Issuu on Google+

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL TORFAEN

CYNLLUN CORFFORAETHOL 2011 - 2016


EIN GWELEDIGAETH Torfaen: Lle diogel, ffyniannus, cynaliadwy lle mae gan bawb y cyfle i wneud eu gorau EIN GWERTHOEDD Cefnogol, Teg, Effeithiol


Contents Rhagair – Y Cynghorydd Bob Wellington

4

Cyflwyniad – Alison Ward CBE

5

Rhan 1 - Ein blaenoriaethau

7

Blaenoriaeth Un

8

Blaenoriaeth Dau

12

Blaenoriaeth Tri

16

Blaenoriaeth Pedwar

20

Blaenoriaeth Pump

24

Blaenoriaeth Chwech

28

Blaenoriaeth Saith

32

Rhan 2 - Ein hegwyddorion a themâu sylfaenol

37

Rhan 3 - Datblygu Cyngor rhagorol

45

Rhan 4 - Cynllunio Ariannol Tymor Canolig

49


Rhagair – Y Cynghorydd Bob Wellington Arweinydd y Cyngor Mae’n bleser gen i gyflwyno ail Gynllun Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’r cynllun yn adeiladu ar y llwyddiannau a gyflawnwyd trwy ein Cynllun Corfforaethol cyntaf, ond gyda ffocws pellach ar ddarparu cefnogaeth i’r bobl a’r cymunedau mwyaf bregus yn y Fwrdeistref Sirol. Mae ein saith blaenoriaeth gorfforaethol yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu trigolion Torfaen o ganlyniad y toriadau llym yng ngwariant y gwasanaethau cyhoeddus, y toriadau i fudd-daliadau ac effaith diweithdra sydd ar gynnydd. Ein nod yw diogelu gwasanaethau cymaint ag y medrwn yn y meysydd hyn drwy ddefnyddio’n hadnoddau prin

4

i’r eithaf, a sicrhau ein bod yn ystyried ein cynlluniau gwario, ceisiadau am adnoddau ychwanegol a’n harbedion arfaethedig yn y dyfodol yng nghyddestun eu cyfraniad i gyflawni’n blaenoriaethau. Trwy ganolbwyntio ar flaenoriaethau sy’n helpu a chefnogi ein dinasyddion mwyaf bregus - darparu cefnogaeth i’r rheiny sy’n byw mewn tlodi; atal digartrefedd; diogelu plant; amddiffyn oedolion bregus; lleihau anghydraddoldebau trwy gynyddu cyfleoedd gwaith a defnyddio’n hadnoddau’n synhwyrol - fe all bawb fod yn rhan o lwyddiant Torfaen. Edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau.

Rhagair – Y Cynghorydd Bob Wellington


Cyflwyniad – Alison Ward CBE Prif Weithredwr Mae gennym uchelgeisiau pendant i wireddu’r dyheadau sydd wedi eu nodi yn y Cynllun Corfforaethol hwn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r bobl sy’n byw a gweithio yn Nhorfaen. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gydag eraill o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol er mwyn helpu i wella’r canlyniadau hir dymor a rennir yn Strategaeth Gymunedol Torfaen. Mae’r cynllun hwn yn disgrifio’n cyfraniad at y canlyniadau a rennir. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth i’n dinasyddion mwyaf bregus. Byddwn yn cynllunio’n gweithgareddau o gwmpas anghenion dinasyddion Torfaen, gan anelu i greu’r effaith mwyaf posib, p’un ai ar gyfer

y sir gyfan neu wedi’u teilwra ar gyfer cymunedau, teuluoedd neu unigolion penodol. Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, byddwn yn sicrhau bod y cyngor yn sefydliad sy’n barod i dderbyn yr her. Bydd y staff yn cael eu gwerthfawrogi a’u datblygu er mwyn eu galluogi i addasu i’r heriau o’u blaenau. Byddwn yn annog a mabwysiadu ffyrdd o weithio sy’n canolbwyntio ar gyflawni’n blaenoriaethau, cynllunio ar gyfer y dyfodol, datblygu gwasanaethau effeithlon a chanolbwyntio ar y mwyaf anghenus. Byddwn yn mesur ein llwyddiant yn ôl ein gallu i gyflawni’r blaenoriaethau sydd wedi eu nodi yn y Cynllun Corfforaethol hwn. Yr wyf i a’r cyngor yn edrych ymlaen at gyflawni’r fath her gyffrous.

Cyflwyniad – Alison Ward CBE

5


Rhan 1 - Ein blaenoriaethau Cytunwyd ar ein blaenoriaethau gan Gynghorwyr, yn dilyn ymarfer dwys yn ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid allweddol, cyngor gan weithwyr proffesiynol y gwasanaeth ac ystod o wybodaeth ar ddemograffeg a pherfformiad ar gyfer ardal Torfaen. Bydd y blaenoriaethau hyn yn sail i’n fframwaith polisi ar gyfer y pum mlynedd nesaf, mewn cyfnod lle y byddwn yn wynebu pwysau sylweddol ar adnoddau. Gan gofio hyn, nid ddylid ystyried ein meysydd o flaenoriaeth fel modd o sicrhau buddsoddiad uwch, ond yn hytrach yn fwriad i ddiogelu cymaint ag y medrwn ar ganlyniad penodol. Oherwydd yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ar hyn o bryd, rhaid cydnabod bod diogelu’r meysydd sydd o flaenoriaeth y cytunwyd arnynt yn golygu y bydd angen i ni ostwng ein gwariant yn y meysydd

hynny nad ydynt o flaenoriaeth. Gall hyn olygu gostwng lefel rhai gwasanaethau neu newid y ffordd yr ydym yn eu cyflawni. Nid yw ein blaenoriaethau sydd wedi eu rhestru gyferbyn, mewn unrhyw drefn benodol. Maent oll yr un mor bwysig. • Darparu cefnogaeth i deuluoedd a phlant sy’n byw mewn tlodi, i’w helpu drwy’r dirwasgiad. • Atal digartrefedd ymhlith trigolion Torfaen. • Diogelu plant, yn enwedig y rheiny ag anghenion addysgol (arbennig) ychwanegol a meithrin agweddau positif tuag at addysg. • Amddiffyn yr oedolion mwyaf bregus a darparu cefnogaeth i’r rheiny ag anableddau a chyflyrau hirdymor eraill. • Targedu cefnogaeth i gymunedau a theuluoedd difreintiedig sy’n dioddef oherwydd trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

• Defnyddio adnoddau mewn ffordd ddoeth, i gynnwys cynnal a chadw’r seilwaith briffyrdd a gostwng cyfanswm yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio a’i wastraffu. • Cefnogi mentrau sy’n creu cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer cyfleoedd gwaith. Byddwn yn canolbwyntio ar gyfres o weithgareddau ar gyfer pob un o’r blaenoriaethau a restrir uchod. Ceir ddisgrifiad manylach ohonynt ar y tudalennau a ganlyn. Bydd ein gallu i gyflawni’r gweithgareddau hyn yn dangos p’un ai yr ydym wedi llwyddo i ddiwallu anghenion ein dinasyddion a’n cymunedau mwyaf bregus erbyn 2016. Bydd ein gweithgareddau a’n dulliau o fesur llwyddiant yn cael eu hadolygu’n flynyddol, a’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi, er mwyn i’r cyhoedd fedru monitro ein cynnydd.


