Page 1

1

Meddwl am iechyd meddwl Adroddiad yn cymharu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru â chymaryddion iechyd meddwl rhyngwladol

Dr Ian Johnson Adroddiad a gomisiynwyd gan Helen Mary Jones AC Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru


2


3

Cynnwys

01 Crynodeb gweithredol o argymhellion 02 Cyflwyniad 03 Iechyd meddwl 04 Gwasanaethau iechyd meddwl oedolion 05 Cymharu CAMHS yn rhyngwladol 06 Gwasanaethau Cymraeg 07 Gwasanaethau mewn ieithoedd ac eithrio Saesneg 08 Cydwasanaethau 08 Strategaethau cyffredinol 10 Iechyd meddwl menywod 11 Iechyd meddwl dynion 12 Ystyriaethau pellach

12.1 Arbenigwyr trwy brofiad 12.2 Gofalwyr 12.3 Anhwylderau bwyta

13 Casgliadau


4

Crynodeb gweithredol o argymhellion • Fel gwlad incwm uchel yng Ngogledd Ewrop, mae gan Gymru un o’r gwasanaethau iechyd meddwl sy’n perfformio ar y lefel uchaf, ar sail y gydnabyddiaeth bod iechyd meddwl yn fater iechyd o flaenoriaeth, dealltwriaethau diwylliannol o ehangder y materion ynghlwm, a buddsoddiad cyffredinol. Fodd bynnag, mae’r mesuriadau canlyniadau yn annigonol er mwyn bod yn dystiolaeth o lwyddiant, yn enwedig o ystyried y twf mewn ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl. • Mae Cymru’n gwario canran uwch o’i gwariant gofal iechyd ar wasanaethau iechyd meddwl na chymaryddion rhyngwladol. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn dangos bod Cymru’n gwario llai y pen o’r boblogaeth ar ofal iechyd na’r union gymaryddion hynny. • Mae llai o welyau i oedolion a phobl ifanc wedi’u neilltuo i wasanaethau iechyd meddwl o gymharu â gwledydd cymharol. Mae’r gwelyau hynny yn agos at fod wedi’u defnyddio’n llawn, ac mae hynny y tu hwnt i’r lefel defnydd uchaf a awgrymir gan Goleg Brenhinol y Seicolegwyr. • Er bod mwy a mwy o ffocws wedi bod ar iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS), yn enwedig ar CAMHS arbenigol, mae’r angen i gefnogi’r ‘canol coll’ yn parhau - o ran darparu cymorth i’r sawl sydd mewn angen ac o ran lleihau problemau ymhlith pobl nad ydynt yn dioddef o heriau trawma yn y tymor hwy. • Mae’r papur yn codi pryderon am faint y gweithlu arbenigol yng Nghymru o gymharu â gwledydd cymharol eraill, yr Alban yn benodol, a’r nifer gweddol fach o gysylltiadau cymunedol. Fodd bynnag, mae’n cydnabod hefyd fod Cymru’n perfformio’n dda o ran rhoi cymorth a chysylltu â’r sawl sydd ag anghenion ar lefel uwch. • Mae’n bwysig cael data o ansawdd uchel ar ganlyniadau yn hytrach nag ar fewnbynnau, gan na allwn ragdybio fod y rheiny’n arwydd da o driniaeth lwyddiannus.


5

Cyflwyniad Mae'r adroddiad hwn yn ymchwilio i arferion gorau mewn triniaethau iechyd meddwl, ac yn gwneud awgrymiadau i wella canlyniadau triniaethau yng Nghymru. Adroddiad cam cyntaf yw hwn sy’n amlinellu’r data Cymreig mewn cyd-destun rhyngwladol, gan ganolbwyntio fwyaf ar wasanaethau arbenigol. Natur meincnodi rhyngwladol yw, oherwydd yr angen I dynnu ar gymhariaethau dilys, mae’n bosib fod bach o oedi yn bosib o gymharu â’r wybodaeth a gyhoeddwyd ddiweddaraf. Fodd bynnag, nod y papur hwn yw defnyddio’r data ciplun sydd ar gael er mwyn gwneud asesiad cyffredinol o berfformiad Cymru ym maes iechyd meddwl o gymharu’n rhyngwladol, gan ofyn cwestiynau ymchwil pellach pan yn briodol. Dr Ian Johnson Awst 2019


6

Iechyd meddwl Mae iechyd meddwl yn derm eang sy’n cwmpasu lles cyffredinol unigolyn. Yn y blynyddoedd diweddar gwelwyd mwy o ddiddordeb mewn iechyd meddwl a’r ddealltwriaeth gyfoes fod iechyd meddwl unigolyn yn eistedd ar gontinwwm sy’n amrywio, lle mae triniaeth yn ofynnol neu’n cael ei chynnig i unigolion sydd yn dioddef o iechyd meddwl gwael parhaus neu i unigolion sydd ag iechyd meddwl cyfnewidiol, sy’n arwain at argyfyngau a nam ar eu galluedd i wneud penderfyniadau. Mae Atlas Iechyd Meddwl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) 2017 yn rhoi trosolwg byd-eang o gymorth iechyd meddwl fel rhan o’r gwaith o fonitro Cynllun Gweithredu Iechyd Meddwl Cynhwysfawr 2013-2020. Er bod y canlyniadau yn dangos gwelliannau cadarnhaol o ran gwell ymwybyddiaeth a buddsoddiadau gan lywodraethau o ran mynd i’r afael ag iechyd meddwl, mae hefyd yn dangos amrywiadau sylweddol wrth weithredu cymorth iechyd meddwl. Yn ei ganfyddiadau allweddol mae’r Atlas Iechyd Meddwl yn adrodd bod lefelau buddsoddi yn isel mewn gwledydd incwm isel ac incwm canolig a bod y rhan fwyaf o’r incwm hwnnw’n mynd ar ysbytai meddwl, ac er bod canolrif y gweithwyr iechyd meddwl i bob 100,000 o’r boblogaeth yn 9 person, mae hyn yn amrywio o un am bob 10,000 ar gyfer gwledydd incwm isel i 72 am bob 100,000 mewn gwledydd incwm uchel. Yn yr un modd, mae’r Atlas Iechyd Meddwl yn nodi bod canolrif gwelyau iechyd meddwl i bob 100,000 o bobl yn codi o saith ar gyfer gwledydd incwm isel a chanolig i dros 50 mewn gwledydd incwm uchel, a bod anghydraddoldebau yr un mor fawr yn bodoli ar gyfer gwasanaethau cleifion allanol, gwasanaethau plant a phobl ifanc a chymorth cymdeithasol. Yn y cyd-destun hwn, fel rhan o’r DU ac fel gwlad incwm uwch yn ôl categorïau WHO, mae Cymru o fewn y garfan buddsoddiad uwch yn fyd-eang o ran triniaeth a chymorth iechyd meddwl. Ar sail hyn, tybir bod gwledydd y gellir eu cymharu â Chymru, a’r rhai a all ddarparu enghreifftiau o arfer gorau yn fwy tebygol o fod yn wledydd lle mae amgylcheddau economaidd a diwylliannol tebyg a lle mae syniadau cyffelyb ynghylch iechyd meddwl. Yn gyffredinol gwledydd yng ngogledd orllewin Ewrop a’r Einglsffêr ryngwladol ydyn nhw.


