LGBTQYMRU - RHIFYN 4

Page 1

RHIFYN 4 TACHWEDD 2021


I'R GYMUNED GAN Y GYMUNED

2

LGBTQYMRU


Allwch chi gredu ein bod ni wedi cyrraedd Rhifyn 4? Ychydig dros flwyddyn yn ôl, gwnaethom lansio ein bwriad i gyhoeddi’r cylchgrawn LGBTQ+ hollol ddwyieithog ac am ddim ar-lein cyntaf erioed yng Nghymru, a bellach dyma ni, yn cyflwyno ein pedwerydd Rhifyn (hollol wych)! Rwyf wedi ei ddweud o'r blaen, ond gwnaf ei ddweud eto: yn ystod eleni, mae dysgu mwy am y Cymunedau LGBTQ yng Nghymru mewn ffordd nad oeddwn i wedi gallu ei wneud o'r blaen wedi bod yn fraint fawr. Ac, er ei bod hi’n anodd peidio â theimlo yn aml ein bod ni yma yng Nghymru yn cael ein hanwybyddu yn naratif queer y DU, rwy'n falch o weld ei bod yn dod yn anoddach ein hanwybyddu: mae ein lleisiau'n dod yn uwch, mae ein presenoldeb yn dod yn fwy amlwg, ac mae ein balchder yn sicr yn fwy pwerus nag erioed. A dyna'n union beth y mae'r Rhifyn hwn o LGBTQYMRU: Y Cylchgrawn wedi ymrwymo iddo: Balchder. Mae’r Rhifyn hwn wedi’i gyhoeddi’n fwriadol y tu allan i Fis Hanes a Mis Pride LGBTQ+, ac mae’n dyst i'r ymwybyddiaeth bod Pride yn brotest 365 diwrnod yn erbyn yr heteronormatifedd mewn cymdeithas sy’n mygu ac, i lawer ohonom, sy’n gwneud inni gwestiynu'r hyn rydym yn ei wisgo, sut rydym yn swnio, sut rydym yn cerdded, sut rydym yn siarad, ac, yn waeth na dim, pwy ydym ni mewn gwirionedd. Mae'n gwneud inni gofio, wrth i ni barhau i symud ymlaen, cael ein bwrw i lawr, ac ymdrechu i godi’n ôl, bod gennym ni deulu a hanes bob amser wrth ein hochr a’r tu ôl i ni a fydd bob amser yn ein cynnal ac yn ein gwthio ymlaen. Rydym yn rhan o'r etifeddiaeth barhaus hon o Falchder, ac felly mae'n rhaid i ni frwydro ymlaen. Yn y Rhifyn hwn, byddwch yn dod i brofi ein Balchder drwy archwiliad o'n hanes, ein problemau cyfredol, a sut y mae’n ddyletswydd arnom ni i fynnu triniaeth deg ar gyfer ein holl deulu LGBTQ+. Fe welwch erthyglau ar dai diogel i geiswyr lloches a ffoaduriaid LGBTQ+, sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddod â throsglwyddiad HIV i ben erbyn 2030, beth yw dyfodol Stonewall Cymru o dan arweinyddiaeth newydd, a chymaint mwy! Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Owen Hurcum, sydd wedi camu i lawr fel Golygydd Cymunedol, am bopeth y maen nhw wedi'i wneud i gefnogi taith LGBTQYMRU, a dymuno'r gorau iddyn nhw ym mhennod nesaf eu bywyd: gallwn ni ddim aros i weld beth y byddi di’n parhau i'w gyflawni i ti dy hunan ac i'r gymuned LGBTQ+ ehangach. Mae Sue Vincent-Jones yn cymryd yr awenau fel Golygydd Cymunedol, ac mae’r byd newyddiadurol yn un cyfarwydd iawn iddi hi. Mae profiadau ac angerdd Sue yn ychwanegiad i'w groesawu i'n cylchgrawn ni! Ers Rhifyn 3, efallai eich bod wedi sylwi ein bod wedi lansio’r Casgliad Queer yn ddiweddar, sef ein menter newydd sydd wedi'i seilio ar y Gymuned, i gydweithredu, cyhoeddi a darparu platfform ar gyfer cynnwys creadigol unigolion o fewn Cymunedau Queer yng Nghymru. Blodeugerdd o farddoniaeth oedd ein Cyfrol gyntaf, PHASMA, mewn cydweithrediad â Glitter Cymru a fu’n archwilio a dathlu’r profiadau sy’n cael eu rhannu, ond nad ydynt bob amser yn debyg, o fod yn ddeurywiol ledled y byd. Fel elusen sy’n seiliedig ar wneud y mwyaf o blatfform y Cymunedau LGBTQ yng Nghymru, rwyf yn hynod o gyffrous i'ch gwahodd i ymuno â’r rhan newydd hon o'n taith i ddeall a gwerthfawrogi yn well galeidosgop profiadau, straeon a thalent ein teulu ehangach, dewisol yn well. Wrth ichi bori drwy ein tudalennau, cewch gipolwg ar Phasma drwy ddetholiad bach o'i gerddi sydd, yn debyg iawn i'r ystyr y tu ôl i'r teitl, yn llawn o olau disglair. Fel bob amser, hoffwn ddiolch i'r Golygyddion Cymunedol, y Gohebwyr Cymunedol, y Gwesteion Arbennig, a’r cyfranwyr anhygoel na fyddem yn gallu parhau i wneud hyn hebddynt. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau! LGBTQYMRU

3


Prif Olygydd Bleddyn Harris Golygyddion Cymunedol Craig Stephenson OBE

Andrew White

Karen Harvey-Cooke

Sue Vincent-Jones

Gohebwyr Cymunedol

Cyfieithiadau

Evie Barker

Ffion Emyr Bourton

Alessandro Ceccarelli Daryl Leeworthy Christian Copeland Travel Gibbon Fast Track Cities Cardiff

Aelodau Cyswllt Thania Acarón Hannah Isted

Chloe Turner

Cyfryngau Cymdeithasol ac Ymgysylltu

Samuel Elijah Allen

Joel Degaetano-Turner

Tobi Owolabi Rania Vamvaka Penny DC Dinh Ananya Dcruz Beth Rabjohns

Brandio a Dylunio Tom Collins Y Clawr Charles Deluvio

Ni ddylid ystyried cyfeiriad at unrhyw berson o fewn erthyglau neu hysbysebion LGBTQYMRU, neu ar unrhyw rai o’i lwyfannau cymdeithasol, neu eu hymddangosiad neu bortread ohonynt, fel unrhyw arwydd o gyfeiriadedd rhywiol, cymdeithasol neu wleidyddol unigolion neu sefydliadau o'r fath.

4

LGBTQYMRU


CYNNWYS 6

#WythnosProfiamHIVCymru

8

Yn Agos a Phersonol

14

Tai Diogel i Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid

19

The Queer Bible - Adolygiad llyfr

21

Trawsnewid

24

Everyone’s Talking About Jamie!

26

Pencampwr Cymunedol

30

Feel Good - Adolygiad

34

Travel Gibbon

39

Amrywiaeth ein hanes queer

44

Songbirds

48

Talk with Andy

52

Materion ar ôl Brexit Cymru a LGBTQ +

56

Coeden y Rhuban Coch

60 Y Gêm Brydferth

LGBTQYMRU

5


WYTHNOS PROFI AM HIV CYMRU Mae'n hawdd tybio bod popeth yn wych yma yng Nghymru, ond a oeddech chi'n gwybod bod gennym fwy o stigma ynghylch HIV a diagnosis hwyr na chyfartaledd y DU? Mae’n syfrdanol! Dyna pam mae Fast Track Caerdydd a'r Fro yn lansio eu hymgyrch arloesol i gynyddu mynediad at y cynllun profi sy’n hawdd a chyflym ac am ddim yma yng Nghymru a’r ymwybyddiaeth ohon. Cynhelir Wythnos Profi am HIV Cymru rhwng 22 a 28 Tachwedd, ond gallwch gael y prawf unrhyw bryd drwy ddilyn y ddolen hon. Peidiwch â chymryd ein gair ni serch hynny: dyma Russell T Davies, crëwr y sioe wych 'It's a Sin', i roi mwy o wybodaeth i chi!

LGBTQYMRU 66 LGBTQYMRU


Fel y dywedodd Russell, gallwch fyw bywyd hir, iach os cewch chi ddiagnosis o HIV, ac rydym yn adnabod yr union bobl i brofi hynny i chi! Trefnwyd y digwyddiad panel canlynol ar gyfer ein Pride rhithiol ledled Cymru yn 2020, ac mae’n archwilio bywyd ar ôl cael diagnosis hwn yng Nghymru. Felly ymunwch â hoff Frenhines Drag Caerdydd, y Farwnes Mary Golds, wrth iddi archwilio'r gefnogaeth a'r stigma yng Nghymru i bobl sy'n byw gyda HIV, ynghyd â Gavin Sheppard, Lisa Power, Karen Cameron, ac Abderrahim ElHabchi.

LGBTQYMRU

7


YN AGOS A PHERSONOL REN SIMONS

8

LGBTQYMRU


Yn ein cyfres o gyfweliadau agos a phersonol, gwnaethom ofyn i'n Gohebydd Cymunedol, Evie Barker, ddarganfod mwy am y brenin drag, Justin Drag - a'i grëwr, Ren Simons. gan Evie Barker

Lansiwyd gyrfa Ren ar ôl iddynt ennill Drag King Apprentice fel Justin Drag yn 2016. Ers hynny, mae Justin wedi mynd â Ren ar daith wefreiddiol i enwogrwydd ar y sîn drag gan wneud llu o ganfyddiadau personol ar hyd y ffordd. Mae Ren yn cofio bod yn ansicr ynghylch eu gobeithion yn y gystadleuaeth ddrag gyntaf. Er eu bod yn gwisgo dim ond pâr sylfaenol o siorts, crys-t gwyn, cap wedi ei roi am yn ôl a barf eyeliner, llwyddodd Justin i ddisgleirio. Gyda digon o anogaeth gan y Frenhines Ddrag, Amber Dextrous, gwnaeth holl berfformiadau comedïaidd a cherddorol Justin ei arwain yr holl ffordd i’r rownd derfynol a buddugoliaeth. Dywed Ren fod Justin, yn wreiddiol, “y math o foi a fyddai fwy na thebyg yn chwibanu arnoch chi wrth ichi gerdded i lawr y stryd” ond ei fod wedi datblygu i fod yn gymeriad camp mwy soffistigedig. Rydyn ni'n dawel ein meddwl ei fod yn dal i fod ‘yn swynol a digywilydd' o hyd.

LGBTQYMRU

9


Mae Ren yn canfod ysbrydoliaeth o’r gwaith gwych y mae'r perfformwyr drag o’u cwmpas yn ei wneud i'r gymuned LGBTQ+. Polly Amorous, Victoria Scone a Jolene Dover, i enwi ond ychydig, yw’r perfformwyr sydd wrth wraidd eu cymuned ddrag yng Nghaerdydd. Gellir dod o hyd i Justin yn perfformio ochr yn ochr â Polly bob yn ail ddydd Mercher ar gyfer cabar-oke ym Marys, Caerdydd, lleoliad sy'n agos at eu calon. Ar y dechrau, cymhelliant Ren i ymuno â’r byd drag oedd “cael hwyl, gwneud arian i deithio’r byd”. Ers dod allan fel person traws gwrywaidd anneuaidd yn 2020, maent wedi cael eu cymell i ddefnyddio eu platfform i gefnogi'r gymuned draws lle bynnag y gallant. “Eisoes, mae’r grym o rannu fy stori wedi caniatáu i eraill gysylltu â mi a rhannu eu stori; rydym ni hyd yn oed wedi crio gyda’n gilydd, sydd wedi caniatáu inni deimlo’n ddiogel yng nghwmni ein gilydd.”

Mae creu lle diogel i unigolion traws ac anneuaidd yn bwysig i Ren; gwnaethant ddweud wrthyf am y prosiect traws ac anneuaidd a gynhaliwyd yn The Queer Emporium a'i bwysigrwydd o fewn y gymuned. Mae Ren yn priodoli teimlo'n fwy cyfforddus yn eu croen i berfformio fel Justin. Roedd y grefft ddrag yn caniatáu iddynt archwilio eu hunaniaeth rhywedd, yn enwedig yn ystod y pandemig, a roddodd amser iddynt “eistedd gyda fy meddyliau a chofio’r hapusrwydd rwy’n ei deimlo pan fyddaf yn edrych yn fwy gwrywaidd, gyda rhwymyn arnaf”. “Rwy’n teimlo bellach bod Drag yn fwy na’r perfformiad yn unig”, meddai Ren. Tra roeddem yn cyfweld â Ren, roeddent yn codi arian ar gyfer eu prif lawdriniaeth, proses y dywedant a fydd yn caniatáu iddynt fod “eu gwir hunan”. Gallwch gefnogi eu taith drwy ymweld â Justin.Drag ar instagram. 10

LGBTQYMRU


Mae Ren wedi rhannu eu taith drawsryweddol gyda'u ffrind agos Logan Brown, ac mae ganddynt deulu mawr o gynghreiriad queer sy’n rhoi cefnogaeth. Yn fwyaf pwysig efallai, mynegodd Ren ddiolchgarwch aruthrol am eu cefnogwr mwyaf o'r diwrnod cyntaf, Rae Gee-Wing, a ddisgrifiodd yn deimladwy fel “fy mherson”. Ers i'w gyrfa ddechrau, mae Ren wedi gweld y gymuned Brenhinoedd Drag yn tyfu. “Mae’r Breninesau wedi rheoli ers amser maith, ond rydw i a llawer o frenhinoedd eraill yn paratoi'r ffordd i eraill ddod allan i ddangos eu talent. Pwy a ŵyr, un diwrnod, efallai y gwelwch chi Frenhinoedd ar RuPaul’s Drag Race! ”.

Eisoes, mae’r grym o rannu fy stori wedi caniatáu i eraill gysylltu â mi a rhannu eu stori

I unrhyw un sydd am ehangu eu gwybodaeth am Frenhinoedd Drag, mae Ren yn argymell eu bod yn edrych ar waith perfformwyr fel Don One, Louis Cyfer, Prinx Chiyo a Prinx Silver. LGBTQYMRU

11


Pwy a yr, un diwrnod, efallai y gwelwch chi Frenhinoedd ar RuPaul’s Drag Race!