Blaenoriaeth Un Darparu cefnogaeth i deuluoedd a phlant sy’n byw mewn tlodi, i’w helpu drwy’r dirwasgiad. Diffinnir tlodi fel arfer yn ôl safonau byw mewn cymdeithas ar adeg benodol. Gall tlodi amrywio’n fawr yn ôl profiad gwahanol bobl. Pan nad yw incwm yn ddigon i fodloni anghenion sylfaenol (fel tai, bwyd a chostau tanwydd) bydd pobl yn cael eu heithrio a’u hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n rhan o fywyd dyddiol yn ein cymuned. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae pawb sy’n byw yn Nhorfaen yn wynebu costau byw uwch. I rai teuluoedd gall hyn greu mwy o effaith o lawer ar incymau’r cartref sy’n golygu eu bod yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau llym iawn o ran yr hyn y maen nhw’n medru ei fforddio o ddydd i ddydd.

1

Y bobl ar yr incymau isaf sy’n cael eu taro fwyaf gan nad oes ganddynt fawr o gyfle, os o gwbl, i greu arbedion, ac yn aml mae’n rhaid iddynt fenthyg arian, a thalu cyfraddau llog uchel iawn er mwyn dal dau ben llinyn ynghyd. Rydym am weithio gyda’n partneriaid i ehangu gwasanaethau a all leddfu effaith y fath dlodi, fel sicrhau’r mynediad hwyaf i fudd-daliadau, codi safonau cyraeddiadau addysg a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Rydym am i Dorfaen fod yn wytnach tuag at newidiadau economaidd a darparu cefnogaeth nid yn unig i helpu pobl ddianc rhag tlodi ond cadw uwchlaw’r ffin tlodi.


Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn: 1.1 Sicrhau bod pobl yn derbyn y budd-daliadau y gallant eu hawlio Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• B ydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn hwylus i gwsmeriaid.

• B ydd ein gwasanaethau cymorth tai a chynghori ar fudd-daliadau yn bodloni anghenion cwsmeriaid, ac yn sicrhau eu bod mor annibynnol â phosibl.

• B ydd teuluoedd a phobl fregus yn derbyn yr incwm uchaf posibl trwy dderbyn y budd-daliadau y gallant eu hawlio. • B yddwn yn delio â cheisiadau newydd am fudddaliadau a newidiadau i amgylchiadau mewn ffordd brydlon a chywir. • Byddwn yn gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth i leihau achosion o dwyll budd-daliadau.

10

1.2 Annog cynhwysiant cymdeithasol

• B ydd mwy o bobl wedi derbyn cymorth sy’n galluogi gwell cynhwysiant oherwydd eu sefyllfa ariannol. • B ydd rhieni yn meddu ar well sgiliau magu plant ac yn dangos gwell ymgysylltiad fel rhieni. • B ydd gofal plant fforddiadwy ac o ansawdd da ar gael i gefnogi annibyniaeth economaidd.

Blaenoriaeth Un - Darparu cefnogaeth i deuluoedd a phlant sy’n byw mewn tlodi, i’w helpu drwy’r dirwasgiad.


1.3 Codi safonau cyrhaeddiad addysgol

1.4 Darparu cyfleoedd i bobl wella’u hiechyd

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• Bydd cyrhaeddiad addysgol yn fwy cyson a’r cynnydd yn parhau trwy’r holl gyfnodau pontio, yn enwedig pan fydd disgyblion yn symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

• Bydd mwy o blant yn dangos gwell ymwybyddiaeth, agwedd bositif a newid positif yn eu hymddygiad tuag at weithgareddau corfforol a bwyta’n iach.

• Bydd disgyblion 16 oed (yn cynnwys y rheiny yn ein gofal) sydd yn gadael addysg, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith, yn gwneud hynny wedi iddynt ennill cymhwyster allanol cymeradwy.

• Bydd pobl yn derbyn cefnogaeth gennym ni a’n partneriaid i fynd i’r afael â’u cyflyrau meddygol. • Bydd mwy o blant, pobl ifanc ac oedolion yn cymryd rhan, neu’n darparu hyfforddiant ar gyfer gweithgareddau corfforol a chwaraeon.

Blaenoriaeth Un - Darparu cefnogaeth i deuluoedd a phlant sy’n byw mewn tlodi, i’w helpu drwy’r dirwasgiad.

11


Blaenoriaeth Dau Atal digartrefedd ymhlith trigolion Torfaen Mae’r cartref yn chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi iechyd corfforol, meddyliol, lles ac ansawdd bywyd cyffredinol unigolyn. Gall digartrefedd neu fygythiad o fod yn ddigartref greu effaith andwyol ar fywyd person. Dengys astudiaethau yn gyson bod iechyd, lles ac ansawdd bywyd person yn dirywio os ydyw’n ddigartref a heb gefnogaeth briodol. Mae ansawdd, yn ogystal â gwead y cartref yn dylanwadu’n fawr ar ymdeimlad o les a chyfleoedd bywyd unigolion. Mae cartref yn hanfodol i hunaniaeth yr unigolyn a’r teulu, yn ogystal ag ymdeimlad o fod yn rhan o’r gymuned ac yn sylfaen i rwydweithiau cymunedol.

2

Mae’r agenda i atal digartrefedd yn allweddol i ddarparu cefnogaeth i bobl fedru aros yn eu cartrefi yn ddiogel, ac yn bwysicach fyth yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o wariant y Llywodraeth a’r newidiadau i fudd-daliadau lles a fydd yn effeithio ar drigolion Torfaen yn y dyfodol. Rydym am ddarparu cyngor a chymorth sy’n amserol er mwyn inni fedru ymyrryd a chefnogi pobl ynghynt o lawer. Rydym am weithio gyda phobl a’u teuluoedd, landlordiaid ac asiantaethau sy’n darparu cymorth er mwyn sicrhau y gall pobl parhau i fod yn ddiogel yn eu cartrefi presennol, lle bo hynny’n bosibl, er mwyn iddynt beidio wynebu’r gofid, pwysau a’r trawma sy’n gysylltiedig â digartrefedd.


Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn: 2.1 Codi ymwybyddiaeth ynghylch y dewisiadau tai sydd ar gael

2.2 Sicrhau bod ystod ac ansawdd tai yn briodol, ac yn bodloni anghenion pobl

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• Bydd gan bobl well ymwybyddiaeth o’r ystod eang o ddewisiadau tai a allai fod ar gael iddynt.

• Byddwn yn darparu gwasanaeth datrysiadau tai yn seiliedig ar anghenion lleol.

