Page 1

newyddlen Cynaliadwyedd @Bangor Rhagfyr 2015

Lansiad Y Lab Cynaliadwyedd Hwyl y glas #Ecoamgueddfa Cyfle am interiaeth Prifysgolion Makerere a Bangor yn ystyried lles cenedlaethau’r dyfodol


Lansiad y Lab Cynaliadwyedd Roedd yn fraint fawr cael croesawu

llond ystafell o bobl i lansiad y Lab Cynaliadwyedd yn mis Tachwedd gyda’r Is-Ganghellor Yr Athro John Hughes a Dr Einir Young Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy y Brifysgol yn annerch y gynulleidfa. Wrth lansio’r Lab Cynaliadwyedd fel canolbwynt corfforaethol proffil uchel i weithredu fel y grym y tu ôl i ddatblygu cynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor, mae’r Brifysgol wedi cyflawni carreg filltir tuag at y nodau yn y Cynllun Strategol. Mae Cynaliadwyedd, nid yn unig yn rhedeg fel edau drwy cynllun strategol y Brifysgol, mae hefyd yn un o’r galluogwyr.

Felly beth bydd y Lab Cynaliadwyedd yn neud? • Gweithio ar draws holl Adrannau Colegau a Gwasanaethau • Amlddisgyblaethol • Gweithio gyda diwydiant • Cydweithio â chymunedau • Gweithio gyda myfyrwyr Dywedodd Dr Einir Young Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy y Brifysgol; “Bu’n daith hir a diddorol i gyrraedd y fan hon a mawr yw ein diolch i’r Is-ganghellor Yr Athro John Hughes am ei gefnogaeth a’r Is-ganghellor Dirprwyol, Yr Athro David Shepherd am gynnwys Cynaliadwyedd yn ei bortffolio ef.


Rydym yn ddiolchgar iawn hefyd i’r staff a’r myfyrwyr sydd wedi ymuno’n frwdfrydig yn y gweithgareddau hyd yma i sicrhau y bydd Prifysgol Bangor yn arwain ar gynaliadwyedd a llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Edrychwn ymlaen yn fawr i gydweithio ar draws y Brifysgol dros y blynyddoedd i ddod.” Dywedodd yr Is-Ganghellor Yr Athro John Hughes; “Mae’r daith tuag at gynaliadwyedd yn daith heb ddiwedd mewn ffordd. Mae’n broses barhaus o feddwl yn wahanol a gwneud pethau’n wahanol. Yn hyn, mae Prifysgol Bangor yn arwain y ffordd. Rwyf yn eich gwahodd i weithio gyda’r Lab Cynaliadwyedd i gymhwyso eich

deallusrwydd a’ch athrylith i fynd i’r afael â’r heriau byd-eang sy’n ein hwynebu i gyd er mwyn sicrhau lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ym Mangor, Cymru ac ar draws y byd.” Cliciwch ar y ddolen yma i ddarllen areithiau Yr Athro John Hughes a Dr Einir Young ac i weld rhagor o luniau o’r lansiad. www.planet.cymru Dilynwch ni! Facebook Twitter


Rhoi nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ ar waith, sy’n rhoi canllaw i sefydliadau i fynd ati i wireddu eu dyletswydd o dan y Ddeddf. Mae gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod rhaid i’r corff weithredu mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau y bodlonir anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain. Bydd hyn peri i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a chymryd ymagwedd fwy cysylltiedig. Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru rydym i gyd eisiau byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol.

Er nad oes dyletswydd uniongyrchol gan Brifysgolion o dan y ddeddf, mae Prifysgol Bangor yn bwriadu gweld y nodau llesiant (isod) a’r pump ffordd o weithio yn fframwaith hawdd i’w ddeall ac i ymgorffori ar draws y sefydliad.


