Y Selar - Mehefin 09

Page 1

RRHIFYN RH IIFFYN Y 118 8 . ME M MEHEFIN EHE H FIN IN . 20 2009 009 9

y Selar

AM DDIM

GWYLIAU’R HAF MR HUW

HUWM templateyselar.indd 1

CLINIGOL SIOPAU RECORDIAU ANNIBYNNOL ...A LLAWER MWY!

20/5/09 09:31:33


templateyselar.indd 2

20/5/09 09:32:06


L O D D Y G GOLY

MR HUW

ynci, ygotic M orky’s Z tad yn G y g o enw was Ac ma’i u geiriau achau I gyfieith n ddiwrnod braf. un yn cael eu b r i’ w h y i e h d r mae g o’r S la wel ty raf pan sgleinio haul yn b d d d o y n w r e r ddiw opi n y bydd y aul wog ar g sicrhau rh y im bach ble d d d fo i n r Allwn ni’n sic a d d h chi’n n c yn tydi. o w n allan, n fydd a tu p u d n y lchgraw n w y tyw nau’r cy eich by n r a le a u d n u n d yn tywy nu trwy u pawen mwynha o’ch hoff yn hwn if h o r hwn. r i’ el, mwy w fath raeg ... w enw’r ma o ry e m y th C a th ‘n ff Mae l. Ho doriae wn cerd a’n n meddw gylchgra na thema erby ’. Ma’r cloriau m oed g w y lw u d a hy n enw am n o bryd ydy ‘H Huw M, , w y h u Huw h r a r r id - m Sela radio ... o Huwia duw’r tonfeddi p o d n w d lla an d bach g di cyfrania i gyhoed s. d wedi e d fy o e b Stephen h i n e yn hw olygu ae’r rhif d, sy’n g hynny m rd , U th r e y a Ta w ddfod ac yn ryd i ‘Ste r gwyliau’r haf, gwyliau mewn p o ’r m o d ty a tholia chrau hi’n dde m ni dde chu eleni. Mae ‘n di’n y n n e g e id y a n n y m w m e th o be hi eu ’ch m l y dyle c efyd, felly bwrw yn darllen y ro o d rd ce ll h ser stwff ara ffu rhagor o am wyta’r wy cyn lwythi o a ir b tr ll s e a i w n g na ofiwch, h c a hytrach . .. ast ‘ma siarad w y! w ei ddod

12

HUW M

OWAIN S

4

CLINIGOL

Golygydd Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

Dylunydd Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

MARCHNATA

18

Ellen Davies (hysbysebionyselar@googlemail.com)

8 DAU I’W DILYN

Cyfranwyr Huw Stephens, Emyr Glyn Williams, Ian Cottrell, Toni Schiavone, Dewi Snelson, Aled Ifan, Lowri Johnston, Hefin Jones, Leusa Fflur, Lisa Gwilym, Mari Løvgreen, Gwilym Morus

y Selar RHIFYN 18 . MEHEFIN . 2009

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3 templateyselar.indd 3

20/5/09 10:06:20


MR HUW,

, W U H R M MA NHW’N DEUD DY FOD TI’N FYW ... ac wedi recordio albwm newydd. Ydy wir, mae’r gwir amharchus mr huw, neu Huw Owen gynt o Kentucky AFC a’r Cacan Wy Experience, wedi rhyddhau ei ail albwm stiwdio, Hud a Llefrith. Fel ei gynnig cyntaf, Llond Lle o Hwrs a Lladron, mae’r albwm newydd yr un mor ffraeth ac yn llawn hiwmor tywyll. Aeth Y Selar i gwrdd â Huw ... Rhyddhawyd Llond Lle o Hwrs a Lladron yn swyddogol yn haf 2007. Dwi’n deud ‘swyddogol’ gan fod fersiwn bras o’r albwm, a recordiwyd yn ei gartref gan Huw ei hun, wedi bod yn hofran o gwmpas ers peth amser cyn i Rasal/Copa gymryd y prosiect ymlaen yn fasnachol. Efallai fod hyn yn enghraifft arall o bersonoliaeth anghonfensiynol Huw Owen, oherwydd gellid dweud heb amheuaeth fod ei gerddoriaeth yn wahanol iawn i unrhyw beth arall a geir o fewn y sin Gymraeg ar hyn o bryd … ac efallai gwahanol i unrhyw beth a gafwyd erioed. Felly, wrth i’r ail albwm gyrraedd y siopau, i ba raddau mae cerddoriaeth mr huw wedi datblygu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf? “Mae o wedi

MA NA GYMAINT O GACHU A CHELWYDD YN DOD ALLAN O GEGAU RHAI POBOL MAE O’N ANHYGOEL.

4

^ newid o ran sw n yn bendant.” meddai Huw, “Ond o ran fy agwedd tuag ata fo, di hynna ddim wedi newid o gwbwl. Dwi dal i recordio yn yr un ffordd jyst bod gennai fwy o deganau i recordio â nhw erbyn hyn. Odd ‘Llond lle...’ ddim wedi ei recordio efo neud albwm mewn golwg. Dwi jyst yn hoff iawn o recordio cerddoriaeth. Digwydd bod o’n i wedi casglu digon o ganeuon a ges i gynnig eu rhyddhau ar ffurf albwm, neu ‘casgliad o ganeuon gan yr un person’ fel dwi’n licio meddwl amdano fo.” Mae Huw yn rhoi’r argraff mae trwy ddamwain y gwnaeth o ryddhau ei albwm cyntaf, ond does dim byd yn ddamweiniol am ei gyfansoddi - dyma gerddor sy’n amlwg wedi gweithio’n galed ar ei grefft ac erbyn hyn wedi darganfod ei niche. “Dwi’n ffan o recordio mewn ffordd eitha amrwd, dwi’m yn un sy’n licio petha efo gormod o sglein arnynt. Mae cael y band tu ôl i fi wedi effeithio rhywfaint ar y ffordd ma’r record newydd yn swnio hefyd.” Er bod yr albwm newydd yn cyd-fynd â naws lo-fi y cyntaf, yn ^ sicr mae yna sw n llawnach a llawer yn fwy aeddfed iddi. Un agwedd sy’n sicr yn parhau yn ei gerddoriaeth yw’r hiwmor unigryw, sydd wedi cymryd twist tywyllach ar Hud a Llefrith. “Mae o fwy tywyll ond ma ‘Llond lle o Hwrs a Lladron’ efo’i adegau tywyll hefyd. Dwi’m yn cysidro bod be dwi’n neud na deud yn ‘agos i’r asgwrn’ o gwbwl. Ella na jyst deud petha mewn ffordd ychydig yn wahanol i’r rhan fwyaf o bobol ydw i, dwnim.” ^ Er nid at ddant pawb mae’n siw r, mae themâu ei ganeuon yn chwa o awyr iach yn y sin “Ma na gymaint o gachu a chelwydd yn dod allan o gegau rhai pobol mae o’n anhygoel. Well gin i fod yn onest am wn i a deud fy nweud ma ^ siw r. Dwi’n licio deud storïau a ma na wirionedd ym mhob cân, ella wedi’i

guddio ar adegau, a ddim dro arall.” Oes wir, mae ‘na storïau yng ngherddoriaeth mr huw, ond oes yna gymeriadau a storïau go iawn yn cuddio yno? “Oes, ond tydi’r bobl yna ddim yn gwbod na amdanyn nhw ma’r gân chwaith, dio’m yn rwbath nai weiddi allan. Ma chydig o ddirgelwch yn mynd yn bell. Ambell dro fi ydi’r person dan sylw, a weithia dwi jyst isho cuddio tu ôl i rywbeth neu guddio rhywun dwi’n nabod tu ôl i gymeriad arall.” Er y bydd llawer yn gweld geiriau caneuon Hud a Llefrith yn dywyll iawn, ac efallai hyd yn oed yn frawychus ar adegau, mae’r gerddoriaeth ei hun yn wrthgyferbyniad llwyr. Mae’r alawon yn fywiog, sionc a hapus – gall un ddarganfod ei hun yn canu’n llon ‘ma gen i ffrind gorau marw, ma di marw’ neu ‘mi nath i chdi betha drwg, drwg, drwg yn dy gwsg’ ar hap yn

myspace.com/ymrhuw

templateyselar.indd 4

20/5/09 10:06:31


cyfweliad: mrhuw

ystod y dydd. Ydy’r gwrthgyferbyniad hwn yn un bwriadol? “Does na’m byd yn fwriadol pan dwi’n chwarae neu recordio cerddoriaeth. Ella na jyst fy mhersonoliaeth sy’n dod allan mae o jyst yn digwydd. Dwi erioed wedi meddwl pan ma gen i ddarn o gerddoriaeth ysgafn neu fywiog, i ysgrifennu geiriau tywyll neu beth bynnag tisho’i alw o i fynd efo fo.” Mae’r caneuon yn sicr yn radio friendly dros ben, yn fyr (pob un yn llai na thair munud o hyd) a bachog, ond di rhywun ddim yn dychmygu y bydd Jonsi a Nia yn chwarae rhyw lawer ar y traciau – yn sicr fydd ‘na ddim lot o alw ar ‘Ar Eich Cais’! “Di fawr o bwys gen i os gawn nhw eu chwarae ar y radio neu ddim. Dwi’m yn mynd i newid be dwi’n neud jyst er mwyn ella cael fy chwarae ‘chydig mwy ar y radio. Byswn i dal yn neud be dwi’n neud os bysa neb yn rhoi fy CDs allan neu neb yn eu prynu nhw. Sbia di ar albyms gen fandiau mawr fel petai – tair neu bedair cân sydd yn cael eu dewis ar gyfer senglau, sef y caneuon ar gyfer radio, ond am ryw reswm yng Nghymru ma pobl, neu’r ‘goruwch bwerau’ ella, yn gobeithio fod pob cân yn addas ar gyfer radio. Caneuon + radio = arian” Rhywbeth arall sy’n gyson yn natur Huw ydy ei brysurdeb pan mae’n dod i deithio’r wlad i berfformio’n fyw, ac roedd yr un peth yn wir am Kentucky AFC, felly mae rhywun yn cael yr argraff ei fod f yn mwynhau gigio. “Mae perfformio’n perfformio fyw yn bwysig iawn i mi. Dydy o byth byt yr un fath ddwywaith ac mae pob po tro’n brofiad. O’n i’n gneu gigs ar ben fy hun ar ôl arfer gneud i Kentucky orffen, a chyn i ni orffen i dd gw a odd hynny’n hwyl ac ddeud y gwir, g yn dipyn gwahanol i fod yn chwara efo ^ Endaf Enda af a Ge Geth. Rw an ma gen i fand o bedw be dwar dw a efo fi, sy’n hollol wahanol eto ac bedwar yn b brofi rofiad anhygoel.” ro

DWI’M YN UN SY’N LICIO PETHA EFO GORMOD O SGLEIN ARNYNT

5 templateyselar.indd 5

20/5/09 10:06:51


GES I HEFYD HELP AMBELL UN MEDDW I RECORDIO’R CLAPIO!

