Cyllid i Fyfyrwyr Gofal Iechyd (Cym)

Page 1

FYFYRWYR GOFAL
CYLLID I
IECHYD
CYNNWYS Opsiynau Cyllid i Fyfyrwyr Gofal Iechyd 04 Bwrsariaeth GIG Cymru 06 Cyflwyniad i Gyllid Myfyrwyr Safonol 16 Cyllid Safonol i Fyfyrwyr Cymru 18 Cyllid Safonol i Fyfyrwyr Lloegr 26 Cymorth Ychwanegol 34 Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau yn PDC 36 Cwrdd â'n Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr 38 OS MAI DYMA'R TRO CYNTAF I CHI ASTUDIO AR LEFEL ADDYSG UWCH, DILYNWCH Y CANLLAWIAU YN Y LLYFRYN HWN. OS NAD YDYW, CYSYLLTWCH Â THÎM CYNGOR ARIANNOL I FYFYRWYR I GAEL GWYBOD AM OBLYGIADAU EICH ASTUDIAETH FLAENOROL AR GYLLID YN Y DYFODOL. www.decymru.ac.uk | 03 02 | Prifysgol De Cymru

OPSIYNAU CYLLID I FYFYRWYR

Mae dau opsiwn cyllid ar gael ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd PDC:

• Bwrsariaeth GIG Cymru

• Cyllid Myfyrwyr Safonol

Bydd yn rhaid i chi ddewis pa opsiwn cyllid sy'n well i chi – Bwrsariaeth y GIG neu Gyllid Myfyrwyr Safonol.

Bydd yr hyn sydd orau yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch ffactorau unigol fel pa wlad yr ydych yn hanu ohoni, eich cwrs dewisol, lefel incwm eich aelwyd, eich astudiaeth flaenorol, ac ati. Os hoffech gael cyngor pellach am yr opsiynau cyllid a pha un allai fod orau i chi, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr (manylion cyswllt ar dudalen 40).

Bydd angen i chi gyflwyno cais newydd am fwrsariaeth GIG Cymru neu gyllid myfyrwyr safonol, ar gyfer pob blwyddyn astudio.

Llawn Amser

• Nyrsio (Anableddau Dysgu, Oedolion, Plant, Iechyd Meddwl)

• Bydwreigiaeth

• Ymarfer Adran Lawdriniaeth (YAL)

Rhan-amser

• Therapi Galwedigaethol

• Ffisiotherapi

AM FWY O WYBODAETH

• Bwrsariaeth GIG Cymru (gweler tudalennau 6-13)

• Cyllid myfyrwyr Safonol Cymru (gweler tudalennau 16-23)

• Cyllid myfyrwyr Safonol Lloegr (gweler tudalennau 24-31)

DIFFINIADAU

BENTHYCIAD

GALL UNRHYW BETH Y CYFEIRIR ATO FEL

BENTHYCIAD FOD YN AD-DALADWY AR RYW ADEG.

GRANT

NID OES ANGEN EI AD-DALU.

BWRSARIAETH

NID OES ANGEN EI HAD-DALU.

CYNHALIAETH

CYLLID I HELPU GYDA CHOSTAU BYW. PRAWF MODD

BYDD Y CYMORTH SYDD AR GAEL YN DIBYNNU AR FEINI PRAWF ARIANNOL.

CREDYDAU CWRS

UNEDAU SY'N CYNRYCHIOLI FAINT O WAITH ACADEMAIDD A GWBLHEIR MEWN CWRS PENODOL. FEL ARFER, MAE GAN GWRS ISRADDEDIG LLAWN

AMSER 120 O GREDYDAU’R FLWYDDYN.

MYFYRWYR CYMRU

MYFYRWYR SY'N BYW YNG NGHYMRU AR NEU CYN

DIWRNOD CYNTAF BLWYDDYN ACADEMAIDD GYNTAF EU CWRS. I WELD MEINI PRAWF CYMHWYSEDD LLAWN CYLLID MYFYRWYR CYMRU EWCH I: CYLLIDMYFYRWYRCYMRU.CO.UK

MYFYRWYR LLOEGR

MYFYRWYR SYDD WEDI BOD YN BYW YN LLOEGR AM DAIR BLYNEDD YN OLYNOL CYN DIWRNOD

CYNTAF BLWYDDYN ACADEMAIDD GYNTAF EU

CWRS. I WELD MEINI PRAWF CYMHWYSEDD LLAWN

CYLLID MYFYRWYR LLOEGR, EWCH I: GOV.UK/STUDENT-FINANCE/WHO-QUALIFIES

GOFAL IECHYD
www.decymru.ac.uk | 05 04 | Prifysgol De Cymru

BWRSARIAETH GIG CYMRU

Mae'r Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr sy'n gyfrifol am weithredu Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, sy'n darparu cyllid i fyfyrwyr gofal iechyd ar gyrsiau a ariennir gan y GIG yng Nghymru.

SGANIWCH Y COD QR ISOD I DDYSGU

AM YR HOLL OPSIYNAU CYLLID GIG CYMRU SYDD AR GAEL. NEU EWCH I: PCGC.GIG.CYMRU/ EIN-GWASANAETHAU/ GWASANAETHAU-DYFARNIADAUMYFYRWYR/

06 | Prifysgol De Cymru
www.decymru.ac.uk | 07

BETH YW BWRSARIAETH GIG CYMRU?

Mae Bwrsariaeth GIG Cymru yn darparu cymorth ar gyfer ffioedd a chostau byw i fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio Nyrsio, Bydwreigiaeth neu gwrs Proffesiynol Iechyd Perthynol.

Rhennir y fwrsariaeth yn dair prif ran:

• Ffioedd dysgu

• Grant heb brawf modd

• Bwrsariaeth prawf modd

Bydd angen i chi gyflwyno cais newydd bob blwyddyn er mwyn i'ch Bwrsariaeth GIG Cymru gael ei hariannu ar gyfer pob blwyddyn astudio. Gallwch wneud cais yma: nhsstudents.wales

Mae cymhwysedd ar gyfer cyllid y GIG yn amodol ar fyfyrwyr newydd yn ymrwymo ymlaen llaw i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd.

Argymhellir yn gryf eich bod yn gwirio telerau ac amodau Bwrsariaeth GIG Cymru.

Os oes gennych ymholiadau amdani, cysylltwch â Gwasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru. Am delerau ac amodau llawn, ewch i: pcgc.gig.cymru/ein-gwasanaethau/ gwasanaethau-dyfarniadau-myfyrwyr/

Os nad ydych am ymrwymo i weithio yng Nghymru a'ch bod yn gymwys, gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr safonol yn lle’r fwrsariaeth.

