Issuu on Google+


Shifting and Shaking Š Hugh Adams 2013 Birdin Press ISBN 978-0-9573181-1-3 Produced to coincide with the last exhibition at Newport Art Gallery, South Wales. Shift- David Garner April 20 - June 29 2013 Sponsored by Unison Cardiff and Vale Health Branch Design Mark Williams, David Garner Translation. Joshua Garner Cover Image: A Case of the Great Money Trick. 2013 David Garner http://www.davidgarnerartist.com

i


shift ing &


shak ing


From David Garner: Shift A person’s specific period of work, especially the portion of the day scheduled as a day’s work when an industry operates continuously. The amount of time that a worker must work for an agreed daily wage; days, afternoons or nights. A group of workers that relieve another on a regular schedule. To move, or cause to move, from one place or position to another. The displacement of rocks, layers or seams in mining, at a geological fault. The colliery spoil was tipped over a stream and eventually slid down the mountain engulfing the school. A change or transfer from one place or position to another. Manufacturing transferred overseas. As the local industries have gone, so too have the apprenticeships and jobs. Previously productive regions and classes are cast adrift, we’ve lost a whole generation. The de-industrial revolution. To alter (position or place). The economic crisis has forced many Welsh speakers to seek work outside Wales, where the strength of the language is not measured. But despite all the statistical gloom, it’s certainly the case that the Welsh language is thriving on the social networking sites frequented by young people. A change in (political) direction.

From Hugh Adams: Shift: to alter an attitude, or an intellectual opinion – the Germans employed an essentially agrarian image for the role of the artist in effecting social and cultural change: it elides the image of upsetting by harrowing – that is of digging and throwing up the earth – with shifting and overthrowing what is generally accepted, in order to effect new orientations, particularly cultural ones.


Oddi wrth David Garner: Sifft Cyfnod gwaith penodol person, yn enwedig cyfran o’r diwrnod a benodir fel gwaith diwrnod pan fo diwydiant yn gweithredu’n gyson. Y cyfnod o amser sydd rhaid i weithiwr gweithio am gyflog dyddiol cytunedig; dyddiau, prynhawniau neu nosweithiau. Grŵp o weithwyr sy’n lleddfu ei gilydd ar amserlen gyson I symud neu i beri i symud o un man neu safle i’r llall. Disodliad creigiau, haenau neu sêmau mewn cloddio, ar ffawtlin daearegol. Dymchwelwyd tomen wastraff y glofa dros nant, gan yn y pen draw, ei hachosi i lithro lawr y mynydd gan amlyncu’r ysgol. Newid neu drosglwyddiad o un man, safle i’r llall. Cynhyrchu a drosglwyddwyd tramor. Gan fod y diwydiant lleol wedi mynd, aeth hefyd y prentisiaethau a’r swyddi. Rhanbarthau a dosbarthiadau cymdeithasol a fuont unwaith yn gynhyrchiol yn cael eu bwrw ymaith, collasem genhedlaeth gyfan. Y chwyldro dad-ddiwydiannol. I newid (safle neu le). Mae’r argyfwng economaidd wedi gorfodi nifer o siaradwyr Cymraeg i chwilio am waith y tu-fas i Gymru, lle na fesurir cryfder yr iaith. Ond, er gwaethaf yr holl lymder ystadegol, mae’n sicr bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu ar y rhwydweithiau cymdeithasol a fynychir gan bobl ifanc. Newid mewn cyfeiriad (gwleidyddol). Oddi wrth Hugh Adams: Sifft: i newid agwedd, neu farn deallusol – defnyddiodd yr Almaenwyr ddelwedd a oedd, yn ei hanfod, yn amaethyddol ar gyfer rôl yr artist mewn ysgogi newid cymdeithasol a diwylliannol: y mae hi’n hepgor y ddelwedd o dristhau drwy drallodi – hynny yw; delwedd o balu ac ymdaflu’r ddaear – gan sifftio a dymchwel yr hyn a dderbynir yn gyffredinol, er mwyn ysgogi safbwyntiau newydd, yn enwedig rhai diwylliannol.


O

bviously, David Garner is a harrower in both senses of that word. He seeks to upset; he seeks to change. An accomplished artist of the most serious and substantial kind, his message is clear and unequivocal, his craftsmanship superb. With his subjects spanning a broad spectrum of historical and modern concern, his art has a profound moral and even spiritual, dimension. His really is the most powerful political art, besides which social

realism has to be regarded as “mere”. I have no reason to revise my long-held opinion that he is a serious and substantial artist and that his work is of international museum quality. And, of that, one hopes Wales’ galleries will be sufficiently resourceful (and resourced) to get hold of the seminal works while they still can but as what follows may explain, there may well be reasons why they will not! Garner’s works’ titles are an important element; even a skim through them is sufficient to reveal the breadth of his concerns. Often amusing and in many cases even poetic, many, though not all, provide significant clues for understanding and in this respect he is not averse to a little mischief now and then. His work reminds me forcibly how some complex ideas can be expressed simply; some simple ideas expressed in either simple or complex ways but that some complex ideas can only be explained through complex means. Garner’s work, to my mind, falls into the first category. It is economical, with nothing superfluous to distract from its message. This expressive sparseness is his hallmark – with absolutely no more and no less than is necessary for comprehension and appreciation. Of course, some of his pieces may well be so ideologically dense, that a proportion of viewers may never appreciate their full dimension but these remain enjoyable, simply for their consummate craftsmanship and formal qualities. Overall his offering needs quiet thought and time to assimilate. His references are accessible with a little effort and he makes his points logically and quietly, flirting with, yet avoiding, total austerity. His works have massive presence, possessing all the gravitas of classicism. In this respect it supports considerable radicalism and though from the polar opposite of the political spectrum, his calls Ian Hamilton Finlay’s work to mind. Like him Garner also manages to maintain a sense of humour (a major contributant to his never seeming shrill) and a dimension of play. There are other similarities too, for that play frequently is of a species and character of a war game. In both there is considerable ethical, ideological and emotional steel.

In a world in which cogent criticism of a greedy and corrupt political entity is glibly dismissed as “hysterical”, “humourless”, “extreme” etc; a world in which a super-rich, in all its vulgarity, consumes far in excess of what it objectively needs and one in which those in need are characterised as “losers”, a world where governments condemn human rights abuses, whilst simultaneously conspiring to deny them and a world in which trade unionists are forced to rejoice at receiving armaments contracts, knowing the result will be death and enslavement for other human beings, it is surprising that more of art isn’t political. I have written previously about David Garner’s work(1), of the “land and people rape”, which has so characterised his and my native land and which has consistently formed such an important context for much of his work.


