Yr Awen
Cyhoeddir gan: Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, 2015
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Pwyllgor Trefnu Cadeirydd: Miriam Williams Ysgrifennyddes: Mared Elin Jones Pwyllgor Cyllid: Lois Roberts Lois Griffiths Llinos Wyn Pwyllgor Cerdd: Elliw Celyn James Si창n Mererid Jones Osian Evans Pwyllgor Dawns a Llefaru: Gareth Spiers Elen Jones Pwyllgor Cyfryngau a Thechnoleg: Myfyrwyr yr adran Theatr Ffilm a Theledu Pwyllgor Chwaraeon: Megan Price a Phwyllgor Gwaith y Geltaidd Pwyllgor Gwaith UMCA: Marged Tudur, Mared Llywelyn Williams, Heledd Llwyd, Beca Glyn, Elin Pyrs, Robin Gronw Powell-Davies, Robin Bryn Williams, Jeff Smith, Hanna Medi Merrigan, Siwan Paul, Rhun Dafydd, Sian Elin Williams, Llio Elenid Owen, Osian Elias, Aled Morgan Hughes, Lauren Parry
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Diolchiadau: Ar ran holl aelodau Pwyllgor gwaith yr Eisteddfod Ryng-golegol 2015 mae ei diolch a’n dyled yn fawr iawn i nifer o unigolion (sydd yn rhy niferus i’w rhestru!). Felly ymddiheuriadau os nad ydw i wedi eu cynnwys isod. Ond credaf bod angen crybwyll yr unigolion a’r adrannau/sefydliadau am eu cyfraniad gwerthfawr yn ystod y broses o drefnu a chynnal yr Eisteddfod eleni.
Y Beirniaid: Non Williams (Cerdd) Elain Llwyd (Llefaru a pherfformio) Tudur Phillips (Dawns) Eurig Salisbury (Y Gadair), Bleddyn Owen Huws (Barddoniaeth), Arwel Pod (Barddoniaeth) Lleucu Roberts (Y Goron) , Guto Dafydd (Rhyddiaith), Marged Haycock (Rhyddiaith), Ian Hughes (Rhyddiaith), Felicity Roberts (Dysgwyr), Gwenan Griffith (Y Fedal Gelf), Manon Dafydd (Ffotograffiaeth), Matthew Woodfall-Jones (Y Fedal Ddrama), Bethan Antur (Tlws y Cerddor)
Arweinyddion: Anni Llŷn Aeron Pughe
Noddwyr: Prifysgol Aberystwyth Coleg Cymraeg Cenedlaethol Ras yr Iaith Yr Hen Lew Du Kanes, Aberystwyth Siop y Pethe, Aberystwyth
Eraill: Staff a Swyddogion Undeb y Myfyrwyr Staff a Swyddogion y Ganolfan Chwaraeon P.A. Staff yr adran Farchnata, P.A. Staff a Swyddogion Canolfan y Celfyddydau P.A.. Aron Williams (Saer coed) Ruth Williams (gwneuthur wraig y goron) Elin Mair (gwneuthurwr y medalau) Adran y Gymraeg, P.A. Aelodau o Bwyllgor gwaith UMCA, Geltaidd a Phwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a phawb a fu’n helpu yn ystod y diwrnod! MAD Sound and Lighting, y cwmni sain Sion Eilir Pryse, am ei feddwl mathemategol Llio Elenid am ddylunio’r Awen Siân Mererid am yr hawl i ddefnyddio ei llun ar y clawr
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Golygyddol Wel, am benwythnos! Wedi misoedd o waith trefnu cafwyd chwip o Eisteddfod ar y 7fed o Fawrth, 2015 yn Aberystwyth. Gobeithio i chi fwynhau’r cystadlu a’r cymdeithasu, roedd hi’n wych gweld y Neuadd Fawr a’r Undeb o dan ei sang a phawb yno yn mwynhau drwy’r Gymraeg! (Er yr holl sŵn byddarol oedd yn dod o gyfeiriad y Pornstars ar y balconi! Diolch hogia!) Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr ar eu llwyddiant, nid yn unig ar lwyfan yr Eisteddfod ond ar y cyfansoddiadau ar gyfer y gwaith cartref ac yn ystod y Gala Chwaraeon, a diolch i bawb ohonoch a ddaeth i’n cefnogi. Gobeithio y cawsoch chi gyd benwythnos i’w gofio! Llongyfarchiadau i nghywion bach, myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, ar gipio tlws yr Eisteddfod eleni! Braint a phleser pur oedd trefnu’r Eisteddfod eleni, ac roedd gweld Aberystwyth yn ennill yn binacl ar y cyfan! Drwy gyhoeddi’r ‘Yr Awen’ eleni, rwyf a’r ran gweddill Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a phawb yma yn Aber yn cau’r bennod ar Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015. Mwynhewch ddarllen yr holl gyfansoddiadau buddugol eleni. Dwi’n dymuno gan pob llwyddiant i’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf. Felly, oddi wrthym ni yma yn Aber, hwyl am y tro a welai chi yn y Brifddinas ar gyfer Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016! Ar ran Pwyllgor gwaith yr Eisteddfod,
Miriam Williams Llywydd UMCA 2014-15
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Barddoniaeth: 1.1 Cystadleuaeth y Gadair (Noddwyd gan Yr Hen Lew Du)
CERDD GAETH NEU RYDD HEB FOD DROS 100 LLINELL: LLWYBRAU Beirniad: EURIG SALISBURY 1. SGIDIAU DAL ADAR: Marged Tudur - Prifysgol Aberystwyth 2. IFAN DEWI DEIAN THOMAS: Endaf Griffiths - Prifysgol Aberystwyth YR ’OGIA: Gethin Wynn Davies - Prifysgol Caerdydd 3. DIWEDD TAITH: Llio Mai - Prifysgol Bangor
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
LLWYBRAU Mae hi’n stormus ar y Prom, oglau’r gwynt ar y Belle View, ac ewyn o wylanod gwyllt yn sgrech uwch seiniau’r dref. Ond pa ots, a hithau heno ar goll yng ngwaedd cyrff yn y Pier, a’r bît yn dal anadl wrth ddatgelu dau. Hwythau yn sathru’r sioc fel gweddillion smôc dan sawdl. Yn eu cwman wrth y bar maent yn gwylio, yn fyr eu gwynt a’u gwedd yn wyllt gan saethu’r cwestiynau. “Be ti’n feddwl ti’n 'neud?” “Be ti’n drio’i brofi?” “Triw i bwy wyt ti?” Yn llygaid meheryn ar graig a’u geiriau fel cyllyll môr yn ei chefn. Mae hi’n gwagio’i gwydr a gadael. *
*
*
*
Haul bore Sul ar hanner gwyneb a hithau rhwng cwsg ac effro, sŵn y mandolin yn tiwnio yn y gornel. Ces gitâr yn gilagored ar y llawr ag oglau baco yn cyrlio’n sidêt o erchwyn y gwely. Hithau rhwng cynfasau mân feddyliau. Yn mesur gobeithion ym mhlygion gobennydd a chyfrif addewidion ar rimyn risla rhwng gwefusau llawn craciau.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Weithiau does na’m angen geiriau ac wrth i’r ddau wylio’i gilydd yn gwylio’r mwg yn codi, gwyddant fod eu fory hwy fel cerdded ar fodiau traed ar hen lawr pren oer yn gobeithio na fydd yn gwichian. *
*
*
*
Ym mwrlwm motobeics p’nawn Sul, mae hi’n eistedd ar wal y prom yn syllu tu ôl i sbectol dywyll. Cydynnau ei gwallt yn blu gwylanod yn y gwynt, edau’n datod ar ymyl ei sgert ac ôl ei minlliw coch ar ymylon cwpan goffi. Ei phen yn llawn o fas feddyliau. Nid yw’n sylwi ar focsys bwyd neithiwr yn gorweddian ar y gro dan draed, nid yw’n sylwi ar ffrae y fam a’r ferch dros fagiau siopau, ac nid yw’n sylwi ar lygaid dau yn cysylltu am ennyd, cyn chwalu yng nghodwm plentyn a thoddi mewn pwll o hufen iâ. Cyn hir, mae hi’n codi a gadael ac yn mynd â’r haul efo hi. *
*
*
*
Hanner nos a’r Sul yn y glaw mân, sŵn y distawrwydd yn cloi drysau dim ond hi sydd yma heno. Gwylio gwadnau ei sgidiau yn cuddio craciau’r pafin a’i gên yn suddo’n ddyfnach i chwilio cysur ym mhlygiadau ei siwmper dim ond hi sydd yma heno.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Lled-wylio’r byd drwy oleuadau neon y Pier a’i hagrwch tlws yn cuddio euogrwydd neithiwr dim ond hi sydd yma heno. A phan ddaw hi’n fore a rhywun yn y Marine yn golchi niwl y môr o’r ffenestri, mi fydd yn oedi, am ennyd, uwch hen gadach a bwced a dilyn siâp llythrennau a darllen enwau ar y gwydr. Dau arall, meddylia, yn ceisio selio cariad yn nüwch nos. Ond dim ond hi oedd yno. Sgidiau Dal Adar
Enilllydd y Gadair: Marged Tudur (Aberystwyth)
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
1.2 Englyn ‘Terfysg’ Beirniad: BLEDDYN OWEN HUWS 1. DWALAD: Gethin Wynn Davies - Prifysgol Caerdydd 2. ESYLLT: Gethin Wynn Davies - Prifysgol Caerdydd 3. RHYS IORWERTH: Marged Tudur - Prifysgol Aberystwyth TERFYSG Yn wydn, wrth ddweud fy adnod – fe’i holaf: A wêl yr holl drallod? Ac yn nherfysg anorfod Ein byw, a ydyw yn bod?
1.3 Englyn Digri ‘Gwely’ Beirniad: BLEDDYN OWEN HUWS ATAL Y WOBR.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
1.4 Parodi o’r gerdd ‘Fy Ngwlad’ gan Gerallt Lloyd Owen Beirniad: BLEDDYN OWEN HUWS 1. Y TAD MAXIMILIAN: Mirain Llwyd - Prifysgol Bangor 2. CLEDWYN: Megan Elenid Lewis - Prifysgol Aberystwyth 3. LLEW: Llywelyn Williams - Prifysgol Aberystwyth ‘FY IAITH’ Wylit, wylit, Wynedd, Wele iaith a oedd fan hyn, Ein sgwrs mewn estron iaith, Ein wyrion fydd heb famiaith, A gwerin o lyfwrs tîn, Yn dysgu geiriau ‘God Save The Queen’. Collwyd brwydr cadw’r iaith Gan blaid wadodd eu hunaniaith. Gynghorwyr taeog ddiogel Mewn dedwydd swydd, dod a ddêl. Heb ruddin o gydwybod Heb bryder am y difrod. Ni’n twyllir gan eu ffug bryder Yn ein plaid fe gollwyd hyder. Y ni, a’n pleidlais ffôl, A’u rhoddodd yn eu rhôl. Ni yw’r ffyliaid bledleiswyr, Goeliodd eu bod yn wladgarwyr. Fy iaith, fy iaith, Cei fy ngri, Yn uchel i’th gefnogi. O gallwn, gallwn golli Yr iaith hon o’u herwydd hwy. Y Tad Maximilian
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
1.5 Englyn Coch - i gynnwys y geiriau - Yr Hen Lew Du/ Llew/ Llew Du Beirniad: ARWEL POD 1. ENGLYN COCH LLYTHRENNOL: Gethin Wynn Davies Prifysgol Caerdydd 2. YMGAIS 1: Dion Davies - Prifysgol Bangor 3. YMGAIS 2: Dion Davies - Prifysgol Bangor BONEDDIGES BARCHUS YN Y LLEW Swyn un gusan a gawsoch – untro; A mentrais fys ynoch ‘N y Llew, sgôr! ...Ond llawes goch A wisgais, chwithau’n goesgoch.
1.6 Cerdd Ddychan i unrhyw sefydliad/ mudiad yng Nghymru Beirniad: ARWEL POD 1. GETHIN: Gethin Griffiths - Prifysgol Bangor 2. GRUG: Megan Elenid Lewis - Prifysgol Aberystwyth 3. SAUNDERS: Miriam Williams - Prifysgol Aberystwyth CERDD DDYCHAN Bob wythnos, daw rhai at ei gilydd, A’i bwriad yw rhedeg y byd, Drwy gwrdd yn gyfrinachol Drwy’r wlad, ei led a’i hyd. Ni fentra’r un dyn cydwybodol Roi ei droed ar gyfyl y lle, Neu yno y gwêl ei farwolaeth A’i enaid ddiflanna i’r ne’. Beth bynnag y gwnewch chi, gwyliwch,
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Bydd rhan yn cael clywed yn syth, A’r stori fydd hyd yr holl strydoedd, A’ch bywyd ar chwâl am byth. Anghofiwch lywodraeth a theyrnas, Y rhain sydd waethaf i gyd Am farnu a’ch gyrru o’ch iawnbwyll Ac erfyn eu gelyn o’r byd. Cymru, byddwch yn barod At ddiwrnod lle na fydd modd byw, A’r rhain ’di gorchfygu ein tiroedd Ar derfyn dynol ryw. A dyna pryd sylweddolwn Nad oes troi’n ôl yn awr, A dyna pam, gyfaill, gwranda Rhai felly yw Merched y Wawr.