Er ei fod yn cael ei weld fel ‘band un dyn’, roedd Huw wedi dechrau adeiladu ei fand pan ryddhawyd ei albwm cyntaf, ond erbyn hyn mae ganddo bedwarawd sefydlog y tu ôl iddo. Fel dywed Huw, “dwi’n gaeth iddyn nhw erbyn hyn!”. Ond faint o gyfraniad a geir gan aelodau’r band ar Hud a Llefrith? “Nath yr hogia helpu fi allan efo rhywfaint o’r recordio. Ges i help i recordio’r dryms gan Al, nath Iwan bach o fas a chanu, a mi nath Dyl chwara gitâr ar gân ola’r albwm. Ges i hefyd help ambell un meddw i recordio’r clapio! Er bod Rhys yn y band erbyn hyn hefyd, nath o ymuno ar ôl i mi orffen yr albwm. O’n i’n meddwl fysa fo’n dda cal pobl eraill ar yr albwm, ac yn fyw dwi’n hoff iawn o’r hogia’n rhoi slant eu hunain ar betha. Ma’r caneuon yn gallu swnio’n wahanol iawn yn fyw i be ma nhw ar CD. Mae o’n cadw petha’n ffresh a diddorol a dwi’n dysgu bob tro.” Yn olaf, y cwestiwn sydd ar wefusau pawb - o ble ddaeth yr enw gwych i’r albwm, Hud a Llefrith? “Ma’r teitl wedi bod gen i ers amser maith, ers cyn i ‘Llond Lle...’ ddod allan. Dwi jyst yn licio’r ffordd mae o’n sownio a dwi’n hoff o chwarae efo geiriau. Dwi’n licio teitlau albyms diddorol. Byswn i wedi gallu galw fo yn rhywbeth holl mindblowing fel ‘mr huw 2’.” Byddai hynny yn anghonfensiynol!

APÊL BERSONOL GAN MR HUW “Prynwch Hud a Llefrith, er dwi’m yn rhoi cachiad hiad am werthiant, ond yn amlwg dwisho pobl ei glywed o, llosgwch gopi gan ffrind, dwyn un, neu ddwyn £10 o bwrs nain a’i wario ar ‘Hud a Llefrith’ rith’ yn hytrach na seidr a gliw.”

6

myspace.com/ymrhuw

templateyselar.indd 6

20/5/09 10:07:18


GEIRIAU SY’N

GYRRU’R GÂN? Codwyd ambell ael wrth gyhoeddi enillwyr Gwobrau RAP Radio Cymru yn ddiweddar. Dim un yn fwy efallai na phan gyhoeddwyd mai ‘Swynol’ gan Texas Radio Band oedd yn cipio’r categori ‘Cân Orau’! Ond diawch, ma hi’n gân dda ar y naw wyddoch chi ac yn llawn haeddu’r wobr. Felly pa well dathliad nag argraffiad ecsgliwsif o’r geiriau yma yn Y Selar ... ond gyntaf, dyma Mini o’r band i egluro’r cefndir: Mini: “Sgwennes’ i Swynol rhywbryd yn ystod Haf 2005 tra oni’n byw mewn ogof yn Sbaen. Doedd yr ogof ddim yn ogof draddodiadol y byse arth neu blaidd yn dewis byw ynddi, ond ogof gyda

fascade bwthyn bach ar ochr mynydd gyda chegin, trydan, gwelyau, teledu, bath a chawod. Un diwrnod, tra’n potchan yn yr ogof, plyges i fy Yamaha sampler bach glas mewn i’r wal a dechreues ^ i recordio gwahanol lw ps gyda’r unig offeryn oedd gyda fi ar y pryd, sef nylon string guitar. Mae tri phrif sample ar y gân, sef ‘nwdli picking guitar ^ ^ lw p’, ‘bwmbastic bes lw p’ a ‘rata-tat-tat percussion’, yn ffurfio asgwrn cefn y gân ^ orffenedig. Ar ôl cael grw f y gân yn ei lle, es i dros top ^ y lw ps ac mi wnaeth Adolfo (ffrind o’r pentre) ddod lan gyda string arrangement ... a hei Presto, cân y flwyddyn 2008 .

NEWYDDION TEXAS RADIO BAND Mae TRB wedi bod yn brysur iawn yn y stiwdio dros y misoedd diwethaf yn recordio eu halbwm ddiweddaraf, enw i’w gadarnhau. Mae’r albwm 11 trac wedi ei chwblhau ac wrthi’n cael ei chymysgu ar hyn o bryd mae’n debyg. Does dim cadarnhad yngly^ n â pha label fydd yn rhyddhau’r CD, ond gobeithio y bydd yn cael ei rhyddhau cyn diwedd y flwyddyn.

Tanysgriffiiwch

SWYNOL BERWYN GOCH, AFON AEDDFED, COLLI GWYNEDD AR DAITH, FESUL UN, WYNEB WEIRED, LLECHU GWYN O DAN DRAED, NEIDIO LAN A LAWR WRTH SAETHU ARNO LAWR O’R MYNYDD GWYRDD, I’R SIOP AR BEN Y STRYD, I’R LLE DY GES DI’R ARIAN Y TRO CYNTAF, AR ÔL GWELD.

trwy ymuno a grw^p Y Selar ar facebook neu ebostiwch eich enw, cyfeiriad ac ebost i hysbysebionyselar@googlemail.com

^

SWYNOL YW DW^R HI, N HI, TRWYNOL YW SW ^ SWYNOL YW DWR HI, FERSIWN NEWYDD O’R HEN HANES, PLASTIC WELLIES AR DRAED, BALCHDER BYDDAR, SÔN AM BRWYDRE’ CYFRANNU AT YR ENAID. NEIDIO LAN A LAWR WRTH SAETHU ARNO LAWR O’R MYNYDD GWYRDD , I’R SIOP AR BEN Y STRYD, I’R LE DY GES DI’R ARIAN Y TRO GYNTAF, AR ÔL GWELD. ^

SWYNOL YW DW^R HI, N HI, TRWYNOL YW SW ^ SWYNOL YW DWR HI

Ddiddordeb mewn cyfrannu i’r Selar? ebostiwch: yselar@live.co.uk

www.myspace.com/yselar 7

templateyselar.indd 7

20/5/09 10:07:30


DAU I’W DILYN AN AR HYN O BRYD – BM O MH YM S GO AN DD YM I WYDD YN DAL MAE’R BANDIAU CYMRAEG NE SELAR YN DDIWEDDAR. Y AR F AF GR AR EU CR I ED W DYMA DDAU SYDD

Candelas Pwy: Band o’r Bala myn diawch i! Ia wir, band pedwar aelod sydd i gyd yn chweched dosbarth Ysgol y Berwyn. Osian Williams sy’n canu ac yn chwarae’r drymiau, Ifan Jones yn canu ail lais a chwarae’r gitâr, Tomos Edwards ar y bas a Gruffydd Edwards ar y gitâr. Mi wnaethon nhw ffurfio yn Haf 2008 “jysd trwy jamio a bocha o gwmpas”, cyn i Osian ddechrau ysgrifennu caneuon gwreiddiol i’r band. “Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n hen bryd gweld mwy o gynnyrch cerddorol yn dod o ardal y Bala” meddai Osian.

^ n: Mae’r band i gyd yn hoffi’r un Y Sw math o gerddoriaeth, ac maen nhw’n ^ disgrifio eu sw n fel “roc eithaf trwm ond gyda melodiau cryf”. Er bod agweddau o’u cerddoriaeth sy’n debyg i un neu ddau o fandiau Cymraeg ^ diweddar, mae yna egni a sw n eithaf ffres iddyn nhw o fewn y sin ar hyn o bryd – sydd efallai’n adlewyrchiad o’r ffaith eu bod nhw’n hoffi arbrofi gyda rhythmau gwahanol ac anarferol, “dyne wrach sy’n ein gwneud ni’n wahanol”. Ymysg eu dylanwadau maen nhw’n rhestru “pob band Cymraeg safonol, Gola Ola ag Y Rei yn sefyll allan”, yn ogystal â Biffy Clyro, Kings of Leon, Arctic Monkeys, Bob Dylan, Bruce Springsteen a MGMT y tu hwnt i Gymru.

Hyd yn hyn:: Mae’r band wedi recordio demo yn nhy^ Osian ac yn gobeithio gwerthu tipyn o gopïau ohono. Mae caneuon y demo i’w clywed ar eu tudalen MySpace (ac yn swnio’n dda), ac mae Lisa Gwilym wedi bod yn chwarae’r traciau ar ei rhaglen ar Radio Cymru. Maen nhw wedi chwarae nifer o gigs ysgol a lleol, ac yn ddiweddar iawn roedden nhw ar lineup gig Taith Tafod Cymdeithas yr Iaith ym Mhlas Coch, Bala. Maen nhw hefyd lawr i chwarae ar uned Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ... yn y Bala wrth gwrs. Cynlluniau: Mae’r dyfodol hirdymor braidd yn ansicr ar hyn o bryd gan

Y Sais Pwy: I ddeud y gwir, mae Y Sais yn chydig bach o ‘supergroup’ o Wynedd. Maen nhw’n gyfuniad o ddau set o frodyr, sydd hefyd yn aelodau o dri band gwahanol rhyngddyn nhw! Mae Dion a Cynyrr Hammer ill dau yn aelodau o Operation Circus, tra fod Carwyn Ginsberg yn y Fennel Seeds ac Owain Ginsberg, gynt o’r Heights wrth gwrs, erbyn hyn yn aelod o Get Out Clause. Daeth Y Sais i fodolaeth eth tuag at ddiwedd 2008. ^ Y Sw n: Gan fod Owain yn y band mae cymariaethau gyda’r Heights/ s/ Gogz yn anochel, ac yn sicr mae ^ ‘na debygrwydd yn sw n Y Sais. ^ n, “mae Meddai Owain am eu s w cerddoriaeth y band yn syml, roc indie eitha pync gyda digon o tempo a drive” ac yn ychwanegu “gydag un neu ddwy gân ychydig yn seicadelig.” Bach o bopeth felly, ac yn sicr mae ôl cerddorion profiadol ol ar y caneuon sydd i’w clywed ar eu u safle MySpace.

8

Hyd yn hyn: Mae Y Sais yn y broses o recordio EP ar hyn o bryd. Maen nhw hefyd eisoes wedi gwneud ymddangosiadau teledu ar raglenni Bandit ac Uned 5, yn ogystal â gigs bach “ intimate i ffrindiau ac ychydig o outsiders”. Maen nhw hefyd wrthi’n trefnu taith o ryw fath ar gyfer mis Awst, felly cadwch olwg amdanyn nhw.

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO: Rock gyda lot o gitars, The Heights, Frizbee

yselar@live.co.uk

templateyselar.indd 8

20/5/09 10:08:10


COLOFN LISA GWILYM

HWRE I HEATHER! GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH CHI’N LICIO:

GIGS: 1 Awst – Gigs Cymdeithas yr Iaith, Steddfod Bala

eu bod i gyd yn gobeithio mynd i golegau gwahanol flwyddyn nesaf. Ond, maen nhw’n gobeithio cadw momentwm y band i fynd pan fyddan nhw adref o’r coleg “pob gwylie fyddwn ni’n gal, allwch chi fetio byddwn ni efo’n gilydd yn chwara ac yn trio cal gymaint o gigs a phosib.” Yn y dyfodol agos maen nhw’n ceisio cael gymaint o sylw a chyhoeddusrwydd a phosib er mwyn cael slot mewn llwythi o gigs dros yr haf!

Cynlluniau: Gobeithio fydd y daith yn dod at ei gilydd, ac yna EP i’w ryddhau erbyn diwedd yr haf. Yn ôl Owain mae pob trac ar yr EP “wedi ei recordio ar ‘boss digital 7 trac’ yn fy ‘stafell wely” ac maent yn addo y bydd yn llawn cymeriad!!