• Cynigir cyngor a chymorth i bobl sydd wedi cofrestru ar y Gofrestr Tai Cyffredin a rhestr Help2Own.

• Byddwn wedi hyrwyddo cyfleoedd i’r eithaf i ailgyflwyno tai gwag er mwyn iddynt gael eu defnyddio unwaith eto. • Bydd pobl ifanc ag anghenion cymhleth sydd angen cymorth yn derbyn tai priodol â chymorth. • Byddwn wedi gweithredu cynllun benthyciadau arbrisiant eiddo newydd ar gyfer perchnogion cartrefi preifat. • Bydd yna ddarpariaeth briodol yn ei lle ar gyfer teithwyr sipsiwn a bydd safleoedd presennol yn cael eu rheoli a’u monitro yn unol â phrotocolau cytûn. • Bydd mwy o dai fforddiadwy ar gael ar draws y Fwrdeistref Sirol.

14

Blaenoriaeth Dau - Atal digartrefedd ymhlith trigolion Torfaen


2.3 Galluogi datblygiadau tai cynaliadwy, da ar draws y Fwrdeistref Sirol Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016: • Bydd camau i asesu ffyrdd o fyw yn cael eu cynnal ar yr holl ddatblygiadau tai newydd a hynny’n gysylltiedig â chyflenwi’r rhaglen buddsoddi tai. • Bydd strategaeth Tai newydd yn ei lle, yn cael ei chyflenwi a’i monitro. • Bydd ceisiadau grant i adnewyddu tai yn cael eu prosesu’n effeithiol, a’r holl waith yn cychwyn o fewn graddfeydd amser y grantiau.

Blaenoriaeth Dau - Atal digartrefedd ymhlith trigolion Torfaen

15


Blaenoriaeth Tri Diogelu plant, yn enwedig y rheiny ag anghenion addysgol (arbennig) ychwanegol, a meithrin agweddau positif tuag at addysg Ni all blant ddysgu os ydynt yn teimlo’n anniogel ac yn ansicr ynghylch eu bywydau ehangach. Rydym am sicrhau eu bod yn dysgu trwy seilio’n ymagwedd ar eu hanghenion; bod yn ymwybodol o’r risgiau y mae plant a phobl ifanc yn agored iddynt a rhannu ein pryderon yn brydlon pa bryd bynnag y byddant yn codi. Byddwn yn meddu ar ddulliau effeithiol ac ataliol lle byddwn yn gweithredu i leihau’r risgiau i’r plant a phobl ifanc yr ydym yn eu gwasanaethu, a byddwn yn barod, pan fydd digwyddiad yn codi, i’w archwilio a deall yr hyn y medrwn ni ei wneud yn well i geisio atal

3

y fath digwyddiad rhag digwydd eto. Ar yr un adeg, rydym am wireddu hawl pob plentyn a pherson ifanc i gymryd rhan yn yr amrediad lawn o weithgareddau yn ein hysgolion a’n cymunedau. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod pawb yn deall mai hawl ydyw. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n hysgolion i atal plant a phobl ifanc rhag crwydro tuag at ddadrithiad, ymddieithriad a chael eu gwahardd, a galluogi pawb i fod yn rhan o addysg drwy eu helpu i ddatblygu’r sgiliau y maent eu hangen i gyflawni’u potensial llawn.


Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn: 3.1 Sicrhau bod yr addysg y mae plant a phobl ifanc yn ei derbyn yn gynwysedig a hygyrch Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• Bydd cyfraddau gwahardd disgyblion a phresenoldeb wedi gwella, ac yn cyfateb o leiaf gyda lefel gyfartalog Cymru gyfan.

• Bydd ysgolion, gweithwyr proffesiynol a’r gymuned leol yn gwneud defnydd cyson o’r ymarfer diogelu ac amddiffyn plant.

• Bydd protocol ar gyfer rheoli’r broses o symud disgyblion rhwng ysgolion yn ei le, a bydd gostyngiad yn nifer y symudiadau a rheolir.

• Bydd lles plant a phobl ifanc yn cael ei ddiogelu gan fod pob ysgol yn gweithredu strategaethau gwrthfwlio cadarn.

• Bydd yna fwy o bobl ifanc mewn addysg llawn amser.

• Bydd ansawdd asesiadau craidd, adroddiadau adolygu a chynadleddau amddiffyn plant yn well o lawer a byddant yn cael eu cynnal o fewn graddfeydd amser statudol.

• Bydd gan blant a phobl ifanc bregus gludiant priodol i’r ysgol.

18

3.2 Sicrhau bod plant yn ddiogel

Blaenoriaeth Tri - Diogelu plant, yn enwedig y rheiny ag anghenion addysgol (arbennig) ychwanegol, a meithrin agweddau positif tuag at addysg


3.3 Datblygu darpariaeth addysgol ar gyfer plant cyn oed ysgol

3.4 Cefnogi ac amddiffyn plant bregus

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• Bydd mwy o blant yn dangos agweddau positif, a byddant yn ddysgwyr mwy medrus a hyderus o ganlyniad y cyfnod sylfaen, cwricwlwm sy’n seiliedig ar sgiliau a threfniadau asesu cysylltiol sydd bellach ar waith.

• Bydd plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau yn derbyn cefnogaeth trwy gwnsela i gyflawni eu potensial llawn.

• Bydd gan athrawon a staff cynorthwyol y sgiliau i hyrwyddo datblygiad iaith a lleferydd ac iechyd a lles eu plant. • Bydd plant a’u teuluoedd yn elwa ar ofal integredig wedi ei gydlynu a’i ddarparu gan un pwynt cyswllt.

• Bydd anghenion plant ag anghenion cymhleth a llai cymhleth yn cael eu diwallu’n effeithiol trwy ddulliau sy’n ein galluogi i gydweithio gyda’n partneriaid statudol, y sector gwirfoddol, rhieni a disgyblion. • Bydd yna ostyngiad yn nifer y plant a gofrestrir ar y gofrestr amddiffyn plant a nifer y plant sy’n derbyn gofal. • Bydd gan blant fynediad i weithgareddau chwarae rheolaidd.

Blaenoriaeth Tri - Diogelu plant, yn enwedig y rheiny ag anghenion addysgol (arbennig) ychwanegol, a meithrin agweddau positif tuag at addysg

19


Blaenoriaeth Pedwar Amddiffyn yr oedolion mwyaf bregus a darparu cefnogaeth i’r rheiny ag anableddau a chyflyrau hirdymor eraill Mae’n bwysig bod y risgiau sy’n bygwth annibyniaeth oedolion bregus yn cael eu rheoli’n effeithiol. Trwy wella hyder a sgiliau’r bobl, bydd modd symud ffocws y gofal o salwch a dibyniaeth a’u cefnogi i ddatblygu’r hyn y maen nhw’n medru ei wneud dros eu hunain i’r eithaf. Mae cymorth iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd yn gymhleth, tameidiog ac yn methu mynd i’r afael â’r person a’r gofalwr gyda’i gilydd. Mae pobl yn dymuno cael y cyfle i dderbyn cymorth i fyw yn eu cartref eu hunain a chael cyfle i ddatrys eu problemau iechyd a gofal cymdeithasol yn gyflym.