Mae Ren yn awyddus i ehangu teyrnasiad Brenhinoedd Drag yng Nghymru, ac mae eu drws bob amser ar agor i berfformwyr newydd posibl; “Os ydych chi'n darllen hwn ac yn meddwl 'Byddwn i wrth fy modd yn cael sgwrs a chael gwybod mwy amdano', cysylltwch â mi ar fy llwyfannau cymdeithasol. Pe na bawn i wedi cael fy sgwrs gydag Amber, ni fyddwn i ble rydw i nawr: yn mwynhau bywyd ac yn lledaenu gobaith drwy ddrag”. Mynegodd Ren ddiolch enfawr am y sgwrs drawsnewidiol honno gydag Amber, cefnogaeth y dywedant na fyddent yma hebddi. Mae Justin Drag yn sicr yn un i’w wylio wrth i Frenhinoedd Drag gymryd eu seddi hirddisgwyliedig ar orsedd adloniant Queer. Rydym yn dymuno'r gorau i Ren gyda'u proses o drawsnewid a’u cefnogaeth i unigolion traws ac anneuaidd eraill.

12

LGBTQYMRU


Kissing the sun An elegy For myself My past self Soul separate Entered my new Body Now I Blessed Risen Stand before myself Image reflecting soul I am an icon to myself I worship my new name I weep for my lost self I weep for my current self So much time Wandering Starving in the dessert And for what? Twisted faith That I followed But demons followed me And now I’ve killed that figure Long hair rippling I kissed the cheek And sacrificed my life To live truthfully To be who I was Born to be Set my soul free Samuel Elijah

LGBTQYMRU

13


Tai Diogel Onid yw hi’n ddyledus arnom ni i gartrefu ceiswyr lloches a ffoaduriaid LGBTQ+ yn ddiogel? gan Craig Stephenson 14

LGBTQYMRU


Onid yw hi’n ddyledus arnom ni i gartrefu ceiswyr lloches a ffoaduriaid LGBTQ+ yn ddiogel? Mae hyn yn rhywbeth rydym ni wedi bod yn poeni amdano ers cryn amser yn LGBTQymru. Mae ein ffrindiau yn Glitter Cymru, y grŵp cymdeithasol ar gyfer pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n LGBTQ+, wedi bod yn ymgyrchu ar y mater hwn a bu’n allweddol o ran sbarduno newid cadarnhaol. Efallai eich bod yn cofio stori aelod o Glitter Cymru, Rahim, yn gynharach eleni am eu diogelwch wrth gael eu cartrefu fel ceisiwr lloches yng Nghymru a’r ffaith y buont yn destun barn homoffobig a thrawsffobig - yr union sefyllfa yr oeddent yn ceisio dianc rhagddi ym Moroco. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng person sy’n ceisio lloches a ffoadur? Rydym wedi darparu dau ffeithlun sy’n esbonio'r gwahaniaeth a'r effaith ymarferol ar bobl sydd wedi'u dosbarthu’n geiswyr lloches neu’n ffoaduriaid. Beth all Cymru ei wneud ynglŷn â thai LGBTQ+ ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid os nad yw'r mater hwn wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru?

Yn amlwg, mae angen i'r Swyddfa Gartref edrych yn ofalus ar ei darpariaeth o lety ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid LGBTQ+. Mae'n amlwg na fyddent yn rhoi cartref i ddefnyddiwr cadair olwyn ar y trydydd llawr pe na bai lifft, felly pam mae’n dderbyniol cartrefu rhywun sy'n LGBTQ+ yn rhywle lle bydd eu hunaniaeth rhywedd a'u rhywioldeb yn eu gwneud yn darged i eraill sydd yn y cartref gyda nhw am gyfnod hir. Fodd bynnag, yng Nghymru, rydym yn aml yn nodi'r broblem, yn eistedd o amgylch y bwrdd ac yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar atebion i'w datrys. A dyna'n union beth sydd wedi digwydd. Bydd ein darllenwyr yn ymwybodol yr ymgynghorwyd ynghylch Cynllun Gweithredu LGBTQ+ Llywodraeth Cymru rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref eleni ac roedd yn cynnwys argymhellion yn seiliedig ar drafodaethau grŵp arbenigol. Roeddem yn falch iawn o nodi mai'r nod trosfwaol cyntaf oedd cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol i bobl LGBTQ+ a cheisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU i gryfhau'r warchodaeth a roddir i bobl draws a phobl anneuaidd o dan y gyfraith, gan gynnwys ffoaduriaid a'r rhai sy'n ceisio lloches.

LGBTQYMRU

15


Roedd y camau gweithredu nodedig eraill yn cynnwys yr angen i: Weithio gyda Llywodraeth y DU i annog adnabod pobl LGBTQ+ mewn modd sensitif drwy gydol eu cais am loches drwy wneud newidiadau i ffurflenni a chanllawiau gweithwyr achos, ac i annog datblygu llochesi LGBTQ+ yn unig yng Nghymru, gyda'r ystyriaethau diogelwch a lles angenrheidiol yn cael eu gweithredu. Gweithio gyda gwasanaethau cymorth LGBTQ+ arbenigol i geiswyr lloches a ffoaduriaid, fel Glitter Cymru a Hoops & Loops, i nodi gwelliannau i bolisïau perthnasol a chefnogi cynaliadwyedd sefydliadol. Sicrhau bod ein hymrwymiadau i wneud Cymru yn Genedl Noddfa yn cynnwys pobl LGBTQ+. Sicrhau bod cefnogaeth iechyd meddwl briodol yn cael ei darparu i bobl LGBTQ+ sy’n ffoaduriaid neu’n ceisio lloches. Yn sgil peth o'i hymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, a thrwy weithio'n agos gyda Sarah Allen o Alltudion ar Waith, gwnaethom ofyn i aelod o'r grŵp arbenigol, Rania Vamvaka (hi/hi) o Glitter Cymru, am ei barn. Meddai: “Fel menyw queer o liw, sy’n actifydd LGBTQ ac ar ddechrau fy ngyrfa fel academydd ymfudo, rwy’n teimlo fy mod yn cael fy ngweld, fy nghlywed, a fy nerbyn yng Nghymru. “Mae'r llety a ddarperir gan Clearsprings (darparwr y Swyddfa Gartref yn y DU) yn aml yn anaddas ar gyfer anghenion ceiswyr lloches LGBTQ+. Nid oes unrhyw ystyriaeth i gydnawsedd y ceiswyr lloches wrth eu cartrefu â'i gilydd, ac mewn sawl achos mae bywydau pobl LGBTQ+ (yn enwedig unigolion traws) mewn perygl, gan eu bod yn cael eu cartrefu gyda'r rhai y maent yn ceisio dianc rhagddynt. “Ym mis Mawrth 2021, mewn cydweithrediad ag Alltudion ar Waith, cynhaliodd Glitter brosiect ymchwil uchelgeisiol i ddogfennu profiadau 16

LGBTQYMRU

tai ceiswyr lloches a ffoaduriaid LGBTQ+ yng Nghymru. Dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath yn y wlad ac rydym yn hynod o falch o’r ffaith bod poblogaeth mor fregus wedi teimlo’n ddigon cyfforddus a hyderus yn ein cylch ni i allu rhannu eu profiadau. “Mae'r Cynllun Gweithredu yn cydnabod brwydrau ac anghenion unigryw poblogaeth mor ymylol. Dim ond hyn a hyn y gall sefydliadau fel Glitter Cymru a Hoops & Loops ei wneud dros ein haelodau bregus gan fod y symiau bach o arian ond yn caniatáu inni gynnig llond llaw o wasanaethau iddynt. “Mae'n bryd i Gymru ymrwymo'n wirioneddol i wneud Cymru yn Genedl Noddfa. Mae angen i ni i gyd ddod at ein gilydd er mwyn gwneud Cymru yn gartref diogel i bawb.”


Yn amlwg, mae angen i'r Swyddfa Gartref edrych yn ofalus ar ei darpariaeth o lety ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid LGBTQ+.

Beth am dai symud ymlaen unwaith y mae statws ffoadur wedi’i roi? Cydnabu Tai Pawb, y sefydliad sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol o fewn sector tai Cymru, y risg y mae'r cyfnod symud ymlaen 28 diwrnod (y manylir arno yn ein ffeithlun) yn ei beri. Mewn partneriaeth â Joy Unlimited, cyhoeddodd adroddiad dichonoldeb ym mis Mai 2019 ar y mater a bu’n gweithio arno ers hynny. Gan adeiladu ar arferion da mewn mannau eraill, gan gynnwys rhaglen beilot sy’n cael ei rhedeg gan The Gap yng Nghasnewydd, bu Tai Pawb yn gweithio gyda chlymblaid o bartneriaid gan gynnwys Cyfiawnder Tai Cymru, The Wallich, Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac Oasis. Yn ddiweddar, llwyddodd y glymblaid i sicrhau cyllid gan Comic Relief ar gyfer llwybr tai a chymorth cynaliadwy ar gyfer ceiswyr lloches, ffoaduriaid ac ymfudwyr eraill (Nation of Sanctuary: ‘A Joined Up Approach’). Un elfen o'r rhaglen fydd partneriaeth rhwng Tai Pawb ac Oasis Caerdydd a chyflogi Rheolwr Datblygu Tai amser llawn. Y brif ddyletswydd

yma fydd cynyddu'r ddarpariaeth o lety 'symud ymlaen' (o ddarpariaeth statudol y Swyddfa Gartref) sydd ar gael i bobl sydd newydd gael statws ffoadur. Bydd y rôl yn helpu Oasis i ddatblygu cynllun llety â chymorth mewn partneriaeth â darparwyr tai eraill. Yn ogystal, bydd hefyd yn datblygu gwaith partneriaeth Tai Pawb gyda sefydliadau cymorth ffoaduriaid tebyg sy'n darparu llety i bobl sy'n ceisio lloches a statws ffoadur. Dywedodd Cyfarwyddwr Tai Pawb, Alicja Zalesinska (hi/hi): “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda phartneriaid ar y prosiect hwn sydd, yn y bôn, yn anelu at sicrhau bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru yn cael gwell mynediad at dai, gwaith a gwasanaethau cymorth. “Yn benodol, mae’r rôl datblygu tai yn torri tir newydd yng Nghymru a bydd yn ein galluogi i adeiladu ar yr adroddiad dichonoldeb a rhai o’i argymhellion. Bydd y ddarpariaeth tai â chymorth peilot yn cefnogi ffoaduriaid â statws newydd ac, wrth symud ymlaen, y rhai heb fynediad at

LGBTQYMRU

17


arian cyhoeddus, gan sicrhau eu bod yn cael eu cartrefu'n ddiogel ac yn briodol. “Rydyn yn gobeithio y bydd y cynllun peilot hwn yn cynyddu gallu sefydliadau sy’n cefnogi ffoaduriaid i gynyddu’r ddarpariaeth dai yn y dyfodol. Byddai'n wych pe bai hyn, yn y dyfodol, yn cynnwys tai LGBTQ+ penodol - yn bendant, mae angen llety o'r fath ac rydym yn llwyr gefnogi'r galwadau gan Glitter Cymru.”

Mae bywydau pobl LGBTQ+ (yn enwedig unigolion traws) mewn perygl

BARN LGBTQYMRU Rydym yn gwybod ein bod yn dangos tuedd, ond rydym ni yma i roi llais i'n Cymuned, felly ni fydd yn syndod i chi glywed ein bod yn falch iawn bod cynnydd yn cael ei wneud i roi tai diogel i geiswyr lloches a ffoaduriaid LGBTQ+ fel nad oes yn rhaid iddynt ofni cael eu herlid ymhellach am eu hunaniaeth rhywedd neu rywioldeb. I ni, er ei fod yn ymwneud i raddau helaeth â diogelwch, mae hefyd yn ymwneud ag urddas a gallu byw bywydau boddhaus yn ein cenedl noddfa. Nid yw pob cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli i Gymru, felly rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU a'r Swyddfa Gartref yn cydweithredu â chamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wneud

18

LGBTQYMRU

eu system rhoi lloches yn fwy cynhwysol o ran pobl LGBTQ+. Yn y cyfamser, mae'n amlwg drwy'r erthygl hon bod gweithio mewn partneriaeth, gwrando a dysgu gan eraill sydd â phrofiad byw yn arwain at gynnydd. Mae'r ysgogiadau sydd ar gael inni yng Nghymru yn cael eu defnyddio i wella bywydau pobl sy'n agored i niwed ac rydym yn falch iawn o weld y newidiadau hynny. Diolchwn i'r rhai sydd wedi codi eu pennau i ddatgelu'r mater hwn a gobeithiwn y bydd y newid yn parhau i ddigwydd yn gyflym.


Arolwg Llyfr

The Queer Bible Golygwyd gan Jack Guinness, cyhoeddwyd gan Harper Collins.

Dwi ddim yn gwybod amdanoch chi, ond rwyf wrth fy modd yn dianc drwy ddarllen nofel dda. Rwy’n tueddu i osgoi straeon byrion ond fe wnaeth fy chwilfrydedd fy nghuro i pan glywais Jack Guinness, golygydd ‘The Queer Bible’, yn cael ei gyfweld gan Graham Norton. Ar ôl iddo gael ei ryddhau ychydig wythnosau yn ddiweddarach, rhuthrais i gael fy nghopi ac rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny. Mae ‘The Queer Bible’ yn gasgliad o draethodau am rai o'n heiconau LGBTQ+ mwyaf fel David Bowie, George Michael, Quentin Crisp, Divine, Sylvester, RuPaul …… a mwy. Yr hyn sy'n unigryw yw bod y traethodau wedi'u hysgrifennu gan ein heiconau queer modern ni fel Elton John, Courtney Act, Lady Phyll, Paris Lees, Munroe Bergdorf, Graham Norton, Mae Martin a Russell Tovey.

Yn ein hatgoffa o’n hanes gogoneddus Mae’n llawn lluniau gwych gan artistiaid sy’n nodi eu bod yn LGBTQ+ neu'n gynghreiriaid, ac roedd yn bleser gwirioneddol cael troi tudalennau'r casgliad gwych hwn. Roedd yn teimlo fel dathliad a deffroad, ac yn ein hatgoffa o’n hanes gogoneddus a byddwn yn ei argymell yn fawr. Ac nid yw'n un o'r llyfrau hynny rydych chi'n ei roi i'r siop elusen ar ôl i chi ei ddarllen. Mae hwn yn llyfr i’w gadw! Mwynhewch!

