sydd â chynnyrch i’w werthu, cysylltwch â Sadwrn - post@ sadwrn.com

HANES HELBULON HOWARD Mae’n siw^ r fod y rhan fwyaf ohonoch chi wedi clywed yr enw Howard Marks, ond efallai nad ydach chi gyd yn gwybod ei hanes lliwgar. Yn wreiddiol o Fynydd Cynffig, daeth Marks yn adnabyddus fel un o brif smyglwyr cyffuriau’r byd, a ffeindiodd ei hun yn y carchar yn America bell am ei drafferth. Ers ei ryddhau ym 1995 mae ei anturiaethau wedi bod hyd yn oed yn fwy hynod! Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Mr Nice, a gwerthwyd miliynau o gopïau ledled y byd. Ers hynny mae wedi cyhoeddi tair cyfrol arall, yn cynnwys Senor Nice, yn adrodd ei helyntion wrth geisio profi cysylltiadau Cymreig Elvis, Billy the Kid a Bob Marley!


newyddion

DOLFFIN I JEN JENIRO...OND NID UN PINC NA MELYN

Colofn DJ y

f lwyddyn Nia Medi

MIS MANIC Newyddion da...mae eich DJ y flwyddyn chi, Nia Medi, wedi cytuno i fod yn golofnydd yma yn Y Selar! Yn ei cholofn gyntaf, mae Nia’n edrych nôl ar gyfnod bach prysur iddi yng ngwyliau’r haf...

yn Jenifer, yn y pendraw fe’i fedyddiwyd yn Denzil... ond gwrthodwyd caniatâd i baentio Denzil yn binc a melyn (gol – fyswn i’n meddwl hefyd!). Os nad ydy hynny’n ddigon, mae ‘na sypreis bach neis arall ar y sengl sef ailgymysgiad gan Llwybr Llaethog o’r gân ‘Hulusi’ sy’n ymddangos fel ‘ochr-B’. Gallwn ddatgelu hefyd fod Jen Jeniro wedi eu bwcio i wneud sesiwn 6 Music ar sioe Mark Riley – bydd y band yn gwneud y sesiwn yn fyw yn y stiwdio rhyw ben fis Medi.

Ond i chi sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg, mae’n siw^ r mai ei clêm ty ffêm mwyaf ydy’r gân a gyfansoddwyd amdano gan y Super Furry Animals, a’r cyfeillgarwch sydd wedi datblygu rhyngddo a’r band yn dilyn hynny. I’r rhai ohonoch chi sy’n rhy ddiog i ddarllen ei lyfrau eraill, mae cyfle i chi ddarllen crynodeb o’i hanes erbyn hyn yn y llyfr diweddara o’r gyfres ‘Stori Sydyn’. Y bonws ychwanegol ydy mai dyma’r cyfle cyntaf i ddarllen am ei brofiadau trwy gyfrwng iaith y nefoedd! Ac os nad ydy hynny’n ddigon, gallwch brynu copi o’r llyfr am lai na phris peint! Mae Cymru Howard Marks allan rw^ an, a gallwch fachu copi o siopau llyfrau Cymraeg neu o wefan Y Lolfa - www.ylolfa.com

Y BONWS YCHWANEGOL YDY MAI DYMA’R CYFLE CYNTAF I DDARLLEN AM EI BROFIADAU TRWY GYFRWNG IAITH Y NEFOEDD!

Byddwch chi’n cofio cyfweliad gyda Jen Jeniro yn rhifyn diwethaf Y Selar, a sôn eu bod nhw ar fin rhyddhau sengl newydd ‘Dolffin Pinc a Melyn’. Wel, o’r diwedd mae’r sengl wedi ei ryddhau ar label Sbrigyn Ymborth ac ar gael i’w lawrlwytho, neu i’w phrynu ar gasét arbennig i’r rhai ohono chi sy’n teimlo’n retro! Mae’r band hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi mabwysiadu dolffin i gyd-fynd â’r sengl newydd. Er gwaetha’r ffaith fod rhai rhengoedd o fewn y band eisiau galw’r dolffin

Wel am fis bishi! Es i lawr i w^ yl y Cenhedloedd Bychain ar Fferm Cil Y Cwm ‘chydig wythnosau yn ôl ac oedd e yn wych fel arfer. Dyma un o’n hoff wyliau cerddoriaeth i yng Nghymru oherwydd fod y lein-yp mor eclectig a’r naws mor hamddenol. Weles i bob math o fandie’ gwych, o electro i jazz i roc, gyda bandie’ fel Subsource (tase Pendulum yn priodi Prodigy – dyma fydde’r canlyniad!), Omega 66, Tokin4wa, Georgia Ruth Williams a hyd yn oed Mark Egea o Catalonia wnaeth chware offeryn mae e’ wedi’i greu o’r enw ‘The Hurdy Gurdy’!. Os chi’n rhydd blwyddyn nesaf – ewch draw i’r w^ yl yma – gewch chi amser cwbl wych. Bach o newyddion i chi, nes i gyhoeddi ar fy rhaglen llynedd fod Swci nôl! Fe gladdwyd Swci Boscawn llynedd, yna penderfynodd Mared Lenny i’w hatgyfodi hi, ac yn ei chyfweliad Facebook ‘chat’ cyntaf erioed, fe ges i ‘chydig o flas ar yr hyn sydd i ddod. Mae wedi recordio albwm a sengl newydd, ac yn newid cyfeiriad yn llwyr o ran steil a sw^ n. Naws mwy electroneg a phop fydd i’r albwm yma (hwre!), a Dave Wrench ac MC Mabon sydd wedi cynhyrchu.

O ran C2, ma gen i lot o bethe diddorol ar y gweill, erbyn i hwn fynd allan, mi fydd Llwybr Llaethog a band roc newydd o’r enw ‘Alien Square’ wedi neud sesiynau ar gyfer y rhaglen ac ma Rheinallt Ap Gwynedd yn mynd i fod yn westai. Rheinallt yw cyn gitarydd Natalie Imbruglia , chwaraewr Bas ‘Apollo 440, brawd Peredur o Pendulum, a gitarydd newydd KT Tunstall. Mae e’ nwydd orffen ei albwm newydd hi yn stiwdio ac yn mynd mas i America ar daith gyda hi wedi’r Haf! Dwi hefyd ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfres deledu o’r enw ‘Ysgol Roc’ sy’n brosiect cyffrous iawn fydd yn darganfod y band roc ifanc nesaf i goncro Cymru a thu hwnt. Wedi cwyno ers hydoedd nad oes digon o fandie roc ar y sin – ma’r prosiect yma wedi neud i mi deimlo’n lot gwell ynglyn â’r sefyllfa, ac wedi bod yn gyfle i weld cymaint o bobl ifanc talentog yn datblygu eu crefft – gwyliwch y gofod am hwn! Ar ôl mis prysura erioed yn gweithio ar y rhaglen hon, cyflwyno C2 a mynd i’r holl wylie ma, dwi’n meddwl mod i’n llawn haeddu’r gwylie’ dwi wedi bwcio ar gyfer yr wythnos ar ôl y ‘Steddfod – wythnos yn Amsterdam a thocynnau i fynd i weld Goldfrapp yng Nghlwb Paradiso yn y ddinas – GWYCH! Gallwch glywed sioe Nia Medi ar C2 Radio Cymru bob nos Iau a Gwener am 11pm.