4

Rydym am weithio’n agos gyda’n partneriaid i ganolbwyntio ar iechyd, lles a photensial y bobl yr ydym yn eu cefnogi ar y cyd. Rydym am gydbwyso’r cyflenwad a’r galw am ein gwasanaethau i gyflawni a chynnal dibynadwyedd ac ymatebolrwydd, a newid patrymau ein gwasanaethau er mwyn cefnogi pobl i barhau yn eu cartrefi neu ddychwelyd iddynt. Rydym hefyd am gynnig cefnogaeth i ofalwyr er mwyn i ni fedru cwrdd â disgwyliadau a hyrwyddo annibyniaeth a hunan phenderfynoldeb yr oedolion mwyaf bregus yn Nhorfaen.


Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn: 4.1 Gwella mynediad i wasanaethau gofal cymdeithasol Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• Bydd amrediad lawn o wybodaeth gywir yn hygyrch i hysbysu pobl ynghylch y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael.

• Bydd yna ostyngiad yn yr amserau aros ar gyfer asesiadau arbenigol.

• Bydd modd cysylltu â thimau amlasiantaeth trwy un pwynt cyswllt. • Bydd gan oedolion bregus fynediad i wasanaethau eirioli.

22

4.2 Sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu hasesu mewn modd amserol a bod y gofal y maen nhw’n ei dderbyn yn briodol

• Bydd yna llai o dderbyniadau diangen i’r ysbyty • Bydd gan ddefnyddwyr gwasanaethau gynlluniau gofal cyfredol. • Bydd gofalwyr yn derbyn cynnig i fanteisio ar asesiad o’u hanghenion hwy fel bod modd darparu cefnogaeth lawn iddynt barhau i gyflawni’u rôl fel gofalwyr.

Blaenoriaeth Pedwar - Amddiffyn yr oedolion mwyaf bregus a darparu cefnogaeth i’r rheiny ag anableddau a chyflyrau hirdymor eraill


4.3 Sicrhau bod ystod ac ansawdd y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn briodol i fodloni anghenion y bobl

4.4 Hybu annibyniaeth y bobl

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• Bydd ystod y gwasanaethau cyfarpar cymunedol wedi ei ymestyn.

• Bydd oedolion yn derbyn cefnogaeth i fyw yn y gymuned.

• Bydd trefniadau gweithio integredig newydd gyda phartneriaid yn eu lle.

• Bydd mwy o ddefnyddwyr gwasanaethau yn derbyn Taliadau Uniongyrchol.

• Bydd canllawiau POVA - Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed eisoes ar waith, gan arwain at well modd o amddiffyn oedolion agored i niwed yn y gymuned.

• Bydd rhestri aros ar gyfer Therapi Galwedigaethol yn llai. • Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i brosesu Grantiau Cyfleusterau’r Anabl yn llai.

Blaenoriaeth Pedwar - Amddiffyn yr oedolion mwyaf bregus a darparu cefnogaeth i’r rheiny ag anableddau a chyflyrau hirdymor eraill

23


Blaenoriaeth Pump Targedu cefnogaeth i gymunedau a theuluoedd difreintiedig sy’n dioddef o ganlyniad trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol Er bod lefelau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi disgyn yn Nhorfaen, mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel wrth iddynt fyw bywyd o ddydd i ddydd. Fe allwn ni wneud ein rhan drwy fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae yna rhai mathau o drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n creu effaith lled niweidiol ar deuluoedd a chymunedau. Mae’r rhain yn cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, cam-drin domestig, troseddau rhywiol, dwyn o gartrefi, ymddygiad treisgar tuag at unigolion a throseddau amgylcheddol fel graffiti, tipio

5

anghyfreithlon a gollwng sbwriel. Dywedodd trigolion wrthym fod glendid a diogelwch yn Nhorfaen yn fater allweddol iddynt a chredwn mai trwy fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol y gallwn wella golwg cymunedau lleol, tra’n mynd ati ar yr un amser i ddileu troseddau fel fandaliaeth sy’n annog mwy o broblemau difrifol yn y cymdogaethau. Rydym am weithio gyda’n partneriaid, yr heddlu, grwpiau gwirfoddol a chymunedau lleol i gymryd camau gweithredu a fydd yn helpu cymunedau a theuluoedd i deimlo’n ddiogel.


Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn: 5.1 Darparu cefnogaeth i bobl a chymunedau lleol gymryd rhan mewn gweithgareddau positif

5.2 Cydlynu gweithgareddau sy’n lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• Bydd rhaglenni effeithiol yn helpu mwy o bobl i ennill gwell sgiliau a chyfleoedd bywyd.

• Bydd rhaglenni effeithiol yn eu lle i godi ymwybyddiaeth ynghylch cam-drin domestig, ac yn mynd i’r afael ag ef.

• Bydd gwaith ieuenctid datgysylltiedig a chyfleoedd chwarae yn gweithredu ledled Torfaen.

• Bydd yna gynnydd yn nifer y “Cynlluniau Cymdogaethau Diogelwch” sydd ar waith.

• Bydd yna ymagweddau amlasiantaeth yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc bregus dros 16 oed, felly ni fydd cymaint yn ymddieithrio.

• Bydd yna raglenni dargyfeiriol cynhwysfawr yn eu lle mewn ardaloedd sydd â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn mynd i’r afael â materion sydd o bwys i gymunedau. • Bydd gwasanaethau camddefnyddio sylweddau effeithiol yn eu lle ac yn cael eu cynnal. • Bydd busnesau trwyddedig sy’n gwerthu alcohol yn destun ymweliadau cyson, a chynhelir ymarferion prynu prawf er mwyn lleihau achosion o werthu alcohol i bobl ifanc.

26

Blaenoriaeth Pump - Targedu cefnogaeth i gymunedau a theuluoedd difreintiedig sy’n dioddef o ganlyniad trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol


5.3 Sicrhau bod yr amgylchedd lleol yn ddiogel ac yn cael ei rheoli a’i gynnal Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016: • Bydd yna welliannau amlwg i gymdogaethau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn lleoedd gwell i fyw a gweithio. • Bydd yna llai o dir ac adeiladau anniben sydd ddim yn cael eu cynnal yn Nhorfaen. • Byddwn yn cynllunio datblygiadau tai newydd mewn ffordd sydd yn lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gwella mynediad. • Byddwn yn mynd i’r afael â thipio a gosod posteri anghyfreithlon mewn ffordd effeithiol a chymryd camau gorfodi priodol.

