Page 1

y Selar Rhif 38 | Awst | 2014

MAE O NÔL ...

YWS GWYNEDD

y-selar.co.uk Mellt | Y Trŵbz | Selar 10 | adolygiadau

1


Candelas – un o’r 12 artist sydd wedi cael eu dewis ar gyfer Gorwelion 2014 – i’w gweld ar lwyfannau gwyliau Cymru dros yr Haf. Wythnos yr Eisteddfod mae Candelas, Swnami, Chris Jones, Casi, a Plu yn chwarae ar hyd a lled yr Ŵyl . Dewch draw i Tipi Caffi Maes B/Gorwelion. Mae Gorwelion yn gynllun gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru.

bbc.co.uk/gorwelion


y Selar

cynnwys

RHIF 38 | Awst | 2014

Yws Gwynedd

4

Golygyddol

O glawr i glawr

8

Ti ’di clywed ...

11

Fel yr ydym yn gwybod, mae’r haf bedair wythnos yn fyrrach unwaith bob pedair blynedd. Dwi fel sawl un arall yn gwneud dim ond eistedd o flaen teledu’n gwylio pêl droed tra mae’r haul yn tywynnu tu allan. Ond peidiwch â phoeni, mae Cwpan y Byd drosodd, felly fe gawn ni ganolbwyntio ar y gerddoriaeth rŵan. Yn y rhifyn hwn cawn glywed gan yr Almaen (Gwenno) – rhywun sydd wedi ei wneud o i gyd o’r blaen ac yn ôl ar y brig; Bosnia Herzegovina (Y Trŵbz) – y criw newydd (ond addawol) ar y sin; Chile (Mellt) – ifanc, cyffrous, egniol; a Brasil (Yws Gwynedd) – wedi profi llwyddiant fel tîm yn y gorffennol a bellach yn dîm un dyn! Peidiwch â phoeni, tydi Gwenno ddim yn rhoi coblyn o gweir i Yws Gwynedd ar dudalen olaf ond un, mwynhewch! Gwilym Dwyfor

Mellt

12

Trydar @gwennosaunders

15

Priodas Gythryblus, Priodas Gyfleus

16

Adolygiadau

20

Y Selar 10

22

4

8

Llun clawr: Rhys Llwyd

12

20

GOLYGYDD Gwilym Dwyfor UWCH OLYGYDD Owain Schiavone (yselar@live.co.uk)

@y_selar

DYLUNYDD Dylunio GraffEG (elgangriffiths@btinternet.com)

facebook.com/cylchgrawnyselar

MARCHNATA Ellen Davies (hysbysebionyselar@gmail.com)

CYFRANWYR Casia Wiliam, Griff Lynch, Bethan Williams, Owain Gruffudd, Ifan Prys, Ciron Gruffydd, Miriam Elin Jones, Cai Morgan, Lois Gwenllian

yselar@live.co.uk

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi. Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.


“O da ni nôl...” oedd rhai o eiriau mwyaf adnabyddus y sin ychydig flynyddoedd yn ôl pan yr oedd Frizbee ar eu hanterth. Wel, tydi Frizbee ddim yn ôl (bwmerangs sy’n gwneud hynny), ond mae’r gitarydd a’r prif leisydd, Yws Gwynedd, yn ôl gydag albwm unigol newydd sbon.

Geiriau:OWAIN GRUFFUDD

Y NOSTALGIA A’R NEWYDD

C

oeliwch neu beidio, mae hi’n chwe blynedd bellach ers i Ywain Gwynedd a Frizbee ddiddanu cynulleidfa Maes B, gyda’u caneuon bachog a’u geiriau cofiadwy, am y tro olaf. Yn gyfrifol am rai o ganeuon Cymraeg mwyaf poblogaidd y deg mlynedd diwethaf, fe ddaeth y band o Flaenau Ffestiniog i ben yn 2008, gan adael bwlch amlwg yn yr SRG. “Oedd ’na lot o resymau dros ddod â’r band i ben ar y pryd,” eglura Ywain Gwynedd wrth edrych yn ôl. “Odd y busnas breindaliadau’n disgyn yn mynd i effeithio ni lot, gan ein bod ni’n fand llawn amser, oedd yn golygu bod angen i ni ennill tua £70,000 y flwyddyn. Cyflog bach oedda ni’n gael allan o’r band ar y pryd, oedd ddim yn ddigon i dy gynnal di fel oedolyn.” “Oeddan ni ’di gwneud bob dim oedda ti’n gallu ei wneud yng Nghymru. ’Dio’m yn iawn mynd y sdêl yn y Sin Roc Gymraeg. Ma’ angen i chdi ffeindio ffyrdd i ail-ddarganfod dy hun, a ’di hynny ddim yn hawdd os ’dio ddim yn talu.” Ers hynny, mae Ows ‘Coch’, oedd ar y gitâr fas, wedi mynd

4

y-selar.co.uk

ymlaen i fod yn brysur iawn gyda Masters In France. Ond beth yn union mae Ywain, wyneb a chymeriad amlwg yn y sin yn ystod degawd cyntaf y mileniwm, wedi bod yn ei wneud yn y chwe blynedd diwethaf? “Odd mynd i fywyd mwy normal, gweithio o ddydd i ddydd fel saer coed, yn rhywbeth oedd yn fy siwtio i’n well erbyn hynny.” Un peth wnaeth ddim diflannu serch hynny oedd chwant Ywain i ’sgwennu caneuon. “Ti’n sôn am tua ugain o ganeuon o’n i ’di sgwennu ond heb eu gorffen, gan fod ’na’m byd i neud hefo nhw. Ti’n ’sgwennu pennill a chytgan, sy’n swnio’n grêt, ond nei di’m gorffan achos does ’na’m rhaid.” Ond, wedi chwe blynedd o seibiant, mae Ywain yn teimlo mai rŵan ydi’r adeg i ddychwelyd. “Ma’ lot ohona fo lawr i Sŵnami, a bandiau tebyg iddyn nhw. Nes i rili joio stwff cynnar Sŵnami, a dwi’n mwynhau’r stwff diweddar ’fyd, a nath o neud i fi deimlo, ella fod ’na rwbath yn codi eto yn y sin a ’swn i’m yn meindio bod yn rhan ohono fo. Ma’ nhw’n gyffrous i mi achos eu bod nhw’n dod â


Lluniau: Rhys Llwyd

rwbath cyfoes i mewn i bobl glywad yn Gymraeg.” “Yn draddodiadol yn y sin, ac efallai bod Frizbee yn euog o hyn, ma’ pawb tua blwyddyn neu ddwy tu ôl i’r hyn sy’n digwydd yn y mainstream. Ond dwi’n teimlo fod bandiau fel Sŵnami, Yr Eira, Yr Ayes a Bromas yn cyflwyno cerddoriaeth gyfoes, debyg i be’ ’sa chdi’n glywad yn rhywle yn y charts, ond yn Gymraeg.” Gyda’r tân yn ei fol, a’r caneuon yn llifo unwaith eto, mae’n rhaid bod adfywiad Frizbee wedi bod yn un opsiwn? “Nes i ffonio Ows ha’ dwytha, ac esbonio y bydd hi’n ddeg mlynedd ers i Hirnos, yr albwm cynta’, ddod allan, a gofyn a oedd o ffansi gneud ’chydig o gigs dros yr ha’” meddai Yws. “Oedd o’n beth eitha’ diog i holi, a gan fod o efo Masters In France doedd o’m yn siŵr be’ ’sa fo’n neud. Os oeddan ni am neud unrhyw beth efo Frizbee, ’sa hi ’di bod yn well ’i neud o’n iawn a chal albwm newydd allan. Unwaith nath o ddeud fod o’m yn siŵr, nes i feddwl yn syth, ma’ angen i mi gal y caneuon ’ma allan neu fydda i ’di mynd yn nyts!”

FFURFIO BAND Gydag adfywiad Frizbee allan ohoni, roedd rhaid ystyried opsiynau eraill. “Nes i gyfarfod Ifan Davies, Sŵnami, yn y stiwdio Ferlas efo Rich [Roberts],” meddai Ywain gan ddechrau disgrifio’r broses o ffurfio band newydd. “Nes i gynnig iddo fo ddod draw i’r stiwdio efo fi, a thra oedda ni yno, nes i benderfynu bod ’chydig yn cheeky a gofyn a fysa fo’n chwara’ ar gwpwl o’r tracs. Munud o’n i ’di clywed y stwff odd o ’di chwara’ ar y tracs, nes i holi os oedd o ffansi bod yn gitarydd i’r band byw.” “Wedyn Ems ar y gitâr fas, o’n i’n ei nabod o ar ôl gneud ’chydig o gigs efo Vanta, tra o’n i efo Frizbee. A nath Rich, oedd yn cynhyrchu’r caneuon newydd, ddeu’tha i ’sa fo ffansi chwara’ dryms achos ’di o erioed ’di drymio mewn band o’r blaen. Odd o’n chwara’ bas i Y Rei a gitâr a chanu efo Gola Ola, felly oedd o’n brofiad newydd iddo fo.”

y-selar.co.uk

5


Wrth gwrs, wedi seibiant mor hir ers recordio a pherfformio, hawdd fyddai maddau i Ywain am ddychwelyd gyda sengl neu EP, cyn mynd amdani gydag albwm cyfan. Ond, roedd hi’n dasg amhosib ceisio dewis a dethol caneuon i wneud record fer yn unig. “Oedd ’na ormod o ganeuon! ’Swn i ’di gorfod rhyddhau EP arall yn syth wedyn. Os di’r caneuon gen ti, waeth i chdi gael nhw allan yna. Nes i ’sgwennu rhai newydd sbon ar gyfer yr albwm hefyd, achos allan o tua ugain cân, oedd ’na gwpwl o rai canu gwlad, cwpwl o rai gwerin, ond yn fwy na dim caneuon roc. Pan es i ati i neud yr albwm, oni’n meddwl – dwi jyst digon ifanc i gal get away efo albwm roc efo ’chydig o fynd iddo fo.” Felly gyda band yn ei le a chynllun pendant yn ei feddwl, fe aeth Ywain ati i greu’r albwm newydd, Codi/\Cysgu. Ond sut fyddai o’n disgrifio sŵn y caneuon newydd tybed? “’Dio’m yn annhebyg i Frizbee, ond maen ’na ’chydig o wahaniaeth, yn enwedig yn y ffordd mae o ’di cael ei gynhyrchu. Y noson cyn i fi fynd i’r stiwdio am y tro cynta’, o’n i’n gwbod mod i’n mynd i recordio’r gân ‘Neb Ar Ôl’, ond yr unig beth oedd yn mynd trw’ fy mhen i oedd cerddoriaeth steil mariachi, steil cyrn Mecsicanaidd. Pan es i at Rich y diwrnod wedyn ac awgrymu gneud albwm mariachi – oedd o’n edrych ’di drysu arna i! Erbyn y diwedd, oedd y cyrn ’ma’n swnio’n ocê ar ‘Neb Ar Ôl’, ond ’sa fo heb swnio’n iawn ar unrhyw beth arall.” “Ar y llaw arall, oedd ‘Sebona Fi’ yn gân o’n i ’di sgwennu’n benodol i gal ’chydig o hwyl dros yr haf – cân up-beat bositif. Ond os fysa Frizbee ’di rhyddhau honna, ella ’sa hi ’di swnio fymryn yn wahanol.”

