Page 1

newyddlen cynaliadwyedd gwanwyn 2017

Wythnos Cynaliadwyedd 02.05.2017 - 04.05.2017

Gwobr gyntaf i Fangor yng Ngwobrau Cynaliadwyedd ac Adnoddau CIWM Llesiant yng Ngardd Fotaneg Treborth

a llawer mwy...

#bangorgynaliadwy


Gwobr gyntaf i Fangor yng Ngwobrau Cynaliadwyedd ac Adnoddau CIWM Mae Prifysgol Bangor ymysg y sêr yng Ngwobrau Cynaliadwyedd ac Adnoddau pwysig y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Gwastraff (SSRhG) am yr ymgyrch #CaruNeuaddau drwy ennill y wobr gyntaf yn y categori ‘Prosiect Adnoddau Gorau gan rai sy’n Rheoli Cyfleusterau’. Wrth siarad ar ran y tîm buddugol, dywedodd Deirdre McIntyre, Rheolwr Bywyd Preswyl yn Neuaddau Myfyrwyr:

Cafodd y gystadleuaeth ei beirniadu gan rai o arbenigwyr uchaf eu parch yn y sector ac fe ddyfernir y gwobrau i’r rhai sy’n dangos cyrhaeddiad eithriadol yn diwydiannau cynaliadwyedd, adnoddau a gwastraff.

Dyma’r flwyddyn gyntaf i Brifysgol Bangor gystadlu yn y gwobrau, a hi yw’r unig brifysgol i gyrraedd y rownd derfynol. Roedd yn cystadlu yn erbyn cwmnïoedd enwog cenedlaethol a rhyngwladol fel “Rydw i wrth fy modd derbyn anrhydedd o’r Aldi, Jaguar Landrover a Sŵ Llundain a Whipsnade, ymgyngoriaethau fath gan CIWM, sydd mor uchel eu parch. amgylcheddol fel Ramboll Environ, Mae’r wobr yn destament i weledigaeth, egni a gwaith caled y timau Bywyd Preswyl mudiadau sector cyhoeddus mawr gan gynnwys Guy’s a St Thomas’ NHS a’r Lab Cynaliadwyedd. Rydym hefyd yn Foundation Trust, a sawl cyngor sir a thref. ffodus bod gennym fyfyrwyr blaengar a brwdfrydig yn bartneriaid yn y prosiect hwn, a hynny drwy raglen Campws Byw. Mae ein cydweithrediad yn gosod sylfaen ar gyfer gwaith ardderchog mewn mentrau cynaliadwyedd yn y dyfodol.”


Y Lab Cynaliadwyedd yn y Ffair Cyfleodd Myfyrwyr Roedd tîm Y Lab Cynaliadwyedd yn y Ffair Cyfleodd Myfyrwyr mis Chwefror, digwyddiad poblogaidd yn dilyn Ffair y Glas yn mis Medi, lle mae myfyrwyr yn cael cyfle i gofrestru ar gyfer clybiau, cymdeithasau, chwaraeon a gwirfoddoli. Fe wnaethant gyfarfod cannoedd o fyfyrwyr brwd ac arweinwyr y dyfodol, gan hyrwyddo nod y Brifysgol i ddod yn adnabyddus ym mhob agwedd fel ‘Y Brifysgol Cynaliadwy’, ac i weithio tuag at gymhwyso egwyddorion y ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i’n holl waith. Mae llwyddiant unrhyw fenter cynaliadwyedd yn dibynnu ar fewnbwn gan bob aelod o’r gymuned, ac yn y Ffair cafodd myfyrwyr eu hysbrydoli i gymryd rhan â chynaliadwyedd yn bersonol ac yn broffesiynol. Roedd y ffair hefyd yn gyfle i lansio’r ‘Wythnos Werdd’ a hyrwyddo prosiect Undeb Bangor ‘Gwyrddio Bangor’ gan gasglu storïau ac atgofion gan fyfyrwyr sy’n dangos sut mae coed wedi siapio ein cymdeithas, tirwedd a’n bywydau i gyfrannu at Siarter y DU ar gyfer Coed, Coedwigoedd a Phobl.

“Roedd y Ffair Cyfleoedd myfyrwyr yn gyfle gwych i siarad â myfyrwyr am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt i ddatblygu eu harferion cynaliadwy, yn ogystal â dysgu mwy am y Lab Cynaliadwyedd a chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor” meddai Mair Rowlands, Swyddog Cyswllt Myfyrwyr i’r Lab Cynaliadwyedd.