7

Iechyd meddwl Mae’r Sefydliad dros Ddatblygiad Economaidd a Diwylliannol (OECD) yn canolbwyntio ar ‘gost’ iechyd meddwl gwael, ac yn awgrymu bod y 28 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd gyda’i gilydd yn colli 4% o gynnyrch domestig gros (GDP), tua 600 biliwn Ewro, bob blwyddyn oherwydd gwariant gofal iechyd uniongyrchol, gwariant cymdeithasol i gefnogi pobl sy’n rhy sâl i gyfranogi’n llawn yn y farchnad lafur a chostau anuniongyrchol o ran cynhyrchiant ac allbwn economaidd is. Ni ymchwiliwyd i’r un graddau i fetrigau sy’n anos eu pennu, megis yr effaith ar yr unigolyn, bywyd y teulu a’r gymdeithas, ond mae’r papur hwn o’r farn y dylid ystyried bod ansawdd bywyd a’r gallu i fwynhau rwtin bywyd bob dydd i’r eithaf yn rhan annatod o fodolaeth dyn, beth bynnag yw’r ystyriaethau economaidd. Nid yw’n hysbys faint yn union sy’n dioddef iechyd meddwl gwael. Yn aml dywedir bod un person o bob pedwar yn y DU yn dioddef o iechyd meddwl gwael ar unrhyw adeg benodol, ar sail canfyddiadau Arolwg Morbidrwydd Seiciatrig Oedolion yn Lloegr 2007. Fodd bynnag, ar ôl adolygu’r nifer gwelwyd mai oddeutu un o bob chwech o’r boblogaeth yn Lloegr (17%) sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer Anhwylder Meddwl Cyffredin ar ôl i ganfyddiadau Arolwg dilynol 2014 gael eu cyhoeddi. Er mai arolwg yn Lloegr yn benodol ydyw, tybir bod hyn yn berthnasol i’r boblogaeth yng Nghymru, ac nad oes unrhyw wahaniaeth arwyddocaol. Wrth ystyried penderfynwyr cymdeithasol iechyd meddwl gwael, gellid rhagweld y byddai’r cyfraddau yng Nghymru ychydig yn uwch yn sgil natur fwy bregus y sefyllfa economaidd gymdeithasol yng Nghymru. Awgrymodd yr astudiaeth fod menywod yn fwy tebygol na dynion o adrodd bod ganddyn nhw symptomau anhwylder meddwl cyffredin, ar gyfradd o oddeutu 19% i 12%, ac yn fwy tebygol o adrodd symptomau difrifol - 10% o gymharu â 6%. (GIG Digidol). Mae hyn yn unol â chanfyddiadau Arolwg Iechyd Cymru 2014, cyhoeddiad olaf y gyfres, a adroddodd fod 13% o ymatebwyr wedi ymweld â’u Meddyg Teulu gyda phryder am eu hiechyd meddwl, lle’r oedd 16% yn fenywod a 10% yn ddynion.


8

Gwasanaethau iechyd meddwl oedolion Mae Rhwydwaith Meincnodi’r GIG wedi casglu metrigau oddi wrth 14 gwlad i gymharu ac archwilio dulliau gweithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS). Trafodwyd y canfyddiadau mewn symposiwm rhyngwladol y llynedd, ym mis Mai 2018. Roedd y gwledydd a gymerodd ran yn dod o’r Fenter Ryngwladol dros Arweinyddiaeth ar Iechyd Meddwl a’r OECD. Mae data o'r digwyddiad hwnnw wedi ei grynhoi isod, gyda detholiad o graffiau sy'n tynnu sylw at wybodaeth sydd o ddiddordeb penodol. Ceir gwybodaeth bellach gan Rwydwaith Meincnodi'r GIG. O’r gwledydd a gymerodd ran lle’r oedd data ar gael, gwariant Cymru ar wasanaethau iechyd meddwl i oedolion y pen oedd y trydydd uchaf, ychydig dros $300 USD y pen. Roedd hyn yn uwch na chymaryddion y DU, ond yn is na gwariant yn yr Iseldiroedd a Sweden. Cymru a'r Alban oedd â’r ganran uchaf o wariant ar iechyd meddwl o gymharu â gwariant cyffredinol ar iechyd, gydag 11% o gyfanswm y gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl. Yn 2017-18, y flwyddyn ariannol ddiweddaraf ar gael ar Ystadegau Cymru, gwariant iechyd meddwl Cymru oedd £746 miliwn, sef tua £239 fesul pen y boblogaeth. Mae hyn yn cynrychioli bron 5% o holl wariant Llywodraeth Cymru am y flwyddyn.

Wrth ystyried y newid pwyslais i leoliadau cymunedol yn hytrach na chymorth sefydliadol, roedd data Cymru’n dangos y nifer isaf o welyau i gleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, gyda llai na hanner y canolrif o welyau. Roedd hyd cyfartalog yr arhosiad (ac eithrio gwelyau gadael) ychydig yn uwch na’r cyfartaledd, ac roedd gan Gymru nifer cyfartalog o gleifion cadw fel canran o gleifion a dderbyniwyd, o gymharu â gwledydd eraill.