Y

n amlwg, y mae David Garner yn drallodwr yn y ddwy ystyr. Y mae’n ceisio tristhau; y mae’n ceisio newid. Artist medrus o’r fath fwyaf difirifol a sylweddol, y mae ei neges yn glir ac yn ddiamwys, ei grefft – rhagorol. Gyda’i themâu yn ymestyn dros sbectrwm eang o bryderon hanesyddol a modern, y mae gan ei gelf dimensiwn moesol, a hyd yn oed ysbrydol, dwys. Yn ddiau, ei gelf ef yw’r celf gwleidyddol mwyaf grymus, gyda realaeth gymdeithasol yn cael ei hystyried yn “brin” wrth ei ochr. Nid oes gennyf reswm

i ail-ystyried fy marn hir-dymor ei fod yn artist difrifol a sylweddol, a bod ei waith o safon amgueddfaol rhyngwladol. Ac yn hynny o beth, gobeithir y bydd orielau Cymru yn ddigon adnoddgar (ac adnoddedig) i gael gafael ar y gweithiau pennaf tra medran nhw, ond fel y gall yr hyn sy’n dilyn esbonio, efallai y bydd yna resymau pam na wnawn nhw hynny! Y mae teitlau gwaith Garner yn elfen bwysig; y mae hyd yn oed cip arnyn nhw yn ddigon i amlygu lled ei bryderon.

Weithiau’n ddifyrrus, ac mewn sawl achos yn farddonol hyd yn oed, y mae sawl, ond nid pob un, yn darparu cliwiau digonol ar sut i’w deall, ac o ran hynny, nid yw’n groes i fach o ddireidi o bryd i’w gilydd. Y mae ei waith yn fy atgoffa yn rymus am sut y gellir mynegi rhai syniadau cymhleth yn nhermau syml; rhai syniadau syml yn nhermau syml neu gymhleth, neu sut na ellir ond esbonio rhai syniadau cymhleth yn nhermau cymhleth. Y mae gwaith Garner, i’m tyb i, yn gweddi’r categori cyntaf. Y mae’n economaidd, heb ddim byd yn ormod i dynnu sylw oddi ar ei neges. Y mynegiant syml yma yw ei ddilysnod- heb ddim byd yn fwy nag yn llai nag sydd ei angen ar gyfer dealltwriaeth a gwerthfawrogiad. Wrth gwrs, efallai y byddai rhai o’i weithiau mor ddwys yn ideolegol fel na fydd rhan o’i gynulleidfa byth yn gwerthfawrogi eu holl gymhlethdod, ond y mae’r rhain yn parhau i fod yn bleserus, yn syml oherwydd eu crefftwriaeth cyflawn a’u rhinweddau ffurfiol. Ar y cyfan, y mae angen ar ei rodd ystyriaeth dawel ac amser i’w chymathu. Y mae ei gyfeirnodau yn ddealladwy gydag ychydig o ymdrech, ac y mae’n mynegi ei hun yn dawel ac yn rhesymegol, yn chwarae gyda, ond yn osgoi, cymedroldeb llwyr. Y mae gan ei weithiau bresenoldeb enfawr, gan feddu ar holl gravitas clasuraeth. Yn yr ystyr hon, y mae’n cefnogi cryn radicalaeth, ac er y daw o begwn cyferbyniol y sbectrwm gwleidyddol, y mae ei waith yn galw i gof gwaith Ian Hamilton Finlay. Yn yr un modd y mae Garner hefyd yn medru cynnal naws ddigrif (cyfrannydd sylweddol i’r ffaith nad yw byth yn ymddangos yn gybyddlyd) a dimensiwn chwareus. Y mae tebygrwyddau eraill hefyd, am fod y chwarae hwnnw yn aml o fath a chymeriad gêm ryfel. Yn y ddau y mae grym moesegol, ideolegol ac emosiynol sylweddol.

Mewn byd lle mae beirniadaeth cryf o endid gwleidyddol barus a llwgr yn cael ei wrthod fel “hysterig”, “di-hiwmor”, “eithafol” a.y.y.b; byd lle mae’r uwch-gyfoethog, di-chwaeth, yn ddiduedd, yn treulio llawer mwy na’r hyn sydd ei angen arnynt, lle mae’r rheini sydd mewn angen yn cael eu nodweddu fel “collwyr,” byd lle mae llywodraethau yn condemnio cam-driniaethau hawliau dynol, wrth gynllwynio ar y cyd i’w gwadu nhw, a mewn byd lle gorfodir undebwyr llafur i lawenhau wrth dderbyn cytundebau arfau gan wybod mai marwolaeth a charcharwriaeth fydd y canlyniad ar gyfer bodau dynol eraill, y mae hi’n syndod nad yw mwy o gelf yn wleidyddol.Yr wyf wedi ysgrifennu o’r blaen am waith David Garner, o “dreisiad y tir a’r bobl,” sydd wedi llwyr nodweddu ei wlad yntau a minnau, ac sydd wedi fffurfio, yn gyson, gyd-destun pwysig ar gyfer lawer o’i waith.


Now, although his work embraces a much larger canvass, social concern remains its principal leitmotiv. Garner has been one of the very few artists able to tackle the effects of industrialisation in Welsh visual art without romanticisation and such work as A is for Aberfan and Last Punch of the Clock can plausibly be considered the visual equivalent of Wales’ Literature of the Scars of the People(*). Here, even with all the greening and the “heritage parks”, such subjects for the artist’s outrage continue, in newer, subtler manifestations of social injustice – in LNG tanks, gas pipelines, wind turbines and aesthetically and socially unacceptable road works ripping apart communities, bringing traffic, grinding out pollution metres away from the windows of the powerless. Not much to comfort the concerned or the powerless in the wider world either and Charles Saatchi may well gaze from the terrace of his London home and “see nothing wrong with the world” from his point of view but such a vision is brutal in its selfishness and dearly bought. Increasingly, it will need assiduous defending, as the enormous growth of the security industry and gated communities attest.

The purity of David Garner’s stance stands in contrast and opposition to such things as the gross greed infecting, in ever grosser form, the upper strata of our society and the obscene socio-cultural, media-led engineering, which renders the lower strata inert, kitsch-consuming and a-political. Admittedly, this is an international syndrome but one more pronounced and sad here, in Britain which is the effective colony and hip-joined cultural twin of an ideologically bankrupt U.S.A. Its resulting manifestations are particularly painful to recognise in Wales, where formerly, political awareness maintained in almost every social group and where they existed the shoddy trashiness of pop culture were eschewed, rather than, as now, uncritically embraced.

C

ensorship and self-censorship now abound (Garner has had shocking experience of it in Wales). In the media and even some galleries, anything approaching radical protest is omitted, dismissed, or marginalised. Via a vocabulary and rhetoric rendering ‘politics’ a dirty word, the expression “too political” is enabled, to be employed as an acceptable form of criticism. In this context it is interesting to consider the demonization process. Its victims are obvious, if not legion - Benn (“too eccentric”); Redgrave (“too shrill”); Ken (“too

‘Red’”); Mark Serwotka (“too articulate”!). Predominant in all media, very well-educated presenter lackeys, abandon expensively inculcated critical skills and embrace success as bread and circuses “personalities”/”celebrities”, regularly relegating articulate thinking folk to the bins of eccentricity and peevishness. Artists suffer disproportionately and though some respond obligingly to their unwonted role as “celebs” (was I the only one to squirm at recently seeing Tracy and the sun-kissed Blairs fawning over each other at some brain-numbing fashionistas’ reception?), some – such as Grayson Perry even managing to exploit the froth to get his personal, very radical, message over – the more dissident and radical (and less colourful) frozen out, speak to the desert air.

