Adroddiad Blynyddol 2023-24

Page 2


Cynnwys

Y llynedd, gallaf ddweud gyda

balchder mawr bod 50,000 o bobl wedi elwa o ddatblygiadau arloesol ym maes iechyd yr oedd ein sefydliad yn rhan ohonynt.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, yng Nghymru ac yn mhob man arall. Mae’r galw cynyddol a’r pwysau ar gostau wedi arwain at heriau yn y system ac mae’r gwasanaeth yn brysurach nag erioed.

Gyda gwasanaeth o dan bwysau o’r fath, rydym ni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn teimlo bod ein pwrpas yn gryfach nag erioed. Rydym yma i helpu i sbarduno cynnydd drwy sicrhau bod arloesiadau ysbrydoledig yn y gwyddorau bywyd yn cael eu defnyddio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol Mae’n fraint ac mae’n cymell ein tîm i gefnogi gwelliannau i’r systemau hyn, gan ddod â manteision newydd i gleifion yn y pen draw.

Mynd i’r Afael â Chanser yng Nghymru

Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd gweld dros ddwy flynedd o ymdrech yn dechrau dwyn ffrwyth

gyda lansio rhaglen mynd i’r afael â chanser Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi deillio o’n gwaith gyda Fforwm Diwydiant Canser Cymru i fynd i’r afael â chanlyniadau canser i gleifion yng Nghymru a’u gwella

Mae ein gwaith o sganio’r gorwel am dechnolegau canfod a gwneud diagnosis yn gynnar, ynghyd â gweithio’n agos gyda thimau clinigol i nodi meysydd blaenoriaeth, eisoes wedi arwain at nifer o brosiectau’n cael eu cyflwyno mewn rhanbarthau ledled Cymru ar y cyd â phartneriaid allweddol Mae’r rhain wedi amrywio o gyflwyno dulliau sgrinio am ganser yr ysgyfaint mewn cymunedau a mabwysiadu technoleg deallusrwydd artiffisial i gefnogi radiolegwyr i wneud diagnosis drwy ddelweddau.

Nawr, gyda’r rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser, a ffocws parhaus ar ganser gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, mae’r gwaith hwn wedi codi gêr i edrych ar fentrau ar draws Gymru. Bydd y rhaglen yn cyflwyno argymhellion a chynigion i wella’r broses o roi diagnosis o ganser ar draws y wlad, gyda’r cyfle i gael effaith wirioneddol drawsnewidiol ar y maes blaenoriaeth hwn yng Nghymru

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Meddygaeth fanwl yn dangos addewid mawr

Cyflawniad allweddol arall fu ein gwaith i gefnogi’r prosiect QuicDNA, sy’n profi technolegau dilyniannu DNA a genomeg arloesol ar gyfer rhoi diagnosis o ganser yr ysgyfaint. Roedd y lansiad ffurfiol ym mis Ebrill 2023 yn benllanw llawer iawn o waith a wnaed y tu ôl i’r llenni i gynnull partneriaid, arian, adnoddau a chefnogi’r ymchwil.

Yn y pen draw, mae hyn yn dod â diagnosteg gyflym ac anymwthiol ar gyfer canser yr ysgyfaint i Gymru, gyda dau fwrdd iechyd wedi cymryd rhan yn 2023-24, ac mae cynlluniau i gyflwyno hyn ar draws Cymru gyfan yn y flwyddyn i ddod. Ni ellir gorbwysleisio effaith hyn, gyda ffigurau hyd yma yn dangos bod y dechnoleg yn gallu mwy na haneru’r amser i gael diagnosis, o 78 diwrnod i 26 diwrnod. Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig bod yn rhan o brosiect mor bwysig, yn bennaf oherwydd gwaith codi arian diflino Craig Maxwell, claf canser yr ysgyfaint sydd wedi ymroi i godi arian i gyflymu’r broses o roi diagnosis a chael mynediad at driniaeth i gleifion eraill

Mae rhai o'n partneriaid yn y diwydiant yn dweud wrthym mai Cymru yw'r lle gorau yn y byd i ymgymryd ag ymchwil genomeg fel hyn oherwydd yr arbenigedd yn ein system glinigol. Mae hyn yn rhoi mwy fyth o gymhelliant i ni barhau i ganolbwyntio ar faes blaenoriaeth meddygaeth fanwl, lle gwelwn y potensial ar gyfer llawer mwy o gyflawniadau arloesol yng Nghymru

Arloesiadau iechyd digidol

Yn ein maes blaenoriaeth arall – Deallusrwydd Artiffisial a Digidol (AI) – mae gennym lawer i fod yn falch ohono yn 2023/24. Mae’r cyflawniadau’n cynnwys sawl prosiect gyda Fforwm Diwydiant Canser Cymru, prosiect sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i roi gwell cefnogaeth i bobl nad ydynt yn gallu mynegi eu poen ar lafar, ac un arall sy’n gwerthuso dyfeisiau rheoli meddyginiaethau i helpu pobl i gymryd eu meddyginiaeth yn annibynnol

Gan siarad am ddeallusrwydd artiffisial, rydym hefyd yn falch iawn o fod yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan helpu i ddiogelu polisïau at y dyfodol a datblygu’r blociau adeiladu i alluogi deallusrwydd artiffisial i dyfu’n gyflym mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy yng Nghymru

Yn ogystal â’r rhain, mewn cyfnod unigryw y llynedd, gwnaethom ymgymryd â swyddogaeth newydd i ddarparu cyllid ar gyfer gwyddorau bywyd Am y tro cyntaf, gwnaethom gefnogi’r gwaith o roi grantiau’n uniongyrchol drwy gydlynu rhaglen gyllido bwrpasol ar ran Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’r grantiau hyn yn cefnogi fferyllfeydd cymunedol i fabwysiadu gwasanaethau presgripsiynau electronig – cam hanfodol at foderneiddio systemau fferylliaeth, ac un rydym yn edrych ymlaen at allu ei gefnogi mewn ffordd newydd.

Paratoi ar gyfer y dyfodol

Wrth i ni edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod, rwy’n gwneud hynny gyda brwdfrydedd a hyder yn yr effaith y gallwn ei chael Mae ein tîm medrus ac ymroddedig wedi cael ei gryfhau mewn meysydd allweddol i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein dangosyddion perfformiad allweddol. Mae ein tîm Partneriaethau, sy’n ymroddedig i feithrin a datblygu partneriaethau strategol gyda sefydliadau mawr, yn ddatblygiad allweddol.

Rydym wedi datblygu prosesau cadarn i symleiddio ein gwaith partneriaeth, i gydnabod y rôl allweddol rydym yn ei chwarae o ran eirioli ar gyfer systemau iechyd a gofal Cymru, yn ogystal â’r wybodaeth hanfodol rydym yn gwybod y gallwn ei chasglu gan systemau iechyd eraill sydd o dan bwysau tebyg i ni

Ar ben hynny, mae ein tîm Datblygu Economaidd ymroddedig yn gweithio’n galed i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i dyfu a buddsoddi yn y gwyddorau bywyd yng Nghymru. Mae Cymru yn lle gwych i weithio a thyfu busnes gwyddorau bywyd. fydliadau datblygu mhellach y u cynnig i’n cenedl

Ein blaenoriaeth: Canser

Gyda’r addewid o effaith drawsnewidiol o’r

momentwm cynyddol yn ein gwaith yn cefnogi’r

Rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser a phartneriaid cydweithredol, gan gynnwys Fforwm Diwydiant

Canser Cymru, rydym yn dechrau 2024/25 gyda ffocws cliriach ar y maes hwn

Mae ein cynllun busnes ar gyfer 2024/25 yn

blaenoriaethu mynd i’r afael ag anghenion clinigol yn y gofod canser, gan roi cyfle go iawn i ni ganolbwyntio ar raglen waith a all gael effaith

enfawr ledled y wlad. Er y byddwn yn dal i weithio mewn meysydd clefydau eraill ar sail adweithiol, rydym yn gweithio’n agos yn bennaf gyda thimau

clinigol, partneriaid yn y diwydiant, y byd academaidd a Llywodraeth Cymru i ddod â’r cydrannau at ei gilydd i drawsnewid diagnosis a thriniaeth canser. Wrth i ni geisio harneisio’r cyffro, yr egni a’r ewyllys da sydd eisoes wedi’u sefydlu yn ystod ein gwaith yn y maes hwn, rwy’n credu y bydd y rhaglen hon yn llwyddiannus. Yn wir, rydw i eisoes yn edrych ymlaen at ddiweddariad y flwyddyn nesaf ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni ar y cyd â’n partneriaid.

Yn wir, rydw i eisoes yn edrych

ymlaen at ddiweddariad y flwyddyn nesaf ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni ar y cyd â’n partneriaid.

Neges y Cadeirydd

C: Sut byddech chi’n crynhoi perfformiad Hwb

Gwyddorau Bywyd Cymru eleni?

Rwy’n falch o ddweud bod 2023-24 wedi bod yn

flwyddyn o gynnydd cadarn a chyson. Rydym wir

wedi meithrin cysylltiadau cadarn â’r GIG, gofal

cymdeithasol, y byd academaidd a phartneriaid yn y diwydiant i gryfhau ein safle fel partner dibynadwy i’r holl randdeiliaid

Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i systemau iechyd, gyda mwy o bwysau o ôl-groniadau cynyddol a niferoedd uwch o gleifion â phroblemau iechyd sylweddol. Felly, mae’r angen i gyflwyno datblygiadau arloesol a lledaenu’r arfer o fabwysiadu arferion da yn fwy nag erioed

Wrth gwrs, yr her yw bod arloeswyr ym maes gwyddorau bywyd yn aml yn cael trafferth dod o hyd i lwybr clir i’r GIG a gofal cymdeithasol. Fel sefydliad, ein nod yw helpu i agor y ‘drws ffrynt’ hwnnw, er mwyn sbarduno arloesedd ar gyfer yr holl fuddion i gleifion a’r effaith economaidd y gall ei chael. Mae’r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at sut rydym ni – fel sefydliad bach – wedi rhagori ar ein disgwyliadau yn hynny o beth a sut mae ein heffaith, yn ei thro, wedi cynyddu.

Fel Bwrdd, rydym wedi bod yn falch o gyfrannu at yr effaith honno. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Cath O'Brien a Jared Evans, a gwblhaodd eu tymhorau ar y Bwrdd y llynedd ar ôl gwneud cyfraniad gwych. Hoffwn hefyd groesawu tri aelod newydd i’r Bwrdd: Neil Mesher, Malcolm Lowe-Lauri, a Peter Bannister, a fydd yn cryfhau ein Bwrdd ymhellach ac yn ein harfogi i barhau i gynnal ein gwerthoedd a chyflawni ein nodau a’n hamcanion

C: Allwch chi ddweud wrthym am eich adegau mwyaf balch o 2023-24? Alla i ddim sôn am 2023-24 heb sôn am ein gwaith gyda Fforwm Diwydiant Canser Cymru. Mae’n enghraifft wych o’r rôl y gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ei chwarae o ran casglu ynghyd y rhanddeiliaid niferus sydd eu hangen i greu newid, yn ogystal â’r amser mae’n ei gymryd i gyrraedd y pwynt lle mae’r newid hwnnw’n bosibl

Byddwn hefyd yn dewis y Grŵp Diddordeb Arbennig AI, sy’n enghraifft wych arall o sut rydym yn arwain y ffordd i gynnull y llu o bobl sy’n rhan o’r gwaith o wireddu manteision technolegau arloesol er lles cleifion.

6

Yn olaf, fel cyn-fferyllydd cymunedol – yn wir, fel rhan o aelwyd o fferyllwyr cymunedol –mae ein rôl o weinyddu'r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth (CPSIF) wedi bod yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn. Mae wedi bod yn bleser gwylio gwasanaethau presgripsiynau electronig yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn helpu i gyflawni hynny ar ran GIG Cymru.

C: Sut ydych chi’n rhagweld dyfodol gwyddorau bywyd yng Nghymru?

Yn y tymor canolig a’r tymor hir, mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ddau faes blaenoriaeth: bydd Technoleg Ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial, a Meddygaeth Fanwl yn parhau i drawsnewid y ffordd mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu.

Yn y dyfodol, bydd meddygaeth fanwl yn rhoi’r pŵer i ni drin pobl na ellir trin eu salwch heddiw. Mae’r posibilrwydd o hyn yn gyffrous iawn, ac mae Cymru mewn sefyllfa dda i fod ar flaen y gad yn y datblygiadau hyn Rydym yn adeiladu clystyrau o arbenigedd, gyda genomeg yn faes allweddol o gryfder i Gymru Mae’n faes enfawr o gyfle Fel cenedl, rydym yn ddigon mawr i allu dod â’r bobl iawn at ei gilydd i fwrw ymlaen â syniadau arloesol fel hyn a gallaf weld Cymru’n datblygu fwyfwy fel lle da i arloesi yn y ddau faes hyn.

C: Sut ydych chi’n gweld Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi’r weledigaeth honno?

Mae fy ngweledigaeth ar gyfer dyfodol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn seiliedig ar fy marn am gryfder, gwytnwch a chreadigrwydd y sefydliad Fel aelod o’r Bwrdd dros y saith mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o sefydliad sydd wedi blaenoriaethu anghenion cleifion a staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

Dros y saith mlynedd diwethaf, mae’r sefydliad wedi newid i gefnogi’r system gyfan i fynd i’r afael â phandemig Covid, wedi newid eto i gefnogi adferiad y system ac mae nawr yn parhau i esblygu i fynd i’r afael â’r angen clinigol cynyddol mewn canser

Bydd ein harbenigedd i ddod â phobl ynghyd a hwyluso sgyrsiau a chydweithio yn allweddol i gyflawni ein nodau, yn ogystal â’n gallu i arwain a chydlynu’r ecosystem arloesi brysur yng Nghymru. Yn ystod y 12-18 mis diwethaf, mae ein gwaith yn y maes hwn wedi datblygu’n gyflym drwy gydweithio’n agosach â sefydliadau arloesi eraill ledled Cymru a’r byd.

Wrth i ni symud ymlaen i 2024-25 a chryfhau ein safle fel y partner sydd wrth galon arloesi ym maes gwyddorau bywyd yng Nghymru, rwy’n sicr bod y gorau eto i ddod.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Gwybodaeth am Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi ddarllen ein Hadroddiad Blynyddol ac nad ydych chi’n siŵr beth rydym yn ei wneud, dyma ddadansoddiad i chi:

Yn syml, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn sbarduno’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu arloesedd gwyddorau bywyd ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym yn gweithredu fel rhyngwyneb deinamig, gan gysylltu arloeswyr gwyddorau bywyd â phartneriaid ymchwil, cyfleoedd cyllido ac, yn y pen draw, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, sef ein defnyddwyr terfynol. Gan ein bod yn cynnal deialog barhaus gyda’r holl grwpiau hyn, gallwn sicrhau ein bod yn cefnogi datblygiadau arloesol sy’n mynd i’r afael â’r anghenion mwyaf hanfodol ac yn cael yr effaith fwyaf

Yn y pen draw, mae ein gwaith yn helpu gyda llesiant meddyliol a chorfforol pobl sy’n byw

yng Nghymru drwy roi hwb i’r defnydd o ddatblygiadau arloesol newydd yn y brif ffrwd, ac mae hefyd yn sbarduno twf, swyddi a ffyniant ledled ein gwlad.

Mae ein rhwydwaith a’n cymunedau yn ymestyn ar draws amrywiaeth eang o randdeiliaid

Mae trawsnewid digidol yn y GIG yn heriol ac rydym yn cydnabod bod hyn yn gofyn i bobl weithio mewn ffordd gwbl newydd. Rydym yn ffodus o gael cefnogaeth dda gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i roi’r prosiect ar waith, a gan arweinwyr y prosiect yn Abertawe, sydd wedi bod yn wych am ymgysylltu â’r tîm ehangach a chyflwyno’r achos dros pam ein bod yn gwneud y newid hwn.

Jack Tozer, Rheolwr Partneriaethau - Healthy.io

Yr her yw bod arloeswyr ym maes gwyddorau bywyd yn aml yn cael trafferth dod o hyd i lwybr clir i’r GIG a gofal cymdeithasol. Fel sefydliad, ein nod

yw helpu i agor y ‘drws ffrynt’ hwnnw, er mwyn sbarduno arloesedd ar gyfer yr holl fuddion i gleifion a’r effaith economaidd y gall ei chael

Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn dîm amlochrog sy’n fedrus iawn o ran cael gafael ar y bobl iawn, ar yr adeg iawn. Maen nhw bob amser yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei ddweud, a bu’r gwaith partneriaeth rydym wedi’i sefydlu dros y flwyddyn ddiwethaf yn allweddol i’n llwyddiant. Heb Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ni fyddem yn y sefyllfa hon heddiw. Ar y cyfan, maen nhw’n ddylanwadol, yn gefnogol ac yn frwdfrydig a dyma sy’n gyrru’r arloesedd ymlaen i’r lle mae ei angen fwyaf.

