Datblygwyd y pecyn cymorth Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant i gefnogi oedolion yn y sectorau chwarae, blynyddoedd cynnar ac addysg i ddarparu chwarae rhannau rhydd yn eu lleoliadau. Bydd y pecyn cymorth yn ddefnyddiol ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn llawer o fathau o leoliadau yn cynnwys ysgolion, iechyd, y blynyddoedd cynnar a lleoliadau gofal plant, ac ar gyfer sefydliadau sy’n ymgysylltu â phlant a theuluoedd.