Page 1

Gwir Annibyniaeth Ynni: Polisi Ynni sy’n addas ar gyfer 2050

Mae Cymru a’r byd yn wynebu argyfwng ynni. Mae cyflenwad anwadal o danwyddau ffosil yn gwthio biliau cartrefi i fyny ac yn gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi tanwydd. Does dim ateb i beryglon hirdymor gwastraff niwclear ac rydyn ni’n wynebu ras yn erbyn amser i dorri ein hallyriadau carbon 90% a rhagor er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd. Mae technoleg dal a storio carbon (CCS) yn dal heb ennill ei phlwyf, sy’n golygu bod angen rhoi’r gorau yn raddol i lo, olew a nwy a chwilio am atebion eraill. Drwy lwc a bendith mae ffordd arall – gwir annibyniaeth ynni. Mae Cymru’n ffodus bod ganddi doreth o ynni adnewyddadwy wrth law ac mae ei ddatblygu’n gynaliadwy yn allweddol. Dylai cyfundrefn ynni Cymru adlewyrchu’r angen i fyw o fewn ffiniau’r hyn sy’n bosib yn amgylcheddol gan ddefnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear. Ar sail y pŵer a allai gael ei harneisio o gerrynt y llanw, y gwynt a’r haul, mae rhai wedi sôn am Gymru fel 'Saudi Arabia ynni adnewyddadwy'. Ac mae ysbrydoliaeth ar gael inni mewn mannau eraill yn y byd. Gwnaeth Denmarc gyfres o gyhoeddiadau uchelgeisiol yn ddiweddar ar bolisi ynni. Erbyn 2020, tyrbinau gwynt fydd yn cynhyrchu hanner trydan Denmarc; erbyn 2035, ynni adnewyddadwy fydd yn ateb holl anghenion y wlad am drydan a gwres; ac erbyn 2050, ynni adnewyddadwy hefyd fydd yn ateb yr holl anghenion ym maes cludiant.

Felly pam nid Cymru?

Os gallwn ni, fel Denmarc, reoli’n hadnoddau ynni ni’n hunain, gallwn sicrhau nid yn unig bod gan Gymru gyflenwad ynni cadarn, fforddiadwy a glân – ond gallwn werthu unrhyw ynni sydd dros ben i’n cymdogion hefyd. Ac wrth gwrs, nid yw Cymru ar ei phen ei hun a byddwn yn ceisio ymgysylltu â phartneriaid eraill yn Ewrop i sicrhau bod modd datblygu’r grid mwyaf effeithiol posibl i’r Undeb Ewropeaidd ar sail ynni adnewyddadwy, gan gyfnewid gwynt Cymru am haul Sbaen; llanw Cymru am bŵer dŵr yr Alban, yn ôl yr angen. Drwy ddod â’r penderfyniadau adre i gymunedau Cymru, gall datblygiadau mewn ynni adnewyddadwy fod yn atebol yn ddemocrataidd a dod â manteision economaidd a chymdeithasol i’r cymunedau – yn wahanol i’r model canoledig sy’n tynnu pŵer a grym o’r 1


cymunedau ac sy’n cael ei ffafrio gan y pleidiau Prydeinig.

