Page 1

GREDWCH CHI HYN! Llyfr 2

Vi

ew

in

g

Sa m

Y MSea ÔR The

pl e

Darllen a deall ar dair lefel gan ddefnyddio storiau ffeithiol a ffuglen

Ysgrifennwyd gan Bruce Tuffin a Diane Henderson Cyfieithwyd ac Addaswyd gan John Wyn Pritchard M. Phil

Cyhoeddiadau Prim-Ed


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

CYFLWYNIAD Y mae cyfres Blackline wedi ei chynllunio i gyflwyno y lefelau derbyniol o ddarllen a deall i ddisgyblion gan ddefnyddio ffurf ddeniadol, o storiau ffeithiol a rhai o faes ffuglen. Ysgrifennwyd y pecyn thema 'Y Môr' yn arbennig ar gyfer y lefel gynradd canol ac er ei fod yn thematig mae'n ddigon eang i ganiatau ei integreiddio i raglen iaith-gyflawn.

pl e

Nid fel addurn yn unig y defnyddir y darluniau er fod yr apel weledol yn ffactor bwysig. Cynhwyswyd y lluniau i gynorthwyo'r disgyblion i ddeall y gwaith ysgrifenedig. Er mwyn cynorthwyo'r athrawon ac aros yn anymwthiol i'r disgybliuon mae'r ymarferion wedi eu codio gan ddefnyddio'r codau canlynol. = = =

Llythrennol Dehongliadol Gwerthusol

Sa m

A B C

(Tra mae rhai meysydd llafur yn hybu pedwar lefel o ddealltwriaeth, cred yr awdur y gellid cynnwys y ddau gategori olaf dan y sustem hon o dan y pennawd 'Gwerthusol').

g

CYNNWYS

in

CYCHOD ....................................................................................1 STORI HWYLIOG .....................................................................3

ˆ .................................................................5 PERYGL YN Y DWR YR EWYTHR GORAU YN Y BYD ..........................................7

ew

PYSGOTA - O BLAID AC YN ERBYN...................................9 DIWRNOD DA O BYSGOTA ................................................11

Vi

ˆ MOR ˆ ..................................................................................13 SAL Y MORGI! .................................................................................15

Cyhoeddiadau Prim-Ed

BETH FYDD EIN DYFODOL? ..............................................17 MYNEDD PIA' HI! ..................................................................19

ˆ CHWARAEON YN Y DWR...................................................21 CINIO ARBENNIG HEDDIW! ..............................................23 ATEBION ..................................................................................25

26


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

CYCHOD Wnawn ni byth ddarganfod beth oedd y ‘cwch’ cyntaf na phwy â’i dyfeisiodd. Mae’n debyg mai bonyn coeden y gafaelodd rhywun ynddo tra’n nofio ar draws afon oedd. O’r cychwyn hwn dechreuodd pobl glymu coed at ei gilydd i wneud rafftiau. Efallai mai coeden wedi ei hollti gan fellten oedd y ffordd y bu i bobl ddarganfod sut i eistedd mewn cwch yn lle gorfod gafael ynddo.

pl e

Dim ond teithio gyda llanw’r môr neu lif yr afon fyddai’r cychod cynnar yma. Yn fuan roedd pobl am ddyfeisio cychod a fyddai yn gallu hwylio i unrhyw gyfeiriad. Ar y dechrau, mae’n ˆ bâs. O’r syniad yma y datblygwyd debyg iddynt ddefnyddio polion coed i wthio’r cwch mewn dwr rhwyfau.

Sa m

ˆ dwfn dyfeisiwyd cychod gyda hwyliau. Y tebyg yw i nifer o bobl Ar gyfer teithio mewn dwr ddyfeisio hwyliau ar yr un pryd. Erbyn hyn roedd y cwch wedi datblygu siâp tebyg i’r un â welwn ni heddiw, gyda blaen main a llyw ar y cefn. Ychwanegwyd gwahanol bethau i gadw ˆ dwfn hefyd. cydbwysedd y cwch mewn dwr

ew

in

g

Am gannoedd o flynyddoedd adeiladwyd cychod allan o bren. Roedd crefftwyr medrus yn treulio llawer o amser yn adeiladu llongau a fyddai’n teithio'r byd. Cymerai flynyddoedd o waith costus i adeiladu’r llongau coed yma. Yn ddiweddarach daeth dur yn ddeunydd mwy poblogaidd i adeiladu llongau. Mae yna nifer o resymau dros hyn. Mae dur yn haws i’w ddefnyddio, yn gyflymach i weithio ag o ac yn gryfach (gellid adeiladu llongau mwy) a medrai dynion wneud nifer o wahanol siapiau gyda’r dur. Gwendid mwyaf llongau dur yw eu bod yn rhydu. Gall gofal cyson rwystro hyn.

Vi

Heddiw mae pobl yn prynu cychod a llongau ar gyfer cael hwyl a hamddena. Aliminiwm neu gwydr ffibr yw’r defnyddiau mwyaf poblogaidd ar gyfer gwneud cychod fel hyn. Gall y cwch ˆ cwch rhwyfo, llong hamdden fod yn ganw, hwylio miliwnydd, neu gwch pysgota bach. Mae cychod fel hyn yn symud un ai gyda rhwyfau, gyda pheiriant (injan) neu drwy hwylio yn y gwynt. Mae rhai cychod fel hwyl fwrdd yn syml iawn un person, hwyl a darn o wydr ffibr ar y môr. Ar y llaw arall mae rhai o’r cychod arbrofol sydd ˆ ac yn cael eu rheoli gan gyfrifiaduron yn gymhleth dros ben. Mae’n yn hedfan uwchben y dwr rhyfedd meddwl fod y datblygiadau hyn i gyd wedi deillio o berson yn eistedd ar ddarn o goed ac yn arnofio ar afon neu fôr. Cyhoeddiadau Prim-Ed

1


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 1 Cychod Lefel A 1. Beth yw gwendid mwyaf y llongau dur? ˆ dwfn? 2. Beth oedd ei angen ar gyfer teithio mewn dwr

4.

a

pl e

3. Cyn darganfod dur o beth yr adeiladwyd llongau? ydi’r defnyddiau mwyaf

poblogaidd ar gyfer adeiladu llongau hamdden. Lefel B

Sa m

1. Rhowch y geiriau canlynol i ddisgrifio sut yr oedd cychod yn symud mewn trefn: hwyliau, polion, llanw a llif, peiriant, rhwyfau.

2. Yn y paragraff cyntaf esboniwch pam y mae’r gair ‘cwch’ mewn dyfnodau?

in

g

3. Esboniwch pam y mae hwyliau mor bwysig.

ew

4. Esboniwch pam y mae gan gychod flaen main.

Lefel C

Vi

1. Pam nad ydym yn gwybod pwy ddyfeisiodd y cwch cyntaf?

2. Fedrwch chi feddwl am un fantais o adeiladu cychod gyda phren?

3. Rhestrwch dair mantais a thair anfantais o ddefnyddio peiriannau i redeg cychod.

4. Mewn dau baragraff rhowch ddisgrifiad o gwch yn y flwyddyn 2100. (Disgrifiwch ei olwg, i beth y bydd yn cael ei ddefnyddio, o beth yr adeiladir ef, pa mor gyflym fydd a beth fydd yn ei redeg.) Cyhoeddiadau Prim-Ed

2


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

STORI HWYLIOG! ˆ

Cododd Catrin ei llaw yn sydyn pan ofynnodd yr athro os oedd gan unrhyw un newyddion neu stori dda. ‘Fi’! meddai’n gynhyrfus.

pl e

‘Iawn Catrin’ meddai’r athro ‘gan dy fod di mor awyddus, gei di fynd gyntaf’. Safodd Catrin o flaen y dosbarth.