1.7 Limrig ‘Roedd rhywbeth ar droed yn y goedwig’ Beirniad: ARWEL POD 1. SARA LEWIS: Trystan Waters - Prifysgol Abertawe 2. MIRSEN: MIriam Glyn - Prifysgol Aberystwyth 3. CALLIWCH BANGOR: Gethin Wynn Davies - Prifysgol Caerdydd BYBS: Aled Bybs - Prifysgol Bangor
Roedd rhywbeth ar droed yn y goedwig Gwrach gyda’i chrochan berwedig, celwyddau a chnwd, a mymryn o chwd, Cynhwysion creu gwleidydd “parchedig”.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Rhyddiaith: 2.1 Y GORON
(Noddwyd gan Yr Hen Lew Du)
DARN O RYDDIAITH GREADIGOL: ‘DOLENNI’ Beirniad: LLEUCU ROBERTS 1. THANATOS: Mared Roberts, Prifysgol Caerdydd 2. EIFION: Gwenno Edwards, Prifysgol Aberystwyth 3. PAWB O ABERYSTWYTH: Elen Huws, Prifysgol Bangor O’r 17 ymgais, roedd 16 yn ddarnau o ryddiaith. O’r 16 darn o ryddiaith, roedd bron eu hanner yn cynnwys cartref hen bobl. Mae cartref hen bobl yn gwneud cefndir da i stori, wrth gwrs, yn gyfle i fyfyrio uwch byrhoedledd bywyd a cholli cof a phethau hapus felly, ond yr her gyda themâu treuliedig yw cynnig rhywbeth gwreiddiol, persbectif gwahanol i’r arfer, ac yn sicr, mae un neu ddau yn llwyddo i wneud hynny. Gyda llaw, stori Neb – stori agos i’r brig - sydd â brawddeg orau’r gystadleuaeth, sy’n dweud, wrth sôn am un o’r hen wragedd sy’n eistedd mewn cylch yn lolfa’r cartref hen bobl: “Daeth powlaid o uwd i edrych ar Bet.” Mae ymgais Pawb yn Aberystwyth yn dangos dawn ysgrifennu ar ei gorau, a’n defnyddio cymeriad y nain ddryslyd bron fel drych i gymeriad Rhun, ei hŵyr, sydd yntau’n brwydro i ymgodymu â’i fywyd, ac yn teimlo nad yw’n perthyn i’w fyd. Llwydda’r awdur i gyfleu’r dymestl ym meddwl Rhun yn effeithiol iawn. Wedyn, mor wahanol ag y gallai fod i’r stori honno, mae ymgais Eifion. Fe chwerthais lawer wrth ddarllen hon. Mae hi’n drysor o stori, sy’n defnyddio sefyllfa gyfoes i hogi arfau dychan awdur galluog a deifiol. Sôn am lofruddiaeth y mae hi - ddweda i ddim llofruddiaeth pwy, ond mae hi’n berson go iawn, ac mae’r llofrudd yn gadael ei chorff yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth, a fu’n gartref i Adran y Gymraeg tan yn ddiweddar. Bellach wrth gwrs, mae’r adran honno wedi’i hel i fyny at weddill adrannau’r Coleg
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
ar riw Penglais i fynd ar goll ynghanol Seisnigrwydd y gweddill yn y fan honno, ond mae’r stori hon yn digwydd yn ystod wythnosau olaf yr adran yn yr Hen Goleg. ‘Dyw ysbrydion yr hen fangre ddyrchafedig ddim yn hapus o gwbwl fod y corff wedi’i waredu o fewn ei muriau, felly maen nhw’n mynd ati i roi gwybod i’r darlithwyr presennol. Mae ’na gameos bendigedig o ysgolheigion y Gymraeg, byw a marw, yn cynnwys Mihangel Morgan, Robin Chapman, Marged Haycock, Derec Llwyd Morgan a T H Parry-Williams. Stori ddoniol tu hwnt. Nawrte, pe na bai un arall wedi cystadlu, byddai stori Eifion wedi mynd â hi’n hawdd. Ond fe darodd stori Idris gan Thanatos fi yn fy nhalcen. Mae’n stori fach berffaith, yn mynd i berfedd Idris, yn tynnu ei enaid allan a’i hongian allan i sychu yn yr haul o’n blaenau ar ffurf geiriau. Mae Idris yn gymeriad crwn, y mwyaf crwn o holl gymeriadau’r gystadleuaeth, a thriniaeth yr awdur ohono’n ddigon i dynnu dagrau. Mae holl fywyd Idris yma, ei arwahanrwydd, ei obsesiwn â threfn, patrwm ei ddyddiau, ei frechdanau tomatos a’i gwyrcs i gyd. I darfu ar y cyfan, daw rhywun sy’n agor y drws ar fyd newydd iddo, byd cwbl wahanol, un na wyddai Idris ei fod yn bodoli, un sy’n cynnig rhyddid iddo, rhagddo’i hun bron, cyn gwadu’r cyfan iddo wedyn. Dyma gynildeb ar ei orau, brawddegau byrion, cyforiog o ystyr. Mae’n stori sy’n fy atgoffa o rai o straeon byrion mawr y byd: drwy beidio â pherthyn i’r un lle na’r un amser penodol, gallai berthyn i bob lle a phob amser. Gallwn dyngu ei bod hi’n gyfieithiad o un o’r rheini gan mor grefftus yw hi. O ran y dehongliad o’r testun, wel, fe fyddwn i’n dadlau nad yw cylchoedd bach o bapur yn ‘ddolenni’ mewn gwirionedd, ond fe allai Thanatos ddadlau nôl mai dolenni teithiau trên, dolenni perthynas y cymeriadau â’i gilydd, dolenni amser oedd ganddo mewn golwg. Mae ing blynyddoedd o obaith gwag i’w deimlo mewn brawddeg mor syml, ond mor annisgwyl â: “Yna dechreuodd Idris fritho”. Dyma stori arbennig iawn a rhywbeth newydd ynddi ar bob darlleniad. Rhowch y drydedd wobr i Pawb o Aberystwyth, yr ail i Eifion, ac ewch ati ar unwaith i goroni Thanatos.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
DOLENNI Cododd Idris ei olygon cyn dechrau ar y daith. Teimlai'n ddigon hyderus i allu gwneud o'r diwedd. Gyda'i offer wedi'i bacio'n ofalus yn y bag lledr ar ei gefn, a'r siwt a wisgai'n ffitio fel bocs ar ei ysgwyddau llydan, martsiodd at y giât ar waelod y bryn yn nhywyllwch diderfyn y nos. Gwichiodd honno wrth iddo ryddhau'r pishyn metel rhydlyd o'i le a gwthiodd hi ymlaen. Sylwodd ar y borfa oddi tani'n stryffaglu dan yr holl bwysau a chlywodd y boen yn sisial trwy bob gwelltyn a daclwyd i'r ddaear. Wedi iddo gau'r giât unwaith eto, gafaelodd ym mhig ei gap a nodiodd ei ben yn benderfynol. Noson glir. Aeth ymlaen. Dilynodd y traciau a oedd yn arwain at gopa'r bryn. Edrychodd yn ei ôl. Roedd o hyd yn syndod i Idris faint yr oedd dyn yn gallu teithio mewn cyn lleied o amser. Un funud mewn un lle, a'r nesaf mewn lle hollol wahanol. Clywodd hisian parhaus sioncyn y gwair o'r clawdd ochr yn diasbedain yn ei glust chwith. Cerddodd yn ei flaen gan ystyried gweiddi ambell i dshŵ tshŵ ar ei ffordd. Chwarddodd i'w hun. Yr oedd yn ei elfen fan hyn. Darganfu lecyn delfrydol wrth ymyl y nant i setlo'i hun am weddill y noson. Edrychodd at y sêr dan wenu. Perffaith. Dododd ei fag ar y borfa wlithog a datododd y bwcwl. Tynnodd allan flanced bicnic o frethyn sgwarog a oedd wedi'i rhowlio'n dwt ar dop y bag. Ysgydwodd honno yn aer llugoer diwedd Awst cyn ei gosod ar lawr. Cyrcydodd arni ac ailddechreuodd ar y broses o wacáu'r bag. Tynnodd docyn bwyd allan ond penderfynodd adael hwnnw nes y teimlai'r awydd am damaid i'w fwyta. Y llyfrynnau gwybodaeth oedd nesaf. Hanfodol. Rhoddodd hwy i orwedd wrth ei ochr dde. Yna’r telesgop. Gosododd hwnnw ar ei stand. Cafodd sefyll wrth ei ochr chwith. Ac yn olaf, y potyn tsieina mawr. Byseddodd Idris y patrwm cain euraidd a redai dros fol y potyn. Syllodd arno am ysbaid hir cyn colli'r ffocws yn ei olwg am ennyd. Daeth ato’i hun. Cododd y potyn a syllodd ar y rhyfeddod hudol o'i flaen. Ei drysor ef. Dododd ef i setlo o'i flaen cyn swatio ar ganol y mat. Roedd yn mynd i fod yno am amser hir... Ffansïai Idris ei hun yn seryddwr penigamp; dyna oedd ei ddeleit wedi iddo ymddeol. Ar y cledrau yr oedd hanes Idris yn perthyn cyn hyn. 'Mond casglwr tocynnau ydoedd. Âi i bob cwr o'r wlad yn ei focs o drên bob dydd. Ni welai olau dydd nac un seren yn yr awyr wrth iddo edrych uwch ei ben. Chwa o awyr iach oedd gallu dringo i ben y bryn nawr a chael gweld holl lygaid y bydysawd yn wincio arno. Câi sylw ganddynt, y sylw mwyaf a gawsai am y tro cyntaf ers tro byd. Bu’n gwneud twll yn nhocyn pob un teithwr bob un dydd - heb un gydnabyddiaeth, heb un diolch... Heb ddim un llygad yn edrych arno hyd yn oed. Gan grychu ei lygad dde, edrychodd Idris i fyw llygad lens y telesgop. Chwythodd arno cyn sychu'r arwyneb gyda'i hances boced. Cymerodd olwg o'r adlewyrchiad o'i flaen. Hen lanc crychlyd, canol oed a'i wallt llwyd wedi'i lynu i'w sgalp, yn frylcreem i gyd. Gwelodd wên wanllyd yn syllu arno o'r lens. Caeodd ei lygaid yn sydyn a throi ei sylw at y llyfrynnau wrth ei ochr. Dododd hwy ar ei gôl cyn agor clawr y llyfryn cyntaf.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Darllenodd y print bras. Sgleiniodd ei lygaid yntau wrth gymryd golwg dda. Yna llyfodd ei fys canol a dechreuodd fflicio drwy'r llyfryn, a'i lygaid yn neidio wrth iddo sylwi ar yr holl gytserau gwahanol a ddarluniwyd yno. Roedd yn gwybod enw pob un ohonynt, eu meintiau a phryd y dônt i'r golwg. Fodd bynnag, doedd dim un clwstwr o sêr yn debyg - roedd gan bob un ei hynodrwydd ei hun. Dyma beth oedd yn rhyfeddu Idris o hyd. Llyfodd ei fys bawd y tro hwn a fflicio am yn ôl. Astudiodd yn ofalus... "Pan fo seren yn rhagori, Fe fydd pawb a'i olwg arni, Pan ddêl unwaith gwmwl drosti, Ni bydd mwy o sôn amdani." Bwrodd hyn Idris yn dra rhyfedd. Teimlodd siom, yn fwy na dim, fod newid mor sydyn, mor ddiangen yn medru peri i rywbeth mor hardd ddiflannu'n gyfangwbl. Mae'n rhaid fod sêr yn bethau sensitif, ystyriodd. Ond eto, efallai mai'r gwyliwr yw’r un nad yw’n ddigon sylwgar. Edrychodd uwch ei ben i sicrhau nad oedd unrhyw gwmwl yn llechu ac yn bygwth gorchuddio'i drysorau gwerthfawr ef. Noson glir. Roedd y sêr i gyd yn wincio arno heno. Teimlai'n dawel ei feddwl unwaith eto. Ac felly ymestynnodd am y telesgop. Crychodd ei lygad dde cyn dodi ei lygad chwith ar y lens. Ffocysodd y lens ac anelodd am y lleuad i ddechrau. Am olygfa. Astudiodd greithiau tyllog y sffer yn fanwl. Edrychai fel petai wedi'i fwrw'n ailadroddus gan fwledi, a'r golau gwelw o'i amgylch yn gwaedu i mewn i'r düwch pur o'i amgylch. Tynnwyd ei sylw'n sydyn gan yr olygfa oddi tano. Sythodd ei law a'i gosod ar ei dalcen er mwyn cael golwg well o'r hyn oedd o'i flaen. Cymerodd anadl ddofn. Allai ddim peidio ag edrych ar y traciau trên oedd yn rhedeg fel gwythiennau o amgylch y fro. Dilynodd y trac gyda'i lygaid hyd nes y diflannai rhwng dau fryn. Trodd ei lygaid am yn ôl ac wrth ddilyn y trac, dychwelodd i galon hyn oll. Yr orsaf. Roedd yng nghanol y cwbwl, yn bwynt cyswllt i'r holl fwrlwm o'i hamgylch. Ac yn hynny, cwympodd Idris mewn cariad â'r lle unwaith eto. *
*
*
*
"P'nawn da, eich tocyn os gwelwch yn dda?" Holai hyn dro ar ôl tro, â thôn ei lais o hyd yn codi ar ddiwedd y cwestiwn. Diwrnod arferol yn ei waith. Byddai'n codi am bump bob bore er mwyn bod yno'n brydlon a pharatoi'r cerbyd yn barod i'r teithwyr. Codai a chadwai unrhyw bapurach fyddai ar lawr a thynnai pob fflwcsyn o bob sedd a sythai pob cylchgrawn ar y byrddau a byddai’n holi ei unig gwestiwn... Cymrai hyn dri chwarter awr iddo i gyd, ond byddai'n hoffi gadael hanner awr dda yn ychwanegol i'w hun cyn i'r drysau agor. Bod yno ychydig o flaen llaw, jest i wneud yn siŵr.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Pan fyddai popeth yn ei le, arhosai'n gefnsyth wrth y drws. Tynnai'r pwnsiwr allan o'i boced a dechreuai dyllu'r aer o'i amgylch. Parablai hwnnw'r un iaith â'r sioncyn y gwair ar y bryniau wrth i ddwylo Idris ei wasgu. Cerddai ar hyd y canol, yn ôl ac ymlaen gan ofyn yr un hen gwestiwn ganwaith a mwy. Byddai'n gwneud hyn i gyd heb unrhyw lygad yn edrych i'w gyfeiriad ef. Roedd pawb yn eu byd bach eu hun. Pawb yn meindio'u busnes. Pawb wedi ymgolli ym mhrysurdeb bywyd. Derbyniai docynnau'r holl deithwyr yn systematig ac yna byddai'n creu twll crwn ym mhob un. Dawnsiai’r disgiau bach gwyn i'r llawr fel plu a gwyliai Idris hwynt yn syrthio. Sylwodd fod y rhan fwyaf ohonynt yn glanio o dan y seddi, ond doedd ganddo ddim eglurhad i hynny. Un peth yr oedd yn gwybod, fodd bynnag, oedd y byddent yn cael mynd i mewn i'w botyn tsieina ef cyn y bore. *
*
*
*
Ni fedrai ddeall pam y deuai hyn oll yn ôl iddo mor sydyn. Arhosodd am ennyd. Dododd y llyfryn ar y flanced bicnic am y tro. Sythodd ei goesau i'w hymestyn a gorweddodd. Oherwydd ei daldra bu'n rhaid i'w ben orffwys ar y borfa ond roedd Idris yn mwynhau'r teimlad o'r gwlith yn araf gripian drwy'r brylcreem ac i mewn i'w sgalp. Teimlai'r borfa mor agos i'w ben fel y gallai glywed pob symudiad a grëwyd gan y gwynt. Atseiniai alaw chwerwfelys y nant y tu ôl iddo yn nrymiau ei glustiau a dechreuodd godi'n gresendo mawr. Methai Idris ag osgoi'r hyn a glywai ac felly cododd. Aeth at y nant a chyrcydodd wrth ei hymyl. Teimlodd rhyw foddhad yn gweld y dŵr yn rhowlio i lawr y bryn. Neidiai weithiau wrth ddod wyneb yn wyneb â charreg. Rhyfeddol, meddyliodd Idris. Rhyfeddol i feddwl na fyddai'r dŵr a lifai i waelod y bryn fyth yn medru dringo yn ôl i'r copa unwaith eto. Caent un tro ar y fath brofiad a dyna ni. Diflasodd Idris damaid. Cymerodd anadl ddofn a chan gerdded yn ôl i'w lecyn, aeth i mofyn y tocyn bwyd cyn dychwelyd at y nant. Datododd gareiau ei esgidiau sgleiniog a gosododd hwy wrth ei gilydd fel bod y ddwy'n gyfochrog. Roedd yn barod am ei wledd. Wrth agor y caead gallai arogli sawr chwys y bara'n llenwi'i ffroenau. Ond fel hyn yr oedd Idris yn ei hoffi; yr oedd wedi meistroli'r gamp erbyn hyn. Yn gyntaf, byddai'n ymestyn am y dafell o'r cwpwrdd cornel a thorrai pedair sleisen berffaith allan ohoni. Roedd yn un o'r bobl hynny oedd yn medru cael pob un sleisen yn unfath. Yna, byddai'n taenu haen denau o fenyn dros ddwy sleisen a gadael dwy ohonynt yn blaen. Nesaf, byddai'n tynnu dau domato o'r oergell a'u sleisio. Roedd yn rhaid i'r rhain fod yr un trwch â'r bara, neu byddai'n bygwth colli'r balans rhwng y ddau flas. Torrai'r darnau tomatos yn gwarteri. Fel hyn, byddent yn gorchuddio arwynebedd y bara'n gyfangwbl. Wrth gwrs, pe na bai'n gwneud hyn, byddai corneli'r frechdan yn hollol ddi-flas. I orffen y broses, gadawai'r frechdan i setlo ar y sil ffenest am gwpwl o oriau, dan wên yr haul er mwyn i sudd ei hoff lenwad dreiddio i mewn i'r bara. Archwiliodd Idris ei frechdan yn ofalus. Agorodd hi a llawenheuodd wrth sylwi fod y bara eisoes yn binc ac yn soeglyd, fel yr oedd yn ei hoffi. Cymerodd lwnc ohoni. Perffaith. Yn union fel y byddai ef wedi ei bwyta... Ie, fel brechdan y dyn yn yr orsaf. *
*
*
*
Wrth i'r cerbyd dynnu am y stop olaf, cerddodd Idris ar hyd y canol tua'r blaen gan wirio'i fod wedi casglu ac wedi tyllu pob tocyn. Gafaelodd yn y seddi am damaid o gymorth wrth iddo gerdded i gyfeiriad y drws. Gwasgwyd y brêc a chlywodd Idris y gwichian wrth iddo ddod i stop. Dechreuodd pawb gasglu eu bagiau o dan y seddi, ac ar yr adeg hon y byddai Idris yn gwybod pryd i ddechrau paratoi ar gyfer yr holl ddiolchiadau a'r ta-tas - y 'diolch am ddewis teithio gyda ni' a'r 'siwrne saff' a'r 'gobeithio y cethoch chi daith hwylus' a'r 'dewch yn ôl yn glou' ac yn y blaen ac yn y blaen... Dyma pryd y byddai'n medru anadlu am damaid, gan wybod bod diwrnod arall o waith ar ben. Gafaelodd yn handlen y drws a'i agor. Câi Idris ei groesawu'n ôl i'r orsaf yn aml gan sgrwmp o law neu ambell i hwrdd o wynt. Y noson arbennig honno, teimlodd yr oerfel yn rhoi slap i'w foch gwelw. Un wrth un, dechreuodd y teithwyr adael y trên ac felly penderfynodd Idris ddechrau ar ei ffarweliadau. Anwybyddu'r cyfan a wnaent hwy.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Yr oeddent yn rhy fishi'n parablu â'i gilydd, yn gyffro i gyd yn sgil cyrraedd. Yr oedd rhai i’w gweld mewn panig wrth iddynt gael trafferth tynnu eu bagiau gorlawn o waelod y sedd. Ac yna yr oedd y gweddill ohonynt yn gwbwl sych. Teimlodd Idris eu hanghwrteisi'n rhoi slap iddo ar ei foch arall. Ochneidiodd wrth iddo edrych i ben draw'r trên a dilynodd ei lygaid olion y teithwyr i'r allanfa. Tynnwyd ei sylw. Tu ôl i fwg tybaco gwelodd bâr o sbectol lliw yn syllu ar ddrws y trên. Edrychodd Idris o'i amgylch unwaith eto. Teimlai braidd yn anesmwyth. Ond yr oedd y llygaid yn edrych i'w gyfeiriad ef, yr oedd yn sicr o hynny. Am y tro cyntaf erioed, gwyddai fod rhywun yn yr orsaf yn ei astudio. Eisteddai'r dyn ar flanced werdd yn pwyso'n erbyn wal yr ystafell aros, yno yn yr orsaf. Wrth iddo ddod i sylweddoliad fod Idris wedi'i weld yn syllu, gwasgodd y sigarét ar y concrit a phlygodd hi yn ei hanner hyd nes i'r lludw lifo allan o'r blaen. Gafaelodd y dyn yn ei frechdan a chymerodd dameidiau araf allan ohoni. Rhwygodd y bara gyda'i ddannedd wrth edrych i fyw llygaid Idris. Astudiodd yntau ef yn ofalus. Tybiodd mai brechdan domato ydoedd. Dewis da. Llyfodd y dyn ei wefusau gan gadw'r cyswllt llygad gydag ef. Arhosodd Idris yn stond, yn perlesmeirio drosto. Yr oedd ei wallt golau yn sgrwff clymog dros ei ben. Bu bron i Idris feddwl y gallai blethu'r mop hwnnw a byddai'n sicr o aros yn ei le am ddyddiau. Astudiodd yn fanylach. Yr oedd y sbectol yn gorwedd yn berffaith ar ei drwyn smwt ac roedd ei wefusau'n goch ac yn wlyb, yn fefusen hardd ar ei wyneb. Wrth iddo orffen y frechdan, gosododd y crwstyn olaf ar ei dafod a chau ei geg. Winciodd ac yna chwarddodd. Gwridodd Idris. A Dafydd oedd y person cyntaf erioed yn yr orsaf i edrych arno. * * * * Crychodd yntau ei lygaid, a'u cau cyn dychwelyd at y flanced. Ysgydwodd ei ben yn gyflym fel petai'n ceisio tawelu'i feddwl, ond gwyddai mai'r unig ffordd y gallai wneud hynny fyddai trwy edrych uwch ei ben. Yno yr oedd yr holl sicrwydd. Yr oedd ei ffrindiau'n filiynau o flynyddoedd oed. Rhaid eu bod hwy'n hynod wybodus. Yr hen a ŵyr wedi'r cyfan, cofiodd Idris. Allai ddim peidio â sylwi fod y sêr yn ymdebygu'n fawr heno i'r tyllau papur crwn a greodd ym mlodau ei ddyddiau. Edrychodd yn ei lyfryn am unrhyw wybodaeth ddefnyddiol. Edrychodd am i fyny unwaith yn rhagor er mwyn ceisio cofio'r patrwm hwnnw cyn chwilota yn ei feibl bach am gytserau tebyg. Porodd drwy'r diagramau a darganfu lun oedd yn cyfateb. Fel y gwyddai, nid oedd seren y gogledd a safai'n union uwch ei ben fyth yn symud yn yr awyr. Hi fyddai wastad yn sefyll uwchben pob dyn, pob bryn, pob tocyn, pob brechdan domato a phob trên. Rhaid ei bod hi o hyd yn medru gweld beth âi ymlaen oddi tano. Rhaid ei bod hi'n gwybod beth ddigwyddodd, felly... * * * * A dyna pryd ychwanegodd ddefod arall i'w restr-gwneud yn y bore. Yn yr hanner awr ychwanegol honno, byddai'n hoelio'i sylw ar y man lle eisteddai Dafydd. Gwyddai Idris ei fod yn gwneud ymddangosiad tua thri y prynhawn, ond roedd trên Idris yn stopio yno am chwarter wedi pedwar ac felly byddai'n gorfod aros tan hynny hyd nes y câi damaid o amser i'w wylio, er mawr siom iddo. Roedd o hyd yn gorfod cael pip ta beth, jest rhag ofn. Wrth i'r trên dynnu i mewn yn yr orsaf am chwarter wedi pedwar y prynhawn hwnnw, gwnaeth yn siŵr ei fod yn sefyll y tu ôl i'r pumed drws. Y drws hwn oedd yn wynebu llecyn Dafydd. Y diwrnod hwnnw, agorodd y drws hwn a theimlodd Idris ddwrn sydyn ym mherfedd ei stumog wrth iddo sylweddoli. Roedd yn wag - doedd neb yno. Dim un flanced, dim un frechdan. Methai ddeall; yr oedd wedi bod yno'r pythefnos cynt. Ond edrychai fel petai'n gwbwl gyfforddus yno'r tro diwethaf. Digalonnodd Idris. Caewyd y drysau yn barod am y stop nesaf. Aeth Idris yn ôl at ei waith a holodd bawb am eu tocyn. Gwnaeth dyllau di-ri ynddynt a rhywsut, yr oedd yn trin y pwnsiwr yn fileiniach y tro hwn. Yr oedd y tyllau fel petaent yn fwy siarp, gyda'u hymylon yn bygwth ambell i glwyf papur ar fysedd. Unwaith eto, teimlodd Idris ei fod wedi colli'i gyfle, a dyma oedd yn ei frifo. Gwnaeth Idris ei ffordd ar hyd y cerbyd hyd nes y cyrhaeddodd y cefn. Nid edrychodd ar neb, 'mond gofyn am docyn pawb, diolch iddynt a symud ymlaen at y tocyn nesaf. "P'nawn da, eich tocyn os gwelwch yn dda?"
