Ty Agored rhifyn 1 2014

Page 23

Cyflwynwyd y mesurau llym newydd ar ôl i breswylwyr ddweud wrth y cyngor yr hoffent weld mwy yn cael ei wneud am sbwriel a baw cwˆn. Meddai Fran Williams, Arweinydd Tîm Gorfodi a Sbwriel yn y cyngor, "Mae hyn yn dangos ein bod yn benderfynol o wneud ein rhan i roi diwedd ar sbwriel a baw cwˆn ar ein strydoedd. "Mae Llwchwr Isaf yn enghraifft wych o sut gall cymuned weld y broblem a mynd i'r afael â hi. "Ond ein nod yw gwneud i bobl sy'n taflu sbwriel deimlo fel nad oes lle iddynt guddio."

Sut i helpu G PEIDIWCH â thaflu sbwriel neu gallwch dderbyn hysbysiad o gosb benodol gwerth £75. G CYSYLLTWCH â'ch cymdeithas preswylwyr, grwˆp cymunedol neu gyngor cymuned lleol i weld a oes digwyddiadau codi sbwriel wedi'u trefnu. G CYSYLLTWCH â Chadwch Gymru'n Daclus. Gallant gefnogi grwpiau a sefydliadau lleol sy'n trefnu digwyddiadau codi sbwriel. G GALL y cyngor ddarparu offer codi sbwriel i grwpiau preswylwyr a sefydliadau. I drefnu offer, ffoniwch (01792) 841601. G I ADRODD am sbwriel, ewch i www.abertawe.gov.uk/reportit neu defnyddiwch yr app 'Fy Nghyngor' sydd ar gael ar ffonau clyfar.  www.abertawe.gov.uk/housing  tai@abertawe.gov.uk

Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 23


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.