Page 9

Gŵyl y Llais yw gŵyl aml-gelfyddydol ryngwladol Caerdydd sy’n dathlu’r llais yn ei holl ffurfiau. Mae’r ŵyl yn cynnwys lleisiau grymus ac amrywiol o fyd cerddoriaeth a’r celfyddydau, gan groesawu lleisiau lleol a rhyngwladol drwy raglen o berfformwyr sydd wedi ennill gwobrau Grammy, digwyddiadau untro, cyweithiau artistig unigryw a phrosiectau cyfranogi cymunedol.

Yn 2018 gwerthwyd dros 26,000 o docynnau i weld artistiaid fel Patti Smith, Billy Bragg ac Angelique Kidjo yn ogystal â gwaith newydd gan Gruff Rhys gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Roedd y cyfranwyr eraill o Gymru yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Gareth Bonello a Gwenno, ynghyd â rhaglen gref o theatr wedi’i chreu’n lleol.

Y LLAIS Darganfod mwy: wmc.org.uk/gwyl-y-llais 9

Profile for walesmillenniumcentre

Canolfan Mileniwm Cymru Adolygiad Blwyddyn 2018 / 2019  

Canolfan Mileniwm Cymru Adolygiad Blwyddyn 2018 / 2019  

Advertisement