We need sharp awareness of the nuances of historical and contemporary contexts in approaching both David Garner’s career trajectory and his work.


Yn awr, serch hynny, y mae ei waith yn cwmpasu cynfas llawer mwy, y mae pryder cymdeithasol yn parhau i fod ei leitmotif bennaf. Y mae Garner wedi bod yn un o’r artistiaid prin hynny a all ymgodymu effeithiau o ddiwydiannaeth mewn celf gweledol Cymreig heb ramantu a gellir ystyried, mewn ffordd gredadwy, weithiau megis A is for Aberfan a Last Punch of the Clock fel y gyfatabiaeth weledol mewn Llên Gymreig o “Scars of the People”(*). Yma, hyd yn oed gyda’r holl lasu a’r “parciau treftadaeth”, y mae’r fath weithiau o ddicter yr artist yn parhau mewn amlygiadau cynilach o anghyfiawnder cymdeithasol – mewn tanciau LNG, mewn lein beipiau nwy, mewn tyrbinau gwynt ac mewn gweithfeydd ffordd cymdeithasol ac esthetig annerbyniol, sydd yn rhwygo cymunedau, yn denu traffig, yn diferu llygredd metrau i ffwrdd o ffenestri’r diymadferth. Dim llawer i gysuro’r rhai pryderus neu ddiymadferth yn y byd ehangach chwaith, ac efallai y bydd Charles Saatchi, am hynny, yn syllu o deras ei dŷ Llundeinig gan “weld dim byd o’i le yn y byd” o’i safbwynt ef ei hun, ond y mae’r fath weledigaeth yn greulon yn ei hunanoldeb ac yn ddrud ei phris. Yn gynyddol, y bydd angen amddiffyn dyfal ohoni, fel y mae’r twf enfawr yn y diwydiant diogelwch a’r cymdeithasau dan glo yn tystio.

S

aif purdeb safiad David Garner mewn cyferbynaid a gwrthwynebiad â’r fath bethau â’r heintio o drachwant ffiaidd, ar ffurf mwy ffiaidd byth, yr haenau uchaf o’n cymdeithas a’r beirianneg atgas gymdeithasol-ddiwylliannol a arweinir gan y cyfryngau, sydd yn peri’r haenau îs i fod yn anadweithiol, yn dreulwyr kitsch ac yn anwleidyddol.

Y mae rhaid cyfaddef y mae hwn yn syndrom rhyngwladol ond un sydd yn fwy amlwg a thristach yma ym Mhrydain, sydd i bob pwrpas yn y wladfa a’r diwylliant gefaill cydgysylltiedig i U.D.A. gwag ei hideoleg. Y mae ei amlygiadau canlyniadol yn enwedig o boenus i’w cydnabod yng Nghymru, lle yng nghynt, y parhaodd ymwybyddiaeth wleidyddol ym mron pob dosbarth cymdeithasol, ac yn y llefydd hynny lle’r oedden nhw’n bodoli, fe gafodd y diwylliant pop diwerth ei wthio o’r neilltu, yn groes i’r sefyllfa bresennol, lle mae’n cael ei gofleidio yn anfeirniadol. Y mae sensoriaeth a hunan-sensoriaeth yn dod yn fwy cynyddol (y mae Garner wedi cael profiad ysgytiol ohono yng Nghymru). Yn y cyfryngau, a hyd yn oed mewn rhai orielau, y mae unrhyw beth sydd yn agosáu at brotest radicalaidd yn cael ei hepgor, ei wrthod, neu ei ymyleiddio. Trwy eirfa a rhethreg sydd yn peri i ‘wleidyddiaeth’ fod yn air brwnt, y mae’r mynegiad “rhy wleidyddol” yn cael ei alluogi, er mwyn cael ei gyflogi fel modd derbyniol o feirniadaeth. Yn y cyd-destun hwn y mae hi’n ddiddorol ystyried y broses o fardduo. Y mae ei ddioddefwyr yn amlwg, os nad yn lleng – Benn (“rhy ecsentrig”); Redgrave (“rhy wichlyd”); Ken (“rhy ‘Goch’”); Mark Serwotka (“rhy ddifloesg”!). Yn amlwg dros y cyfryngau i gyd, y mae cyflwynwyr ‘gwas bach’ addysgiedig yn rhoi’r gorau i sgiliau beirniadol cyflyriedig drud ac yn cofleidio llwyddiant fel ffordd arwynebol o ddyhuddo “personoliaethau”/”enwogion”, wrth wthio, yn gyson, pobl alluog a difloesg o’r neilltu. Y mae artistiaid yn dioddef yn anghyfartal, ac er bod rhai yn ymateb yn fodlon i’w rôl anghyfarwydd fel “enwogion” (ai fi oedd yr unig un i wingo wrth weld, yn ddiweddar, Tracy a’r Blairs heulfelyn yn gwenieithu ei gilydd mewn derbynfa ddiflas rhyw fashionista?), y mae rhai – megis Grayson Perry yn llwyddo, hyd yn oed, i ymelwa ar y sefyllfa hon er mwyn cael ei neges bersonol a radical iawn drosodd – gan greu sefyllfa lle y mae’r rhai mwy gwrthwynebol a radical byth (a llai lliwgar) yn cael eu heithrio, ac yn cael eu gadael i siarad i gynulleidfa wag.

Y mae angen ymwybyddiaeth finiog arnom o arlliwiau’r cyd-destunau hanesyddol a chyfoes wrth ymdrin â chyfeiriad gyrfa David Garner a’i waith.


