RHIFYN 1 MAWRTH 2021
I'R GYMUNED GAN Y GYMUNED
RYDYN NI WEDI BOD AR SIWRNAI ANHYGOEL DROS Y 10 MIS DIWETHAF! Mewn ymateb i weld dathliadau Pride lleol yn cael eu gohirio ledled Cymru oherwydd y pandemig presennol, gwnaethom ffurfio Pwyllgor bach ac - mewn tri mis byr yn unig - gwnaethom gynnal y Pride Rhithiol cyntaf erioed ledled Cymru, digwyddiad dros benwythnos gyda channoedd o gyfranogwyr, 20 awr o gynnwys, 7 trafodaeth banel a brociodd y meddwl, a llawer mwy! Ni allai’r ymateb a’r cyfraniadau gan y cymunedau LGBTQ+ ledled Cymru a’n cynghreiriaid fod wedi bod yn fwy brwd, a gwelsom dros 30,000 o wylwyr yn tiwnio i mewn i ddathlu, cefnogi, a theimlo wedi’u cysylltu â’i gilydd yn ystod cyfnod lle efallai nad oeddem erioed wedi teimlo yn fwy ar wahân. Fe ddywedoch chi wrthym eich bod chi eisiau mwy, ac roedden ni eisiau ei ddarparu! Un Golygydd, Bwrdd Golygyddol, pedwar Golygydd Cymunedol, a 12 Gohebydd Cymunedol yn ddiweddarach, rwy'n falch o'ch cyflwyno i'r cam nesaf yn nhaith LGBTQYMRU: y cylchgrawn ar-lein cyntaf rhad ac am ddim, Cymru gyfan, dwyieithog sy’n gyfan gwbl ar gyfer cymunedau LGBTQ+ Cymru a’r rheini sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae'r hyn a ddechreuodd fel estyniad o'r ffordd roeddem ni’n gallu cysylltu, dathlu a chefnogi cymunedau LGBTQ+ Cymru yn ystod y cyfnod clo Covid-19 cychwynnol wedi blodeuo o'n blaenau i fod yn rhywbeth mwy a mwy ystyrlon nag yr oeddem erioed wedi'i ddychmygu: mae wedi dod yn ofod lle gallwn ni hawlio a dathlu ein hunaniaeth, ein profiadau ar y cyd fel unigolion queer, a lle gallwn barhau i gymryd cyfrifoldeb dros ein gilydd fel brodyr a chwiorydd yn y byd hwn. I bawb a fu’n rhan o gefnogi ein gweledigaeth, ni allaf ddiolch digon i chi. Fel sefydliad sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, mae LGBTQYMRU yn ganlyniad i waith caled ac angerdd unigolion sydd ag angerdd a rennir dros hyrwyddo hunaniaethau, straeon a phrofiadau ein cymunedau yng Nghymru. Rydych chi i gyd yn wirioneddol ragorol ac ni allaf aros i weld beth y byddwn yn parhau i'w wneud gyda'n gilydd yn y dyfodol. Roeddwn hefyd eisiau bachu ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rhai a roddodd eu hamser mor barod i ddarparu cynnwys ar gyfer ein rhifyn cyntaf. Mae dod i adnabod eich straeon a gweld eich wynebau, y mae pob un ohonynt wedi dod â'n gweledigaeth yn fyw, wedi bod yn fraint lwyr. Bydd eich cyfraniadau, am byth, yn rhan o'r cam cyntaf yn ein taith i sicrhau bod pobl LGBTQ+ yng Nghymru a'r byd ehangach yn gallu gweld eu hunain yn cael eu dathlu mewn hanes, mewn hapusrwydd, ac yn yr holl ffyrdd rydyn ni'n aml yn teimlo sydd y tu hwnt i'n cyrraedd. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a ddarperir gan Gronfa Covid-19 LGBTQ+ elusen METRO a'i phartneriaid, a ariennir gan Comic Relief. Mae'n amlwg bod dyfodol LGBTQYMRU yn edrych yn hynod o gyffrous. Pan fyddaf yn meddwl am yr hyn y mae LGBTQYMRU yn ei olygu i mi yn bersonol, daw’r gair Hiraeth i'r meddwl. Nid yw'n gyfrinach bod pobl queer yn profi ac yn llywio'r byd hwn mewn ffordd wahanol i'r rhai sydd agosaf atom ni yn aml, ac mae LGBTQYMRU wedi dod yn ofod lle rwyf wedi dod o hyd i ddarn o'r byd hwnnw y cefais fy magu yn hiraethu amdano: man lle gallaf fodoli fel yr wyf i, gydag eraill yn union fel y fi, yn ein geiriau ein hunain ac ar ein telerau ein hunain. Rwy'n gobeithio y gall LGBTQYMRU fod yn lle fel yna i chi hefyd.
— BLEDDYN LGBTQYMRU
3
Prif Olygydd Bleddyn Harris Golygyddion Cymunedol Craig Stephenson OBE
Owen Hurcum
Karen Harvey-Cooke
Andrew White
Gohebwyr Cymunedol
Aelodau Cyswllt
Jordan Howell
Thania Acarón
Rosie Webber
Hannah Isted
Hia Alhashemi
Sue Vincent-Jones
Fen Shields Carol Dierzuk Matthew Skinner Matthew Tordoff Danielle Herbert Imogen Coombs Emily Usher Evie Barker Charles Stylianou
Cyfryngau Cymdeithasol ac Ymgysylltu Diamond Chimdi Imogen Coombs Emily Usher Brandio a Dylunio Tom Collins Cyfieithiadau Ffion Emyr Bourton
Ni ddylid ystyried cyfeiriad at unrhyw berson o fewn erthyglau neu hysbysebion LGBTQYMRU, neu ar unrhyw rai o’i lwyfannau cymdeithasol, neu eu hymddangosiad neu bortread ohonynt, fel unrhyw arwydd o gyfeiriadedd rhywiol, cymdeithasol neu wleidyddol unigolion neu sefydliadau o'r fath.
4
LGBTQYMRU
CYNNWYS 6 8 9 14 16 22 24
G(end)er Swap Yn Agos a Phersonol Cadw'r Ffydd Bywyd Personol a Gwaith Ddeddf Cydnabod Rhywedd Neidio Drwy Gylchoedd Y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaeth
26 28 34 36 38 40 43 46
Gays Who Wine Dragged to Church Prifysgol Abertawe Er Cof am Jan Morris Aberration Yr Hyrwyddwr Cymunedol Rustic Rainbow Hel Atgofion
48 50 58 60 63
#Falchichwarae Talk with Andy Sero Erbyn 2030 Gwaharddiad Gwaed Talk to Coco
67 69 72 74 76 80 78 82 84
Beth sydd yn eich cwpwrdd dillad chi? Sain Ffagan A Little Gay History of Wales Byddai bywyd yn fflat iawn herb gôr Calon gelf y gymuned Pride - Adolygiad Ffilm Datblygiad Pride yng Nghymru It's a Sin Gwasanaethau cymorth LGBTQYMRU
5
G (E N D) E R S WA P SANTI SORENTI
Ydych chi'n unigolyn traws neu’n berson nad yw’n cydymffurfio â’r rhyweddau sydd angen dillad, adnoddau cysylltiedig neu eitemau trosiannol? Does dim rhaid ichi edrych yn ddim pellach. Gan Carol Dierzuk
Gwnaethom ofyn i'n Gohebydd Cymunedol, Carol Dierzuk, drafod y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan G(end)er Swap gyda'i sylfaenydd, Santi Sorrenti. Beth ydych chi’n ei gynnig? Mae G(end)er Swap yn fenter allgymorth ddillad yn y DU sy'n darparu rhwymynnau, dillad ac adnoddau cysylltiedig i bobl draws. Maen nhw hefyd yn cynnal gweithdai colur, sesiynau cyfnewid dillad, a phob dim i’w wneud â ffasiwn i bobl draws. 6
LGBTQYMRU
Beth yw tarddiad G(end)er Swap? Rydw i bob amser wedi defnyddio fy nillad fel ffordd o archwilio ffyrdd o fynegi rhywedd a hunaniaeth. Roeddwn i wedi sylwi nad oedd sefydliad yn bodoli lle'r oedd pobl queer a thraws yn gallu dod o hyd i ddillad a man lle gallen nhw arbrofi gyda’u hymddangosiad. Mae mynd i siopau yn gallu bod yn brofiad eithaf anghyfforddus, gan nad yw'r rhan fwyaf o staff gwasanaethau cwsmeriaid yn deall ffasiwn mewn perthynas â chyrff queer neu draws. Ro’n i'n
“I Roeddwn i wedi sylwi nad oedd sefydliad yn bodoli lle'r oedd pobl queer a thraws yn gallu dod o hyd i ddillad a man lle gallen nhw arbrofi gyda’u hymddangosiad.”
meddwl y byddai'n syniad da creu lle diogel i bobl queer a thraws lle maen nhw’n gallu mynegi eu hunain drwy ffasiwn. Oherwydd y pandemig, pa mor anodd ydi hi i berson gael rhwymyn? Mae'r galw am rwymynnau yn bendant wedi cynyddu ledled y DU. Mae pobl yn gallu cofrestru gan ddefnyddio ffurflen Google ar ein tudalen ni. Does dim gwybodaeth o unrhyw fath ar y deunydd pacio a gallwn ni anfon y rhwymyn i gyfeiriad gwahanol os oes angen. Dim ond y costau postio y mae angen ichi dalu amdanyn nhw, a gallwch chi ofyn iddo gael ei ddanfon i unrhyw leoliad. Ond, mae’r galw yn uchel ac mae’r rhestr aros yn hir, felly cadwch hynny mewn cof. Rydych chi'n gweithio mewn partneriaeth gydag M.A.C Cosmetics ar gyfer eich dosbarthiadau tiwtorial colur a'ch gweithdai ar-lein. A fydd pobl yn gallu disgwyl gweithdai wyneb yn wyneb yn y dyfodol gyda gwahanol gwmnïau?
Unrhyw obeithion mawr ar gyfer y dyfodol? Rwy’n gobeithio y gallwn ni ehangu ledled y byd, ac nid dim ond ledled y DU. Rydym ni am weithio gyda chwmnïau prif ffrwd i'w haddysgu a newid y ffyrdd y maen nhw’n cefnogi pobl nad ydyn nhw’n cydymffurfio â’r rhyweddau. Y nod mwyaf yw dod â phobl at ei gilydd o fewn cymuned gydfuddiannol sy'n parhau. Ydy pobl yn gallu gwirfoddoli i weithio gyda chi? Ydyn! Mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen ar ein tudalen genderswap.org. Gall unrhyw un o bob cwr o'r byd wirfoddoli. Ble y mae’n bosibl dod o hyd i chi ar-lein? Gallwch chi ddod o hyd i ni ar Instagram @ genderswap_, ac ar ein gwefan ni lle gallwch chi ddysgu am ddigwyddiadau sydd ar y gweill. Hefyd, mae tudalen Facebook lle gallwch chi gyfnewid dillad gyda phobl eraill a gwneud ffrindiau!
Yn 2021, rydym ni’n bwriadu cynnal gweithdai gyda phartneriaid – a fydd yn sôn mwy am addasu a newid dillad. Rydym ni’n gobeithio y bydd pobl yn gallu dod o hyd i'w steil eu hunain ar gyllideb.
LGBTQYMRU
7
Delwedd: Joel Ryder Media
YN AGOS A PHERSONOL GYDA CONNIE ORFF Gan Matthew Skinner 8
LGBTQYMRU
Yn sgil sioeau poblogaidd fel Drag Race RuPaul a Dragula The Boulet Brothers, mae Drag yn fwy perthnasol a phrif ffrwd nag erioed. Felly, gwnaethom ofyn i'n Gohebydd Cymunedol, Matt Skinner, i ddod yn agos a phersonol gyda’r perfformiwr drag dwyieithog 'Connie Orff' a'i chrëwr, Alun Saunders, sy’n gynhyrchydd, yn awdur ac yn ddyn teulu. LLE CYCHWYNNODD POPETH Gyda’i hoffter am ei hoff berfformiwr drag, 'Lady Ding' o Dde Cymru, a fu farw yn anffodus yn 2003, dywedodd Alun “Rwy'n cofio cymaint ro’n i'n arfer ei mwynhau hi - yr effaith yr oedd hi’n ei gael ar bobl” Cafodd Alun ei ysbrydoli i ysgrifennu am ddrag, ac aeth ar y cwrs 10 wythnos 'Art of Drag' yn nhafarn y Royal Vauxhall yn Llundain. Nid oedd perfformio yn y sioe arddangos yn apelio i ddechrau gan mai gwaith ymchwil oedd y ffocws, ond gan gymryd anadl ddofn a meithrin agwedd gadarnhaol, perfformiodd mewn drag am y tro cyntaf. Yn fuan iawn wedi hynny, crëwyd Connie Orff. Mae Alun yn esbonio bod ymadrodd Cymraeg cyffredin y mae'n ei ddefnyddio’n aml, sef 'Co ni off', wedi datblygu i fod yn 'Connie Orff', ei alter ego, yn gyflym.
Delwedd: Claire Ford Photography
Does dim ots gan Alun na fydd pawb yn deall y chwarae ar eiriau Cymraeg, ond mae'n dweud (ac mae wrth ei fodd) ei fod yn fonws i siaradwyr Cymraeg. Rhan o berfformiad Connie yw defnyddio cyfieithiadau crap (ei geiriau hi, nid ein rhai ni) o ganeuon Saesneg i'r Gymraeg er enghraifft, 'Ffôn' Lady Gaga a 'Vogue' Madonna. Mae Connie’n adnabyddus am ei hiwmor ysgafn, ac mae’n aml yn dweud wrth ei chynulleidfa “heno, rydyn ni'n mynd i chwerthin amdanon ni ein hunain”. Ond fydd hi chwaith ddim yn cilio oddi wrth gynnwys risqué neu heriol. Onid dyna beth
LGBTQYMRU
9
rydyn ni'n ei garu am ein breninesau - sut maen nhw'n gwneud i ni rolio chwerthin heb fod yn wahaniaethol? Mae Alun yn dweud wrthym ni fod S4C yn datblygu cynnwys digidol ar-lein sy'n fwy arbrofol. Yn wir, gan fod perfformiadau byw wedi’u cyfyngu oherwydd Covid-19, rydyn ni’n falch iawn o glywed am rai o'r prosiectau eraill, sy'n cynnwys Connie ac Alun, sydd ar y gweill. Yn ôl y sôn, tra bo Alun yn cydysgrifennu caneuon ar gyfer gwefan gomedi S4C, mae gan Connie ei phrosiect teledu ei hun sydd yn yr arfaeth (sy’n ychydig o gyfrinach ar hyn o bryd, serch hynny). Yn ystod y pandemig, rydyn ni wedi bod wrth ein boddau yn gweld Connie yn perfformio ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn digwyddiadau arlein. Er hynny, mae'n well o lawer ganddi’r cysylltiad â chynulleidfa fyw. “Rhaid i Connie fod fel Han Solo, yn Star Wars”, mae Alun yn jocian. “Mae hi mewn carbonite ac wedi ei rhewi mewn amser nes i mi ei thynnu hi allan o'r cwpwrdd dillad”. Y DYN TEULU Yn ystod y cyfnod clo, meddyliodd Alun “Dwi’n mynd i gael amser i ysgrifennu llawer o ddramâu o'r diwedd! Ond, pffft, dydy hynny ddim wedi digwydd” gan mai ei ffocws fu bod yn athro gartref ac yn dad.
Delwedd: Joel Ryder Media
10
LGBTQYMRU
Mae gan Alun a'i ŵr, Kris, ddau o blant sy’n 9 a 12 oed, y mae’r ddau ohonyn nhw wedi'u mabwysiadu. Mae Alun yn dweud wrthyf i eu bod nhw’n teimlo'n ffodus i gael “plant da iawn”. Mae'n eu gwerthfawrogi nhw am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'r ffaith eu bod nhw mor gariadus, ond mae'n gwybod bod hyn seiliedig ar sicrwydd,
Wrth ddathlu pum mlynedd gyda'i gilydd fel teulu, mae Alun yn dweud, “Mae hi fel eu bod nhw wedi bod yma erioed. Dydyn ni ddim yn meddwl amdanon ni ein hunain fel eu tadau mabwysiadol nhw. Ni yw eu tadau nhw a dyna ni.” sefydlogrwydd, strwythur a threulio amser gwerthfawr gyda nhw. Mae'n chwerthin wrth iddo gofio y bu digon o jyglo hefyd. “Dydi pethau ddim wedi’u strwythuro i gyd er mor wych y gallai hynny fod” meddai Alun wrthyf i. “Dychmygwch ddweud wrth y plant i eistedd a gwneud gwaith am awr tra mod i’n mynd i ysgrifennu sgript. Byddai’n anhrefn mewn munudau”. Gan ganmol yr asiantaeth, Mabwysiadu Cymru, a'r gweithiwr cymdeithasol a roddodd gefnogaeth iddo ef a Kris, mae Alun yn dweud nad oedd mabwysiadu mor ymwthiol ag yr oedd yn meddwl y byddai. Drwy fynychu cyrsiau hyfforddi, roedd y cwpl yn gwybod erbyn y trydydd diwrnod bod ganddyn nhw’r un ddelfryd o fabwysiadu brodyr a chwiorydd ar ôl clywed bod yn rhaid eu gwahanu nhw o bryd i’w gilydd. Wrth ddathlu pum mlynedd gyda'i gilydd fel teulu, mae Alun yn dweud, “Mae hi fel eu bod nhw wedi bod yma erioed. Dydyn ni ddim yn meddwl amdanon ni ein hunain fel eu tadau mabwysiadol nhw. Ni yw eu tadau nhw a dyna ni.” YNRYCHIOLAETH Wrth i'n hamser ni gyda'n gilydd ddod i ben, gofynnais i Alun am ei farn am gynrychiolaeth amrywiol yn y celfyddydau. Dywedodd wrthyf i am gyn asiant oedd wedi dweud ei fod “yn rhy camp, yn
rhy fawr ac yn swnio’n rhy Gymreig i gael rhannau rheolaidd”. Mae'n amlwg o'r sgwrs y byddai gan yr Alun 40 oed, y dyddiau hyn ac yn gwbl briodol, ychydig o eiriau uniongyrchol a llym i'w dweud mewn ymateb i hynny. “Os ydych chi'n mynd i gastio actorion strêt fel cymeriadau hoyw yna pa rannau sydd ar ôl? Os dydych chi ddim yn credu ein bod ni’n gallu chwarae rhannau strêt gydag argyhoeddiad yna rhowch y rhannau hoyw inni o leiaf”. Er bod Alun yn chwerthin, mae pwysigrwydd y pwynt hwn yn amlwg yn ei lais. Dywedodd Alun y byddai’n hoffi gweld llawer mwy o gynrychiolaeth o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn y Celfyddydau hefyd - rhywbeth y mae'n ei gynnwys yn ei gwmni theatr aml-iaith 'Neontopia'. Rwy'n gadael Alun fel ei fod yn gallu dychwelyd i chwarae ei biano ar gyfer un o'r prosiectau y mae’n eu cyd-ysgrifennu. Yn LGBTQymru, roedden ni’n gwybod bod mwy i'n breninesau drag ni na dim ond eu presenoldeb nhw ar y llwyfan. Rydyn ni’n diolch i Alun am fod yn agored a gadael inni fod yn agos a phersonol ag o. Roedd yn bleser pur. LGBTQYMRU
11
CADW'R FFYDD Ym mhob rhifyn o'r cylchgrawn hwn, byddwn ni’n archwilio grŵp ffydd a'i berthynas â'r gymuned LGBTQ+. Aeth Rosie Webber, un o'n Gohebwyr Cymunedol, i gael gwybod mwy am Hidayah. Gan Rosie Webber
Bob dydd, mae’r rheini sy’n dioddef gwahaniaethu ac anghyfiawnder yn wynebu amarch a chamdriniaeth anhygoel. Mae cadw’r ffydd yn derm nad yw'n cael ei gymryd yn ysgafn pan ystyriwn rwydwaith cymorth anhygoel Hidayah, sefydliad o dan arweiniad gwirfoddolwyr, sy'n helpu Mwslimiaid queer a'r gymuned LGBTQ+ ehangach.