MAE CERDDORIAETH Y BAND YN SYML, ROC INDIE EITHA PYNC GYDA DIGON O TEMPO A DRIVE

www.myspace.com/ysaiscymraeg

www.myspace.com/candelasband

Gola Ola, Y Rei, Kings of Leon

Un o arloeswyr y sin gerddoriaeth yng Nghymru oedd enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2009, a fy mraint i oedd cael datgelu hynny wrth Heather Jones, a chyflwyno’r wobr iddi! Nes i gyfarfod Heather yn iawn am y tro cynta nôl ym mis Chwefror 2006, a hynny pan ddoth hi draw i Fangor i recordio Sesiwn Acwstig ar gyfer fy rhaglen radio. Fe wnes i jyst dotio ar ei chwmni yn syth - mae hi’n berson mor annwyl ac agored, ac mae’n hawdd siarad efo hi am oriau. Ar ben hynny, mae ganddi lais peraidd sydd mor naturiol, sy’n mynnu sylw, ac sy’n rhoi gwefr anhygoel i bwy bynnag sy’n ddigon lwcus i fod yn gwrando. Mae Heather ‘di bod yn perfformio fel unawdydd ers dechre’r chwedegau, a hefyd ‘di bod yn aelod o ^ ^ sawl grw p. Mae’n siw r ma’r un mwya’ adnabyddus o’r rheini oedd y Bara Menyn, efo dau arall o gewri’r Sin Roc Gymraeg, sef Geraint Jarman a Meic Stevens. ^ Grw p cellweirus, dychanol oedd y Bara Menyn, ond dim pawb oedd yn sylweddoli hynny, ac fe ^ gafodd y grw p dipyn o lwyddiant! Ar ôl i’r Bara Menyn chwalu, roedd y saithdegau yn ddegawd cynhyrchiol iawn i Heather ar ei liwt ei hun, a bron bob blwyddyn fe wnaeth hi ryddhau caneuon cofiadwy. Yn ’71, y glasur ‘Colli Iaith’. Cyhoeddi ‘Cwm Hiraeth’, ac ennill Cân i Gymru yn 1972 efo ‘Pan Ddaw’r Dydd’. Rhyddhau’r albwm roc gynta erioed

yn y Gymraeg - ‘Mae’r Olwyn Yn Troi’, ac ail EP i Sain o’r enw ‘Gwrandewch Ar Fy Nghân’ yn 1973. Heb anghofio chware rhan Nia yn yr opera roc Nia Ben Aur yn 1974, a recordio ‘Jiawl’ yn 1976. Roedd hon yn sicr yn oes aur i Heather, a hynny ym myd gwrywaidd roc a rôl Cymru. Roedd yn rhaid iddi frwydro yn erbyn rhagfarnau’r oes i gael ei derbyn fel merch yn canu roc, gan gymryd ysbrydoliaeth gan artistiaid fel Janis Joplin a Joni Mitchell. Mae hi wedi newid ei delwedd a’i harddull droeon ar hyd y blynyddoedd, ‘di gorfod ‘ail-greu’ ei hun, a ‘di dod nôl yn gryfach bob tro. A’r un peth sydd ‘di aros yn gyson drwy’r cyfan ydi’r llais angylaidd a’i chariad at gerddoriaeth Mae’n dal i recordio a pherfformio ledled Cymru, ac yn cael pleser o gydweithio efo artistiaid cyfoes, fel Alun Tan Lan a Gwyneth Glyn. Dwi’n mawr obeithio y bydd hynny’n parhau am flynyddoedd i ddod. Dwi hefyd yn hynod falch, o’r diwedd, bod Heather yn gw’bod ein bod ni’n gwerthfawrogi’r gwaith gwych ma hi wedi ei wneud dros y degawdau, a bod ei phwysigrwydd a’i chyfraniad yn cael eu cydnabod. Hwre fawr i’r llais hudolus a’r hyfryd Heather Jones!

Gellir clywed Lisa Gwilym am 10pm bob nos Iau a nos Wener ar C2 Radio Cymru.

9 templateyselar.indd 9

20/5/09 10:12:11


YSIOPAU TRYSORAU PRIN RECORDIAU ANNIBYNNOL Roedd dydd Sadwrn, Ebrill 18 yn ddiwrnod cenedlaethol siopau recordiau annibynnol. Gyda’r oes ddigidol bellach yn ei hanterth, mae rhai’n amau pa mor berthnasol yw’r math hwn o fusnes ... ond mae ‘na rai unigolion ymrwymedig a thriw sy’n parhau i ymgasglu yn awyrgylch unigryw’r siopau hyn. Toni Schiavone sy’n gasglwr recordiau a fu hefyd yn gweithio mewn siop recordiau yn Llundain sy’n egluro pam mae siopau recordiau annibynnol yn llefydd mor arbennig: Nid yn unig cael cyfweliad, ond roedd rhaid cymryd prawf cyn cael swydd yn y ‘Record and Tape Exchange’. Roedd Brian y rheolwr o flaen ei amser! Swp o 100 o recordiau yn amrywio o Top of the Pops, i Van Der Graaf Generator a Prince Buster, Vivaldi i Louis Armstrong, Nick Drake, Jimmy Smith, Moby Grape a’r Meters. Y gamp oedd prisio gymaint â phosib o fewn

deg munud gan roi ystyriaeth i gyflwr y clawr, cyflwr y finyl a gwerth y record ar y farchnad ail-law. Roedd y prawf yn golygu tynnu’r record allan o’r clawr, barnu ei hansawdd a’i gwerth, ei dychwelyd a rhoi sticer â phris ar y clawr. Llwyddiant yn dibynnu ar ehangder eich gwybodaeth a chyflymder wrth ddod i farn a phrisio. Os rwy’n cofio’n iawn rhoddais bris ar dros hanner cant – a chefais y swydd. Breuddwyd i gasglwr recordiau yw gweithio mewn siop recordiau ail-law. Roeddwn wedi ymgyfarwyddo â’r Record and Tape Exchange fel lle hanfodol i gael recordiau rhad a rhai prin ers tro byd. Dyma werth gwirioneddol y siopau recordiau annibynnol - pethau prin, pethau anghyffredin a phethau annisgwyl, boed yn newydd neu’n ail-law. Mae angen rhyw fath o drefn o fewn y siop - ond dim rhy drefnus. Rhaid hefyd cael y bobl iawn y tu

ôl i’r cownter. Pobl sy’n deall eu stwff ac yn deall pryd i siarad a phryd i adael rywun chwilota. Os oeddech yn ffyddlon i’r siop, yna roeddech yn gwybod y bydde nhw’n cadw pethau o ddiddordeb i chi ar un ochr fel rhyw fath o wobr. Roedd hyn i gyd yn digwydd yn y Record and Tape Exchange. Roedd trawstoriad rhyfedd o bobl yn gweithio yno hefyd Dave y cerddor jazz a gyflwynodd fi, a llawer o gwsmeriaid, i Thelonious Monk a Miles Davies, Andy a oedd yn mynnu cyrraedd mewn cot ffwr anferth a sbectol haul - wastad yn cyrraedd yn hwyr ac yn gadael yn gynnar. Andreas y proto-pync a Roger y casglwr blues yn byw mewn fflat gyda miloedd o recordiau blues ac R’n B, soffa, gwely, a dim arall. Roedd gan Brian dair siop ar y pryd - un yn Shepherd’s Bush (amrywiol iawn ac eitha rhad), Notting Hill Gate (recordiau o safon uwch a

Huw Stephens Hoff siop: Spillers, ers, Caerdydd. Caerdydd d. Mae Nick y perchennog chennog a’i ferch Ashli yn hynod o neis, mae’r lle yn chwedlonol wedlonol - y siop recordiau hynaf yn y by byd yd i gyd. Mae eu cefnogaeth efnogaeth o gerddoriaeth Gymraeg ymraeg yn be beth eth gwych, ac mae eu cefnogaet cefnogaeth th i’r sin yn Nghaerdydd erdydd yn bwysig iawn. Yn n debyg i Cob Bangor neu u Andy’s Aberystwyth, maen nhw’n barod i helpu. Record diwethaf af a brynwyd: Y CD diwethaf i fi brynu yn

10

Sp pille ers oedd oed e d albwm allbw bwm m Dan Dan Spillers Deacon, De eac acon on,, cynhyrchydd on c nhyr cy nh hyr yrch chyd ch ydd a ydd yd pherfformiwr ph her erff f or ff ormi m wr electro mi ele ect ctro o o fri, fri ri,, wedi we edi d ei argymell arg gym mell gan ga an Huw Hu uw Evans. E an Ev ans. s s.

s op si o au au,, fel fel fe el mae mae Rough ma R ug Ro ugh h Trade Trad Tr ade i siopau, yn Llundain Llu un nd da aiin wedi wed we dii gneud, gne neud d, newid ne ewid a meddwl medd me edd d wl wl am am ffyrdd ffyr ff y dd yr dd gwahanol gwa wah hano ha nol o ddenu dd d den nu pobl pob po bl mewn. bl mew ewn. n. n.

Pam Pam mae ma ae siopau siop op pa au u annibynnol ann nib byn nno ol mor mor bwysig/arbennig: bw wys ysiig/arb /a arb rben en nniig: Nh Nhw hw sy sy’n y’n ’ adlewyrchu’r adl ad lewy lewy wyrc rc chu’rr hyn hy yn n sy’n sy’ y’n mynd y’n mynd n mlaen mlae ml aen n yn lleol, lleol ol,, a rhoi rhoi rh oi cyfl cyfl fleoedd eoe edd dd i fandiau fa and dia iau u werthu wert we rthu hu eu eu CDs, CDs,, senglau, seng se ngla au, crysau-t cry ysa s u--t ac y yn n y bl b blaen, aen, ae n, n, pan pan dydi’r dydi dy di’rr siopau di sio opau pa au recordiau reco re cord co rdia rd ia au mwy, mw wy, sy’n sy’ y’n n prysur prryssur u ddifl ddiiflannu, a nu an nu, nu, ddim dd dim isho iish sho sh o gwbod. gw wbod. bo od. Wedi Wed edi deud deud d hyn, hyn, mae mae e lawr law wr lwytho lwyt lw ytho o yn yn beth beth be h hyn hy nod d o gyfl gyfl fleus, e s, felly eu ffel elly el ly ma ma rhaid rrh hai aid d hynod

