Issuu on Google+

Gaeaf 2013 

£1

Y Ddraig Goch Rhoi Cymru’n Gyntaf Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru

B

u’n wythnosau da i Blaid Cymru wrth i ni daro bargen ar y gyllideb, cynnal cynhadledd lwyddiannus a chael gwybod y bydd Cymru’n medru cynnal refferendwm cyn bo hir ar bwerau codi trethi incwm. Rhaid aros i weld a fydd Llywodraeth Cymru’n gafael yn y cyfle hwn i wella’r economi. Bwriad ein pecyn, Gofal Nes at Adref, yw helpu pobl i wella’n gynt tu allan i’r ysbyty, gan ryddhau gwelyau a lleihau amseroedd aros. Dyma fydd cychwyn adeiladu system newydd – gwasanaeth gofal iechyd a chymdeithasol canolraddol ar y cyd. Caiff awdurdodau lleol nawr eu hannog i weithio gyda’r gwasanaeth iechyd er mwyn sicrhau gwasanaethau gwell a chynt i bobl Cymru. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys darparu tair braich robotaidd newydd i drin canser y prostad. Ar hyn o bryd, gorfodir llawer o bobl â’r canser hwn i deithio dros y ffin ar gost o ryw £15,000 y driniaeth. Bydd bargen gyllideb Plaid Cymru hefyd yn cyflwyno grant gwerth £918 i bob plentyn sydd â’r hawl i ginio ysgol am ddim – dwbl yr hyn ydoedd. Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Plaid Cymru wedi chwarae rhan gyfrifol mewn gweinyddiaeth leiafrifol. Rydym wedi ymrwymo i arwain llywodraeth nesaf Cymru. Cyhoeddwyd llawer o syniadau yn y gynhadledd i’r perwyl hwn, a chawsom ymateb cadarnhaol. Tra bod elw’r chwe chwmni

ynni mawr wedi cynyddu 73% dros y tair blynedd ddiwethaf, mae pobl Cymru’n talu mwy am eu trydan na chwsmeriaid yn Lloegr a’r Alban. Mae angen ateb tymor hir, nid tymor byr. Galwom am sefydlu corff ar batrwm Glas Cymru, Ynni Cymru, fyddai’n prynu nwy a thrydan am brisiau cyfanwerthu ac yna’n eu gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr a busnesau. Cyhoeddais hefyd fwriad llywodraeth Plaid Cymru i ailgyflwyno camau i reoli rhent yn y sector breifat. Yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, cododd rhent 5%, sy’n uwch o lawer na chyfartaledd y DG. Bydd Plaid Cymru hefyd yn cryfhau’r canllawiau cynllunio i awdurdodau lleol fel bod rhaid ystyried effaith datblygiadau newydd ar yr iaith Gymraeg. Mae prisiau tai wedi codi o gyrraedd pobl leol ers amser. Dyna pam y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth fyddai’n rhoi’r grym i awdurdodau lleol gyflwyno camau rheoli ar ail gartrefi mewn ardaloedd dynodedig gan ryddhau’r pwysau ar y farchnad dai a chanfod y ffordd orau i ddefnyddio’n pwerau treth stamp newydd. Byddwn yn torri trethi ar fusnesau gyda gwerth trethiannol o lai na £15,000 y flwyddyn gan

helpu 83,000 o fusnesau. Mae angen gweithredu ar frys ym maes iechyd. Rhaid i’r llywodraeth geisio newid patrymau byw os oes unrhyw obaith o atal yr epidemig o ordewdra a chlefyd siwgr yn ogystal â hybu adnoddau i ofal iechyd. Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr o hyd at 20c y litr – 7c y can. Byddwn yn cyflogi 1,000 yn fwy o feddygon gyda’r arian a godir, gan ddwyn Cymru i fyny at gyfartaledd y DG, a lleihau’r angen i fynd â gwasanaethau ymhellach oddi wrth y bobl. Fy uchelgais i, dros ddau dymor llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru, yw dwyn y wlad hon o’r lle’r ydym nawr, yn agos at waelod pob tabl cynghrair perfformiad yn Ewrop, i’r 10 uchaf o ran incwm y pen, llythrennedd a mathemateg. Mae modd gwneud hyn trwy roi Cymru’n gyntaf.

Ewch â’r gair ar led. Mae Plaid Cymru ar gerdded. Ymlaen!