6

y-selar.co.uk

Gigio Eto Ond beth am y gigs byw dros yr haf? Bydd nifer o ffans Frizbee yn awyddus i wybod os fyddwn ni’n clywed ’chydig o’r hen glasuron yn ogystal â’r caneuon newydd. “‘Da ni am neud cwpwl o’r hen ganeuon. Ma’r hogia ’di dysgu ‘Ti (Si Hei Lw)’ a ‘Heyla’, ac wedyn ella fydda i’n gneud un neu ddwy ar ben fy hun cyn i’r band ddod ymlaen. Os ’di pobl isho clywad caneuon Frizbee, dyna gawn nhw.” “O’n i wedi ystyried peidio chwara’ nhw o gwbl, nid achos fod gen i gywilydd, ond er mwyn cychwyn rhywbeth newydd go iawn. Nes i sgwennu ambell gân Frizbee efo Ows Coch, ond dwi’m yn meddwl ’swn i’n gneud rheiny’n fyw achos ’sa fo’n teimlo’n rhyfadd.” Ar ddiwedd wythnos Eisteddfod Llanelli eleni, bydd Ywain yn dychwelyd i lwyfan Maes B am y tro cyntaf ers 2008. Bydd yn chwarae ar y nos Sadwrn gyda bandiau fel Endaf Gremlin a Sŵnami. Sut felly mae Yws yn teimlo am ddychwelyd i’r llwyfan mawr unwaith eto, lle chwaraeodd Frizbee rhai o’u gigs mwyaf cofiadwy? “Dwi wir yn edrych ’mlaen at fynd nôl i Faes B. ’Da ni’n gweithio ar gwpwl o covers. Ar nos Sadwrn, ma’r pwysa’ yna achos ma’ pawb yn disgwyl rhywbeth gwahanol gin ti. Pan o’n i efo Frizbee, odd y pwysa’ arnom ni – er, doeddan ni’m yn gneud dim byd rhy arbennig bryd hynny! Ond eleni, Sŵnami sy’n cloi felly mae’r pwysau i neud rwbath gweledol arnyn nhw, ac nid ni, sy’n eitha’ neis!” Felly gyda haf hir o berfformio o’i flaen, mae Ywain yn gobeithio y bydd un traddodiad Frizbee yn dychwelyd i’w groesawu’n ôl. “Dim ond unwaith ddaru hi ’rioed fwrw glaw mewn gig Frizbee, oeddan ni wastad i weld yn dod â’r haul efo ni! Gobeithio fod hynny’n parhau tro ’ma a bod yr haul yn tywynnu arna i!”


Amser Parti ar y maes

yn ‘Steddfod Llanelli? Parti i ddathlu gyda Chyngor Sir Gâr Dydd Gwener, 2pm, Awst 8fed, Uned Cyngor Sir Gâr

Dewi Pws, Andrew Teilo, Iola Wyn, Cyng. Cefin Campell, Cyng. Calum Higgins, Mared Ifan, Bromas, Y Banditos, Castro, Kariad y Clown

Hawliau yn yr oes ddigidol: democratiaeth a chreadigrwydd 3:30pm, Dydd Llun, Awst 4ydd, Pabell y Cymdeithasau 2

Gigs drwy gydol yr wythnos yn y dref …

Sefydlu Hawliau Clir i’r Gymraeg: Lansio Her i’r Safonau Iaith Dydd Mawrth, 2:30pm, Uned Cymdeithas yr Iaith Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau 2pm, Dydd Mercher, Awst 6ed, Uned Oxfam Cymru

Prynwch eich tocynnau yma: cymdeithas.org/steddfod

Clwb Rygbi Ffwrnes | Y Thomas Arms | Y Kilkenny Cat Meic Stevens, Crys, Candelas, Breichiau Hir, Brython Shag, Mattoidz, Pocket Trez, Steve Eaves, Ail Symudiad, Gwenno, Colorama, Bob Delyn a llawer mwy

hysbyseb CYIG Selar.indd 1

21/7/14 13:53:51

3 Chasgliad Gwerthfawr

Chris Jones Dacw’r tannau Bydd y canwr gwerin, Chris Jones, o Cwm y Glo ger Caernarfon yn rhyddhau albym ar label Gwymon mis Medi. Mae Chris hefyd yn un o artistiaid Gorwelion BBC Cymru – bydd yn perfformio led led Cymru dros yr wythnosau nesaf

Caneuon Heddwch, i gofnodi canmlwyddiant Y Rhyfel Mawr o safbwynt wahanol, yw’r trydydd mewn cyfres o dri a gyhoeddwyd gan Sain yn ddiweddar. Y cyntaf oedd Caneuon Protest, sy’n gasgliad gwerthfawr o ganeuon mwyaf herfeiddiol yr hanner can mlynedd ddiwethaf, a’r ail oedd Caneuon Gwladgarol, casgliad amrywiol o sawl math o ganu yn mawrygu Cymru, ei hanes, ei phobol a’i hiaith. Gyda’i gilydd, dyma dalp mawr o ddiwylliant a hanes Cymru ar gân

www.sainwales.com ffôn 01286 831.111 sain@sainwales.com


O GLAWR I GLAWR... I GLAWR Un clawr fydd yn cael sylw’r eitem hon fel arfer ond mae rhywbeth arbennig iawn yn digwydd yn yr Eisteddfod eleni felly fe benderfynom wneud eithriad. Mae’r brifwyl, gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri, wedi paratoi arddangosfa o rai o gloriau mwyaf cofiadwy’r deugain mlynedd diwethaf. Rhys Aneurin yw’r gŵr wrth y llyw.

Geiriau:Gwilym DWYFOR

A

g yntau’n gerddor ac yn ddarlunydd, dichon mai Rhys Aneurin oedd y dewis amlwg i guradu arddangosfa o’r fath felly dechreuais trwy holi sut brofiad oedd o. “Profiad hynod o ddiddorol, dwi ’di dysgu lot ac wedi cael ail-ymweld â llawer o gloriau ardderchog. Dwi’n ddiolchgar iawn am gael gweithio ar rywbeth sydd mor agos at fy nghalon, a chael clywed gan gymaint o wahanol bobl am eu hoff gloriau.” Dyna gam cyntaf Rhys, holi toreth o arbenigwyr y sin am eu hoff gloriau, yn hyrwyddwyr, ysgrifennwyr, rheolwyr labeli, DJs, cynhyrchwyr, cyflwynwyr ac awduron. “Mae’r bobl dwi ’di holi yn amrywio o rywun fel Glyn Tomos, golygydd Sgrech yn yr 80au, i ddarlunydd posteri gigs heddiw fel Steffan Dafydd. Roeddwn eisiau canolbwyntio ar unigolion sy’n cynrychioli ochr fecanyddol y sin.” Dyma garfan bwysig sydd yn cael eu hanghofio yn nhyb chwaraewr synths Yr Ods. “Dwi wir ddim yn teimlo fod digon o gefnogaeth ariannol yn mynd i ochr fecanyddol y sin - wedi’r cyfan, be’ di’r pwynt helpu i greu’r gerddoriaeth os nad oes yna wedyn rywun i’w hyrwyddo? Mae angen helpu trefnwyr gigs, helpu pobl ddechrau labeli, ffansins, gwneud y pethau dydyn nhw ddim bellach yn gallu eu gwneud oherwydd natur economaidd heddiw.”   Mae Rhys yn dipyn o gasglwr recordiau ei hun, er ei fod yn cyfaddef y byddai’n... “prynu llawer mwy ’swn i’n gallu

8

y-selar.co.uk

fforddio, ond ma’ rhai recordiau’n blydi ddrud erbyn hyn.” Gellir dychmygu felly ei fod wedi bod wrth ei fodd yn olrhain deugain mlynedd o hanes y sin trwy gyfrwng ei chloriau. Ond pam deugain mlynedd? Wel, gan fod 2014 yn dynodi pedwar deg mlynedd ers rhyddhau un o’r records ac un o gloriau mwyaf eiconig y sin Gymraeg, Salem, Endaf Emlyn. Doedd Rhys ddim am ddatgelu’r cwbl am gynnwys yr arddangosfa ond fe gawsom flas ar dri chlawr chwaraeodd ran yn yr ymchwil, gan ddechrau wrth gwrs gyda’r un a fu’n ysbrydoliaeth i’r holl beth.  SALEM – ENDAF EMLYN (SAIN, 1974) Clawr gan Elwyn Davies yw hwn, ond yn seiliedig wrth gwrs ar ddarn hynod enwog Sydney Curnow Vosper, o’r un enw. “Roeddwn yn meddwl ei fod yn fan dechrau da i’r arddangosfa,” eglura Rhys. “Cafodd Salem ei ryddhau 40 mlynedd yn ôl, ac er ei fod yn gopi o baentiad, mae ganddo ansawdd arbennig ei hun, sy’n cynnig dimensiwn gwahanol i’r gwreiddiol. Dwi’n hoff o sut mae’r lliw yn mynd a dod mewn rhannau o’r llun, fel ei fod yn datgymalu’r olygfa a roddir gan baentiad Vosper - yn yr un ffordd y mae Endaf Emlyn yn creu albwm gysyniadol o gwmpas y stori.”