Y cynllun ynni Felly, sut gallwn ni gynyddu’r ynni adnewyddadwy nes cyrraedd graddfa lle gall y cyfan o’n hanghenion ym maes cludiant, gwres a thrydan gael eu diwallu erbyn 2050? Heb reolaeth dros roi cydsyniad ar gyfer gorsafoedd pŵer, malu awyr yw unrhyw gynllun ynni. Mae targedau a dyheadau yn y map llwybr ar gyfer ynni yng Nghymru yn ddiystyr os ydyn ni’n aros am garedigrwydd Whitehall. Rhwng 2008 a 2010, er enghraifft, er bod yna gynnydd o 16% yn y trydan adnewyddadwy a gafodd ei gynhyrchu yng ngweddill y Deyrnas Unedig, gostyngiad welson ni yma yng Nghymru. Mae’n amlwg na allwn ni ddibynnu ar San Steffan i ymladd dros Gymru adnewyddadwy. Mae arnon ni angen pwerau cydsynio a phwerau cynllunio llawn dros y cyfan o’r seilwaith cynhyrchu trydan. Drwy ddatganoli’r pwerau yma, byddai’r symiau canlyniadol a fyddai’n deillio o fformiwla Barnett yn talu am Adran Ynni newydd yng Nghymru. Byddai’r Adran hon yn ymgartrefu ar ynys ynni Cymru, Ynys Môn, gan ddod â swyddi hirdymor o ansawdd uchel i ran o Gymru lle mae’r incwm y pen tua hanner cyfartaledd y Deyrnas Unedig. Gallai’r Adran ddod â manteision hefyd i fyfyrwyr ac academyddion Prifysgol Bangor a Choleg Menai ac i weithgareddau masnachol cysylltiedig. Yng Nghymru y mae dwy o’r 19 o atomfeydd sydd wedi cael eu codi yn y Deyrnas Unedig, ac felly fe allen ni ddisgwyl i gyfran gymesur (sef 10.5% neu £263m) o’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear gael ei lleoli yn Llangefni. Mae angen gweithio i ddal yr Alban, ond byddai angen inni gynnig cymhellion cryf i safleoedd ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae hynny’n golygu diwygio rheolau cynllunio gan ragdybio o blaid cynlluniau adnewyddadwy, gan osod isafswm o fanteision wedi’u gwarantu i’r gymuned er mwyn sicrhau bod y cymunedau lleol yn medi’r manteision nawr ac yn y dyfodol. Byddai rhagdybiaeth hefyd yn erbyn cychwyn unrhyw safle newydd ar sail tanwyddau ffosil. Unig ddiben y safleoedd tanwydd ffosil presennol yw caniatáu inni bontio i ddyfodol carbon-isel, gan ymdrechu i ôl-ffitio dulliau dal a storio carbon pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol. Felly, mae meini adeiladu ein cynllun ynni yn dechrau disgyn i’w lle: Pwerau i gydsynio i’r holl seilwaith cynhyrchu trydan i’w drosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol a hynny ar fyrder. 2. Sefydlu Adran Ynni Cymru ar Ynys Môn cyn gynted ag y caiff y pwerau eu trosglwyddo. 3. Rhagdybiaeth yn erbyn unrhyw orsafoedd tanwydd ffosil newydd, a moratoriwm llwyr yn erbyn ynni niwclear newydd. 4. Yr Adran Ynni i gyhoeddi cynllun ynni manwl gan arwain at Gymru gwbl 1.

2


adnewyddadwy erbyn 2050. Os oes gennyn ni’r weledigaeth, mae Cymru gwbl adnewyddadwy o fewn cyrraedd. Cafodd digon o bŵer ei gynhyrchu gan baneli haul yn yr Almaen y llynedd ar gyfer mwy na 5 miliwn o gartrefi. Yn 2009, llwyddodd Sweden – sy’n bwriadu creu’r economi di-olew cyntaf yn y byd – i gynhyrchu 56% o’i thrydan ag ynni adnewyddadwy: cwta 5% gafodd ei gynhyrchu yng Nghymru. A ninnau wedi’n clymu i gyfundrefn Cymru a Lloegr nad yw’n dangos dim parch i uchelgais Cymru, fe fyddwn ni – unwaith eto – ar ei hôl hi’n ddybryd mewn maes sy’n hanfodol bwysig o ran swyddi a thwf.

Arbed ynni ac effeithlonrwydd

Lleihau’r galw yw’r man cychwyn hanfodol ar gyfer system ynni adnewyddadwy. Rhaid inni fynd i’r afael â’r sgandal cenedlaethol o farwolaethau a chaledi sy’n cael eu hachosi gan dlodi tanwydd, a hynny fel blaenoriaeth. Mae cannoedd o filoedd o gartrefi Cymru heb inswleiddiad dechau, felly mae uwchraddio’r stoc dai yn dasg i’w chyflawni ar frys. Dylai cynllun Arbed, a ddechreuodd pan oedd y Blaid mewn llywodraeth, gael ei ehangu’n aruthrol er mwyn sicrhau bod gan bob cartref yng Nghymru inswleiddiad o safon. Yn y tymor byr iawn, rhaid i Gymru wneud popeth posibl i fanteisio i’r eithaf ar raglen Bargen Werdd y Deyrnas Unedig. Dros gyfnod o amser, rhaid inni symud tuag at sefyllfa lle mae’r cwmnïau ynni yn dod yn llwyr o dan reolaeth Cymru, gan wario’r arian sy’n cael ei godi drwy’r biliau ar inswleiddio cartrefi, yn enwedig cartrefi’r bobl fwyaf bregus, yn lle llenwi pocedi cyfranddalwyr. Dylai gwres gwastraff o safleoedd cyhoeddus, diwydiannol neu fasnachol gael ei rannu gyda chymunedau lleol yn lle cael ei wastraffu. Dylai Cymru fod ym mlaen y gad o ran datblygu gwell safonau adeiladu, gan ddylunio adeiladau newydd i ddal a storio golau a gwres goddefol. Mae arnon ni hefyd angen system gludiant ynni-isel, a honno’n ategu lles, ffyniant a gwell amgylchedd. Dylai’r flaenoriaeth uchaf gael ei rhoi i leihau’r angen i deithio, drwy gynllunio call, fideo-gynadledda a darparu gwasanaethau da yn lleol. Bydd datblygu economaidd datganoledig yn caniatáu i bobl ddod o hyd i waith yn nes at adre. Mae angen sicrhau bod cyfleusterau cerdded a beicio yn ddeniadol ac yn gyfleus, gan symud 3