Tandeep Gill, Uwch Reolwr Datblygu Busnes, PainChek UK

Mae Cymru’n lleoliad deniadol ar gyfer arloesi gwyddorau bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda phoblogaeth o dair miliwn, mae gennym y cydbwysedd perffaith: yn ddigon bach i fod yn hyblyg ac yn ymatebol, ond eto’n ddigon mawr i ddarparu data a thystiolaeth sylweddol. Mae hyn yn golygu bod gweithredu syniadau newydd yn gyflymach ac yn haws.

Mae ein diwylliant blaengar yn cefnogi arloesedd drwy sefydliadau academaidd, seilwaith, cyllid a rhwydweithiau cryf. Mae Cymru’n cynnig sylfaen gadarn i sefydliadau gwyddorau bywyd sy’n awyddus i ddechrau arni. Mae ein cenhadaeth yn glir: helpu i ddatblygu a mabwysiadu arloesedd yn y gwyddorau bywyd sy’n gwella iechyd a gofal cymdeithasol, gan roi hwb i lesiant a ffyniant pobl Cymru.

Rydym yn cydweithio ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gysylltu’r byd academaidd, y diwydiant a gweithwyr rheng flaen sy’n defnyddio’r syniadau arloesol hyn yn y pen draw. Mae ein partneriaid yn cynnwys rhai o’r enwau mwyaf amlwg yn y maes.

Mae gan y DU sector gwyddorau bywyd sy’n arwain y byd. Mae’n adnabyddus am ei hymchwil arloesol, ei mentrau bach a chanolig arloesol, a chwmnïau rhyngwladol. Mae Cymru’n chwarae rhan hollbwysig yn y dirwedd hon, gan hyrwyddo arloesi ym maes gwyddorau bywyd yn lleol ac yn genedlaethol Rydym yn meithrin partneriaethau cryf gyda chydweithwyr yn San Steffan a sefydliadau fel y Rhwydweithiau Arloesi Iechyd ac Academi’r Gwyddorau Meddygol. Mae’r cydweithrediadau hyn yn meithrin

“Mae’n gyfnod hynod gyffrous i arloesi ym maes

iechyd a gofal cymdeithasol ac rydym wedi gweld datblygiadau enfawr mewn ymarfer clinigol arloesol yn y 75 mlynedd ers sefydlu’r GIG.

“Bydd ein Strategaeth Arloesi yn sicrhau bod arloesedd yn cyd-fynd yn agosach â’n blaenoriaethau i gefnogi gwasanaethau’r GIG, trin pobl yn gyflymach, gwella canlyniadau

iechyd a chreu Cymru sy’n fwy cyfartal Bydd

gwaith Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ein helpu i gyflawni hyn, drwy ei amrywiaeth eang o brosiectau, rhwydweithiau a rhaglenni.

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio’n agos gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac at bum mlynedd arall o arloesi.”

Eluned Morgan, cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cipolwg ar ein perfformiad

Dymagipolwgarsutrydymwedibodyngwneud:

Rydymyncanolbwyntioargasglumetrigauuniongyrcholamesuradwysy'ndiwallu anghenionadisgwyliadaueincyllidwyr Maeeingwerthusiadoganlyniadauyn edrychareffeithiautymorcanoligeingweithgareddauarbrosiectau,mentraua’r ecosystemehangach,ynenwedigymmaesarloesi,iechydagofal,agwyddorau bywyd.

Panfyddwnni’nsiaradameffaithdangosyddionperfformiadallweddol,rydymyn edrychareffeithiautymorhwyacehangacheingwaith,gansiapioetifeddiaeth barhaol.

Rydymynfalcho’rhynygwnaethomeigyflawniyn2023-2024:

Cefnogi 147 o asesiadau arloesi

Denu

£5,582,785 mewn buddsoddiad

Helpu 51,566 o gleifion i gael gafael ar atebion arloesol

Darparu

£1,510,000 mewn gwerth i’r system iechyd a gofal

Helpu i greu 58 o swyddi

Cefnogi £25.4m mewn cynigion cyllido

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Sicrhau

£1,703,422 mewn cyllid

2,290 yn llai o ymweliadau clinigol

Cyflawni

£3,19,000 yn nhwf Gwerth Ychwanegol Gros y Cwmni yng Nghymru

Gyda system o dan bwysau o’r fath, rydym ni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn teimlo bod ein pwrpas

yn gryfach nag erioed Rydym yma i helpu i sbarduno cynnydd drwy sicrhau bod arloesiadau ysbrydoledig yn y gwyddorau bywyd yn cael eu defnyddio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’n fraint ac mae’n cymell ein tîm i gefnogi gwelliannau i’r systemau hyn, gan ddod â manteision newydd i gleifion yn y pen draw

Cari-Anne Quinn

Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Y llynedd, fe wnaethom yrru amrywiaeth o brosiectau dylanwadol i annog arloesedd ym

maes gwyddorau bywyd i gyrraedd iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen. Gwnaed y cyflawniadau hyn yn bosibl drwy ein hymdrechion cydweithredol gyda rhanddeiliaid allweddol yn ein meysydd blaenoriaeth.

Datblygiad Economaidd

MaeiechydagofalcymdeithasolyngNghymruynwynebuheriauariannolsylweddol,ond maeeincefnogaethyngwneudgwahaniaethgoiawn Rydymynhelpueinpartneriaidi sicrhaucyllidhanfodol,ganarwainatarbedioncostachyfleoeddgwaithgwerthfawr. Enghraifftwychyweingwaithgyda’rprosiectQuickDNA,addenodddros£1.9miliwnmewn buddsoddiadauynydiwydiant,ganyrru’rprosiectyneiflaen.

Ynystody12misdiwethaf,maeeincydweithrediadauwedicreudros58oswyddinewyddac wedidenudros£6miliwnogyllidpreifatneugrantychwanegol.Maearloeseddstrategola sicrhaucanlyniadaueconomaiddcadarnhaolyngNghymruwrthgalonyrhynrydymynei wneud

Rydymwediymunoagendidauiechydagofalcymdeithasol,LlywodraethCymru,a sefydliadauacademaiddledledCymru,ganfeithrincydweithrediadauarloesigyda chwmnïautechnolegmawr.Drwyddefnyddiotechnolegaucwmwl,rydymyngwella dadansoddegdata,ynsicrhauboddata’ncaeleirannu,acyndatblyguymchwilgwyddorau bywyd.MaeeinrhaglenniymmhortffoliomeddygaethfanwlCymruyndatblygullwyfannau digidolcenedlaetholsy’nhanfodolargyferydulliauaml-omegsyddeuhangenmewngofal iechyd.

Mae'rymdrechionhynynalinioblaenoriaethauGenomegCymruâsefydliadauynyDUfel GenomicsEngland.RydymhefydyncymrydcamauymlaengydaChanolfanIechydGenomig newyddCymruymMharcGwyddoniaethEdgeCaerdydd,syddâ'rpotensialisbarduno datblygiadclwstwrrhanbarthol

Rydymynarwaindwyragleniechydallweddol,dangadeiryddiaethBwrddIechyd PrifysgolCaerdydda’rFroaPhrifysgolCaerdydd:

YStrategaethGwyddorIechydAcademaiddaryCyd–Mewnpartneriaethâ BwrddIechydPrifysgolCaerdydda’rFro.

RhaglendatblygusgiliaurhwngGwasanaethGenomegCymruGyfanacAddysg acArloesiIechydCymru.

Byddyrhaglennihynyncanolbwyntioargysonieustrategaethauymchwilagyrru ymchwilifasnacheiddio,gangefnogi’rgwaithogynllunio’rgweithluynydyfodola datblygusgiliaucynaliadwyyngNghymru

"Mae ein cefnogaeth wedi bod yn hanfodol i fynd i’r afael â heriau ariannol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau cyllid hanfodol a sbarduno twf economaidd yng Nghymru. Eleni, fe wnaethom hwyluso buddsoddiadau yn y diwydiant a chreu swyddi newydd, gan ddangos ein hymrwymiad i gael effaith amlwg Gydag arloesi parhaus a phartneriaethau strategol, rydym yn edrych ymlaen at y dyfodol a'n rôl wrth hyrwyddo gofal iechyd a chanlyniadau economaidd."

Gareth Healey, Pennaeth Datblygiad Economaidd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Cefais gyngor gan Fentor Busnes Cymru i gysylltu â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae’n debyg mai dyma’r darn gorau o gyngor rydw i wedi’i gael ar fy nhaith dechrau busnes. Fe wnes i gwrdd â Gareth i drafod fy syniad a rhoddodd lawer o gysylltiadau i mi i’w gwneud ac fe wnaeth hwyluso llawer mwy gan fy nghyflwyno i nifer o grwpiau na fyddwn i wedi clywed amdanyn nhw neu wedi meddwl cysylltu â nhw fel arall. O ganlyniad i fewnbwn Gareth, rydw i

Victoria Jones (Prif Swyddog Gweithredol Corvidae Jones Ltd) wedi cael fy nerbyn i Hwb sylfaenwyr Microsoft, ac mae gen i nawr fynediad at gredyd, cyrsiau, a llwybr clir ar gyfer datblygu fy nghynnyrch a fy musnes yn ei gyfanrwydd Rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a’r cyngor rydw i wedi’u cael, maent wedi bod yn allweddol o ran datblygu fy musnes.

15 Adroddiad Blynyddol 2023-24

Ein Blaenoriaeth ‘Digidol’

Mae’r chwyldro digidol yn trawsnewid gofal iechyd mewn ffyrdd cyffrous Mae iechyd digidol yn cwmpasu ystod eang o feysydd, gan gynnwys iechyd symudol (mHealth), technoleg gwybodaeth iechyd (TG), dyfeisiau y gellir eu gwisgo, a thelefeddygaeth. O apiau symudol sy'n helpu meddygon i wneud penderfyniadau clinigol i ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol, mae gan offer digidol botensial anhygoel i wella diagnosis, triniaeth a darpariaeth gofal iechyd yn gyffredinol.

Mae dyfodol gofal iechyd yn ddigidol, lle mae arloesedd yn gwella gofal cleifion. Mae offer digidol yn rhoi darlun mwy cynhwysfawr o iechyd cleifion drwy wneud data’n hygyrch, grymuso unigolion, a rhoi mwy o reolaeth i gleifion dros eu hiechyd. Mae hyn yn caniatáu i bobl wneud penderfyniadau mwy gwybodus a rheoli cyflyrau cronig y tu allan i leoliadau gofal iechyd traddodiadol. Mae iechyd digidol yn cefnogi’r agenda ‘gofal yn nes at adref’ drwy:

Lleihau aneffeithlonrwydd

Gwella mynediad

Lleihau costau

Gwella ansawdd

Personoli meddyginiaeth i gleifion

Drwy fanteisio ar atebion digidol, gallwn wella canlyniadau cleifion a phrofiad defnyddwyr. Dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial, data mawr, a dadansoddeg rhagfynegol. Mae’r datblygiadau hyn yn dod â phobl, gwybodaeth, technoleg a chysylltedd ynghyd i wella canlyniadau iechyd a gofal iechyd

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Prosiectau digidol rydym yn eu rheoli a’u cefnogi

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi dechrau ar gyfres o brosiectau arloesol i chwyldroi iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru Dyma olwg fanylach ar rai o’r mentrau allweddol:

PainChek

Cafodd yr adnodd asesu poen wedi’i

bweru gan ddeallusrwydd artiffisial gyllid

gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

Gwent gyda chefnogaeth gan Hwb

Gwyddorau Bywyd Cymru. Fe wnaethom ddarparu cymorth rheoli prosiectau, monitro risg a chyfathrebu, gan gynnwys cyfarfodydd llywio rheolaidd ac astudiaethau achos.

Cynhaliwyd 1,545 o asesiadau

Ymlyniad Meddygol (YourMeds)

Mae porth ar-lein yn cefnogi ymlyniad meddyginiaeth diogel ac ymyrraeth gynnar

drwy ddata rhagweithiol. Mae Hwb

Gwyddorau Bywyd Cymru wedi rheoli’r

prosiect Ymlyniad Meddygol, gan gwblhau cam 1 a dechrau cam 2 ym mis Ebrill 2024.

20 o gleifion /defnyddwyr gwasanaeth yn cael gafael ar arloesedd

72 yn llai o ddiwrnodau’n cael eu treulio yn yr ysbyty, o ganlyniad

Gostyngiad disgwyliedig o 70% yn nifer yr ymweliadau gofal, gydag arbedion o hyd at £1000 yr wythnos

Cefnogi Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Rydym ar flaen y gad o ran deallusrwydd artiffisial ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drawsnewid deallusrwydd artiffisial yng Nghymru. Drwy ein cefnogaeth i Gomisiwn Deallusrwydd Artiffisial

Llywodraeth Cymru, rydym yn llywio ac yn dylanwadu ar bolisi deallusrwydd artiffisial yng Nghymru, gan fynd ati’n gyflym i

osod y sylfeinihanfodol ar gyfer datblygu prosiectau deallusrwydd artiffisial yn y dyfodol. Mae Cari-Anne Quinn yn gwasanaethu ar y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial, gan ddarparu cyngor strategol, ac mae arweinydd y prosiect, Chris Rolls, yn cwrdd bob pythefnos â gweithgor deallusrwydd artiffisial i lywio mentrau a rhaglenni yn y maes hwn. Mae’r prif weithgareddau’n cynnwys:

Deall anghenion deallusrwydd artiffisial

yn GIG Cymru

Mapio’r ecosystem ddigidol

Galluogi defnydd diogel o ddeallusrwydd artiffisial

Datblygu map rhanddeiliaid

Goresgyn rhwystrau i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial

Cynnal dadansoddiad risg

Cyfleu cynnydd i randdeiliaid

Mae’r ymdrechion hyn yn hanfodol wrth lunio amgylchedd diogel, cyfrifol ac arloesol ar gyfer deallusrwydd artiffisial ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Prosiect Peilot CPR Global gyda Dyfais Glyfar Guardian 3

Yn 2023/24 fe wnaethom hwyluso cydweithrediad arloesol rhwng CPR Global, Timau Adnoddau Cymunedol ym Mhen-ybont ar Ogwr a Chaerdydd, ac Ysgol Reolaeth Prifysgol

Abertawe. Mae’r prosiect, dan arweiniad Louise Baker, yn canolbwyntio ar weithredu dyfais glyfar Guardian 3 ar gyfer monitro ffordd o fyw er mwyn canfod, rhagweld ac atal problemau iechyd. Gan ymateb i gais gan dîm economi

Llywodraeth Cymru, cynhaliodd Louise weithdai, cwmpasu’r prosiect, a chwblhau dogfennau, gan arwain at gymeradwyo’r prosiect ar 29 Ebrill 2024. Bydd yn goruchwylio ei weithrediad 12 mis, gan gefnogi’r cynnig cyllido o Ben-y-bont ar Ogwr.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Peilot ThinkSono Ltd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Mae ThinkSono wedi datblygu uwchsain gyda chymorth deallusrwydd artiffisial ar gyfer canfod thrombosis gwythiennau dwfn (DVT). Ers creu partneriaeth â nhw, rydym wedi cefnogi gweithgareddau amrywiol. Buom yn cydweithio â Thechnoleg Iechyd Cymru ar Adroddiad Archwilio, a chynhyrchodd ein tîm Gwybodaeth am y Sector ddau adroddiad ychwanegol ar uwchsain anobstetreg yn GIG Cymru. Gwnaethom hefyd sganio’n gyflym i ganfod technolegau cystadleuol i AutoDVT. Defnyddiwyd y pecyn AutoDVT yn y treial ADVENT yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Cafodd system canllawiau deallusrwydd artiffisial ThinkSono gymeradwyaeth reoleiddiol yr UE ym mis

Mawrth 2024, ynghyd ag asesiad arloesi

Mabwysiadu Gwasanaethau Cwmwl mewn Gofal Iechyd

Gan gydnabod potensial trawsnewidiol cyfrifiadura cwmwl, gwnaethom ffurfio partneriaeth â sefydliadau blaenllaw yn y cwmwl i wella canlyniadau iechyd yng Nghymru Nod y cydweithrediadau hyn yw datblygu llwyfan cenedlaethol ar gyfer genomeg a phatholeg, a phontio i ddatrysiadau storio yn y cwmwl, gan ategu’r storfa bresennol ar y safle. Mae’r fenter hon yn gwneud y gorau o rannu data ac yn meithrin effeithlonrwydd yn y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Arloesedd Digidol ac Effaith Amgylcheddol gydag Onko Health LTD

Mae Onko Health Ltd yn arloesi llwyfan digidol sy’n cefnogi’r gwaith o baratoi ac adfer triniaethau canser. Rydym yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gefnogi’r gwaith o ddatblygu modelau llwybrau cyn adsefydlu.

Mae ein cymorth wedi helpu Onko Health i sicrhau cyllid SBRI cam 1 i leihau allyriadau CO2 drwy ddefnyddio llwyfannau digidol yn hytrach na llwybrau ysbyty traddodiadol. Er nad yw trafodaethau cam 2 wedi mynd rhagddynt eto, mae’r llwyddiant cychwynnol yn addawol.