9

Gwasanaethau iechyd meddwl oedolion Mae Coleg Brenhinol y Seicolegwyr yn argymell lefel defnydd gwelyau o 85%, gan fod hyn yn caniatáu i gleifion gael eu derbyn i gyfleuster lleol lle gall y rhwydweithiau o gymorth cymdeithasol barhau, ac mae’n galluogi darparu gwelyau gadael heb i’r claf golli ei le mewn gwely. Gall oedi wrth dderbyn claf i ysbyty gael effaith ar iechyd yn y tymor byr a’r tymor hir. Yn ôl ffigurau cymharol, mae defnydd gwelyau yng Nghymru yn uwch na 100% os yw diwrnodau gadael yn cael eu cynnwys. Mae cyfradd aildderbyn mewn argyfwng yng Nghymru yn 11%, yr un fath â chanolrif cyfartalog y cyfranogwyr.

O ran gwelyau seiciatrig pobl henach, mae gan Gymru nifer cyfartalog bron o welyau a derbyniadau i bob 100,000 o’r boblogaeth, ond mae’r arhosiad cyfartalog hiraf yn 78 diwrnod o gymharu â chyfartaledd o 54 diwrnod. Roedd defnydd gwelyau ar gyfer pobl henach oddeutu 90%. Mae gan Gymru llai o welyau na Lloegr a'r Alban. Yng Nghymru y mae’r baich achos iechyd meddwl arbenigol isaf i bob 100,000 person sef 1,415, sef y nifer isaf o gleifion o gymharu â gwasanaethau cymharol mewn gweldydd eraill, o’r pum gwlad lle’r oedd data gwasanaethau cymunedol cadarn ar gael. Roedd y cysylltiadau i bob 100,000 person yn sylweddol is hefyd. Mae’r adroddiad yn nodi bod 97% o ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn y DU yn cael cymorth yn y gymuned. Cymru oedd orau o’r cymaryddion o ran dilyniant ar ôl rhyddhau o’r ysbyty, gyda 94% o gleifion yn derbyn gwasanaeth yn y gymuned ar ôl cael eu rhyddhau o gyfleuster i gleifion mewnol. O ran y gweithlu, mae gan Gymru nifer canolrifol o weithwyr iechyd meddwl arbenigol, yn cynnwys nyrsys iechyd meddwl a seiciatryddion arbenigol, llai na hanner y nifer a geir yn yr Alban yw hyn. Adroddodd Cymru’r nifer isaf o seiciatryddion ymgynghorol, ochr yn ochr â Lloegr


10

Gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a Gogledd Iwerddon. Roedd niferoedd yn Sweden bum gwaith cymaint â Chymru, ac roedd pedair gwaith cymaint yng Nghanada.

Mae canlyniadau hunanladdiad yn awgrymu bod gan Gymru nifer cyfartalog ymhlith cymaryddion, sy’n uwch na Lloegr a’r Iseldiroedd, lle mae’r gyfradd ar ei hisaf. Mae’r adroddiad yn nodi ar draws y DU mai dim ond 26% o achosion hunanladdiad a gyflawnwyd gan bobl lle’r oedd cofnod o gysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl, felly ni ddylid ystyried hyn fel arwydd o lwyddiant neu fel arall o anghenraid. Ystyriaethau pellach • Ymddengys fod Cymru’n perfformio’n dda o ran cefnogi pobl gyda’r lefel uchaf o angen, ond ymddengys fod ganddi lai o gysylltiadau cymunedol na chymaryddion. A ellir ehangu’r cysylltiadau cymunedol heb effeithio ar y perfformiad? • Mae hyd arhosiad cyfartalog ar gyfer gwelyau seiciatrig hŷn yn llawer uwch yng Nghymru nag yn y gwledydd cymharol. A oes rhesymau da am hyn, a pham mae’r sefyllfa hon yn bodoli? • Ymddengys fod niferoedd y gweithlu arbenigol yng Nghymru’n llawer is na’r Alban, Sweden a Chanada. A yw hyn yn effeithio ar effeithiolrwydd a chanlyniadau?


11

Cymharu CAMHS yn rhyngwladol Cynhaliodd adroddiad Rhwydwaith Meincnodi’r GIG ar CAMHS adolygiadau llenyddiaeth cychwynnol o ddata rhyngwladol a defnyddiol a ddangosodd gyfanswm cyfyngedig o ddata cymharol ar gyfer CAMHS, ac maen nhw’n adrodd wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen ei bod yn eglur bod problemau o ran ansawdd data yn dod i’r golwg yn aml. Mae Cymru'n perfformio'n wael o gymharu â gwledydd incwm-uchel eraill yn y data. Mae gan Gymru fel Seland Newydd y niferoedd isaf o welyau iechyd meddwl i bobl ifanc i bob 100,000 o’r boblogaeth. Mae gan Gymru bedwar, o gymharu â 31 yng Ngwald Belg, a rhwng wyth a deg yng ngwledydd eraill y DU.

O bosibl yn gysylltiedig â niferoedd y gwelyau sydd ar gael, gan Gymru mae’r derbyniadau isaf - 13 fesul 100,000, hanner yr hyn sydd gan y wlad gyda’r nifer isaf nesaf sef 26 gwely Gweriniaeth Iwerddon. Ar draws yr holl wledydd a gymerodd ran, y canolrif cyfartalog yw 116 a’r cymedr cyfartalog yw 105. O ran gofal yn y gymuned, adroddodd Cymru fod 2,000 o blant wedi’u gweld i bob 100,000 gan CAMHS yn y gymuned, llai na hanner y nifer a welwyd yn Lloegr a’r Alban. Roedd y cysylltiadau CAMHS cymunedol yn cynnwys cyfarfod wyneb yn wyneb ac fel arall ychydig dros 10,000 yn y flwyddyn ar gyfer Cymru, o gymharu â bron 60,000 yn Seland Newydd a 40,000 yn Sweden. Roedd Lloegr a’r Alban ychydig o dan 20,000.