MAE CYMHWYSEDD AR GYFER CYLLID Y GIG YN AMODOL AR FYFYRWYR NEWYDD YN YMRWYMO YMLAEN

LLAW I WEITHIO YNG NGHYMRU AM DDWY FLYNEDD.*

www.decymru.ac.uk | 09
08 | Prifysgol De Cymru
*Gwiriwch delerau ac amodau bwrsariaeth GIG Cymru

BWRSARIAETH PRAWF

MODD GIG CYMRU (ASESIR INCWM)

Mae p’un a ydych yn gymwys a faint o fwrsariaeth

GIG Cymru a gewch yn seiliedig ar incwm eich cartref ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf. Mae hefyd yn dibynnu a ydych yn byw yng nghartref eich rhiant, neu rywle arall yn y DU.

Sut Mae'n Gweithio?

Wrth i incwm eich aelwyd gynyddu, mae swm y fwrsariaeth sydd ar gael yn gostwng.

Efallai na fydd y rhai sydd yn y trothwyon incwm uwch (sy'n ennill £55,000 a mwy) yn derbyn unrhyw fwrsariaeth. Fodd bynnag, gallai fod yn werth gwneud cais er mwyn bod yn destun prawf modd oherwydd os nad ydych yn destun prawf modd o gwbl, ni fyddwch yn cael eich ystyried am unrhyw gymorth gyda chostau lleoliadau gwaith clinigol.

Mae swm y fwrsariaeth y mae gennych hawl iddo wedi'i rannu'n 12 taliad misol sy’n cael eu talu'n uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif banc.

Wythnosau Ychwanegol

Os yw'ch cwrs yn rhedeg am fwy na 30 wythnos, ac yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, efallai y bydd gennych hawl hefyd i'r Lwfans Wythnosau Ychwanegol sy'n destun prawf modd. Uchafswm y fwrsariaeth sydd ar gael y flwyddyn ar gyfer cwrs llawn amser yn PDC (gan gynnwys wythnosau ychwanegol) yw £2,879 os ydych yn byw gyda'ch rhieni neu £3,651 os ydych yn byw y tu allan i gartref eich rhieni.*

Cymorth Ychwanegol

Gall myfyrwyr hefyd dderbyn cymorth gyda chostau lleoliad gwaith clinigol gyda'r fwrsariaeth prawf modd hon.

I ddysgu mwy am gyfraddau a faint o fwrsariaeth y gallech ei derbyn, ewch i: www.decymru.ac.uk/arian

FFIOEDD DYSGU

Mae ffioedd dysgu'r cwrs yn cael eu talu gan GIG Cymru. Mae'r fwrsariaeth yn cynnwys y Benthyciad Ffioedd Dysgu’n llawn, ac nid yw'n asesu incwm, ond mae dal angen i chi wneud cais am hyn fel rhan o'r cais ar-lein.

GRANT CYNHALIAETH

Mae grant heb brawf modd gwerth £1,000, nid oes rhaid ad-dalu hyn.

BENTHYCIAD CYNHALIAETH

Yn ogystal â Bwrsariaeth GIG Cymru, fel myfyriwr israddedig amser llawn gallwch hefyd wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth. Mae'r swm rydych yn gymwys i'w dderbyn bob blwyddyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw cyn dechrau eich cwrs (e.e. Cymru neu Loegr) a ble rydych yn byw wrth astudio eich cwrs (e.e. gyda'ch rhieni neu rywle arall).

Myfyrwyr o Gymru sy'n gymwys i gael cyllid gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, dylech dderbyn £9,315 os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni neu £11,150 os ydych yn byw yn rhywle arall.* I wneud cais am y Benthyciad Cynhaliaeth, ewch i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Myfyrwyr o Loegr sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr, dylech dderbyn £2,004 os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni, neu £2,670 os ydych yn byw yn rhywle arall.* I wneud cais am y Benthyciad Cynhaliaeth, ewch i: www.gov.uk/student-finance

www.decymru.ac.uk | 11 10 | Prifysgol De Cymru
*Gall y ffigyrau newid. Ewch i'ch gwefan Cyllid Myfyrwyr perthnasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
BWRSARIAETH GIG CYMRU – CYLLID AR GYFER CYRSIAU LLAWN AMSER

BWRSARIAETH GIG CYMRU –

AR GYFER CYRSIAU

RHAN-AMSER A ARIENNIR

Mae'r wybodaeth cyllid ganlynol ar gyfer y cyrsiau a restrir isod:

• BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol

• BSc (Anrh) Ffisiotherapi

Mae'r cyrsiau hyn yn rhan-amser yn PDC ac yn 4 blynedd o hyd. Ar hyn o bryd ym mlynyddoedd 1 a 4 maent yn para 40 wythnos, ym mlynyddoedd 2 a 3 maent yn para 38 wythnos.

Ar gyfer cwrs rhan-amser, byddwch yn derbyn y cyllid canlynol:

GRANT GIG CYMRU HEB BRAWF MODD

Ffioedd Dysgu – Mae'r GIG yn talu ffioedd dysgu'r cwrs. Grant Cynhaliaeth – Grant heb brawf modd gwerth £750, nad oes rhaid ei ad-dalu.

BWRSARIAETH PRAWF MODD GIG

CYMRU

Mae cyfraddau gwahanol o fwrsariaeth yn dibynnu a ydych yn bwriadu byw yng nghartref eich rhieni tra byddwch yn astudio, neu os ydych yn bwriadu byw yn rhywle arall.

Gallwch gael 75% o'r fwrsariaeth llawn amser a chael cymorth ar gyfer wythnosau ychwanegol, a elwir yn Lwfans Wythnosau Ychwanegol. Mae Lwfans Wythnosau Ychwanegol yn destun prawf modd, mae swm y cymorth y byddwch yn ei dderbyn yn seiliedig ar hyd eich cwrs ac incwm eich aelwyd.

Mae'r cyfraddau yn seiliedig ar flwyddyn academaidd o 40 wythnos ar gyfer blynyddoedd 1 a 4, a 38 wythnos ar gyfer blynyddoedd 2 a 3.

Gan mai bwrsariaeth prawf modd yw hwn, mae faint rydych chi'n ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Incwm gweddilliol yw incwm yr aelwyd am y flwyddyn dreth ddiweddaraf.

Mae swm y fwrsariaeth y mae gennych hawl iddo wedi'i rannu'n 12 taliad misol sy’n cael eu talu'n uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif banc.