I

ndisputably, we have in him an extremely accomplished artist, the value of whose work has been amply attested by well-qualified commentators, which provokes the question of why, in terms of conventional success, his progress has not been quicker and his career not gone far further than it has? I do not believe that the

answer lies in the former perception of the cultural and geographic remoteness of a Welsh art scene, far from art world centres of publication and power, for Welsh artists are nowadays enjoying conventional success worldwide. I do however feel a substantial part of the reason is the mimsiness of a suburbanised post-politics engendered by Thatcher/ Blair “pull-the-ladder-up-Jack” tendency. Whilst art critics perceived as ‘left’ and artists too, were being quietly dropped from British metropolitan newspapers and galleries during a period of craven self-censorship after Thatcher’s accession, in Wales they had barely existed. As hinted at above, this consensualism was largely the result of unaccustomed personal affluence and comfort among a fairly newly-arrived and thus particularly insecure, middle-class in Wales, has increasingly resulted in aversion to any kind of political, or even social, activism popularly viewed as ‘extreme’. Indeed, for British Art in general the result has been dire: a market elite basking in hermetic self-regard, onanistically validating itself and flourishing by conjuring frisson through sex, faux violence and sharks. To paraphrases Tom Wolfe: the public was never plausibly invited. Such marginalisation is ironic in Garner’s case and I now realise the mis-characterisation innate in my earlier(2) too-easy description of him as a “political artist”(3), recalling Michael Billington’s Guardian interview with Vanessa Redgrave last summer, in which she chose to redefine herself as “post-political” and a “humanist”, rather than a “political activist”. I feel this rather curious hair-splitting and perhaps even indicitive of the dangers of over categorisation. Garner, I am confident, will survive such clumsiness as mine, for humanist he certainly is, as certainly as “post-political” he is not. And as for his activism, however he might exercise himself otherwise than in art, he most certainly is an “activist” – for that is embedded and totally intrinsic to his praxis. In the current pavane of empty consumerist blandness lies a tacit conspiracy between media (general and specialist), museum directors, collectors, dealers, private foundation galleries and various rate” and the “charitable”, aka the tax-avoiding super-rich). There are few mavericks, so that even the rare dissenting voice (one thinks of Brian Sewell, or David Lee) with which one might not always agree, comes as a breath of very fresh air. Nowadays, artists who have consistently expressed social and political concern since the Sixties, find their work collected for its historic archival, or curiosity value but rarely, even in public galleries, exhibited as intrinsically worthwhile. For a number of obvious reasons obvious to any reader by now, I do not see Garner representing Wales and certainly not Britain, at the Venice Biennale and even less featuring in Wales’ other enthusiasm, the sad, bland, international curator-club dominated Artes Mundi, any time soon but naturally I should be very pleased to be proved wrong. Meanwhile, the lionisation and accordance of pop-star status to the Hursts, Hockneys, Emins, G and Gs, and Chapman Bros, reduces the socially critical and political artist – the Brisley’s and Atkinson’s are still with us – to plaintive tugging on an indifferent critic’s sleeve.


Y

n ddiamau, y mae gennym ynddo artist gwirioneddol a medrus, un sydd a’i waith wedi ei dystio yn helaeth gan sylwebwyr dra chymwysiedig, sydd yn ysgogi’r cwestiwn pam, yn nhermau llwyddiant confensiynol, nad yw ei gynnydd wedi bod yn gyflymach a pham nad yw ei yrfa wedi mynd ymhellach nag y mae? Ni chredaf fod yr

ateb i’w ganfod yn y cyn-ganfyddiad am bellenigrwydd diwylliannol a daeryddol y sîn gelf Gymreig - ymhell o’r canolfannau celf bydol o gyhoeddiad a phŵer - am fod y dyddiau hyn y mae artistiaid Cymreig yn mwynhau llwyddiant byd-eang confensiynol. Yr wyf yn teimlo, fodd bynnag, y mae rhan sylweddol o’r rheswm yw eiddilwch yr ôl-wleidyddiaeth maestrefol a gafodd ei achosi gan y tueddiad hunanol a ddaeth o Thatcher/Blair. Pan gafodd feirniaid celf a ystwyriwyd fel ‘chwith’ ac artistiaid hefyd, eu gollwng yn dawel, o bapurau newydd metropolitan Prydeinig ac orielau yn ystod cyfnod o hunan-sensoriaeth llwfr ar ôl olyniaeth Thatcher, yng Nghymru prin oedden nhw wedi bodoli. Fel yr awgrymwyd uchod, yr oedd y cydsyniadaeth hwn i raddau helaeth yn ganlyniad i gyfoeth personol, anghyfarwydd a chysur ymhlith dosbarth canol Cymreig newydd-gyrhaeddiol, ac felly arbennig o ansefydlog, a chanlyniad cynyddol hwn yw osgoad o unrhyw fath o weithgaredd gwleidyddol, neu hyd yn oed cymdeithasol, a ystyrid yn eithafol. Yn wir, am gelf Prydeinig yn gyffredinol, y mae’r canlyniad wedi bod yn enbyd: elit farchnadol yn ymdrochi mewn hunan-ystyriaeth ddiddos, yn dilysu ei hun yn onanistig ac yn ffynnu drwy gonsurio gwefr drwy ryw, ffug-drais a siarcod. Er mwyn aralleirio Tom Wolfe: ni wahoddwyd y cyhoedd yn gredadwy byth. Y mae’r fath ymyleiddio yn eironig mewn achos Garner ac yr wyf yn sylweddoli yn awr y camgymeriadu cynhenid yn fy nisgrifiad rhy amlwg blaenorol(2) ohono fel “artist gwleidyddol”(3), gan alw i gof cyfweliad rhwng Michael Billington a Vanessa Redgrave yn The Guardian yr haf diwethaf, lle y dewisodd hi ailddiffinio ei hun fel “ôl-gwleidyddol” ac yn “ddyneiddiwr”, yn hytrach na “gweithredwr gwleidyddol”. Teimlaf mai hollti blew yw hyn, ac efallai hyd yn oed, y mae hi’n nodweddiadol o’r peryglon o orgategoreiddio. Bydd Garner, ‘rwy’n sicr, yn goroesi’r fath lletchwithdod â’r hynny a gafwyd gennyf, am mai dyneiddiwr yn sicr ydyw, cymaint ag yw’n profi nad yw’n “ôl-wleidyddol”. Ac o ran ei weithredaeth, pa bynnag ffordd y byddai’n dewis mynegi ei hun y tu-fas i’w gelf, yn sicr, mai “gweithredwr” ydyw - am fod hynny wedi ei fewnosod, ac yn hollol gynhenid i’w ddisgybliaeth. Wrth wraidd y bafán bresennol o ddiflastod prynwriaethol y mae cynllwyn cudd rhwng y cyfryngau (cyffredinol ac arbennigol), cyfarwyddwyr amgueddfeydd, casglwyr, gwerthwyr, orielau sefydliad preifat a nifer o fathau gwahanol o sefydliadau “cymar” (sydd yn cael eu boddi yn fwyfwy gan y “corfforaethol” a’r “elusennol”, h.y., yr uwch-gyfoethog a osgô trethi). Y mae yna ambell i berson anghydffurfiol, fel y daw hyd yn oed y llais anghydsyniol brin honno – yr honno nas cytunid gyda phob tro, (y mae Brian Sewell, neu David Lee yn dod i gof) fel chwa o awyr iach. Y dyddiau hyn, y mae artistiaid sydd wedi mynegi yn gyson bryder cymdeithasol a gwleidyddol ers y Chwedegau, yn gweld eu celf yn cael eu casglu am ei archifiaeth hanesyddol, neu werth chwilfrydol ond mewn amgylchiadau prin, hyd yn oed mewn orielau, fe gân nhw eu harddangos am eu gwerth ynddyn nhw ei hunain. Am nifer o resymau amlwg i bwy bynnag darllenydd yn awr, nid wyf yn gweld Garner, ar fyr o dro, yn cynrhychioli Cymru ac yn sicr nid Prydain, ym Miennale Fenis, ac yn llai byth yn y clwb trist a diflas hwnnw a ddominyddir gan guraduron rhyngwladol a elwid Artes Mundi, ond yn naturiol, fe fyddwn i’n falch iawn i gael fy mhrofi yn anghywir. Yn y cyfamser, y mae’r mawrygu a’r grantio o statws seren-bop i’r Hirstiaid, Hockeyiaid, Eminiaid, G a Gs, a’r Brodyr Chapman, yn israddio’r artist feirniadol o gymdeithas a gwleidyddiaeth – y mae’r Brisleyiaid a’r Atkinsoniaid yn parhau i fod gyda ni – i lefaru i gaëdig glust y beirniad difater.