yselar@live.co.uk

templateyselar.indd 10

20/5/09 10:08:35


Ian Cottrell

mwy cyfoes/poblogaidd) a Ladbroke Grove (y siop rataf gyda dwsinau o gopïau o rai recordiau a lot fawr o rwtsh). Roedd Ted Carrol o’r siop ‘Rock On’, canllath i ffwrdd yn aml yn galw mewn ac yn prynu swp o’r recordiau rhataf - gan gynnwys llawer iawn o recordiau T. Rex, Troggs a Small Faces am 10c yr un. Roedd Ted Carrol o flaen ei amser hefyd! Yn Rock On, a oedd wrth gefn caffi bach iawn, cefais bethau o’r pumdegau a chwedegau fel Huey Piano Smith and the Clowns, Irma Thomas a Bobby Bland. Nôl yng Nghymru, yn y De Siop Recordiau Hag yn Llambed ac yn Aberystwyth Andy’s. Yn y Gogledd - siopau recordiau yn Nhreffynnon, Prestatyn a’r Rhyl i gyd o fewn cyrraedd, ond y Mecca oedd siopau ‘Recordiau Cob’, Bangor a Phorthmadog. Trwy gydol yr wythdegau a’r nawdegau Cob Bangor oedd y lle i fi. Y newid o finyl i CD yn amharu dim ar y casglu gydag Owen, Alan Holmes, Paul ac eraill yn llawn gwybodaeth - gwyddoniaduron ar goesau. Os am blues, R ‘n B a Soul, Owen; Paul oedd yr arbenigwr ar Bob Dylan, Alan y dyn ar gyfer y Pixies, Can a Kraut-Rock. Nid jyst y prynu oedd yn bwysig ond y drafodaeth am record ddiweddaraf Ffa Coffi Pawb neu’r Gorky’s yn ogystal â’r diweddaraf o Willie Nelson, yr Holmes Brothers neu’r sin Gymraeg. Dyma le y cefais focs set finyl ‘Atlantic Rhythm and Blues’ 1947-1974 a thrysorau eraill gan Swamp Dogg, Detroit Spinners (Pick of the Litter - clasur!), senglau promo Van Morrison, CDs Eirin Peryglus, Catatonia, Datblygu a’r Tystion, Phyllis Dillon, Augustus Pablo a nifer o’r CDs reggae a rhyddhawyd ar label Blood and Fire. Mae rhai recordiau pwysig iawn yn fy nghasgliad wedi eu lleoli mewn amser ac mewn lle arbennig iawn - Cob Bangor. Roedd, ac mae gan y siop yr ogle, y golwg a’r bersoniaeth unigryw sydd yn gyfuniad

o’r bobl, y recordiau a’r CDs, posteri ar y wal a thaflenni ar y cownter - y cymeriad sydd yn perthyn dim ond i’r siopau annibynnol gorau. Erbyn hyn, am resymau gwaith a theulu mae Cob Porthmadog a Spiller’s Caerdydd (MC Mabon - ‘Jonez-Williamz’ a Giant Sand oedd y pethau diwethaf a gefais yn Spiller’s) wedi cymryd lle Cob Bangor. Y naill a’r llall am resymau cwbl wahanol - un wrth basio ar y ffordd i ddal y trên, a’r llall yn gofyn am ymweliadau arbennig pob hyn a hyn. Mae criw Port yn deall i’r dim mai llonydd i chwilio yw’r angen mwya’ ac mae’r amrediad eang ac anferth o CDs ail-law yn gofyn am yr amser yma. Ar ddiwedd y dydd dod ar draws yr annisgwyl a’r prin yw’r atyniad mawr - a dim ond mewn siopau annibynnol mae hynny’n digwydd - boed yn newydd neu’n hen, ar finyl neu CD. Gyda llaw mae ‘na gasgliad anhygoel o CDs jazz ym Mhort ar hyn o bryd!

Hoff siop: Kelly’s yn y Farchnad Ganolog yng Nghaerdydd a The Record Shop oddi ar Albany Road yn Y Rhath. Dwi’n methu dewis un dros y llall, mae’r ddwy gystal a’i gilydd. Mae’u dewis nhw o albyms a 12”’s funk/disco/soul yn anhygoel ac mae’n rhaid mod i ‘di treulio diwrnodau o fy mywyd ynddyn nhw yn ystod y ddeunaw mlynedd diwetha’. Record diwethaf a brynwyd: Dwi’m yn cofio off top fy mhen gan fy mod i jyst yn mynd yno heb fwriad o brynu unrhyw beth penodol, ond dod allan efo pentwr o stwff. Be sy’n dda ydy bod y perchnogion yn tueddu i roi discount os ti’n prynu mewn bulk. Dyna chi dip gwerthfawr! Pam mae siopau annibynnol mor bwysig/arbennig: Dwi’n prynu stwff vinyl ail law o’r ddwy siop; stwff fyswn i’n methu ffeindio unman arall yng Nghaerdydd, achos bod na prin unrhyw siopau recordiau ar ôl yn y ddinas!

Mae ‘na lyfr bach da am dranc siopau recordiau annibynnol allan rwan Last Shop Standing: Whatever Happened to Record Shops? Graham Jones (Proper Music Publishing)

Emyr Ankst Hoff siop: Cob Bangor wrth gwrs Pam mae siopau annibynnol mor bwysig/ arbennig: Mae unrhyw beth sy’n medru lleihau natur ‘ultra’ masnachol y diwydiant cerddoriaeth yn beth da. Erbyn heddiw priority y siopau mawr ydy gwerthu lle ar eu silffoedd i’r cwmnia mawr, sy’n golygu fod y gerddoriaeth newydd, difyr (llai poblogaidd a lleol) ddim yn cael cyfle teg i ddenu

cynulleidfa a lot o’r amser ddim hyd yn oed ar werth yn y siopa yma. Efo siopa annibynnol mae na fwy o bwyslais ar gynnig amrywiaeth sydd i wneud fwy efo cynnwys y recordiau yn hytrach na jest faint o gyllideb hyrwyddo sy’n gysylltiedig a’r hyn sy’n cael ei ryddhau. Record diwethaf a brynwyd: Ar finyl, albyms newydd gan PJ Harvey, Faust, S/T ac yn ail law The Fall a Die Haut a 13th Floor Elevators.

11 templateyselar.indd 11

20/5/09 10:13:02


ALBWM AUR

HUW

MAE’N YMDDANGOS FOD HUW YN ENW POBLOGAIDD O FEWN Y DIWYDIANT CERDDORIAETH GYMRAEG. MAE GENNYCH CHI’R DDAU HUW ... STEPHENS AC EVANS I DDECHRAU, HEB SÔN AM HUW ‘BUNF’ O’R SUPER FURRY’S, HUW MR HUW A’R HUW Y CYFEIRIER ATO YN ORGAN AUR HUW GAN EITHA TAL FFRANCO. WEL, MAE ‘NA UN ARALL ^ AR Y SIN RWAN AC WEDI RHYDDHAU EI ALBWM CYNTAF YN DDIWEDDAR. LEUSA FFLUR AETH I GWRDD Â HUW M CYN EI GIG TAITH TAFOD AR BEN BRYN ‘CONSTI’ YN ABERYSTWYTH...

Oni ar fy ffordd i gyfarfod artist Cymraeg newydd a chyffroes o’r enw ‘Huw M’ – enw ychydig yn ddiddychymyg i fand dyma fi’n meddwl, mae o jyst fel anagram o Mr Huw, heb yr ‘r’… Don i’m yn gwbod be i alw fy hun! Huw Meredydd Roberts ydw i, ac odd na lot o bobl yn ‘ngalw fi’n Huw M beth bynnag. Nesh i ystyried sawl enw gwahanol cyn meddwl ‘ydw i rili isho galw fy hun yn rhywbeth obscure?’ O’n i bob tro’n dod nôl at ‘Huw M’, achos artist unigol ydw i yn y bôn, ac wel dyna ‘di’n enw fi! Nid dyma’r tro cyntaf i ni weld Huw yn y Sin Roc Gymraeg, roedd yn aelod o’r band Chouchen a ddaeth i ben yn 2006 ar ôl rhyddhau dwy albwm, un EP a sesiwn i Radio 1. Felly sut ddaeth project unigol Huw M i weld golau dydd?

O’n i dal yn cyfansoddi wedi i Chouchen ddod i ben, felly ddechreuish i fynd i nosweithiau open mike yn ardal Pontypridd a Chaerdydd. Nesh i rili mwynhau o a chael blas ar y profiad o chwarae, a defnyddio’r pedals a ballu. Yna es i mlaen i gydweithio ag Erddin [Llwyd] a rhyddhau senglau a gafodd eu chwarae ar Six Music. Mi oedd hynna’n annisgwyl gan ein bod ni wedi eu rhyddhau nhw’n eithaf distaw a low-key, doedd dim lansiad mawr, odd o’n braf cael ein chwarae ar y radio fel ‘na. Mae gan Fflur Dafydd ei Barf, a Bob Delyn ei Ebillion; mae gan Dafydd Iwan ei Fand ac mae gan John ei Alun. Oes gan Huw M rhywun? Jyst fi ydi o’n fyw. ‘Dw i’n iwsho rwbeth o’r enw loop station, gitâr, keyboard a ‘chydig o percussion hefyd, fel one man band math o beth! ‘Dwi di rhyddhau albwm yn ddiweddar ^ o’r enw Os Mewn Sw n, ac ar yr albwm mae merch o’r enw Lucello sef Lucy O’Connor yn chwarae’r cello, mae hi’n hollol hollol anhygoel; yna mae Bethan y wraig – mae hi’n canu ar yr albwm, ac yn clocsio hefyd mewn un cân! Ac wedyn nath cynhyrchydd yr albwm, Frank Naughton, chwarae dryms a bit a bobs eraill. Ond yn y bôn, mae o’n broject unigol. Wedi dweud hynny, mae gen i gyngerdd wythnos i heddiw yng Nghanolfan y Mileniwm ac mae Lucy’n mynd i chwarae a Beth yn mynd i ganu, felly honna fydd y gig cyntaf i fi neud efo rhywun arall yn y band. Gai weld sut mai’n mynd, ond ma’n rhaid fi ddeud fod bod yn artist unigol yn gymaint haws. Pan ti’n cal cynnig gig, ti’n cal penderfynu yn y fan a’r lle os dwi’n gallu neud o yn lle gorfod ffonio pawb. Ac mae’n haws trefnu ymarfer hefyd! ^ A sôn am albwm newydd, sut sw n sydd i ^ ‘Os Mewn Swn’? Amwni fod yr albwm ei hun yn eithaf acoustici, ond yn fyw mae o dipyn yn fwy upbeat. Mae ‘na ddylanwad gwerin yna, ac Ewropeaidd- fel miwsig o Ffrainc. Bues i’n byw yn Ffrainc am ryw dri mis – o’n i’n gyflwynydd radio, yn cyflwyno

12

...TI DDIM YN DDIBYNNOL BELLACH AR LABELI NEU AR DDARLLEDWYR

www.myspace.com/huwmm

templateyselar.indd 12

20/5/09 10:13:10


cyfweliad: huwm

MA’N RHAID FI DDEUD FOD BOD YN ARTIST UNIGOL YN GYMAINT HAWS

rhaglen o’r enw La Ballade Musicale - mae Ballade yn air Ffrangeg sy’n golygu ‘mynd am dro’ felly mae ‘na pun fanna sy fel mynd am dro cerddorol, ond eto fel ballad cerddorol … ond dim fi nath feddwl am yr enw! Dwi’n meddwl mai fy hoff artist Ffrangeg i ydi Yann Tiersen - fo nath miwsig y ffilm Amelie, mae’n dod o Lydaw ac mae wedi moderneiddio cerddoriaeth draddodiadol Ffrainc. Mae gen i hefyd ddylanwadau o Dde America, dwi’n licio petha o Brasil yn fawr iawn. Roedd ‘na symudiad cerddorol ym Mrasil yn y 60au o’r enw Tropicália, nath o bara am flwyddyn ac odd o’n andros o ddifyr - artistiaid fatha Caetano Veloso a Gilberto Gil – nathon nhw ‘run peth - sef cymryd cerddoriaeth draddodiadol Brasil a’i moderneiddio. Ydy’r dylanwad hwn o foderneiddio caneuon traddodiadol wedi treiddio i gerddoriaeth Huw M felly? Yndi, mae ‘na ddwy gân ar yr albwm lle ‘dw i ‘di cymryd geiriau hen benillion a gwneud cân newydd ohonyn nhw, fel Hiraeth Mawr Hiraeth Creulon a Michelle Michelle (Cariad Cyntaf). Ond swni’m yn ystyried fy hun yn artist gwerin yn ystyr fy mod yn artist gwerin!

