Un Golygydd, Bwrdd Golygyddol, pedwar Golygydd Cymunedol, a 12 Gohebydd Cymunedol yn ddiweddarach, rwy'n falch o'ch cyflwyno i'r cam nesaf yn nhaith LGBTQYMRU: y cylchgrawn ar-lein cyntaf rhad ac am ddim, Cymru gyfan, dwyieithog sy’n gyfan gwbl ar gyfer cymunedau LGBTQ+ Cymru a’r rheini sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Mae'r hyn a ddechreuodd fel estyniad o'r ffordd roeddem ni’n gallu cysylltu, dathlu a chefnogi cymunedau LGBTQ+ Cymru yn ystod y cyfnod clo Covid-19 cychwynnol wedi blodeuo o'n blaenau i fod yn rhywbeth mwy a mwy ystyrlon nag yr oeddem erioed wedi'i ddychmygu: mae wedi dod yn ofod lle gallwn ni hawlio a dathlu ein hunaniaeth, ein profiadau ar y cyd fel unigolion queer, a lle gallwn barhau i gymryd cyfrifoldeb dros ein gilydd fel brodyr a chwiorydd yn y byd hwn.