12

Cymharu CAMHS yn rhyngwladol

Dangosodd cymariaethau gweithlu fod gan Seland Newydd a Sweden fwy na 100 o staff i bob 100,000 o boblogaeth berthnasol tra bod y nifer yng Nghymru yn hanner cymaint, gyda 52 aelod staff. Roedd yr Alban ar ei phen ei hun yn y DU gyda 96, o gymharu â 60 yn Lloegr.

Er i Gymru fod â’r nifer isaf o seicolegwyr clinigol (ac eithrio’r Weriniaeth Siec), nid oedd Cymru ymhell o’r cyfartaledd canolrifol a chymedrig. Fodd bynnag, roedd gan Sweden, (18 i bob 100,000 o boblogaeth) dair gwaith cymaint â Chymru sef 6 i bob 100,000. Mae Cymru’n perfformio’n well o safbwynt niferoedd staff fesul gwely, oherwydd bod nifer y gwelyau’n fach, fel y nodwyd cynt. Er mai astudiaeth o wasanaethau arbenigol yw hon, mae'r bylchau mewn darpariaeth ataliol wedi eu trafod yn fanwl gan adroddiad 'y Canol Coll' a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hynny'n pwyntio at ddiffyg gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc tan eu bod yn cyrraedd y pwynt derbyn cefnogaeth arbenigol.


13

Cymharu CAMHS yn rhyngwladol Ystyriaethau pellach: • Mae gan Gymru lai o lawer o welyau y pen o gymharu â gwledydd rhyngwladol a gwledydd y DU, a chyfradd uchel o’r defnydd a wneir ohonynt. A ddylid adolygu lefel y ddarpariaeth? • Mae nifer y plant a welir gan CAMHS cymunedol yn llawer llai nag mewn gwledydd cymharol. Beth yw’r rhesymau am hyn? A yw maint ein system yn ddigon mawr? Ai dyma pam mae’r ‘canol coll’ yn bodoli?


14

Gwasanaethau Cymraeg Yn ôl cyfrifiad 2011, mae un o bob pump bron o breswylwyr Cymru yn siarad Cymraeg, ac yn ôl Mesur yr Iaith Gymraeg y flwyddyn honno, dylid gosod dyletswyddau ar gyrff i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Fodd bynnag, ac eithrio’r ddeddfwriaeth, byddai persbectif sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn cydnabod bod canlyniadau’r gwasanaeth yn well yn iaith y defnyddiwr gwasanaethau, ac y byddai’n well ganddyn nhw dderbyn gwasanaethau yn eu dewis iaith. Mae’n hanfodol fod gan y byrddau iechyd lleol weithlu wedi’u hyfforddi sy’n gallu darparu’r gwasanaeth sy’n adlewyrchu’r iaith ddewisol. Yr ardaloedd mwyaf amlwg ar gyfer darparu gwasanaethau mewn mwy nag un iaith swyddogol yw’r rhai dwyieithog yng Nghanada. Dan yr amgylchiadau hynny, mae ymchwil yn codi pryderon ynghylch yr effaith mai anghytgord ieithyddol rhwng meddygon a chleifion yn ei chael, lle mae naws ac amwysedd wrth gyfathrebu yn gallu bod yn hynod bwysig wrth benderfynu ar ddiagnosis a darparu cymorth i ddefnyddwyr gwasanaethau. Mynegwyd pryderon gan Gomisiynydd y Gymraeg sydd newydd adael ei swydd, nad yw byrddau iechyd lleol ac eraill yn darparu cynnig gweithredol digonol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau fel y gallan nhw dderbyn gwasanaethau yn eu dewis iaith. Er y gellid rhagweld y defnydd a wneir ar wasanaethau Cymraeg mewn ardal yn ôl y defnydd o’r iaith yn y gymuned, nid yw paratoadau’r gweithlu o anghenraid yn dilyn y patrwm hwn, felly mae angen cynllunio gofalus ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau yn yr iaith briodol.

Ystyriaethau pellach: • Beth yw’r cynnig gweithredol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg ar draws yr holl sectorau (e.e. meddygon teulu, cleifion mewnol, seicolegwyr, timau iechyd meddwl cymunedol, gwasanaethau’r trydydd sector)? • Pa waith sydd ar y gweill i sicrhau bod gweithlu digon medrus yn cael eu recriwtio’n briodol a all weithio’n ddwyieithog, yn cynnwys eu hyfforddi a’u cadw? • A oes gwersi y gellir eu dysgu o gymharu’r sefyllfa â, e.e. gwasanaethau Ffranco-Ontario neu rai yn New Brunswich, Canada, a fyddai yn sgil y ddaearyddiaeth yn berthnasol ar gyfer darparu gwasanaethau gwledig?


15

Gwasanaethau mewn ieithoedd ac eithrio Saesneg Fel y nodwyd yn y cyflwyniad i’r papur hwn, y ddealltwriaeth o iechyd meddwl a fabwysiedir yng Nghymru yw’r un a fabwysiedir yng ngogledd orllewin Ewrop a gwledydd Seisnig. Mewn gwledydd a diwylliannau eraill gall dealltwriaeth a stigma gwahanol fod yn gysylltiedig â’r cysyniad o iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl. Golyga hyn fod amrywiaeth o ragdybiaethau ynghylch iechyd meddwl a bod angen i wasanaethau byrddau iechyd lleol y GIG ddiwallu’r anghenion hynny yn y gymuned, yn hytrach na rhagweld y bydd unigolion o gymunedau gwahanol yn ymateb yn gadarnhaol pan gynigir gwasanaethau iddyn nhw. Mae gan Mind Cymru ymchwil ar wasanaethau yng Nghymru ar gyfer ymfudwyr bregus yn arbennig, ond hefyd ar gyfer pobl yn y cymunedau BAME sydd ar gyrion cymdeithas, sy’n dangos fod angen gwaith estyn allan er mwyn sicrhau fod darpariaeth a phwrpas gwasanaethau iechyd meddwl wedi’u deal. Yn yr un modd â darparu gwasanaethau iaith Gymraeg, mae angen sicrhau bod digon o gymorth ar gael mewn ieithoedd heblaw am y Saesneg, a fydd yn bennaf eu hangen yn y dinasoedd mawr ble mae siaradwyr ieithoedd cynhenid heblaw’r Saesneg yn fwy tebygol o fod yn byw. Fodd bynnag mae Cymru’n brin o’r rhwydweithiau mawrion tra amrywiol y gellid eu cael mewn dinasoedd megis Llundain a Thoronto dyweder. Hwyrach y gallai’r dinasoedd hynny ddarparu awgrymiadau ar arferion gorau ond byddai’r posibilrwydd o’u gweithredu o bosibl yn fwy cymharol â dinasoedd llai sy’n agos i Gymru megis Bryste neu Lerpwl. Yng Nghymru, siaradwyr Pwyleg yw’r grŵp ieithyddol mwyaf cyffredin, gyda siaradwyr Wrdw, Bengaleg, a Tsieinëeg yn dilyn. Hefyd mae gan Gymru gymunedau sylweddol o gymunedau o Somalia, Nepal, a Chwrdistan, yn ogystal â ffoaduriaid a cheiswyr lloches o Syria a chymunedau eraill yn fwy diweddar. Gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn arbennig ddioddef o drawma ychwanegol yn sgil gwrthdaro a thrais (rhywiol), a gall fod arnynt angen mwy o gymorth dwys a thros gyfnod hwy. Mae ardaloedd dosbarthu ffoaduriaid ar draws pedair o fyrddau iechyd lleol Cymru, tra bod ffoaduriaid o Syria ar draws y wlad i gyd. Mae hyn yn dangos yr angen I sicrhau gweithredu mewn arferion gorau ymhob rhan o Gymru.