Sa m

‘Bore da bawb’, meddai’n uchel. ‘Dros y penwythnos mi es i i bysgota efo’n nhaid/nhadcu yn ei gwch. Tra roedd y ddau ohonom yn pysgota dywedodd taid/tadcu ein bod wedi angori yn yr union le y collodd ei fodrwy briodas dros ugain mlynedd yn ôl. Roedd y fodrwy wedi syrthio oddi ar ei fys ac i’r môr. Roedd nain/mamgu yn flin iawn gyda taid/tadcu oherwydd anrheg ganddi hi oedd y fodrwy briodas.’ ‘O’r andros’, meddai’r athro ‘mae’n siwr fod dy nain wedi gwylltio am hynny!’

in

g

‘Oedd’ meddai Catrin. ‘Tua deng munud ar ôl iddo orffen y stori dechreuodd taid/tadcu dagu. ˆ Tagodd mor galed nes saethodd ei ddannedd gosod o’i geg ac i mewn i’r môr. Suddodd y dannedd cyn i taid fedru eu dal. Am funud roeddwn i’n meddwl fod taid/tadcu am neidio i’r dwr ar ôl y dannedd. Neu y byddai’n fy nhaflu i mewn i’w nhôl! Ar ôl colli’r dannedd gosod roeddwn i’n meddwl y byddai taid am fynd adref. Ond gan ein bod allan ar y môr penderfynodd aros yno i bysgota.

ew

‘I wneud pethau’n waeth fi ddaliodd yr unig bysgodyn trwy gydol y dydd! Roedd taid/tadcu yn flin iawn ac ar ôl cyrraedd adref a dweud y stori wrth nain/mamgu roedd hithau’n flin hefyd. ‘Mi es i gyda taid/tadcu i lanhau fy mhysgodyn. Fedrwch chi ddyfalu be’ oedd tu mewn iddo?’

Vi

‘Am funud bach Catrin’, meddai’r athro. ‘Paid a dweud eich bod chi wedi dod o hyd i ddannedd gosod taid/tadcu ym mol y pysgodyn, dwi ddim yn meddwl y gallwn gredu hynny!’ ‘O na, meddai Catrin dan wenu. ‘Fyddai neb yn credu stori fel yna. Wrth i taid/tadcu lanhau y pysgodyn dyma fo’n dod o hyd i’w fodrwy briodas, yr union fodrwy a gollodd yn y môr ugain mlynedd yn ôl.’

Cyhoeddiadau Prim-Ed

3


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 2 Stori Hwyliog Lefel A 1. Pryd aeth Catrin â’i thaid/thadcu i bysgota?

pl e

2. Pam oedd nain/mamgu Catrin mor flin ugain mlynedd yn ôl?

3. Beth ddarganfu Catrin a’i thaid/thadcu wrth lanhau’r pysgodyn?

Sa m

Lefel B

1. Rhowch ddau reswm pam fod taid/thadcu Catrin yn flin ar ôl bod yn pysgota?

g

2. Pam y byddai llais taid/thadcu yn ddigri wrth iddo siarad?

in

3. Ydych chi’n meddwl fod stori Catrin yn un wir? Esboniwch eich ateb.

ew

4. Pam y mae awduron yn rhoi teitlau i’w storiau?

Lefel C

Vi

1. Beth yw stori ffug?

2. Ydych chi’n meddwl fod hon yn stori ffug dda? Pam?

3. Pam ydych chi’n meddwl i athro Catrin dorri ar ei thraws?

4. Ysgrifennwch stori ffug eich hun.

Cyhoeddiadau Prim-Ed

4


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

ˆ Perygl yn y dwr! Mae yna nifer o blanhigion ac anifeiliaid gwenwynig yn y môr. Efallai eu bod yn chwistrellu’r gwenwyn neu bod eu cig yn wenwynig.

Sa m

pl e

Slefren fôr Y slefren fôr mwyaf gwenwynig ydi’r sea wasp. Gall y slefren welw hon gyda’i theimlyddion (tentaclau) hir ladd dynion. Rydym yn lwcus iawn yma yng Nghymru gan mai dim ond oddi ar arfordir ogleddol a gogleddddwyreiniol Awstralia y mae’r slefren fôr yma’n byw. Fel arfer nid yw pigiad gan slefren fôr yn beryglus iawn. Rhaid i chi ˆ os cewch eich pigo. Peidiwch a defnyddio eich dwylo i rwbio’r adael y dwr bigiad. Defnyddiwch dywod, lliain neu hyd yn oed ffon. Gallwch wedyn ddefnyddio eli i leddfu’r boen. Os ydi’r pigiad yn ddrwg iawn ewch i weld meddyg ar unwaith. Nadroedd y môr

in

g

Mae’r siawns o gael eich brathu gan neidr fôr yn isel iawn. Fel arfer byddai’n well gan y neidr ddianc yn hytrach nag aros i frathu rywun. Yr unig amser y mae pobl yn cael eu brathu ydi wrth iddynt eu sathru neu gornelu’r neidr. Dannedd bach gwenwynig sydd gan nadroedd y môr fel arfer. Ond mae eu gwenwyn yr un mor beryglus â’r nadroedd hynny sydd yn byw ar y tir. Y peth gorau i’w wneud os y cewch eich brathu gan neidr fôr ydi lapio rhwymyn amdano (coes neu fraich fel arfer). Mae’n bwysig ceisio cadw’r person yn dawel a nôl meddyg ar frys!

Vi

ew

Stonefish ˆ a adewir Creadur bach hyll sydd yn byw yn y pyllau dwr gan y llanw ar yml traethau ydi’r stonefish. Mae’n perthyn i deulu’r scorpionfish. Mae ei guddliw yn ei wneud yn anodd iawn i’w weld. Os oes rhywun yn ei godi neu’n sathru arno mae’n gallu chwistrellu gwenwyn drwy 18 pigyn bach. Gall y boen o gael eich pigo gan y stonefish fod yn ddigon i’ch taro’n anymwybodol. Yn aml iawn mae ei bigiad yn ddigon i ladd! Mae yna wrthwenwyn arbennig i drin pigiad gan y stonefish. Mae angen sylw meddygol cyflym ar unrhyw un sydd yn cael ei bigo gan stonefish. Y Stingray ˆ yn Mae’r stingray i’w gael ymhob un môr lle nad yw’r dwr rhy oer. Maent fel arfer wedi claddu eu hunain yn y tywod ar waelod y môr. Yn ei gynffon mae pigiad y stingray. Gall chwipio’i gynffon yn gyflym iawn er mwyn rhoi pigiad. Er mai anaml y mae’r pigiad yn lladd mae’n achosi llawer o boen i’r person anffodus!

Cyhoeddiadau Prim-Ed

5


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 3 ˆ Perygl yn y dwr! Lefel A 1. Ydi slefrod môr, nadroedd môr a’r stingray yn wenwynig i’w bwyta, neu a ydynt yn chwistrellu eu gwenwyn?

3. Pam y mae’r stonefish mor anodd i’w gweld?

Sa m

4. I ba deulu o bysgod y mae’r stonefish yn perthyn?

pl e

2. Pam na ddylech rwbio pigiad gyda’ch dwylo?

Lefel B 1. Ydi’r sea wasp, nadroedd y môr, y stonefish a’r stingray i gyd yn byw yn Awstralia? 2. Beth ydi gwrthwenwyn?

g

3. Fedrwch chi feddwl am ddau le yn y byd lle na fyddai’r stingray yn byw?

in

4. Pam y byddai’n rhaid i bysgotwr fod yn ofalus wrth ddal stingray?

ew

Lefel C 1. Pam ydych chi’n meddwl mai yn Awstralia y datblygwyd y gwrthwenwyn ar gyfer pigiad y stonefish?

Vi

2. Sut fedrwch chi amddiffyn eich hun rhag bigiadau pan yr ydych yn cerdded ˆ ar lan y môr? mewn pyllau dwr

3. Dim ond yn ystod y tymor ‘sych’ mae’n ddiogel i nofio yn y rhan fwyaf o Ogledd Awstralia (o fis Mai hyd mis Hydref). Beth ydych chi’n feddwl ydi’r rheswm dros hyn?