Blaenoriaeth Pump - Targedu cefnogaeth i gymunedau a theuluoedd difreintiedig sy’n dioddef o ganlyniad trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

27


Blaenoriaeth Chwech Defnyddio adnoddau’n ddoeth, i gynnwys cynnal a chadw’r seilwaith briffyrdd a lleihau’r ynni sy’n cael ei ddefnyddio a’i wastraffu Mae’n gyfrifoldeb arnom i gynnal, cadw a gwella Torfaen, nid yn unig ar gyfer ein trigolion presennol ond ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae hyn yn golygu cymryd camau gweithredu nawr i ddiogelu, cynnal a chadw’r amgylchedd gwledig a threfol, lleihau allyriadau carbon a sicrhau bod pawb yn lleihau ac ailgylchu cymaint o wastraff ag y bo modd. Cydnabyddwn ein cyfraniad tuag at ddefnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy a doeth trwy ein gweithgareddau a’n gwasanaethau.

6

Er mwyn i ni wneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael, rydym

am leihau nifer yr adeiladau yr ydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, rydym am leihau ein heiddo drwy symud allan o’r adeiladau aneffeithlon hynny lle nad ydym yn gwneud defnydd llawn ohonynt, ac annog ffyrdd newydd o weithio. Rydym hefyd am wella adeiladau ac amgylcheddau dysgu ein hysgolion. Byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ynghylch eu cynlluniau ar gyfer rhaglen fuddsoddi hirdymor i greu ysgolion yn yr 21ain ganrif sydd yn addas ar gyfer y dyfodol, a pharhau gyda’n gwaith o ddylunio a chyflawni addysg technoleg-gyfoethog i ddisgyblion 14 i 16 oed.


Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn: 6.1 Darparu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu effeithlon ac effeithiol

6.2 Sicrhau bod ffyrdd a strydoedd yn ddiogel, glân, ac yn cael eu cynnal a chadw

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• Bydd cyfraddau ailgylchu wedi cynyddu wedi i ni gyflwyno mentrau a chynlluniau ailgylchu newydd yn y gymuned.

• Bydd ffyrdd a phalmentydd yn Nhorfaen yn cael eu cynnal a chadw i safon ddiogel.

• Bydd system casglu gwastraff newydd wedi cael ei gyflwyno.

• Bydd cynlluniau peirianneg diogelwch ffyrdd a chynlluniau llwybrau diogel ar waith. • Bydd priffyrdd a strydoedd yn lân.

• Bydd trefniadau casglu newydd wedi gwella’n cyfleusterau gwaredu gwastraff. • Bydd contract organig tymor hir ar gyfer trin gwastraff bwyd a gwyrdd sy’n cael ei gasglu ar wahân yn mynd rhagddo.

30

Blaenoriaeth Chwech - Defnyddio adnoddau’n ddoeth, i gynnwys cynnal a chadw’r seilwaith briffyrdd a lleihau’r ynni sy’n cael ei ddefnyddio a’i wastraffu


6.3 Gweithio mewn gwahanol ffyrdd i leihau costau

6.4 Creu lleoliadau dysgu newydd sydd yn addas ar gyfer yr 21ain Ganrif

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• Bydd mwy o’n hasedau sy’n weddill wedi cael eu trosglwyddo i fudiadau cymunedol neu eu hepgor, gan hyrwyddo gwerth a’r defnydd a wneir o’r asedau sy’n weddill i’r eithaf drwy fodelau cyflenwi gwasanaeth newydd.

• Bydd adnoddau a dysgu technoleg-gyfoethog yn cael ei ddefnyddio ledled Torfaen.

• Bydd yna ostyngiad yn yr allyriadau carbon o oleuadau stryd a’r adeiladau yr ydym yn berchen arnynt neu yn eu meddiannu.

• Bydd ein hadeiladau ysgol yn fodern. • Bydd disgyblion 14-16 oed yn cymryd rhan mewn addysg ddigidol.

• Bydd cyfanswm y lleoedd mewn swyddfeydd a defnyddir gan y Cyngor wedi gostwng. • Bydd ein rhwydwaith TGCh wedi cael ei uwchraddio a’i adleoli.

Blaenoriaeth Chwech - Defnyddio adnoddau’n ddoeth, i gynnwys cynnal a chadw’r seilwaith briffyrdd a lleihau’r ynni sy’n cael ei ddefnyddio a’i wastraffu

31


Blaenoriaeth Saith Cefnogi mentrau sy’n creu cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer cyfleoedd gwaith Mae creu cyflogaeth yn hanfodol i wella’r economi lleol a chynyddu lefel y cynaliadwyedd yn Nhorfaen. Gall helpu pobl sy’n economaidd anweithgar symud i fyd gwaith greu nifer o fuddiannau y tu hwnt i’r economi uniongyrchol, a fydd, yn helpu i wella iechyd a lles y bobl.

chadw’r swyddi sydd ar gael, neu’r swyddi sy’n cael eu creu drwy fentrau. Bydd hyn yn cynnwys darparu gweithlu hyfedr ac uchel ei gymhelliant sydd ei angen ar gyfer y swyddi gwerth uchel sy’n dod i’r amlwg o ganlyniad rhaglen Dyffryn Digidol a’r sector ynni gwyrdd.

Rydym am gyflawni ymagwedd gydgysylltiedig tuag at gynyddu cyfleoedd gwaith trwy gysylltu cynlluniau yr ydym yn eu harwain gyda’r rheiny a weithredir gan ein partneriaid fel y Ganolfan Byd Gwaith, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Mewn partneriaeth â’n hysgolion, byddwn yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc a’u rhieni a gofalwyr i gynyddu dyheadau a gwella agweddau tua at ddysgu er mwyn iddynt gyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae hyn yn golygu y bydd angen sicrhau bod addysg yn ddengar a chyffrous, ac yn rhoi i blant a phobl ifanc yr hyder, sgiliau a’r wybodaeth i lwyddo yn ddiweddarach ym mywyd.

7

Rydym am wella lefelau sgiliau’r bobl o oed gwaith. Byddwn yn darparu cefnogaeth i bobl leol ddiogelu a


Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn: 7.1 Darparu cefnogaeth i alluogi cymunedau i ddyfod yn fwy cynaliadwy, grymus a ffyniannus

7.2 Gwella mynediad pobl i gyfleoedd dysgu, cymwysterau a hyfforddiant

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016:

• Byddwn yn gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth i ddarparu mwy o glybiau gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau.

• Bydd dulliau amlasiantaeth cyson a chydlynol tuag at gyflawni hyfforddiant sgiliau sylfaenol yn eu lle.

• Bydd mentrau cymdeithasol yn bodoli a bydd yna gynnydd yn nifer y busnesau newydd. • Bydd yna gynnydd yn nifer yr ymwelwyr a’r gwariant ar draws y Fwrdeistref Sirol. • Bydd gwasanaeth cynghori ar fusnes yn darparu cefnogaeth i i fusnesau hen a newydd.

• Bydd pobl yn manteisio ar gyfleoedd i ddysgu yn y gwaith a bydd cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n ymgymryd â hyfforddiant cyn mynediad a lefel uwch. • Bydd mwy o grwpiau cymunedol yn darparu mynediad i gyfleusterau Dysgu Oedolion a’r Gymuned.