13 templateyselar.indd 13

20/5/09 10:13:20


Mae clawr yr albwm wedi ei ddylunio gan Aled Cummins, sy’n galw ei hun yn !!Arth!!. Daeth Huw i gysylltiad ag o dros y we, ar ôl prynu llun ganddo o’r enw ^ Blackbirds 2. Mae clawr ‘Os Mewn Sw n’ yn seiliedig ar elfen o’r llun hwn a’r syniad o one man band. Wedi bod yn ddewr a’i rhyddhau ei hun, sut ymateb y mae’r albwm wedi ei gael hyd yn hyn? Ar i-tunes mae rhywun di-Gymraeg wedi rhoi adolygiad, a 4 seren! Mae rhywun hyd yn oed wedi prynu’r albwm o America! Mae’r we wedi chwalu lot o ffiniau. Se ti methu neud y math yna o beth 5 mlynedd yn ôl. Enghraifft arall dda o’r we ydi fideos. Nesh i fideo wythnos diwethaf ar Pier Bangor efo camera digidol normal a’i rhoi ar y we yn syth, technoleg hawdd iawn a dio’m di costio dim un geiniog i’w wneud. Mae radio a’r teledu dal i fod yn bwysig iawn, ond ti ddim yn ddibynnol bellach ar labeli neu ar ddarlledwyr, mae’r outlet neu’r platfform yna’n barod.

Felly beth sydd nesa i Huw M? Dwi ar hyn o bryd ar mini taith i drio hyrwyddo’r albwm ers ddechrau mis Mawrth, felly mae gen i lot o gigs yn dod fyny mis Ebrill a mis Mai. Ond y peth mawr nesaf ydi gwneud rhywbeth efo Llwyd [Erddin Llwyd a oedd hefyd yn aelod o Chouchen]. Hoffwn i wneud albwm arall rhyw ben, ond cyn hynny cydweithio â Llwyd i wneud EP ella, neu albwm fer. Ryden ni’n gweithio’n dda efo’n gilydd ac yn gallu dod fyny

14

Yn seren y Sin Roc ar benwythnosau ond yn gynhyrchydd parchus i C2 ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos. Bwrlwm cyffro cerddorol y stiwdio oedd un o’r prif resymau i Huw M ailafael yn ei gerddoriaet h… Dwi’n gweithio bob dydd hefo miwsig newydd, dwi wrth fy modd efo hynna. Mae’r Sin Gerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd yn eithaf cyffrous, mae ‘na gymaint o dalent newydd ifanc fel Bandana, a Nos Sadwrn Bach, yn ogystal â’r artistiaid mwy profiadol sydd dal i ryddhau albyms a stwff cyffrous fel MC Mabon, Gwyneth Glyn, Gareth Bonello, mr huw, Euros Childs a Gruff Rhys. Dyna un rheswm pan nes i ail ddechrau chwarae – teimlo’r cyffro, a bod isho bod yn rhan o’r cyffro hwnnw yn y Sîn.

MAE’R SIN GERDDORIAETH GYMRAEG AR HYN O BRYD YN EITHAF CYFFROUS, MAE ‘NA GYMAINT O DALENT NEWYDD IFANC EITHAF CYFFROUS,

â syniadau da. Mae stwff unigol Llwyd a stwff unigol Huw M yn hollol wahanol, felly mae project Llwyd ac Huw M yn rhywbeth hollol wahanol eto. Mae genon ni’r ddwy gân honno, ac ryden ni’n gweithio ar fwy. Mae Erddin yn byw yn y Gogledd a fi yn y De, dyna lle mae’r we yn dod yn handi eto, rydan ni’n reit ddibynnol arno i drafod syniadau. Enw’n sengl ddiwethaf ni oedd Dechre’n y Dechre. Nesh i recordio rhan ohoni adre efo banjo, gitâr a chanu, wedyn ei gyrru draw i Erddin a nath

o ychwanegu offerynnau ei hun a chanu, a’i gymysgu ei hun, ac anfon fersiwn i mi ar y we. Be o’n i’n licio amdano fo oedd i fod o mor wahanol, wedi cael ei stripio i lawr – odd o jyst yn well. Pe bawn i wedi neud y gân fy hun, Huw M fyse fo, neu se Erddin wedi ei neud o ei hun, Llwyd fyse fo. Ond nathon ni o efo’n gilydd – hollol wahanol. Swnio’n gyffroes, felly be fydd enw’r project newydd ‘hollol wahanol’ hwn? Ymm, Llwyd a Huw M ella?!

Fel cynhyrchydd i C2, y platfform mwyaf i gerddoriaeth Gymraeg, mae’n ^ siw r bod modd manteisio ar hynny i gael sylw i Huw M? Na! Yr ateb ydi, na. Os dwi’n y stiwdio, ‘se fy ngherddoriaeth i ddim yn cael ei chwarae. Fyswn i byth yn dewis fy miwsig fy hun i’w chwarae. Swni’n anghyffyrddus bod yn y stiwdio a bod un o nghaneuon i’n cael ei chwarae. A hefyd mae’n well gen i fod yr amod yna’n glir, fel bod na ddim perygl o unrhyw conflict of interest.

MAE OS MEWN SWN AR GAEL I’W LAWR LWYTHO ODDI AR I-TUNES AC I’W PHRYNU AR CDBABY.COM

www.myspace.com/huwmm

templateyselar.indd 14

20/5/09 10:28:56


Y GOLOFN

WADD

gyda Mari Lovgreen ^

MOR NAFF, MA’N CW L ^ Pa mor cw l dwi’n cael gwahoddiad i sgwennu yn Y Selar?! Neu fel ddudodd Dyl Mei wrtha fi ddoe, “ti mor naff, ma’n ^ ^ cw l” – dwi’m yn siw r os di hunna’n beth da neu beidio ... ta waeth, dwi ddim yma i fwydro (gormod) ond i sôn am y bandiau sydd wedi creu argraff arna fi yn y Sin Roc Gymraeg yn ddiweddar. Dwi’n lwcus iawn efo fy swydd yn Uned5 o gael cyfarfod a gwrando ar lwyth o fandiau ac artistiaid bob wythnos ...

*Rhydian Bowen Phillips newydd dorri ar draws fy nheipio yn gofyn am mensh – felly dyma chdi Rhydian - haia.* Dwi ar ddallt fod na lot o bobl yn cymryd y cyfle i gael rant yn y golofn yma – ond nai jyst ddim sôn am unrhyw fandia dwi ddim yn licio achos ma mam di magu fi i fod yn gwrtais a charedig (diolch mam). Reit, dwi di penderfynu gneud siart yn arbennig i’r Selar – ‘5 ucha perfformiada byw gora Uned5 yn ystod y flwyddyn ddwytha yn ôl Mari Løvgreen’ (teitl bachog ta be?). Nai roi rhesymau dros eu dewis nhw wedyn, felly (drumroll) dyma nhw: 1) 2) 3) 4) 5)

Derwyddon Dr Gonzo Elin Fflur Frizbee Genod Droog Yr Ods

Dewis diddorol dwi’n clywed chi’n deud! Cyn i chi feirniadu, dyma’r rhesymau hollbwysig: 1) Dwi ddim yn meddwl bod angen rheswm efo rhein nagoes? Hollol wych

yn fyw – llwyth o egni a hwyl a ddim yn cymryd eu hunan ormod o ddifri. Hunna a’r ffaith bo fi’n ffansio hanner y band. (Dwi’m yn poeni os dwi rhy hen i gyfadda hunna). 2) Bob tro ma Elin Fflur yn canu’n fyw yn y stiwdio, ma PAWB yn stopio i wrando. Ma ganddi un o’r lleisia gora o gwmpas a ma na rwbath amdani hi (no pun intended) sy jyst yn neud i chi gymryd sylw. 3) Oni bob tro’n cynhyrfu cyn i Frizbee ddod ar y rhaglen fatha groupie bach pathetic. Band byw gwych. Yndw, dwi’n drist bonw di gorffan – dod ag atgofion chwerw o East 17 yn gwahanu yn 1997. 4) Nath Genod Droog neud i fi licio rap Cymraeg am y tro cynta. Oedda nhw hefyd yn gwbod sut i ddiddanu a chynnal sioe – rwbath di lot o fandia ddim yn trafferthu gneud. Eto, colled fawr i’r sin, ond oleia gaethon ni albwm wych ganddyn nhw. 5) Band newydd mwya addawol Cymru ar hyn o bryd. Dwi’n licio bo nhw’n swnio chydig yn hen ffasiwn a retro – ac eto efo agwedd reit ysgafn ar fod mewn band – efo’r pwyslais ar gael hwyl. Atgoffa fi o Big Leaves – a ma hunna’n gorfod bod yn beth da. Neshi ddim rili mwynhau meddwl am 5 ucha – pam neshi roi’r ffasiwn bwysa ar fy hun?! Dwi’n teimlo ddylswn i roi mensh i’r bandiau sy’n gneud i fi chwerthin – Gwibdaith, Ryan Kift, Plant Duw, mr huw – ella fysa well i fi ^ an, neu fydd raid stopio rw i fi enwi pawb rhag ofn i fi bechu ...

HITS YR HAF!

AR WERTH AR FAES EISTEDDFOD YR URDD AR STONDIN SHWL DI MWL

CLINIGOL - MELYS

EINIR DAFYDD PWY BIA’R ABER? Yn eich siop leol a trwy wefan Fflach www.fflach.co.uk hefyd ar iTunes Llys-y-Coed, Heol Dinbych-y-Pysgod, Aberteifi SA43 3AH info@fflach.co.uk (01239) 614691

Stori Ryfeddol

MEIC STEVENS Rhan 2 £9.95

Rhan 1

£9.95

Argraffiad Newydd

Barddoniaeth “Ni welwyd ei thebyg ers Cerddi’r Cywilydd” Y Cymro

www.ylolfa.com

templateyselar.indd 15

20/5/09 10:20:59


GWYLIO’R GWYLIAU

SYDD DDIM YN DIGWYDD ELENI, MAE’N WELL GYDA NIFER O’R CYFRYNGAU’N GWNEUD FFWS AM Y DIGWYDDIADAU CERDDOROL ROL FYDD YN CAEL EU CYNNAL DROS YR GENNYM NI YN Y SELAR FOD YN BOSITIF A CHANOLBWYNTIO AR Y GWYLIAU CERDDO Y DYLECH EDRYCH YMLAEN ATYNT ELENI. HAF YMA YNG NGHYMRU! LOWRI JOHNSTON SY’N ARGYMELL PA DDIGWYDDIADAU – A MYND YN HYNOD EGSEITED – AR YDY, MAE’R HAF AR GYRRAEDD AC MAE’N AMSER UNWAITH YN RHAGOR I FWRW GOLWG MA’ ‘NA DDIGON YN DIGWYDD AR DRAWS GYFER GWYLIAU’R HAF! PEIDIWCH Â DIGALONNI NAD OES SESIWN FAWR ELENI, ACHOS FELLY... CYMRU, A RHYWBETH AT DDANT PAWB. DYMA FWRW GOLWG DROS RAI OHONYNT