4. Mae eich ffrind wedi cael ei frathu/brathu gan neidr fôr. Disgrifiwch beth fyddech chi’n ei wneud.

Cyhoeddiadau Prim-Ed

6


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

YR EWYTHR GORAU YN Y BYD ‘Dwi’n edrych ymlaen at y gwyliau yma wrth lan y môr’, meddai ewythr Dylan. Brawd mam, sydd heb briodi ydi o. Daw i aros atom yn aml. ‘Finna’ hefyd’, meddai dad ‘Tipyn o nofio, llawer o ymlacio, tipyn o bysgota a....’

pl e

‘Ia tipyn o bysgota’, meddai ewythr Dylan ar ei draws. ‘Ddeudais i y stori amdana i’n dal morgi 800 Kilogram efo fy nannedd? ‘Naddo’, ochneidiodd dad gan gau ei lygaid yn dynn. ‘Ond dwi’n siwr y gwnei di’ Roedd ewythr Dylan yn enwog am ei storiau .

Sa m

‘Fel hyn y cychwynnodd pethau’, meddai ewythr Dylan gan wthio ei blat o’r neilltu a dechrau’n eiddgar ar ei stori. 'Roeddwn i allan ar y môr yn fy nghwch bach pan nofiodd y morgi anferth ma’ heibio. Roedd pobl yn nofio heb fod ymhell i ffwrdd felly cydiais yn yr angor, rhoi un o’r pysgod o’n i wedi ei ddal ar flaen ˆ Clymais gadwyn yr angor yr angor a’i daflu i’r dwr. am fy nghanol ac aros.'

in

g

‘Yna, yn sydyn, dyma’r morgi yn brathu’r abwyd. Wedi i’r morgi ddal gafael yn yr angor dechreuodd nofio’i ffwrdd yn gyflym gan dynnu fy nghwch bach i ar ei ôl. Llusgodd fi ar draws y môr am ddau ddiwrnod a dwy noson. Cododd storm ond gan fy mod mor gryf llwyddais i gadw fy nghydbwysedd.'

ew

'O’r diwedd ciliodd y storm a dechreuodd y morgi flino. Dechreuais innau ei dynnu ataf gyda’r angor. Pan oedd y morgi o fewn hyd braich i mi dyma gadwyn yr angor yn torri a dechreuodd nofio i ffwrdd. Doeddwn i ddim am adael iddo ddianc!' ‘Neidiais i mewn i’r môr a nofio ar ei ôl. Trodd y morgi yn ôl i ymosod! Arhosais nes ei fod yn ddigon agos a chyda un ergyd o’m dwrn ei daro’n anymwybodol. Gafaelais yn ei gynffon gyda’m dannedd a dechrau ei dynnu at y lan a oedd tua 6 milltir i ffwrdd.'

Vi

ˆ môr 'O’r diwedd cyrhaeddais y traeth a chan godi’r morgi ar fy ysgwydd lonciais at y sw agosaf. Mae’r morgi yno rwan dwi’n meddwl ac mae marciau fy nannedd yn dal i’w gweld ar ei gynffon!' ‘Andros!’ meddwn. ‘Rydych chi’n arwr heb ei ail ewythr Dylan’ ‘Roedd honna’n stori ardderchog Dylan’, meddai Mam wrth arllwys paned iddo. ‘Ond mi wyt ti wedi gadael dau beth allan.’ ‘Be’ di rheini dwad?’ meddai ewythr Dylan wedi drysu’n llwyr. ‘Wel’, meddai Mam gan wenu, yn gyntaf, chdi di’r unig berson dwi’n ei ‘nabod sy’n sâl môr yn y bath ac yn ail, dwyt ti ddim yn gallu nofio! Cyhoeddiadau Prim-Ed

7


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 4 Yr Ewythr Gorau yn y Byd Lefel A 1. Beth mae’r teulu am ei wneud ar eu gwyliau wrth lan y môr?

3. Pa mor bell oedd yn rhaid i ewythr Dylan nofio?

pl e

2. Beth wnaeth y morgi ar ôl cael ei ddal ar yr angor?

Sa m

4. Beth ddefnyddiodd ewythr Dylan i ddal y morgi yn y lle cyntaf?

Lefel B 1. Pwy sydd yn mynd i lan y môr am wyliau?

3. Mae ewythr Dylan yn

g

2. Pam wnaeth dad ochneidio a chau ei lygaid?

i Mam.

ew

in

4. Pam y dywedodd ewythr Dylan ei fod wedi dal y morgi gyda’i ddannedd?

Vi

Lefel C 1. Ydych chi’n meddwl fod ymweliadau ewythr Dylan yn hwyl? Pam?

2. Pam mai teitl y stori yw’r ‘Ewythr Gorau yn y Byd’?

3. Roedd gan Mam ddau reswm da dros amau stori ewythr Dylan. Fedrwch chi feddwl am reswm pam yr oeddech chi’n ei chael yn anodd i gredu?

4. Ail ysgrifennwch stori ewythr Dylan o safbwynt y morgi Cyhoeddiadau Prim-Ed

8


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

PYSGOTA - O BLAID AC YN ERBYN Mae’n debyg mai pysgota ydi’r math mwyaf poblogaidd o adloniant yn y byd. Mae miliynau ar filiynau o bobl yn gwario biliynau bob blwyddyn ar offer, abwyd, cychod, tanwydd a cherbydau sydd yn gallu teithio ar draws caeau a llwybrau gwyllt diarffordd.

pl e

Yr achos o blaid pysgota O’r miliynau yma mae’r rhan fwyaf yn pysgota er mwyn bwyta. Maent yn fodlon i ddal digon o bysgod i fwydo eu hunain a’u teuluoedd. Maent yn dal pysgod cyffredin felly nid oes perygl eu bod yn amharu ar niferoedd y pysgod.

Sa m

Nid yw pobl yn gallu dal pysgod bob dydd chwaith. Weithiau mae’r tywydd yn rhy ddrwg i bysgota a weithiau mae rhaid i bobl weithio. Efallai na fydd y pysgod ar gael bob amser! Mae’r cyfnodau hyn yn rhoi cyfle i’r pysgod godi eu rhifau eto. Mae pysgotwyr yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi. Nid yn unig maent yn gwario arian uniongyrchol - fel y soniwyd ar y cychwyn - maent hefyd yn gwario’n anuniongyrchol/mewn ffyrdd eraill drwy dreth ar eu hoffer, tanwydd, neu ar westy i aros dros nos a chost hedfan. Mae’r arian yma’n cadw llawer o bobl mewn swyddi ac yn creu mwy o swyddi bob blwyddyn.

in

g

Mae pysgota hefyd yn ffordd o leihau tensiwn. Mae llawer o bobl sydd dan bwysau yn troi at gyffuriau neu alcohol i’w helpu. Gall pysgota, fel mathau eraill o adloniant, fod o gymorth i bobl ymlacio ac yn hwyl. Mae pobl sydd wedi ymlacio yn iachach ac yn gwmni llawer gwell (arwahan i arogl yr abwyd pysgota!)