o glawr i glawr Does dim dwywaith fod Salem yn haeddu ei le mewn unrhyw arddangosfa o’r fath ond nid hwn yw fy hoff glawr Endaf Emlyn i. Mae Syrffio Mewn Cariad yn cŵl ac o flaen ei amser, ond eto, Salem, sydd yn aros yn y cof i nifer o bobl, pam hynny tybed? “Oherwydd ei fod wedi’i selio ar ddarlun llawer mwy enwog a chofiadwy efallai. Ond cytuno, mae Syrffio Mewn Cariad yn hynod o ddeniadol. Deud y gwir, mae rhan helaeth o gloriau Endaf Emlyn wedi bod yn dda. Dawnsionara yn glawr neis iawn, er bod y sgwennu ar yr ochr yn ei sbwylio. Llun hyfryd o adeilad.” HYSBYSEBION - MAFFIA MR HUWS (PESDA ROC, 1983) Dyma, mae’n debyg, un o’r cloriau mwyaf dyfeisgar yn hanes y sin. Fel yr eglura Rhys, “mae’r syniad gafodd Maffia yn 1983 o lenwi llawes gatefold 12” yn llawn o hysbysebion yn beth a elwir yn Saesneg yn stroke of genius.” Roedd o’n syniad gwreiddiol yn sicr, yn edrych yn drawiadol ond yn ariannol ymarferol hefyd! “Nid yn unig oedd o’n ffordd anhygoel o dda o gael nawdd sylweddol i ariannu’r record, ond roedd hefyd yn ffordd effeithiol iawn o hybu busnesau, mudiadau a chymdeithasau Cymraeg lleol. Mae’n ddiddorol (a thrist) iawn edrych trwy’r hysbysebion heddiw a gweld faint ohonyn nhw sydd dal i fynd.” Eglura Rhys wedyn sut i Ffa Coffi Pawb efelychu’r syniad wrth ryddhau ‘Allan o’i Phen’. Roeddwn i’n awyddus i wybod felly os oedd Rhys yn meddwl y gallai’r dechneg ryddhau hunangynaliol yma weithio heddiw? “Welai’m pam lai - mae digon o fusnesau bach Cymreig sa’n gweld gwerth mewn ffordd “hen ffasiwn” o hysbysebu. Mewn oes lle ma’ ’na Tesco rownd pob cornel, dwi’n meddwl fod pobl dal eisiau cefnogi busnesau bach Cymreig pan y gallen nhw. Sa’n hynod ddiddorol gweld band yn trio hyn rŵan, ‘runig beth, dwi’n meddwl bysa’n rhaid i’r band hwnnw ddod o Pesda - syniad gwych Pesda ydi o!” Ond onid yw’r sin neu’r diwydiant cerddoriaeth wedi newid gormod erbyn heddiw? “Mae yna gred gan rai mai rhyddhau’n ddigidol ydi’r unig beth angenrheidiol, ond dwi’n meddwl, na, gwybod, fod gofyn mawr am gloriau da ar recordiau, rhywbeth

i’w ddal a’i werthfawrogi. R’un peth gyda llyfrau - waeth pa mor boblogaidd eith Kindle, wneith llyfrau byth farw.” S4C MAKES ME WANT TO SMOKE CRACK VOL. 2 AMLGYFRANNOG (ANKST, 1996) “Os nad oedd y geiriau mawr cras, gonest ar glawr y gyntaf yn y gyfres hon (S4C Makes Me Want to Smoke Crack vol. 1) yn ddigon o safiad, bwriad yr ail oedd parhau â’r un sentiment a rhoi delwedd iddi,” meddai Rhys wrth gyflwyno’i drydydd dewis. “Pa ffordd weledol well o fynegi tueddiad chwdlyd S4C o sbïo nôl ar ‘yr oes aur’ a fu - tra’n anwybyddu’r diwylliant Gymraeg oedd yn bodoli ar y pryd – na thrwy ddefnyddio hen lun o gôr merched!” Parti Ffynnon yw’r côr hwnnw a defnyddir y llun o glawr eu record, Diolch i’r Iôr, ac fel yr eglurodd Rhys, “doedd ambell aelod ddim yn diolch i’r Iôr am yr ail-ddefnydd o’u llun!”  Roedd y clawr gwrth-sefydliadol yn gweddu’n berffaith i gynnwys cymharol amgen ac arbrofol y casgliad amlgyfrannog. “Mae’n glawr sy’n ein hatgoffa o wers bwysig, nid yn unig i S4C, ond i ni gyd fel Cymry Cymraeg. Tra mae’n hynod bwysig edrych yn ôl ar hanes ein diwylliant, ei ddadansoddi a’i fwynhau, ddylsen ni byth wneud hynny ar draul canolbwyntio ar beth sy’n digwydd yn ein diwylliant heddiw.” Clywch clywch, ac mae’n debyg mai hwn, o’r tri, yw’r clawr mwyaf perthnasol i ni heddiw. Ond pe bai rhywun am greu fersiwn 2014, pwy fyddai’r dylunydd yn ei roi arno tybed? “Dwi’m yn gwybod... ond ’swn i’n archwilio’r syniad mod i’n meddwl fod yna ddiffyg hyder mawr o fewn S4C i gymryd risg a gadael i gwmnïau bach ac unigolion wneud pethau. Mae yna gymaint o raglenni sydd jes methu ymbellhau o’r syniad ffug ’ma o glitz a showbiz sydd wedi aros fel oglau drwg ers y 90au, wastad yn sbio at Lundain, ac yn gwneud fersiynau crap. Mae angen rhoi cyfle i gwmnïau bach allu adlewyrchu beth sy’n digwydd. Mae yna le am bethau big budget fel Y Gwyll, ond mae yna le am bethau cyllideb isel fel Dim Byd hefyd.”    Un peth sy’n amlwg yw angerdd Rhys dros gelfyddyd ym mhob cyfrwng, felly da chi, achubwch ar y cyfle i fynd i weld ei arddangosfa ar faes y Brifwyl yn Llanelli.

y-selar.co.uk

9


Swn? Mae’n debyg mai ‘Estyn Am Y Gwn’ yw cân fwyaf ^ adnabyddus y band yn dilyn eu llwyddiant ym Mrwydr y Bandiau. Roc anthemig fyddai’r ffordd orau o ddisgrifio sŵn honno o bosib ond mae digon o amrywiaeth yn steil y band fel yr eglura Mared eto. “Mae ‘Estyn am y Gwn’ yn roc trymach, lle mae caneuon eraill yn amrywio o fod yn reit bluesy i fod yn upbeat a funky.”

Dylanwadau? Roedd Rhodri’n ddylanwadol iawn o ran ysgogi’r criw ifanc i ffurfio’r band yn y lle cyntaf a rhoi hyder iddynt cyn camu o’r neilltu. O ran dylanwadau ehanghach mae Mared yn rhestru amrywiaeth diddorol. “Rydan ni gyd yn ffans o fandiau roc fel Led Zeppelin ac Edward H. Dafis ond mae gennym ein dylanwadau personol hefyd. Fel cantores rydw i’n hoff o Eva Cassidy a Stevie Nicks; caiff Morgan ei ddylanwadu gan bobl fel Johnny Cash a Bob Dylan; mae Tommo’n mwynhau AC/ DC, Black Keys a Ben Howard; a Gruff wedyn yn ffan o Chad Smith o’r Red Hot Chili Peppers a roc mwy diweddar fel Arctic Monkeys.” Cymysgedd difyr heb os!

.. Ti d . d

Y Trwbz

yw i Cl e

ifanc o Sir Conwy. Daw Mared (prif lais) o Lannefydd, Gruff (dryms) a Morgan (bas) o Lansannan a Tommo (gitâr) o ochrau Cerrigydrudion. “Mi wnaethon ni ffurfio i ddechrau gyda Jacob (brawd Morgan a chefnder Tommo) a’u hewythr, Rhodri yn canu,” eglura Mared. “Nes i ymuno pan aeth Jacob i Awstralia, diwedd haf diwetha’.”

.T d .. i d

PWY? Enillwyr Brwydr y Bandiau C2 2014 oedd Y Trŵbz, band

y w l C e i

Ar y Gweill? Un o uchafbwyntiau’r haf i Y Trŵbz fydd chwarae ym Maes B Eisteddfod Llanelli ar y nos Wener fel rhan o wobr Brwydr y Bandiau ond mae gan y band gynlluniau i fentro i’r stiwdio hefyd. “Ein gobeithion eleni yw cael recordio’r holl ganeuon sydd gyda ni on the go ac ehangu ein set gyda mwy o ganeuon gwreiddiol,” eglura Mared. “Rydan ni’n ysu i gael rhyddhau mwy o ganeuon a chyfrannu i’r sin! Dan ni hefyd yn aros i gael sesiwn radio a sesiwn lluniau proffesiynol gan C2.”

Uchelgais? Parhau i gigio ydi nod Y Trŵbz yn y tymor byr gan ehangu eu sŵn a chyfrannu i’r sin. Wedi hynny, gobeithia’r band adael eu marc trwy ryddhau deunydd a pharhau i gigio. “Yn y tymor hir, mae rhyddhau ein caneuon i gyd yn amlwg yn rhywbeth i’w gyflawni. Ond hefyd mi fuasai cael mwy o gyhoeddusrwydd a chwarae efo un o’n dylanwadau mewn gŵyl fawr yn ideal!”

Hyd yn hyn? Ennill Brwydr y Bandiau yw uchafbwynt y grŵp hyd yn hyn ond maent wedi bod yn brysur trwy gydol 2014. “Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi cael llawer o gyfleoedd i chwarae mewn tafarnau lleol, gigs elusennol ac ychydig o wyliau bach. Rydym wedi cefnogi Gai Toms ac Yws Gwynedd, chwarae ar faes Eisteddfod y Bala, yn Wa Bala Bach ac yn Rali Ffermwyr Ifanc Clwyd! Er hyn, yn amlwg roedd Brwydr y Bandiau yn uchafbwynt aruthrol oherwydd y sesiwn recordio, cynigion gigs, cyfweliadau a chael clywed y gân fuddugol ar y radio - profiad gwerth chweil!”

Barn Y Selar Rhaid cofio fod Brwydr y Bandiau, fel sawl cystadleuaeth gerddorol arall yn gymaint o linyn mesur poblogrwydd ag yw hi o linyn mesur cerddorol. Teg dweud mai cymysg yw tynged rhai o’r enillwyr wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hi’n rhy fuan felly i ddyfalu pa lwybr fydd i’r Trŵbz ar hyn o bryd ond yn ‘Estyn am y Gwn’ mae ganddynt yn sicr un gân fachog gofiadwy yn barod. Mae’r intro gitâr yn fy atgoffa i fymryn o Sen Segur cyn i lais Mared ymuno gyda’i ansawdd Heather Jones-aidd ar adegau. Bydd y flwyddyn nesaf yn un bwysig iddynt wrth iddynt saernïo eu sŵn a datblygu fel band. Amser a ddengys!


Camgymeriad ambell fand ifanc yw rhuthro i’r stiwdio unwaith y mae C2 wedi rhoi mymryn o sylw iddynt, a hynny cyn eu bod yn barod mewn gwirionedd. Mae Mellt yn fand ifanc ond ni ellir anelu’r feirniadaeth honno atyn nhw. Mae’r rocars o Aberystwyth yn brofiadol er gwaethaf eu hoedran, wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd, wedi gigio’n galed ac wedi haeddu’r cyfle i ryddhau eu EP cyntaf.

