Page 1

Polisi Ynni i Gymru – Deall yr Heriau Papur trafod a gomisiynwyd gan Leanne Wood AC a Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad.


Rhagarweiniad Mae’r maes ynni yn un hynod ddadleuol. Ar adeg pan yr ydym fel cymdeithas wedi dod yn fwyfwy dibynnol ar ynni ar gyfer pob agwedd ar ein bywydau bob dydd, mae wedi dod yn amlwg bod y ffynhonnell ynni a fu’n gyffredin ers y chwyldro diwydiannol, sef tanwyddau ffosil, bellach yn gyfyngedig, a bod yr amgylchedd yn cael ei niweidio yn sgil defnydd cynyddol ohonynt. Mewn egwyddor, mae gofynion polisi ynni gwlad yn gymharol syml: sicrhau ffynonellau o gyflenwadau ynni diogel am bris fforddiadwy ar gyfer defnyddwyr preswyl a busnesau/sefydliadau, gan wneud hynny, hyd y bo modd, mewn ffordd sy’n dderbyniol o safbwynt yr amgylchedd. Fodd bynnag, mae’r nod hwn yn un anodd i’w gyflawni, ac mae ganddo oblygiadau sylweddol a sylfaenol ar gyfer llwyddiant unrhyw economi a chymdeithas, nid yn unig o safbwynt darparu ynni, ond hefyd o safbwynt bod yn sylfaen i ganlyniadau economaidd a chymdeithasol ehangach. Felly, mae’n rhaid i bolisi ynni sicrhau cydbwysedd rhwng egwyddorion a nodweddion ymarferol. O ganlyniad, mae’r pwnc hwn yn un eang iawn, ac mewn rhai meysydd, yn enwedig effaith economaidd prosiectau ynni, mae’n anodd dod o hyd i wybodaeth. Oherwydd hynny, nid yw’r gwaith ymchwil hwn yn honni i fod yn gynhwysfawr, a’i brif nod yw cyflwyno’r sefyllfa bresennol o safbwynt ynni yng Nghymru. Hyd y bo modd, mae hefyd yn ceisio darparu trosolwg cryno o’r sefyllfa ryngwladol a thueddiadau’r dyfodol o safbwynt ynni, cyn mynd ati i ddisgrifio’r dewisiadau polisi sydd ar gael (neu a ddylai fod ar gael) i wella’r sefyllfa bresennol ym maes cyflenwi ynni yng Nghymru a’r galw amdano. Mae’r gwaith hefyd yn ceisio egluro’r canlyniadau economaidd ac amgylcheddol posibl sy’n deillio o ddewisiadau polisi o’r fath. Mae buddsoddi mewn ynni a mentrau polisi yn brosiectau hirdymor o ran natur yn aml iawn. Felly mae’n gwbl resymegol datblygu polisi ynni sy’n ceisio ystyried pa fath o fodel ynni sy’n addas i Gymru yn yr hirdymor, sut y byddem yn ceisio cyrraedd y nod, pa bwerau fyddai eu hangen ar Lywodraeth Cymru i weithredu polisïau o’r fath, ac asesu pa faterion etifeddol (gydag enghraifft bwerus y diwydiant glo) a allai ddeillio o unrhyw bolisi ynni cyfredol ac arfaethedig ar gyfer Cymru. Mae Cymru hefyd yn allforiwr trydan pwysig, a rhaid ystyried i ba raddau y gallai neu y dylai Cymru ddefnyddio ei hadnoddau naturiol i gynhyrchu trydan ychwanegol i’w allforio, ac effaith hynny ar economi Cymru. Gydag eithriad posibl ffracio a/neu fethan gwely glo, mae’n ymddangos yn annhebygol y bydd Cymru yn cynhyrchu llawer o danwydd ffosil yn y dyfodol agos. Ychydig iawn o danwydd ffosil sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, tra bod potensial sylweddol i gynhyrchu trydan. Mae’n debyg mai cynhyrchu trydan yw’r ffordd gynhenid fwyaf tebygol o fodloni gofynion ynni Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Madoc Batcup

2


Y sefyllfa ynni bresennol yng Nghymru a’r DU. Mae’r broses o gynhyrchu a defnyddio ynni yng Nghymru wedi’i hintegreiddio i raddau helaeth iawn i broses y DU yn ei chyfanrwydd. Mae’r pwyntiau allweddol ar ddechrau Crynhoad yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd o Ystadegau Ynni’r DU1 yn crynhoi cyd-destun y sefyllfa bresennol o safbwynt ynni yn y DU. •

Yn 2011, cynhyrchwyd 13.2 y cant yn llai o ynni na’r flwyddyn flaenorol yn y DU. Dyma’r gostyngiad mwyaf ers dros 40 mlynedd wrth i nifer o gyfleusterau cynhyrchu olew a nwy gael eu heffeithio gan broblemau gwaith cynnal a chadw.

Cafwyd gostyngiad o 6.9 y cant yn y defnydd o ynni sylfaenol a gostyngiad o 7.3 y cant yn y defnydd o ynni terfynol ar gyfer gwresogi (mae rhagor o fanylion ar gael yn Energy Consumption in the UK

www.decc.gov.uk/en/content/cms/statistics/publications/ecuk/ecuk.aspx •

Ar sail addasu tymheredd, cafwyd gostyngiad o 1.7 y cant yn y defnydd o ynni sylfaenol, gan barhau â’r duedd ar i lawr dros y chwe blynedd diwethaf. Yn 2011, roedd y tymheredd cyfartalog yn y DU yn 10.7 gradd Celsius, sy’n 1.8 gradd yn uwch nag yn 2010, a 1.0 gradd yn uwch na’r tymheredd cyfartalog rhwng 1971 a 2000.

Roedd y DU yn parhau i fod yn fewnforiwr net o ynni, gyda’i lefel ddibyniaeth yn codi i 36 y cant. Mathau o danwydd ffosil yw’r brif ffynhonnell o hyd (87.5 y cant o gyfanswm y cyflenwad), er mai’r lefel hon yw’r isaf erioed. Cynyddodd y cyflenwad o ynni adnewyddadwy, ac roedd ei gyfraniad yn gyfrifol am 3.8 y cant o’r defnydd ar sail a gytunwyd gan yr UE.

Defnyddiwyd llai o nwy i gynhyrchu trydan yn 2011, ond cynyddodd cynnyrch glo a niwclear a chynnyrch ynni adnewyddadwy, gyda chynnydd sylweddol mewn ynni gwynt a dŵr.

Er bod y pwyntiau hyn yn tanlinellu’r ffaith fod cyfanswm yr ynni a gynhyrchir ac a ddefnyddir wedi gostwng yn ddiweddar, nid ydynt yn egluro sut mae’r system ynni yn y DU wedi’i gweddnewid dros y degawdau diwethaf na pha heriau y gellir eu disgwyl yn y dyfodol. Mae’r gymysgedd ynni yn y DU wedi newid yn sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf, ac mae taflen ffeithiau’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd,                                                                                                                       1

https://www.gov.uk/government/publications/digest-of-united-kingdom-energy-statistics-dukes-2012-printed-

3


‘Energy consumption in the United Kingdom: 2012’2 yn dangos hyn yn glir. Fel y nodir ar dudalen 5 o’r ddogfen, “Overall energy consumption increased by 2.3 million tonnes of oil equivalent (2 per cent) between 1990 and 2010. Over this time energy consumption by the industry sector fell by nearly one third (11 million tonnes of oil equivalent) and the services sector by 5 per cent (1 million tonnes of oil equivalent) in contrast the transport and domestic sectors saw increases of 6.5 and 7.7million tonnes of oil equivalent (13 per cent and 19 per cent) respectively.” Yn wir, mae’n nodi bod lefel yr ynni sylfaenol a ddefnyddiwyd yn 2011 yn debyg i’r lefel ym 1985, ac roedd 5 y cant yn is nag ym 1990 a 3 y cant yn is nag ym 1970.

Siart 1: Cyfanswm defnydd ynni sylfaenol, heb ei addasu a’i gywiro o ran tymheredd, y DU, 1970 tan 2011, 3 Thousand tonnes of oil equivalent – Miloedd o dunellau cyfwerth ag olew Unadjusted primary energy consumption – Defnydd o ynni sylfaenol heb ei addasu Temperature corrected primary energy consumption – Defnydd o ynni sylfaenol wedi’i gywiro o ran tymheredd Source: DECC, ECUK Table 1.1 – Ffynhonnell: DECC, ECUK Tabl 1.1 Ym 1970, roedd 90% o ffynhonnell ynni sylfaenol y DU yn dod o danwydd solet (glo yn bennaf) a phetroliwm, ac roedd 5% yn dod o nwy. Erbyn 2011, roedd cyfraniad glo wedi gostwng i 15% yn unig, ac roedd nwy a phetroliwm yn cyfrannu tua 35% yr un.                                                                                                                       2

https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/190618/chapter_1_overall_energ y_consumption_in_the_uk_factsheet.pdf 3 https://www.gov.uk/government/publications/digest-of-united-kingdom-energy-statistics-dukes-2012-printedversion-excluding-cover-pages

4


Roedd y gweddill yn dod o fio-ynni a thrydan adnewyddadwy ac ati. Mae trydan yn gyfrifol am ddim mwy na rhyw 18.5% o ddefnydd ynni terfynol4, gyda phetroliwm yn gyfrifol am tua 48% a nwy am bron i 30%. Mae hyn yn ystyried y tanwyddau ffosil a ddefnyddir i gynhyrchu trydan. Er bod y lefel wedi cynyddu’n sylweddol ers y 1970au, llai nag 20% o ofynion ynni’r DU a fodlonir gan drydan, tra bod cyfartaledd o 45% o ddefnydd ynni terfynol yn yr un cyfnod wedi dod o betroliwm.

Siart 2: Defnydd Terfynol o Ynni 2011, graff 1.5 o DUKES t.15 5

by user – fesul defnyddiwr Iron and steel industry 1% – Diwydiant haearn a dur 1% Other industries 17½% - Diwydiannau eraill 17½% Transport sector 37½% – Sector trafnidiaeth 37½% Domestic sector 26½% - Sector domestig 26½% Other final users¹ 11½% - Defnyddwyr terfynol eraill¹ 11½% Non-energy use 6% - Defnydd heblaw ynni 6%                                                                                                                       4

Gweler Siart 1.5 DUKES https://www.gov.uk/government/publications/digest-of-united-kingdom-energy-statistics-dukes-2012-printedversion-excluding-cover-pages   5

5


by fuel – fesul tanwydd Other² 4½% - Arall² 4½% Electricity 18½% - Trydan 18½% Natural gas 29½% - Nwy naturiol 29½% Petroleum 48% - Petroliwm 48% Mae’r defnydd o ynni yn y DU wedi aros yn ei unfan i raddau helaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf a mwy, yn bennaf oherwydd bod llai o alw amdano gan ddiwydiant. Serch hynny, mae’r sectorau domestig a thrafnidiaeth wedi defnyddio mwy o ynni, ac er bod cyfraniad glo wedi lleihau’n sylweddol ac wedi’i ddisodli gan nwy, mae trydan yn parhau i fod yn gyfrifol am lai nag 20% o ddefnydd terfynol. Wedi dweud hynny, bu’r duedd ar i fyny yn raddol ers canol y 1980au, ond cafodd y duedd honno ei gwrthdroi’n sylweddol gan y dirywiad cyfredol. Mae’r sefyllfa yng Nghymru yn debyg iawn, er bod cyfran uwch o danwydd wedi’i weithgynhyrchu sy’n gyfrifol am tua 10% o ddefnydd tanwydd. Pwysigrwydd y diwydiant dur yng Nghymru sy’n gyfrifol am hyn fwy na thebyg, gan ei fod yn cynnwys nwy ffwrnais chwyth6, a bio-ynni a gwastraff - gweler ‘Ynni yng Nghymru – trosolwg ystadegol’ gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd a gyflwynwyd yn 7fed cynhadledd RenewableUK Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 1 Mai 20137, (‘Ynni yng Nghymru’).

                                                                                                                      6

Tanwydd wedi’i weithgynhyrchu – yn ôl diffiniad DUKES, mae’n cynnwys tanwyddau solet wedi’u gweithgynhyrchu fel golosg a brîs, mathau eraill o danwydd solet wedi’u gweithgynhyrchu, hylifau fel bensol a mathau o dar a nwyon fel nwy ffwrn golosg a nwy ffwrnais chwyth. 7 http://www.renewableuk.com/en/utilities/document-summary.cfm?docid=48403C48-3C36-4AA09AC149AECF197EA9

6


Siartiau 2 a 3: Defnydd o Ynni yng Nghymru yn ôl Tanwydd a Chyfran o Ddefnydd y DU yng Nghymru, Ynni yng Nghymru, sleid 58 Energy consumption in Wales, by fuel – Defnydd o ynni yng Nghymru yn ôl tanwydd Coal – Glo Manufactured fuels – Tanwyddau wedi’u gweithgynhyrchu Petroleum products – Nwyddau petroliwm Gas – Nwy Electricity – Trydan Bioenergy & Waste – Bio-ynni a Gwastraff Proportion of UK consumption occurring in Wales – Cyfran o Ddefnydd y DU sy’n digwydd yng Nghymru % consumed in Wales - % a ddefnyddiwyd yng Nghymru Coal – Glo Manufactured fuels – Tanwyddau wedi’u gweithgynhyrchu Petroleum products – Nwyddau petroliwm Gas – Nwy Electricity – Trydan Bioenergy & Waste – Bio-ynni a Gwastraff Bydd angen i bolisi ynni Cymru yn y dyfodol ystyried pwysigrwydd parhaus petroliwm a nwy fel ffynonellau ynni. Bydd angen rhoi camau gweithredu radical ar waith i leihau dibyniaeth ar y ddau danwydd sy’n bodloni tua 80% o anghenion ynni, yn y sector trafnidiaeth (fel cyflwyno ceir trydan), yn y sector diwydiannol drwy ddefnyddio trydan yn hytrach na nwy ar gyfer rhai prosesau diwydiannol, ac yn y sector domestig wrth ddefnyddio ynni ar gyfer gwresogi a choginio. Mae’n annhebygol y bydd Cymru yn canfod unrhyw symiau sylweddol o danwyddau ffosil sy’n hyfyw yn economaidd ac yn amgylcheddol yn y dyfodol agos. Bu honiadau sylweddol ynghylch nwy siâl a’i botensial yn y DU, yn enwedig o ystyried y symiau enfawr sy’n cael eu hechdynnu yn yr Unol Daleithiau drwy ffracio. Fodd bynnag, mae echdynnu nwy siâl yn Ewrop yn debygol o fod yn fwy anodd9. Mae dwysedd                                                                                                                       8

9

Ibid

http://www.ft.com/cms/s/0/53328f06-ac1d-11e2-a063-00144feabdc0.html#axzz2SiNl3C00

7


poblogaeth y DU yn debygol o wneud y prosesau hyn hyd yn oed yn fwy dadleuol nag y maent yn UDA10, ac mae ffynhonnau’n gwacáu’n gyflym gan olygu bod angen tyllu ffynhonnau lluosog. Mae pryder mawr11 bod echdynnu nwy siâl drwy ffracio yn cael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd, hynny yn sgil llygredd dŵr, y mathau o gemegau a ddefnyddir i ffracio creigiau â nwy yn fwy effeithiol, yr holl ddŵr sydd ei angen ar gyfer y broses a sut i’w waredu ac ati. Yn dilyn y digwyddiad seismig yn Preese Hill ger Blackpool, mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi pwyso a mesur effeithiau ffracio. Mewn datganiad diweddar gan y Gweinidog,12 daeth yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd i’r casgliad bod modd caniatáu ffracio o hyd yn amodol ar rai camau diogelu penodol. Mae’n ymddangos bod llai o sylw wedi’i roi i’r seilwaith sydd ei angen i ddosbarthu’r nwy ar ôl ei echdynnu. Mae rhai amcangyfrifon yn ymwneud â nwy siâl yng Nghymru wedi bod yn gymharol ffyddiog, ond mewn un achos,13 diffiniwyd y cyfle o safbwynt gofynion ynni’r DU, nid gofynion Cymru. Yn ôl yr amcangyfrif hwn, bydd nwy siâl De Cymru yn para am 16 mlynedd, ond byddai’n para tua 20 gwaith yn fwy pe bai’n bodloni gofynion Cymru yn unig. Oherwydd yr holl resymau uchod, nid yw potensial echdynnu nwy siâl yn glir, ac mae amheuaeth ynglŷn ag effaith echdynnu nwy siâl ar yr amgylchedd. Mae’n rhy gynnar o lawer i ystyried nwy siâl yn elfen bwysig o ofynion ynni Cymru. Y ffynhonnell arall o nwy tanwydd ffosil a allai fod ar gael i Gymru, ac sy’n cael ei gysylltu’n aml â ffracio, yw methan gwely glo (CBM), sy’n defnyddio dull tebyg i echdynnu nwy naturiol o wythiennau gwely glo. Gallai hyn gynnig potensial ychwanegol o ystyried bod cymaint o’r adnoddau hyn ar gael, yn enwedig yn y De. Mae’r adnoddau hyn wedi bod yn cael eu hystyried ers nifer o flynyddoedd, ond yn ddiweddar buont yn destun arfarniad masnachol sylweddol. Dull arall o echdynnu nwy o wythiennau glo yw Nwyeiddio Glo Tanddaearol (UCG), sy’n golygu llosgi glo dan ddaear. Gan fod y glo yn cael ei hylosgi’n rhannol yn unig, mae’r broses hefyd yn rhyddhau nwy y gellir ei ddefnyddio i’w gasglu ar y wyneb. Cyflwynwyd ceisiadau yn ddiweddar i ddefnyddio’r dull hwn yng Nghymru.14 Mae’r dulliau amrywiol yn cael eu hegluro ar wefan Frack-Off sy’n trafod methan gwely glo15 ac UCG16. Mae nifer sylweddol o geisiadau wedi’u cyflwyno i fanteisio ar yr adnoddau hyn yn y DU, ac mae sawl un yn cynnwys ardaloedd eang ym maes glo’r De. Mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi cyhoeddi dogfen faith yn egluro potensial defnyddio adnoddau hydrocarbon anghonfensiynol basnau ar dir Prydain yn y DU17, sydd hefyd yn dangos yr ardaloedd lle mae trwyddedau wedi’u rhoi. Fodd bynnag, mae modd                                                                                                                       10

http://shalebubble.org/

11

Gweler, er enghraifft, adroddiad gohebydd Gwyddoniaeth y BBC http://www.bbc.co.uk/news/scienceenvironment-20595228, sy’n ystyried nifer o’r materion perthnasol, neu’r wefan http://shalebubble.org sy’n egluro pryderon y rhai sy’n gwrthwynebu ffracio. 12 https://www.gov.uk/government/speeches/written-ministerial-statement-by-edward-davey-exploration-forshale-gas 13 http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2013/03/07/shale-gas-under-south-wales-could-poweruk-for-16-years-91466-32944247/#ixzz2MzdItZTS 14 http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/oil-industry-expert-reveals-plans-3867952 15 http://frack-off.org.uk/coal-bed-methane-the-evil-twin-of-shale-gas 16 http://www.groundtruthtrekking.org/Issues/AlaskaCoal/UndergroundCoalGasification.html 17 https://www.og.decc.gov.uk/UKpromote/.../Promote_UK_CBM.pdf

8


dangos y rhain yn fwy hwylus ar ffurf map, ac mae gwefan Frack-Off yn cynnwys cyfeiriadau a gwybodaeth fwy penodol.18 Mae cyfrifoldeb am gyhoeddi trwyddedau o’r fath yn perthyn i’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd, ac i ryw raddau’r Awdurdod Glo (corff gweddilliol y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Swydd Nottingham sy’n gorff cyhoeddus anadrannol (NDPB) a noddir gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd): “The 1994 Coal Industry Act clarified that the ownership of methane did not rest with the Coal Authority. As a petroleum product, the crown owns the methane associated with coal and the rights to the gas are regulated by DECC under the Petroleum Act 1998. DECC Oil and Gas Division licence exploitation by means of onshore Petroleum Licences generally issued in "rounds". More information on this process and the location of existing licenses can be accessed on the DECC web site at www.og.decc.gov.uk Whilst DECC is the licensing body for methane the consent of the Coal Authority is required before any works take place that intersect coal and/or coal mine workings (whether abandoned or not) vested in the Authority.”19 Mae’n glir, felly, mai’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd sy’n rheoli’r broses o echdynnu’r adnoddau hyn ac yn rheoli unrhyw fudd sy’n deillio ohonynt. Mae’n bwysig ystyried hefyd sut i gludo’r nwy sy’n cael ei echdynnu wrth ddefnyddio’r holl dechnegau hyn, ac o ystyried y ffaith y gall yr adnoddau ddisbyddu’n gyflym ynghyd â chost economaidd gosod a chladdu’r piblinellau gofynnol, gall arwain at gryn bryder cyhoeddus. Nid yw’n glir i ba raddau y gallai, neu y dylai’r adnoddau hyn fod yn rhan bwysig o gymysgedd ynni Cymru yn y dyfodol. Ond er bod yr holl faterion hyn yn bwysig iawn i bobl ac economi Cymru, mae’n amlwg bod rôl Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad yn ymylol ar y gorau. Mae gwasanaeth ymchwil y Cynulliad wedi ystyried pynciau fel nwy siâl a CBM, ynghyd â chymwyseddau Llywodraeth Cymru, sy’n ymwneud â materion amgylcheddol yn bennaf.20 Mae penderfyniadau ynglŷn ag a ddylid echdynnu’r adnoddau hyn, sut i wneud hynny ac ar ba delerau yn cael eu gwneud yn rhywle arall. Mae’n ymddangos, felly, bod y potensial i ddefnyddio tanwyddau ffosil o Gymru i ddarparu ynni i Gymru yn y dyfodol braidd yn gyfyngedig, a bydd angen gwneud dewisiadau anodd cyn eu hechdynnu. Ni fydd gwir botensial a pheryglon ffracio yn y DU yn hysbys am nifer o flynyddoedd eto, ychydig iawn o lo sy’n cael ei gloddio yng Nghymru (dim ond tua 2.2 miliwn tunnell o lo a gloddiwyd yng Nghymru yn 2011, gyda’r rhan fwyaf yn dod o gloddio ar y wyneb, a’r diwydiant yn cyflogi 1,105 o bobl)21 ac nid yw prosesau dal a storio carbon i wneud glo yn fwy derbyniol yn amgylcheddol wedi’u datblygu’n llawn eto. Nid yw’r rhagolygon ar gyfer olew a nwy naturiol yn nyfroedd Cymru yn ymddangos yn ddeniadol.                                                                                                                       18

http://frack-off.org.uk/locations      http://coal.decc.gov.uk/en/coal/cms/publications/mining/seams/seams.aspx     20  www.assemblywales.org/12-041.pdf 21 DUKES, Tabl 2A 19