• Bydd gwelliannau i’r rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn eu lle.

34

Blaenoriaeth Saith - Cefnogi mentrau sy’n creu cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer cyfleoedd gwaith


7.3 Trawsnewid y ddarpariaeth addysgol ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed Byddwn wedi llwyddo, os, erbyn 2016: • Bydd llwybrau dysgu 14-19 ym mhob ysgol, lleoliad addysg bellach a lleoliad dysgu seiliedig ar waith wedi eu hatgyfnerthu. • Bydd yna ostyngiad yn nifer y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Blaenoriaeth Saith - Cefnogi mentrau sy’n creu cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer cyfleoedd gwaith

35


Rhan 2 - Ein hegwyddorion a them창u sylfaenol


Ein hegwyddorion a themâu sylfaenol

Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg:

Byddwn yn ystyried nifer o themâu cyffredin wrth fynd ati i gynllunio a chyflenwi’n gwasanaethau. Trwy gydol y flwyddyn, byddwn yn parhau i adeiladu ar ein cynnydd, a, lle’n briodol, byddwn yn sicrhau bod agweddau o’r themâu hyn yn cael eu hymgorffori yn ein gweithgareddau i gyflawni’r dyheadau sydd wedi eu nodi yn y cynllun hwn.

Rydym yn ystyried bod yr angen i hyrwyddo a diogelu’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o’r agenda cydraddoldeb yng Nghymru.

Ein hegwyddorion a themâu sylfaenol yw: • Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg • Hyrwyddo cynaliadwyedd • Lleihau anghydraddoldeb • Gwella lles • Gwella cyfathrebu ac ymgysylltu • Archwilio arloesed ac effeithlonrwydd

38

Ein hegwyddorion a themâu sylfaenol

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn disgwyl y bydd gan y Gymraeg a’r Saesneg statws cyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni baratoi Cynllun Iaith Gymraeg, sy’n dangos sut y byddwn yn mynd ati i gyflawni’r cyfrifoldebau hyn a pha gamau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i wella’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg.


Hyrwyddo cynaliadwyedd: Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo amcanion datblygu cynaliadwy trwy ein gweithgareddau, a gweithio gydag eraill. Fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) lansio’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy– ‘Cymru’n Un – Cenedl Un Blaned’ yn 2009. Mae hyn yn nodi eu gweledigaeth i greu Cymru gynaliadwy, ac yn dangos sut y byddent yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy drwy eu gwaith. Fel rhan o’u hymagwedd i hyrwyddo datblygu cynaliadwy, fe ddatblygodd LlCC Siarter Cynaliadwyedd i annog eraill i adlewyrchu’u hymrwymiad. Yn Mai 2010, fe wnaethom ymuno’n ffurfiol â Siarter Cynaliadwyedd LlCC. Fe wnaethom ymrwymo i ddyfod yn sefydliad enghreifftiol; i arwain ac ysbrydoli eraill i weithredu; a darparu arweinyddiaeth bendant ar gyfer datblygu cynaliadwy o fewn ein sefydliad, a’r rheiny yr ydym yn gweithio gyda hwy. Trwy lofnodi’r Siarter, fe gytunom i gynnwys datblygu cynaliadwy fel un o’m prif egwyddorion.

Roeddem hefyd ymhlith yr awdurdodau cyntaf yng Nghymru i ymrwymo i “Cenedl Un Blaned”. Mae cenedl un blaned yn golygu gostwng swm yr adnoddau yr ydym yn eu defnyddio i lefel sy’n dangos nad ydym yn defnyddio mwy na’n “cyfran deg” o adnoddau prin y byd. Mae hyn yn golygu bod angen i ni feddwl ac ymddwyn yn wahanol iawn wrth fynd ati i gynllunio a darparu’n gwasanaethau. Cydnabyddwn fod angen i gynaliadwyedd ddylanwadu ar bob peth y gwnawn. Rydym eisoes yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o weithgareddau i drwytho cynaliadwyedd yn ein gwaith dyddiol ac mae ymrwymiad polisi yn ei le i hyrwyddo datblygu cynaliadwy ledled Torfaen. Byddwn yn defnyddio dulliau strwythuredig i gyflawni’n cynllun gweithredu cynaliadwy er mwyn i ni feddu ar ddealltwriaeth bendant o oblygiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol ac iechyd posibl ein penderfyniadau a gweithgareddau, a gweithredu i leihau unrhyw effeithiau negyddol lle bo modd.

Ein hegwyddorion a themâu sylfaenol

39


Lleihau Anghydraddoldeb:

40

Yn ystod y blynyddoedd diweddar rydym wedi ymdrechu i gwrdd â gofynion statudol y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol, y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a’r ystod eang o ddeddfwriaethau cydraddoldeb a ddatblygwyd dros y pedair degawd ddiwethaf. Fe wnaeth y gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth olygu ein bod yn gweithio mewn amgylchedd cyfreithiol, cymhleth ac anghyson. Serch hynny, ym mis Hydref 2010, daeth cam cyntaf Deddf Cydraddoldeb 2010 i rym, gan gynnig un darn o ddeddfwriaeth ar gydraddoldeb.

Y mae’n canolbwyntio ar nodi anghydraddoldebau yn Nhorfaen ac yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio tuag at gyflawni gwell canlyniadau ar gyfer pobl, lle mae yna dystiolaeth o anghydraddoldeb yn y gwasanaethau yr ydyn yn eu darparu. Credwn y gall holl ddinasyddion Torfaen ddisgwyl cael eu trin yn deg a gyda pharch wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor neu wrth ddod i gyswllt â hwy, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r cyhoedd a’n partneriaid i ddatrys problemau lle nad yw’r fath safonau yn amlwg.

Er mwyn ein helpu i gwrdd â’n cyfrifoldebau dan y ddeddfwriaeth newydd, rydym wedi datblygu ‘Addewid Cydraddoldeb’. Mae’n nodi ein polisi a’n camau gweithredu yn y dyfodol mewn perthynas â hyrwyddo gwell cydraddoldeb yn Nhorfaen, gan weithredu fel ein Cynllun Cydraddoldeb, rhywbeth y mae’n ofynnol i ni ei gyhoeddi o ganlyniad y dyletswyddau penodol a rhoddwyd ar y sector cyhoeddus dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae sicrhau bod ein gwasanaethau yn helpu a chefnogi pobl fregus o fewn ein cymunedau, yn bwysig. Byddwn yn gweithio tuag at wella a chynnal ein gwasanaethau er mwyn iddynt fedru cynorthwyo ac amddiffyn hawliau’r bobl a’r grwpiau hynny y mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn cyfeirio atynt. Mae ein ‘Addewid Cydraddoldeb” yn disgrifio’r camau gweithredu penodol y byddem yn eu cymryd i gyflawni’n cyfrifoldebau statudol i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl, beth bynnag eu hanabledd, hil, rhyw, tueddfryd rhywiol, oed, crefydd ac iaith.

