Quench Magazine Issue 177 March 2020

Page 26

22 - CLEBAR issue 177 26

Diwrnodau i’w dathlu Mae’n rhaid imi gyfaddef nad oeddwn i erioed wedi clywed am fodolaeth “Make up your own holiday day” ar y 26ain o Fawrth tan nawr. Ond am syniad penigamp a chyfle gwych i feddwl am y pethau pwysig sydd efallai ddim yn derbyn eu cydnabyddiaeth haeddiannol yn ein bywydau beunyddiol. Mae cymaint o bethau y gallwn ni fod yn dathlu gyda’n teuluoedd nad ydynt ar hyn o bryd yn wyliau cenedlaethol. Gadewch imi gynnig rhai o’m syniadau ar gyfer dathliadau cenedlaethol a fydd yn dod â phawb ynghyd.

1) Diwrnod Dai-o-ni Dai a Diane. Am bâr. Am icons ein cenedl. Pwy well i dathlu na’r ddau yma? “Hold on, David John”, am syniad gwefreiddiol! Os ydych chi’n gwylio Pobol y Cwm (neu hyd yn oed os nad ydych chi) byddwch chi i gyd, mae’n siŵr, yn gyfarwydd â’r ‘dream team’ ei hun, ‘double act’ penna’n gwlad, a chreadigaethau gorau’r Cwm. Does dim geiriau a all gyfleu gwir apêl Dai a Diane. Mae’r berthynas rhyngddynt yn un sydd wedi ei seilio ar gyfuniad perffaith o gariad a chomedi. Felly, dyna pam hoffwn gynnig creu Diwrnod Cenedlaethol Dai-o-ni. Ie, dwi’n gw’bod, clyfar, on’d yw e? Byddai’r diwrnod yn cwmpasu twrnameintiau rygbi cymunedol ar draws y wlad, a phryd-ar-glud rhamantus ar ddiwedd y dydd. Ond pwy fyddai’n cael gwahoddiad i Ddiwrnod Cenedlaethol Dai-o-ni? Wel, pawb, wrth gwrs. Mae Bryntirion bob amser yn agor eu drysau i aelodau’r gymuned, er gwaethaf protestiadau Dai. Felly, pwy fydden i i rwystro mynediad i bobl o bob cwr o Gymru i ymuno yn y dathliadau i ddathlu Dai a Diane?

2) Diwrnod ‘Mamma Mia’ Double whammy o ddathliad byddai hwn. Heb os, mae angen cydnabod cyfraniad sylweddol ABBA i ddiwylliant y byd, ac yn enwedig y gân, y sioe gerdd, a’r ffilm, eiconig Mamma Mia. Pa ffordd well o gyfuno hynny gyda hanes a threftadaeth Cymru na drwy ddathlu Ynys Môn ar yr un diwrnod? Ein Mamma ni, wrth gwrs! Byddai’r diwrnod yn cael ei nodi gyda gig ar Ynys Llanddwyn, gyda rhai o gantorion enwocaf ein gwlad megis Dafydd Iwan, Bryn Fôn a Caz Paz yn canu rhai o hits mwyaf ABBA, gan gyflwyno sbin unigryw eu hunain ar y clasuron rhain. Os nad ydych chi’n siŵr am y syniad eto, dynai’i gyd ofynnaf i chi yw take a chance on me. Gyda phobl o bobman yn teithio i Gaergybi, am ddiwrnod Super (Trooper) fyddai hwn!

words by: TOMOS EVANS design by: JAMES MCCLEMENTS

3) Diwrnod ‘A wês heddwch?’ Ers dechrau yn y brifysgol yma yng Nghaerdydd, dw i wedi derbyn rhai edrychiadau difyr pan dwi’n dweud ambell i air yn y Gymraeg. Ar ddechrau fy amser yma, roedd rhai yn cwestiynu pa iaith oeddwn i wir yn siarad gan mai nid Cymraeg mohono. Y gwir yw, dw i o Sir Benfro, ac yn sir y Sant mae gennym dafodiaith fyrlymus, unigryw sydd angen ei gwarchod a’i rhannu â gweddill Cymru. Wês wir! Dyna pam y byddai diwrnod i ddathlu tafodiaith Sir Benfro’n syniad mor dda. Fel rhan o’r dathliadau, byddem yn cerdded pentigili o Ogledd Sir Benfro i’r De, tra’n siarad yn nhafodiaith ein sir gan rannu straeon am pan wedd hi’n ŵer yn y cŵed dŵe. Byddai gwahoddiad i bawb o bob cwr o’r wlad i ymuno yn nhaith y dafodiaith a dysgu mwy am y dafodiaith arbennig hon. Yna, wedi’r orymdaith i ddod i ben, byddem yn cynnal Eisteddfod Gadeiriol Sir Benfro, gyda’r archdderwydd yn holi’r cwestiwn anfarwol ‘A wês heddwch?’

4) Diwrnod Cenedlaethol Gwerthfawrogiad Bara Lawr Iawn, peidiwch â’m meirniadu i am y rogue choice hwn a gadewch imi egluro. Mae bara lawr yn un o fwydydd mwyaf traddodiadol ein cenedl, a fel rhywun sy’n ffan mawr o fwyd y môr, bara lawr yw un o’m ffefrynnau. Byth ers imi fynd i farchnad Abertawe gyda’n nheulu pan oeddwn i’n fach, a chael tamed ohono i’w drïo, dw i wedi bod yn gefnogwr brwd ohono. Yn ffodus i fi, mae caffi lleol yn Sir Benfro yn gweini brecwast Cymreig, sy’n cynnwys bara lawr a chocos. Pa beth gwell sydd i’w gael i ddechrau bore Sadwrn prysur? Byddai’r diwrnod hwn yn gystadleuaeth rhwng cymunedau ar draws Cymru. Mae’n siŵr eich bod i gyd wedi clywed am y crôls cawl enwog ar Ddydd Gŵyl Dewi. Wel, byddai’r dathliad cenedlaethol hwn yn gyfle i gymryd rhan mewn crôl bara lawr. Os nad ydych chi wedi blasu bara lawr eto, dw i’n addo y cewch chi siom o’r ochr orau! Felly, oes un o’r dyddiau rhain wedi cydio yn eich dychymyg ac wedi’ch hysbrydoli i fynd ati i drefnu diwrnod o’r fath? Na? Wel, cofiwch ble roeddech chi wrth ichi ddarllen yr erthygl hon pan fyddwch yn mynychu’ch Diwrnod Cenedlaethol Gwerthfawrogiad Bara Lawr cyntaf. Un peth dw i’n siŵr ohono, wedi sgwennu’r erthygl hon, yw pa mor ffodus ‘yn ni yma yng Nghymru – mae cymaint gennym i’w ddathlu!


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.