12 | Prifysgol De Cymru www.decymru.ac.uk | 13

BWRSARIAETH GIG CYMRU –PROSES

YMGEISIO

GWIRIWCH A YDYCH CHI’N GYMWYS

Ewch i dudalen Gwasanaethau

Dyfarniadau Myfyrwyr - Partneriaeth

Cydwasanaethau GIG Cymru i weld a ydych yn gymwys i gael y fwrsariaeth: pcgc.gig.cymru/ein-gwasanaethau/ gwasanaethau-dyfarniadau-myfyrwyr/

Fel myfyriwr llawn amser, dylech wirio a ydych yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth ar ben eich bwrsariaeth GIG Cymru.

GWIRIWCH A ALLWCH GAEL CYMORTH YCHWANEGOL

Mae Cyllid Myfyrwyr a PDC yn cynnig nifer o wahanol grantiau, bwrsariaethau neu ysgoloriaethau y gallech fod yn gymwys i'w derbyn. Ewch i dudalennau 34-35 neu ewch i dudalen ffioedd a chyllid ein gwefan am ragor o fanylion: decymru.ac.uk/arian

PARATOWCH AR GYFER EICH CAIS

Gwiriwch pryd y gallwch wneud cais, pa ddogfennau adnabod sydd eu hangen ac a oes angen i chi roi prawf o incwm eich aelwyd o'r flwyddyn dreth flaenorol. Unwaith y bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch wrth law, mae'n amser gwneud eich cais.

DERBYN EICH

BWRSARIAETH GIG

Ar ôl i chi gael eich asesu gan Wasanaethau

Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG, , byddant yn rhoi gwybod i PDC am faint y fwrsariaeth rydych yn gymwys i’w dderbyn ac yn awdurdodi PDC i wneud taliadau.

Unwaith y bydd PDC wedi derbyn yr awdurdodiad hwn, bydd taliadau'n cael eu gwneud i'ch cyfrif banc bob mis. Mae'r taliad cyntaf yn ddyledus ddiwedd mis Hydref (i'r rhai sy'n dechrau ym mis Medi) ac ar ddiwedd mis Mai i'r rhai sy'n dechrau ym mis Ebrill.

DERBYN EICH BENTHYCIAD CYNHALIAETH (MYFYRWYR LLAWN AMSER)

Bydd eich benthyciad cynhaliaeth yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad yn agos at ddechrau pob tymor.

GWNEWCH GAIS AM FWRSARIAETH GIG CYMRU

Dylai pob myfyriwr sy'n ystyried yr opsiwn hwn sicrhau eu bod wedi darllen telerau ac amodau’r opsiwn bwrsariaeth GIG Cymru, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin ynghylch cyflawni'r elfen waith, mae telerau ac amodau ar gael drwy: decymru.ac.uk/arian

Mae ceisiadau ar agor drwy gydol y flwyddyn. Bydd pryd y dylech wneud cais am gyllid myfyrwyr yn dibynnu ar ddyddiad cychwyn eich cwrs. Rhaid i chi wneud cais ymhen 10 wythnos o ddechrau'r cwrs.

Gwnewch gais ar-lein drwy: www.nhsstudents.wales/

Mae canllawiau a gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gael drwy: pcgc.gig.cymru/eingwasanaethau/gwasanaethau-dyfarniadaumyfyrwyr/sut-alla-i-wneud-cais-am-fwrsariaeth/

GWNEWCH GAIS AM GYMORTH CYNHALIAETH

Fel myfyriwr llawn amser, dylech nawr wneud cais am eich Benthyciad Cynhaliaeth.

Dylai myfyrwyr o Gymru wneud cais i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Dylai myfyrwyr o Loegr wneud cais i www.gov.uk/student-finance

14 | Prifysgol De Cymru www.decymru.ac.uk | 15

CYFLWYNIAD I GYLLID SAFONOL I

FYFYRWYR

Mae cyllid ar gael i fyfyrwyr Cymru a Lloegr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr i helpu i dalu costau byw (cynhaliaeth). Mae Cyllid Myfyrwyr

Cymru/Lloegr hefyd yn darparu benthyciad ymlaen llaw i dalu ffioedd dysgu.

BETH YW BENTHYCIAD FFIOEDD DYSGU?

Mae Benthyciad Ffioedd Dysgu yn talu cost ffioedd eich cwrs israddedig drwy gydol eich astudiaethau. Byddai'r cyllid hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch prifysgol ar ôl i chi gofrestru.

Byddwch ond yn dechrau ad-dalu'r benthyciad hwn pan fyddwch wedi gorffen eich astudiaethau ac yn ennill mwy na'r trothwy (yn amodol ar delerau ac amodau).

BETH YW CYMORTH CYNHALIAETH?

Mae cymorth cynhaliaeth yn ychwanegol i'ch Benthyciad Ffioedd Dysgu. Ei fwriad yw helpu gyda chostau llety, teithio, bwydydd, a nwyddau academaidd, a'r ffordd yr ydych yn dyrannu'r arian hwn yw eich penderfyniad chi.

Mae cymorth cynhaliaeth yn destun prawf modd, felly bydd y swm y byddwch yn derbyn yn seiliedig ar incwm eich aelwyd a ble byddwch yn byw neu'n astudio, er enghraifft:

• Gartref gyda'ch rhieni/gofalwyr

• I ffwrdd o gartref eich rhieni ac yn astudio tu allan i Lundain

Fe'i telir yn uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif banc mewn tri rhandaliad drwy gydol y flwyddyn, fel arfer tuag at ddechrau pob tymor.

www.decymru.ac.uk | 17 16 | Prifysgol De Cymru

CYLLID SAFONOL I FYFYRWYR

CYMRU

A YDW I'N CAEL FY YSTYRIED YN FYFYRIWR CYMRU?

Nid myfyrwyr o Gymru yn unig yw myfyrwyr Cymru. Rydych chi'n cael eich ystyried yn fyfyriwr Cymru os ydych chi'n bodloni unrhyw un o'r canlynol:

• Rydych yn wladolyn y DU neu’n ddinesydd Iwerddon ac wedi bod yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs.

• Rydych wedi bod yn byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs. Rydych hefyd wedi derbyn statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog o dan y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Hefyd, bydd angen i chi fyw yng Nghymru ar neu cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs

Gallwch hefyd fod â math o statws preswylio eithriedig sy’n gymwys, megis ffoadur, person heb wladwriaeth neu ddiogelwch dyngarol.

I weld meini prawf cymhwysedd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn llawn, ewch i: cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

18 | Prifysgol De Cymru www.decymru.ac.uk | 19

CYLLID SAFONOL AR GYFER

MYFYRWYR AMSER LLAWN CYMRU

BENTHYCIAD FFIOEDD DYSGU

Y ffi israddedig ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau PDC yw £9,000 y flwyddyn ar gyfer dyfodiaid 2024.