Uchafbwyntiau’r Gynhadledd Flynyddol

“D

w i’n siŵr eich bod yn mwynhau eich amser yma yng Ngheredigion – mae bron amhosib i beidio gwneud. A dwi’n gobeithio y byddwch chi’n dod yn ôl cyn hir, er mwyn helpu ni yn yr ymgyrch i adennill y sedd yma yn San Steffan. Gyda’ch cymorth chi, mae e’n hollol bosib – a, gydag etholiad pwysig iawn i’r Cynulliad y flwyddyn wedyn, mae’n hanfodol. Ymlaen i’r ymgyrch!” Mike Parker, Ymgeisydd San Steffan, Ceredigion

“Y

n ein dwylo ni bob un o ddinasyddion Cymru mae’r allwedd i’n dyfodol ein hunain. Ein cyfrifoldeb ni ydi i symud Cymru tuag at ddyfodol tecach, mwy llewyrchus, mwy balch a llawer mwy hyderus” Rhun ap Iorwerth AC

“M

ae’r mudiad cenedlaethol ar gerdded unwaith eto. A chi, ym mhob rhan o Gymru, sydd wedi adeiladu’r momentwm newydd yma. Gall y momentwm

Y Cynghorydd Siân Gwenllïan, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac ymgeisydd Cynulliad Arfon Roedd hi’n dda gweld criw hwyliog wedi dod ynghyd yn Aberystwyth. Arwydd o’r brwdfrydedd a’r egni newydd sydd ymhlith yr aelodau. Y sesiynau ymylol, areithiau’r brif neuadd, y sgyrsiau yn y bar coffi neu du allan yn yr heulwen yn fyrlymus. Mae Canolfan y Celfyddydau yn le da ar gyfer cynhadledd y Blaid: digon o gorneli ond bob man yn agos at ei gilydd. Cafwyd cinio bywiog yn y Marine: diweddglo hyfryd. Roedd cyfraniad yr SNP i’r penwythnos yn ysbrydoli ac yn ychwanegu at yr awyrgylch. Yr Aelod Seneddol,

yma’n cario ni ymlaen, dros y llinell derfyn, i greu Llywodraeth nesa Cymru yn 2016. Nid sbrint yw’r ras i drawsnewid Cymru, ond marathon – a dwi’n tanio’r gwn cychwyn yma heddiw. Rydw i’n siarad gyda chi heddiw fel y ferch gyntaf i arwain Plaid Cymru. Ond alla i ddim gadael hi fynna. Does dim gorffwys i fod nes bydda i’n siarad â chi fel Prif Weinidog cyntaf Plaid Cymru, yn arwain ein cenedl ymlaen.” Leanne Wood AC

Pete Wishart a’i ddawn dweud am ‘prosiect codi ofn’ y rhai gwrth annibyniaeth i’r Alban a Tasmina Sheikh, un o ymgeiswyr Ewrop yr SNP, yn hyderus afieithus. Y cyntaf yn gerddor ac yn gyn-aelod o’r band Runrig a’r ail yn gyfreithwraig ac yn actores Bollywood. Mae gennym lawer i’w ddysgu ganddyn nhw. Credu mewn llwyddiant. Bod yn ddi-ildio. Tynnu nerth o’n gilydd. Hiwmor. Hyder. Roedd yr hadau yno yn Aber tro ‘ma. Ymlaen!

Llongyfarchiadau mawr i Manon Roberts, Aberystwyth enillydd raffl fawr Plaid Cymru a dynnwyd yn y gynhadledd. Cyfrannodd Manon £1000 o’i gwobr i ymgyrchoedd y Blaid yng Ngheredigion a gwario’r gweddill ar drip i Murcia dros y Calan!

Aled Morgan Hughes, Llywydd Cangen Plaid Cymru Ifanc Prifysgol Aberystwyth I mi fel aelod cymharol ifanc o’r Blaid, un o brif uchafbwyntiau’r Gynhadledd eleni oedd y pwyslais sylweddol a roddwyd ar ein cyfeiriad a’n gweledigaeth fel plaid dros y blynyddoedd nesaf. Wrth gynnig platfform i ni fel aelodau gael dod i adnabod unigolion megis Mike Parker, Siân Y Ddraig Goch 

Gwenllïan, a’n Haelod Cynulliad newydd, Rhun ap Iorwerth, cawsom rannu eu gweledigaeth a’u gobeithion am y blynyddoedd i ddod - profiad hynod gyffrous ac addysgiadol. Credaf yn gryf y bu i’r chwistrelliad o waed newydd, wrth gadw at y drefn arferol o areithiau a thrafodaethau gwych gan rai o aelodau mwy sefydledig y Blaid - gan gynnwys araith arbennig Leanne Wood - greu rhyw gymysgedd arbennig o’r arferol a’r newydd. Gydag etholiad

San Steffan 2015 a Chynulliad 2016 nawr yn gyflym agoshau, bu i’r Gynhadledd unwaith eto gadarnhau i mi mae dim ond un cyfeiriad y gall y Blaid fynd - YMLAEN! Gaeaf 2013


Aelod y bobl Lis Puw, Cadeirydd Pwyllgor Etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn talu teyrnged i Elfyn Llwyd AS