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Cyn iddo allu symud ymlaen i'r pwnsio, gwelodd y blewiach golau yng nghornel ei lygad. Roedd fel petai pob blewyn yn syllu arno. Edrychodd i'r cyfeiriad hwnnw a gwelodd ei sbectol lliw, ynghyd â'r llygaid annaturiol o fawr yn edrych. Sylweddolodd a llyncodd gan beri i'w wddf neidio. Ond gwenu a wnaeth Dafydd, a rhwng ei wefusau cochion, datgelwyd dannedd euraidd yr olwg. Nid oeddent yn felyn fel y cyfryw, ond roedd yn amlwg nad oeddent yn cael llawer o ofal. Er hyn, edrychent mor brydferth yn ei lygaid ef - yr oeddent yn ei siwtio. Troes ef tuag at y ffenestr am gyfnod ond parhaodd Idris â'r gwylio, er hyn. Teimlad braf oedd y teimlad hwn. Allai Idris ddim peidio â phryderu, fodd bynnag. Prin ydoedd yn ei adnabod ond yr oedd rhyw deimladau melys, peryglus yn corddi o dan ei lifrai. Brathodd a llyfodd ei wefusau sychedig ac ysodd Idris am gael cyffwrdd ynddynt â’i wefusau yntau... Dychwelodd i dir y byw. Cerddodd ato a chymryd ei amser yn gofyn am y tocyn. Gosododd Dafydd ei docyn yn llaw Idris a chymerodd ofal yn ei dyllu. Wrth i ddrws y trên agor am y tro olaf y diwrnod hwnnw, casglodd Idris y tocynnau heb ddweud gair o'i ben. Arhosodd amdano. Aeth teuluoedd siriol, pobl fusnes ddifrifol ac ambell i unigolyn go ryfedd heibio, ond un peth oedd ar feddwl Idris. Gallai ond meddwl beth a ddywedai wrtho ef pan ymddangosai nesaf. Gwelodd ei sbectol lliw'n ei wylio unwaith eto ac agosaodd rheiny'n araf ato. Cyn i Idris gael y cyfle i allu dweud rhywbeth, safodd ef o'i flaen. Gallai'r ddau glywed eu hanadliadau dros gyfeiliant yr injan yn y cefndir. Arhosodd y ddau'n fud. Cododd Dafydd ei fraich a dechreuodd fwytho cap gwaith Idris. Gwnaeth y llaw siwrnai dros ei ddwy lygad a therfynodd y daith ar ei wefusau wrth iddo eu hamlinellu'n ofalus. Llyncodd Idris gan osgoi peidio ag edrych yn rhy betrus. Yna, teimlodd law Dafydd yn ymestyn o dan siaced ei siwt. Gafaelodd yng nghlun dde Idris. Ni allai symud, ac yn sicr ni allai feddwl am wenu. Fferrodd. Yr oedd yn hollol lonydd o'i goryn i'w sawdl, eithr ysgydwai ei ddwylo llaith ym mhocedi trowsus ei siwt, yn sownd o fewn ffiniau’r gwlân. Gwenodd ef wrth i'w law swatio ar ganol Idris. Gwenodd fel petai'n ceisio cael ei sêl bendith. Dychwelodd Idris ei wên, â'i wefusau'n crynu. Teimlodd rywbeth yn cwympo i boced ei siwt ac wrth i Dafydd gadw cyswllt llygad gydag ef unwaith yn rhagor, sibrydodd "wps" tawel yng nghlust Idris. Teimlodd yntau ias wrth i'r aer twym o geg y dyn gynhesu ei tu mewn. Chwarddodd ef cyn ei gwadnu hi i gyfeiriad y giât. *
*
*
*
Gwenodd Idris i'w hun wrth gofio'n ôl. Wrth gwrs y mwynhaodd y profiad. Ni allai gredu pa mor swil ydoedd ar y pryd, dyna i gyd. Stopiodd y chwerthin yn sydyn a dyrnodd y borfa wrth ei ymyl. Dylai fod wedi dweud rhywbeth. Cadwodd y ddwrn honno'n dynn am ennyd cyn ymestyn am y nodyn yn ei siaced; y nodyn na adawodd ei boced ers y diwrnod hwnnw. Tocyn trên ydoedd, gyda'i enw wedi'i incio arno. Dafydd. Yr oedd yr ysgrifen yn gwlwm prydferth, yn galigraffi gofalus dros yr wybodaeth ar y papur. Daeth â'r tocyn yn agosach at
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
ei wyneb er mwyn astudio'r inc yn fanylach. Gobeithiodd y gallai arogli'r tybaco mysglyd ac felly gwasgodd ei drwyn ar arwyneb y tocyn gan ei symud yn araf o'r chwith i'r dde. Yr oedd Idris yn cwestiynu a oedd yn gallu arogli'r sawr gwan oedd yn weddill ar y tocyn ynteu dychmygu'r peth ydoedd. Tybiodd Idris fod y tocyn wedi bod yn swatio yn yr un boced â'i sigaréts. Cymerodd anadl ddofn. Oedodd cyn allanadlu, gan gymryd mwg anweledig y tybaco i mewn. Gafaelodd yn y potyn tsieina a eisteddai gydag ef ar y flanced. Agorodd y caead yn ofalus, gan osgoi sarnu'r cynnwys dros y flanced am y tro. Dychwelodd y caead yn ôl i'w fag a dododd y potyn tsieina rhwng ei ddwy goes. Plymiodd ei law gydag awch i mewn i waelod y potyn a gafaelodd mewn dyrnaid o bapur. Byseddodd y cylchoedd mân â'i fys bawd ac ystyriodd. Taflodd y darnau papur dros ei ben a gadawodd iddynt ddisgyn yn osgeiddig drosto. Teimlodd fel petai'n cael ei orchuddio â chonffeti. Chwarddodd yn iach wrth iddo ollwng hanner y potyn dros ei ben. Ar yr un pryd, methai â chredu beth oedd yn ei wneud. Yr oedd wedi bod yn casglu'r darnau papur hyn dros bron i dri degawd, ac wrth gyflawni'r fath weithred, gallai weld yr holl flynyddoedd yn hedfan i ffwrdd ac yn meddalu'n slwtsh yng ngwlybaniaeth y borfa. Yr oedd Idris wastad wedi gweld rhywbeth trist am drenau. Roedd gweld y ffarwelio, y brysio, yr edrych allan drwy'r ffenest a gweld y tir yn diflannu i'r pellter i gyd yn brofiadau digon annifyr. Roedd rhywbeth go drist am adael yr orsaf am y pen siwrnai nesaf hefyd... Edrychodd uwch ei ben. Gofynnodd yn bwyllog ond eto'n wan ei galon, "Seren y gogledd, wyt ti wedi'i weld e? Plis... Unrhyw un ohonoch chi?" Bu ennyd o dawelwch. Erfyniodd, â saib rhwng pob gair, "Lle ma' Dafydd?" *
*
*
*
Am bump y bore hwnnw, dechreuodd Idris ei ddiwrnod unwaith yn rhagor yn casglu darnau papur o waelod y seddi a sythu pob set o gyfarwyddiadau ar bob bwrdd a sicrhau fod pob cornel yn dwt ac yn daclus ar gyfer y teithwyr. Yn isymwybodol, ymfalchïai yn ei waith er nad oedd, efallai, yn teimlo fel gwneud bob diwrnod. Eithr yr oedd y diwrnod hwn yn wahanol. Teimlai fel petai am gwblhau pob tasg mor glou ag y gallai er mwyn gallu canolbwyntio ar y pethau pwysig. Sicrhaodd fod popeth yn ei le wrth iddo gerdded ar hyd canol y cerbyd, gan wyro i'r ochr chwith ac yna'r ochr dde am yn ail. Pan gyrhaeddodd flaen y trên, agorodd ddrws y cerbyd am damaid o awyr iach. Ac yno yr oedd Dafydd, yn swatio yn ei flanced werdd. Roedd ei wallt wedi'i glymu'n ôl mewn cocyn tyn, a'r band elastig yn crogi'i fwng golau. Gwyliodd Idris pob gweithred o’i eiddo. Tynnodd Dafydd ar ei getyn a chwythodd bwff o fwg tywyll o'i flaen. Dilynodd symudiadau'r mwg wrth i'w wyneb blinedig barhau i allanadlu. Edrychai ei lygaid fel soseri, a'r cylchoedd tywyll o'u hamgylch yn strancio am damaid o gwsg. Am unwaith, gallai Idris weld ei
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
lygaid heb fod yr hen sbectol tîn potel lliw'n eu gorchuddio. Ond doedd Idris ddim yn deall ychwaith. Cyraeddasai Dafydd am dri y prynhawn bob dydd. Yr oedd yn edrych yn hollol iawn fel arfer - o'r hyn a welodd Idris ohono, hynny yw. Astudiodd Idris yn graffach. Syllodd arno'n tynnu cwdyn plastig pitw o'i boced. Eisteddodd Dafydd ar y pecyn hwn a neidiodd arno er mwyn malu'r cynnwys yn ddarnau. Wedi iddo wneud hyn, agorodd y sêl ac ysgeintio tamaid ohono yn ei frechdan. Cymerodd frathiadau bach o'i frecwast, â'i geg yn dilyn ymyl y crwstyn i ddechrau, cyn pitsio i mewn i'w chanol. Nid edrychodd Dafydd ar Idris drwy hyn i gyd. A dyna'r gwahaniaeth mwyaf a welodd Idris. 'Mond parhau yn ei fyd truenus ei hun, yn peswch ac yn bwyta brechdanau tomato amheus. * * * * Ie, dyna'r tro diwethaf erioed i Idris weld Dafydd. Eisteddodd mewn tawelwch ar gopa'r bryn. Yr oedd y cyfan yn deimlad go chwerwfelys iddo mewn ffordd. Roedd gan Idris ddwy ddamcaniaeth. Y cyntaf - fod Dafydd wedi neidio ar drên a darganfod ei fan gwyn. Chwarae teg iddo os felly. A'r ail - wel, nid oedd am feddwl am hynny. Oedd, yr oedd Idris wedi treulio oriau'n gwirio nad oedd Dafydd yn eistedd mewn rhyw gornel ar y trên sawl gwaith, yn meindio'i fusnes ei hun. Yr oedd wedi syllu ar yr un hen ofod gwag yn yr orsaf bob bore a phob nos, yn byw mewn gobaith y deuai yn ei ôl. Yna dechreuodd Idris fritho. Doedd dim golwg o Dafydd yn unman. Rhoddodd y gorau i'r chwilio a chymerodd ymddeoliad cynnar. "Dafydd!" gwaeddodd. Lledwenodd yn y gobaith y câi ymateb. Clywodd y nant yn y cefndir yn clwcio chwerthin arno wrth i'r ymateb gwag roi hwyth anghroesawgar yn ôl iddo. Doedd dim arall amdani ond troi at y potyn. Llenwodd ei ddwrn â'r darnau papur. Agorodd ei law'n ofalus er mwyn eu hastudio ac yna dewisiodd un darn penodol a dodi'r lleill yn eu hôl. Wrth i'w lygaid ddilyn ymyl di-ddiwedd y darn crwn, allai ddim peidio â chwerthin wrth ddod i sylweddoliad. Yr oedd ei lygaid wedi bod yn troi a throi mewn un cylch o leiaf ugain o weithiau. Yn hyn, daeth i'r casgliad y gallai barhau â'r weithred am byth, eithr gwyddai y byddai'n rhaid rhoi stop arni rywbryd. A dyma eironi nodweddiadol bywyd Mr Idris Thomas y casglwr tocynnau, meddyliodd i'w hun. Plygodd y darn hwn yn hanner cylch. Wrth iddo deimlo tamaid o foddhad yn hyn, penderfynodd gymryd dwrn arall ohonynt a haneru pob un wan jac. Dyna welliant. Wedi iddo orffen y dasg, aeth ar ôl caead y potyn a'i gau. Yna aeth at y nant a safodd gyda blaenau ei draed yn cyffwrdd â'r dŵr. Cododd y potyn i lefel ei lygaid a phenderfynodd agor y caead unwaith eto. Hoffai glywed y ddau ddarn tsieina'n crafu'n erbyn ei gilydd, fel petaent yn wylo wrth i Idris eu gwahanu. Gafaelodd mewn dyrnaid o bapur a dechreuodd eu gwasgaru dros arwyneb y nant. Gwyliodd hwynt yn cwympo fel llwch dros y dŵr ac yn rhedeg i lawr y bryn law yn llaw â'r cerynt. Sylwodd Idris ei bod hi bellach yn dechrau gwawrio. Yr oedd hi yn bump y bore, wedi'r cyfan. Dychwelodd at ei lecyn unwaith eto a gorffwysodd ar ei flanced wrth edrych at y sêr. Ei hen ffrindiau. Rhoddodd un cynnig arall arni, ac ymbil arnynt am y tro olaf. "Plis? Y'ch chi'n gwbod rhwbeth o gwbwl?" Craciodd ei lais ar ddiwedd y cwestiwn. Trodd at ei lyfryn bach a sgipio i'r tudalennau olaf. Neidiodd yr ysgrifen ar ganol y papur... "Pan edrycho dyn i'r nen, edrycha i'r gorffennol". Dadansoddodd Idris y frawddeg am ennyd. Ni allai ddeall i ddechrau. Er gwaethaf eu hoedran, yr oedd y sêr i'w gweld mor ifanc, mor iach yr olwg. Parhaodd i ddarllen yr wybodaeth oddi tano. A dyna pryd y deallodd. Wrth gwrs - yr oedd pob seren yn gorfod marw. Dyna oedd bywyd; gwyddai hynny'n iawn. Byddai'n golygu eu bod yn gorfod ffrwydro yn y broses, yn ddiweddglo mawreddog i'w bywydau prin...