Llwyddiant nodedig arall gyda’r amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor Prifysgol Bangor yw’r sefydliad cyntaf yng Nghymru ac yn wir yn y DU i gyflawni Lefel 5 fersiwn newydd 2016 o Safon y Ddraig Werdd i Reolaeth Amgylcheddol. Dim ond mis Gorffennaf llynedd y lansiwyd y Safon newydd ac mae sefydliadau ardystiedig yn cael 12 mis i fodloni’r meini prawf llymach a nodwyd yn fersiwn 2016. Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol, Gwasanaethau Eiddo a Champws, “Mae ein trefniadau rheoli’r amgylchedd yn cael eu harchwilio’n flynyddol gan Groundwork Cymru, sy’n edrych yn fanwl ar ein dulliau o arbed ynni a dŵr, gollyngiadau nwyon tŷ gwydr, a rheoli gwastraff a theithio. Yn hytrach na disgwyl am flwyddyn arall i’r Safon newydd ddod yn orfodol, fe wnaethom ddewis cael ein hasesu yn ei herbyn yn syth ar ôl iddi gael ei lansio.” Meddai’r Is-ganghellor, yr Athro John G Hughes: “Dwi wrth fy modd efo’r newyddion yma. Mae sicrhau’r dyfarniad yma mor fuan ar ôl ei lansio yn glod i’r staff a myfyrwyr niferus sy’n gwneud eu gorau i amddiffyn a gwella’r amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor

a’r cyffiniau. Rwy’n arbennig o falch o’r ffordd rydym yn lleihau ein hôl troed carbon yn flynyddol trwy ystod o gynlluniau, o oleuadau LED a gwella systemau gwresogi i swyddfeydd heb finiau a cherbydau trydan. Yn ogystal, mae defnyddio ynni yn y rhan fwyaf o’n hadeiladau’n cael ei fonitro nawr bob hanner awr drwy ein System Mesuryddion Awtomataidd. Mae hyn yn hynod werthfawr i’n helpu i weld lle gellir gwneud arbedion pellach.”


Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dangos llond sach o gefnogaeth Mae’r bartneriaeth rhwng siopau British Heart Foundation (BHF) a Phrifysgol Bangor, oedd yn annog myfyrwyr i roi eu heitemau diangen ar ddiwedd y tymor academaidd ddiwethaf, wedi profi i fod yn lwyddiant ysgubol.

fod yn cael ei gwastraffu fel arall. Drwy gydol y cynllun roedd myfyrwyr Prifysgol Bangor yn anhygoel o gefnogol ac yn gwneud defnydd llawn o’r banciau casglu.

Mae’r bartneriaeth lwyddiannus wedi gweld 1,452 o fagiau yn cael ei rhoi i’r biniau Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i siopau BHF casglu BHF oedd wedi ei lleoli o amgylch uno mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor campws Prifysgol Bangor a 645 o eitemau dodrefn mawr yn rhodd a allai fod wedi eu i annog myfyrwyr i glirio a rhoi dillad, codi hyd at £45,193 ar gyfer siopau BHF yn esgidiau, llyfrau, DVDs, bagiau a nwyddau trydanol bach nad ydynt eu hangen arnynt ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd yr arian a godir o’r bartneriaeth hon yn mynd ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, gan alluogi’r elusen i ailgylchu nwyddau a allai ymlaen i ariannu ymchwilwyr BHF sy’n


gweithio yn ddiflino tuag at y frwydr ar gyfer pob curiad calon. Dywedodd Gweithredwr Cyfrifon Prifysgol Amanda Purkiss Sefydliad Prydeinig y Galon: “Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda’r ymateb gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor ac mae eu cefnogaeth wedi bod yn aruthrol. Mae angen i bob siop BHF dderbyn 400 o fagiau o eitemau diangen yr wythnos, a diolch i roddion hael gan y myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor, rydym wedi gallu helpu ein siopau ym Mangor.” Gall myfyrwyr roi eto yn ystod y cyfnod symud allan haf yma Lle i roi: Pentref Ffriddoedd – Derbynfa Swyddfa Neuaddau, Ystafell Gyffredin Alaw a Braint. Bin rhodd parhaol tu allan i neuadd Borth, os yw yn llawn, cysylltwch â’r dderbynfa.