#Ecoamgueddfa yn fuddugol yn ngwobrau effaith ac arloesi Prifysgol Bangor Rydym yn falch o gyhoeddi fod Dr Einir Young a Gwenan Griffith, Y Lab Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor, yn fuddugol yng Ngwobr Effaith Ddiwylliannol a Chymdeithasol Orau Prifysgol Bangor 2015. Cynhaliwyd y noson wobrwyo yn Theatr Bryn Terfel, yn Adeilad Pontio – canolfan Arloesi newydd Prifysgol Bangor. Ym Mhen Llŷn, ym mis Ebrill 2014, sefydlwyd #Ecoamgueddfa, yr ecoamgueddfa gyntaf erioed yng Nghymru a’r gyntaf yn y byd i fod yn gwbl ddigidol. Daeth hyn i fod drwy bartneriaeth rhwng Labordy Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor a saith safle treftadaeth ym Mhen Llŷn.

bydeang. Yn y cyfnod cymharol fyr ers sefydlu’r fenter mae cynulleidfa fyd-eang yr #Ecoamgueddfa wedi cyrraedd oddetu 150,000. Gwireddwyd y canlyniadau rhagorol yma drwy gyfuniad o becynnau hyfforddi ar gyfer y partneriaid, eu gwirfoddolwyr a thywysyddion, ochr yn ochr â datblygu brand sydd wedi cael ei gyflwyno ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Twitter, YouTube a Instagram. Yn ogystal, crëwyd calendr o ddigwyddiadau cysylltiedig ar gyfer y safleoedd ac ar gyfer y sector twristiaeth ehangach ym Mhen Llŷn. Arweiniodd hyn at sefydlu’r Ŵyl #Ecoamgueddfa gyntaf a gynhaliwyd dros naw niwrnod ym Mehefin 2015.

Prif nod y fenter hon yw i yrru busnesau twristiaeth yn y rhanbarth yn ystod y tymor ysgwydd. Rydym yn disgwyl (ar sail amcangyfri ceidwadol) y byddwn yn Partneriaeth Drosglwyddo Gwybodaeth cynyddu refeniw o £2 filiwn i’r economi drwy lwyddiannus rhwng y safleoedd a’r Lab dwristiaeth ddiwylliannol. Cynaliadwyedd oedd y sbardun cychwynnol ond mae’r cydweithio agos rhwng y Er mwyn cyflawni hyn nododd partneriaid safleoedd a’r Brifysgol yn parhau. Hyd yma, yr #Ecoamgueddfa bod angen cydlynu a mae ’r project wedi arwain at roi Cymru chyd-farchnata’r ‘cynnig’ i ymwelwyr i Ben ar y blaen ac mae’n parhau i fod o fudd Llŷn. Cafodd pecyn marchnata digidol uniongyrchol i ddatblygu sgiliau ac economi ei ddatblygu ar lwyfannau cyfryngau wledig Gogledd Cymru. cymdeithasol, gydag ‘apps’ a gwefannau wedi eu creu ar gyfer y farchnad yng www.ecoamgueddfa.org Ngymru a marchnadoedd Ewropeaidd a


Ystadau’n mynd yn drydanol

Yn ddiweddar fe wnaeth Adran Ystadau

Prifysgol Bangor y penderfyniad i chwilio am ddewisiadau eraill mwy cynaliadwy i’w fflyd o faniau diesel. Y canlyniad oedd prynu 3 cerbyd trydan newydd sbon. Efallai eich bod wedi ei gweld nhw’n mynd o amgylch y campws yn llyfn. Eglurodd Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol, “Rydyn ni i gyd yn rhy ymwybodol y gall cerbydau gael effaith andwyol ar yr amgylchedd, ac roeddem eisiau dewis amgen glân a oedd yn gost effeithiol. Mae’r defnydd o betrol a diesel nid yn unig yn gostus, mae’n gwneud cyfraniad