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Edrychodd i'r gorwel ac i gyfeiriad y traciau am y tro olaf. Yr oedd yn cicio'i hun am nad oedd wedi cofio dod 창'i dyllwr tocynnau gydag ef. Er hyn, roedd ganddo declyn go debyg. Estynnodd am y teclyn hwnnw o'i boced a chraffodd arno. Cilwenodd. Am bump y bore hwnnw, gosododd y teclyn wrth ei glust. A fyddai'n gymaint o ryddhad gallu gwneud twll yn y casglwr tocynnau ei hun? Ac yn hynny, lledchwarddodd i'w hun wrth iddo afael yn y glicied, er mwyn iddo yntau allu ffrwydro'n uwchnofa brydferth ar gopa'r bryn. "Wps..." Thanatos
Enillydd y Goron: Mared Roberts (Caerdydd)
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
2.2 Stori Fer ‘Cuddio’ Beirniad: GUTO DAFYDD 1. MANON: Megan Elenid Lewis - Prifysgol Aberystwyth 2. LEUSA PARI: Gwenno Edwards - Prifysgol Aberystwyth 3. Y CERDYN: Gethin Griffiths - Prifysgol Bangor
CUDDIO Weithiau, taro i’r siop am beint o laeth a phecyn o selsig, yw’r peth gwaethaf y gall merch ei wneud. Roedd hi'n ddydd Iau eto. Yn ddiwrnod siopa. Gwisgodd amdani ei chôt fawr. Roedd hi'n anodd dweud ar y tywydd y dyddiau hyn a hithau’n dymor yr hydref, oherwydd er gwaetha’r oerni, roedd yr haul fel pe na bai’n fodlon gollwng gafael ar yr haf chwaith. Rhyw dywydd di-ddal felly oedd i hwyliau Manon y diwrnod hwnnw hefyd. Rhyw gymysgedd o gyffro a phryder ar yr un pryd. Edrychodd drwy’r ffenest, roedd hi’n bwrw’n drwm, ond gwyddai y byddai'n siŵr o wella erbyn y prynhawn, ac y byddai’n chwysu’n ei chôt fawr a'i bagiau trwm wrth frwydro drwy strydoedd y dref. Bwriadai dreulio’r diwrnod yno, gwneud y mwyaf ohoni. Roedd hi'n braf i gael mynd allan o'r tŷ weithiau. Wynebu pobl. Wynebu'r byd. Byddai wedi mynd o’i cho’ oni bai. Roedd ffenestri’r car wedi stemio i gyd erbyn iddi gyrraedd y dref a pharcio’i char ym maes parcio’r archfarchnad. Rhedodd drwy’r glaw i ôl troli o’r cwt plastig, ond ar ôl cyrraedd y cysgod sylweddolodd nad oedd yr un troli arferol ar ôl. Nid oedd bosib ei bod hi’n llawn tu fewn eto, dim ond chwarter i naw oedd hi, ac roedd y maes parcio’n wag? Gwnaethai Manon yn siŵr ei bod hi’n cyrraedd yn gynnar bob amser er mwyn osgoi’r dorf. Edrychodd o’i chwmpas, nid oedd yr un gweithiwr ar hyd y lle chwaith i gynnig troli arall iddi. Gallai deimlo’r bunt fach yn llosgi’n ei llaw, felly bodlonodd ar yr unig droli oedd ar ôl. Troli mawr gyda sedd ar gyfer plentyn ar ei blaen. Taflodd Manon ei bag llaw i lenwi’r sedd honno’n syth, ac ymlaen â hi â’i siopa. Gwthiodd y clambar o droli i mewn drwy ddrysau'r archfarchnad a gallai synhwyro’r porthorion yn edrych arni ddwywaith. Fe'i llethwyd o’r newydd gan y golau llachar a’i dallai bob tro gan beri i’w phen tost guro’n waeth. Meddyliodd pa mor debyg i sied oedd y lle, heb na charped na chysur yn gwmni i’r strydoedd unffurf o fwyd. Tynnodd ei rhestr siopa allan o boced ei chôt a sythu’r papur a oedd wedi crychu. Roedd hi wedi ysgrifennu’r rhestr y tro hwn ar gefn yr anfoneb a gawsai’r tro diwethaf. Craffodd ar ei llawysgrifen flêr. Prin y medrai ei adnabod, nid oedd hi braidd yn ysgrifennu’r dyddiau hyn. Darllenodd ei sgribyls traed brain:
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
2 x peint llaeth
selsig – Richmond, tenau
baked beans
llysiau – moron, bresych, pys
tatw
caws – mild, dim cheddar
bananas
paracetamols, lemsip, aspirin
Dechreuodd gyda'r bananas. Hongianent yn gawodydd melyn ar y wal gefn. Byddai Manon yn bwyta banana i frecwast bob bore, roeddent yn dda i’r system dreulio, digon o ffibr ynddynt. Cydiodd yn un o’r canghennau gwyrddaf, roedd yn well ganddi’r rheiny. Yn un peth, roeddent yn fwy o fargen oherwydd fe barent yn hwy. Cyn iddi allu eu llwytho i’r troli, tynnwyd ei sylw gan fasgedaid o afalau a sgleiniai’n annaturiol o goch wrth ei hymyl. Ni allodd wrthod eu temtasiwn a chododd hanner dwsin ohonynt i fag plastig bach, a’u pwyso ar y teclyn gerllaw. Ni wnâi’r rhain ddrwg i neb chwaith, meddyliodd. Roedd Manon bob amser yn ei chael hi’n anodd prynu ar gyfer dau berson yn unig, hi a’i thad. Roedd angen yr un maeth arnynt hwy ag yr oedd ei angen ar deulu o bump, ond nid oedd pwynt prynu darn mawr o ham na thorth cyfan o fara oherwydd dim ond llwydo a wnaent yn y cwpwrdd. Gwelodd becyn o orenau bach mewn rhwyd goch gerllaw ac nid oedd posib iddi gerdded heibio iddynt. Deuai’r orenau hyn â blas y Nadolig yn ôl iddi pan gâi oren bach yng ngwaelod ei hosan, ac ar ôl dangos ei hanrheg unigryw i’w thad, byddai yntau’n ei bilio iddi. Roedd oren a oedd wedi’i bilio gan ei thad yn llawer mwy blasus nag unrhyw oren arall. Teimlai mor lwcus, a chredai bod Siôn Corn wedi tyfu’r oren hwnnw’n arbennig ar ei chyfer hi, a byddai’n siomi bob blwyddyn o ganfod yr un sticer ar yr orenau eraill ym mowlen ffrwythau ei mam. Y llysiau oedd nesaf a gofalodd ddewis y moron gorau gan eu harchwilio'n fanwl er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd brychau arnynt. Roedd angen bresych a phys arni hefyd, ond byddai’n prynu’r pys wedi’u rhewi. Cydiodd mewn sachaid o datw a’i roi i orchuddio gwaelod y troli’n gyfan gwbl. Bu’n ddechreuad da ac nid oedd hi wedi cwrdd â neb eto, diolch byth. Roedd hynny’n fendith, oherwydd wrth weld rhywun wrth y llysiau, byddai’n siŵr o’u gweld drwy gydol y daith o gwmpas yr archfarchnad. Anadlodd yn ddwfn, cyn sbïo’n wyliadwrus o’i chuddfan drwy’r bocsys tomatos ac i lawr yr eil nesaf. I ffwrdd â hi wedyn i lawr yr eil laeth. Cododd gaws i’w throli a dau beint o laeth semi skimmed. Roedd hi wedi tollti chwarter olaf y botel laeth ar lawr y gegin y bore hwnnw wrth arllwys diferyn yn unig i waelod ei chwpan coffi. Roedd ei meddwl mewn llefydd pwysicach, debyg iawn. Dewisodd becyn o gaws blas gwan, ac wrth ei ymyl gwelodd becyn lliwgar o cheese strings. Edrychent mor ddeniadol, a chyn pendroni dim mwy, cydiodd mewn pedwar pecyn a’u taflu i’w throli gan obeithio nad oedd neb o gwmpas. Dartiodd ei llygaid i bob cyfeiriad wedyn. Yr iogyrtiau oedd nesaf ac estynnodd am bedwar paced o petits filous a muller corner a oedd â bisgedi siocled yn lle jam yn eu corneli. Cofiai ei mam yn dweud fod angen calsiwm ar blentyn sy'n tyfu. Roedd angen calsiwm ar ei hesgyrn hithau hefyd, o ran hynny.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Gwthiodd ei throli i lawr eil y cig. Un pecyn o selsig a byddai bron â gorffen ei rhestr, ac nid oedd hi am wario mwy o arian nag oedd rhaid. Ond yna, gwelodd ddarnau o ham tenau mewn pecyn plastig tila a meddyliodd pa mor wych fyddai’r rheiny er mwyn gwneud picnic. Ar hynny, dyma hi’n eu codi i’r troli gan anelu’n syth am y bara a chydio mewn torth o fara Hovis wedi’i thafellu’n denau. Gallai dorri’r crystiau i ffwrdd wedyn er mwyn gwneud brechdanau blasus. Daeth hyn ag atgof yn ôl iddi o amser te bob prynhawn dydd Sul. Byddai plât pert o fara wedi’i daenu o’i blaen yn ddi-ffael, a’i rhieni’n ei chymell i’w bwyta. Roedd yn gas ganddi fwyta’r bara menyn hynny, a’i mam wedi’i dorri mor denau nes bo’r menyn yn llithro’n lympiau drwy’r tyllau ynddo. “Bwyta’r crystiau yna, ac fe gei di gwrls”, oedd eu ffordd nhw o’i llwgrwobrwyo, ond cyn lleied a wyddent faint o fygythiad oedd hynny mewn gwirionedd, am nad oedd hi am gael cwrls o gwbl. Roedd yn well ganddi hi gael gwallt syth heb na thro na chrych. Cyn pen dim, fe’i daliodd ei hun yn glafoerio dros y danteithion yn eil y melysion. Addawodd iddi’i hun na fyddai’n gwneud hynny heddiw, ond roedd y chwant am siwgr yn ormod. Disgleiriai'r cyfan o'i blaen a lliwiau moethus y cadbury a’r galaxy’n toddi’n un yn ei phen. Roedd y lliwiau’n llawer mwy gogoneddus nag unrhyw domato, meddyliodd iddi’i hun. Yn sydyn, clywodd sŵn sgrechian o ben pellaf yr eil. Bachgen bach tua chwe blwydd oed oedd yno’n sgrechian ar ei fam am losin, a hithau’n gwrthod y rheiny iddo. Taflai becynnau o fisgedi i’r llawr, gan grïo wrth eu gweld yn chwalu’n ddarnau mân. Stranciai o gwmpas traed ei fam, a honno’n rhoi stŵr iddo gan geisio peidio ag ymddangos yn rhy llym o flaen y gynulleidfa a oedd wedi dechrau ffurfio o’u cwmpas. Yn y diwedd ildiodd y fam i’w gri am fod yr embaras yn drech na’i chonsýrn am ei ddannedd. Teimlodd Manon ei chalon yn dechrau cyflymu, a heb yn wybod iddi bron, dynesodd at y plentyn a phenglinio wrth ei ymyl. Daeth rhyw wên o dawelwch rhwng y ddau, ac wrth i Manon rofio dyrnaid arall o friwsion i’r pecyn, teimlodd ei llaw yn brwsio heibio’i ddwylo yntau. Syllodd arnynt, ni allai gredu mor fach oedd ei fysedd smwt, a’i ewinedd yn llai na botymau crys. Y peth nesaf fedrai Manon gofio oedd iddi deimlo rhyw gysgod ar ei gwar, a mam y plentyn bach yn cydio ynddo’n gyflym a’i godi i’w choel. Ceisiodd Manon wenu arni, ond rhythodd honno’n galed arni cyn troi ei chefn yn gyflym a hebrwng ei phlentyn o’i golwg a’i gadael yno ar gyntedd y llawr, i gyfri’r briwsion sathredig oedd ar ôl. Cododd ar ei thraed, sychu’r briwsion oddi ar ei chôt, ac yn raddol dechreuodd wenu. Aeth yn ei blaen â sbonc sydyn yn ei throed i daflu pob mathau o felysion i’w throli yn fisgedi jam, chocolate eclairs, creision, party rings a chocolate fingers, a seriai gwên y bachgen bach ar ei chof. Gallai ei weld yn glir yn awr yn llyfu’r siocled oddi ar ei oreos, yn creu brechdanau gyda’i buttons ac yn stwffio’i fysedd bach drwy fodrwyon ei hula hoops. Teimlodd ei phengliniau’n ysigo a’i llygaid yn dechrau llenwi, fe roddai’r cyfan am wên fel honno. Tynnodd ei hun at ei gilydd cyn mynd i chwilio am ragor o sausage rolls a photeli mawr o lemonade a coke. Roedd heddiw’n ddiwrnod parti, penderfynodd.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
... Ac nid oedd parti’n barti heb hetiau papur, baneri, balŵns na party poppers? Ble'r oedd y rheiny? Gofynnodd i un o'r gweithiwr ac fe’i cyfeiriwyd at y ffair o nwyddau parti. Mor gyflym yr anghofiodd am ei rhestr fach grychlyd, ac fe’i stwffiodd i fynwent yr anfonebau eraill ym mhoced ei chôt. Ffa pob a moddion oedd yr unig bethau a oedd ar ôl ar ei rhestr beth bynnag, a phwy yn ei iawn bwyll fyddai eisiau tun o ffa pob yn lle baryn cyfan o siocled? Roedd y ffa yn troi ar ei stumog hi, ac nid oedd dim yn waeth na rhoi cling film yn ôl am y tun ar ôl defnyddio hanner ohono, a’i roi i gadw yn yr oergell am nad oedd digon o gegau yn y tŷ i fwyta tun cyfan. Teimlodd ei bronnau’n gwasgu. Gwnaethai rywbeth i’w gael yn ôl. Edrychodd Manon ar ei throli llawn. Roedd gwledd yma, ond roedd un peth ar ôl. Y gacen. Aeth at y cownter pobi a dilyn ei llygaid heibio cacennau o bob lliw a llun; cacen siâp lindysyn, cacen siâp pêl-droed a chacen siâp Batman. Chwarddodd, Batman fyddai’i hoff gymeriad ef, gwyddai hynny’n siŵr. Astudiodd bob un ohonynt yn ofalus, ond nid oedd dim un yn tycio. Roedd gormod o eisin ar honna, a dim digon o hufen yn y llall. Stwffio nhw meddyliodd Manon, a chydiodd mewn pecyn o fflŵr, siwgr a dwsin o wyau a'u gosod yn ofalus ar ben yr holl drugareddau eraill yn ei throli. Fe bobai hi gacen yn arbennig i'r achlysur. Câi ef y gacen orau, nid rhyw gacen ceiniog a dimau o’r archfarchnad. Câi ef gacen â chariad wedi’i bobi ymhob llwyaid. Cacen yr oedd bachgen chwe blwydd oed yn ei llawn haeddu. Ar y silff uwchben y fflŵr, gwelodd becyn o eisin wedi’u tylino mewn siâp llythrennau. Byddai’r rhain yn berffaith i addurno’r gacen, meddyliodd. Ond pa lythrennau oedd hi eu hangen? Cydiodd yn yr eisin, câi benderfynu wedyn. Nid ar chwarae bach, wedi’r cyfan, y mae dewis enw i’ch plentyn. Gwyrodd ei throli i gyfeiriad y til cyn codi tri thwba o hufen iâ; blas mefus, siocled a fanila. Iym, fe fyddai hwn yn barti i’w gofio, meddyliodd wrth lyfu’i gwefusau’n swil. Dim ond talu oedd ar ôl nawr, ac i ffwrdd â hi’n sionc gan wthio'r troli trwm tua'r cownter dalu. Ni allai gredu’i ffawd, nid oedd hi wedi cwrdd â neb roedd hi’n ei adnabod, a chafodd hwylio drwy’r siop heb orfod cuddio’n rhy hir tu ôl i focsys corn fflêcs rhag gwestiynau gwag ei chymdogion. Dechreuodd godi'r pacedi plastig i ben yr elevator rwber a gwyliodd cynhwysion ei pharti’n diflannu o un i un dan bîp y til. Yna, wrth godi'r pecyn olaf i’r cownter tynnwyd ei sylw gan gylchgrawn sgleiniog: "I married a ghost, and ate pies with him. Real story." Chwarddodd, roedd pobl fwy gwirion na hi yn bod felly. Cydiodd yn y cylchgrawn a'i luchio ar y cownter. Fe wnâi’r tro fel rhywbeth i ddarllen wrth aros i’r gacen bobi. "Parti?” gofynnodd y dyn bach o du ôl ei sbectol wrth ei gweld yn dadlwytho'r balŵns i'r cownter. Gwridodd hithau cyn ateb, "Ie, rhywbeth tebyg". Paciodd y bwyd yn daclus i mewn i'w bagiau ailgylchu, gan roi ei holl egni i sicrhau bod y nwyddau trymaf yn mynd ar y gwaelod. Gwnaeth ei gorau i geisio osgoi dal llygaid y gweithiwr eto, ond ni allodd help ond sylwi ar ei fathodyn enw. Dan. Dyna enw da, meddyl-
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