16

Gwasanaethau mewn ieithoedd ac eithrio Saesneg Ystyriaethau pellach: • Pa brosesau sydd ar waith ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth am anghenion ffoaduriaid a cheiswyr lloches? • I ba raddau y gellir defnyddio sgiliau a phrofiadau aelodau cymunedol i hyrwyddo gwell iechyd meddwl ymhlith eu cyfeillion? • A oes cyfyngiadau oherwydd stigma ynghylch iechyd meddwl, y gymuned gynhaliol a’r gymuned darged, sy’n gweithredu fel rhwystrau i gyfranogi yn y cymorth iechyd meddwl, yn cynnwys darparu cymorth a chyfieithu yn ôl yr angen? • Faint o arbenigwyr sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu’r lefel ddwys o gymorth sydd ei angen ar gyfer y grŵp hwn?


17

Cydwasanaethau Mae cydweithrediad rhwng asiantaethau yn allweddol ar gyfer llwyddiant adferiad iechyd meddwl, ond mae tensiynau wedi bod yn ffactor cyson wrth ddatblygu cynlluniau iechyd meddwl. Tybir bod strwythur integredig Gogledd Iwerddon o gomisiynu, rheoli a darparu gofal cymdeithasol yn fantais yn y sefyllfaoedd hyn, yn sgil diwylliant gwaith cyffredin. Er bod gwelliannau wedi’u gwneud o ran cyllidebau a rennir rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, gan gynnwys swyddi a rennir, gweithleoedd a hybiau lle bo’n berthnasol, mae dyblygiad yn parhau o ran swyddi a strwythurau. Mae timau iechyd meddwl cymunedol ac elusennau lleol o bosibl yn canolbwyntio’n fwy ar y gymdeithas a’r unigolyn yn eu hamcanion na’r model meddygol sy’n gysylltiedig â’r GIG, ond hwyrach y byddai parhau i symud tuag at nodau cyffredin a diwylliant o gydweithio yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad ac adferiad y claf, yn ogystal â chael gwared ar bwyntiau tensiwn, megis oedi wrth drosglwyddo gofal, cyfraddau defnydd gwelyau a chymhellion (anghymhellion) i wneud penderfyniadau penodol. Mae angen mwy o waith ar sut y gallai hyn gael ei weithredu’n llwyddiannus yng Nghymru trwy fyrddau iechyd lleol gan barhau i gynnal tryloywder penderfyniadau. Mae gan y trydydd sector gyfleoedd ar gyfer arloesi a gwaith peilot ar raddfa fach sy’n llai cyflawnadwy mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd. Gan weithio ar draws clystyrau o feddygon teulu a byrddau iechyd lleol yn ogystal â Llywodraeth Cymru a Phrifysgolion, dylai ffrydiau gwaith parhaus fod ar waith sy’n ceisio gwthio ffiniau ac arloesi, gyda phrosiectau yn cael eu cyflwyno a’u datblygu yn ôl y gofyn. Gan fod Cymru’n reit fach, mae’n weddol hawdd efelychu ac addasu arfer gorau yn rhannau eraill o’r wlad yn ôl yr angen lleol.


18

Strategaethau cyffredinol Mae datblygu a mabwysiadu strategaethau hollgynhwysol yn rhan allweddol o arfer gorau rhyngwladol, gan osod nodau ar gyfer polisi iechyd meddwl o fewn gwlad sy’n pennu dangosyddion perfformiad a threfniadau llywodraethu er mwyn sicrhau bod y rhain yn cael eu monitro a’u hasesu yn ôl y gofyn. Yng Nghymru lansiwyd y strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn 2012, gyda strategaeth ar wahân i blant a'r glasoed yn cael ei lansio’n fuan wedi hynny, a cwblhau yn hydref 2019. Cyflwynwyd adroddiad ar gynnydd ar Law yn Llaw at Iechyd Meddwl i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad fis Mehefin 2019. Mae ymgynghoriad ar gyflawni cyfnod 2019-22 strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn digwydd yn ystod haf 2019. Yn Awstralia, mae’r cynllun cenedlaethol ar gyfer mynd i’r afael â heriau iechyd meddwl yn cael ei ddiweddaru a’i adnewyddu yn gyson ers ei sefydlu ym 1993. Mae pumed cynllun cenedlaethol iechyd meddwl ac atal hunanladdiad Awstralia yn dangos y cynnydd a’r cerrig milltir ar hyd y ffordd, ochr yn ochr ag amcanion a nodau'r cynllun cyfredol. Ymhlith eraill, mae’r rhain yn cynnwys iechyd cyffredinol pobl â phroblemau iechyd meddwl a gwella diogelwch gwasanaethau iechyd meddwl. Yn benodol, mae’r cynllun cyfredol yn cynnwys cyfeiriadau penodol at iechyd meddwl ac atal hunanladdiad ymhlith Ynyswyr Brodorol a Chulfor Torres. Mae cerrig milltir blaenorol yn nodi newidiadau mewn agwedd tuag at iechyd meddwl ymhlith darparwyr gwasanaethau - yn cynnwys y newid o fesur proses i fesur canlyniadau a chryfhau atebolrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae cyflawni gwasanaeth da, penderfyniadau da a chanlyniadau da yn dibynnu ar gasglu a dadansoddi data dibynadwy. Fel y dengys y swm cyfyngedig o ddata cymharol rhyngwladol ar wasanaethau iechyd meddwl, mae prinder cyffredinol o ddata sy’n ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl. Yn dilyn galwadau gan Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru (WAMH), bydd gwell data yn cael ei gasglu yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyhoeddi setiau data newydd o 2022 ymlaen a bydd setiau data interim ar gael. Fodd bynnag, mae’r setiau data yma wedi’u hoedi’n fawr. Y gobaith yw y bydd gwell data yn taflu goleuni ar lwybrau cleifion drwy’r system, yn cynnwys y materion cyffredin sy’n berthnasol i bawb sy’n dod i mewn i’r system yn chwilio am gymorth, y canlyniadau