Vi

ew

Yr achos yn erbyn pysgota Mae gormod o bobl yn pysgota. Yn hytrach na cheisio gwarchod y pysgod mae pobl yn pysgota’n ddi-reol, heb boeni am rifau’r pysgod. Ni fedr unrhyw anifail ddelio â’r math yma o bwysau. Gan ddefnyddio ceir a chychod modern gall pobl bysgota yn y lleoedd mwyaf ynysig yn y byd felly does unman yn ddiogel ar gyfer y pysgod. Mae gormod o bysgotwyr yn farus. Maent yn dal llawer mwy o bysgod nag â fedrent eu defnyddio. Gwastraff o bysgod ydi hyn. Maent yn dal pysgod gwrywaidd a benywaidd gan adael llai o bysgod i atgynhyrchu sydd yn peryglu’r rhifau ymhellach. Mae pysgota yn adloniant lle mae dyn yn lladd anifail arall. Mae’r anifail yn cael ei ladd er mwyn i bobl gael ‘hwyl’. (Mae hyn yn fwy perthnasol i’r bobl hynny sydd yn pysgota fel adloniant na’r rhai sydd yn pysgota i fyw; os ydi pysgodyn yn cael ei fwyta mae yna bwrpas dros ei ddal). Unwaith i bysgodyn gael ei fachu nid oes ganddo lawer o gyfle i ddianc. Un ffordd neu’r llall mae pysgota yn weithgaredd fydd yn derbyn llawer mwy o sylw yn y dyfodol. Cyhoeddiadau Prim-Ed

9


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 5 Pysgota - o blaid neu yn erbyn Lefel A 1. Beth yw’r prif reswm dros i bobl ddal bysgod? 2. Sut y mae pysgotwyr yn gymorth i’r economi?

pl e

3. Beth fydd yn digwydd os ydi pobl yn dal gormod o bysgod?

Sa m

Lefel B 1. Pam y mae pysgota yn adloniant sydd ar gael led led y byd?

2. Beth ddylai pobl wneud â’r pysgod hynny na fedrent eu bwyta?

in

g

3. Pam y byddai pobl yn taflu y pysgod dros ben i’r bin sbwriel?

ew

4. Fedrwch chi feddwl am unrhyw le ar y ddaear lle na allai pobl bysgota?

Vi

Lefel C 1. Ydi pysgota yn adloniant go iawn? Esboniwch eich ateb.

2. Pam y mae pysgotwyr yn defnyddio cerbydau i deithio ar draws caeau a llwybrau mor aml?

3. Pam ydych chi’n meddwl fod pysgota yn lleihau tensiwn.

4. Dewisiwch fod o blaid pysgota neu yn erbyn. Cyflwynwch eich hachos gan gynnwys rhai syniadau newydd. Cyhoeddiadau Prim-Ed

10


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

DIWRNOD DA O BYSGOTA Y peth yr oedd Dafydd yn ei fwynhau orau am fynd i bysgota gyda’i dad oedd cael yr abwyd dros ei fysedd i gyd. Y rheswm am hyn oedd fod Dafydd yn hoff o arogl cryf yr abwyd! Y peth gwaethaf oedd dilyn yr holl gyfarwyddiadau er mwyn osgoi’r peryglon

‘Aw!’ gwaeddodd dad. Roedd y gyllell wedi llithro a thorri ei fys.

Sa m

‘Iawn dad’, meddai Dafydd. Byddai’n cytuno i unrhyw beth er mwyn cael cychwyn pysgota. Rhoddodd abwyd ar y ˆ ac bachyn, taflodd abwyd i’r dwr eisteddodd yn ôl yn hamddenol i aros am y pysgod.

pl e

‘Dyma ti Dafydd’ meddai ei dad Arwel un bore tra roedd y ddau allan yn eu cwch pysgota. Dyma’r abwyd. Paid a thorri dy fys efo’r gyllell. Bydd yn ofalus lle ti’n taflu y lein. Paid â’i chael yn sownd yn y peiriant. Paid a chael bachyn yn sownd yn dy fys. Os wyt ti’n dal pysgodyn cadw olwg am ei ddannedd a’i bigau miniog. Wyt ti’n iawn rwan?’

in

g

‘Aw-w-w!’ gwaeddodd wedyn. Roedd y bachyn yn sownd yn ei fys. Defnyddiodd efail i’w dynnu allan. Rhegodd ei dad. Byddai Dafydd wedi cael clusten am ddefnyddio’r fath araith! (Ceisiodd Dafydd gofio’r geiriau ar gyfer amser pan na fyddai ei dad o gwmpas). O’r diwedd llwyddodd ei dad i ˆ wrth yml un Dafydd. daflu’r lein i’r dwr

ew

Yn sydyn dyma wialen y ddau yn crynu ac yna’n neidio. ‘Dwi ‘di dal un, dwi ‘di dal un!’, meddai Dafydd. ‘A finna!, meddai dad. ‘Rwan bydd yn ofalus rhag i ti ei golli’.

Vi

ˆ yn ofalus iawn gan ei gadw’n ddigon pell oddi wrth Tynnodd Dafydd y pysgodyn o’r dwr peiriant y cwch. Lapiodd y pysgodyn mewn hen liain fel na allai gael ei frifo gan ei bigau. Tynnodd y bachyn o’i geg â’i ollwng i’r bwced. ˆ hefyd. Dechreuodd y pysgodyn droi a throsi’n gyflym Tynnodd dad ei bysgodyn o’r dwr felly gafaelodd dad ynddo. Sticiodd pigau’r pysgodyn i’w law nes yr oedd yn gwaedu fel mochyn! Gwaeddodd mewn poen a gafaelodd yn y pysgodyn gyda’r llaw arall. Brathodd y ˆ pysgodyn ei fawd. Gwaeddodd dad eto a llithrodd y pysgodyn o’i afael ac yn ôl i’r dwr. ‘Sut ddiwrnod gawsoch chi?’ gofynnodd Elin, mam Dafydd, pan gyrhaeddodd y ddau adref. ‘Grêt mam!, meddai Dafydd. ‘Yn hwyl o’r dechrau i’r diwedd’. ‘O oedd hwyl fawr!’, ‘sgyrnygodd dad, gan glymu’r rhwymau yn dynnach am ei ddwylo. Cyhoeddiadau Prim-Ed

11


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 6 Diwrnod da o bysgota Lefel A 1. Pam oedd Dafydd yn hoff o gael yr abwyd dros ei fysedd?

2. Beth oedd enwau rhieni Dafydd?

a

.

Sa m

4. Pam wnaeth tad Dafydd ollwng y pysgodyn?

pl e

3. Pam wnaeth Dafydd lapio lliain am y pysgodyn cyn tynnu’r bachyn o’i geg?

Lefel B 1. Pwy ddaliodd y pysgodyn gyntaf?

2. Pam na wnaeth tad Dafydd fwynhau’r diwrnod pysgota?

in

g

3. Ydi tad Dafydd yn gwybod sut i bysgota? Esboniwch eich ateb.

ew

4. Ydydch chi’n meddwl y byddai mam Dafydd yn chwerthin neu yn ddig ar ôl clywed am eu diwrnod?

Vi

Lefel C 1. Ydydch chi’n meddwl fod Dafydd wedi bod yn pysgota o’r blaen? Pam?

2. Beth ydych chi’n feddwl fydd yn digwydd y tro nesaf fydd y ddau’n mynd i bysgota?

3. Nodwch bedwar gair sydd yn disgrifio sut yr ydych chi’n meddwl fod tad Dafydd yn teimlo.

4. Sut y byddai Dafydd yn dweud hanes ei ddiwrnod o bysgota wrth ei ffrindiau ysgol? Dechreuwch gyda’r geiriau - ‘Dydd Sadwrn mi es i bysgota gyda dad...’ Cyhoeddiadau Prim-Ed

12


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

ˆ SÂL MOR Mae gan y Ffrancwyr air trawiadol amdano sef Mal de mer. Mae ein geiriau ni -Sâl môr - yn llai trawiadol ond yn disgrifio’r teimlad yn berffaith. Beth bynnag ydi’r gair a ddefnyddiwch mae bod yn sâl môr yn brofiad cas dros ben. Wnewch chi ddim marw o ganlyniad iddo ond mae nifer o bobl yn teimlo y byddai’n well ganddynt farw na’i ddioddef!