iodd iddi’i hun. Bwriodd i’r gwaith yn dawel, gallai weld fod Dan yn codi'i ben bob hyn a hyn wrth sganio'r bwyd, ond nid oedd hi am gynnal sgwrs ag ef o gwbl. Edrychai’n fachgen clên serch hynny, tua’r un oed â hi? Tynnu am ei ddeg ar hugain felly. Ysgwydodd ei hun, nid oedd ganddi’r amser i feddwl am bethau felly. Nid oedd ganddi’r amser am yr un Dan na’i gymhlethdodau yn ei bywyd. Mynd adref i bobi'r gacen orau a fu oedd yr unig beth a ddylai fod ar ei meddwl hi nawr, dwrdiodd ei hun. Trodd y cwestiynau’n ei phen. Oedd ganddi ddigon o ganhwyllau yn y tŷ? I faint y dylai hi baratoi ar eu cyfer? Oedd digon o gadeiriau sbâr ganddi? Nid oedd posib gwybod. Nid oedd ganddi’r syniad lleiaf faint o ffrindiau fyddai ganddo’n yr ysgol. "Dyna ‘ny felly. £157.89 plîs", meddai Dan yn glên. Llyncodd Manon ei phoer, beth roedd hi newydd ei wneud? Nid oedd ganddi hi’r fath arian. Roedd hi'n byw oddi ar arian pensiwn ei thad ar hyn o bryd, ac roedd e’n neilltuo cyfran ohono bob mis iddi i brynu bwyd. Nid oedd hi chwaith wedi cael y cyfle i brynu'r tabledi lladd poen, yr aspirin na dim byd arall yr oedd ei angen arno ef! Beth oedd hi'n mynd i wneud? Roedd hi’n rhy hwyr i dynnu’r nwyddau allan o’r cydau nawr, yn doedd? Ysgwydodd ei phen, teimlodd ei hun yn cochi wrth i Dan edrych arni’n amyneddgar. Estynnodd yn araf am ei phwrs o ddyfnderoedd ei bag llaw a thynnu cerdyn credyd ei thad allan. Gosododd ef yn y twll a phwyso'r pedwar digid cyfleus a theimlo rhywfaint o ryddhad wrth i’r garden gael ei dderbyn. Byddai'n rhaid i iechyd ei thad aros am ddiwrnod neu ddau, meddyliodd. Dim ond dros y parti. Gwenodd Dan arni eto, cyn mynd i mewn i'r til, argraffu'r anfoneb ac estyn pedwar tocyn iddi: "Mae’r rhain ar gyfer yr ysgol gynradd,” meddai, "os ydych chi’n gwario can punt neu fwy, rydyn ni’n rhoi tocynnau ysgol i’r plant i dyfu llysiau yn yr ardd. Rwy’n siŵr y bydd eich plant chi’n elwa’n fawr o fwyta’n iach", meddai gan giledrych ar ei throli llawn o sothach. "Hmm, rwy’n siŵr y byddan nhw”, meddai Manon cyn troi ar ei sawdl ac anelu am y drws a’i hesgidiau gwlyb yn canu grwndi ar y llawr sgleiniog ar ei hôl. Teimlodd ei hun yn cochi eto, “eich plant chi”. Roedd e wedi’i chredu hi, hyd yn oed os mai mam wael gyda’i throli llawn o sothach oedd hi. Teimlodd ei hun yn chwysu o dan y gôt fawr. Gwenodd a diolchodd iddo’n dawel. Roedd pethau’n dechrau cymryd lle, o’r diwedd. Llwythodd y car â'r cydau ac aeth â’r troli mawr â’r sedd plentyn yn ôl i’r cwt yn y maes parcio. Agorodd un o’r cydau er mwyn chwilio am y rhwyd goch o orenau a thynnodd dau oren bach allan, pilio un yn gyflym a’i osod ar y bumper seat yn y sedd gefn. Piliodd y llall iddi’i hun, gan deimlo’i hewinedd yn treiddio i mewn i’r ffrwyth a chofio am felyster bore Nadolig pan fyddai’r cyffro’n drech na hi. Gwenodd. Eu cyfrinach nhw’n dau oedd hwn. Trît bach am fod yn blentyn da a pheidio â chadw sŵn yn yr archfarchnad.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Cododd ei llygaid tua’r drych canol yn y car a’i wylio’n llyfu’r oren â’i dafod fach dyner. Rhoddodd dâp Tecwyn y Tractor i chwarae yn y car, ac i ffwrdd â hi am adref. Roedd ei meddwl yn bell rhwng rhythm y weipars a helyntion Tyddyn Difyr fel na sylwodd ei bod hi wedi troi trwyn y car am gyfeiriad yr ysgol gynradd. Gwnâi hyn o dro i dro. Parciodd y car ac agor y ffenestr. Gallai glywed y plant yn chwarae yn eu hamser egwyl. Meddyliodd tybed beth oedd y gemau'r bore hwnnw, hop sgotsh, tag neu bêl-droed? Meddyliodd yn galetach, ai rygbi neu bêl-droed y byddai ef wedi chwarae? Agorodd ddrws y car ac aeth i bwyso yn erbyn rheilen fetel gât yr ysgol gan deimlo’r glaw mân yn pinsio’i bochau. Llifai'r afon yn hamddenol yr ochr draw i’r ysgol, a gwrandawodd yn astud ar sblashis y glaw yn taro’r dŵr gan foddi sbort y plant. Gwyliodd y plant o bell yn rhedeg, yn disgyn, yn codi ac yn chwerthin eto. Roedd eu gwisgoedd ysgol yn staeniau trwchus o grayons a hithau'n ddydd Iau, yn ddiwedd wythnos. Safodd yno am yn hir. Yn ddigon hir i adael i’r hufen iâ doddi'n slwts yng nghefn y car. Teimlodd ei gwefus isaf yn dechrau crynu ac ystyriodd, sawl sgathriad, sawl annwyd, sawl dant, sawl ffrind gorau a sawl parti pen blwydd y byddai wedi’i gael erbyn hyn? Nid oedd pwynt cuddio na hel meddyliau am y peth mwyach. Trodd ar ei hunion a sychu’i llygaid â llawes ei chôt. Taniodd beiriant y car a chwynodd hwnnw wrth i’r olwynion faglu’u ffordd adref, ac yn rhyfedd, dechreuodd Manon wenu. Cododd ei llygaid tua’r drych canol unwaith eto. Oedd, roedd ganddi hi, wedi’r cyfan, deisen i’w phobi a pharti i’w drefnu.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
2.3 Blog - profiad myfyriwr am flwyddyn gyntaf yn y Coleg (o leiaf 5 postiad) Beirniad: MARGED HAYCOCK 1. BERTHA BLIN: Sion Eilir Pryse, Prifysgol Caerdydd 2. Lora Lewis: Prifysgol Bangor 3. BUFFUDD BANTUR: Alaw Gwyn, Prifysgol Aberystwyth
2.4 Llên Micro - 3 darn ar y thema ‘newid’ Beirniad: Guto Dafydd 1. BERLIN: Mared Llywelyn Williams, Prifysgol Aberystwyth 2. CAPRICORN: Ffraid Gwenllian, Prifysgol Aberystwyth 3. BRANWEN: Llio Elenid Owen, Prifysgol Aberystwyth
NEWID Stryd Mae hi’n trio’i gora i edrych yn ddel, ond yn teimlo’n ddrwg. Mae hi’n gwerthu ei choesau gorau drwy’r teits fishnet, ond ceisiai guddio’r rhwyg sy’n dangos y cnawd gwyn uwch ei chlun. Bob hyn a hyn rhoddai bowdr ar ei thrwyn a’i bochau, yn llenwi’r craciau yn rhychau ei gwyneb. Gwel ei chyfle, a mentro draw at ddyn seimllyd a gofyn am ddrag o’i sigarét. Mae’n gwthio ei gwefusau llawn o amgylch y mygun a chwythu cylch i’w wyneb, gan adael marc gwefusau stêl ei minlliw coch arno. Cilwenai’r dyn. Ei weflau’n awchu, a’i bawenau budr yn gwasgu ei phen ôl. Mae hi’n rhoi edrychiad i’r dyn drwy kohl du ei llygaid, cyn i’r ddau ddiflannu. Newidia’r stryd yn nhywyllwch y nos.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Photoautomat Clic, fflash...dal fy ystum. Dwi’n newid, newid yr olwg ar fy ngwyneb. Rwyt ti’n eu cloi am byth mewn llun. Rwyt ti’n rhoi pedair cyfle i mi ddweud fy stori. Dim malu awyr, does ‘na ddim llawer o amser? Mi geua i oren y llenni felfed i greu tywyllwch. Eiliadau i baratoi, mae’r bwlb bach gwyrdd yn barod. Clic, fflash. Newid. Nesaf. Clic, fflash...dwi’n aros. Mae sawl un ohonot, yn does? Yn focsys ddi-seremoni wedi eu mapio yn frith ar hyd y ddinas ‘ma. A phob hyn a hyn daw rhywun i ymweld ȃ thi, ac eistedd yn dy sedd fetel. Sawl pip yr wyt wedi ei weld ar hyd y blynyddoedd? Sawl cusan rhwng dau gariad, sawl hipster yn powtio yn ei ray-bans, sawl tafod chwareus yn rowlio i dy wyneb, sawl rhiant a’u plentyn yn gwenu’n ddiniwed arnat? Mae stori di-eiriau yn dy inc sepia. Yn dy glic clic, fflash. Oriel East Side Dolennau seicadelia a phaent propaganda. Rwy’n meddwi ar swyn anghyffredin lliwiau’r artist, yn sgriblo iwfforia rhyddid. Mae newid ar droed. Pan chwalwyd y wal peintwyd oriel i’r byd newydd. A geiriau yn malu’r concrid, hyd strydoedd pob Berlin. Berlin
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
2.5 Ymson - ‘Gwythiennau’ Beirniad: GUTO DAFYDD 1. PAWB O ABER : Elen Huws - PrifysgolBangor 2. ***: Ceris Mair James - Prifysgol Bangor 3. HONNA: Ffraid Gwenllian—Prifysgol Aberystwyth GWYTHIENNAU Wedi bod yn porthi o’ni, fel arfer, fymryn yn gynharach na’r arfer gan fod yna fuwch yn ymyl llo. Doedd yna’m golwg o lestri ar bwrdd pan ddois i’r tŷ. Roedd y teciall yn oer, dw i’n cofio sylwi ar hynny. Yn nhraed yn sanna, mi gerddish i’n frysiog i fyny’r grisia’, yn teimlo rhyw gwlwm yn fy stumog er na wyddwn i pam yn sicr. A dyna lle roedd hi. Ar lawr y stafall molchi, yn sbio i nunlla. A fedrwn i ddim peidio syllu ar ei choesau hi, a’i dwylo hi. Yn wlyb o waed. A hwnnw’n waed tywyll, tywyll yn staeniau ar hyd ei chroen hi. Ddeudish i ddim byd, dim ond syrthio ar fy mhenaglinia’ a gafael ynddi. Cydio’n dynn, dynn, dynn ynddi. A theimlo’r dagrau fel cyfog yn codi o waelod fy mol. *
*
*
Mae o fel petai pwrpas fy modolaeth i wedi llifo’n sbeitlyd ohona’ i, a ngadael i yn wag. Dw i’m yn gallu teimlo. Achos y peth dwytha’ dw i’n cofio ei deimlo ydi o. Y plentyn, y babi, y ffetws. Dw i’m yn siwr iawn be oedd o erbyn hyn. Egin byw yn tyfu tu mewn i mi. Ond do’dd o ‘rioed yn fyw, nag oedd? Clwstwr o gelloedd oedd o. Fo, pam ddiawl ydw i’n alw fo’n “fo”. Peth oedd o. Peth. Ddim bywyd. Ddim rhyw. Ddim hogyn bach. Doedd fy meddwl i ‘rioed wedi cael crwydro mor bell dros y syniad nes i mi ddisgyn yn feichiog. Doeddwn i ‘rioed wedi dychmygu cymeriad plentyn bach...gwedd babi newydd-anedig...rhaniad perffaith o fy mhersonoliaeth i a ‘nghariad i yn fyw yn fy mreichia’ i. Ond dyna ‘di natur greulon dynoliaeth ‘de, y gallu di-bwrpas, creulon o ddychmygu. Breuddwydio. A finna ddim ond wedi sylwi ar y freuddwyd pan oedd hi o fewn gafael, bron â chael ei gwireddu..cyn cael ei chipio oddi wrtha’ i yn ddidrugaredd.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Mor sydyn ag y doth hi, mi a’th. Dydi petha’ ddim am fod yr un fath rŵan. Ma’r walia’ bregus rheini, y meddyliais i o’dd mor gadarn, i gyd yn chwalu ac yn dymchwel o ‘nghwmpas i rŵan. Dw i ‘di colli ‘nabod ar fy nghariad. Ma sbio i fyw i lygaid o yn llosgi tu mewn i mi, fedra i ddim. Ac mi wn na fedar yntau. Yr un o’r ddau ohona’ ni’n gallu edrych ar ein gilydd. A pham, dw i’m yn gwybod. Yr oll dw i’n weld pan dw i’n sbio arno fo ydi poen. Poen...galar..siom..methiant. A dw inna’n teimlo rhain i gyd, gan gwaith gwaeth wrth feddwl mod i ‘di siomi fo. A ma’r syniad yna yn corddi drwy fy meddwl i fel tiwn gron yn bownsio o un glust i’r llall yn ddi-ddiwedd. Ai fy mai i oedd hyn? Bai y corff hwn yr ydw i’n gaeth iddo? Y corff a’r meddwl ‘ma. Fedrai’m dengid oddi wrth yr un o’r ddau. Dw i’n eistedd. Yn llonydd. Dw i’m yn cofio’r tro diwetha’ i mi ‘neud hyn. Fedrai’m cyfleu be dw i’n deimlo. Ma’ ‘na rhyw boen annaturiol yn llifo drwy fy ngwaed i, a toes na’r un dim yn ei leddfu o. Dw i’n brifo. Dw i’n gwybod bod hi’n brifo’n waeth, ond mi ydw i’n teimlo’r boen yr un fath. Mae o fel ton o gyfog yn codi o waelod fy stumog wrth i mi feddwl am y peth. A fedrai’m stopio meddwl am y peth. Be dw i’n da’n fa’ma? Yn cuddio yn y llecyn hwn wrth y môr lle dreulish i oria’ efo Elain, yn chwerthin a charu. Mi ddylwn i fod yn tŷ, yn edych ar ‘i hôl hi, ond fedrai’m gwynebu ei gweld hi fel ma’ hi rŵan. Fel ysbryd. Ma’r gwynt oer o’r môr yn codi tuag ata’ i. Nid ‘mod i’n oer, er ei bod hi’n fis Ionawr a fod ‘na iâs yn treiddio o’r ddaear, dw i’m yn oer. Cryndod o alar dw i’n deimlo. Galar amrwd. Rhaid mi beidio bod mor hunanol. Dw i’n gymysgfa mor flêr o deimladau, a dw i’m ‘di arfar teimlo fel hyn. Nid teimlo tosturi drosta’ i fy hun dw i’n fod, dw i fod yn gefn i ngwraig, i ‘nghariad. A sgin i’m syniad be ma’ hi’n ei deimlo.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Dw i’m yn siwr iawn pam na fedra i ddelio fo hyn. Wedi’r cwbwl, doedd ‘na ‘rioed fabi. Mi oedd yna rhywbath, egin rhywfath o fywyd, ond ‘nath o ‘rioed ffurfio tu allan i gorff arall,felly doedd o’n cyfri dim nag oedd? Syniad oedd gen i, un byw o flaen fy llygaid o etifedd a chysylltiad pendant yn cloi a sicrhau tragwyddoldeb perthynas Elain a finna’.Y berthynas hawdd, hyfryd honno sydd bellach yn pydru fesul eiliad wrth i’r ddau ohonan ni guddio tu ôl i furiau tywyll hyn o siom, cywilydd a thristwch. *
*
*
.
Ar y funud ma’ hi’n anodd deud os mai’r deigryn ta’r dŵr ydi’r cynhesaf. Ma’r hylif hallt yn llosgi wrth lifo yn ara’ deg lawr fy moch i, ac eto o’r dŵr sy’n fy amgylchynu i y daw’r stem. Dw i’n gorwedd yn llonydd yn y twb mawr gwyn, ac mae’r dŵr fel poer cawr o ‘nghwmpas, yn swigod persawrus yn cuddio fy nghorff. Llithraf fy nwy goes i gyffwrdd gwaelod y bath, fel eu bod wedi eu cuddio, a gorwedd yn ôl gan adael i’r anwedd dreiddio drwy fy nghroen. Wedi peth amser, mae’r bybls yn diflannu. Dw i’n edrych yn hurt ar fy nghorff o fy mlaen. Mae bodia’ nhraed i o’r dŵr, y paent coch wedi pydru i edrych yn rhad fel petai rhywun wedi pario taten yn fler, a gadael tameidiau o’r croen. Od ydi’r arfer o beintio ewinedd ynte? Pwy feddylia’ wneud y fath beth, heblaw ni bobl. Y bodau dynol annaturiol yr ydym wedi esblygu iddyn nhw erbyn hyn. Syllaf ar y pantiau ar hyd fy mol, a gafael yn asgwrn fy mhelfis, cydio ynddo a theimlo pob ongl ohono, fel petawn i’n ceisio ffendio be sy’n bod arna’ fi. Ac eto, mae fy mronnau i yma yn feinwe a braster yn codi o siap fy nghorff yn naturiol, fel y mynyddoedd a’r bryniau ar draws y tir. Gwelaf hwy’n codi ac yn gostwng wrth i mi anadlu, a minnau ddim yn sylweddoli fy mod, ar yr eiliad hon, yn gyrru nghorff drwy brosesau wirioneddol gymleth ac anhygoel. Ond pwy sydd yn sylwi ar bethau fel’na? Dw i’m yn wyddonydd, a dw i’m yn gapelwr, ac eto dw i’n cael fy swyno rŵan efo fy angrhediniaeth o mor werthfawr yw’r corff llipa hwn sydd wedi fy nghynnal dros yr holl flynyddoedd ‘ma. Ond nad ydio’n gallu rhoid i mi yr un peth, yr unig beth ydw i eisiau ganddo rŵan. Yr hyn sydd i fod i lenwi fy mreichiau, llewni’r tŷ a’i sŵn, llenwi’r gwacter anferth yn fy mywyd i a Huw.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Sud ydw i’n teimlo? Fel petawn i wedi llyncu galwyn o asid, a fod hwnnw yn crynhoi y tu mewn i mi, yn ffrwtian ac yn ara’ deg bach yn difetha pob cell ohona’ i. Ma’ nhu mewn i yn brifo. Ma’r boen yn adleisio drwydda’ i, a dw i’n teimlo yr ysfa i chwydu er nad ydw i wedi bwyta ers dyddia’. Dw i’n teimlo fel petai rhywun wedi cael gafael ar fy stumog i ac yn ei wasgu yn ei ddwylo fel clai, drosodd a throsodd a throsodd. A dw i’m yn siwr o lle ma’r dagra’yn dal i ddod. Ond dyma nhw eto, yn llifo yn sbeitlyd dros fy mocha’ chwyddiedig, a rhywbeth yng nghrombil fy mod, rhywle’ rhwng fy ysgyfaint a ngroth yn peri i mi udo. Udo wrth grio. Udo dros fy mhlentyn marw. *
*
*
Mi gymrodd hi lot o amser i ni’n dau. Nid ein bod ni wedi llwyr fendio, dim ond wedi dysgu ymdopi efo’r golled, ac yndi, ma’ amser yn lleddfu wedi’r cwbwl. Mymryn o leiaf. Odd o’n rhyfedd dros y cyfnod wyna. Doeddwn i’m yn siwr os basa hi’n dod allan ata’ i o gwbwl i ddechrau, ond mi dd’oth yn syth. Mi oeddan ni’n gweithio fel bob blwyddyn, fel tîm, ac mi oedd hynny’n helpu ni ddod i nabod yn gilydd yn nôl. Ond mi oedd na rai petha... Rhyw un ddafad yn colli, a finna ond yn rhoi marc coch ar ei gwar hi a’i gollwng hi allan a dweud y dylid ei gyrru hi ffwrdd. Elain yn sbio arna i am eiliad yn rhy hir. Do’nim yn trio bod yn ansensetif. Rhyw boen ffresh. Ac yn waeth drwyddi hithau wrth iddi ail-wynebu ei thynged. Ein tynged. Mi lenwodd ei llygaid hi, a wnes i ddim ond gollwng y marc yn y fan a gafael ynddi. Yn fy nhrysor i. Fy ngwraig brydferth, hyfryd, ddewr, ddewr i. Mi fynnais i fynd â hi at y traeth wedyn, fel y tro cynta’ hwnnw, pan oeddan ni’n canlyn yn ein harddegau. Finna’n dangos fy hun wrth ddweud mai “teulu ni” oedd biau’r holl gaeau o’r môr at y garn fechan a safai yng nghanol y tir. Hithau’n chwerthin, yn mwynhau gwylio’r llanw’n ymestyn yn swil i mewn at y creigiau. Mi ddaeth hi’n ôl .
