dileu
a cherddi eraill detholiad o ganu caeth 2019-2022 IESTYN TYNE
Argraffiad digidol 2023
Hawlfraint Iestyn Tyne
Cedwir pob hawl.
Celf y clawr: Elin Huws Llun yr awdur: Robert Holding
Casgliadau eraill o farddoniaeth gan yr un awdur: Addunedau (2017) Ar Adain (2018) Stafelloedd Amhenodol (2021) iestyntyne.cymru
Dyma gasgliad byr o gerddi caeth a gyfansoddwyd yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rhai ar gais ac eraill er fy mwyn fy hun. Tueddais i beidio cyhoeddi llawer o gerddi ar gynghanedd yn fy nghyfrolau blaenorol, ac mae nifer o'r darnau sydd yma wedi ymddangos eisoes ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ambell un yn ymateb i destun mewn talwrn neu eisteddfod. Ond mae trothwy 2023, am sawl rheswm, yn teimlo fel adeg da i danlinellu cyfnod trwy ddwyn detholiad o'r canu hwnnw ynghyd.
Dewisais beidio cynnwys yma waith a gomisiynwyd i ddathlu a choffáu unigolion, er bod llawer o ganu o'r math hwnnw yn perthyn i'r cyfnod dan sylw. Nid fi piau'r cerddi hynny bellach, ac fe deimlais hefyd y gallai'r diffyg cyd-destun eu gwneud yn flinderus i'w darllen yn un rhes mewn casgliad fel hwn.
Ar anterth oes rhy grintach, fe gynigiaf hyn o gerddi felly yn dusw bychan, beth bynnag fo'u gwerth, gan ddymuno blwyddyn newydd dda.
Caernarfon, 1 Ionawr 2023
Nid hyn oedd i fod
Nid hyn oedd i fod, hynny mi wn, wir, ond mae'n iawn mai felly y mae – yn y dyddiau du, gwirion, rhaid dal i garu.
Dal i garu, dal i gweirio'r gwely a gwylio am dymor euro'r egin – yr agor hwnnw ddaw er bolltio'r ddôr
Nid hyn oedd i fod, ond codwn yn uwch nag achwyn – gafaelwn am eiliad fach mewn miliwn a dyheu drwy'r cariad hwn.
20 Mawrth 2020
i Sophie ar ddydd Alban Eilir, diwrnod ein priodas fyrrybudd ar erchwyn y cyfnod clo cyntaf
Dwy wên sy'n aros eleni – dwy wên dyner a fu'n gwmni erioed; dwy'n eu direidi'n rhannu winc i'n cario ni.
Er y bwlch sy'n rhwygo'r byd dan ein traed, er dwyn tri o'n bywyd, mae nef yn rhywle hefyd: tri a'u hwyl, a chartra o hyd.
collwyd Anwen a Nancy, modryb a nain fy ngwraig dan amgylchiadau erchyll yng Ngorffennaf 2020. Cyfansoddwyd yr englyn cyntaf i'r teulu ar y pryd, a'r ail ar gyfer y garreg fedd ym mynwent Llanllyfni, lle mae Maldwyn, gŵr Nancy, wedi'i gladdu hefyd.
Ar ddiwedd y flwyddyn ryfeddaf
Un olwyn fach ar y lôn faith ydwyf; y nod ydyw gobaith, a gwn o'i theithio ganwaith mai ennyd yw hyd y daith. 31 Rhagfyr 2020
detholiad
Traeth
Rhimyn o dir a'n rhwymai’n hyderus, un darn hesb o arfordir anhysbys; ninnau'n wystlon ar ystlys y ddaear a’i bwrw hegar, yn bar bach bregus.
Ynghyd y cerddem, ac yn ein gemau twpaf, melysaf, consuriem leisiau wyres ac wyrion a'u rhesi geiriau; wyrion bach gyda'u dawn rhannu beichiau ac wyres i’n mynwesau – ein gobaith ni oedd y daith, o'i cherdded hi weithiau.
Ond yn nhynnu a malu'r ymylon, yn erydiad clogwyni'r cariadon, yno'n hafflau'r gwyntoedd chwalu'n-yfflon o bryd i bryd, fe ddeuai sibrydion a wadai'r addewidion, eu darnio yn flêr, eu rhwygo, a'u taflu i'r eigion.