“O

es yna unrhyw fater arall?” meddwn wrth i gyfarfod mis Hydref pwyllgor etholaeth Dwyfor Meirionnydd ddirwyn i ben. Cwestiwn peryg, achos dyma Elfyn yn cyhoeddi na fyddai’n sefyll yn yr etholiad nesaf. Roedd yn amlwg wedi bod yn anodd iddo ddod i’r penderfyniad a phwysleisiodd mai ffactorau iechyd a theuluol oedd wrth wraidd ei benderfyniad. Roedd yn anodd i’r pwyllgor etholaeth hefyd i dderbyn y newyddion, ond rhaid oedd parchu ei benderfyniad a thalu teyrnged iddo am yr holl waith mae wedi ei wneud dros yr un flynedd ar hugain diwethaf. Rydym yn arbennig o ddiolchgar hefyd am iddo amseru ei ymddeoliad yn ddoeth er lles y Blaid a’i olynydd. Rhaid deall nad ar chwarae bach mae rhywun yn treulio dros hanner yr wythnos i ffwrdd o’r teulu ym merw - ac yn unigrwydd - Llundain, gan aberthu llawer i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd a Phlaid Cymru mor deilwng ag y mae Elfyn wedi llwyddo i’w wneud. Ar hyd yr amser, mae Elfyn wedi gallu gwneud efo pawb - ac mae gair uchel iddo gan grwpiau mor amrywiol â genweirwyr Tal-yllyn, cyn-aelodau’r lluoedd arfog, ffermwyr cefn gwlad, yr Heddlu - a chleientiaid sy’n dal i gofio ei ddawn yn eu hamddiffyn yn y llysoedd. Aelod y bobl, yn wir, sydd wedi llwyddo i gadw ei draed ar y ddaear ar hyd y blynyddoedd. Allwn ni ddim dechrau cyfrif y miloedd yn yr etholaeth y mae wedi eu helpu gyda’u problemau.

Ac nid yn unig mae’n uchel ei barch yma, ond hefyd yn Llundain lle y mae wedi gwneud enw iddo’i hun ar hyd y blynyddoedd fel aelod diffuant ac egwyddorol. Nid yw wedi’i ddewis i’r Pwyllgor Cyfiawnder heb fod iddo barch mawr yn San Steffan. Mae ei waith dros garcharorion a chynfilwyr yn adnabyddus iawn, ac yn sicr mae’r ddeddf i atal stelcian yn waddol pwysig. Bydd yn chwith i ni ar ôl Elfyn

yn yr etholaeth, yn y Blaid ac yng Nghymru. Y newyddion da wrth gwrs yw ei fod yn dal i weithio drosom tan yr etholiad nesaf, ac na fydd yn llaesu ei ddwylo dros Gymru ar ôl ymddeol o San Steffan. Newyddion da arall yw ei fod wedi addo cymryd ei olynydd dan ei adain yn y cyfnod sy’n arwain at yr etholiad cyffredinol. Diolch i ti Elfyn am bob peth. Dymunwn iechyd a dedwyddwch i ti yn y dyfodol.

Undeb Credyd

Plaid Cymru Aelodau yn ei rhedeg er budd aelodau Mae Undeb Credyd Plaid Cymru (UCPCCU) yn dyst ymarferol i athroniaeth gydweithredol y Blaid o adeiladu Cymru newydd annibynol, hyderus. Yr aelodau sy’n berchen ar UCPCCU ac ers 20 mlynedd mae UCPCCU wedi gweithio dros aelodau’r Blaid a’u teuluoedd, yn cefnogi eu busnesau teuluol bychain a Changhennau’r Blaid. Mae cynilo arian yn golygu bod gennych chi rywbeth i edrych ymlaen ato ac i syrthio’n ôl arno.Talwyd difidend o 2% ar gynilion yn 2011/12. Yn ddibynnol ar statws mae’n bosib benthyg hyd at £5,000 trwy benthyciad isel ei gost, heb unrhyw daliadau cudd.

Ymunwch ag Undeb Credyd Plaid Cymru ein sefydliad ariannol cenedlaethol ni. Am fwy o fanylion, ewch at www.ucpccu.org Cliciwch ar ‘Ffurflenni’ er mwyn dadlwytho’r Ffurflenni Cais am Aelodaeth ac Archeb Banc. Printiwch a chwblhau y ffurflennni a’u postio i Swyddfa’r Undeb Credyd.