Ein hegwyddorion a themâu sylfaenol


Gwella lles: Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Torfaen sy’n gyfrifol am ein gweithgareddau i wella iechyd a lles ein dinasyddion a chymunedau. Paratowyd y strategaeth hon ar y cyd gennym ni a’n partneriaid, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Cynghrair Gwirfoddol Torfaen a Heddlu Gwent, ynghyd â chynrychiolwyr sy’n ddefnyddwyr a gofalwyr, yn gweithio dan arweiniad y Bwrdd Gwasanaeth Lleol. Tra bydd y strategaeth yn sbarduno cryn lawer o’r newidiadau a’r gwelliannau sydd eu hangen i wella iechyd a gofal cymdeithasol, credwn fod angen ymagwedd wahanol ar gyfer lles. Hyd yn hyn, mae ein gweithgareddau wedi canolbwyntio’n fawr ar wella iechyd – gan seilio gwybodaeth a gwasanaethau ar gynyddu gweithgarwch corfforol; lleihau achosion o smygu ac yfed alcohol a hyrwyddo dietau iachach.

Fodd bynnag, mae lles yn ehangach o lawer na hyn, a gellir ei ystyried fel dwy brif elfen - teimlo’n dda a gweithredu’n dda. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys nifer o weithgareddau sy’n cefnogi’r elfennau hyn. Tra bydd ein hagenda i wella iechyd yn helpu pobl i “weithredu’n dda”, credwn mai cysylltu pobl a chymunedau er mwyn iddynt ddod yn actif, ymgysylltu ag addysg fel arfer gydol oes a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli yw’r ffordd ymlaen i wella lles. Fe fydd hefyd gan nifer o’n swyddogaethau statudol effaith uniongyrchol ar les pobl, megis darparu tai o ansawdd da a diogelu’r amgylchedd lleol. Yn y dyfodol rydym am ganolbwyntio ar ddatblygu lles ehangach ein dinasyddion. Gyda’n partneriaid, rydym am weithio i gynyddu dyheadau’r bobl a chyflawni potensial ar draws yr holl bartneriaethau yr ydym yn gysylltiedig â hwy.

Ein hegwyddorion a themâu sylfaenol

41


Gwella cyfathrebu ac ymgysylltu: Cydnabyddwn pa mor bwysig yw cyfathrebu effeithiol a sut y mae’n ategu at ein gwerthoedd o fod yn gefnogol, teg ac effeithiol. Agwedd hanfodol o wella cyfathrebu yw codi ymwybyddiaeth leol ynghylch y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu er mwyn annog ein trigolion i’w defnyddio i’r eithaf.

Mae papur newydd y cyngor ‘Torfaen Talks’ eisoes yn darparu gwybodaeth i drigolion ynghylch y gwaith sydd yn mynd rhagddo yn Nhorfaen, ond mae cyfryngau digidol yn chwarae rhan gynyddol yn y ffordd y darperir negeseuon, ymgysylltu cymunedau a chaniatáu’r cyhoedd i ddatgan eu barn.

Rydym am siarad a gwrando ar bawb yn Nhorfaen ac rydym am i bobl deimlo eu bod yn medru siarad â’r Cyngor a chael llais. Rydym am weithio mewn ffyrdd sy’n bodloni anghenion y bobl heb roi aelodau o grwpiau a chymunedau penodol dan anfantais.

Trwy ehangu ein gweithgareddau cyfathrebu byddwn yn annog pobl i gymryd rhan mewn grwpiau lleol. Rydym hefyd am gynyddu aelodaeth ein panel dinasyddion er mwyn galluogi mwy o bobl i ddweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio arnynt, ac rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddatblygu offer ar-lein mewn ffyrdd newydd a gwell.

Credwn y dylid darparu digon o wybodaeth i drigolion, partneriaid, busnesau ac ymwelwyr, ymgynghori â hwy yn rheolaidd a rhoi cyfle iddynt drafod eu profiadau er mwyn iddynt ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau a wneir yn y dyfodol, a’r gwasanaethau fydd ar gael ar eu cyfer.

42

Ein hegwyddorion a themâu sylfaenol


Archwilio arloesi ac effeithlonrwydd: Rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd i ostwng ein costau, cynyddu cynhyrchaeth a gwella’n lefelau incwm. Mae canfod mentrau trawsffiniol a chydweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn rhan hanfodol o drawsnewid y ffordd yr ydym yn gwneud pethau. Rydym hefyd am ymgysylltu staff a dinasyddion er mwyn defnyddio’u creadigrwydd a’u sgiliau datrys problemau ar y cyd i ganfod ffyrdd eraill o wella’r hyn yr ydym yn ei wneud. Rydym am i bawb arall ar bob lefel o fewn y sefydliad i gydnabod, deall a derbyn cyfrifoldeb ‘personol’ ac fel ‘sefydliad’ i ostwng ein costau, cyflawni’n gwasanaethau a gwella bywyd yn Nhorfaen.

Rydym am i bawb chwarae rhan i ganfod ac archwilio cyfleoedd i greu gwelliannau, yn cynnwys y rheiny a fyddai efallai fel arfer yn cael eu hystyried yn ‘radical’. Rydym am gymhwyso’r fath ymagwedd yn gyson, ar draws ein gwasanaethau, swyddogaethau a thimau. Os oes yna ffordd fwy effeithiol neu effeithlon o gyflawni gwasanaeth, rydym am archwilio’r posibiliadau a chreu newidiadau lle bo modd. Byddwn yn cynnwys y rhanddeiliaid allweddol yn gyson yn ystod y gwaith hwn er mwyn sicrhau bod pawb yn deall y rhesymau dros unrhyw newidiadau arfaethedig a’u bod yn cael y cyfle i ddweud eu barn ynglyˆn â hwy.

Ein hegwyddorion a themâu sylfaenol

43


Rhan 3 - Datblygu Cyngor rhagorol


Datblygu ein staff:

46

Cynllunio ein gwasanaethau:

Mae gennym weithlu mawr ac ymrwymedig. Y mae nifer o’i aelodau yn byw yn y Fwrdeistref Sirol ac wedi dewis gyrfa sy’n eu galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn eu hardal leol. Gwyddwn mai ein cyflogeion yw’r elfen fwyaf hanfodol o ran sicrhau bod gwasanaethau uchel eu hansawdd yn cael eu darparu ar gyfer ein dinasyddion.

Mae’n hanfodol bod y bobl iawn, sy’n meddu ar y sgiliau iawn, yn y swyddi iawn ar yr adeg iawn. Trwy gynllunio’r gweithlu mewn ffordd effeithiol byddwn yn mynd i’r afael â’r cynnydd yn nisgwyliadau ein dinasyddion; cyfyngiadau cyllidebol; prinder yn y gweithlu; a llygaid craff y cyfryngau sydd yn ein rhoi dan fwy o bwysau.