Cyflwyno Cyfleoedd Gofal Canser Digidol i Felindre

Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda thîm arloesi

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Yn ddiweddar, fe wnaethom gefnogi gweithdy i helpu i ddatblygu llwybr arloesi gan ddefnyddio ein cysylltiadau â’r diwydiant.

Cyflwynwyd arloesi digidol, gan gynnwys y rhai o Onko

Health, ac rydym yn edrych ymlaen at fonitro cynnydd y cydweithrediadau newydd hyn.

Optimeiddio Derbyniadau gyda System Rheoli Rhyddhau Frontier

Roedd ein tîm yn cefnogi gwaith diweddar Bwrdd Iechyd

Prifysgol Hywel Dda i gyflwyno’r System Rheoli Rhyddhau

Gwnaethom ddarparu adroddiadau sganio cyflym ar lwyfannau gwneud penderfyniadau deallusrwydd artiffisial a chwblhau asesiad arloesedd.

Ein Blaenoriaeth ‘Meddygaeth Fanwl’

TYnaml,maetriniaethaumeddygoltraddodiadolyndilyndull‘unatebibawb’,sydd wedi’ilunioargyfery‘clafcyffredin’ Erbodhynyngweithioirai,nidywbobamseryn llwyddoibawb.Dynallemaemeddygaethfanwlyndodimewn.Mae’nflaenoriaethi nioherwyddeinodywpersonoligofalcleifion.Drwydeilwracynlluniautriniaethynfwy manwl,gallclinigwyrddarparu’rprofiona’rtriniaethaucywiri’rbobliawnaryradeg iawn

Maegennymnodauuchelgeisioliroitechnolegaumeddygaethfanwlarwaithledled GIGCymru.Maedatblygiadaudiweddarynymaeshwnwediarwainat ddarganfyddiadauarloesolathriniaethaucymeradwywedi'uteilwrainodweddion unigol,felgenetegtiwmor.Erenghraifft,maellawerogleifioncanserbellachyncael profionmoleciwlaiddfelmaterodrefn,sy’ngalluogiclinigwyriddewistriniaethausy’n gwellacyfraddaugoroesiacynlleihaueffeithiauniweidiol.Rydymyncanolbwyntioar ddiagnosiscynnar,genomegatherapïauuwchiwneudgwahaniaethgoiawniofal cleifion.

Dymagipolwgarrywfainto’rgwaithrydymwedibodynymwneudagef...

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Prosiectau Meddyginiaeth Fanwl rydym yn eu rheoli a’u cefnogi

Cefnogi Prosiect Biopsi Hylifol QuicDNA

Rydym yn parhau i gefnogi’r prosiect nodedig hwn. Mae hyn yn cynnwys datblygu achosion busnes, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cefnogi’r broses o recriwtio rheolwr

prosiectau treialon, datblygu cynllun cyfathrebu, a sicrhau partneriaid cyllido neu ffynonellau amgen.

Gyrru Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth gyda BIPCTM

Gan gefnogi menter gofal iechyd seiliedig ar werth Bwrdd

Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rydym wedi bod yn

cefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaeth brynu ar gyfer prawf diagnostig NTproBNP. Mae’r prawf hwn yn rhoi diagnosis cyflym o fethiant y galon drwy ganfod proteinau sy’n gysylltiedig â straen. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai a chyfarfodydd grŵp llywio bob pythefnos, gan ddarparu cymorth cyfathrebu hanfodol i yrru’r fenter hon yn ei blaen.

Cefnogi Therapïau Datblygedig Cymru

Rydym yn gweithio gyda rhaglen genedlaethol Therapïau

Datblygedig Cymru, gan helpu i gefnogi digwyddiadau allweddol, datblygu cynllun cyflawni cadarn, a bod yn brif gyswllt ar gyfer cynnwys y diwydiant Mae ein cefnogaeth wedi bod yn hanfodol i ddatblygu mentrau'r rhaglen ac ymgysylltu â diwydiant.

Sgrinio serfigol - hunansgrinio

Mae'r gyfradd cyfranogiad ar gyfer sgrinio HPV wedi gostwng yng Nghymru, felly gwnaethom hwyluso’r broses o gydweithio ymhlith rhanddeiliaid i dreialu dulliau hunansamplu Mae’r prosiectau allweddol yn cynnwys Carfan Enghreifftiol Bevan 8 a CHOICES, gyda’r nod o wella hygyrchedd sgrinio.

Mae dros 100,000 o bobl wedi manteisio ar yr arloesi, gan arbed sawl ymweliad clinigol, a chynyddu’r Gwerth i’r system iechyd tua £800k-1M.

Profion Pwynt Gofal (POCT) – Prosiect Cwmpasu

Nod y prosiect hwn oedd adeiladu adnodd rhwydwaith

POCT yng Nghymru. Gwnaethom gefnogi’r fenter hon drwy ysgrifennu adroddiadau sganio cyflym gyda gwybodaeth am y sector, ymgysylltu ag arweinwyr POCT, codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd arloesi, a hwyluso gweithio ar y cyd ymysg byrddau iechyd Cymru

Dyfais Iechyd Apos ar gyfer Osteoarthritis y Pen-glin

Mae Apos Health wedi creu esgid dyfais feddygol sy'n helpu cleifion osteoarthritis y pen-glin yn Lloegr i osgoi llawdriniaeth i osod pen-glin newydd Mae’r tîm yma wedi bod yn cefnogi

Apos Health drwy eu helpu i ddeall y system iechyd a gofal yng Nghymru, hyrwyddo canllawiau Medtech NICE, ac ymgysylltu â byrddau iechyd a rhanddeiliaid cenedlaethol allweddol i godi ymwybyddiaeth. Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn adolygu’r dechnoleg hon.

Gwella Llwybrau Atgyfeirio mewn Fferyllfeydd Cymunedol

Mae Fforwm Diwydiant Canser Cymru yn gweithio i gefnogi’r gwaith o ganfod canser yn gynharach mewn fferyllfeydd cymunedol drwy nodi symptomau canser ‘baner goch’ ac atgyfeiriadau posibl i ofal eilaidd. Gan gydweithio ag amrywiol randdeiliaid, rydym wedi dechrau gweithio gyda C the Signs i wella’r broses o ganfod yn gynnar a sicrhau canlyniadau i gleifion. Rydym yn aros am ganlyniadau o gynllun peilot a gwblhawyd gan Mary Craig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Gweithio mewn partneriaeth ag Illumina ar Genomeg

Rydym wedi chwarae rhan hollbwysig o ran hwyluso trafodaethau ar gyfer cydweithio pellach rhwng partneriaid genomeg ac Illumina. Fe wnaethom helpu i ddatblygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n amlinellu’r fframwaith cydweithio mewn rhaglenni cenedlaethol, genomeg pathogenau, ac ymchwil a datblygu, a fydd yn cael ei lofnodi yn Ch2, 2024

Ond beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Beth sy’n newid / gwella?...

Manteision i’r Diwydiant a Darparwyr Gofal Iechyd:

Cysylltu a deall anghenion a chyfleoedd.

Nodi cyfleoedd ar gyfer cyd-ddatblygu.

Cyflymu’r llwybr i’r farchnad a mabwysiadu.

Arbedion effeithlonrwydd cost ac effeithiolrwydd clinigol

Gofal a chanlyniadau gwell

Manteision i Gleifion:

Rydym yn helpu’r system i symud o ymateb i glefydau i’w hatal.

Rydym yn helpu i ragweld pwy sy’n fwy tebygol o gael clefydau penodol.

Rydym yn cefnogi clinigwyr i ganfod clefydau’n gynharach.

Rydym yn helpu i atal clefydau rhag gwaethygu cyn iddyn nhw wneud hynny.

Rydym yn helpu i sbarduno strategaethau personol i atal clefydau yng Nghymru

Cynnull partneriaid

Fel cysylltydd allweddol yn yr ecosystem arloesi, rydym mewn sefyllfa unigryw i feithrin cydweithio ymysg rhanddeiliaid amrywiol i fynd i’r afael â

heriau arloesi ym maes iechyd a gofal Rydym yn creu cyfleoedd ar gyfer partneriaethau parhaol, rhwng arloeswyr iechyd a gofal cymdeithasol a defnyddwyr, a hefyd rhwng ymchwilwyr, cyllidwyr a chyfranwyr allweddol eraill yn y maes.

Fforwm Diwydiant Canser Cymru

Rydym wedi chwarae rhan allweddol o ran cefnogi’r gwaith o gryfhau Fforwm

Diwydiant Canser Cymru drwy ddarparu cyngor ac arweiniad ar draws gwahanol bwyllgorau i sbarduno arloesedd yn y sector canser. Mae’r cydweithio hwn wedi arwain at drefniant gweithio ar y cyd ar gyfer 2024/25, lle byddwn yn cynnig arweinyddiaeth, adnoddau rheoli prosiectau, asesiadau arloesi, cynigion sy’n barod i gael eu mabwysiadu, a chymorth i ddatblygu achosion busnes. Byddwn hefyd yn mynd ati i nodi ac ymgysylltu â phartneriaid allweddol i hyrwyddo amcanion y fforwm

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Grŵp Diddordeb Arbennig Deallusrwydd Artiffisial (SIG)

Gwnaethom barhau i gynnal Grwpiau Diddordeb Arbennig

Deallusrwydd Artiffisial bob mis i gefnogi cydweithio, rhannu arloesedd, a hyrwyddo prosiectau deallusrwydd artiffisial newydd. Mae’r grwpiau hyn yn canolbwyntio ar sut gall

sefydliadau iechyd a gofal yng Nghymru gydweithio ar fentrau deallusrwydd artiffisial i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion a sbarduno datblygiad economaidd yng Nghymru.

Mae siaradwyr gwadd yn y Grwpiau Diddordeb Arbennig Deallusrwydd Artiffisial wedi cynnwys:

MendelScan:

Mae’r algorithm hwn yn nodi nodweddion clefydau o gofnodion iechyd electronig ar draws poblogaeth cleifion. Mae cleifion yn cael eu paru â

meini prawf diagnostig cyhoeddedig ar gyfer cannoedd o glefydau prin. Mae MendelScan yn rhoi adroddiad manwl i ddarparwyr gofal iechyd sy’n amlinellu’r clefyd a amheuir, pam ei fod yn cael ei amau, a’r llwybr diagnostig, gan gyfuno arbenigedd clinigol â mewnwelediadau newydd i helpu pob claf.

Lenus:

Mae gwasanaeth Digidol Diagnostig Methiant y Galon (Opera) yn lleihau rhestrau aros ar gyfer ecocardiogramau, yn cynyddu capasiti diagnostig, ac yn cefnogi canolfannau diagnostig cymunedol ac offer dadansoddi deallusrwydd artiffisial. Mae dyfeisiau cysylltiedig yn casglu data iechyd cleifion, ac mae clinigwyr yn ei ddefnyddio i nodi patrymau a gwneud penderfyniadau gofal.

Siarter AstraZeneca

Ym mis Tachwedd 2023, llofnododd AstraZeneca, un o brif gwmnïau gwyddorau bywyd y DU, siarter i hyrwyddo arloesi ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Ymunodd AstraZeneca â ni, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe i addo cydweithio i ddatblygu ffyrdd newydd o roi diagnosis a thrin salwch a chyflawni’r hyn sydd bwysicaf i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth.

Bydd y dull cydweithredol hwn yn integreiddio nodau polisi iechyd ac economaidd yng Nghymru, gan flaenoriaethu technolegau a meddyginiaethau gofal iechyd arloesol yn seiliedig ar y gwerth sy’n cael ei greu ar gyfer pobl a chymunedau.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

“Fel cenedl, mae Cymru'n arloeswr gwirioneddol ym maes Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, ac mae ein sefydliad wedi cefnogi mentrau arloesol ers tro byd i wella canlyniadau i gleifion a staff mewn ffordd gynaliadwy. Rydym yn edrych ymlaen at gryfhau ein perthynas â chydweithwyr ar draws sectorau drwy’r Siarter hon, lle gallwn gefnogi’r gwaith hollbwysig o fabwysiadu arloesedd – gan weithio’n agos gyda byrddau iechyd a phartneriaid yn y diwydiant i ddod o hyd i atebion sy’n mynd i’r afael ag angen ac yn darparu gwerth.”

Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Trawsnewid Gofal Dementia a Llesiant yn y Gymuned gyda HUG

Roeddem yn falch iawn o gefnogi digwyddiad HUG gan LAUGH yn y Senedd ym mis Rhagfyr 2023, a gynhaliwyd ar y cyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd Fe wnaethom hwyluso’r gwaith o drefnu’r digwyddiad hwn gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, HUG gan LAUGH, ac UWE. Drwy gyfarfodydd prosiect, fe wnaethom helpu i nodi rhanddeiliaid allweddol i’w gwahodd a gweithio mewn partneriaeth â’r timau cyfathrebu o UWE a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent i hyrwyddo’r digwyddiad. Fe wnaethom hefyd arwain y gwaith o ddatblygu blog ar ôl y digwyddiad i’w rannu â rhanddeiliaid a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith pwysig hwn.

Ond pwy yw HUG?

Mae HUG yn gysurwr meddal, therapiwtig gyda breichiau a choesau trwm, sain sy’n debyg i

galon yn curo, a cherddoriaeth wedi’i dylunio i gysuro pobl â dementia. Mae'n gwella llafaredd a llesiant yn sylweddol.

Canfu astudiaeth wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru

gynnydd o 87% mewn llesiant mewn cartrefi nyrsio ac ysbytai ar ôl chwe mis.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Mae tîm Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi ein digwyddiad ymgysylltu diweddar yn Senedd Cymru Roedd y digwyddiad ymgysylltu yn dangos effaith gadarnhaol ein dyluniad ar gyfer ymchwil dementia o amgylch y cynnyrch HUG ar fywydau pobl yng Ngwent. Gan gydweithio â’n partneriaid ym Mwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, ein huchelgais oedd rhannu ein hastudiaethau achos â byrddau

iechyd ledled Cymru. Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gallu gwneud hyn i ni, gan ehangu ein cyrhaeddiad o Went i Gymru gyfan. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda chydweithrediadau ymchwil newydd yn cael eu trafod drwy gyflwyniadau gan dîm Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a gwahoddiadau i gyflwyno’r ymchwil yn S i sicrhau bo

Dr Jac Fennell

Rheolwr Gyfarwyddwr HUG gan LAUGH ac Uwch Ddarlithydd UWE Bryste

Cydweithrediad Traws-sector gyda Rhaglen yr Academi Gwyddorau Meddygol

Rydym wedi parhau â’n partneriaeth ag Academi’r Gwyddorau Meddygol (AMS) i annog cydweithio ar draws sectorau drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, a chynllun ariannu a chefnogi cydweithredol yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn cysylltu ymchwilwyr ac arloeswyr i roi hwb i weithgarwch mewn meysydd blaenoriaeth iechyd penodol fel dadansoddi data, deallusrwydd artiffisial ar gyfer genomeg, patholeg, delweddu meddygol, datblygu cyffuriau, a therapi celloedd a genynnau. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi cynnal dau ddigwyddiad rhaglen traws-sector gydag AMS.

Sut gall rhaglenni digidol helpu i ddod â gofal yn nes at y cartref

Ebrill 2023

Roedd y digwyddiad hwn yn arddangos dulliau cydweithredol dan arweiniad defnyddwyr ar gyfer technolegau deallusrwydd artiffisial a thechnolegau wedi’u sbarduno gan ddata mewn gofal iechyd, gan gynnwys astudiaeth achos ar reoli clwyfau yn ddigidol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Rhoi Sylw i Iechyd Menywod

Tachwedd 2023

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ym Mhrifysgol

Abertawe ac roedd yn canolbwyntio ar iechyd y menopos a’r fam, gyda siaradwyr o’r

diwydiant a siaradwyr academaidd yn rhannu

gwybodaeth ac yn meithrin trafodaethau

Roedd y digwyddiadau hyn wedi denu’r nifer uchaf o gofrestriadau AMS a thŷ

llawn. Roedd ein hyrwyddiadau’n cynnwys hysbysebion cyfryngau cymdeithasol wedi’u targedu, negeseuon organig ar LinkedIn a Twitter, a’n cylchlythyr

Uchafbwyntiau Hwb mis Hydref a anfonwyd at 5,000 o dderbynwyr.

Mae'rdigwyddiadautraws-sectorhynynpwysleisio'rangenamgydweithio,gyda siaradwyrallweddolyndangosypŵerigasgluynghydystodosafbwyntiau,profiadau acarbenigedd.

YmunoddeinPrifWeithredwr,Cari-AnneCuinn,âbwrddcynghori’rFforwmAMSeleni, ganwellaeincysylltiadauagUKRI,OLS,a’rtrydyddsectorargyfercyfleoeddi gydweithioachyllido.