Undeb Credyd Plaid Cymru (UCPCCU) Tŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, Caerdydd, CF24 3AJ T: 029 2049 1888 www.ucpccu.org E: post@ucpccu.org


Fe fyddwn ni yng Nghymru gyda chi bob cam o’r ffordd! Jonathan Edwards AS gynhadledd a theimlad eu bod yn sgwennu hanes eu cenedl. Fodd bynnag, yr uchafbwynt personol i mi oedd cael cusan gan Ddirprwy Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ar lwyfan y Gynhadledd wedi i mi orffen areithio! Dyma ddetholiad o’r araith:

W

ythnos wedi’n cynhadledd lwyddiannus yn Aberystwyth, fe ges i’r fraint o gynrychioli Plaid Cymru yng nghynhadledd flynyddol yr SNP yn Perth. Yn neuadd y celfyddydau, ynghanol y ddinas, fe wnes i annerch dros 1,500 o gynadleddwyr. Roedd bwrlwm enfawr i’r

“Mae traddodiad gwleidyddol Cymru a’r Alban yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a thegwch - egwyddorion sy’n arwain holl weithgaredd Llywodraeth yr Alban dan yr SNP, esiampl o wleidyddiaeth flaengar y dylech ymfalchïo ynddi. Ni fydd y gwerthoedd hyn

Canu dros annibyniaeth Iwan Rhys

D

ydd Sadwrn, Medi’r 21ain, cynhaliwyd gorymdaith a rali annibyniaeth yr Alban yng Nghaeredin, bron union flwyddyn cyn y refferendwm. Ac roedd Côr Dre, criw yn eu hugeiniau a’u tridegau cynnar o Gaernarfon, yno yng ynghanol yr 20,000 a mwy o Albanwyr. Cododd y syniad gyntaf ar daith flynyddol Côr Dre i’r Ŵyl Ban Geltaidd fis Ebrill yn Carlow, Iwerddon. Wrth i’r criw gymdeithasu gyda phibyddion, cantorion a dawnswyr o’r Alban, trodd y sgwrs at wleidyddiaeth a’r paratoadau at y refferendwm, a chododd y syniad y gallai’r côr fynd i Gaeredin i orymdeithio gyda’r Albanwyr. Wedi i swyddogion y côr gysylltu â’r trefnwyr, cafwyd gwahoddiad swyddogol nid yn unig i ymuno yn yr orymdaith, ond i berfformio ar lwyfan y rali ei hun.

Y Ddraig Goch 

A dyna a wnaed. Cafwyd ymarfer ar y bore Sadwrn, a thorri syched wrth sgwrsio gyda’r Albanwyr y daethpwyd i’w hadnabod yn Carlow, rai ohonynt yn eu dagrau wrth ddiolch i’r Cymry am y gefnogaeth. Wrth gyrraedd y Royal Mile, a gweld y degau o filoedd o genedlaetholwyr banerog yn ymffurfio’n rhesi y sylweddolwyd gwir faint ac arwyddocâd yr achlysur. Am union hanner dydd, dyma’r drymiau’n rat-tat-tatio a’r pibau’n gwichian, ac i ffwrdd â’r dyrfa enfawr i Calton Hill, lle’r oedd llwyfan y rali wedi ei osod. Roedd y rali’n gymysgedd o siaradwyr gwleidyddol, bandiau cyfoes, comediwyr a cherddoriaeth draddodiadol. Aeth y côr i’r ardal gefn llwyfan i baratoi ar gyfer eu perfformiad, a chael cwrdd ag Alex Salmond a Nicola Sturgeon, gan wireddu breuddwyd sawl aelod o’r

yn cael eu hyrwyddo gan lywodraeth San Steffan waeth pa liw sy’n llywodraethu. Yn wyneb llywodraeth adain dde filain y Ceidwadwyr, ymateb y Blaid Lafur yw dweud y byddant yn mabwysiadu eu blaenoriaethau gwario ac yn fwy llym na’r Torïaid ar y sâl a’r tlawd. Mae’n anodd credu! Dim ond annibyniaeth fydd yn sicrhau rhyddid gwleidyddol a chaniatáu’n gwledydd i dorri hualau San Steffan, a’n galluogi i gyflawni ein dyhead o ddyfodol mwy cyfiawn a ffyniannus. Ffrindiau, rydych wedi bod yn gweithio ar hyd eich oes i gyrraedd y pwynt hwn. Dyma fy neges wrth gloi: dros y flwyddyn nesaf, gwnewch hanes - fe fyddwn ni yng Nghymru gyda chi bob cam o’r ffordd!” Darllenwch yr araith yn ei chyfanrwydd yma: www.jonathanedwards.org.uk

côr. Profiad arall bythgofiadwy i’r criw oedd canu trefniant Siân Wheway, ein harweinydd, o ‘Yma wyf inna i fod’ gan Geraint Lovgreen a Meirion MacIntyre Huws, a channoedd ar gannoedd o faneri’r Alban yn fôr o las a gwyn o’n blaenau, ynghyd ag ambell Ddraig Goch a baneri rhai o genhedloedd diwladwriaeth eraill Ewrop. Daeth y côr oddi yno wedi eu tanio o’r newydd yn sgil y brwdfrydedd a brofwyd yn yr Alban, a goblygiadau’r refferendwm i Gymru a chenhedloedd bach Ewrop dros y blynyddoedd sydd i ddod. Hyderir y daw cefnogaeth o blith yr Albanwyr pan fydd Cymru’n cynnal ei refferendwm hithau ar annibyniaeth maes o law. Gaeaf 2013