Pentref Santes Fair - Derbynfa Swyddfa Neuaddau, Ystafell Gyffredin Barlow’s. Holl roddion BWYD i fynd i’r bocsys GLAS ym mhob cyntedd neuadd. Beth i’w roi? Dillad nad oes eu hangen, esgidiau, gemwaith, llyfrau, bric-a-brac, CDs, DVDs, ac eitemau trydanol bach (dim duvet na clustogau os gwelwch yn dda). BWYD i’w roi yn y bocsys GLAS ‘Y Rhoi Mawr’ sydd ym mhob neuadd. Eitemau bwyd heb eu hagor yn unig. Sut i roi: Dillad ac arall – Rhowch eich eitemau diangen yn y bagiau gwyn BHF a ddarperir (neu holwch yn eich swyddfa neuaddau) a’u rhoi yn y blychau casglu COCH a banciau casglu ar draws y Campws Neuaddau. BWYD i’w roi yn y bocsys GLAS ‘Y Rhoi Mawr’ sydd ym mhob neuadd.


dros Prifysgol Bangor! Llongyfarchiadau hefyd i’r wyth enillwyr a’r enwebeion eraill, roedd yn ysbrydoliaeth clywed am yr holl waith da sy’n digwydd ym maes cynaliadwyedd ar hyd a lled Cymru. Dywedodd Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor:

Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Cynnal Cymru Mae Prifysgol Bangor wedi dod gyntaf yng Ngwobrau Cynnal Cymru yn y categori Sefydliad Addysg Bellach. Roedd y wobr yn cydnabod y sefydliad addysgol oedd yn dangos tystiolaeth gref o effaith neu arloesedd, ac wedi ei noddi gan Acuity Legal. Pleidleisiodd dros 11,000 o unigolion ar gyfer y naw categori, diolch yn fawr iawn i’r rhai bleidleisiodd

“Ychydig dros flwyddyn sydd ers i’r Lab Cynaliadwyedd gael ei sefydlu fel canolbwynt corfforaethol ar gyfer cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn datblygu’n ganolbwynt a chatalydd ar gyfer dod â chynaliadwyedd yn fyw ym mhob agwedd ar waith ymchwil, dysgu ac addysgu’r Brifysgol ac wrth ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n ddyddiau cymharol gynnar ar ein taith tuag at ddod yn Brifysgol Gynaliadwy felly roeddwn wrth fy modd i ddarganfod ein bod wedi ennill.”


Bangor yn y 4% uchaf o Brifysgolion Gwyrddaf y Byd Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynaliadwyedd wedi ennill safle uchel i’r brifysgol unwaith eto mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Lansiwyd UI Green Metric, tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd, gan Universitas Indonesia yn 2010 i dynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgolion ledled y byd. Bob blwyddyn mae nifer y prifysgolion sy’n cymryd rhan yn cynyddu; blwyddyn yma fe wnaeth 516 o brifysgolion o 74 o wledydd gymryd rhan, cynnydd o 407 o brifysgolion y llynedd. Yn y gynghrair bresennol mae Bangor wedi symud ddeuddeg safle yn uwch i safle 16, sy’n ein gosod yn y 4% uchaf o’r prifysgolion sy’n cymryd rhan.

Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol yn yr adran Ystadau a Chyfleusterau: “Rydym yn parhau i wneud cynnydd sylweddol, nid yn unig yn y DU, ond yn fyd-eang, fel y dangosir gan y newyddion diweddaraf yma. Mae ein hymrwymiadau amgylcheddol yn cael eu nodi’n glir yn ein System Rheoli Amgylcheddol sy’n cael ei ardystio at y ISO14001 a gydnabyddir yn rhyngwladol, a Safonau Amgylcheddol y Ddraig Werdd Cymru”. Ymatebodd Dr Einir Young, Pennaeth Datblygiad Cynaliadwy, Prifysgol Bangor i’r cyhoeddiad trwy ddweud:

“Mae gyrru gwelliannau amgylcheddol ac effeithlonrwydd adnoddau ar draws y sefydliad yn her heb ddiwedd. Rydym yn “Rwy’n falch iawn bod Bangor yn parhau cydnabod bod rheolaeth amgylcheddol i ddal gafael ar ei safle fel arweinydd gadarn yn hanfodol i’n nod o ddatblygu a cynaliadwyedd yn y sector addysg uwch yn chymhwyso ffyrdd arloesol o integreiddio rhyngwladol. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf ystyriaeth ar gyfer cynaliadwyedd a lles cenedlaethau’r dyfodol i bopeth a wnawn, hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus trwy ein gwaith ymchwil, ein haddysgu a’n i weithredu’n gadarnhaol i hyrwyddo cynaliadwyedd a gwella’r amgylchedd yn cadwyn gyflenwi ein hunain”. barhaus.” Meddai’r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes:


ac yn peri i ni gyd gydymdeimlo a mynnu fod pawb yn cael eu trin yn deg ac yn cael y cyfle i fyw eu bywyd hyd eithaf eu gallu.” Dr. Einir Young, Pennaeth Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor

Cofio gwaith a llwyddiannau Dr Rhydian Fôn James

Cronfa Rhydian Fôn James Derbyniodd Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru gefnogaeth anhygoel fel rhan o deyrngedau er cof am Rhydian sydd wedi eu galluogi i sefydlu Cronfa Rhydian Fôn James. Nod y gronfa yw cefnogi pobl ddall neu sy’n gweld yn rhannol yng Ngogledd Cymru i astudio ymhellach neu gael eu cyflogi drwy ariannu neu gyfrannu tuag at gost offer, hyfforddiant ac asesiadau arbenigol. Rydym yn falch iawn o fod dau o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi derbyn cefnogaeth drwy Gronfa Rhydian Fôn James eisoes.

Roedd Rhydian yn academydd talentog oedd yn arbenigo ar economeg gwyrdd, ac yn aelod gwerthfawr o dîm y Lab Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor. Yn fwy na dim, roedd Rhydian yn frwdfrydig dros gefnogi a helpu eraill, enwedig drwy ei waith ymgyrchu ar gyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Yn drist iawn, dirywiodd iechyd Rhydian yn 2015 a bu farw ar Ionawr y 12fed 2016. Ers hynny mae’r Lab Cynaliadwyedd wedi bod yn gweithio gyda theulu Rhydian er mwyn creu adran bwrpasol i’n gwefan i ddathlu bywyd a llwyddiannau Rhydian, a sicrhau gall bawb gael mynediad at gyhoeddiadau Rhydian. “Gŵr ifanc athrylithgar, academydd craff oedd Rhydian, gyda meddwl miniog a phersonoliaeth hoffus sydd wedi gadael bwlch anferth ar ei ôl. Ein gobaith fel tîm yw y bydd y wefan hon er cof am Rhydian yn tyfu’n lleoliad digidol ar gyfer hyrwyddo gwell dealltwriaeth o anghenion pobl sy’n byw gydag anableddau gweledig a chudd

Mae rhagor o wybodaeth am y Gronfa Grant, gan gynnwys meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i dderbyn cymorth a ffurflen gais ar wefan Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru neu gallwch ffonio 01248 353604.


sy’n helpu i gadw’r gerddi, ac yn cynnal sesiynau garddio rheolaidd bob dydd Mercher a dydd Gwener ac maent yn cynnal diwrnod o arddio misol ar Ddydd Sul hefyd. Wrth ofyn i wirfoddolwyr pam eu bod yn hoffi garddio, mae’n wych clywed “mae’n gwneud i mi deimlo’n dda”.

Llesiant yng Ngardd Fotaneg Treborth Mae Gardd Fotaneg Treborth, wedi’i leoli ar lannau Afon Menai yn eiddo i Brifysgol Bangor ac mae’n bodoli i hyrwyddo cadwraeth, defnydd cynaliadwy a mwynhad o blanhigion a’r byd naturiol drwy addysg, ymchwil, hyfforddiant ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae’r ardd yn cynnwys coetir brodorol hynafol, glaswelltir heb ei gwella llawn rhywogaethau, perllannau ffrwythau a llawer o goed a llwyni aeddfed. Mae yna chwe tŷ gwydr o dymheredd amrywiol, gyda chasgliadau arbennig, gan gynnwys tegeirianau, cacti, suddlon, a phlanhigion cigysol. Beth mae Treborth yn ei wneud am lesiant? Mae na lawer o ymchwil bellach sy’n dangos fod bod tu allan mewn mannau gwyrdd yn cael effaith gadarnhaol ar wella iechyd a lles meddwl. O’r tai gwydr, allan i lan y coetir, mae gan Treborth amrywiaeth mawr o fannau gwyrdd a all gynnig profiadau cadarnhaol i helpu gyda lles iechyd meddwl a chorfforol. Mae Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth a’r Myfyrwyr sy’n rhan o Grŵp Gweithredu Treborth (STAG) yn grwpiau gwirfoddol

Mae llawer o bobl o bob oed yn dod i’r ardd i fynd tu allan i’r awyr iach a gwneud rhywfaint o ymarfer corff, mae’n llawer rhatach ac yn fwy diddorol na’r mynd i’r gampfa yn ôl rhai! Mae pawb yn ymuno ar eu cyflymder eu hunain ac mae gwir ymdeimlad o gyflawniad personol a grŵp, yn enwedig pan fydd pobl yn cymryd rhan mewn prosiect. Mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd os ydych am, rannu diddordebau cyffredin gyda phobl eraill, a dysgu sgiliau newydd i chi eich hun hefyd.