Yr hyn a gewch yw persbectif unigryw'r awdur ar eu pwnc - pobl queer sydd, mewn amrywiol ffyrdd, wedi paratoi'r ffordd ar gyfer ein cymuned LGBTQ wych. Efallai bod awduron y traethodau wedi cael eu dylanwadu gan eu harwr, wedi cwrdd â nhw, a chael profiad ar y cyd i sôn wrthym amdano, neu maen nhw wedi cael eu heffeithio mewn rhyw ffordd ganddyn nhw. Beth bynnag yw’r ongl, cewch eich tynnu i mewn i'w stori wrth iddi ddatblygu. A pheidiwch â chael eich digalonni gan y gair 'traethawd' - straeon byrion ydyn nhw yn y bôn. Mae hwn yn llyfr difyr, agos atoch chi, sy’n eich addysgu am fywydau queer ac yn eich swyno. Os ydych chi'n hoff o ddiwylliant queer, mae hwn yn llyfr gwych i’w ychwanegu i’ch casgliad. LGBTQYMRU

19


20

LGBTQYMRU


Trawsnewid Mae Trawsnewid yn brosiect gan Amgueddfa Cymru dan arweiniad pobl ifanc sydd wedi'i anelu at bobl ifanc 16-25 oed. Mae’r prosiect yn archwilio hanes queer Cymru a phrofiadau byw pobl ifanc LGBTQ+ sy'n byw yng Nghymru heddiw. Mae hanes LGBTQ+ yn aml wedi cael ei guddio neu ei anwybyddu. Gan Cerian Wilshere-Davies, Amgueddfa Cymru

Mewn cyferbyniad, mae Trawsnewid yn dathlu'r hanes hwnnw, gan ddod ag ef i'r amlwg a chreu cysylltiadau cryf rhwng pobl ifanc LGBTQ+ sy'n byw yng Nghymru a'u treftadaeth. Hyd yn hyn, mae'r grŵp wedi cael sgyrsiau gan yr hanesydd Cymreig LGBTQ+ Norena Shopland, a’r Curadur Mark Etheridge, ochr yn ochr â haneswyr, artistiaid a gwneuthurwyr theatr queer. Mae'r prosiect hefyd yn cefnogi cyfranogwyr i guradu a darparu eu harddangosfeydd, eu gweithdai a'u digwyddiadau eu hunain. Ar gyfer Pride Abertawe eleni, creodd Trawsnewid gabaret digidol a chyfres o weithdai ar-lein. Roedd y cabaret yn cynnwys drag, barddoniaeth, ffilm a phypedwaith, i gyd wedi'u creu gan y cyfranogwyr, wedi’u hysbrydoli gan eu cysylltiadau personol eu hunain â Chymru, hanes LGBTQ+ Cymru a chasgliadau Amgueddfa Cymru.

LGBTQYMRU

21


Rydym yn awyddus i groesawu aelodau newydd! TrawsNewid 2021 Dros yr ychydig fisoedd nesaf, mae'r grŵp yn trefnu dau ddigwyddiad. Ym mis Tachwedd, bydd yr amgueddfa yn meddiannu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Bydd hwn yn gymysgedd o sgyrsiau, gweithdai a pherfformiadau sy'n dathlu bywydau LGBTQ+ yng Nghymru heddiw. Ym mis Mawrth 2022, bydd y grŵp yn lansio arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Bydd gwrthrychau o gasgliad LGBTQ+ yr amgueddfa i'w gweld ochr yn ochr â chelf a gwrthrychau a grëwyd ac a roddwyd gan gyfranogwyr y prosiect Trawsnewid. 22

LGBTQYMRU

Mae'r prosiect yn cael ei redeg ar-lein ac wyneb yn wyneb yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae sesiynau ar-lein yn cael eu cynnal bob yn ail nos Fercher o 6yh ac mae'r sesiynau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal bob yn ail ddydd Sadwrn am 2yp. Rydym yn awyddus i groesawu aelodau newydd! Os hoffech chi gymryd rhan, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch Bloedd.ac@museumwales.ac.uk Mae’r prosiect Trawsnewid yn rhan o'r fenter Dwylo ar Dreftadaeth, a wnaed yn bosibl gan grant Tynnu’r Llwch Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae hanes LGBTQ+ yn aml wedi cael ei guddio neu ei anwybyddu.


Erased Swaying between the pink, blue and purple hues This is where I stand, this is where I float My hues are not rainbow glossy An illegitimate afterthought, a fake bandit, Erased. Forced to pick a side to feel safe Threatened to correct my straight pace Reveal my gayness or be ostracised They are loud, I can hear them, Erased. I will not play the game My hues are my emblem I carry it with pain, I carry it with Pride I re-birth their rainbow, I make it mine, I am visible. Rania

LGBTQYMRU

23


Everyone's Talking About Jamie Roedd noson agoriadol ‘Everybody’s Talking About Jamie’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn orlawn. Mae’r sioe gerdd yn seiliedig ar stori wir sy’n dilyn y bachgen ysgol Jamie New wrth iddo wynebu’r rhwystrau sy'n sefyll rhyngddo a dod yn frenhines ddrag. Ar ôl llwyddiant y stori ar ffurf rhaglen ddogfen a ffilm, mae bellach yn ymddangos ar lwyfan Caerdydd ar ei thaith o gwmpas y DU. Ar ôl cyfnod anodd i’r celfyddydau, daeth Theatr Donald Gordon yn ôl mewn steil. Dechreuodd y perfformiad gyda ffrwydriad sydyn o gerddoriaeth a’r cast yn rhuthro allan o ochrau’r llwyfan. Roedd caneuon egni uchel wedi’u cydbwyso â golygfeydd emosiynol, dwfn. Fe wnaeth Amy Ellen Richardson serenu gyda'i pherfformiad syfrdanol o 'He's My Boy'. Lleisiwyd ofnau, balchder a gobeithion Margaret New am ei mab drwy lais pwerus Amy; gwnaethom wylio wrth i famau yn y gynulleidfa gofleidio eu plant ychydig yn dynnach. Roedd perfformiad Sharan Phull fel ffrind gorau Jamie, Pritti, yn sefyll allan ymysg cast a oedd eisoes yn drawiadol. Ychwanegodd ei stori haen arall at effaith gymdeithasol y sioe gerdd. Mae diwylliant Mwslimaidd Pritti yn ei gweld hi'n destun yr un gamdriniaeth gan ei chyfoedion â Jamie, sy’n dod â nhw'n agosach. Mae'r pâr yn grymuso ac yn cydbwyso ei gilydd; gwychder a dyfalbarhad yn cyfuno i roi’r ddau ar y trywydd iawn i gyflawni eu breuddwydion mewn theatr a meddygaeth.

24

LGBTQYMRU

Rhoddodd Layton Williams berfformiad anhygoel o naturiol, gan ddangos eiliadau pwerus a bregus Jamie fel pe baen nhw’n eiddo iddo'i hun. Roedd llais Layton yn syfrdanol a chyfleodd ei hyblygrwydd trawiadol - mae sut y llwyddodd i neidio ar fyrddau mewn sodlau 6 modfedd y tu hwnt i mi. Roedd ei gysylltiad ag aelodau’r cast yn amlwg o’i bortreadau argyhoeddiadol o gariad a chyfeillgarwch. O i fod yn bry ar y wal yng nghefn y llwyfan gyda'r cast hwn! Roedd gennyf ragdybiaethau y byddai 'Everybody’s Talking About Jamie’ yn sôn am ddrag yn bennaf. Wrth gwrs, mae’r cynhyrchiad yn cynnwys yr hyfryd Loco Chanel, mam ddrag Jamie, ond mae'n rhychwantu llawer mwy wrth gadw disgleirdeb y perfformiad Queer. Fe wnaeth y set wella mewn modd clyfar y cyferbyniad rhwng ysgol ddiflas Jamie a chartref bywiog y teulu, gan ddangos y lleoedd y cafodd ei wrthod neu ei gofleidio fel ei hunan dilys. Roedd naws ifanc i’r sgôr ac roedd yn rhychwantu’r genres, ac yn gwneud imi fod eisiau ei ychwanegwch at fy rhestr chwarae. Byddwn yn argymell y sioe gerdd hon i holl aelodau, a chynghreiriaid, y gymuned, er efallai y bydd yn rhaid i rieni orchuddio clustiau rhai ifanc o bryd i’w gilydd. Mae'r sioe yn cyflwyno realiti creulon methu â ffitio i mewn, a delio â chael eich gwrthod, troseddau casineb a bwlio. Fodd bynnag, yn y bôn, mae 'Everybody’s Talking About Jamie' yn bortread llawen o berson yn derbyn ei hunan ac o deulu a ddewiswyd a fydd yn gadael hyd yn oed yr aelodau mwyaf amheus o’r gynulleidfa yn meddwl 'Beth ddiawl sy’n bod gyda bachgen yn gwisgo ffrog?’


YDYCH CHI'N AWDUR? Ydych chi'n hoffi ysgrifennu? Hoffech chi ysgrifennu am faterion sy'n berthnasol i'r gymuned LGBTQ+ yng Nghymru? Os felly, byddai LGBTQymru yn dwli clywed gennych! Mae ein Bwrdd Golygul bob amser yn chwilio am ohebwyr gwirfoddol i roi ychydig o amser yn ôl i'n Gymuned. Os mai dyna chi, cliciwch yma i ddweud ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun.

BETH YW EICH STORI? Yn LGBTQymru, un o'r pethau sy’n ein sbarduno ni yw sicrhau bod aelodau ein cymuned LGBTQ yn aros mewn cysylltiad â’i gilydd. Ein mantra yw 'i’r Gymuned, gan y Gymuned'. I ni, mae hynny'n golygu Cymru gyfan. Felly, byddai’n hynod o gyffrous clywed gennych chi os oes gennych chi stori queer i'w hadrodd neu syniad i'w gynnwys mewn rhifyn dyfodol y cylchgrawn. Peidiwch â bod yn swil - cysylltwch â ni drwy anfon neges atom yn Magazine@LGBTQymru.Wales gan roi 'Stori Nodwedd' yn y blwch pwnc.

LGBTQYMRU

25


PENCAMPWR Joe Ali CYMUNEDOL 26

LGBTQYMRU


Joe Ali oedd Gohebydd Cymunedol cyntaf erioed Wales Online, a'i gylch gwaith oedd adrodd straeon pobl LGBTQ+ Cymreig ac yng Nghymru a rhoi sylw eang iddynt, ac felly nid yw byd newyddiaduriaeth yn ddieithr iddo.

Drwy gydol COVID, cyfnod lle’r oedd cymaint o bobl queer yn teimlo eu bod wedi'u datgysylltu oddi wrth eu teulu dewisol, amlygodd Joe nifer o weithgareddau, straeon a phroffiliau'r cymunedau LGBTQ+, gan sicrhau, er bod rhai ohonom wedi teimlo'n unig o bosibl, nad oeddem ni’n bendant yn teimlo ein bod ni ar ein pennau ein hunain. Fe ddylen ni wybod hynny: defnyddiodd Joe ei lwyfan a rhoddodd ei gefnogaeth i amlygu taith LGBTQYMRU i filoedd o ddarllenwyr, a oedd yn bendant wedi cefnogi’r broses o ddenu’r gynulleidfa sydd gennym ni heddiw. Dyna pam rydym ni mor hapus a balch i ddychwelyd y ffafr a rhoi’r ffocws ar Joe, sef Hyrwyddwr Cymunedol y rhifyn hwn, a’r dyfodol sydd ganddyn nhw ar y gweill i ni i gyd.

Sut fyddech chi'n disgrifio'ch profiad fel Gohebydd Cymunedol cyntaf Wales Online? Roedd yn agoriad llygad ac yn brofiad anhygoel. Nid yw ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd Cymru yn lle LGBT+ amlwg ac roedd cael effaith gadarnhaol mewn sefydliad mor enfawr yn brofiad darostyngol a brawychus ar yr un pryd. Mae'r cyfryngau yn wyn a heterorywiol i raddau helaeth, ac ni fydd hyn yn newid dros nos! Yn syml, byddai gosod rhywun fel fi, rhywun sy’n falch o fod yn queer, ymhlith y rhengoedd o ohebwyr, wedi anfon neges at rywun allan yna ei bod hi’n bosibl bod yn chi eich hunan mewn swydd o fewn y wasg. Mae'r wasg yn newid er gwell yng Nghymru ac mae'n anrhydedd cael fy ystyried yn rhywun sy'n helpu gyda hynny.

LGBTQYMRU

27


oherwydd bod pobl queer gymysg fel fi yn cael rolau pwysig. Swydd newyddiadurwr yw adrodd stori rhywun yn gywir ac yn deg ac nid ydym wedi cael y cyfle hwnnw am nifer o flynyddoedd. Mae cael mwy o bobl queer mewn rolau pwysig yn cyfateb i gynrychiolaeth well, mae mor syml â hynny. Rydych chi wedi ysgrifennu a siarad yn angerddol am gynrychiolaeth BAME yn y cyfryngau yn eich rôl fel Gohebydd Cymunedol ac fel newyddiadurwr annibynnol. Ar gyfer ein darllenwyr, a allwch chi ddweud wrthym ni pam mae cynrychiolaeth queer BAME yn bwysig yn y cyfryngau?