Grŵp Cynaliadwyedd Undeb Myfyrwyr Bangor

sylweddol at gyfanswm ein hôl troed carbon, gan allyrru nwyon llosg i’r amgylchedd leol. Er bod cerbyd diesel yn rhatach, roeddem yn gallu dangos bod y costau dros oes y cerbyd yn ffafrio’r dewis trydan. Mae hyn oherwydd nad yw’r cerbyd trydan yn denu treth ffordd, a mae’r trydan sy’n ofynnol ar gyfer rhedeg y car yn costio tua 3 ceiniog y filltir, tra bod costau disel tua 15 ceiniog y filltir. Mae’r carbon sy’n gysylltiedig â’r trydan a ddefnyddir ar gyfer gwefru’r cerbydau trydan yn ffracsiwn o’r hyn sydd ynghlwm â defnyddio petrol a diesel, ac fe wneith car bara hyd at 3 diwrnod ar ôl ei wefru dros nos. Felly ‘does dim allrydiau yn cael ei rhyddhau i’r amgylchedd leol ym Mangor gan y 3 cerbyd newydd yma.” Mae hwn yn un o nifer o fentrau mae’r Adran yn gweithredu ar draws yr Ystâd wrth geisio lleihau ein heffeithiau amgylcheddol, a bodloni ein targedau lleihau carbon blynyddol.

Ymunwch gyda ni ar Facebook!

Mae hwn yn grŵp i fyfyrwyr Bangor sydd â diddordeb mewn cynaliadwyedd a sydd eisiau chwarae rôl bwysig yn siapio gwaith yr Undeb a’r brifysgol pan ddaw at gynaliadwyedd. Pan rydyn yn siarad am gynaliadwyedd rydyn yn golygu’r amgylchedd (Effaith Gwyrdd) ond hefyd rydym yn gweithio i gefnogi cymuned Bangor.


“Ym Mhrifysgol Bangor, mae cynaliadwyedd yn rhan o bopeth a wnawn. Dyma’r ffordd a’r rheswm pam rydym yn gweithredu.” - Yr Athro John Hughes Roedd tîm Y Lab Cynaliadwyedd yn Ffair y Glas, digwyddiad mwyaf poblogaidd yr Wythnos Groeso, lle mae myfyrwyr yn cofrestru ar gyfer clybiau, cymdeithasau, chwaraeon a gwirfoddoli. Fe wnaethant gyfarfod cannoedd darpar entrepreneuriaid newydd ac arweinwyr y dyfodol, gan hyrwyddo nod y Brifysgol o ‘Ddod â Chynaliadwyedd yn Fyw’ trwy PrifBlaned a Chynaliadwyedd@Bangor, sef y strwythur unigryw a’r rhaglen barhaus o welliannau mae’r Tîm wedi datblygu i ddeall a rheoli datblygiad cynaliadwy’r Brifysgol o dan y strwythur cynaliadwyedd a ddefnyddir yn gyffredin: Pobl, Planed a Ffyniant. Fe ddaeth Is-Ganghellor Prifysgol Bangor Yr Athro John Hughes draw i’r stondin gan atgyfnerthu’r awydd bod y Brifysgol yn dod yn adnabyddus yn fyd-eang fel Y Brifysgol Gynaliadwy, Mae’n hynod gefnogol o waith Y Lab Cynaliadwyedd i ymgorffori PrifBlaned a Cynaliadwyedd@ Bangor ar draws y campws a thu hwnt mewn addysgu, ymchwil ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Dwedodd:

Hwyl y Glas ym Mhrifysgol Bangor

Mae llwyddiant unrhyw fenter cynaliadwyedd yn dibynnu ar fewnbwn gan bob aelod o’r gymuned, yn Ffair y Glas cafodd cannoedd o fyfyrwyr eu hysbrydoli i gymryd rhan yn bersonol ac yn broffesiynol. Hyrwyddodd y Tîm syniadau ar sut i fanteisio ar gyfleoedd newydd drwy ddatblygu arferion cynaliadwy i gynyddu mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi ac fel entrepreneuriaid. Roedd anogaeth i fanteisio ar arbenigedd y Lab Cynaliadwyedd ar ddatblygiad cyfrifol amgylcheddol a chymdeithasol, yn ogystal â hyrwyddo camau gweithredu personol fel arwyddo Addewid Cynaliadwyedd y Brifysgol, a thrafod pa ddatblygiadau cynaliadwyedd dylai’r Brifysgol fod yn gweithredu, a chymryd mwy o ran gyda Cynaliadwyedd@Bangor. Dywedodd Rheolwr Amgylchedd Prifysgol Bangor Ricky Carter:

“Roedd yn wych fod myfyrwyr newydd yn cael sgwrsio ag arbenigwyr Y Lab Cynaliadwyedd. Cawsant wybod pam fod angen i bawb chwarae eu rhan i helpu’r Brifysgol i leihau ei heffaith ar yr “Ym Mhrifysgol Bangor, mae amgylchedd drwy weithredoedd syml cynaliadwyedd yn rhan o bopeth a wnawn. bob dydd, ond hefyd mae wedi rhoi iddynt Dyma’r ffordd a’r rheswm pam rydym yn safbwyntiau cynaliadwy newydd ar eu gweithredu.” gyrfaoedd a’u dyheadau yn y dyfodol.”


Prifysgolion Makerere a Bangor yn ystyried lles cenedlaethau’r dyfodol Yn Chwefror 2015 fe wnaeth Prifysgol Makerere yn Uganda a Phrifysgol Bangor lofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth pwysig i ddechrau cydweithio i gyflawni sialensiau datblygu cynaliadwy. Ers hynny mae’r cydweithio wedi symud yn gyflym gyda phrojectau mor amrywiol ag ailddefnyddio tecstilau ac ychwanegu gwerth at gnydau pinafal yn denu sylw gan y llywodraeth a sefydliadau megis yr United Nations Industrial Development Organisation (UNIDO). Wrth wraidd y cydweithredu mae cydweithio agos rhwng y ddwy brifysgol a phenllanw hynny fu ymweliad â Bangor gan Dr Yasin Ziraba, Cyfarwyddwr y Rhaglen Clwstwr Systemau Arloesi, Dr Florence Nakayiwa, Cyfarwyddwr Cynllunio yn Makerere a Pamela Matovu, cydlynydd Rhaglen Cynaliadwyedd Makerere yn mis Hydref. Diben yr ymweliad, a drefnwyd ac a gynhaliwyd gan y Lab Cynaliadwyedd, oedd rhannu gwybodaeth a phrofiad am ddatblygu cynaliadwy yn y ddwy wlad a nodi meysydd ar gyfer cydweithio pellach. Yn ystod yr wythnos nodwyd nifer o brojectau newydd, yn cynnwys ymchwil ddiwydiannol, lleoliadau myfyrwyr a chyfleoedd hyfforddi, yn ogystal â chydweithio agosach rhwng y ddwy

brifysgol ar lefel sefydliadol. Mae Dr Einir Young, Cyfarwyddwr y Lab Cynaliadwyedd, yn frwd ynghylch dyfodol y cydweithio hwn, gan ddweud: “Yn llawer rhy aml gall Memorandwm o Ddealltwriaeth eistedd ar silff yn casglu llwch. Mewn cwta wyth mis ers llofnodi’r ddogfen gyda Makerere mae tri ymweliad cyfnewid wedi’u cynnal, nodwyd nifer dda o brojectau ac mae dau gais am gyllid eisoes wedi eu paratoi a’u cyflwyno. Mae’r cynnydd a lefel ymroddiad ar y ddwy ochr wedi bod yn syfrdanol ac rydym yn disgwyl i’r berthynas roi llu o gyfleoedd i fyfyrwyr yn y ddwy brifysgol yn y dyfodol agos iawn.” Mae’r cydweithio hwn â Makerere yn enghraifft o’r rôl sydd gan Brifysgol Bangor, ei hymchwilwyr a’i myfyrwyr i’w chwarae, nid yn unig yn rhanbarthol ond yn fyd-eang. Mae’r ddwy brifysgol yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru ac i Hub Cymru Africa am gefnogaeth ariannol i hyrwyddo’r cydweithio hwn.