11


12

myspace.com/gildas


cyfweliad: gildas

S R I A H C L A C I S U M , DUMBO

S A D L I AG

Albwm gyntaf Gildas, Nos Da, ydy offrwm diweddaraf label Sbrigyn Ymborth. Casia Wiliam aeth ar ran Y Selar i gwrdd â’r cerddor ei hun i ddarganfod mwy amdano a’r CD newydd. Tan yn ddiweddar, right-hand-man Al Lewis oedd Arwel Owen, ond bellach ymddengys ei bod hi’n amser iddo dorri cwys ei hun fel y Mynach o’r 6ed Ganrif... chwilfrydig? Wel, mi ddywedai’r hanes i gyd wrtho chi. Dewch yn nes. Ar noson wlyb iawn yn y mis Mehefin

anarferol o braf ‘da ni wedi gael, mi es i am dro dan fy ymbarél i holi Gildas am ei albwm gyntaf fel artist unigol sef Nos Da, sydd yn cael ei rhyddhau ar label Sbrigyn Ymborth yn y Steddfod eleni. CW: “Sud wyt ti Gildas, iawn?” Gildas: “Yndw diolch, dwi’n iawn sdi. Dwi’n chwarae pêl droed am naw.” “Yn y glaw?! Nytars ‘da chi. Reito, na’i ddechra holi. O lle y daeth yr enw Gildas? Dwi ‘rioed wedi glywad o o’r blaen.” “Wel, Mynach odd o, oedd yn byw yn y chweched ganrif. Nes i astudio tipyn arno fo yn y Coleg. Roedd o’n crwydro o gwmpas

ar ei ben ei hun ac yn ‘sgwennu am sut stad oedd ar Brydain ar ôl i’r Rhufeiniaid adael. O’n i’n meddwl ei fod o’n enw diarth ac unigryw ond mae’n troi allan bod na lwyth o Gildas yn Llydaw a Ffrainc!” “Fedrai’m meddwl am ddim un arall yng Nghymru felly ti’n saff am y tro. Wyt ti’n teimlo ryw berthynas neu affiniti efo’r Gildas ma ta? Fel dy fo’ ti yn myfyrio ar gyflwr Cymru heddiw?” “Na, ‘sw ni’m yn mynd mor bell a hynna! Ond dwi’n licio crwydro ar ben fy hun. Dwi wrth fy modd yn dreifio i ryw gig yn rwla hollol random ar fy mhen fy hun a

GEIRIAU: CASIA WILIAM LLUNIAU: BETSAN HAF EVANS

MAE ‘THEME TUNES’ ^ CARTWNS DA WASTAD YN AROS YNG NGHOF RHYWUN ...

13


14

DWI’N MEDDWL EI BOD HI’N EITHA ANODD WEITHIAU CAEL GIG SY’N ADDAS I’R MATH O GERDDORIAETH DWI’N EI GREU

gwrando ar gerddoriaeth yn y car ar y ffordd yna.” “Mmm dalld be sgin ti. Oeddat ti’n teimlo ei ^ bod hi’n amser i tithau dorri dy gw ys dy hun fel Gildas y Mynach?” “Wel, dwi dal yn aelod o fand Al, ond mae o’n brysur yn Llundain, a dw’inna yn fama felly dyma fi’n penderfynu trio gwneud rhywbeth yn y sîn yng Nghaerdydd. Hefyd ro’n i’n ddi-waith am flwyddyn felly nes i benderfynu bod rhaid i mi neud rwbath i ddangos mod i wedi acshli gwneud rwbath o gwbl yn ystod y flwyddyn...” “Ac roedd ‘Nos Da’ gen ti erbyn diwedd y flwyddyn honno felly?” “Oedd, mwy neu lai.” “Lle fuost di’n recordio ta?” “Yn Stiwdio ‘Music Box’ yng Nghaerdydd. ^ Mae’n siw r bod y cyfan wedi ei ’neud rhwng diwedd Haf 2009 a Ionawr 2010. Ac wedyn mae’r albwm yn cael ei rhyddhau ar label Sbrigyn Ymborth.” “Felly ‘o ni’n clwad. Cwl, cwl. Dwi wedi gwrando ar yr albwm tua 8 gwaith erbyn hyn ac yn mwynhau mwy a mwy bob tro wrth i’r caneuon ddod yn gyfarwydd. Wrth gyfansoddi, be sy’ bwysicaf i ti, y geiriau ta’r alaw?” “Nath Lenny Kravits ddeud unwaith – ‘A lot of people don’t listen to the lyrics, really’. A dwi meddwl bod hynna reit wir, oni’n meddwl mai ‘Eddie are you ok?’ odd Michael Jackson yn ganu ar Smooth Criminal nes oni tua 21, a mai ‘Feel the word’ oedd geiriau cytgan Band Aid 1984. ‘Sa well gen i gael alaw dda cyn geiriau bob tro – ond eto y geiriau sy’n deud y stori, ac mae pob cân dda angen stori.” “ Ha! Eddie! Felly dechrau efo’r alaw fyddi di’n ddi-ffael?” “Bob tro. Mae rhai o’r geiriau jesd yn lol, ond dwi’n eitha purist pan ma hi’n dod at gerddoriaeth, dwi’n licio cân dda. Dwi di trio defnyddio lot o delays weird, a gitârs trydanol ar yr albwm, a dwi’n defnyddio tiwning gwahanol i’r ‘standard tuning’, i drio creu ^ sw n gwahanol. Dwi’n defnyddio gitâr ‘fully exposed’ hefyd, ag yn defnyddio dipyn ar synths hefyd. Be dwi’n trio’i ddeud ydi mod i’n trio peidio bod yn ddiog efo’r cyfansoddi.” ^ “Ia, ‘o ni’n mynd i ddeud bod dy sw n di fatha ryw gyfuniad o gerddoriaeth werin a thrydanol. Ond dwyt ti ddim yn mynd â’r peth mor bell a dweud ... 9Bach. Dwi’n meddwl bod ‘na rwbath am dy ganeuon di i gyd sydd yn eitha hwyangerdd-aidd, fel hen ganeuon gwerin. Ti’n cytuno?” “O yn bendant. Pan ‘o ni’n dechrau chwarae gitâr roedd fy athro gitâr yn dangos lot o stwff gwerin Americanaidd i fi, ond dim y petha ‘main-stream’ fel Bob Dylan, ond yn hytrach pobl fel Chet Atkins, Doc Watson a Merl Travis. Dyna pryd nes i ddechrau gwerthfawrogi’r offeryn dwi’n meddwl, a mwynhau’r math yna o gerddoriaeth.” “Be ‘sa ti’n ddeud sy’n dy ysbrydoli di i gyfansoddi felly?” “Wel, ymmm, teimladau a phethau bob