Holent pwy oeddem, y meiddiem addo i ni'n hunain y byddai gwanwyno yn minio'n dolydd, a Mai yn deilio; y byddai rhyw latai'n hwylio eto i'r aber – yn taro heibio'n ddiog gyda'i dywydd heulog, doed a ddelo.
19.12.21
Ango heno'r aros cyhyd – yn hon mae rhyw hen ddychwelyd: hi, mwyach, yw fy mywyd, a'i llaw fach ddeil fy holl fyd.
19.12.22
I'n babi bach mae bob awr yn einioes –i ninnau, â Ionawr yn curo'r ddôr, mae oriawr yr aros maith ar frys mawr.
i Nansi, fy merch
Marwnad
Dan fy ais fe glywais gliwiau ei fynd o fondo a thoeau a drysau bach. Dros y bae, tynnodd yr aur o ’ r tonnau.
Ddyddiau wedyn, digwydd oedi a gweld dafnau gwaed drwy'r heli. Helgan oedd gwaedd y weilgi; olion ei ladd lenwai li
Dyro gorff yr aderyn yn dawel ar dywod llwydfelyn a’i adael yno wedyn. Fin hwyr mi aiff o fan hyn ar ei elor heibio'r aber, a'r môr a'r marian a'r lleufer yn dwyn ei blu mor dyner a di-sôn â chysgod sêr
Mawrth 2019
Cyfeddach
Mae 'na wahaniaeth rhyngom ni heno; rhannu'n anoddach, er i ni addo ... heb yr awydd, mae'n sgyrsiau ni'n breuo fel briwsion englyn ar becyn baco a rhywbeth heb ei roi heibio'n canlyn dau grwydryn fu'n ffrindiau gorau, rywdro.
Cyd-ddyheu
Os, yn fyd-eang, y teimlwn angau a'i wrando astud yng ngraen ein distiau; y diawl ar gerdded trwy'n cymunedau yn hwylio'r te ac yn hawlio’r toeau, rhoi nodwydd ar hen edau – trwsio'r gliw wnawn ninnau heddiw yn ein neuaddau.
15 Ionawr 2020 i gymunedau Llŷn, Arfon ac Eifionydd wrth iddynt gychwyn yr ymgyrch i godi arian ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol
Deiseb
"Mae gennym blan amgenach na gwario gwirion ar hen greiriach. Pa iws cael llyfrgell bellach? Cawn o hon arbedion bach!"
25 Ionawr 2021 yn erbyn toriadau i gyllideb y Llyfrgell Genedlaethol
detholiad
Traeth
...
dwyn y dydd yn ôl dan do; yna'n hwyrach, wrth glirio rhwydwyd, ar raglen radio drwy'r un gaeaf dilafar, yn sydyn, res o adar yn olion duon ar dar.
Ni wyddem beth a'u lladdodd ar lôn ym Môn, ond mynnodd rhyw air bach mai marw o'u bodd a wnaethant – gadael nythod, adeinio'r bore dinod, oedi byw, cyn peidio bod
A than y gawdel bluog o gelain a'r gwaed amrwd oedd fel rhwd ar adain hunem yno ein hunain, ac angau a gariai'n beichiau o esgyrn bychain.
Ym mrys arswydus eu diwedd sydyn y rhwd a waedai drwy'r cread wedyn; a thrwy’r ehangder am bob aderyn a welem, fe welem fyd yn felyn –byd llai a deneuai o newyn – byd a udai hefyd o boenau diofyn.
Terfyn dydd
Felly, Llŷn, ar derfyn dydd. Mireiniwyd am ryw ennyd ddeunydd y ddaear gron, aflonydd a'i hel, ar yr awel rydd
i'r mannau gwastad a'r mynydd, yn goch a gwyrdd drwy’i gilydd; ar ras, dyna fforestydd cyfain yn straciau efydd
Mae cysgod y Cofnodydd yn oedi wedyn: uwchlaw'r hirddydd haf a'i oeri cyfarwydd aiff pwythau saff popeth sydd
mor denau â murmur adenydd – lein o las yr arlunydd yw holl dymer Iwerydd, y dŵr caeth, y dyfnder cudd
Rhwng y gorwel a'i gelwydd ei hunan, haenau’r hen a'r newydd a'r llanw a'r tir llonydd: felly Llŷn, ar derfyn dydd.