^

GWYL MALDWYN Gwesty’r Cann Office, Llangadfan, Powys Dyddiad : 5/6/7 Mehefin Bandiau : Nos Wener – Geraint Løvegreen a’r Enw Da, Wyrligigs, Stomp Ffermwyr Ifanc Nos Sadwrn – Eilir Jones (Ffarmwr Ffowc!), Plethyn, Gwibdaith Hen Fran, Aveldro (o Lydaw)

Hefyd llwyth o bethau eraill heblaw cerddoriaeth gan gynnwys dawnsio gwerin, straeon i blant gan Cath Aran, ymryson ‘da Mei Mac, barbaciw a fez nos i orffen y cyfan nos Sul! Tocynnau : £10 y noson, o’r Cann Offis 01938 8 820202

GW^ YL WAKESTOCK

GW^ YL BEDROC Dyddiad : 19/20/21 Mehefin Bandiau : Nos Wener – Y Tebot Piws, Meic Stevens, Huw Chiswell, Katell Keineg Dydd Sadwrn – (Llwyfan Cymdeithas yr Iaith – Y Clwb Rygbi) – Yucatan, Eitha Tal Ffranco, Al Lewis, Clinigol, Yr Annioddefol, Y Bandana, Just Like Frank, RTR, Llygredd Swn Nos Sadwrn – Jess, Gwibdaith Hen Fran, Y Diwygiad, Plant Duw, Y Betti Galws Dydd Sul – Cerddoriaeth Draddodiadol Tocynnau : Nos Wener - £6, dydd Sadwrn am ddim, nos Sadwrn £6. ^ Yn ôl Jamie Bevan, un o drefnwyr yr w yl, ^ yl oherwydd awyrgylch “dyle pobol ddod i’r w clos a chroesawgar y cymoedd a’r cyfle i weld rhai o enwau mwyaf yr SRG mewn un ^ yl fach dda! lle.” Mae’n addo bod yn w www.cymdeithasgymraegbeddllwynog.co.uk

^

^

Abersoch Dyddiad : 10/11/12 Gorffennaf Bandiau : Moby, NERD, Dizzee Rascal, Super Furry Animals, Calvin Harris, Pigeon Detectives, Zutons, Just Jack, Mr Scruff, Ebony Bones, Yr Ods, Sibrydion, Zane Lowe a Huw Stephens yn djo, a lot lot mwy! Tocynnau : £90 am y penwythnos, £115 yn cynnwys gwersylla, £40 am docyn diwrnod. www.wakestock.co.uk

THE SQUARE FESTIVAL

Borth, ger Aberystwyth Dyddiad : 24/25/26 Gorffennaf Bandiau : Yn cynnwys ... Supergrass, The Beat, Skindred, The Holloways, Drymbago, Threatmantics, Race Horses, The Joy Formidable, Cuba Cuba, Derwyddon Dr Gonzo, a llawer iawn mwy. Tocynnau : £45 am dri diwrnod, £5 am wersylla am y penwythnos www.thesquarefestival.com

GWYL NO L A MLA'N

Llangrannog Dyddiad : 20 Mehefin Bandiau : Meic Stevens a’r Band, Fflur Dafydd a’r Barf, The Gentle Good, Cerrig Melys, Karac, Lowri Evans, Radwm, The Fat Spanners ... a mwy! ^ Gw yl newydd mewn lleoliad arbennig yn Llangrannog, Ceredigion! Tocynnau : Adloniant am ddim, gwersylla ar gael.

16

yselar@live.co.uk

templateyselar.indd 16

20/5/09 10:17:13


GW^ YL Y GARREG LAS

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL BALA

Llanfyrnach, Sir Benfro Dyddiad : 31 Gorffennaf – 2 Awst Bandiau : Heb eu cadarnhau eto, ond bydd 5 llwyfan gan gynnwys y prif lwyfan, llwyfan ddawns, acwstig a ‘myfyrwyr’. Bydd hefyd llwyth o weithdai dros y penwythnos. Tocynnau : £37 www.celticbluerock.org.uk

Gigs Cymdeithas yr Iaith a Maes B Dyddiad : 1-8 Awst Mae’n addo bod yn wythnos ffanastig yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala eleni, gyda bandiau gwych yn chwarae i Gymdeithas yr Iaith a Maes B. Bydd uchafbwyntiau gigs Cymdeithas yr Iaith yn cynnwys Bob Delyn a’r Ebillion, Meic Stevens, Heather Jones, Derwyddon Dr Gonzo, Cowbois Rhos Botwnnog a Plant Duw, gyda gw^ yl trwy gydol y dydd ar y dydd

Sadwrn olaf. Bydd Maes B yn cynnig dewis helaeth hefyd, gan gynnwys Race Horses, Cate le Bon, ac fe fydd Derwyddon Dr Gonzo a Cowbois Rhos Botwnnog yn gorffen yr wythnos mewn steil yno ar y nos Sadwrn. Digon o ddewis felly, ac fe fydd maes yr Eisteddfod yn llawn dop o ddigwyddiadau a bandiau yn ystod y dydd hefyd. Dwi methu aros! Mwy o wybodaeth: www.cymdeithas.org / www.maesb.com

GW^ YL GOPR AMLWCH Dyddiad : 28/29/30 Awst Bandiau : Yn cynnwys Race Horses, Meic Stevens, Y Bandana, Chwarter Call, Y Wyrligigs, Ed Holden, Celt, Bryn Fôn a loooods mwy. Digon o amrywiaeth i gadw pawb yn hapus! Tocynnau : Rhad ac am Ddim, Gwersylla yn £10 y noson. www.gwylgopr.co.uk

GW^ YL Y DYN GWYRDD Dyddiad : 21/22/23 Awst Bandiau : Jarvis Cocker, Bon Iver, Wilco, British Sea Power, Emmy the Great, Four Tet, Noah and the Whale, Errors, Sibrydion, Rodriguez, i enwi ^ yl unigryw mewn ond rhai. Gw

lleoliad perffaith! Tocynnau : Oedolyn - £115, Myfyrwyr - £99, Arddegwyr (13 i 17 oed) £50. Plant dan 12 am ddim. www.thegreenmanfestival. co.uk

byw ac astudio drwy’r Gymraeg • Mae'r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd myfyriwr ym Mangor. • Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg • Bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail. Trefnir llu o weithgareddau hamdden a chymdeithasol gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor. • Neuadd breswyl fywiog Gymraeg sy’n gartref i fyfyrwyr Cymraeg o bob cwr o Gymru. • Mae bwrsariaethau o £500 y flwyddyn ar gael i'r rhai sy'n dewis astudio'r cyfan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, a £250 y flwyddyn i'r rhai sy'n dewis astudio rhan o'u cwrs drwy'r Gymraeg.

AM FWY O FANYLION CYSYLLTWCH Â’R UNED RECRIWTIO MYFYRWYR. Ffôn: 01248 382005 / 383561•E-bost: marchnata@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk

templateyselar.indd 17

20/5/09 10:17:22


HOLLOL GLINIGOL ^ Mae’r grw p electroneg, Clinigol, wedi bod yn ymddangos fan hyn a fan draw ar y sin ers rhai blynyddoedd bellach. O’r diwedd, ar ôl cyfuno gyda gwesteion arbennig i ryddhau tri sengl, maen nhw’n barod i ryddhau eu halbwm gyntaf, Melys, ddiwedd mis Mai. Aeth Y Selar draw i gwrdd ag aelodau craidd Clinigol i ddysgu ychydig bach mwy am y prosiect a’r albwm newydd:

Pwy ydy Clinigol - beth ydy cefndir y ^ grw p? Aled: Dau frawd, Geraint ac Aled, sy’n dwli ar gerddoriaeth. Daethon ni at ein gilydd tua diwedd 2002 er mwyn creu y math o gerddoriaeth ry’n ni’n mwynhau gwrando arno, yn y Gymraeg, gan fod cerddoriaeth electroneg Gymraeg yn gymharol brin. Geraint: Peth cynta nethon ni oedd sesiwn gyda C2 yn 2005, wedyn dath y sengl Eiliad ar label Ciwdod yn Rhagfyr 2006, dath yr ail sengl Y Gwir yn Hydref 2007 ar ôl gweithio gyda Llwybr Llaethog, dechrau’r flwyddyn nethon ni ryddhau sengl rhif 3 Hufen Iâ yn ddigidol, a nawr, o’r diwedd, ma’r albwm yn barod! I rywun sydd heb glywed y senglau, sut fydde chi’n disgrifio cerddoriaeth Clinigol?

18 templateyselar.indd 18

G: Hooky, catchy pop gyda dylanwadau electro, dawns ac ychydig o R&B. Cerddoriaeth ar gyfer y penwthnos, ar gyfer parti, sy’n sexy ac edgy gobeithio gyda bach o agwedd. A: Cerddoriaeth i roi chi mewn hwyliau da. Rhywbeth i wrando arno wrth baratoi i fynd mas ar nos Sadwrn neu i droi lan yn uchel yn y car tra bod yr haul yn gwenu. G: Yn fwy na dim mae’n gerddoriaeth ar gyfer dawnsio a rhywbeth sydd i fod yn damaid bach o hwyl. O lle ydych chi’n tynnu eich dylanwadau? A: O nifer o lefydd - cerddoriaeth pop, house, yr 80au, R&B a hip hop. Fi mwy mewn i gerddoriaeth ddawns, pobl fel Alan Braxe a Fred Falke ar hyn o bryd, sydd wedi benthyg lot o synau’r 80au, a phobl fel Giorgio Moroder. Mae Geraint mwy mewn i R&B a bach o hip-hop, ac yna ry’ ni’n cwrdd rhywle yn y canol. Hefyd, cynhyrchwyr pop/dawns fel Stuart Price, Richard X a Xenomania. G: Yn sicr ma’r ochr gynhyrchu wedi ei ddylanwadu yn gryf gan stwff electro... ond o ran y melodïau a’r geiriau wi’n sgwennu, cerddoriaeth bop y siartiau sydd wedi dylanwadu arnai fwya, boed yn pop/dawns Prydeinig neu R&B Americanaidd, yr hook

sy’n bwysig, ‘wi wastad yn trio sgwennu rhywbeth catchy ... weden i mai Everything But The Girl oedd wedi gwneud i mi eisiau sgwennu caneuon, yna ma popeth o Nik Kershaw i Goldfrapp i Madonna wedi dylanwadu ar y caneuon ac i’w clywed yn ein melodïau. Sut ymateb ydych chi wedi cael i’r senglau? A: Cymysg i ddechrau, i fod yn onest, gyda rhai yn gefnogol iawn, tra bod eraill falle ddim cweit yn deall beth oedden ni’n trio neud. G: Ond ma’r ymateb wedi gwella gyda phob sengl, ma’r ymateb i Hufen Iâ er enghraifft, di bod yn hynod bositif. Dyna pam dwi’n edrych ymlaen gymaint at ryddhau’r albwm, ni wedi dysgu cymaint dros y bedair mlynedd dwetha, ma’r caneuon ry’ ni’n sgwennu yn well, ma safon y cynhyrchu wedi codi, ni’n fwy hyderus a sicr yn beth y ni’n neud a dwi’n falch iawn o beth ry’ ni wedi gwblhau ar Melys. A: 2009 fydd blwyddyn electro pop! Mae’r Pet Shop Boys wedi ennill Brit, ac mae artistiaid fel Little Boots, Frankmusic, La Roux ac Empire of the Sun yn cael lot o sylw. Gobeithio fydd hyn yn treiddio \