Mae garddio yn ffordd wych o leihau straen; gall helpu pobl drwy gyfnod penodol o anhawster yn eu bywydau, gan helpu fynd yn ôl ar ben pethau ac adfer cydbwysedd pan fydd bywyd yn teimlo allan o reolaeth. Mae cloddio, tocio, cribinio a chwynnu yn darparu allfa ffisegol ar gyfer y tensiwn rydym storio yn ein cyrff a’n meddyliau. Eisiau gwybod mwy? Dewch draw, i edrych o gwmpas a chael sgwrs am wirfoddoli yng Ngardd Fotaneg Treborth


S-Lab yn Hyfforddi Myfyrwyr a Thîm Rheoli Prifysgol Makerere ar Gynaliadwyedd

Mae’r Brifysgol hefyd yn paratoi i weithredu prosiect a arweinir gan fyfyriwr i ddidoli gwastraff ailgylchu mewn neuaddau preswyl myfyrwyr, bydd yn brawf i weld sut y gall ailgylchu gael ei gyflwyno i’r brifysgol. Mae’r prosiect yn bwriadu cael ei gefnogi gydag ymchwil a wneir gan fyfyrwyr seicoleg yn Makerere a chydweithio â’r myfyrwyr seicoleg a staff ym Mangor. Yn yr hyfforddiant gan Dr Young rhennir gwybodaeth am y camau y mae Prifysgol Bangor wedi cymryd i helpu myfyrwyr i ailgylchu yn well yn eu neuaddau preswyl ac ar y campws.

Fel rhan o bartneriaeth barhaus rhwng Y Lab Cynaliadwyedd â Phrifysgol Makerere (PM) sydd a’r nod o weithio gyda’i gilydd i hyrwyddo Datblygu Cynaliadwy yn PM a’i chymuned drwy ddysgu ar y cyd, cynhaliodd Dr Einir Young Fel rhan hyfforddiant Dr Young i fyfyrwyr, sesiynau hyfforddi cynaliadwyedd i fyfyrwyr cafodd cwmni ailgylchu plastig lleol ei wahodd a thîm rheoli’r Brifysgol yn Uganda ym mis i ddangos i fyfyrwyr pwysigrwydd ailgylchu Ionawr. plastig a beth sy’n digwydd i’r plastig pan fydd yn cael ei gasglu a’i ailgylchu. Dywedwyd wrth Trwy’r cydweithio hwn, mae Prifysgol y myfyrwyr hefyd am y cyfleoedd ariannol Makerere yn cychwyn ar daith i gofleidio cynaliadwyedd yn ei holl weithrediadau a gwella ei berfformiad cynaliadwyedd cyffredinol. Roedd yr hyfforddiant a gynigwyd gan Dr Young yn hwb i’r cyfeiriad cywir drwy rannu gwybodaeth am Gynaliadwyedd a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â gwersi i’w rhannu ynghylch sut y mae Prifysgol Bangor wedi cychwyn ar daith debyg. Mynychodd dros 100 o fyfyrwyr a llawer o aelodau o’r tîm rheoli y sesiynau hyfforddi. Fe gaethon nhw gyflwyniad i’r cysyniad newydd o gynaliadwyedd a lles cenedlaethau’r dyfodol, ac wedi ennyn diddordeb ymysg myfyrwyr a’r tîm rheoli. Fe arweiniodd at berswadio rhaglen gynaliadwyedd y Brifysgol i archwilio’r cysyniad fel offeryn arweiniol wrth gynllunio a gweithredu prosiectau cynaliadwyedd yn Makerere. Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn sail i gynllunio a gweithredu prosiectau cynaliadwyedd i’r Brifysgol, mae hefyd wedi ysbrydoli nifer o brosiectau a arweinir gan fyfyrwyr fel gwella rheoli gwastraff ac ailgylchu yn y Brifysgol, prosiectau gwyrddio, a phrosiectau effeithlonrwydd ynni ymhlith eraill.