mewn ymateb i Gorwelion, arddangosfa o waith Elin Huws ym Mhlas Glyn-y-Weddw, Mai 2022
Eto i gyd
Ar feysydd ein ffair, mae gwair Tregaron yn aurfelynu, a thwrf olwynion yn ymbellhau. Rŵan, ym mhebyll hon, mae llu yn datgymalu ymylon llwyfannau, yn rhoi'r holl fanion yn ôl yn derfynol, a'r dyrfa fu heno'n
rhacsiog o hyder herio'r-cysgodion yn distewi, oeri Daw'r pryderon Mae 'na hiraeth lle bu'r meini hirion ond o'u deutu bydd y defaid eto'n pori o fan i fan fel fynnon' fory: tir amaethu eto'r erwau meithion.
Ac eto i gyd, cynheuwyd breuddwydion, cawsom ddathlu, a bathu gobeithion yn llawn o eisiau am ambell noson ddi-eiddigedd, ac roedd hynny'n ddigon i wybod y down heibio'n anniwall i ryw gae arall ar ôl Tregaron 6 Awst 2022
detholiad
Traeth
Os ei-di dros dwyni hyd at donnau – hyd yr eithaf a chanfod dy draethau di dy hunan; cyrchu'r stribed denau, tiwnio i sŵn y gwynt yn asennau lleidiog y llongddrylliadau – a mentro at y môr sy'n rhwygo'r croen o'r creigiau mi weli yno, ar ymyl union y tir, fod y gwir yn holl ysgyrion oer erydiad clogwyni'r cariadon; yno'n rhywle rhwng y dyfnder creulon a llamiad y llethrau llymion, mae bloedd cannoedd ar gannoedd o gesyg gwynion
Dileu
I'r mynydd, rhyw ddydd, pan ddêl y diwedd, ewch yn dawel i daenu'r llethr rhedynog, hadau'r gwawn, a blodau'r gog â haen denau ohonof: y corff, yr enaid, a'r cof.
A gadewch i goed a dail, ag amser, adfer adfail y galon; cael ohoni fwy o faeth. Dilëwch fi, ond deuwch eto'n dawel i'r mynydd, rhyw ddydd a ddêl.
Cydnabyddiaeth
Darlledwyd 'Cyfeddach' a 'Dileu' ar BBC Radio Cymru yn ystod cyfres 2021 Talwrn y Beirdd
Comisiynwyd 'Cyd-ddyheu' ac 'Eto i gyd' gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru fel rhan o brosiect Bardd Preswyl Llŷn ac Eifionydd 2023.
Comisiynwyd 'Terfyn dydd' gan Elin Huws ac Oriel Plas Glyn-y-weddw ym Mai 2022. Diolch i Elin am ei chaniatâd i atgynhyrchu'r paentiad ar y clawr.
Mae dwy gerdd yn y casgliad sy'n cyfeirio yn uniongyrchol at englynion o waith beirdd eraill: 'Neuadd Mynytho' gan R. Williams Parry ('Cydddyheu') a 'Llŷn' gan J. Glyn Davies ('Terfyn dydd').
Cyfeiria'r ail ddetholiad o 'Traeth' at y 225 o ddrudwy a ddarganfuwyd yn farw ar ffordd wledig ger Bodedern, Ynys Môn, ym mis Rhagfyr 2019.
Rwyf yn ddyledus iawn i Grug Muse, tîm Talwrn y Chwe Mil (cyfresi 2019-21), Iwan Rhys, Emyr Lewis, ac eraill fu'n rhoi adborth ar fersiynau o'r cerddi hyn ar adegau gwahanol. Ac fel bob amser, i'r teulu bach.
Magwyd Iestyn Tyne ym Moduan, Llŷn, ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon gyda’i deulu. Mae’n gyd-sylfaenydd a chydolygydd Cyhoeddiadau’r Stamp, tŷ cyhoeddi annibynnol sy ’ n rhoi llwyfan i leisiau newydd yn y Gymraeg. Gyda Darren Chetty, Grug Muse a Hanan Issa, mae ’ n gyd-olygydd Welsh (Plural), y gyfrol o ysgrifau ar ddyfodol Cymru, a chyrhaeddodd ei gasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Stafelloedd Amhenodol, restr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022.