12
LGBTQYMRU
O’r tîm bach a sefydlwyd tair blynedd yn ôl, mae'r elusen wedi gwneud cynnydd sylweddol drwy ffurfio sefydliadau yn Llundain, Birmingham, Bryste, Manceinion, Glasgow, Leeds, Caerdydd, a Chasnewydd, ac mae wedi gwneud cysylltiadau trawsatlantig gyda’r UDA. Gwnaethom ofyn i Osman, sy’n wirfoddolwr gyda’r elusen, i ddisgrifio pam mae Hidayah mor bwysig.
“Cafodd Hidayah ei sefydlu yn y gobaith y byddai’n rhoi mwy o sylw i Fwslimiaid LGBTQ+ - Nid yw mannau queer wedi bod yn groesawgar bob amser”
"Cafodd Hidayah ei sefydlu yn y gobaith y byddai’n rhoi mwy o sylw i Fwslimiaid LGBTQ+” rhywbeth, "sy'n ymddangos yn brin ar gyfer yr unigolion lleiafrifol dwbl, ac weithiau triphlyg, o fewn cymdeithas". Mae’n gymuned sy'n cael ei gwrthod a'i thawelu gan y rhan fwyaf o leoedd Mwslimaidd, ac yn y gymuned LGBTQ+ ehangach, ac mae'r elusen yn darparu cymorth hanfodol i sicrhau bod lleisiau LGBTQ+ Mwslimaidd yn cael eu clywed a'u deall. Mae'r lleisiau hyn yn chwarae rhan hanfodol mewn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac addysg am y gymuned er mwyn sicrhau cymdeithas sy'n rhydd o wahaniaethu.
Mae Hidayah wedi gweithio'n ddiflino i ddarparu cymorth yn ystod y pandemig. Mae'r elusen wedi dangos hyn drwy ei grwpiau cymorth ar-lein drwy Zoom sydd wedi bod o fudd i'r gymuned. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys nosweithiau ffilm, trafodaethau rhyng-ffydd, digwyddiadau barddoniaeth, a digwyddiadau ar-lein i ddathlu Ramadan. Nod Hidayah yw darparu lleoedd diogel i bobl queer yng Nghaerdydd yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, neu i gymryd rhan, ewch i Hidayahlgbt.com
Mae Osman yn rhannu mewn modd agored realiti gwahaniaethu yn erbyn pobl Fwslimaidd LGBTQ+, "Nid yw mannau queer wedi bod yn groesawgar bob amser", "mae pobl yn tybio, dim ond am eu bod nhw’n gwisgo sgarff pen neu hijab, eu bod nhw yn y lle anghywir". O ganlyniad, mae Hidayah yn sicrhau lle diogel i'r cymunedau hyn yn ogystal â'r gymuned LGBTQ+ ehangach ar gyfer unrhyw un sy'n ceisio cymorth a chefnogaeth. Maen nhw’n lledaenu ymwybyddiaeth o islamoffobia a stereoteipiau niweidiol er mwyn gwella lles cymunedau LGBTQ+ Mwslimaidd a’r gefnogaeth ar eu cyfer.
LGBTQYMRU
13
Bywyd Personol a Gwaith Gan Danielle Herbert
Gwybodaeth Sylfaenol Enw llawn? Adam Price Beth yw eich rhagenwau? Fe O ble rydych chi'n dod? O Tymbl Uchaf yn wreiddiol, a cefais fy magu yn Nhycroes, ger Rhydaman Pa blaid wleidyddol ydych chi'n ei chynrychioli? Plaid Cymru Pa ardal yng Nghymru y cawsoch chi eich hethol iddi? Rwy'n cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn y Senedd
Mae LGBTQymru yn grŵp gwirfoddol nad yw’n gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol. Bydd ein cylchgrawn yn cynnwys gwleidyddion LGBTQ Cymreig o wahanol garfanau gwleidyddol ym mhob rhifyn. Ein nod yw sicrhau cydbwysedd a chynnwys pobl o wahanol garfanau gwleidyddol gan ddibynnu ar bwy sy'n derbyn ein gwahoddiad i gymryd rhan. Barn y gwleidydd dan sylw fydd y safbwyntiau sy’n cael eu mynegi. Disgwyliwn iddyn nhw gynnal gwerthoedd LGBTQymru. Diben yr erthyglau nodwedd yw dod i adnabod ein gwleidyddion LGBTQ ychydig yn well. 14
LGBTQYMRU
“Mae angen i bob cymuned gael ei chynrychioli mewn democratiaeth amrywiol a chynhwysol ac i weld bod hynny’n digwydd. Mae gwelededd hefyd yn newid y cyd-destun ar gyfer y gymdeithas gyfan”
Bywyd Personol a Gwaith Pam wnaethoch chi ddod yn wleidydd? Fe wnaeth profiad Streic y Glowyr ym 1984/85 roedd fy nhad yn löwr - fy radicaleiddio ac fe ddes yn weithgar gyda Plaid. Gwelais wleidyddiaeth fel ffordd o sicrhau cyfiawnder i bobl sy'n gweithio, ac i eraill sy'n wynebu anghyfiawnder fel y cymunedau LGBTQ+. Pam ei bod hi'n bwysig cael gwleidyddion LGBTQ + gweladwy? Mae angen i bob cymuned gael ei chynrychioli mewn democratiaeth amrywiol a chynhwysol ac i weld bod hynny’n digwydd. Mae gwelededd hefyd yn newid y cyd-destun ar gyfer y gymdeithas gyfan - wrth dyfu i fyny, ni welais i unrhyw bobl LGBTQ+ mewn swyddi arweinyddiaeth a gwnaeth hynny danlinellu fy nheimladau i fy hun o gael fy allgáu a’m dibrisio. Pe gallech chi newid unrhyw beth i wella bywyd i bobl LGBTQ+, beth fyddai hynny? Cau'r bwlch cyflog LGBTQ+ sy'n cyfateb i ryw £7,000 y flwyddyn ar gyfartaledd ledled y DU. Ni fu cydraddoldeb economaidd yn brif ffocws i’r mudiad LGBTQ+, ond os ydych chi ar gyflog isel, mewn cyflogaeth ansicr gyda chartref gwael, yna bydd “cydraddoldeb i bobl hoyw” yn swnio’n amcan gwag i gynifer o bobl - rhaid i hynny newid.
Beth fu moment fwyaf balch eich gyrfa neu eich bywyd hyd yn hyn? Helpu miloedd o weithwyr dur i ennill eu hawliau pensiwn coll yn ôl drwy ddod o hyd i gyfraith Ewropeaidd y mae'r DU wedi 'anghofio' ei deddfu. Pam mae gwleidyddiaeth yn bwysig i'r mudiad LGBTQ+? Heb newid gwleidyddol, byddem ni i gyd yn ôl yn y closet a byddai nifer dda ohonom yn y carchar. Rhaid inni beidio ag anghofio hynny. Sut ydych chi'n cefnogi'r gymuned LGBTQ+ yn eich bywyd personol a phroffesiynol? Y peth mwyaf rydw i wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw cyd-sefydlu Mas ar y Maes yn 2018. Dyma'r tîm sy’n cynhyrchu rhaglen weithgaredd LGBTQ+ fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol - am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn 2018 - gan ddod â dau o’r pethau rwy’n teimlo’n fwyaf angerddol amdanynt at ei gilydd - Cymru a'r gymuned LGBTQ+. Pe gallech chi ddweud un peth wrthych eich hunan pa yn iau, beth fyddai hynny? Rwyt ti’n mynd i fod yn dad!
LGBTQYMRU
15
Y PWYLLGOR MENYWOD A CHYDRADDOLDEBAU I GYFLWYNO ADRODDIAD AR YR YMCHWILIAD I'R DDEDDF CYDNABOD RHYWEDD Ymchwiliad arall i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd? Ydych chi wedi’ch synnu? Gwnaethom ofyn i'n Gohebydd Cymunedol, Jordan Howell, i egluro’r sefyllfa i ni.
Gan Jordan Howell
Ar ôl llawer o oedi a misoedd o gasglu tystiolaeth gan dros 100,000 o bobl a thros 140 o sefydliadau, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chanfyddiadau ar ei hymgynghoriad ar y Ddeddf Cydnabod Rhywedd ym mis Medi 2020. Mae’r Ddeddf wedi’i chondemnio'n eang gan y gymuned LGBTQ am beidio â mynd yn ddigon pell, a beirniadwyd yr oedi wrth gyhoeddi'r canlyniadau hefyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad ysgrifenedig, sydd i’w weld yma, hefyd yn amlinellu cefnogaeth ddiamwys Llywodraeth Cymru i'r gymuned draws ac anneuaidd.
Wrth gyhoeddi canlyniad ymgynghoriad lywodraeth y DU a siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd y Gweinidog Dros Fenywod a Chydraddoldebau, Liz Truss, fod Llywodraeth y DU yn credu bod "dulliau cadw cydbwysedd yn y system" a chefnogaeth i bobl sydd am newid eu rhyw gyfreithiol eisoes.
16
LGBTQYMRU
“Mae'r Pwyllgor yn ceisio canfod a yw'r diwygiadau arfaethedig yn mynd yn ddigon pell ac a oes angen gwneud newidiadau pellach, a beth yw’r potensial ar gyfer diwygiadau ehangach.”
Fodd bynnag, roedd yn cydnabod bod angen gwella'r broses ar gyfer cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd. Felly, y cynigion a ddatblygwyd oedd y dylai'r holl broses ardystio symud ar-lein ac y dylid gostwng y gost o gael tystysgrif o £140 i "swm enwol". Addawodd Llywodraeth y DU hefyd y byddai tri chlinig rhywedd newydd yn cael eu hagor, mewn ymgais i leihau amseroedd aros. Ar y pryd, er ei bod yn croesawu'r cynnig i agor clinigau rhywedd newydd, dywedodd Prif Weithredwr Stonewall, Nancy Kelley: "Mae Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei haddewid yn llwyr i ddiwygio'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd ac mae wedi colli cyfle allweddol i wella cydraddoldeb i bobl LGBT."
Mae'r Pwyllgor, a gafodd ei lansio ym mis Hydref 2020, mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ei hun, yn ceisio canfod a yw'r diwygiadau arfaethedig yn mynd yn ddigon pell ac a oes angen gwneud newidiadau pellach, a beth yw’r potensial ar gyfer diwygiadau ehangach.
Felly beth yw'r ymchwiliad newydd hwn? Nid yw'r Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau yn rhan o Lywodraeth y DU. Mae'n bwyllgor trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin ac mae'n LGBTQYMRU
17
“Rydym ni’n ceisio barn ynghylch pa newidiadau eraill y bydd angen eu gwneud o bosibl i wella cydraddoldeb i bobl draws: i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd, neu i ddeddfwriaeth arall - er enghraifft y Ddeddf Cydraddoldeb, i gefnogi gwasanaethau a chyfleusterau, ac ar ddiwygiadau cyfreithiol a allai wella hawliau pobl sy'n rhyweddhylifol a phobl anneuaidd.”
18
LGBTQYMRU
Mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddeall: •
pam mae nifer y rhai sy'n gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd mor isel o gymharu â nifer y bobl sy'n nodi eu bod nhw’n drawsryweddol;
•
a oes angen gwneud diwygiadau cyfreithiol i gefnogi pobl anneuaidd a rhyweddhylifol; ac
•
a yw'r darpariaethau ar gyfer mannau a chyfleusterau un rhyw/ar wahân i’r rhywiau yn glir ac yn ymarferol.
Wrth agor yr ymchwiliad diweddaraf hwn, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau, y Gwir Anrhydeddus Caroline Nokes AS: "Mae'r Llywodraeth wedi dweud ei bod am wneud y broses o wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd yn "fwy caredig ac yn symlach", ei gwneud yn broses gwbl ar-lein, a lleihau'r ffi. Mae hynny’n gynnydd – ond a yw’n ddigon? "Rydym ni’n ceisio barn ynghylch pa newidiadau eraill y bydd angen eu gwneud o bosibl i wella cydraddoldeb i bobl draws: i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd, neu i ddeddfwriaeth arall - er enghraifft y Ddeddf Cydraddoldeb, i gefnogi gwasanaethau a chyfleusterau, ac ar ddiwygiadau cyfreithiol a allai wella hawliau pobl sy'n rhyweddhylifol a phobl anneuaidd."
Y rheolau presennol ar gyfer cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd • Rhaid i chi gael llythyr gan eich meddyg yn nodi bod gennych chi 'ddysfforia rhywedd' • • Rhaid i chi ddarparu adroddiad yn cynnwys manylion y driniaeth feddygol a gawsoch chi • • Rhaid i chi brofi eich bod chi wedi byw fel eich rhywedd newydd am o leiaf dwy flynedd • • Rhaid ichi lofnodi datganiad o flaen cyfreithiwr yn cytuno i barhau â'ch rhywedd newydd hyd eich marwolaeth • • Rhaid i chi gael cytundeb gan eich gŵr neu’ch gwraig os ydych chi’n briod • • Rhaid i chi dalu ffi o £140
Hyd yma, mae'r pwyllgor – sy'n cynnwys AS Pontypridd Alex Davies – wedi clywed gan academyddion ac arbenigwyr mewn sesiynau tystiolaeth lafar. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi cael tystiolaeth ysgrifenedig gan sefydliadau fel Stonewall, Ymddiriedolaeth Pankhurst, y Sefydliad LGBT, a nifer o aelodau o'r cyhoedd. Bydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau yn cyhoeddi ei adroddiad yr haf hwn a byddwn ni yn LGBTQymru yn gwylio gyda diddordeb ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
LGBTQYMRU
19
ledled y byd heb un dim ond derbyn. Y rhe yn LGBTQ+ yw'r ymd gymuned sy'n unedig le ddisgwyliadau, dim on rwy'n caru bod yn LGBT berthyn i gymuned sy' heb unrhyw ddisgwylia Jack Y rheswm rwy'n ca ymdeimlad o berthyn i ledled y byd heb un dim ond derbyn. Y rhe yn LGBTQ+ yw'r ymd 20
LGBTQYMRU
nrhyw ddisgwyliadau, eswm rwy'n caru bod deimlad o berthyn i edled y byd heb unrhyw nd derbyn. Y rheswm TQ+ yw'r ymdeimlad o 'n unedig ledled y byd adau, dim ond derbyn. aru bod yn LGBTQ+ yw'r i gymuned sy'n unedig nrhyw ddisgwyliadau, eswm rwy'n caru bod deimlad o berthyn i LGBTQYMRU
21
NEIDIO DRWY GYLCHOEDD Ledled y byd, mae pobl yn y gymuned LGBTQ+ yn cael eu heffeithio gan drais domestig, erledigaeth, ymosodiadau, a mwy oherwydd eu cyfreithiau a'u rheoliadau lleol. Am y rhesymau hyn, daw pobl o bob cwr o’r byd i Gymru i geisio lloches er mwyn osgoi’r amodau erchyll hyn.
Gan Emily Usher
Ar ôl ei sefydlu yn 2015, nod y sefydliad lleol Cymreig, Hoops and Loops, yw cynorthwyo'r ceiswyr lloches a’r ffoaduriaid LGBT hynny sy'n chwilio am warchodaeth. Mae'r grŵp yn ymgynnull ddwywaith y mis yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Dinas Caerdydd, gan ryngweithio â phobl o'r un anian a rhannu straeon â'i gilydd. Yn ystod eu cyfarfodydd, maen nhw’n trafod gwrandawiadau llys sydd ar y gweill, yn cael nosweithiau ffilmiau, yn rhannu profiadau ac yn cefnogi ei gilydd yn feddyliol ac yn emosiynol. Mae Hoops and Loops yn ymwneud â thosturi a dealltwriaeth, gofalu am bobl LGBT+ a cheisio gwella eu hiechyd a'u hintegreiddiad yng Nghymru.
22
LGBTQYMRU
“Mae'n anodd iawn ac yn peri straen i'r unigolyn oherwydd mae cwestiynau personol yn cael eu gofyn iddyn nhw”
Siaradais â Mark Lewis, un o Henuriaid Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas, a gymerodd yr awenau a dechrau rhedeg y grŵp ar ôl bod yn wirfoddolwr. Roedd yn credu bod yn rhaid gwneud mwy i gynorthwyo'r rheini sy'n ceisio cymorth a rhoddodd hwb i niferoedd y grŵp o 10 i dros 70 o aelodau heddiw. Oherwydd y pandemig, mae Mark bellach yn cynnal sesiynau galw heibio bob dydd i aelodau ddod i gael coffi ac mae'n cynnig cymorth ar gyfer gwaith papur ac eitemau bob dydd a allai fod wedi’u cyfyngu iddyn nhw. "Rydym ni wedi cael ein heffeithio'n fawr yn sgil COVID-19 oherwydd nad yw rhai aelodau'n deall y cyfyngiadau." Dywed Mark ei fod yn wynebu rhyw fath o her gyda phob achos unigol. "Mae'n anodd iawn ac yn peri straen i'r unigolyn oherwydd mae cwestiynau personol yn cael eu gofyn iddyn nhw amdanyn nhw eu hunain mewn cyfweliadau ffurfiol ac mewn gwrandawiadau llys, lle gallech chi gael cyfieithydd nad yw efallai'n cyfathrebu'r geiriau’n gywir neu gallai fod problem oherwydd eu rhywioldeb."
Hyd yn hyn, mae Hoops and Loops wedi cael 20 aelod sydd wedi cael caniatâd i aros, sy’n caniatáu iddyn nhw fyw bywydau normal yng Nghymru heb boeni. Siaradodd un aelod, Godwin Kofi o Ghana, am faint y mae’r grŵp wedi ei helpu. "Mi gefais fy atgyfeirio gan fy meddyg teulu. Ro’n i’n meddwl y byddai'n syniad da ymuno â grŵp cymdeithasol a fydd yn derbyn fy rhywioldeb i ac yn rhannu'r un profiadau â mi. "Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd yn y grŵp a, chyn COVID, fel ffordd o gymdeithasu ac integreiddio, bydden ni’n mynd allan fel grŵp i fariau a digwyddiadau LGBT. "Mae'r grŵp hefyd wedi bod yn gefnogol mewn perthynas â dillad. Mi gefais i’r dillad priodol yn ystod y gaeaf y byddwn i wedi cael trafferth eu fforddio fel ceisiwr lloches nad yw'n cael gweithio."
Os hoffech chi gefnogi'r grŵp gydag unrhyw syniadau neu awgrymiadau, gallwch chi gysylltu â nhw yn hoopsandloops.group@ gmail.com.
LGBTQYMRU
23
Y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaeth Yn LGBTQYMRU, roeddem ni wrth ein boddau bod Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi'i sefydlu ac roeddem ni’n siŵr y byddai ein darllenwyr yn hoffi cael y wybodaeth ddiweddaraf amdano. Gan Imogen Coombs
Gwnaethom anfon ein Gohebydd Cymunedol, Imogen Coombs, i gwrdd â Helen Bennett, Rheolwr Gwasanaethau, Gwasanaeth Rhywedd Cymru. Ers iddo agor am y tro cyntaf ym mis Medi 2019, mae'r clinig wedi dod yn bell. Waeth beth yw effaith y Coronafeirws, mae'r clinig yn helpu i wella bywydau pobl drawsryweddol bob dydd. Mae’r clinig rhywedd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn Ysbyty Dewi Sant ac mae'n cwmpasu poblogaeth Cymru gyfan. Cyn agor, bu'n rhaid i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau rhywedd deithio i Lundain i gael ymgynghoriadau meddygol. Bu’r ffaith bod clinig Cymru wedi lleddfu'r pryder o deithio i nifer o bobl yn fantais enfawr. Fel rheolwr gwasanaethau, ac mewn perthynas â’i rôl, dywedodd Helen wrthyf fi fod “y cyfan yn ymwneud â chael effaith ar fywydau pobl draws”. Roedd yn dymuno gweld amseroedd aros yn cael eu cwtogi. Mae amseroedd aros yn dibynnu ar gapasiti'r clinig a faint o bobl sydd wedi'u hatgyfeirio iddo.