sydd ar gael i’r brifysgol os fydd plastig yn cael eu ddidoli a’u rhoi i’r cwmni yn effeithiol. Gwnaeth myfyriwr sydd eisoes wedi elwa o gyflenwi plastig gwastraff i’r cwmni hwn rannu ei stori a sut wnaeth y farchnad yma helpu iddo ennill ffioedd ysgol iddo ef a’i frodyr a’i chwiorydd. Mae’r cydweithio hwn wedi gwneud camau sylweddol o ran cefnogi Prifysgol Makerere i wneud cynnydd ar ei agenda cynaliadwyedd, ac mae wedi ysbrydoli llawer o ddysgu gan y ddwy brifysgol sydd o fudd i fyfyrwyr a staff ym Mangor a Makerere.


Llwyddiant plannu coed ffrwythau Cymreig i Fangor Fe wnaeth tîm hynod frwdfrydig ac ymroddedig o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wirfoddoli i blannu dwsinau o goed ffrwythau Cymreig amrywiol ar draws ag o gwmpas y campws. Gyda chefnogaeth gan Y Lab Cynaliadwyedd, y ‘Woodland Trust’, Undeb Bangor ac arian grant gan UCM, a digon o de a chacen, gwnaeth y tîm o fyfyrwyr gartrefi newydd ar gyfer 40 o goed ifanc cadarn ar dir Pentref Neuaddau Ffriddoedd. Dywedodd Gabe Hibberd, cadeirydd Grŵp Gweithredu Cynaliadwyedd Myfyrwyr Bangor a drefnodd y plannu: “Mae hyn wir yn agor y drws i feddwl yn gynaliadwy. Bydd y coed ym Mangor yn cymryd 10 mlynedd i dyfu cyn i bawb weld y budd, ond plannu ar gyfer y dyfodol yw’r ffordd o greu campws bwyd-diogel, hardd a mwy gwydn. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gallwn i gyd gytuno arno a helpu ein gilydd i gyflawni.” Roedd y diwrnod plannu yn rhan o brosiect ‘Gwyrddio Bangor’ y myfyrwyr sydd hefyd wedi bod yn casglu storïau ac atgofion gan fyfyrwyr sy’n dangos sut mae coed wedi siapio ein cymdeithas, tirwedd ac yn byw i gyfrannu at Siarter y DU ar gyfer Coed,

Coedwigoedd a Phobl. Ar ôl llwyddiant y plannu coed ffrwythau Cymreig ym Mangor, mae ein chwaer Brifysgol yn Uganda, Prifysgol Makerere, yn cynllunio i baru efo Bangor coeden am goeden. Gyda chefnogaeth gan Hub Cymru Africa, mae’r gwaith hwn yn rhan o’r bartneriaeth gyffrous sydd yn tyfu rhwng Y Lab Cynaliadwyedd Bangor, Grŵp Gweithredu Cynaliadwyedd Myfyrwyr, Undeb Bangor a Rhaglen Cynaliadwyedd Makerere i feithrin meddwl cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ar draws y byd, ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy rannu profiadau.


Myfyrwyr Rhyngwladol yn bod yn wyrdd Fe ddaeth 45 o fyfyrwyr rhyngwladol Prifysgol Bangor at ei gilydd ym mis Mawrth i wirfoddoli ar Sesiwn Glanhau Traeth a drefnwyd gan y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

Yn ogystal â gwirfoddoli ar gyfer planed glanach, cafodd y myfyrwyr rhyngwladol gyfle i gydweithio â sefydliad lleol a gweithio i helpu’r gymuned leol i gael amgylchedd glanach. Diolch i Dawn Thomas, o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, dysgodd y myfyrwyr llawer am fioleg y môr, a phwysigrwydd diogelu’r amgylchedd; cafwyd hefyd rai awgrymiadau ar sut i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt gan addasu rhai o’n harferion bywyd bob dydd ac ymddygiad. Roedd yn ddiwrnod wirioneddol WYCH!

Gwnaeth myfyrwyr o bob cwr o’r byd deithio i Draeth Niwbwrch a chasglu pob math o sbwriel ar y traeth a thwyni tywod, o esgidiau i fagiau plastig a blagur glust cotwm. Fe wnaethant gyrraedd 200m o’r arfordir, o’r twyni dde i lawr at y môr, a chyfrannu at Arolwg Sbwriel (MCS) Gwylio Traethau y Gymdeithas Cadwraeth Forol MEDDWL RHYNGWLADOL, GWEITHREDU LLEOL (MCS) drwy fewngofnodi’r holl eitemau cafodd ei darganfod. Gyda’r holl ddata a gasglwyd, bydd MCS yn creu adroddiad blynyddol ar sbwriel, gyda data o draethau o amgylch y byd a fydd yn helpu i weithredu polisïau amgylcheddol yn y dyfodol.