9


Fodd bynnag, mae Cymru mewn sefyllfa dda i fewnforio petroliwm a nwy drwy’r cyfleusterau yn Aberdaugleddau. Yn wir, yn ôl yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, daeth dros 30% o fewnforion nwy’r DU drwy Aberdaugleddau.22 Mae’r mewnforion nwy naturiol hylifedig hyn yn cael eu cludo mewn piblinell i Swydd Gaerloyw wedyn. Yn wahanol i’r Ukrain sy’n codi tâl ar Rwsia am gludo nwy ar draws ei thir, nid yw Cymru yn cael unrhyw fudd o’r biblinell hon. Pe bai Cymru’n codi’r un tâl â’r Ukrain ($3 fesul 1,000 metr ciwbig o nwy bob 100 cilomedr), byddai Cymru yn derbyn tua £100 miliwn mewn ffioedd cludo. Mae’n amlwg y byddai lleihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil yn fuddiol i economi ac amgylchedd Cymru, er mwyn gwella ei hunan gynhaliaeth a diogelu ei chyflenwad yn ogystal â lleihau niwed amgylcheddol. Felly, bydd angen i Gymru ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a chynaliadwy fel ffynhonnell ynni bwysig yn y dyfodol i gynhyrchu trydan. Er bod tuedd i ganolbwyntio ar gyfanswm capasiti cynhyrchu trydan, mae’n well ystyried faint o drydan a gynhyrchir mewn gwirionedd (capasiti a ddefnyddiwyd wedi’i luosi â nifer yr oriau a gynhyrchwyd) wedi’i fesur mewn oriau Megawatt (MWh) (mae mil awr Megawatt yn cyfateb i 1 awr Gigawatt), er mwyn asesu i ba raddau y mae’r diwydiant ynni yn ateb y galw. Mae defnydd ynni Cymru yn gyfwerth â thua 100,000 GWh. Cynhyrchodd Cymru tua 27,000 GWh yn 2011, gyda’r prif ddarparwyr pŵer yn cynhyrchu tua 25,000 GWh – gweler Atodiad I. Roedd y defnydd terfynol yng Nghymru tua 18,000 GWh, defnyddiwyd tua 4,000 GWh i ddefnyddio trydan ar gyfer storfeydd pwmp, collwyd tua 2,000 GWh wrth drawsyrru, dosbarthu a throsglwyddo trydan ac allforiodd Cymru tua 3.6 GWh i Loegr. Ond dim ond tair blynedd cyn hynny yn 2008, cynhyrchodd Cymru tua 36,000 GWh ac allforiodd 12,000 GWh i Loegr. Deilliodd hyn o ostyngiad mewn defnyddio nwy i gynhyrchu pŵer (gweler isod). Un nodwedd arwyddocaol arall o safbwynt cynhyrchu trydan yw faint o drydan sy’n cael ei golli wrth iddo gael ei gludo a’i ddosbarthu (bron i 15% o’r cyfanswm trydan net a gyflenwir yn y DU). Yn ogystal, mae defnyddio tanwydd ffosil i gynhyrchu trydan yn parhau i fod yn aneffeithlon. Yn ôl yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, roedd angen mewnbwn ynni cyfwerth â thua 900,000 GWh i gynhyrchu 350,000 GWh o’r cyflenwad trydan net.23 Mae cynhyrchu trydan trwy losgi tanwydd sylfaenol mewn gorsafoedd pŵer mawr yn bell o gwsmeriaid yn arwain at gostau sylweddol, felly hefyd darparu rhwydwaith dosbarthu a sicrhau bod digon o gapasiti ar gael i ymdopi â chynnydd yn y galw, o ystyried y ffaith ei bod yn anodd iawn storio trydan. O safbwynt cost fesul KWh, mae trydan tua 2.5 gwaith yn ddrutach na’r gost o ddefnyddio tanwydd yn uniongyrchol24. Felly mae’r dull o gynhyrchu a dosbarthu trydan a’r graddau y mae’n defnyddio tanwyddau ffosil yn elfennau pwysig wrth benderfynu ar hyfywedd dibyniaeth gynyddol ar drydan.                                                                                                                       22

http://www.renewableuk.com/en/utilities/document-summary.cfm?docid=48403C48-3C36-4AA09AC149AECF197EA9 23 Gweler DUKES, Tablau 5.1 a 5.6 a’r siart llif trydan ar dudalen 116 24 Gweler ffeil ffeithiau ynni tai’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd 2012, graff 3c, t.14.

10


Amser a ddengys pa mor gyflym y bydd y galw am ynni yng Nghymru a’r DU yn cynyddu yn y dyfodol, ac i ba raddau y gellir defnyddio ynni yn fwy effeithiol. Ond os yw’r galw yn aros yn gymharol sefydlog gyda’r potensial i arbed ynni, ac os na fydd newid mawr mewn capasiti gweithgynhyrchu, bydd yr her yn parhau i ddefnyddio trydan i fodloni rhagor o ofynion ynni Cymru a chynhyrchu mwy o drydan drwy ddulliau cynaliadwy ac adnewyddadwy. Mae hefyd yn bosibl y bydd angen canolbwyntio mwy ar gynhyrchu trydan nad yw’n mynd i’r grid. Y farchnad drydan Mae Cymru yn cynhyrchu llawer mwy o drydan y pen na Lloegr, ac roedd yn cynhyrchu (ac yn allforio) llawer mwy o drydan y pen na gwledydd eraill y DU yn 2008. Gweler ‘Electricity generation and supply figures for Scotland, Wales, Northern Ireland and England, 2008 to 2011’ 25 Roedd Cymru’n cynhyrchu tua 10% o holl drydan y DU mor ddiweddar â 2008, ond mae’r cyfanswm hwn wedi gostwng i tua 7.4% o ganlyniad i’r ffaith fod Cymru’n cynhyrchu llai o drydan o orsafoedd pŵer nwy26 (mae pris nwy wedi codi o gymharu â mathau eraill o danwydd dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at gynnydd cymharol yn y defnydd o lo, niwclear ac ynni adnewyddadwy ledled y DU a gostyngiad yn y defnydd o orsafoedd pŵer nwy). O ganlyniad, mae gorsaf bŵer nwy 230 MW Centrica yn y Barri wedi cau.27 Cynhyrchwyd llai o drydan mewn gorsafoedd nwy ledled y DU yn ystod y cyfnod hwn, ond cafwyd y gostyngiad mwyaf yng Nghymru a’r Alban. Un o’r rhesymau am hyn oedd y ffaith y byddai cau un orsaf bŵer fawr yn cael effaith anghymesur ar farchnad lai. Fodd bynnag, mae nifer o orsafoedd pŵer glo wedi disbyddu’r oriau gweithredu a ganiateir o dan reolau’r UE, a rhagwelir y bydd rhagor yn gorfod cau dros y blynyddoedd nesaf. Erbyn hyn, mae Centrica wedi llofnodi cytundeb i ail-agor gorsaf bŵer y Barri ar adegau o alw mawr am bŵer.28 Er gwaethaf cau gorsaf bŵer Wylfa, mae’n debyg y bydd cyfran Cymru o gynnyrch trydan yn sefydlogi neu hyd yn oed yn codi eto yn y dyfodol gan fod gorsaf bŵer nwy 2GW Penfro yn cynhyrchu trydan ac mae nifer o brosiectau ynni eraill ar waith ledled Cymru. Er gwaethaf y ffaith fod Cymru yn allforiwr net o drydan, nid yw’r broses o ddefnyddio a chynhyrchu trydan yn cael ei chydgysylltu’n dda yng Nghymru. Mae gormod o drydan yn cael ei gynhyrchu yn y Gogledd, a diffyg capasiti cynhyrchu yn y De. Mae’r De yn gorfod mewnforio trydan a thalu prisiau cymharol uchel o ganlyniad. Fel y dadleuodd Miller Argent yn ei gynnig i gloddio glo yn Ffos y Frân yn 2006, “gan nad oes rhwydwaith dosbarthu rhwng y Gogledd a’r De, mae’n rhaid i’r De fewnforio trydan o Loegr. O ganlyniad, mae prisiau trydan y De ymysg y drutaf yn y DU. Mae hyn yn golygu bod trydan yn llai fforddiadwy i lawer o bobl yn y De, ac yn golygu bod y farchnad yn llai cystadleuol, yn enwedig mewn diwydiannau fel gweithgynhyrchu sydd â gofynion pŵer mawr.”29                                                                                                                       25

https://www.gov.uk/government/publications/electricity-generation-and-supply-figures-for-scotlandwales-northern-ireland-and-england-2008-to-2011 26 http://www.renewableuk.com/en/utilities/document-summary.cfm?docid=48403C48-3C36-4AA09AC149AECF197EA9 27 http://www.bloomberg.com/news/2012-02-23/centrica-may-mothball-more-gas-plants-as-capacity-trimsprofits.html 28 http://www.lse.co.uk/FinanceNews.asp?code=vfi37emr&headline=Mothballed_British_gas_plants_to_gai n_from_coal_closures 29 http://www.millerargent.co.uk/welsh-mineral-planning-policy

11


Mae’r datganiad hwn hefyd yn amlygu’r ffaith fod diffyg cydbwysedd rhwng y gogledd a’r de o safbwynt cyflenwad a galw, a’r ffaith nad oes unrhyw seilwaith ar hyn o bryd i unioni’r sefyllfa yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2011, lansiodd Ofgem astudiaeth gwerth £1 miliwn i alluogi’r Grid cenedlaethol i ystyried y posibilrwydd o osod cebl tanddwr ar draws Bae Ceredigion i gysylltu’r gogledd a’r de. Nid yw’n glir beth yw statws y prosiect hwn. Nid yw’r diweddariad i gynlluniau atgyfnerthu’r Grid cenedlaethol yn cyfeirio’n uniongyrchol at y prosiect, er gwaetha’r awgrym y byddai’r casgliad mawr o dyrbinau gwynt ym Môr Iwerddon yn cael eu cysylltu â gorsaf bŵer Wylfa a Sir Benfro30, ond na fyddai unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng y Gogledd a’r De. Heb os, bydd llawer o’r cyfiawnhad dros unrhyw gysylltiad o’r fath yn seiliedig ar allbwn arfaethedig gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa yn ogystal â chynnyrch pŵer y tyrbinau gwynt ym Môr Iwerddon. Mewn dogfen dechnegol ddiweddar,31 cyfeiriwyd at brosiect arall a’r ffaith fod, ‘Site selection process to commence when ongoing requirements are confirmed in light of new Anglesey-Pembroke HVDC cable’. O safbwynt Llywodraeth Cymru, mae statws rhyng-gysylltydd o’r fath, ei gost a’r ddadl dros ei adeiladu, yn ystyriaethau hollbwysig er mwyn sicrhau cysylltiad gweithredol rhwng capasiti cynhyrchu a throsglwyddo trydan rhwng y Gogledd a’r De. Mae’r cynlluniau i gael rhyng-gysylltwyr rhwng Cymru ac Iwerddon wedi’u datblygu llawer mwy.32 Mae cynlluniau yn yr arfaeth i gysylltu’r Gogledd a’r De ag Iwerddon.33 Mae cynlluniau yn yr arfaeth hefyd i gysylltu’r Gogledd â’r Alban, fel y nodwyd yn y diweddariad i gynlluniau atgyfnerthu’r Grid cenedlaethol.34 “The project constructs a new HVDC link between Hunterston substation in central Scotland and Connah’s Quay substation in North Wales. The connection will be via an undersea cable sited along the west coast of Great Britain. The project has already been allocated some funding by Ofgem for preconstruction works and further funding has been requested.” Rhagwelir y bydd y prosiect yn costio tua £1 biliwn. I grynhoi, felly, ar hyn o bryd mae Cymru yn cynhyrchu mwy o drydan na’r hyn sydd ei angen arni, ond mae anghydbwysedd o fewn Cymru. Mae yna gynlluniau i gysylltu Cymru â’r Alban ac Iwerddon, ond mae unrhyw gynlluniau i gysylltu Cymru yn fewnol yn ymddangos yn fwy ansicr. Strwythur y diwydiant trydan Mae’r diwydiant ynni yn y DU wedi mynd yn fwyfwy cymhleth ers i’r diwydiant trydan gael ei breifateiddio ym 1990. Yn dilyn cyfres o drafodion, cafodd y Grid cenedlaethol ei breifateiddio a’i uno â’r rhwydwaith dosbarthu nwy. Gwerthwyd rhai                                                                                                                       30

https://www.gov.uk/government/uploads/.../4264-ensg-summary.pdf, figure 6. P.25 TRANSMISSION OWNER MAJOR PROJECT STATUS UPDATE - MAWRTH 2013 32 http://www.elpower.com/element-power-accepts-first-grid-connection-uk-ireland 33 http://www.walesonline.co.uk/news/local-news/irish-wind-farms-could-power-2021560 a http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-19958668 34 https://www.gov.uk/government/uploads/.../4264-ensg-summary.pdf, figure 6. P.25 31

12


o’i asedau yn y DU a daeth asedau eraill i’w ran yn UDA35. Erbyn hyn, ceir marchnad o gwmnïau preifat sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, gyda rhai’n cyflenwi trydan, rhai’n cynhyrchu trydan ac eraill yn gwneud y ddau. Mae yna nifer o ‘gynhyrchwyr pŵer mawr’ a lliaws o gynhyrchwyr llai sy’n cyflenwi ynni i’r grid. Mae National Grid ccc yn berchen ar y system drosglwyddo trydan foltedd uchel yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n cynnal a chadw’r system. Mae hefyd yn gyfrifol am weithredu’r system ledled Prydain a sicrhau bod yna gydbwysedd rhwng y cyflenwad a’r galw. Mae 14 cwmni preifat gwahanol bellach yn gyfrifol am ddosbarthu trydan yn lleol, ac mae’r cwmnïau hyn yn perthyn i chwe Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO).36 Y DNO ar gyfer y De a llawer o’r Canolbarth yw Western Power Distribution, a’r DNO ar gyfer y Gogledd a gweddill y Canolbarth yw SP Energy Networks. Perchnogion Western Power yw’r Pennsylvania Power and Light Company, sydd â’i bencadlys yn Allentown, Pennsylvania.37 Mae SP Network yn is-gwmni Scottish Power sy’n eiddo i’r cwmni cyfleustodau o Sbaen, Iberdrola. Prif gyflenwr trydan y Gogledd yw Scottish Power a phrif gyflenwr y De yw Swalec, sy’n is-gwmni Scottish & Southern (SSE), cwmni o’r Alban sydd â’i bencadlys yn Perth. (Cafodd SSE ddirwy o £10.5 miliwn - y fwyaf erioed - gan Ofgem yn ddiweddar am gam-werthu). Yn y Gogledd, mae’r prif gyflenwr trydan wedi’i integreiddio’n fertigol â throsglwyddo drwy’r grid, ond nid yw hynny’n wir am y De. Nid oes angen i gwsmeriaid ddewis y prif gyflenwr yn eu hardal (mae hyn yn berthnasol i ddefnyddwyr preswyl a defnyddwyr masnachol/diwydiannol) ac o ganlyniad mae’r cwmnïau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i geisio cynnig y prisiau a’r gwasanaethau gorau a denu cwsmeriaid. Ofgem sy’n gyfrifol am reoleiddio’r farchnad drydan yn ei chyfanrwydd. Mae gorsafoedd pŵer Cymru (a gweddill y DU) yn eiddo i amrywiaeth o gwmnïau – gweler Atodiad II. Mae’r gorsafoedd hyn, ynghyd â nifer o gynhyrchwyr annibynnol, yn gwerthu trydan drwy’r grid a’r DNOs i’r cwmnïau trydan sy’n cyflenwi cleientiaid. Mae’r grid a’r DNOs yn codi tâl trosglwyddo ar y cwmnïau trydan, sydd yn eu tro’n pasio’r costau hyn (hyd at tua 20%) am gludo’r trydan a gweithredu’r system i’w cleientiaid. Yna, mae’r prif gwmnïau cyflenwi trydan yn cyflenwi’r trydan i gleientiaid preswyl, masnachol a diwydiannol ac ati. Mae colledion trosglwyddo yn ystyriaeth bwysig o safbwynt cyfanswm cost trydan (gweler uchod). Mae’n amlwg, felly, bod marchnad ynni’r DU yn gyffredinol, a marchnad Cymru yn benodol, yn gymhleth ac yn dameidiog. Fe’i rheolir gan nifer o gwmnïau mawr, ac nid yw pencadlys yr un ohonynt yng Nghymru. O ganlyniad, mae’n anodd i gwmnïau cynhyrchu pŵer gynllunio ar gyfer y dyfodol oherwydd ansicrwydd ynglŷn â’u henillion a’r ffaith y bydd atyniad eu buddsoddiad yn dibynnu ar nifer o ffactorau, a reolir gan gwmnïau eraill yn aml (yn ogystal â rheoliadau llywodraeth y DU). Ni allant gymryd gormod o risgiau o ganlyniad. Mae tua hanner capasiti trydan Cymru yn dod o dyrbinau nwy cylch cyfun, tua 19% o lo a biomas, tua 20% o storfeydd pwmp a thua 4% o niwclear (hyd at 2012 roedd cyfraniad niwclear tua dwywaith yn fwy gan fod adweithydd 2 Wylfa yn weithredol tan 2012). Fodd bynnag, defnyddir storfeydd pwmp ar gyfnodau brig yn unig (ac mae’n defnyddio llawer o drydan ar adegau eraill) ac mae ffynonellau niwclear yn darparu isafswm. O ganlyniad, mae cyfanswm y trydan a gynhyrchir gan y                                                                                                                       35

http://www.nationalgrid.com/uk/About/history     http://www.nationalgrid.com/uk/Electricity/AboutElectricity/DistributionCompanies 37 http://www.pplweb.com 36

13


ffynonellau amrywiol hyn yn wahanol iawn, yn enwedig wrth ystyried adnoddau ynni adnewyddadwy llai. Yn 2011, roedd ffynonellau niwclear yn gyfrifol am bron i 9% o’r holl gapasiti cynhyrchu, ond daeth bron i 20% o drydan Cymru o’r ffynonellau hyn. Yn ogystal ag ystyried capasiti, rhaid ystyried diogelwch ynni a phrisiau ynni. Mae Cymru’n dibynnu’n helaeth ar nwy naturiol i gynhyrchu trydan, a bydd rhaid i fwy o’r nwy ddod o’r tu allan i’r DU yn y dyfodol. Er bod y DU yn mewnforio llawer o nwy o Norwy, mae meysydd Môr y Gogledd yn disbyddu ac mae cyfran sylweddol o nwy yn dod i’r DU o rannau o’r byd sy’n wleidyddol ansefydlog, fel y Dwyrain Canol, gogledd Affrica ac i ryw raddau, Rwsia. Mae Cymru yn agored iawn, felly, i’r perygl o amharu posibl ar y cyflenwadau nwy, fel ffynhonnell ynni uniongyrchol ac fel modd o greu trydan, a bydd y perygl yn debygol o gynyddu yn y dyfodol. Nid oes gan Gymru unrhyw gyfleusterau storio nwy arwyddocaol chwaith.38 Yng ngoleuni’r uchod, mae yna gymhelliant cryf i Gymru geisio cael gafael ar gyflenwadau ynni diogel, ac o ystyried agenda gynaliadwy Cymru, mae angen ystyried i ba raddau y mae’n gallu defnyddio ei hadnoddau naturiol nad ydynt yn danwydd ffosil er mwyn creu trydan. Fel y gwelir gan ffigurau Atodiad I, ar hyn o bryd mae tua 7.9% o drydan Cymru yn cael ei greu drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy – o gymharu â 6.2% yn Lloegr a 26.8% yn yr Alban (pŵer trydan dŵr sy’n gyfrifol am oddeutu hanner y ganran hon)39. Mae diffiniad cyfanswm defnydd ynni at ddibenion y Gyfarwyddeb Ynni Adnewyddadwy (RED)40 braidd yn wahanol. Rhaid cofio hefyd bod trydan ond yn gyfrifol am ran o’r cyfanswm defnydd ynni, a bod ystadegau’r DU yn cael eu casglu mewn ffordd ychydig yn wahanol i ystadegau Ewrop, sy’n golygu bod y DU ond yn cynhyrchu 3.8% o’i hynni o adnoddau ynni adnewyddadwy at ddibenion y RED. Mae’n rhaid i 15% o ynni’r DU ddod o adnoddau adnewyddadwy erbyn 2020 o dan ddarpariaethau’r gyfarwyddeb – h.y. bydd rhaid i Gymru a’r DU gynhyrchu tua phedair gwaith yn fwy o drydan o ddulliau adnewyddadwy dros y saith mlynedd nesaf. Mae manteision ac anfanteision i ddulliau gwahanol o gynhyrchu trydan. Mae Cymru eisoes wedi disbyddu ei mantais o safbwynt tanwyddau ffosil cynhenid ar ffurf glo. Fel y nodwyd uchod, nid oes gan Gymru’r fantais o feddu ar unrhyw ddewisiadau amgen i danwydd ffosil ar raddfa fawr, ac eithrio o bosibl nwy ac olew siâl a methan gwely glo. O ganlyniad, mae’n rhaid i Gymru ganolbwyntio ar yr adnoddau naturiol sydd ganddi. Hwyrach y byddai’n ddefnyddiol gwahaniaethu rhwng dulliau ynni cynaliadwy, adnewyddadwy a charbon isel. Defnyddir y termau hyn i gyfleu’r un peth yn aml, ac mae’n ymddangos nad oes unrhyw wahaniaeth clir rhyngddynt. Er enghraifft, mae’n amlwg bod ynni niwclear drwy ymholltiad yn ynni carbon isel, ac fe’i disgrifir fel ynni cynaliadwy yn aml, er nad yw’n adnewyddadwy. Efallai bod hyn yn syndod gan fod yr ynni yn dibynnu ar ffynhonnell gyfyngedig o ddeunydd niwclear fel wraniwm, gyda chyflenwad cyfyngedig ar gael (mae 52% o wraniwm yn cael ei gloddio mewn chwe gwlad: Canada, Kazakhstan, Awstralia, Niger, Rwsia a                                                                                                                       38

Gweler DUKES 2012, tabl 4.4 Mae rhai ffynonellau yn casglu ffigurau i gyfrifo ynni adnewyddadwy mewn ffyrdd gwahanol, gweler http://syniadau--buildinganindependentwales.blogspot.co.uk/2012/08/not-as-bad-as-reported.html 40 Gweler paragraff 6.28 a Thabl 6.7 DUKES https://www.gov.uk/government/publications/digest-of-unitedkingdom-energy-statistics-dukes-2012-printed-version-excluding-cover-pages 39