^ dydd fel arfer, ond dwi hefyd yn hoffi cartw ns. Mae na symlrwydd yn perthyn iddyn nhw, ond storïau cryf a pherthnasol, a felly dwi’n hoffi ‘sgwennu caneuon. Mae ‘theme tunes’ ^ cartw ns da wastad yn aros yng nghof rhywun, a felly dwi’n trio cyfleu cerddoriaeth.” “Difyr! Mae clawr yr albwm yn gwneud mwy o sens rwan! Rhaid i mi gael gofyn...be ‘di ^ dy hoff gartw n, neu ffilm Disney di ta? Ma gin bawb ffefryn....” ^ “Cartw ns gore fi pan oni’n fach oedd y rhai lle oedd anifeiliaid neu deganau neu bethau

myspace.com/gildas

yn dod yn fyw ac yn cael personoliaeth, so petha fel Animals of Farthing Wood, Pobl Tre Sgidie, Jim Henson’s Secret Life of Toys. A Dumbo ydi fy hoff ffilm Disney. Mae’r soundtrack yn anhygoel a mae ‘na ddarnau hollol bizarre i’r ffilm ... fel pan mae Dumbo a’r llygoden yn meddwi.” “Ia, dwi’n cofio. Ro’ ni ofn yr olygfa yna pan ‘o ni’n hogan fach! Dwi’n licio’r syniad o ^ greu cerddoriaeth fel sydd mewn cartw ns a ffilmiau. Mae ‘na sawl cân ar yr albwm sy’n syml o ran geiriau ond yn crisialu rhyw


cyfweliad: gildas trac teitl sef ‘Nos Da’ ydi’n hoff gân i. Dwi’n ^ licio’r sw n o ran y cynhyrchu. Ma’i jesd wedi troi allan yn union fel o’n i wedi gobeithio.” “Felly oes gen ti ddisgwyliadau mawr am yr albwm ta?” “Na, ti’n gwbod be, sgen i ddim! Nes i ryw fath o ‘sgwennu hi i brofi i mi fy hun y medrwn i, felly mae’r ffaith ei bod hi wedi ei gorffen yn ddigon i fi! Felly na, dim disgwyliadau anferthol, dim pwysau.” “Be sy’ nesa i Gildas ta?” “Lot o gigio yr ha’ ma gobeithio, a wedyn pwy a wy^ r, ella ehangu i fod yn fand, Gildas and the ... rwbath!” “Wel, diolch am dy amser a dy sgwrs, well ti fynd i gicio gwynt cyn iddi dywyllu. A phob lwc efo’r albwm!” A dyna fu. Felly cadwch eich clustiau a’ch llygaid yn agored yr haf hwn am grwydryn a’i gitâr, a byddwch yn barod i gael eich swyno.

... ONI’N MEDDWL MAI ‘EDDIE ARE YOU OK?’ ODD MICHAEL JACKSON YN GANU AR SMOOTH CRIMINAL NES ONI TUA 21

ddelfryd neu deimlad. Rhyw ddiniweidrwydd yn perthyn iddyn nhw dwi’n meddwl.” “Am rwbath felna ‘o ni’n trio anelu. Melysrwydd plentyndod.” ^ “Rw an bod gen ti steil adnabyddus dy hun ac albwm ar fin cael ei rhyddhau, mi fydd gofyn am dipyn o gigio. Wyt ti’n mwynhau perfformio fel Gildas yn fwy na fel rhan o fand Al Lewis?” “Pan dwi’n cyfansoddi i Al ac yn perfformio efo’r band dwi’n rhan o’r ‘Al Lewis Vehicle’ fel petai, a dwi wastad yn mwynhau, ond mae ‘na rywbeth fwy boddhaol am berfformio ar fy mhen fy hun ma’n rhaid i mi gyfadda.” “Be oedd dy hoff gig di erioed ta?” “Y gig gorau erioed oedd Nyth@Gwdihw yng Nghaerdydd yn cefnogi Meic Stevens - arwr dwi ‘di cael y fraint o gydweithio gydag o (gol - mae ‘na cameo gan Meic ar albwm diwethaf Al Lewis). Odd na awyrgylch arbennig iawn yno y noson honno, y lle’n llawn dop, yr ystafell yn hudol dan oleuadau ac addurniadau rhyfeddol, Meic ‘on fform’, a phawb yno i werthfawrogi’r gerddoriaeth a chael sgwrs rhwng ffrindiau – fel y dylia hi fod ym mhob gig amwn i!” “Dwi’n cymryd nad wyt ti ddim yn teimlo bod bob gig felly?” “Dwi’n meddwl ei bod hi’n eitha anodd weithiau cael gig sy’n addas i’r math o gerddoriaeth dwi’n ei greu. Ma pobl yn mynd allan i gymdeithasu, felly yn aml iawn mae ^ na lot o sw n siarad o phobl ddim yn gwrnado. Ond fel ‘na ma’i, dwi’n euog fy hun o siarad mewn gigs. Yng Nghymru dwi’n meddwl bod angen cael cerddoriaeth mwy yp-bît neu mae’n anodd cael pobl i wrando.” “Ia, dwi’n dalld be sgin ti. Er enghraifft, ‘sa ti methu head-leinio yn Maes-B?” “Na, yn union.” “Ar y nodyn yna felly, ga’i ofyn be ‘di’r gig gwaethaf erioed i ti chwarae?” “Ymm, wel, efallai nad y gwaethaf, ond yn ddiweddar oni’n chwarae mewn tafarn arall yng Nghaerdydd, a hanner ffordd trwy’r set dyma na hogan fach yn gofyn yn gwrtais iawn i mi –‘Ti’n meindio stopio bob yn hyn a hyn i ni gael chwarae Musical Chairs?’ – a dyna fu. Stori wir.” “No we! Wel, oleia mi odda ti dal yn diddanu?! Os wyt ti’n cael llonydd i’w chwarae pa un ydi dy hoff gân di ar yr albwm, a pham?” “Ymm, masiwr basa raid i mi ddeud na’r

Mae albwm Gildas, Nos Da, allan ar label Sbrigyn Ymborth ddechrau mis Awst.

15


SESIWN FACH ...

SESIWN FAWR?

Gadawodd absenoldeb Sesiwn Fawr Dolgellau llynedd fwlch sylweddol yng nghalendr gwyliau Cymru. Braf felly oedd gweld criw bach yn ceisio adfywio’r w^ yl eleni i raddau ar ffurf y Sesiwn Fach. Gwilym Dwyfor fu yna ar ran Y Selar. Er bod y peth i’w ddisgwyl, roedd hi’n siom aruthrol darganfod nad oedd Sesiwn Fawr i fod y llynedd. Efallai mai ein bai ni, y pyntars, oedd hynny ond y gwir amdani yw bod rhaid i arlwy gerddorol unrhyw w^ yl gyfiawnhau pris y tocyn a dwi ddim yn rhy siwr bod Sesiwn Fawr wedi gwneud hynny ers i’r Super Furry Animals ymddangos yno yn

2005. Beth bynnag y rheswm am drafferthion y Sesiwn a’i diflaniad oddi ar y calendr y llynedd, roedd hi’n braf gweld ei chwaer fach hi’n ôl eleni. Efallai y byddai’r puryddion yn dadlau y dylai gw^ yl ddigwydd mewn cae, ond i mi, un o’r pethau gorau am y Sesiwn Fawr oedd y ffaith ei bod yn digwydd yng nghanol y dref. Roedd y tafarndai yn ferw gwyllt trwy gydol y penwythnos ac yn ychwanegu’n sylweddol at yr awyrgylch. (Wrth gwrs, dyna un o’r problemau hefyd, ond stori arall yw honno). Roedd yr un peth yn wir am y Sesiwn Fach, er nad i’r fath raddau