Diffoddwch dros y Dolig Oeddech chi’n gwybod bod Prifysgol Rhai pethau i chwilio amdanynt: Bangor yn defnyddio’r un faint o drydan ag oddeutu 5,000 o gartrefi nodweddiadol yn • Gwnewch yn siŵr bod eich monitr yn y DU bob blwyddyn? cael ei ddiffodd Rydym yn gwneud cynnydd mawr gyda’n • Gwnewch yn siŵr bod yr holl ffenestri mesurau arbed ynni, ac er gwaethaf y wedi cau cynnydd o 30% yn nifer y staff a myfyrwyr, mae cyfanswm ein defnydd o ynni nawr yn • Tynnwch unrhyw blygiau a chyfarpar 75% o’r hyn yr oedd o 10 mlynedd yn ôl. diangen eraill allan Helpwch ni i gael hyn hyd yn oed yn is drwy ddiffodd offer trydanol diangen yn ystod y • Diffoddwch y goleuadau nos, dros y penwythnos, ac yn enwedig cyn i chi adael am gyfnod gwyliau’r Nadolig. Nadolig Llawen!

Cyfle am Interniaeth Hyrwyddo Cynaliadwyedd a Lles ar draws cyfandiroedd: Datblygu’r cyswllt myfyrwyr rhwng Bangor-Makerere Mae hon yn swydd ddelfrydol i fyfyriwr sy’n dymuno datblygu eu cysylltiadau rhyngwladol a sgiliau datblygu cynaliadwy. Mae’r profiad gwaith wedi ei leoli o fewn y Lab Cynaliadwyedd, sef y canolbwynt ar gyfer datblygu cynaliadwy yn y Brifysgol sy’n gyfrifol am ymgorffori cynaliadwyedd o fewn arferion y Brifysgol trwy ymchwil, gweithio gyda myfyrwyr, staff a busnesau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar ddatblygiad cydweithredol cysylltiadau Y Lab Cynaliadwyedd â Phrifysgol Makerere yn Uganda; creu cysylltiadau ystyrlon rhwng Undeb Myfyrwyr Bangor a Urdd Myfyrwyr Makerere ar gynaliadwyedd a nodau Lles

Cenhedlaeth Dyfodol. Bydd ef / hi yn datblygu cysylltiadau gweithredol rhwng y rhaglen cynaladwyedd yn y ddau Undebau Myfyrwyr. I gael manylion am sut i ymgeisio ewch i http://www.bangor.ac.uk/employability/ internopps.php.cy


Prifysgol Bangor yn arwain y frwydr yn erbyn clefyd y galon Rhedodd Y Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, CIWM Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) ddau weithdy ailddefnyddio llwyddiannus yng Nghaerdydd a Bangor fis Mehefin diwethaf. O ganlyniad, fe wnaeth Prifysgol Bangor ymuno â chynllun Dodrefn a storio trydanol Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) yng Nghymru yr haf hwn i roi eu hen ddodrefn ar ddiwedd y tymor o Neuaddau Bryn Eithin, gan godi hyd at £13,125 ar gyfer BHF a galluogi’r elusen i ailgylchu nwyddau a fyddai o bosib wedi ei wastraffu fel arall. Meddai Amanda Purkiss, Cynhyrchydd Stoc Rhanbarthol BHF: “Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb a’r gefnogaeth aruthrol gan Brifysgol Bangor. Bydd 100% y cant o’r elw o’r rhoddion yn mynd

i mewn i’r frwydr yn erbyn clefyd y galon ac yn ariannu ymchwil achub bywyd y BHF. Clefyd y galon yw’r clefyd sy’n lladd y mwyaf o bobl yn y DU, mae’n chwalu bywydau gormod o blant, rhieni a neiniau a theidiau - gallwch ymuno â’r frwydr ar gyfer pob curiad calon drwy glirio a rhoi y pethau hynny nad ydych eu heisiau i’r elusen”. Meddai Deirdre McIntyre: “Rydym wrth ein bodd bod y cydweithio hwn wedi bod yn gymaint o lwyddiant, gan ein helpu i godi arian hanfodol i barhau â’r gwaith achub bywyd mae BHF yn ei wneud.” I ddod o hyd i’ch siop Dodrefn a Trydanol BHF agosaf ewch i bhf.org.uk/shops BHF Dodrefn neu ffoniwch 0844 412 5000