14


Namibia).41 Ni ellir ei ystyried yn gynaliadwy ac eithrio i’r graddau nad yw cyflenwadau wraniwm mor agos at gael eu disbyddu, ac ar ôl ei gloddio, mae’n gallu cynhyrchu ynni am gyfnod hirach. Byddai’n well gwahaniaethu rhwng ynni niwclear a dulliau ynni gwirioneddol gynaliadwy fel y gwynt, tonnau, y llanw a’r haul. Mae amheuon hefyd ynglŷn â’r graddau y mae biomas yn adnewyddadwy ac yn gynaliadwy, a bydd y mater hwn yn dibynnu i raddau helaeth ar raddfa a tharddiad y porthiant. Ynni Adnewyddadwy Prif ffynonellau ynni adnewyddadwy yw gwynt (ar y tir ac ar y môr), tonnau, y llanw, yr haul a biomas. Yn gyffredinol, mae’r ffaith fod ynni adnewyddadwy yn anghyson ac yn anrhagweladwy yn peri problem. Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd ei bod yn anodd iawn storio trydan. Mae’n rhaid, felly, sicrhau bod trydan ar gael yn ôl y galw, a rhaid iddo gael ei ddefnyddio wrth gael ei gynhyrchu. Mae’r gwahaniaeth rhwng adegau prysur a distaw yn ystod y dydd a rhwng yr haf a’r gaeaf yn arwyddocaol iawn, fel y dengys y graff isod:

Typical summer and winter demands – Galw nodweddiadol yn yr haf a’r gaeaf National Grid demand (MW) – Galw’r Grid Cenedlaethol (MW) Time – Amser Winter – Gaeaf Summer – Haf Source: National Grid – Ffynhonnell: Y Grid Cenedlaethol Mae trydan yn cael ei brisio ar sail cyfnodau amser hanner awr, ac mae’r pris yn cynyddu yn ôl y galw amdano. Mae gwerth trydan am 5.30pm yn y gaeaf llawer yn fwy o gymharu â 4.30pm yn yr haf. Mae llwyth sylfaenol cynhyrchu trydan yn cael ei ddarparu gan y cynhyrchwyr sydd â’r gost ffiniol rataf, a ffynonellau pŵer sy’n wynebu’r costau/problemau mwyaf yn sgil amharu ar gynhyrchu trydan. Mae ynni niwclear yn gyfrifol am ran sylweddol o’r llwyth sylfaenol, felly, ynghyd â darparwyr                                                                                                                       41

http://www.world-nuclear.org/info/Nuclear-Fuel-Cycle/Mining-of-Uranium/Uranium-Mining-Overview

15


tanwydd fossil sy’n costio llai. O ganlyniad, mae’r system yn gymharol anhyblyg o ran defnyddio ffynonellau trydan anrhagweladwy. Mae’r cynnyrch sy’n deillio o osodiadau’r haul ac o amrediad llanw yn gymharol ragweladwy, ond nid felly ynni gwynt. Mae’r broses o ddefnyddio gwynt i gynhyrchu trydan wedi bod yn ddadleuol iawn yng Nghymru am nifer o resymau - ymysg y prif broblemau y mae lleoliad a maint y tyrbinau, cysylltu’r tyrbinau â’r grid drwy ddefnyddio peilonau ar draws cefn gwlad hardd, colli trydan wrth ei drosglwyddo’n bell o safleoedd anghysbell i ardaloedd â’r galw mwyaf, aneffeithiolrwydd gwynt i gynhyrchu trydan oherwydd ei natur anghyson ac anrhagweladwy, a’r angen am gapasiti cynhyrchu trydan wrth gefn. Mae cwestiynau hefyd wedi’u codi ynglŷn â phwy sy’n elwa ar adeiladu tyrbinau gwynt. Pŵer gwynt Mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn tueddu i gynnwys ynni gwynt, tonnau a’r haul yn ei hystadegau, ond o ystyried yr ystadegau hyn gyda’i gilydd, mae Cymru yn cynhyrchu tua 9% o bŵer gwynt y DU, tra bod yr Alban yn cynhyrchu bron i 45%. Mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi dangos ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y graff isod. (Yn ystod dyddiau cynnar y diwydiant gwynt 10 mlynedd yn ôl, roedd Cymru’n cynhyrchu tua 30% o’r holl bŵer gwynt).

Siart 4: Trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru fel cyfran o’r DU, sleid 1642                                                                                                                       42

http://www.renewableuk.com/en/utilities/document-summary.cfm?docid=48403C48-3C36-4AA09AC149AECF197EA9

16


Hydro – Dŵr Wind, wave, solar – Gwynt, tonnau, haul Bioenergy – Bio-ynni Total – Cyfanswm Mae’r ystadegau hyn yn debygol o newid yn sylweddol yn y dyfodol yn sgil adeiladu ffermydd gwynt ar y môr. Mae Ystadau’r Goron sy’n berchen ar wely’r môr hyd at 12 môr-filltir wedi cyhoeddi rhaglen helaeth o drwyddedu gweithredwyr o gwmpas arfordir y DU. Y fferm wynt fwyaf hyd yn hyn yw Gwynt y Môr, sy’n eiddo i RWE, Siemens a’r München Stadtwerke, cwmni cyfleustodau dinesig Munich, gyda chapasiti o 576 MW, a chost amcangyfrifedig o €2 biliwn. Fodd bynnag, mae cynlluniau llawer mwy yn yr arfaeth o gwmpas arfordir y DU, ac mae dau ddatblygiad mawr wedi’u bwriadu yng Nghymru, y naill ym Môr Iwerddon oddi ar Ynys Môn a’r llall ym Môr Hafren.43 Mae’r maes hwn yn tyfu’n sylweddol, felly. Mae tua 1,000 o dyrbinau gwynt ar y môr yn barod gyda chapasiti oddeutu 3,300 MW. Mae’r tyrbinau hyn yn cynhyrchu tua 5,000 GWh y flwyddyn, ond mae Ystadau’r Goron yn amcangyfrif y bydd y ffigur hwn yn cynyddu rhwng tair a phum gwaith erbyn 2020.44 Mae’r potensial terfynol yn fwy o lawer, ac mae Ystadau’r Goron wedi dyfarnu cyfanswm o 50 GW o gapasiti hyd yn hyn, h.y. mwy na 10 gwaith y ffigur presennol.45 Mae ffermydd gwynt ar y tir wedi bod yn ddadleuol yng Nghymru hefyd, ac mae’r sefyllfa gyfreithiol o dan TAN 8 yn gymharol aneglur i’r cyhoedd. Mae’r mwyafrif llethol (dros 80%) o’r gosodiadau ffermydd gwynt presennol yng Nghymru yn cynhyrchu llai na 50MW o drydan. Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am faterion cynllunio yn ymwneud â gosodiadau dros 50MW.46 Fodd bynnag, bydd ffermydd gwynt sydd yn yr arfaeth a’r rhai sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn cynyddu’r capasiti presennol bum gwaith, a byddai ei hanner yn dod o ffermydd gwynt â chapasiti dros 50MW – Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8 Adolygiad o Ddiddordeb Datblygwyr Ffermydd Gwynt 201247. Ar sail y cynlluniau hyn, gallai ffermydd gwynt ar y môr ddarparu cymaint â 3000 GWh o drydan o bosibl, neu tua un rhan o chwech o’r trydan a ddefnyddir yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn nogfen TAN 8 a gyhoeddwyd yn 2005, y targedau capasiti dangosol ar gyfer ‘ardaloedd chwilio strategol’ oedd 1,120 MW. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru: “Mae gan Lywodraeth y Cynulliad darged o gynhyrchu 4TWh o drydan y flwyddyn gan ynni adnewyddadwy erbyn 2010 a 7TWh erbyn 2020. Er mwyn cyrraedd y targedau hyn, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi nodi fod angen 800MW o gapasiti                                                                                                                       43

Gweler y dadansoddiad ardderchog o’r prosiectau hyn yn Syniadau ar 21 Mehefin 2011 - http://syniadau-buildinganindependentwales.blogspot.co.uk/2011/06/tan-8-and-devolving-energy-to-wales.html 44 http://www.renewableuk.com/en/utilities/document-summary.cfm?docid=673CBEC1-4F6E-49A0A5378B36F1DEBFC4 45 Investor’s introduction to the UK Offshore wind programme, Tachwedd 2011. 46 Mae gwaith ymchwil Hyder ar gyfer Llywodraeth Cymru yn dangos capasiti gosodedig cyfredol o 388 MW at ddibenion TAN 846, ond yn ôl papur Llywodraeth Cymru, ‘Ynni Cymru: Newid Carbon Isel’, mae gan ffermydd gwynt gweithredol presennol gapasiti o 562MW. Mae’n bosibl mai’r gwahaniaeth rhwng gwynt ar y tir a gwynt ar y môr sy’n gyfrifol am hyn. 47  http://cymru.gov.uk/topics/planning/planningstats/windfarminterest/?skip=1&lang=cy

17


(enw) gosodedig ychwanegol gan ffynonellau gwynt ar y tir a 200MW arall o gapasiti gosodedig gan dechnolegau gwynt ar y môr a thechnolegau adnewyddadwy eraill.” Mae’n glir, felly, bod gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2005 a’r sefyllfa bresennol, ac mae cyfran sylweddol o’r datblygiad arfaethedig ar raddfa sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Fel y gwelir yn ffigurau Atodiad I, dim ond hanner y targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy a oedd wedi’u cyrraedd erbyn 2011. Ar y llaw arall, mae’r capasiti ychwanegol o ffermydd gwynt arfaethedig ar y tir a’r rhai sydd wedi cael caniatâd tua dwywaith yn fwy na’r hyn a nodwyd yn 2005. Mae’r cynlluniau presennol ar gyfer ffermydd gwynt yn uchelgeisiol, ond mae adeiladu a lleoli ffermydd gwynt yn achosi problemau am nifer o resymau. Yn gyntaf, maent yn tueddu i gael eu lleoli mewn ardaloedd sy’n bell o’r boblogaeth, sy’n golygu bod creu cysylltiadau â’r grid yn gallu bod yn ddrud ac yn ymwthiol. Mae colledion yn sgil trosglwyddo trydan yn gymharol uwch hefyd. Byddai ffermydd gwynt yng nghanolbarth Cymru yn cael eu cysylltu â’r grid yng nghanolbarth Lloegr, felly ni fyddent yn cyflenwi trydan yn uniongyrchol i Gymru. Yn ail, oherwydd eu natur anghyson, mae angen capasiti cynhyrchu trydan wrth gefn nes bod storio trydan mewn batris mawr neu drwy ddulliau eraill yn dod yn bosibl yn economaidd. Mae’n rhaid ystyried y gost ychwanegol hon wrth asesu cost pŵer gwynt yn y pen draw. Yn ogystal, mae’n rhaid i gost tyrbinau gwynt gael ei dibrisio dros eu hoes o ryw 25 mlynedd.48 Mae cynhyrchu gwynt ar y môr yn wynebu nifer o’r un problemau â chynhyrchu gwynt ar y tir o safbwynt pellter o’r farchnad a cholli trydan wrth ei gludo. Er bod y gwynt yn fwy dibynadwy ar y môr ac yn cynhyrchu mwy o drydan, mae’r amgylchedd morol yn gymharol elyniaethus ac mae cynnal a chadw tyrbinau a’u hirhoedledd yn faterion pwysig. Ar hyn o bryd, mae’r diwydiant gwynt ar y môr yn canolbwyntio ar leihau cost ynni gwynt i £100 fesul MWh. Yn ôl adroddiad gan Parsons Brinckerhoff (PB) ar ran Academi Frenhinol Peirianneg a gyhoeddwyd yn 200649, ffermydd gwynt ar y tir oedd y dull rhataf o gynhyrchu trydan adnewyddadwy, ac roedd ynni o donnau ac o’r llanw yn llawer drutach. Fodd bynnag, nid yn unig y mae technoleg wedi newid ers y cyfnod hwnnw, ond mae cyfran sylweddol o amcangyfrifon o’r fath yn dibynnu ar y gyfradd o ddisgownt a ddefnyddir i gyfrifo’r gost gyfalaf; po isaf yw cyfradd y disgownt, po rataf yw prosiect cyfalaf-ddwys. O ganlyniad i’r newid ym marchnadoedd ariannol y byd ers yr amser hwnnw, mae costau benthyg hirdymor wedi lleihau’n sylweddol (defnyddiodd PB gyfradd ddisgownt o 10% y flwyddyn ar gyfer eu papur), a dylai cost prosiectau cyfalaf-ddwys fod yn fwy cystadleuol o ganlyniad.

                                                                                                                      48 49

E.e. gweler www.pbworld.com/pdfs/regional/uk_europe/pb_ptn_report2006.pdf ffigwr 4, t.14 www.pbworld.com/pdfs/regional/uk_europe/pb_ptn_report2006.pdf p.16

18


Mae’r cyfleoedd cyflogaeth a’r cyfleoedd economaidd posibl yn sgil ehangu pŵer gwynt yn cael eu trafod isod. Fodd bynnag, mae’n werth nodi yma mai strwythur perchnogaeth y diwydiant sy’n rhannol gyfrifol am amhoblogrwydd ynni gwynt ymysg y cyhoedd, ynghyd â’r ffordd y caiff ei ariannu sy’n golygu nad yw cymunedau sy’n cael eu heffeithio ganddo yn cael budd digonol yn aml. Fel y nododd dogfen ‘The renewable energy review’ y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd50 mae strwythurau perchnogaeth mewn gwledydd eraill braidd yn wahanol: Profiadau Denmarc a’r Almaen Ar hyn o bryd, mae gan yr Almaen y capasiti gwynt gosodedig mwyaf yn yr UE (tua 27 GW), sy’n fwy o lawer na’r DU (ychydig dros 5 GW) neu Ddenmarc (3.7 GW). Yn wahanol i’r DU, lle mae’r rhan fwyaf o brosiectau gwynt ar y tir yn cael eu datblygu gan gwmnïau masnachol ac yn eiddo iddynt, mae’r rhan fwyaf o brosiectau yn yr Almaen a Denmarc yn seiliedig ar fodel 14 ‘perchnogaeth gymunedol’ (yn Nenmarc mae tua 80% o’r holl dyrbinau gwynt yn eiddo i’r gymuned): • Mae cymunedau yn cyfuno adnoddau er mwyn prynu, gosod a chynnal a chadw prosiectau, naill ai drwy gynilion neu fenthyciadau (fel arfer mae cymunedau yn gallu cael gafael ar gyllid ar gyfraddau is na chyfraddau masnachol, sy’n golygu bod costau ariannol yn debygol o fod yn is). Mewn systemau perchnogaeth gydweithredol neu bartneriaeth (y mwyaf cyffredin), mae unigolion yn prynu cyfranddaliadau yn y prosiect, ac mae ganddynt hawl i dderbyn cyfran o’r refeniw blynyddol yn gymesur â’u buddsoddiad gwreiddiol. System newydd y DU Ym mis Chwefror 2011, cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd ardrethi busnes sy’n cael eu talu gan ddatblygwyr ynni adnewyddadwy yn cael eu cadw er mwyn eu buddsoddi’n uniongyrchol yn y gymuned leol. Mae ‘Protocol Gwynt’ RenewableUK, y cytunwyd arno yn sgil trafodaethau gwirfoddol â’r diwydiant, yn nodi bod angen i brosiectau gwynt dalu o leiaf £1000/MW y flwyddyn i ‘gronfa’ budd cymunedol, gyda chymunedau unigol yn penderfynu sut i’w dyrannu. Y bwriad yw y bydd y cymhellion ariannol hyn i helpu i sicrhau rhagor o gefnogaeth leol ar gyfer prosiectau gwynt yn y DU.” Mae angen ymchwilio ymhellach i’r dulliau perchnogaeth hyn er mwyn sicrhau bod cymunedau yn derbyn cyfran deg o fudd masnachol unrhyw ddatblygiad.

Mae’n werth nodi hefyd bod gwahaniaeth mawr o fewn y DU o safbwynt cynhyrchu ynni gwynt. Mae’r Alban wedi hyrwyddo’r dechnoleg, ond mae Lloegr wedi bod yn amharod iawn i wneud hynny. Adeg adolygiad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, cyfrifwyd bod piblinell o 13.3 GW o gapasiti cynhyrchu trydan, gydag 8.3 yn yr Alban,                                                                                                                       50

Ibid t.106 Bocs 2.4

19


1.4 yng Nghymru a dim ond 2.5 yn Lloegr. Roedd disgwyl i lai na 50% o brosiectau bach a mawr gael caniatâd cynllunio yn Lloegr o gymharu â 100% yng Nghymru ar gyfer ffermydd gwynt bach (nid oedd unrhyw geisiadau cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt mawr ar y pryd) a 66% ar gyfer ffermydd gwynt bach a 76% ar gyfer ffermydd gwynt mawr yn yr Alban).51

Pŵer trydan dŵr Mae afonydd Cymru yn gymharol fyr a’r llethrau i ddŵr ffo yn serth. O ganlyniad, nid oes llawer o botensial ar gyfer datblygiadau pŵer trydan dŵr ar raddfa fawr. Fodd bynnag, mae yna botensial ar gyfer pŵer trydan dŵr ar raddfa fach, fel y nododd adroddiad Entec ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd: “a) Small-scale hydropower has an important but limited role to play in renewable energy generation Our findings suggest that small-scale hydropower at the barriers considered could deliver a theoretical maximum of 3660GWh electricity per year, or about 1% of the UK’s projected electricity demand in 2020. Realistically, this potential will be considerably lower due to practical constraints, such as access to the local electricity distribution network, and environmental impacts.”52 Roedd hefyd yn cynnwys map o’r lleoliadau gorau i gynhyrchu trydan yn y modd hwn (gweler Atodiad IV). Yn ôl yr adroddiad technegol, a astudiodd y potensial ar gyfer cynhyrchu pŵer trydan dŵr yn fanylach, roedd tua thraean o’r potensial mwyaf i gynhyrchu pŵer yng Nghymru – bron i 400 MW.53 Rhaid pwysleisio bod nifer o’r cyfleoedd hyn mewn ardaloedd sensitif (gan gynnwys ystyried pysgod), ac yn ôl yr adroddiad, roedd dros 80% o’r cynlluniau arfaethedig yng Nghymru a Lloegr yn gofyn am ddewisiadau anodd, o gymharu â 7% a oedd yn ‘ddewisiadau da’. Byddai cysylltu â’r grid yn broblem bosibl hefyd os nad oedd galw lleol am y trydan. Serch hynny, mae yna botensial mawr i gynhyrchu pŵer trydan dŵr ar raddfa fach yng Nghymru er mwyn helpu i ddiogelu’r cyflenwad ynni, ac mae’r arbenigedd yn bodoli yng Nghymru i osod a chynnal a chadw prosiectau o’r fath ar raddfa fach. Mae Dinorwig54 yn y Gogledd yn enwog am ei gyfleuster storfa bwmp. Mae’n eiddo i Mitsui, uwchgwmni o Japan (sydd hefyd yn berchen ar y cyfleuster llai yn Ffestiniog). Dechreuodd yr orsaf gynhyrchu trydan ym 1983, gan ddarparu trydan ar adegau o alw brig o fewn 16 eiliad, ac mae capasiti’r orsaf tua 1,700 MW. Ar adeg pan fo rhagor                                                                                                                       51

Ibid, t. 105, Tabl 2.2 Opportunity and environmental sensitivity mapping for hydropower in England and Wales, February 2010, Non Technical Report 53 Opportunity and environmental sensitivity mapping for hydropower in England and Wales, Chwefror 2010, Adroddiad Technegol, Tabl 4.5   54  http://www.fhc.co.uk/dinorwig.htm     52

20


o ynni adnewyddadwy yn cael ei ddefnyddio sy’n llai dibynadwy, ac yn sgil diffyg technoleg batri fforddiadwy ar raddfa fawr ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd rhagor o alw am gynhyrchu ynni ysbeidiol er mwyn ymateb i amrywiadau yn y galw. Efallai bod angen rhagor o waith ymchwil mewn ardaloedd eraill o Gymru sydd â’r potensial i gynhyrchu pŵer trydan dŵr. Biomas Mae defnyddio biomas ar gyfer tanwydd yn bwnc mawr iawn ynddo’i hun, gan ei fod yn cwmpasu nifer o dechnolegau gwahanol, gan gynnwys stofiau sglodion coed, sglodion a pheledi coed i gynhyrchu trydan, defnyddio carthion anifeiliaid i gynhyrchu nwy a chnydau planhigion ar gyfer tanwydd. Byddai trafod y materion hyn yn rhy fanwl yn mynd y tu hwnt i gwmpas y ddogfen hon, ond mae’n amlwg bod llosgi biodanwyddau yn creu carbon deuocsid. Oherwydd hyn, rhaid cwestiynu a yw’r tanwydd hwn yn garbon niwtral yn ystod ei gylchred oes, ac er enghraifft, i ba raddau y gall defnyddio biodanwyddau ystumio’r farchnad ac effeithio ar y defnydd o dir i dyfu biodanwyddau yn hytrach na bwyd. Mae modd defnyddio biomas gyda gorsafoedd glo sydd eisoes yn bodoli. Er enghraifft, mae gorsaf bŵer Drax, gorsaf bŵer glo fwyaf y DU a chraidd cwmni ynni annibynnol o’r un enw, yn newid i gynhyrchu gyda biomas yn bennaf.55 Un o fanteision biomas o gymharu â mathau eraill o ynni adnewyddadwy yw’r ffaith ei fod yn rhagweladwy ac yn gallu gweithredu fel ffynhonnell ynni dibynadwy. Ar raddfa’r DU, mae llywodraeth y DU yn ceisio diddymu Tystysgrifau Ymrwymo i Ynni Adnewyddadwy (ROCs) yn raddol ar gyfer cynhyrchu gan ddefnyddio biomas, gan osod terfyn rheoleiddio o 400MW o gapasiti newydd ychwanegol cyn dechrau ymgynghoriad i ddileu’r drefn ROC ar gyfer biomas. Fodd bynnag, mae wedi eithrio’r broses o gynhyrchu Gwres a Phŵer Cyfunedig.56 Mae’n rhaid cwestiynu hefyd i ba raddau y mae gorsafoedd biomas yn defnyddio deunyddiau lleol i’w llosgi, yn hytrach na mewnforio deunyddiau. Mae dau brosiect arfaethedig gwahanol yng Nghymru yn egluro’r pwynt hwn. Yn 2007, rhoddwyd caniatâd i adeiladu gorsaf bŵer llosgi coed 350 MW gwerth £400 miliwn ger Port Talbot i Prenergy Power Ltd, sy’n eiddo i Global Wood Holdings sydd wedi’i gofrestru yn y Swistir, ac sy’n perthyn yn rhannol i TMT Co. Ltd, grŵp llongau o Daiwan. Honnwyd y byddai’r datblygiad hwn yn creu 150 o swyddi ac yn cynhyrchu trydan ar gyfer hanner cartrefi Cymru. Fel rhan o’r datblygiad, byddai angen mewnforio tair miliwn tunnell o sglodion coed a gwaredu 80,000 tunnell o ludw.57 Cafodd y cynigion ganiatâd cynllunio yn 2007. Y bwriad oedd mewnforio’r coed ar gyfer y safle o ogledd America. Y cyfiawnhad sylfaenol ar gyfer gorsafoedd biomas yw’r ffaith eu bod yn fwy ecogyfeillgar, ond nid yw cludo symiau enfawr o goed                                                                                                                       55

http://www.draxgroup.plc.uk Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, Renewables Obligation Banding Review for the period 1 April 2013 to 31 March 2017, t.25 57 http://biomassmagazine.com/articles/1609/big-wood 56