NÔL A MLÂN YN LLANGRANNOG

^ L A MLA^ N YN UN O WYLIAU IEUENGAF Y CALENDR DIGWYDDIADAU CERDDOROL, AC MAE GW^ YL NO HEB OS YN UN O’R RHAI MWYAF HAMDDENOL. HEFIN JONES FU YNO AR RAN Y SELAR... Haf 2005. Syniad sydyn o neidio i’r ceir a gyrru am Langrannog. Celc o gogs yn glanio’n annisgwyl yn y pentref bach ar arfordir Ceredigion, eu hanner rioed wedi gweld y lle, a’r hanner arall heb fod yno’n fwy nag am awr ar brynhawn tra’n ngwersyll yr Urdd yn 10 oed. A’r hyn oedd yn digwydd oedd gig Bob Delyn gyda neb llai na Mr Maes-E, Nic Dafis, yn trefnu. Noson hollol fythgofiadwy. Yn anffodus mi roddodd yr awdurdodau y farwol ar y math yna o rialtwch yn y Ship wedi i drigolyn clên gwyno i’r heddlu am y drymiau’n cael eu waldio am un y bora yng nghanol y pentref tra oedd eu perchennog, Rhydwen Mitchell, a gweddill y band yn ‘ymlacio’ y tu fewn. Och, gwae. Mi wnaethpwyd addewid y noson honno y byddai’n rhaid

16

symud i Langrannog rhyw ddydd. Meddiannu’r lle. Doedd dim tystiolaeth y byddai unrhyw un o’r trigolion yn croesawu’r fath fewnfudo ond dyna fo, roedd y penderfyniad, yr addewid, wedi ei wneud. Mae’r cloc yn tician. Erbyn 2009 roedd yr awdurdodau wedi hen anghofio / eu twyllo a bu i rai o gynorthwywyr Nic yn 2005, yn bennaf y bonheddwr Cynyr Ifan, ailgydio’n yr ysbryd a threfnu ei w^ yl Nôl a Mlân gyntaf. Ond at heddiw. Yn dilyn perfformiadau poblogaidd y trwbadwrs lleol Bois y Frenni, Bois y Fro, Burum ac ati, daeth Gwyneth Glyn i wenu ar yr haul ac yntau’n ôl. Yna daeth Adrift i fywiogi - band newydd llawn agwedd a phwrpas a throeon hynod fachog fyddai’n ffitio’n daclus ar boster gig Bob a

Plant Duw. Dylai’r rhain lwyddo. Plesiodd Them Lovely Boys a’u tiwns llawen a’u chwarae hyderus, set hollol ragorol gan Ail Symudiad, eu hadfywiad yn mynd o nerth i nerth gyda’r sw^ n hurt o fachog, a’r aelodau newydd brwd a thynn, yn llwyddiant ysgubol. Gyda dyfodiad Dewi Pws fe gaewyd y lôn (peidiwch dweud wrth y cyngor) yn llawn o bobl yn bownsio fyny a lawr i Hen Feic Peniffardding fy Nhaid, a dim ond llyffant fyddai wedi methu mwynhau’r fath beth i’r eithaf wrth i’r haul fachlud ar y gorwel llonydd glas. Ôl nodyn: pam pigo ar y llyffant druan Duw a w^ yr. Gai Toms orffennodd y dydd gyda set ragorol a pherffaith i’r lleoliad a’r diwrnod. Roedd rhywun yn sôn yn ddiweddar am rwyg de-gogledd pan


Lluniau: Ger Taid

wrth gwrs. Roedd digon o bobl o gwmpas i lenwi’r tafarndai ac roedd y sesiynau jamio oedd yn digwydd yma ac acw yn ddigon i’w cadw yno. Un o’r sesiynau hynny a lwyddodd i dynnu fy sylw i oddi ar fy mheint oedd sesiwn y ffidlwr, Billy Thompson. Ymlaen wedyn i’r clwb rygbi ar gyfer prif gig y nos Sadwrn. Efallai nad oedd lein-yp y gig honno’n gryf iawn ar bapur gan mai Cowbois Rhos Botwnog a Gai Toms oedd yr unig enwau mawr a oedd yn chwarae, ond roedd hi’n lein-yp ddigon derbyniol mewn gwirionedd gan gofio mai £6 yn unig oedd tocyn. Un o’r bandiau eraill oedd Madre Fuqueros a llwyddodd eu roc trwm hwy i ddeffro’r dorf cyn i’r Cowbois gymryd yr awenau. Mae’r band o Ly^ n wedi bod yn un o brif gefnogwyr y Sesiwn Fawr yn ei chyfnod anodd felly roedd hi’n addas iawn eu bod yn chwarae yn

Sesiwn Fach hefyd. Ystafell gymharol fechan sydd yn y clwb rygbi ond roedd hi wedi llenwi’n braf erbyn i’r Cowbois ddechrau a thrödd yn feniw bach reit dda wrth i’r dorf fynd yn wyllt i gyfeiliant eu tiwns sydd bellach yn glasuron. A dweud y gwir, ar lwyfan cyfle y clwb rygbi y digwyddodd rhai o setiau gorau’r Sesiwn Fawr ddiwethaf, felly doedd dim llawer o wahaniaeth yn hynny o beth! Mae Gai Toms yn hedleinio yn unrhyw le yn llwyddiant fel arfer, ond mae Gai Toms yn hedleinio ar nos Sadwrn ym Meirionnydd yn saff o blesio’r gynulleidfa, a wnaeth o ddim siomi. Dyma un arall o artistiaid ffyddlonaf y Sesiwn ac roedd hi’n ddigon hawdd gweld pam wrth i’r gynulleidfa ymateb yn dda, yn enwedig i ‘Clwb y Tylluanod’ tuag at ddiwedd y noson. Daeth y diwedd hwnnw yn llawer rhy fuan, yn enwedig gan ystyried

nad oedd llawer o’r rhai oedd wedi teithio’n eithaf pell i Ddolgellau am aros ar gyfer arlwy’r nos Sul. Efallai y byddai nos Wener a nos Sadwrn wedi gweithio’n well? Dwi ddim yn gwybod digon am wleidyddiaeth y Sesiwn Fawr i ddechrau malu cachu am beth aeth o’i le a beth ddylai ddigwydd i adfer yr ^ w yl i’w chyn ogoniant, ond dwi’n siwr nad oedd gwario

miloedd ar artistiaid “enwog” o bellafoedd byd yn helpu’r achos. Ta waeth, un peth dwi yn ei wybod ar ôl eleni ydi bod angen rhywbeth yn Nolgellau ar y penwythnos hwn ym mis Gorffennaf, boed hi’n Sesiwn Fawr neu’n Sesiwn Fach. Yn bersonol, fe hoffwn ei gweld hi yn ôl yn w^ yl eithaf o faint yng nghanol y dref, ond os na fydd hynny’n bosib, hir oes i’r Sesiwn Fach!