So, whilst one might regard Garner’s work as basking in the Redgravian glow of existing above and beyond ‘mere’ politics, this is an incomplete picture. His concerns clearly indicate and increasingly, an affirmation of our humanity and our common responsibility for striving, against increasing odds, to maintain it, but with him it is practical and he leaves the rhetoric embedded in his work, or to others.

Above all David Garner is a considerable narrator: his objects’ stories are tragedies – of events, situations, feelings, strivings and usually, failings. Someone once wrote of Art as “our flounderings shown” and he indicates our – only at times innocent – floundering. More frequently he shows society’s deliberate inhumanity, its clear, deliberate and cynical viciousness. He points to things tantamount to crimes, crimes ranging across boundaries and across cultures, crimes subverting traditional narratives and orthodoxies, crimes of quite breathtaking proportion and cynicism – ‘local’ crimes, of such as those who chose to ignore the creeping danger inherent in an Aberfan coal-tip, global crimes such as those of the descendents of Holocaust victims who now, less than sixty years after, reconfigure torture, death and genocide, high walls and razor wire in Palestine and thus threaten the peace and stability of the entire planet. In a milieu in which the arts in general play such a large part in international diplomacy, it is also a crime on the part of Art and its institutions, to fail to subject such things to such objective scrutiny as Garner’s. It is piquant that, in his work Olive Branch of 2011, he employs the wood of the tree most symbolic of peace for the handles of one of our most prolific contemporary killing machines, the AK47. Wood moreover from Bethlehem – natal place of the “Prince of Peace” and one of the world’s most un-pacific places. Such points are often rather lyrically made which, with the refinement in his presentation, serves to point up the violence even more. Another example, 846, consists of a simple field of very pretty, small origami tanks, made from leaflets harvested in Tahrir Square, after the first Egyptian revolution. Eight hundred and forty-six is the number of those killed there. It is a point gently made but its criticism is no less vicious for it.

S

o why, with few honourable exceptions, are artists failing as scrutineers and protesters, when artists’ images such as Philip Jones Griffith’s Bandaged Vietnamese Female, Eddie Adams’ Saigon Execution and Miss Amerika, by Wolf Vostell, are held to have been such significant factors in stopping the Vietnam War and when, in the past even exhibitions, I think of Margaret Harrison’s Rape for instance, have

proven so effective in radically altering public attitudes, policing and even the law, here?

The story of the incorporation by artists of “non-art” (“found materials” and “non-art” objects) into art is a major thread in the history of art since Duchamp. The name Garner is apposite: for he gathers materials and objects not usually regarded as being within the ambit of Art, and employs, sometimes replicates, them to further his artistic ends. But this is not evidence of post-Duchampian sensibility, because Garner’s objects have highly specific associative targets and the minimum of ambiguity. Each has its own story and alone, or harnessed with others, points to a narrative of actual events and as cool and detached, engineered, or clinical as they may appear, in his hands, they conjure strong emotions.


Felly, tra gellid ystyried gwaith Garner fel gwaith sydd yn ymdrochi mewn llewyrch Redgravaidd o fodoli uwchben a thu hwnt i wleidyddiaeth ‘brin’, y mae hwn yn llun anghyflawn. Y mae ei bryderon yn dynodi yn glir, ac yn gynyddol, gadarnhad o’n dynoliaeth a’n cyfrifoldeb cyffredin i fwrw ymlaen, er gwaethaf popeth i’w chynnal, ond ar ei ran ef y mae’n ymarferol, ac y mae’n gadael y rhethreg hon yng ngwraidd ei waith, neu ei gadael i eraill.

Yn anad dim, y mae David Garner yn gryn lefarydd: y mae’r straeon a berthyn i wrthrychau ei waith yn drasiedïau – o ddigwyddiadau, sefyllfaoedd, teimladau, ymdrechiadau ac fel arfer, methiannau. Ysgrifennwyd unwaith am Gelf fel “ein trafferthion i’w gweld” ac y mae’n dynodi – ddim ond ar adegau diniwed – ein trafferthu. Yn amlach, y mae’n dangos cieidd-dra bwriadol cymdeithas, ei mileindra amlwg, bwriadol a sinigaidd. Y mae’n cyfeirio at bethau sydd yn gyfystyr â throseddau, troseddau sydd yn amrywio ar draws ffiniau ac ar draws diwylliannau, troseddau sydd yn tanseilio naratifau ac uniongredoau traddodiadol, troseddau o gyfrannedd a sinigiaeth gryn syfrdanol – troseddau ‘lleol’, fel rheini’r bobl hynny a ddewisodd anwybyddu y perygl ymgripiol a geir mewn pwll glô yn Aberfan, troseddau byd-eang fel y rheini a berthyn i ddisgynyddion dioddefwyr yr Holocost, sydd yn awr, llai na chwe deg mlynedd wedyn, yn ailffurfio artaith, marwolaeth a hil-laddiad, muriau uchel a gwifren rasel ym Mhalesteina ac felly’n bygwth heddwch a sefydlogrwydd y blaned gyfan. Mewn milieu lle mae’r celfyddydau yn gyffredinol yn chwarae rhan mor fawr mewn diplomyddiaeth ryngwladol, y mae hi hefyd yn drosedd ar ran Celf a’i sefydliadau, i fethu â rhoi‘r fath bethau dan y fath archwiliad gwrthrychol â’r hwnnw a eiddo Garner. Y mae hi’n gynhyrfiol, yn ei waith Olive Branch o 2011, ei fod yn defnyddio pren y coeden sydd yn bennaf yn symbol o heddwch ar gyfer carn un o’n peiriannau lladd cyfoes mwyaf dinistriol, yr AK47. Pren, ar ben hynny, o Fethlehem – man geni’r “Tywysog Tangnefedd” ac un o lefydd mwyaf anheddychlon y byd. Y mae ystyriaethau o’r fath, yn aml, yn cael eu gwneud yn weddol delynegol sydd, gyda’r coethder yn ei gyflwyniad, yn helpu pwysleisio’r trais hyd yn oed yn fwy. Y mae enghraifft arall, 846, yn cynnwys cae syml o danciau origami bach a phert iawn a wnaed o daflenni a gafodd eu lledaenu yn Sgwâr Tahrir ar ôl y chwyldro Eifftaidd cyntaf. Wyth cant a phedwar deg chwech yw’r nifer a laddwyd yno. Y mae hi’n bwynt a wnaed yn dyner, ond nid yw ei feirniadaeth yn llai milain o’r herwydd.