19

Strategaethau cyffredinol mwyaf cadarnhaol a’r gwersi y gellir eu dysgu er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i gleifion, lleihau niferoedd sy’n dychwelyd a chreu gwasanaethau cynaliadwy ac effeithlon. Yn hanesyddol, mae’r data a gasglwyd wedi canolbwyntio ar amserau aros am ddiagnosis a’r driniaeth gyntaf, a’r sylw’n canolbwyntio ar hynny. Mae hyn yn cynhyrchu tybiaeth waelodol y ceir triniaeth effeithiol a llwyddiannus ar ôl pob diagnosis a thriniaeth, ac y bydd yn arwain at ganlyniad llwyddiannus. Mae’n amlwg nad hyn yw’r achos, a bod yr amser aros am ddiagnosis a thriniaeth yn ddim ond dechrau’r broses. Mae targedau amserau aros wrth gwrs yn rhywbeth i’w croesawu – yn enwedig pan ddarperir cymorth prydlon i bawb mewn angen, ond dylent hefyd gydnabod y gwahaniaeth rhwng pobl sydd mewn sefyllfa o argyfwng sydd angen cymorth brys a phobl ag angen sylweddol, ond lle nad yw triniaeth a chymorth efallai yn gymaint o achos brys. Dylid cael llwybrau priodol i bob claf sy’n cyflwyno pryderon am eu hiechyd meddwl. Yn enwedig yn achos CAMHS arbenigol cafwyd nifer helaeth o dystiolaeth anecdotaidd am ‘borthorion’ yn hysbysu darpar ddefnyddwyr gwasanaethau eu bod yn anghymwys i dderbyn cymorth oherwydd nad ystyrir eu symptomau penodol yn ddigon difrifol i warantu triniaeth, gan fethu ag atgyfeirio ymlaen at gymorth priodol ar gyfer eu sefyllfa bresennol. Mae’r agwedd hon wedi gwneud llawer o bobl ifanc mewn angen yn rhwystredig, yn enwedig os ydyn nhw wedi bod yn aros am gymorth ers cryn amser. Mae’r pryderon hyn wedi bod wrth wraidd cwynion ‘Canol Coll’ y bu i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ei archwilio yn eu hadroddiad yn 2018. Mae angen defnyddio’r un agwedd tuag at oedolion, gyda Meddygon Teulu yn ymwybodol o’r llwybrau trin gwahanol a llwybrau i gleifion wrth wneud diagnosis, gan sicrhau fod eu cleifion wedi derbyn y wybodaeth hefyd yn hytrach na mabwysiadu sefyllfa o droi at fferylliaeth a sicrhau bod eu cleifion yr un mor wybodus. Mae angen gweithlu hyfforddedig da i ymdrin â heriau iechyd meddwl yn llwyddiannus, gweithlu a all roi amser a chymorth personol. Oherwydd ei natur, mae’n adnodd sy’n galw am lawer o oriau o ran y gweithlu, ac felly’n ddrud o ran buddsoddiad. Mewn oes o ‘ofal iechyd darbodus’, arweinir defnyddwyr gwasanaethau gydag anghenion llai dwys tuag at lyfrau neu wasanaethau cymorth arlein a gall hyn leihau’r galw am staff gwasanaeth. Cafwyd canlyniadau da gan raglen monitro gweithredol Mind (Active Monitoring), a


20

Strategaethau cyffredinol dreialwyd mewn nifer o glystyrau o Feddygon Teulu ar draws Cymru ac a fwriadwyd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau gyda symptomau isel neu gymedrol, e.e. o iselder neu bryder, i’r sawl a oedd wedi cwblhau’r cwrs ond wrth gwrs nid oes data ar gael ar gyfer y sawl nad oedd wedi mynychu neu gyflawni 5 sesiwn y rhaglen.


21

Iechyd meddwl menywod Mae’r profiad o feichiogrwydd a dod â bywyd newydd i’r byd yn un o brif achlysuron bywyd. Mae’r amcangyfrifon am nifer y menywod a effeithir gan broblemau iechyd meddwl amenedigol yn amrywio’n fawr o nifer reit fach sy’n dioddef o seicosis ôl-enedigol i nifer reit fawr o famau, sy’n profi symptomau llai difrifol. Ar ôl cau uned Arbenigol y Fam a’i baban yng Nghaerdydd, datblygwyd gwasanaethau amgen ar draws Cymru. Dadleuwyd nad oedd parhau’r gwasanaethau arbenigol yng Nghymru yn gost effeithiol ar gyfer cyn lleied o gleifion, ond mewn adroddiadau yn 2017 dywedwyd mewn nifer o achosion nad oedd mamau yn awyddus i gael cymorth amgen yn Lloegr oherwydd y pellter oddi wrth eu teuluoedd a’u rhwydweithiau cymorth cymdeithasol. Tybir nad oes cyfleusterau iaith Gymraeg ar gael yn yr ysbytai yn Lloegr. Crëwyd treialon cymorth iechyd meddwl trwy grwpiau mam a’i baban, a sesiynau hyfforddi’r hyfforddwr er mwyn datblygu’r cymorth gan Mind Cymru gan ddefnyddio incwm grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy a64 Llywodraeth Cymru. Cawsant werthusiad cadarnhaol yn cynnwys gyda mamau nad ydynt yn siarad Saesneg o’r gymuned o fewnfudwyr Pwylaidd yn Wrecsam. Nod y cyrsiau oedd hyrwyddo cydnerthedd i famau neu ddarpar famau oedd â symptomau cymedrol. Mae mwy a mwy yn cydnabod bod yna nifer is o ddynion hefyd yn dioddef o iselder ôl-enedigol.