Lluniau: Gwennan Schiavone

mae hi’n dod at boblogrwydd Gai Toms, ond mae’r ymateb gafodd yma’n profi mai rhwyg Caerdydd-gweddill y wlad yw hwn os oes rhwyg o gwbl. Gai fyddai’r cyntaf i sylwi a derbyn nad Caerdydd yw lleoliad mwyaf rheolaidd ei gigs, ac os yw rhai’n Canton yn methu gwerthfawrogi’r fath ganeuon yn llawn eu problem nhw yw hynny oherwydd mae’r cyfansoddi gorchfygol yn cyrraedd ei binacl

ar nosweithiau fel hyn i Gai a’i grŵp. Mae’n drysor cenedlaethol hefo llond stôr o ganeuon cyflawn cofiadwy. Gwyliau bach fel hyn, fel Beddllwynog, fel Gw^ yl Gwydir, fel y Gw^ yliau Coll, y gwyliau sy’n anelu at gynnal diwrnod da o gerddoriaeth er mwyn y gerddoriaeth i’r ardal, y gwyliau sy’n cael llonydd gan yr awdurdodau drwy beidio tyfu’n rhy fawr a gorfod talu am hyn a’r

llall, codi crocbris am fynediad, llwyfannu ‘enwau mawr’ er mwyn denu arian y miloedd, y rhain sy’n cyfoethogi’r haf go iawn. Nid felly y rhai sy’n cael £250,000 i lwyfannu has-bins gwaethaf indî Saesneg y 90au a sêr byd enwog opera i roi Cymru ‘ar y map’! Erbyn meddwl, anwybyddwch yr oll dwi wedi ddweud, peidiwch â mynd i w^ yl Nôl a Mlân Llangrannog 2011. ‘Doedd ‘na

ddim awyrennau RAF yn dangos eu hunain fel ym Mhenyberth yn ddiweddar. ‘Doedd ‘na neb yn dyblu eu prisiau cwrw a bwyd. ‘Doedd ‘na ddim chart-toppers yn canu senglau di-ddim allan o diwn i filoedd sy’n sgrechian cymeradwyaeth ffals torfol fel defaid. Doedd na ddim superstar DJs. Doedd na ddim grwpiau’n perfformio i gaeau anferth gwag tan 9 y nos. Doedd y Fyddin ddim yno’n dosbarthu hetiau a chwarae fo’u tois. Da i ddim byd. Wast o amser. Pa fath o “w^ yl” gachu ydi hwn? Felly peidiwch trafferthu dod yma i sylweddoli ystyr yr enw. Yr unig beth oedd yna oedd ryw 200 o bobl yn llwyr a hamddenol fwynhau diwrnod o sw^ n rhagorol gan fandiau da, diffuant rhwng dwy dafarn ger y môr yn un o’r llefydd harddaf ar y ddaear. Pwy gofia hynny?

17


^

’ GEIRIAU SY’N GYRRU R GAN? A47-DIM Ym more bach y mileniwm Naeth rhywbeth jyst stopio bod, O’dd y ‘myd bach i wyneb i waered O’n i ddim lle o’n i i fod Dwi’n gwbod fod yr hewl ma’n hir Ma’n galw arna i A tra fod y ‘myd i’n gul Ma’n cau amdana i Dwi’n gwbod fod yr hewl ma’n hir Ma’n galw arna i A ‘ma rhaid ‘ma rhaid i fi... Clatsh! Bang! bant a fi Lan yr A47(dim) dime’n y mhoced i Nid Fflur Dafydd ydy’r cerddor Cymraeg cyntaf i gyfansoddi cân i ddathlu rhinweddau arbennig yr A470. Mae siwrneion epig ar y brif ffordd sy’n cysylltu De a Gogledd Cymru wedi bod yn ysbrydoliaeth i Iwcs a Doyle a Geraint Løvgreen, ac eraill mae’n siw^ r. Ond ymdrech Fflur sydd wedi bod yn boblogaidd ar y tonfeddi ers lansio ei thrydedd albwm, Byd Bach, rai misoedd yn ôl. Dyma Fflur i egluro cefndir y gân felly: Ma’r gân yma yn olrhain y cyfnod bisâr yn fy mywyd i pan ‘nes i ei heglu hi i’r gogledd un bore heb syniad yn y byd lle fyddwn i’n byw, gyda phwy, nac am ba hyd. O’n i’n byw allan o ‘nghar am gyfnod, o’n i heb glincen yn fy mhoced, ac yn nabod neb. Dyna pryd nes i ddechrau ateb hysbysebion digon diniwed yr olwg am lojers, a chanfod fy hun yn byw gyda dwy fenyw wallgof - un oedd yn sgrechian lawr y ffôn yn ddyddiol arna i am ddim rheswm, ac un arall a oedd am i fi ddatblygu cyfeillgarwch gyda’i gwyddau! Uchafbwynt y gwallgofrwydd oedd ffeindio’n hun ar ben Mynydd Llandygai, yn y tywyllwch, gyda gwyddau yn rhedeg ar fy ôl o gwmpas y clos! Mae’r ‘clatsh/bang’ yn symboleiddio’r

18

cyfnod hwnnw i mi i’r dim, swn merch ofnus yn rhedeg bant wrth sefyllfaoedd gwallgof trwy neidio mewn i’r car - gan ddiolch i’r nefoedd am yr hewl o’i blaen, er mwyn cael dianc! O’n i wastad yn gyrru nôl lawr i’r de - ond wedyn roedd rhywbeth wastad yn fy nhynnu nôl, a dwi’n dal i weld eisiau gwallgofrwydd Gogledd Cymru ...

yselar@live.co.uk

^

Nes i lanio ar ynys lon Mewn bwthyn ar y filltir aur Oedd e’n eiddo i fenyw ‘renw Danuta O’dd hi’n bygwth sticio ‘mhen yn y pair Ac er fod Mona Mona wir wrth fy modd O’dd Danuta Danuta yn gyrru fi o ‘ngo’ A tra bod Mona Mona wir wrth fy modd Ma’n rhaid i fi fynd nôl... A Clatsh! Bang! bant a fi Lawr yr A47(dim) mynedd ar ôl da fi Ac yn y diwedd des i nôl a des i stop Ar fynydd llawen Llandygai O’n i’n cloi y gwyddau yn y cwt bob nos Ond doedd y drws ‘na jyst fyth ynghau Ac er bod y mynydd cry’ Yn nefoedd i mi Wel oedd y gwyddau’n dod, yn dod amdana i Ac er bod y mynydd cry’ yn nefoedd i mi O’dd rhaid o’dd rhaid i fi... Clatsh! Bang! bant a fi Lawr yr A47dim dime’n y mhoced i Clatsh! Bang! bant a fi Lawr yr A47 dim mynedd ar ôl da fi Tra fod popeth yn y byd mawr crwn yn dymchwel o ‘nghwmpas i Dwi’n gyrru lan a lawr yr un hewl...


Yr ŵyl amgen Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Steddfod 2010

Clwb Rygbi Glyn Ebwy Mwynha hwyl gŵyl amgen Cymdeithas yr Iaith mewn awyrgylch agos atat yn y clwb rygbi lleol, llai na hanner milltir o’r Maes. Dim ond lle i 150 felly archeba dy docyn yn sydyn! Bwyd a chroeso cynnes ar gael drwy’r dydd.