Diddymu’r Enllib Adolygiad Cynog Dafis o ‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’, Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth, Richard Wyn Jones

Y

n 2001, a Phlaid Cymru yn ddylanwad o bwys yng Nghynulliad Cenedlaethol newydd Cymru, mynegodd y Cynghorydd Seimon Glyn, mewn cyfweliad ar Radio Wales, ei bryder ynghylch effeithiau problematig mewnfudiad Seisnig i Benrhyn Llyn, yn enwedig ar yr iaith Gymraeg. Yn sgîl ei sylwadau cyhuddwyd Plaid Cymru, mewn rhyferthwy o ymosodiadau, o eithafiaeth, camwahaniaethu yn erbyn Saeson a hiliaeth. Yn y Cynulliad cynigiodd Huw Lewis, y gweinidog Addysg presennol, ddileu tystiolaeth Dafydd Glyn Jones, a oedd wedi annog rhoi cymhelliad ariannol i fyfyrwyr o Gymru dderbyn eu Haddysg Uwch yng Nghymru, o’r Cofnod ar y sail ei bod yn gamwahaniaethol. Ar yr un pryd, meddai Richard Wyn Jones (RWJ) roedd y Welsh Mirror yn gyson gyfleu’r ‘neges bod Plaid Cymru yn sawru o Ffasgaeth’. Mae’n sicr i’r baw a daflwyd at y Blaid yn y cyfnod hwn gyfrannu’n sylweddol at wrthdroi ei chynnydd yn etholiad 2003 a rhai dilynol, yn arbennig drwy iddi golli cefnogaeth ymysg y diGymraeg. Pwrpas llyfr campus diweddaraf RWJ yw darlunio hanes y math yma o gyhuddiadau, eu dadansoddi a’u hesbonio. Mae’n datblygu’i ddadl yn rhesymegol rymus: olrhain hanes y cyhuddiadau; trafod nodweddion Ffasgaeth; ystyried p’un a fu yn syniadaeth, sylwadaeth a gweithredoedd y Blaid unrhyw sail i’r cyhuddiadau; a dadansoddi, yn hynod o dreiddgar, y ffactorau a esgorodd arnyn nhw. I wneud hyn oll mae’n tynnu ar ei stôr

wyddoniadurol o wybodaeth am y Blaid, diwylliant gwleidyddol Cymru, a’r llenyddiaeth ryngwladol am Ffasgaeth.

Uchel-Gyhuddwyr y Blaid, yr oedd ei sylwadau ar y ‘cynllwyn Iddewig’ yn ddigon i hela gwallt pen dyn i godi.

Ei gasgliad yw bod y Blaid, a Saunders Lewis (SL) yn benodol, nid yn unig yn ddieuog o’r cyhuddiad, ond am y pegwn â phopeth yr oedd ac y mae Ffasgaeth yn ei gynrychioli. Roedd gwrthwynebiad SL i Ffasgaeth yn gwbl ddiamwys. ‘Mae’n bosibl, meddai yn 1934, ‘y bydd gwaed yn llifo ar strydoedd Deheudir Cymru os ceir Llywodraeth Ffasgaidd. Os digwydd hynny rhaid i’r Blaid Genedlaethol sefyll o blaid gwerin gyffredin Cymru yn erbyn yr unbennaeth Ffasgaidd’. Cyferbynner hynny â Lloyd George yn 1937 yn datgan ar goedd ei edmygedd personol o ‘fawredd sylfaenol’ Hitler.

Beth felly yw cuddiad yr enllib arswydus hwn ar y Blaid? Mae RWJ yn nodi tri ffactor: rhagfarn yn erbyn Catholigiaeth SL a’r cyfystyru rhagfarnllyd rhwng Catholigiaeth a Ffasgaeth yn sgîl Rhyfel Cartref Sbaen; penderfyniad naïf arweinyddiaeth y Blaid i ymbellhau o gefnogi polisi tramor Prydain yn yr Ail Ryfel Byd; ac yn bwysicach na dim, y ffaith fod y Blaid wedi meiddio dyrchafu cenedlaetholdeb Cymreig ar yr union adeg pan oedd Prydeindod fel pe’n cyrraedd anterth ei arwyddocâd.