24
LGBTQYMRU
“Y cyfan yn ymwneud â chael effaith ar fywydau pobl draws” Cyngor Helen oedd y dylid cael atgyfeiriad i'r gwasanaeth cyn gynted ag y bydd pobl yn gwybod eu bod am geisio cymorth meddygol. Mae’n bosibl cael atgyfeiriad drwy ymarferwyr cyffredinol lleol, ac yna mae'r gwasanaeth rhywedd yn cynnig amrywiaeth o adnoddau. Mae hyn yn cynnwys arbenigwyr rhywedd sy'n darparu asesiadau. Unwaith y bydd claf wedi'i gymeradwyo ar gyfer hormonau, bydd y dîm rhywedd lleol yn eu rhagnodi ac yn monitro gwaed. Mae’n bosibl trafod llawdriniaethau yn y clinig hefyd. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi mai dim ond yn Lloegr y mae’n bosibl eu cynnal ar hyn o bryd. Mae cefnogaeth yn cael ei darparu gan gymheiriaid i unrhyw un ar y rhestr aros gan ein ffrindiau yn Umbrella Cymru. Mae’n bwysig nodi, er gwaethaf y pandemig, fod cleifion yn dal i gael eu gweld mewn modd rhithwir. Er bod y coronafeirws wedi cael effaith ddinistriol leded y byd, dywedodd Helen fod y cleifion yn teimlo'n gyfforddus yn cael eu hasesu yn eu cartrefi mewn
modd rhithwir i helpu i sicrhau bod pethau'n symud ymlaen iddyn nhw. Mae apwyntiadau rhithwir hefyd wedi lleddfu nerfau rhai pobl ynglŷn â theithio. Wrth drafod cynlluniau'r clinig yn y dyfodol, dywedodd Helen ei bod yn obeithiol y byddai'r clinig yn ehangu yn y dyfodol - sy'n golygu y byddai mwy o staff ar gael i helpu i leihau amseroedd aros. Yn ddelfrydol, byddai'r clinig yn anelu at sicrhau bod yr holl lwybrau ar gael i bobl draws yng Nghymru, gan gynnwys yr elfen lawfeddygol. Er nad oes cynlluniau cadarn ar gyfer hyn ar hyn o bryd, y gred yw y byddai hyn yn rhoi'r cysur mwyaf i gleifion. Mae Helen yn credu mai prif ddiben y clinig rhywedd yw ei fod yn caniatáu i bobl gael “gofal yn nes at adref” sy'n profi i fod yn fantais fawr. Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Rhywedd Cymru ar gael ar ei wefan yma
LGBTQYMRU
25
GAYS WHO WINE Symudodd Shaun a'i ŵr i Gaerdydd tua deng mlynedd yn ôl a sylwodd ar yr ynysrwydd trefol o fewn y gymuned LGBTQ+. Gan Charles Stylianou
“Mae’r bariau hoyw yng Nghaerdydd yn hwyl ac yn swnllyd gyda breninesau drag gwych, ond rydych chi'n mynd allan gyda grŵp o ffrindiau ac nid dyna lle rydych chi'n mynd i siarad ac ymlacio, mewn gwirionedd. Cawsom ni’r syniad o greu man i gael pawb yn y gymuned at ei gilydd oherwydd eu diddordeb cyffredin mewn gwin, bwyd neis a cherddoriaeth dda, a dyna wnaethon ni”, meddai’r sylfaenydd. 26
LGBTQYMRU
Nid yw "Gays Who Wine" mewn lleoliad parhaol; mae'n far gwin cyfeillgar dros dro i bobl hoyw sy'n cynnig sesiynau blasu gwin, bwyd a chwmni i gyd mewn lleoliad croesawgar, di-ragfarn. Dechreuon nhw gynnal digwyddiadau yn ôl ym mis Ebrill 2019 ac fe werthon nhw fwy nag ugain o docynnau ar gyfer eu digwyddiad cyntaf. Mae'r digwyddiadau dros dro yn anffurfiol ac mae Shaun yn pwysleisio nad yw hwn yn glwb gwin difrifol. Nid oes raid i chi
“Rydw i wrth fy modd yn meddwl y bydd y bobl hyn i gyd yn cael profiad ar y cyd pan fydd y blwch yn cyrraedd ar ddydd Gwener, a’n bod ni wir yn cynnig rhywbeth i bawb.” wisgo bathodyn enw na chael rhywun yn dweud wrthych chi ble i eistedd; mae'n hwyl gyda rhywfaint o strwythur. Meddai Shaun: “Rwy’n hoff iawn o’r ffaith bod gennym ni gynrychiolaeth o bob rhan o’r gymuned LGBTQ+ gyfan. Fel dyn hoyw gwyn, rwy’n gwybod y gall llawer o leoedd yr ewch iddyn nhw deimlo fel eu bod nhw’n llawn o'r un math o bobl yn unig. Roeddwn i eisiau creu amgylchedd sy'n llawer mwy cynhwysol na hynny." Felly sut mae 2020 wedi effeithio ar y busnes? "Cafodd cwpl o bobl y syniad o gynnal rhywbeth drwy Zoom a gwnaethom ni geisio cadw'r gymuned i fynd, drwy ddod ynghyd a chymdeithasu. Roedden ni wedi sefydlu hyn oherwydd ynysrwydd ac yna gwnaethom ni ganfod ein hunain yn yr amgylchiadau mwyaf unig erioed gyda COVID a’r cyfnod clo.” Dechreuodd ‘Gays Who Wine’ werthu bocsys yn cynnwys gwin, cawsiau a byrbrydau i’w hanfon i’ch
drws ac maen nhw bellach yn gwerthu bocsys yn genedlaethol. Meddai Shaun “Rydw i wrth fy modd yn meddwl y bydd y bobl hyn i gyd yn cael profiad ar y cyd pan fydd y blwch yn cyrraedd ar ddydd Gwener, a’n bod ni wir yn cynnig rhywbeth i bawb. Fedra i ddim aros i gael pobl yn ôl mewn ystafell gyda'i gilydd ond rydyn ni wedi llwyddo i oroesi a ffynnu drwy'r sefyllfa anodd hon.” Yn ogystal, mae canran o elw'r busnes yn cael ei roi i elusennau LGBTQ+. Fel y dywed y wefan, dyma rywle lle gallwch chi fynd ar eich pen eich hun, fel cwpl neu fel grŵp a chael noson wych, dysgu rhywbeth newydd a chwrdd ag eraill. Boed hynny yn y cnawd neu arlein, gayswhowine.com yw'r lle i fynd iddo. LGBTQYMRU
27
'Dragged to Church' yn Cyfleu'r Galon Elusennol sydd wrth wraidd Drag Nid oes llawer o arwyddion sicr gan Dduw, ond mae cael colomen yn ysgarthu ar eich Beibl chi ar ôl hedfan i mewn drwy do sydd wedi cwympo’n rhannol yn un, siŵr o fod. Gan Matthew Tordoff
28
LGBTQYMRU
Hwn oedd y catalydd ar gyfer 'Dragged to Church' - digwyddiad elusennol er budd Eglwys Ddiwygiedig Unedig Sant Andrew, a drefnwyd gan ac a oedd yn cynnwys rhai o berfformwyr drag mwyaf toreithiog Caerdydd. Siaradais â Rob Keetch, sy'n perfformio fel yr eiconig Dr Bev ac sy'n un o'r bobl enigmatig y tu ôl i'r digwyddiad hanesyddol hwn. Mae gan Rob gysylltiad personol â chrefydd a “gwelodd ‘Dragged to Church’ fel cyfle i roi yn ôl i gymuned nad yw'n ymddangos ei bod bob amser wedi bod ar ochr y gymuned LGBTQ+.” Mae'n debyg bod aeliau rhai wedi codi ar y dechrau, ond daeth pobl i garu’r digwyddiad yn gyflym.
Mae gan Rob gysylltiad personol â chrefydd a “gwelodd ‘Dragged to Church’ fel cyfle i roi yn ôl i gymuned nad yw'n ymddangos ei bod bob amser wedi bod ar ochr y gymuned LGBTQ+.”
“Roedd yr eglwys yn gorlifo gyda phobl, fe wnaethant ein croesawu ni.” Roedd y noson LGBTQYMRU
29
mor boblogaidd, mae bellach wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol. Yn anffodus, bu'n rhaid recordio perfformiad y llynedd ymlaen llaw oherwydd y coronafeirws, er nad oedd pandemig byd-eang yn ddigon i atal y tîm 'Dragged to Church', a gododd dros £2,000. Mae'r dyfodol yn edrych hyd yn oed yn fwy addawol, gyda ffilm nodwedd yn seiliedig ar y digwyddiad wedi’i hamserlennu i’w chynhyrchu ar hyn o bryd - ac mae’r actor Torchwood a Keeping Faith, Eve Myles, yn gysylltiedig fel cyfarwyddwr. Disgrifiodd Rob y ffilm fel “Cyfuniad o Billy Elliot a Calendar Girls, gydag ychydig o Pride! a Two Wong Foo wedi'u taflu i mewn ar ben hynny.” Er hynny, nid yw Rob yn edrych i'r dyfodol yn unig. Pwysleisiodd bwysigrwydd drag fel cyfrwng ar gyfer dod â chymunedau ynghyd: “Dyna beth all grym drag ei wneud. Mae’n gallu gwneud gwahaniaeth. Ac rydych chi'n mynd reit yn ôl i'r cychwyn cyntaf gyda Therfysgoedd Stonewall; a breninesau drag, ac aelodau o'r gymuned draws, ac aelodau o'r gymuned BAME a frwydrodd. Fe wnaethon nhw wahaniaeth a hoffwn feddwl ein bod ni’n dal i wneud gwahaniaeth heddiw, hyd yn oed os ydi hynny yn lleol yn unig.” Gallwch ddilyn ‘Dragged to Church’ ar Instagram a chadwch lygad am y ffilm mewn rhifyn o'r cylchgrawn hwn yn y dyfodol.
“Ac rydych chi'n mynd reit yn ôl i'r cychwyn cyntaf gyda Therfysgoedd Stonewall; a breninesau drag, ac aelodau o'r gymuned draws, ac aelodau o'r gymuned BAME a frwydrodd.” 30
LGBTQYMRU
RYDYN NI'N RECRIWTIO! Are Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â thîm LGBTQYMRU? Mae pob rôl yn wirfoddol ac rydym ni’n defnyddio dull cefnogol, un tîm o gynhyrchu erthyglau o ansawdd uchel ar gyfer y gymuned LGBTQ+ gan y gymuned LGBTQ+ yn ein cylchgrawn chwarterol a chwbl ddwyieithog sy’n rhad ac am ddim. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â thîm cynhwysol, ewch i’r pecyn cais yma.
STRAEON Yn LGBTQymru, un o'r pethau sy’n ein sbarduno ni yw sicrhau bod aelodau ein cymuned LGBTQ yn aros mewn cysylltiad â’i gilydd. Ein mantra yw 'I’r Gymuned, gan y Gymuned'. I ni, mae hynny'n golygu Cymru gyfan. Felly, byddai’n hynod o gyffrous clywed gennych chi os oes gennych chi stori queer i'w hadrodd neu syniad i'w gynnwys mewn rhifyn yn y dyfodol. Peidiwch â bod yn swil - cysylltwch â ni drwy anfon neges atom yn Magazine@LGBTQymru.Wales gan roi 'Stori Nodwedd' yn y blwch pwnc.
LGBTQYMRU
31
diwylliant yn ddwfn a dyfalbarhad yn gryf. M ddwfn ac yn wydn ac m yn gryf. Mae ein diw yn wydn ac mae ein d Mae ein diwylliant yn ac mae ein dyfalbar Mae ein diwylliant yn ac mae ein dyfalbarh diwylliant yn ddwfn a dyfalbarhad yn gryf. M 32
LGBTQYMRU
ac yn wydn ac mae ein Mae ein diwylliant yn mae ein dyfalbarhad wylliant yn ddwfn ac dyfalbarhad yn gryf. n ddwfn ac yn wydn rhad yn gryf. - Mitch n ddwfn ac yn wydn had yn gryf. Mae ein ac yn wydn ac mae ein Mae ein diwylliant yn LGBTQYMRU
33
Mae'n glir, rydyn ni'n queer, felly cefnogwch ein! Ym Mhrifysgol Abertawe, mae cydraddoldeb yn bwysig iawn, nid yn unig rhwng y myfyrwyr ond hefyd rhwng y staff. Gan Emily Usher
Mae gan y brifysgol nifer o grwpiau cymdeithasol i fyfyrwyr lleiafrifol ymuno â nhw, ond mae ganddyn nhw hefyd lawer o rwydweithiau ar gyfer staff sydd angen lle diogel i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys ac i fod yn nhw eu hunain. Gwnaethom siarad ag Alys Einion-Waller, sy'n un o gyd-gadeiryddion y rhwydwaith staff LGBT+. 34
LGBTQYMRU
Yn 2012, daeth y Darlithydd Bydwreigiaeth Alys Einion-Waller yn aelod o'r Rhwydwaith Staff LGBT+ ar ôl profi llawer o gamdriniaeth am fod yn lesbiad mewn swydd flaenorol. Yna daeth yn gyd-gadeirydd ochr yn ochr â Daffydd Turner a Siân Elin Thomas ac, yn 2017, aeth y grŵp ymlaen i ennill Grŵp Rhwydwaith y Flwyddyn Stonewall Cymru.
Mae rhwydwaith staff LGBT+ Prifysgol Abertawe yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, cyfleoedd rhwydweithio, gweithdai a hyfforddiant rheolaidd, ynghyd â darparu gwybodaeth ac arweiniad ar faterion yn ymwneud â'r gymuned LGBT+. Mae'r rhwydwaith hefyd yn cynnig cefnogaeth a chyngor cyfrinachol i'r holl staff (nid yn unig y rhai sy'n nodi eu bod yn LGBT+). Gall y staff hysbysu cydgadeiryddion y rhwydwaith ynghylch achosion o fwlio ac aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd. Mae'r rhwydwaith hefyd yn ymwneud â chymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall. Mae'r grŵp staff wedi gweithio'n galed i drefnu digwyddiadau sy'n codi ymwybyddiaeth gan gynnwys hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o rywedd a chydweithio ag Undeb Myfyrwyr Abertawe i baentio cerrig palmant eu prif fynedfa yn lliwiau’r enfys. Mae'r grŵp hefyd wedi cael ei gyfran deg o heriau, yn enwedig yng ngoleuni COVID. Pan ofynnais i Alys am hyn, dywedodd: “Daw’r rhan fwyaf o’n brwydrau yn sgil diffyg amser. Rydyn ni i gyd yn gwirfoddoli i'r rhwydwaith ac mae COVID wedi golygu symud popeth ar-lein, sy'n teimlo'n llawer anoddach. Bydd adegau bob amser pan fyddwn efallai'n wynebu ychydig bach o adlach negyddol, ond cyn belled â'n bod ni'n cyflwyno neges gadarnhaol, nid yw'n effeithio arnom ni.” Gorffennodd Alys gyda neges allweddol “Os ydych chi eisoes ym Mhrifysgol Abertawe, neu'n ystyried ymuno ac yn chwilio am gefnogaeth, gallwch chi
“Os ydych chi eisoes ym Mhrifysgol Abertawe, neu'n ystyried ymuno ac yn chwilio am gefnogaeth, gallwch chi gysylltu â'n grŵp ni. Rydyn ni wedi ymrwymo i dyfu a deall.”
gysylltu â'n grŵp ni. Rydyn ni wedi ymrwymo i dyfu a deall. Am y rheswm hwn, rydyn ni nid yn unig yn darparu cefnogaeth ond rydyn ni hefyd yn agored i syniadau newydd a datblygu cysylltiadau newydd. Rydyn ni yma, rydyn ni'n queer, a dydyn ni ddim yn mynd i unman!” Gallwch chi gysylltu â Rhwydwaith Staff LGBT+ Prifysgol Abertawe drwy ei dudalen Facebook yn @LGBTSwanseaUni neu gallwch chi e-bostio'r Gymdeithas LGBT+ yn lgbtplus@swansea.ac.uk.
LGBTQYMRU
35
Er Cof am Jan Morris Delwedd: Evie Barker eviebarkerart.com
Mae Jan Morris, yr awdur o Gymru, a’r arloeswr trawsryweddol a dorrodd dir newydd gyda’i llyfr Conundrum, wedi marw yn 94 oed. Gan Danielle Herbert 36
LGBTQYMRU
“Yr hyn oedd yn bwysig oedd rhyddid pob un ohonom i fyw fel yr oeddem yn dymuno byw, i garu sut bynnag yr oeddem am garu, ac i adnabod ein hunain, waeth pa mor hynod, anniddig neu annosbarthedig, yn un gyda’r duwiau a’r angylion.”
Arweiniodd y newyddiadurwr, yr awdur a'r hanesydd o fri fywyd gwaith cyflawn ac amrywiol cyn iddi farw ar yr 20fed o Dachwedd.
Yn ei chofiant, mae Morris yn rhoi cyfrif am ei bywyd rhyfeddol a'i chyfnod o drawsnewid dros 10 mlynedd. Y llyfr oedd un o'r cyntaf i drafod llawdriniaeth cadarnhau rhywedd.
Wrth gyhoeddi ei marwolaeth, ysgrifennodd ei mab Twm, “Bore heddiw am 11.40 yn Ysbyty Bryn Beryl, Pen Llŷn, cychwynnodd yr awdur a’r teithiwr Jan Morris ar ei thaith fwyaf.”
Yn y llyfr, dywedodd, “Wnes i erioed feddwl bod fy nghonyndrym fy hun yn fater naill ai o wyddoniaeth neu o gonfensiwn cymdeithasol.
Mae'n gadael ei phlant a'i gwraig Elizabeth, a briododd ym 1940. Arhosodd y cwpl gyda'i gilydd yn dilyn ei phenderfyniad i newid rhywedd ym 1964. Gwnaeth Morris hanes gyntaf yn The Times ar fore coroni’r Frenhines Elizabeth ym 1953, pan dorrodd y newyddion am y dringwyr cyntaf erioed i gyrraedd copa Mynydd Everest. Aeth ymlaen i weithio i The Guardian lle datgelodd fod Ffrainc ac Israel wedi cydgynllwynio i oresgyn tiriogaeth yr Aifft, wrth adrodd ar Argyfwng y Suez ym 1956.
“Ro’n i’n meddwl ei fod yn fater o’r ysbryd, yn fath o alegori ddwyfol, ac nad oedd esboniadau ohono yn bwysig iawn beth bynnag. “Yr hyn oedd yn bwysig oedd rhyddid pob un ohonom i fyw fel yr oeddem yn dymuno byw, i garu sut bynnag yr oeddem am garu, ac i adnabod ein hunain, waeth pa mor hynod, anniddig neu annosbarthedig, yn un gyda’r duwiau a’r angylion.” Bydd Jan Morris yn cael ei chofio fel arloeswr trawsryweddol a ffigwr nodedig yn niwylliant Cymru a'r gymuned LGBTQ+.
Cyhoeddodd y dalent ddiflino ei chofiant Conundrum, a ddewiswyd gan The Times fel un o'r 100 o lyfrau allweddol ein cyfnod. LGBTQYMRU
37
SGWRS GYDA RUTH FOWLER Gan Jordan Howell
Ruth Fowler yw cydgysylltydd rhwydwaith LGBT Prifysgol Aberystwyth ac mae wedi ymddangos ar Restr Binc WalesOnline yn y gorffennol. Yn 2014, sefydlodd Aberration. Cymerodd amser i eistedd i lawr gyda ni a siarad am y prosiect, sut mae pandemig COVID-19 wedi effeithio arno, a beth yw ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol... Beth yw Aberration? Sut ddechreuodd e? Cyfres o ddigwyddiadau celf LGBT yw Aberration, sy’n cael eu trefnu gennyf i a fy ffrindiau da, Helen a Jane o SpringOut, sy’n sefydliad digwyddiadau celfyddydol. Rydyn ni fel arfer yn ei gynnal yng Nghanolfan Gelf Aberystwyth, ond rydyn ni hefyd wedi mynd ag ef i leoliadau ledled Cymru.
38
LGBTQYMRU
Mae Aberration yn golygu 'gwyro oddi wrth rywbeth sy'n normal', felly fe wnaethon ni chwarae gyda'r syniad bod pobl queer yn wahanol. Hefyd, roedden ni'n hoffi'r chwarae ar eiriau gydag Aberystwyth ... roedd o’n gweithio!