22

Iechyd meddwl dynion Cofnodwyd yn Arolwg Iechyd Cymru a fu ar waith tan 2014, ac Arolwg Morbidrwydd Iechyd Meddwl Oedolion Lloegr fod dynion yn llai tebygol na menywod o adrodd am eu problemau iechyd meddwl. Nid yw’n eglur a oes rheswm biolegol am hyn, a bod dynion yn llai tebygol o gael symptomau iechyd meddwl gwael, neu ai ymateb cymdeithasol ydyw lle mae ffactorau’n cyfateb fel bod dynion yn llai tebygol o adrodd am y symptomau hyn. Gall yr olaf ohonynt fod oherwydd ‘gwrywdod gwenwynig’, yr agwedd ‘nid yw bechgyn yn crio’ lle nad oes croeso i fechgyn ddangos eu hemosiwn neu eu gwendid, ond hefyd diffyg profiad o leoliadau meddygol neu ddiffyg deallusrwydd emosiynol ac o safbwynt iechyd meddwl sy’n golygu nad ydyn nhw’n adnabod symptomau ac felly’n mynd i ofyn am gymorth. Beth bynnag, er bod dynion yn ganran lai o’r boblogaeth sy’n mynd i ofyn am gymorth, maen nhw’n fwyafrif sylweddol o hunanladdiadau cyflawnedig. Yn y DU, fel rheol maen nhw’n cyfateb i dri chwarter y marwolaethau blynyddol o hunanladdiad (tua 75%), ond yn ddiweddar yng Nghymru mae’r ffigur wedi bod mor uchel ag 83. Gellir dadlau bod y niferoedd hyn yn gamarweiniol oherwydd bod llai o farwolaethau menywod yn sgil hunanladdiad gan fod yna bellach reoliadau mwy llym ar werthu tabledi sy’n wenwyn o gymryd gorddos ohonynt. Mae hunanladdiad cwblhedig fynychaf ymhlith dynion ifanc ac yn ystod canol oed cynnar. Ansicrwydd pellach o ran iechyd meddwl dynion yw a yw’r symptomau yn cael eu dehongli’n gywir ac a yw ymddygiad rhai dynion, yn enwedig dicter ofnadwy neu nihiliaeth, o bosibl yn symptom o broblem iechyd meddwl sy’n cael ei hanwybyddu am nad yw’n cyfateb i gysyniadau traddodiadol pobl o’r ‘tawelwch’ arferol sy’n gysylltiedig ag iselder neu orbryder. Gall ystyriaethau ar gyfer gwella iechyd meddwl dynion gynnwys hyrwyddo deallusrwydd iechyd meddwl yn y mannau lle mae dynion yn draddodiadol yn eu mynychu, normaleiddio trafodaethau ynghylch iechyd meddwl mewn lleoliadau anfeddygol a defnyddio teulu a ffrindiau beth bynnag eu rhyw, i hyrwyddo cymorth, yn arbennig ar adegau o argyfwng, pan fo perthynas yn chwalu, neu mewn sefyllfa o golli gwaith. I rai dynion, mae’r sefydliadau a’r iaith sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn gallu bod yn rhwystr iddyn nhw ofyn am gymorth. Mae natur sefydliadol Addysg Uwch yn arbennig yn gallu tynnu sylw at iechyd meddwl gwael ymhlith dynion ifanc, ond mae’n debygol y bydd dynion ifanc gyda chyrhaeddiad addysgol isel sy’n byw yn eu cymuned yn fwy tebygol o ddioddef iechyd meddwl gwael oherwydd eu hamgylchiadau a’u cyfleoedd cyfyngedig, yn ogystal â’r rhwydweithiau


23

Iechyd meddwl dynion cymorth llai amlwg, yn enwedig os cawsant eu labelu yn negyddol yn y gorffennol am ba bynnag reswm. Golyga hyn bod gwell darpariaeth o gymorth gweladwy ac anfeirniadol mewn cymunedau yn anghenraid. Mae dynion yn fwy tebygol o fod wedi bod yn aelodau o’r lluoedd arfog, gydag effeithiau seicolegol eu hyfforddiant, eu profiad o faes y gad ac ail-addasu i fywyd fel aelod o’r gymdeithas sifil. Mae cymorth arbenigol cymesur parhaus o bosibl dros gyfnod estynedig o amser yn ofynnol er mwyn darparu rhwyd ddiogelwch ar gyfer yr unigolion a’r grwpiau hyn. Nododd astudiaethau peilot y GIG ar PTSD ymhlith cyn-aelodau yng Nghymru a Lloegr fod llawer o gyn-filwyr yn dioddef yn sgil eu profiadau ond nad yw cymorth bob amser yn hawdd ei gael. Trwy ymgysylltu ag elusennau cyn-filwyr a’r GIG, mae’n gwneud synnwyr i ddatblygu cymorth seicolegol yn benodol ar gyfer pobl a gafodd y profiadau hyn, ar wahân i lwybrau cymorth iechyd meddwl prif ffrwd. Ystyriaethau pellach: • Beth ellir ei wneud i gynyddu cyfranogaeth dynion mewn gweithgareddau ynghylch eu hiechyd meddwl eu hunain, yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o gymryd eu bywyd eu hunain? • Pa elfennau o ofal a chymorth iechyd meddwl ellir ei gyfeirio’n well tuag at iechyd meddwl dynion gan helpu i drechu tueddiadau diwylliannol a’r stigma tuag at broblemau iechyd meddwl? • Sut gall partneriaethau gydag elusennau cyn-filwyr a grwpiau eraill helpu i arwain at lwybrau gofal iechyd meddwl sy’n benodol i filwyr?