Ar gwestiwn gwrth-semitiaeth, tra’n cyfaddef i rai o aelodau’r Blaid rannu yn rhagfarn gyffredin y 1930au, prin yw’r cyfeiriadau, a rhybuddiodd SL yn erbyn ‘y gwrth-Semitiaeth hwnnw sy’n un o heintiau hanes ac yn hadu ym mhob un ohonom ond rhoi iddo gyfle’. Nid felly WJ Gruffudd, un o

Dyma gyfrol feistrolgar ac arf grymus yn nwylo pleidwyr os mentrir eto ailadrodd yr enllib hanesyddol hwn. Os yw rhethreg RWJ ar adegau braidd yn bolemaidd tra’n datgymalu dadleuon y sawl fu’n taenu’r enllib, teg casglu mai’r rheswm dros hynny yw ei barch i dystiolaeth wrth gyfiawnhau honiadau hanesyddol a dicter cyfiawn wrth gamwri.


Plaid Cymru Ifanc yn yr Alban

B

u nifer o aelodau Plaid Cymru Ifanc yn yr Alban ar Fedi 21 i gymryd rhan yn yr orymdaith a’r rali dros annibyniaeth. Taith a drefnwyd ar y cyd rhwng Plaid Pride a YES LGBT, oedd hi ond roedd nifer o’r criw aeth i fyny i’r digwyddiad hefyd yn aelodau o Blaid Cymru Ifanc. Ymunwyd â nhw gan Lindsay Whittle AC ac Adam Price. Yn ôl Heddlu’r Alban, mynychodd oddeutu 8,000 o bobl

y digwyddiad ond amcangyfrifodd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon MSP fod y niferoedd yn debycach i 30,000. Anerchwyd y dorf gan lu o siaradwyr o ar draws y pleidiau – yr SNP, y Blaid Lafur, y Blaid Sosialaidd, y Blaid Werdd – a chafwyd llond llu o adloniant ar ffurf cerddoriaeth a barddoniaeth hefyd. Roedd un o’r perfformiadau gan gôr o Gymru hyd yn oed, Côr Dre o Gaernarfon.

Uchafbwynt y diwrnod oedd areithiau Nicola Sturgeon a’r Prif Weinidog Alex Salmond. Roeddem, fel Cymry, yn falch o gael croeso o’r llwyfan a ‘Bore da, shwmae?’ gan Hardeep Singh Kohli, un o gyflwynwyr y diwrnod! Does dim amheuaeth fod y criw anhygoel yma o bobl yn barod am y frwydr o’u blaenau yn ystod y flwyddyn nesa’ ac ry’n ni’n edrych ymlaen at eu buddugoliaeth yn y refferendwm fis Medi 2014.

Charlotte yn Llundain M

ynychodd ein Cadeirydd Cenedlaethol, Charlotte Britton, gyfarfod cyntaf y gweithgor trawsbleidiol ar Fesur Mobileiddio Pleidleiswyr yn San Steffan. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r ganran o bobl ifanc yn y DG sy’n ‘sicr y byddant yn pleidleisio’ wedi gostwng o 44% i 12%, sy’n aruthrol o isel ac yn destun

pryder mawr inni fel mudiad ieuenctid ac i nifer o bobl eraill, mae’n siŵr. Gwahoddwyd Charlotte i’r digwyddiad gan Bite the Bullet, ymgyrch ddemocratiaeth ieuenctid sy’n ceisio drafftio deddfwriaeth i fynd i’r afael â difaterwch pobl ifanc ynghylch gwleidyddiaeth.

Plaid Cymru Ifanc yn y Gynhadledd Flynyddol nwaith eto eleni, daeth ystod y deuddydd. Yn hytrach na mynychu cinio’r U criw o Blaid Cymru Ifanc i gynhadledd, aeth criw ohonom i Sesiwn drafod gyntaf y Aberystwyth ar gyfer Cynhadledd fwyty’r Shilam cyn ymuno â’r hwyl Flynyddol y Blaid. Ond oedd hi’n wych?!

Daeth criw o Gaerdydd, gan gynnwys aelodau newydd sbon o Gymdeithas Plaid Cymru’r Brifysgol, i Aber mewn bws mini. Roedd aelodau o gymdeithasau eraill y Blaid ar draws Cymru – Abertawe, Bangor, ac wrth gwrs, Aber ei hun – yn bresennol yn Y Ddraig Goch 

gynhadledd, oedd ‘Cymru Ifanc: cenhedlaeth newydd, disgwyliadau newydd?’ a noddwyd gan Brifysgol Fetropolaidd Caerdydd. Fel aelod o’r panel, trafododd ein cadeirydd, Charlotte, weithgarwch pobl ifanc yng ngwleidyddiaeth a’r hyn sy’n rhaid i wleidyddiaeth a gwleidyddion ei wneud er mwyn denu mwy o bobl ifanc.

yn y Marine. Diolch i Rhuanedd a’i thîm yn Nhŷ Gwynfor am drefnu cynhadledd gystal. Ry’n ni i gyd yn teimlo’n gyffrous ofnadwy at y blynyddoedd o’n blaenau wrth inni baratoi ar gyfer Llywodraeth Plaid Cymru 2016 gyda Leanne Wood fel Prif Weinidog Cymru. Ymlaen!