Miriam Elin Jones

W

rth feddwl am fand o ddisgyblion ysgol, mae’n debygol iawn eich bod yn dychmygu pedwarawd o fechgyn sbotiog yn trio’n rhy galed i fod yn cŵl ac yn straffaglu i ganu cân am dor calon sy’n argyhoeddi neb. Fodd bynnag, mae Mellt, os nad ydych yn gyfarwydd â hwy, yn griw sy’n mynd yn gwbl groes i’r ddelwedd honno. “Ni ’di bod ’da’n gilydd yn hirach na’r Beatles,” brolia Glyn, y prif leisydd, wrth iddo ef ac Ellis, gitarydd y band, ddod i fy nghyfarfod am sgwrs fach. Ers i’r band ffurfio yn 2007, yn ôl pan oeddent newydd ddechrau yn Ysgol Penweddig yn Aberystwyth, mae’r ddau, ynghŷd â Geraint a Gethin, wedi mynd o nerth i nerth ac wedi datblygu sŵn cryf ac aeddfed fel band. Mae Mellt (Y Gwirfoddolwyr gynt) wedi gigio’n frwd ers pum mlynedd ac wedi cystadlu ym Mrwydr y Bandiau llynedd. Serch hynny, dim ond nawr mae eu EP cyntaf, Cysgod Cyfarwydd, yn gweld golau dydd. “Dyna sy’ ’di bod bach yn od, ni heb rili rhyddhau lot. Hwn yw fel studio album cyntaf ni. Ni jyst ’di neud cwpwl o ganeuon yn sied Glyn cyn hyn” meddai Ellis. Cafodd yr EP, sy’n cael ei ryddhau dan label JigCal yr haf hwn, ei recordio mewn man llawer crandiach na sied yn yr ardd gefn, lle’r oedd brawd hŷn Glyn, Sam, sef ffryntman Blaidd, yno i gynnig help llaw. “O’dd e’ ’di dechre ’da Mei Gwynedd yn hala neges i fi ar Twitter yn gofyn os o’n ni bois moyn dod lawr i jyst trio mas yn y stiwdio. O’n i all for it, rili moyn mynd,” eglura Glyn. Roedd mynd i Stiwdio Seindon yng Nghaerdydd yn brofiad cyffrous i’r band o Geredigion, ac ynghyd â’r EP, recordiwyd Sesiynau C2 a thraciau amrywiol y band yno gyda Mei Gwynedd (o’r Sibrydion) yn cynhyrchu. Roedd yna ddigon o draciau ganddynt wrth gefn i greu casgliad, a dewis y rhai gorau oedd yr her gyntaf, cyn mynd ati i weithio arnynt a’u gwella. ‘Cysgod Cyfarwydd’, sy’n deitl i’r EP, yw’r trac cyntaf, ac esbonia Glyn arwyddocâd y gân honno. “Mae’r gân yn dangos sut ni ’di newid.

12

y-selar.co.uk

Mellt yn creu storm o sŵn

Mae’n gân bach yn wahanol i’r stwff ni ’di ’neud o’r blaen, a lawr rhyw fath o ffor’ ‘na ni’n mynd nawr ’da’r band, ac o’n i’n meddwl fydde fe’n well cal hwnna fel trac cyntaf, fel push, a ’neud argraff.” “Ac wedyn, ar ôl ’ny, ma’ ‘Paid Tyfu Lan’, hen gân, ond t’mod jyst cân ni wastod ’di lico, a ni jyst ’di rhoi bach mwy o wmff mewn i’r gân i ’neud e’ bach gwell. Wedyn, ma’ ‘Oer’ a ‘Beth Yw Dy Stori?’.” Mae’r caneuon yn rhai y bydd nifer o ffans Mellt yn gyfarwydd â hwy, wedi eu haddasu ar gyfer yr EP i adlewyrchu cyfeiriad newydd y band. Sonia Ellis am ‘Beth yw Dy Stori?’, un o’u caneuon hŷn. “Ni


Lluniau: Mari Fenton

jyst ’di cadw fe, newid e bach, rhoi bach mwy o gain yn y gitârs, trio beefo fe lan, a ’neud e’n bach mwy o gân roc a llai o gân indie.”

Aeddfedu

Afraid dweud, mae dylanwadau Mellt wedi newid cryn dipyn ers i’r trac ‘Y Teulu’ gael ei gyflwyno fel Trac yr Wythnos ar raglen Daf a Caryl pan oeddent yn 13 oed. Mae’r alawon indie bellach wedi esblygu’n roc trymach a thywyllach wrth i’r band aeddfedu (yn bersonol ac yn gerddorol!) “Ma’ pethe fi’n gwrando arno nawr, bydden i ’di troi e’ ‘mhla’n pan o’n i’n 11, a bod fel, beth yw hwn? Old man music!” chwardda Glyn. Mae Mellt yn rhestru The Smiths yn ddylanwad cynnar arnynt, gan ychwanegu Big Leaves, Super Furry Animlas, Y Cyrff a Datblygu i’r rhestr anrhydeddus o fandiau sy’n eu hysbrydoli. Wrth ystyried rhai o’r bandiau ifanc tebyg sydd wedi ymddangos - allan o nunlle, bron - yng ngorllewin Cymru, mae’n hawdd iawn cymharu traciau amrwd Mellt gyda sain grunge-aidd Castro o Sir Gâr, ac mae Glyn ac Ellis yn gytûn eu bod yn ffans mawr o Y Ffug.

“Fi’n credu bod Y Ffug i fi hefyd yn bach o ddylanwad. Fast punk rock band,” meddai Ellis, tra bod Glyn yn esbonio mai cyfeillgarwch, ac nid gelyniaeth, sydd rhwng y bandiau, a hwythau wedi gigio gyda’i gilydd yn y gorffennol. “Ni ’di cael ein rhoi miwn i’r grŵp bach ’na gyda’r bois ’na. Ni gyd fel, tri band gyda EPs yn dod mas - wel, ma’r bois y bandiau arall ’da EPs mas yn barod.” “Ni jyst ’di cymryd bach yn hirach” ychwanega Ellis.

Gigio Heb Gar

Er eu bod wedi cymryd cyhyd iddynt fynd i’r stiwdio i recordio, mae Mellt wedi hen arfer chwarae’n fyw. Cwestiwn naturiol yw gofyn sut y maent wedi dod i ben â gwneud popeth heb gar eu hunain i gario offer a heb unrhyw fath o ID i archebu peint. y-selar.co.uk

13


“Ni ’di bod ’da’n gilydd

yn hirach na’r Beatles,”

“Ma’ wastod problem am ID, ond ma’n olreit,” medd Glyn, yn weddol ddi-hid. “Fi jyst yn gwisgo leather jackets, tmod, Doc Martens... Mae’n anodd, ni dan oed, ond ni’n trial mynd i wylio gigs a chwarae gigs, a dyw e’ ddim yn rock ’n roll heb bach o booze a stwff.” Rhwng gwaith cwrs ac arholiadau, mae Mellt yn manteisio ar bob cyfle i berfformio, “ma’ rhaid gofyn am y gigs.” Dyna strategaeth Glyn ac Ellis. “Os na chi’n gofyn, so chi’n mynd i gael dim. Fi ’di dysgu ’na yn ddiweddar. Fi ’di bod yn gofyn am gigs, a ma’ pobl yn mynd, ‘ie, wrth gwrs, dewch’.” Braint newydd i’r pedwarawd eleni yw chwarae noson agoriadol Maes B, gan gefnogi Gwenno, Y Reu, Colorama, Sen Segur a’r Ods. Maent hefyd yn chwarae gig Cymdeithas yr Iaith y noson cynt, gyda’r Ffug, Sŵnami a Candelas. Â hwythau’n fand sydd eisoes wedi hen arfer â pherfformio o flaen cynulleidfaoedd bach a mawr, mae’n annhebygol y bydd yr un ohonynt yn nerfus, ond fe fydd hi’n ddifyr gweld pa giamocs fydd gan Mellt i’w cynnig i ni. “Ni’n dysgu rhywun sut i chwarae dryms,” cyhoedda Glyn. “Ma’ fe’n novice, full on beginner, ond t’mod, ma’n ffrind da, a ma’ fe’n rili excited, ni ddim moyn gadael e’ lawr.” “Bydd set Maes B bach yn wahanol ... yn ddiddorol” ychwanega Ellis.

Llond bol o Mellt

Be’ nesaf i Mellt felly, wedi gig fawr y flwyddyn ym Maes B? “Fi’n teimlo bo fi ’di neud e’ nawr. Ni’n gallu bennu chwarae

14

y-selar.co.uk

cerddoriaeth nawr. Chwarae Maes B, retire, ffindo rhywun i briodi fi, plant, ym... symud i Sbaen, Gwlad y Basg neu rywle fel ’na, rento villa...” yw cynllun uchelgeisiol Glyn. Fodd bynnag, diolch byth fod dogn go gryf o goegni yn perthyn i’r datganiad hwnnw, a bod cynllun callach ar y gweill. “Jyst parhau i chwarae a ’sgrifennu caneuon. Chwilio pa fath o fand ni moyn bod yn y dyfodol. Ma’ pobl wastod yn newid, a ni dal yn ifanc. Ma’ stwff wastod yn newid, a fi jyst moyn trial cario ’mlaen ’neud be’ ni’n ’neud, trio pethe newydd.” “Ers i ni orffen yr EP ’ma, ni ’di dechre ’sgrifennu lot fwy o ganeuon. Ni wastod yn ’sgrifennu caneuon, a ma’ ’da ni loads o bethau newydd, da, wel, ni’n meddwl bo’ nhw’n dda” esbonia Ellis. Mae Glyn yn parhau, “mwy na dim, ni jyst moyn trio newid y Sin Roc Gymraeg bach, ’neud e’ bach yn well.” “Troi fe nôl yn Sin ROC Gymraeg,” ychwanega Ellis, dan chwerthin yn ddrygionus. Mae’r band yn awyddus eto i ehangu eu gorwelion. “Chi methu jyst chwarae mewn un lle trwy’r amser, neu ma’ pobl yn cael llond bol a meddwl ‘o na, y bois ’ma ’to’,” dywed Glyn. “Be’ ni moyn ‘neud yw trio cael gigs ym mhob man. Ni ’di bod yn siarad - fi a ’mrawd Sam - am sorto mas cwpwl o gigs ar gyfer Blaidd a Mellt. Ma’ ’da ni’r EP, a ma’ Blaidd yn enw digon mawr i allu bod yn headline act. So, watch out dros yr haf, chi’n mynd i gael llond bol o Mellt. A Blaidd.” Llond bol o Mellt? Doubt it! Gyda’r EP newydd, cynlluniau mawr i newid y Sin “Roc” Gymraeg a gigs di-ri a thaith posib gyda Blaidd, mae modd darogan y bydd Mellt yn parhau i daranu am sbel fach eto!


