UWIC Alumnium Welsh Issue 2

Page 16

Cynfyfyrwyr Rhyngwladol UWIC

Cynfyfyrwyr Rhyngwladol UWIC Gyda chymaint o’n cynfyfyrwyr yn byw ymhell o Gaerdydd, rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y profiad mor ystyrlon i gynfyfyrwyr o dramor ag ydyw i’r rheini sy’n byw’n agosach i gartref. Yn amlwg, nid yw’r defnydd o lyfrgelloedd a chyfleusterau campfa UWIC mor berthnasol i’r sawl sy’n byw miloedd o filltiroedd i ffwrdd! Mae ein rhwydwaith newydd o lysgenhadon cynfyfyrwyr yn helpu i wneud iawn am hyn. Mae llysgenhadon yn ein galluogi i gael presenoldeb ym mhob ardal lle mae nifer sylweddol o gynfyfyrwyr. Hwyrach y bydd pump, neu 150, o raddedigion mewn dinas neu wlad benodol – ond os felly, rydym yn awyddus i’w helpu i gysylltu! Mae rhwydweithio cynfyfyrwyr yn gyfle gwych yn gymdeithasol ac i gysylltiadau busnes lleol. Rydym hefyd ar-lein, yn defnyddio’r wefan LinkedIn i ddarparu cyfrwng rhwydweithio proffesiynol i raddedigion ym mhob cwr o’r byd. Os hoffech chi i ni eich helpu i gysylltu’n fwy effeithiol, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Swyddog Cynfyfyrwyr Rhyngwladol yn eich ardal, cysylltwch â ni!

www.linkedin.com

Seremoni raddio yn Hong Kong Bu grŵp cyntaf UWIC o fyfyrwyr MSc Rheoli Diogelwch Bwyd ym Mhrifysgol Hong Kong yn dathlu eu llwyddiant eleni. Mynychodd yr Athro Antony Chapman y seremoni raddio: "Mae’r weledigaeth yn Hong Kong yn un dros dymor hir. Mae wedi bod yn fraint i UWIC ac Ysgol Addysg Broffesiynol a Pharhaus Prifysgol Hong Kong i gefnogi’r myfyrwyr a’u noddwyr i ateb heriau’r 21ain Ganrif. Mae’r rhaglen hon yn bartneriaeth sydd o fudd i bawb."

15

Mae’r rhaglen, sydd bellach yn ei hail flwyddyn o gydweithio gyda Phrifysgol Hong Kong, sy’n un o’r 25 o brifysgolion gorau yn y byd, wedi cael ei chymeradwyo’n fawr gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ac mae ei phoblogrwydd yn cynyddu yn y rhanbarth bywiog hwn.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.