Ten26 Autumn 2015 (Welsh edition)

Page 26

YDD GELWCH FFERM SEFYDLIAD DIO NODDIR GAN Y

HM FFORTW you

IEUENCTID

“GALL DIOGELWCH FATER O FYWYD FFERMYDD FOD YN

NEU FARWOLAETH”

Mae sioeau teithiol ledled y Deyrnas Unedig ynghylch diogelwch ffermydd yn amlygu’r ffaith fod Ffermwyr Ifanc yn mentro’n beryglus, sy’n destun gofid

N

id yw jôcs ynghylch mynd i gysgu y tu ôl i lyw combein yn destun sbort i Gadeirydd y Fforwm Ieuenctid, Danielle McNulty. Mae’r ffermwr ifanc o FfCFfI Swydd Caerloyw yn gwybod yn iawn sut gall damwain drasig effeithio ar gymuned, felly cafodd ei synnu o glywed eraill yn gwamalu ynghylch sefyllfaoedd a all fod yn beryglus pan oedd yn trafod diogelwch ffermydd yn ystod y gweithdai Welis Melyn diweddar. Mae aelodau’r Fforwm Ieuenctid wedi bod yn cynorthwyo’r Sefydliad Diogelwch Ffermydd ar daith o amgylch sioeau amaethyddol yr haf hwn gyda phâr o welingtons melyn enfawr i wella ymwybyddiaeth o ddiogelwch ffermydd. “Y peth anoddaf a’r peth sydd wedi peri’r syndod mwyaf yw cwrdd â phobl sy’n credu na wnaiff pethau fyth newid. Mae hynny fel derbyn fod ffermio yn anniogel, yn hytrach na dymuno’i newid,” meddai Danielle, sy’n credu ei fod yn fater y dylai’r diwydiant drafod rhagor yn ei gylch – a thrafod hynny ag aelodau iau fyth. “Mae’r neges yn cael ei rhoi ar led ac rydym yn cefnogi hynny ar gyfryngau cymdeithasol. Ond wrth roi

26

ten26

ein hadborth i’r Sefydliad Diogelwch Ffermydd ynghylch yr ymgyrch hyd yn hyn, byddwn yn argymell y dylid targedu pobl ifanc iau, sy’n oddeutu 10 mlwydd oed. Nid ydynt wedi cychwyn gweithio ar y fferm eto, felly nid yw arferion gwael wedi ymsefydlu. “Bydd aelodau rwyf wedi siarad â hwy sydd yn eu hugeiniau yn mentro gormod a byddant yn agos iawn at gael eu brifo’n ddifrifol. Nid yw mynd i gysgu y tu ôl i lyw combein a deffro cyn y chi gyrraedd ffos yn ddiogel o gwbl! Os byddwch wedi blino, dylech stopio gweithio, oherwydd gallai pethau fod yn wahanol iawn ymhen eiliadau.” Fel cam nesaf, bydd y Sefydliad Diogelwch Ffermydd yn cyflwyno gweithdai addysgol i ysgolion a cholegau, a bydd aelodau’r Fforwm Ieuenctid yn mynychu’r rhain fel llysgenhadon diogelwch ffermydd.

“Cynhelir y cyrsiau rhyngweithiol hyn ar ffermydd, a chredaf y caiff y neges ei chlywed oherwydd bydd pobl yn mynychu digwyddiad a drefnir trwy law eu coleg neu brifysgol,” meddai Danielle. “Mae fy nghymuned i wedi profi damweiniau, ac mae hynny’n eich gwneud yn fwy ymwybodol o’r effeithiau. Os byddwch yn mentro, gallwch niweidio’r ffaith eich bod yn hoff o ffermio ac efallai na fyddwch yn gallu gwneud hynny ddim rhagor.”


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.