trydar

@gwennosaunders @Y_Selar Su’mai Gwenno, croeso i gyfweliad Trydar Y Selar! Ti’n cadw’n o lew? @gwennosaunders Grêt diolch! @Y_Selar Da iawn. Yr albwm newydd allan ym mis Awst, beth allwn ni ei ddisgwyl yn Y Dydd Olaf? @gwennosaunders Albwm gysyniadol yn trafod technoleg, propaganda ein ffynonellau newyddion/ cyfryngau prif ffrŵd a grym ieithoedd lleiafrifol, ar ffurf POP! @Y_Selar Swnio’n ddiddorol! Ac o ran sŵn, rhywbeth yn debyg i’r EP Ymbelydredd? @gwennosaunders Cam ymlaen o’r sŵn ‘na fi’n meddwl, bydd ‘Chwyldro’ a ‘Golau Arall’ ar yr albwm, ma’r sain yn debyg i’r caneuon ‘na. @Y_Selar Rheiny allan ers tipyn o fisoedd bellach fel senglau, wedi cael ymateb da? @gwennosaunders Do! Ma’ fe ‘di bod yn neis gallu rhyddhau senglau gynta’, jyst er mwyn cael yr amser i gyfathrebu’r syniadau dros gyfnod hirach. @Y_Selar Un o fy hoff bethau am Ymbelydredd oedd teimlad dinesig yr EP - naws ti ddim yn aml yn ei gael mewn cerddoriaeth Gymraeg. @Y_Selar Disgrifiad teg? Os felly, allwn ni ddisgwyl hynny eto yn Y Dydd Olaf? @gwennosaunders Yn sicr. Ma’ lle wyt ti’n ddaearyddol bob tro’n dylanwadu arnat ti fel artist, a fi ishe creu cerddoriaeth sy’n swnio fel Caerdydd. @gwennosaunders Ddim y Caerdydd bunting a vintage tea rooms ond y Gaerdydd betrusgar, y cracs yn y ffasâd. Dyna i fi yw’r Caerdydd sydd angen ei mynegi. @Y_Selar Er dy fod wedi gwneud gymaint yn gerddorol, yng Nghymru a thu hwnt, hon yw dy albwm unigol gyntaf, ti wedi edrych ymlaen at hyn? @gwennosaunders Odw! Ond rhaid i fi ddweud, ma’r amseru’n berffaith i fi. Do’n i ddim yn barod i neud albwm ‘unigol’ cyn nawr. @gwennosaunders Odd rhaid i fi gael yr holl brofiadau eraill i ddysgu beth o’n i ishe’i fynegi. A ma’ dod nôl i Gaerdydd wedi’n ysbrydoli i gymaint. @Y_Selar Ti’n meddwl bod dy holl brofiadau di yn y diwydiant wedi dy wneud di’n gerddor gwell?

@gwennosaunders Yn sicr. Ges i’r cyfle i ‘neud y rownds’ fel petai. Fi ’di bod ar label fwya’r byd (Universal), wedi chware’r Pyramid Stage yn Glastonbury... @gwennosaunders Wedi bod yn y siartiau yn Siapan, Ewrop a’r D.U. Gen i ddealltwriaeth o sut ma’r byd ‘na’n gweithio ond does ‘da fi ddim diddordeb ynddo rhagor. @gwennosaunders Ar yr ymylon, dyna le ffeindi di’r artistiaid mwya’ ysbrydoledig a blaengar. A dyna pam ma’ Cymru, a’r Gymru Gymraeg mor anhygoel. @Y_Selar Gwir, ond eto fe all y ‘Sin Gymraeg’ elwa o gael rhywun gyda’r profiadau hynny yn dychwelyd i Gymru ac yn cyfrannu yma. @gwennosaunders Cytuno. Ti’n gorfod mynd ar ôl yr holl brofiadau ‘ma. Y rheswm mwya’ dros adael Cymru oedd ffeindio pobl â’r un weledigaeth gerddorol. @gwennosaunders Hynny, ac i ddysgu mwy am gerddoriaeth. Ond, nawr fod y byd ar dy gyfrifiadur, dwyt ti ddim angen neud y cyfaddawd. @Y_Selar Sôn am gyfrifiaduron, beth ti’n ei feddwl o’r sin electronig Gymreig ar hyn o bryd? @gwennosaunders Ma’r amgen a’r arbrofol yn iach yma. Mae Cymru’n rhagori mewn outsider music, artistiaid sy’ ddim yn ffitio’n y byd cyfalafol. @gwennosaunders Ma’ lot yn trio’i neud e’ yn Lloegr ond dyw e’ jyst ddim yn gweithio. Ma’n digwydd yn naturiol yn y Gymraeg. Dau Cefn a Dave Mysterious e.e. @Y_Selar Ti’n rhoi llwyfan i gerddoriaeth felly ar dy raglen, @camortywyllwch ar Radio Caerdydd, ti’n mwynhau cyflwyno? @gwennosaunders Ydw, fi’n mwynhau ffeindio miwsig anarferol a chyfweld ‘da artistiaid gwahanol heb sensoriaeth ‘fyd, ma’n grêt! @Y_Selar Ac mae’r rhaglen wedi esgor ar gasgliad aml gyfrannog hefyd wrth gwrs, sut ymateb mae CAM1 wedi ei gael? @gwennosaunders Da iawn, a’r gobaith yw taw’r cyntaf o nifer fydd CAM1. @Y_Selar Edrych ymlaen at CAM2 yn barod! Diolch am y sgwrs Gwenno a phob lwc gyda’r albwm. @gwennosaunders Diolch @Y_Selar. Tra!

y-selar.co.uk

15


PRIODAS GYTHRYBLUS, PRIODAS GYFLEUS Fe all teitl traethawd hir fod yn unrhyw beth, o “Pa ffordd bleidleisodd y wasg Gymreig yn refferendwm 1997?” i “Effaith geneteg ar effeithiolrwydd teirw duon Cymreig i drosi bwyd i bwysau byw”. Pawb at y peth y bo!

fideo9 Bu rhaid i un o gyfranwyr selocaf Y Selar ddewis ei destun dros y flwyddyn ddiwethaf ac fe fydd unrhyw un sy’n adnabod Owain Gruffudd yn gwybod mai cerddoriaeth Gymraeg sy’n mynd â’i fryd. “Astudiaeth o effaith y cyfryngau ar gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg dros y deugain mlynedd diwethaf” oedd testun Owain a dyma flas o’i ymchwil. Wrth geisio canfod cydbwysedd rhwng fy mhrofiadau ysgrifennu a fy niddordebau, penderfynais archwilio’r berthynas rhwng y sin Roc Gymraeg a’r cyfryngau dros y deugain mlynedd diwethaf. Edrychais ar gyfryngau print, radio a theledu – pwnc eang a gododd nifer o gwestiynau, ond cyfle cyffrous i ddysgu, nid yn unig o lenyddiaeth a gwaith ymchwil blaenorol, ond yn uniongyrchol gan rai o arbenigwyr y sin trwy gyfrwng cyfres o gyfweliadau. Dyma bum cynhyrchiad mwyaf allweddol y deugain mlynedd yn fy marn i. FIDEO 9 Yng nghanol yr 80au, gyda S4C eisoes wedi ei sefydlu, roedd ’na deimlad nad oedd rhaglenni cerddoriaeth

16

y-selar.co.uk

Cymraeg yn llwyddo i adlewyrchu’r sin na’i diwylliant, fel yr eglurodd Euryn Ogwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni S4C, mewn rhaglen ddogfen am Geraint Jarman yn 2002: “Roedd ’na rywbeth eitha’ diflas ynglŷn â’r allbwn roc. Doeddem ni ddim yn llwyddo i gysylltu â’r diwylliant a’r diwydiant roeddem yn ceisio ei gyfleu, felly doedd o’m yn gweithio mewn teledu a doedd dim cynulleidfa. Roedd rhaid i rywbeth newid.” A newid y gwnaeth pethau pan ddaeth cwmni cynhyrchu Criw Byw at ei gilydd i greu Fideo 9 dan arweiniad Geraint Jarman. Mae’r cynhyrchiad yn aml yn cael ei ystyried yn chwyldroadol, gyda rhyddid creadigol yn cael ei roi i’r bandiau a’r artistiaid i greu allbwn o safon uchel. Rhoddodd y rhaglen gyfleoedd cyntaf i fandiau fel Catatonia a Super Furry Animals ymddangos ar y teledu, fel esboniai Cerys Matthews: “Cymrodd Jarman ei frwdfrydedd tuag at gerddoriaeth i helpu bandiau a cherddorion newydd i ddysgu mwy am y sin gerddoriaeth.


fideo9 Roedd yn bwysig i ni gan ei fod wedi rhoi cyfle i ni weithio gyda phobl broffesiynol .” Wrth ystyried dylanwad Fideo 9, eglurai Jarman ei resymau dros gymryd y cyfrifoldeb o roi platfform i gerddoriaeth Gymraeg ar y teledu. “Os ydych chi yn teimlo fod cerddoriaeth Gymraeg yn bwysig yn ddiwylliannol, yn ogystal â bod yn adloniant, dwi wastad wedi credu bod cyfrifoldeb i roi sylw iddo fo. Mae’n rhaid i rywun weithio’n galed i’w gynnal.” Mae Fideo 9 yn enghraifft berffaith o sut y gall safon a thechnegau cynhyrchu fod yn ddylanwadol yn llwyddiant y sin, gyda Catatonia, Super Furry Animals a hyd yn oed bandiau fel Big Leaves wedi mynd ymlaen i flasu llwyddiant tu hwnt i ffiniau Cymru. BANDIT Wrth i Gymru dderbyn mwy o sylw nag erioed o’r blaen yng nghyfryngau Prydain yn ystod y 1990au, gyda dyfodiad ‘Cŵl Cymru’, roedd Dr Sarah Hill, arbenigwraig ar ganu pop Cymraeg, yn credu fod poblogrwydd y criw Eingl-gymreig yn bygwth y sin Roc Gymraeg. Dyma ei barn ddi-flewyn-ar-dafod hi yn ystod ei hastudiaeth ddiddorol am hanes pop Cymraeg, BLEWYTIRHWNG?: “...the Welsh media did very little to capitalize on the resurgent youth culture, and S4C all but killed a popular music presence on Welsh television.” Ond buan iawn y daeth rhaglen chwyldroadol arall, ar ffurf Bandit. Yn cael ei chyflwyno, yn bennaf, gan Huw Evans a Huw Stephens, daeth hi’n rhaglen boblogaidd a chŵl ymysg pobl ifanc, gan greu adfywiad yn nilyniant y sin. Un o’r rheini oedd Griff Lynch, o Yr Ods sy’n dweud fod y rhaglen wedi ysbrydoli’r band yn eu dyddiau cynnar. “Roedd Bandit yn bwysig i fi oherwydd pan o’n i’n tyfu fyny, Bandit oedd yn cyflwyno fi i gerddoriaeth Gymraeg newydd. Roedd o’n gneud i chdi deimlo fod yr SRG yn iach ac yn gneud i ti dorri dy fol eisiau bod yn rhan ohono fo. Pan wnaethom ni gychwyn fel

