Gall llid yr ymennydd effeithio ar unrhyw un
Gall adnabod yr arwyddion a’r symptomau achub bywydau Gall llid yr ymennydd effeithio ar unrhyw un
Gall llid yr ymennydd daro’n gyflym a gall ladd o fewn oriau – gall ei effaith barhau am oes. Babanod a phlant ifanc sydd mewn perygl fwyaf, gyda thua hanner yr achosion yn digwydd ymysg plant o dan 5 oed. Mae’r perygl yn cynyddu eto ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc a hefyd ymysg pobl dros 55 oed. Er gwaetha’r ffaith fod brechlynnau ar gael ar gyfer rhai mathau o lid yr ymennydd, mae miloedd o achosion yn y DU bob blwyddyn o hyd.
Mae adnabod yr arwyddion a’r symptomaui edrych amdanynt a’r camau i’w cymryd yn achub bywydau. Beth yw llid yr ymennydd? Llid ar y bilen sy’n gorchuddio ac yn amddiffyn yr ymennydd a llinyn y cefn yw llid yr ymennydd. Gall sawl math gwahanol o organeb achosi llid yr ymennydd, ond feirysau a bacteria yw’r rhai mwyaf cyffredin. Mae llid yr ymennydd feirysol yn gallu gwneud pobl yn sâl iawn ond anaml y mae’n rhoi bywyd yn y fantol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael adferiad da, ond gall y dioddefwyr ddioddef ôl-effeithiau fel cur pen, blinder a cholli cof. Mae llid yr ymennydd bacterol yn gallu lladd, felly mae sylw meddygol brys yn hanfodol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael adferiad da, ond mae llawer yn dioddef ôl-effeithiau gwanychol fel byddardod, niwed i’r ymennydd a, phan fydd septisemia’n digwydd, colli aelodau’r corff. Septisemia meningocaidd Bacteria meningococaidd yw’r achos mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd bacterol yn y DU. Gallant achosi llid yr ymennydd a septisemia (gwenwyno’r gwaed), y mae pobl yn aml yn eu cael gyda’i gilydd. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r holl arwyddion a’r symptomau. Y frech Gall pobl â septisemia ddatblygu brech o ‘bigiadau pin’ coch bychain a all ddatblygu yn gleisiau porffor. NID YW’R FRECH HON YN PYLU O DAN BWYSAU. GWNEWCH Y PRAWF GWYDR Pwyswch ochr gwydr clir yn gadarn yn erbyn y croen Gall smotiau/brech bylu i ddechrau Parhewch i wneud y prawf • Mae twymyn gyda smotiau/brech nad yw’n pylu o dan bwysau yn ARGYFWNG MEDDYGOL
Byddwch yn ymwybodol Mae llid yr ymennydd a septisemia yn digwydd gyda’i gilydd yn aml. Byddwch yn ymwybodol o’r holl arwyddion a’r symptomau. Gall symptomau ymddangos mewn unrhyw drefn. Efallai na fydd rhai yn ymddangos o gwbl. Gall y symptomau cynnar gynnwys:
twymyn
cur pen
chwydu
poen yn y cyhyrau twymyn gyda dwylo a thraed oer Gall rhywun gyda llid yr ymennydd neu septisemia waethygu’n gyflym iawn. Cadwch olwg arnynt.
Defnyddiwch eich greddf – ewch i gael cymorth meddygol ar unwaith Os ydych yn poeni y gallai fod yn lid yr ymennydd neu’n septisemia, gallwch: Ffonio Galw Iechyd Cymru 0845 4647 neu eich meddyg teulu Mewn argyfwng gallwch:
• Ddeialu 999 am ambiwlans
• Mynd i’ch adran ddamweiniau ac achosion brys agosaf
• PEIDIWCH AROS AM FRECH, os yw rhywun yn sâl ac yn gwaethygu, ewch i gael cymorth meddygol ar unwaith
Disgrifiwch y symptomau a dywedwch eich bod yn credu y gallai fod yn lid yr ymennydd neu’n septisemia.
• AR GROEN TYWYLL gall y smotiau/brech fod yn fwy anodd i’w gweld. Peidiwch aros am frech. Byddwch yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau.
Gall fod yn anodd rhoi diagnosis cynnar. Os ydych wedi cael cyngor a’ch bod yn dal yn bryderus, ewch i gael cymorth meddygol eto.