Delwedd: Jess Rose
Dechreuais Aberration pan gysylltodd cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, Rosie, â mi a dweud yr hoffai gyfrannu tuag at weithgaredd LGBT yn y brifysgol. Roeddwn i eisiau cynnal digwyddiad LGBT, gan nad oedd unrhyw rai yn cael eu cynnal yn Aberystwyth - daeth tua 100 o bobl i’r digwyddiad ac roedd yn llwyddiant ysgubol! Pam yr enw 'Aberration'? Mae Aberration yn golygu 'gwyro oddi wrth rywbeth sy'n normal', felly fe wnaethon ni chwarae gyda'r syniad bod pobl queer yn wahanol. Hefyd, roedden ni'n hoffi'r chwarae ar eiriau gydag Aberystwyth ... roedd o’n gweithio! Sut mae'r prosiect wedi tyfu ers i chi ddechrau? Mae wedi datblygu gryn dipyn. Roedd Aberration yn arfer bod yn ddigwyddiad neu ddau y flwyddyn, i gyd mewn arddull cabaret. Bellach, mae wedi cynyddu i dair neu bedair o sioeau y flwyddyn, a gallan nhw fod yn amrywiol iawn o ran sut steil rydyn ni’n ei ddewis ar gyfer pob digwyddiad. Rydyn ni hefyd yn cynnal sioeau personol llai, fel sgyrsiau panel ynghylch materion LGBT brys. Wrth i’r pandemig barhau, symudwyd y digwyddiad ar-lein eleni - beth oedd yr heriau roeddech chi'n eu hwynebu wrth wneud hynny? Roedd y gyfres gyntaf o ddigwyddiadau ar-lein y gwnaethon ni eu trefnu - Aberration Adre - yn digwydd unwaith yr wythnos ac yn cael eu harwain gan gynulleidfa. Roedd rhywfaint o adloniant craidd wedi'i gynllunio, ond roedd y gweddill i fyny i'r gynulleidfa. Gallen nhw berfformio a chymryd
drosodd, yn y bôn, a gallai fod yn unrhyw beth o sut i chwarae'r drymiau i sut i wneud dawns fol. Roedd gan yr ail ddigwyddiad y gwnaethon ni ei gynnal ar-lein - Aberration Pride - berfformwyr proffesiynol. Roedd yn fyd hollol newydd! Rydyn ni wedi arfer cael cefnogaeth tîm technoleg anhygoel yng Nghanolfan Gelf Aberystwyth, felly roedd gorfod newid yn sydyn i wneud popeth, a hynny i gyd drwy Zoom ... roedd yn golygu llawer o waith! Beth fu ymateb y gymuned ynglŷn â'r newid i fod ar-lein? Roedd ymateb y gymuned yn gadarnhaol ac yn werthfawrogol. Rydyn ni hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr celfyddydau cymunedol o'i herwydd, felly mae'n bendant wedi cael derbyniad da! Beth ydych chi'n ei gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod? Rydym ni’n cyfarfod yn fuan i wneud cynlluniau, ond rwy'n credu y byddwn ni yn bendant yn gwneud rhywbeth ar gyfer Mis Hanes LGBT. Mae gwir angen i ni weld sut y bydd 2021 yn datblygu, er hynny, gan fod cynllunio unrhyw beth yn anodd iawn yn sgil y pandemig parhaus! Gallwch chi ganfod mwy am Aberration drwy ei gyfryngau cymdeithasol a'i wefan: aberration.org. uk LGBTQYMRU
39
YR HYRWYDDWR CYMUNEDOL
ISAAC BLAKE Mae'r gymuned LGBTQ yn cynnwys pobl o bob siâp, maint, lliw ac ethnigrwydd. Nid yw'r cymunedau Roma a Sipsiwn yn ddim gwahanol. Gan Carol Dierzuk
Penderfynodd Isaac Blake, dawnsiwr hoyw a sylfaenydd y Romani Cultural and Arts Company, ddod â’i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr Roma (GRT) ynghyd â grym y celfyddydau fel dull cyffredinol o gyfathrebu a chymodi.
40
LGBTQYMRU
“Roeddwn i’n byw ar ddau safle Sipsiwn am tua 25 mlynedd,” meddai Isaac. “Roeddwn i’n ddigon ffodus i ennill ysgoloriaeth mewn dawns gyfoes yn Trinity Laban yn Llundain; fe wnes i lawer o brosiectau yn Efrog Newydd a Chanada hefyd. Yn 2009, fe wnes i ddarn ar gyfer Mis Hanes
Sipsiwn a Theithwyr Roma, a gwnaeth i mi feddwl bod diffyg gweithgareddau i'r gymuned GRT. Dechreuodd ein helusen raglenni ar safleoedd ar gyfer plant a oedd yn archwilio’r celfyddydau gweledol a pherfformio, gan ddechrau gyda'r safleoedd lle cefais i fy magu." Pan ofynnwyd iddo beth sydd wedi ei gadw i fynd yn ystod ei 10 mlynedd fel cyfarwyddwr elusennol, mae'n rhannu ei fod i gyd yn gysylltiedig â'i bobl. “Maen nhw'n rhoi nerth i mi. Pan fydda i’n ansicr ynghylch prosiect rwy'n gweithio arno, maen nhw'n fy annog i ddal ati. Fe wnawn ni iddo weithio maen nhw’n ei ddweud. Rwy'n teimlo cysylltiad dwfn â nhw.” Ond nid yw hi bob amser yn hawdd gweithio gyda sefydliadau allanol. “Mae pobl yn gallu bod yn eithaf pryderus oherwydd yr hyn maen nhw wedi'i glywed am Sipsiwn. Nid yw rhai’n credu bod gennym ni academyddion na phlismyn yn y gymuned, a fy ateb i ydi - wrth gwrs bod gennym ni! Rydym ni’n ymdrechu i newid y naratif drwy adrodd ein straeon, yn lle eu bod yn cael eu hadrodd gan rywun nad ydyn nhw’n gwybod llawer amdanom ni.”
“Roedd gen i ddau fywyd: fy mywyd hoyw, a fy mywyd fel Sipsi. Nawr, dim ond un bywyd yw. Os na all pobl dderbyn fy mod i’n Sipsi, maen nhw allan o fy mywyd i. Does gen i ddim amser i’w wastraffu.”
“Os ydych chi'n meddwl am y peth, mae pobl yn gwahaniaethu yn ein herbyn ni dair gwaith: oherwydd ein bod ni'n hoyw, yn Roma, ac yn Roma hoyw - meddai fy ffrind o'r Weriniaeth Tsiec. Ac mae'n wir” cyfaddefodd Isaac. ”Weithiau mae pobl yn hiliol mewn ffordd ddidaro, weithiau byddai sylw homoffobig yn cael ei gyfeirio ataf fi. Weithiau mae ein pobl yn osgoi siarad am fod yn hoyw. Roedd gan fy modryb gariad benywaidd ar y safle, a hyd yn oed bryd hynny bydden nhw’n cael eu trin fel 'yr hoywon'. Nid yw pobl ar bob safle yn agored eu meddyliau; nid oedd llawer o bobl hoyw ar y safle y cefais i fy magu arno yn Lloegr, o gymharu â fy mhrofiadau yng Nghymru. Mae'n newid yn araf, ac mae'r gymuned LGBTQ yn dod yn fwy a mwy gweladwy. Ni allwn ni fel cwmni, a minnau fel cyfarwyddwr a dyn hoyw, wadu bodolaeth y bobl LGBTQ yn ein LGBTQYMRU
41
cymunedau ni ein hunain. Nid yw rhai eisiau siarad llawer amdano ac mae'n well ganddyn nhw gadw eu pellter, ond, gobeithio, bydd hi’n dod yn haws i’r bobl hynny allu siarad am y peth." Yn araf ond yn sicr, mae’r Romani Cultural and Arts Company yn gallu cael gwared ar y stigma a ddaw yn sgil bod yn hoyw ac yn Sipsi drwy Isaac. Mae wedi gwneud gwaith rhagorol ar lefel y llywodraeth gyda pholisïau Sipsiwn a Roma. “Cyn 2012, dim ond y gymuned Sipsiwn yr oedd yn sôn amdani. Fe lwyddon ni i gael y rhan Roma ar ddogfen Gymreig, sy'n gyflawniad mor fawr oherwydd mae'n bwysig cynnwys pawb.” Mae Isaac hefyd yn gweithio ar ryngblethedd. “Os edrychwch chi ar bolisïau yng Nghymru, does dim sôn am fod yn hoyw mewn perthynas â Sipsiwn a Theithwyr Roma. Y llynedd, gwnaethom ni argymell diweddariad i'r Polisi Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gynnwys pobl LGBTQ." Mae’n bosibl y byddech chi’n gofyn pam mae hyn mor bwysig. “Mae'n ganllaw i bob sefydliad, mewn gwirionedd, gan gynnwys GIG Cymru, felly mae'n bwysig eu bod nhw'n gwybod sut i drin Teithwyr LGBTQ.” Mae gwaith Isaac yn hanfodol i'r unigolion LGBTQ sy'n byw yn y cymunedau Sipsiwn a Theithwyr Roma. “Er bod fy mhrofiad i o homoffobia yn gyfyngedig, nid yw hynny'n wir i bawb. Yn ystod ein cynadleddau, cefais y fraint o wrando ar bobl yn siarad am eu trawma, ac mae'n dorcalonnus clywed yr hyn maen nhw wedi mynd drwyddo.” Gan synfyfyrio am y gorffennol, meddai Isaac “Wrth dyfu i fyny a chrwydro o amgylch y dref gyda fy ffrindiau, roedd yn rhaid i mi wneud yn siŵr nad oeddwn i’n mynd heibio i fariau hoyw. Roeddwn i’n byw dau fywyd - un hoyw, ac un fel Sipsi. Nawr fy mod i'n gweithio i elusen, dim ond un bywyd yw. Nid wyf am ddewis pa ran ohonof fi rwy'n ei dangos. Rwy’n falch o bwy ydw i - dyn hoyw sy’n Sipsi. Gallwch ganfod mwy am waith y Romani Cultural and Arts Company yma http://www.romaniarts.co.uk
42
LGBTQYMRU
HYRWYDDWYR Rydym ni i gyd yn adnabod rhywun sy'n gwneud pethau anhygoel ar gyfer ein cymuned LGBTQ+ yng Nghymru. Felly, cysylltwch â ni a dywedwch wrthym ni am rywun rydych chi'n ei adnabod sy'n haeddu rhywfaint o gydnabyddiaeth am y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud, gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth, rhywbeth sy'n haeddu ychydig o sylw. Byddem yn falch iawn o gynnwys rhai o'n harwyr di-glod o bob rhan o Gymru mewn rhifynnau yn y dyfodol, felly cysylltwch â ni yn Magazine@ LGBTQymru.Wales gan roi 'Hyrwyddwr LGBTQ' yn y blwch pwnc a rhowch ychydig mwy o wybodaeth inni.
Newydd ‘ddod allan’? Wedi symud i ardal newydd? Yn chwilio am gysylltiadau? Siawns y gall llawer ohonom ni yn y gymuned LGBTQ+ gydymdeimlo â'r teimlad brawychus hwnnw o ymuno â grŵp newydd. Gan Matthew Skinner
RUSTIC RAINBOW Yn ffodus, wrth imi ganolbwyntio ar fy llesiant fy hun eleni, cefais hyd i gwmnïaeth mewn grŵp rhedeg nad yw'n un LGBTQ. Ond, rwy'n cwestiynu a fyddwn i wedi teimlo'n fwy cyfforddus pe bawn i wedi bod yn ymwybodol o grwpiau LGBTQ+ penodol. A allwn i fod wedi cael gwared ar y teimlad cychwynnol hwnnw o bryder am 'ffitio i mewn' oherwydd fy rhywioldeb ac wedi chwilio am gymorth yn gynharach? Gan fy mod i’n byw yng Nghaerdydd, rwy’n gallu rhwydweithio â phobl o'r un anian â mi ar stepen fy nrws. Ond, os ydych chi'n byw yng nghefn gwlad Gogledd Cymru, beth yw eich achubiaeth chi? Siaradais â Patsy Hudson, sy'n byw yn Saltney ger Caer, un o sefydlwyr 'Rustic Rainbow'. 'Pan symudais i o Leeds i'r Rhyl, ro’n i’n colli’r ymdeimlad o gymuned, roeddwn i wedi bod yn aelod o 'Gay Abandon', sef côr LGBT Swydd Efrog, a dydw i ddim yn berson sy’n hoffi’r sîn tafarndai a chlybiau mewn gwirionedd. Mi wnes i gyfarfod
â Karissa (un arall o sefydlwyr Rustic Rainbow) ac mi wnaethon ni benderfynu cynnal digwyddiadau misol drwy Facebook.
LGBTQYMRU
43
“Wrth dyfu i fyny, doedd gen i ddim cyfryngau cymdeithasol. Byddai wedi gallu newid fy mywyd i’n llwyr! Cael cydnabyddiaeth bod pobl LGBTQ+ yn bodoli. Cyflwynwyd adran 28 wrth imi orffen yn yr ysgol ond rwy’n meddwl bod methu â gallu siarad am fod yn hoyw eisoes wedi’i sefydlu. Doedd neb yn sôn amdano; roedd yn cael ei ddefnyddio fel term bychannol ar yr iard. Byddai wedi bod yn gadarnhaol iawn gwybod, pe gallech chi aros nes eich bod yn oedolyn, y gallech chi gwrdd â phobl a oedd wedi dod allan fel pobl hoyw ac a oedd yn falch o hynny.”
Mae digwyddiadau'r gorffennol wedi cynnwys ymweld â chestyll CADW yn enwedig pan wnaethon nhw gynnal diwrnodau mynediad am ddim. Meddai Patsy: 'roedden ni am sicrhau hygyrchedd (ariannol ac o ran symudedd). Gwnaethom ni hefyd gydnabod, oherwydd credoau crefyddol, efallai na fyddai cyfarfod mewn tafarn yn addas i bawb ac roeddem ni am greu grŵp lle nad oedd unrhyw un yn teimlo ei fod wedi'i eithrio.' Cafodd y digwyddiadau eu cylchdroi ledled pob rhan wahanol o Ogledd Cymru ond dywedodd Patsy y gall rhedeg grŵp gwirfoddol fod yn heriol felly roedd yn rhaid iddyn nhw esblygu eu dull. Un enghraifft o hyn oedd cyfranogiad Jenny Anne Bishop OBE (llefarydd Llywodraeth Cymru o'r Rhyl), a ddaeth yn gysylltiedig â'r grŵp a darparu cysylltiadau i'w rhannu ar y dudalen Facebook. Mae Jenny’n rhedeg 'Unique', sef grŵp cymorth a thŷ cymunedol Trans yng Ngogledd Cymru lle mae pobl Trans yn mynd am gefnogaeth ar ôl gwella yn dilyn llawdriniaeth.
44
LGBTQYMRU
Rwy’n gofyn i Patsy sut mae Rustic Rainbow wedi bod yn gweithredu yn ystod COVID-19. 'Mi wnes i sylweddoli pa mor bwysig oedd cael y grŵp. Rydyn ni’n gyfyngedig yn y ffordd y gallwn ni gwrdd fel grŵp, er fy mod i wedi sicrhau fy mod i’n postio rhywbeth bob wythnos fel erthyglau a digwyddiadau.' Mae Patsy hefyd yn gweithio i Pride Caer 'er ei fod yn disgyn ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, rwyf wedi bod yn llafar o ran nodi bod llawer o'n cefnogwyr ni yn Gymry. Yn anffodus, nid oedd hi’n bosibl cael gorymdaith Pride eleni, felly aethon ni at noddwyr a sefydlu 'Just Ask', gwasanaeth llinell gymorth dros y ffôn, y mae Patsy yn Swyddog Prosiect iddo. 'Rydyn ni’n casglu cyllid torfol i gael caffi cymunedol yng Nghaer y flwyddyn nesaf, sef lle diogel i'r gymuned LGBTQ+. Yn ddelfrydol, bydd lle i’r rhai sy’n cael budd o 'Just Ask' gwrdd â mi i siarad yn breifat oddi wrth lawr y siop.'
'Wrth dyfu i fyny, doedd gen i ddim cyfryngau cymdeithasol. Byddai wedi gallu newid fy mywyd i’n llwyr! Cael cydnabyddiaeth bod pobl LGBTQ+ yn bodoli. Cyflwynwyd adran 28 wrth imi orffen yn yr ysgol ond rwy’n meddwl bod methu â gallu siarad am fod yn hoyw eisoes wedi’i sefydlu. Doedd neb yn sôn amdano; roedd yn cael ei ddefnyddio fel term bychannol ar yr iard. Byddai wedi bod yn gadarnhaol iawn gwybod, pe gallech chi aros nes eich bod yn oedolyn, y gallech chi gwrdd â phobl a oedd wedi dod allan fel pobl hoyw ac a oedd yn falch o hynny.' Rhywun a ddefnyddiodd Rustic Rainbow ar y cychwyn ac a elwodd o'r ymdeimlad o gymuned oedd Kate Hutchinson. Mae Kate yn cofio, 'Ro’n i'n edrych am ffocws, rhywle lle gallwn i estyn allan i gysylltu â phobl. Yn y digwyddiad cyntaf mewn canolfan arddio, roeddwn i'n gallu gweld bwrdd gyda phobl yn eistedd wrtho gyda baner enfys. Adeg hynny, roeddwn i’n eithaf swil ac yn ofni dod allan. Roedd o’n grŵp gwerthfawr oedd yn darparu man gyda phobl y gallwn i uniaethu â nhw.' Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ac mae Kate wedi dod yn ffigwr dylanwadol ar gyfer y gymuned LGBTQ+ lle mae'n gwisgo llawer o hetiau fel actifydd, Cyfarwyddwr ‘Wipeout Transphobia' a Swyddog Rhanbarthol i Diversity Role Models a Swyddog Allgymorth Cymunedol Traws ar gyfer Pride Cymru. 'Wnes i erioed gynllunio i fod yn actifydd. Fe wnaeth cael fy ngalw yn enwau sarhaus ar y stryd fy ngyrru i annog addysg ac empathi ac i newid agweddau'. 'Mae llawer o waith Kate yn ymwneud â mynd i mewn i ysgolion i gynnal gweithdai gyda myfyrwyr i hyrwyddo gwelededd fel menyw Draws. Mae hi wedi bod yn ysbrydoledig clywed Kate yn siarad nawr fel person cryf â llais, sy’n gwbl wahanol i'r person swil yr oedd hi’n arfer bod a oedd yn ceisio magu'r dewrder i fynychu ei digwyddiad Rustic Rainbow cyntaf. Rwyf wedi dod i'r casgliad, er bod pobl yn dweud bod yr hen ddywediad yn fyth ... efallai y dewch chi o hyd i botyn o aur ar ddiwedd y Rustic Rainbow.
“Wnes i erioed gynllunio i fod yn actifydd. Fe wnaeth cael fy ngalw yn enwau sarhaus ar y stryd fy ngyrru i annog addysg ac empathi ac i newid agweddau.”
Gallwch ddod o hyd i Rustic Rainbow ar Facebook a dysgu mwy am Pride Caer ar-lein yma https://www.chesterpride.co.uk LGBTQYMRU
45
HEL ATGOFION (HANES LGBT YNG NGHYMRU)
Gan Imogen Coombs
Mae hanes y gymuned lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol yn un cyfoethog yng Nghymru ac mae'n hanfodol ymdrochi yn yr hanes hwn er mwyn cydnabod sylfeini gwreiddiol cymunedau LGBTQ+, cydnabod y sylfaenwyr ac, yn bwysicaf oll, ddathlu pa mor bell y mae'r gymuned wedi dod.
46
LGBTQYMRU
Bydd yr erthygl hon yn eich tywys i'r cyfeiriad cywir o ran lle y gallwch gael hyd i straeon unigryw am LGBT Cymru. Mae nifer o flogiau ac erthyglau sy'n trafod ac yn ymchwilio i hanes LGBT Cymru. Dyma rai ohonyn nhw, Cymru ers 1945, Y Gronfa Dreftadaeth, Senedd Ieuenctid Cymru, Yr Amgueddfa Brydeinig,
“Os oes yn well gennych chi ddysgu wrth symud, mae gennym ni yr union beth ichi. Mae podlediadau yn cynyddu mewn poblogrwydd ac mae llawer wedi'u cynhyrchu am hanes LGBT. Crëwyd podlediad gan Simon Brown sy'n ein cysylltu â'n treftadaeth LGBT.”