Gaeaf 2013


Gair o Dyˆ Gwynfor Rhuanedd Richards, Prif Weithredwr Mynd a dod Yn gyntaf, daeth tymor Helen Mary Jones fel Cadeirydd i ben, a hynny wedi iddi lywio’r Blaid trwy gyfnod o newidiadau mawr. Rydym yn ddiolchgar iawn i Helen am ei gwaith ac mae’r staff yn gwerthfawrogi ei chefnogaeth ar hyd y blynyddoedd diwethaf.

Ll

ongyfarchiadau mawr i chi’r aelodau am greu cynhadledd flynyddol eleni oedd yn wirioneddol wych. Yn ôl ein Llywydd Anrhydeddus, Dafydd Wigley roedd y digwyddiad yn dwyn i gof ysbryd y 60au. Roedd hi’n destun balchder i ni glywed y newyddiadurwyr a’r mudiadau allanol yn adrodd am gyflwr iach y blaid – am yr egni a’r brwdfrydedd sy’n bodoli er mwyn ceisio bwrw’r maen i’r wal. Yn wir, roedd mwy ohonoch chi aelodau yn bresennol yn Aberystwyth nag y bu yng nghynadleddau blynyddol y Blaid ers rhai blynyddoedd. Y freuddwyd wrth gwrs fyddai llenwi stadiwm. Amser a ddengys a wnawn ni hynny erbyn 2016, ond yn y cyfamser edrychwn ymlaen at groesawu mwy o aelodau fyth i’r Gynhadledd Wanwyn yng Nghaerdydd ar y 7-8fed o Fawrth, 2014. Roedd gweld cynifer o’n darpar ymgeiswyr yn Aberystwyth yn sicr wedi creu cyffro. Ynghyd â’r pedwar ymgeisydd ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop, roedd sawl un o blith y rhai sydd newydd eu dewis ar gyfer etholiadau San Steffan a’r Cynulliad, hefyd yn bresennol. Heb os, mae’r gwaith o

greu’r tîm newydd a fydd yn arwain ein hymgyrchoedd rhwng nawr a 2016 yn dechrau siapio. Un peth arall oedd yn nodweddiadol am y Gynhadledd Flynyddol eleni oedd ethol Pwyllgor gwaith newydd i Blaid Cymru – a hwnnw ar ei newydd wedd yn dilyn argymhellion Camu Mlaen. Y gred am y tîm newydd yw ei fod yn cynnwys mwy o fenywod nag a fuodd ar unrhyw Bwyllgor gwaith arall yn hanes y Blaid sy’n ddatblygiad difyr ac efallai’n claddu’r hen ddisgrifiad o Blaid Cymru fel y ‘party of males’ unwaith ac am byth. Yn sicr mae’r tîm yn cynnwys nifer o wynebau newydd – aelodau sydd yn mynd i’r afael, am y tro cyntaf, â’r cyfrifoldeb o fod yn swyddog cenedlaethol neu’n gynrychiolydd eu rhanbarth Cynulliad. Hoffwn ddymuno’n dda iawn i chi gyd. Mae’r criw yn Nhŷ Gwynfor yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda chi. Wrth i ni gyfarch ein hwynebau newydd, mae hi hefyd wedi bod yn gyfnod o gyhoeddiadau pwysig am rai o aelodau mwy cyfarwydd y Blaid.

Yn San Steffan mae newid hefyd ar fyd. Mae’n mynd i fod yn le rhyfedd iawn ymhen rhai blynyddoedd heb Elfyn Llwyd wedi iddo gyhoeddi na fydd yn sefyll eto yn 2015. Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r teyrngedau trawsbleidiol i waith Elfyn wedi adrodd cyfrolau am y parch sydd yn bodoli tuag ato, ac yn dangos maint ei gyfraniad ar hyd y blynyddoedd.

Yn Nhŷ Gwynfor hefyd mae yna fynd a dod. Erbyn i chi dderbyn y rhifyn hwn fe fydd ein cydlynydd polisi Cai Jones yn crwydro drwy Cambodia a Fietnam a hynny wedi bron i 7 mlynedd o weithio’n ddiwyd dros y Blaid o’r pencadlys. Wrth ddymuno’n dda i Cai, rydym yn croesawu penodiad Heledd Brooks-Jones yn ei le, gan obeithio y bydd Heledd hefyd yn dod yn wyneb cyfarwydd i chi maes o law.

Ydym, rydym yn perthyn i blaid ddeinamig sydd, oherwydd ei bod mewn cyflwr iach, yn gallu esblygu ac addasu drwy’r amser. O bydded i hynny barhau!