21


hanner ffordd o gwmpas y byd (efallai er mwyn elwa ar gymorthdaliadau yn bennaf) yn debygol o gyflawni’r amcan sylfaenol hwn. Mae’n ymddangos bod y prosiect wedi wynebu nifer o anawsterau, a’i fod bellach yn eiddo i gwmni ecwiti preifat o’r Eidal, Clessidra, a geisiodd werthu’r prosiect yn 2010 cyn bod unrhyw waith wedi dechrau58. Mae’n edrych yn annhebygol y bydd y prosiect yn mynd rhagddo bellach.59 Gerllaw ym Margam, mae prosiect llawer llai â chapasiti 14 MW bellach ar waith. Honnir ei fod wedi creu 20 o swyddi newydd a’i fod yn disgwyl cynhyrchu 110 GWh o ynni drwy ddefnyddio coedwigoedd Cymru fel ffynhonnell ar gyfer y rhan fwyaf o’i borthiant.60 Mae prosiect newydd a gynlluniwyd gan NET Energy Group wedi’i gyhoeddi yn ddiweddar. Mae’r prosiect wedi cael caniatâd cynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Caerffili, a bydd yn cael ei adeiladu yn Capital Valley Eco Park ger Rhymni. Bydd yn cynhyrchu 1.3 megawat (MW) o drydan a fydd yn cael ei gyflenwi i’r grid, a 4.3MW o wres a fydd yn cael ei ddefnyddio i sychu’r 40,000 tunnell o beledi premiwm a gynhyrchir. Bydd tua 30 o bobl yn cael eu cyflogi ar y safle yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd 30 yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol pan fydd y gwaith yn weithredol, a bydd hyd at 150 yn cael eu cyflogi’n anuniongyrchol. Bydd y gwaith yn defnyddio canghennau, brigau a deunydd gwastraff arall o goedwigoedd lleol ar gyfer ei ddeunydd crai.61 Mae’r enghreifftiau hyn yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng prosiectau biomas ar raddfa fach sy’n defnyddio deunyddiau lleol fel ffynhonnell tanwydd a phrosiectau ar raddfa ddiwydiannol. Fel sy’n wir am ffynonellau ynni adnewyddadwy eraill, un o’r manteision yw’r gallu i gynhyrchu mwy o ynni yn lleol a dibynnu llai ar ynni a gynhyrchir ar raddfa fawr yn ganolog a ddosberthir drwy grid. Nid yw’n edrych yn debygol y bydd biomas yn gwneud cyfraniad sylweddol at y gymysgedd ynni yng Nghymru yn y dyfodol, ond mae’n bosibl y bydd yn bwysig er mwyn darparu capasiti ar raddfa gymharol fach mewn nifer o leoliadau gwahanol. Pŵer yr Haul Nid yw Cymru yn cael ei hystyried yn lleoliad atyniadol ar gyfer pŵer yr haul. Fodd bynnag, mae effeithlonrwydd a dibynadwyedd paneli solar wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae cost y paneli wedi parhau i ostwng yn gymharol gyflym, diolch yn bennaf i fuddsoddiad enfawr yng nghapasiti gweithgynhyrchu Tsieina (i’r graddau bod yr Undeb Ewropeaidd yn ystyried cyflwyno tariffau uchel ar baneli solar sy’n cael eu gwneud yn Tsieina). O ganlyniad, mae llywodraeth y DU wedi torri’r tariffau cyflenwi trydan (gweler isod) yn sylweddol ar gyfer paneli solar                                                                                                                       58

http://uk.reuters.com/article/2010/01/15/clessidra-prenergy-idUKLDE60D28W20100115 http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-west-wales-19542279 , http://www.thisissouthwales.co.uk/Campaigners-celebrate-Prenergy-cuts-ties-National/story-18167274detail/story.html#axzz2UC5JGl00 60 http://www.eco2uk.com/en/our_projects/project_detail.asp?project_id=12 61 http://www.walesonline.co.uk/news/business/business-news/biomass-plant-scheduled-2014-operation2502781 59

22


ers eu cyflwyno. Fodd bynnag, dyma arwydd o’r ffaith fod y gost o gynhyrchu trydan drwy baneli solar yn gostwng. Nid oes angen heulwen lachar ar baneli ffotofoltaidd i gynhyrchu trydan, ac yn gyffredinol, de-orllewin y DU yw’r lle gorau ar gyfer pŵer yr haul. Mae De-orllewin Cymru yn rhan gymharol atyniadol o’r DU i gynhyrchu pŵer yr haul - gweler map y Swyddfa Dywydd yn Atodiad V.62 Mae’n ymddangos bod potensial da ar gyfer pŵer yr haul yn Ynys Môn o ystyried ei lleoliad mwy gogleddol, ac efallai y dylid ymchwilio ymhellach i’r posibilrwydd hwn. Oherwydd y gwelliannau ym maes cynhyrchu pŵer yr haul, disgwylir y bydd modd dod yn hafal â’r grid (h.y. y pwynt lle nad oes angen cymhorthdal ar gyfer trydan solar, sy’n cael ei effeithio gan faint o haul a gaiff y wlad dan sylw a phris ei thrydan) yn ystod y blynyddoedd nesaf.63 Yn wir, yn ôl adroddiad Deutsche Bank a ryddhawyd eleni, mae nifer o wledydd Ewrop eisoes wedi llwyddo i ddod yn hafal â’r grid.64 Mae cost pŵer yr haul eisoes yn is na’r targed o £100 fesul MWh ar gyfer gwynt ar y môr. Mae modd gosod paneli solar ar adeiladau masnachol a phreswyl, a’u gosod ar raddfa fwy (e.e. dros 5 MW) mewn parciau solar. Mantais parciau o’r fath, wedi’u lleoli ar dir cymharol wastad a thu ôl i wrychoedd, yw’r ffaith nad ydynt yn amharu’n weledol ar y dirwedd yn ormodol, nid ydynt yn creu arogleuon neu sŵn, ac mae modd defnyddio’r tir o hyd ar gyfer pori. Fodd bynnag, mae angen tua 6 erw fesul capasiti Megawat. O ganlyniad, mae potensial mawr i bŵer yr haul gyflenwi mwy o ynni adnewyddadwy Cymru. Mae cysylltu â’r grid yn gallu bod yn broblem ar gyfer gosodiadau mawr, ond bydd gosodiadau llai yn galluogi rhagor o gymunedau i dderbyn cyfran o’u trydan o ffynonellau lleol. Pŵer y Môr Mae llawer o botensial ar gyfer pŵer y môr yng Nghymru. Ysgrifennwyd llawer eisoes am Forglawdd Hafren, felly nid oes angen ailadrodd y wybodaeth honno yma.65 Digon yw dweud y byddai’n brosiect mawr iawn, ac mae’r manteision i Gymru a’r effaith ar yr amgylchedd yn destun dadlau mawr. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd ar gael am y prosiect cymhleth hwn, ac mae’n annhebygol iawn y bydd y llywodraeth bresennol yn neilltuo amser yn yr amserlen seneddol i basio’r ddeddfwriaeth ofynnol. Mae’r prosiect yn seiliedig ar yr egwyddor y byddai’n derbyn cymorthdaliadau rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy yn ystod y cyfnod cychwynnol, ac y byddai’r ddyled yn cael ei thalu yn ystod y cyfnod hwnnw. Byddai’n cynhyrchu trydan wedyn am gost isel iawn. Fodd bynnag, mae’r risgiau adeiladu (a’r costau rhagfynegadwy) a’r risgiau amgylcheddol sy’n deillio o brosiect mor fawr yn sylweddol, ac nid yw’n glir pwy fydd yn berchen ar y datblygiad (ac yn cael budd ohono) ar ôl talu’r costau ariannu.                                                                                                                       62  http://www.metoffice.gov.uk/renewables/solar   63

 GLOBAL OVERVIEW ON GRID-PARITY EVENT DYNAMICS Ch. Breyer a A. GerlachQ-Cells SE, Sonnenallee 17 - 21, 06766 Bitterfeld-Wolfen OT Thalheim, Yr Almaen, 64  http://www.pv-magazine.com/news/details/beitrag/deutsche-bank--sustainable-solar-market-expected-in2014_100010338/#axzz2LyRXuVHd .

23


Fodd bynnag, mae datblygiadau eraill ar waith, gan gynnwys morlyn llanw dros 200 MW ym Mae Abertawe, sy’n gallu cynhyrchu 400,000 MWh o drydan, tua 2.5% o ddefnydd Cymru.66 Mae cyfleoedd mawr eraill hefyd ar gael ymhellach i fyny Aber Afon Hafren ac mewn llefydd eraill ar hyd arfordir Cymru. Yn ogystal, byddai datblygu ynni o’r fath yn gynyddrannol, ac er nad yw pob rhan unigol yn newydd, mae’r cyfluniad cyfunol yn newydd. Mae hyn yn rhoi cyfle posibl i Gymru fod yn ganolfan bwysig ar gyfer arbenigedd ym maes cynhyrchu ynni amrediad llanw. Mae prosiectau hefyd ar waith gan y cwmni o Gymru, Tidal Energy Limited, i fanteisio ar ynni ffrwd llanw yn Sir Benfro67, a buddsoddiadau newydd mewn ffrydiau llanw oddi ar Ynys Môn 68. Mae gan y prosiectau hyn y potensial i ddatblygu arbenigedd gwirioneddol yng Nghymru nid yn unig er mwyn manteisio ar adnoddau’r wlad ond hefyd i sefydlu canolfan ragoriaeth sydd â’r potensial i greu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor a chyfleoedd allforio. Pŵer Niwclear Un o’r cynlluniau mwyaf dadleuol ym maes cynhyrchu ynni yng Nghymru yw gorsaf bŵer newydd Wylfa. Bwriad cynlluniau blaenorol cwmni Horizon oedd creu gorsaf â chyfanswm capasiti o 3.3 GW – h.y. 3.6 gwaith yn fwy na chyfanswm cyfunol dau adweithydd Wylfa. Fodd bynnag, yn ôl gwefan Horizon: “Following the acquisition of Horizon Nuclear Power by Hitachi, we plan to deliver at least two Advanced Boiling Water Reactors (ABWRs) – generating a minimum of 2,600MW at Wylfa. Our development will also allow for a third unit at Wylfa, providing an additional 1,300-1,400MW of electricity to the UK.” Byddai hyn yn cyfateb i tua 80% o’r holl drydan a gynhyrchir yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn uwch o lawer na’r defnydd o drydan yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r safle datblygu 232 hectar enfawr tua deg gwaith yn fwy na safle’r orsaf bŵer bresennol.69

                                                                                                                      66

http://www.tidallagoonswanseabay.com http://www.tidalenergyltd.com   68 http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-21604951 69  http://www.horizonnuclearpower.com/files/downloads/wylfa_information_pack.pdf   67

24


Mae ansicrwydd ynglŷn â sawl agwedd ar bŵer niwclear. Mae’r adweithydd sy’n cael ei gynnig ar gyfer Wylfa, sef Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch (ABWR) GE Hitachi, yn wahanol i’r adweithydd sy’n cael ei gynnig gan EDF, sef Adweithydd Gwasgeddedig Ewropeaidd (EPR). Mae’r EPR eisoes wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn y DU, ond nid yw’r ABWR wedi bod drwy’r broses gymeradwyo eto. Mae’r adweithydd EPR yn cael ei adeiladu yn Flamanville yn Normandi ac yn Olkiluoto yn y Ffindir, ond bu oedi mawr wrth ei gyflwyno ynghyd â chynnydd sylweddol yn y gost. Serch hynny, mae’n ymddangos bod gweithfeydd eraill yn China yn mynd rhagddynt yn unol â’r amserlen. Mae cynllun yr ABWR yn wahanol, ond mae’n bosibl y bydd oedi annisgwyl o ran cynllunio, costau cynyddol, oedi i’r gwaith adeiladu, a mwy o amser segur na’r disgwyl oherwydd gwaith cynnal a chadw. Mae angen bod yn ofalus, felly, wrth amcangyfrif cost defnyddio ynni niwclear i gynhyrchu trydan. Mae Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Ynni wedi adleisio’r pryderon hyn yn ddiweddar wrth drafod Hinkley Point70. Mynegodd y Pwyllgor bryderon y gallai llywodraeth y DU gymryd rhywfaint o’r risg y bydd costau adeiladu yn uwch nag a fwriadwyd. Mae’r pwnc yn ddadleuol oherwydd y ffaith fod prosiect niwclear EDF yn Flamanville yn Ffrainc wedi costio llawer iawn mwy na’r disgwyl a bod oedi mawr i’r gwaith. Yn ôl Centrica, a dynnodd allan o brosiect Hinkley Point ym mis Chwefror 2013, roedd y costau wedi cynyddu’n ddifrifol a’r amserlen ar gyfer adeiladu’r gwaith wedi dyblu. Mae ansicrwydd o hyd ynglŷn â beth i’w wneud â thanwydd niwclear pan ddaw oes adweithyddion niwclear i ben. Yn achos Wylfa dywedodd Horizon: “There will be no wastes associated with reprocessing (High Level Waste) generated at Wylfa, only spent fuel. The secure storage of spent fuel at Wylfa will be an integral part of the

                                                                                                                      70

http://www.telegraph.co.uk/finance/newsbysector/energy/10065162/Ministers-urged-to-clarifynuclear-cost-overruns.html

25


proposed new site and will be within the nuclear licensed area. It will only leave the site once a central repository is ready to accept it.” 71 Fodd bynnag, nid oes gan unrhyw wlad yn y byd ystorfa ganolog o’r fath, ac nid oes ateb parhaol wedi’i ddatblygu yn unman ynglŷn â sut i waredu tanwydd niwclear. Gwariodd UDA gannoedd o filiynau o ddoleri ar ymchwilio i safle mynydd Yucca yn Nevada, ond mae wedi ymwrthod â’r dewis hwn. Yn y DU, mae Cyngor Sir Cumbria wedi pleidleisio yn erbyn cynigion yno.72 Nid oes amheuaeth bod y cwmnïau niwclear yn hyderus bod y problemau hyn yn llai difrifol nag yn y gorffennol. Yn ôl Horizon pan oedd yn eiddo i gyfleustodau yn yr Almaen: “Nuclear reactors are now designed specifically with decommissioning in mind: in fact, PWR technology typically takes around 10 years to decommission, as opposed to the 50-100 years required to decommission a Magnox or AGR nuclear power station. The amount of waste generated by new nuclear power stations is small compared to the nuclear waste that already exists: studies undertaken for the Government have estimated that the waste generated from the operation of 10 new nuclear power stations in the UK for 60 years, generating 25% of the UK’s electricity, would add 8% to the existing volume of nuclear waste in the UK.” O dan berchnogaeth newydd Hitachi, fel y nodwyd uchod, bydd system wahanol yn cael ei defnyddio, ond diau y bydd yr un sicrwydd yn cael ei roi mewn perthynas â thanwydd a ddefnyddiwyd. O ystyried y fath hyder, ac er gwaethaf y peryglon cludiant, efallai y byddai’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i weithredwr yr orsaf bŵer symud y tanwydd o’r safle pan ddaw oes yr orsaf i ben er mwyn ei drin yn rhywle arall, neu ei gludo i ystorfa ganolog os oes un ar gael. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i’r cwmni fod yn fusnes hyfyw ar y pryd a meddu ar yr adnoddau ariannol i wneud hyn ar yr adeg berthnasol, sy’n debygol o fod degawdau lawer yn y dyfodol. Mae canlyniad a chost hirdymor ddifrifol iawn i bŵer niwclear, felly, ac mae cenedlaethau o wleidyddion wedi methu dod o hyd i ateb i’r broblem hon. Mae cronfa wedi’i sefydlu yn y DU i dalu costau datgomisynu niwclear hen orsafoedd pŵer niwclear - Cronfa Rhwymedigaethau Niwclear Cyfyngedig73. Fodd bynnag, mae amheuaeth fawr a yw adnoddau’r gronfa yn ddigonol, ac nid yw profiad Sellafield yn rhoi tawelwch meddwl yn hyn o beth74. Newidiodd darpariaethau ariannu’r gronfa yn 2009 pan ddaeth British Energy yn rhan o EDF. Yn wahanol i ddulliau eraill o gynhyrchu pŵer, felly, mae’n bosibl y bydd ynni niwclear yn arwain at gostau enfawr yn y dyfodol na ellir eu cyfrifo yn gywir (heb sôn am y risgiau amgylcheddol a diogelwch yn sgil tanwydd niwclear sydd wedi’i ddefnyddio).                                                                                                                       71

http://www.horizonnuclearpower.com/files/downloads/wylfa_information_pack.pdf   http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-cumbria-21253673 73 http://www.nlf.uk.net 74 http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-cumbria-21298117 72

26


Prisio Pŵer Mae’n ddyddiau cynnar ar lawer o’r maes cynhyrchu trydan adnewyddadwy ac nid yw wedi cyrraedd y maint a/neu’r effeithlonrwydd sydd ei angen i gystadlu â thanwydd ffosil. Deillia hyn yn rhannol o’r ffaith ei bod yn dechnoleg newydd, a’n rhannol o’r ffaith fod tanwydd ffosil wedi’i brisio’n rhy isel – yn gyffredinol, caiff ei brisio ar gost ffiniol cynhyrchu, yn hytrach nag ar sail dibrisiant llawn er mwyn ystyried ei fod yn adnodd â phen draw iddo. Mae cyfrifo cost amnewid yn y ffordd hon yn annigonol (hyd yn oed os nad yw’r byd eto wedi cyrraedd anterth cynhyrchiant olew, yn bendant mae’r dyddodion rhataf a hawsaf i’w hechdynnu eisoes wedi’u darganfod a’u defnyddio i raddau helaeth. Bydd adnoddau’r dyfodol yn sicr yn ddrutach i’w hechdynnu, a chost adnewyddu’r cronfeydd presennol yn uwch). Yn sgil y gwahaniaeth hwn yn y pris, mae llywodraethau llawer o wledydd wedi pennu systemau prisio ar gyfer gwneud ynni adnewyddadwy’n fwy deniadol. Yn y DU, mae’r rhain yn perthyn i dri chategori yn y bôn – Tariffau Cyflenwi Trydan (FITs), Tystysgrifau Ymrwymo i Ynni Adnewyddadwy (ROCs) a Chontractau Gwahaniaeth (CfDs). Yn eu hanfod, tariffau prisiau hirdymor ar gyfer hyd at 5 MW o gapasiti yw’r FITs, a system sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i gyflenwyr trydan ddangos bod cyfran o’u trydan wedi’i gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy yw’r ROCs. Maent yn gwneud hyn drwy brynu trydan adnewyddadwy a chael yr ROCs i’w trosglwyddo i Ofgem, neu dalu dirwy os nad oes ganddynt ddigon o ROCs. Ar ôl iddynt ddechrau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, bydd cynhyrchwyr yn derbyn nifer a bennwyd ymlaen llaw o ROCs am gyfnod maith o amser (20 mlynedd), a gallant werthu’r rhain wedyn yn y farchnad. Er enghraifft, ddiwedd y llynedd cyhoeddodd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd y tariffau cymwys ar gyfer ynni haul a biomas i brosiectau a gwblheir dros y tair blynedd nesaf.75 System brisio sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i gyflenwr ynni gytuno ar strwythur prisio hirdymor (i gwsmeriaid) yw’r CfDs; mae’n rhoi sicrwydd i’r cynhyrchydd ynni ynglŷn â’r pris y bydd yn ei dderbyn am y trydan dros nifer o flynyddoedd, sy’n ei helpu i ariannu’r gwaith o adeiladu’r capasiti cynhyrchu. Nid yw’n gwbl eglur sut y bydd hyn yn gweithio’n ymarferol ond dyma’r system brisio a argymhellir yn y Bil Ynni a dyma sail y drafodaeth rhwng Llywodraeth y DU ac EDF ynglŷn â’r trefniant prisio i danategu’r gwaith o adeiladu gorsafoedd niwclear. Canlyniad trefniadau o’r fath yw y bydd cwsmeriaid terfynol yn gweld biliau uwch yn y dyfodol agos iawn. Bydd pa un a fydd biliau cwsmeriaid yn uwch yn y tymor hwy yn dibynnu ar gynnydd ym mhrisiau’r farchnad danwydd ffosil. Bydd llai o ddibyniaeth ar fewnforio tanwydd ffosil hefyd yn cynyddu diogelwch ffynonellau ynni. Weithiau, honnir bod cost cymorthdaliadau ynni adnewyddadwy wedi arwain at gynnydd sydyn mewn biliau ynni, ond yn ôl y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn 2011, dim ond 6% o’r cynnydd o 79% a fu mewn biliau trydan domestig rhwng 2004 a 2011 oedd yn deillio o’r cymorthdaliadau ynni adnewyddadwy, ac nid oedd y rhain yn cyfrannu dim at y cynnydd o 121% ym mhrisiau nwy. Ychwanegodd prisio carbon                                                                                                                       75

Adolygiad Bandio o ran Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2013 i 31 Mawrth

2017.

27


(9%) ac arian effeithlonrwydd ynni (13% ar gyfer trydan a 7% ar gyfer nwy) at y biliau, ond newidiadau i brisiau tanwydd cyfanwerthol oedd i’w gyfrif am 66% o’r cynnydd ym mhrisiau nwy a 54% o’r cynnydd ym mhrisiau trydan. O’r ffigurau hyn, gellir gweld pa mor agored yw prisiau i amrywiadau mewn tanwydd ffosil wedi’i fewnforio yn y tymor hir, a dylid edrych ar greu ffynonellau ynni nad ydynt yn ddibynnol ar y newidiadau hyn yn y cyd-destun hwn.