Blog The Comma Press ac Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd, sy’n cyffwrdd ar straeon o hanes LGBT. Mae Norena Shopland, sylfaenydd Rainbow Dragon, yn cynhyrchu straeon am hanes LGBT Cymru. Un o’i hoff storïau a rannodd oedd bywyd Girly Grey o bapur newydd yn dyddio'r holl ffordd yn ôl i 1890. Mae'r stori yn adrodd hanes Girly Grey a ffurfiodd berthynas â'r Arglwyddes Anthony, a byddai'r ddau yn aml yn ymarfer dramâu gyda'i gilydd yng nghartref yr arglwyddes. Byddai Girly yn aml yn gwisgo mewn dillad merched ac yn chwarae rhan y fenyw a byddai'r Arglwyddes Anthony yn cymryd rôl y dyn. Pan nad oedden nhw’n actio, byddai'n well gan yr arglwyddes gael ei galw yn ‘fachgen’ Girly. Os oes yn well gennych chi ddysgu wrth symud, mae gennym ni yr union beth ichi. Mae podlediadau yn cynyddu mewn poblogrwydd ac mae llawer wedi'u cynhyrchu am hanes LGBT. Crëwyd podlediad gan Simon Brown sy'n ein cysylltu â'n treftadaeth LGBT. Mae Attitude Heroes hefyd yn neilltuo pennod i'w bodlediad sy’n cynnwys Mark Gatiss yn siarad am ei brofiadau personol a'r sîn LGBT yn y 70au. Mae Mark yn
disgrifio bod yn hoyw yn y 70au fel 'dewis eich opsiynau TGAU yn yr ysgol; rydych chi yn y tywyllwch yn llwyr'. Mae Mark yn cydblethu hiwmor yn ei straeon, felly os ydych chi eisiau gwrando ar rywbeth ysgafn, mae'r podlediad hwn yn hanfodol. Mae digwyddiadau ar gael i'r cyhoedd i wella eu gwybodaeth am hanes LGBT Cymru. Mae hyn yn cynnwys sgwrs yn y Senedd sy'n digwydd yn ystod mis Hanes LGBT, ac mae'r sgyrsiau hyn yn cynnwys straeon unigryw nad yw cymdeithasau yn gyffredinol yn cael eu dysgu amdanyn nhw, fel y swffragetiaid lesbiaidd a frwydrodd dros hawliau cyfartal yn ystod y chwedegau, a'r dyn rhyfeddol, Richard Desmond, a helpodd i frwydro yn erbyn deddfau llym ac anghyfiawn. Bu’n frwydr hir dros hawliau cyfartal yng Nghymru sy'n dal i barhau hyd heddiw ond mae'n frwydr a fydd yn cael ei chofio am byth. Mae'r gymuned LGBT wedi paratoi’r ffordd ar gyfer byd cyfiawn ac ni fydd hyn fyth yn cael ei anghofio oherwydd y rhai sy'n cofio, yn dathlu ac yn rhannu eu straeon.
LGBTQYMRU
47
#FALCHICHWARAE Mae Chwaraeon LGBT+ Cymru yn fudiad gwirfoddol a grëwyd gan ac ar gyfer pobl LGBTQ+ ac mae’n ymdrechu i wneud chwaraeon yn fwy hygyrch i bobl queer yng Nghymru. Gan Fen Shields
Mae Michelle Daltry, Cadeirydd Chwaraeon LGBT+ Cymru, yn ysgrifennu “Ein gweledigaeth ni yw cefnogi’r broses o greu cymuned chwaraeon ffyniannus, gynhwysol ledled Cymru, lle mae unigolion LGBT+ yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu croesawu a’u bod yn rhydd o wahaniaethu…”. Mae’n gweithio tuag at y nod hwn drwy gydweithredu â grwpiau eraill fel Chwaraeon Cymru a Stonewall Cymru. Ei ddatganiad craidd yw “Mae homoffobia, deuffobia a thrawsffobia mewn chwaraeon yn annerbyniol”. Mae ei wefan yn cynnwys adran o'r enw 'Clybiau' lle gallwch chi ddod o hyd i glybiau chwaraeon cynhwysol LGBT+ yn agos atoch chi. Gallwch chi chwilio drwy ddewis un o'r un ar bymtheg o chwaraeon sydd ar gael sy’n amrywio o rygbi i drawsffit i antur, neu ar sail eich cod post i ddod o hyd i'r clybiau mwyaf hygyrch i chi ymuno â nhw. Mae'r mwyafrif o'r rhain wedi'u lleoli yn Ne Cymru ond mae Chwaraeon LGBT+ Cymru wrthi'n gweithio i gynyddu ei bresenoldeb yng Ngogledd a Gorllewin Cymru. Mae’n gobeithio agor clybiau mwy cyfeillgar i bobl queer yn yr ardaloedd hyn yn fuan. Mae’r adnoddau ar ei wefan wedi'u rhannu'n bedair prif adran: Siarter, Llawlyfr Arferion Da, Cynnwys Pobl Ifanc LGBT+, a Chyfranogiad Pobl Draws. Mae pob sefydliad sy'n gweithio 48
LGBTQYMRU
Ein gweledigaeth ni yw cefnogi’r broses o greu cymuned chwaraeon ffyniannus, gynhwysol ledled Cymru, lle mae unigolion LGBT yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu croesawu a’u bod yn rhydd o wahaniaethu… gyda Chwaraeon LGBT+ Cymru wedi cytuno i ddilyn yr amlinellau yn eu Siarter i helpu gyda chynwysoldeb mewn Chwaraeon. Mae ei lawlyfr yn tynnu sylw at ymrwymiadau gwleidyddol a wnaed i frwydro yn erbyn homoffobia, deuffobia a thrawsffobia mewn chwaraeon. Mae erthyglau perthnasol am y cynnydd a’r gwaith sy'n cael ei wneud hefyd yn cael eu cyhoeddi ar y wefan o dan y pennawd “Straeon”. Gallwch ddod o hyd i'r wefan yn https://www. lgbtsport.cymru/cymraeg. Mae'n hynod o hygyrch gan ei fod yn rhoi opsiynau i newid maint y testun, ffont y testun a’r cyferbyniad, i amlygu’r dolenni a lleihau’r symudiad.
BUSNESAU Ydych chi'n berchen ar fusnes LGBTQ neu'n ei redeg? Ydych chi'n nodi eich bod yn LGBTQ ac yn rhedeg eich busnes eich hun? Ydych chi'n gwybod am berchennog busnes neu fusnes sy’n darparu ar gyfer pobl LGBTQ yn benodol? Os ydych chi, byddem yn falch iawn o glywed gennych chi ble bynnag y mae'r busnes hwnnw yng Nghymru. Rydym yn hynod o awyddus i ddarparu llwyfan ar gyfer ein busnesau LGBTQ yng Nghymru a byddem wrth ein bodd i’w cynnwys yn ein cyhoeddiad chwarterol. Anfonwch neges atom ni yn Magazine@LGBTQymru. Wales gan roi 'Busnes LGBTQ' yn y blwch pwnc.
GRWPIAU Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol LGBTQ? Efallai eich bod chi’n aelod o grŵp darllen, côr, grŵp perfformio, clwb cinio neu dîm chwaraeon LGBTQ? Rydym yn gwybod bod llawer o bobl ar hyn o bryd yn gorfod cwrdd yn rhithiol ac nid yw rhai yn cwrdd o gwbl. Ond mae gennym ddiddordeb mewn taflu goleuni ar grwpiau lleol Cymru a dweud wrth y gymuned LGBTQ ehangach yng Nghymru amdanyn nhw - ac efallai y gallwn ni hyd yn oed annog mwy o aelodau i ymuno â chi. Os ydych chi eisiau dweud wrthym ni am eich grŵp Cymunedol, beth bynnag yw, anfonwch e-bost byr atom yn Magazine@LGBTQymru.Wales gan roi 'Grŵp Cymunedol LGBTQ' yn y blwch pwnc.
LGBTQYMRU
49
Mae ein seicotherapydd preswyl, Andy Garland, sylfaenydd a chyfarwyddwr clinigol Andy Garland Therapies, y clinig iechyd meddwl, yn ymuno â'r tîm LGBTQymru i ateb eich cwestiynau.
Mae arbenigeddau Andy yn canolbwyntio ar achosion o drawma, caethiwed, pobl ifanc sy’n delio â hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta, profedigaeth gymhleth, galar a materion perthnasau. Gan weithio'n agos gyda grwpiau sy’n amrywiol o ran rhywedd a rhyw, mae ganddo hefyd arbenigedd yn y maes hwn o iechyd meddwl.
CWESTIWN Beth fyddai eich awgrymiadau gorau ar gyfer edrych ar ôl eich iechyd meddwl wrth i ni ddod allan o bandemig byd-eang y mae’n ymddangos fel pe bai wedi cael effaith negyddol ar lawer o bobl? Rosa 50
LGBTQYMRU
ATEB Mae hwn yn gwestiwn poblogaidd, Rosa. Mae'r pandemig wedi herio sut rydym yn ystyried bywyd 'normal'. Y gwir yw, does dim 'normal', dim ond ein ffyrdd unigol o ddelio â phethau. Rwyf wedi clywed y cyfnod hwn yn cael ei ddisgrifio fel amser i ddeffro a chredaf ei fod yn gyfle i bob un ohonom ni fyfyrio ar sut rydym yn byw ein bywydau, ac i ofalu amdanom ni ein hunain a'n gilydd.
Delwedd: Talk with Andy
Pan fydd rhywbeth drwg yn digwydd, mae llawer ohonom, a dim ond bryd hynny, yn penderfynu gweithredu. Meddyliwch amdano fel rhywun nad yw'n gofalu am hylendid ei geg, ac yna'n sylwi ar bydredd. Dim ond pan fydd argyfwng y maen nhw'n penderfynu gweithredu a newid. Nid yw'n cymryd therapydd i dynnu sylw at y ffaith bod atal yn llawer iachach na gwella, er ei fod, mae’n siŵr, beth o'r amser! SYMLEIDDIWCH BETHAU Dyna'r man cychwyn wrth ystyried sut i ofalu am eich iechyd meddwl. Os byddwch chi'n gorgymhlethu hunanofal, mae'n dod yn feichus, a byddwch yn llawer llai tebygol o gadw ato. Sy'n fy arwain at yr argymhelliad nesaf. BYDDWCH YN GYSON Gofynnodd claf imi unwaith pa mor hir y dylen nhw barhau gyda'r ymarferion a osodais iddyn nhw. Fy ymateb i oedd, 'am weddill eich oes'! Gadewch inni fynd yn ôl at hylendid ein cegau - oni fyddai’n benderfyniad afiach dewis glanhau ein dannedd unwaith yn unig yn ystod ein bywydau? Rwy'n gobeithio y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno mai 'byddai' yw’r ateb i'r cwestiwn hwnnw! Byddwch mor ofalus a chyson o ran eich
iechyd meddwl ag y byddech chi o ran eich hylendid personol. GWNEWCH YR HYN SY'N GWEITHIO I CHI Mae yna lawer o awgrymiadau i’w cael mewn cylchgronau ac ar fforymau ar-lein ynghylch sut i ofalu am eich iechyd meddwl. Does dim rheolau, felly gwnewch rai eich hunain. Gwnewch y pethau rydych chi'n caru eu gwneud a heriwch eich hun bob dydd gyda rhywbeth newydd. Nid oes angen i'r pethau hyn fod yn bethau mawr, felly gall eistedd yn llonydd a sylwi ar y distawrwydd neu wrando ar gân sy'n codi eich calon chi ddod â llawenydd a boddhad i chi. Gwnewch bethau amrywiol a newidiwch beth rydych chi’n ei wneud - gall meithrin eich iechyd meddwl fod yn hwyl ac yn werth chweil. DERBYNIWCH Y CYFNODAU ISEL Mae ein llesiant meddyliol yn amhendant, sy'n golygu ei fod yn newid ac nad yw bob amser yn sefydlog. Derbyniwch hyn a chydnabyddwch yr hyn rydych chi'n ei deimlo. Gall ei osgoi neu ei wthio i'r ochr roi rhywfaint o ryddhad yn y tymor byr, er nad yw’n aml yn diflannu drwy esgus nad yw yno. Rwy'n gwerthfawrogi y gall wynebu meddyliau ymwthiol a phrofiadau anodd ddod ag LGBTQYMRU
51
“Mae ein llesiant meddyliol yn amhendant, sy'n golygu ei fod yn newid ac nad yw bob amser yn sefydlog. Derbyniwch hyn a chydnabyddwch yr hyn rydych chi'n ei deimlo. Gall ei osgoi neu ei wthio i'r ochr roi rhywfaint o ryddhad yn y tymor byr, er nad yw’n aml yn diflannu drwy esgus nad yw yno.”
anesmwythder a thrawma, ond chi sy'n berchen ar eich iechyd meddwl - peidiwch â gadael iddo eich rheoli. ESTYNNWCH ALLAN A GOFYNNWCH AM HELP Rydym wedi symud ymlaen mewn camau mawr i herio'r stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl. Mae'n fwy nag iawn cael adegau pan fyddwch chi'n teimlo'n sâl yn feddyliol, felly gadewch i'r bobl o'ch cwmpas chi helpu. Dydi’r ffaith eich bod chi’n teimlo'n sâl ddim o reidrwydd yn golygu bod eraill yn gallu ei weld. Felly, siaradwch, gadewch iddyn nhw wybod, a gofynnwch am help. Rwy'n siŵr y cewch chi eich synnu gan yr ymateb cadarnhaol a gewch chi.
CWESTIWN Annwyl Andy. Rwyf wedi bod yn ffodus i gael iechyd meddwl da erioed. Ond, fe newidiodd yn ystod y pandemig - nid yn sylweddol - ond rwy'n deffro'r rhan fwyaf o foreau yn gor-feddwl, ychydig yn orbryderus ac yn poeni am bethau bach nad oeddwn i’n arfer poeni amdanyn nhw.
52
LGBTQYMRU
Ydy hyn yn normal? Ydych chi'n meddwl y bydd fy iechyd meddwl i’n dychwelyd i’w gyflwr cyn y pandemig? Diolch. Jay
ATEB Adroddwyd yn eang faint o bobl sydd wedi sylwi ar newid yn eu hiechyd meddwl ers i'r pandemig ddechrau, ac rwyf wedi gweld hyn yn bersonol yn fy nghlinig. Byddai rhai o'r bobl hynny wedi profi iechyd meddwl gwael am y tro cyntaf, ac mae'n swnio fel eich bod chi'n un ohonyn nhw, Jay. Newidiodd ein bywydau ni a'r byd o'n cwmpas ni’n gyflym ar ddechrau'r pandemig hwn. Roedd hyn yn golygu, i'r mwyafrif o bobl, fod eu profiad o fywyd wedi lleihau. Gyda llai o weithgaredd, trefn a chyswllt cymdeithasol, gall ein hymennydd meddwl ddechrau gweithio’n rhy galed. Dyma ychydig bach o wyddoniaeth: mae ein hymennydd yn cynnwys llwybrau niwral, ac mae cyfres o niwronau’n eu cysylltu. Mae'r niwronau
Delwedd: Talk with Andy
hyn yn anfon signalau o un rhan o'r ymennydd i ran arall, ac maen nhw'n prosesu'r wybodaeth rydyn ni'n ei derbyn. Maen nhw’n caniatáu inni ryngweithio, yn ogystal â phrofi emosiynau a theimladau. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am greu ein hatgofion ac yn ein galluogi i ddysgu. Yn y bôn, mae llwybrau niwral yn ffynnu ar bethau cyfarwydd - maen nhw'n tyfu'n gryfach ac yn sefydlu mwy o batrymau. Pan fydd ein bywydau ni’n newid, yn enwedig yn ystod argyfwng neu drawma, mae'ch ymennydd meddwl chi’n ceisio eich tynnu chi i un cyfeiriad, ac mae realiti yn ceisio eich tynnu i gyfeiriad arall. Pan fydd hyn yn digwydd, gall beri gor-feddwl, pryder, ofn a gor-bryder. Felly, mae eich profiad yn normal, ac i'r mwyafrif o bobl, byddant yn dychwelyd yn ôl i gael iechyd meddwl da. Rwy’n mawr obeithio y bydd ein profiadau ni yn ystod yr argyfwng hwn yn sicrhau na fyddwn ni’n dychwelyd at unrhyw beth cyn y pandemig yn yr un modd, ac mae hyn yn cynnwys peidio â chymryd ein hiechyd meddwl yn ganiataol.
CWESTIWN Annwyl Andy. Daeth fy mhlentyn allan fel person traws yn ystod y cyfnod clo, ac rydw i'n cael trafferth mawr â’r peth. Rwy'n teimlo fy mod i
wedi colli'r plentyn y gwnes i ei fagu a nawr rydw i'n gwneud camgymeriadau drwy’r amser. Roedd mor annisgwyl ac mae hyn i gyd yn newydd sbon i mi. Byddaf yn caru fy mhlentyn â'm holl galon am byth ond, ar hyn o bryd, nid wyf yn gallu helpu teimlo’n bryderus drostyn nhw, yn euog am beidio â gwybod hyn yn gynt a galar dros golli'r plentyn yr oeddwn i'n meddwl fy mod i'n ei adnabod. Peter.
ATEB Galla i weld yn ôl eich cwestiwn chi, Peter, eich bod yn poeni'n fawr. Mae'ch plentyn wedi gwneud cam mor bwysig drwy ddweud wrthych chi, a galla i fod yn sicr na fyddai wedi bod yn hawdd iddyn nhw ddod allan i chi. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yn y tymor byr yw rhoi gwybod iddyn nhw eich bod chi’n eu cefnogi a'u caru nhw. Does dim rhaid i chi gytuno â'u penderfyniad ar hyn o bryd, ond dylech chi ddod o hyd i ffordd i'w dderbyn. Weithiau, gall fod yn rhy hawdd anghofio'r effaith y gall 'dod allan' ei chael ar y teulu estynedig. Mae normau cymdeithasol yn newid, er bod peth ffordd i fynd o hyd cyn y bydd pobl drawsryweddol yn cael derbyniad tebyg i rannau eraill o'n cymuned LGBTQ+.
LGBTQYMRU
53
“Poeni, ofn, euogrwydd, dicter, pryder - mae'r rhain i gyd yn emosiynau dilys. Peidiwch â'u gwthio i ffwrdd, mewn gwirionedd dewch i'w hadnabod, a gofynnwch i'ch hunan pam eu bod nhw yno. Pa bwrpas cadarnhaol y gallan nhw ei chwarae? Pan gofleidiwn ni holl emosiynau bywyd yn yr un modd ag yr ydym yn ei wneud gyda hapusrwydd, llawenydd a bodlonrwydd, mae'n haws brwydro drwy’r amseroedd anodd.”
Mae'r plentyn hwnnw rydych chi'n dweud eich bod chi wedi'i golli wedi dod yn fwy o berson mewn gwirionedd, felly mae mwy ohonyn nhw i’w caru ac i ddod i’w hadnabod. Mae gwneud camgymeriadau yn hollol iawn ac mae gofyn llawer o gwestiynau yn normal iawn, ac yn bwysig hefyd. Does dim disgwyl ichi fod yn arbenigwr dros nos ar bopeth traws, felly tynnwch y pwysau i ffwrdd ohonoch chi eich hunan. Gall dod i arfer â rhagenwau newydd, a newid enw gymryd cryn amser. Cofiwch fod eich plentyn hefyd yn wynebu heriau newydd ac yn profi eu hunain yn y byd mewn ffordd wahanol, felly rydych chi'ch dau y tu allan i'r hyn a oedd yn arfer bod yn normal. Bydd eich profiadau yn wahanol, er eu bod yn cael eu rhannu. Poeni, ofn, euogrwydd, dicter, pryder - mae'r rhain i gyd yn emosiynau dilys. Peidiwch â'u gwthio i ffwrdd, mewn gwirionedd dewch i'w hadnabod, a gofynnwch i'ch hunan pam eu bod nhw yno. Pa bwrpas cadarnhaol y gallan nhw ei chwarae? Pan gofleidiwn ni holl emosiynau bywyd yn yr un modd ag yr ydym yn ei wneud gyda hapusrwydd, llawenydd a bodlonrwydd, mae'n haws brwydro drwy’r amseroedd anodd. 54
LGBTQYMRU
Mae euogrwydd yn emosiwn diddorol, mae bron yn dweud mai chi sy'n gyfrifol, ac mai eich bai chi yw rhywbeth ac, wrth gwrs, nid ydym i gyd yn ddi-fai drwy'r amser. Rwy'n deall sut y gallech chi fod yn profi euogrwydd, drwy beidio â gwybod yn gynt, a'r galar o golli rhywun yr oeddech chi'n meddwl eich bod chi'n ei adnabod. Byddwch chi'n gwybod fel rhiant eich bod chi'n rhyw fath o wneud pethau i fyny wrthi i chi fynd yn eich blaen! Mae yna gân gan Savage Garden o'r enw Affirmation, ac un llinell ohoni yw, ‘I believe your parents did the best job they knew how to do’. Mae yna eithriadau, rwy'n gwybod, ond mewn egwyddor rwy'n cytuno â hyn. Ni allwch chi ail-greu’r gorffennol, felly dewch o hyd i ffyrdd o ddefnyddio eich holl egni i dderbyn, a dod i adnabod eich plentyn mewn ffordd lawnach.