Nid yw faint o fenthyciad ffioedd dysgu a gewch yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu eich Benthyciad Ffioedd Dysgu yn uniongyrchol i Brifysgol De Cymru.

Byddwch yn derbyn llythyr 'hysbysiad o hawl' gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a fydd yn cadarnhau faint o gymorth y mae gennych hawl iddo yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Cymru os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Mae'r ad-daliadau yn cychwyn pan fyddwch yn ennill £27,295 y flwyddyn.* Os nad ydych wedi ad-dalu'r cyfanswm sy'n ddyledus gennych o fewn 30 mlynedd, caiff y balans sy'n weddill ei ddileu.

Cesglir ad-daliadau drwy'r system dreth a chânt eu cyfrifo'n fisol.

CYMORTH CYNHALIAETH

Bydd gennych hawl i gymorth cynhaliaeth fel cyfuniad o grant a benthyciad. Mae hyn yn ychwanegol at eich Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Bydd angen ad-dalu’r elfen Benthyciad ynhaliaeth (pan fyddwch yn ennill mwy na’r trothwy ad-dalu), ond nid oes angen ad-dalu’r Grant Cynhaliaeth.

Sut mae hyn yn gweithio?

Cyfanswm y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr Cymru yw:

• £10,315 y flwyddyn i'r rhai sy'n byw gartref gyda'u rhieni.*

• £12,150 y flwyddyn i'r rhai sy'n byw oddi wrth gartref eu rhieni a thu allan i Lundain.*

Os yw incwm eich aelwyd yn isel, byddwch yn derbyn benthyciad llai a grant mwy, sy’n golygu y bydd gennych lai o fenthyciad i’w dalu’n ôl.

Mae'r gwrthwyneb yn wir i'r rhai ble mae incwm aelwydydd yn uwch; po uchaf yw'r incwm, po fwyaf o fenthyciad a gewch chi a llai o grant.

Bydd pwysoliad y benthyciad a’r grant yn cael ei gyfrifo a byddwch yn cael yr un cyfanswm cyffredinol o gyllid cynhaliaeth â phawb arall.

Bydd pob myfyriwr llawn amser cymwys yn cael grant o £1,000 o leiaf beth bynnag fo incwm eu haelwyd.*

Efallai y bydd gennych hawl hefyd i gael wythnosau ychwanegol o fenthyciad cynhaliaeth gan fod eich cwrs yn hirach na'r 30 wythnos safonol. Mae eich hawl i gael wythnosau ychwanegol o fenthyciad yn destun prawf modd felly bydd yn dibynnu ar lefel incwm eich cartref. Gallech gael hyd at £1,704 ychwanegol (os ydych yn byw yn rhywle arall) neu £1,128 (os ydych yn byw mewn cartref eich rhiant/rhieni).

Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a Grant Cynhaliaeth i mewn i'ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer ar ddechrau pob tymor.

www.decymru.ac.uk | 21 20 | Prifysgol De Cymru DIM OND PAN FYDDWCH YN ENNILL £27,295 Y FLWYDDYN Y BYDDWCH YN DECHRAU AD-DALU’R BENTHYCIAD* *Gall y ffigurau newid, cyfeiriwch at wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael y costau diweddaraf: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

CYLLID SAFONOL AR GYFER MYFYRWYR RHAN-AMSER CYMRU

BENTHYCIAD FFIOEDD DYSGU

Fel myfyriwr rhan-amser, gallwch wneud cais am hyd at £2,625. Nid yw faint o Fenthyciad Ffioedd Dysgu a gewch yn dibynnu ar incwm eich aelwyd.

Rhaid i chi fod yn astudio ar ddwysedd cwrs o 25% o leiaf i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Gallwch gyfrifo dwysedd eich cwrs drwy gymharu eich credydau modiwl â nifer y credydau modiwl y bydd myfyriwr amser llawn yn eu hastudio. Efallai y gofynnir i chi faint o gredydau y byddwch yn eu hastudio pan fyddwch yn gwneud cais am y benthyciad. Gallwch gysylltu â’n Tîm Ymholiadau os nad ydych yn siŵr am nifer y credydau, ewch i: enquiries@southwales.ac.uk

Codir ffioedd rhan-amser ar sail pro-rata yn unol â nifer y credydau a astudir ym mhob blwyddyn academaidd. Mewn blynyddoedd lle mae mwy o gredydau'n cael eu hastudio, efallai na fydd y benthyciad ffioedd dysgu yn ariannu’r holl ffioedd a godir. Gall myfyrwyr sefydlu cynllun talu gyda'r Brifysgol i dalu'r balans sy'n ddyledus.

Codir ffioedd rhan-amser safonol ar £740 am bob 20 credyd. Er enghraifft, byddai myfyriwr sy'n ymgymryd â 66% o ddwysedd (80 credyd) yn gorfod talu £2,960 y flwyddyn.*

Byddwch yn derbyn llythyr hysbysiad o hawl gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a fydd yn cadarnhau faint o gymorth y mae gennych hawl iddo yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu'ch benthyciad yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg.

Mae'r ad-daliadau yn cychwyn pan fyddwch yn ennill £27,295 y flwyddyn.* Os nad ydych wedi addalu'r cyfanswm sy'n ddyledus gennych o fewn 30 mlynedd, caiff y balans sy'n weddill ei ddileu.

CYMORTH CYNHALIAETH

Bydd gennych hawl i gymorth cynhaliaeth fel cyfuniad o grant a benthyciad. Mae hyn yn ychwanegol at eich Benthyciad Ffioedd Dysgu.

Bydd angen ad-dalu’r elfen Benthyciad Cynhaliaeth (pan fyddwch yn ennill mwy na’r trothwy ad-dalu), ond nid oes angen ad-dalu’r Grant Cynhaliaeth.

Sut mae hyn yn gweithio?

Mae cymorth cynhaliaeth yn destun prawf modd, mae faint a gewch yn dibynnu ar incwm eich aelwyd a dwysedd eich cwrs (25%, 50%, 75%). Mae gan wahanol ddwyseddau cwrs wahanol werthoedd cymorth cynhaliaeth cyffredinol. Rhaid i chi fod yn astudio cwrs ar ddwysedd o 25% o leiaf i gael grant rhan-amser a benthyciad ar gyfer costau byw. Er enghraifft, cyfanswm y cymorth cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio ar ddwysedd o 66%/ 80 credyd yw £5,917 y flwyddyn.

Os yw incwm eich aelwyd yn isel, byddwch yn derbyn benthyciad llai a grant mwy, sy’n golygu y bydd gennych lai o fenthyciad i’w dalu’n ôl.