buddsoddiadau oddi wrth gefnogi ceir preifat i’r dewisiadau mwy cynaliadwy yma, ynghyd â chludiant cyhoeddus llawer gwell, gan gynnwys rheilffyrdd a bysiau trydan. Yng nghefn gwlad, dylai cludiant sy’n ymateb i’r galw, fel gwasanaeth Bwcabus, fod yn rhan o’r brif ffrwd.

Annibyniaeth ynni leol – rhoi grym i gymunedau

Rydyn ni’n cydnabod bod ar bobl Cymru angen ynni adnewyddadwy, ond yn rhy aml mae eu lleisiau’n cael eu hanwybyddu a dydyn nhw ddim yn elwa ar y manteision. Dylai datblygiadau ynni adnewyddadwy fod yn nes at y cymunedau er mwyn sicrhau’r gallu ychwanegol sy’n angenrheidiol i roi’r ynni cadarn, fforddiadwy a glân y mae arnon ni ei angen. Dylai targedau priodol gael eu gosod i ardal pob un o’r cynghorau yng Nghymru ynglŷn â chynhyrchu ynni adnewyddadwy a chyllidebu carbon, a’r bobl ym mhob un o’r cymunedau hyn ddylai gael rheolaeth dros gyrraedd y targedau yn y ffordd sy’n gweddu orau i’r cymunedau – drwy dechnoleg y gwynt, y llanw, yr haul, biomas neu dechnolegau adnewyddadwy eraill. Dylen ni rymuso cymunedau i fwrw ymlaen â’u cynlluniau eu hunain, yn hytrach na bod yn ddibynnol ar gwmnïau allanol yn unig, yn ogystal â chefnogi’r rôl gynyddol sydd i fentrau cydweithredol yn y gymuned. Mae prosiectau fel menter y Cymoedd Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog yn dangos bod ynni cymunedol yn gallu gweithio.

Pŵer Llanw Aber Hafren

Mae gennyn ni adnodd adnewyddadwy gwych ar garreg y drws, sef amrediad llanw aruthrol afon Hafren. Ond o’i ddal yn y ffordd anghywir, fe wyddon ni hefyd y gallai cynlluniau ynni’r llanw beri niwed mawr i gynefinoedd amhrisiadwy’r foryd. Rwy’n benderfynol ein bod ni am sicrhau ffyrdd i harneisio grym afon Hafren heb ddinistrio’i bywyd gwyllt. Mae angen rhagor o waith gyda’r gymuned beirianegol i ddod o hyd i ffyrdd 4


i wneud hyn. Rhaid i unrhyw gynlluniau llanw ar afon Hafren gael eu cyflawni hefyd er lles pobl Cymru, ac nid dim ond er budd cyfranddalwyr a diwydiant preifat.

Ynni niwclear newydd?