Pa brofiadau oedd y rhai mwyaf cofiadwy i chi? A bod yn onest, cwrdd â phobl eithriadol. Roeddwn i'n meddwl bod bod yn hoyw ac yn LGBT+ wedi'i gyfyngu i fariau a chlybiau. Peidiwch â'm camddeall i; maen nhw’n asedau hanfodol yn ein diwylliant a'n hanes ni. Ond roedd yr holl actifiaeth a’r grwpiau y deuthum ar eu traws yn y rôl yn ysbrydoledig a dweud y lleiaf. Mae'r bobl hyn yn gweithio o fore gwyn tan nos. Unwaith rydw i’n cyrraedd 5yp, rydw i fel arfer eisiau Malbec mawr a mynd i fy ngwely! Mae wedi bod yn wych cael cipolwg ar fywydau ac etheg gwaith y bobl hyn. Sut y mae’r gynrychiolaeth queer yn gwella? Mae'n gwella oherwydd bod pobl queer yn dod yn fwy hyderus ac yn poeni llai. Mae bod yn adroddwr eich stori chi eich hunan yn hanfodol, ac nid yw hynny wedi bod yn wir ers degawdau i mi ac, i raddau helaeth, i bawb sy’n queer. I dorri stori hir yn fyr, mae’r gynrychiolaeth yn gwella

28

LGBTQYMRU

Mae'n bwnc y mae llawer o bobl yn teimlo ei fod yn cael ei esgeuluso neu nad yw'n cael ei ddeall mewn gwirionedd. Mae gen i dreftadaeth ddeuol ac rwy’n queer, felly mae'r term BAME yn eithaf anodd i mi uniaethu ag ef er mai dyna yw’r term cyffredinol. Yn y cyfryngau, rwy'n credu ei bod hi’n hanfodol sicrhau bod y straeon hyn yn cael eu personoli i'r person a/neu'r pwnc. Mae’r gynrychiolaeth gywir yn y cyfryngau mor bwysig, oherwydd os na welwn ni ein hunain allan yna, mae'n gwneud i ni deimlo fel ein bod ni ar ein pennau ein hunain. Mae'r cyfryngau yn rhoi man inni lle gall pobl drafod a chysylltu â straeon sy'n debyg i'w straeon nhw eu hunain. Os gallwch chi weld eich hunan, rydych chi'n credu ynoch chi'ch hunan a'ch gwerth. Felly rydych chi wedi gadael Wales Online yn ddiweddar ac wedi dechrau dilyn llwybr newydd ar eich taith newyddiadurol. Beth allwn ni ei ddisgwyl gan Joe Ali yn Cardiff TV? Storïau newyddion ehangach. O adloniant, ffordd o fyw a mwy. Y cyfryngau darlledu sy’n fy nghyffroi i felly mae hwn yn gyfle anhygoel i mi dyfu a ffynnu yn y diwydiant. Ond nid yw'n


golygu fy mod i'n rhoi stop ar y queerness o gwbl. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ar greu grŵp cymorth ar gyfer pobl queer yn benodol o gefndiroedd treftadaeth gymysg. Rwyf hefyd yn dod yn llysgennad Just Like Us yn y dyfodol agos i helpu pobl ifanc LGBT+ i deimlo eu bod yn cael eu derbyn yn well mewn ysgolion. Mae gen i hefyd bodlediad y gallwch chi wrando arno ar hyn o bryd o'r enw 'Big Boy Talk gyda Joe Ali' a, phwy a ŵyr, efallai y bydd ail gyfres!

Mae bod yn adroddwr eich stori chi eich hunan yn hanfodol, ac nid yw hynny wedi bod yn wir ers degawdau i mi ac, i raddau helaeth, i bawb sy’n queer.

LGBTQYMRU

29


Feel Good Mae deurywioldeb ar y sgrin wedi bod yn destun beirniadaeth ers amser maith mewn sinema queer. gae Chloe Turner

O hen themâu am anffyddlondeb i linellau clo jôcs didaro, mae'r cymeriadau deurywiol yn bodoli fel rhywbeth anarferol ymhlith eu cyfoedion unrhywiol: ddim yn 'ddigon straight' i gyd-fynd â'r gymdeithas ehangach, ond ar yr un pryd ddim yn 'ddigon hoyw' i gael eu hystyried yn queer. Rhyddhawyd ail gyfres a chyfres olaf ‘Feel Good’ Mae Martin yn ôl ym mis Mehefin; archwiliad byr ond dwfn o berthynas Martin ei hun â rhywedd, cyffuriau, a llywio drwy ddibyniaeth yn ei ffurfiau esblygol. Fodd bynnag, mae'r sioe yn derbyn llai o gymeradwyaeth am ei phortread trawiadol o'r profiad deurywiol penodol. Rydym yn dyst i'r limbo rhwng cymunedau, y broses unigryw o ddod allan, a phwysau a breintiau ymddangos fel person straight pan rydych yn queer. Er gwaethaf y ffaith ei bod yn nodwedd annatod o hunanosodiad y comedïwr ei hunan, gellir gweld ymagwedd ‘Feel Good’ at ddeurywioldeb ar ei orau drwy gymeriad Charlotte Richie, 'George': cariad Mae sydd yn y closet a oedd, cyn eu perthynas, wedi cael perthnasoedd â dynion yn unig.

30

LGBTQYMRU

Mae’n rhoi’r profiad deurywiol o dan y microsgop Mae safle George yn y sioe yn un unigryw, drwy roi'r profiad deurywiol o dan ficrosgop a'i osod mewn perthynas â'r cymunedau cyfunrywiol a heterorywiol sy'n ei amgylchynu. I'w ffrindiau heterorywiol, mae George yn hoyw: rhywun ar y tu allan sy’n destun clecs i'w lledaenu fel y pla ar ôl iddi ddod allan ar gam. Ond, yng ngolwg y gymuned queer a'r rhai o'i chwmpas - Lava a bortreadir gan Ritu Arya, a rhieni amheus Mae - nid yw’n llawer mwy na merch straight sy’n gwastraffu eu hamser. Ym mhob trafodaeth am ei rhywioldeb, mae George wedi’i chyfyngu gan ddisgwyliadau'r rhai o'i chwmpas, yn cael ei chwestiynu oherwydd hanes ei phartneriaid, ac yn cael ei gorfodi i


wynebu ei dewisiadau ei hunan cyn y gall fod yr hyn y mae'n dymuno bod mewn gwirionedd. A fyddai hi'n parhau i gael perthnasau gyda merched ar ôl Mae, neu ai perthynas unigryw yw hon? A yw hi'n cydfynd ag ystrydebau'r rheini o'i chwmpas, ac a oes angen label arni mewn gwirionedd i bennu pwy y mae hi'n cael perthynas â nhw? Mewn hinsawdd lle rydym ni'n dechrau gweld cynrychiolaeth ddeurywiol fwy amrywiol ar y teledu - o Rosa Diaz i Darryl Whitefeather, ac o Eleanor Shellstrop i Clarke Griffin - mae'n dod yn annatod cydnabod rôl disgwyliadau allanol mewn llunio hunaniaeth. Mae deurywioldeb Martin ei hunan gyda’u steil androgynaidd queer mwy confensiynol - yn aros heb ei gwestiynu drwy gydol y sioe. Ond i George, gyda’i gwallt hir ac sy’n edrych yn fenywaidd, mae ei gallu i ymddangos fel person straight (a gwrthodiad pobl eraill i’w gweld fel arall) yn ganolog i'w phrofiad o rywioldeb. Rydym yn cael ein hannog i sylwi ar yr angen am berfformiad gan ei bod yn bodoli rhwng grwpiau, a'r pwysau i gydymffurfio â disgwyliadau eraill o ran pwy yw hi neu pwy y dylai fod.

Mae ‘Feel Good’, ymhlith ei rinweddau niferus, yn cynnig mewnwelediad newydd ar y teledu am y profiad deurywiol a'r treialon a'r buddugoliaethau a ddaw yn ei sgil. Mae Mae Martin yn llunio archwiliad twymgalon o queerness sydd, rhwng ei eiliadau comig a'i fyfyrdodau mewnol, yn ein hatgoffa’n ddi-ildio ein bod ni i gyd, yn y pen draw, yn llawer mwy na sut y mae eraill yn ein dirnad.

LGBTQYMRU

31


32

LGBTQYMRU


My Life, My Light, My Future. I hide from the world, afraid what it might think; Stripped of my shine, so close to the brink, I swayed, I swayed, I sway. The whispers I hear, messed with my head; The feelings I bear, stemmed from the else. Stumbling on the edge, I want to give in. She pulls me back, the verge away; She holds me close, is she a faye? I close my eyes, I can’t give in. I hear the whispers, fainter still my eyes stay shut; Through the darkness she leads me, is this the final cut? Steadier still, my path grows strong; My strength I draw from her. I didn’t give in, started to rise the veil I used to hide. Sparks ignite, my light long lost; I start to shine again. There’s no fear with her, she loves me I know; Save me she did, from the night. I open my eyes, the radiance creeps in; I look at her for the first time. Beauty did blind me; Words didn’t find me; I cried as I realised who she was. Ananya

LGBTQYMRU

33


Teithio dros y Gaeaf 'Mae’r Nadolig yn agosau ac, yn y rhifyn hwn, mae ein hymgynghorydd teithio annibynnol, The Travel Gibbon, yn ein cyffroi gyda mwy o gynigion tymhorol. gan The Travel Gibbon Er nad yw teithio rhyngwladol yn ôl i’r drefn arferol yn gyfan gwbl eto, mae teithiau a phrofiadau gwych ar gael o hyd i'n helpu i ddathlu'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, neu

34

LGBTQYMRU

hyd yn oed i ddod at ein hunain wedyn ar ôl rhywfaint o or-ddathlu. Mae mwy o wybodaeth ar gael gan The Travel Gibbon:


Goleuadau’r Nadolig a The Nutcracker ym Mhalas Blenheim Llety am 2 noson yng Ngwesty'r Mercure Thame Lambert Brecwast llawn wedi’i goginio bob bore Cinio tri chwrs Nadoligaidd ar eich noson gyntaf ym mwyty’r gwesty, y Kite Restaurant (gwerth £26 y pen) Mins peis a gwin cynnes wrth gyrraedd (gwerth £9.50 y pen)

am bris dechreuol o £199.50 y pen Dau docyn i The Story of the Nutcracker ym Mhalas Blenheim ar ail ddiwrnod eich arhosiad (gwerth £29.50 y pen) Dau docyn i'r Llwybr Golau ym Mhalas Blenheim ar ail ddiwrnod eich arhosiad am 5:30yp (gwerth £22.50 y pen) Parcio ym Mhalas Blenheim (gwerth £10 y car un man i bob ystafell) Prisiau yn seiliedig ar 2 berson yn rhannu

LGBTQYMRU

35


Marchnad Nadolig Maastricht a Chyngerdd Palas Gaeaf Andreu Rieu

o £599 y pen

4 Diwrnod o Wely a Brecwast a Thocynnau Cyngerdd

Teithiau dwyffordd mewn awyren rhwng eich maes awyr lleol ac Amsterdam

Tocyn eistedd gwerth €65 i weld André Rieu a'i Gerddorfa Johann Strauss yn fyw yn yr MECC (Canolfan Arddangos a Chyngherddau Maastricht) ar 17eg Rhagfyr - gellir uwchraddio

Teithio ar fws drwy gydol y gwyliau, gan gynnwys teithiau trosglwyddo rhwng y gwesty a’r lleoliadau

Ymweliad â Maastricht

Gwasanaethau rheolwr teithiau cyfeillgar Yn seiliedig ar 2 berson yn rhannu

Ymweliad â Marchnad Nadolig Aachen Tair noson o lety gwely a brecwast cyfandirol mewn gwesty pedair seren safonol yn ardal Eindhoven

By Craig Stephenson

36

LGBTQYMRU


Blwyddyn Newydd mewn Porthdy Twba Twym Moethus yn Abergwaun Porthdy moethus ar ben clogwyn gyda mynediad at lwybr arfordirol Sir Benfro Dydd Gwener 31 Rhagfyr '21 - Dydd Llun 03 Ionawr '22 CYFANSWM - £885 Gradd o 5/5 ar TripAdvisor

am £885 ar gyfer 4 o bobl Twba twym preifat Lolfa/ystafell fwyta/cegin cynllun agored Parcio/WiFi/Caniateir anifeiliaid anwes mwyafrif o 2 am £25 yr un Parti stryd tân gwyllt a Noson Galan yn Abergwaun (tocynnau yn tua £5 y pen)

2 ystafell wely - yn cysgu 4 o bobl (1 x dwbl / 1 x dau wely sengl neu wely dwbl)

LGBTQYMRU

37


Haul Ionawr - St Lucia

o £1299 y pen

Dihangfa Garibïaidd i ail-lenwi’r batris ym mis Ionawr 13eg - 23ain o Ionawr 2022 Hedfan o Lundain gyda British Airways

10 Noson - Gwesty Starfish St. Lucia Ystafell Foethus - Pob dim yn gynwysedig Yn seiliedig ar 2 oedolyn yn rhannu Ychwanegwch Fordaith Machlud Haul Drofannol am £73 y pen

I gael mwy o wybodaeth am y syniadau hyn neu rai eraill ar gyfer eich gwyliau nesaf, cysylltwch â Helen yn The Travel Gibbon - thetravelgibbon @ gmail. com neu edrychwch am gynigion ar y dudalen Facebook yma https://www. facebook.com/thetravelgibbon

By Craig Stephenson

38

LGBTQYMRU


Amrywiaeth ein hanes queer Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ystyried canmlwyddiant rhoi’r bleidlais i fenywod ym 1918 a'r don fydeang o derfysgoedd hiliol ym 1919, yn ogystal â'r myfyrdodau mwy diweddar a ysgogwyd gan Black Lives Matter, bu llawer o drafod am amrywiaeth y gorffennol a'r presennol. gan Daryl Leeworthy

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ystyried canmlwyddiant rhoi’r bleidlais i fenywod ym 1918 a'r don fyd-eang o derfysgoedd hiliol ym 1919, yn ogystal â'r myfyrdodau mwy diweddar a ysgogwyd gan Black Lives Matter, bu llawer o drafod am amrywiaeth y gorffennol a'r presennol. Mae hyn wedi cyd-daro â dyfodiad hanes queer Cymru fel pwnc astudio a chyhoeddi ffurfiol: ymddangosodd Queer Wales gan Huw Osborne yn 2016, yn ogystal â Forbidden Lives gan Norena Shopland yn 2017, a fy llyfr i fy hunan, A Little Gay History of Wales, ym misoedd olaf 2019. Mae amgueddfeydd wedi gwneud gwaith treftadaeth gwerthfawr hefyd, yn ogystal â Pride Cymru, yn aml gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Serch hynny, mae'r dadeni hwn o ymchwil ac adferiad yn datgelu rhai o gyfyngiadau ffynonellau, cof a dealltwriaeth.