A

c felly pam, gydag ambell i eithriadau anrhydeddus, y mae artistiaid yn methu fel archwilwyr a phrotestwyr, tra bo delweddau artistiaid megis Bandaged Vietnamese Female gan Philip Jones Griffith, Saigon Execution Eddie Adams a Miss Amerika Wolf Vostell, yn cael eu hystyried fel ffactorau cryn sylweddol yn yr ymdrech a fu i wrthod y rhyfel yn Fietnam, a phan, yn y gorffennol y mae arddangosfeydd hyd yn oed, ‘rwy’n meddwl am Rape Margaret Harrison fel enghraifft, wedi profi mor effeithiol wrth newid yn

sylweddol agweddau cyhoeddus, plismona a hyd yn oed y gyfraith, yma?

Y mae’r stori o’r ymgorfforiad gan artistiaid o “anghelf” (“deunyddiau hapgael” a gwrthrychau “anghelf”) i mewn i gelf yn un o brif ddigwyddiadau yn hanes celf ers Duchamp. Y mae’r enw Garner yn addas: am ei fod yn casglu deunyddiau a gwrthrychau nad ydynt fel arfer yn cael eu hystyried i fod o fewn cwmpasiad Celf, ac yn eu defnyddio, weithiau’n eu hailadrodd, i ehangu cyrhaeddiad ei ddibenion artistig. Ond nid yw hyn yn dystiolaeth o synwyrusrwydd ôl-Duchampaidd, am fod gan wrthrychau Garner targedau cysylltiadol penodol iawn a lleiafswm yr amwysedd. Y mae gan bob un ei stori ei hun, ac ar ben ei hun, neu ar y cyd ag eraill, yn cyfeirio at naratif o ddigwyddiadau go iawn ac er mor cŵl ac ar wahân, peirianyddol, neu glinigol y maen nhw yn ymddangos, yn ei ddwylo ef, y maen nhw yn ennyn emosiynau cryf.


The materialisation and de-materialisation of the (generally common) object during the last hundred years too has been a haunting phenomenon, one which in successive waves has held public, galleries and markets in thrall. Its meanderings from Synthetic Cubism right down to Tracy’s tent, Damien’s sharks (and latterly, no object at all), infuriating all those who persist in equating art with physical, rather than mental, effort and fetishise craft-skills, rather than any informing idea. Garner’s oeuvre is austerely classical, according to well-established canons and when I compare his output with what is presented as Installation Art in most galleries nowadays, I find the latter wanting, facile, opportunistic and in general ideologically bankrupt tat.

G

arner acknowledges his interest in Arte Povera (its initial stance against the art market presumably a part of its appeal for him) but the differing degrees to which he either simply selects and uses, or destroys/cannibalises his earlier works to create successors, places the result at a considerable remove from the merely found object. A Case of the Great Money Trick supports this ‘select and use’ approach: a section of parquet flooring, like that many of us sat on in primary school, has long lain awaiting its time for use in his studio. Now, with a seven foot

height measuring pole – another schooldays memory – placed vertical to it, what is being measured is a book. It is a seminal one, particularly for those curious about un-romanticised labour history: Robert Tressell’s The Ragged Trousered Philanthropists, which tells of the brain-washed dispossessed’s unwitting support of its “betters”. Of other works, one marvels at the lengths to which he goes to identify and acquire requisite objects, for instance Beware when the gloves are off comprises vintage porcelain glove moulds, with great persistence tracked down and then purchased in Germany. This surely confirms an entirely different motivation from Duchampian artist-priesthood? Sometimes an object having past associations is his target and (as with his clocking-in machine) he relentlessly pursues it, sometimes with a ‘constant knocking’ approach, persuading reluctant owners to part with things. Rarely does he employ a single object as found, more usually he combines or modifies – amusingly sometimes, as with Last Punch of the Clock, in pursuit of even greater “verisimilitude”. Such found and modified materials are invariably extraordinarily finely crafted and labour-intensive. For the clocking-in machine of Last Punch he went to the length of having facsimiles of authentic cards made and himself laboriously hand-punched thousands of them. Such physical effort whether consciously or not, seems almost an attempt at replication of his father’s working life, in order to represent its length and tedium. This evident simultaneous horror at and sympathy with, the physical efforts of his subjects is akin to a performative element and although clearly not strictly necessary, is indicative, of a personal austerity and an awareness of and perhaps the desire to share, if in smaller manner, the suffering his works are describing.

Definitely Garner, even among his artist contemporaries, enjoys great respect. He was recommended for inclusion in my book Imaging Wales by several of the country’s most distinguished artists. Yet he retains something of the loneliness of the prophet, which is possibly due to his persistent voice and an art establishment in Wales prone to be antipathetic by and large to his message.


Shift

David Garner. Newport Art Gallery April 20 - June 29. 2013

01


02

Photography: Peter Telfer, Noel Baker, Steve Boyland, Anthony Shapland.


Design: Mark Williams, David Garner.

03


04

http://www.davidgarnerartist.com

www.newport.gov.uk/artgallery


Y mae’r materoli a difateroli o’r gwrthrych (cyffredin yn gyffredinol) yn ystod y can mlynedd diwethaf hefyd wedi bod yn ffenomen iasol, un sydd wedi dal, mewn tonnau dilynol, y cyhoedd, orielau a marchnadoedd yn gaeth. Y mae ei droeon o Giwbiaeth Synthetig i babell Tracy, siarcod Damien (ac yn ddiweddar, dim gwrthrych o gwbl), yn gwylltio’r rheini sydd yn mynnu cyfateb celf ag ymdrech corfforol, yn hytrach na meddyliol ac yn ffetiseiddio sgiliau-crefft, yn hytrach nag unrhyw syniad addysgol. Y mae oeuvre Garner yn erwiniol o glasurol, yn ôl canonau hen-sefydliedig a phan ‘rwy’n cymharu ei allbwn gyda’r hyn sydd yn cael ei gyflwyno fel Celf Gosod yn y mwyafrif o orielau y dyddiau hyn, ‘rwy’n gweld y llall fel celf sydd yn ddiffygiol, hawdd, fanteisgar ac, yn gyffredinol fel sbwriel gwag ei ideoleg.