Nabod ein pobl Dafydd Trystan, Cadeirydd newydd Plaid Cymru

Soniwch am eich cefndir Dwi’n dod o Gwm Cynon yn wreiddiol - pentref Penderyn sydd bellach mor adnabyddus am chwisgi ag y mae am Dic Penderyn! Es i i Ysgol Rhydfelen ac yna mlaen i’r Brifysgol yn Aberystwyth. Gwleidyddiaeth ac Economeg fu’n ddiddordebau i erioed, ac wedi cyfnod fel myfyriwr, Llywydd UMCA a myfyriwr doethuriaeth, bues i’n darlithio yn y Brifysgol am gyfnod. Ces gyfnod cyffrous wedyn fel Prif Weithredwr y Blaid - tipyn o rollercoaster - ond gorffen yn falch iawn ar nodyn uchel; yna nôl i’r byd academaidd yn datblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Dwi’n briod ac yn byw gyda’m gwraig Lisa yn Grangetown, Caerdydd. Atgof gwleidyddol cyntaf? Dwn i ddim a yw’n atgof gwleidyddol - ond mi roedd streic y glowyr yn atgof mawr i mi a minnau yn yr Ysgol Gynradd. Rwy’n cofio un o’m ffrindiau a’i dad ar streic yn derbyn tal streic o £15.01. Roedd y geiniog ychwanegol wedi serio’r annhegwch ar y cof! O ran y Blaid, rwy’n cofio yn ’92 canu am fuddugoliaeth Cynog Dafis yng Ngheredigion wrth adael cyfrif Pontypridd.

Pryd y daethoch chi’n aelod o Blaid Cymru?

Beth yw eich nod fel Cadeirydd newydd Plaid Cymru?

Ro’n i’n tua un ar bymtheg, a swyddog aelodaeth hynod effeithiol gan y Blaid yn yr ysgol oedd ddim yn fodlon cymryd na fel ateb. Wedi meddwl - dyw hi ddim wedi newid llawer - Rhuanedd Richards oedd y cyfryw swyddog aelodaeth!

Yn syml (!), gosod y trefniadau mewn lle i ennill etholiad 2016. Fel amcan mwy penodedig, buaswn wrth fy modd yn gweld y Blaid yn ethol ei AS benywaidd cyntaf yn 2015. Mae’n sefyllfa hanesyddol o ryfedd y byddwn wedi cael bron i hanner canrif o gynrychiolaeth yn San Steffan yn fuan, a ninnau heb eto lwyddo i ethol menyw yn enw’r Blaid - mae’n hen bryd i hynny newid.

Pam Plaid Cymru? O weld tlodi ac anobaith ar draws fy nghymuned frodorol yn y Cymoedd, a Llafur mond yn fodlon cwyno - a chynnig dim, roedd gweledigaeth y Blaid yn wrthgyferbyniad clir iawn i hynny. Arwyr gwleidyddol? Yn hanesyddol, Dr DJ Davies a Dr Noelle Davies; ac yn fwy diweddar Cynog Dafis - gwleidydd sydd yn meddwl am bopeth ac sy’n ceisio gwneud yr hyn sy’n iawn bob amser yn hytrach nag o reidrwydd yr hyn sy’n boblogaidd. Mae ‘na wers bwysig i’r Blaid yma am ennill y dadleuon yn yr hir dymor - drwy fod yn gywir - er nad yw hynny bob amser yn boblogaidd!

Diddordebau tu hwnt i’r Blaid? Dwi wrth fy modd yn rhedeg, seiclo a gwneud yoga - fel y gwyr unrhyw un sy’n dilyn fy nghyfrif trydar @dafyddtrystan. Mae ymarfer corff (yoga’n arbennig efallai) yn dda i’r enaid ac yn help mawr i gadw’r ddysgl yn wastad! Dwi hefyd yn gwasanaethau fel Cadeirydd cwmni cydweithredol Hyfforddi ac Ailgylchu Beics, Hyfforddiant Beicio Cymru; ac yn Gyfarwyddwr ar fenter cymdeithasol @toogoodtowaste - sy’n ailgylchu dodrefn a nwyddau cartref yn RCT.

I’r Dyddiadur Noson arbennig i nodi 90 mlynedd ers cyfarfod cyntaf Y Mudiad Cymreig, arweiniodd at ffurfio Plaid Cymru. Cynhaliwyd y cyfarfod hanesyddol mewn tŷ annedd yn Bedwas Place, Penarth, cartref Griffith John Williams, a bydd y dathliad yn y Windsor Arms, Windsor Road, Penarth, Nos Fawrth, 7 Ionawr 2014 am 7.30yh. Trefnir y noson gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a Changen Penarth. Bydd manylion pellach ar www.plaidpenarth.blogspot.co.uk neu www.hanesplaidcymru.org

Y Ddraig Goch 

Gaeaf 2013


Y Ddraig Goch