CWESTIWN Ers y cyfnod clo, rydw i wedi bod yn gweithio gartref, sy'n golygu fy mod i wedi gallu bod yn fi fy hun. Doeddwn i ddim wedi dod allan yn y gwaith, ond mae’r cyfnod clo wedi caniatáu imi fod yn fi fy hun yng nghyfforddusrwydd fy
nghartref fy hun heb ofni y bydda i’n cael fy mwlio neu y bydd pobl yn meddwl yn wahanol amdana i. A oes gennych chi unrhyw gyngor ar sut y galla i ddod dros y pryder hwn? Jamie.
ATEB Nid oes yn rhaid i chi fyth fod y fersiwn berffaith ohonoch chi'ch hun, dim ond fersiwn y gallwch chi ei derbyn. Dyna'ch man cychwyn chi, Jamie, a theimlaf o'ch cwestiwn chi eich bod chi eisoes ar y trywydd iawn. Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd bod yn nhw eu hunain ym mhob rhan o'u bywydau. Rydych chi angen dim ond digon o hyder i fod yn chi'ch hun yn barhaus. Dychmygwch deimlad mor rhydd fyddai hynny? Mae'r hyder hwn yn dechrau gyda phoeni llai am beth yw eich canfyddiadau chi o'r hyn rydych chi'n ei feddwl yw canfyddiadau pobl eraill. Darllenwch hynny eto ... ac un tro arall!
Delwedd: Talk with Andy
Os ydych chi'n cael eich bwlio ac yn ofni unigolion yn y gwaith, dewch o hyd i ffordd i hysbysu rhywun. Ymddiriedwch mewn cydweithiwr neu reolwr llinell neu hysbyswch rywun yn ddienw drwy'ch adran Adnoddau Dynol. Ni ddylai unrhyw berson brofi niwed, yn yr hyn a ddylai fod yn amgylchedd diogel i chi. Yn aml, ein meddyliau a'n barn ni ein hunain sy'n ein dal ni’n ôl. Efallai y dylech chi ysgrifennu deg peth rydych chi'n eu hoffi amdanoch chi'ch hunan, ac yna gofyn a ydych chi'n caniatáu i eraill weld y pethau hyn. Po fwyaf o ymwybyddiaeth rydych chi'n ei roi i’ch rhinweddau, a pho fwyaf rydych chi’n cofleidio ac yn dathlu'ch gwahaniaethau, y mwyaf cyfforddus y byddwch chi drwy fod yn chi eich hunan.
LGBTQYMRU
55
phobl LGBTQ+ eraill. ddealltwriaeth ar unw eich bod yn ddiogel i pan fyddwch chi yn LGBTQ+ eraill. Rwy'n c ar unwaith honno o ddiogel i fod yn chi eic chi yn rhywle gyda - Catrin Rwy'n caru unwaithhonnoowybo i fod yn chi eich hunan rhywle gyda phobl 56
LGBTQYMRU
- Catrin Rwy'n caru'r waith honno o wybod fod yn chi eich hunan n rhywle gyda phobl caru'r ddealltwriaeth wybod eich bod yn ch hunan pan fyddwch phobl LGBTQ+ eraill. u'r ddealltwriaeth ar odeichbodynddiogel n pan fyddwch chi yn LGBTQ+ eraill. Rwy'n LGBTQYMRU
57
SERO ERBYN 2030 Ar Ddiwrnod AIDS y Byd, eisteddais i lawr gyda’r ymgyrchydd hawliau LGBT Lisa Power i drafod actifiaeth AIDS ddoe a heddiw. Gan Evie Barker
Ar ôl iddi fy archwilio drwy chwifio ei chynffon ychydig o weithiau i fy nghyfeiriad i, aeth y gath achub, Madam, i’w man eistedd oddi ar y sgrîn i wrando ar gyngor ei pherchenog ar godi ymwybyddiaeth, lleihau stigma, a pharhau i fod yn aelod gweithgar o'ch cymuned Queer yn ystod pandemig y Coronafeirws. Mae Lisa wedi bod ar reng flaen rhai o frwydrau enwocaf hanes Queer. Pan ymunodd â Switchboard, llinell gymorth dros y ffôn ar gyfer y gymuned LGBT, ym 1979, dechreuodd Lisa 'gael galwadau am y peth newydd rhyfedd hwn a oedd yn digwydd i ddynion hoyw yn Efrog Newydd'. Cyflwynodd AIDS gymaint o ansicrwydd i’r gymuned Queer a'r cyhoedd fel ei gilydd fel 58
LGBTQYMRU
bod Lisa'n cofio; ‘(Switchboard) oedd y lle yr oedd pawb yn ei ffonio ac, yn gyflym, daethom ni’n un o'r prif hybiau gwybodaeth'. Arweiniodd yr oedi mewn esboniad gwyddonol o'r clefyd at stigma ac anwybodaeth eang. Un enghraifft oedd galwad ffôn a dderbyniodd Lisa gan fenyw oedrannus 'a oedd yn poeni y byddai ei chath yn cael AIDS pe bai’n brathu dyn hoyw'. Mae Lisa yn galw ei hun yn 'un o'r biwrocratiaid AIDS cyntaf'; gwnaeth ei blynyddoedd o brofiad ei gwneud yn 'wirion o gyflogadwy', gan ei thaflu i yrfa gyda sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, Fast Track Cities a hyd yn oed Gyngor Hackney. Dywedodd Lisa 'Am ryw reswm, roedden nhw’n credu y byddai'n llai o drafferth cyflogi
“Nod nesaf Lisa yw 'gwneud Cymru Queer yn genedl garedicach a hynawsach’, felly mae hi'n annog pawb i 'fynd allan a dechrau gwirfoddoli a helpu gyda'ch cymuned Queer leol' cyn gynted â phosib. phosib.”
lesbiad na dyn hoyw'; mae’r ddau ohonom ni’n chwerthin yn eironig am hynny. Gyda datblygiad triniaethau achub bywyd a meddyginiaeth ataliol (fel PrEP), nid yw actifiaeth AIDS yn ymwneud â mynd i'r afael â'r afiechyd yn unig mwyach. Tynnodd Lisa sylw at faterion 'tlodi, iechyd meddwl ac unigrwydd' a brofwyd gan y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw, yn enwedig dynion hoyw hŷn a gollodd lawer o'u cylch cymdeithasol i AIDS. Ar hyn o bryd, mae Lisa yn gweithio gyda Fast Track Caerdydd a'r Fro i gyfuno adnoddau clinigwyr, cynghorwyr, grwpiau cymorth ac elusennau. Dywed Lisa nad yw hi 'erioed wedi gweld unrhyw le fel Cymru, lle nad yw bron neb yn agored am ei statws HIV.' Awgrymodd mai'r ateb yw cael gwared ar stigma drwy addysg. Nid oes digon o bobl yn gwybod, er enghraifft, 'Os ewch chi ar driniaeth HIV, ni ellir ei olrhain,’ sy'n golygu na ellir ei drosglwyddo. Mae profion yn hanfodol er mwyn cyrraedd y nod o ddim achosion erbyn 2030. 'Pan ddechreuon ni flwyddyn yn ôl, yr unig brofion y gallech chi eu cael yn swyddogol yng Nghymru oedd drwy fynd i glinig Heintiau a
Drosglwyddir yn Rhywiol', meddai Lisa, ‘ac nid oes gan Bowys, ymhlith siroedd eraill, wasanaethau iechyd rhywiol o gwbl’. Felly, fel y ffurf fwyaf hygyrch, cyflym a phreifat, profion cartref yw'r dyfodol. Daeth ein trafodaeth i ben gyda sgwrs am effaith y Coronafeirws, a sut y gallwn ni gyflawni gweithredoedd bach ar gyfer y gymuned o fewn cyfyngiadau’r cyfnod clo. 'Mae gwleidyddiaeth yn bersonol,' meddai Lisa. 'Gwnewch beth bynnag sy'n iawn i estyn allan at bobl eraill.' 'Rwy'n rhywun sy'n eithaf cryf, ond mae'n hyfryd ar hyn o bryd pan fydd rhywun yn fy ffonio’n ddi-rybudd.' Mae Lisa yn ein hatgoffa 'Mae hon yn daith hir,’ ac mae’n awgrymu y dylai’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd trosglwyddo i fywyd ar-lein gymryd seibiant o’r cyfryngau cymdeithasol. Nod nesaf Lisa yw 'gwneud Cymru Queer yn genedl garedicach a hynawsach’, felly mae hi'n annog pawb i 'fynd allan a dechrau gwirfoddoli a helpu gyda'ch cymuned Queer leol' cyn gynted â phosib. LGBTQYMRU
59
Y GWAHARDDIAD GWAED LGBTQ+ I GAEL EI GODI'R HAF Bydd y cyfyngiadau sy'n gwahardd rhai yn y gymuned LGBTQ+ rhag rhoi gwaed yn cael eu codi eleni, ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu. Gan Jordan Howell
Mae'r newid yn rhan o ddull gweithredu ledled y DU, gyda Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn rhoi’r newid ar waith. O dan y system bresennol, a luniwyd gan Bwyllgor Cynghori’r DU ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau, gall dynion hoyw a deurywiol roi gwaed dim ond os ydyn nhw wedi ymatal rhag cael rhyw am dri mis. Cyn 2017, y cyfnod o ymatal a bennwyd oedd deuddeg mis. Roedd hyn er gwaethaf prinder rhai mathau o waed. Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething: “Bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi diwedd ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobl yn y gymuned LGBT+ wedi’i wynebu. 60
LGBTQYMRU
“Gyda’r cynnydd a’r sicrwydd mawr y mae ein harbenigwyr meddygol a’n systemau wedi’u sicrhau, gallwn bellach gael gwared ar y rhwystrau sydd wedi bodoli ers amser maith ac sydd wedi golygu na all rhai pobl LGBT+ roi gwaed yn hawdd.” Talodd Mr Gething deyrnged hefyd i'r gweithwyr meddygol proffesiynol, y gweision sifil a'r rhai sydd wedi ymgyrchu i wneud i'r newid ddigwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i wneud cynnydd ar faterion LGBTQ+ dros y degawd diwethaf, gan gynnwys ar briodasau rhwng pobl o'r un rhyw a hi oedd cenedl gyntaf y DU i sicrhau bod y cyffur ataliol PrEP i drin HIV ar gael ar y GIG.
Delwedd: Welsh Government
“Mae heddiw’n teimlo fel moment go iawn i ddynion hoyw a deurywiol sydd wedi cael eu gwahardd am gyfnod rhy hir ar sail rhagdybiaethau hen ffasiwn.” Y llynedd, roedd deiseb a gyflwynwyd gan Blood Equality Wales yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y cyfnod ymatal o dri mis cyn rhoi gwaed, gan ddewis “asesiad unigol yn seiliedig ar risg” yn lle hynny i asesu ymddygiad rhywiol. Mewn man arall, llofnododd dros 72,000 o bobl ddeiseb ledled y DU a sefydlwyd gan sylfaenydd FreedomToDonate, Ethan Spibey. Cafodd ei annog i lunio’r ddeiseb ar ôl i berthynas golli wyth peint o waed yn ystod triniaeth lawfeddygol. Cynigiodd i roi ei waed ei hun, ond dywedwyd wrtho na allai oherwydd ei rywioldeb.
moment go iawn i ddynion hoyw a deurywiol sydd wedi cael eu gwahardd am gyfnod rhy hir ar sail rhagdybiaethau hen ffasiwn. “Mae llawer mwy i'w wneud i'n cymuned LGBTQ ym meysydd anghydraddoldeb iechyd ond mae heddiw'n ddiwrnod da.” Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi cadarnhau y bydd yn newid y cwestiynau y mae'n ofynnol i roddwyr eu hateb cyn rhoi gwaed, gan wneud y broses yn fwy cynhwysol.
Gan ymateb i’r newyddion, dywedodd: “Mae heddiw wedi bod mor arbennig ac mae’n teimlo fel LGBTQYMRU
61
62
LGBTQYMRU
TALK TO COCO “Mae gonestrwydd a thryloywder yn eich gwneud chi'n agored i niwed; byddwch yn onest ac yn dryloyw beth bynnag', fy ngeiriau enwog olaf i chi.”
Mae Coco, o Talk to Coco, yn actifydd iechyd meddwl ac yn awdur creadigol. Mae Coco wedi creu lle diogel i filoedd o bobl o bob cwr o'r byd gael rhywun i siarad â nhw ac i rannu eu profiadau, eu teimladau a'u meddyliau â nhw, a theimlo eu bod yn cael eu deall a'u derbyn. Gan Hia Alhashemi
Crëwyd Talk to Coco oherwydd roedd eisiau cael gwared ar yr holl stigma negyddol sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a dechrau siarad yn agored gan ddangos i gymaint o bobl fel y nhw nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain, ac fel bod pobl yn gweld person go iawn, yn y cnawd, yn siarad am faterion bywyd go iawn ac yn eu cyfleu. Roeddem ni’n ddigon ffodus bod ein Gohebydd Cymunedol, Hia, wedi cael cyfle i siarad â Coco i gael eu barn am faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl. Beth yw eich persbectif ar gymorth a gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru i bobl LGBTQ+ Does gen i ddim gwybodaeth o gwbl am y gwasanaethau penodol sydd ar gael i'r gymuned LGBTQ o ran iechyd meddwl! Dyna pam y penderfynais i ddechrau bod yn dryloyw a dyna sut y dechreuodd 'Talk to Coco': roeddwn i'n teimlo fel pe bai angen i mi godi fy llais am iechyd meddwl a bod yn llais/person i bobl, fel fi, fel nad ydym ni’n teimlo wedi ein hynysu ac ar ein pennau
LGBTQYMRU
63
ein hunan. Roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi newid pethau a dyna sut y daeth 'Talk to Coco' i fodolaeth. Daeth Talk to Coco yn llwyfan i mi fy hun, ac i eraill yn fy nghymuned ac o amgylch y byd, i gael hafan ddiogel, lle diogel lle nad oedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu barnu ac y gallent weld rhywun wyneb yn wyneb sy’n profi'r hyn y maen nhw’n ei brofi. Fel y gallant deimlo'n rhan o rywbeth a lle gallant fod yn nhw eu hunain yn llwyr; hyd yn oed drwy eistedd yn ôl a gwylio yn unig, a gallu uniaethu. Dyna yw'r hyn rwy'n ei wneud ac rwy’n bwriadu parhau i wneud hynny. Beth yw eich nodau a'ch amcanion ar gyfer y dyfodol Pan ddaw hi i nodau ac amcanion, mae’n rhywbeth eithaf anodd i mi. Mae yna dryloywder a dilysrwydd; felly, o ran cadw hynny, mae'n
64
LGBTQYMRU
golygu cymryd bob dydd fel y daw oherwydd, fel y gwyddoch chi gydag iechyd meddwl, nid yw unrhyw beth yn bendant ac mae’n rhaid gwneud popeth o ddydd i ddydd. Felly, cyn belled â fy mod i'n cael gwared ar stigma drwy hynny, rwy'n hapus. Hefyd, rydw i eisiau parhau i wthio realiti cymaint â phosib, er mwyn cael mynediad at gynifer o ffynonellau â phosib i rannu fy noethineb, cefnogaeth a realiti, fel nad yw pobl fel fi yn teimlo'n unig, neu nad yw pobl yn gallu uniaethu â ni. Rwyf eisiau parhau i fod yn eiriolwr dros bobl fel ni. Er mwyn parhau i wthio'r normal newydd, y ffaith ein bod ni'n bodoli ac nid ydym ni'n bobl wallgof, ryfedd sy'n haeddu cael eu hanwybyddu, neu eu pardduo gan y stigma o fewn cymdeithas - i wneud i'r bobl fach fel ni gael byd lle nad ydyn ni fyth yn gorfod cyrraedd y cyfnodau isel y gwnes i eu profi, yn y bôn.
“Nid yn unig am fod yn pwy ydym ni mewn perthynas â rhywioldeb, rhywedd a phobl, ond ein bod ni yn ni ac yn bobl, ni waeth sut mae ein hiechyd meddwl ni’n effeithio arnom ni. Y broblem yn fy marn i yw bod pobl yn meddwl ei bod hi'n haws i gymdeithas ein hanwybyddu ni, a dweud bod hynny’n iawn, neu adael i elusennau a chymunedau LGBTQ ddelio â ‘ni', yn hytrach na’i fod yn rhywbeth cyfunol.”
Beth yr hoffech chi ei weld yn cael ei wneud i gefnogi iechyd meddwl a llesiant y gymuned LGBTQ+. Dwi’n meddwl yr hoffwn inni gael ein cydnabod, nid yn unig am fod yn pwy ydym ni mewn perthynas â rhywioldeb, rhywedd a phobl, ond ein bod ni yn ni ac yn bobl, ni waeth sut mae ein hiechyd meddwl ni’n effeithio arnom ni. Y broblem yn fy marn i yw bod pobl yn meddwl ei bod hi'n haws i gymdeithas ein hanwybyddu ni, a dweud bod hynny’n iawn, neu adael i elusennau a chymunedau LGBTQ ddelio â ‘ni', yn hytrach na’i fod yn rhywbeth cyfunol. Mae angen i ni gael ein cydnabod a bod mwy o bobl â diddordeb ynom ni a’u bod ar gael inni, neu o leiaf dylai rhywun fel fi gael caniatâd i fod yn llais, neu fod yn berson dros newid. Rwy'n ceisio gwneud popeth o fewn fy ngallu i bobl fel fi beidio â theimlo wedi ein pardduo gymaint yn y byd hwn, ond dim ond un
person ydw i. Rydyn ni'n gwneud cynnydd yn araf, ac rwy'n obeithiol. Cyn belled â'n bod ni'n glynu gyda'n gilydd ac yn parhau i wthio’r ffiniau a newid y 'normau cymdeithasol,' byddwn ni'n goroesi.
Delwedd: Alfie Reddy
LGBTQYMRU
65
66
LGBTQYMRU
Beth sydd yn eich cwpwrdd dillad chi? Mae'r gymuned LGBTQ+ yr un mor amrywiol ag y mae’n anhygoel, ac mae hyn yn cynnwys ein steiliau a'n cypyrddau dillad. Ar gyfer y cwpwrdd dillad cyntaf yn y rhan reolaidd hon, mae un o ddawnswyr bol gorau Caerdydd yn siarad â'n Gohebydd Cymunedol, Danielle, am ei gwpwrdd dillad... Gan Danielle Herbert
Ers symud i Gaerdydd, mae Rahim, sy’n geisiwr lloches o Foroco, wedi dod yn ased i gymuned queer Cymru. Drwy ei sianel YouTube, mae Rahim, sy’n 28 oed, yn gobeithio darparu addysg ar faterion LGBTQ+, gan ffurfio’r gynrychiolaeth yr oedd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd iddi pan oedd yn tyfu i fyny. Gan egluro sut y dechreuodd ei daith o
hunanfynegiant, dywedodd, “Pan oeddwn i’n 11 oed, dechreuais archwilio fy hunaniaeth queer. “Rwy’n dal i gofio gwisgo sodlau uchel fy mam am y tro cyntaf a mynd drwy ei holl fagiau llaw. “Fe wnaeth hyn fy ngalluogi i i wthio heibio i’r gwrywdod gwenwynig y gwnes i ei brofi wrth dyfu i fyny mewn diwylliant patriarchaidd.
LGBTQYMRU
67
“Ers Ers pan oeddwn i'n ifanc, roedd fy mam bob amser yn arfer dweud 'paid â gwisgo'r jîns yna, maen nhw'n rhy dynn' neu 'mae'r lliw yna'n rhy fenywaidd. Mae ei llais yn dal yn fy meddwl i, felly rwy’n dal i geisio torri i ffwrdd o’r hyn y gwnes i ei ddysgu fel plentyn.”
Aeth ymlaen i egluro sut y mae dawnsio bol yn caniatáu iddo herio normau rhywedd traddodiadol. Meddai, “Pan fydda i’n perfformio, mae gen i gyfle i arddangos fy niwylliant ochr yn ochr â fy hunaniaeth queer. “Rwy’n teimlo hapusaf pan fydda i ar y llwyfan yn gwisgo fy ffrog dawnsio bol coch. Wrth siarad am ddod o hyd i’r hyder i fynegi ei hun mewn modd dilys, dywedodd, “Y tro cyntaf i mi wisgo ffrog ar y llwyfan, roeddwn i mor nerfus nes i mi benderfynu cadw fy jîns oddi tani. “Pan ddangosais i’r lluniau i fy ffrindiau, fe ofynnon nhw imi pam fy mod i wedi cadw fy jîns ymlaen. “Pan eglurais i pam, roedden nhw mor galonogol ac fe roeson nhw’r hyder imi eu tynnu i ffwrdd. “Y tro nesaf y gwnes i berfformio, wnes i ddim eu gwisgo nhw ac roeddwn i'n teimlo fy mod i'n gyflawn o'r diwedd.”