“Roedd ’na deimlad nad oedd rhaglenni cerddoriaeth Cymraeg yn llwyddo i adlewyrchu’r sin.”

band, roedd hi’n un targed i ymddangos ar Bandit. Roedd hi’n garreg filltir i dy statws fel band.” Ond gyda chyhoeddiad S4C yn 2011 fod Bandit yn dod i ben, cwestiynwyd ymroddiad y sianel i gerddoriaeth a diwylliant Cymru. Dangosodd yr ymateb yma’n glir pa mor bwysig oedd rôl Bandit i ysbrydoli bandiau a cherddorion ifanc i gychwyn prosiectau eu hunain, yn ogystal â chreu buzz o amgylch yr SRG. Ym marn llawer, Bandit wnaeth ailosod y safon i gynhyrchiadau cerddoriaeth ar draws y cyfryngau Cymraeg. SOSBAN Byddai nifer yn dadlau mai radio yw cartref traddodiadol cerddoriaeth yn y cyfryngau. Golygai hyn ei bod hi’n garreg filltir bwysig i gerddoriaeth Gymraeg, o bob math, pan sefydlwyd BBC Radio Cymru ym 1977. Un o’r rhaglenni mwyaf poblogaidd ar donfeddi’r sianel yn ystod y dyddiau cynnar oedd Sosban, gafodd ei darlledu am y tro cyntaf ym 1978, gyda Richard Rees yn cyflwyno. Gydag amser cyfyngedig wedi ei neilltuo ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg cyfoes, daeth gwrando ar Sosban, gyda’r gerddoriaeth roc ddiweddaraf, yn rhan o arferiad penwythnosol pobl ifanc y cyfnod, fel y disgrifiodd Gareth Potter yn 2012: “Pob bore Sadwrn, byddwn yn tiwnio mewn i Radio Cymru ar gyfer Sosban gyda Richard Rees. Bydde bandie’n galw heibio i sôn am eu gigs a’u recordiau. Roedd sesiynau ecsgliwsif ac adolygiadau o berfformiadau. Wrth gwrs, roedd ’na raglenni teledu – ond fel mae pawb yn gwybod, y radio yw cartref roc a rôl – ac am ddwy awr ar ddechrau’r penwythnos, roedd gan roc a rôl gartref Cymraeg.” Dyma gyfle i blant o Fôn i Fynwy i gael cyfle i glywed, a mwynhau, y cynnyrch diweddaraf gan fandiau fel Edward H. Dafis, Geraint Jarman a’r Trwynau Coch. Gyda pop Cymraeg yn weddol newydd yn y cyfnod hwn – gyda’r band pop Cymraeg cyntaf, Y Blew, yn cael ei ffurfio dim ond ddegawd ynghyt – roedd hi’n dysteb i ddylanwad Sosban fod gwrando ar bop Cymraeg dros y radio yn raddol yn dod yn beth cyffredin i bobl ifanc ar hyd a lled y wlad. NIA MELVILLE, JOHN PEEL A’R CYFNOD PYNC Wrth edrych ar y 1980au, dau fand sy’n nodweddu’r cyfnod yw Anhrefn a Datblygu. Erbyn heddiw, mae’r bandiau hyn yn cael eu hystyried yn ffigyrau

y-selar.co.uk

17


fideo9 “Enghraifft berffaith o sut y gall safon a thechnegau cynhyrchu fod yn ddylanwadol yn llwyddiant y sin.”

eiconig, ond roedd eu hagwedd gwrth sefydliadol a’u hymddygiad gwrthryfelgar yn golygu nad pawb oedd yn eu canmol a’u hedmygu ar y pryd – yn enwedig yn y cyfryngau, fel yr eglura Rhys Mwyn: “Dim ond Sosban a Cadw Reiat oedd gen ti ar Radio Cymru yn y cyfnod, ac arwyr y cynhyrchydd, Geraint Davies, oedd bandiau fel yr Eagles. Felly doedd o ddim yn mynd i hoffi Datblygu, hyd yn oed pan oedden nhw ddigon da, ac roedd o’n gwrthod eu chwarae nhw ar yr awyr. Ond yn eitha’ eironig, byddai John Peel yn chwarae eu cynnyrch nhw ar ei raglen ar Radio 1. Roedd hi wedi troi’n sefyllfa o ‘ni’ a ‘nhw’.” Gyda sylw John Peel yn gwneud i bobl gymryd sylw o’r sin pync yng Nghymru, buan iawn daeth torfeydd sylweddol i weld y bandiau hyn. Ond nid pawb yn Radio Cymru oedd yn anwybyddu dylanwad y bandiau hyn. Hefin Wyn sy’n disgrifio dylanwad Nia Melville: “Rhaglen arall angenrheidiol i bwy bynnag a gymerai’r sîn roc o ddifrif oedd Heno Mae’r Adar yn Canu… yn cael ei chyflwyno gan yr ecsentrig Nia Melville o Gwmtawe… Cryfder Nia oedd ei bod hi’n gwrando ar y gerddoriaeth ac yn cynnig sylwadau beirniadol a gwreiddiol a ddangosai chwaeth eang. Gorau i gyd po fwyaf anarferol fyddai’r casetiau a anfonid ati”. BBC C2 RADIO CYMRU Yn 2002 cafodd cangen newydd ei ychwanegu at goeden Radio Cymru, wrth i C2 gael ei gyflwyno, fyddai’n cynhyrchu rhaglenni wedi eu hanelu at gynulleidfa iau, gyda phwyslais penodol ar gerddoriaeth gyfoes a phoblogaidd. Ers ei sefydlu, cyflwynwyd ni i rai o gyflwynwyr mwyaf dylanwadol y deugain mlynedd diwethaf – Huw Stephens, Georgia Ruth a Lisa Gwilym, er enghraifft – a deuddeg mlynedd yn ddiweddarach, mae ei ddylanwad ar y sin yn parhau i fod yn amlwg. Mewn blog yn dathlu deng mlynedd ers sefydlu C2, Gareth Potter sy’n esbonio pam fod y rhaglenni hyn wedi parhau i fod yn berthnasol: “Roedd cerddoriaeth pop Gymraeg wedi tyfu lan.

18

y-selar.co.uk

Ac roedd yn rhywbeth oedd yn werth ei ddathlu. O wyth o’r gloch bob nos, roedd Radio Cymru yn mynd i droi’n orsaf gerddoriaeth go iawn. Yn 2012, dwi lot rhy hen [i’r sin]. Ond dwi’n dal i ffitio mewn, rhywsut. Dwi’n caru pop Cymraeg. A thra bod C2 yn teimlo’r un fath mae’n haeddu bod ar yr awyr.” Wrth gwrs, mae’r ddadl ynglŷn â breindaliadau wedi bod yn gwmwl tywyll dros berthynas y sin â Radio Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yn bersonol, dwi’n credu fod y sefyllfa wedi llwyddo i amlygu pwysigrwydd y berthynas i gynnal a chadw’r ddwy ochr. CASGLIAD Dim ond crafu’r wyneb oedd yn bosib hyd yn oed gyda deg mil o eiriau, heb sôn am erthygl fer (mewn cymhariaeth pryn bynnag!) Dwi heb gael cyfle i sôn am yr ymchwil ehangach, gwaith y cyfryngau print traddodiadol, na dyfodiad y cyfryngau newydd arlein. Ond un peth ddaeth yn amlwg yn ystod yr ymchwil, dros yr holl gyfryngau a’r cyfnodau, oedd bod cysylltiad agos, cecrus ar adegau, rhwng y cyfryngau Cymraeg a’r diwylliant ifanc. Y cwestiynau sy’n codi dro ar ôl tro ydi, a yw’r cyfryngau’n gwneud digon i gefnogi ac i adlewyrchu rhan bwysig o’r diwylliant Cymreig? Ydi’r sin ei hun yn or-ddibynnol ar y cyfryngau, ac yn derbyn cyhoeddusrwydd rhy hawdd? Ac ai sefyllfa unigryw i’r Gymraeg yw’r cwestiynau hyn sy’n codi o fewn diwylliant? Ond y casgliad pennaf, ydi bod y ddwy ochr yn ddibynnol ar ei gilydd. Mae sylw, cymorth a chyfle i fagu profiadau yn hanfodol i nifer o fandiau sy’n cael y cyfle i ymddangos ar raglenni teledu a radio, tra bod cynhyrchiadau creadigol safonol yn y diwylliant ieuenctid yn ddibynnol ar gyfraniad a chefnogaeth yr artistiaid. Mae’r berthynas ychydig fel priodas gythryblus – does neb yn hollol fodlon â’r sefyllfa ond ni allant ddychmygu byw heb ei gilydd chwaith! Mae’n ymddangos na all y naill ochr na’r llall frathu’r llaw sy’n eu bwydo, priodas gyfleus.

“Y casgliad pennaf, ydi bod y ddwy ochr yn ddibynnol ar ei gilydd.”