Sadwrn 31 Gorffennaf Parti Lawnsio £5 Y Betti Galŵs / John Grindell a Becca White Hufen Iâ Poeth / Pop Budur Sul 1 Awst Cwis y Ddau Huw £4 Huw Stephens / Huw Evans / DJs Llun 2 Awst Geiriau Protest £8 Dafydd Iwan / Gai Toms / Just Like Frank / Jibincs Mawrth 3 Awst Y Babell Wên £4 Noson Stand-yp dan ofal Elidir Jones Noel James / Gez Couch Iestyn Jones / DJ Hefin Jones a gwesteion arbennig o’r byd llenyddol Mercher 4 Awst Troelli a Delweddu £6 ar y cyd â Pictiwrs yn y Pyb Yucatan / PSI / Matta / Cymdeithas y Rhyfeddod Iau 5 Awst Carchar Dros Iaith £8 Jen Jeniro / Heather Jones Y Cyfoes / DJs Potter a Lugg Lawnsio prosiect i ganfod a chofnodi pawb sydd wedi bod i garchar dros yr iaith

Gwener 6 Awst £8 Meic Stevens / Huw M / Adrift / Ryan Kift Sadwrn 7 Awst £8 Bob Delyn / Twmffat / Candelas / Gildas / DJ Swci

Gyda’r dydd ar y maes Mercher 4 Awst 3yh, uned y Gymdeithas Protest – y Llywodraeth yn ffrwyno’r Gymraeg Iau 5 Awst 3yh, Pabell y Cymdeithasau 2 Cyfarfod – Addysg Gyflawn Gymraeg: Cyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad Siaradwr Gwadd: Leighton Andrews AC Gwener 6 Awst 3yh, Pabell y Cymdeithasau 2 Cyfarfod – Cyfryngau Cymunedol Cymraeg Siaradwyr: Rhodri Williams (Ofcom), Rhodri Ap Dyfrig, Geraint Davies

cymdeithas.org

Gair i Gell: atgofion carchar Osian Jones a Ffred Ffransis

bbc.co.uk/c2 Facebook: C2 BBC Radio Cymru

19


. . . l r e p pump

CHIPS

GORKY’S ZYGOTIC MONKEY TATAY Dyma’r band Cymraeg cynta’ i chwythu fy sgert a chodi blys am dipyn o Sîn Roc Gymraeg. Roeddwn i wedi clocio ‘Diamonds o Monte Carlo’ ar S4C a sioe Hwyrach Daniel Glyn ar y radio, ond doeddwn i ddim yn prynu dim miwsig adeg yna, jesd yn recordio albyms pobol posh ar dâp. Ond erbyn 1994 roeddwn i’n plygu metal meddal yn garabinas dringo - “Barry Bendar” ar lawr y ffatri wah - ac yn gwneud pres da. Felly mi brynish Tatay a chael modd i fyw. Cyfareddol oedd y Gorky’s yma, yn

20

DYMA’R BAND CYMRAEG CYNTA’ I CHWYTHU FY SGERT A CHODI BLYS AM DIPYN O SÎN ROC GYMRAEG

swnio fel tylwyth teg un funud, ac fel dyn ar drip madarch hunllefus wedi’i gloi mewn arch a’i gladdu’n fyw y funud nesa’. Dwi’n cofio baglu ar alluoedd yr albwm fel shag-fachun yn y Cnapan efo MowthWelian un tro... - Shwti bachan byti byti sbo sbo ife? - Sori del, o Ddeiniolen dwi ia. - Yffach gols ma’r Gorky’s yn wadan byti sbo sbo? - Oh, y Gorky’s. Dwi wrth fy modd efo ‘Anna Apera’... - Oh there’s lovely, bachan thenthytuf o’r gogledd...cer i ôl drinc i fi, gloi!

YR ALBWM YMA YDY’R ORAU ERIOED, YR UN FEDRA I CHWARAE YN FY MHEN O’R DECHRAU I’R DIWEDD HEB FETHU CURIAD.

Barry

DADDY NEU CHIPS? DYNA’R CWESTIWN DWYS A OFYNNWYD AR HYSBYSEB RHYW WNEUTHURWYR SGLODION O’R RHEWGELL RAI BLYNYDDOEDD YN ÔL, AC ATEB Y MWYAFRIF O BLANT FYDDAI ‘CHIPS’ MAE’N SIWR. EIN HOFF FATH O CHIPS NI YMA YN RHENGOEDD Y SELAR HEB OS YDY BARRY CHIPS... COLOFNYDD HOFFUS Y CYLCHGRAWN HWN A FFRYNTMAN GWYCH Y BAND SHANI FLEWOG ‘SLAWER DYDD – PWY ALL ANGHOFIO EU GEIRIAU COFIADWY EU CANEUON MEGIS “SGINTI SHANI FLEWOG YN CUDDIAD O DAN DY FFEDOG? FYSWN I DDIM YN GOFYN, HEBLAW BO FI ERIOED WEDI GWELD UN...”. ATHRYLITH HEB OS, A DYMA’I BUMP PERL:

STEVE EAVES A’I DRIAWD – CROENDENAU Albwm synhwyrus, secsi efo digon o gydwybod i roi celpan i’r hen sglyfath cyfalafiaeth yna. Copi ar dâp wedi ei fenthyg ers rhyw ddeng mlynadd sydd gen i, ac mae’n gwmni gwerth chweil ar gyfer teithiau myfyrgar yn y car. Ar ’10,000 folt trydan’ mae prif gyfieithydd-gyfansoddwr Rhiwlas yn canu am fy math i o ddynas, sy’n “methu cyd-dynnu efo pobol eri’ll” (angen ei hachub) ac sy’n dirmygu pobol faterol “yn poeni am y llog yn y bancia’” (rhad i’w chadw). A gorau oll, “mae ei chwant fel peilon 10,000 folt trydan.” (mae hi reit boeth yn gwely).

Mae ‘Hanner can milltir wedi hanner nos’ yn hiraethu am felys foment sydd wedi hen basio, a ‘Noson arall efo’r drymiwr’ a ‘Dau gariad ail-law’ yn atgoffa fi o’r holl bobol yna sy’n g’neud tro efo’i gilydd am bo nhw angen mwytho cnawd. ‘Sanctaidd i mi’ ydi fy hoff gân yn y byd i gyd yn grwn. Codi iâs efo alaw fendigedig a gwirioneddau gogoneddus o syml fel “Tad a mab neu ddau gariad law yn llaw/ Ma’ pawb angen cyffwrdd rhywun yn y pen draw.” Hwnna ydio...


pumpperl: barry chips QUEEN - GREATEST HITS Faint o bacedi crisps nes i ddymchwel wrth orwedd ar soffa dyllog yn nhwlc fy mam yn gwrando’n freuddwydiol ar Freddie a’i fombast homoerotaidd? Dyro hi fel hyn, yn 13 oed fi oedd yr unig un yn r’ysgol oedd yn medru canu ‘Bohemian Rhapsody’ air am air - a hynny cyn y busnes Wayne’s World yna cofiwch, pan oedd pawb a’i wraig yn licio Queen. Yr albwm yma ydi’r orau erioed, yr un fedra i chwarae yn fy mhen o’r dechrau i’r diwedd heb fethu curiad. Fyswn i’n gwneud unrhyw beth, UNRHYW BETH, i gael Freddie Mercury nôl ar dir y byw. A wna’i fyth faddau i dad am ddod i ty a newid y bocs i raglen David Fflipin Attenborough ar ganol Cyngerdd Aids Cofio Freddie yn Wembley. -   Welis di Axl Rose yn canu efo Elton John neithiwr? -   Naddo, oedd Dad isho gwatchad Pandas ...  