Gas - Nwy Electricity – Trydan Overall price increase – Cynnydd cyffredinol yn y pris % of increase in unit costs due to: - % y cynnydd yng nghostau uned yn deillio o: Wholesale energy – Ynni cyfanwerthol Transmission, distribution and metering – Trawsyrru, dosbarthu a mesur defnydd Carbon price – Pris carbon Renewables – Ynni adnewyddadwy Energy efficiency funding – Arian effeithlonrwydd ynni VAT - TAW Estimated increase in annual bill (2004 to 2010) – Amcangyfrif o’r cynnydd yn y bil blynyddol (2004 i 2010) Source: Household energy bills... – Ffynhonnell: Household energy bills – impacts of meeting carbon budgets Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, Rhagfyr 2011 Siart 5: Amcangyfrif o’r ffactorau sy’n cyfrannu at gynnydd ym mhris ynni domestig Chwefror 2004 i Ionawr 2011 Yn niffyg mesurau pellach i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni, roedd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn rhagweld y byddai cynnydd yng nghost gyfartalog trydan rhwng 2010 a 2020 o 12.6c i 17.8c y KWh. Byddai 2.7c ohono’n gost prisio carbon, ynni adnewyddadwy neu arian effeithlonrwydd ynni, a dim ond 1.5c ohono fyddai’n deillio o newid i’r system brisio gyfanwerthol76:                                                                                                                       76

Household energy bills – impacts of meeting carbon budgets, Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, Rhagfyr 2011  

28


p/kWh (£2010) – c/kWh (£2010) VAT – TAW Energy efficency funding – Arian effeithlonrwydd ynni Carbon price – Pris carbon Renewables, CCS – Ynni adnewyddadwy, dal a storio carbon Transmission, distribution and metering – Trawsyrru, dosbarthu a mesur defnydd Wholesale energy – Ynni cyfanwerthol Support for low-carbon investments – Cymorth i fuddsoddiadau carbon isel Siart 6: Cynnydd rhagamcanol ym mhrisiau trydan manwerthol domestig (20102020), Ffynhonnell: Prisiau Ynni Chwarterol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, Ofgem, cyfrifiadau’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd.77 Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi y gallai’r ffigurau hyn amrywio’n sylweddol; mae cost prisiau tanwydd cyfanwerthol yn llawer mwy cyfnewidiol nag elfennau eraill y cyfrif, a hefyd y tu hwnt i reolaeth y llywodraeth. Os yw profiad y saith mlynedd flaenorol yn ganllaw o unrhyw fath, mae’n bur bosibl fod prisiau cyfanwerthol gryn dipyn yn uwch, er ei bod yn wir y gallai darganfod nwy siâl a’r hinsawdd economaidd anodd bylu effaith hyn. Yn bwysicach, fodd bynnag, mae ynni adnewyddadwy nid yn unig yn cynnig mwy o ddiogelwch y cyflenwad ynni, ond hefyd mae’n fuddsoddiad yn y dyfodol ac mewn swyddi. Bydd creu ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y blynyddoedd sydd i ddod yn sicrhau costau cynhyrchu sy’n debygol o fod yn is yn y dyfodol, naill ai o ganlyniad i dechnoleg well neu am y bydd costau cyfalaf wedi’u talu’n rhannol ac ni fydd costau tanwydd parhaus. Hefyd, mae’n bosibl y caiff swyddi eu creu yn y diwydiant ynni adnewyddadwy. Mewn cyferbyniad, o barhau i ddefnyddio tanwydd ffosil, nid yw’r dyfodol yn cynnig unrhyw sicrwydd o’r fath, dim ond mwy o debygolrwydd y bydd prisiau’n uwch ac yn parhau’n anwadal ac annibynadwy. Dylid ystyried gwariant ar ynni adnewyddadwy fel buddsoddiad, a                                                                                                                       77

http://downloads.theccc.org.uk.s3.amazonaws.com/Household%20Energy%20Bills/CCC_Energy%20Not e%20Bill_bookmarked_1.pdf

29


gwariant ar danwydd ffosil fel treuliant. Teimlai’r Pwyllgor hefyd fod cryn dipyn o le i fesurau pellach (e.e. atal gwerthiant cyfarpar sy’n defnyddio ynni’n llai effeithlon) a allai leihau’r galw am drydan domestig yn sylweddol. Trafnidiaeth Fel y gwelir uchod, mae’r sector trafnidiaeth yn arbennig yn ddibynnol iawn ar danwydd ffosil. O ystyried natur strategol y rhwydwaith rheilffyrdd, mae trydaneiddio’r rhwydwaith reilffyrdd, er mai yn ddiweddar iawn y daeth i Gymru, yn cynnig ffordd bwysig o leihau dibyniaeth Cymru ar danwydd ffosil. Mae costau rhedeg trenau trydan yn is, mae’n wasanaeth sy’n gallu bod yn gyflymach ac mae’n achosi llai o draul ar y trac. Hefyd mae’n gyfle i ddarparu trafnidiaeth drwy ddefnyddio ffynhonnell ynni sy’n fwy cynaliadwy os na chaiff y trydan ei gynhyrchu gan danwydd ffosil. Fodd bynnag, oni cheir mwyfwy o ddefnydd ar geir, lorïau a bysiau trydan, ychydig iawn o newid sylfaenol a welir yn y maes hwn. Mae’n debygol mai braidd yn gyfyngedig fydd y defnydd o fiodanwydd o ystyried y galwadau eraill ar amaethyddiaeth fyd-eang. Siomedig fu’r defnydd o gerbydau trydan yn fyd-eang, ac rydym yn parhau’n gaeth i’r peiriant tanio mewnol. Mae nifer o ffactorau’n cyfrannu at yr amharodrwydd i newid, ond mae rhywfaint o sefyllfa’r ‘iâr a’r wy’ yn perthyn i’r graddau y mae unigolion a chwmnïau’n amharod i fuddsoddi mewn cerbydau o’r fath nes y bydd seilwaith yn bodoli ar gyfer ail-lenwi â thanwydd mewn modd dibynadwy a chyfleus, a cheir amharodrwydd i fuddsoddi mewn seilwaith o’r fath nes y bydd y galw’n cyfiawnhau hynny. Yn bendant, nid yng nghyd-destun Cymru’n unig y gwelir y materion hyn, ond mae nifer o fesurau y gellir eu rhoi ar waith yng Nghymru i wella’r sefyllfa. Mae lle i wella’r defnydd o fysiau trydan. Yn aml, mae teithiau bysiau’n gymharol fyr ac wedi’u trefnu ymlaen llaw, a chyfleusterau garej wrth law, sy’n gwneud bysiau’n gerbydau addas ar gyfer defnyddio ynni tanwydd nad yw’n danwydd ffosil. Mae Cymru ar ei hôl hi braidd o gymharu â gweddill y DU, fel y nododd y Western Mail yn ddiweddar: “Grants in Scotland and England help operators bridge the gap between the upfront cost of conventional diesel buses and greener alternatives. Last year alone, the Department for Transport helped companies buy 434 green buses for urban and rural areas across England. The Scottish Government has provided about £7.7m since 2010 towards 94 lowcarbon buses, as it aims for a 42% cut in Scottish carbon emissions by 2020. The Green Bus Fund in both countries sugars the pill of cuts to other grants. Wales has cut bus funding deeper – but without balancing incentives to invest in green technology. The situation could be a double whammy for Welsh passengers – already hit by large fare rises – if diesel prices increase, because hybrid buses consume about half the fuel of normal buses. Some English buses now even run on biogas produced from farm waste and sewage.”78

                                                                                                                      78

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/environmental-campaigners-call-eco-bus-grant-3871522    

30


Mae angen gwaith ymchwil pellach ar y potensial i leihau’r defnydd o danwydd ffosil ar gyfer trafnidiaeth, ynghyd â gwell dealltwriaeth o’r prif elfennau sy’n atal eu defnydd, ond nid yw’r mentrau hawsaf hyd yn oed yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru. Y potensial i arbed ynni Mae’r uchod wedi ymdrin â’r potensial i gynhyrchu rhagor o ynni. Fodd bynnag, mae yna gyfle sylweddol i leihau faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio. Mae llawer o’r gostyngiad yn yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio yn y DU yn adlewyrchu’r newid o ddiwydiannau trwm a gweithgynhyrchu, a’r lefel is o weithgaredd economaidd dros y pum mlynedd diwethaf neu ragor. O ystyried y newid mewn gweithgarwch economaidd, mae’n anodd iawn dadgyfuno newidiadau yn y defnydd o ynni gan y sectorau masnachol a diwydiannol heblaw ar sail diwydiannau unigol, a fyddai’n dasg gymhleth ac yn cymryd llawer o amser. Bydd y ddogfen hon yn canolbwyntio felly ar arbed ynni yn y sector domestig. Fodd bynnag, mae rhan o’r gostyngiad hwn yn y defnydd o ynni yn deillio o fesurau arbed ynni, naill ai ar ffurf mentrau unigol neu fentrau llywodraeth, er enghraifft gwydro dwbl, addasu gofod to neu inswleiddio waliau. Mae defnydd domestig o nwy a thrydan wedi bod yn gostwng ers cryn dipyn o amser. O 2005 ymlaen, roedd y defnydd o nwy wedi disgyn dros un rhan o dair erbyn 2011, a disgynnodd y defnydd o drydan tua 10% dros yr un cyfnod.79 Er y gellid priodoli peth o’r gostyngiad i’r hinsawdd economaidd anodd, ac yn bendant, roedd y lleihad yn y defnydd o nwy yn adlewyrchu’n rhannol y cynnydd cymharol ym mhrisiau nwy dros y cyfnod, ond mae’r llinellau tuedd yn eithaf llyfn ac yn awgrymu lleihad mwy graddol yn y defnydd, yn hytrach na gostyngiad sydyn ar ôl 2007/8.

                                                                                                                      79

Energy Generation and Consumption for Wales, 2011, Bwletin Ystadegol, Ystadegau Cymru, 19/2013, t 13 a 14, siartiau 12 a 13

31


kWh sales per consumer – kWh gwerthiant fesul cwsmer Year ending 30 September – Blwyddyn yn gorffen 30 Medi Siart 7: Defnydd cyfartalog o nwy domestig fesul cwsmer, Ffynhonnell: Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, allan o Energy Generation and Consumption for Wales, 2011 Bwletin Ystadegol, Ystadegau Cymru, 19/2013, t 13.

kWh sales per consumer – kWh gwerthiant fesul cwsmer Year beginning end of January – Blwyddyn yn dechrau ddiwedd Ionawr Siart 8: Defnydd cyfartalog o drydan domestig fesul cwsmer, Ffynhonnell: yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, allan o Energy Generation and Consumption for Wales, 2011 Bwletin Ystadegol, Ystadegau Cymru, 19/2013, t 14. Fodd bynnag, ceir amrywiadau rhwng awdurdodau lleol fel y dengys y tabl yn Atodiad VI. Mae cyfradd adeiladu tai yn y DU yn isel iawn. Fel y mae’r UK Housing Energy Fact File yn ei nodi: “There are now 27.3 million dwellings in England, Scotland, Wales and Northern Ireland, but fewer than 180,000 new homes are built each year, and far fewer homes are demolished. The total number of dwellings changes very slowly over time: the average growth in numbers of dwellings from 2000 to 2010 was only 210,000 – less than 1% per year”.80 Mae Cymru’n wynebu nifer o heriau arbennig yn hyn o beth. Fel rhan o’r DU sydd â phoblogaeth gymharol sefydlog a chymharol dlawd, nid yw nifer y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu yn fawr iawn, sy’n golygu fod adeiladu tai newydd yn lle’r stoc tai bresennol yn mynd i gymryd cryn dipyn o amser. Mae llawer o’r stoc tai eisoes yn eithaf hen ac nid yw o anghenraid yn                                                                                                                       80

t.17

32


hawdd inswleiddio waliau er enghraifft, felly mae’n bosibl mai ychydig o fesurau y gellir eu mabwysiadu sy’n ymarferol yn economaidd. Ond bu gwelliant sylweddol yn ansawdd gwaith inswleiddio ar dai newydd sy’n cael eu hadeiladu, fel y dengys y tabl isod, (sy’n cyfeirio at GAS - Gweithdrefn Asesu Safonol – sef rhinweddau inswleiddio annedd, a gorau po uchaf yw’r sgôr):

Ffynhonnell: Ystadegau Cymru/ Llywodraeth Cymru Sgôr cyfartalog GAS tai yng Nghymru Sgôr cyfartalog GAS tai newydd yng Nghymru

1997/8

2004

35.9

46.5

2008 2009 2011 50.3 78.8

80.3

Yn wir, o ystyried yr holl ffactorau hyn, gwelwyd cynnydd cyffredinol yn sgôr GAS stoc tai’r DU dros nifer o flynyddoedd:

SAP rating of average GB house – Sgôr GAS tŷ cyffredin ym Mhrydain Siart. 9. Sgôr GAS cartrefi cyffredin ym Mhrydain, Sgoriau cyfartalog GAS 2005 yn ôl blwyddyn81 Felly, mae’n amlwg fod lle i wella effeithlonrwydd ynni drwy adeiladu cartrefi newydd, ond byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i newidiadau i’r system o bolisïau a chymhellion adeiladu tai. Gallai arbed ynni elwa o hyn, ond mae’n annhebygol o sbarduno newidiadau o’r fath. O ganlyniad, mae angen i fesurau arbed ynni ganolbwyntio’n bennaf ar addasu’r stoc tai presennol yn ôl-weithredol i allu gwneud                                                                                                                       81

https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/48195/3224-great-britainshousing-energy-fact-file-2011.pdf  

33


gwahaniaeth arwyddocaol yn y dyfodol agos. Mae cyfran sylweddol o’r hyn y gellir ei gyflawni eisoes wedi’i wneud o ran inswleiddio gofod to a gwydro dwbl82, er bod gwahaniaethau yn ansawdd gwydro dwbl a dyfnder inswleiddiad gofod to, ac mae’r gyfran o waliau y gellir eu llenwi ag inswleiddiad waliau ceudod hefyd wedi cynyddu, fel y mae’r defnydd o foeleri nwy mwy effeithlon. Ymddengys bod mentrau Llywodraeth y DU ym maes inswleiddio wedi cael rhywfaint o effaith83, er bod y rhaglenni hyn yn gyfrifol am beth o’r cynnydd yng nghost biliau trydan, ac efallai bod cynnydd o’r fath wedi cael ei weld fel canlyniad i gostau ynni adnewyddadwy yn hytrach na chostau arbed ynni. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwyslais arbennig ar wella perfformiad ynni tai drwy raglen Arbed84, sydd hefyd yn cynnwys paneli solar a phympiau gwres a rhan o’r gost o osod boeleri nwy mwy effeithlon. Yn ôl Llywodraeth Cymru, dyma’r rhaglen fwyaf o’i bath yn y DU, ac roedd y cyfnod cyntaf wedi darparu dros £68 miliwn, gyda £37 miliwn ohono gan Lywodraeth Cymru, £20 miliwn gan ddarparwyr tai cymdeithasol, a’r gweddill gan gyflenwyr ynni, gan ddefnyddio mentrau Llywodraeth y DU y cyfeiriwyd atynt uchod. Er ei fod yn cael ei ddisgrifio fel buddsoddiad, ymddengys bod y rhaglen yn fwy o grant ar gyfer gwelliannau. Yn ôl Llywodraeth Cymru, rhoddwyd cymorth i fwy na 7,500 o gartrefi yn ystod y cyfnod cyntaf, felly ar gyfartaledd, gwariwyd tua £9,000 ar bob cartref a oedd rhan o’r cynllun. Dechreuodd cynllun newydd ym mis Mai 2012. Y Fargen Werdd newydd yw rhaglen ddiweddaraf Llywodraeth y DU ar gyfer symbylu’r gwaith o addasu’r stoc adeiladu presennol yn ôl-weithredol. Yn gryno, mae’n galluogi perchnogion i gyflawni mesurau effeithlonrwydd ynni (e.e. inswleiddio waliau ceudod, inswleiddio gofod to, mesurau gwrth-ddrafft ac ati) a chynlluniau ynni adnewyddadwy bach (e.e. paneli solar ffotofoltäig, pwmp gwres o’r ddaear ac ati) ar lai o gost/heb ddim cost ymlaen llaw. Ad-delir y costau mewn rhandaliadau drwy filiau trydan y deiliad. Os yw’r perchennog yn gwerthu’r tŷ, bydd y perchennog newydd yn parhau i ad-dalu’r costau gan y bydd yn elwa o’r mesurau a osodwyd. Mae’r Fargen Werdd yn gymwys i fusnesau, cartrefi, tenantiaid a landlordiaid, yn ogystal â pherchnogion tai. Asesir adeiladau gan aseswyr cofrestredig y Fargen Werdd i asesu’r mesurau gorau ar gyfer yr eiddo ac i sicrhau fod y gwaith yn ymarferol yn ariannol, h.y. fod yr arbedion a wneir yn gwneud iawn am y cynnydd yn y biliau oherwydd y swm sydd i’w ad-dalu. Nid yw hyn yn gwarantu y bydd costau ynni’n is, ond mae’n golygu y bydd llai o gynnydd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn awyddus i nodi nad oes modd darogan costau biliau ynni yn y dyfodol a bydd unrhyw gyfrifiadau wedi’u seilio ar brisiau cyfredol. Dylid nodi er hynny mai cynllun ariannol yn ei hanfod yw’r Fargen Werdd sy’n galluogi’r perchennog i fenthyg arian hirdymor (10-25 mlynedd) er mwyn talu am wydro dwbl er enghraifft, a bydd hyn yn talu am ei hun drwy leihau biliau ynni. Bydd asesydd yn amcangyfrif y gostyngiad mewn biliau ynni, ond fe’i seilir yn naturiol ar ganlyniadau cyfartalog. Fodd bynnag, mae’r aseswyr yn gysylltiedig â’r cwmnïau sy’n darparu’r gwelliannau ac mae perygl o gam-werthu wrth i bobl ymrwymo i gytundebau hirdymor nad ydynt yn eu deall. Caiff y benthyciad ei ad-dalu drwy ostyngiadau yn y biliau ynni ac mae’n aros gyda’r eiddo, nid yr unigolyn, felly gallai hyn effeithio ar y gallu i werthu, a gallai olygu bod newid o un cyflenwr i’r llall yn anos, er bod system                                                                                                                       82

Ibid t. 43 et seq. Ibid t.52   84  http://cymru.gov.uk/topics/environmentcountryside/energy/efficiency/arbed/?skip=1&lang=cy     83

34


yn ei lle ar gyfer hyn. Gallai fod problemau hefyd os yw’r cartref yn cael ei ddifrodi neu ei ddinistrio gan dân neu lifogydd, a pha un a yw’r benthyciad wedi’i yswirio, a phwy sy’n ysgwyddo risg o’r fath. Mewn egwyddor, mae’r cynllun yn galluogi pobl i gael arian ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni eu cartref, a dylai’r gost sydd i’w haddalu fod yn is na’r arbedion ynni, ond rhaid aros i weld a fydd gweithredu’r cynllun yn arwain at rywfaint o galedi ariannol. Hefyd, mae strwythur y Fargen Werdd yn adlewyrchu’r ffaith fod eiddo rhentu preifat ymysg y mathau o eiddo lleiaf effeithlon o safbwynt arbed ynni; mae’n bur debyg fod hyn yn gweithio’n well i landlordiaid preifat na pherchnogion sy’n byw yn eu cartrefi, am y gallant ariannu prosiectau lluosog o bosibl, ac wrth gwrs, caiff hyn ei ariannu yn y tymor hir drwy filiau trydan eu tenantiaid. Er hynny, dylai hyn wella effeithlonrwydd ynni’r mathau hyn o eiddo, a byddai unrhyw welliannau gan landlordiaid yn cael eu hariannu drwy godi’r rhent beth bynnag. Mae Cymru’n wynebu rhai problemau arbennig mewn perthynas â defnydd ynni. Ceir nifer cymharol fawr o bobl wedi ymddeol yng Nghymru sydd at ei gilydd angen gwresogi eu cartrefi i dymheredd uwch na’r boblogaeth yn gyffredinol. Hefyd, ymddengys bod y mapiau defnydd ynni a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd85 yn awgrymu er bod patrwm cyffredinol y defnydd o ynni domestig a masnachol yn dilyn y fras yr hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl – e.e. ardaloedd lle ceir defnydd masnachol uchel yn ardaloedd diwydiannol De Cymru (yn cynnwys Sir Benfro o ganlyniad i ddefnyddio ynni yn Aberdaugleddau), ceir rhai materion sy’n werth eu nodi. 1. Mae defnydd o nwy masnachol ar Ynys Môn yn arbennig o uchel. Gallai fod angen rhoi sylw pellach i hyn. 2. Ceir cyferbyniad amlwg rhwng y defnydd o ynni yng nghefn gwlad Cymru (uwch) a’r ardaloedd trefol. Mae hyn yn arbennig o wir am Bowys ac Ynys Môn. Efallai bod hyn yn deillio o nifer uwch o dai sengl, a rhai mwy o faint o bosibl. 3. Ceir cyferbyniad rhwng Cymru (a’r Alban a rhannau o ogledd Lloegr hefyd) rhwng defnydd y pen a defnydd fesul aelwyd. Mae defnydd y pen i’w weld ychydig yn uwch yng Nghymru o gymharu â defnydd fesul aelwyd sy’n debycach i batrwm cyffredinol y DU. Gallai hyn awgrymu bod mwy o bobl yn byw ar aelwydydd llai o faint neu aelwydydd un person yng Nghymru (yn gysylltiedig ag oedran o bosibl). Hefyd, ymddengys bod ardaloedd tlotach o Gymru yn tueddu i ddefnyddio mwy o ynni domestig o gymharu â llain arfordirol de Cymru er enghraifft, a gallai hyn fod yn arwydd o gyflwr gwael y tai a gwaethygiad tlodi tanwydd. Yn sicr, mae defnydd y rhan fwyaf o ddeddwyrain Lloegr o ynni domestig yn isel, heblaw rhai ardaloedd i’r de ac i’r gorllewin o Lundain ac yng nghanolbarth Lloegr. Efallai bod yr ardaloedd hyn gryn dipyn yn fwy cefnog ac yn cynnwys tai mwy o faint, ond nid yw’r darlun cyffredinol yn adlewyrchu patrwm sy’n dynodi bod CMC y pen yn arwain at ddefnyddio mwy o ynni.