“Nod y rhaglen Traws-sector yw darparu canolfannau rhanbarthol gweithredol a ffyniannus sy'n cynnig digwyddiadau dylanwadol ac sy'n dod â rhwydwaith o arloeswyr, ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol a llunwyr polisi at ei gilydd. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddarparu hwb Traws-sector Cymru a darparu cyfleoedd a chymorth i bobl allu cydweithio mewn gwahanol sectorau ”

Dr Rachel Macdonald, Pennaeth Rhaglenni, Academi’r Gwyddorau Meddygol

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Integreiddio

Rydym wedi ymrwymo i ddull gweithredu ‘Cymru’n Un’, sy’n ei gwneud hi’n haws i arloeswyr gael mynediad at y system iechyd a gofal Drwy wella adnoddau ein gwefan, cynnig cymorth ac arweiniad ariannol, a chynhyrchu adroddiadau craff, ein nod yw symleiddio’r broses i bawb.

Cyfeiriadur Arloesi

Eleni, fe wnaethom lansio ein Cyfeiriadur Arloesi, adnodd ar-lein sy’n helpu defnyddwyr i archwilio a hidlo drwy restr eang o sefydliadau yn ecosystem arloesi fywiog Cymru.

Mae Cymru’n gartref i nifer o gwmnïau gwyddorau bywyd a sefydliadau yn y sector cyhoeddus/trydydd sector. Mae ein cyfeiriadur yn ei gwneud hi’n hawdd llywio drwy’r dirwedd hon, gan gysylltu defnyddwyr â’r gwasanaethau a’r gefnogaeth briodol

“Mae Cymru’n gartref i lawer o sefydliadau gwyddorau bywyd a sy’n sbarduno arloesedd hanfodol ym maes gofal iechyd. Mae ei Cyfeiriadur Arloesi yn helpu i’ch cysylltu â’r bobl iawn – p’un a oe angen cymorth arnoch gyda chyllid, gweithgynhyrchu, arweiniad ymchwil ”

Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

"Roeddwn i eisiau adrodd ar dystiolaeth gadarnhaol o'r Cyfeiriadurmae Prifysgol Caerdydd wedi cysylltu ag RLS ynghylch eu cynllun lleoliad, a daeth i'r amlwg mai'r rheswm dros ein nodi oedd ein bod wedi'n rhestru yn y Cyfeiriadur Arloesi Yn gyffredinol, cefais adborth

Adroddiad Blynyddol 2023-24 gwych ar yr adnodd gan Swyddog Prosiect Profiad Gwaith Prifysgol Caerdydd gan eu bod yn ei ddefnyddio'n llwyddiannus i gyrraedd nifer o gwmnïau yn yr ecosystem genedlaethol. Fel cyn arweinydd Llwyddiant Cwsmeriaid, roeddwn eisiau rhannu’r

adborth didwyll a brwdfrydig ar yr adnodd gwych hwn.”

Peter Bannister, Cyfarwyddwr Anweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Cronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol

Ym mis Ebrill 2023, fe wnaethom agor ceisiadau ar gyfer Cronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF). Mae’r gronfa’n cael ei rheoli ochr yn ochr ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, a’i nod yw gweithredu systemau electronig i gleifion (EPS), teithiau presgripsiynau di-bapur, a gwthio hysbysiadau i Ap GIG

Cymru. Mae’r fenter hon yn gwella diogelwch ac effeithlonrwydd presgripsiynu, gan gynnig cyllid arloesi penodol i gyflenwyr systemau

digidol ar gyfer fferyllfeydd Cymru

Ers ei sefydlu, mae saith o gyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol wedi llwyddo i sicrhau cyllid, gan gynnwys Pharmacy x Limited, Titan PMR Limited/Invatech, Egton Medical Information Systems Ltd, Positive Solutions Ltd, Clanwilliam Health (RxWeb) Ltd, Apotec Ltd, a Cegedim Healthcare Solutions

Mae cyllid wedi cael ei ryddhau i Titan PMR Ltd ar gyfer haen un a haen dau, a disgwylir i weithgareddau haen tri gael eu hariannu erbyn diwedd mis Mai 2024. Mae tair fferyllfa eisoes wedi elwa, dwy gan

Titan/Invatech ac un gan Positive Solutions Limited, ac mae disgwyl i fwy ohonynt elwa wrth i ragor o gyflenwyr fynd drwy’r broses sicrwydd

“Bydd presgripsiynau electronig yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r GIG ac i gleifion, ac mae hyn yn garreg filltir bwysig yn ein taith at ddigideiddio pob presgripsiwn ym mhob lleoliad gofal iechyd ledled Cymru ”

Eluned Morgan MS, cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

“Mae’n gynnydd gwych ac mae’n dangos gwir awydd ac ymrwymiad gan gyflenwyr i ddatblygu eu systemau i fod yn barod ar gyfer EPS cyn gynted â phosibl. Rydym yn edrych ymlaen at gael ceisiadau gan ragor o gyflenwyr yn y rownd gyllido nesaf er mwyn i ni allu cyflymu’r datblygiadau mewn fferyllfeydd yn y gymuned ledled Cymru.”

Hamish Laing, Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer Portffolio Trawsnewid

Meddyginiaethau Digidol

Gwybodaeth am y Sector

Mae ein tîm Gwybodaeth am y Sector yn darparu gwybodaeth ac arweiniad hanfodol ar arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Eleni, rydym wedi paratoi adroddiadau allweddol gan gynnwys:

Adroddiad y Sector Diabetes

Paratowyd yr adroddiad hwn ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac roedd yn crynhoi datblygiadau arloesol allweddol o ran atal, rhoi diagnosis, trin a rheoli diabetes. Defnyddiwyd yr adroddiad hwn i roi gwybod i’r bwrdd iechyd am yr offer newydd a allai chwyldroi gofal diabetes yn y dyfodol.

Deallusrwydd Artiffisial mewn Gofal Iechyd: Adroddiad Sector Tirwedd

Cymru

Mae’r adroddiad hwn, a baratowyd ar ran Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial

Llywodraeth Cymru, yn crynhoi tirwedd bresennol arloesedd deallusrwydd artiffisial ym maes gofal iechyd ledled Cymru, gan gynnwys GIG Cymru, sefydliadau academaidd, a’r diwydiant Hefyd, trafodwyd y darlun rheoleiddiol ar gyfer deallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd, a nodwyd grwpiau deallusrwydd artiffisial tebyg eraill yn y DU ac ar draws y byd. Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei ddefnyddio i roi gwybod i randdeiliaid y Comisiwn am dirwedd Arloesi Deallusrwydd Artiffisial

Cymru, gyda diweddariadau parhaus wedi’u cynllunio er mwyn i’r grŵp fod yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd yng Nghymru.

Cardiff Edge: Cyfle Economaidd mewn Genomeg

Mae’r adroddiad hwn wedi’i baratoi ar gyfer Llywodraeth Cymru ac adran Datblygu Economaidd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac mae’n dadansoddi’r cyfle posibl i greu canolfan genomeg fwy yn Cardiff Edge a’i heffaith economaidd bosibl yng

Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt. Mae'r adroddiad yn edrych ar y cyfle economaidd mewn genomeg ar bedair lefel: yn fyd-eang, yn y DU, yng Nghymru ac yng

Nghaerdydd Roedd y dadansoddiad yn edrych ar botensial creu swyddi, datblygu’r diwydiant, arbedion a chanlyniadau iechyd, partïon â diddordeb, cost eiddo, a mentrau gwyddoniaeth a pharc genomeg tebyg.

Adroddiadau’r Sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru

Mae’r adroddiadau hyn wedi’u paratoi ar ran Llywodraeth Cymru ac maent yn cynnwys Seilwaith: sy’n rhoi manylion am dirwedd y sector, Cyllid: archwilio cyfleoedd ariannol, a Strategaethau Gwyddorau Bywyd ehangach: archwilio strategaethau bydeang i feithrin arloesedd, gyda’r bwriad o lywio’r gwaith o ddatblygu strategaeth gwyddorau bywyd gynhwysfawr ar gyfer Cymru.

Cyllid

Maesicrhaucyllidynhanfodolargyferannogarloeseddymmaesiechydagofal cymdeithasol.Maeeintîmcyllidynhelpuarloeswyriddodohydigyllidcydweithredol agwneudcaisamdano Yn2023-24,cawsom67oymholiadauagwnaethomhelpu gyda14ogeisiadau,gangefnogisefydliadaufelYourMeds,PrifysgolMetropolitan Caerdydd,aKaydiarLtdisicrhaugrantiausylweddol.

Erenghraifft,datblygoddYourMedsddyfaismeddyginiaethddigidolisymleiddio’r brosesoreolimeddyginiaethauargyferunigolionsyddânamaugwybyddol Buom hefydyncydweithioâPhrifysgolMetropolitanCaerdyddaDrSamBurrar gymrodoriaethauarweinyddiaethynydyfodoliwellacanlyniadaulleferyddiblantsy’n caeleugeni’ngynnar

Arbenhynny,sicrhaoddKaydiarLtdgylliddrwygeisiadaullwyddiannusiRaglen InventionforInnovationNIHRaSmartGrantsInnovateUK,ganganolbwyntioar ymchwiladatblygumeddygoliwellacanlyniadautriniaethauargyferanhwylderau cyhyrysgerbydol

Cyflymu

Rydymwediymrwymoigyflymu’rgwaithoddatblyguarloesiadaugwerthfawrledled Cymru.Drwyfeithrindiwylliantoarloesiymmaesiechydagofal,einnodywgwella mynediadatatebionarloesol,sy’nhanfodolargyfermyndi’rafaelâ’rgalwpresennol aheriau’rsystemynytymorhir Rydymwediymrwymoohydigefnogi’rgwaithogreu arheolipiblinellarloesicenedlaethol,sy’ncynnwys:

Datblyguofferargyferrheolipiblinellau,portffoliosaphrosiectau.

Sefydlufframwaitharloesicysono’rcamdarganfodi’rcamgweithreduarraddfa fawr

Darparutrosolwgo’rdatblygiadauarloesolsyddarygweilldrwysganio’rgorwel yngynhwysfawradadansoddi’rfarchnad,gansicrhauatebionamseroliheriau.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Dyma enghreifftiau o ble rydym yn cael effaith go iawn yng Nghymru

QuicDNA

Rydym yn deall yr angen brys i wella canlyniadau o ran rhoi diagnosis a thrin canser yr ysgyfaint yng Nghymru. Dyna pam rydym yn falch o fod yn cefnogi’r prosiect QuicDNA, a gafodd ei lansio ym mis Ebrill 2023. Mae'r treial clinigol arloesol hwn yn gwerthuso'r defnydd o biopsïau hylif, gan gynnig dewis amgen anymwthiol i weithdrefnau llawfeddygol ar gyfer dadansoddiad genomig cynnar.

Gyda phartneriaid fel Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a chyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydym yn sbarduno newid effeithiol mewn gofal canser yr ysgyfaint. Nod y prosiect yw cyflymu diagnosis, lleihau amseroedd aros am driniaeth, a gwella canlyniadau cleifion yn y pen draw.

Mae ein cyfraniad i QuicDNA yn mynd y tu hwnt i arweinyddiaeth. Rydym wedi hwyluso cydweithio ymysg rhanddeiliaid, wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu achosion busnes, ac wedi helpu i recriwtio rheolwr prosiect treial Ar ben hynny, rydym wedi llunio cynllun cyfathrebu wedi’i deilwra i godi ymwybyddiaeth ac rydym wedi edrych ar ffynonellau cyllid eraill ar gyfer cynaliadwyedd tymor hir.

Mae ymdrechion codi arian Craig Maxwell, sy’n eiriolwr dros gleifion, wedi bod yn allweddol, gan godi dros £1 miliwn i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r prosiect. Mae’r gydnabyddiaeth i QuicDNA yng Ngwobrau Arloesi MediWales a’r Gwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd yn 2023 yn tynnu sylw at ein hymdrechion ar y cyd i gyflwyno technoleg biopsi hylifol ar draws byrddau iechyd Cymru, gan osod Cymru fel arweinydd ym maes integreiddio genetig.

Mae’r treial clinigol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gyda chynlluniau i’w ehangu i bedwar bwrdd iechyd arall erbyn 2024.

Drwy QuicDNA, rydym yn gwneud yn siŵr bod y dechnoleg drawsnewidiol hon yn cyrraedd pob cwr o’r wlad, gan ddod â gobaith i gleifion canser yr ysgyfaint ledled Cymru

Adroddiad Blynyddol 2023-24

"Mae QuicDNA yn astudiaeth arloesol sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran gwella llwybrau diagnostig canser yr ysgyfaint ar draws y system gofal iechyd yng Nghymru Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn allweddol wrth gefnogi’r astudiaeth a hyrwyddo’r potensial i Gymru gydweithio â chwmnïau byd-eang i arwain y byd ym maes diagnosteg canser meddygaeth fanwl.”

Sian Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Labordy Genomeg

Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS)

PainChek: Cyflwyno technoleg rheoli poen arloesol i wasanaethau gofal cymdeithasol

Fewnaethomhwyluso’rgwaithogyflwynoadnoddasesupoenarloesolsy’ncaelei bweruganddeallusrwyddartiffisialiofalcymdeithasolyngNghymru.Herfawrym maesgofalcymdeithasolywasesuanghenionlleddfupoenpreswylwyrsy'nmethu cyfathrebufelpoblâdementianeuanawsteraudysgu.

MaePainChek,sefapasesupoenarsailddeallusrwyddartiffisial,ynrhoillaisi breswylwyrmewncartrefigofalnadydyntyngallumynegieupoenarlafar.Mae'rap yndadansoddisymudiadau'rwynebiasesulefelaupoen,acmaegofalwyryn defnyddio'rofferynigynnalasesiaddanarweiniadynseiliedigarddangosyddion poeneraillfelsymudiadycorff Mae'rapyncynhyrchusgôrpoencyffredinol,gan alluogigofalwyriwneudpenderfyniadauclinigolmwygwybodus,wedi'udogfennu ynghylchlleddfupoen.

Fe wnaethom gyflwyno ac arwain y prosiect hwn o’r cychwyn cyntaf, gan fynd ati i chwilio am atebion newydd ac arloesol i gefnogi’r ddarpariaeth iechyd a gofal yng

Nghymru. Roedd ein harweinydd prosiect wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol a darparwyr cyllid i fesur diddordeb mewn gwerthuso prosiect PainChek. Mae ein rôl yn y prosiect wedi dod â darparwyr a chyllidwyr at ei gilydd i lansio’r cynllun, gan arwain at ei gyflwyno yng Ngwent ac ymgysylltu ag awdurdodau lleol eraill ledled Cymru i nodi meysydd gweithredu ychwanegol.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

“Cafodd y prosiect ei gychwyn gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Cymerodd traean o’r cartrefi gofal ledled Gwent ran yn y cynllun peilot, gyda dros 400 o breswylwyr yn elwa o PainChek. Mae’r gwaith rydym wedi’i wneud gyda Hwb Gwyddorau Bywyd

Cymru wedi helpu gyda hynny yng

Nghymru. Yr hyn rydym yn ei weld yw bod defnyddio PainChek yn arwain at ganlyniadau gwell i’n preswylwyr ”

Tandeep Gill

Uwch Reolwr Datblygu Busnes, PainChek UK

Ofewnchwemisilansio’rcynllunpeilot:

Cofrestrodd18ogartrefigofaligymrydrhan,sy’ncynrychiolibronidraeano’r cartrefigofalyngNgwent

RoeddcartrefigofalardrawsypumawdurdodlleolyngNgwentwedicymryd rhan,gangynnwyscartrefipreifatachartrefiaariennirganawdurdodaulleol.

Roeddcyfanswmo905odrigolionwedielwao’rcynllun.

RydymnawryncynnaltrafodaethaugydaLlywodraethCymruynghylchgweithredu’r adnoddardrawsywlad,ynogystalâchytunoarwerthusiadarallwedi’iariannuyng NgogleddCymru,ganganolbwyntioarwasanaethauanabledddysgu.Byddhynyn casglutystiolaetharddefnyddioPainChekargyferpoblaganabledddysgusy’nbyw mewngwasanaethaubywâchymorth.

YourMeds: Rheoli meddyginiaeth yn well yn y gymuned

Mae gwneud yn siŵr bod pobl yn cymryd eu meddyginiaeth yn her gynyddol. Mae Age UK yn amcangyfrif bod bron i ddwy filiwn o bobl dros 65 oed yn cymryd o leiaf saith meddyginiaeth ragnodedig wahanol bob wythnos. Rhaid i bobl ddelio’n effeithiol â’u presgripsiynau er mwyn cynnal eu hannibyniaeth a pharhau i fyw yn eu cartref eu hunain. Fodd bynnag, amcangyfrifir nad yw cymaint â 50% o feddyginiaeth ar bresgripsiwn yn cael ei chymryd fel y dylai I fynd i’r afael â’r materion hyn, rydym yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref

Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i werthuso system ddigidol ar gyfer rheoli meddyginiaethau.

Nod y ddyfais yw gwella cydymffurfiaeth feddygol fel:

Atgoffa defnyddwyr pryd i gymryd eu meddyginiaeth.

Anfon rhybuddion (gyda chaniatâd) at aelodau’r teulu, a rhoi gwybod i’r ganolfan dderbyn pan na fydd meddyginiaethau’n cael eu cymryd, neu pan fyddant yn cael eu cymryd yn anghywir.