Ochr 1 Steddfod 10.00 11 Medi Rhaglen arbennig o uchafbwyntiau Maes B

Ochr 1 10.00 25 Medi Cyfres newydd gyda’r gerddoriaeth ddiweddara’ @Ochr1 / #ochr1 facebook.com/OchrUn s4c.co.uk

Y Selar 2014_Final.indd 1

23/07/2014 11:49

UD I A YM

AIL S

D

D

UD YM I A

rol, sy’n CD am ddim gyda’r gyf ydd ac cynnw ys caneuon cyfarwryw hw n. unig anghyfarw ydd y band

AIL S

£9.95

01970 832304

www.ylolfa.com

Dewch draw i’n stondin ar faes yr Eisteddfod am sgwrs!


adolygiadau Cam 1 Amlgyfrannog Yn dilyn intro byr, dechreua ochr A gyda ‘Pysgod’, trac llawn lŵps bachog nodweddiadol R. Seiliog. Yna ‘Cymylog Ddu’, David Mysterious, sydd hefyd yn diwn. ‘Caution Location’ gan Baked yw’r unig drac y byddai’n edrych ymlaen at ei ddiwedd ond efallai fod hynny gan fod fy hoff gân ar y casgliad, ‘Keffylau’ gan Horses yn ei ddilyn. Mae cyfraniad Y Pencadlys yn ‘Diolch am Beidio Ysmygu’ yn dda ond yn siomedig o fyr, cyn i synau organ Ianto Poitch ddod â’r rhan gyntaf i ben yn hudolus a hypnotig yn ‘Gwregys’. Agora ochr B gyda churiadau anarferol a naws iasoer, ysbrydol bron, Twlc yn ‘Llif ’. ‘Sweats’ Macho City yw’r trac dawnsio gorau ac yna ceir ‘Las Barricadas’ gan Lembo sy’n cynnig ychydig o amrywiaeth gyda’r defnydd helaeth cyntaf o samplo lleisiol. Ceir mwy o hynny gan Carcharorion a Llion Swyd yn fuan wedyn yn ‘Beth yw’r Haf ’ a ‘Lludw’– fy hoff draciau o’r ail ran. Cyn hynny daw ‘Corwen’, gan Recordiau sydd yn dal sylw i ddechrau cyn mynd braidd yn undonog. Yna, cloir y casgliad mewn steil gyda churiadau tribal ‘Trac 1’ Llwybr Llaethog. Nid yn unig mae yma draciau unigol da, ond mae Peski’n llwyddo i wneud rhywbeth sydd ddim yn hawdd i gasgliad aml gyfrannog – gweithio fel cyfanwaith. 8/10 Gwilym Dwyfor Codi/\Cysgu Yws Gwynedd Albwm llawn caneuon sy’n gwneud i chi deimlo’n well. Dyna’r ffordd orau i ddisgrifio ymgais gyntaf Yws Gwynedd fel artist unigol. Mae’n llawn traciau â thipyn o wmff iddyn nhw sy’n siŵr o blesio cynulleidfaoedd gwyliau ledled Cymru dros yr haf. Er bod pob cân yn ennill ei lle ar yr albwm, dim ond eu hanner nhw sy’ wir yn glynu at rywun. Y goreuon yw ‘Mae ’Na Le’ sy’n Arctic Monkeys-aidd dros ben, ‘Gola Ola’r Dydd’ a ‘Dal Fi’n Ôl’. Mae ‘O Gwennan’, un o draciau

mwyaf acwstig yr albwm, yn hyfryd ac mae’n gân y byddai unrhyw ferch yn falch o’i chlywed gan gariad! Mae un o gyfansoddwr pop-roc Cymraeg gorau’r ddegawd ddiwethaf yn ei ôl a ’dw i wrth fy modd. Yn union fel ei gynulleidfa, mae Yws Frizbee wedi tyfu fyny. 8/10 Lois Gwenllian Cynefin Cae Gwyn Amlgyfrannog Gellid rhannu’r casgliad yma’n ddau, y cyfarwydd a’r newydd. Rydan ni’n gwybod bellach beth mae Sen Segur, Dan Amor, Mr Huw a Tom ap Dan yn ei gynnig a cheir enghreifftiau nodweddiadol yn y casgliad hwn. Mae gitârs breuddwydiol Sen Segur yn hyfryd yn ‘Ar dy Wyneb’; mae ‘Ffiniau’ mr huw a ‘Cig’ Tom ap Dan yn llawn riffs bachog a geiriau doniol/rhyfedd; a ‘Mawrth’ yn enghraifft arall o ddawn gyfansoddi naturiol Dan Amor. Mae’r artistiaid uchod yn gysylltiedig â’r mwyafrif o’r traciau eraill hefyd. Yn brosiectau unigol ac yn gyfuniadau newydd mae yma unigolion cyfarwydd ond artistiaid newydd. Ceir dau drac diddorol gan Falcons (Ben Sen Segur) ac un trac gwych gan Ebol Digon Tebol (George Sen Segur) – mae tiwn fachog a geiriau da iawn yn perthyn i ‘Gwallt’. O ddau gyfraniad Huw Owen a Dan Amor gyda’i gilydd, ‘Cyfandirol’ yw fy ffefryn i, gyda’r dryms a’r synths yn adeiladu’n hynod effeithiol. Enw cyfarwydd arall yw Sion Richards (Wyrligigs, Jen Jeniro, Oen), a’r gyntaf o ddwy gân ganddo ef, ‘Rhaid i ti’, yw uchafbwynt y casgliad i mi. Hyfryd, hawdd gwrando arni. Ben Marshall yw’r enw lleiaf cyfarwydd ond mae’r trac offerynnol, ‘Tonnau Gwanwyn’ yn dysteb i’w ddawn yntau ar gitâr. Beth sy’n gludo’r cyfan at ei gilydd felly? Penmachno yn un peth, AID O RHRAND ond yn fwy na hynny, GW safon. 8/10 Gwilym Dwyfor Erbyn Hyn Datblygu Os nag ydych chi wedi clywed Datblygu o’r blaen - dyma crash course da iawn.

Yr un themâu a’r un angst yn perthyn i’r un math o ganeuon: toriadau llywodraeth geidwadol, ffaeleddau’r system addysg, lladd ar y canol-ffordd a chymysgedd o ganeuon piano, synau electronig plaen, adrodd geiriau bron yn ddigyfeiliant. Yr unig gân sy’n awgrymu fod pethau’n wahanol yw ‘Bydolwg’. Gyda naws Indiaidd y Sitar a rhyw bositifrwydd Datblygu-aidd mewn llinellau fel “does gyda fi ddim tensiwn fel sawl un sy’n briod / hen atgof pell yw’r hangover diod” mae awgrym fod Dave wedi symud ’mlaen.   Er y gallai’r gweddill fod yn ganeuon o unrhyw albwm Datblygu dyw hynny ddim yn beth drwg - mae’r un hud i’r geiriau a’r llinellau gwych. Mae angen ein hatgoffa nad ydyn ni wedi symud ’mlaen, ein bod ni’n rhy hapus-gyfforddus gyda phethau fel maen nhw felly diolch Dave am roi’r ysgydwad i ni. 8/10 Bethan Williams Cysgod Cyfarwydd Mellt Dechreua’r EP gyda’r teitl-drac, ‘Cysgod Cyfarwydd’, a dyma’r union beth yr oeddwn i’n ei ddisgwyl gan Mellt. Cân llawn egni ac angerdd wedi’i chyflwyno’n broffesiynol ym mhob agwedd, a chân y gallaf ei dychmygu’n creu argraff yn fyw. Mae ‘Paid Tyfu Lan’ wedyn yn dilyn patrwm tebyg gyda’i riffs gitâr cofiadwy. Mae ‘Beth yw dy Stori?’ yn cynnig seibiant bach. Mae’r gân sy’n trafod digartrefedd fymryn yn arafach, ac mae hynny’n rhoi cyfle i rywun werthfawrogi geiriau gorau’r casgliad. Mae ‘Oer’ yn dechrau’n eithaf meddal hefyd cyn codi i crescendo can milltir yr awr, lle dwi’n amau y mae Mellt ar eu gorau. Peidiwch â chamddeall, dwi’n mwynhau’r cwbl, ond alla i ddim stopio symud fy mhen pan ma’ nhw’n mynd iddi go iawn! 7/10 Gwilym Dwyfor Aflonydd Gwyllt Mae Gwyllt yn ôl efo albwm newydd, ac mae yna lawer o arddulliau ac offerynnau


gwahanol wedi ymuno â’r parti ers yr albwm ddwytha. Mae Aflonydd fel pryd naw cwrs. ’Da ni’n dechrau efo’r gân ‘Hunan Bicil’, sy’n araf a hamddenol ond yn cryfhau wrth fynd ymlaen wrth i’r offerynnau chwyth ymuno – meddyliwch Beirut. Os ’sa fo’n starter, ’sa fo’n bâté. Neis, pawb yn licio fo. Wedyn ’sa chi’n disgwyl ryw lamb shank bach ond NA! Mae’r cogydd Amlyn Parry wedi mynd yn wyllt yn y gegin gerddorol! Mae’n taflu byrgyr o roc atom ar ffurf ‘Nerth’. Wedyn mae’n creu cyri gafr Jamaicaidd efo’r anhygoel ‘Llgada Sgwâr’. Mae themâu’r caneuon yn mynd o un cyfeiriad annisgwyl i’r llall – o hacio cyfrifiaduron i ffoi o diroedd rhyfelgar.  Dwi’m yn meddwl bod Gwyllt wedi penderfynu ar steil cerddorol eto, ond dwi wir yn mwynhau cael gwrando ar yr arbrofi! Mae Aflonydd ychydig fel mixtape, cymysgedd flasus tu hwnt, mae ‘na dalent yn y gegin. 8/10 Casia Wiliam Titw Tomos Afiach Tom Ap Dan Byddwch yn barod i symud a gwylltio â’ch hun gan eich bod methu cael un o’r caneuon yma allan o’ch pen. Mae casgliad yr athrylith Tom Ap Dan yn gyfuniad perffaith. Cyflwyna’r gerddoriaeth trwy nifer o ddylanwadau ac arddulliau, gwlad Americanaidd ynghyd ag elfen o grunge ar adegau. Mae llawer o nodweddion y cyfanwaith yn fy atgoffa o Nirvana a Pink Floyd. Dyma gasgliad o ganeuon sy’n llifo i’w gilydd. Mae’r offerynnau’n cyfuno a’i gilydd yn effeithiol, ac rwy’n hoff o’r ffaith fod yr artist â’r gallu i berfformio caneuon ysgafnach eu natur ac yna trymhau ychydig wrth i ystyr y caneuon ddwysáu. Heb os, y mae’r geiriau yn elfen gref iawn i’r albwm. Llwydda Tom Ap Dan fel baledwr i drosglwyddo negeseuon ei ganeuon i’r gynulleidfa, ac mae geiriau dwfn ac ystyrlon yr artist yn gweddu’r steil yn wych, gyda’r llafar ganu a’r defnydd o’r sleid gitâr yn cyfuno’n ardderchog. Do, dwi wedi mwynhau’r albwm yma’n fawr ac edrychaf ymlaen at gael gwylio ambell set gan Tom Ap Dan dros yr haf. 8/10 Ifan Prys