                                                                                                                      85

https://www.gov.uk/government/statistical-data-sets/maps-showing-average-energy-consumption

35


Mae data diweddar a gyhoeddwyd gan Llais Defnyddwyr Cymru86 yn dynodi bod cost trydan yng Nghymru, yn enwedig yn y de, yn uwch na’r rhan fwyaf o rannau eraill y DU. Er enghraifft, y bil cyfartalog ar delerau credyd safonol i gwsmer domestig yn ne Cymru yw £467, o gymharu â £455 i gwsmer yn y gogledd a chyfartaledd o £461 ledled Cymru. Y ffigurau cymharol ar gyfer yr Alban a Lloegr yw £455 a £439. Fel yr awgrymwyd uchod, nid yw’r swm sylweddol o drydan a gynhyrchir yng Nghymru yn arwain at brisiau trydan is, hyd yn oed yn y rhan o Gymru sy’n allforio llawer ohono. Fodd bynnag, yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy trawiadol am ffigurau costau trydan yw bod y dull o dalu yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gost trydan. Biliau trydan ‘ar-lein, drwy ddebyd uniongyrchol’ y cwsmer cyfartalog yw £360 yng Nghymru, £350 yn yr Alban a £333 yn Lloegr. Er bod y gwahaniaeth yng nghost trydan yng Nghymru o gymharu â gweddill y DU yn bwysig (ar gyfartaledd, mae cwsmeriaid Cymru yn gorfod talu mwy na chwsmeriaid yr Alban neu Loegr am eu trydan beth bynnag fo’r dull o dalu) ond mae’r cynnydd hwn o tua £100 ar fil cyfartalog o £360 sy’n deillio’n llwyr o’r dull o dalu yn ffactor llawer iawn mwy yn nhlodi tanwydd Cymru, yn enwedig am ei fod yn debygol o effeithio ar y rhai lleiaf abl i’w fforddio. Ceir nifer o ffactorau sy’n dylanwadu ar gost trydan i’r cwsmer domestig, a chânt eu trafod yn drylwyr yn nogfen Llais y Defnyddwyr, ond maent yn tanlinellu’r ffaith fod darniad y system a gwahanol bolisïau codi tâl y gwahanol gyflenwyr (ceir gwahaniaethau sylweddol yn y prisiau a godir drwy ddulliau talu amrywiol y gwahanol gyflenwyr) sy’n gymharol anhryloyw, yn golygu bod rhan sylweddol iawn o gost ddomestig trydan yn deillio o flaenoriaethau masnachol cyflenwyr lledfonopolistaidd mewn marchnad nad yw’n dryloyw. Mae’r cefndir hwn yn tanlinellu’r angen i edrych am ffyrdd eraill o gynhyrchu trydan (e.e. drwy nifer fawr o gyflenwyr amrywiol, cynnydd mewn hunangynhyrchu (e.e. paneli solar a phympiau gwres) a pherchnogaeth gymunedol/drefol/Llywodraeth Cymru o asedau cynhyrchu trydan) yn ogystal â dull mwy systemig o gynhyrchu a chyflenwi trydan, oherwydd bod y system gyfredol i’w gweld yn cynhyrchu canlyniadau prisio mympwyol am nwydd hanfodol, ac yn codi cwestiynau ynglŷn â gallu’r system reoleiddio i weithredu’n effeithiol. Byddai angen gwneud cryn dipyn o waith ymchwil pellach ar y mentrau polisi pragmatig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y tymor byr a chanolig, er enghraifft annog perchnogaeth gymunedol o brosiectau ffermydd gwynt, yn ogystal â’r nodau polisi hirdymor y dylid eu ffurfio. Y Cyd-destun Rhyngwladol Wrth lunio polisi ynni ar gyfer Cymru, mae’n rhaid ystyried cyd-destun byd-eang marchnadoedd ynni a’r materion amgylcheddol sy’n her i bob llywodraeth heddiw. Er bod llai o ynni wedi bod yn cael ei ddefnyddio yn y DU, nid yw hyn yn wir yn fydeang, lle mae disgwyl i’r galw am danwyddau ffosil ar gyfer capasiti cynhyrchu godi’n gyflym, heb sôn am unrhyw alw arall.

                                                                                                                      86

http://www.consumerfocus.org.uk/wales/publications/welsh-household-electricity-prices-%E2%80%93full-report

36


87

Change in power generation, 2010-2035 – Newid mewn cynhyrchu pŵer, 2010-2035 Coal – Glo Gas – Nwy Nuclear – Niwclear Renewables – Ynni adnewyddadwy China – Tsieina India – India United States – Yr Unol Daleithiau European Union – Yr Undeb Ewropeaidd Japan – Japan TWh – TWh Er mwyn rhoi’r siart hwn yn ei gyd-destun, dylid nodi bod y DU yn cynhyrchu llai na 400TWh o drydan. Mae twf cyflym economïau’r gwledydd datblygol wedi arwain at gynnydd enfawr yn y galw am bob math o adnoddau, gan gynnwys ynni. Mae hyn wedi rhoi pwysau ar gyflenwadau, gan arwain at brisiau uwch. Er ei bod yn bosibl y bydd prisiau’n codi ar gyflymder gwahanol, rhagwelir y bydd y galw yn parhau i arwain at brisiau ynni uwch, oni fydd rhywbeth yn amharu’n sylweddol ar economi’r byd. Er mwyn parhau i fod yn gystadleuol, mae’n rhaid i Gymru lunio polisi prisio ynni ar gyfer ei diwydiannau sy’n cymharu â phrisiau gwledydd eraill yn yr un sector. Mewn gosodiadau mawr, fel gweithfeydd dur, mae’n amlwg bod llawer o gyfalaf wedi’i fuddsoddi, sy’n tueddu i filwrio yn erbyn symud y gwaith i rywle arall. Fodd bynnag, dros gyfnod o amser a phan fydd rhaid i gwmnïau rhyngwladol benderfynu ble maen nhw am fuddsoddi, mae’n amlwg y bydd hon yn ystyriaeth bwysig, yn enwedig ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys.

                                                                                                                      87

http://www.carbonbrief.org/blog/2012/11/favourite-graphs-from-iea    

37


Mae’r siart isod yn dangos y gost gymharol ar gyfer defnyddwyr trydan bach, canolig a mawr mewn gwledydd gwahanol yn yr UE. Mae’r siart yn dangos bod y DU yn y canol yn fras. Yn ôl nodiadau rhagarweiniol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd: “The average domestic electricity price including taxes in the UK for medium consumers for the period July to December 2013 was the fifth lowest in the EU 15 and was 12.4 per cent below the median price. The UK price excluding taxes was the second highest in the EU15 and was 19.4 per cent above the median price.” Mae hyn yn pwysleisio, ond nid yn glir iawn, rôl bwysig treth o safbwynt costau ynni. Mae modd gweld hyn yn gliriach o lawer yn y siartiau dilynol sy’n dangos prisiau rhyngwladol gydag a heb ffioedd treth ar gyfer nwy a thrydan.

88

Average domestic electricity prices by size of consumers July – December 2012 – Prisiau trydan domestig cyfartalog yn ôl maint defnyddwyr Gorffennaf – Rhagfyr 2012 small – bach medium - canolig large - mawr pence per kWh – ceiniog fesul kWh Bulgaria – Bwlgaria Romania – Rwmania Lithuania – Lithiwania France – Ffrainc                                                                                                                       88

https://www.gov.uk/government/statistical-data-sets/international-domestic-energy-prices

38


Czech Republic – Y Weriniaeth Tsiec Poland – Gwlad Pwyl Slovenia – Slofenia Finland – Y Ffindir Hungary – Hwngari Malta – Malta Slovakia – Slofacia UK – DU Netherlands – Yr Iseldiroedd Portugal – Portiwgal Sweden – Sweden Ireland – Iwerddon Germany – Yr Almaen Cyprus - Cyprus

Average EU and G7 Domestic Gas Prices in 2011 – Prisiau Nwy Domestig Cyfartalog Gwledydd EU a G7 2011 Tax component – Elfen dreth Price – Pris (heb dreth) pence per kWh – ceiniog fesul kWh USA – UDA Canada – Canada Finland – Y Ffindir UK – DU Luxembourg – Lwcsembwrg

39


Ireland – Iwerddon France – Ffrainc Spain – Sbaen Germany – Yr Almaen Austria – Awstria Portugal – Portiwgal Belgium – Gwlad Belg Netherlands – Yr Iseldiroedd Greece – Gwlad Groeg Denmark – Denmarc Sweden – Sweden Japan - Japan

Average EU and G7 Domestic Electricity Prices in 2011 – Prisiau Trydan Domestig Cyfartalog Gwledydd EU a G7 2011 Tax component – Elfen dreth Price – Pris (heb dreth) EU15&G7 Median (including taxes) – Canolrif 15UE a G7 (yn cynnwys trethi) pence per kWh – ceiniog fesul kWh USA – UDA

40


Greece – Gwlad Groeg France – Ffrainc UK – DU Finland – Y Ffindir Luxembourg – Lwcsembwrg Netherlands – Yr Iseldiroedd Portugal – Portiwgal Sweden – Sweden Ireland – Iwerddon Japan – Japan Belgium – Gwlad Belg Austria – Awstria Italy – Yr Eidal Spain – Sbaen Germany – Yr Almaen Denmark – Denmarc Mae’n amlwg bod y DU yn wlad â threth isel iawn o safbwynt prisiau ynni. Byddai angen gwneud rhagor o waith ymchwil i ddeall sut mae cyfundrefnau treth ledled Ewrop yn effeithio ar arferion defnyddio ynni a chystadleurwydd masnachol. Mae hefyd yn amlwg bod costau ynni UDA yn is o lawer na chostau gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, o ganlyniad i hyn, mae defnydd ynni cyfartalog y pen yn UDA bron ddwywaith yn fwy na’r defnydd gan wledydd Ewrop a thros ddwywaith yn fwy na’r defnydd yn y DU (7,000 kg cyfwerth ag olew yn UDA o gymharu â 3,000 yn y DU).89 Mae’r gwahaniaeth yn y defnydd o drydan hyd yn oed yn fwy amlwg (13,400 KWh y pen yn UDA o gymharu â 5,700 yn y DU).90 Materion amgylcheddol Trafodwyd llawer o’r rhain yn barod, ond nid oes amheuaeth bod y newid yn yr hinsawdd yn bwnc tu hwnt o bwysig i bawb ohonom, ac nid yw Cymru yn eithriad yn hynny o beth. Pe bai’r holl danwyddau ffosil sy’n cael eu hystyried yn gronfeydd wrth gefn neu’n ddarpar gronfeydd wrth gefn gan y cwmnïau ynni mawr yn cael eu llosgi, amcangyfrifir y byddai’n annhebygol iawn y gellid cyfyngu’r cynnydd yn nhymheredd y byd i 2% o ganlyniad.91 Mae gwahaniaeth enfawr rhwng yr hyn y mae’r cwmnïau ynni mawr yn ei gynllunio a’i ariannu a’r cyfyngiadau y mae llywodraethau yn honni eu bod yn awyddus i’w gweld. 92 Mae gan Gymru rôl i’w chwarae wrth ddefnyddio ynni yn gyfrifol, ond mae’r cynnydd yn safonau byw’r gwledydd datblygol yn debygol o arwain at gynnydd enfawr mewn capasiti cynhyrchu, yn enwedig drwy’r defnydd o danwyddau ffosil. Mae gan y ffaith hon oblygiadau mawr o safbwynt y perygl i lawer o gytrefi arfordirol mawr fel Llundain, Efrog Newydd, Shanghai a Bombay. O ystyried lleoliad Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, byddai hwn yn destun pryder amlwg i lywodraeth Cymru, a                                                                                                                       89

http://data.worldbank.org/indicator/EG.USE.PCAP.KG.OE http://data.worldbank.org/indicator/EG.USE.ELEC.KH.PC 91 http://www.carbontracker.org/carbon-bubble-interactive 92 http://www.carbontracker.org/wastedcapital 90

41


byddai angen ystyried mesurau lliniaru llifogydd o ddifrif. Fodd bynnag, mae hynny y tu hwnt i gwmpas y papur hwn.

Cui Bono? Er lles pwy? Mae pris, diogelwch a dibynadwyedd cyflenwad ynni yn hanfodol i lwyddiant economi fodern. Nid yw’n syndod bod ynni yn cael ei ystyried yn gyfleustod mewn rhai cyd-destunau, yn debyg i ddŵr (mae hyn yn wir am ddefnydd domestig, a defnydd masnachol i ryw raddau, ond nid am y sector trafnidiaeth lle mae marchnad rydd yn gweithredu i bob pwrpas). Fel y dangoswyd uchod, mae gan Gymru adnoddau ynni adnewyddadwy sylweddol ac adnoddau tanwydd ffosil posibl pe bai’n penderfynu eu defnyddio. Fodd bynnag, nid yw’r adnoddau hyn yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru, a rhaid cwestiynu i ba raddau y byddai Cymru’n cael budd ohonynt. Mae Cymru yn cynhyrchu ac yn allforio llawer o drydan, ond nid yw’n cael budd o brisiau trydan sylweddol is. Mae’n mewnforio ac yn dosbarthu nwy, ond nid yw’n cael budd o’r biblinell o dan wyneb ei thir. Mae gan Gymru adnoddau ynni pwysig posibl o’r gwynt, y dŵr, yr haul a’r môr, ond ychydig iawn o reolaeth sydd ganddi dros ba adnoddau y dylid eu datblygu, ble ac o dan ba amodau, o safbwynt rheoleiddio a chyllido. Yn ogystal, mae llunio polisïau a chynllunio ar gyfer ynni yn broses hirdymor iawn, ac unwaith y bydd penderfyniadau wedi’u gwneud ynglŷn â llawer o’r adnoddau hyn, bydd llywodraeth y DU yn llunio contractau hirdymor sy’n rhwymo mewn cyfraith a fydd yn atal gallu unrhyw lywodraeth yng Nghymru i reoli rhannau mawr o’i pholisi ynni am ddegawdau i ddod. Mae’r broses o reoli adnoddau a pholisi ynni yn cael ei ystyried yn fater sy’n ymwneud â buddiannau cenedlaethol hollbwysig, ac mae llywodraethau yn amharod iawn ildio’r rheolaeth hon. Ceir llawer o enghreifftiau o hyn ledled y byd, gan gynnwys yn nes at adref yn yr Alban wrth drafod olew Môr y Gogledd. Mae pobl o’r tu allan wedi manteisio ar adnoddau ynni naturiol Cymru yn y gorffennol, yn enwedig yn ystod twf y diwydiant glo yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Ond o leiaf darparodd y diwydiant glo swyddi ar gyfer cannoedd o filoedd o weithwyr, gyda thros chwarter miliwn o bobl yn cael eu cyflogi ym meysydd glo’r De ar ddechrau’r 1920au. Mae’r diwydiant ynni presennol yn llawer mwy cyfalaf-ddwys, ond mae’n bosibl y bydd yn gadael heriau datgomisiynu sylweddol hefyd. Mae adnoddau enfawr wedi bod yn ofynnol er mwyn ail-dirlunio a thrin pridd yr hen weithfeydd glo, ar draul y sector cyhoeddus yn bennaf. Bydd y diwydiant niwclear yn wynebu mwy o heriau na’r diwydiant glo, yn enwedig o safbwynt eu dwysedd, sensitifrwydd a hirhoedledd, ond bydd pob dull cynhyrchu trydan sylfaenol ac eilaidd yn wynebu’r un heriau. Mae yna bosibilrwydd felly na fydd Cymru yn derbyn y budd mwyaf o’r broses o fanteisio ar ei hadnoddau naturiol, fel y digwyddodd gyda’r diwydiant glo, mae’n bosibl y bydd Cymru’n gorfod talu cyfran fawr o’r costau datgomisiynu ar y diwedd.

42


Un cyfiawnhad cyffredin dros brosiectau ynni, yn enwedig prosiectau mawr, yw’r ffaith eu bod yn creu swyddi. Er ei bod yn wir ar bapur bod y swyddi hyn yn cael eu creu gan gwmnïau preifat, mae’n glir na all prosiectau gorsafoedd pŵer gael eu datblygu heb sicrwydd digonol ynglŷn â phrisiau hirdymor trydan os yw’r gost gyfalaf a delir ymlaen llaw yn rhan bwysig o’r costau cyffredinol. Mae hyn yn wir am ynni niwclear ac ynni adnewyddadwy yn gyffredinol. Nid yw mor wir am orsafoedd pŵer tanwydd ffosil oherwydd eu bod yn rhatach yn gymharol i’w hadeiladu, ac mae rhan sylweddol o gost yr ynni a gynhyrchant yn cael ei chynrychioli gan bris eu tanwydd ffosil ar y farchnad. Ond oherwydd natur y system reoleiddio, yn y ddau achos uchod mae cynhyrchwyr trydan yn disgwyl bod â’r hawl i godi prisiau er mwyn sicrhau bod cynhyrchu trydan yn parhau i fod yn broffidiol. Mae’r farchnad yn cael ei rheoleiddio i raddau helaeth, ac mae Ofgem yn penderfynu ar strategaeth, yn pennu blaenoriaethau polisi ac yn gwneud penderfyniadau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys rheoli prisiau a gorfodaeth. Mae pwerau’r Awdurdod yn deillio o Ddeddf Nwy 1986, Deddf Trydan 1989, Deddf Cyfleustodau 2000, Deddf Cystadleuaeth 1998 a Deddf Menter 2002”.93 O ystyried y ffaith fod y farchnad yn cael ei rheoleiddio’n helaeth a bod cymorthdaliadau’n cael eu darparu gan y sector cyhoeddus a thrwy brisiau contractau cyflenwi hirdymor (mae defnyddwyr yn talu am hyn yn y pen draw a gellir ei hystyried yn dreth anuniongyrchol), mae’n rhesymol ystyried nifer y swyddi sy’n cael eu creu o gymharu â gwariant, a gofyn a ellid bod wedi defnyddio’r arian a wariwyd i greu gorsafoedd pŵer yn fwy effeithiol er mwyn creu’r un nifer o swyddi lleol. Er enghraifft, mae buddsoddiad gwerth biliwn o bunnoedd wedi creu 100 o swyddi parhaol yng ngorsaf bŵer newydd Penfro. Mae’n fwy anodd gwybod faint yn union o swyddi adeiladu dros dro a gafodd eu creu. Yn ôl datganiad yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd: “The station represents a £1 billion investment in the region, and has created around 100 long term, permanent jobs in addition to several hundred temporary construction jobs over the past three years.” 94. Ar y llaw arall, mae gwefan nPower yn disgrifio agor gorsaf bŵer Penfro ar 19 Medi 2012 fel hyn: “Control of the final unit of Pembroke was handed over to the station team last week, marking the end of over three years of construction, in which over 10,000 contractors worked 7.4 million man hours to complete the state-of-the-art facility. The opening ceremony was also a chance to thank all of the people have been involved in the successful construction of the plant for their commitment and hard work.” Mae’n bosibl mai nifer y swyddi adeiladu lleol a gafodd eu creu sy’n gwneud y gwahaniaeth. Heb os, mae angen ymchwilio ymhellach i’r gwahaniaeth rhwng “several hundred temporary construction jobs over the past three years” a “over 10,000 contractors worked 7.4 million man hours”. Mae’n bosibl bod yr un gwahaniaethau i’w gweld yn y ffigurau ar gyfer Wylfa. Mae gwefan Horizon yn honni: “Our current proposals for a new nuclear power station                                                                                                                       93 94

http://www.ofgem.gov.uk/About%20us/Pages/AboutUsPage.aspx  https://www.gov.uk/government/news/john-hayes-opens-1bn-pembroke-power-station    

43


at Wylfa could see the creation of up to 1,000 permanent jobs, many of which will be highly skilled, and a peak workforce of up to 6,000 during construction.” Yn ôl Llywodraeth Cymru, gallai tair gwaith cymaint o swyddi gael eu creu dros y cyfnod adeiladu, ond nid yw’n glir faint o swyddi cyfwerth ag amser llawn a fydd yn cael eu creu dros ba gyfnod ym marn y llywodraeth.95 Mae gwefan Horizon yn datgan: “We are keen to harness the skills that already exist and contribute to developing new ones by providing training opportunities to people from the area.” 96 Fodd bynnag, yn ei becyn gwybodaeth (a luniwyd pan oedd y cwmni yn eiddo i E.on ac RWE), dywedodd Horizon y byddai rhyw 5,000 o swyddi yn cael eu creu ar ei anterth, gan gydnabod y byddai angen campws llety annibynnol ar gyfer gweithwyr o lefydd eraill naill ai ar, neu oddi ar, y safle datblygu.97 Mae’n ddiddorol nodi bod Horizon yn darogan y bydd 1,000 o weithwyr parhaol yn gweithio ar y safle, tra bod Gorsaf Bŵer Nwy Penfro sydd â thros hanner capasiti Wylfa, hyd yn oed os caiff pob un o’r tri adweithydd ei adeiladu, yn disgwyl cyflogi 100 yn unig. Byddai’n ddefnyddiol gwybod pam y mae angen cymaint mwy o swyddi fesul capasiti Megawat ar gyfer gorsaf bŵer niwclear, ac i ba raddau y mae’r swyddi yn gysylltiedig â diogelwch. Mae’n anodd iawn amcangyfrif faint o swyddi sydd eu hangen i adeiladu a chynnal a chadw datblygiadau o’r fath, ac mae gan astudiaethau sydd wedi ceisio ymchwilio i’r mater hwn yn fwy manwl nifer o gyfyngiadau o safbwynt y fethodoleg a ddefnyddiwyd a’r gallu i gymharu prosiectau. Er enghraifft, gweler “Issues in estimating the employment generated by energy sector activities” gan Robert Bacon a Masami Kojima, Adran Ynni Cynaliadwy Banc y Byd, Mehefin 2011,98 a “Putting renewables and energy efficiency to work: How many jobs can the clean energy industry generate in the US?”99 sy’n canolbwyntio ar swyddi ynni gwyrdd a’u lluosyddion posibl yn UDA. Roedd yr ail astudiaeth yn modelu cyflogaeth ar y sector ynni adnewyddadwy / carbon isel, gan ganfod bod pob technoleg nad yw’n ymwneud â thanwydd ffosil (ynni adnewyddadwy, EE, carbon isel) yn creu mwy o swyddi fesul uned ynni na glo a nwy naturiol. Yn ôl amcangyfrif Asiantaeth Ynni Gwynt Ewrop, mae 15.1 o swyddi yn cael eu creu ym maes ynni gwynt yn yr UE am bob MW sy’n cael ei osod. Ond, o blith y swyddi uniongyrchol sy’n cael eu creu mae 59% ohonynt yn y sector gweithgynhyrchu a’r sector gweithgynhyrchu cydrannau, 16% yn y sector datblygu a dim ond 11% yn y sector gosod a chynnal a chadw. Felly mae’n anodd gweld sut y byddai Cymru yn elwa llawer ar y gadwyn gwerth hon.100 Er bod cwmni Mabey Bridge yn gwneud tyrau tyrbinau gwynt yng Nghas-gwent, nid oes unrhyw wneuthurwr tyrbinau gwynt yng Nghymru, ac mae’n annhebygol y bydd hynny’n newid. Yn fwy cyffredinol, roedd gwaith Cebr ar ran y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA) yn ymwneud â swyddi a gafodd eu creu gan ddiwydiant                                                                                                                       95

http://www.learningobservatory.com/news/new-nuclear-power-station-will-provide-jobs-for- generations http://www.horizonnuclearpower.com/wylfa-investing-in-anglesey 97  Gweler  –  “A new nuclear station at Wylfa”   98 http://siteresources.worldbank.org/INTOGMC/Resources/Measuring_the_employment_impact_of_energy _sector.pdf 99 http://rael.berkeley.edu/sites/default/files/WeiPatadiaKammen_CleanEnergyJobs_EPolicy2010.pdf 100 http://www.ewea.org/fileadmin/ewea_documents/documents/publications/Wind_at_work_FINAL.pdf 96