Clwb Hwylio Prifysgol Bangor yn cipio’r wobr 1af yn Her Hwylio Gynaliadwy Prifysgolion Fe wnaeth Clwb Hwylio Prifysgol Bangor gipio’r wobr gyntaf yn y fenter amgylcheddol ar y cyd rhwng RYA a’r British Marine ’s ‘The Green Blue’ ar gyfer yr Her Hwylio Gynaliadwy i Brifysgolion 2016-17. Mae materion amgylcheddol yn bwnc llosg mewn neuaddau darlithio ac ystafelloedd cyffredin ar draws y DU ac mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn fwy na cyfarwydd â heriau cynaliadwyedd sy’n achosi’r pryderon mwyaf. Mae’r Her Hwylio Gynaliadwy i Brifysgolion 2016-2017 wedi’i sefydlu gan The Blue Green a’i gefnogi gan Gymdeithas Hwylio Prifysgolion Prydain (BUSA), ac yn lwyfan delfrydol ar gyfer morwyr prifysgol i ddangos sut gall morio cynaliadwy cyraeddadwy fod ar gyfer gweddill y gymuned forio. Ar ôl chwe mis o gystadlu brwd, derbyniodd y myfyrwyr llwyddiannus o Glwb Hwylio Prifysgol Bangor eu gwobr ar y prif lwyfan yn y Sioe Dingi gan RYA Suzuki ym Mhalas Alexandra yn Llundain. Ar ôl cipio’r wobr gyntaf, derbyniodd y Clwb Hwylio prif wobr y gystadleuaeth o £500 ynghyd â’u tystysgrif llongyfarchiadau. Cipiodd Clwb Hwylio Prifysgol Caeredin (EUSC) yr 2il wobr, ac yn 3ydd daeth Clwb Hwylio a Chychod Pŵer Prifysgol Plymouth. Cafodd cynrychiolwyr o’r holl glybiau hwylio y dair Prifysgol eu gwahodd i’r prif lwyfan yn y Sioe Dingi gan RYA Suzuki i gael y gwobrau wedi eu cyflwyno gan yr enillydd medal Olympaidd Mark Covell.

Fe wnaeth Swyddog Estyn Allan Amgylcheddol The Blue Green, Kate Fortnam, longyfarch yr holl brifysgolion am eu hymdrechion a’u gwaith gyda’r tystysgrifau a gwobrau. Dywedodd: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o Glybiau Hwylio Prifysgol sy’n ymroddedig i wneud eu chwaraeon mor gynaliadwy yn amgylcheddol ag y bo modd. Mae ein prifysgolion buddugol wedi dangos yn glir eu hymroddiad a’u hymrwymiad i gadw eu hamgylchedd hwylio yn lân, diogel a hardd ar gyfer eu hunain a chenedlaethau o forwyr y dyfodol.” I gydnabod llwyddiannau’r clybiau buddugol, cyflwynwyd tystysgrifau i’w Swyddogion Cynaliadwyedd oedd a’r swyddogaeth o drefnu, annog ac arwain eu clwb drwy’r her i gwblhau nifer o gamau gweithredu morio cynaliadwy yn llwyddiannus. Ar bob lefel cyrhaeddiad, roedd rhaid i nifer o gamau gweithredu cynaliadwy gael eu cyflawni gyda thystiolaeth gan y clybiau hwylio

oedd yn cystadlu. Roedd rhain yn cynnwys perfformio archwiliad amgylcheddol eu lleoliad hwylio i nodi a gwella meysydd y gellir eu gwneud yn fwy cynaliadwy, sicrhau bod eu holl aelodau’n defnyddio poteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na photeli plastig un defnydd, gosod pecyn gorlif olew / tanwydd yn eu lleoliad hwylio i lanhau colledion damweiniol wrth ail-lenwi, a dangos arfer da o ‘gwirio, glân a sych’ i leihau lledaeniad rhywogaethau estron o amgylch dyfroedd y DU.