Dangosfwrdd data canolog i olrhain ymddygiad.

Fe wnaeth ein tîm sganio’r gorwel i helpu i ddewis darparwr dyfais ddigidol arloesol ac mae bellach yn rheoli’r prosiect Mae dyraniad cyllid o £20,000 gan Ofal Iechyd

Seiliedig ar Werth yn cefnogi’r broses o ddarparu dyfeisiau i 40 o drigolion ym Mheny-bont ar Ogwr ar gyfer prosiect gwerthuso naw mis.

Mae’r treial wedi dangos effeithiau

cadarnhaol ar breswylwyr, gan gynnwys

rheoli cyflyrau iechyd yn well a lleihau

digwyddiadau fel cwympo. Gallai hyn

oedi’r angen am ofal preswyl a lleihau’r

baich ar anwyliaid, sy’n cael ei asesu drwy

adborth gan deuluoedd.

Mae un person wedi dangos cynnydd o 89% o ran cymryd ei feddyginiaeth fel y dylai ers cael dyfais YourMeds yn 2023, ac mae’n dweud bod rheoli ei feddyginiaeth yn llawer llai llethol erbyn hyn.

“ syniad cychwynnol ar gyfer y prosiect hwn oedd helpu pobl n mryd meddyginiaeth reolaidd a’u grymuso i reoli eu hiechyd u llesiant yn annibynnol. Bydd y dull cydweithredol hwn rhwng mau fferylliaeth gymunedol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-ybont ar Ogwr yn darparu gwasanaeth cadarn ac integredig a fydd yn sylfaen gref ar gyfer unrhyw ddatblygiadau a thrawsnewidiadau posibl yn y dyfodol oherwydd y dechnoleg

hon. Mae’r dull unigryw hwn yn ei gwneud yn gyfnod cyffrous iawn i fod yn rhan o wasanaethau monitro o bell yng Nghymru.”

Louise Baker

Arweinydd Prosiect Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn gefnogol iawn i’r prosiect, o sicrhau cyllid i oruchwylio’r ddarpariaeth. Rydym wedi gallu cefnogi unigolyn a oedd yn dod yn ôl o gartref gofal, ac roedd yn ysbrydoledig ei weld yn dod adref ac yn rheoli ei feddyginiaethau’n gwbl annibynnol.”

Tom Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Adroddiad Blynyddol 2023-24

MaesgrinioHPVoleiafbobpummlyneddynlleihau'rrisgoganserceg ygroth67%.Ergwaethafhyn,mae’rnifersy’ncymrydrhanmewn sgrinioserfigolyngNghymruwedigostwng.Gallgohirioprofionarwain atddiagnosishwyrogansergydachanlyniadaugwaeth.Maedulliau hunan-samplu,felswabiauasamplauwrin,yncaeleutreialuynyDU Rydymwedichwaraerhanhollbwysigynygwaithogefnogiatebion arloesoliwellamynediadatsgrinioserfigolarferolledledCymru,drwy hunansampluHPV Rydymwedihwylusocydweithioymysg rhanddeiliaidallweddol,gangynnwysByrddauIechyd,SgrinioSerfigol Cymru,IechydCyhoeddusCymru,aNovosanissefdatblygwyrColliPee®,dyfaiscasgluwrinargyferprofionHPV.Oganlyniadi’r gweithgarwchhwn,maesawlprosiectarygweill,gangynnwys:

CarfanEnghreifftiolBevan8:CydweithrediadrhwngBwrddIechyd PrifysgolHywelDda,IechydCyhoeddusCymru,aSgrinioSerfigol Cymru,gyda'rnodolywiocymorthpenderfynuarycydargyfer hunansampluHPV Mae’rgweithgareddau’ncynnwysarolygudros 4,000odrigolionBwrddIechydPrifysgolHywelDda,cynnal cyfweliadau,achreufideo.Cafoddhyneigwblhaua’igyflwynoyn ArddangosfaEnghreifftiolBevanynySeneddymmisMehefin2024. Prosiectallgymorthcymunedol‘CanfodaPhrofi’CHOICES: YmgysylltuâmenywodymMwrddIechydPrifysgolCwmTaf Morgannwgnadydyntyncaelmynediadatsgrinioiechydrheolaidd drwygynnigyropsiwniddynthunansampluargyferHPV.

“Mae gweithio ar y cyd â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn amhrisiadwy o ran cyflawni nodau Prosiect Bevan. Mae Debbie, Arweinydd y Rhaglen yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, wedi bod yn allweddol o ran creu cysylltiadau yn y gofod gwyddoniaeth a thechnoleg sydd wedi siapio a datblygu’r gwaith ac wedi mynd â’r prosiect i’r lefel nesaf.”

Dr C Helen Munro, Arweinydd Clinigol Rhwydwaith Iechyd Menywod, Gweithrediaeth y GIG

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Strategaeth Gyfathrebu

Rydym wedi cadw ein strategaeth gyfathrebu uchelgeisiol yn weithredol, gan nodi ein cynulleidfaoedd, ein negeseuon a’n sianeli allweddol yn glir. Wrth i ni symud ymlaen, rydym wedi ymrwymo i wella ein hymdrechion marchnata a chyfathrebu, gan ddarparu llwyfan cadarn i ddathlu arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Drwy sylw yn y cyfryngau, cynhyrchu cynnwys a chymorth prosiect, ein nod yw codi ymwybyddiaeth a dangos y gwaith anhygoel sy’n digwydd yng Nghymru.

Astudiaethau Achos Trydydd Parti

Mae gan Gymru ecosystem arloesi ffyniannus, sy’n darparu technolegau arloesol ar flaen y gad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae astudiaethau achos yn ffordd bwerus o ddangos sut mae diwydiant, iechyd, gofal cymdeithasol a'r byd academaidd yn cydweithio i drawsnewid y systemau hyn Yn unol â’n cynllun prosiect ar gyfer gwefan 2023, rydym wedi cyflwyno ffurflen we astudiaeth achos. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gyflwyno eu hastudiaethau achos eu hunain, a fydd, os ydynt yn berthnasol ac yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau, yn cael eu cyfieithu a’u cyhoeddi ar ein gwefan.

Lledaenu eich cynnwys

Gall defnyddwyr ledaenu eu cynnwys ymhellach drwy ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol drwy wneud y canlynol:

Rhannu newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am arloesi a’u cyhoeddi ar ein gwefan

Dangos y digwyddiadau maent yn eu cynnal ar dudalen rhestru digwyddiadau ein gwefan.

Rhestru eu cylchlythyrau ar ein gwefan.

Pam dewis ein rhwydweithiau a’n cymuned?

Pellgyrhaeddol: Gallwn gyrraedd dros 5 miliwn o bobl ar draws llwyfannau masnach Cymru, Cenedlaethol a’r DU.

Presenoldeb Cymdeithasol Gweithredol: Ymunwch â’n cymuned o 18,000 o bobl sy’n cynhyrchu 3 5 miliwn o argraffiadau bob blwyddyn, gyda chyfradd ymgysylltu o 4%

Sylfaen Gyswllt Gadarn: Cysylltwch â’n rhwydwaith o 5,000 o gysylltiadau, sydd â chyfradd agored o 27.3% a chyfradd clicio drwodd o 10%.

Hwb Traffig Uchel: Gallwch sicrhau sylw drwy 9,000 o ymweliadau misol â’r wefan.

Cyfleoedd Amrywiol: Archwiliwch rwydweithio, cydweithio a dod i gysylltiad sy’n benodol i’r diwydiant drwy ein grwpiau rhwydwaith a digwyddiadau arbenigol.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Mae ein rhwydweithiau a'n cymuned yn cynnig gwelededd, ymgysylltiad a chyfleoedd rhwydweithio heb eu hail ar gyfer llwyddo.

Gwella Proffil a Dylanwad Cymru

Mae ein hymgysylltiad rhyngwladol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnwys:

Cyflwyno Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan ar gyfer Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg yn Senedd Ewrop Rydym wedi cwrdd â dirprwyaethau o'r Almaen,

Saxony, Silesia, Catalonia, a Malta, ac wedi cynnal ymweliad gan yr Arglwydd

O'Shaughnessy.

Ymgysylltu â phedwar tîm cenhadaeth o’r Swyddfa Gwyddorau Bywyd.

Gweithio mewn partneriaeth â phodlediadau potensial uchel cyntaf yr Adran

Busnes a Masnach.

Mae’r ymdrechion hyn yn gwella proffil a dylanwad Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, gan ddangos ein hymrwymiad i arloesi a chydweithio.

Adeiladu ar gyfer y dyfodol

Paratoi ar gyfer y dyfodol: Blwyddyn o bontio a thwf

Rydym yn llawn brwdfrydedd a hyder wrth edrych ymlaen at 2024/25. Mae ein tîm

medrus ac ymroddedig wedi cael ei gryfhau ymhellach mewn meysydd allweddol, gan gynnwys sefydlu ein tîm partneriaethau newydd, sy’n canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau strategol â sefydliadau mawr a systemau iechyd. Bydd y tîm hwn yn hollbwysig o ran eirioli dros systemau iechyd a gofal Cymru.

Beth Nesaf?

Wrth i ni nesáu at 2024/25, un o’n prif feysydd ffocws yw canser Rydym wedi ymrwymo i barhau â’n momentwm ar y cyd â Fforwm Diwydiant Canser Cymru, Gofal ac Ymchwil Iechyd Cymru a Rhwydwaith Canser Cymru i sicrhau effeithiau trawsnewidiol. Mae ein cynllun busnes yn blaenoriaethu mynd i’r afael ag anghenion clinigol yn y gofod canser, gan gyflwyno cyfle i sbarduno twf sylweddol ledled y wlad. Byddwn yn cydweithio’n agos â thimau clinigol, partneriaid yn y diwydiant, y byd academaidd a Llywodraeth Cymru i wella’r broses o roi diagnosis a thrin canser Mae’r egni sy’n gysylltiedig â’n hymdrechion yn arwydd bod blwyddyn addawol o’n blaenau

Adroddiad Blynyddol 2023-24

““Wrth i ni geisio harneisio’r cyffro, yr egni a’r ewyllys da sydd eisoes wedi’u

sefydlu yn ystod ein gwaith yn y maes hwn, rwy’n credu y gallai’r rhaglen hon fod yn llwyddiannus iawn Yn wir, rydw i eisoes yn edrych ymlaen at ddiweddariad y flwyddyn nesaf ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni!”

Byddwn yn parhau i flaenoriaethu technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial, a meddyginiaeth fanwl gan ganolbwyntio ar gyfleoedd yn y meysydd hyn i fynd i’r afael â chanser. Bydd y meysydd hyn yn trawsnewid darpariaeth gofal iechyd, gyda meddyginiaeth fanwl yn cynnig y potensial i drin afiechydon nad oedd modd eu trin o’r blaen. Mae Cymru mewn sefyllfa dda i arwain y datblygiadau hyn, gan feithrin clystyrau o arbenigedd, yn enwedig mewn genomeg.

Wrth i ni gryfhau ein sefyllfa fel y ganolfan ganolog ar gyfer arloesi ym maes gwyddorau bywyd yng Nghymru, mae ein hymrwymiad i feithrin cydweithrediad a gyrru arloesedd yn bwysicach nag erioed Gyda phartneriaethau cryfach a ffocws clir, rydym yn edrych ymlaen at y dyfodol.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Sut beth yw gweithio i ni?

Ein Pobl

Wrth i’n sefydliad barhau i dyfu, datblygu a chyflawni mewn tirwedd heriol, mae meithrin tîm amrywiol o gydweithwyr talentog ac angerddol sy’n ymroddedig i greu newid ac arloesi yn dod yn fwyfwy pwysig.

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer pobl yn canolbwyntio ar ddenu, cadw a datblygu talent ar yr un pryd â meithrin diwylliant blaengar a chefnogol yn y gweithle.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cymryd camau cadarnhaol yn y meysydd canlynol:

Ein Gweithle

Rydym wedi ail-lunio ein gofod gweithio yn y swyddfa, gan wneud gwell defnydd o dechnoleg a gweithio hyblyg i sicrhau bod gan ein tîm weithle gwych, gan alluogi cydweithwyr i gysylltu’n fwy â’i gilydd wyneb yn wyneb, i ddatblygu gweithio ar y cyd ac i feithrin perthnasoedd gwaith gwych, ochr yn ochr â gweithio hybrid sy’n bodoli’n barod Mae ôl troed ein swyddfa wedi cael ei newid er mwyn sicrhau bod ein tîm mor effeithiol â phosibl, ac er mwyn cynnal gofod cydweithredol ar gyfer cynadleddau, i gyd o fewn

lleoliad mwy cost-effeithiol.

Llesiant Cydweithwyr

Rydym wedi cryfhau ein hymrwymiad i lesiant cydweithwyr drwy greu diwylliant mwy agored lle mae’r mantra “mae’n iawn siarad” yn cael ei gefnogi’n gadarnhaol. Ein nod yw lleihau unrhyw stigma ac i gydweithwyr fod yn hyderus ac yn glir ynghylch ble a sut gallant gael gafael ar gymorth llesiant ar draws y sefydliad. Eleni, rydym hefyd wedi cymryd camau at ddatblygu ein hymrwymiad ‘Rhoi Rhywbeth yn ôl’ a gweithio mewn partneriaeth â’n helusen enwebedig gyntaf.

Datblygu’r Tîm

Rydym yn parhau i hyrwyddo a chefnogi datblygiad personol ar draws y tîm, gan helpu cydweithwyr i wella sgiliau sy’n berthnasol i’w rolau a’u llwybrau gyrfa Mae ein proses

Datblygu Perfformiad a Gyrfa yn hwyluso adolygiadau perfformiad, sgyrsiau gyrfa a datblygiad personol, gan gyfrannu at ddiwylliant perfformiad uchel.

Talent y Sefydliad

Er mwyn denu a chadw pobl dalentog, rydym wedi gwella ein strategaethau recriwtio gydag ymgyrchoedd wedi’u targedu, rydym wedi ehangu ein cyrhaeddiad drwy gyfryngau cymdeithasol, ac rydym wedi diweddaru polisïau AD i sicrhau dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr ymgeisydd.

Mae ein rhaglen gyfathrebu fewnol yn amrywiol; mae wedi’i llunio i gefnogi ymgysylltu mewnol â’r tîm ynghylch meysydd pwysig, newyddion am unrhyw newidiadau neu fentrau newydd ac i helpu i ddatblygu diwylliant o fod yn agored ac arweinyddiaeth dosturiol. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn parhau ac mae wrth galon ein blaenoriaethau o ran pobl.

Sut rydym yn rheoli ein cyllid

Cawsom £3.57m o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein gweithgareddau craidd yn 2023-24 (£3.57m yn 2022-23). Eleni, cawsom hefyd fuddsoddiad cyfalaf o £0.2m i ad-drefnu a lleihau maint y swyddfa o 12,000 troedfedd sgwâr i 7,500 troedfedd sgwâr.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

41

Cyllid 2023-24

Craidd Llywodraeth Cymru

Deallusrwydd Artiffisial

Darpariaeth Dadfeiliad Llywodraeth Cymru (dim arian parod)

Prydlesi Llywodraeth Cymru

Roedd ein cyllid yn cynnwys cyfraniadau gwerth £48k ar gyfer gweithgarwch Cronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF), £20k i ddechrau gweithio ar y

Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial (2024/25: dyraniad cyllideb o £535k), £13.5k at gyfraniad Academi’r Gwyddorau Meddygol (AMS) i reoli digwyddiadau, ac incwm arall gwerth cyfanswm o £13k (ac eithrio’r costau i adnewyddu swyddfeydd gwerth £75k gros).

Amlinellir y crynodeb o'n cyllid a gwariant cysylltiedig yn y siart.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Atodiadau

Adroddiad Llywodraethu ac Atebolrwydd

Mae’r adran hon yn nodi sut mae fframwaith llywodraethu a rheoli risg Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi’r gwaith o gyflawni nodau ac amcanion y Cwmni.

Rydym yn amlinellu sut y caiff Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ei reoli, rôl a chyfansoddiad Bwrdd y Cyfarwyddwyr a’i ddau is-bwyllgor, y trefniadau sicrwydd ac atebolrwydd, a’r risgiau y mae’r Cwmni’n eu hwynebu a sut y caiff y rhain eu rheoli

Rydym hefyd yn disgrifio’r gwaith parhaus i wella’r system a’r prosesau llywodraethu

Mae’r prosesau llywodraethu hyn hefyd yn sicrhau bod yr adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol, o’u cymryd gyda’i gilydd, yn rhoi adlewyrchiad teg a chytbwys o drefniadau llywodraethu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a sut mae’r rhain yn cefnogi model busnes, strategaeth a pherfformiad y Cwmni (mae’r manylion i’w gweld yn yr

Adroddiad Strategol ar dudalennau 3-43)

Mae’r adran hon yn cynnwys yr adroddiadau/datganiadau canlynol:

Adroddiad y Cyfarwyddwyr

– mae hwn yn nodi aelodaeth y Bwrdd, cyfrifoldebau

aelodau’r Bwrdd ac mae’n cynnwys amryw o ddatgeliadau ar berfformiad statudol sy’n ofynnol dan Ddeddf Cwmnïau 2006 Mae hefyd yn rhestru cyfrifoldebau’r Cyfarwyddwyr wrth baratoi’r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol, yn ogystal â rhoi trosolwg o’r prif risgiau y mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn eu hwynebu a’r system rheoli risg sydd ar waith (tudalen 44 ymlaen).