? www.myspace.com/clinigolmusic 20/5/09 10:17:28


WI’N CREDU FOD LLEISIAU MERCHED YN GWEITHIO YN LOT GWELL AR GERDDORIAETH DDAWNS

trwyddo i’r sin Gymraeg, achos mae angen mwy o amrywiaeth! Da chi’n licio tynnu gwesteion arbennig mewn i weithio gyda chi, pam hynny? G: Am sawl rheswm, yn bena, wi’n credu fod lleisiau merched yn gweithio yn lot gwell ar gerddoriaeth ddawns. Mae natur y gerddoriaeth felly yn golygu bod rhaid i ni agor e mas, a ma hwnna’n beth cyffrous iawn, ceisio darganfod y llais mwya addas i ganu cân. Ma nifer o sub-genres ar yr albwm, felly ry’ ni wedi defnyddio cantorion sy’n gweddu steil y caneuon. Ma Nia Medi yn wych yn neud

stwff dawns, ma Siwan Morris yn berffaith ar gyfer caneuon mwy sexy ... ar gyfer Dim Ond Ti Sydd Ar Ôl roedd angen llais pur a melancolig, doeddwn i ddim yn gallu dychmygu unrhyw un ond Heather Jones yn canu’r gân - felly roedd e’n ryddhad mawr pan wnaeth hi gytuno!! Yna weithiau wi’n sgwennu cân sydd eisiau llais dyn fel Eiliad a Gyd O’r Blaen, felly fi sy’n canu nhw, achos bo fi’n tsiep! A: Mae’n gyffrous gweithio gyda phobl gwahanol ac mae’n helpu creu mwy o amrywiaeth. G: Ydy, a mae fe di bod yn brofiad gwych cael cwrdd a gweithio gyda chymaint o bobl talentog, gwahanol. A: A fydden i byth wedi caniatáu i Geraint neud rap fel Cofi Bach! Sut beth ydy gweithio gyda diva’s Cymraeg go iawn fel Margaret Williams a Heather Jones? G: Peth cyffrous dros ben, yn brofiad positif iawn ac yn lot o sbort! Ma’r ddwy yn real pros a ro ni mor chuffed bo nhw wedi cytuno neud! Roedd Heather mor agored i’r holl beth, yn llawn brwdfrydedd ac yn mwynhau’r sialens o neud rhywbeth hollol newydd a gwahanol. Yna gyda Margaret, roedd e’n gwmws fel o’n i wedi

dychmygu. Nath hi droi lan yn edrych yn amazing a glamorous, treulio rhyw hanner awr yn recordio’r vocal ac yna diflannu… true diva! Gwych! Beth all pobl ddisgwyl o’r albwm? A: Slick, edgy pop gyda rhai o sêr mwya Cymru ... G: ... i gyd yn dod at ei gilydd o dan faner hapus Clinigol! A: Albwm sy’n unashamedly pop ac sy’n unashemdly electro. G: Mae’r tair sengl a hefyd Am Wastraff ar yr albwm ... A: Ac ma nhw i gyd wedi cael eu hail-recordio neu eu hail-gymysgu ... felly ma popeth ar yr albwm yn newydd! 12 trac i gyd, rhai caneuon pop, peth dawns, peth electro a bach o R&B / hip-hop hefyd! G: Sain credu bod dim byd tebyg i hwn wedi cael ei wneud o’r blaen yng Nghymru, mae’r holl beth yn eitha unigryw. Mae’r gerddoriaeth yn wahanol ac ma’r defnydd o westeion yn wahanol - lle arall gewch chi Cofi Bach a Margaret Williams ar yr un albwm?! Felly trowch y stereo lan - mae’n amser dechre’r parti!!!

MAE ALBWM GYNTAF CLINIGOL, MELYS, ALLAN AR 25 MAI.

19 templateyselar.indd 19

20/5/09 10:17:33


SGRIWIO CERDDORION CYMRAEG Rhyw flwyddyn nol roedd llawer o sôn am y ffaith fod newidiadau gan y cwmni sy’n rheoli breindaliadau i gerddorion yn debygol o arwain at golledion mawr i gerddorion a labeli recordiau Cymraeg, a pheri bygythiad gwirioneddol i’r sin. Ers hynny mae’r mater wedi tawelu yn y wasg a’r cyfryngau, felly penderfynodd Y Selar ofyn i Gwilym Morus dynnu sylw’r darllenwyr at y mater pwysig hwn. Does ‘na fawr neb yng Nghymru sy’n cychwyn allan mewn band pop i wneud pres. Y sylw, yr hwyl, y wefr o gael llwyth o bobl yn grwfio / neidio o gwmpas / gwrando - ia. Ond y pres? Na. Ond, mae chwarae mewn band yn costio. Mae offerynnau da yn ddrud; mae teithio i gigs yn gorfod digwydd rhywsut; mae amser stiwdio’n gallu bod yn gostus, a rhyddhau CD yn gallu bod yn boenus ar y banc. Mae pob cam o yrfa cerddor yn mynd i gostio rhywbeth neu’i gilydd, ac mewn sin cyfyng, bach fel yr hyn sydd yng Nghymru, does ‘na ddim llawer o gyfleoedd i wneud yr arian yna’n ôl. Dwi’n nabod digon o fandiau a cherddorion sydd wedi buddsoddi miloedd o bunnau yn eu cerddoriaeth,

ond i ennill ambell i ddeg punt am eu trafferthion. Ond does ‘na neb yn cwyno lawer, oherwydd fel arfer da ni gyd yn neud y pethau ‘ma allan o gariad a’r ysfa i brofi gwefr y gig byw (ac allan o’r gobaith afrealistig yna fydde ni’n “gneud hi” rhyw ddydd, pan fydd y byd yn cydnabod ein hathrylith!). Mae’r ego massage o gael ^ llwyth o bobl yn meddwl dy fod ti’n cw l am ryw awran ar nos wener yn ddigon o dâl fel arfer (ac i’r gwrthwyneb, llwyth o bobl yn meddwl dy fod ti’n dwat jest yn neud i ti weithio’n galetach at tro nesaf!). Rhaid i ni beidio anghofio fod y rhan fwyaf o’r sin bop yng Nghymru’n rhedeg ar fawr mwy nag ewyllys da. Felly sut mae cerddorion a labeli Cymraeg yn ennill digon o bres i dalu am y pethau angenrheidiol ‘na - y gitârs, y stiwdios a’r CDs? Y posteri, y PAs a’r petrol? Yn syml iawn, drwy freindaliadau sy’n cael eu talu gan y radio a’r teledu am gael defnyddio’u caneuon. Pob tro da chi’n clywed cân ar y radio neu deledu, mae’r cyfansoddwyr a’r perfformwyr yn cael eu talu ychydig. Fedra i’m meddwl am lawer

o gerddorion Cymraeg dyddiau yma sy’n gallu ariannu eu hunain ar werthiant CDs a thâl gigs yn unig. Fydden i’n tybio fod tua 90% o gerddorion pop Cymru ar hyn o bryd yn dibynnu ar y breindaliadau hyn am y rhan fwyaf o’u hincwm, a dim llai na phob un o’r labeli, ac yng Nghymru, mae bron bob ceiniog o’r arian yna’n cael ei ail-fuddsoddi yn y gerddoriaeth. Does ‘na ddim llawer sy’n gallu fforddio cymryd cut i fyw arno - mae’r rhan fwyaf yn crafu byw mewn ffyrdd eraill. I’r rhan fwyaf o gerddorion, ail-fuddsoddi taliadau breindaliadau ydi’r unig ffordd o gadw’r sioe ar y ffordd.

Huw Stephens Nos Lun a nos Fawrth am 10pm ac ar

bbc.co.uk/c2

templateyselar.indd 20

20/5/09 10:22:31


dweud ei ddweud: gwilym morus A wyddoch chi be? Ers Ebrill 2007 mae breindaliadau radio, sef ffynhonnell ariannol bwysicaf y sin bop Gymraeg, wedi bod yn gostwng yn raddol. Erbyn haf 2010 bydd y raddfa wedi disgyn tua 80% - colled o tua £1.3 miliwn i’r diwydiant cyfan pob blwyddyn. Pwy a ^ yr beth fydd goblygiadau hirdymor w hyn ar ddiwylliant iaith Gymraeg, ond fedrwch chi fod yn sicr o un peth, heb yr arian breindaliadau yna i dalu am ryddhau CDs, does dim bwys pa mor ymroddgar ac angerddol y mae cerddorion Cymru, bydd llai a llai o gynnyrch Cymraeg yn cael ei greu, ei werthu a’i ddarlledu. Bydd y blodau tlws ‘ma’n dechrau gwywo, a’r ardd yn dechrau edrych fel lle diflas iawn i fyw ynddi. Y broblem ydi, tydi’r bobl sy’n deud be ‘di gwerth cerddoriaeth ym Mhrydain, ac sy’n casglu a dosbarthu’r breindaliadau, (sef corff yn Llundain o’r enw PRS) ddim yn credu fod cerddoriaeth Gymraeg werth llawer o gwbl. Mae cerddor sy’n llwyddo i gael cân wedi ei chwarae ar Radio 1 ar hyn o bryd yn cael tua £15 pob munud. Nawr, cymharwch hynny â Radio Cymru, lle bydd cerddor yn lwcus i gael 50c y funud. Wel, digon teg, dwi’n clywed rhai ohono chi’n deud. Mae Radio 1 yn orsaf llawer mwy poblogaidd gyda mwy o wrandawyr. Ond ystyriwch hyn - petai 200 o gerddorion yn East Sussex yn penderfynu rhoi’r Fender yn y to a rhoi’r gorau i ryddhau recordiau,

templateyselar.indd 21

fyddai’r Bib hyd yn oed yn sylwi? Petai 200 o gerddorion Cymraeg yn penderfynu gwneud yr un peth, pa mor gyflym fyddai Radio Cymru’n rhedeg allan o gerddoriaeth newydd i’w chwarae? Blwyddyn? Mis? Wythnos? Dros nos? Y pwynt ydi, i Gymru, ac i Gymry Cymraeg, mae cerddoriaeth iaith Gymraeg werth llawer iawn mwy na 50c y funud. Mae cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chreu a’i darlledu mewn amgylchiadau hollol wahanol i gerddoriaeth Saesneg, a dim ond carfan fechan iawn o gerddorion sy’n gallu ei chreu, yn wahanol i’r sin Saesneg lle mae miliynau o gerddorion yn rhyddhau cynnyrch pob blwyddyn. Felly pam fod PRS yn mesur gwerth y sin Gymraeg gyda ffon fesur Saesneg? Does dim synnwyr i’r peth. Oni ddyle pris rhywbeth adlewyrchu’r ymdrech mae’n cymryd i’w greu a’r defnydd a wnaed ohono? A ddyle plymiwr o Rosybol dderbyn £5 am ddiwrnod o waith pan mae’r beipen gopr yn unig wedi costio £30 iddo? A ddyle cerddor dderbyn £1.50 am gân sydd wedi costio tua £200 iddo gael hi’n barod ar gyfer y radio neu’r teledu, a hynny heb unrhyw sicrwydd bydd y cynhyrchwyr yn penderfynu ei defnyddio hyd yn oed? ^ Na ddyle siw r dduw, yn enwedig pan mae’r orsaf radio a’r sianel deledu’n cael eu hariannu gan bres cyhoeddus, pres sydd i fod yn grant i iaith a diwylliant Cymru gyfan, ac nid jest pres chware i

