NEWYDDION
ABERTAWE ACTIF su’n well Croeso i drydydd cylchlythyr Abertawe Actif - sy’n ceisio eich hysby eich canolfan am y campau a’r gweithgareddau iechyd y gallwch eu mwynhau yn leol ac yn eich ardal.
DIOLCH I GYNGOR TREF GORSEINON
PROFFIL STAFF
Roeddem yn gallu gwella ein rhaglen wyliau’r haf eleni oherwydd arian gan Gyngor Tref Gorseinon. Rydym wedi gwneud defnydd da o’r grant gwerth £1000 i brynu cyfarpar newydd ar gyfer ein gweithgareddau plant poblogaidd a helpu i dalu am deithiau tywys. Mae ugeiniau o blant wedi teithio gyda ni i Fferm Ffoli a Pharc Oakwood am ddau ddiwrnod llawn hwyl - roedd yr arian wedi’n helpu i gadw costau’n isel a galluogi mwy o blant i ymuno yn yr hwyl. Meddai David Lewis, Arglwydd Faer Cyngor Tref Gorseinon, “Ar ran Cyngor Tref Gorseinon, rwy’n falch bod Canolfan Hamdden Penyrheol wedi gwneud defnydd da o’r grant gwerth £1000, gan helpu i ariannu gweithgareddau gwyliau diweddar. Mae’r ganolfan hamdden yn ased gwych i gymunedau Gorseinon a Phenyrheola c mae’n darparu llawer o weithgareddau i bobl ifanc a hyˆn yn lleol a’r tu hwnt. Mae cyngor y dref yn falch o gefnogi canolfan mor deilwng.”
Enw: Huw David Edwards Canolfan a theitl swydd: Hyfforddwr Ffitrwydd ym Mhenyrheol. Pa mor hir ydych chi wedi gweithio gydag Abertawe Actif?: Blwyddyn, ac rwyf wedi dwlu ar bob munud ohono. Beth yw'r peth gorau am eich swydd: Cwrdd â phobl newydd a chael hwyl yn eu cwmni. Rwy'n dwlu ar siarad â chwsmeriaid ac rwy'n gwneud fy ngorau i helpu pobl i gyrraedd eu nodau. Mae'n hwyl, ac rwy'n cwrdd â rhai cymeriadau go iawn. Hoff fwyd: Anrhyw beth! Hoff chwaraeon: Mae'n rhaid i mi ddweud pêl-droed.
My Swansea Fy Abertawe