Mae'r gwrthwyneb yn wir i'r rhai lle mae incwm eu haelwyd yn uwch; po uchaf yw'r incwm, po fwyaf o fenthyciad a gewch chi a llai o grant.

Bydd pwysoliad y benthyciad a’r grant yn cael ei gyfrifo a byddwch yn cael yr un cyfanswm cyffredinol o gyllid cynhaliaeth â phawb arall.

Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a Grant Cynhaliaeth i mewn i'ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer ar ddechrau pob tymor.

22 | Prifysgol De Cymru
www.decymru.ac.uk | 23
*Gall y ffigurau newid, cyfeiriwch at wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael y costau diweddaraf: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

PROSES YMGEISIO AM GYLLID

MYFYRWYR SAFONOL I

FYFYRWYR CYMRU

I'ch helpu gyda'r broses ymgeisio, dyma rai camau byr i chi eu dilyn. Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am gyllid myfyrwyr yw ar-lein: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

GWIRIWCH

A YDYCH YN GYMWYS

Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid i fyfyrwyr.

GWIRIWCH A ALLWCH CHI GAEL CYMORTH YCHWANEGOL

Efallai y gallwch gael cyllid ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio a oes prawf modd ar unrhyw fenthyciadau, grantiau, ysgoloriaethau neu fwrsariaethau.

Mae PDC hefyd yn cynnig nifer o wahanol fwrsariaethau ac ysgoloriaethau y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer. Ewch i dudalennau 34-35 neu ewch i’r dudalen ffioedd a chyllid ar ein gwefan am ragor o fanylion: www.decymru.ac.uk/arian

PETHAU

I'W COFIO

• Bydd angen i chi ailymgeisio am gyllid i fyfyrwyr bob blwyddyn o'ch cwrs.

• Cofiwch ddiweddaru eich manylion os yw eich amgylchiadau yn newid. Mae hefyd yn dda gwirio’ch manylion ddwywaith i sicrhau y gallwch gael eich talu’n gywir ac yn brydlon.

• Pan ddaw eich astudiaethau i ben, bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) yn creu cyfrif ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr ar eich cyfer.

PARATOWCH

Gwiriwch pryd y gallwch wneud cais, pa ddogfennau adnabod sydd eu hangen ac a oes angen i chi ddarparu tystiolaeth o incwm eich aelwyd.

Unwaith y bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch, mae'n bryd gwneud eich cais.

GWNEWCH GAIS

Rhaid i fyfyrwyr amser llawn wneud cais drwy ffurflen PN1 papur, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y benthyciad cynhaliaeth cywir ac nid un sy'n rhan o becyn Bwrsariaeth GIG Cymru.

Gallwch gael copi o'r ffurflen PN1 drwy gysylltu â'n Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr, neu drwy ffonio Cyllid Myfyrwyr Cymru.

DERBYN EICH CYLLID GAN GYLLID MYFYRWYR CYMRU

• Ar ôl i chi gwblhau eich cais, dylech dderbyn llythyr 'hysbysiad o hawl' gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

• Telir eich Benthyciad Ffioedd Dysgu yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg mewn 3 rhandaliad, ar ôl iddynt gadarnhau eich presenoldeb.

• Bydd eich Benthyciad Cynhaliaeth a Grant Cynhaliaeth yn cael eu talu'n uniongyrchol i chi 3 gwaith y flwyddyn ar ôl i'ch prifysgol neu goleg gadarnhau eich cofrestriad.

Rhaid i fyfyrwyr hefyd gofrestru gyda GIG Cymru ar-lein i optio allan o'r bwrsari ac anfon copi o'u e-bost optio allan at bursary_opt_out_SFW@slc.co.uk. Dylech gynnwys eich Cyfeirnod Cwsmer Cyllid Myfyrwyr, eich enw llawn a'ch dyddiad geni yn yr e-bost hwn fel y gall Cyllid Myfyrwyr eu cyfateb i'ch cais.

Gall myfyrwyr rhan-amser barhau i wneud cais ar-lein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

24 | Prifysgol De Cymru www.decymru.ac.uk | 25
£

CYLLID SAFONOL I FYFYRWYR LLOEGR

YDW I'N CAEL FY YSTYRIED YN FYFYRIWR LLOEGR?

Gallwch wneud cais am gymorth llawn gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:

• Rydych yn wladolyn y DU neu’n ddinesydd Iwerddon neu mae gennych 'statws preswylydd sefydlog' (dim cyfyngiadau ar faint o amser y gallwch aros).

• Rydych yn byw yn Lloegr fel arfer.

• Rydych wedi bod yn byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am dair blynedd yn olynol cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs (ar wahân i absenoldebau dros dro fel gwyliau).

I weld y meini prawf cymhwysedd Cyllid Myfyrwyr Lloegr yn llawn, ewch i: gov.uk/student-finance/who-qualifies

26 | Prifysgol De Cymru www.southwales.ac.uk | 05 www.decymru.ac.uk

BENTHYCIAD FFIOEDD DYSGU

Gall y Benthyciad Ffioedd Dysgu helpu myfyrwyr i dalu am y costau eu cwrs.

Ffi israddedig ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau PDC yw £9,000 y flwyddyn ar gyfer dyfodiaid 2024. *

Nid yw faint o fenthyciad ffioedd dysgu a gewch yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu eich Benthyciad Ffioedd Dysgu yn uniongyrchol i Brifysgol De Cymru.

Byddwch yn derbyn llythyr 'hysbysiad o hawl' gan

Gyllid Myfyrwyr Cymru a fydd yn cadarnhau faint o gymorth y mae gennych hawl iddo yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Cymru os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Mae'r ad-daliadau yn cychwyn pan fyddwch yn ennill £25,000 y flwyddyn.*

Os nad ydych wedi ad-dalu'r cyfanswm sy'n ddyledus gennych o fewn 40 mlynedd, caiff y balans sy'n weddill ei ddileu.

Bydd eich ad-daliadau yn cael eu tynnu allan o'ch cyflog ar yr un pryd â threth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn gyflogedig. Bydd eich slipiau cyflog yn dangos faint sydd wedi'i ddidynnu. Dylech wirio bod gan eich cyflogwr y cynllun ad-dalu cywir i chi.

BENTHYCIAD CYNHALIAETH

Gall israddedigion cymwys sy’n astudio’u gradd gyntaf wneud cais am gymorth ariannol i helpu gyda chostau byw wrth astudio.

Bydd yn rhaid i chi ad-dalu'ch Benthyciad Cynhaliaeth yn y pen draw, gan gynnwys llog ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs.

Sut mae hyn yn gweithio?