Rydym am fod yn ‘gyflogwr o ddewis’ sy’n meddu ar enw da ac yn dangos bod gennym ffordd dda o reoli pobl. Rydym am sicrhau bod ein staff yn ymwybodol bob amser o’r hyn sy’n ofynnol ohonynt, yn meddu ar y sgiliau i fodloni’r gofynion hynny ac yn hollol ymwybodol o sut y maen nhw’n cyflawni.

Bydd Ein Cynllun Ar Gyfer y Bobl yn sicrhau bod gennym weithlu ar gyfer y dyfodol, un sy’n hyblyg i fodloni anghenion pobl Torfaen.

Datblygu Cyngor rhagorol

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau uchel eu hansawdd ar gyfer ein dinasyddion. Er mwyn hyrwyddo perfformiad da, mae ein gwasanaethau yn paratoi cynlluniau blynyddol i wella gwasanaethau gan nodi’r gweithgareddau yr ydym yn bwriadu eu cyflawni, sut y byddwn yn mynd ati i’w cyflawni a sut y gwyddwn os yw ein gweithgareddau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. I gefnogi pob cynllun gwella gwasanaeth mae yna gyfres o gynlluniau tîm manwl sy’n cysylltu â chynlluniau gwaith unigol ar gyfer pob aelod o staff. Gyda’i gilydd, mae’r cynlluniau yn creu ‘llinyn aur’ sy’n llifo drwy’r sefydliad, ac yn helpu staff i ddeall sut y mae eu gwaith yn cyfrannu at y blaenoriaethau yr ydym wedi cytuno arnynt.


Monitro ac adrodd ynghylch ein perfformiad:

Cyflawni ein swyddogaethau statudol:

Rydym yn monitro ac yn adrodd ynghylch ein perfformiad yn gyson, gan gymharu ein canlyniadau yn erbyn yr awdurdodau hynny sy’n perfformio orau ledled Cymru.

Mae’r Cynllun hwn yn nodi’r blaenoriaethau yr ydym am eu diogelu cymaint ag y modd rhag y toriadau i gyllidebau ac adnoddau dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r hinsawdd economaidd sydd ohoni ar hyn o bryd yn golygu ei bod hi’n amhosib i ni ymrwymo i fuddsoddi mwy o adnoddau yn y meysydd o flaenoriaeth y cytunom arnynt, yn y dyfodol. Byddwn fodd bynnag yn ceisio cynnal lefelau presennol y perfformiad o fewn y meysydd hyn neu newid y ffyrdd yr ydym yn darparu gwasanaethau er mwyn diogelu a chyflawni gwelliannau.

Mae ein fframwaith rheoli perfformiad yn helpu i ymwreiddio gwybodaeth ynghylch perfformiad yn ein dulliau rheoli gwasanaethau o ddydd i ddydd, gan ganiatáu i ni ddeall a dangos y gwahaniaeth y mae ein gweithgareddau yn ei wneud. Mae ein cynlluniau gwella gwasanaeth a’n cynlluniau tîm yn cynnwys dulliau manwl i fesur llwyddiant sy’n cael eu diweddaru’n gyson er mwyn dangos ein cynnydd.

Yn ogystal â’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt, mae yna ddeddfwriaeth yn ei lle sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i i ni ddarparu

rhai gwasanaethau a chymorth i’r dinasyddion hynny sydd eu hangen. Ar hyn o bryd, mewn rhai achosion, rydym yn darparu mwy na’r gofynion sylfaenol sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Byddwn yn parhau i gyflawni’n holl swyddogaethau statudol, ond byddwn yn edrych ar y gwasanaethau statudol dan sylw i weld a oes modd i ni leihau’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu mewn rhai meysydd er mwyn iddynt fodloni’r gofynion sylfaenol angenrheidiol. Byddwn yn sicrhau bod ein dinasyddion yn chwarae rhan amlwg yn y newidiadau a wneir i’r gwasanaethau statudol yr ydym yn eu darparu, a hynny cyn gwneud y penderfyniadau ac yn ystod y camau gweithredu.

Datblygu Cyngor rhagorol

47


Rhan 4 - Cynllunio Ariannol Tymor Canolig


Cynllunio Ariannol Tymor Canolig Fe fydd ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn ddogfen ategol i’r cynllun hwn, ac yn nodi’r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gweithgareddau yn y meysydd o flaenoriaeth y cytunom arnynt. Gwyddwn eisoes y bydd yr adnoddau fydd ar gael ar ein cyfer yn y dyfodol yn gostwng. Y mae’n hanfodol bwysig felly bod ein gwaith cynllunio ariannol yn canolbwyntio ar y tymor canolig er mwyn i ni fedru dangos i ba gyfeiriad yr ydym yn symud ar sail y dyraniadau cyllideb a rhagwelir.

50

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig


Mae angen i ni: • edrych ar y pwysau cyllidebol y byddwn yn debygol o’i wynebu yn y dyfodol ynghyd â’r bylchau yn yr adnoddau, a bod yn hollol ymwybodol o’r hyn y medrwn ni fforddio ei ddarparu a’r hyn bydd angen i ni gwtogi arno. • ddechrau deall a mapio’r agenda cenedlaethol a’r potensial i rannu dulliau darparu gwasanaethau gydag awdurdodau lleol eraill. • ddechrau ystyried sut y byddwn yn gwario’r holl arian sydd ar gael ar ein cyfer yn hytrach na nodi’r arbedion sydd eu hangen a sut y gallwn alinio’r swm sydd gennym i’w wario gyda blaenoriaethau ein cynllun corfforaethol diwygiedig. • ddatblygu a chyflawni’r cynigion i drawsnewid y gwasanaethau a ddarperir, yn cynnwys cydweithrediad ac effeithlonrwydd ac ystyried y posibiliadau i ni fedru creu incwm.

• ddeall effaith y dyraniadau cyllideb a rhagwelir yn y dyfodol yn cynnwys y potensial iddynt newid a sut y gall y cyllid grant sydd ar gael ar ein cyfer newid hefyd. • ystyried ffyrdd i ddiogelu’r swm o arian yr ydym yn ei glustnodi ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol, a deall effaith y cynnydd yn y galw am rhai o’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ac effaith y fath newidiadau ar grwpiau bregus a’r sector gwirfoddol. • wella ein dulliau o gynllunio’r gweithlu a chytuno ar femorandwm o gyd-ddealltwriaeth i’n galluogi i ddatblygu gweithlu hyblyg. • sicrhau ein bod yn medru cwrdd â’r heriau ariannol y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig

51


Cyhoeddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Ebrill 2011 Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r: Tîm Gwelliannau Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pw ˆ l, Torfaen NP4 6YB Rhif ffôn: 01495 742158 E-bost: corporate.plan@torfaen.gov.uk Os hoffech y ddogfen hon mewn fformat arall, cysylltwch â’r Tîm Gwelliannau ar 01495 742158 Dylinwyd gan Communications Design ©2011


Cynllun Corfforaethol 2011 - 2016