Cyrhaeddodd Abdulla Taslameden Gaerdydd yn ystod haf 1918 ar fwrdd llong nwyddau yn llawn cyflenwadau o Fôr y Canoldir a'r Dwyrain Canol. Dwy ar hugain oed oedd Abdulla ac roedd yn y ddinas am gyfnod byr o amser segur cyn mynd ar y môr unwaith eto. Wrth iddo gerdded o amgylch Butetown a rhannau o ganol y ddinas yr Awst hwnnw, daeth Abdulla ar draws dyn lleol o dras Wyddelig a oedd yn ddwywaith ei oedran o'r enw George Halloran. Fe wnaethant sgwrsio a phenderfynu mynd i rywle i gael rhyw - yn ôl i dŷ George yn Adamsdown o bosibl. Yn fuan wedi hynny, daeth heddlu'r ddinas i arestio Abdulla. Cafodd ei gyhuddo o 'gyflawni’r drosedd ffiaidd o sodomiaeth'. Yng ngorsaf yr heddlu, cofnodwyd ei ffotograff, ei olion bysedd ac amryw o’i fanylion personol ar gofrestrau swyddogol. Casglwyd pob nodwedd gorfforol a diwylliannol, o liw ei lygaid, i grefydd, i LGBTQYMRU

39


bresenoldeb unrhyw datŵs, i p'un a allai ddarllen neu ysgrifennu. Mae rhai o'r cofrestrau a'r ffotograffau hynny, ynghyd â dogfennau llys a charchardai, i gyd wedi goroesi. Maent yn darlunio mewn un amrantiad amrywiaeth hanes queer Cymru. Maent yn gofyn cwestiynau am berthnasoedd a'r croestoriadau rhwng rhyw cyfunrywiol, queerness, dosbarth, ethnigrwydd a hil. Maen nhw'n dangos bywydau sy’n debyg i’n rhai ni. Roedd Abdulla yn Foslem, yn ôl pob tebyg o Yemen, yn ddyn croenliw, ac roedd yn gweithio fel dyn tân (neu daniwr) yn y llynges fasnachol a oedd yn gwasanaethu'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd ei swydd yn un boeth a chwyslyd, ac roedd yn gorfforol anodd. Roedd yr ystafell injan ei hun yn ofod homoerotig yn llawn dynion hanner noeth. Er gwaethaf ei bwysigrwydd i'r llong - sef, yn llythrennol, rhawio glo i mewn i’r injans - roedd swydd y dyn tân yn destun gwahaniaethu hiliol sylweddol. Gwnaethpwyd y gwaith braf ar fwrdd llongau masnach, o'r swyddogion i'r stiwardiaid i'r barbwyr, gan Ewropeaid gwyn. Cyflogwyd George, er enghraifft, fel stiward llong. Roedd y chwant rhwng morwyr yn ddigon cyffredin nes iddo ddod yn ystrydeb queer, fel trin gwallt neu weithio yn y theatr.

Roedd pobl queer yn fwy tebygol o adael Cymru am leoedd y credir eu bod yn fwy agored a goddefgar - a oedd yn fwy parod i 'dderbyn', yn yr ystyr hen ffasiwn Llundain, yn fwyaf amlwg.

Nid oes diweddglo hapus i'r stori hon. Cafwyd Abdulla yn euog a'i ddedfrydu i ddeuddeg mis o lafur caled, ond nid oedd George yn destun unrhyw achos troseddol. Roedd hyn yn rhannol o ganlyniad i bwy y credwyd oedd y 'dioddefwr', ond, heb os, lluniwyd yr achos gan far lliw cyffredinol y ddinas a rhagfarn hiliol eang ei swyddogion. Yn fuan ar ôl i Abdulla gael ei ryddhau o'r carchar, cafodd George ei hun ei arestio, ei gyhuddo a'i anfon i’r carchar am esgeuluso ei wraig, Annie, a'u plant. Roedd Abdulla a George ymhlith nifer o ddynion a oedd yn ddigon anlwcus i gael eu dal ac yna eu cyhuddo o naill ai 'anwedduster difrifol' (a oedd yn haws i'r heddlu ei erlyn) neu'r cyhuddiad mwy difrifol o 'sodomiaeth'. Roeddent yn anlwcus, wrth gwrs, oherwydd bod llawer mwy o ryw cyfunrywiol yn digwydd, yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill, nag a fu erioed yn destun achosion llys 40

LGBTQYMRU


un o'r clybiau nos queer cyntaf yng Nghymru yn bendant yn rhai 'dynion yn unig', ac yn gymysgedd o ddiod a chasineb at fenywod yr oedd mudiad cydlynol menywod y cyfnod yn gwybod i’w osgoi ac yn sicrhau ei fod yn cael ei hysbysebu ymhell ac agos. Sut ydyn ni'n dod i delerau â'r gorffennol problemus hwnnw fel cymuned, hyd yn oed wrth i ni ddatblygu ymdeimlad cyfoethocach ohoni? Byddwn yn dadlau ei bod yn bwysig nodi'r ddau. Roedd y clwb nos yn ddatganiad o bresenoldeb yn dilyn Deddf Troseddau Rhywiol 1967, sy'n haeddu cael ei gynnwys mewn unrhyw hanes o orffennol queer Caerdydd, ond roedd hefyd yn amgylchedd gwaharddol yn enwedig i fenywod. Dyma oedd hanes nodweddiadol lleoedd queer ledled y byd, ac i raddau mae'n parhau i fod yn wir, ac felly nid yw'n syndod dod o hyd i olion ohono yng Nghymru. Ond tystiolaeth yw'r allwedd, yn enwedig tystiolaeth sy'n mynd y tu hwnt i gof neu hanesyn unigol. Mae'r rheini gyda'i gilydd yn dod â phwnc a chyd-destun allan o anhrefn y gorffennol. a dedfrydau carchar. O safbwynt yr hanesydd, mae hynny'n rhwystredig oherwydd ei fod yn lleihau nifer y straeon unigol y gellir eu hadrodd. Ar ben hynny, mae cyfreithlondeb hanesyddol rhyw cyfunrywiol rhwng menywod yn golygu bod cofnodion troseddi yn ddefnyddiol, yn bennaf, ar gyfer adfer bywydau dynion queer.

Cymerwch achos 'Cheers Drive', yr enw arfaethedig ar gyfer lôn fer yng nghanolfan fysiau newydd Caerdydd. Cynnig teilwng, y byddech efallai yn ei feddwl. Ac eto ewch yn ôl ganrif ac roedd tai ar y safle hwnnw. Yn un ohonynt, un prynhawn, roedd dyn Iddewig o’r enw Louis Perlin a Gwyddel o’r enw Daniel

Mae hyn yn codi'r cwestiwn o sut i adfer amrywiaeth ein gorffennol queer. Po agosaf y bydd ein hymchwil yn dod â ni at ein hamseroedd ein hunain, y mwyaf o gyfleoedd sydd ar gael i adfer drwy gofiannau, gohebiaeth, hanes llafar a ffotograffau. Gyda'r ystod ehangach honno o ffynonellau, daw'r gwrthgyfarfyddiad angenrheidiol â bywydau a barhaodd i gael eu heffeithio gan hiliaeth, gwahaniaethu ar sail rhyw, ar sail dosbarth, a chan allfudo. Roedd pobl queer yn fwy tebygol o adael Cymru am leoedd y credir eu bod yn fwy agored a goddefgar - a oedd yn fwy parod i 'dderbyn', yn yr ystyr hen ffasiwn Llundain, yn fwyaf amlwg. Weithiau adroddwyd am leoliadau a oedd yn denu torf queer i'r Bwrdd Cysylltiadau Hiliol neu i'r wasg ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au, am weithredu bar lliw. Yn yr un modd, roedd LGBTQYMRU

41


Beth pe baem, felly, yn hytrach na chyd-fynd â’n hystrydebau 'Cymreig' ein hunain, yn meddwl yn fwy sobr am yr hanes sydd o'n cwmpas, neu am y dreftadaeth queer sydd mor aml wedi'i chuddio mewn lleoedd amlwg ac sy'n atgoffa rhywun yn gyson bod ein cymuned yn amrywiol, ei bod felly yn y gorffennol, ac y bydd bob amser yn amrywiol?

Sullivan yn bachu. Roeddent wedi cyfarfod ar Heol Santes Fair ac wedi mynd i ystafell Daniel. Cafodd Louis ei arestio’n ddiweddarach, ei gael yn ddieuog o anwedduster difrifol yn y llys, ond serch hynny cafodd orchymyn gan y barnwr i adael y wlad. Mewnfudwr digroeso. Roedd Louis wedi cyrraedd Prydain ychydig o flynyddoedd cyn hynny, ar ôl dianc rhag y pogromau niferus yn y Pale yn Lithwania lle cafodd ei eni. Gweithiodd yng Nghaerdydd fel teiliwr. Trodd ei alltudiaeth ei fywyd ben i waered: croesodd yr Iwerydd i geisio lloches cyn ymgartrefu yn Lerpwl yn y pen draw a mabwysiadu hunaniaeth wahanol. Beth pe baem, felly, yn hytrach na chyd-fynd â’n hystrydebau 'Cymreig' ein hunain, yn meddwl yn fwy sobr am yr hanes sydd o'n cwmpas, neu am y dreftadaeth queer sydd mor aml wedi'i chuddio mewn lleoedd amlwg ac sy'n atgoffa rhywun yn gyson bod ein cymuned yn amrywiol, ei bod felly yn y gorffennol, ac y bydd bob amser yn amrywiol? Beth pe byddem yn gorfod wynebu’r rhai a arestiwyd? Beth pe baem yn symud o'r 'drosedd' i sefydlu rhywbeth am weddill eu hoes,

42

LGBTQYMRU

hefyd? I wneud hynny, bydd yn rhaid i ni fynd â hanes Cymru allan i'r byd. I rai o'r unigolion yn y cofnodion, ni fydd hyn yn hawdd; mae trawsgrifio enwau ynddo'i hun yn gallu peri gwallau lu, ond i eraill bydd yn symlach - gan ddatgelu bywydau fel yr oeddent. Fe ddiflannodd Abdulla Taslameden o'r cofnodion ar ôl iddo adael y carchar. I ble'r aeth, nid ydym yn gwybod. A gafodd ryw gyda dynion eraill, a oedd ei fywyd yn un hapus? Unwaith eto, dim ond pendroni ynghylch hynny y gallwn ni. Ar y llaw arall, rydym yn gwybod bod George Halloran wedi mynd i Awstralia, i America, i Belize, i Giwba, i Nicaragwa, ac i rannau pellaf Ymerodraeth Rwsia. Ac eto, gellir gofyn yr un cwestiynau am ei fywyd hefyd. Pa mor queer oedd e? Mae'n debyg na fyddwn fyth yn gwybod yr ateb. Yr hyn sy'n weddill yw elfennau Cymreig cofnodedig eu stori, sy'n pryfocio ac yn cyfareddu i’r un graddau. Hyn, yn y pen draw, yn absenoldeb bonheddwyr a boneddigesau, braint a statws, yw hanes go iawn Cymru Queer.


LGBTQYMRU

43


Côr y Songbirds Rhag ofn nad oeddech chi'n gwybod, mae wedi ei brofi bod canu yn un o'r pethau gorau i atal straen a’i fod o fudd i’ch iechyd yn gyffredinol, yn gwella'ch ystum ac yn cyfrannu at iechyd meddwl da hefyd.

Gall ymuno â chôr fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd ac ar ôl cyfnodau clo hir 2020 a 2021, ac rydym yn falch iawn o weld bod ein corau LGBTQ yng Nghymru yn ymarfer dan do unwaith eto. Yn y rhifyn hwn, mae LGBTQymru yn falch iawn o ddweud ychydig mwy wrthych chi am Gôr y Songbirds - unig gôr Cymru ar gyfer menywod LGBT+ a phobl anneuaidd.

44

LGBTQYMRU

Sefydlwyd y côr yn 2012, ac mae’n ymarfer bob nos Lun am 7.30yh yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas, Plas Windsor, Caerdydd ac mae wedi'i sefydlu'n gadarn fel rhan o'r teulu cerddorol LGBTQ yn Ne Cymru. Mae’r Songbirds yn perfformio ledled y rhanbarth, yn aml i elusennau lleol, yn eu cyngherddau eu hunain a gellir eu gweld yn rheolaidd mewn digwyddiadau Pride.


Gyda'r ethos cryf o gynhwysiant, derbyniad a hwyl, gallai ymuno â Chôr y Songbirds fod yr hobi i chi. Rydych chi'n sicr o gael eich croesawu gan y 30 aelod neu fwy a byddwch yn cyfrannu at welededd ein Cymuned LGBTQ - does dim byd i beidio ei hoffi! Meddai’r Cyfarwyddwr Cerdd, Lizzie Watson: "Ers i mi ddod yn Rheolwr Gyfarwyddwr ddwy flynedd yn ôl, rydym ni wedi dysgu digon o ganeuon newydd, wedi ailedrych ar hen ffefrynnau, ac wedi cael amser gwych yn gwneud hynny. Ar ôl dros flwyddyn o ymarferion Zoom, rydym ni o'r diwedd yn ymarfer wyneb yn wyneb ac mae'r côr yn swnio'n wych! Ochr yn ochr â chanu caneuon gyda'n gilydd, mae gennym weithgareddau cerddorol bob wythnos, lle’r ydym yn chwarae gemau cerddorol gwirion - sydd fel arfer yn arwain at lawer o chwerthin - yn enw dysgu theori cerddoriaeth. Ar hyn o bryd, rydym ni'n paratoi ar gyfer ein cyngerdd i ddathlu 10 ers inni ddechrau yn Haf 2022, ac mae'n argoeli i fod yn ddathliad anhygoel o bopeth i’w wneud â’r Songbirds." Ychwanegodd Cadeirydd pwyllgor y Songbirds, Kate Boddington: “Roedd parhau i ganu yn ystod 2020 yn anodd, ond rwy’n wirioneddol falch o’r ffordd rydym ni wedi cadw cymuned ein côr gyda’i gilydd, gan barhau i gwrdd ar-lein i gryfhau ein perthnasoedd

Yn falch o gadw cymuned ein côr ynghyd a chefnogi ein gilydd y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni'n griw eithaf amrywiol o ran oedran a chefndir, ac rydym ni wedi ymrwymo i fod yn grŵp cynhwysol. Fel aelod hirsefydlog, mae'n gyffrous gweld sut y mae'r côr yn newid ac yn parhau i dyfu. Mae'n amser gwych i ymuno â ni wrth i ni ailadrodd hen ffefrynnau a dysgu cerddoriaeth newydd yn barod ar gyfer 2022 - ein pen-blwydd yn 10 oed!” Gallwch gael mwy o wybodaeth o wefan y Songbirds y mae’r ddolen i’w chael isod, gan gynnwys y ffurflen ymholiadau i aelodau newydd, a gallwch hefyd ddod o hyd i ddolenni i'w llwyfannau ar y cyfryngau cymdeithasol. https://songbirdschoir.com/ Yn LGBTQymru, rydym ni'n hapus iawn i weld Côr y Songbirds yn perfformio eto yn 2021 a thu hwnt.

LGBTQYMRU

45


The best of both worlds What do I crave? Bàbátúndé or Yéwándé? It all depends on the wave, Today I feel tamed. When he touches me, I submit to his will. A sensation so real. He is deep, what a thrill. Her voice makes me gasp for air. Laying next to her, our bodies bare. So much passion in her stare. She wants me, I know she cares. What do I crave? Today I am feeling brave. I want a cocktail, The three of us on a sail. It’s the best of both worlds. No gender, no walls. We are souls that fall, For a love that encircles all. Tobi

46

LGBTQYMRU


She She is rooted in expectation A projected vision of what I should be Your perception feels like deception of how I truly see Myself, a mirror, a moment unstuck Until the weight of your gaze Slides down on me Bearing true to no one else I make space for your face Reflected back at me She is not me But you call her as seen Beth

LGBTQYMRU

47


Mae ein seicotherapydd preswyl, Andy Garland, sylfaenydd a chyfarwyddwr clinigol Andy Garland Therapies, y clinig iechyd meddwl, yn ymuno â'r tîm LGBTQymru i ateb eich cwestiynau.