C

ydnebydd Garner ei ddiddordeb mewn Arte Povera (gyda’i safiad gwreiddiol yn erbyn y farchnad gelf, yn ôl pob tebyg, yn rhan o’r apêl iddo), ond y mae’r graddau amrywiol y mae e naill ai yn dewis ac yn defnyddio, neu yn dinistrio/canibaleiddio ei weithiau cynharach er mwyn creu olynyddion, yn lleoli’r gwaith ymhell y tu hwnt i unrhyw ystyriaeth ohono fel gwrthrych hapgael yn unig. Y mae A Case of the Great Money Trick yn cefnogi’r dull hwn o ‘ddethol a defnyddio’: y mae darn o lawr parquet, fel yr hwnnw a wnaeth lawer ohonom

ni eistedd arno yn yr ysgol gynradd, wedi bod yn hir ymaros ei ddefnydd yn ei stiwidio. Yn awr, gyda ffon fesur o saith troedfedd – atgof arall o ddyddiau ysgol – wedi ei gosod yn fertigol yn ei erbyn, yr hyn sydd yn cael ei fesur yw llyfr. Y mae hi’n un dylanwadol, yn enwedig am y rheini sydd yn chwilfrydig am hanes anrhamantus llafur: The Ragged Trousered Philanthropist, gan Robert Tressell, sydd yn sôn am gefnogaeth ddiarwybod y difeddiannedig cyflyredig o’u “gwell”. O ran gweithiau eraill, y mae un yn rhyfeddu ar gymaint y mae’n trafferthu i adnabod ac i feddiannu gwrthrychau anghenrheidiol, er enghraifft y mae Beware when the gloves are off yn cynnwys hen fowldiau maneg borslen, a gafodd eu lleoli drwy ymdrech gref, ac wedyn eu prynnu o’r Almaen. Y mae hyn, siŵr o fod, yn cadarnhau cymhelliad hollol wahanol i artist-offeiriadaeth Duchampaidd? Ambell waith, gwrthrych gyda chyn-gydgyslltiadau yw ei darged ac (fel yw’r achos gyda’i beiriant clocio i mewn) y mae’n ei erlid yn ddidostur, weithiau drwy ddull ‘cnocio cyson’, gan ddarbwyllo perchnogion anfodlon i ymadael â phethau. Yn anaml iawn y mae’n gwneud defnydd o un gwrthrych hapgael, yn amlach y mae’n cyfuno neu’n addasu – weithiau’n ddifyrrus, fel yw’r achos gyda Last Punch of the Clock, wrth geisio dod o hyd i well “hygrededd”. Gwnaed y fath wrthrychau hapgael ac addasiedig hyn, yn ddieithriad, drwy chrefftwriaeth cain dros ben a thrwy lafur dwys. Ar gyfer y peiriant clocio i mewn o Last Punch fe aeth i’r drafferth o greu cerdiau ffacsimili dilys gan law-daro yn llafurus filoedd ohonyn nhw. Ymddengys y fath ymdrech gorfforol, boed ymwybodol neu beidio, fel ymgais bron at atgynhyrchiad o fywyd gwaith ei dad, er mwyn portreadu ei hyd a’i flinder. Y mae’r arswyd cydamserol amlwg hwn at, a chydymdeimlad ag, ymdrechion corfforol ei destunau yn ymdebygu ag elfen berfformiadol. Ac er nad yw’n anghenrheidiol, yn amlwg, y mae’n nodweddiadol o gerwinder personol ac ymwybyddiaeth o, ac efallai yr awydd i rannu, os nad ar raddfa lai, y dioddefaint a ddisgrifir gan ei waith.

Yn bendant y mae Garner, hyd yn oed o blith ei artistiaid cyfoes, yn mwynhau parch enfawr. Fe’i argymellwyd gan sawl o’r artistiaid pennaf y wlad i gael ei gynnwys yn fy llyfr Imaging Wales. Ond eto, y mae’n cadw rhywbeth o unigedd y proffwyd sydd, mae’n bosib, oherwydd ei lais parhaus, a’r sefydliad celf yng Nghymru sydd yn tueddu i fod yn wrthwynebus gan amlaf i’w neges.


He will, I believe come, if only in retrospect, to be regarded as one of the most important British artists of his time. Were he more concerned with acceptance, fashion and the plaudits of the general, his art would be different, the blood out of it and perhaps it would not even be art.

great wn; but the fter your o a e liv to e in solitud ribes David rfectly desc s; it is easy e n p io e in m p o r fo ’s e world t Shift ”(4). That, live after th This is wha of solitude iousness. the world to pendence sc e n in d in co sy t e a n s e th a rote: “It is s, continue n the dorm sweetness monstrate r to awake Emerson w ith perfect e e d o w rd ld s o in a p a e in g W , a ke d h n rl d Ralp the wo e crow exhibitio midst of th concerns to nce of this who in the s the evide displays his a ip d n sh a n t a man is he n dmills. e e consist ting at win and craftsm erise as til bove all els with talent ct a o ra h is a w e r, ch h e r tly rn fo Ga self, nvenien Garner him nics will co no shift for what the cy in e g a does, but g n e energy to itment and with comm

Hugh Adams 2013

N *

ewport and its hinterlands provided an enormous amount of raw material for

such writings and

eventually, the world famous films based on them. So, it is ironic that at the time of writing, it seems as if this exhibition will be seen in the town at

precisely the time when it is abandoning its historic commitment to improving the quality of an impoverished community and the lot of its workers via education and is closing down its library, museum and art gallery for “lack of funds”. Newport’s Labour-run council, in the most dull, uncreative way, is abandoning a widely admired temporary exhibition programme, which, staff included, costs only £40,000 per annum, whilst granting precisely that amount to a snooker festival, which will last one week! Is the council justifying this with the evil baroness’ “There is no alternative”? One would have to go very far in the world to find a place having pretensions to being a decently provided town, let alone a city, with the paucity of cultural provision being proposed.

1) Imaging Wales, contemporary art in context Wales Arts International, 2003. 2) Memento an edited and revised version of a lecture given in 2002 at G39, Cardiff, 2013 see http://www/davidgarnerartist.com/david_garneressays.html 3) I have to say that I am in agreement with the American writer and critic Richard Nonas, who said that any word hyphenated, or used to qualify Art, such as public, community etc. represented the diminution of the special quality of Art. See: Richard Nonas essay The Snake in the Garden in The Artist Outsider ed. Hall, Michael D. and Metcalfe, Eugene D. Smithsonian Press, Washington D.C. 1994. 4) Collected Works of Ralph Waldo Emerson, ed. Spiller, Robert et al. Harvard U.P. 1971.