Pawb o Aber
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
2.6 Dyddiadur ‘Glanhawr Strydoedd mewn tref brysur’ Beirniad: IAN HUGHES 1. 2. 3.
FAENOR: Hanna Merrigan - Prifysgol Aberystwyth PRAWN STAR: di-enw - Prifysgol Bangor I BE: di-enw- Prifysgol Bangor
27ain Medi 2014 Annwyl ddyddiadur, Gas gen i’r slobs ifanc ma sy’n llusgo’u traed ar hyd y strydoedd, y slobs ‘ma y ma’ pobl yn eu galw’n ‘fyfyrwyr.’ Mae’r carnifal ohonyn nhw di glanio’n y dre unwaith eto’r flwyddyn ma, a does dim llonydd i gael rhagor. Ro’n i’n iawn yn disgwyl y gwaetha fel ddwedes i ddechre’r wythnos, y blydi lot ohonyn nhw’n taflu’u cans a’u bocsys kebabs ar y llawr felse dim binie o gwmpas y lle. A phwy sy’n gorfod glanhau’r mochyndra erbyn bore? Fi. Blydi hel mae’n drewi ‘ma. Wythnos freshers. Chwd ar bob cornel, ambell i esgid wedi’i lusgo ar y palmant ac esgyrn yr holl chicken ‘ma yn gwneud i’r dref edrych fel twlc mochyn. Pam mod i’n gwneud y swydd ‘ma? Bob wythnos freshers wy’n difaru. Cerddodd hen fenyw a’i gŵr heibio i mi bore ‘ma, a bu’n rhaid i mi wenu arnynt yn neis neis fel mai fi odd yn gyfrifol am y llanast ‘ma. Roedd eu llygaid nhw’n dweud y cyfan, yn cydymdeimlo ‘da fi am mai fi odd yn gorfod llusgo’r brwsh ar hyd y strydoedd cul ‘ma. Am le ‘od yw Aberystwyth. Be ma’ nhw’n dweud am y lle, bod y stiwdants yn cyfrif am 40% o’r boblogaeth yn ystod y tymor? Sdim rhyfedd bod cymaint o fess ‘ma, byddwn i’n ofn gadael y tŷ fin nos gyda’r stiwdants yn glanio yn y dref fel haid o ddefaid. Bues i’n cerdded heibio’r Hen Goleg bore ‘ma gan lusgo’r cert glanhau y tu ôl i mi. Mae’n drueni bod y brifysgol ‘na wedi symud Adran y Gymraeg fyny top. Ro’n i’n arfer cael jôc gydag ambell i
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
ddarlithydd ben bore wrth iddyn nhw fynd i’w gwaith. Nawr mae’r criw i gyd fyny top yn yr adeilad llwydaidd diflas ‘na. Am ddiwrnod hir, wy’n mynd i’r gwely tra bod y stiwdants ma’n mynd allan i greu twrwf ar y strydoedd unwaith eto. W, a cyn i mi anghofio ddyddiadur, atgoffwch fi i fynd â het i’r gwaith yfory, mae hen awel hallt y môr yn gwneud i’m clustiau i frifo. Tan yfory, nos da… Faenor
2.7 Brawddeg - T R E F E CH A N Beirniad: Ian Hughes 1. GWENNO: Heledd Llwyd - Prifysgol Aberystwyth 2. EIFION: Lois Roberts - Prifysgol Aberystwyth 3. BESENT: Heledd Besent, Prifysgol Bangor
Twyllodd Richard ei fam er chwerthin arni neithiwr. Gwenno Tarodd rech enbyd fel eliffant chwareus a niweidiol. Eifion Tywydd reit erchyll fu eleni, chwythlyd a niwlog. Besent
2.8 Portread - ‘Aelod o’r teulu’ Beirniad: Ian Hughes 1. DAFYDD : Megan Elenid Lewis - Prifysgol Aberystwyth 2. COFIO : Miriam Angharad Davies - Prifysgol Caerdydd 3. MURSEN : Llinos Heledd Roberts - Prifysgol Caerdydd Dafydd Llosgi. Dyna yw hanes y rhai sydd â chroen golau, debyg iawn. Llosgi oedd hanes fy mrawd innau hefyd, druan. Bob haf, âi ei groen yn annioddefol o goch, gormod imi fedru edrych arno, a byddai Mam byth a beunydd
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
yn hofran ar hyd y lle gyda photel o factor 50 yn ei llaw. Ond doedd dim angen nemor ddim gwres i groen Dafydd losgi. Dim ond i’r haul wenu am ryw awren ar brynhawn arferol o wanwyn, a deuai i’r tŷ y noson honno a’i drwyn yn tywynnu fel ploryn coch yn erbyn gwynder ei groen golau. Rhyw bleser cudd imi wedyn oedd plisgo’r gweddillion llosgedig i ffwrdd. Y brychni ddeuai wedyn. Cawodydd ohonynt yn glanio yma a thraw ar ei wyneb, uwch ei aeliau ac o gylch ei lygaid gan amlaf. Pan fyddai’n gwisgo fest ar ddiwrnodau poeth iawn, byddai diferion bras yn disgyn a chreu pyllau balch ar fwrdd ei ysgwyddau sgwâr. Roedd Mam-gu’n arfer dweud fod brychni haul yn mynd yn llai wrth ichi dyfu’n hŷn. Doedd hynny ddim mor wir am Dafydd, druan. Clywais dro arall am rywun yn eu galw’n gusanau Duw. Fyddai Dafydd ddim yn cytuno rhyw lawer â hynny chwaith, oherwydd i fachgen, roedd cael brychni a fyddai’n peri i ferched eich galw’n “sweet” a “cute” yn boenus i’r ego gwrywaidd. Ond doedd dim ots gen i. Wrth ei waith, bachgen tawel ac addfwyn oedd Dafydd, a byddai pawb yn canmol ei waith saer. Roedd ganddo ddigonedd o amynedd, ac roedd yr amynedd hwnnw wedi’i ymgorffori ymhob cerfiad cain ar ei ddodrefn derw. Gweithiai gyda Dad, ac roedd y ddau yn ffrindiau pennaf. Rhannent yr un hiwmor, yr un amynedd a’r un wên gyfeillgar. Yn wir, roeddent yn llathen o’r un brethyn, neu’n fwy perthnasol iddynt hwy efallai, yn estyllen o’r un goeden neu’n hoelen o’r un bocs. Ni fyddai’r un jobyn yn rhy fawr nac yn rhy fach i’r un o’r ddau, ac roedd ganddynt amser i bawb, ac amser i mi. Cofiaf amdano, yr haf diwethaf i ddweud y gwir, yn ailosod rhai o’r llechi rhydd ar y to i Mam. Roedd yr haul yn tywynnu’r prynhawn hwnnw, ag yntau wedi diosg ei grys sgwariau ac yn cymryd at ei waith yn fisi. Roedd gwisgo fest yn unig ar brynhawn mor chwilboeth â hwnnw yn gofyn am drwbl, beryg. Hen dŷ ffarm yn wynebu cwm creigiog yw’n tŷ ni, a byddai cwymp o’r uchder hwnnw wedi bod yn llethol. Gallaf glywed llais Dad hyd heddiw yn ei rybuddio i gymryd gofal. Ychydig a wyddwn bryd hynny. Roedd e’n fachgen cyhyrog, roedd disgwyl iddo fod siŵr iawn, ag yn-
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
tau’n labro a phlastro gystal. Ond roedd e’n fachgen cyhyrog yn ei gariad hefyd. Er mor stroclyd yw’r ystrydeb honno, gwn yn iawn na fyddai Dafydd wedi gallu brifo’r un pryfyn, hyd yn oed petai e wedi trïo. Yn wir, byddai wedi mynd i mewn i ffeit er mwyn cael peidio â bod mewn ffeit. Roedd e’n addfwyn. Yn ofalus o’i deulu, yn ofalus o’i ffrindiau, ac yn ofalus ohonof i. Fy mraint i oedd cael ei alw’n frawd, a’i alw’n ffrind. Yn ffrind o’r crud. Yn ffrind pan fyddai Mam yn gweiddi. Yn ffrind pan fyddai Mam-gu yn chwyrnu. Yn ffrind pan fyddai Dad yn gyrru. Yn ffrind yn y cartref ac yn ffrind ar noson allan hefyd. Pan ddeuthum innau’n ddigon hen i fynd allan i’r dref ar nos Sadwrn, byddai Dafydd bob amser yn cadw llygad arna i, neu’n prynu diod imi os oedd fy ffrindiau wedi mynd ar grwydr. Byddem yn rhannu’n hatgofion meddw am brofiadau anffodus cyngherddau a thripiau ysgol, ac yn chwerthin yn afreolus wrth ddynwared hen atgofion wrth y bar. Rheiny oedd y nosweithiau gorau. Byddem wedyn yn rhannu tacsi adref gyda’n gilydd, a byddai Dafydd a minnau yn siarad fel pwll y môr yn y sedd gefn, fel brawd a chwaer nad oedd wedi gweld ei gilydd ers blynyddoedd. Ac wrth gamu allan o’r car, byddai’n mynnu talu mwy na’i siâr bob tro. Crwt caredig oedd e fel’na. Tasg anodd ar y naw yw cadw cysylltiad wrth i fywyd swnian arnom a thynnu ar ein llewys. Ond mi ddaliodd fy nghyfeillgarwch i a Dafydd, fel brawd a chwaer, drwy bethau rhyfedd. Bu cyfnodau o dawelwch, do, wrth i lanw a thrai bywyd ein dygid i goleg a gwaith a gofynion gwahanol. Ond gwyddwn, doed a ddêl, na fyddem ni’n dau fyth yn colli’n gilydd. Gwyddwn yn iawn na allai Dafydd fyth yrru heibio’r tŷ, yn ei focus bach glas, heb ganu’i gorn a gweiddi rhyw ddwli yn uchel arnaf i. Gwyddwn yn iawn, y byddem ni’n dau'n para’n frawd a chwaer agos, hyd y dydd y byddem yn cwyno gyda’n gilydd am ein crydcymalau a’n cluniau brau. Wnes i erioed amau hynny. Wnes i erioed ystyried yn wahanol. Roeddwn i wedi rhannu fy mhlentyndod â’r bachgen bochgoch hwnnw. Y cochyn a’i frychni, a’i groen a losgai ar ddim. Roeddwn i wedi’i wylio’n bwyta crayons, yn lliwio’i wallt yn ddu, yn torri’i fraich mewn gêm pêl-
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
droed ac yn tagu ar frechdan fanana. Roeddwn i wedi chwerthin hyd at ddagrau yn ei gwmni, wedi rhannu cyfrinachau croten saith mlwydd oed ag ef, ag yntau wedi gwneud yr un fath yn fy nghwmni innau. Meddyliaf yn aml mor greulon yw bywyd. Mor greulon yw’r tywyllwch. Ond gwn yn iawn na dalai Dafydd sylw i’r tywyllwch hwnnw, byddai ef bob amser â’i olygon tua’r golau, yn cael ei olchi mewn cawod o frychni iach. A phan ddaw’r dagrau i’m bygwth, gyda’r nos yn fy ngwely gan amlaf, mi gofiaf am y dyddiau da. Y dyddiau pan geisiem y dasg amhosibl o rifo’r brychni ar ei fraich, cyn eu lliwio’n bob lliw dan haul gyda felt pens o gwpwrdd cudd Mam. Tasg amhosibl oedd honno, yn enwedig i grwt a oedd wedi’i daenu mor drwchus, â chusanau haelionus Duw.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Adran y Dysgwyr 3.1 Stori Fer - ‘Ffrind’ Beirniad: FELICITY ROBERTS 1. BRECHDAN ONION BHAJI : Rhys Dilwyn - Prifysgol Bangor 2. 3. FFRIND Y GARREG LAS “O’dd e’n dipyn o sioc, cretwch chi fi.” “Wel myn uffarn i! Ei goes e a phopeth?” “Ie, wedi mynd. Pŵr dab ond efe.” “A o’dd e’n siwt gymeriad bach ffein ‘fyd.” “Glywes di? O’dd Wil mewn dagrau, yn llefain fel y blydi glaw yn ôl bob sôn, a s’mo fe byth yn dangos unrhyw fath o emosiwn.” “O jiawl nadi! Mae ei wyneb fel arfer fel drws jail.” “Ond wrth gwrs, mi oedd yna ryw gysylltiad arbennig ‘da nhw. S’dim rhyfedd bod Wil yn gweld hi’n anodd ymdopi ar ei hunan. O’n nhw’n deall ‘i gilydd rhyw sut.” “O’n nhw yn... o’n nhw yn... Ond cofia, s’dim byd yn waeth na ffarmwr yn colli ei afr orau ond o se? Brenda, ‘dere bobo beint arall i ni, nei di?” Roedd hi’n brynhawn ddydd Sul arferol yn nhafarn ‘Y Garreg Las.’ Neu, fel ma’ Thelma Ap Risiart o rif naw yn ei alw, “Twll tin y byd.” “Ei, Tecwyn, arafa er mwyn y nefoedd. Dim ond dau o’r gloch yw ‘i!” “Gwynfor, ma’n Wendy i wedi mynd bant am y penwythnos i Sir Benfro da’i whar, Margaret, alla i wneud beth bynnag ‘wy blydi moyn. S’mo ddi’n mynd i wybod fy mod i’n gwario mymryn o’i harian hi ar gwpwl o wisgis odyw ‘i?” “Cymera bach o ofal , ‘na gyd wy’n dweud. S’mo ti am ailadrodd be’ ddigwyddodd yn yr angladd mis diwethaf i ti?! Ti’n gwybod beth ma’ ambell wydryn o wisgi yn neud i ti.” Gwynfor o’dd yn berchen y synnwyr cyffredin yn y berthynas hon a Tecwyn, wel... o’dd Tecwyn ‘mach yn dwp. Roedd y ddau ohonyn nhw wedi bod yn ffrindie ers cwrdd yn yr ysgol ramadeg pan oeddent yn iau ac wedi adnabod ei gilydd am drigain o flynyddoedd. Ond, er mai ffrindie gorau oedden nhw, byddai dim modd iddynt fod yn fwy gwahanol. Cigydd y pentre’ oedd Gwynfor ac roedd ganddo rhywawdurdod, rhyw bwysigrwydd pregethwrol. Hen lanc a oedd yn byw ar ei ben ei hunan gyda’i gi, yn ddwys, yn hollol ffyddlon i’r capel a phob tro y byddai ef yn mynd i dafarn Y Garreg Las i gael peint, o’dd e wastad yn gwisgo’i siwt orau siwt dydd Sul. Dyn hollol wa’nol i Tecwyn. ‘Na’r cyfan sydd i weud am Tecwyn yw bod meddwi, yn ei farn ef, fel rhyw fath o ‘rhyddhad ysbrydol.’ Ma’ fe’n ffindo ddi’n anodd i wneud unrhyw fath o benderfyniad moesol , ne’ ddatrys rhyw broblem heb fod yna wydryn o wisgi yn ei law a sigarét yn llygru’i gorff. “Blydi hel Gwynfor, pam s’mo ti’n fodlon anghofio am y digwyddiad? Ma’ pawb arall yn y pentre’ wedi gwneud.” “Dynnes di dy drwsus di lawr yng nghanol yr emynau a dechre gweiddi ‘Y gwir yn erbyn y byd, a oes heddwch!?’ Fydd neb yn anghofio am hwna tan bod y byd yn dod i ben creta ti fi. I fod yn onest ‘da ti, fi’n synnu bod dy frawd di heb nhido mas o’r arch mewn cachad a malu ti’n ddarne gw’ boi!” Hen, hen dafarn yr oedd hi. Hen dafarn fach oerllyd, laith a gresynus. Ond, er bod y paent gwyrdd ar y walydd erbyn hyn wedi troi’n rhyw fath o lwyd annaturiol a bod yna ryw wynt atgas o sigaréts yn lledaenu i drwyn pob person o’dd yn cerdded mewn trwy’r drws (drws a oedd erbyn hyn gyda llaw yn cyffelybu drws sgubor, nid drws tafarn) ac ocê falle nid oedd
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
bwyd y gegin wastad yn fwytadwy; roedd yna ryw gymeriad annwyl yn bresennol. I ryw raddau roedd y paent llwyd annaturiol yn symbol o hanes y lle a bod pob pwff o fwg o’r sigaréts yn cario clec comical cwsmer. “Ei, dere ‘mhlan nawr” dwedodd Tecwyn yn ei lais uchel a chras. “Wnes i ‘sgrifennu llythyr at y capel yn ymddiheuro, wnes i ymddiheuro i bawb yn y pentre’ y bore wedyn a ocê ma’n chwaer i dal heb siarad ‘da fi ers ‘ny, ond i fod yn onest ‘dw i byth wedi lico ddi, nawr wnei di plîs anghofio am y peth?!” Fe gymerodd Gwynfor lyncad mawr o’i wisgi er mwyn trual atal ‘i hun rhag chwerthin ar bregeth wirion ei ffrind. Er, o’dd hyn yn digwydd yn ddyddiol felly roedd Gwynfor yn gwbl gyfarwydd â’r drefn. “Paid ti a blydi werthin arno fi! Neu anghofia am y peint nesa’ ‘na!” Yn sydyn, dechreuodd Gwynfor wichian megis mochyn mewn twlc. “Reit, ‘na ‘ny! Fi off! Sai’n mynd i iste fan hyn gyda ti’n werthin ar bopeth fi’n dweud, myn yffarn i!” “Ocê, fi’n sori. Paid â bod mor blincin dramatig er mwyn y mawredd Tec! Eistedda lawr y sledj. Brenda! Rownd arall plîs!” A dyna lle fyddai’r ddau hen ddyn yn eistedd am weddill y prynhawn yn yfed, cweryla a chwerthin tan fod y dafarn yn wag a’r bar yn sych. Ym mhendraw’r dafarn yr oedd Mr a Mrs Ap-Rhisiart o rif naw yn eistedd ar y ford arferol, ar yr amser arferol ac yn siarad am yr hen gachu uwchraddol arferol a oedd yn yla pob person yn y pentref yn wyllt. Fe wnaeth chwerthin parotaidd Mrs Ap-Rhisiart lenwi’r dafarn. “A dyna le oeddwn i yn dweud, “A phob parch Mr Archdderwydd, bardd natur, wrth gwrs, oedd Dafydd ap Gwilym yn bennaf. Y goedlan oedd ei gynefin, yr adar oedd ei gymdeithion. Nid oes modd cymharu ei eiriau angerddol ac awenol gyda’r slwtsh modern hwn y mae dyfodol y genedl yn dysgu yn yr ysgol heddiw.” Y Llwynog, argoledig, nid cerdd o ansawss yw honno Meirion!” “Wel, mi alla i weld dy bwynt di, cariad ond rhaid i ni ystyried bod y byd o hyd yn esblygu megis blodyn yn y gwanwyn. Nid yw’r iaith Gymraeg yr un peth ag yr oedd hi fil a pum cant o flynyddoedd yn ôl, yn anffodus f’annwylyd. Hoffet lased o rywbeth arall, Thelma?” “Prosecco os gweli di’n dda.” “Mi fyddaf yn ôl mewn eiliad.” Yn sydyn reit dyma ‘Ieuan dwy ddafad’ yn bwsto mewn trwy ddrws y dafarn yn canu “Hymns and Arias” ar dop ei lais yn gwisgo baner Cymru wedi ei chlymu rownd ei ganol a dim byd arall. Pe bai hyn yn digwydd mewn unrhyw dafarn gyffredin byddai’r cwsmeriaid wedi rhewi mewn syndod o’r twpsyn ifanc. Ond, wrth gwrs roedd pawb yn y dafarn yn gyfarwydd ag ymddygiad Ieuan dwy ddafad ar ôl gêm rygbi rhyngwladol ac roedd y gweiddi, y noethni, y rhegi a’r hwdu yn ddim byd newydd iddynt. “..hymns and arias! Land of my fathers....!” Yn anffodus i Ieuan dwy ddafad, roedd ei berfformiad wedi cael ei dorri’n fyr wrth iddo syrthio i’r llawr gan wneud bang uffernol a fyddai’n achosi morthwyl i gywilyddio. Ddaeth un sŵn unsain o gwsmeriaid Y Garreg Las, “Wwww!” wrth iddyn nhw edrych ar y ffarmwr ifanc a oedd yn anymwybodol ar lawr y dafarn gyda’r faner o gwmpas ei draed, a’i din o fel lleuad llawn yn goleuo’r dafarn. Syrthiodd distawrwydd o gwmpas y lle ac roedd pob llygaid yn gwylio Ieuan dwy ddafad, ond yna fe gododd Tecwyn a Gwynfor eu gwydrau wisgi i’r awyr a chanu “Ar hyd y nos.” “Pob blydi tro! Rhywun i helpu’r sledj ‘ma lan er mwyn dyn!” Edrychodd Mr a Mrs Ap-Rhisiart o rif naw draw at Ieuan dwy ddafad oedd erbyn hyn yn ceisio cropian ar ei bengliniau draw at y bar. “Dyfodol y genedl,” dwedodd Mr Ap-Rhisiart wrth rolio ei lygaid gwdihŵ. “Duw helpa ni gyd.” “Dere fan ‘yn gw’ boy. Dŵr sy’ ishe.” Cododd Gwynfor y ffarmwr ifanc a gorfodi peint o ddŵr lawr i lwnc e nes ei fod bron â thagu. “’Na fe. By’ ti ‘right as rain’ nawr, fel ma’r Sais yn dweud!” “Www..aww,” oedd unig ateb Ieuan dwy ddafad wrth osod ei ben ar y bar. “Bwced!” “Diolch Brenda, ti fel angel o’r nefoedd!” Paid diolch i mi, ti fydd yn glanhau’r chwd lan, nid fi, Gwynfor!” ac wrth i Brenda orffen ei brawddeg fe ddaeth golwg o atgasedd a gorchuddio wyneb Gwynfor wrth iddo fe edrych ar y bwced bach oren o’i flaen a Ieuan dwy ddafad ar ei dde, oedd erbyn hyn wedi dechrau canu “Gee Ceffyl Bach” yw hunan mewn llais hynod annaturiol o uchel i ddyn.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