Mae'r Benthyciad Cynhaliaeth yn destun prawf modd ac mae faint rydych chi'n ei dderbyn yn seiliedig ar incwm eich aelwyd. Mae isafsymiau ac uchafsymiau’r benthyciadau sydd ar gael wedi’u rhestru isod:

• Byw gyda'ch rhieni (£3,790 - £8,610)*

• Byw i ffwrdd o gartref eich rhieni ac yn byw tu allan i Lundain (£4,767 -£10,227)*

Efallai y bydd gennych hawl hefyd i gael wythnosau ychwanegol o fenthyciad cynhaliaeth gan fod eich cwrs yn hirach na'r 30 wythnos safonol. Mae eich hawl i gael wythnosau ychwanegol o fenthyciad yn destun prawf modd felly bydd yn dibynnu ar lefel incwm eich cartref. Gallech gael hyd at £1,320 ychwanegol (os ydych yn byw yn rhywle arall) neu £876 (os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni).

Am fwy o wybodaeth ac i weld y cyfraddau Benthyciad Cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr amser llawn, ewch i: www.gov.uk/studentfinance/new-fulltime-students

Mae'r Benthyciad Cynhaliaeth yn cael ei dalu'n uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif banc ar ddechrau pob tymor.

28 | Prifysgol De Cymru
www.decymru.ac.uk | 29
OND
FYDDWCH YN ENNILL £25,000
FLWYDDYN Y BYDDWCH YN DECHRAU AD-DALU’R BENTHYCIAD* *Gall y ffigurau newid, cyfeiriwch at wefan Cyllid Myfyrwyr Lloegr am y costau diweddaraf: www.gov.uk/student-finance CYLLID SAFONOL AR GYFER MYFYRWYR LLAWN AMSER LLOEGR
DIM
PAN
Y

CYLLID SAFONOL AR GYFER

RHAN-AMSER LLOEGR

BENTHYCIAD FFIOEDD DYSGU

Efallai y byddwch yn gallu cael Benthyciad Ffioedd

Dysgu os oes gan eich cwrs rhan-amser ddwysedd cwrs o 25% neu fwy.

Gallwch gyfrifo hyn drwy gymharu eich credydau modiwl â nifer y credydau modiwl y bydd myfyriwr amser llawn yn eu hastudio. Gofynnir i chi faint o gredydau y byddwch yn eu hastudio pan fyddwch yn gwneud cais am y benthyciad.

Codir ffioedd rhan-amser safonol ar gyfradd o £740 am bob 20 credyd. Felly, er enghraifft, byddai myfyriwr sy'n ymgymryd â dwysedd o 66% (80 credyd) yn gorfod talu £2,960 y flwyddyn. Gallwch gael mynediad at fenthyciad ffioedd dysgu i dalu'r gost lawn.*

Gallwch gysylltu â'n Tîm Ymholiadau os nad ydych yn siŵr am nifer y credydau: enquiries@southwales.ac.uk

Mae ad-daliadau'n dechrau unwaith y byddwch yn ennill £25,000 y flwyddyn.*

Os nad ydych wedi ad-dalu'r cyfanswm sy'n ddyledus gennych o fewn 40 mlynedd, caiff y gweddill ei ddileu.

Bydd eich ad-daliadau yn cael eu didynnu o'ch cyflog ar yr un pryd â threth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn gyflogai. Bydd eich slipiau cyflog yn dangos faint sydd wedi'i ddidynnu. Dylech wirio bod eich cyflogwr wedi cofnodi’r cynllun addalu cywir ar eich cyfer.

BENTHYCIAD CYNHALIAETH

Gall israddedigion cymwys sy’n astudio’u gradd gyntaf wneud cais am gymorth ariannol i helpu gyda chostau byw wrth astudio. Bydd yn rhaid i chi ad-dalu'ch Benthyciad Cynhaliaeth yn y pen draw, gan gynnwys llog ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs.

Mae Benthyciad Cynhaliaeth rhan-amser ar gael, ond mae'n amodol ar ddwysedd eich astudiaeth.

Er enghraifft, byddai myfyriwr sy'n astudio ar ddwyster o 66%/80 credyd, yn gymwys i gael uchafswm o £5,682 fel benthyciad os ydynt yn byw yng nghartref eu rhieni neu £6,749 os ydynt yn byw i ffwrdd o gartref eu rhieni.

Bydd Cyllid Myfyrwyr Lloegr yn talu'r benthyciad yn uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif banc. Bydd taliadau'n cael eu gwneud yn agos at ddechrau pob tymor, bydd yr union ddyddiadau wedi'u rhestru ar yr amserlen talu a gewch gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr.

*Gall y ffigurau newid, cyfeiriwch at wefan Cyllid Myfyrwyr Lloegr am y costau diweddaraf: www.gov.uk/student-finance

30 | Prifysgol De Cymru
www.decymru.ac.uk | 31
MYFYRWYR

PROSES YMGEISIO AM

GYLLID SAFONOL I

FYFYRWYR LLOEGR

I'ch helpu gyda'r broses ymgeisio, dyma rai camau byr i chi eu dilyn. Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am gyllid myfyrwyr yw ar-lein: www.gov.uk/student-finance

GWIRIWCH A YDYCH CHI’N GYMWYS

Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Lloegr i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr.

GWIRIWCH A ALLWCH CHI GAEL CYMORTH YCHWANEGOL

Efallai y gallwch gael cyllid ychwanegol gan

Gyllid Myfyrwyr Cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio a oes prawf modd ar unrhyw fenthyciadau, grantiau, ysgoloriaethau neu fwrsariaethau.

Mae PDC hefyd yn cynnig nifer o wahanol fwrsariaethau ac ysgoloriaethau y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer. Ewch i dudalennau 34-35 neu ewch i’r dudalen ffioedd a chyllid ar ein gwefan am ragor o fanylion: www.decymru.ac.uk/arian

PETHAU I'W COFIO

• Bydd angen i chi ailymgeisio am gyllid i fyfyrwyr bob blwyddyn o'ch cwrs.

• Cofiwch ddiweddaru eich manylion os yw eich amgylchiadau yn newid. Mae hefyd yn dda gwirio’ch manylion ddwywaith i sicrhau y gallwch gael eich talu’n gywir ac yn brydlon.

• Pan ddaw eich astudiaethau i ben, bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) yn creu cyfrif ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr ar eich cyfer.

PARATOWCH

Gwiriwch pryd y gallwch wneud cais, pa ddogfennau adnabod sydd eu hangen ac a oes angen i chi ddarparu tystiolaeth o incwm eich aelwyd.

Unwaith y bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch, mae'n bryd gwneud eich cais.