Partneriaeth gyffrous rhwng Prifysgol Bangor a Menter Gymdeithasol y Flwyddyn Mae menter gymdeithasol leol wedi ennill gwobr genedlaethol gyda chefnogaeth canolfan ymchwil arloesol. Cafodd Antur Waunfawr eu coroni fel Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yn seremoni wobrwyo gyntaf Cynnal Cymru yng Nghaerdydd. Mae’r gwobrau yn dathlu gwaith mae sefydliadau yn ei wneud ar ddatblygu cynaliadwy. Cafodd y fenter ei hannog i wneud cais am y wobr yn dilyn prosiect llwyddiannus gyda Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru ym Mhrifysgol Bangor i greu Adroddiad Effaith. ‘Rydym wedi mwynhau gweithio gyda’r Ganolfan Newid Ymddygiad’ meddai Menna Jones, Prif Weithredwraig Antur, ‘Fe wnaeth yr Adroddiad Effaith rhoi man cychwyn i ni ar gyfer ein cais llwyddiannus am wobr Cynnal Cymru’. Fe wnaeth ymchwilwyr o’r Ganolfan Newid Ymddygiad, Elizabeth Woodcock a Hong Chun Tan gynnwys gweithwyr ac oedolion gydag anableddau dysgu o Antur Waunfawr yn y broses o ddylunio’r Adroddiad Effaith a dewis ei chynnwys.

Mae Antur Waunfawr hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Lab Cynaliadwyedd ar y prosiect Uganda Bangor sy’n edrych ar ailddefnyddio tecstilau. Gan weithio mewn partneriaeth gyda’r Lab Cynaladwyedd drwy’r rhaglen Rhwydwaith Wise ym Mhrifysgol Bangor; maent yn cyfrannu at astudiaeth dichonoldeb i archwilio potensial marchnadoedd uniongyrchol ar gyfer tecstilau yn Uganda, gan weithio gyda mentrau a busnesau bach a chanolig cymdeithasol lleol. Nod gwobrau Cynnal Cymru yw cydnabod y pethau da mae pobl a sefydliadau yn ei wneud am ddatblygiad cynaliadwy. Roedd rhaid i’r enillwyr gwblhau proses dau-ran, yn gyntaf i esbonio ei gyfraniad at nodau llesiant cenedlaethol Cymru ac yna i ennill cefnogaeth y cyhoedd mewn pleidlais ar-lein. Dewisodd cais Antur Waunfawr allan o dros 60 cais ar gyfer rhestr fer o 26 yn y rhan cyntaf, ac enillodd yr Antur pleidlais y cyhoedd am y categori Menter Gymdeithasol Gynaliadwy’r Flwyddyn. LLONGYFARCHIADAU!


Arbed mwy, gwastraffu llai

hwn yn gyfle cyffrous i Brifysgol Bangor fod yn arloeswr i holl Brifysgolion y DU wrth ddatblygu deunyddiau hyfforddi mewn partneriaeth â WRAP ceith ei defnyddio drwy’r deyrnas. Byddwn eto yn cael sesiynau a gweithdai gyda’r nos, ond bydd y rhain hefyd yn cael eu cynnal yn ystod y dydd ynghyd â phrif ddigwyddiad sy’n hyrwyddo prynu synhwyrol, ymestyn bywyd eich dillad, ailddefnyddio, uwchgylchu, ailgylchu a rhoddi eich dillad a gynhaliwyd ym mis Mawrth. Bydd y digwyddiad hwn yn agored i’r cyhoedd, gyda’r gobaith o ddenu oedolion a phlant o’r gymuned leol i gymryd rhan.