48

LGBTQYMRU


Mae cyrff hardd yn dod ar bob ffurf, ac mae'n bwysig ein bod ni'n eu dathlu i gyd. Nid yw cael cyhyrau mawr yn gwneud person yn fwy llwyddiannus mewn bywyd neu berthnasoedd

CWESTIWN Rwyf wedi bod ychydig dros bwysau erioed ac nid yw hynny erioed wedi fy mhoeni, ond yn ddiweddar mae wedi bod yn gwneud i mi deimlo'n bryderus iawn ac fel bod angen i mi fynd ar ddeiet. Y cyfan rwy’n ei weld drwy’r amser yw dynion hoyw hardd, heini ym mhobman a nhw sy'n cael y sylw mwyaf. Rwy'n ei weld ar y sîn hoyw nawr ein bod ni wedi dechrau mynd allan eto ac ar apiau mynd ar ddêt ac mae'n gwneud i mi deimlo’n drist ac yn wirioneddol ansicr. Ac yn fwy na hynny, rwy’n cael yr argraff bod dynion hoyw yn dod yn fwy a mwy sarhaus am bobl sydd dros bwysau. Nid wyf yn gwybod beth i'w wneud. Johnny

ATEB Mae ymchwil yn parhau i ddangos i ni mai'r gymuned LGBTQ+ sydd fwyaf tebygol o brofi pryder am ddelwedd y corff, yn fwy na phobl

heterorywiol. Adroddir i mi yn aml yn ystod sesiynau therapi sut rydym yn dirnad ein cyrff mewn perthynas ag eraill, felly dydych chi ar eich pen eich hun gyda'r broblem hon, Johnny. Mae dynion hoyw yn benodol yn adrodd bod angen cydymffurfio â'r hyn y maen nhw'n ei ystyried sy’n gorff 'perffaith'. Mae hyn yn gyffredinol yn golygu corff cyhyrog rhywun sy’n mynd i’r gampfa - wedi’u perffeithio ac yn barod ar gyfer Instagram. Mae astudiaethau sy'n canolbwyntio ar ddynion hoyw a deurywiol wedi canfod cysylltiad rhwng lefelau uwch o anfodlonrwydd â’u cyrff a mwy o debygolrwydd o brofi symptomau iselder a phryder rhywiol cynyddol, ynghyd â pherfformiad rhywiol llai llwyddiannus. Mae cyrff hardd yn dod ar bob ffurf, ac mae'n bwysig ein bod ni'n eu dathlu i gyd. Nid yw cael cyhyrau mawr yn gwneud person yn fwy llwyddiannus mewn bywyd neu berthnasoedd. Ydy, mae'n debyg ei fod yn dod â sylw i'r dynion

LGBTQYMRU

49


hyn, er fy mod i'n nabod llawer o bobl nad ydyn nhw'n cael eu denu at gorff mor gyhyrog - mae syniad pawb o harddwch yn wahanol. Mae dynion hoyw ers dechrau amser (rwy'n bod ychydig yn greadigol yma), wedi bod ag obsesiwn â chyrff hardd. P'un a yw’n ymwneud â maint eu cyhyrau neu'r chwydd yn eu dillad isaf Calvin Klein, mae'r angen i gael eich derbyn wedi’i seilio’n gryf ar gywilydd. Mae'n ymwneud â chael eich derbyn a bod yn rhan o'r 'norm'. Tybed ai’r ‘dynion hoyw hardd, heini’ hynny hyn sy’n cael y sylw mwyaf mewn gwirionedd. Yn aml, yr hyn rydyn ni'n ei weld yn y pen draw yw'r hyn rydyn ni'n canolbwyntio mwy arno. Mae yna ffenomen o'r enw Baader-Meinhof, sy'n ogwydd ar sail amledd. Dyma lle rydyn ni'n sylwi ar rywbeth, ac yna mae'n ymddangos eich bod yn dod yn ymwybodol ohono ym mhobman! Cymerwch olwg agosach y tro nesaf y byddwch chi ar y sîn neu'n pori ar aps mynd ar ddêt - rwy'n

50

LGBTQYMRU

sicr y byddwch chi'n gweld pobl eraill sydd â’r un siâp corff â chi. Rydym yn gweld siâp corff mwy amrywiol yn cael ei ddathlu mewn hysbysebion, ac mae'r cyfryngau cymdeithasol yn newid hefyd. Weithiau, rydym yn edrych ar ein cyrff drwy lens o'r hyn rydym ni'n ei weld o'n cwmpas. Nid oes rhaid i chi newid eich ymddangosiad er mwyn cyd-fynd â norm cymdeithasol hoyw canfyddedig. Ni waeth pa fath o gorff sydd gennych chi, mae yna ddelwedd arall bob tro i anelu ati. Gall eich cymariaethau â'r dynion hyn waethygu'ch pryder - yn y pen draw, eich hyder mewnol sy'n eich amlygu. Os ydych am golli pwysau, a thynhau eich corff, yna gwnewch hynny a dewch o hyd i lwybr iach ar gyfer cyflawni hyn. Os yw'n ymwneud â chael eich derbyn gan eraill, mae'n werth cwestiynu'r penderfyniad hwnnw. Nid yw hyder yn eich corff yn cael ei greu yn y gampfa; mae'n dechrau gyda'r meddwl.


Gall perthnasoedd agored fod yn gariadus ac yn foddhaus, a gallant gynyddu gwefr erotig yn y brif berthynas, a all annog cysylltiad dyfnach a mwy dwys.

CWESTIWN Mae fy mhartner eisiau perthynas agored ond nid wyf fi eisiau hynny. Rwy'n teimlo ei bod hi eisiau cysgu â phobl eraill ond nid yw hynny’n apelio ataf fi. Sut y dylwn i ymateb i hynny? Rwy'n ei charu gymaint, ond rwy'n teimlo nad ydw i'n ddigon iddi bellach ac mae hi'n defnyddio hyn fel esgus i fynd i gysgu â phobl eraill. Steph.

ATEB Mae perthnasoedd agored a'u llwyddiant yn dibynnu ar dderbyn ac ymddiriedaeth ar y cyd. Mae'r ffordd rydych chi'n cyfleu'ch meddyliau a'ch teimladau yn hanfodol, ac o'ch cwestiwn, Steph, mae'n ymddangos eich bod mewn ychydig o benbleth am hyn. Mae perthnasoedd agored, a elwir hefyd yn rhai lle nad oes monogami, yn fodd o beidio â chael rhyw gyda’ch partner yn unig, er nad yw'n tueddu i gynnwys rhamant neu ymlyniad emosiynol gwelwch y gair Polyamory! Nid yw'r ffaith eich bod mewn perthynas agored yn golygu y gallwch chi wneud beth bynnag a fynnoch chi gyda phwy bynnag a fynnoch chi, oni bai bod hynny wedi'i gytuno o flaen llaw, wrth gwrs. Yn eich cwestiwn rydych chi'n siarad am yr hyn rydych chi'n ei 'deimlo' yn hytrach na'r hyn rydych chi'n ei wybod. Tybed a ydych chi wedi eistedd i lawr a thrafod eich meddyliau a'ch

teimladau gyda'ch partner. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny, efallai y dylech ei ystyried. Drwy gyfathrebu'n agored, fe welwch yn union beth mae'ch partner yn chwilio amdano, a gallwch chi fod yn glir am eich dymuniadau hefyd. Mae yna lawer o ffyrdd i greu perthynas lwyddiannus, gariadus a pharchus. Rydym wedi cael ein cyflyru i gredu mai monogami yw’r ffactor sy’n diffinio 'perthnasoedd difrifol', dim ond oherwydd bod cymdeithas wedi dweud hynny wrthym ni. Gall perthnasoedd agored fod yn gariadus ac yn foddhaus, a gallant gynyddu gwefr erotig yn y brif berthynas, a all annog cysylltiad dyfnach a mwy dwys. Er hynny, nid yw perthnasoedd agored yn gweithio i bawb. Os ydych chi'n gadarn am fod eisiau perthynas emosiynol a rhywiol heb bartneriaid eraill, yna bydd yn bwysig rhannu hyn gyda'ch partner. Gadewch iddyn nhw wybod sut rydych chi'n teimlo, a mynegwch eich meddyliau am 'beidio â bod yn ddigon' iddyn nhw. Yn y pen draw, mae cyfathrebu, ymddiriedaeth a gonestrwydd yn allweddol ar gyfer pennu disgwyliadau. Drwy gyfathrebu, efallai y byddwch yn darganfod bod agweddau ar eich perthynas rywiol y gellid eu gwella. Gallai archwilio dymuniadau a ffantasïau rhywiol eich gilydd ddod â chi'n agosach at eich gilydd, gan arwain at weld eich partner yn teimlo’n fodlon bod mewn perthynas monogamaidd.

LGBTQYMRU

51


Y Sefyllfa ar ôl Brexit yng Nghymru a materion LGBTQ+: Beth sy'n digwydd yn Ewrop a pham y dylem ni boeni? Fel ymfudwr a dyn hoyw sy'n byw yng Nghymru, rwyf wedi bod yn gwylio gydag ymdeimlad cynyddol o anesmwythyd yr hyn sy'n digwydd i bobl LGBTQ+ ledled Ewrop. gan Dr Alessandro Ceccarelli

Er mai'r gred gyffredinol yw bod hawliau LGBTQ+ wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llu o rybuddion a ddylai boeni pob un ohonom. Ledled Ewrop, rydym yn gweld diffyg datblygiad neu atchweliad hawliau LGBTQ+, argyfwng digartrefedd ymysg pobl ifanc, amgylcheddau gelyniaethus a gwarthnodi pobl LGBTQ+ er budd gwleidyddol, a diffyg cynnydd ar gyfer hawliau rhyngrywiol a thraws a mynediad at iechyd, ynghyd â dadflaenoriaethu ymgyrchoedd HIV. Tra bo pocedi o gynhwysiant ac arfer da yn parhau, gan gynnwys ym Malta, Gwlad Belg, Lwcsembwrg, Portiwgal a Norwy, mae achos i bryderu. Mae twf araf ffobia yn erbyn pobl LGBTQ yn real, ac mae’n effeithio’n enwedig ar ymfudwyr, pobl groenliw a phobl draws. Ni allwn anwybyddu ei fod yn bygwth gwneud ein bywydau yng Nghymru yn anoddach. By Alistair James 52

LGBTQYMRU


Mae ymfudwyr yng Nghymru yn agored i niwed, a daw rhai ohonyn nhw o wledydd lle y mae bod yn nhw eu hunain yn eu peryglu. Ond gallwn wneud mwy na dim ond adeiladu amddiffyniadau yng Nghymru, a gallwn chwarae rhan weithredol yn Ewrop.

Beth sy'n digwydd yn Ewrop?

Diffyg datblygiad y tirlun polisi LGBTQ+

Er y gallem deimlo'n gyffyrddus â’r cynnydd yma, mae gwarthnodi pobl LGBTQ+ er budd gwleidyddol eisoes yn duedd mewn mannau eraill. Mae beio lleiafrifoedd wedi dod yn strategaeth gynyddol gan wleidyddion hynod-geidwadol a chenedlaetholgar sy'n cyflwyno'u hunain fel amddiffynwyr “gwerthoedd traddodiadol” er mwyn ennill neu gadw grym. Yn ddiweddar, rwyf wedi sylwi ar warthnodi amlwg o bobl LGBTQ+ cyn etholiadau, ac ymosodiadau ar ddigwyddiadau Pride dros yr haf - fel yn Armenia, Bwlgaria, Moldofa, Hwngari, y Weriniaeth Tsiec a Rwsia.

O ystyried yr uchod, roedd gennyf ddisgwyliadau uchel ynghylch ymateb llywodraethau Ewrop. Cyhoeddwyd y Map Enfys ym mis Mai 2021, sy’n dangos y datblygiadau o ran hawliau LGBTQ+ ymhlith y gwledydd Ewropeaidd, gan gynnwys y DU, ar ôl mwy na blwyddyn o COVID19. A wnaethant ddysgu o'r argyfwng y dylid amddiffyn lleiafrifoedd neu'r difreintiedig? Cefais fy siomi.

Tra bod disgwrs gwleidyddol Cymru yn fwy rhesymol, ni allwn fod yn hunanfodlon. Rhaid inni chwarae rhan weithredol wrth fynnu dim goddefgarwch i rethreg wahaniaethol. Ni allwn adael safbwyntiau gwahaniaethol heb eu herio yn, er enghraifft, Hwngari lle’r ydym wedi gweld achosion o lyfrau plant sy'n cynnwys cymeriadau LGBTQ+ yn cael eu gwahardd, a gwaharddiad portreadu pobl draws a chyfunrywiol; ac yng Ngwlad Pwyl lle gwnaethant weithredu “parthau di-LGBT”. Er bod Comisiwn yr UE wedi cyflwyno gweithdrefnau torri rheolau yn erbyn y ddwy wlad, roedd yr effaith wedi’i chyfyngu o hyd.

Mae’r Map Enfys yn dangos mai ychydig o wledydd sydd wedi gwella o ran cydnabod partneriaethau neu fod yn rhiant, ac ychydig sydd wedi'i wneud dros hawliau rhyngrywiol a thraws a mynediad at ofal iechyd, gan gynnwys dod â phatholegeiddio i ben, ar wahân i Wlad yr Iâ. Roedd Malta yn un o'r ychydig wledydd i wella ei Deddf Ffoaduriaid a chyhoeddodd ganllawiau newydd ar gyfer ceisiadau lloches gan bobl LGBTQ+. Yn yr Eidal, ceisiodd deddf arfaethedig o’r enw “disegno di legge Zan” frwydro yn erbyn gwahaniaethu drwy ychwanegu “ffactorau gwaethygol” yn seiliedig ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Fodd bynnag, bu gwrthwynebiad ac ymyrraeth, yn enwedig gan y Fatican, a alwodd am Goncordat i geisio newidiadau.