BOB DELYN A’R EBILLION – GEDON Welish i fand Twm Morys yn yr Octagon ym Mangor, a’r Prifardd yn eistedd lawr efo telyn rhwng ei goesau...trafferth mewn clwb nos. Ond er gwaetha’r caneuon Breton a’r brethyn Sain Ffagan, gesh i fy hoelio gan ‘Poeni Dim’ ^ a ‘Mil harddach wyt’. Maen nhw wedi perffeithio’r wal o sw n yna sydd mor hoff gan Phil Spectol. Wedi mynd i weld y dyn gwyllt Meic Stevens oeddwn i yn yr Oci, a wnaeth o’m siomi. Yr unig dro i mi ei weld yn chwarae gitâr drydan, ac roedd y boi yn llesmeiriol - mi faswn i’n taeru fy mod yn clywed o leia’ tair gitâr, cymaint oedd dawn plycio’r corrach rhyfedd efo’r cynffon ceffyl yn sownd i gefn ei het. Ond hanner ffordd drwyddi dyma Meic yn myllio efo’r dyn sain, gan weiddi “You’ll never work in this place again” a thaflu ei gitâr ar draws y dawnslawr – a sôn am dorf yn agor fel y môr coch i osgoi’r saeth chwe tant.

ELECTRIC SIX - FIRE Cyfuniad Olympaidd o AC/DC ag Abba, efo campweithiau grymus a gwallgof fel ‘Nuclear War (on the dance floor)’ ag ‘I’m the Bomb.’ Mae ‘Gay Bar’ a ‘Danger! High Voltage’ yn glasuron mewn partis priodas wrth gwrs, ond mae’r albwm gyfan yn un sosej fowr flasus sy’n delweddu ecstasi’r dawnslawr fel rhyfel tanllyd ffrwydrol. Electric Six cyn mynd allan ar y lash, wedyn On How Life Is Macy Gray i ddadebru ar ôl dod adra, t’mo? Mae albwm gynta’ Macy yn haeddu cael mensh ar yr un gwynt â Songs In The Key Of Life Stevie Wonder. Cyfaddefiad - gesh i dipyn bach o sgid hwch wrth fethu troad yn Carno ar fy ffordd adra o’r twll cachu a elwir yn Gaerdydd untro, a blastio Electric Six dros y Canolbarth oedd y bai ... roeddwn i’n teimlo mor euog fod arian Sbrec wedi sbydu ar drwsio’r Fectra, nes i mi weld nhw’n taflu pres ar Tipit dyna beth oedd balm ar gydwybod trymlwythog.

21


adolygiadau ENLLI - YUCATAN Fel yr awgryma’r enw, dyma EP y dylanwadwyd arni gan Ynys Enlli ac mae hynny i’w glywed yn amlwg yn naws hudolus, ramantaidd y gerddoriaeth. Yn enwedig felly yn y trac cyntaf, ‘Cur’, ble mae’r synau’n adeiladu’n araf dros chwe munud i greu cyfanwaith hyfryd. Mae’r tri thrac arall yr un mor dynn ac mae ôl gwaith ar yr holl beth. Pe bai rhaid imi fod yn feirniadol, mi ddywedwn fod y caneuon yn dueddol o swnio’n debyg i’w gilydd, ond does dim ots am hynny rhywsut gan ei fod yn eich helpu i ymgolli yn y gerddoriaeth am hanner awr gyfan. Gwerth nodi hefyd mai dyma gynnyrch cyntaf y label newydd Recordiau Coll, ac os yw Dilwyn Llwyd yn gweithio mor galed gyda’r label â’r hyn y mae’n ei wneud fel trefnydd gigs dylai dyfodol Recordiau Coll fod yn ddisglair iawn, yn enwedig os yw safon y cynhyrchu’n parhau mor uchel ag ar Enlli. Wrth gwrs, mae gweld Yucatan yn chwarae’n fyw yn brofiad arbennig, profiad gweledol sy’n llawer mwy na’r gerddoriaeth yn unig. Yn amlwg, dim ond y gerddoriaeth a gawn ar yr EP, ond mae’n hen ddigon i berswadio rhywun i dyrchu am y dent ac anelu am un o wyliau’r haf i weld y band unigryw yma’n chwarae’n fyw. 9/10 GWILYM DWYFOR

NOS DA - GILDAS Rhaid i mi gyfadda, er ‘mod i’n barsial i dwtch o Al Lewis bob hyn a hyn, ‘mor of ddy sêm’ ‘o ni’n ddisgwyl wrth i aelod o’i fand, Arwel Lloyd Owen, ryddhau albwm ei hun - OND mi fedrai ddweud a llaw ar fy nghalon bod Nos Da gan Gildas wedi fy siomi ar yr ochr ochra, a gwell i’r hen Al Lewis gadw llygad ar y meicroffon! Mae’r albwm yn cychwyn efo’r hudolus ‘Dal Fi Fyny’

22

DAL DY DRWYN / CÂN Y TÂN - Y BANDANA Does na’m digon o senglau Cymraeg ar hyn o bryd. Bu Ciwdod yn eu defnyddio i lansio bandiau ifanc, gyda chryn lwyddiant, ar un pryd ond mae hynny wedi dod i ben erbyn hyn. Pob canmoliaeth felly i Copa am gymryd pynt gyda sengl gyntaf band bach addawol. Mae geiriau cyntaf ‘Dal dy Drwyn’ yn dweud y cyfan am natur hwyl a sbri Y Bandana, “Sgen i be dwi’n ogla, o tu fewn ^ fy ffroena? Dwi’n siw r fod yr olga yna’n dod o chdi.” Maen nhw’n adrodd cyfrolau am stigma ieuenctid ac o bosib yr hunllef pennaf i fechgyn yn eu harddegau... sef yr hen broblem BO! “Ti’n methu cael genod, oherwydd dy ddrewdod...”, gallwch deimlo’r boen a’r embaras. Ond na

phoener fois, mae’r rhod yn troi - cawod bob dydd a rhywfaint o sbrê dan y ceseiliau a byddwch chi’n iawn. Fel mae’r datganiad i’r wasg yn ei ddweud, mae’r gân yn eich atgoffa rhywfaint o fand cyntaf Ywain Gwynedd, Yr Anhygoel, ond ychydig bach trymach o bosib. Lot o gitars a lot o agwedd. Mae’r ail gân ychydig yn ysgafnach ac efallai’n fwy cofiadwy o ran ei melodi. Mae Cân y Tân yn hafaidd neis ar gyfer y Steddfod gyda thinc o harmonïau Beach Boys-aidd tua’r diwedd. Dechrau da - mwy o hyn plîs! 7/10 OWAIN S