“Blydi hel” meddyliodd i’w hunan. “Tecs, edrycha ar ‘i ôl e am funud. Fi’n mynd am bisiad.” “Paid diolch i mi, ti fydd yn glanhau’r chwd lan, nid fi, Gwynfor!” ac wrth i Brenda orffen ei brawddeg fe ddaeth golwg o atgasedd a gorchuddio wyneb Gwynfor wrth iddo fe edrych ar y bwced bach oren o’i flaen a Ieuan dwy ddafad ar ei dde, oedd erbyn hyn wedi dechrau canu “Gee Ceffyl Bach” yw hunan mewn llais hynod annaturiol o uchel i ddyn. “Blydi hel” meddyliodd i’w hunan. “Tecs, edrycha ar ‘i ôl e am funud. Fi’n mynd am bisiad.” “Reitô! Ti’n gweld Ieuan, i ti ffili byw dy fywyd yn mynd mas yn yfed pob awr o bob dydd. S’mo galafantan trwy’r clybie nos ‘ma yn neud lot o les i ti gw’ boi! Ti’n ifanc, ti ddim moyn gwastraffu dy fywyd ar gwrw a’r ‘vodka shots’ ‘yn i chi youngsters i gyd yn yfed. Nid alcohol yw’r ateb!” “Ooo...wghh.” “Fi’n falch bo’ ti’n cytuno ‘da fi Ieuan. Brenda, wisgi arall i fi plîs!” “Sut mae dy gig oen di, cariad?” “Ww! Bendigedig, diolch yn fawr. Beth yw dy farn di am y porc? Odyw e’n plesio?” gofynnodd Thelma yn ei llais parotaidd a chras. “Megis paradwys ar fy nhafod.” “Cymhariaeth ardderchog, Thelma. Os wnei di fy esgusodi am eiliad. Mae angen ‘pit stop’ bach arnaf.” “Pit stop?” “Tŷ bach cariad, tŷ bach.” “A! Wrth gwrs.” Fe wthiodd Meirion yr hen gadair bren o dan y ford a cherdded i gyfeiriad y toiledau wrth adael ei wraig i fwynhau ei phorc. Roedd toiledau’r Garreg Las fel unrhyw doiledau tafarn arferol. Hen deils gwyn o’r saith degau ar y walydd, papur toiled pinc, ffenestr fach a oedd yn gwrthod cau nes achosi i’r lle deimlo fel yr Arctig a rhyw blanhigyn bach trist yn marw yn y gornel. Cerddodd Meirion Ap Rhisiart i mewn i’r toiledau yn dal ei drwyn tra bod Gwynfor yn golchi ei ddwylo. “Aa, siwd i chi Mr Rhisiart?” “Ap Rhisart, diolch yn fawr Mr Hopkins a ddim yn ffôl.” atebodd yn ei lais trwynol. Chwerthin wnaeth Gwynfor wrth edrych ar olwg Mr Ap Rhisiart a oedd dal yn dal ei drwyn. Roedd yr hyn o wallt llwyd a oedd gan Mr Ap Rhisiart wedi ei frwsio i un ochr ei ben heb un blewyn allan o le. Roedd ei sbectol pot jam yn gorchuddio’r rhan fwyaf o’i wyneb crychlyd ac yn neud i’w lygaid edrych mor fawr, roedden nhw’n edrych fel eu bod nhw ar fin ffrwydro! “Falch o gael clywed Mr Rhisiart. O, fyddwn i’n aros dwy funud fach cyn iwso’r tolied ‘na. Fi’n cael bach o drwbl lawr stâr chi’n gweld.” Erbyn hyn roedd Gwynfor yn ceisio pigo’r blew allan o ogof ei drwyn yn y drych ac edrychodd Mr Ap Rhisiart ar ei gymydog gyda golwg sur ar ei wyneb a’i law o hyd ar ei drwyn. Syrthiodd distawrwydd anghyffyrddus ond chwalwyd y distawrwydd hwn yn sydyn wrth i sŵn dorri gwynt uchel saethu ar hyd yr ystafell. “Mr Hopkins! Rhag eich cywilydd chi!” “Dim fi o’dd hwnna y sledj!” “Ydych chi’n awgrymu mai myfi sydd yn gyfrifol am y rhyddhad o nwy?” “Rhyddhad o nwy.... beth sy’n bod arno ti’r mwlsyn? Cnecu i ni pobl normal yn gweud!” Yn sydyn reit dyma sŵn annisgwyl yn dod o’r tŷ bach ar y diwedd, sŵn na fyddai neb yn disgwyl ei glywed wrth gweryla yn nhoiledau’r dafarn leol. Roedd y dafarn yn dawel. Cysgu’n sownd oedd Ieuan dwy ddafad ac roedd Tecwyn erbyn hyn ar ei seithfed gwydryn o wisgi. Roedd Brenda yn gosod mwy o blatiau ar y fordydd a phoeni oedd Mrs Ap Rhisiart bod bwyd ei gŵr yn mynd i oeri os nad oedd e am ddychwelyd yn y munudau nesaf. Ond yn sydyn reit...“ER MWYN DYN!” Dyma Gwynfor a Mr Ap Rhisiart yn carlamu’n wyllt drwy ddrws toiledau’r dynon mewn panig llwyr gyda dafad yn rhedeg ar ei hôl. Dringodd Gwynfor draw i ochr arall y bar a neidiodd Mr Ap Rhisiart uwchben y ford agosaf yn sgrechain megis banshi. “O mami, helpa fi! Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, sanc...” “Nid nawr yw’r amser i weddïo Meirion, myn yffarn i!” gweiddodd Gwynfor wrth iddo fe guddio tu cefn i’r bar yn chwysu stêcs. Fe wnaeth ffrwydrad o wherthin llanw bar y Garreg wrth i Gwynfor a Brenda bron marw yn chwerthin ar ymateb y ddau ddyn. “Chi ofan defaid ne’ beth bois?” gofynnodd
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Brenda yn sychu’r dagrau o’i llygaid. Edrychodd Gwynfor a Mr Ap Rhisiart yn siomedig ar ei gilydd a gostwng eu pennau ac fe ddechreuodd y chwerthin unwaith eto. “Rhag eich cywilydd chi, gyfeillion! Mae fy Meirion bach i o hyd wedi bod yn sensitif am ddefaid. Dere lawr cariad, ma’ fe’n ddiogel draw ar bwys y ford.” “Thelma, fi ddim yn rhoi fy nhraed i ar y llawr ‘na nes fod yr anifail wedi mynd!” “Beth sy’n bod arnoch chi bois?” dwedodd Brenda wrth iddi hi gerdded draw at y ddafad oedd yn cuddio o dan un o’r fordydd. “Chi ‘di rhoi ofan iddi hi, pwr dab. Meirion dere lawr o’r blydi ford ‘na cyn i ti gw’mpo off” “Na... fi’n aros! Anifail y diafol yw hwnna Brenda!” Erbyn hyn roedd popeth wedi mynd ychydig yn wyllt yn nhafarn Y Garreg Las. Roedd Gwynfor yn gwrthod dod allan o du cefn y bar ac roedd Brenda yn ceisio cael y ddafad i ddod allan o’i chudfan dan y ford gyda phecyn o greision ‘Walkers Prawn Cocktail.’ Roedd Mr Ap Rhisiart yn dal i ddweud ‘Gweddi’r Arglwydd’ uwchben y ford a gweiddi oedd Mrs Ap Rhisiart oherwydd bod ei gŵr hi yn gwrthod dod lawr. Roedd Tecwyn yn chwerthin siwd gymaint roedd e’n dechrau gwichian megis mochyn a chysgu fel babi oedd Ieuan dwy ddafad, yn hollol anymwybodol o’r holl wallgofrwydd oedd yn digwydd o’i amgylch. “Pam ma’ siwd gymaint o ofan ‘da chi o’r ddafad te bois?” gofynnodd Gwynfor wrth geisio atal ei hunan rhag chwerthin. “Digwyddiad ysgol Sul oedd e,” atebodd Mrs Ap Rhisiart wrth iddi hi roi’r gorau i geisio perswadio Meirion i ddod bant o’r ford ac eistedd wrth ymyl Tecwyn. “Nôl yn 1946 roedd y ddau ohonyn nhw yn chwarae bugeiliaid yn y cyngerdd Nadolig yn y Tabernacl a syniad y pregethwr oedd cael dafad go iawn er mwyn cyfleu’r stabl. Nawr, cyfrifoldeb Meiron a Gwynfor oedd dod a’r ddafad yma i’r llwyfan, gan mai nhw oedd y bugeiliaid, wrth gwrs. Ond yn anffodus, fi’n credu fe wnaeth y ddafad gael tipyn bach o “stage fright” , fel mae’r actorion yn dweud, ac fe aeth hi’n wyllt a...” “Paid ti â dweud!” gweiddodd Mr Ap Rhisiart a Gwynfor mewn un llais dwfn. “ a chico Gwynfor yn y... yn yr ardal lawr grisiau a chnoi pen ôl Meirion.” “Thelma!” gweiddod Meirion gyda golwg drist ar ei wyneb a’i law ar ei ben ôl. Unwaith eto ddechreuodd Gwynfor wichian yn wyllt gyda’r dagrau yn llifo lawr ochr ei wyneb. “S’mo fe’n ffyni! Ti erio’d wedi cael dafad yn cico ti lawr fanna!? ... Tec! ... Stopa wherthin er mwyn dyn!” “Sori... sori... Ond Gwyn, ma’ hwn yn gomedi gold!” a dyna pryd cafodd Gwynfor afael mewn llond llaw o gnau oedd yn eistedd ar y bar a’u taflu nhw yn syth at gyfeiriad Tecwyn. “Ei!” gweiddodd Brenda, a’i llais yn trywanu trwy’r atmosffer. “Stopiwch ymddwyn fel plant a helpwch fi ‘da’r ddafad ‘yn ‘newch chi?!” “Lladdwch hi!” gweiddodd Gwynfor. “Paid bod yn dafft” ymatebodd Brenda. “Ni ffili lladd hi, ma’ ddi’n perthyn i rywun!” “Wel dydyn nhw amlwg ddim moyn hi o’s o nhw ‘di gadael hi yn y toiledau Brenda. Lladda hi, wneiff hi gino dydd Sul arbennig!” “Ma’ hwnna’n gwd showt i fod yn onest ‘da ti, Bren. I fi a Gwynfor lico bach o gig oen ar ddydd Sul.” “Fi ddim yn lladd hi Tecwyn.” “S’dim rhaid i ti gael unrhyw beth i neud ‘da fe. Rho ddi i fi a wnâi neud e yn y shed yng nghefn yr ardd. Dim ond bo’ fi’n glanhau’r mess lan cyn bo’ Wendy fi’n dod gatre bydd neb yn gwybod.” “Dim siawns!” atebodd Brenda. “Fy nhafarn i yw hi, a fi yw’r un sy’n penderfynu beth i ni’n neud.” Fe ddringodd Gwynfor i dop y bar ac eistedd wrth osod ei draed ar stôl. “Ond... fi yw’r un ‘nath ffindo’r ddafad ac felly’r peth mwya’ teg i neud yw gadael i fi ddewis beth i ni’n neud ‘da hi. Nawr te, beth i fi’n awgrymu yw ein bod ni’n lladd y mwlsyn, ei choginio hi ac wedyn joio cino dy’ Sul lyfli gyda’n gilydd!” “Yn gytûn!” cyhoeddodd Tecwyn, wrth godi ei wythfed gwydryn o wisgi. “Arhoswch eiliad,” dywedodd Mr Ap Rhisiart gyda’i lais a’i benliniau yn crynu wrth iddo fe osod ei draed ar y llawr a cherdded yn araf tuag at y bar. “Gan taw myfi yw darganfyddwr yr anifail, yn sicr fy nghyfrifoldeb i yw penderfynu ei thynged.” “Paid a wilia siwt ddwli wnei di, fi welodd hi gynta a fi sy’n cael dewis be’ ni’n neud ‘da ddi. Ni’n lladd y peth, ‘na’r diwedd!”
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
“A’i lladd hi yw’r penderfyniad gorau Mr Hopkins ond nid ei bwyta ond ei stwffio hi. Wneiff hi addurn hyfryd ar wal y parlwr. Wyt ti’n gytun, Thelma?” “Os i ti’n credu fy mod i am ganiatáu i ti ladd anifail a’i osod ar wal y parlwr...” “Ooh, pam lai cariad?” “Chi’n gwybod beth sydd angen yn y parlwr yw ryg croen dafad newydd...” “Beth ar y ddaear sy’n bod ‘da chi gyd!?” bloeddiodd Brenda. “Coginio, stwffio, blydi ryg croen dafad ar gyfer y parlwr!” Edrychodd pawb ar ei gilydd a phob un yn ofn ateb. “Pwy sy’ moen wisgi !?” gofynnodd Tecwyn yn ceisio ysgafnhau tensiwn yr ystafell. “Dim nawr Tecwyn!” atebodd pawb arall. “Dim ond trial ‘elpu i fi bobl.” “A dim ond ishe pisho o’n i! Blydi dafad,” dywedodd Gwynfor. Eisteddodd y criw yn dawel, pob un yn edrych ar y ddafad oedd dal i guddio o dan y ford. Ymhen eiliad neu ddwy, dechreuodd Ieuan dwy ddafad ddihuno o’i gwsg drwm. Roedd ei lygaid yn groes a’i ben yn chwyrlio o gwmpas yr ystafell. Edrychodd y ffarmwr meddw draw at Tecwyn oedd yn ceisio taflu cnau i’r awyr a’i dal nhw yn ei geg er mwyn lladd amser. Roedd Gwynfor yn eistedd ar y bar gyda’i ben yn pwyso ar ei ddwylo yn llygadrythu i’r awyr ac roedd Mr Ap Rhisiart yn eistedd yn y gornel yn ymarfer ei “yoga” er mwyn ceisio llacio ei hun ac ymlacio. Gwnio oedd Mrs Ap Rhisiart yn y gornel ac wrth i Ieuan dwy ddafad droi ei ben i ochr arall yr ystafell fe wnaeth e sylwi ar Brenda yn gorwedd ar y llawr yn dal pecyn o greision ac yn cael sgwrs gyda dafad. Roedd Ieuan wedi drysu’n llwyr. Ond, fe gododd ei ben wrth iddo sylweddoli mai un o’i ddefaid ef yr oedd Brenda yn siarad gyda. “Neli?” gofynnodd Ieuan wrth godi o’r stôl. “Baa,” atebodd y ddafad ac yn sydyn reit dyma hi’n dychwelyd o o dan y ford a rhedeg tuag at freichiau Ieuan oedd yn aros amdani hi ar lawr y dafarn. “Beth i ti’n neud fan ‘yn Neli Weli Pws?” Trodd Gwynfor tuag at Tecwyn a sibrwd, “Neli Weli Pws?” Cododd Tecwyn ei ysgwyddau. “Fi’n beio’r alcohol. Ma’ fe ‘di bod yn ymddwyn bach yn od yn diweddar.” Edrychodd y ddau hen ddyn i lawr ar Ieuan oedd wedi dechrau cosi bola ‘Neli Weli Pws.’ “Yn ddiweddar, myn yffarn i! Ma’ fe ‘di bod yn od erio’d!” “Pwy sy’n caru dadi? Ti’n caru dadi! Ie!” “Wel diolch i Dduw bo’ ti ‘ma Ieu,” dwedodd Brenda wrth iddi hi fwyta un o’i chreision, “o’dd y nyters ‘yn i gyd bythdi lladd honna!” “Eh?!” atebodd Ieuan dwy ddafad mewn fflwstwr wrth iddo fe ddal Neli’r ddafad yn agosach ato’i hunan. “O dim ond syniad o’dd e Brenda!” protestiodd Gwynfor “Be’ ti’n feddwl ‘syniad?’ O ni’n disgwyl ‘mla’n at y cino dy’ Sul ‘yn!” Edrychodd Ieuan dwy ddafad i fyny ar Tecwyn, “Cino dy’ Sul?!” “Wel...” ond dorrodd Brenda ar draws cyn i Tecwyn weud rhywbeth hollol anaddas a fyddai’n achosi Ieuan dwy ddafad i ffwdanu. “Ca’ dy ben nawr Tecs, s’dim ishe ypseto neb.” “Ypseto...!? Dylse ti ddim gadael dy ddefaid yn y blydi toiledau. Ieuan!” “Dyna bwynt teg, Tecwyn,” dwedodd Mrs Ap Rhisiart, “Ie...” ategodd Gwynfor wrth sefyll. “Pam nes ‘di adael Neli yn y toliedau?” “Be, chi’n fy meio i? Fel ar y ddaear i fi fod gw’bod?” “Achos dy ddafad di yw hi, Ieuan!” gweiddod pawb mewn un tôn ddiamynedd. “Chi’n gwybod be.” Cododd Ieuan i’w draed. “Fi’n ffed yp o chi lot. Chi gyd yn meddwl bo’ fi’n od, ond i chi’ ‘di edrych ar eich huna’n? Ma’ Tecwyn yn pissed, ma’ Brenda ‘di trial bwydo crisps ‘Prawn Cocktail’ i ddafad, ma’ Mrs Ap Rhisiart yn gwnio fel rhyw fath o seicopath yn y gornel a ma’ Mr Ap Rhisiart yn neud yoga! Blydi hel bobl.” “S’dim byd yn bod gyda tipyn o yoga fy machgen i!” atebodd Mr Ap Rhisiart. “Na gwnio chwaith diolch yn fawr.” “Na bod yn pissed!” Yn sydyn dyma cweryla aruthrol yn dechrau ymhlith y chwech ohonyn nhw. Roedd yna sgrechain, roedd yna rhegi, dechreuodd Gwynfor i daflu cnau eto a ddechreuodd Mr Ap Rhisiart i weddïo eto. “Pawb i gwlo lawr!” fe wnaeth Brenda hawlio. “Beth am i ni adael y ddafad...”