LGBTQYMRU

53


Yr hyn sy’n arbennig o ysgytwol yw’r effeithiau ar bobl ifanc LGBTQ+. Canfu arolwg o 71 o sefydliadau ledled 32 o wledydd Ewrop fod dros 60% wedi gweithio gyda phobl ifanc digartref LGBTQ+, tra bod diffyg ymysg y gwasanaethau i ddarparu lleoedd diogel a chroesawgar (Adroddiad Canfyddiadau 2021). Mae hyn yn cyd-fynd â'r adroddiad “Out on The Streets” (2019), sy'n dangos bod nifer anghymesur o uchel o’r bobl ifanc sy'n profi digartrefedd yng Nghymru yn LGBTQ+. Mae'r ymateb i HIV hefyd wedi dirywio. Mae nifer y bobl sy'n byw gyda HIV yn parhau i gynyddu yn Nwyrain Ewrop ac mae diagnosis hwyr yn parhau i fod yn broblem fawr. Mae wedi dod yn llai o flaenoriaeth mewn nifer o wledydd Ewropeaidd, lle nad oes llawer o arian ar gael i'w brofi am ddim. Os bydd yr argaeledd yn cael ei leihau, gallai arwain at gynnydd cyflym mewn diagnosisau hwyr a throsglwyddiadau. Dylai HIV fod yn flaenoriaeth genedlaethol a rhyngwladol, a dyna pam mae Cynlluniau Gweithredu HIV cenedlaethol pwrpasol yn gam angenrheidiol ymlaen i gyrraedd targed 2030 o gael dim heintiau newydd. Mae'n amlwg bod angen mwy o gamau pendant arnom i amddiffyn pobl. Mae beio COVID19 yn gweithredu fel deilen ffigys i ormod o wledydd lle

Mae'n amlwg bod angen mwy o gamau pendant arnom i amddiffyn pobl. Mae beio COVID19 yn gweithredu fel deilen ffigys i ormod o wledydd lle y mae’r cynnydd yn pallu oherwydd manteisiaeth wleidyddol. y mae’r cynnydd yn pallu oherwydd manteisiaeth wleidyddol. Pam mae hyn yn bwysig i Gymru Mae'r DU wedi cael sgôr gyffredinol o 64% ar y Map Enfys, a nododd sawl maes i'w gwella - yn ymwneud yn bennaf â cheiswyr lloches LGBTQ+, rhethreg gwrth-draws, troseddau casineb, iechyd, cydnabod rhywedd, bod yn rhiant, a hawliau partneriaeth - ac mae hyn yn berthnasol i Gymru. Mae ymfudwyr o Ewrop eisiau gweld newid: ni allwn anwybyddu'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i'n ffiniau a gall gwledydd Ewropeaidd ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae argymhellion ILGA-Ewrop yn cynnwys gwahardd therapi trosi, datblygu fframweithiau ar gyfer cydnabod rhywedd, a gwella polisïau sy'n ymwneud â gwahaniaethu a throseddau casineb. Mae ymfudwyr yng Nghymru yn agored i niwed, a daw rhai ohonyn nhw o wledydd lle y mae bod yn nhw eu hunain yn eu peryglu. Ond gallwn wneud mwy na dim ond adeiladu amddiffyniadau yng Nghymru, a gallwn chwarae rhan weithredol yn Ewrop. Nid yw “arwahanrwydd ysblennydd” y DU ar ôl Brexit yn opsiwn mwyach - ac efallai na fu erioed.

54

LGBTQYMRU


LGBTQYMRU

55


Coeden Goffa AIDS y Rhuban Coch Gellid maddau i chi am beidio â gwybod am goeden goffa AIDS y Rhuban Coch yng Ngerddi’r Orsedd, o flaen Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Nid yw wedi cael llawer iawn o sylw dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’n bosibl bod hynny ar fin newid. gan Craig Stephenson 56

LGBTQYMRU


Plannwyd y goeden ym 1994 gan ddyn o Gaerdydd, Mike Phillips, a'i ffrind Martin Nowaczek. Mae Mike bellach yn ei bumdegau ar ôl byw gyda HIV am nifer o flynyddoedd, ond bu farw Martin, yn ddim ond 27 oed, dim ond ychydig o amser ar ôl plannu'r goeden ifanc. Mae hi bellach yn goeden sydd wedi aeddfedu’n llawn ac mae’n darparu man lle y mae rhai pobl yn dod i gofio am eu hanwyliaid. Ni fydd llawer yn gwybod am y goeden goffa, na’r ffaith bod gwylnos yn cael ei chynnal yn flynyddol yn y 1990au ar 1 Rhagfyr ar gyfer Diwrnod AIDS y Byd. Roedd cannoedd o bobl yn hongian rhubanau coch ar y goeden ac yn cofio'r rhai a gollwyd i'r feirws. Yn gynharach eleni, bu Live Music Now Wales (diolch i arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri) yn gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol gan ddefnyddio cyfansoddi caneuon i gydgysylltu a rhannu straeon ac i ailgysylltu ein cymunedau ar ôl cyfyngiadau Covid 19 a dirywiad anochel y cysylltiadau hynny.

Rwy’n cofio pa mor bwysig oedd y goeden honno i’n haelodau, i’w partneriaid, ffrindiau, teulu ac i ni fel tîm. Yr harddwch yn y cofebion, yr amseroedd tawel pan fyddem yn ymweld er cof am benblwydd rhywun a'r dagrau pan fyddem yn ychwanegu rhuban arall pan fyddem yn colli rhywun. Ffurfiodd y cerddodd Jordan Price Williams bartneriaeth â Chorws Dynion Hoyw De Cymru (SWGMC), sydd wedi ennill sawl gwobr, ac yn dilyn gweithdai ar y cyd, cafodd 'This Tree, This Man' ei gyfansoddi a’i recordio. Roedd coed wrth galon y gwaith hwn ar y cyd sy’n cysylltu'r coed ar Gae Cooper a amgylchynodd ein dathliadau Mardi Gras sy’n annwyl i ni gyda Choeden Goffa AIDS y Rhuban Coch yng Ngerddi’r Orsedd. Nid oedd rhai’n gwybod am ei bodolaeth, ei harwyddocâd, ei hing na'i hanes. I aelodau SWGMC, roedd y cydweithrediad yn oleuedig, yn emosiynol ac yn addysgiadol. Roedd rhai’n cofio effaith colli ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau o'r gymuned yn yr 1980au a'r 90au. Roedd eraill yn cydnabod y cyferbyniad llwyr a phenderfyniad llywodraethau'r DU i daflu popeth posibl at ymladd COVID-19 pan nad oedd llawer wedi'i anelu at ymladd AIDS. Meddai Jordan: “Fel dyn iau sy’n byw mewn oes fwy goddefgar, rwyf yn mwynhau hawliau a rhyddid cyfreithiol nad oedd yno yn y saithdegau a’r wythdegau. Dim ond drwy siarad â rhai o aelodau hŷn y corws rwyf wedi meithrin mwy LGBTQYMRU

57


o ddealltwriaeth o faint roedden nhw wedi ei ddioddef a'r unigedd a deimlodd y dynion hyn.” “O ran Coeden Goffa AIDS y Rhuban Coch, yr hyn a’m trawodd i fwyaf, fel dyn hoyw yn 2021, oedd nad oeddwn erioed wedi meddwl llawer amdani. Nid yw llawer o fy nghenhedlaeth i hyd yn oed yn ymwybodol o'i bodolaeth, heb sôn am ei harwyddocâd enfawr. “Dyna pam roeddwn i eisiau iddi fod yn ganolog i’r gân. Mae’r syniad y gall pobl gerdded heibio i’r goeden honno a pheidio â gwybod faint y mae'n ei olygu i gynifer o bobl yn y gymuned yn fesur o sut y mae cymdeithas wedi newid. Rhaid i ni fyth anghofio’r rhesymau pam mae’r goeden hon, y gofeb hon, yno.” Ar Ddiwrnod AIDS y Byd ar ganol a diwedd y 1990au, byddai lleoedd fel Prifysgol Caerdydd, neu leoliadau dinesig eraill, yn croesawu cannoedd o bobl i glywed enwau'r rhai a gollwyd yn cael eu hadrodd, i wrando ar farddoniaeth, datganiadau neu straeon personol ac i gael eu hysbryd wedi’i godi gan gorau yn canu. Byddai pobl yn cerdded mewn distawrwydd at y goeden lle byddai rhubanau’n cael eu hongian i anrhydeddu'r rhai a gollwyd yn sgil HIV ac AIDS. Diflannodd yr wylnos yn y 90au ond bu grŵp o weithredwyr LGBTQ yng Nghaerdydd yn ceisio adfywio'r wylnos flynyddol, ac yn LGBTQymru, rydym ni wrth ein boddau eu bod nhw’n gwneud 58

LGBTQYMRU

O ran Coeden Goffa AIDS y Rhuban Coch, yr hyn a’m trawodd i fwyaf, fel dyn hoyw yn 2021, oedd nad oeddwn erioed wedi meddwl llawer amdani. Nid yw llawer o fy nghenhedlaeth i hyd yn oed yn ymwybodol o'i bodolaeth, heb sôn am ei harwyddocâd enfawr. hynny. Llwyddodd grŵp bach i gynnal gwylnos gan gadw pellter cymdeithasol yn 2020 er gwaethaf y pandemig. Mae Rob Keetch, sef Dr Bev Ballcrusher (ganwyd Dr Bev mewn digwyddiad codi arian ar gyfer Cardiff Body Positive!), sy’n llysgennad cymunedol ac yn ymgyrchydd LGBTQ, yn siarad yn angerddol am ailddechrau’r wylnos: “Mae arnaf fi ddyled fawr i Cardiff Body Positive: am y cyfeillgarwch â phobl sydd wedi para dros 25 mlynedd, yr addysg am AIDS a HIV ac am yr yrfa


ddrag sy'n cwmpasu bron i 30 mlynedd. Fe ddes i’n ymwybodol o'r gwaith yr oedd Body Positive yn ei wneud pan gafodd fy ffrind ddiagnosis o HIV+ yn y 90au. Gwelais lawer o stigma a chasineb ac roeddwn eisiau helpu i'w atal. Felly fe ddes i’n wirfoddolwr, ac ymunais yn fuan ar ôl i’r goeden goffa gael ei phlannu. “Rwy’n cofio pa mor bwysig oedd y goeden honno i’n haelodau, i’w partneriaid, ffrindiau, teulu ac i ni fel tîm. Yr harddwch yn y cofebion, yr amseroedd tawel pan fyddem yn ymweld er cof am ben-blwydd rhywun a'r dagrau pan fyddem yn ychwanegu rhuban arall pan fyddem yn colli rhywun. Roedd yr orymdaith yng ngolau canwyllau a’r wylnos ar Ddiwrnod Aids y Byd bob amser yn emosiynol - yna diflannodd Body Positive a Llinell Gymorth Aids Caerdydd ac ymddangosodd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru. Er fy mod yn gwybod bod yr ymddiriedolaeth yn cynnal gwylnosau rheolaidd ger y goeden, roedd y gefnogaeth fawr gan y gymuned wedi pylu. “Y llynedd, yn ystod y cyfnod clo, cefais fy nhynnu at y goeden un diwrnod. Roeddwn yn flin gyda fy hun am ei hanghofio, a'r rhai y cafodd ei phlannu i'w coffáu. Rhoddais neges ar Facebook a sgwrsiais ag ychydig o bobl, gan gynnwys y rheini o'r tîm gwreiddiol, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru, Fast Track Cities a'r Cyngor, a phenderfynais y dylem ailgynnal yr wylnos ar 1 Rhagfyr. Roedd y digwyddiad y llynedd yn un tawel a chyfyngedig oherwydd y rheolau ymbellhau cymdeithasol. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn

cynllunio gwylnos eleni ac yn siarad â sefydliadau gan gynnwys Cymru Ddiogelach, Glitter Cymru, Fast Track Cities a Pride Cymru, ymhlith eraill, i weld sut y gallant ddangos cefnogaeth hefyd fel ei bod yn dychwelyd i'w statws uchel ei pharch blaenorol. Byddwn yn gallu coffáu'r rhai rydym ni wedi'u colli, diolch i'r rhai sy'n gweithio'n galed i addysgu a dileu’r feirws, a dathlu'r rhai sy'n byw gydag ef." Gwyddom fod aelodau SWGMC wedi ymrwymo i fod yn rhan o’r wylnos wedi’i hatgyfodi, fel y mae LGBTQymru, ond rydym yn diolch yn arbennig i’r prif ymgyrchydd, sef Rob Keetch, am ei ymroddiad i adnewyddu amlygrwydd yr wylnos. Gobeithiwn y bydd mwy o bobl yn ymrwymo iddi ac y bydd y dyddiad pwysig hwn yng nghalendr ein cymuned yn cael y parch y mae'n ei haeddu. Bydd yr wylnos yn cael ei chynnal ar 01 Rhagfyr, Prifysgol Caerdydd, 8:15pm. Gellir gweld 'This Tree, This Man' ar YouTube yma: https://www.youtube.com/watch?v=QbazLIXjJLA Gellir lawrlwytho’r cydweithrediadau 'Unlocked' rhwng y 5 cerddor a’r 10 grŵp cymunedol a gymerodd ran am ddim drwy’r dolenni ar dudalen Live Music Now ar y we yma: https://www.livemusicnow.org.uk/lmn-news/title/ Unlocking-Welsh-Heritage-with-Live-Music-Now / item / 69913 LGBTQYMRU

59


Y Gêm Brydferth Am dros ddegawd, mae tîm pêl-droed LGBT+ cyntaf Cymru, Dreigiau Caerdydd, wedi paratoi'r ffordd ar gyfer chwaraeon cynhwysol. gan Evie Barker

60

LGBTQYMRU


Am dros ddegawd, mae tîm pêl-droed LGBT+ cyntaf Cymru, Dreigiau Caerdydd, wedi paratoi'r ffordd ar gyfer chwaraeon cynhwysol. Cafodd rheolwr y tîm menywod a phobl anneuaidd, Ryan McGavock, ei wobrwyo â lle ar y rhestr Binc ar gyfer 2021. Fe wnaethon ni eistedd i lawr gydag ef i ddarganfod mwy am y tîm a’r effaith y mae wedi'i chael ar bêl-droed Cymru. Ffurfiwyd Dreigiau Caerdydd yn 2008 gan aelodau o'r Rhwydwaith Cefnogwyr Pêldroed Hoyw. Mae'r Rhwydwaith wedi cynnal twrnameintiau ledled y DU ers dechrau'r 2000au ac mae’n cynnig llwyfan cynhwysol unigryw ar gyfer chwaraeon tîm. Yn wahanol i gynghreiriau amatur eraill, mae'r rhwydwaith yn croesawu timau o bob rhywedd. Mae’r symud i ffwrdd hwn o’r rhywiau deuaidd yn gwneud pêl-droed yn fwy hygyrch ac yn atyniadol i unigolion LGBT+. Dywed Ryan fod cynnwys pobl draws yn un o brif flaenoriaethau’r tîm. Yn aml, mae'n rhaid i chwaraewyr traws gael profion hormonau trwyadl i gystadlu. Mae’r Dreigiau’n cynnig amgylchedd cynnes lle y gall chwaraewyr ailddarganfod eu cariad at bêl-droed heb deimlo eu bod yn cael eu gosod ar wahân. Dywedodd cyn-aelod, Hannah Graf, y person traws a fu yn y safle uchaf o fewn

lluoedd arfog Prydain, fod ei hobïau chwaraeon wedi dioddef o ganlyniad i'w phroses o drawsnewid. Ar ôl ofni camdriniaeth a honiadau o fantais annheg, daeth Hannah o hyd i Ddreigiau Caerdydd. "Fe ddes i allan fel person trawsryweddol ac er bod fy ffrindiau, fy nheulu a fy nghydweithwyr i gyd wedi bod yn gefnogol, roedd fy hobïau chwaraeon yn dioddef. Roeddwn i'n meddwl na allwn i gystadlu mewn tîm menywod, ac roeddwn yn ofni camdriniaeth a gwawdio am beidio â ffitio i mewn a phobl yn honni bod gen i fantais annheg. Doeddwn i ddim yn gallu chwarae i dîm gwrywaidd chwaith oherwydd fy mod i bellach yn fenyw yn gyfreithiol. Tair blynedd yn ddiweddarach, mae pethau wedi newid. Cafodd fy llygaid eu hagor i fyd newydd o chwaraeon cynhwysol. Cefais fy nghroesawu gan y Dreigiau Caerdydd gwych. Roeddwn yn nerfus ynghylch sut y byddai pobl yn fy nhrin i, ond y cyfan roedden nhw wir yn poeni amdano oedd fy mod i’n marcio'r gwrthwynebwyr a bod fy ergydion i’n cyrraedd y targed. Roedd chwarae fel yna, heb ddefnyddio unrhyw labeli, yn wirioneddol ryddhaol.”