NI YW Y MORGRUG - Y MORGRUG “DYDA NI DDIM YN UNARDDEG! RYDA NI’N DDEUDDAG!” bloeddiodd Y Morgrug cyn dweud helo hyd yn oed - y frawddeg gyntaf iddynt ddatgan drwy feicroffon yn gyhoeddus erioed, yn eu gig cyntaf yn y Model Inn ^ ^ yng ngw yl Sw n Caerdydd 2009. Yr holl sôn am y band newydd ‘11 oed` yn amlwg wedi codi croen. A gyda C2, yn enwedig Huw Stephens, yn chwarae eu traciau ‘Moto Wei’ a ‘1-2-3-4-5’ y mis neu ddau cyn y gig mi oedd y lle o ^ dan ei sang, y si am y grw p wedi lledaenu’n wyllt. Does dim llawer o fandiau’n profi gig cyntaf o’r fath. Bydd rhai’n colli’r pwynt, yn ceisio nodi ‘anaeddfedrwydd` yr EP. Ond nid caneuon i’w rhoi drwy raglen awtotiwn i wal o effeithiau mo rhain. Mae’n union yr

sy’n gosod naws yr albwm i’r dim. Cerddoriaeth ysgafn, siriol, hafaidd a hoffus. Mae yna adlais hwiangerddol yn perthyn i ganeuon Gildas sy’n gwneud hon yn albwm berffaith i’w chwarae yn ystod y dyddiau hirion heulog. Dwi’n teimlo bod Gildas yn llwyddo i osgoi llithro i’r bocs ‘jesd cerddor acwstig Cymraeg arall’, drwy beidio â defnyddio’r ‘standard tuning’ ym mhob cân, ei ddefnydd o’r synth, ac yn gyffredinol

hyn y dylai fod - cofnod o agwedd Y Morgrug ^ rw an at fywyd a chreu. Pe bai’r gerddoriaeth yn berffaith raenus, yna fyddai’r cymeriad, eu personoliaeth, ac yn bwysicach teimlad eu hadeg, yn cael ei golli’n llwyr. Pe baent wedi disgwyl 5 mlynedd i ‘wella` ^ ni fyddent yr un grw p. Beth geir yw 5 cân o gymeriad ac agwedd foel, ansinigaidd, gonest at greu caneuon. Mae ‘Moto Wei’ yn wych ar bob lefel. A fel Pink Floyd a’r Beatles yn creu dan ddylanwad rhywbeth mwy na’u pen a’u pastwn mi sgwennodd Rhun y cyfansoddwr ‘Cur yn Pen’ tra’n dechrau colli ei bwyll ar ddechrau ffliw. Hir oes i’r Morgrug. 7/10 HEFIN JONES

drwy beidio â chymryd ei hun yn rhy siriys. Mi wn y bydd llawer yn barod i ddweud nad ydi’r albwm yn feiddgar nac yn torri tir newydd, ac ella bod hynny’n wir, ond mae’n albwm gwbl orffenedig, mae’r gerddoriaeth yn dynn, mae sglein ar y caneuon, ac mae’n prysur ddringo ysgol fy hoff albyms Cymraeg yn 2010. 8/10 CASIA WILIAM

DOLPHIN PINC A MELYN JEN JENIRO Stori am ddolffin unig yn disgyn mewn cariad yw sengl newydd yma. Mae’r hen ddolffin druan yn heneiddio ac yn penderfynu mudo i’r dyfroedd pell, ond wrth adael mae’n gweld dolffin pinc a melyn arall ac yn disgyn mewn cariad! A pha gefndir gwell i stori mor neis ond rhyfedd na cherddoriaeth seicadelig ^ Jen Jeniro! Mae yma sw n ryw fath o ffliwt yn rhedeg drwy’r gân ac yn swnio’n dda, a dwi’n edrych ymlaen at weld Eisteddfod yr Urdd yn rhoi ‘Dolphin Pinc a Melyn’ fel darn gosod i’r parti recorders dan ddeuddeg yn y dyfodol. Sôn am offerynnau chwyth rhyfedd, ’da chi’n cofio Hulusi o albwm ddiwethaf y band? Wel, mae hi’n ôl fel b-side ar y sengl yma wedi ei hail gymysgu gan neb llai na Llwybr Llaethog. ‘Dwn i’m amdanoch chi ond mae o’n gneud sens rhywsut dydi? Llwybr Llaethog a Jen Jeniro yn cyfuno a phan glywch chi’r trac yma mi fyddwch chi’n meddwl pam ddiawl wnaeth hyn ddim digwydd ynghynt! Mae’r sengl yma hefyd yn newyddion da i’r rhai ohonoch ^ chi fydd yn ymlwybro o un w yl i’r llall yr haf hwn mewn hen geir o’r 90au, achos mae Jen Jeniro’n rhyddhau’r sengl ar gasét hefyd! 8/10 GWILYM DWYFOR


Sain YR HAF

Sain 40

Yn fyw o bafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009 SAIN DVD096 - £12.99 - DVD

Perfformiadau gan Daniel Lloyd, Gwibdaith Hen Frân, Elin Fflur, Gai Toms, Dafydd Iwan, Meic Stevens, Huw Jones a llawer mwy…

Tomos Wyn a’r band Dacw’r Drws SAIN SCD2642 - £4.99 - EP

Canwr buddugol Cân i Gymru 2010 yn rhyddhau 4 trac newydd sbon a gyfansoddwyd gan Elfed Morgan Morris a Lowri Watcyn

Y Bandana Dal dy drwyn / Cân y Tân COPA LL011 - iTUNES YN UNIG

2 drac newydd gan y band ifanc egniol

Gwibdaith Hen Frân Llechan Wlyb RASAL CD032 - £9.99

Casgliad newydd sbon llawn hiwmor a direidi sy’n adrodd hynt a helynt cymeriadau unigryw cefn gwlad Cymru a straeon personol a doniol y pedwar aelod sy’n creu Gwibdaith Hen Frân

Huw M Os Mewn Swˆn GWYMON CD010 - £9.99

Gyda dylanwadau acwstig, ychydig o synau electronig, dipyn o fanjo, ukulele ac offerynnau gwych a gwallgof y sitar a’r Maui Xaphoon, cewch glywed cymysgedd o ganeuon gwreiddiol ac ambell i gân draddodiadol ar Os Mewn Sw ˆn

Richard James We Went Riding GWYMON CD009 - £9.99

Ar adegau mae’r campwaith hwn yn aflafar, seicadelig a chyffrous, ac ar adegau eraill yn addfwyn a gwerinol gydag elfennau o ganu gwlad. Yn sicr mae We Went Riding yn gyfanwaith crefftus

Meic Stevens Love Songs SAIN SCD2571 - £12.98

Casgliad o ganeuon serch Saesneg a gyfansoddwyd gan Meic yn y 60au cynnar – recordiwyd y cyfan yn stiwdio Sain gyda’r band dros y 3 mlynedd ddiwethaf

Hergest Y Llyfr Coch SAIN SCD2630 - £12.98 - CD DWBL

Casgliad o 39 o ganeuon sy’n cynnwys y clasuron Niwl ar Fryniau Dyfed, 20 mlynedd yn ôl, Dyddiau Da a mwy…

POST YN RHAD AC AM DDIM WRTH ARCHEBU DRWY WWW.SAINWALES.COM Nwyddau newydd i blant… Cyw CD CANEUON ABC DVD Sali Mali DVD ANIMEIDDIO Sam Tân DVD Mae holl gynnyrch Sain, Rasal, Gwymon a Copa ar gael i’w lawrlwytho ar iTunes – yn draciau unigol 79c neu’n gasgliadau llawn £7.99

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 sain@sainwales.com


Y Selar - Awst 2010  

Cylchgrawn yn trin a thafod y sin roc Gymraeg

Advertisement