Y Datganiad Llywodraethu Corfforaethol

Adroddiad yr Archwilydd Annibynnol

– mae hwn yn datgelu fframwaith llywodraethu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gweithgareddau Bwrdd y Cyfarwyddwyr ac mae’n cynnwys adroddiadau blynyddol (crynodeb) dau isbwyllgor y Bwrdd. Mae’r datganiad hwn hefyd yn gwneud datgeliadau fel sy’n ofynnol gan Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru (tudalen 56 ymlaen). – mae hwn yn rhoi trosolwg o ganlyniad yr archwiliad blynyddol a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Archwilio Cymru (i’w gwblhau) (tudalen 67 ymlaen)

Adroddiad Blynyddol 2023-24

1. Adroddiad y Cyfarwyddwr

Mae’rCyfarwyddwyryncyflwynoeuhadroddiadblynyddolynghydâ’rdatganiadau ariannolaarchwiliwydacadroddiadarchwilyddannibynnolHwbGwyddorauBywyd CymruCyfyngedigargyferyflwyddynaddaethibenar31Mawrth2024

Mae’rwybodaethganlynolsy’nofynnoldanDdeddfCwmnïau2006argaelyn adranganlynolyradroddiadblynyddol.

Mae’rAdroddiadStrategol(tudalennau3-43)yncynnwysmanylionamamcanion HwbGwyddorauBywydCymru,datblygiadauynydyfodoladigwyddiadau arwyddocaolersdyddiadyfantolen.

MaedatgeliadaurheolirisgHwbGwyddorauBywydCymruwedi’unodiar dudalennau47ymlaen.

Ynnodyn19ydatganiadauariannol,ceirgwybodaethamsutmaeHwb GwyddorauBywydCymruyndefnyddioofferynnauariannol.

TrafodirstrwythurcyfalafHwbGwyddorauBywydCymruynydatganiadau ariannol.

1.1 Difidendau

Ni chaiff difidendau eu dosbarthu ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024.

1.2 Cyfarwyddwyr

Dyma’r cyfarwyddwyr a oedd mewn swyddi yn ystod y flwyddyn a hyd at ddyddiad llofnodi’r datganiadau ariannol:

GanmaiCorffHydBraichLlywodraethCymruywHwbGwyddorauBywydCymru,y GweinidogIechydaGwasanaethauCymdeithasolsy’npenodi’rhollGyfarwyddwyr (Anweithredol)

Daethpedwarcyfarwyddwriddiweddeuhaildymorynyswyddar6Hydref2023 (cyfeirnod*).Gadawoddddaugyfarwyddwr–MrJEvansaMsCO’Brien–ysefydliad, erbodMr.RPJoneswediarosyneiswyddtan30Mehefin2024(ynamodolar recriwtioCyfarwyddwrsy’nsiaradCymraeg) ArhosoddyCadeiryddhefydhydnes canlyniadprosesrecriwtio’rCadeirydd.Cafoddyddauestyniadeucymeradwyogany Gweinidog.

LlwyddoddyGweinidogibenoditrichyfarwyddwr(cyfeirnod+)ilenwiswyddigwagyn dilynprosespenodiadaucyhoeddus.PenodwydyCyfarwyddwyrhyno18Medi2024 ymlaen.

1.3 Cyfrifoldebau’r Cyfarwyddwyr

Dyliddarllenycanlynolarycydâchyfrifoldebau’rarchwilyddallanolfelynodiryneu hadroddiadardudalen46ymlaen

YCyfarwyddwyrsy’ngyfrifolambaratoi’rAdroddiadBlynyddola’rdatganiadau ariannolynunolâ’rgyfraitha’rrheoliadauperthnasol.

MaecyfraithcwmnïauynmynnubodyCyfarwyddwyrynparatoidatganiadau ariannolargyferpobblwyddynariannol.Odanygyfraithhonno,mae’rcyfarwyddwyr wediparatoi’rdatganiadauariannolynunolâ’rSafonauAdroddiadauAriannol Rhyngwladol(IFRS)agafoddeumabwysiaduganyrUndebEwropeaidd.Odan gyfraithcwmnïau,niddylai’rCyfarwyddwyrgymeradwyo’rdatganiadauariannoloni baieubodynfodloneubodynrhoidarluncywirathegosefyllfa’rCwmniaco’ielw neugolledamycyfnodhwnnw.Wrthbaratoi’rdatganiadauariannolhyn,maeSafon CyfrifydduRyngwladol1ynmynnubodcyfarwyddwyryngwneudycanlynol: dewisarhoipolisïaucyfrifydduarwaithynofalus; cyflwynogwybodaeth,gangynnwyspolisïaucyfrifyddu,mewnmoddsy’ndarparu gwybodaethberthnasol,ddibynadwyagwybodaethygellireichymharua’ideall. darparudatgeliadauychwanegolpannadywcydymffurfiadâ’rgofynionpenodol ynIFRSynddigonialluogidefnyddwyriddealleffaithtrafodionadigwyddiadau acamodaueraillarsefyllfaariannolapherfformiadariannolyrendid;ac asesugallu’rCwmniibarhaufelbusnesgweithredol.

Y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu sy’n ddigonol i ddangos ac egluro trafodion y Cwmni a datgelu sefyllfa ariannol y Cwmni yn rhesymol gywir ar unrhyw adeg, a’u galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r Cwmni ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall.

1.4 Cyfrifoldebau’r cyfarwyddwyr mewn perthynas â chofnodion cyfrifyddu a rheolaeth fewnol

Y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu sy’n ddigonol i ddangos ac egluro trafodion Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, datgelu sefyllfa ariannol y Cwmni yn rhesymol gywir ar unrhyw adeg, a’u galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006.

Nhw sydd hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod twyll ac anghysondebau eraill.

Mae’n bosibl fod deddfwriaeth yn y Deyrnas Unedig sy’n ymwneud â pharatoi a dosbarthu datganiadau ariannol yn wahanol i ddeddfwriaeth mewn awdurdodaethau eraill.

Mae pob un o’r Cyfarwyddwyr, y rhestrir eu henwau ar dudalen 44 yr adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol, yn cadarnhau, hyd eithaf eu gwybodaeth:

Mae’r datganiadau ariannol, sydd wedi cael eu paratoi yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol, yn rhoi darlun cywir a theg o asedau, rhwymedigaethau, sefyllfa ariannol ac elw Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys adolygiad teg o ddatblygiad a pherfformiad y busnes ac o sefyllfa Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ynghyd â disgrifiad o’r prif risgiau a’r ansicrwydd y mae’n eu hwynebu; a Gyda’i gilydd, mae’r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy ac yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar randdeiliaid Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i asesu sefyllfa, perfformiad, model busnes a strategaeth y Cwmni

1.5 Busnes gweithredol a digwyddiadau ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd

Wrth fabwysiadu’r sail busnes hyfyw ar gyfer paratoi’r Datganiadau Ariannol, mae’r Cyfarwyddwyr wedi ystyried y gweithgareddau busnes yn ogystal â phrif risgiau ac ansicrwydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, fel y nodir yn Fframwaith Sicrwydd Bwrdd a Chofrestr Risgiau Corfforaethol y Cwmni

Cafodd y Cwmni ei lythyr Cylch Gwaith gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023-25 ar 26 Gorffennaf 2023, a Llythyr Cyllid ar wahân dyddiedig 28 Gorffennaf 2023 a oedd yn cadarnhau’r gyllideb a oedd ar gael ar gyfer 2023-24. Mae hefyd yn rhoi awgrym o ddyraniad y gyllideb ar gyfer 2023-25. Mae hyn yn gadarnhad ffurfiol o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025 Mae’r Bwrdd yn fodlon dod i gasgliad y dylai’r Cwmni fabwysiadu’r sail busnes gweithredol wrth baratoi’r adroddiadau a’r cyfrifon blynyddol.

1.6 Digwyddiadau ers diwedd y flwyddyn

Rhoddir gwybodaeth bellach sy’n ymwneud â digwyddiadau ers diwedd y cyfnod yn yr adroddiad ac yn y nodiadau i’r datganiadau ariannol.

Dangosir manylion asedau anghyfredol, sef gosodiadau a ffitiadau yn Nodyn 12 y datganiadau ariannol. Dangosir manylion asedau anniriaethol yn Nodyn 11. 1.7 Asedau anghyfredol

1.8 Rheoli Risg

Ein nod cyffredinol yw sicrhau bod rheoli risg yn effeithiol yn rhan annatod o ddiwylliant Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi ymrwymo i ddull rhagweithiol o reoli risg. Mae’n cydnabod gwerth cynnal diwylliant effeithiol o reoli risg, gan geisio nodi, dadansoddi, rheoli a chadw rheolaeth ar y risgiau y mae’n eu hwynebu.

Mae sawl risg ynghlwm wrth reoli Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Bwrdd y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am reoli risgiau sy’n ymwneud â gweithrediadau’r Cwmni, gan gynnwys: gwerthuso a phenderfynu ar natur a maint y risgiau y mae’n fodlon eu cymryd wrth gyflawni amcanion strategol y Cwmni a chynnal mesurau rheolaeth fewnol a rheoli risg cadarn ac effeithiol.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Fel Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol. Mae hyn yn seiliedig ar waith archwilwyr mewnol a benodwyd a rheolwyr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheolaeth fewnol, ynghyd â sylwadau ac argymhellion a wnaed gan yr archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli a’r rhai a wnaed gan archwilwyr mewnol yn eu hadroddiadau

Mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru strwythurau, polisïau a gweithdrefnau rheoli a gynlluniwyd i’w alluogi i gyflawni’r amcanion hyn, gan reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd y mae’n gweithredu ynddo. Adolygir y rhain yn rheolaidd.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ceisio gwella system risg a sicrwydd y cwmni yn barhaus Mae’r Polisi Rheoli Risg (a’r weithdrefn ategol) yn ymgorffori Fframwaith Sicrwydd Bwrdd (BAF) Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn llawn, sef model sy’n ei osod fel cyfrwng allweddol ar gyfer system risg a sicrwydd integredig y Cwmni (rheolaeth fewnol) ac adnodd ymarferol i lywio busnes ac agenda’r bwrdd a’r pwyllgor.

Derbyniodd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd er gwybodaeth ym mhob un o’i gyfarfodydd pwyllgor yn 2023/24, a chafodd ei dderbyn yn ffurfiol i’w adolygu’n flynyddol yn ei gyfarfod ym mis Chwefror 2024 Fe wnaeth y Bwrdd dderbyn y Fframwaith Sicrwydd yn ffurfiol ar ddau achlysur

Fe wnaeth y Bwrdd adolygu risgiau strategol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn unol â’r broses cynllunio busnes strategol ym mis Hydref 2023. Ar 28 Chwefror 2024, cafodd Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd ei adolygu (bob blwyddyn) gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg

Ochr yn ochr â hynny, roedd y Bwrdd wedi ailystyried ei barodrwydd i dderbyn risg. Mae’r parodrwydd i dderbyn risg yn cael ei osod yn erbyn sawl parth risg a nodwyd. Bwriad y datganiad blynyddol yw rhoi canllaw i berchnogion risg i lywio sut maent yn rheoli eu risg, gan osod sgoriau risg targed ar gyfer pob math o risg. Ar 28 Chwefror 2024, cymeradwyodd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y datganiad parodrwydd i dderbyn risg blynyddol diwygiedig ar gyfer 2024/25

Daeth hunanasesiadau’r Bwrdd a’r pwyllgor ar gyfer 2023/24 i’r casgliad bod y system rheoli risg yn gweithredu’n effeithiol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a bod digon o sicrwydd yn cael ei ddarparu drwy adroddiadau rheolaidd – gan gynnwys derbyn Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn rheolaidd.

48 Adroddiad Blynyddol 2023-24

Mae gwaith yn mynd rhagddo i wreiddio’r parodrwydd i dderbyn risg ymhellach ar draws gweithrediadau busnes y Cwmni. Cafodd hyfforddiant risg ei ddarparu i sicrhau dull gweithredu cyson, ymgorffori cryfach wrth wneud penderfyniadau a rheoli prosiectau fel rhan o aeddfedrwydd diwylliant rheoli risg gweithredol.

1.9 Prif risgiau ac ansicrwydd

Nodir y prif risgiau strategol ar Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd, a mapiwyd y sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd y rheolaethau yn unol â hynny. Nodir Risgiau Corfforaethol ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol sy’n cael ei monitro’n barhaus gan yr Uwch Dîm Arwain ac mae’r rhain yn cael eu derbyn ym mhob un o gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg, ac ym Mwrdd y Cyfarwyddwyr ddwywaith y flwyddyn.

Nodir y prif risgiau strategol ar Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd. Sef:

Adnoddau Annigonol (Ariannol)

Gallai adnoddau ariannol fod yn annigonol i gyflawni amcanion strategol Gallai hyn gael ei achosi gan lai o gyllid oherwydd cyfyngiadau ar y sector cyhoeddus o ganlyniad i’r dirywiad economaidd. Gallai effaith hyn olygu methu â chyflawni cynlluniau busnes y cytunwyd arnynt a bodloni Dangosyddion Perfformiad Allweddol.

Adnoddau Annigonol (Anariannol)

Gallai adnoddau heb fod yn ariannol fod yn annigonol i gyflawni amcanion strategol Gallai hyn gael ei achosi gan y methiant i recriwtio a chadw pobl sydd â’r sgiliau angenrheidiol i lenwi swyddi gwag, a mynediad at adnoddau a chyfleusterau ffisegol priodol. Gallai effaith hyn olygu methu â chyflawni cynlluniau busnes y cytunwyd arnynt a bodloni Dangosyddion Perfformiad Allweddol.

Bodloni Disgwyliadau

Ni allai gweithgareddau busnes (ee rhaglenni a phrosiectau) fodloni disgwyliadau rhanddeiliaid Gallai hyn gael ei achosi gan gam-alinio â nodau ac amcanion rhanddeiliaid ar draws y system iechyd a gofal, o fewn cyfyngiadau’r adnoddau sydd ar gael. Gallai effaith hyn olygu methu â rhoi newid systemig ar waith.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Gwireddu Manteision

Nid oes modd gwireddu manteision yr atebion a fabwysiadwyd o fewn cyfnod priodol.

Gallai hyn gael ei achosi gan ddiffyg tystiolaeth o ganlyniadau hydredol y prosiectau, y rhaglenni a’r atebion a gefnogir (ac a arweinir) gan y Cwmni. Galli effaith hyn olygu galluogi Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddangos ei werth i randdeiliaid, Gwerth am

Arian (VfM) i Lywodraeth Cymru a dangos effaith newid i’r sector iechyd a gofal

Methiant i Lywodraethu a Chydymffurfio

Ni allai systemau a phrosesau llywodraethu alluogi gweithrediadau busnes effeithiol ac effeithlon. Gallai hyn gael ei achosi gan hen bolisïau a gweithdrefnau, bylchau yn y system rheolaeth fewnol a phrosesau busnes, a methiant gweithwyr i gydymffurfio.

Gallai effaith hyn olygu methiant i alluogi amcanion strategol, stiwardiaeth ariannol wael neu fethiant i gydymffurfio â gofynion statudol, rheoleiddiol a deddfwriaethol

Aeddfedrwydd Systemau

Anallu i hwyluso newid effeithiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, fel y nodir yn ei gynlluniau busnes strategol. Gallai hyn gael ei achosi gan aeddfedrwydd y system a diffyg cydlyniant a chydlyniad ym maes gwyddorau bywyd / arloesi yng Nghymru.

Gallai effaith hyn olygu methu â chyflawni nodau strategol y sefydliad a diffyg gwybodaeth am y sector i lywio’r broses o fabwysiadu arloesedd

Diffyg adnoddau allanol / methiant partneriaeth

Efallai na fydd partneriaid a rhanddeiliaid y Cwmni ar draws y system iechyd a gofal yn gallu mabwysiadu arloesedd. Gallai hyn gael ei achosi gan bartneriaid a rhanddeiliaid heb adnoddau neu gapasiti allanol digonol. Gallai effaith hyn olygu methiant partneriaethau a mentrau a chyflawni amcanion strategol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Methiant i ddatblygu rôl ddylanwadol

Lefel annigonol o ddylanwad systemig i siapio a chefnogi’r agenda arloesi ar draws iechyd a gofal yng Nghymru. Gallai hyn gael ei achosi gan ddiffyg hanes llwyddiannus o gyflawni prosiectau arloesi sy’n cael effaith sylweddol, ac ymgysylltu a chyfathrebu cyfyngedig Gallai effaith hyn olygu methiant i gyflawni amcanion strategol y sefydliad

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Mae’r Cwmni’n parhau i gynnal cofrestr risg gorfforaethol a gweithredol yn unol â phensaernïaeth risg Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae’r cofrestrau hyn yn cael eu harchwilio a’u diweddaru’n rheolaidd, gan gynnwys yn ffurfiol gan yr Uwch Reolwyr ac Uwch Dimau Arwain (o leiaf) unwaith y mis, gyda Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd ac adroddiadau bwrdd/pwyllgor yn darparu sicrwydd.

