Chwarae’n egnïol yn ac o amgylch y cartref

Page 4

Syniadau chwarae ar gyfer rhieni Tra bo gofyn i bob un ohonom lynu at y canllawiau pellhau cymdeithasol, mae dal yn bosibl inni dreulio amser y tu allan. Ond, mae angen inni wneud dewisiadau sy’n ei gwneud yn haws inni gadw ein pellter. Mae’n anodd iawn i blant hunanreoleiddio pan maent yn chwarae, yn enwedig pan maent wedi ymgolli mewn chwarae egnïol neu os oes plant eraill gerllaw, felly efallai y byddant angen ein help gyda hyn. Efallai y bydd paratoi a chasglu detholiad o eitemau chwarae i fynd gyda chi i’r ardd neu fan awyr agored yn helpu i gadw pethau’n ddiddorol. Gall eitemau chwarae syml fel peli, rhaffau, cylchau, sialc, teganau bychain fel ceir ac anifeiliaid tegan ei gwneud hi’n haws i blant gael hwyl. Pan allwn ni, ac os ydym yn teimlo’n ddigon iach i wneud hynny, dylem wneud ein gorau i annog chwarae’r tu allan, waeth beth fo’r tywydd. Edrychwch ar y syniadau hyn ar gyfer chwarae’r tu allan ym mhob tywydd am ysbrydoliaeth.

Chwarae’n egnïol dan do Mae’r cartref yn le gwych i chwarae. Gall plant wneud defnydd creadigol o ddim ond cornel o ystafell os oes ganddynt rywfaint o deganau neu fanion bethau eraill, a rhyddid i chwarae. Mae digonedd o syniadau hwyliog sydd ddim angen llawer o le, yn cynnwys hen ffefrynnau fel chwarae cuddio neu greu cuddfan gyda chlustogau a blancedi. Mae plant hŷn yn dal angen lle i chwarae dan do hefyd - mae plant angen bod yn wyllt a chorfforol fel rhan o’u chwarae.

Darllenwch ein blog chwarae dan do am amwgrymiadau ac efallai y bydd yr awgrymiadau anhygoel hyn ar gyfer magu plant yn chwareus yn ddefnyddiol hefyd. Bydd pellhau cymdeithasol ac ynysu cymdeithasol yn arbennig o anodd i blant yn eu harddegau. Bydd llawer o blant hŷn wedi bod yn edrych ymlaen at y gwanwyn, y nosweithiau hirach a’r tywydd mwynach fel adeg i gwrdd gyda’u ffrindiau. I lawer, oedd i fod wedi mwynhau’r rhyddid i chwarae allan yn annibynnol gyda’u ffrindiau am y tro cyntaf, mae hon yn garreg filltir y bydd rhaid iddynt aros amdani bellach. Mae canolbwyntio ar syniadau chwarae heb reolau neu sydd ddim angen dawn benodol yn hwyl i bob aelod o’r teulu, waeth beth eu hoedran, a byddant yn helpu i basio’r amser mewn ffordd chwareus. Yn ogystal, bydd y mathau hyn o weithgareddau’n darparu hwyl a diogelwch yn ystod profiad o golled ac ynysu.

Cadw’n iach

Chwarae yw’r ffordd fwyaf naturiol a phleserus i blant fod yn egnïol, cadw’n iach a bod yn hapus. Gall rhieni a gofalwyr ganfod ffyrdd syml i gynnwys amser a lle ar gyfer chwarae ym mywydau bob dydd eu plant. Gall pob math o chwarae helpu plant i fod yn fwy egnïol. Mae chwarae gyda’n gilydd yn ffordd wych i dreulio amser fel teulu a helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a hyder plant. Gall helpu rhieni ac aelodau eraill o’r teulu i gadw’n egnïol hefyd a bydd yn cyfrannu at les gwell isyml bawb ynaystod cyfnodau o Syniadau doniol ansicrwydd.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.