GWNEWCH GAIS

Rhaid i fyfyrwyr amser llawn wneud cais drwy ffurflen PN1 papur, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y benthyciad cynhaliaeth cywir ac nid un sy'n rhan o becyn Bwrsariaeth GIG Cymru.

Gallwch gael copi o'r ffurflen PN1 drwy gysylltu â'n Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr, neu drwy ffonio Cyllid Myfyrwyr Lloegr.

Rhaid i fyfyrwyr hefyd gofrestru gyda GIG Cymru ar-lein i optio allan o'r bwrsari ac anfon copi o'u e-bost optio allan at bursary_opt_out_SFE@slc.co.uk.

Dylech gynnwys eich Cyfeirnod Cwsmer

DERBYN EICH CYLLID MYFYRWYR

Bydd Cyllid Myfyrwyr Lloegr yn anfon llythyr atoch sy’n cadarnhau faint o gyllid y byddwch yn ei gael, fel arfer o fewn 6 wythnos.

Ar ôl i chi gofrestru yn eich prifysgol neu goleg, fel arfer bydd eich benthyciad cynhaliaeth yn cael ei dalu'n uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif banc ar ddechrau pob tymor.

Cyllid Myfyrwyr, eich enw llawn a'ch dyddiad geni yn yr e-bost hwn fel y gall

Cyllid Myfyrwyr eu cyfateb i'ch cais.

Gall myfyrwyr rhan-amser barhau i wneud cais ar-lein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Lloegr.

32 | Prifysgol De Cymru www.decymru.ac.uk | 33
£

CYMORTH YCHWANEGOL

Isod mae opsiynau cymorth ychwanegol sydd ar gael drwy Gyllid Myfyrwyr neu GIG Cymru. Cyfeiriwch at y tabl ar dudalen 33 i weld pa opsiynau cymorth y gallech fod yn gymwys i'w derbyn, yn dibynnu ar eich dewis astudio.

LWFANS I FYFYRWYR ANABL (LFA)

Mae Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn gymorth ychwanegol ar ben eich cyllid myfyriwr arall a gellir ei ddefnyddio i dalu am gostau cysylltiedig ag astudio fel offer, cymorth anfeddygol, teithio, llungopïo ac argraffu.

Gallwch wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl i dalu rhai o'r costau ychwanegol sydd gennych oherwydd problem iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall. Mae faint o gymorth y gallwch ei gael ac ar beth y gallwch ei wario yn dibynnu ar eich anghenion unigol, nid incwm eich aelwyd. Nid oes angen i chi ad-dalu Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.

LWFANS DYSGU I RIENI (LDR)

Gall y cymorth hwn fynd tuag at rai o’r costau ychwanegol a allai fod gennych os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd â phlant. Bydd p'un a ydych yn gymwys a faint a gewch, yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Nid oes rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser Cymru, bydd eich Lwfans Dysgu i Rieni yn cael ei gyfrifo ar sail eich dwysedd astudio.

GRANT OEDOLION DIBYNNOL (GOD)

Gall y cymorth hwn fynd tuag at y costau ychwanegol a allai fod gennych, os ydych yn fyfyriwr israddedig ag oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol. Bydd p'un a ydych yn gymwys a faint a gewch, yn dibynnu ar incwm eich aelwyd, incwm eich dibynyddion ac a oes gennych bartner ai peidio. Nid oes rhaid i chi dalu'r grant hwn yn ôl.

Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser Cymru, bydd eich Grant Oedolion Dibynnol yn cael ei gyfrifo ar sail eich dwysedd astudio.

LWFANS DIBYNYDDION (LD)

Os byddwch yn dewis llwybr astudio bwrsariaeth y GIG, efallai y byddwch yn gymwys i gael lwfansau dibynyddion ar gyfer eich partner a/neu blant. Bydd faint o lwfans y gallech ei dderbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau a lefel incwm eich cartref. Mae'r lwfans hwn yn grant ac nid oes angen ei dalu'n ôl.

GRANT GOFAL PLANT (GGP)

Gall y cymorth hwn fynd tuag at eich costau gofal plant os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd â phlant. Bydd p'un a ydych yn gymwys a faint a gewch, yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Nid oes rhaid i chi dalu'r Grant Gofal Plant yn ôl.

Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser Cymru, byddwch yn cael eich asesu ar gyfer swm llai o Grant Gofal Plant ar sail eich dwysedd astudio.

ELFEN CYMORTH

ARBENNIG (ECA)

Efallai y bydd rhai myfyrwyr Lloegr amser llawn sydd â hawl sylfaenol i fudd-daliadau penodol, sy’n destun prawf modd, yn gymwys i gael cyfradd benthyciad Elfen Cymorth Arbennig yn lle'r benthyciad cynhaliaeth safonol. Golyga hyn y gallech fod â hawl i gyfradd uwch o Fenthyciad Cynhaliaeth ac, os oes gennych hawl i fudddaliadau, mae cyfran o'r Elfen Cymorth Arbennig yn cael ei diystyru gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

GRANT CYMORTH ARBENNIG (GCA)

Mae Grant Cymorth Arbennig ar gyfer myfyrwyr Cymru sy'n hawlio budd-daliadau penodol sy'n gysylltiedig ag incwm a'i fwriad yw helpu gyda chostau megis llyfrau, offer cwrs a theithio. Gallwch wneud cais ar-lein fel rhan o'ch prif gais am gyllid i fyfyrwyr.

Ar gyfer myfyrwyr llawn amser, gallech dderbyn cyfradd uwch o Fenthyciad Cynhaliaeth a ddyfernir gyda'r Grant Cynhaliaeth. Bydd p'un a ydych yn gymwys a faint a gewch, yn dibynnu ar incwm eich aelwyd a ble rydych yn byw ac yn astudio.

Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, mae p'un a ydych yn gymwys a faint o Grant Cymorth Arbennig a Benthyciad Cynhaliaeth a gewch yn dibynnu ar incwm eich aelwyd a dwysedd eich cwrs.

Os oes gennych hawl i fudd-daliadau, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn diystyru cyfran o'r elfen Grant Cymorth Arbennig. Nid oes rhaid i chi dalu'r grant hwn yn ôl.