Fe ddaw, ‘rwy’n credu, os nad yn unig gydag adolwg, i gael ei ystyried fel un o artistiad Prydeinig mwyaf pwysig ei gyfnod. Pe bai’n pryderu mwy dros dderbyniad, ffasiwn, a chlod cyffredinol, fe fyddai ei gelf yn wahanol, y gwaed ohono, ac efallai na fyddai’n gelf o gwbl.

hi’n hawdd byd; y mae ’r u a rn a b l fyw yn ô elyster yn y byd i dw gyda m hi’n hawdd dorf yn ca e y a l o m n a “Y h : g n gyda dawn dd yng n o Emerso r, a ddengys alph Wald r yw efe sy e R w rn a d a d m G o n d yn n d vi rffaith Da Fe ysgrife n; ond y i Garner ôl eich hu grifio yn be nd nid sifft i mi, yn dis dd i fyw yn wna Sifft, o y, e a n ig n yn yn u h h ag n e ’r a w a me ur. Dyn io, pery gyd dd”(4).Y m wybod seg eto yn tyst ym iaeth unige n ’r o yn o h ib a ffr n e n sf a o er mwyn arddang perffaith erion i’r byd stiolaeth yr iau. c fel bod ty eth, ei bryd sod ar rith a a , ri n w o fft ys re g galw, ymo yn a ch , yn th s e u p e o p yfl law iaid yn g ei fod, uwch ddai’r sinic ei hun, am â’r hynny fy o ym rw ym d ac egni i ymrwymia

Hugh Adams 2013

*

Y

mae Casnewydd a’i chefnwlad yn darparu swm enfawr o ddeunyddiau crai ar gyfer y fath ysgrifau ac ym mhen hir a hwyr, y ffilmiau byd enwog a gafodd eu seilio arnyn nhw. Felly, y mae hi’n eironig yn awr, y mae hi’n ymddangos y

bydd yr arddangosfa yn cael ei gweld yn y dref ar yr union adeg pan y bydd hi’n rhoi’r gorau i’w hymrwymiad hanesyddol i wella ansawdd gymuned dlawd a’i chyfran o weithwyr drwy addysg ac yn cau ei llyfrgell, hamgueddfa ac oriel gelf oherwydd “diffyg cyllid”. Y mae cyngor Llafur Casnewydd, yn y modd mwyaf hurt ac anghreadigol, yn rhoi’r gorau i raglen arddangosfeydd dros dro sydd yn destun edmygedd eang, sydd gan gynnwys y staff, ond yn costio £40,000 y flwyddyn, tra bôn nhw’n clustnodi yr union swm hwnnw i ŵyl snwcer a fydd yn para wythnos yn unig! A yw’r cyngor yn cyfiawnhau hyn drwy eiriau’r farwnes ddrwg: “Nid oes unrhyw ddewis arall”? Y bydd rhaid i un teithio’n bell iawn ar lawr y byd i ganfod tref a allai hawlio unrhyw ymhoniadau o ddarparu cyfleusterau digonol, heb sôn am ddinas, gyda’r prinder o ddarpariaeth ddiwylliannol a gynigir yma.

1) Imaging Wales, contemporary art in context Celfyddydau Rhynglwadol Cymru, 2003 2) Memento fersiwn golygiedig a diwygiedig o ddarlith a roddwyd yn 2002 yn G39, Caerdydd, 2013. Gweler: http://www/davidgarnerartist.com/david_garneressays.html 3) Y mae rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno gyda’r awdur a’r beirniad Americanaidd Richard Nonas a ddywedodd fod unrhyw air cysylltnod, neu unrhyw un a ddefnyddir i gynhwyso celf, megis cyhoeddus, cymunedol a.y.y.b. yn cynrychioli’r lleihad o’r ansawdd arbennig o gelf. Gweler: traethawd Richard Nonas The Snake in the Garden yn The Artist Outsider gol. Hall, Michael D. a Metcalfe, Eugene D. Gwasg Smithsonian, Washington D.C. 1994. 4) Collected Works of Ralph Waldo Emerson, argraffwyd gan Spiller, Robert et al. Gwasg Brifysgol Harvard 1971.


Hugh Adams has written extensively on the arts and cultural matters for over thirty years, contributing to many publications, including Art and Artists, The Guardian, Modern Painters, O Independente, Artforum, Raw Vision, Art Monthly, Studio International and Flash Art / Heute Kunst, New Welsh Review and Planet. He has worked in higher education and arts administration and was first Director of Oriel Mostyn, the first “Art Critic-in Residence” at a British University, Chair of Cywaith Cymru, a member of the visual arts steering group for the Senedd building and the advisory group for Wales at the Venice Biennale. He has a particular interest in marginalised creativity and an important part of a collection he formed with his partner Rogelio Vallejo, has been acquired by the University of Sydney as the core of a collection, gallery and research centre which focuses on Outsider Art. David Garner was born in Ebbw Vale, South Wales. He studied at Newport and Cardiff College of Art and the Royal College, London. He has exhibited widely throughout the UK and Ireland including the National Museum Cardiff, the Gallery of Modern Art, Glasgow and the City Gallery, Leicester, including group exhibitions alongside artists such as Louise Bourgeois, Jenny Holzer, Bill Viola and Mark Wallinger. His work has been purchased by the Contemporary Arts Society of Wales and the ‘Richard and Rosemary Wakelin Purchase Award’. He was awarded the ‘Ivor Davies Award’ for work that “conveys the spirit of activism in the struggle for language, culture and politics in Wales.”


Y mae Hugh Adams wedi ysgrifennu yn eang ar y celfyddydau a phynicau diwylliannol am dros dri deg mlynedd, gan gyfrannu at nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys Art and Artists, The Guardian, Modern Painters, O Independente, Artforum, Raw Vision, Art Monthly, Studio International a Flash Art / Heute Kunst, New Welsh Review a Planet. Y mae wedi gweithio mewn addysg uwch a gweinyddiaeth y celfyddydau ac yr oedd yn Gyfarwyddwr Oriel Mostyn, y “Beirniad Celf Preswyl” cyntaf ym mhrifysgol Brydeinig, Cadeirydd Cywaith Cymru, aelod o’r grŵp llywio’r celfyddydau gweledol ar gyfer adeilad y Senedd a’r grŵp ymgynghorol ar gyfer Cymru ym Miennale Fenis. Y mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn creadigaeth ymylol ac y mae rhan bwysig o’r casgliad a greuodd gyda’i gymar Rogelio Vallejo wedi cael ei hennill ar ran Brifysgol Sydney fel craidd casgliad, oriel a chanolfan ymchwil sydd yn canolbwyntio ar Gelf Ymylol. Ganed David Garner yng Nglyn Ebwy, De Cymru. Fe astudiodd yng Ngholeg Celf Casnewydd a Chaerdydd a’r Academi Frenhinol, Llundain. Y mae wedi arddangos yn eang ar draws y DU ac Iwerddon, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yr Oriel Gelf Gyfoes, Glasgow ac Oriel y Ddinas, Caerlŷr, gan gynnwys arddangosfeydd grŵp ochr yn ochr artistiaid megis Louise Bourgeois, Jenny Holzer, Bill Viola a Mark Wallinger. Prynwyd ei waith gan Gymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru a ‘Gwobr Brynu Richard a Rosemary Wakelin’. Derbyniodd ‘Wobr Ivor Davies’ ar gyfer gwaith sydd yn “cyfleu ysbryd gweithrediaeth yn y brwydr dros iaith, ddiwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru.”


sym ud &


ysg wyd


g



Shift - David Garner