haid o gyfryngis dosbarth canol lawr yng Nghaerdydd. Jest achos fod cerddorion yn creu allan o’r awydd (neu’r angen) i wneud, does dim rhaid cymryd mantais ohonyn nhw, nagoes? A pham fod PRS yn handlo breindaliadau cerddorion Cymraeg yn y lle cyntaf? Wel, does ‘na neb erioed wedi cwestiynu pam, hynny ydi, tan iddyn nhw ddechrau hacio’r blodau tlws ‘ma lawr gyda bwyell. Mae’n hen bryd i gerddorion Cymru sylweddoli fod gyno nhw’r hawl i ofyn pris teg am eu caneuon. Os ydi’r BBC ac S4C isho cerddoriaeth Gymraeg ar eu gwasanaethau, grêt, gwnewch a chroeso, ond dangoswch ychydig o barch at eich UNIG gyflenwyr yng Nghymru gan sicrhau ein bod ni’n gallu o leiaf parhau i greu cerddoriaeth, heb sôn am wneud bywoliaeth allan ohoni. Mae’n amser i gerddorion Cymru adael PRS a thrafod ein telerau’n hunain gyda’r cyfryngau Cymraeg, gan ofyn pris teg am ein gwaith, yn lle gorfod derbyn twpdra llond llong o siwts mewn swyddfa lawr yn Llundain. Mae’r cyfryngau yng Nghymru wedi cael uffar o ddil da allan o gerddorion Cymraeg ers degawdau, ond mae’r telerau newydd ma’n golygu fod ni jest yn cael ein sgriwio’n dwll gan yr union gyfryngau sydd i fod i’n cefnogi ni. Os ydan ni isho sin gerddoriaeth iach yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol, mae’n amser gwneud rhywbeth amdano, cyn fydd hi’n rhy hwyr.

20/5/09 10:22:33


adolygiadau HUD A LLEFRITH mr huw

ADH DREAMS THE STILLETOES

(COPA)

(ANKSTMUSIK)

Fel arfer wrth adolygu albwm newydd dwi’n canolbwyntio bron yn llwyr ar safon y gerddoriaeth. Ond wrth wrando ar Hud a Llefrith daeth yn amlwg nad albwm arferol mo hon! Dyma ail gynnig mr huw ar ein diddanu, a beth bynnag yw eich barn chi amdano, yn sicr mae’n ddiddanwr! Mae geiriau hollol nyts yr albwm yn awgrymu nad yw mr huw yn cymryd ei hun ormod o ddifri, ond credaf mai masg yw hyn i gerddor sy’n llawn angerdd a brwdfrydedd. Er bod pynciau reit dywyll (marwolaeth yn bennaf) yn cael eu trafod yn yr albwm, mae vibe reit hapus iddi - hafaidd a dweud y gwir. Albwm i wrando arni wrth deithio i un o wyliau’r haf eleni. Yn gerddorol mae tair cân yn sefyll allan. Pethau Bach, Ffrind Gora Marw ac Y Dyn, Y Chwedl, gyda riffs ac alawon bachog yn perthyn iddynt. Ond yn llenyddol, mae’r albwm yn gyfanwaith gwych. A yw mr huw yn ceisio dwyn mantell MC Mabon fel artist mwyaf nyts yr SRG?! Ewch i brynu copi er mwyn barnu dros eich hunain!

Pa mor cw^ l yw’r Stilletoes?! Ma’ rhaid i fi gyfadde’ - er gwarth mawr i fi - nagon i wedi clywed y Stilletoes tan i fi gael gafael ar y cd ‘ma, ac er mod i wastad ‘di meddwl bod nhw’n cw^ l (jyst drychwch arnyn nhw), waw ges i’m mhlesio. Bois bach, ma’r albwm ‘ma’n wych! Mae’n llawn angerdd, cyffro, sw^ n, ac mae jyst yn albwm da iawn iawn. Ma’ llais Efa yn unigryw

7/10 ALED IFAN

9BACH 9BATH (GWYMON) Tydi cerddoriaeth gwerin draddodiadol ddim yn apelio rhyw lawer atai. Ydi, ma’n iawn yn ei lle, ond go brin ei bod hi’n mynd i achub y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Wedi dweud hynny, mae gwerin sy’n cael ei dehongli mewn ffordd ‘wahanol’ yn fater gwahanol iawn. Dyma a geir ar albwm gyntaf 9Bach, caneuon gwerin traddodiadol gyda twist, a twist eithriadol o effeithiol ydy o hefyd. Yn yr un modd â Gareth Bonello, mae Lisa Jên Brown a’i gw^ r Martin Hoyland yn defnyddio caneuon sy’n

22

ac yn amrwd, ac mae geiriau’r caneuon yn glyfar, yn onest ac yn profocio. Ma’ digon o amrywiaeth i’r caneuon, dim jyst ‘sgrechen’ (chwedl dad), ac ma Caeth i Gymru yn saib amserol reit yng nghanol yr albwm. Dyma gân sy’n cwestiynu Cymru a ffordd y Cymry o afael yn dynn ar yr iaith. Mae ‘na lot o gwestiynu gwleidyddol yma, ac mae’n ddiddorol gwrando’n ofalus ar y geiriau a neges y band. Ma’ rhywbeth yn wahanol ymhob cân, dwi’n hoff o

Hypocrite Hyper Shit yn enwedig, ac wrth gwrs y gân sy’n agor yr albwm gyda bang - Smoke’n’Snort. Mae’n albwm eitha’ hir gyda 14 cân ac mae’n

teimlo’n albwm llawn. Dwi’n ffan, a ddylech chi fod hefyd! Dim whare. 8/10 LOWRI JOHNSTON

^

OS MEWN SWN HUW M Gan fod Cymry’n rhoi llawer o bwys ar farn sylwebyddion o’r tu allan ac yn cael trafferth meddwl dros eu hunain ar brydiau, efallai bydd gan rai ohonoch chi ddiddordeb mewn clywed fod Stuart Maconie ar BBC 6 Music wedi disgrifio’r trac Rhywbeth Dros Dro wrth ei chwarae fel ‘A stunningly beautiful piece of music’. Sy’n hollol wir, ond nid yw’n gân sy’n sefyll allan ar yr albwm yma, oherwydd mae mwy ohonynt, o oes. Pob un wan jac i ddeud y gwir! Aeddfedrwydd meddyliol fydd yn gwahaniaethu barn am Huw M. Os wyt ti’n ystyried cân newydd Green Day yn fuddugoliaeth ysgubol yna ni fyddi’n neidio mewn gorfoledd i hwn. Ond os ydi treulio pnawn poeth o haf yn

adnabyddus i ni gyd, ac yn rhoi stamp unigryw eu hunain arnyn nhw. Yr hyn sy’n creu argraff ar yr albwm hon ydy’r modd cynnil maen nhw wedi mynd o’i chwmpas hi. Oes, mae ‘na ddefnydd o offerynnau ‘modern’, ond y defnydd amgen ar offerynnau traddodiadol,

y delyn, y cello, sy’n creu’r argraff fwyaf. Wedi dweud hynny, mae’r bas a’r offerynnau taro hefyd yn iasol ar adegau. Dyma albwm gynnil a chlyfar iawn - gwerin gyda gwahaniaeth. 7/10 OWAIN SCHIAVONE

D

RHAI La Rochelle yn swnio’n apelgar ^ NDO yna bydd Os Mewn Swn yn albwm GWRA perffaith. Nid mod i ‘di gwneud y fath beth chwaith, ond ma’n swnio’n amser hyfryd, lle bynnag y mae’r dref yng nghân Plethyn. Defnyddiwyd y gymhariaeth annoeth yna o bosib oherwydd bod awyrgylch Ffrengig i fwy nag un gân, a hynny yn fendigedig yn Y Drôr sy’n Dal y Sanau, sydd yn gân mor wych dwi’n ystyried gweddill y caneuon fel planedau ffrwythlon perffaith o amgylch ei haul gogoneddus yn y system solar hyfryd a yw Os Mewn Sw^ n. Hwre ar bob cyfrif. 8/10 HEFIN JONES

MELYS CLINIGOL Pop, hip hop, dawns, electro, R&B a Margaret Williams be arall sydd ei angen de! Mae bron bob elfen o gerddoriaeth i’w chlywed ar yr albwm hon. Wedi dweud hynny, y dylanwad mwyaf amlwg ydy synths yr wythdegau. Wrth wrando ar yr albwm yn ei chyfanrwydd mae’n anodd peidio â chlywed sain debyg i ‘Neon Neon’ ddim bod hynny yn beth drwg o bell ffordd. Mae Siwan Morris, Cofi Bach, Nia Medi, Margaret Williams, Heather Jones a Marged Parry i gyd yn cyfrannu’n lleisiol i’r albwm sydd yn golygu

fod yna ddimensiwn gwahanol ar gyfer bron pob cân. Oherwydd hyn mae’r albwm yn llwyddo i gadw diddordeb rhywun o’r dechrau i’r diwedd. Fy hoff gân i ar yr Albwm ydy Hufen Iâ gyda Marged Parry. Cân llawn hwyl ac er iddi gael ei rhyddhau fel sengl ym mis Ionawr, cân ar gyfer yr haf ydy hi heb os. Does yna ddim llawer o grwpiau sydd yn creu pop electronig yn y Gymraeg felly mae’n braf gweld band fel Clinigol yn ymddangos ar y sin. Hwre! 8/10 DEWI SNELSON

yselar@live.co.uk

templateyselar.indd 22

20/5/09 10:22:38


www.sainwales.com www.rasal.net www.myspace.com/gwymon www.myspace.com/labelcopa

O

miwsig, miwsig, rhowch i mi . . . . Huw M Os Mewn Swn

Rasal LL014 - £6.32 iTunes yn unig. Allan nawr

Yr Ods Fel hyn am Byth Ffordd ti’n troi dy Lygaid

Copa LL005 - £1.58 iTunes yn unig. Allan nawr

Mr Huw Hud a Llefrith

Copa CD006 - £9.78 Allan nawr

Mr Huw Ffrind Gora Marw

Copa LL008 - £0.79 iTunes yn unig. Allan nawr

Al Lewis Trywydd Iawn

Rasal LL015 - £0.79 iTunes yn unig. Allan nawr

The Gentle Good While you slept I went out walking Gwymon CD004 - £12.70 Allan nawr

Lleuwen Lili Wen Fach

Gwymon LL006 - £0.79 iTunes yn unig. Allan nawr

Goreuon Bryn Fôn Sain SCD2615 - £9.78

Al Lewis Band Sawl Ffordd Allan

Rasal CD028 - £9.78 Dyddiad rhyddhau : 01/06/09

9Bach

Gwymon CD007 - £9.78 Dyddiad rhyddhau : 15/06/09

Daniel Lloyd Tro ar Fyd

Rasal CD029 - £9.78 Dyddiad rhyddhau : 06/07/09

Derwyddon Dr Gonzo Stonk!

Copa CD007 - £9.78 Dyddiad rhyddhau : 27/07/2009 Mynnwch gopi! Ewch i wefan Sain

www.sainwales.com neu mae modd i chi lawrlwytho traciau unigol o iTunes

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497 archeb@sainwales.com

templateyselar.indd 23

23 20/5/09 10:22:49


templateyselar.indd 24

20/5/09 10:53:55