Sa m

pl e

Os nad ydych chi yn dioddef o salwch môr cofiwch ddangos cydyndeimlad â’r rhai sydd. Sut mae salwch môr yn teimlo? Mae’n cychwyn gyda theimlad sâl yn y stumog - sydd yn aml yn achosi i chi daflu’i fyny. Rydych yn teimlo’n chwil ac yn colli rheolaeth dros eich coesau a’ch breichiau. Mae eich pen hefyd yn teimlo’n anesmwyth, fel fod rhywun yn cau feis yn araf deg amdano. Rydych yn chwysu a brifo drosoch. Mae’n deimlad afiach!

in

g

Beth sydd yn achosi salwch môr? Mae ‘r rhan fwyaf o bobl yn credu mai eu stumogau sy’n ei achosi ac yn ceisio peidio bwyta na meddwl am fwyd o gwbl. Mae’n debyg i chi glywed am rai o’r moddion sy’n gysylltiedig â bwyd fel - yfed llawer o ddwr, ˆ bwyta bara sych, peidio bwyta braster, ac yn y blaen. Nid oes yr un o’r rhain yn gweithio mewn gwirionedd. Y rheswm dros hyn ydi mai symptom o sâl môr ydi poen bol. Mae salwch môr yn cael ei achosi gan eich clustiau!

ew

Mae ffordd y mae cwch yn symud yn effeithio ar y rhan hynny o’r glust sydd yn cadw eich cydbwysedd. Yn dilyn hyn rydych yn cael y math o deimlad ac a gewch ar ôl troi yn eich unfan yn rhy hir - ond llawer iawn gwaeth! (Medrwch ddioddef yr un fath o deimlad wrth fod mewn car neu awyren a weithiau gelwir salwch môr yn salwch teithio.)

Vi

Beth fedrwch chi ei wneud? Mae ymlacio yn gymorth. Efallai y bydd gorwedd i lawr yn gymorth. Ond gall wneud y salwch yn waeth hefyd! Gall edrych ar rywbeth sydd ddim yn symud, fel yr arfordir, helpu hefyd. Mae yna foddion ar gael i’w gymryd cyn mynd yn agos at gwch. Un syniad newydd ydi clwt bach gludiog yr ydych yn ei roi tu ôl i’ch clust. Mae hwn yn rhyddhau moddion i mewn i’ch sustem waed ac yn gweithio am tua dau ddiwrnod. Bydd yn rhaid i’r rhan fwyaf ohonom ddysgu byw gyda’r salwch môr. Neu bydd yn rhaid i ni aros ar dir sych! Cyhoeddiadau Prim-Ed

13


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 7 Sâl Môr Lefel A 1. Beth mae Mal de mer yn ei olygu? 2. Ni achosir salwch môr gan eich stumog ond gan eich

.

4. Pam mae effaitly clwt yn parhau mor hir?

pl e

3. Pa mor hir y mae effaith y clwt gludiog yn parhau?

Sa m

Lefel B 1. Pam mae pobl yn meddwl fod y pethau y maent yn eu bwyta neu eu hyfed yn mynd i effeithio ar salwch môr?

2. Beth yw’r fantais o ddefnyddio’r clwtyn gludiog yn hytrach na chymryd tabled?

in

g

3. Ar wahân i dabledi a’r clwtyn beth arall mae’r awdur yn ei awgrymu i wella’r salwch?

ew

4. Pa fath o dywydd yr ydych chi’n meddwl fyddai’n gwaethygu salwch môr?

Vi

Lefel C 1. Pam ydych chi’n meddwl fod yr awdur yn dangos cymaint o gydyndeimlad gyda phobl sy’n dioddef o salwch môr?

2. Esboniwch y gwahaniaeth rhwng sâl môr a salwch teithio?

3. Pam y mae pobl sy’n dioddef o salwch môr yn gwella’n gyflym unwaith eu bod yn ôl ar dir sych?

4. Os ydych wedi dioddef o salwch môr, ysgrifennwch baragraff yn disgrifio’r teimlad. Os nad ydych, defnyddiwch eich dychymyg. Cyhoeddiadau Prim-Ed

14


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

Y MORGI! ˆ yn y bae’, meddai ewythr Huw. ‘Efallai fod morgwn yno.’ ‘Peidiwch a mynd i sgio dwr ‘Peidiwch a bod yn wirion’, meddai Gwyn, oedd yn tybied ei fod yn gwybod popeth.

pl e

‘Fyddwn i ddim yn mynd i sgio yn y bae’, meddai’r dyn gwerthu petrol. ‘Gwelodd rywun forgi yno wythnos dwethaf.’

‘Dydych chi ddim yn mynd i sgio yn y bae?’ gofynnodd y pysgotwr ar y lanfa. ‘Dwi’n siwr i mi weld morgi wrth ddychwelyd o bysgota rwan.’

Sa m

‘Wnan nhw ddim fy mrifo i’, meddai Gwyn yn hyderus gan wenu.

‘Lol botes’, meddai Gwyn. ‘Beth bynnag dydw i ddim ofn unrhyw forgi!’

g

Taniodd Gwyn beiriant ei gwch newydd a chyda’i ddau ffrind, Robin a Gwynfor, cychwynodd ˆ ddim mwy llyfn yng ˆ dros bawb ar y lanfa. Doedd y dwr allan i’r bae gan chwistrellu dwr nghanol y bae ond medrai mwy o bobl eu gweld yno. Hoffai Gwyn ddangos ei hun o flaen criw mawr o wylwyr.

in

‘Gyrra di’, meddai wrth Robin. ‘Gei di wylio Gwynfor’, meddai. ‘Dwi’n mynd i sgio.’ ‘Beth os gwelwn forgi?’, gofynnodd Robin.

ew

‘Anghofiwch am y morgwn hogia’, meddai Gwyn. ‘Does dim rhaid i chi fod ag ofn rheini!’

Vi

ˆ Gwisgodd y sgi. Gyrrodd Robin y cwch yn araf er mwyn Llithrodd dros ochr y cwch i’r dwr. tynhau’r llinyn. Edrychodd Robin yn ei flaen tra trodd Gwynfor i wylio’r cefn. Roedd y tri’n barod. Teimlodd Gwyn rywbeth yn cyffwrdd ei goes. Rhywbeth mawr a chaled iawn! Yna’n sydyn, a ˆ dim mwy na dwy fedr i ffwrdd, gwelodd asgell frown yn codi o’r dwr. ˆ yn ôl i’r Wrth adrodd y stori wedyn, dywedodd Robin a Gwynfor y bu i Gwyn redeg ar y dwr cwch. Ni stopiodd ei goesau nes ei fod yn ddiogel. Roedd hyd yn oed wedi gadael y sgi a’r ˆ llinyn ar ôl yn y dwr. ˆ pan welodd yr asgell eto. Roedd Gwynfor yn codi’r llinyn o’r dwr ‘Dyna fo’, gaeddodd Gwyn. ‘Morgi! morgi!’ ˆ i wenu ar Gwyn cyn anadlu’n drwm a diflannu unwaith Cododd y dolffin cyfeillgar ei ben o’r dwr eto. Cyhoeddiadau Prim-Ed

15


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 8 Y Morgi! Lefel A 1. Pam aeth Gwyn allan i ganol y bae i sgio?

ˆ 3. Pwy oedd yn gorfod codi’r llinyn o’r dwr?

pl e

2. Pwy oedd perchennog y cwch?

Sa m

4. Pwy oedd y tri wnaeth rybuddio Gwyn i beidio sgio yn y bae?

Lefel B 1. Gwynfor oedd y gwyliwr ar y cwch. Beth oedd raid iddo wneud?

2. Pam oedd Robin a Gwynfor yn chwerthin?

g

3. Ydych chi’n meddwl fod Gwyn wedi gweld llawer o forgwn? Esboniwch eich

in

ateb.

ew

4. Oedd y bechgyn yn sgio ar yr afon neu’r môr? Sut ydych chi’n gwybod?

Vi

Lefel C 1. Sut ydych chi’n meddwl y teimlai Gwyn am ei gwch newydd?