Gair gan y Cyfarwyddwr Mae hi’n bleser aruthrol i mi gael cyfrannu at Newyddlen Gwanwyn 2017 sy’n crynhoi llwyddiannau ‘cynaliadwy’ staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor. Ers mis Mai 2016 rydym fel prifysgol wedi mabwysiadu fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer esbonio beth yw cynaliadwyedd ac fel ffordd o reoli ein gweithgareddau a gwneud penderfyniadau. Fel Lab Cynaliadwyedd rydym yn ceisio gwneud yn ogystal â dweud. Yn o’r gwersi pwysig eleni yw sylwi pa mor aml mae’n rhaid ail-adrodd neges er mwyn iddi dreiddio i’r is-ymbwybod. Yn ôl ein cyfeillion yn yr Ysgol Seicoleg efallai bod rhaid atgyfnerthu neges rhyw bymtheg gwaith cyn iddi dreiddio drwy’r is-ymwybod i fod yn rhan o ‘sut ‘da ni’n gwneud pethau yma’. Felly dyma ail-adrodd crynodeb fframwaith

llesiant cenedlaethau’r dyfodol. UN egwyddor datblygu Cynaliadwy PEDWAR piler PUMP ffordd o weithio (y 5 ‘FFOW!) SAITH nôd llesiant Rydym yn byw mewn byd sy’n profi cyfnod gwleidyddol cythryblus yn ddiweddar – pwy fyddai wedi rhagweld canlyniad pleidlais ‘Brexit’, etholiad arlywyddol yr UDA, refferendwm Twrci ag ati. Wrth edrych at yr Etholiadau Lleol yng Nghymru a’r Etholiad Cyffredinol Brys yng Nghymru a gweddill y DU gallwn ddefnyddio fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i benderfynu os ydi cynlluniau gwleidyddol y pleidiau yn byw fyny i’r safonau yma: A oes gan y Pleidiau/ymgeiswyr weledigaeth glir a chredadwy ar gyfer yr UN egwyddor – sef sicrhau ein anghenion ni nawr heb beryglu


ein gallu ni (a chenedlaethau sy’n dilyn) i ddiwallu’n hanghenion yn y dyfodol? Ydi’r Pleidiau/ymgeiswyr yn rhoi sylw cyfartal i’r PEDWAR PILER – yr economi, yr amgylchedd, y gymdeithas, ein diwylliant? Neu ydyn nhw’n rhoi’r wyau i gyd yn y fasged economaidd ar draul y lleill?

Cymru/DU fwy cyfartal Cymru/DU o gymunedau cyd-lynus Cymru/DU gyda diwylliant bywiog a lle mae’r Gymraeg yn ffynnu (does dim un rheswm pam na all gweddill y DU wybod fwy am fodolaeth iaith a diwylliant Cymru a pham na allwn ni gyd ddathlu ieithoedd a diwylliannau eraill hefyd) Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang Gallwn herio pob agwedd o’n bywydau gyda’r egwyddorion yma – yn y cartref, yn y Brifysgol yn y gweithle ac yn y gymuned. Beth amdani? Beth am dderbyn yr her i roi sinigiaeth o’r neilltu a dal ein hunain â’n gwleidyddion i gyfri er mwyn gwneud gwahaniaeth?

Oes gan y Pleidiau dystiolaeth eu bod yn bwriadu mabwysiadu’r pump ‘FFOW’?

Byddwn yn dathlu pen-blwydd y Lab Cynaliadwyedd yn ddwyflwydd oed ym

Ydyn nhw’n rhoi’r cyd-destun hir-dymor? Ydyn nhw’n gallu dangos yn glir sut mae eu cynlluniau am rwystro pethau rhag mynd yn waeth a chynnig ffordd i wella pethau? Ydyn nhw’n integreiddio’u gweledigaeth gyda’r nodau llesiant neu ydyn nhw’n tueddu cadw’r pynciau o bwys ar wahân neu mewn ‘silos’? Oes na dystiolaeth eu bod yn gallu cyd-weithio a chynnwys? A beth am y nodau llesiant? Oes ganddyn nhw unrhyw syniad sut y byddant yn sicrhau: Cymru/DU lewyrchus Cymru/DU gydnerth Cymru/DU iachach

Mis Mehefin. Diolch o galon i bawb am eich hymrwymiad a’ch brwdfrydedd wrth gydweithio gyda ni ac edrychaf ymlaen yn fawr at y flwyddyn gyffrous nesaf.

Newyddlen gwanwyn 2017  
Newyddlen gwanwyn 2017  
Advertisement