Yn dilyn gwaith monitro mewn ymddygiad ailgylchu yn neuaddau preswyl Ffriddoedd dros fisoedd yr haf, mae’r Lab Cynaliadwyedd wedi bod yn rhedeg cyfres Mae’r ymgyrchoedd soniwyd amdanynt o weithdai misol o’r enw ‘Caru Bwyd, Casáu uchod yn anelu at wneud i ni feddwl yn fwy Gwastraff’ gyda myfyrwyr ar safleoedd cynaliadwy am ein penderfyniadau prynu. Ffriddoedd a Santes Fair. Nod y sesiynau yw i addysgu myfyrwyr ar sut i leihau gwastraff bwyd ac arbed arian. Daeth yn amlwg o’r gwaith monitro bod gwastraff bwyd yn broblem enfawr a bod myfyrwyr yn prynu bwyd fyddai byth yn cael ei fwyta - thema cyffredin i ddeiliaid tai drwy gydol y DU. Ym mis Ionawr, byddwn yn lansio ymgyrch ‘Caru Eich Dillad’, gyda’r nod o wneud i fyfyrwyr a staff feddwl am eu dillad mewn ffordd wahanol, o’i phrynu y’i gwaredu. Mae

Gair gan y Cyfarwyddwr Bu’n flwyddyn wych arall ym Mhrifysgol Bangor a rhesymau fil i ddathlu. Agorodd Pontio, y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd a’r Santes Fair ein pentref newydd ar gyfer myfyrwyr. Buom yn llwyddiannus mewn amryw feysydd fel ymchwil, datblygu a phrofiad myfyrwyr a’r oll yn dangos yn glir fod Bangor yn le campus i fyw, gweithio a bod yn fyfyriwr. Ar waetha’r dathlu rwyf innau fel llawer wedi

dychryn a thristau o weld un gyflafan ar ôl y llall mewn llefydd eraill. Yn ddyddiol mae’n sgriniau teledu yn llawn straeon o ddiflastod, adref a dros y môr. Cafodd y llifogydd diweddar effaith andwyol iawn ar rannau helaeth o Brydain, mewn mannau eraill mae sôn am newyn, daeargrynfeydd thorfeydd o bobl yn heidio mewn anobaith wrth ffoi rhag y rhyfeloedd sy’n darnio’u gwledydd a’u bywydau. Mae’r Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd ym Mharis y mis hwn wedi cael ei bilio fel “y cyfle olaf i osgoi canlyniadau gwaethaf cynhesu byd-eang: sychder marwol, llifogydd a stormydd, a moroedd yn codi a fydd yn llyncu ynysoedd a’r arfordiroedd dwys eu poblogaeth.” Stwff difrifol go iawn.


Bu Paris yn y newyddion am reswm arall hefyd yn dilyn ymosodiadau marwol ar ei dinasyddion gan bobl, sydd, am resymau sy’n hysbys iddyn nhw’u hunain wedi penderfynu lladd pobl gyffredin ar hap. Wyddom ni ddim eto beth fydd hyd a lled sgîleffaith y digwyddiad yna. Gallwn fod yn saff y bydd 2016 yn flwyddyn heriol gyda’r rhan fwyaf ohonom yn sefyll yn gegrwth a diymadferth ar y cyrion. Ond ydym ni mor ddiymadferth â hynny? Beth ar y ddaear all unigolyn wneud i newid y byd er gwell?

werthfawrogi amrywiaeth y ddynoliaeth a’r holl fanteision ddaw yn ei sgìl? Cyfrifoldeb byd-eang. O ystyried fod y ddaear yn llai na gronyn o dywod ar gynfas eang y bydysawd dydi’r erchyllterau ar ein teledu mor bell i ffwrdd â hynny wedi’r cyfan. Beth allwn ni ei wneud i ddeall yn well yr hyn sy’n digwydd a beth yw’n rôl ni yn hyn i gyd? Saith cwestiwn syml, ond yn ddigon i’n herio i feddwl am funud.