2. Nid oedd Gwyn yn ystyriol o bobl eraill. Sut ydych chi yn gwybod hyn?

3. Beth ydych chi’n feddwl i Gwyn ei ddysgu o’r profiad yma?

4. Beth ydych chi’n feddwl a ddigwyddai’r diwrnod wedyn pe byddai Robin a Gwynfor yn gofyn i Gwyn fynd i sgio? Ysgrifennwch ymateb Gwyn. Cyhoeddiadau Prim-Ed

16


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

BETH FYDD EIN DYFODOL?

Sa m

Ffermio pysgod Ni fydd pysgod ar ôl os ydym am barhau i ddal cymaint ohonynt. Gyda thwf y boblogaeth yn y dyfodol bydd pysgod yn ffynhonnell bwysig o fwyd. Rhywsut neu gilydd mae’n rhaid i ni ddysgu sut i ‘ffermio’ pysgod'; yn union fel yr ydym yn ffermio gwartheg a defaid. Ond mae llawer o anawsterau. Bydd yn rhaid cadw nifer fawr iawn o bysgod, edrych ar eu hôl a’u bwydo, nes eu bod yn ddigon aeddfed i’w ‘cynhaeafu’. Ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod sut i wneud hyn ar raddfa fawr dim ond mewn ffermydd bach arbrofol.

pl e

Mewn llawer o ffyrdd (fel pysgota) mae moroedd y byd mewn perygl o gael eu gor ddefnyddio. Rydym hefyd yn llygru ein hafonydd a’n camlesi. Wrth i boblogaeth y byd ehangu nid oes amheuaeth y bydd yn rhaid i ni warchod ein moroedd yn well, eu cadw’n lân - ac, yn anhygoel, eu defnyddio yn fwy aml!

in

g

Dinasoedd dan y môr Ers nifer o flynyddoedd mae ffilmiau wedi dangos pobl yn byw mewn dinasoedd dan y môr. Fel arfer mae gan y ddinas ddychmygol dô gwydr uchel o’i chwmpas. Yn sicr mae lle ar y ddaear yn prinhau. Dydi tir sych ddim ond ˆ yw’r gweddill. Efallai 30% o arwynebedd y ddaear; dwr bydd yn rhaid i ni symud i fyw o dan y môr yn y dyfodol.

ew

Mae yna anawsterau enfawr wrth geisio gwneud hyn. Er hynny mae yn bosibl y gellid defnyddio holl adnoddau’r môr i gadw pobl yn iach. Gellid cael bwyd, ocsigen, tanwydd a phopeth o’r môr. Fedrwch chi ddychmygu treulio eich holl fywyd o dan y môr heb deimlo gwres yr haul nag anadlu awyr iach? Fyddech chi’n medru dod yn ôl i’r wyneb o gwbl?

Vi

Llongau tanfor anhygoel Wrth i gyfrifiaduron ddatblygu i fod yn fwy deallus gellid gyrru llongau tanfor, wedi eu rheoli gan gyfrifiaduron, yn ddwfn dan y môr er mwyn trosglwyddo nwyddau ar draws y byd. Ni fyddai angen dyn arnynt o gwbl! Byddai’r llongau tanfor yma’n rhad i’w hadeiladu oherwydd ni fyddai’n rhaid iddynt gael goleuni, gwres nag ocsigen. Peiriant niwclar fyddai’n eu gyrru oherwydd fod y rhain yn parhau am flynyddoedd heb danwydd. Byddai gan bob llong danfor lwybr i’w ddilyn. Ni cheid unrhyw ddamweiniau oherwydd fod gan bob un lwybr gwahanol. Fedrwch chi ddychmygu’r difrod a ellid ei achosi gan adweithydd niwclar pe byddai damwain yn digwydd ymhell o dan y môr? Beth pe byddai un o’r llongau tanfor yn cario olew ac yn torri ar waelod y môr? Ni fedrem gyrraedd ati i achub yr olew a’i ˆ i gyd. Ydi hi’n werth mentro gyda pheryglon fel hyn? rwystro rhag llygru’r dwr Cyhoeddiadau Prim-Ed

17


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 9 Beth fydd ein dyfodol? Lefel A 1. I beth fyddai’r llongau tanfor anhygoel yn cael eu defnyddio?

pl e

2. Beth fyddai’r prif reswm dros adeiladu dinasoedd dan y môr?

3. O ble byddai pobl mewn dinasoedd dan y môr yn cael eu bwyd ac ocsigen?

Sa m

4. Pam fydd hi’n angenrheidiol i ddatblygu ffermydd pysgod?

Lefel B 1. Pam fydd llongau tanfor yn llawer rhatach os na fydd angen dynion i’w rheoli?

g

2. Nodwch dri gwahaniaeth rhwng llongau tanfor heddiw a rhai’r dyfodol?

in

ˆ 3. Pa ganran o’r ddaear sydd yn cael ei orchuddio gan ddwr? 4. Sut y bydd y llongau tanfor anhygoel yn cael eu cadw ar y llwybr cywir?

ew

Lefel C 1. Ym mharagraff 2 pam y mae’r awdur wedi rhoi’r gair ‘cynhaeafu’ mewn

Vi

dyfynodau?

2. Pam y mae’r afonydd a’r môr yn cael eu llygru gymaint?

3. Mae gan bob awdur ei safbwynt personol a rheswm dros ysgrifennu stori. Ydych ˆ â sefyllfa’r byd, neu yn chi’n meddwl fod awdur y stori hon yn poeni ynglyn hyderus y bydd yn cael ei datrys? Esboniwch.

4. Dychmygwch eich bod yn byw mewn dinas a thô gwydr dan y môr. Gwnewch restr o’r manteision ar anfanteision sy’n deillio o fyw yno. Cyhoeddiadau Prim-Ed

18


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

‘MYNEDD PIA’ HI Roedd hi’n Sul chwilboeth. Roedd yr haul yn danbaid, y gwres yn pwyso arnom fel gorchudd trwm ac roedd ceisio symud fel ymladd eich ffordd drwy dar du gludiog. Gwnai’r gwres llethol hi’n anodd i anadlu ac roedd yr awyr poeth yn llosgi eich trwyn a’ch gwddw. Roedd gwyneb y ffordd yn meddalu’n gyflym a gellid teimlo’r gwres yn codi a llosgi eich traed wrth i chi gerdded yn ofalus.

pl e

Ochneidiais wrth weld y rhes o geir oedd o’n blaenau. Roeddem yn aros i gael defnyddio’r ˆ Roedd yn amlwg i bawb arall gael yr un syniad! lanfa er mwyn rhoi ein cwch yn y dwr. ‘Mynedd piau hi Geraint’, meddai dad, gan sychu’r chwys a oedd yn diferu oddi ar ei dalcen. ‘Fyddwn ni ddim yn hir os arhoswn ein tro.’

in

g

Sa m

O’r diwedd daeth ein tro ni. Cerddais gydag ochr y cwch gan weiddi cyfeiriadau i dad. Roeddwn yn gwybod y medrai dau gwch ddefnyddio’r lanfa os fydden ni’n cadw i un ochr. Rhaid oedd bod yn fonheddig â pheidio chymryd y lanfa’i gyd.

ew

ˆ byddarol car arall yn gyrru tuag atom. Newydd ddechrau symud oedd dad pan glywodd swn Gwthiodd dad ei droed yn gyflym ar y brêc. Neidiais innau o’r ffordd yn sydyn. Baciodd y car mawr newydd, a ddisgleiriau’n llachar yn yr haul, heibio i’r rhes o geir eraill a chymryd y lanfa ˆ a stopio. i gyd. Gwthiodd y cwch drud y tu ôl iddo i’r dwr