1.10 Amcanion a Pholisïau Rheoli Risg Ariannol

Y prif risgiau ariannol i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw rheoli llif arian a chyllidebu. Ar gyfer y ddau fater, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio’n agos gyda

Llywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cynnal cydbwysedd ariannol iach ac yn cadw rheolaeth gadarn ar y gyllideb yn unol â gofynion y Ddogfen Fframwaith gyda Llywodraeth Cymru.

O ran rheoli llif arian, nid oes risg sylweddol o ran credyd ac mae’r Cwmni’n cynnal cydbwysedd ariannol iach. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, gyda sicrwydd yn ei le gan

Lywodraeth Cymru, roedd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru falans ariannol cadarnhaol o 1,001k (2023: £788k), ac felly nid yw risgiau o ran credyd, hylifedd a llif arian yn cael eu hystyried yn risg sylweddol i’r Cwmni.

1.11 Perfformiad Ariannol am y Flwyddyn

Mae’r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn i’w gweld yma

Ar hyn o bryd, mae datganiadau ariannol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn dangos bod gan y Cwmni gronfeydd wrth gefn o £12k.

Llywodraeth Cymru sy’n monitro perfformiad yn erbyn y cylch gwaith ac mae’r Cwmni’n darparu adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru i helpu gyda’r broses fonitro hon. Mae’n ofynnol i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru reoli ei berfformiad ariannol o fewn y gyllideb y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o fanylion am hyn yn y Llythyr Cylch Gwaith a’r Ddogfen Fframwaith y cytunir arnynt yn flynyddol.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Mae’r Ddogfen Fframwaith yn caniatáu i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gario drosodd unrhyw falansau arian sydd wedi’u tynnu allan ond heb eu gwario o un flwyddyn i’r llall, hyd at 2% o gyfanswm y gyllideb flynyddol gros y cytunwyd arni (fel y nodir yn y Llythyr Cylch Gwaith ac nid yw hyn yn cynnwys incwm sy’n cael ei ystyried yn arian preifat). Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gytuno ar unrhyw gynnig i gario drosodd symiau sy’n fwy na hyn

Mae’r tabl isod yn dangos y sefyllfa ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24:

cario 2% drosodd 73 4

Arian parod a gwerthoedd cyfwerth ag arian parod ar 31 Mawrth 2024 1,001 5

Asedau cyfredol - masnach a symiau derbyniadwy eraill ar 31 Mawrth 2024 131

Rhwymedigaethau cyfredol - symiau masnach a symiau taladwy eraill ar 31 Mawrth 2024 (468 6)

Llai: Wedi dod ag arian parod ymlaen (63.8)

Llai: Arian parod Comisiwn AI yn cael ei ddal drosodd (537.3)

Balans arian heb ei wario ar 31 Mawrth 2024 62 7

1.12 Cyllideb Fantoledig ar gyfer 2023/24

Cyfrifir fod yr arian parod y caniateir ei gario drosodd ar gyfer 2023/24 (£73.4k) yn 2% o’r gyllideb a roddwyd.

52 Adroddiad Blynyddol 2023-24

Ar ôl cyfrifo’r arian parod a ddaliwyd ar ddiwedd 2023/24, gan ystyried balansau

arian parod, asedau a rhwymedigaethau, roedd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

£63k o arian parod cadarnhaol ac felly mae’n cydymffurfio â therfyn Llywodraeth

Cymru ar gyfer cario arian parod drosodd, sef £73.4k ar gyfer cymorth grant craidd.

Drwy gydol y flwyddyn, mae’r rheolwyr a Llywodraeth Cymru wedi parhau i fonitro’r

lefel ofynnol o gyllid ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud addasiadau i lefel y cyllid lle bo angen mewn blwyddyn. Yn unol â hynny, defnyddiodd Hwb Gwyddorau

Bywyd Cymru gronfeydd wrth gefn wrth ddarparu gwasanaethau i reoleiddio’r

cronfeydd wrth gefn a’r balansau arian parod a oedd ar gael erbyn diwedd 31 Mawrth 2024 a chwblhau’r gwaith o gydbwyso arian y Cyllid Cyflymu, gan gynhyrchu gwarged o £63k ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Cynllun Busnes ar gyfer 2024/25 a’r

Llythyr Cylch Gwaith sy’n amlinellu’r cynlluniau gweithredol ac ariannol ar gyfer y flwyddyn. Sicrhawyd incwm digonol i dalu am wariant y gyllideb ar gyfer y flwyddyn.

Mae £555k o gyllid ychwanegol wedi cael ei sicrhau i fynd â’r Comisiwn Deallusrwydd

Artiffisial ymlaen i’w gam nesaf a hyd at 2024/25 Mae costau sefydlu gwerth cyfanswm o £20k wedi’u codi ar recriwtio, amser staff a chyfarpar TGCh a thrwyddedau, gyda’r £535k sy’n weddill o’r cyllid yn cael ei broffilio ar gyfer 2024/25.

1.13

Perfformiad y Cwmni

Roedd 2023/24 yn gyfnod llwyddiannus arall i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sydd wedi parhau i atgyfnerthu ei safle fel y prif gatalydd a hwylusydd ar gyfer datblygu a mabwysiadu arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Roedd hyn o fewn cyd-destun heriol, sef adferiad y sector ar ôl pandemig y coronafeirws a chyfyngiadau economaidd parhaus.

Mae’r Cwmni wedi olrhain ei gynnydd yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt ac mae wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn bob chwarter blwyddyn.

Mae rhagor o fanylion am berfformiad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gael yn yr Adroddiad Strategol (3-43).

Adroddiad Blynyddol 2023-24

1.14 Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal i bob gweithiwr a phob ymgeisydd am swydd Mae wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith lle gall pob unigolyn wneud y defnydd gorau o’i sgiliau, heb wahaniaethu nac aflonyddu, a lle mae pob penderfyniad yn seiliedig ar deilyngdod.

Nid yw Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol Mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth cynhwysfawr ac mae holl aelodau ein tîm yn cael hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant unwaith y flwyddyn.

Er mwyn datblygu amgylchedd deinamig a chreadigol a fydd o fudd i’r holl randdeiliaid ac i bobl Cymru, yn y pen draw, mae’n hanfodol sicrhau ein bod yn denu ac yn cadw’r ystod ehangaf a mwyaf amrywiol o dalent ymysg gweithwyr y Cwmni.

Mae rheolwyr llinell sy’n recriwtio yn cael hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ychwanegol, a hysbysebir pob cyfle am swydd drwy nifer o sianeli i sicrhau eu bod yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl.

Mae egwyddorion peidio â gwahaniaethu a chyfle cyfartal hefyd yn berthnasol i’r ffordd y mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn trin ymwelwyr, ymgeiswyr am swyddi, cleientiaid, cwsmeriaid, cyflenwyr a chyn-weithwyr. Mae hyn yn berthnasol yn y gweithle, y tu allan i’r gweithle (wrth ddelio â chwsmeriaid, cyflenwyr neu gysylltiadau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith, ac ar deithiau neu ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â gwaith, gan gynnwys digwyddiadau cymdeithasol).

Mae dyletswydd ar bob gweithiwr i weithredu yn unol â’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a thrin cydweithwyr ag urddas bob amser, a pheidio â gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr eraill na’u haflonyddu, ni waeth beth yw eu statws.

Yn 2024/25, bydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ceisio datblygu ei sefyllfa o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach, a fydd yn cynnwys cefnogi Llywodraeth Cymru i weithredu ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol y cytunwyd arno Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi datblygu ei gynllun ei hun, sy’n cydfynd â chynllun Llywodraeth Cymru. Cymeradwywyd hyn gan y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Thaliadau ym mis Mai 2023.

1.15 Y Gymraeg

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi ymrwymo i fynd ati i hwyluso ac annog defnyddio’r Gymraeg yn y sefydliad ac yn ein gweithgareddau a’n gwasanaethau allanol.

Rydym hefyd yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, fel y nodir yn ein hysbysiad cydymffurfio, a sefydlodd fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau cyhoeddus i gydymffurfio ag un neu fwy o safonau ymddygiad ar y Gymraeg.

Gwelwn y polisi hwn fel rhan o ymrwymiad blaengar yn y gymuned Gwyddorau Bywyd i hwyluso a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn Cymru ddwyieithog Mae gennym grŵp Iaith Gymraeg mewnol sy’n ceisio gweithredu ein polisi, a datblygu a gwella ein dulliau o ymdrin â’r Gymraeg yn barhaus. Mae’r gwaith wedi cynnwys datblygu Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg (i’w chwblhau yn 2024/25) a chamau i gryfhau cydymffurfiaeth yn erbyn y safonau a hyrwyddo’r iaith ar draws y sefydliad.

1.16 Polisi Talu i Gyflenwyr

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi ymrwymo i fynd ati’n brydlon i setlo anfonebau a hawliadau eraill am daliadau. Pan fydd nwyddau a gwasanaethau wedi cael eu cyflenwi’n foddhaol, amcan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw talu o fewn 30 diwrnod i dderbyn yr anfoneb.

1.17 Crynodeb Amgylcheddol

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy a’r saith nod llesiant cydgysylltiedig

Y Saith Nod Llesiant

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydnabod cyfrifoldeb am ddiogelu’r amgylchedd ar bob lefel, ac yn ymrwymo i wneud hynny. Mae’n fraint i ni gael gweithio mewn swyddfa sy’n defnyddio ynni’n effeithlon yng Nghaerdydd Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ceisio sicrhau ein bod yn dilyn yr arferion gorau yn holl weithrediadau’r busnes yn ei holl leoliadau.

Yn 2023, adroddodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar ei allyriadau carbon ar gyfer 2022/23 i Lywodraeth Cymru. Cyfrifwyd yr allyriadau carbon ar sail y canllawiau a ddarparwyd yng Nghanllaw Adrodd Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru. Mae’r gwaith o olrhain holl allyriadau Carbon y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi gwaith at y targed sero net ar y cyd erbyn 2030.

Roedd yr adroddiad hwn yn ymdrin â phrif ffynonellau allyriadau pob sefydliad: adeiladau (gan gynnwys gweithio gartref), fflyd, teithio busnes, cymudo, ffrydiau gwastraff, allyriadau defnydd tir a symud ac allyriadau sy’n gysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi. Roedd hefyd yn cynnwys adrodd am yr ynni adnewyddadwy a ddefnyddiwyd ac a gynhyrchwyd.

Ddechrau 2024, lluniodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Bolisi Amgylcheddol a Chynaliadwyedd a oedd yn nodi ei ymrwymiad sefydliadol i sicrhau effaith amgylcheddol gadarnhaol yn ei weithgareddau busnes, a lleihau carbon. Cafodd hyn ei ystyried fel rhan o sesiwn datblygu bwrdd ym mis Chwefror 2024. Bydd y Polisi’n cael ei ystyried i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg ym mis Ebrill 2024, gyda chynllun gweithredu i ddilyn.

2. Datganiad Llywodraethu Corfforaethol Blynyddol

Llywodraethu Corfforaethol yw’r system a ddefnyddir i gyfarwyddo a rheoli sefydliadau

Mae’r Datganiad Llywodraethu isod yn dod â’r holl ddatgeliadau am faterion sy’n ymwneud â risg a rheolaeth llywodraethu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru at ei gilydd mewn un lle. Fel Swyddog Cyfrifyddu, mae gen i gyfrifoldeb personol am y Datganiad Llywodraethu Corfforaethol sy’n amlinellu sut rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb o ran rheoli adnoddau’r Cwmni drwy gydol y flwyddyn.

2.1 Bwrdd y Cyfarwyddwyr

Mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am lywodraethu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a chydymffurfio â Chod Llywodraethu Corfforaethol y DU. Rôl y Bwrdd yw bodloni ei hun bod strwythur llywodraethu priodol ar waith a sicrhau bod y Cwmni, drwy’r Prif Swyddog Gweithredol, yn gweithredu o fewn y fframwaith polisi a bennir gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am y cyfeiriad strategol, diwylliant y sefydliad a chyflawni nodau ac amcanion y Cwmni yn llwyddiannus.

Mae’r Bwrdd wedi sefydlu dau Bwyllgor sefydlog i’r Bwrdd, dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwyr Anweithredol, sydd â rolau allweddol mewn perthynas â’r system llywodraethu a sicrwydd, gwneud penderfyniadau, craffu, trafodaethau datblygu, asesu risgiau cyfredol a monitro perfformiad.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Ffigur 1: Trosolwg o’r Fframwaith Llywodraethu

Bydd y Bwrdd yn sicrhau eu bod yn derbyn y sicrwydd sydd ei angen gan y Pwyllgorau fel y manylir isod, sy’n rhoi tystiolaeth o berfformiad a chydymffurfiad sefydliadol

Tîm Gweithredol

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Meysydd Craffu a Sicrwydd:

Llywodraethu Corfforaethol

Gonestrwydd

Cydymffurfiad Rheoleiddiol

Rheoli Risg

Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd

Rheolaeth Gyllidebol ac

Ariannol

Cyfrifon Blynyddol ac adroddiadau

Datganiad Llywodraethu

Blynyddol

Archwilio Mewnol

Cysylltiadau i Archwilio

Cymru

Gwrth-dwyll

Pwyllgor Adnoddau

Dynol a Thâl Cydnabyddiaeth

Meysydd Craffu a Sicrwydd:

Tâl, buddion a thelerau ac amodau gwasanaeth I weithwyr

Adolygiad Blynyddol o Gostau

Byw

Cymeradwyo bandiau cyflog a chyflogau

Cymeradwyo terfynu taliadau / cytundebau setliad

Cymeradwyo polisïau

gweithwyr

Cynigion yn ymwneud a strwythur (gweithwyr) y cwmni

Meysydd Craffu a Sicrwydd

Tîm Gweithredol

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, roedd y Bwrdd yn cynnwys deg Cyfarwyddwr a benodwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae’r Cadeirydd yn cael tâl cydnabyddiaeth, ac felly hefyd pob Cyfarwyddwr

Anweithredol. Cyfarfu’r Bwrdd chwe gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol.

Dyma rai o’r meysydd y canolbwyntiodd y Bwrdd arnynt yn ystod y flwyddyn: perfformiad y Cwmni yn erbyn Cynllun Busnes 2023/24, gan gynnwys datblygu Dangosyddion Perfformiad Allweddol a phroses monitro perfformiad. gweithgarwch busnes a gyflawnwyd yn yr Ardaloedd Effaith a dwy raglen (Cyflymu ac Ecosystem Iechyd Digidol Cymru). ystyried a chymeradwyo Cynllun Busnes blynyddol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer 2024/25.

adnewyddu adeilad busnes Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Daliodd y Bwrdd ati i oruchwylio cyllid y Cwmni a derbyniodd y Cyfrifon Rheoli (Adroddiad Cyllid) ym mhob cyfarfod.

2.1.1 Recriwtio Cyfarwyddwr Anweithredol

Dechreuodd proses recriwtio ar gyfer penodiadau cyhoeddus ym mis Ebrill 2023 ar gyfer pedair swydd Cyfarwyddwr Anweithredol. Gwnaed tri phenodiad (gweler 61) er nad oedd cyfweliadau ar gyfer y swydd Gymraeg yn mynd rhagddynt. Dechreuwyd recriwtio ar gyfer y swydd hon eto ym mis Mawrth 2024.

2.1.2 Datblygiad ac effeithiolrwydd y Bwrdd

Yn unol â’r egwyddor llywodraethu da o welliant parhaus, mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i bwyso a mesur ei effeithiolrwydd. Cynhaliodd y Bwrdd bedair sesiwn datblygu bwrdd yn 2023/24 i drafod materion strategol yn unol â Chynllun Datblygu’r Bwrdd a gymeradwywyd gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 29 Mawrth 2023. Roedd y cynllun hwn yn sicrhau bod y Bwrdd yn cyfrannu at gynllunio a datblygu strategol y Cwmni, gan ystyried rheoli risg a’r parodrwydd i dderbyn risg, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r farchnad Ystyriodd yr aelodau feysydd strategol allweddol mewn sesiynau ar Therapïau Datblygedig (adeiladu’r rhwydwaith Therapïau Datblygedig a’r banc gwybodaeth byw) a’r ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd y Bwrdd hefyd wedi ystyried canlyniad yr Arolwg Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a datblygu dull gweithredu a pholisi strategol ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol a lleihau carbon.