LGBTQYMRU

61


Cafodd fy llygaid eu hagor i fyd newydd o chwaraeon cynhwysol. Cefais fy nghroesawu gan y Dreigiau Caerdydd gwych. Roeddwn yn nerfus ynghylch sut y byddai pobl yn fy nhrin i, ond y cyfan roedden nhw wir yn poeni amdano oedd fy mod i’n marcio'r gwrthwynebwyr a bod fy ergydion i’n cyrraedd y targed. Roedd chwarae fel yna, heb ddefnyddio unrhyw labeli, yn wirioneddol ryddhaol.

Mae cynnwys cynghreiriaid yn bwysig i Ryan ac mae’r tîm yn chwarae mewn cynghreiriau mwy lleol gyda thimau nad ydynt yn LGBT+ ac yn mwynhau’r profiad o beidio â gorfod teithio ledled y DU bob tro maen nhw eisiau gêm.

i ryw normalrwydd ar yr ochr gymdeithasol. Gall cyd-chwaraewyr obeithio ennill gwobrau fel 'Chwaraewr y Tymor' a byddant yn cael eu gwobrwyo â thlysau 3D wedi'u hargraffu gan gyn-aelod o'r clwb.

Mae effaith y Dreigiau wedi ymestyn y tu hwnt i'r DU gyda’u tîm menywod a phobl anneuaidd yn cynrychioli’r clwb yn y Tournoi International de Paris. Fel eu hyfforddwr a’u rheolwr, roedd Ryan yn falch o weld perfformiad y tîm yn y twrnamaint LGBT+ a'u dyfarniad o dlws am fod y tîm mwyaf hwyliog. Mae’n amlwg bod yr anrhydedd yn haeddiannol iawn gan fod y clwb yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd ac yn ymfalchïo yn ei awyrgylch cymunedol.

Does ryfedd fod chwaraewyr sydd wedi symud ymlaen o'r clwb yn dal i fod â chysylltiad cryf â Dreigiau Caerdydd. Efallai mai'r stori fwyaf teimladwy o'n sgwrs â Ryan yw rhodd y clwb i Hoops and Loops. Roedd cyn-chwaraewr y Dreigiau yn geisiwr lloches a gefnogwyd gan yr elusen. Ochr yn ochr â'u rhoddion, mynychodd y tîm yr achos llys i gefnogi'r chwaraewr a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu bod yn rhan o'r clwb heb y ffioedd arferol. Er bod Dreigiau Caerdydd yn codi tâl am aelodaeth, maent bob amser yn sicrhau bod y rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu ffioedd yn mynychu am ddim. Mae'r clwb bob amser yn chwilio am aelodau newydd o bob gallu.

Yn anffodus, cafodd yr ochr hon o'r clwb ei gohirio oherwydd y cyfyngiadau Covid. Diolch i grant cymorth covid Cymru, bu’r tîm yn hyfforddi mewn swigod drwy gydol y cyfnod clo gyda chymorth eu hoffer ychwanegol newydd. Mae’r dreigiau bellach yn ôl yn hyfforddi’n llawn a bydd eu noson wobrwyo sydd ar ddod yn golygu dychwelyd 62

LGBTQYMRU

Yn fwyaf diweddar, bu'r tîm yn rhan o sefydlu’r Wal Enfys, grŵp cefnogwyr LGBT+ Cymru y


gallwch ddarllen mwy amdano yn y rhifyn hwn. Eu prosiect nesaf yw sefydlu grŵp Adar Gleision Balch, yn debyg iawn i’r Wal Enfys ond yn benodol ar gyfer cefnogwyr Caerdydd. Er ei fod yn ei gamau cynnar, mae'r Adar Gleision Balch yn ennill dilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae'r rhwydwaith eisoes wedi esgor ar lawer o weithredoedd o garedigrwydd. Soniodd Ryan am gynigion gan gefnogwyr Caerdydd i hebrwng Adar Gleision queer mewn gemau, gan brofi eu bod yn cael eu croesawu gan lawer er gwaethaf profiadau posib o homoffobia mewn gemau yn y gorffennol. Fel y gwelsom, mae Dreigiau Caerdydd yn ymestyn eu heffaith ymhell y tu hwnt i'r cae. Maent yn rhoi cyfle i chwaraewyr sydd o'r blaen wedi teimlo eu bod yn cael eu gwrthod i garu'r gêm eto, yn ogystal â chryfhau lleisiau cefnogwyr pêl-droed LGBT+ ledled Cymru. Ac mae hyn oll yn digwydd ar yr un pryd â’i fod yn dîm mwyaf hwyliog y Tournoi International de Paris yn swyddogol. Gôl!

Ochr yn ochr â'u rhoddion, mynychodd y tîm yr achos llys i gefnogi'r chwaraewr a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu bod yn rhan o'r clwb heb y ffioedd arferol

LGBTQYMRU

63


Perfect You want me to be poised, polished, and perfect. You want straight A*’s. You want me to go to Oxford to read Law And Medicine. You want me to have a perfect job Where I put on a perfect suit And a perfect smile As my boss asks me to make him coffee. You envision me in a perfect family Married to a perfect man Devoting my life to perfect kids. I’m not poised, polished, or perfect Not with only 2 A*’s. I never got into Oxford Double majoring in Medicine and Law. I waste my youth and talents On a dead-end minimum waged job That just about puts up with my perfectly campy clothes And perfectly cocky attitude As my boss asks me to smile. I probably won’t marry, Probably not to a man, Let alone a perfect one, A perfect parent to our perfect children. I’m not poised, polished, or perfect. I can’t hide who I am, Not with my brightly dyed hair, My nose pierced, And my jeans cuffed. I can’t hide who I am To the girls and boys that I have kissed, The girls and boys to whom I am poised, polished, and perfect. Penny

64

LGBTQYMRU


Hedfan y faner dros amrywiaeth Rhoi gwerth ar gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth yn ein gweithle Fel practis cyfraith 10 uchaf byd-eang, mae Eversheds Sutherland yn darparu gwasanaethau cyfreithiol i gleientiaid rhyngwladol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn y cwmni yn cael eu trin yn deg ac yn gyfiawn ac rydym yn ysgogi pawb i fod eu gwir hunain yn y gweithle. Rydym yn anelu at greu amgylchedd sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth ein cleientiaid, ein cymuned a’n pobl. Mae’r achos dros amrywiaeth a chynhwysiant yn glir; mae’n ategu ein gwerthoedd ac mae wrth galon ein strategaeth. Rydym yn cydnabod bod cael talent amrywiol ar draws ein busnes yn dod â llawer o fuddion, ac rydym wedi ymrwymo i gyrchu ystod eang o safbwyntiau a meddwl ym mhopeth rydym yn ei wneud. Mae gennym rwydwaith LHDT+, Perspective, a gafodd ei lansio dros ddeng mlynedd yn ôl. Rydym yn safle 35 ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall UK ac rydym yn Bencampwr Amrywiaeth Stonewall. Rydym yn darparu ystod lawn o wasanaethau cyfreithiol ond nid cyfreithwyr yn unig sy’n gweithio i ni! Mae gennym swyddi ar draws nifer o feysydd gan gynnwys cyfreithiol, cyllid, marchnata, cyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth, Adnoddau Dynol, Rhagoriaeth Gwasanaeth, risg, gwasanaethau a chyfleusterau cymorth. I ddysgu mwy am ein cwmni ewch i’n gwefan eversheds-sutherland.com.

eversheds-sutherland.com © Eversheds Sutherland 2021. All rights reserved.

LGBTQYMRU

65


Gwasanaethau cymorth Cymraeg i bobl LHDT Llinell Gymorth LGBT Cymru Llinell gymorth a gwasanaeth cwnsela LGBT+ line@lgbtcymru.org.uk

Y Samariaid Cefnogaeth i unrhyw un www.samaritans.org/cymru/samaritans-cymru/ 116 123

Umbrella Cymru Arbenigwyr Cymorth ar Rywedd ac Amrywiaeth Rhywiol info@umbrellacymru.co.uk 0300 3023670

Ceisiwyr Lloches LGBT Cymorth ac arweiniad i geiswyr lloches LGBT+ Wedi'i leoli yn Abertawe 01792 520111

Kaleidoscope Gwasanaethau cymorth alcohol a chyffuriau 0633 811950

Stonewall Cymru Gwybodaeth a chanllawiau LGBT+ 0800 0502020

Fflag Gwasanaethau cymorth i rieni a'u plant LGBTQ+ 0845 652 0311

Cymorth i Ddioddefwyr Cymorth ynghylch troseddau casineb a sut i’w cofnodi 0300 3031 982

New pathways Cymorth ar argyfwng trais a cham-drin rhywiol enquiries@newpathways.org.uk Switsfwrdd LGBT+ Switchboard.lgbt 0300 330 0630 Glitter Cymru Grŵp Cymdeithasol LGBT+ BAME - Wedi'i leoli yng Nghaerdydd glittercymru@gmail.com Mind Cymru Gwybodaeth a gwasanaethau cymorth ar iechyd meddwl info@mind.org.uk 0300 123 3393

66

LGBTQYMRU

Wipeout Transphobia Gwybodaeth a chymorth i Bobl sydd â Rhywedd Amrywiol 0844 245 2317 Bi Cymru Rhwydwaith ar gyfer pobl ddeurywiol a phobl sy’n cael eu denu at fwy nag un rhywedd bicymru@yahoo.co.uk Galop Llinell a gwasanaeth cymorth cam-drin domestig LGBT+ help@galop.org.uk Galop.org.uk 0800 999 5428


Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru Gwybodaeth a chymorth ynghylch HIV ac iechyd rhywiol 0808 802 1221

Prosiect LGBTA+ Sir Gaerfyrddin Prosiect a sefydlwyd i hyrwyddo'r gymuned LGBTQ+ yn Sir Gaerfyrddin. carmslgbtqplus.org.uk

Head above the waves Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch iselder a hunan-niwed ymysg bobl ifanc Hatw.co.uk

Rainbow Biz Mae'r fenter gymdeithasol hon yn annog cynhwysiant ac yn dathlu gwahaniaethau yn Sir y Fflint. www.rainbowbiz.org.uk/

UNIQUE Grŵp gwirfoddol sy'n cefnogi pobl Draws* (trawsrywiol) yng Ngogledd Cymru a Gorllewin Sir Gaer. Elen Heart - 01745 337144 Cymorth i Ferched Cymru Os ydych chi neu ffrind yn profi trais/camdrin domestig a hoffech chi gael rhagor o wybodaeth. 02920 541 551 Dyn Project Mae’n darparu cyngor a chymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy'n profi trais/cam-drin domestig. www.dynwales.org/ Trawsrywiol Cymru Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cefnogi pobl ifanc traws* i ddeall eu hawliau ac i gefnogi gweithrediadau ar gyfer pobl ifanc i fynd i'r afael â gwahaniaethu. youthcymru.org.uk/cy/transform-cymru-2/ Rustic Rainbow Grŵp anffurfiol ar gyfer pobl LGB&T sy'n caru harddwch naturiol Gogledd Cymru. www.facebook.com/groups/443148552374541/ Clwb Ieuenctid LGBT+ Mae'r Clwb Ieuenctid LGBT+ yn gyfle i bobl ifanc 15-21 oed fwynhau eu hunain, cael hwyl, cwrdd â ffrindiau a bod yn nhw eu hunain yng Nghaernarfon. LGBT@gisda.co.uk

Shelter Cymru Cyngor arbenigol, annibynnol, am ddim ar dai sheltercymru.org.uk/cy/lgbt-aware/

Llamau Cymorth a gwybodaeth ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc www.llamau.org.uk/our-vision-and-mission Grŵp Ieuenctid LGBTQ+ Casnewydd Grŵp newydd ar gyfer pobl ifanc LGBTQ+ (11-25 oed) sy'n byw yng Nghasnewydd. www.facebook.com/NewportLGBTQYouth/ The Gathering - Cardiff Elusen gofrestredig gyda bwrdd ymddiriedolwyr, ac mae ganddi 5 pastai gwirfoddol sy'n rhoi cymorth penodol i Gristnogion LGBTQ+. www.thegatheringcardiff.org mail@thegatheringcardiff.org PAPYRUS Atal Hunanladdiad Ifanc. Ydych chi'n berson ifanc sy'n cael trafferth gyda bywyd neu efallai eich bod yn poeni am berson ifanc a allai fod yn meddwl am hunanladdiad? I gael cymorth a chyngor ymarferol, cyfrinachol, cysylltwch â PAPYRUS HOPELINEUK ar 0800 068 4141, 07860 039967 neu e-bostiwch pat@ papyrus-uk.org

LGBTQYMRU

67