Vi

Gan anwybyddu gweiddi croch y gyrrwyr eraill, neidiodd dau ddyn o’r car a gwthio’r cwch ˆ yn gafael yn y cwch tra rasiodd gyrrwr y car i’w oddi ar y trelar. Safodd y ddau yn y dwr barcio. Safodd y dynion o flaen y lanfa ac achosi i bawb arall aros yn hirach. O’r diwedd cyrhaeddodd y perchennog - dyn mawr tew gyda wyneb coch. Dringodd i mewn i’w gwch tra roedd y ddau arall yn ei ddal. Taniodd peiriant y cwch yn gyflym - ond bron yn syth tawelodd yn gyfangwbl. Roedd y cwch yn suddo o flaen ein llygaid! Llwyddodd y dynion i’w wthio ar y traeth cyn iddo suddo i’r gwaelod. Gorweddai’r cwch ar ei ochr tra sgrechiai’r dyn mawr tew ar y ddau arall. Roedd pawb yn y ceir yn chwerthin a churo dwylo. ˆ roedd y dynion wedi anghofio rhoi’r ddau blwg yng nghefn y Yn eu brys i roi’r cwch yn y dwr ˆ cwch i gadw’r dwr allan! Cyhoeddiadau Prim-Ed

19


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 10 ‘Mynedd pia’ hi! Lefel A 1. Beth oedd y bobl yn y rhes o geir yn aros i wneud?

pl e

2. Pa fath o gar oedd y dyn mawr tew gyda’r wyneb coch yn ei yrru?

ˆ ar ôl i’r dyn tew yrru i ffwrdd? 3. Pam na fedrai Geraint a’i dad roi eu cwch yn y dwr

Sa m

4. Pam ddechreuodd y cwch suddo?

Lefel B 1. Pa dymor o’r flwyddyn oedd hi? Pam?

g

2. Ydych chi’n meddwl fod cwch y dyn tew yn newydd? Pam?

in

3. Oedd pob un o ddynion y cwch yn hunanol? Pam?

ew

4. Beth sy’n gwneud i chi feddwl fod y dyn mawr tew yn gyfoethog?

Vi

Lefel C 1. Pam oedd pobl y ceir eraill i gyd yn chwerthin a churo dwylo?

2. Ydych chi’n meddwl y byddai unrhyw un yn rhoi cymorth i’r tri dyn i roi’r cwch yn ôl ar yr ôl-gerbyd/trelar? Esboniwch eich ateb.

3. Pa wers a ddysgodd y dyn mawr tew?

4. Darllenwch y paragraff cyntaf eto. Ydi’r awdur wedi disgrifio’r gwres yn effeithiol? Ceisiwch ysgrifennu paragraff tebyg gan ddisgrifio diwrnod pan yr oeddech yn oer iawn. Cyhoeddiadau Prim-Ed

20


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

ˆ CHWARAEON YN Y DWR ˆ Ia, roeddwn i’n meddwl, y rhan fwyaf ohonoch! Dwylo’i fyny pawb sy’n hoff o chwarae yn y dwr. ˆ Beth am edrych ar rai o’r Mae na’ gymaint o bethau gwahanol a difyr i’w gwneud yn y dwr. ˆ pethau gwahanol fedrwn ni wneud yn y dwr?

Sa m

pl e

Mae nofio yn ffefryn wrth gwrs. Os ydych chi’n dal un neu ddau o’r tonnau wrth nofio at y traeth rydych yn ‘body surfing’. Wedyn medrwch syrffio gyda ‘boogie board’. Medrwch benlinio ar fwrdd hefyd. Os oes gennych fwrdd gorewyn gallwch syrffio go iawn. Ychwanegwch hwyl ac mi rydach yn hwyl fyrddio. Rhwyfwch gyda’ch dwylo ac mae gennych ‘wave ski’. ˆ

O’r pethau hyn gallwch fynd ymlaen i ddefnyddio peiriannau fel ‘jet skis’ neu ‘jet bikes’. Mae’r rhain yn defnyddio peiriant tebyg i un beic modur i yrru’n gyflym, fel car, ar draws y tonnau.

g

Gallwch ddefnyddio’ch cyhyrau i rwyfo cwch, cayac neu i ganwio. Neu mi fedrwch ychwanegu peiriant at eich cwch rhwyfo a’i ddefnyddio fel dinghy. Wrth i’r cychod pleser fynd yn fwy rydych yn cael ‘runabout’, ‘cabin cruiser’ a llong bleser.

ew

in

Os ydych yn meddwl y buasech yn mwynhau cael eich llusgo tu ôl i gwch modur gallwch fynd i sgio. Rydych yn dysgu ar ddwy sgi, wrth wella a mentro gallwch symud i un. Wedyn gallwch ˆ drwy sgio i mewn ac geisio sgio cwrs ‘slalom’ ar y dwr allan rhwng cyfres o fwis. Wedi gwella digon gallwch geisio neidio ar y sgis neu sgio heb sgis o gwbl - yn droednoeth!

Vi

ˆ o ddiddordeb efallai Os nad ydi chwaraeon ar wyneb y dwr y buasech yn hoff o fentro dan yr wyneb. Snorclio, ydi’r gair i ddisgrifio deifio gan ddefnyddio’r ocsigen yn eich ysgyfaint yn unig. Neu efallai y byddwch am fod yn fwy mentrus a deifio’n ddyfnach gan gario’r ocsigen mewn tanciau ar eich cefn. Gelwir hyn yn ‘scuba diving’. Ar ˆ am amser hir ceir system o drosglwyddo ocsigen o’r lan gyfer y rhai sydd am aros dan y dwr drwy bibell hir. Gelwir hyn yn ‘hookah’. Os oes well gennych gadw’ch traed yn sych efallai mae para hwylio/parasailing ydi’r peth gorau ar eich cyfer. Cewch wisgo parasiwt arbennig a chael eich tynnu’n gyflym tu ôl i gwch modur. Unwaith y mae’r cwch modur yn cychwyn mae’r parasiwt yn eich codi’n gyflym i’r awyr ˆ ymhell uwchben y dwr! Os dwi wedi gadael unrhyw beth allan. Wel, mae na’ bysgota, rasio mewn cychod modur neu ‘awyren hydro’/hydroplane, cystadleuthau’r dyn cryfaf, carnifal syrffio neu ............ Cyhoeddiadau Prim-Ed

21


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 11 ˆ Chwaraeon yn y dwr Lefel A 1. Beth yw ‘Body surfing’?

2. Pa mor gyflym y gall ‘jet skis’ deithio?

pl e

3. Beth syn gwneud i gyac symud? 4. Lle mae eich ocsigen yn cael ei gario pan ydych yn cymryd rhan mewn ‘scuba diving’?

Sa m

Lefel B 1. Beth yw’r prif wahaniaeth rhwng deifio gydag offer ‘scuba’ a deifio gydag offer ‘hookah’?

2. Beth ydych chi’n feddwl ddigwyddai os byddai’r rhaff yn torri wrth i chi gymryd rhan mewn para lwylio/‘parasailing’?

3. Pam fod yn rhaid i chi fod yn dda iawn i geisio neidio wrth sgio a sgio’n

g

droednoeth?

in

ˆ yn 4. Pam y byddai deifio dan system ‘hookah’ yn caniatau i chi aros dan y dwr

ew

hirach na deifio gydag offer scuba?

Lefel C ˆ â chwaraeon dwr? ˆ 1. Sut ydych chi’n meddwl fod awdur y stori yn teimlo ynglyn

Vi

Pam?

2. Nodwch ddwy fantais sydd gan ‘jet ski’ dros hwyl fwrdd. Nodwch ddwy anfantais.

3. Meddyliwch am bedwar o chwaraeon, na cheir son amdanynt yn y stori, y ˆ medrwch eu gwneud yn y dwr?

4. Ysgrifennwch lythyr at eich papur newydd lleol yn cwyno oherwydd bod y traeth cyfagos yn cael ei or-ddefnyddio a’i lygru. Rhowch esiamplau. Cyhoeddiadau Prim-Ed

22


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

CINIO ARBENNIG HEDDIW! Anghenfil môr oedd Arnallt. Roedd yn byw gyda’i fam, Beda, a’i dad Aneurin, ymhell iawn, iawn yn nyfnder y môr.Yn wir roedd hi’n dywyll fel bol buwch yn eu cartref ar waelod y môr, felly roedd gan y tri olau bach ar flaen eu trwynau.

pl e

Nid oedd yna lawer i’w weld mor ddwfn a hynny chwaith. Roedd yn ddi-liw a diflas iawn. Doedd fawr o ddim yn byw nag yn tyfu yno. Mwd oedd y peth mwyaf cyffredin yno - mwd, mwd a mwy o fwd! Roedd bwyd y tri anghenfil yn ddiflas hefyd - dim byd ond pysgod i frecwast,i ginio a thê - a dim sglodion!