Mae rhai yn dadlau y gall ynni niwclear fod yn rhan o’r ateb i Gymru. Ond mae ynni niwclear yn ddrud iawn, mae’n gwyro arian oddi wrth gael ei fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ac mae’n methu dechrau yn ddigon buan i wneud datgarboneiddio cyflym yng Nghymru yn realiti. Yn bwysicaf oll, efallai, er bod cenedlaethau heddiw yn manteisio ar drydan cymharol rad, bydd costau ymdopi â gwastraff ymbelydrol peryglus yn pentyrru ar ben ein disgynyddion am filoedd o flynyddoedd i ddod. Prynwch nawr, talwch wedyn – ideoleg niwclear sy’n gwbl groes i ddatblygu cynaliadwy. Hyd yn oed pe bai modd creu dadl effeithiol dros ynni niwclear, dim ond o dan reolaeth gaeth gwladwriaethau canoledig iawn y byddai’n opsiwn rhesymegol. Sut byddai un atomfa yn berthnasol mewn Cymru annibynnol, a phŵer datganoledig yn cael ei gynhyrchu’n lleol yn norm? Wraniwm yn cael ei gloddio, ei felino, ei brosesu a’u fewnforio o rywle arall. Arbenigedd yn cael ei fewnforio o rywle arall. A gwastraff, mae’n debyg, yn cael ei drafod rywle arall. Rydyn ni eisoes wedi gweld yr effaith y mae diffyg arbedion maint yn ei chreu, a hynny ar antur anffodus y Ffindir mewn ynni niwclear. Mae adweithydd newydd yn atomfa Olkiluoto, sydd erbyn hyn bedair blynedd y tu ôl i’r amserlen wreiddiol o bedair blynedd ac wedi gorwario €2.7bn, yn cael ei gydnabod yn eang fel eliffant gwyn niwclear. A dyw’r profiadol Ffrancwyr fawr gwell chwaith, yn Flamanville (sydd ddwy flynedd yn hwyr ar ôl dwy flynedd a hanner ac wedi gwario o leiaf €1bn yn fwy na’r gyllideb). Mae ynni niwclear yn beryglus, yn ddrud ac yn tynnu sylw oddi ar yr adnoddau ynni naturiol toreithiog a rhad o’n cwmpas.

Datblygu tanwyddau ffosil

Bydd arbed ynni a datblygu ynni adnewyddadwy yn gwneud llawer i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond wnawn ni ddim llwyddo heb leihad sylweddol yn ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil. Rhaid i bob maes nwy newydd yng Nghymru gael ei ffitio â CCS ac mae 5


angen inni ddechrau rheoli gostyngiad yn y gweithgarwch o ran cloddio am lo. Rhaid i unrhyw orsafoedd pŵer nwy ychwanegol yng Nghymru gael eu ffitio â’r dulliau diweddaraf i ddal gwres gwastraff er mwyn rhoi gwres rhad i dai a busnesau cyfagos a dylai’r rhain ddisodli’r gorsafoedd pŵer mwyaf brwnt yng Nghymru ar sail tebyg at ei debyg.

Ystâd y Goron

Mae gwir annibyniaeth ynni yn golygu rhoi manteision llawn adnoddau ynni Cymru i bobl Cymru. Cynhyrchodd Ystâd y Goron – sef portffolio o eiddo sy’n cynnwys llawer o wely’r môr o amgylch Cymru – ormodedd gros o £2.3m o’i daliadau yng Nghymru yn 200910,a chreodd y derbyniadau cyfalaf £1.8m. Mae gan Ystâd y Goron fwy na 3,000 o erwau ledled Cymru, sef daliadau amaethyddol yn bennaf. Mae elw Ystâd y Goron yn cael ei dalu i’r Trysorlys, a hynny medden nhw “er lles y genedl”. Mae’n hen bryd i’r elw sy’n dod o adnoddau naturiol Cymru (a’r adnoddau hynny eu hunain), megis gwely’r môr a’r tir fod yn nwylo Llywodraeth Cymru, er lles pobl Cymru.

Diweddglo

Mae gan Gymru rai o’r adnoddau adnewyddadwy gorau yn Ewrop. Mae’n bryd inni fanteisio i’r eithaf arnyn nhw, gan roi rheolaeth i bobl Cymru dros y chwyldro ynni glân - y ffordd i wir annibyniaeth ynni.

Leanne Wood AC Chwefror 2012

Leanne Wood 2012 │Gweledigaeth i’r Blaid ac i Gymru 6


Gwefan: Ebost: Trydar: Facebook:

www.leannewood2012.com leanneplaid@gmail.com @leannewood www.facebook.com/#!/profile.php?id=613235070

Cysylltwch â mi trwy un o’r dulliau uchod i ddarllen mwy, i gefnogi ac i gyfrannu i’r ymgyrch.

7

Gwir Annibyniaeth Ynni  

Polisi Ynni sy’n addas ar gyfer 2050

Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you