Yr ateb amlwg (a sinigaidd) yw ‘dim llawer’ - ond petai mwy a mwy ohonom yn dechrau meddwl ac ymddwyn yn wahanol, efallai y gallai’r ateb i’r cwestiwn fod yn wahanol hefyd. Beth petai bob un ohonom yn herio ein hunain i ystyried y saith nod llesiant fel man cychwyn? Byd llewyrchus. Ai diwedd y gân yw’r geiniog? Sut mae penderfynu beth yw ‘digon’? Beth sydd mewn gwirionedd yn bwysig i mi? Byd cydnerth. Ydw i’n ymwybodol o gwbl o’r byd o’m cwmpas a’r effaith dwi’n cael arno? Sut siâp fyddai ar bethau petai’r holl fwydod, pryfed genwair a’r gwenyn yn diflannu? A pha newidiadau sydd raid i mi eu gwneud er mwyn sicrhau eu bod yn parhau? Byd Iachach. ‘Does gennym ni ddim syniad pa mor ffodus fuom i gael ein geni yn un o’r cymdeithasau cyfoethocaf ar y ddaear, ond gall cyfoeth materol ddod â phroblemau iechyd yn ei sgìl. Beth fydd fy ngham cyntaf i tuag at fyw’n iachach? Byd sy’n fwy cyfartal Mae’n reit hawdd gweld nad ydi bywyd yn deg i bawb am ba bynnag reswm. Ydw i’n sensitif i’r rhagfarnau a’r gwahaniaethu sy’n digwydd o’m cwmpas? Ydw i’n trin pawb beth bynnag fo’u cefndir a’u credoau gyda pharch? Byd llawn o gymunedau cydlynol. Nawr mae hynny yn swnio’n her sydd tu hwnt i allu un person i’w datrys. Ond beth am eich tŷ, eich coridor yn y neuadd breswyl, eich cwrs neu glwb? Maent i gyd yn gymunedau hefyd. Gallwn un ag oll ofyn i ni ein hunain, “P un ydw i – y burum yn y bara neu’r ddraenen yn y croen?” Byd o ddiwylliant bywiog ac ieithoedd amrywiol, ffyniannus. Gan ein bod yn byw yng Nghymru fe wyddom o’r gorau nad Saesneg yw’r unig iaith yn y byd. Y cwestiwn yw, ‘sut allaf i, hyd yn oed os dwi ddim yn siarad iaith arall,

Gall pob unigolyn chwarae eu rhan i newid y byd er gwell, fesul cam. Beth am gymryd rhan, gofyn cwestiynau anodd, herio doethineb confensiynol a gwrthod cael ein llethu gan ddogma a rhethreg pobl eraill? Peidiwch â chredu popeth sy’n cael ei ysgrifennu ar y rhyngrwyd, rhowch gynnig ar ddarllen papur newydd neu borthiant newyddion gwahanol, byddwch yn ffrindiau gyda phobl sy’n siarad iaith wahanol, peidiwch â chyfyngu’ch hun i gymysgu gyda phobl yr un oed neu ddosbarth cymdeithasol â chi yn unig; cymysgwch fwy, ceisiwch ddeall a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau, yn hytrach na chwil am y tebyg neu gyfarwydd. Mae’r Is-ganghellor yn lansiad y Labordy Cynaliadwyedd nodi bod ‘y daith tuag at gynaliadwyedd yn daith heb ddiwedd mewn ffordd’. Mae mynd ar daith yn antur ac mae dod o hyd i’r atebion i’r holl gwestiynau hyn yn dipyn o antur hefyd mewn ffordd. Rhywbeth i’w mwynhau yw anturiaethau felly rwy’n gobeithio y byddwch yn dod yn ôl yn 2016 ar dân i ymuno â ni i weld lle fydd hyn i gyd yn ein harwain.


Nadolig Llawen A Blwyddyn Newydd Dda!

Newyddlen Nadolig - Cynaliadwyedd@Bangor  
Newyddlen Nadolig - Cynaliadwyedd@Bangor  
Advertisement