Plannu Hedyn Cariad Welsh Whisperer Marmite o record yw hon. Ry’n ni bobl wledig yn darged gweddol rwydd, a’r stereoteips wedi eu gweld hyd syrffed. Dyna sydd fan hyn - casgliad o ganeuon Cymraeg a Saesneg sydd yn gorwneud pob stereoteip am bobl a bywyd cefn gwlad. Mae rhai o’r jôcs, yr innuendos a’r leins yn gorwneud cymaint nes eu bod nhw’n ddoniol a rhai yn gweithio’n well nag eraill - roedd ‘Mucky Maid’ er enghraifft bach yn ormod i fi! Ond mae ‘Don’t go smoking, kids’ yn ddigon doniol. Dydyn ni ddim yn chwerthin hanner digon am ben ein hunain a dwi’n derbyn bydd rhai yn ei weld yn blentynnaidd a’i fod wedi’i wneud ganwaith ond mae lle ac angen am hiwmor a dychan felly byddwn i’n annog y Welsh Whisperer i ddal ati ac i edrych tu fas i’w filltir sgwâr am bynciau ar gyfer ei ganeuon.  6/10 Bethan Williams Let Me Tell You a Story Called Taan Yn Fy Mola Huwbobs Pritchard Mae rhyw deimlad am y record yma fod Huwbobs wedi mynd i’r stiwdio, gwirioni â’r holl declynnau o’i gwmpas a gwneud ymdrech lew i ddefnyddio pob un effaith posibl ar ei albwm 13 trac. Mae o’n llethol ar adegau, wrth iddo fynd o un sŵn i’r llall heb seibiant. Ond eto, mewn ffordd ryfedd, mae o’n gweddu gydag arddull llif yr ymennydd y geiriau, er mod i methu gwneud pen na chynffon ohonyn nhw. A bod yn onest, dyw’r albwm yma ddim am ennill unrhyw wobr a does dim byd cyffrous, heriol na chwyldroadol amdani. Ond, mae hi’n perthyn i glwb arbennig o recordiau - fel Abacws gan Bryn Fôn, Lliwia dy Ddarlun gan Hufen Iâ Poeth neu Canu y Gân  gan y Profiad fydd bendant yn dod allan yn hwyr ar nos Sadwrn - a fyswn i’m yn synnu y byddwn ni’n clywed pobl yn morio canu ‘Cywiriadau sy’n gwella bywydau’ yn y dyfodol agos. 5/10 Ciron Gruffydd

‘Twrch’ a ‘Weithiau’ Tymbal Y Tro gyntaf i mi glywed ‘Twrch’, ni chefais fy ysbrydoli o gwbl. Er bod ‘na ddigonedd o egni ac agwedd ynddi, am ryw reswm doedd y record yma ddim yn taro deuddeg. Mae’r trac yn dechrau gyda riff gitâr eithaf syml a chofiadwy sydd yn elfen nodweddiadol o’r gân, ond erbyn diwedd y record mae’r holl beth yn mynd yn eithaf undonog. OND, ar yr ochr arall mae ‘Weithiau’, sydd yn fy marn i yn dal ei dir fel un o draciau roc gorau’r sin ar hyn o bryd. Mae’r trac yn bwyllog ac yn fanylach o lawer na ‘Twrch’ ac fel darn o waith cerddorol yn brydferth tu hwnt. Yn ‘Twrch’ rydym yn gwrando ar grŵp o gerddorion ifanc yn jamio, ond yn ‘Weithiau’ clywn grŵp o gerddorion aeddfed a phrofiadol sydd gyda’r bwriad o arwain y ffordd ym myd roc cyfoes Cymraeg. Dwi wir yn edrych ymlaen at weld Tymbal yn tyfu fel grŵp. 7/10 Cai Morgan Câr Dy Henaint Losin Pwdr Mae Câr Dy Henaint gan Losin Pwdr, prosiect cerddorol newydd Matthew ‘Mini’ Williams, Texas Radio Band gynt, ym mhell o fod yn easy listening. Mae’r curiadau anghyfarwydd, anghyson, off-beat sy’n rhedeg trwy’r casgliad yn golygu nad miwsig eistedd o flaen tân yw hwn. Er fy mod i’n gwerthfawrogi’r grefft yn hynny, mae o’n amharu braidd ar fy mwynhad o’i ddefnyddio mor gyson. Wedi dweud hynny, mae’r arddull yn gweddu’n berffaith i naws ‘argyfwng canol oed’ y caneuon. Y trac cyntaf, ‘Gwaith Motion’ a’r teitl-drac, ‘Câr Dy Henaint’ yw’r uchafbwyntiau, ac mae’r gân Fasgeg (yno mae Mini’n trigo bellach), ‘Xalbadorren Heriotzean’ yn ddigon diddorol. Hon yw’r record Gymraeg fwyaf unigryw glywch chi eleni ac mae’n werth gwrandawiad o achos hynny. 5/10 Gwilym Dwyfor


Y SELAR

10

G

redwch chi fyth, ond mae’n wir! Fis Tachwedd eleni bydd cylchgrawn Y Selar yn dathlu pen-blwydd yn 10 oed. Dwi’n gwbod, rydan ni’n edrych yn dda iawn am ein hoed tydan. Rhaid nodi’r achlysur arbennig hwn wrth gwrs, ac mae gennym sawl peth ar y gweill i ddathlu’r garreg filltir arbennig yma... Senglau’r Selar Ym mis Tachwedd, bydd Y Selar yn sefydlu clwb ecsgliwsif iawn – Clwb Senglau’r Selar. Diolch i’n ffrindiau yn Rasal, byddwn yn rhyddhau sengl newydd sbon gan artist newydd bob mis! Byddwn ni’n dewis a dethol yr artistiaid sy’n cael ymuno â Chlwb Senglau’r Selar yn ofalus, ond os ydach chi’n artist neu aelod o grŵp newydd sydd eisiau cymorth i ryddhau eich cynnyrch cyntaf, yna , ac fe gewch eich ystyried. Gigs Selar 10 Fyddai hi ddim yn ddathliad pen-blwydd heb barti, a byddwn ni’n cynnal parti mawr ar ffurf gig Selar 10 yn Neuadd Fawr, Aberystwyth ar nos Wener 31 Hydref. Rydan ni’n falch iawn i groesawu Sŵnami, Yr Eira, Estrons a mwy i ymuno â’r parti – gwnewch yn siŵr eich bod chi yno. Byddwn ni hefyd yn cynnal gigs ym Mangor a Chaerdydd ddechrau mis Tachwedd i nodi’r achlysur os nad oes modd i chi ei gwneud hi i Aber.

A mwy... Bydd ‘na ambell sypreis bach arall i nodi’r penblwydd felly cadwch olwg ar y wefan www.y-selar. com a’n cyfrif Twitter @Y_Selar am y newyddion diweddaraf.

22

y-selar.co.uk

Rhestr Siopa Griff Yn draddodiadol mae’r Eisteddfod wedi bod yn gyfle da i wneud mymryn o siopa cerddorol. Pa syndod felly fod Griff Lynch wedi cyffroi dros ychydig o’r cynnyrch newydd sydd ar y gweill. Ma’ ’na ambell i record dwi’n edrych ymlaen at ei chlywed eleni, lot o fandiau ac artistiaid newydd a bandiau ifanc yn dod i oed, mae’n argoeli i fod yn chwe mis bach reit gyffrous o ran albyms, EPs a senglau. Yn gyntaf oll, Mellt. Mae’r grŵp yma wedi bod ar gyrion y sin ers rhai blynyddoedd bellach, ond dros y flwyddyn ddiwethaf wedi hawlio’i lle fel un o’r grwpiau mwyaf addawol, (cofiwch eu bod dal yn ddisgyblion ysgol!) Ma’ dawn ysgrifennu Glyn yn amlwg, ac yn siwtio arddull egniol, a sŵn amrwd y band. Mae hyn oll yn cael ei goroni gan gynhyrchu gwych Mei Gwynedd, sy’n dod ag atseiniau o’r Cyrff cynnar i’r mics. Mae eu EP nhw’n sicr yn un i edrych ymlaen amdani. Daw Palenco o lwch Jen Jeniro, gyda Dafydd a Llŷr o’r band yn ymuno â Gruff o’r Niwl, George o Sen Segur, ac Osian Candelas. Er nad ydw i wedi clywed eu set byw eto, dwi wedi cael cipwrandawiad ar eu sengl ddwbl 7” sydd allan yn fuan. Mae’r melodiau hyfryd, a’r cynhyrchu Fleet Fox-aidd yn plesio, ac rwy’n disgwyl clywed lot mwy gan y grŵp yn y dyfodol. Does ’na ddim lot o gynnyrch electro, neu drwm a bas yn cael ei greu o fewn y sin yng Nghymru, ond mae Switch Fusion yn un o’r rhai safonol sy’n haeddu sylw. Mi wnaeth o sesiwn i C2 yn ddiweddar, ac mae ganddo fwy o stwff ar y gweill. Mae’n hawdd creu synnau electronig, curiadau a bas ar gyfrifiadur, ond mae’n anodd ei wneud o’n dda, a ma’ Gethin Owen sicr yn annog rhywun i ddawnsio. Da clywed hefyd fod Colorama yn rhyddhau casgliad o’u caneuon Cymraeg. Dim byd newydd efallai, ond mae’n grêt cael ein hatgoffa o fodolaeth ambell i glincar megis ‘V Moyn T’, ‘Eleri’ a ‘Mwy Na Ddoe’. Wn i ddim faint o’r rhain sydd allan “erbyn y sdeddfod”, ond os ydynt, ewch i chwilio amdanynt rŵan!


hysbys 576 selar 2014 190x138mm_562 16/07/2014 09:31 Page 3

PRIFYSGOL BANGOR YN ARWAIN AR Y GYMRAEG

Bydd Sŵnami yn canu’n fyw ar ein stondin yn yr Eisteddfod 2.30pm dydd Gwener, Awst 8

•Prospectws newydd a manylion cyrsiau ar •Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar gael ar gyfer mynediad yn 2015

Ffôn: 01248 382005/383561 E-bost: marchnata@bangor.ac.uk

•Mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru •Neuadd Gymraeg sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru

•Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

www.facebook.com/PrifysgolBangor www.twitter.com/prifysgolbangor

www.bangor.ac.uk

Poptastig! Nos Lun a nos Wener 9 -10pm

bbc.co.uk/c2

190x138 Guto Rhun ad.indd 1

16/07/2014 17:38


@cyfryngau

www.abertawe.ac.uk

Profile for Y Selar

Selar Awst 2014  

Selar Awst 2014  

Profile for y_selar
Advertisement