44


adeiladu’r DU a’r effaith luosi yn ystyried dull economaidd ehangach ond yn edrych ar faes diwydiant yn gyffredinol yn hytrach na phrosiectau ynni yn unig.101 Mae’n rhaid dod i’r casgliad bod angen deall ystadegau creu swyddi yn gymharol fanwl cyn dibynnu ar honiadau cyffredinol, a bod cryn ansicrwydd ynglŷn ag ystadegau o’r fath. Er enghraifft, nid oes sicrwydd ynglŷn â faint o bobl a fydd yn cael eu cyflogi yn lleol ac ar ba lefel, faint o bobl a fydd yn teithio yn ôl ac ymlaen i safle bob dydd, faint o bobl a fydd yn teithio yn ôl ac ymlaen i safle bob wythnos heb eu teuluoedd, faint o bobl a fydd yn symud i’r ardal yn ystod y cyfnod adeiladu, ac i ba raddau y bydd swyddi yn barhaol yn hytrach na’n para am gyfnodau sylweddol ond tymor byr yn ystod adegau prysuraf y cyfnod adeiladu. Bydd rhaid ystyried yr holl ffactorau hyn wrth benderfynu a yw’r effaith economaidd ar yr ardal yn ddeniadol ai peidio, a thros ba gyfnod o amser. Mae hefyd yn ymddangos bod prinder gwybodaeth ynglŷn ag i ba raddau y gallai gwasanaethau lleol, fel ysgolion ac ysbytai, ddod o dan bwysau, a hyd yn oed yn cael eu hymestyn yn ystod y cyfnod adeiladu, gan greu galw tymor byr dros dro a fydd yn lleihau ac yn diflannu i bob pwrpas pan ddaw’r prosiect i ben. Mae’n anodd tu hwnt asesu’r lluosyddion ar gyfer swyddi o’r fath, ond mae’r effaith hirdymor yn debygol o fod yn gymharol fach o ystyried nifer y swyddi parhaol sy’n cael eu creu, mewn llawer o achosion, fwy na thebyg, ar gyfer pobl sy’n symud i’r ardal gan nad yw’r arbenigedd ar gael yn lleol. Mae’n rhaid ystyried cyd-destun amseru prosiectau mawr o’r fath hefyd. Er bod prosiect Wylfa wedi’i drafod ers blynyddoedd lawer, ni fydd unrhyw waith adeiladu yn dechrau ar y safle yn y dyfodol agos gan nad yw technoleg Hitachi wedi’i chymeradwyo eto ac nid yw’r prosiect wedi cael caniatâd cynllunio. Yn ymarferol, felly, ni fydd hyd yn oed y swyddi adeiladu yn cael eu creu am nifer o flynyddoedd. Yn ôl Horizon, bydd yn costio tua £8 biliwn i adeiladu Wylfa (nid yw’n glir a yw’r ffigur hwn yn cyfeirio at ddau neu dri adweithydd, ond o ystyried y costau cyffredinol, mae’n debygol mai at ddau adweithydd y mae’n cyfeirio) a bydd 1,000 o swyddi yn cael eu creu. Pe bai Wylfa’n cael ei ystyried yn ymarferiad creu swyddi, byddai’n anodd cyfiawnhau’r datblygiad oherwydd y ffaith bod angen £8 miliwn ar gyfer pob swydd barhaol. Hyd yn oed wrth ystyried lluosyddion swyddi posibl, byddai angen sawl miliwn o bunnoedd fesul swydd, gyda’r tebygolrwydd y byddai’r rhan fwyaf o’r swyddi, yn enwedig y swyddi â chyflogau uchel, yn mynd i newyddddyfodiaid sydd â’r arbenigedd gofynnol. Yn ogystal, nid oes unrhyw dystiolaeth y gallai Cymru ddod yn ganolfan ragoriaeth ym maes ynni niwclear gyda’r gallu allforio arbenigedd i wledydd eraill. Efallai y bydd hyn yn digwydd, ond dylid nodi bod pencadlys Horizon yng Nghaerloyw, nid yng Nghymru. Mae’n edrych yn annhebygol, felly, y bydd Cymru’n datblygu i fod yn ganolfan arbenigedd fyd-eang yn y sector hwn fel, er enghraifft, Aberdeen yn y diwydiant olew. Un o fanteision prosiectau ynni adnewyddadwy bach o safbwynt cyflogaeth yw eu gallu i greu cadwyn o gyfleoedd, a’r ffaith eu bod yn gweddu’n well o ran maint i allu cwmnïau o Gymru. Fel arfer, mae gan gwmnïau mawr lai o ddiddordeb mewn prosiectau llai hefyd, sy’n golygu bod mwy o botensial ar gyfer creu gwaith yn lleol a                                                                                                                       101

http://www.cebr.com/reports/impact-of-infrastructure

45


chynnal a gwella arbenigedd dros nifer o brosiectau. Mae esblygiad Dulas ym Machynlleth o Ganolfan y Dechnoleg Amgen yn enghraifft o sut mae cwmnïau’n gallu tyfu yn raddol, darparu swyddi lleol hyd yn oed mewn lleoliadau difreintiedig, a chyrraedd marchnad ryngwladol oherwydd lefel eu harbenigedd.102 Nid yw’n ymddangos, felly, bod strwythur cyfredol y diwydiant ynni yn darparu cyflenwad ynni boddhaol i Gymru, nac yn meddu ar y potensial i ddatblygu sector diwydiannol pwysig yng Nghymru er mwyn creu swyddi, meithrin arbenigedd a datblygu cyfleoedd allforio posibl. I’r graddau y mae hyn yn digwydd o gwbl, mae’n tueddu i fod er gwaetha’r system ac nid o’i herwydd. Nid yw’n ymddangos yn debygol y bydd y system hon yn newid yn y dyfodol chwaith. Fel y nodwyd uchod, o dan y system gyfredol, mae’n debygol iawn y bydd Cymru’n cael llai o fudd nag y dylai o’i hadnoddau naturiol.

Pwerau Llywodraeth Cymru Mae rhai o’r cymwyseddau allweddol ym maes polisi ynni wedi’u nodi mewn tabl yn Atodiad VIII. Er bod gan Lywodraeth Cymru rai cyfrifoldebau goddefol yn ymwneud â chaniatâd cynllunio ac ystyriaethau amgylcheddol, ychydig iawn o bŵer sydd ganddi i lunio polisi ynni yng Nghymru. Nid y ffaith nad yw’r pwerau perthnasol wedi’u datganoli yw’r unig reswm am hyn, ond hefyd y ffordd y mae’r system ynni yn cael ei gweithredu yn y DU gyda chwmnïau mawr sector preifat a throsolwg cyfyngedig ymhlith rheoleiddwyr y llywodraeth. Mae polisi ynni yng Nghymru yn cael ei lesteirio hefyd gan y ffaith nad oes gan Gymru ei grid trydan ei hun, sy’n ei gwneud yn anodd ystyried polisi trydan yng Nghymru ar sail holistaidd ac annibynnol. Fodd bynnag, nid oes amheuaeth y byddai Cymru yn dechrau llunio ei pholisi ynni ei hun pe bai rhagor o bwerau’n cael eu datganoli iddi. Mae’r Alban wedi achub y blaen ar weddill y Deyrnas Unedig ym maes ynni adnewyddadwy, sy’n enghraifft o’r hyn y gall llywodraeth ragweithiol ei gyflawni. Mae’n wir bod yr Alban wedi cael mantais gychwynnol oherwydd pŵer trydan dŵr, ond mae ei rheolaeth dros lunio polisïau a thros fandiau rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy (fel yng Ngogledd Iwerddon) yn rhoi hyblygrwydd iddi nad yw ar gael i Lywodraeth Cymru. Yn wir, fel y nodwyd eisoes, bwriedir disodli’r system Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy bresennol gan fodel Contract ar gyfer Gwahaniaethau yn 2017. Mae hyn wedi creu ansicrwydd. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cadarnhau bandiau ROC ar gyfer gwynt ac wedi mynegi pryderon ynglŷn â deddfwriaeth y DU.103 Nid yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gyfrannu’n effeithiol at y drafodaeth hon. Mae’r cymysgedd ynni yn enghraifft berthnasol arall. Nid oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am gynhyrchu ynni dros gapasiti o 50MW, felly yn wahanol i’r Alban, nid yw’n gallu penderfynu a yw’n dymuno datblygu pŵer niwclear. Mae’n amlwg bod y pwnc hwn yn un dadleuol, ond dylai penderfyniadau gael eu gwneud yng Nghymru,                                                                                                                       102 103

http://www.dulas.org.uk/the-dulas-story.cfm http://www.scotland.gov.uk/News/Releases/2012/07/onshore-wind-RoCs23072012    

46


nid yn Llundain, yn enwedig pan fo’r capasiti cynhyrchu yn fwy o lawer na’r hyn sydd ei angen ar gyfer marchnad Cymru, a nod y prosiect yw gwasanaethu anghenion marchnad Lloegr. Mae hyn yn arwain at y cwestiwn ehangach o sut y gallai polisi ynni yn esblygu yn y DU dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y broses o ddatblygu ynni adnewyddadwy, yn enwedig y mathau o ynni lle mae’r gwaith ymchwil megis dechrau, fel ynni’r llanw, yn parhau i ddibynnu i raddau helaeth ar sicrhau bod trefn gymorthdaliadau sefydlog ar gael i hyrwyddo buddsoddi. Mae’r system hon ar fin cael ei newid, ac mae’n hollbwysig bod goblygiadau’r Bil Ynni yn cael eu deall cyn gynted â phosibl ar ôl ei basio, hynny o safbwynt y dull newydd o ddarparu cymorth i’r diwydiant ynni adnewyddadwy a’r fframwaith prisio a fydd ar waith os a phryd y caiff y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy ei dileu. Mae polisi ynni yn faes cymhleth, hirdymor ac aruthrol bwysig. Er mwyn llunio a gweithredu polisi o’r fath, gellid dadlau bod angen sefydliad â sgiliau arbenigol yng Nghymru i gyflawni’r swyddogaeth hon ar ran y llywodraeth. Fel yr amlinellwyd uchod, mae rôl ynni yn hanfodol bwysig i economi fodern. Bydd gallu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar ragolygon economaidd a lles posibl ei phobl yn cael ei lesteirio’n sylweddol gan y ffaith nad yw llunio a gweithredu polisïau yn rhan o’i chylch gwaith. Bydd yn dibynnu ar flaenoriaethau polisi ei chymydog mwy. Mae enghraifft Glas Cymru, sy’n berchen ar Dŵr Cymru, yn dangos bod dulliau amgen o reoli busnesau i’w cael, yn enwedig yn y sector cyfleustodau, sy’n gwbl fasnachol ond yn wahanol i’r dull sector preifat corfforaethol arferol. Mae’n bosibl nad oedd natur unigryw’r dull gweithredu hwn mor hawdd i’w weld yn ystod dyddiau cynnar Glas Cymru, ond ar adeg pan fo nifer o gyfleustodau dŵr yn Lloegr yn eiddo i fuddsoddwyr o dramor a sôn am drosfeddiannu pellach byth a hefyd, mae manteision y model nad yw’n gwneud elw i’w ddosbarthu yn dod yn fwyfwy amlwg. Mewn egwyddor, dylai absenoldeb yr angen i dalu difidend i gyfranddalwyr, y gostyngiad mewn dyledion sydd heb eu talu a’r broses o rannu elw argadwedig rhwng buddsoddi pellach a chwsmeriaid helpu Glas Cymru i gystadlu yn y dyfodol. Mae’n rhaid ystyried i ba raddau y gellid cymhwyso’r model hwn i economi Cymru. Mae’n amlwg y byddai’n anymarferol ‘gwladoli’ asedau ynni cyfredol, hyd yn oed os oedd awydd i wneud hynny. Fodd bynnag, wrth lunio polisïau mewn perthynas â chreu asedau ynni yn y dyfodol, dylid ystyried dulliau perchnogaeth a rheolaeth yr asedau hynny er mwyn sicrhau bod gwerth cynhyrchu ynni yn ogystal â’r ynni ei hun yn dod â budd i bobl Cymru. Er bod rhaid i asedau ynni newydd gael eu hariannu ar sail cyfraddau’r farchnad, bydd hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar natur ragweladwy’r llif arian sy’n deillio ohonynt. Mae llawer o brosiectau ynni adnewyddadwy yn gyfalaf-ddwys yn eu hanfod, ond mae costau rhedeg prosiectau o’r fath yn isel tra bo costau cyfalaf cynhyrchu tanwydd ffosil yn is yn gyffredinol, ond mae’r costau rhedeg yn uwch oherwydd bod angen ystyried cost tanwydd hefyd. Mae braidd yn debyg i ddewis rhwng gwario ychydig yn fwy i brynu argraffydd laser a chael llawer mwy o ddalennau o bapur fesul cetrisen,

47


neu brynu argraffydd inkjet sy’n rhatach i’w brynu ond yn defnyddio cetris inc drutach. Ond o leiaf wrth brynu argraffydd inkjet mae’r cwsmer yn gobeithio y bydd cetris newydd ar gael am y dyfodol rhagweladwy ac na fydd eu pris yn codi a gostwng gormod. Gyda thanwydd ffosil, gall y gobeithion hyn fod yn llai sicr. Dyma gyfnod o gyfraddau llog hirdymor isel iawn ar gyfer cyfamodau da. O’r safbwynt hwn, dyma’r amser delfrydol i newid i brosiectau capasiti cynhyrchu â chostau cyfalaf uchel a chostau gweithredu isel yn y dyfodol, lle bo modd defnyddio biliau ynni i dalu am gyllid. Mae’n glir bod y dull hwn yn arwain at gost ychwanegol ymylol yn y tymor byr, ond mae’r gost hon yn gymharol fach o gymharu â’r amrywiadau mawr mewn prisiau o ganlyniad i newidiadau mawr yn y farchnad ynni gyfanwerthol. Nid yn unig y mae hyn yn darparu ar gyfer ffynhonnell ynni fwy diogel, ond wrth i’r cynnydd seciwlar mewn tanwydd ffosil barhau, mae’n debygol o ddarparu cost ynni is dros gyfnod hirach. Mae hyn yn arbennig o wir am ddulliau cynhyrchu lle mae costau gweithredu a chostau cynnal a chadw yn rhan gymharol fach o’r holl gost. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i amrediad llanw, ynni’r môr ac ynni’r haul. Yn achos y cyntaf, y gwaith cronni sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r gost, sydd ag oes a gynlluniwyd hyd at 120 o flynyddoedd; ar ôl talu am y cyllid, mae’r gost o gynhyrchu trydan yn isel iawn gan nad oes angen unrhyw danwydd, ac mae’r gost yn ymwneud yn bennaf â gwaith cynnal a chadw ar y tyrbinau a’u newid yn ôl yr angen. O safbwynt ynni’r haul, mae cost paneli solar yn disgyn, felly ar ôl sefydlu fferm solar a’i chysylltu â’r grid, bydd y gost o newid y paneli yn gymharol fach o gymharu â’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu. O safbwynt ynni gwynt, mae’r peiriannau’n tueddu i dreulio mwy, ond hyd yn oed wedyn mae’n bosibl gosod tyrbinau newydd ar siafftiau sydd eisoes yn bodoli, a lle nad oes angen newid sylfaen goncrit y gosodiad na’r cysylltiad â’r grid. Am yr holl resymau hyn, mae’n amlwg o safbwynt economaidd, amgylcheddol ac ariannol y dylai Cymru ganolbwyntio ar fanteisio’n llawn ar ei gallu i gynhyrchu trydan adnewyddadwy yn yr hirdymor. Mae hefyd yn glir y dylai Cymru geisio gwneud hynny mewn ffordd sy’n sicrhau ei bod yn cael budd o bolisi o’r fath. Un ffordd o wneud hyn fyddai mynnu’r hawl i berchnogaeth weddilliol o’r holl osodiadau ynni adnewyddadwy dros drothwy capasiti MW penodol ar ôl talu am y cyllid. Er enghraifft, ar gyfer ffermydd gwynt mawr ar y tir neu ar y môr, ar ôl i’r buddsoddwr sicrhau’r enillion gofynnol dros tua 25-30 o flynyddoedd, dylai Llywodraeth Cymru (ac efallai awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau penodol) fod â’r hawl i brynu’r ased am swm bach o arian. Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i’r cyfleoedd i gymunedau fuddsoddi mewn trydan a gynhyrchir yn lleol, gan ystyried dull mwy cydweithredol o fod yn berchen ar ynni adnewyddadwy. Dewis amgen arall fyddai sefydlu endid ar wahân i fod yn gyfrifol am ynni, yn debyg i Glas Cymru, a drafodwyd yn gynharach. Byddai’r endid hwn yn gyfrifol am reoli a gweithredu’r ystâd weddilliol. Yn yr un modd â Glas Cymru/Dŵr Cymru, gallai gynnig llawer o’r gwaith ar dendr i gwmnïau eraill, ond byddai’n parhau i reoli’r ased. Byddai sefydlu corff o’r fath â’r arbenigedd perthnasol yn golygu bod y broses o gaffael yr asedau hyn wedi i’r cyfnod cyllido ddod i ben yn digwydd yn llyfn a didrafferth yn hytrach nag ar sail cyfres o drefniadau ad hoc. Byddai tîm rheoli masnachol eisoes yn bodoli hefyd.

48


Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wrthi’n trafod statws Pont Hafren a phwy fydd yn berchen ar y bont pan ddaw’r fasnachfraint gyfredol i ben ac ar ôl i’r buddsoddwyr gael eu had-dalu. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn mabwysiadu’r un dull o’r dechrau mewn perthynas â phrosiectau adnewyddadwy newydd. Yn ddiau, dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrhau ei bod yn rheoli, ac os yn bosibl yn berchen ar, asedau tanwydd ffosil Cymru. Byddai hefyd yn bwysig gwybod pwy sy’n gyfrifol yn y pen draw am ddatgomisiynu gorsafoedd pŵer niwclear a gorsafoedd pŵer tanwydd ffosil, ac i ba raddau ar ddiwedd eu hoes ddefnyddiol eu bod yn cynrychioli dyled yn hytrach nag ased. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, ychydig iawn o bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i rwystro prosiectau ar y môr, ac yn yr un modd brosiectau dros gapasiti o 50MW ar y tir. Cymru yw’r unig wlad ddatganoledig sydd heb bwerau mwy, ond hebddynt ni all reoli ei dyfodol ei hun ym maes ynni. Dylai fod gan Lywodraeth Cymru yr un pwerau â Llywodraeth yr Alban i ddylanwadu ar ei pholisi ynni ei hun. Mae rhaglen Arbed yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn gallu symbylu newid mewn ymddygiad a manteisio ar raglenni sydd eisoes yn bodoli, a dylai barhau i wneud hyn a chanolbwyntio ar sut y gall hyrwyddo dulliau arbed ynni a rhagor o hunan-gynhyrchu, gan ystyried pa fecanweithiau ariannol y gall eu rhoi ar waith ar wahân i grantiau er mwyn hwyluso’r broses hon. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall annog perchnogaeth leol o brosiectau cynhyrchu ynni, ac i ba raddau y mae’n gallu helpu busnesau i fodloni’r un amcanion. Mae’r uchod yn dangos bod Cymru’n cael cryn dipyn yn llai o fudd o’r system gyfredol o gynhyrchu ynni nag y gallai, ac nad oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o bwerau naill ai i wella’r system, darparu fframwaith polisi, gweithredu ei blaenoriaethau polisi mewn unrhyw ffordd ystyrlon (e.e. cynaliadwyedd), neu yn wir, gweithio gyda’r diwydiant ynni (ac eithrio yn ymylol) i gyflawni ei hamcanion. Mae gallu Cymru i reoli ei hadnoddau cenedlaethol ei hun a’r rheoliadau cynllunio sy’n effeithio ar eu defnydd yn llawer rhy gyfyngedig. Mae hyn yn wir pa bynnag blaid wleidyddol sydd mewn grym. Gallai pleidiau gwleidyddol Cymru ddod i gonsensws i raddau helaeth na ddylai Cymru fod mewn sefyllfa waeth na llywodraethau datganoledig yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dylai unrhyw lywodraeth yng Nghymru geisio sicrhau’r hawl hefyd i gaffael asedau cynhyrchu gweddilliol mawr pan gwblheir talu am y cyllid.

