Cylchgrawn Cyn-fyfyrwyr 2013

Page 8

Biliwn o deithwyr: Rheswm i bryderu neu i ddathlu? Oddi ar iddi raddio yn 2008, mae Christy Hehir wedi mynd ymlaen i fod yn ymchwilydd arobryn ac mae newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf, Arctic Reflections. Mae tîm y cyn-fyfyrwyr yn cael gair â hi i weld sut llwyddodd hi i roi ei throed ar bob cyfandir a nofio yn ardal y ddau begwn! Yn 2012 am y tro cyntaf, cyrhaeddodd nifer y teithwyr rhyngwladol biliwn o deithwyr – ac er bod hyn yn rheswm i ddathlu ac yn dangos llwyddiant yn y sector teithio, oni ddylai fod yn rhybudd hefyd? Rydym yn wynebu dilema. Sut gallwn gydbwyso awydd i ymweld â diwylliannau eraill a gwledydd pellennig â chydwybod sy’n galw am ostyngiad yn ein hallyriadau carbon bob dydd? I lawer, daeth

8 | Cyn-fyfyrwyr Met Caerdydd 2013

twristiaeth yn ras i restru profiadau a chyrchfannau y gellir brolio amdanynt. Byddwn yn casglu stampiau ar ein pasbort a lluniau digidol cyn symud ymlaen i’r safle nesaf rydym yn ‘gorfod’ ymweld â fe. Ydw i’n un o’r bobl hyn? Ydw! Yn 26 oed rwyf eisoes wedi camu ar bob un o’r saith cyfandir ac wedi nofio yn ardal y ddau begwn - ac eto yr union brofiadau hyn sydd wedi agor fy llygaid i gyflymder datblygiad twristiaeth. Dychmygwch eich bod yn ysgrifennu cerdyn post i fynd adref o’ch gwyliau yn Svalbard yn 2020. Daeth yr Arctig yn brif gyrchfan ar gyfer mordeithiau; mae gwestai moethus a meysydd awyr yno ar gyfer teithiau dyddiol gan awyrennau. Mae parc natur yno lle y gallwch fod yn si r o weld eirth gwyn a walrwsiaid a gallwch weld y rhain o’r tu mewn i’r Starbucks mwyaf gogleddol yn y byd.

Nawr dychmygwch eich cerdyn post os oes cwota ar gyfer nifer y twristiaid sy’n cael ymweld ym mhob un tymor. Fe wnaeth fy ffrind newydd Luka Tomac (Croatia) a finnau gydweithio i greu llyfr pwerus ac ysbrydoledig yn dangos y profiadau ar ein siwrnai i’r Arctig.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.