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
“Neli!” fe wnaeth Ieuan dwy ddafad dorri ar draws. “Sori, Neli. Beth am i ni adael i Neli wneud y penderfyniad?” “Achos taw dafad yw hi y sledj!” “Ceua dy geg Gwynfor!” Erbyn hyn roedd llygaid pawb ar Brenda. “Os wasgarwn ni ar draws yr ystafell a wedyn pwy bynnag ma’ Neli yn cerdded draw at gynta, yw pwy bynnag sy’n cael dewis beth i ni’n neud ‘da ddi. Digon teg?” “Hmm...ie...ocê.” atebodd pawb. “Reitô! Ti’n hapus ‘da hwnna Neli?” Edrychodd y chwech ohonyn lawr i’r llawr. Roedd Neli wedi mynd. Agorodd llygaid pawb mewn panig. “Pwy bynnag sy’n cael gafa’l arno ddi gynta sy’n cael cadw ddi!” gyhoeddodd Gwynfor yn ei bwysigrwydd pregethwrol. Fe wasgarodd pawb yn sydyn, pawb yn edrych o dan fordydd, yn cropian ar y llawr “Neli? Neli Weli Pws?” oedd pawb yn gofyn. “O mawredd mawr!” gweiddodd Themla Ap Rhisiart yn uchel a chras wrth iddi hi bwyntio tu allan i’r drws lle roedd Neli yn rhedeg ar draws yr heol fawr. “Achubwch hi!” oedd ymateb Ieuan dwy ddafad wrth edrych ar ei ddafad oedd erbyn hyn yn carlamu i uwchben y mynydd. Trodd Tecwyn o gwmpas at Gwynfor “Jiw, bydd bendant ishe wisgi arall arno fi ar ôl hyn.” “Dim ond moyn pisho o ni!” A dyna lle aeth y criw o’r dafarn i fyny’r mynydd yn rhedeg ar ôl Neli’r ddafad. Pwy â ŵyr beth oedd ei thynged hi yn y diwedd ond oedd un peth yn sicr, roedd hi wedi bod yn ddiwrnod dydd Sul o gyffro yn nhafarn Y Garreg Las a pawb wedi cwrdd a ffrind newydd. Brechdan Onion Bhaji
3.2 Cerdd - ‘Cartref’ Beirniad: FELICITY ROBERTS 1. DYSGWR : Nur Ariffin - Prifysgol Aberystwyth 2. GUTO : Katie Hope - Prifysgol Aberystywth 3. : Dianne Louise Elliot—Prifysgol Aberystwyth CARTREF ‘NEF YW FY NGHARTREF’ Yn y tir hwn o ddraig goch, Gwlad y castell, Ac arfordir hardd, Rwy’n dod o hyd i adref, Cariad Ac yn syrthio mewn cariad. Efallai y byddaf yn gadael un diwrnod, ond mae Cymru.. Bydd am byth yn fy nghalon.. Achos, Dyma lle gwnes i syrthio mewn cariad Gyda ti, A cartref yw lle bynnag wyt ti.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
3.3 Dyddiadur neu ymson - eich gwers Gymraeg gyntaf neu brofiad tebyg o ddefnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus am y tro cyntaf. Beirniad: Felicity Roberts 1. REBECCA KING: Tara Knight - Prifysgol Aberystwyth 2. 3.
3.4 Cerdyn post - at nain/taid/mam-gu/tad-cu yn sôn am eich tymor cyntaf yn y brifysgol. Beirniad: Marged Haycock 1. Jennie - Prifysgol Bangor 2. Megan - Prifysgol Bangor 3. REBECCA KING: TARA KNIGHT —Prifysgol Aberystwyth CERDYN POST I MAM-GU/TAD-CU NAIN/TAID YN SÔN AM EICH TYMOR CYNTAF YN Y BRIFYSGOL Annwyl Mamgu a Tadcu! Sut y’ch chi? Sut ma’ Twm y gath?! Mae Mam wedi son eich bod wedi bod yn holi amdanai – peidiwch a phoeni, rwy’n cal modd i fyw yma ym Mangor! Mae’r tymor cyntaf yma wedi hedfan heibio! Dechreues i’r tymor braidd yn wyliadwrus, gan fy mod mewn Neuadd uniaith Gymraeg - roedd clywed ‘iaith y nefoedd’ ymhob twll a chornel yn sioc ir system! Acen y de, acen y canolbarth, acen y Gogledd – roedd fy nghlustiau ar chwal! Roedd siarad Cymraeg bob dydd yn gwthio fy nghallu ieithyddol ir eithaf ond buan iawn death y helynt yn hapusrwydd – rwyf wir yn mwynhau defnyddio’r iaith mewn bywyd bob dydd! Rwyf yn byw mewn fflat gyda tair merch or flwyddyn gyntaf a pedwar bachgen or ail flwyddyn ac rwyf yn ffrindiau da gyda bob un ohonynt erbyn hyn. Mae Bethany, Carys a Tiffany yn dod or De ac yn ddysgwyr profiadol tra mae’r bechgyn yr ail, Dion, Ifan, Einion a Guto yn siaradwyr iaith gyntaf. Mae’r neuadd yn enfawr ac mae’n rhaid imi fynd fyny yn y liffd bob dydd gan ein bod ar yr wythfed llawr (Na Taid, dydwi ddim yn bod yn ddiog!!!).
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Mae’n rhaid imi gyfaddau, dwi’n methu bwyd adref ac eich bwyd chi Nain!! Mae cynllunio beth fi am fwyta trwy’r wythnos, a mynd I siopa yn Morrisons bob Nos Sul yn llawer iawn o hwyl cyn gweld mor ddrud yw’r eitemau a cofio cyn lleied o arian sydd yn y banc..!(Diolch am yr arian Nadolig unwaith eto gydag llaw!). Mae glanhawyr y Neuadd yn garedig iawn ac yn helpu I olchi’r llestri os bydd rhai heb eu golchi ar y byrddau – felly peidiwch a poeni Nain, mae’r gegin mewn stad dda iawn! Rwyf gyda amserlen llawn iawn ac yn mwynhau’r cwrs hyd yn hyn. Rwyf wedi dewis sawl modiwl gwahanol ac yn hoff iawn or modiwl ‘Gramadeg’ ar hyn o bryd. Mae’r Prifysgol yn cynnig lot fawr iawn o fodiwlau, ac mae tua hanner cant o ni’n mynychu’r darlithoedd yma! Mae gennym un ffrind sy’n ddysgwr Cymraeg o Efrog Newydd – ac yn wir, mae ei iaith ysgrifennu yn fwy cywir na rhai or darlithwyr!! Fyddai well i mi fynd, mae’r fish fingers yn y ffwrn ac bydd rhaid i mi fynd i’r gawod cyn mynd am dro lawr i’r Glob heno i ganu yn noson Meic Agored! Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn, Welai chi penwythnos Pasg! Jennie x Jennie
MEDAL Y DYSGWYR - Rhys Dilwyn Jenkins, Prifysgol Bangor BEIRNIADAETH MEDAL Y DYSGWYR: Caiff Medal y Dysgwyr eleni ei roi i’r cystadleuydd mwyaf addawol o holl gystadlaethau’r dysgwyr. Roedd y beirniad, Felicity Roberts, yn dweud bod Rhys Dilwyn Jenkins yn llawn haeddu’r fedal, a hynny am ei stori fer. Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr, roedd safon ardderchog i’r holl waith eleni, daliwch ati!
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Celf a Ffotograffiaeth 4.1 Y Fedal Gelf - ‘Rhyddid’ Beirniad: GWENAN GRIFFITHS 1. Lleucu Lynch- Prifysgol Aberystwyth 2. Lleucu Lynch - Prifysgol Aberystwyth 3. Ceri Arianwen - Prifysgol Aberystwyth Elain Morris - Prifysgol Aberystwyth BEIRNIADAETH Y FEDAL GELF: Y beirniad eleni oedd Gwenan Griffith o Dudweiliog, Pen Llŷn. Nodai’r Beirniaid fod nifer o weithiau safonol wedi cyrraedd y brig, ond bod nifer sylweddol o waith ansafonol wedi dod o Brifysgolion Aberystwyth a Bangor. Fodd bynnag, roedd rhai gweithiau yn sefyll allan, yn enwedig gwaith yr unigolyn buddugol. Gosododd y beirniad waith Lleucu yn gyntaf gan ei bod yn hoffi’r cyfrwng a ddefnyddiwyd yn ogystal â’r deunydd a’r gwrthrychau yn y gwaith. Mae Lleucu yn llawn haeddu’r wobr gyntaf, a chanmoliaeth uchel i’r rhai a ddaeth yn ail a thrydydd yn y gystadleuaeth eleni.
Enillydd y Fedal Gelf: Lleucu Lynch (Aberystwyth)
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
‘Rhyddid’ gan Lleucu Lynch o Brifysgol Aberystwyth
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
4.2 Ffotograffiaeth: Casgliad o 4 o luniau ar y thema ‘Ffenestr’ Beirniad: MANON DAFYDD 1. ELAIN: Prifysgol Bangor 2. MAIR: Elen Mair Williams - Prifysgol Aberystwyth 3. Meleri Jones - Prifysgol Bangor BROADWAY - Prifysgol Bangor
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Drama 5.1 Y FEDAL DDRAMA - Drama dwy act na chymerir mwy na 30 munud i’w pherfformio. Beirniad: Matthew Jones 1. SCIENCE: Alaw Gwyn - Prifysgol Aberystwyth 2. WIL CWAC CWAC: Megan Haf- Prifysgol Caerdydd 3. Y GEM: Dion Davies - Prifysgol Bangor Dyma oedd gan y Beirniad, Mattew Woodfall-Jones ei ddweud:
Diolch am yr holl ddramâu a gyflwynwyd, bron 20, gydag amrywiaeth mewn arddull o sgript teledu, monologau a dramâu llwyfan. Dwi wedi mwynhau eu darllen yn fawr iawn. Mae pob drama yn dangos cymeriadau cryf a dealltwriaeth, ac i raddau amrywiol, y crefft o ddweud stori. Roedd yna dueddiad gydag ychydig o'r dramâu, i ddechrau yn clir ac yn punchy, dim ond i golli synnwyr o'i ffurf, ac yn y pen draw, colli effaith. Mae yna enillydd. Safodd un ddrama mas am ei bod hi'n hyderus, yn fanwl ac yn sianelu gwaith mawrion y theatr Gymraeg fel Wil Sam. Edrychaf ymlaen at weld y ddrama'n cael ei pherfformio gan ddau actor/ actores rhywbryd, efallai gan y Theatr Genedlaethol. Llongyfarchiadau Science â’i drama 'Dau Glown yn Siarad Shit'.
Enillydd y Fedal Ddrama: Alaw Gwyn (Aberystwyth)
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Adran Gerdd 6.1 Tlws y cerddor: Cyfansoddi darn a fyddai’n addas i’w phermormio’n fyw ar lwyfan. Caiff fod ar gyfer grŵp lleisiol neu grŵp offerynnol. Rhaid iddo gymeryd mwy na 3 munud i’w berfformio.
Beirniad: BETHAN ANTUR 1. Siwan: Siwan Tudur - Prifysgol Bangor 2. Rebekah Rebekah Wilkes - Prifysgol Bangor Melyn: - Prifysgol Bangor 3. Y LLIF: Manon Elwyn - Prifysgol Bangor Roedd yn fraint cael gwrando a gwerthfawrogi ymron i 50 o gyfansoddiadau a ddaeth i law. Fodd bynnag, er mwyn atal cur pen i feirniad y flwyddyn nesaf!, sicrhewch bod enw’r trac a’r darn yr un fath bob amser, labelu yn glir. Hon yw y Brif gystadleuaeth cyfansoddi , felly awgrymaf eich bod yn dewis yn ofalus pa ddarnau i’w cyflwyno o’ch portffolio– er mwyn sicrhau safon cyson uchel. Cafwyd sawl genre o ddarnau - ond yn ddiddorol, y rhan fwyaf ohonynt ar gyfer offerynnau. Roedd yn braf gweld ambell osodiad o eiriau – er y byddwn wedi croesawu clywed mwy o ddarnau lleisiol, a darnau cytseiniol hefyd . Gall rhaglen gyfansoddi Sibelius fod yn felltith yn ogystal â bendith, hynny yw mae’n hanfodol eich bod yn “deall” eich cyfrwng ee os yn cyfansoddi ar gyfer offeryn – eich bod yn dewis nodau o fewn ystod/cwmpawd yr offeryn, neu os yn gofyn i ffidil chwarae dau nodyn – sicrhewch ei fod yn bosibl. Hefyd – os ydych yn cynnwys offeryn yn y sgor – gwnewch yn siwr fod ganddo nodau i’w chwarae – diflas iawn i berfformiwr yw eistedd trwy ddarn cyfan – heb chwarae yr un nodyn! Hynny yw – dylech olygu eich gwaith yn drylwyr. Mae’r darnau a roddwyd yn yr ail ddosbarth yno oherwydd nad oeddynt yn gyson eu safon; heb ddatblygu themau yn ddigonol, ac heb fod yn ddigon mentrus yn yr harmoniau a’r dilynianau, a thechnegau cyfansoddi. Ond peidiwch digalonni – mae addewid ymhob un o’r darnau. Gosodais y canlynol yn y dosbarth cyntaf. Dim Ffug Enw - “Hwyaden Hyll” –Darn digywair swmpus, hynod gyffrous ar gyfer naw offeryn gyda defnydd diddorol o dechneg offerynnol ee y trombone. Mewn darn digywair – rhaid I bob nodyn haeddu ei le. Bydd hwn yn ddarn ardderchog o’i olygu, a dylid anelu i gael thema /motif sydd yn amlygu ei hun. Mae’r gwead yn drwchus iawn ar adegau ac o ganlyniad mae’r darn yn tueddu I golli ei ffordd.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Ffug Enw: Gweno 1 – “Cân ar gyfer Sioe Gerdd”. Unawd lleisol, corws a chyfeiliant. Y brif alaw a’r corfannu yn hyfryd, a’r darn gan fwyaf yn homoffonig a’r harmoniau yn swynol. Hoffais y naws emynaidd ar y cychwyn – er gofalwch nad yw yn “swnio’n” gyfarwydd. Efallai y byddai modd cynnwys mwy o adrannau polyffonig a harmoniau mwy mentrus ar adegau. Edrychwch hefyd ar amrywio’r gwead gan anelu i gael gwead trwchus ar yr uchafbwynt bob amser. Dim Ffug Enw - “Brassonacci” Darn digywair ar gyfer pumawd pres. Mae yn ddarn gweddol fyr ar hyn o bryd – gyda’r gwead yn weddol denau gan fwyaf . Mae potensial I’r darn hwn fod yn wirioneddol arbennig –os datblygir y darn yn hirach – gan amrywio gwead a datblygu motifau penodol. Hoffais wreiddioldeb y darn. Dim Ffug Enw - “Mayhem” - Darn digywair ar gyfer ffliwt, obo, clarinet a baswn. Mae yma rai adrannau cyffrous – a chyferbynnu syniadau – ond bod rhai adrannau megis bar 22 – 33 ddim yn cydweddu â gweddill y darn. O’I fireinio bydd hwn yn ddarn arbennig. Motifau arbennig o grefftus mewn rhannau yma. Ffug Enw: Piano – “Y Llif” – darn ar gyfer y piano mewn amser 6/4. Roedd y darn hwn wedi apelio o’r gwrandawiad cyntaf. Roedd y cyferbyniadau rhwng yr adrannau cordiol trwm a’r hanner cwaferi yn drawiadol a’r darn yn adeiladu yn gelfydd. Efallai y byddai yn medru bod ychydig yn fwy swmpus ar gyfer y brif gystadleuaeth gyfansoddi. Dim Ffug Enw - “Octarything” - Darn a siap arbennig o dda iddo – eto yn ddigywair – ond roedd pob nodyn yn haeddu ei le. Hoffais yn arbennig y ffordd yr oedd yr adran Moderato yn dychwelyd fel cwlwm rhwng y gwahanol adrannau. Efallai y byddai modd amrywio ychydig ar y rhythm neu’r motifau wrth ail gyflwyno bob tro er mwyn cadw’r gwrandawr I ddyfalu, ond darn oedd yn gyffrous iawn serch hynny. Ffug Enw – Melyn “Cerddoriaeth y Nos” Dyma ddarn oedd yn llwyddo i gyfleu ei deitl yn arbennig o dda, ar gyfer ffliwt, telyn a fiola. Roedd pob nodyn wedi haeddu ei le, ac eithrio y ddau far cyntaf. Wedi dweud hynny, dyma ddarn oedd yn dangos sgiliau a thechnegau crefftus a gwreiddioldeb syniadau, gan adeiladu i uchafbwynt arbennig. Dim Ffug Enw - “Ofnau Cudd” – Darn ar gyfer pedwarawd llinynnol.Dyma ddarn a apeliodd o’r gwrandawiad cyntaf. Mae’r dechneg a’r ddealltwriaeth offerynnol yn saff (er gwiriwch bod modd i’r ffidil a’r fiola chwarae y tagiadau dwbl ar y dechrau), a defnydd da o arco a pizz yn cyfoethogi’r darn. Roedd y defnydd o dripledi a chroesacennu rhythmic yn effeithiol iawn a’r cyfan yn adeiladu yn gyfanwaith medrus. Llongyfarchiadau i bob un ohonoch a fu wrthi yn cyfansoddi – a daliwch ati i gyfansoddi a chystadlu.
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Canlyniadau: Llwyfan Aberystwyth Bangor Caerdydd
249 272 86
Gwaith Cartref Aberystwyth
1167
Bangor
1035
Caerdydd
113
Abertawe
10
Caerfyrddin
6
Chwaraeon Aberystwyth
30
Bangor
15
Caerdydd
10
Terfynol Aberystwyth
1446
Bangor
1312
Caerdydd
209
Abertawe
10
Caerfyrddin
6
Buddugwyr y Prif gystadlaethau llwyfan: Y Gadair – Marged Tudur, Prifysgol Aberystwyth Y Goron – Mared Roberts, Prifysgol Caerdydd Y Fedal Ddrama – Alaw Gwyn, Prifysgol Aberystwyth Y Fedal Gelf – Lleucu Lynch, Prifysgol Aberystwyth Medal y Dysgwyr – Rhys Dilwyn Jenkins, Prifysgol Bangor Tlws y Cerddor – Siwan Tudur, Prifysgol Bangor Côr SATB – Prifysgol Aberystwyth Y Rhuban Glas Offerynnol – Gethin Griffiths, Prifysgol Bangor Y Rhuban Glas Lleisiol – Ifan Wyn Hughes, Prifysgol Bangor
Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015
Rhai o luniau o Brifysgol Aberystwyth yn dathlu eu buddugoliaeth yn Eisteddfod Ryng-golegol 2015.