24

Ystyriaethau pellach Arbenigwyr trwy brofiad Mae defnyddwyr gwasanaethau a fu neu sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn arbenigwyr trwy brofiad a dylai eu llais gael ei glywed yn glir wrth lywio neu adolygu gwasanaethau cyfredol neu rai’r dyfodol. Gall tensiynau godi rhwng penderfyniadau meddygol arbenigol a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau. Mae hyn yn gwneud cyfathrebu yn fater pwysig wrth drafod gydag unigolion, yn ogystal ag ar lefel fwy cyffredinol gyda grwpiau cyfeirio o ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n arbenigwyr trwy brofiad a all ddarparu adborth ar gynllun y gwasanaeth. Gall ffocws ar brofiad defnyddwyr gwasanaethau daflu goleuni ar faterion eraill yn hytrach na’r rhai sy’n ymwneud â’r meysydd meddygol. Gall hyn gynnwys lleoliadau hygyrch priodol ar gyfer triniaeth oherwydd argaeledd neu ddiffyg argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus, amserau priodol ar gyfer apwyntiadau i leihau nifer y cyfarfodydd a gollwyd neu ffyrdd o atgoffa am apwyntiadau, gofynion neu gyfleoedd am gymorth gan gyfeillion a gweithgareddau cymdeithasol a sicrhau gwasanaeth sy’n gyffredinol yn canolbwyntio ar y person. Gofalwyr Mae’n bwysig darparu digon o gymorth i ofalwyr, o ran eu hiechyd meddwl eu hunain a hefyd o ran yr arbedion mae gofalwyr yn eu cyflawni i’r GIG yn gyffredinol. Mae sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cyfeirio’n briodol at wasanaethau cymorth a chael asesiad personol yn gallu bod yn rhan hanfodol o gynnal gwasanaethau gofal cymunedol. Mae gwasanaethau cymorth gofalwyr y tu hwnt i gwmpas y papur hwn, ond gall gael effaith gref ar gyflawni gwasanaethau iechyd meddwl. Anhwylderau bwyta Yn y blynyddoedd diwethaf gwelwyd mwy o ffocws ar broblemau iechyd meddwl yn ymwneud ag anhwylderau bwyta, yn cynnwys cyllid ychwanegol o ganlyniad i gytundeb cyllidebol gwleidyddol. Yn ystod 2018 cyflawnwyd adolygiad triniaeth o wasanaethau yng Nghymru. Nid yw’r adroddiad terfynol wedi’I gyhoeddi eto, ond mae ymchwil gan Brifysgol Abertawe yn awgrymu fod 90% o ddiagnosisau o ddata gan feddygon teulu ac achosion o fynd i'r ysbyty fel mewnglad yn fenywod, a bod 6% o gleifion anorexia nervosa yn marw o fewn 15 mlynedd o ddiagnosis, ac felly’n llawer fwy tebygol o farw na’r grwpiau rheoli. Mae angen rhagor o ddata ar y gwasanaethau hyn mewn cyd-destun rhyngwladol.


25

Casgliadau Ar lefel fyd-eang, mae Cymru yn un o’r gwasanaethau iechyd meddwl sy’n perfformio orau, ar sail cysyniad diwylliannol clir o iechyd meddwl a buddsoddiad. Serch hynny, o gymharu Cymru â charfan o wasanaethau iechyd meddwl mewn gwledydd incwm uchel eraill, mae Cymru’n perfformio’n wael ar nifer o ddangosyddion, yn enwedig o ran y gweithlu, y defnydd o welyau a chysylltiadau iechyd meddwl cymunedol. Ar sail y wybodaeth hon, argymhellir cwestiynau ac ystyriaethau pellach trwy gydol y papur a all daflu goleuni ar rai o’r ystadegau a gyhoeddwyd a chymariaethau â gwasanaethau a ddarperir gan wledydd incwm uchel eraill. Yn aml bydd ystadegau iechyd meddwl a gyhoeddir wedi’u hanelu at dargedau mesuradwy e.e. amserau aros neu fewnbynnau, yn hytrach na chanlyniadau. Mae angen newid pwyslais fel bod cymorth a thriniaeth yn cael eu cydnabod fel materion sy’n canolbwyntio ar y person ac mai’r arbenigwr trwy brofiad yw’r person mwyaf priodol i bennu a fu triniaeth a gawsant yn llwyddiannus neu effeithiol neu beidio, wrth gydweithio â’r sawl sy’n darparu’r cymorth. Yn y pen draw, ni chyflawnir hyn tan y bydd gwell deialog yn cael ei chynnal gyda defnyddwyr gwasanaethau, ac ymgyrch barhaus i wella o fewn y sector iechyd meddwl.


26

Nodiadau


27


28

Cyhoeddir gan Helen Mary Jones AC

Published by Helen Mary Jones AM

Cysylltwch

Get in touch

Ysgrifennwch: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Write to: National Assembly for Wales, Cardiff Bay, CF99 1NA.

E-bost: helenmary.jones@ cynulliad.cymru

Email: helenmary.jones@ assembly.wales

Ffoniwch y Swyddfa: 0300 200 6565

Phone the office: 0300 200 6565

Talwyd am yr adroddiad This report has been funded hwn gan Gynulliad by the National Assembly Cenedlaethol Cymru ac for Wales and printed by the argraffwyd gan Uned Gopio Assembly’s Copy Unit. www.comisiynyddygymraeg.cymru/hybu y Cynulliad.

Profile for Plaid Cymru

Meddwl am iechyd meddwl  

Adroddiad gan Dr Ian Johnson yn cymharu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru â chymaryddion iechyd meddwl rhyngwladol. Comisiynwyd gan Hel...

Meddwl am iechyd meddwl  

Adroddiad gan Dr Ian Johnson yn cymharu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru â chymaryddion iechyd meddwl rhyngwladol. Comisiynwyd gan Hel...

Advertisement