68
LGBTQYMRU
Er gwaethaf y ffaith iddo symud i Gaerdydd bedair blynedd yn ôl, aeth Rahim ymlaen i egluro sut y mae’n gallu clywed llais ei fam o hyd wrth ddewis beth i'w wisgo. Meddai, “Ers pan oeddwn i'n ifanc, roedd fy mam bob amser yn arfer dweud 'paid â gwisgo'r jîns yna, maen nhw'n rhy dynn' neu 'mae'r lliw yna'n rhy fenywaidd'. “Mae ei llais yn dal yn fy meddwl i, felly rwy’n dal i geisio torri i ffwrdd o’r hyn y gwnes i ei ddysgu fel plentyn. “Mae hi wedi bod yn daith hir i allu byw fel y person ydw i go iawn.” Pan ofynnwyd iddo beth fyddai’r un peth y byddai yn ei ddweud wrth ei hunan pan yn iau, dywedodd, “Cymer dy amser i ddod o hyd i dy lais. “Fesul ychydig, mi fyddi di’n llwyddo yn y pen draw.”
Rhaglen Balchder Abertawe a gynhaliwyd ym Mharc Singleton ym mis Mehefin 2010 © Amgueddfa Cymru National Museum Wales
Y seintiau sy'n dal i roi
Sut mae Sain Ffagan yn creu hanes! Mae Sain Ffagan yn llawer mwy nag amgueddfa o hanes Cymru. Mae'n llinell Gan Hia Alhashemi LGBTQYMRU
69
Ers iddi agor ym 1948, a 72 mlynedd yn ddiweddarach, mae ei heffaith yn dal yn fwy disglair nag erioed. Fel y dyfynnwyd gan y bardd Iorweth C. Peate (1948): 'Nid creu amgueddfa oedd yn cadw'r gorffennol marw dan wydr oedd y dasg ond un sy'n defnyddio'r gorffennol i gysylltu â'r presennol i roi sylfaen gref ac amgylchedd iach ar gyfer dyfodol eu pobl'. Drwy fod yn bwerdy ar gyfer hanes Cymru, mae cynrychiolaeth a chyfraniad LGBTQ+ Sain Ffagan yn hynod o ysbrydoledig. Yn gynharach yr wythnos hon, cefais y pleser o gyfweld â churadur hanes LGBTQ+ Sain Ffagan, Mark Ethridge. Gofynnais gwestiynau am beth yw hanfod Sain Ffagan, a'i effaith ar ein cymuned. Beth yw Sain Ffagan? Mae Amgueddfa Werin Sain Ffagan yng Nghaerdydd ac mae’n rhan o Amgueddfa Cymru - teulu Amgueddfa Genedlaethol Cymru o saith amgueddfa ledled Cymru. Mae Sain Ffagan yn adrodd hanes Cymru o 230,000 o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw drwy ei thair oriel dan do, a safle amgueddfa awyr agored sy'n cynnwys mwy na 50 o adeiladau hanesyddol, y mae llawer ohonyn nhw wedi'u symud o leoliadau ledled Cymru. Cafodd ei hagor ym 1948 a hi oedd amgueddfa awyr agored genedlaethol gyntaf y DU ac mae wedi tyfu i fod yn un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru.
“Yn gynnar y llynedd, cymerais gyfrifoldeb dros y casgliad LGBTQ+ yn Sain Ffagan ac rwyf wedi dechrau gweithio ar adeiladu'r casgliad hwn i fod yn gwbl gynrychioliadol o'r holl gymuned LGBTQ+ ledled Cymru.”
Bathodyn wedi'i wisgo yn ystod protestiadau yn erbyn Adran 28. © Amgueddfa Cymru National Museum Wales
Beth mae Sain Ffagan wedi'i wneud? Ers iddi agor ym 1948, mae Sain Ffagan bob amser wedi bod yn gysylltiedig â chofnodi a diogelu bywydau bob dydd pobl Cymru. Ym mis Hydref 2018, cwblhaodd Sain Ffagan brosiect ailddatblygu chwe blynedd gwerth £30 miliwn ac, yn 2019, dyfarnwyd gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf iddi am y gwaith hwn. Sut mae Sain Ffagan wedi cyfrannu at hanes cadarnhaol ein cymuned LGBTQ+? Mae Sain Ffagan wedi bod yn casglu hanes LGBTQ+ ers blynyddoedd lawer ac mae ganddi wrthrychau pwysig sy'n ymwneud â hanes LGBTQ+ Cymru. Rwy’n credu ei bod hi mor bwysig bod bywydau a phrofiadau pobl LGBTQ+ sy'n byw yng
70
LGBTQYMRU
Nghymru yn cael eu gweld yn ein sefydliadau treftadaeth. Yn gynnar y llynedd, cymerais gyfrifoldeb dros y casgliad LGBTQ+ yn Sain Ffagan ac rwyf wedi dechrau gweithio ar adeiladu'r casgliad hwn i fod yn gwbl gynrychioliadol o'r holl gymuned LGBTQ+ ledled Cymru. Rwyf wedi meithrin cysylltiadau â grwpiau cymunedol fel Glitter Cymru, grŵp cymdeithasol a chymorth ar gyfer pobl LGBTQ+ o leiafrifoedd ethnig. Yn garedig iawn, mae Glitter Cymru wedi rhoi ei faner, yn ogystal â ffotograffau ohoni’n cael
Baner a wnaed yn 2018 gan Glitter Cymru, grŵp cymdeithasol a chymorth ar gyfer pobl o leiafrifoedd ethnig LGBTQ+.
Rhithwir Cymru Gyfan bellach wedi'u cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn yr archif glyweledol yn Sain Ffagan. Yn ogystal â meysydd fel digwyddiadau Pride, rwyf wedi bod yn gweithio ar gasglu gwrthrychau eraill sy'n cynrychioli bywydau pobl LGBTQ+ yng Nghymru. Un gwrthrych pwysig a roddwyd eleni i Sain Ffagan oedd arwydd o dafarn y Kings Cross yng Nghaerdydd a ddefnyddiwyd yn y 1990au. Roedd y Kings Cross yn lleoliad hoyw rhwng y 1970au a 2011, a phan gaeodd yn 2011, hwn oedd lleoliad hoyw hynaf Cymru. Bydd gan lawer o bobl atgofion o'r amser a dreuliwyd yn y Kings.
Flyer for Llanilltud Fawr Pride, digwyddiad Balchder cyntaf Erioed Bro Morgannwg, a gynhaliwyd ar 1 Medi 2018. © Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
ei chario mewn amryw o ddigwyddiadau Pride, ac yn yr orymdaith Pride BAME gyntaf yng Nghymru a gynhaliwyd ym mis Awst 2019. Gwnes gyfarfod a’i aelodau i gofnodi hanesion llafar lle buom ni’n siarad am bwysigrwydd Glitter Cymru i’w aelodau a'u profiadau o fod yn LGBTQ+ yng Nghymru, ac mae'r rhain bellach wedi'u cadw yn yr archif hanes llafar yn Sain Ffagan. Eleni, oherwydd pandemig Covid-19, mae llawer o'r digwyddiadau Pride arferol wedi'u canslo. Yn lle hynny, mae digwyddiadau Pride wedi bod yn rhai rhithwir ac wedi'u cynnal ar-lein. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o grwpiau gan gynnwys Glitter Cymru a Pride Cymru i gasglu taflenni digidol a recordiadau fideo o'r digwyddiadau hyn. Fel yr wyf yn siŵr y bydd y darllenwyr yn gwybod, cynhaliodd LGBTQymru Pride Rhithwir cyntaf Cymru ar 2425 Gorffennaf 2020. Roeddwn yn falch fy mod i wedi gweithio gyda'r trefnwyr i sicrhau bod y digwyddiad hanesyddol pwysig hwn yn cael ei gasglu gan Sain Ffagan fel cofnod parhaol o sut mae digwyddiadau Pride wedi gorfod addasu eleni oherwydd Covid. Mae pob agwedd ar Pride
Oni bai bod gwrthrychau a’u straeon cysylltiedig yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ni fydd lleoedd fel Sain Ffagan yn gallu adrodd hanes llawn pynciau pwysig fel y frwydr dros hawliau cyfartal a phrotestiadau fel y rhai yn erbyn Adran 28, na dweud chwaith wrth ymwelwyr sut brofiad yw bod yn LGBTQ+ a byw yng Nghymru yn y gorffennol a heddiw. Cysylltwch â mi os oes gennych chi unrhyw wrthrychau yr hoffech chi eu rhoi i helpu i ddatblygu’r casgliad LGBTQ+ cenedlaethol yn Sain Ffagan.
Arwydd o dafarn The Kings Cross, y 1990au. Roedd y Kings Cross yn lleoliad hoyw o'r 1970au tan 2011. Pan gaeodd yn 2011 dyma oedd lleoliad hoyw hynaf Cymru. © Amgueddfa Cymru National Museum Wales
LGBTQYMRU
71
ADOLYGIAD LLYFR
Daryl Leeworthy's 'A Little Gay History of Wales' Mae llyfr Daryl Leeworthy, ‘A Little Gay History of Wales’, yn un newydd sbon ac mae’n un o’r llyfrau cyntaf i archwilio sut mae'r gymuned LGBTQ wedi cychwyn ar ei chylchoedd o ddatblygiad, gan ddod at ei gilydd a newid y byd yng Nghymru.
Gan Charles Stylianou
Mae'r llyfr yn tynnu ar y ffynonellau archifol cyfoethog ledled Prydain yn ogystal â thystion llafar a diwylliant materol. Mae'r llyfr yn canolbwyntio ar straeon pobl gyffredin. Un o gymeriadau rhagorol y llyfr yw Tom Davies, a ymunodd â'r fyddin yn bedair ar ddeg oed ym 1914 fel diddanwr drag ac a aeth ymlaen i berfformio ym Mharis, Berlin, Llundain, ac yng ngoleuadau llachar y Rhondda, i gyd cyn ei fod hyd yn oed yn ddeg ar hugain oed. Ysbrydoliaeth Leeworthy i ysgrifennu'r llyfr hwn oedd y nofelydd Armistead Maupin a ysgrifennodd am berthyn i'r ‘queer diaspora’, cymuned sy'n dod â'r holl bobl queer at ei gilydd.
72
LGBTQYMRU
“Y prif reswm dros ysgrifennu’r llyfr hwn oedd llenwi bwlch yn y llyfrau hanes am Gymru - a Phrydain yn fwy cyffredinol. Mae hanes LGBTQ+ wedi bod yn absennol i raddau helaeth o'r llyfrgell o lyfrau am y rhan hon o'r byd ac roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n hen bryd gwneud rhywbeth am hynny," meddai Leeworthy. Mae Leeworthy yn dweud y dylid cael llyfrgell gyfan o hanesion LGBTQ+ Cymru, sy'n cwmpasu'r gymuned yn ei holl amrywiaeth. Mae'n nodi diffyg hyn fel “methiant proffesiynol ar ran y byd academaidd yng Nghymru nad ydyn nhw wedi cymryd pobl LGBTQ+ yn ddigon o ddifrif.” Mae'r llyfr wedi'i ysgrifennu mewn arddull sy'n hygyrch i bawb. Mae'r awdur wedi cydbwyso
“Mae Leeworthy yn gobeithio y gall 'A Little Gay History of Wales' wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas, gan ei fod yn dweud, pan oedd yn tyfu i fyny, nad oedd hanes LGBTQ+ yn cael ei ganiatáu mewn ysgolion na llyfrgelloedd oherwydd y ddeddfwriaeth Adran 28.” terminoleg academaidd heb symleiddio'r neges gan greu llyfr gwirioneddol ddeniadol a difyr. Wrth holi Leeworthy beth oedd y bennod fwyaf diddorol iddo yn y llyfr, dywedodd mai Pennod 3 yw ei hoff un. Mae’n disgrifio: “Rwy’n cael fy swyno gan y ffyrdd y mae pobl gyffredin wedi llywio o gwmpas cyfyngiadau eu hamser i estyn allan at ddarpar bartneriaid ac wedi gwneud hynny mewn ffyrdd doniol a hunanddibrisiol. Mae hefyd yn ein hatgoffa ni bod pobl queer yn aml yn eithaf clyfar gyda’u defnydd o iaith ac yn chwarae o gwmpas ag ef - a, thrwy hynny, roedden nhw’n ymddangos wedi’u cuddio ond mewn golwg plaen."
pwerus i ni heddiw. Beth yw hi am ein cyfnodau ni ein hunain sy'n gwneud inni boeni gymaint am deimlad dynol iawn: cariad? ” Mae llyfr Daryl Leeworthy, ‘A Little Gay History of Wales’, ar gael drwy wefan Gwasg Prifysgol Cymru am £11.99. https://www. gwasgprifysgolcymru.org/book/a-little-history-ofwales/
Mae Leeworthy yn gobeithio y gall 'A Little Gay History of Wales' wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas, gan ei fod yn dweud, pan oedd yn tyfu i fyny, nad oedd hanes LGBTQ+ yn cael ei ganiatáu mewn ysgolion na llyfrgelloedd oherwydd y ddeddfwriaeth Adran 28. Oni bai bod y rheini a oedd yn gwybod y straeon yn digwydd eu hadrodd iddo, ni fyddai wedi dysgu dim. “Rwyf wedi teimlo erioed y gall ysgrifennu hanes o’r math hwn helpu i wella clwyfau’r cyfnod hwnnw wrth ein gwneud ni i gyd yn ymwybodol o orffennol a oedd yn llawn gwahanol ddyheadau. Beth oedd yn ei olygu, er enghraifft, i fod yn löwr yn union fel pawb arall yn eich cymuned ond roeddech chi’n dyheu am ddynion eraill - sut wnaethoch chi ymdopi â hynny? A oedd unrhyw un wir yn poeni gymaint â hynny? A’r ateb i'r cwestiwn olaf hwnnw - a oedd, am y rhan fwyaf o hanes, yn 'na, ddim mewn gwirionedd' - hwnnw yw’r un mwyaf LGBTQYMRU
73
BYDDAI BYWYD YN FFLAT IAWN HEB GÔR Mae'r gymuned LGBTQ+ yr un mor amrywiol ag y mae’n anhygoel, ac mae hyn yn cynnwys ein steiliau a'n cypyrddau dillad. Ar gyfer y cwpwrdd dillad cyntaf yn y rhan reolaidd hon, mae un o ddawnswyr bol gorau Caerdydd yn siarad â'n gohebydd cymunedol, Danielle, am ei gwpwrdd dillad...
Gan Rosie Webber
A fyddai hwn yn gallu bod yn Gylchgrawn Cymreig heb fod sôn am ganu? Doedden ni ddim yn meddwl hynny ac felly fe wnaeth ein Gohebydd Cymunedol, Rosie, gysylltu â Chorws Dynion Hoyw De Cymru (SWGMC) i weld beth maen nhw wedi bod yn ei wneud yn ystod 2020... Beth allai fod yn fwy o hwyl i aelodau o gôr na chân sy’n dathlu eu bywydau carwriaethol? Mae SWGMC wedi bod yn brysur yn creu darn cerddorol unigryw am y profiadau Grindr mwyaf cofiadwy. Mae’n seiliedig ar y straeon a'r negeseuon mwyaf doniol nad ydyn nhw wedi’u anghofio, a daw'r darn o gerddoriaeth hwyliog a bywiog hwn ynghyd gyda chefnogaeth cyfaill i’r côr, Gareth Churchill. Mae'r darn cerddorol hwn wedi’i gyfansoddi mewn partneriaeth â thîm o gyfansoddwyr medrus; mae Gareth yn esbonio sut y daeth y bartneriaeth hon ynghyd ar hap, “Fe wnes i ddod o hyd i hysbyseb flwyddyn yn ôl gyda chefnogaeth cyfleuster yng nghanolfan y 74
LGBTQYMRU
Mileniwm yng Nghaerdydd”. Rhoddodd hyn y gefnogaeth gywir i gyfansoddwyr fel ef, a'r SWGMC i ddod â'r syniad hwn yn fyw. Dechreuodd y prosiect ddod at ei gilydd ar ôl iddyn nhw gasglu arolygon a anfonwyd at aelodau’r côr am eu profiadau o fynd ar ddêts ar-lein. Roedd y darn hefyd yn cynnwys adrodd geiriau ar lafar yn ogystal â chanu oherwydd bod Gareth yn gwybod ei fod, “yn gyfrwng gwell i helpu i gyfleu eu personoliaethau ar y llwyfan”. Syniad mwyaf gwerthfawr Cylchgrawn LGBTQymru yw 'I’r Gymuned, gan y Gymuned’. Rwy’n gofyn i Gareth pam mae’r darn hwn yn enghraifft berffaith ar gyfer cysylltu â'r gynulleidfa ehangach; mae’n ei ddisgrifio fel, “cipolwg ar fywydau pawb yn ddiweddar”. Mae'r gân yn crynhoi materion perthnasol y cyfnod clo a phrofiadau mynd ar ddêts yn y gorffennol a gofiwyd i bobl uniaethu â nhw. Mae'r Cyfarwyddwr Cerdd Andy Bulleyment yn siarad yn onest am y pryderon ynghylch Grindr, “mae yna lawer o bethau sy'n digwydd ar y platfform nad ydyn nhw'n bositif iawn,
“Mi wnaethon ni feddwl yn galed a daeth yn ddarn cyflawn, wedi’i ymarfer, wedi’i recordio ac wedi’i ddatblygu ar-lein” ac mae wedi dod â rhai o'r rheini i'r amlwg”. Mae'r tîm wedi llunio cân mewn modd sensitif sy'n gynhwysol ac yn ymdrin nid yn unig â chanlyniadau ysgafn dêtio ar-lein, ond y canlyniadau mwy diffuant a phryderus hefyd. Ffocws y côr a'u cymheiriaid yw gweithio gyda'i gilydd a llunio darn sy'n rhywbeth y maen nhw’n falch ohono fo. Roedd y broses gynhyrchu yn her serch hynny: mae Gareth yn sôn am rai rhwystrau yr oedd yn rhaid iddyn nhw eu hwynebu yn dilyn y coronafeirws, “mi wnaethon ni feddwl yn galed a daeth yn ddarn cyflawn, wedi’i ymarfer, wedi’i recordio ac wedi’i ddatblygu ar-lein”. Fodd bynnag, mae Andy yn dweud y bu’n her dda a “roddodd rywbeth i’r
côr anelu ato” mewn cyfnod fel hwn. Wrth i ni fynd i gyhoeddi’n cylchgrawn, mae 'Grinding' wedi'i recordio ac mae'r fideo cysylltiedig gyda'r cynhyrchwyr. Cadwch olwg amdano yn y mis neu ddau nesaf. Cyn hyn, mae'r SWGMC wedi perfformio mewn sawl lleoliad gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Theatr y Sherman. Maen nhw'n edrych ymlaen yn fawr at gynlluniau ar gyfer y dyfodol ac yn croesawu unrhyw gyfranogwyr newydd! Ewch i gael rhagor o wybodaeth yn swgmc.co.uk
LGBTQYMRU
75
Calon gelf y gymuned Mae Nathan Wyburn yn ymgorffori ei gred, sef 'Os ydych chi'n adeiladu proffil i chi'ch hun, gallwch chi geisio rhoi rhywbeth yn ôl. 76
LGBTQYMRU
Gan Evie Barker
Nid yw ymddangosiadau Nathan ar y Rhestr Binc yn syndod; mae ei waith dros achosion LGBTQ+ yn estyn o'i swydd fel Llysgennad Ieuenctid Pride Cymru i'w rôl o sefydlu Dragged to Church. Ond bara menyn Nathan, neu ei marmite ar dost efallai, yw ei yrfa fel arlunydd. Mae’n enwog am weithio mewn cyfryngau anhraddodiadol, ac efallai y byddwch chi'n adnabod Nathan o'i bortread tost poblogaidd o Simon Cowell ar-lein. Roeddem yn llawn chwilfrydedd i wybod mwy am ei gais cyntaf ar wneud gwaith celf a oedd yn seiliedig ar fwyd. 'Ddeng mlynedd yn ôl, gwelais i erthygl am Simon Cowell' meddai wrthym, 'yr oedd yn dweud, "byddwch chi'n ei garu neu’n ei gasáu" a meddyliais i ... marmite.' Ar ôl uwchlwytho'r portread i YouTube, 'aeth pob dim yn wallgof o’r pwynt hwnnw a deud y gwir'. Ers hynny, mae Nathan wedi gwneud y cyfan; mae hyd yn oed wedi gwisgo yn barod ar gyfer y carped coch a throchi ei sgert mewn paent i dynnu llun o’r gwisgwr dillad enwog hwnnw nad yw’n cydymffurfio â’r rhyweddau, Harry Styles. Trwy gydol ei yrfa, mae Nathan wedi ymdrechu i ddangos ei falchder drwy ei waith celf. Mae'n diolch i’w fagwraeth yn y cymoedd, a’r bwlio a wynebodd, am ei benderfyniad. Efallai bod dylanwad Queer ar gelf Wyburn yn fwyaf eglur yn ei bortread o Dorothy o'r Wizard of Oz, a grëwyd gan ddefnyddio Rainbow Drops. Dyma’r darn y mae Nathan yn cyfeirio ato fel ei hoff un a'r un sydd fwyaf cynrychioliadol ohono fel arlunydd. Mae llwyfan Wyburn yn caniatáu iddo greu gwaith sy'n wleidyddol, amserol a bob amser yn hwyl. Mae’r enghreifftiau o hynny’n cynnwys ei gollage o Weithiwr Allweddol, a gafodd ei alw yn ddelwedd 2020, a phortread o Elliot Page, a grëwyd gan ddefnyddio enw'r seren wedi’i ailadrodd ar y faner draws. Mae'r gynrychiolaeth artistig hon o ddigwyddiadau cyfredol yn adlewyrchu gwaith dylanwad mwyaf Nathan, Andy Warhol. 'Yn yr 80au, roedd Warhol yn dogfennu pethau fel y digwyddon nhw bryd hynny drwy ddiwylliant enwogion, a dyna dwi'n ei deimlo rwy’n ei wneud nawr.' Mae Nathan yn falch iawn o'i waith gyda Gareth Thomas, y mae wedi'i baentio sawl gwaith gan gynnwys mewn olion bysedd coch i godi ymwybyddiaeth o HIV. Dywedodd Wyburn wrthym, 'Mae'r darn hwnnw'n cael ei arddangos mewn man
“Nathan’s Mae gwaith celf Nathan ar y clawr yn amlinelliad o Gymru sy'n cynnwys unigolion a welir yn rhifyn cyntaf ein cylchgrawn ac eiconau LGBTQ+ ehangach. Mae'r darn ar ffurf collage digidol, sy’n gyfeiriad gwahanol i'w arddull arferol. Mae’n gynrychiolaeth weledol o’r rhagoriaeth Queer”
a arferai wneud iddo [Gareth] deimlo cywilydd, ond nawr mae'n falch.' Mae balchder yn y gymuned ac yn ei wlad yn disgleirio drwy Nathan; 'Mae yna falchder yn dod o fod yn Gymro na allwch chi ei gael yn unman arall.' Mae gwaith celf Nathan ar y clawr yn amlinelliad o Gymru sy'n cynnwys unigolion a welir yn rhifyn cyntaf ein cylchgrawn ac eiconau LGBTQ+ ehangach. Mae'r darn ar ffurf collage digidol, sy’n gyfeiriad gwahanol i'w arddull arferol. Mae’n gynrychiolaeth weledol o’r rhagoriaeth Queer sydd wedi cyfrannu at gyhoeddi'r cylchgrawn, 'Mae'n mynd i ddathlu pawb, gan ddangos pa mor bell rydyn ni wedi dod a ble rydyn ni nawr.' Ni allwn ni aros i weld i ble y bydd yr artist arloesol hwn yn mynd nesaf. Gallwch ddod o hyd i waith Nathan yn www. nathanwyburn.com ac ar Instagram, Twitter, a Facebook @nathanwyburnart
LGBTQYMRU
77
Delwedd: Stifyn Parri
Datblygiad Pride yng Nghymru Mae Pride wedi datblygu’n barhaus yng Nghymru, o strydoedd Caerdydd i'r Pride rhithwir a drefnwyd gennym ni’r llynedd. Mae ein gohebydd cymunedol, Fen, wedi edrych ar ddatblygiad Pride yma yng Nghymru gyda’r actifydd gweithgar ac awdur Out With It, Stifyn Parri... Gan Fen Shields 78
LGBTQYMRU
“Mae'r pryder a'r didwylledd wedi datblygu i fod yn ddathliad llawn llawenydd ac mae'n atgof mor hyfryd o ba mor bell y mae'r gymuned LGBTQ+ wedi dod o ran ymwybyddiaeth a derbyniad.”
