Cylchlythyr Tŷ Hafan Hydref/Gaeaf 2013

Page 12

teulu’n dweud ffarwel Bu farw Archie Watson, a oedd yn ddwyflwydd oed, yn dawel gyda’i deulu o’i gwmpas yn yr hosbis ym mis Mawrth. Mae ei rieni, Brad a Lauren, wedi bod yn rhannu eu siwrnai gydag eraill trwy ysgrifennu blog. Mewn darn onest a thorcalonnus, mae Lauren yn disgrifio diwrnodau olaf eu mab ieuengaf.

8 Ebrill

ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, cyfarfod â’i gefnder newydd hyfryd Connor, gweld Jack a chael llawer iawn o gwtsio a swsio. Cawsom gyfle i dynnu llawer o luniau, cerdded o amgylch y gerddi, adrodd straeon a darllen llyfrau wrtho, treulio amser yn yr ystafell synhwyrau, gwneud gwaith celf a dim ond eistedd a bod yn ei gwmni.

Aeth Archie yn wael iawn ddiwedd mis Chwefror a phenderfynwyd mynd i Dyˆ Hafan a mwynhau’r ychydig amser a oedd gennym ar ôl gyda’n gilydd.

Ar Fawrth 25, wedi i ni godi, roeddem yn gwybod. Dywedom wrth ein teulu ein bod yn disgwyl i Archie ein gadael y diwrnod hwnnw.

Yn y mis olaf hwnnw gwnaeth lwyth o bethau. Gwylio Cymru yn chwarae

Trwy’r dydd, roeddem yn y gwely. Archie rhyngof i a Brad, yn cymryd ein tro i’w gwtsio ac adrodd straeon.

Roedd Archie’n fwy prydferth nag erioed, roedd ei groen yn berffaith a gadawodd gyda gwên ar ei wyneb. Eiliadau wedi i Archie farw chwythodd y llenni ar agor, roedd Archie ar ei ffordd i gyfarfod ei ffrindiau newydd.

12

darparu gofal, bod yno


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.