Sa m

Roedd Arnallt wedi diflasu’n llwyr. Roedd ei fywyd mor aniddorol. Hwyl oedd yr anghenfil bach ei angen! Roedd am weld goleuni a lliwiau ac am deimlo gwres yr haul. Ond yn fwy na dim byd arall roedd Arnallt yn awchu am fwyd blasus! Roedd ei fam yn ei garu, er ei fod yn hyll fel pechod, ac roedd wedi chwilota ymhob man am fwyd diddorol iddo. O’r diwedd daeth o hyd i long ddrylliad. Doedd na ddim pobl ynddi, ond roedd yna filoedd ar filoedd o duniau bwyd cath. O! mi fydd Arnallt yn hapus.

g

Ac mi oedd. Bob pryd bwyd byddai’n gwasgu cant o’r caniau yn ei geg ac yn bwyta’r cig melys. Ar y cychwyn roedd Arnallt wrth ei fodd gyda’r bwyd newydd. Ond, ar ôl blwyddyn roedd wedi blino arno. Ar ôl dwy flynedd roedd wedi diflasu’n llwyr. Ar ôl tair blynedd roedd yn ei gasau.

in

Yn y diwedd dywedodd wrth ei fam ei fod eisiau rhywbeth gwahanol i’w fwyta. Rhywbeth yn lle pysgod a bwyd cath. Unwaith eto gan ei bod yn ei garu, er ei fod yn hyll, chwiliodd ei fam ˆ am rywbeth gwahanol iddo. Un diwrnod gwelodd long danfor yn symud yn araf drwy’r dwr dwfn. ‘O! mi fydd Arnallt mor hapus’, meddai.

ew

Aeth i nôl Arnallt iddo gael gweld y llong danfor. Roedd Arnallt ddwy waith maint y llong danfor fach!

Vi

‘Yli beth ydw i wedi gael i ti’, meddai’n falch. ‘Be’ ar y ddaear, neu yn y môr, ydi hwn?’, meddai Arnallt. ‘Ym, rhyw fath o long ydi hi, wedi ei hadeiladu o fetel, ac wedi ei llenwi gyda llawer o bobl blasus’, esboniodd ei fam. ‘O na!’, cwynodd Arnallt yn llwglyd. ‘Dim mwy o fwyd tun!’

Cyhoeddiadau Prim-Ed

23


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

TAFLEN WAITH 12 Cinio Arbennig Heddiw! Lefel A 1. Pam oedd Arnallt a’i deulu yn cario eu goleuadau bach eu hunain?

3. Beth yw enwau cyntaf mam a thad Arnallt? a

.

pl e

2. Beth oedd prif fwyd Arnallt cyn i’w fam ddod o hyd i’r llong ddrylliad?

Sa m

4. Ydi’n wir i ddweud fod Arnallt tua hanner maint y long danfor. Lefel B 1. Pam oedd hi’n ddi-liw a diflas yng nghartref y tri anghenfil?

2. Sut ydych chi’n gwybod fod gan Arnallt geg gryf?

in

g

3. Beth oedd Arnallt a’i deulu’n meddwl o bobl?

ew

4. Pam oedd Beda yn dal i garu Arnallt er ei fod cyn hylled â phechod?

Lefel C 1. Ydych chi’n meddwl y bydd Arnallt yn bwyta’r bobl yn y long danfor? Esboniwch

Vi

eich ateb.

2. Awgrymwch dri peth y medrai Arnallt eu gwneud i wneud ei fywyd yn fwy diddorol?

3. Pam nad ydi’r awdur yn disgrifio’n hollol sut olwg oedd ar y tri anghenfil?

4. Chi ydi capten y long danfor. Rydych yn gweld Arnallt a’i fam drwy gamera eich llong. Mewn paragraff neu ddau disgrifiwch sut oedd y ddau’n edrych? Cyhoeddiadau Prim-Ed

24


Y MÔR

Gredwch Chi Hyn!

ATEBION Nodyn arbennig - Dim ond cwestiynau Lefel A sydd yn rhai llythrennol. Mae angen ychydig o ddehongliad ar y ddau arall. Yn dilyn hyn dim ond cwestiynau Lefel A fedrid ei hateb yn gywir neu’n anghywir. ˆ â dilysrwydd yr atebion Gadewir y penderfyniad ynglyn i gwestiynau Lefel B ac C i’r athro/athrawes a/neu’r disgybl unigol.

g

Taflen Waith 3 Lefel A 1. Maent yn chwistrellu eu gwenwyn 2. Cewch eich pigo’n waeth 3. Maent wedi cuddio/mae ganddynt guddliw 4. Teulu’r scorpionfish

ew

in

Taflen Waith 4 Lefel A 1. Nofio, ymlacio, Pysgota 2. Roedd yn tynnu’r cwch (neu ateb tebyg) 3. Tua 6 milltir 4. Angor gyda pysgodyn fel abwyd

Vi

Taflen Waith 5 Lefel A 1. I fwyta 2. Maent yn gwario llawer o arian (neu ateb tebyg) 4. Fydd na ddim pysgod ar ôl Taflen Waith 6 Lefel A 1. Roedd yn hoff o arogl yr abwyd! 2. Arwel ac Elin 3. Fel na fyddai’n cael pigau miniog yn ei law (neu ateb tebyg) 4. Brathodd y pysgodyn ei fawd

Taflen Waith 9 Lefel A 1. I gario nwyddau o dan y môr (neu ateb tebyg) 2. Rhedeg allan o dir sych/daear (neu ateb tebyg) 3. Y dwr/môr o’u cwmpas ˆ 4. Er mwyn cymryd lle pysgod ‘naturiol’: fel bwyd (neu ateb tebyg)

Sa m

Taflen Waith 2 Lefel A 1. Ar y penwythnos 2. Collodd taid/tadcu y fodrwy a roddodd hi iddo 3. Saethodd ei ddannedd gosod i mewn i’r dwr ˆ 4. Modrwy briodas taid/tadcu

pl e

Taflen Waith 8 Lefel A 1. Fel y gallai mwy o bobl ei weld: I ddangos ei hun 2. Robin 3. Gwynfor 4. Ewythr Huw, dyn gwerthu petrol, y pysgotwr ar y lanfa

Taflen Waith 1 Lefel A 1. Rhwd 2. Hwyliau 3. Pren 4. Aliminiwm a gwydr ffibr

Cyhoeddiadau Prim-Ed

Taflen WAith 7 Lefel A 1. Salwch môr 2. Y clustiau 3. Diwrnod neu ddau 4. Mae’r moddion yn cael ei rhyddhau yn araf i’r system waed (neu ateb tebyg).

Taflen Waith 10 Lefel A 1. Er mwyn rhoi eu cychod yn y dwr ˆ 2. Car mawr newydd a disglair 3. Safodd y dynion o flaen y lanfa 4. Roedd y dynion wedi anghofio rhoi’r ddau blwg dwr ˆ i mewn Taflen Waith 11 Lefel A 1. Marchogaeth ton gan ddefnyddio’ch corff yn unig 2. Mor gyflym â char (neu ateb tebyg) 3. Nerth eich cyhyrau (neu ateb tebyg) 4. Mewn tanciau ar eich cefn Taflen Waith 12 Lefel A 1. Roedd ei cartref yn le tywyll iawn 2. Pysgod 3. Beda a Aneurin 4. Nac ydi - roedd tua dwy waith maint y long danfor

25

3118 Gredwch Chi Hyn 2  
Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you