49


Crynodeb gweithredol a chasgliadau: 1. Mae’r galw am ynni yng Nghymru wedi bod yn lleihau ac nid yn cynyddu dros nifer o flynyddoedd. 2. Mae trydan yn cynrychioli llai nag 20% o ofynion ynni marchnad Cymru. 3. Mae’n debygol iawn y bydd cost tanwydd ffosil yn codi yn y dyfodol o ganlyniad i’r galw byd-eang cynyddol am ynni a’r gost gynyddol o echdynnu cyflenwadau tanwydd ffosil newydd. Yn ogystal, gan fod cyfran sylweddol a chynyddol o gyflenwadau tanwydd ffosil y DU (a Chymru) yn dod o ardaloedd gwleidyddol ansefydlog, ni ellir cymryd yn ganiataol bod y cyflenwadau yn ddiogel. 4. Dylid defnyddio llai o garbon a symud tuag at economi carbon isel oherwydd y canlyniadau amgylcheddol. Fel rhan o’r DU, mae gan Gymru rwymedigaethau sylweddol o dan ddeddfwriaeth Ewrop a chytuniadau rhyngwladol i ddibynnu llai ar danwydd ffosil. 5. Dylai Cymru, felly, gynhyrchu mwy o drydan, gan ddefnyddio adnoddau cynhenid sylfaenol i wneud hynny. 6. Fodd bynnag, mae cost trydan fesul KWh yn sylweddol uwch na chost nwy, er enghraifft, ac mae’r gost o ddefnyddio adnoddau adnewyddadwy i gynhyrchu trydan yn uwch ar hyn o bryd na chost cynhyrchu trydan o danwydd ffosil. Yn ogystal, yn y sector trafnidiaeth, nid yw cerbydau trydan yn debygol o ddisodli cerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil oni bai bod technoleg newydd yn cael ei mabwysiadu’n fyd-eang. 7. Fodd bynnag, mae cost trydan adnewyddadwy yn debygol o fod yn is yn yr hirdymor am amryw o resymau, gan gynnwys gwell technoleg, absenoldeb mewnbwn cost tanwydd a phrisiau tanwydd ffosil uwch (er gwaetha’r ffaith fod prisiau nwy wedi disgyn yn ddiweddar oherwydd nwy siâl a’r potensial ar gyfer olew siâl ac ati.) 8. Mae angen, felly, ystyried yn ofalus sut y gellir newid i ddibynnu mwy ar ynni adnewyddadwy cynhenid. 9. Mae llywodraeth y DU wedi sefydlu cyfres o systemau i hyrwyddo’r defnydd o ynni adnewyddadwy, Tariffau Cyflenwi Trydan, ac o 2017 ymlaen, contractau ar gyfer gwahaniaethau. Ond yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, nid yw pwerau yn y meysydd hyn wedi’u datganoli i Gymru. 10. Mae Cymru’n rhan o grid y DU ar hyn o bryd, ac nid oes modd iddi drosglwyddo trydan dros ben o’r gogledd i’r de. Mae prisiau trydan domestig Cymru ymysg yr uchaf yn y DU. Er ei bod yn allforio llawer o drydan, nid yw’n cael fawr ddim budd o’i chapasiti trydan uwch. 11. O ystyried bod poblogaeth Cymru yn fwy gwasgaredig ac nad oes grid gogledd – de digonol ar gael, dylai Cymru ganolbwyntio ar hyrwyddo mwy o brosiectau cynhyrchu trydan ar raddfa fach a phrosiectau hunan-gynhyrchu, yn enwedig

50


o ystyried bod costau trosglwyddo a dosbarthu yn rhan mor fawr o gyfanswm biliau trydan. Yn ogystal, dylid trafod cost bosibl rhyng-gysylltydd gogledd a de gydag Ofgem a’r Grid Cenedlaethol (sydd eisoes yn ystyried y mater) fel mater o frys, gan fod y gallu i gysylltu cyflenwadau trydan y gogledd a’r de yn bwysig iawn wrth weithredu fframwaith polisi cydlynol. 12. Yn ogystal, mae’r dull talu a ddefnyddir yn gyfrifol am ran sylweddol iawn o’r bil trydan domestig, gyda phobl ddifreintiedig fwyaf tebygol o’i chael hi’n anodd i dalu. Yn ogystal ag amlygu’r ffaith fod angen ailystyried y system gyfredol o reoleiddio anghenion prisio, mae hefyd yn dangos nad yw system lle mae’r asedau ynni allweddol yn cael eu rheoli gan gorfforaethau rhyngwladol mawr yn gwasanaethu Cymru’n dda, ac yn amharu ymhellach ar allu Llywodraeth Cymru i lunio a gweithredu polisi ynni. 13. Mae’n ddymunol felly i Lywodraeth Cymru weithredu polisïau (a cheisio ennill y pwerau angenrheidiol i wneud hynny) er mwyn bod â’r hawl i gaffael hawliau gweddilliol mewn capasiti cynhyrchu newydd, er mwyn sicrhau ei bod mewn sefyllfa well i reoli ei pholisi ynni ei hun yn y dyfodol. 14. Dylid ymchwilio i’r posibilrwydd o greu corff arbenigol newydd i fod yn gyfrifol am helpu Llywodraeth Cymru i lunio a gweithredu polisi ynni. Gallai’r corff hwn hefyd gadw’r asedau ynni gweddilliol y cyfeiriwyd atynt uchod, a thros gyfnod o amser gallai chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ariannu asedau ynni newydd ar gyfer Cymru. 15. Ar hyn o bryd, mae’r broses o ddatblygu nwy siâl, methan gwely glo ac ati yn ddadleuol iawn, ac mae ansicrwydd ynglŷn â graddfa eu potensial yn y DU. Mae’r hawliau i’r dyddodion mwynol hyn yn perthyn i’r Goron. Hyd yn oed pe bai modd datrys y pryderon amgylcheddol, mae’n ymddangos mai ychydig o fantais a fyddai i Gymru o ddatblygu’r adnoddau hyn nes bod Llywodraeth Cymru yn gallu elwa ar y ffrwd refeniw sy’n deillio o’r asedau hyn. Dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrhau ei bod yn rheoli ac yn berchen ar yr asedau hyn. 16. Mae modd datblygu trydan adnewyddadwy carbon isel o nifer o ffynonellau. Fel y nodwyd uchod, mae sawl mantais yn deillio o gynhyrchu trydan ar raddfa fach i’w ddefnyddio’n lleol. Mae gan brosiectau bach ym meysydd pŵer trydan dŵr, biomas, ynni’r haul, pympiau gwres ac ynni gwynt y potensial i ateb rhywfaint o’r galw hwn. Fodd bynnag, bydd angen o hyd am gapasiti cynhyrchu mawr, ac mae gan ynni’r haul, ynni’r gwynt, ynni’r môr ac ynni niwclear i gyd y potensial i ddarparu trydan carbon isel. 17. Yn ogystal â’r ystyriaethau amgylcheddol mawr sy’n gysylltiedig â phŵer niwclear, gan gynnwys yr effaith ar yr amgylchedd wrth gloddio’r bocsit, adeiladu gorsafoedd pŵer, gweithredu gorsafoedd, yr effaith ar dymheredd dŵr, a’r perygl yn ystod y gwaith ac yn ystod ac ar ôl datgomisiynu’r ffynhonnell tanwydd niwclear, mae hefyd yn anodd rhagweld y sefyllfa ariannol ym maes pŵer niwclear, gydag oedi i brosiectau’n aml a phrosiectau’n mynd y tu hwnt i’r amserlen a’r gyllideb. Yn ogystal, mae’r risgiau ariannol yn sgil datgomisiynu a gwaredu’r ffynhonnell tanwydd yn arbennig o uchel ac anodd eu rhagweld. Yn wir, mae’r risgiau hyn yn ormod o

51


lawer yn fasnachol, a dyna pam mae cronfeydd wedi’u sefydlu i dalu costau datgomisiynu. Yn y pen draw, felly, llywodraethau a threthdalwyr sy’n ysgwyddo risg y prosiectau hyn. Byddai Wylfa yn brosiect mawr iawn ar gyfer gwlad o faint Cymru, ac ni fydd yn creu llawer o swyddi hirdymor o ystyried y gwariant cyfalaf enfawr sydd ei angen. Byddai’n risg enfawr i unrhyw lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol, a gallai dyledion posibl neu ganfyddedig y prosiect hwn yn unig danseilio sefyllfa ariannol unrhyw lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol. 18. Pa fathau o ynni adnewyddadwy sydd orau? Mae’r ffactorau i’w hystyried yn cynnwys: i. Mae pŵer y môr a phŵer yr haul yn ddulliau cynhyrchu ynni llai ymwthiol nag ynni gwynt, ac maent yn gallu darparu pŵer yn agos at y galw yng Nghymru, tra bod ynni gwynt yn tueddu i gael ei gynhyrchu mewn ardaloedd â phoblogaeth isel. O ganlyniad, mae angen mwy o gapasiti dosbarthu, sy’n effeithio ar ardal eang o dirwedd, ac fel sy’n digwydd yn y Canolbarth, nid yw’r trydan a gynhyrchir ar gael i ddefnyddwyr Cymru ac mae’n rhaid ei allforio i Loegr. Nid yw’n hollol glir sut mae Cymru yn elwa ar gynhyrchu trydan fel hyn. ii. Mae defnyddio ynni’r haul ac ynni’r môr i gynhyrchu trydan yn ddulliau haws eu rhagweld nag ynni gwynt, sydd â goblygiadau ar gyfer gwerth yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu (oherwydd amser y dydd) a chost capasiti cynhyrchu wrth gefn. iii. Mae costau cynhyrchu ynni gwynt ar y tir yn hysbys ac yn gymharol isel. Felly hefyd costau ynni’r haul. Mae costau cynhyrchu ynni gwynt ar y môr yn uwch ac yn llai hysbys wrth i’r dechnoleg gyrraedd dyfroedd dyfnach. iv. Mae ynni’r haul ac ynni gwynt ar y tir yn dechnolegau adnewyddadwy cymharol aeddfed, ac mae potensial cyfyngedig i Gymru ddod yn ganolfan ragoriaeth yn y meysydd hyn. Mae lleoliad Cymru fel ardal i gynhyrchu ynni gwynt yn gymharol dda o safbwynt Ewropeaidd, ond nid yw hynny’n wir i’r un graddau ar gyfer ynni’r haul. v. Mae Cymru yn lleoliad rhagorol ar gyfer pŵer y môr. Nid yw’r ffynhonnell ynni adnewyddadwy hon wedi’i datblygu’n llawn eto, ac mae’n cynnig cyfle i Gymru fod yn ganolfan ragoriaeth. Fodd bynnag, mae ansicrwydd mawr ar hyn o bryd ynglŷn â chostau cynhyrchu cychwynnol pŵer y môr o bob math. Os yw lagŵn Bae Abertawe yn cael caniatâd, bydd yn arwyddocaol iawn o safbwynt sefydlu rhai paramedrau dangosol. vi. Mae’r potensial ar gyfer gwerth argadwedig ar ôl gorffen talu am y cyllid yn uwch mewn prosiectau haul a môr na phrosiectau gwynt, sy’n golygu bod yr ased yn fwy deniadol ar ôl talu am y cyllid.

52


Atodiad I

Cynhyrchu Trydan yng Nghymru fesul ffynhonnell tanwydd Cynhyrchwyr Mawr

CM

Cynhyrchwyr Eraill

CE 2011 %

Glo Olew Nwy Niwclear Ynni Adnewyddadwy Thermol Llif dŵr naturiol Storfeydd Pwmp Dŵr Ynni adnewyddadwy heb fod yn thermol Cyfanswm

CM GWh 6,170

CE Cyfanswm GWh GWh 6,170 215 215 790 10,670 5,364

%

24.5% 0.2% 43.3% 18.5%

22.6% 0.8% 39.1% 19.66%

9,880 5,364

0.8% 2.1% 8.0%

76 210 2,301

367 405 58

443 615 2,359

1.6% 2.3% 8.6%

2.6% 100.0%

1,041 25,042

406 2,241

1,447 27,283

5.3% 100.0%

Ynni Adnewyddadwy yn eu plith Dŵr

0.9%

268

1.0%

Gwynt, tonnau, haul

2.6%

1,447

5.3%

Arall

0.8%

443

1.6%

Cyfanswm

4.3%

2,158

7.9%

104

                                                                                                                      104

Ffigurau cynhyrchu a chyflenwi trydan ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, 2008 tan 2011

53


Atodiad II Gorsafoedd pŵer sy’n cynhyrchu trydan yng Nghymru Enw’r Cwmni

Enw’r Orsaf

Tanwydd

Capasiti Gosodedig (MW)

Centrica

Y Barri

International Power / Mitsui

Glannau Dyfrdwy

Dong Energy

Hafren

E.On UK

Cei Connah

RWE Npower ccc

Penfro

Tyrbinau Nwy Cylch Cyfun Tyrbinau Nwy Cylch Cyfun Tyrbinau Nwy Cylch Cyfun Tyrbinau Nwy Cylch Cyfun Tyrbinau Nwy Cylch Cyfun

RWE Npower ccc Scottish & Southern Energy ccc

Aberddawan B

glo

Aber-wysg Aberdare District Energy Solutia District Energy

glo/biomas

Shotton

RWE Npower ccc

Aberddawan GT

Baglan Generation Ltd RWE Npower (Npower Renewables Ltd) RWE Npower (Npower Renewables Ltd) RWE Npower (Npower Renewables Ltd)

Bae Baglan Cwm Dyli Dolgarrog Low Head Dolgarrog High Head

Magnox Ltd

Maentwrog

EDF Energy EDF Energy GDF Suez (International Power)

54

Blwyddyn dechrau comisiwn cynhyrchu

230

1998

515

1994

848

2010

1380

1996

2180

2012

1586

1971

363

2000

nwy

10

2002

nwy

10

2000

CHP nwy

210

2001

olew nwy tyrbinau nwy

51

1971

510

2002

dŵr

10

2002

dŵr

15

2002

dŵr

17

2002

dŵr

28

1928

Dyddia Cau

Rhag-1


Statkraft Energy Ltd

Rheidol

dŵr

Magnox Ltd International Power / Mitsui International Power / Mitsui

Wylfa

niwclear storfeydd pwmp storfeydd pwmp

Ffestiniog Dinorwig

49

1961

490

1971

360

1961

1728

1983

10380 Ffynhonnell: Adran Ynni a Newid Hinsawdd, Digest of UK energy statistics’ (DUKES) https://www.gov.uk/government/organisations/department-of-energy-climatechange/series/digest-of-uk-energy-statistics-dukes Cyfanswm trydan a gynhyrchir yn ôl math o ynni: MW % Tyrbinau Nwy Cylch Cyfun Glo a Biomas Nwy Dŵr Niwclear Storfeydd Pwmp

5153 1949 581 119 490 2088 10380

55

49.6% 18.8% 5.6% 1.1% 4.7% 20.1% 100.0%

Medi-1


Atodiad III Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8 – Adolygiad Diddordeb mewn Datblygwyr Ffermydd Gwynt 2012 Dyma grynodeb o gynhyrchiant cynlluniau ffermydd gwynt yng Nghymru sydd naill ai yn cael eu hystyried, wedi’u cymeradwyo neu’n weithredol. Mae’r crynodeb yn gwahaniaethu rhwng prosiectau hyd at 50 MW, sy’n cael eu pennu gan awdurdodau cynllunio lleol o dan ddeddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref, a phrosiectau sydd dros 50 MW, sy’n cael eu pennu gan Lywodraeth y DU o dan y Ddeddf Trydan. Mae hefyd yn gwahaniaethu rhwng y cam cynllunio (‘Yn yr arfaeth’ a ‘wedi caniatáu’) a’r cam o roi’r caniatâd cynllunio ar waith (‘Gweithredol’). Mae’r tabl yn gwahaniaethu rhwng yr ardaloedd chwilio strategol gwahanol (SSAs), fel y nodir yn TAN 8, yn ogystal â chynlluniau y tu allan i SSA.

SSA 5MW to 50MW - 5MW i 50MW Over 50MW - Dros 50MW Total – Cyfanswm In planning – Yn yr arfaeth Consented – Wedi caniatáu Total – Cyfanswm Operational – Gweithredol Outside SSA – Tu allan i SSAs Total - Cyfanswm Nodiadau: · Mae’r ffigyrau mewn MegaWatau. · Mae ‘Yn yr arfaeth’ yn cyfeirio at gynlluniau sydd yn y cam ymgeisio ac apêl. · Mae ‘wedi caniatáu’ yn cyfeirio at y cynlluniau hynny y rhoddwyd caniatâd iddynt (gan gynnwys cynlluniau gweithredol). · Casglwyd data ‘Yn yr arfaeth’ ac ‘wedi caniatáu’ (nad oedd yn weithredol) gan awdurdodau cynllunio lleol gan Hyder fel rhan o’u hymchwil, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i uchelgeisiau perfformiad cynlluniau ynni adnewyddadwy yng Nghymru – defnyddiwyd y data diweddaraf a gasglwyd, cafwyd y data hyd at y dadansoddiad a oedd yn sail i’r ymchwiliad ym mis Chwefror 2012. · Mae cynhyrchiant y datblygiadau hynny sy’n ‘Weithredol’ wedi’i gymryd o ddata Tystysgrif Ymrwymo i Ynni Adnewyddadwy – yn gywir ar 31 Mawrth 2012.

56


Atodiad IV

Cyfleoedd manteisiol posibl i gynhyrchu pŵer trydan dŵr ar raddfa fach yng Nghymru a Lloegr Asiantaeth yr Amgylchedd Mapio cyfle a sensitifrwydd amgylcheddol ar gyfer ynni dŵr yng Nghymru a Lloegr. Adroddiad annhechnegol.

57


Power Category – Categori Pŵer Other Barriers – Rhwystrau Eraill Atodiad V Mae’r map isod yn cynrychioli pelydriad heulog ledled y DU.

UK Solar Radiation Maps – Mapiau Pelydriad Heulog y DU Mean daily global irradiation in MJ / m² - Arbelydriad byd-eang dyddiol cymedrig mewn MJ / m² Averaging period 1993 to 2007 – Cyfnod cyfartaledd 1993 tan 2007 January – Ionawr July – Gorffennaf

58


Atodiad VI Defnydd cyfartalog Awdurdodau Lleol o nwy a thrydan domestig fesul defnyddiwr

Energy Generation and Consumption in Wales 2011 Statistical Bulletin, Ystadegau ar gyfer Cymru, 19/2013, t. 15, Tabl 5 Sales per consumer (kWh) – Gwerthiant fesul defnyddiwr (kWh) Gas – Nwy Electricity – Trydan Percentage change (2010 to 2011) – Newid yn y ganran (2010 i 2011) Isle of Anglesey – Ynys Môn Gwynedd Conwy Denbighshire – Sir Ddinbych Flintshire – Sir y Fflint Wrexham – Wrecsam Powys Ceredigion Pembrokeshire – Sir Benfro Carmarthenshire – Sir Gaerfyrddin Swansea – Abertawe Neath Port Talbot – Castell-nedd Port Talbot Bridgend – Pen-y-bont ar Ogwr

59


Vale of Glamorgan – Bro Morgannwg Cardiff – Caerdydd Rhondda Cynon Taf Merthyr Tydfil – Merthyr Tudful Caerphilly – Caerffili Blaenau Gwent Torfaen Monmouthshire – Sir Fynwy Newport – Casnewydd Wales - Cymru Source: Department of Energy and Climate Change (DECC) – Ffynhonnell: Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) Atodiad VII Pwerau Llywodraeth Cymru Math o brosiect Ar y tir¹ Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd (Cynhyrchu ynni)

Gosodiad Pŵer Niwclear

Maint

Caniatâd

Cyfredol

Dyfodol

>50MW

Gorchymyn Caniatâd Datblygu (Deddf Trydan 1989 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008)

Comisiwn Cynllunio Seilwaith

Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (Arolygiaeth Gynllunio Uned Cynllunio Seilwaith Mawr)

Trwydded Safle Niwclear (Deddf Gosodiadau Niwclear 1965) Gorchymyn Caniatâd Datblygu (Deddf Trydan 1989 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008)

Swyddfa dros Swyddfa dros Reoli Reoli Niwclear Niwclear

60

Comisiwn Cynllunio Seilwaith

Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (Arolygiaeth Gynllunio Uned Cynllunio Seilwaith Mawr)


Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd fel y grid trydan/piblinellau nwy

Llinellau uwchddaearol >132Kv, piblinellau nwy traws gwlad (>10 milltir)

Chwilio am, ac echdynnu olew a nwy (gan gynnwys ‘ffracio’)

Prosiectau cynhyrchu ynni llai

<50MW

Gorchymyn Caniatâd Datblygu (Deddf Trydan 1989 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008)

Comisiwn Cynllunio Seilwaith

Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (Arolygiaeth Gynllunio Uned Cynllunio Seilwaith Mawr)

Trwyddedau Chwilio am, a Datblygu Petroliwm (PEDLs) Caniatâd Cynllunio (Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990)

Yr Adran Yr Adran Ynni Ynni a Newid a Newid Hinsawdd Hinsawdd

Caniatâd Cynllunio (Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990)²

Awdurdodau cynllunio lleol (Arolygiaeth Gynllunio/ Gweinidogion Cymru)

Awdurdodau cynllunio lleol (Arolygiaeth Gynllunio/ Gweinidogion Cymru) Awdurdodau cynllunio lleol (Arolygiaeth Gynllunio/ Gweinidogion Cymru) Awdurdodau cynllunio lleol (Arolygiaeth Gynllunio/ Gweinidogion Cymru)

Awdurdodau cynllunio lleol (Arolygiaeth Gynllunio/ Gweinidogion Cymru)

Seilwaith ynni ar Caniatâd Awdurdodau raddfa lai a Cynllunio cynllunio lleol ‘datblygiadau (Deddf (Arolygiaeth cysylltiedig’ fel isCynllunio Gynllunio/ orsafoedd, Gwlad a Gweinidogion rhwydwaith Thref 1990) Cymru) dosbarthu foltedd is³ Ar y môr (Dyfroedd tiriogaethol Cymru – hyd at 12 môr-filltir) Prosiectau Seilwaith >100MW Gorchymyn Comisiwn Ysgrifennydd Cenedlaethol eu Caniatâd Cynllunio Gwladol yr Harwyddocâd Datblygu Seilwaith4 Adran Ynni a (Cynhyrchu ynni) (Deddf Newid Trydan 1989 Hinsawdd fel y’i Arolygiaeth diwygiwyd Gynllunio gan Ddeddf Uned Cynllunio Cynllunio

61


2008)

Prosiectau cynhyrchu ynni eraill

Ceblau tanfor

Piblinellau olew a nwy

1-100MW

Trwydded Forol (Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009) Deddf Trydan 1989 Caniatâd Trwydded Forol (Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009) Trwydded Forol (Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009) Deddf Petroliwm 2008

Seilwaith Mawr4 Gweinidogion Gweinidogion Cymru Cymru

Y Sefydliad Rheoli Morol4 Gweinidogion Cymru

62

Gweinidogion Cymru

Gweinidogion Gweinidogion Cymru Cymru

Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd Ar y môr (dyfroedd y DU – y tu hwnt i 12 môr-filltir) Prosiectau Seilwaith >100MW Gorchymyn Comisiwn Cenedlaethol eu Caniatâd Cynllunio Harwyddocâd Datblygu Seilwaith (Cynhyrchu ynni) + (Deddf datblygiad Trydan 1989 cysylltiedig fel fel y’i ceblau diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008) Trwydded Forol (Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009)

Y Sefydliad Rheoli Morol4

Comisiwn Cynllunio Seilwaith

Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd Arolygiaeth Gynllunio Uned Cynllunio Seilwaith Mawr Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd Arolygiaeth Gynllunio Uned Cynllunio


Seilwaith Mawr

Ceblau tanfor (nad ydynt yn gysylltiedig ag NSIP)

Trwydded Forol (Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009) Deddf Petroliwm 2008

Piblinellau olew a nwy

Prosiectau cynhyrchu ynni eraill

<100MW

Deddf Trydan 1989 Caniatâd Trwydded Forol (Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009)

Y Sefydliad Rheoli Morol

Y Sefydliad Rheoli Morol

Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd Y Sefydliad Rheoli Morol

Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd Y Sefydliad Rheoli Morol

Y Sefydliad Rheoli Morol

Y Sefydliad Rheoli Morol

¹ Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen Trwyddedau Amgylcheddol gan Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd ² Mae rhai prosiectau microgynhyrchu yn enghreifftiau o ‘ddatblygu a ganiateir’ ac nid oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer ³ Hefyd yn berthnasol i ‘ddatblygiad cysylltiedig’ ar y tir ar gyfer prosiectau ynni ar y môr 4 Mae hefyd yn bosibl i Weinidogion Cymru ganiatáu prosiectau ynni mawr mewn dyfroedd tiriogaethol o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 os cyflwynir cais iddyn nhw yn hytrach nag i’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith neu ei olynydd, a lle gallai’r cynigion amharu ar hawliau mordwyo

63


64

Profile for Plaid Cymru

Polisi Ynni i Gymru - Deall yr Heriau  

Polisi Ynni i Gymru - Deall yr Heriau  

Profile for plaid
Advertisement