Fel y gwelwn yn ffotograffau Stifyn, mae Gorymdeithiau Pride yng Nghymru wedi datblygu’n eithaf sylweddol dros y blynyddoedd a aeth heibio. Y newid amlycaf, i mi o leiaf, yw naws y cyfan. Mae'r pryder a'r didwylledd wedi datblygu i fod yn ddathliad llawn llawenydd ac mae'n atgof mor hyfryd o ba mor bell y mae'r gymuned LGBTQ+ wedi dod o ran ymwybyddiaeth a derbyniad. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud o hyd, ond mae Pride yn ein hatgoffa bob blwyddyn o ba mor bell rydyn ni wedi dod. Nid yw ei bwysigrwydd wedi simsanu er gwaethaf y newidiadau diwylliannol o gwmpas ein cymuned.
gyflawni a'r hyn nad ydym wedi'i gael eto. Y geiriau ar yr arwyddion yn y ddelwedd gyntaf yw “Lesbians & gay men out and proud”. Mae'r arwyddion hyn yn dangos gwahaniaeth mawr arall i ni: demograffeg. Yn y gorffennol, dim ond yr L a’r G o LGBTQIA+ y siaradwyd amdanyn nhw; gwnaeth Pride baratoi’r ffordd ar gyfer rhoi sylw a llais i hunaniaethau mwy ymylol. Bellach, LGBT+ yw’r symbol ar gyfer ein cymuned ac mae Pride yn ymladd dros hawliau llawer mwy o bobl nag erioed o'r blaen.
Newid amlwg arall o ran Pride yw’r fformat. Mae'r hyn a fu unwaith yn brotest wedi dod yn ddathliad ac, er ein bod yn dal i orymdeithio, mae gennym stondinau a pherfformiadau a cherddoriaeth. Ymladd dros hawliau yw'r hyn yr oeddem yn bwriadu ei wneud, ac yn awr mae Pride yn cynrychioli dathliad blynyddol o'n hawliau ac yn ein hatgoffa ni o’r hyn rydym ni wedi'i
Mae’r hawliau'n perthyn i Stifyn Parri.
LGBTQYMRU
79
PRIDE! Adolygiad Ffilm LGBTQYMRU Yng ngoleuni’r ffaith bod ein cylchgrawn yn creu hanes fel y cylchgrawn dwyieithog cyntaf erioed yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar faterion LGBTQ+, gwnaethom ofyn i'n gohebydd cymunedol, Matthew, i rannu ei adolygiad o ffilm glasurol am y bobl LGBTQ+ eraill yng Nghymru sydd wedi creu hanes… Gan Matthew Tordoff
Mae PRIDE! yn dilyn stori hanesyddol, go iawn ‘Lesbians and Gays Support the Miners' - sef grŵp o weithredwyr queer a gododd arian ar gyfer cymunedau glofaol gorthrymedig Cymru ac a safodd mewn undod â nhw. Efallai y byddech chi'n meddwl y byddai comedi am weithredwyr queer ddim yn cynnwys llawer o fanylion, ond er bod y stori (ar adegau) wedi'i ffugio, mae llawer o'r manylion am LGSM a'u cyflawniadau yn gywir. Dechreuodd LGSM yng Nghorymdaith Pride Llundain ym 1984. Roedden nhw’n gweithredu o'r siop lyfrau 'Gay's the Word' sydd bellach yn enwog a, gyda'i gilydd, gwnaethant godi £22,500 (sy'n cyfateb i £69,000
80
LGBTQYMRU
yn arian heddiw) drwy gasglu rhoddion a threfnu'r cyngerdd elusennol eiconig 'Pits and Perverts'. Cafodd ymdrechion LGSM i gynorthwyo'r glowyr a oedd yn ei chael hi'n anodd eu hateb pan bleidleisiodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn unfrydol i ymgorffori hawliau LGBT ym maniffesto'r Blaid Lafur. Roedd actifiaeth LGSM yn feiddgar ac yn benderfynol, a hyd yn oed heddiw mae llawer o'i aelodau sefydlu yn dal i ymladd dros gymunedau difreintiedig. Mae'r ffilm dwymgalon hon yn cael ei bywiogi gan domenni o gomedi gwych gan ei gast enwog, sy’n cynnwys Bill Nighy, Dominic West ac Imelda Staughton. Mae Andrew Scott hyd yn oed yn
gwneud ymddangosiad, er roedd hyn cyn ei berfformiad enwog fel yr ‘Hot Priest’yn Fleabag. Er mai comedi yw PRIDE! yn bennaf, mae ei actorion yn dod â dwyster a gwir gynhesrwydd er mwyn cydbwyso'r naws chwareus sy’n bodoli fel arall. Maen nhw’n cyflwyno perfformiadau amlochrog sy'n cyfleu’r ysgafnder a'r parch sydd ei angen ar gyfer y stori benodol hon. Mae Bill Nighy yn arbennig o dda fel aelod stoic ond caredig o undeb y glowyr. Mae'r ffilm queer ddi-ymddiheuriad hon yn cael ei gyrru gan gerddoriaeth synth disco a golygu cyflym, ac er bod yr amseru weithiau'n teimlo'n frysiog, mae'n gwneud gwaith gwych o gyfleu stori LGSM. Mae'r ffilm yn cynnwys clipiau o brotestio (ar y dechrau) a chapsiynau (yn ystod eiliadau olaf y ffilm) sy'n cyfleu’r hanes o frwydro a’r dewrder sy'n sail i PRIDE! ac yn creu cyd-destun hanesyddol y ffilm ar gyfer cynulleidfaoedd nad ydynt efallai'n gyfarwydd ag ef. Mae'n arddangos ei hanes Cymreig gyda balchder ac yn cyfleu swyn garw pentref gwledig fel Onllwyn yn berffaith. Mae gan y ffilm berthnasedd bythol, yn enwedig nawr gan
fod y gymuned LGBTQ+ (yn enwedig ein brodyr a chwiorydd traws) yn dal i wynebu aflonyddwch a gwahaniaethu, gan y rheini sydd uchaf yn y llywodraeth hyd yn oed. Mae'n ein hannog i sefyll mewn undod ac i wrthod derbyn camdriniaeth. Mae'n ein hannog i sefyll ein tir bob amser. Mae PRIDE! yn y pen draw yn ddathliad o'r gweithredwyr queer arloesol a greodd hanes drwy godi arian ar gyfer glowyr o Gymru. Thema ingol sy'n cael ei hailadrodd drwy gydol y ffilm yw symbol o ddwy law, wedi'u cydblethu mewn undod. Rwy'n credu mai'r ddelwedd hon sy'n cynrychioli thema ganolog cyfeillgarwch a chymuned y ffilm orau - themâu sydd wedi'u cyfleu orau gan Dai (Paddy Considine), pan ddywed: “drwy ddod at ein gilydd i gyd, drwy addo ein cydsafiad, ein cyfeillgarwch, rydyn ni wedi creu hanes.”
LGBTQYMRU
81
IT'S A SIN Nid yw’n ddigwyddiad cyffredin bod rhaglen deledu yn cael effaith mor enfawr - ac nid dim ond o ran difyrru pobl - ond o ran codi ymwybyddiaeth, a newid agweddau ac ymddygiadau. Gan Craig Stepheson OBE
Mae'n newyddion gwych bod Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wedi adrodd yn gynharach y mis hwn bod yr archebion am brawf HIV wedi bod ar eu huchaf erioed ar gyfer Wythnos Profi HIV. Mae'n priodoli'r cynnydd i ddylanwad It's A Sin a'i gast a fu’n brysur yn codi ymwybyddiaeth o brofion HIV ers i'r ddrama gael ei darlledu. Adroddwyd yn eang yn y cyfryngau fod It's A Sin hefyd wedi torri record ffrydio All 4 fel ei chyfres fwyaf poblogaidd o ran gwylio sawl pennod yn olynol ar y tro, ac nid yw hynny’n syfrdanol o gwbl. 82
LGBTQYMRU
Ar ddechrau mis Chwefror, cofnodwyd bod 6.5 miliwn o bobl wedi ei gwylio, sydd bron yn ddwbl y ffigur o'r flwyddyn flaenorol. Mae'n amlwg felly bod It's A Sin yn cael effaith ddwys. Bu’n codi ymwybyddiaeth ac yn addysgu aelodau iau o'n Cymuned, gan ein hatgoffa o'r gwahaniaethu a ddioddefodd ein Cymuned yn ein hanes diweddar ac, i rai, mae wedi gwneud inni feddwl yn ôl am y bobl a gollwyd gennym yn yr 1980au a'r 90au.
“Bu’n codi ymwybyddiaeth ac yn addysgu aelodau iau o'n Cymuned, gan ein hatgoffa o'r gwahaniaethu a ddioddefodd ein Cymuned yn ein hanes diweddar ac, i rai, mae wedi gwneud inni feddwl yn ôl am y bobl a gollwyd gennym yn yr 1980au” Yng Nghymru wrth gwrs, rydyn ni wedi canolbwyntio peth o’n sylw ar ein talent genedlaethol, Russell T Davies, meistr y ddrama. Mae'n ymddangos ei fod yn gallu synhwyro'r hyn sy'n gweithio ac yn llunio straeon sy'n cael argraff barhaus arnom ni. A gadewch i ni fod yn onest, nid yw’n ddigwyddiad cyffredin bod drama ddidostur gyda rhywbeth pwerus i'w ddweud am ein cymdeithas hefyd yn llwyddiant masnachol. Ond, unwaith eto, mae wedi creu'r ddrama fwyaf poblogaidd yn 2021 (hyd yn hyn) - ac, iesgob, mi oedd ei hangen hi arnom ni yn ein bywydau dan glo ym mis Ionawr. A rhaid sôn am yr actor ifanc o’r Cymoedd, Callum Scott Howells, sydd newydd ymddangos ar y sîn. Mae wedi graddio’n ddiweddar o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae'n cael ei ystyried yn eang fel actor arloesol It's A Sin. Pwy
allai beidio â chael ei gyffwrdd gan ei gymeriad, ei ddiniweidrwydd, ei berthynas â'i fam ac amgylchiadau erchyll ei amser yn yr ysbyty? Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn ynghylch gweld mwy o Callum. Yn LGBTQymru, roeddem yn falch iawn bod It's A Sin, gyda Russell T Davies wrth y llyw fel ei gynhyrchydd gweithredol, wedi sicrhau bod actorion LGBTQ+ yn chwarae rhannau LGBTQ+. Ychwanegodd ddilysrwydd a realiti a ddaeth â'r cymeriadau a’r storïau’n fyw. Os nad ydych chi wedi gwylio It’s A Sin eto, lle ydych chi wedi bod yn cuddio? Ond, o ddifrif, mae'n daith emosiynol a thrawiadol na ddylid ei methu ac mae'n sicr o fod yn hynod o lwyddiannus yn ystod y tymor gwobrwyo nesaf. Yn LGBTQymru, byddwn yn gwylio ac yn chwifio ein baneri Cymreig gyda balchder. Mae'r gyfres lawn bellach yn ffrydio ar All 4. LGBTQYMRU
83
Gwasanaethau cymorth Cymraeg i bobl LHDT Llinell Gymorth LGBT Cymru Llinell gymorth a gwasanaeth cwnsela LGBT+ line@lgbtcymru.org.uk
Y Samariaid Cefnogaeth i unrhyw un www.samaritans.org/cymru/samaritans-cymru/ 116 123
Umbrella Cymru Arbenigwyr Cymorth ar Rywedd ac Amrywiaeth Rhywiol info@umbrellacymru.co.uk 0300 3023670
Ceisiwyr Lloches LGBT Cymorth ac arweiniad i geiswyr lloches LGBT+ Wedi'i leoli yn Abertawe 01792 520111
Kaleidoscope Gwasanaethau cymorth alcohol a chyffuriau 0633 811950
Stonewall Cymru Gwybodaeth a chanllawiau LGBT+ 0800 0502020
Fflag Gwasanaethau cymorth i rieni a'u plant LGBTQ+ 0845 652 0311
Cymorth i Ddioddefwyr Cymorth ynghylch troseddau casineb a sut i’w cofnodi 0300 3031 982
New pathways Cymorth ar argyfwng trais a cham-drin rhywiol enquiries@newpathways.org.uk Switsfwrdd LGBT+ Switchboard.lgbt 0300 330 0630 Glitter Cymru Grŵp Cymdeithasol LGBT+ BAME - Wedi'i leoli yng Nghaerdydd glittercymru@gmail.com Mind Cymru Gwybodaeth a gwasanaethau cymorth ar iechyd meddwl info@mind.org.uk 0300 123 3393
84
LGBTQYMRU
Wipeout Transphobia Gwybodaeth a chymorth i Bobl sydd â Rhywedd Amrywiol 0844 245 2317 Bi Cymru Rhwydwaith ar gyfer pobl ddeurywiol a phobl sy’n cael eu denu at fwy nag un rhywedd bicymru@yahoo.co.uk Galop Llinell a gwasanaeth cymorth cam-drin domestig LGBT+ help@galop.org.uk Galop.org.uk 0800 999 5428
Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru Gwybodaeth a chymorth ynghylch HIV ac iechyd rhywiol 0808 802 1221 Head above the waves Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch iselder a hunan-niwed ymysg bobl ifanc Hatw.co.uk UNIQUE Grŵp gwirfoddol sy'n cefnogi pobl Draws* (trawsrywiol) yng Ngogledd Cymru a Gorllewin Sir Gaer. Elen Heart - 01745 337144 neu e-bostiwch email elen@uniquetg.org.uk Cymorth i Ferched Cymru Os ydych chi neu ffrind yn profi trais/camdrin domestig a hoffech chi gael rhagor o wybodaeth. Dyn Project Mae’n darparu cyngor a chymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy'n profi trais/cam-drin domestig. http://www.dynwales.org/ Trawsrywiol Cymru Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cefnogi pobl ifanc traws* i ddeall eu hawliau ac i gefnogi gweithrediadau ar gyfer pobl ifanc i fynd i'r afael â gwahaniaethu. https://youthcymru.org.uk/cy/transformcymru-2/ Rustic Rainbow Grŵp anffurfiol ar gyfer pobl LGB&T sy'n caru harddwch naturiol Gogledd Cymru. https://www.facebook.com/ groups/443148552374541/
Mae'r Clwb Ieuenctid LGBT+ yn gyfle i bobl ifanc 15-21 oed fwynhau eu hunain, cael hwyl, cwrdd â ffrindiau a bod yn nhw eu hunain yng Nghaernarfon. LGBT@gisda.co.uk Prosiect LGBTA+ Sir Gaerfyrddin Prosiect a sefydlwyd i hyrwyddo'r gymuned LGBTQ+ yn Sir Gaerfyrddin. carmslgbtqplus.org.uk Rainbow Biz Mae'r fenter gymdeithasol hon yn annog cynhwysiant ac yn dathlu gwahaniaethau yn Sir y Fflint. https://www.rainbowbiz.org.uk/ Y Don Casnewydd (Grŵp Cymorth Ieuenctid LGBT, Casnewydd De Cymru) E-bost: jen@newportpride.org.uk Ffôn: 07745718701 thewavenewport.yolasite.com Facebook: The Wave / Y Don neu Pride Casnewydd Shelter Cymru Cyngor arbenigol, annibynnol, am ddim ar dai https://sheltercymru.org.uk/cy/lgbt-aware/
Llamau Cymorth a gwybodaeth ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc https://www.llamau.org.uk/our-vision-andmission Grŵp Ieuenctid LGBTQ+ Casnewydd Grŵp newydd ar gyfer pobl ifanc LGBTQ+ (11-25 oed) sy'n byw yng Nghasnewydd. https://www.facebook.com/ NewportLGBTQYouth/
LGBTQYMRU
85
Diolch i Gronfa Adfer COVID-19 LGBTQ+ Comic Relief, mewn partneriaeth ag elusen METRO ac Umbrella Cymru