34 | Prifysgol De Cymru www.decymru.ac.uk | 35
*Mae gwybodaeth a gwybodaeth yn destun newid. Cysylltwch â'ch cwmni Cyllid Myfyrwyr perthnasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. MYFYRIWR BWRSARIAETH GIG CYMRU LFA LDR GGP LD MATH O GRANT LWFANS I FYFYRWYR ANABL LWFANS DYSGU I RIENI GRANT GOFAL PLANT GRANT OEDOLION DIBYNNOL LWFANS DIBYNYDDION GRANT CYMORTH ARBENNIG ELFEN CYMORTH ARBENNIG CYLLID MYFYRWYR CYMRU (MYFYRWYR LLAWN AMSER A RHAN-AMSER) LFA LDR GGP GOD GCA CYLLID MYFYRWYR LLOEGR (MYFYRWYR LLAWN AMSER) LFA LDR GGP GOD ECA CYLLID MYFYRWYR LLOEGR (MYFYRWYR RHAN-AMSER) LFA ECA

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU YN PDC

Mae Prifysgol De Cymru eisiau cefnogi pob myfyriwr i gyrraedd ei botensial, beth bynnag fo'i amgylchiadau personol. Dyma pam mae gennym ni amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i ymgeiswyr cymwys.

BWRSARIAETH CYDRADDOLDEB ETHNIGRWYDD

Mae PDC yn cynnig 15 bwrsariaeth i fyfyrwyr israddedig sy’n dechrau eu hastudiaethau yn y flwyddyn academaidd 2024-25 a 2025-26, ac sydd wedi hunan-nodi fel un o’r grwpiau ethnig ar restr a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU: www.ethnicity-facts-figures.service.gov.uk/ style-guide/ ethnic-groups

BWRSARIAETH ASESU DIAGNOSTIG

BWRSARIAETH TEITHIO PDC

Mae Bwrsariaeth Teithio PDC yn talu am gostau rhesymol sy’n gysylltiedig ag ymweld â Phrifysgol De Cymru i fynychu Diwrnod Agored israddedig, cyfweliad neu Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr.

Mae taliadau'n cynnwys pris tocyn trên, coets, awyren neu gwch ar y gyfradd fwyaf darbodus sydd ar gael. Rydym hefyd yn gallu cefnogi gyda chostau teithio mewn car.

Rydym yn cynnig bwrsariaeth heb brawf modd i fyfyrwyr y nodwyd bod angen y prawf arnynt ar gyfer Dyslecsia ac anawsterau dysgu penodol eraill.

CYNLLUN NODDFA FFOADURIAID

Mae Cynllun Noddfa Ffoaduriaid PDC yn gynllun sy’n darparu cymorth i nifer cyfyngedig o ffoaduriaid cymwys trwy wersi Saesneg am ddim cyn dechrau cwrs israddedig yn y Brifysgol.

YSGOLORIAETH NODDFA

Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi dau ymgeisydd israddedig llwyddiannus trwy hepgor eu ffioedd dysgu am gyfnod eu hastudiaethau israddedig, ac ysgoloriaeth i gynorthwyo gyda chostau cysylltiedig â'r cwrs. I fod yn gymwys ar gyfer hyn byddai angen i chi:

• Fod yn berson sy'n ceisio lloches.

• Bod â Chaniatâd Cyfyngedig i Aros (o ganlyniad i gais am loches).

• Bod yn bartner/dibynnydd sydd wedi'i gynnwys ar gais person o unrhyw un o'r grwpiau uchod.

GOFAL

Mae PDC yn aelod o bartneriaeth Gweithgareddau i Bobl sy’n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr yng Nghymru (CLASS Cymru), sy’n rhannu arferion gorau mewn perthynas â’r rhai sy’n gadael gofal ar draws sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Mae hwn yn gymorth dewisol gan y Brifysgol i fyfyrwyr y mae angen cymorth ariannol ychwanegol arnynt. Mae unrhyw gymorth a roddir fel arfer ar ffurf grant a gallwch wneud cais ar ôl i chi gofrestru. Efallai y bydd y gronfa hefyd yn gallu helpu os bydd oedi gyda'ch cyllid.

www.decymru.ac.uk | 37 36 | Prifysgol De Cymru
CYMORTH A BWRSARIAETH I YMADAWYR
CRONFA CYMORTH I FYFYRWYR
GALLWCH WELD EIN HOLL YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU PDC YMA: DECYMRU.AC.UK/ARIAN

CYNGOR ARIANNOL

I FYFYRWYR

Gall y Tîm Cynghori Ariannol Myfyrwyr yn PDC eich cynorthwyo gydag ochr ariannol eich astudiaethau.

Cael gwybodaeth a chyngor ar:

• Eich cymhwyster ar gyfer cymorth cyllid myfyrwyr.

• Benthyciadau myfyrwyr, grantiau, lwfansau ychwanegol, bwrsariaethau'r GIG a dyfarniadau dewisol.

• Ceisiadau i Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol a chynlluniau cysylltiedig.

• Cyllidebu, ffynonellau cymorth ariannol ychwanegol a chyngor sylfaenol ar fudd-daliadau.

• Goblygiadau ariannol newid neu adael cwrs neu ailadrodd blynyddoedd astudio.

• Taliadau a gweinyddiaeth y rhan fwyaf o ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Gallwch gysylltu â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yma: money@southwales.ac.uk 01443 483 778

Sganiwch yma i gwrdd â Thîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr PDC. Sganiwch yma am awgrymiadau ariannol i fyfyrwyr newydd.

Sganiwch yma i ddarganfod sut mae ein Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr wedi helpu myfyrwyr presennol.

www.decymru.ac.uk | 39 38 | Prifysgol De Cymru CWRDD
Â'N TÎM

Mae'r canllaw hwn yn amlygu ac yn esbonio'r opsiynau cyllido sydd ar gael i chi fel myfyriwr Gofal Iechyd PDC. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y cymorth ychwanegol y gallech fod yn gymwys i'w gael gan Cyllid Myfyrwyr, GIG Cymru a PDC.

Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr PDC: money@southwales.ac.uk

Ffioedd a Chyllid: www.decymru.ac.uk/arian

Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG: pcgc.gig.cymru/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-dyfarniadau-myfyrwyr

Cyllid Myfyrwyr Cymru: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Cyllid Myfyrwyr Lloegr: www.gov.uk/contact-student-finance-england

Ymholiadau am Daliadau Ffioedd Dysgu: revenue@southwales.ac.uk

Tîm Ymholiadau: enquiries@southwales.ac.uk

Diwrnodau Agored: www.decymru.ac.uk/diwrnodau-agored

Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei argraffu (Mehefin 2024), ond gall newid. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan: www.decymru.ac.uk

Fel rhan o’i hymrwymiad at yr iaith Gymraeg, mae’r Brifysgol yn darparu gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. wybod mwy, ewch i: www.decymru.ac.uk neu e-bostiwch: cymraeg@decymru.ac.uk

Cynhyrchwyd gan adran Myfyrwyr y Dyfodol Prifysgol De Cymru

Dyluniwyd gan: Argraffu a Dylunio PDC

Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312.

@de_cymru

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cyllid i Fyfyrwyr Gofal Iechyd (Cym) by UniofSouthWales - Issuu