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Addaswyd y cynllun hwn drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod y Bwrdd yn ystyried materion cyfredol mewn da bryd

2.1.3 Effeithiolrwydd y Bwrdd a’r Pwyllgor

Cynhaliodd y Bwrdd (a phob pwyllgor) hunanasesiad cynhwysfawr o’i effeithiolrwydd

Roedd hyn yn cynnwys ystyried ei brosesau gweinyddol, yr wybodaeth a gafodd, anghenion sgiliau a datblygu ei aelodau a’i gydymffurfiad â’i ddogfen Fframwaith a’i Gylch Gorchwyl. Cynhaliwyd yr ymarfer hwn tua diwedd y flwyddyn ariannol, a thrafodwyd canlyniadau’r ymarfer a galluogwyd i gamau gwella gael eu nodi. Roedd hunanasesiadau’r pwyllgor hefyd yn sail i’r adolygiad o’u cylch gorchwyl a’u cynlluniau gwaith

2.1.4 Buddiannau’r Bwrdd

Cynhaliwyd cofrestr o fuddiannau Cyfarwyddwyr ac Uwch Dîm Arwain yn 2023/24 i sicrhau bod unrhyw wrthdaro posibl rhwng buddiannau yn cael ei nodi Gofynnir i aelodau’r Bwrdd a’r Pwyllgor ddatgelu gwrthdaro fel eitem safonol ar yr agenda ar gyfer pob cyfarfod ffurfiol. Cyhoeddwyd y Gofrestr hon ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, fel rhan o’i Gynllun Cyhoeddi.

Cafodd yr holl fuddiannau eu cofrestru a’u rheoli yn unol â pholisi a gweithdrefn y Cwmni ar gyfer rheoli gwrthdaro a datgan buddiannau, rhoddion, lletygarwch a nawdd

2.1.5 Dogfen Fframwaith

Cwblhawyd dogfen arfaethedig Fframwaith Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn derfynol gyda Thîm Partneriaeth Llywodraeth Cymru, yn y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ym mis Mawrth 2023. Cyflwynwyd y fersiwn derfynol i’r Bwrdd (a chafodd ei chymeradwyo ganddo) ar 30 Mawrth 2023.

2.1.6 Swyddfa Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ochr yn ochr â llawer o gyrff cyhoeddus eraill, roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydnabod nad oedd angen holl ôl troed ffisegol presennol ei adeiladau busnes i gefnogi gweithrediadau busnes, ei fodel gweithio na gweithgarwch cyflawni strategol y sefydliad. Cafodd hyn ei sbarduno gan bandemig Covid-19 a’r newid i arferion gweithio hyblyg o bell 59

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Yn dilyn gwerthusiad trylwyr o’r opsiynau, a gymeradwywyd gan y Bwrdd, cymerwyd y penderfyniad i leihau’r ôl-troed o 12,000 troedfedd sgwâr i 7,500. Yn dilyn proses dendro gystadleuol, penodwyd contractwr i wneud y gwaith cyfalaf rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023. Roedd hyn yn cynnwys y gwaith dadfeiliad ar y gofod gwag a oedd i’w ddychwelyd i’r landlord. Cyfanswm cost y gwaith cyfalaf oedd £210k a gafodd ei ariannu fel cyfraniad untro gan Lywodraeth Cymru

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi ymrwymo i brydles 5 mlynedd newydd o 18 Ionawr 2024 ymlaen gyda chymal terfynu yn y drydedd flwyddyn.

2.2 Y Pwyllgor

Archwilio a Sicrwydd Risg

Roedd y Pwyllgor yn cynnwys pedwar Cyfarwyddwr a gyfarfu bum gwaith yn y flwyddyn ariannol. Mae’r Archwilydd Mewnol (TIAA a benodwyd ym mis Mehefin 2019) a’r Archwilwyr Allanol (Archwilio Cymru) yn mynychu holl gyfarfodydd y Pwyllgor.

Mae’r Pwyllgor yn cyflawni ei gyfrifoldebau dros faterion sy’n ymwneud â rheoli risg, rheolaeth fewnol, archwilio mewnol, archwiliadau statudol ar ddatganiadau ariannol cyfunol a llywodraethu’r Hwb yn ehangach drwy ei gylch gorchwyl. Fe wnaeth y Pwyllgor adolygu a chymeradwyo’r rhain ym mis Chwefror 2024, ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Cadarnhaodd y Bwrdd y gymeradwyaeth hon ar 27 Mawrth 2024.

Dyma rai o’r meysydd y canolbwyntiodd y Bwrdd arnynt yn ystod y flwyddyn:

adolygu trefniadau rheoli risg a risgiau allweddol Roedd hyn yn cynnwys ystyried y risgiau strategol ar Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd a’r datganiad diwygiedig o’r parodrwydd i dderbyn risg (cymeradwywyd gan y Bwrdd).

defnyddio model aeddfedrwydd i wella perfformiad y pwyllgor ymhellach. adolygu polisïau a gweithdrefnau llywodraethu a’u rhoi ar waith. derbyn adroddiadau’r Archwilwyr Mewnol ac Allanol.

cael sicrwydd ynghylch trefniadau atal twyll cael sicrwydd ynghylch trefniadau rheoli asedau. cael sicrwydd ynghylch llywodraethu gwybodaeth, caffael ac iechyd a diogelwch. caffael (cymeradwyo i ddyfarnu contractau).

Adroddiad Blynyddol 2023-24

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ddatblygu ychwanegol hefyd ar 20 Medi 2023 a oedd yn canolbwyntio ar swyddogaeth archwilio mewnol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Roedd hyn yn cynnwys adolygiad yn ystod y flwyddyn o’r cynllun archwilio mewnol ar gyfer 2023/24 a’r strategaeth dreigl. Ystyriwyd hefyd y ‘gwerth ychwanegol’ a sicrhau ansawdd gwasanaethau archwilio mewnol. Roedd y sesiwn hon hefyd yn cynnwys trosolwg o gynlluniau ariannol wrth gefn, yn ogystal â’r gwaith parhaus mewn perthynas â’r model aeddfedrwydd pwyllgor

I gael rhagor o fanylion am system risg a sicrwydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’i broffil risg, edrychwch ar Adroddiad y Cyfarwyddwr, tudalennau 45-47.

2.3 Y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Thaliadau Cydnabyddiaeth

Roedd y Pwyllgor yn cynnwys pedwar Cyfarwyddwr a gyfarfu bum gwaith yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae’r Pwyllgor yn sicrhau ffocws ar ymrwymiad Hwb Gwyddorau

Bywyd Cymru i lesiant a phwysigrwydd recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr. Dyma rai o’r meysydd y canolbwyntiodd y Bwrdd arnynt yn ystod y flwyddyn:

sicrhau bod polisïau cyflogaeth priodol yn cael eu mabwysiadu a’u dilyn. ystyried ac adolygu polisïau a buddion allweddol i weithwyr. sicrhau dyfarniadau cyflog a buddion priodol.

adolygu strwythur y sefydliad i sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu er mwyn gallu cyflawni’n strategol. datblygu a monitro metrigau perfformiad sy’n gysylltiedig â phobl gweithredu (ac adolygiad meincnodi) y strategaeth taliadau (cyflog a buddion) ddiwygiedig.

Yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2024, adolygodd a chymeradwyodd y Pwyllgor ei Gylch Gorchwyl ar gyfer blwyddyn adrodd 2024/25 (cymeradwywyd gan y Bwrdd ar 27 Mawrth 2024).

2.4 Presenoldeb yn y Bwrdd a’r Pwyllgor

Mae'r tabl isod yn dangos presenoldeb y Cyfarwyddwyr yng nghyfarfodydd y Bwrdd a’i Bwyllgorau Roedd y Prif Swyddog Gweithredol yn bresennol ym mhob un o gyfarfodydd y Bwrdd a’i is-bwyllgorau

61 Adroddiad Blynyddol 2023-24

Dr Chris Martin (Cadeirydd)

Mr Jarred Evans* Oedd

Ms Catherine O'Brien*

Mr Rupert Jones Nac oedd

Mr Peter Max Oedd

Prof Hamish Laing

Ms Victoria Bates Nac oedd

Ms Erica Cassin Oedd Oedd Oedd Oedd

Mr Len Richards Nac oedd

Mr Malcolm LoweLauri Amh

Mr Neil Mesher Amh

Dr Peter Bannister

*Gadael Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar 6 Hydref 2023 **Cyfarfod Bwrdd Eithriadol 14 Rhagfyr 2023 Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Mr Peter Max (Cadeirydd)

Ms Catherine O’Brien*

Mr Rupert Jones

Ms Victoria Bates

Dr Peter Bannister

*Gadael Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar 6 Hydref 2023

Cyfarfod Eithriadol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 20 Medi 2024

Y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Thaliadau Cydnabyddiaeth

Ms Erica Cassin (Cadeirydd) Oedd Oedd Oedd Oedd Oedd

Dr Chris Martin Oedd Oedd Oedd Oedd Oedd

Mr Rupert Jones Oedd Oedd Oedd Oedd Oedd

Ms Catherine O’Brien* Nac oedd Oedd Nac oedd Amh Amh

Mr Neil Mesher Amh Amh Amh Oedd Oedd

Ms Victoria Bates Amh Amh Amh Amh Oedd

*GadaelBwrddHwbGwyddorauBywydCymru6Hydref2023

**CyfarfodEithriadolo’rIs-bwyllgorAdnoddauDynolaThaliadau5Rhagfyr2023

2.5YrUwchDîmArwain

YPrifWeithredwr,Ms.Cari-AnneCuinn,abenodwydymmisHydref2018,oeddyn arwainyrUwchDîmArwain

Mae’rPrifWeithredwra’rBwrddyncwrddynrheolaiddidrafodachytunoarfaterion corfforaetholagweithredolganfodyBwrddwedidirprwyo’rcyfrifoldebllawndros weithrediadHwbGwyddorauBywydCymrui’rPrifWeithredwr MaeHwbGwyddorau BywydCymruynadroddareiberfformiadiLywodraethCymruynunolâ’rcylch gwaitha’rfframwaithrheoli.

Ynystodyflwyddyn,roeddyrUwchDîmArwainyncynnwysyPrifWeithredwr,Rhodri Griffiths,yCyfarwyddwrMabwysiaduArloesedd,aMiriamLambert,Cyfarwyddwr CyllidacAdnoddau.

YrUwchDîmArwain,sy’ncyfarfodunwaithyrwythnos,sy’ngyfrifolamweithrediad HwbGwyddorauBywydCymruoddyddiddyddynunolâ’rstrategaetha’r adroddiadauycytunwydarnynt,acmae’ngwneudargymhellioni’rBwrdd.

Mae’rPennaethLlywodraethuCorfforaethol,RisgaChydymffurfiaethyncynorthwyo’r PrifWeithredwraBwrddyCyfarwyddwyrgyda’rgwaitholywodraethu’rsefydliad.

2.6 Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU

Mae’n rhaid i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gydymffurfio â Chod Llywodraethu

Corfforaethol y DU Mae’r wybodaeth yn y datganiad llywodraethu corfforaethol hwn yn darparu asesiad o sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydymffurfio â phrif egwyddorion y Cod fel y maent yn berthnasol i Gorff Hyd Braich yng Nghymru. Dylid nodi nad yw’r datganiad llywodraethu hwn yn amlinellu holl elfennau adrodd y Cod ond eu bod yn cael eu hadrodd arnynt yn llawnach yn yr Adroddiad Blynyddol ehangach. Ni chafwyd unrhyw achosion o wyro oddi wrth y Cod Llywodraethu

Corfforaethol.

2.7 Ansawdd y Data

Teimlai’r Bwrdd fod yr wybodaeth yr oeddent yn ei chael a’r wybodaeth a gafwyd gan ei bwyllgorau allweddol yn cefnogi craffu a sicrwydd yn gyffredinol Mae sicrwydd yn erbyn risgiau strategol hefyd yn cael ei fapio a’i fonitro drwy Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd. Yn wir, yn ei hunanasesiad blynyddol, nododd y Bwrdd (a’i bwyllgorau) fod trefniadau adrodd a gweinyddu’r bwrdd a’r pwyllgorau wedi aros yn gadarn yn gyson yn ystod 2023/24. Myfyriodd y Bwrdd a’r pwyllgorau ar ansawdd y data a’r wybodaeth a gafwyd ar ddiwedd pob cyfarfod, fel rhan o’r gwaith parhaus o gynnal ei effeithiolrwydd.

2.8 Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelu Data

Mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drefniadau sefydledig ar gyfer llywodraethu gwybodaeth, sy’n cynnwys ystyriaethau ynghylch diogelu data a diogelwch gwybodaeth (gan gynnwys y dirwedd seiberddiogelwch bresennol) i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei phrosesu yn unol â’r gyfraith llywodraethu gwybodaeth berthnasol, a rheoliadau a chanllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn darparu goruchwyliaeth, cyngor a sicrwydd i’r Bwrdd am faterion llywodraethu gwybodaeth. Yn ystod 2023/24, cyflwynwyd adroddiad llywodraethu gwybodaeth chwarterol cynhwysfawr i gryfhau’r ddarpariaeth sicrwydd i’r pwyllgor

Yr Uwch-swyddog Risg Gwybodaeth (SIRO) ar gyfer 2022/23 oedd yr Athro Hamish Laing, Cyfarwyddwr Anweithredol. Rôl yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth yw bod yn eiriolwr dros risg gwybodaeth ar y Bwrdd. Mae’r Uwch-swyddog yn gyfrifol am sefydlu fframwaith atebolrwydd o fewn y sefydliadau i sicrhau dull cyson a chynhwysfawr o asesu risg gwybodaeth.

64 Adroddiad Blynyddol 2023-24

Adroddir am ddigwyddiadau llywodraethu gwybodaeth a digwyddiadau llywodraethu gwybodaeth ‘a fu bron â digwydd’ drwy system rheoli digwyddiadau’r sefydliad. Caiff unrhyw ddigwyddiad difrifol ei adrodd yn llawn i’r Uwch-swyddog a chynhelir ymchwiliadau Dadansoddiad o Wraidd y Broblem llawn, a chyflwynir y canlyniadau i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau a’r Prif Swyddog Gweithredol (fel y bo’n briodol) sy’n sicrhau bod yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth yn cael gwybod am gasgliadau’r ymchwiliad Ni wnaethom roi gwybod i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am unrhyw fethiannau diogelwch data yn ystod 2022/23.

2.9 Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i’r cyhoedd weld amrywiaeth o gofnodion a gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus ac mae’n darparu ymrwymiad i fod yn fwy agored a thryloyw yn y sector cyhoeddus. Mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Bolisi Rhyddid Gwybodaeth, a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ym mis Tachwedd 2021. Mae’r Hwb hefyd yn mynd ati’n rhagweithiol i gyhoeddi dosbarthiadau gwybodaeth allweddol drwy ei Gynllun Cyhoeddi, yn unol â’r model a nodir gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Cafodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru un cais Rhyddid Gwybodaeth ym mis Awst 2023. Roedd yn ymwneud â’r Grŵp Diddordeb Arbennig Technoleg Ymgolli. Rhoddwyd ymateb yn brydlon i’r sawl a wnaeth y cais, o fewn yr amserlenni gofynnol.

Nid yw Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cael unrhyw Geisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun yn 2023/24

2.11 Gweithdrefnau Chwythu’r Chwiban

Mae’r Hwb yn cyfathrebu â phob gweithiwr ac yn eu hatgoffa o ran chwythu’r chwiban, ac mae Polisi Chwythu’r Chwiban ar waith. Unwaith y flwyddyn, darperir hyfforddiant drwy’r broses gynefino drwy ddarpariaeth hyfforddiant ar-lein y Cwmni a chaiff ei drafod o bryd i’w gilydd mewn cyfarfodydd staff.

65 Adroddiad Blynyddol 2023-24

2.12 Casgliad

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, rwy’n fodlon bod fframwaith llywodraethu cymesur a chadarn a system o reolaethau mewnol wedi bod ar waith.

Roeddent yn cefnogi’r gwaith o gyflawni nodau ac amcanion Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru; yn hwyluso’r gwaith o arfer swyddogaethau’r Cwmni’n effeithiol ac yn diogelu arian cyhoeddus ac asedau y mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn bersonol gyfrifol amdanynt. Mae’r materion llywodraethu a rheoli hyn yn cyd-fynd â’r cyfrifoldebau yn y Ddogfen Fframwaith a roddwyd i ni gan Lywodraeth Cymru.

Cari-Anne Quinn

Prif Swyddog Gweithredol

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfyngedig

Archwiliwr

Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol statudol y Cwmni a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Datganiad datgelu i’r archwilydd

Hyd y gŵyr pob person a oedd yn gyfarwyddwr ar ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad hwn, nid oes gwybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilydd y Cwmni yn ymwybodol ohoni. Yn ogystal, mae’r cyfarwyddwyr unigol wedi cymryd pob cam angenrheidiol y dylent fod wedi’u cymryd fel cyfarwyddwyr er mwyn bod pob un ohonynt yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol, ac i sicrhau bod archwilwyr y Cwmni yn ymwybodol o'r wybodaeth honno

Ar ran y bwrdd

Chris Martin

Cadeirydd

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfyngedig

Date: 27 Medi 2024

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.