Heritage Guide 2014

Page 6

Beth am safleoedd treftadaeth? Mae bron y cyfan o henebion a restrwyd yn safleoedd archeolegol, neu yn adfeilion neu’n adeiladau sydd heb fod a llawer o obaith y bydd defnydd economaidd iddynt. Dyma sy’n eu gwahaniaethu oddi wrth adeiladau rhestredig. Ni all adeilad gael ei restru fel heneb os yw’n cael ei ddefnyddio naill ai fel ty i fyw ynddo neu i bwrpasau eglwysig. Pan fo strwythurau yn rhai wedi eu rhestru ac yn rhai rhestredig bydd y broses restru yn cymryd blaenoriaeth dros ddeddfwriaeth adeilad rhestredig. Nod y rhestru yw sicrhau cadwraeth tymor hir y safle. Rhaid i unrhyw gais i wneud gwaith ar heneb a restrwyd fyddai’n golygu dymchwel, dinistrio, difrodi, symud ymaith, trwsio, altro, ychwanegu at, llifogi, neu orchuddio heneb fod yn destun cais am ganiatâd heneb a restrwyd. Yn wir, rhaid i gais am ganiatâd heneb a restrwyd gael ei wneud am waith all fod o fudd i’r heneb, megis cryfhau gwaith cerrig, neu gwneud gwaith cloddio ar gyfer ymchwil. Y mae’n drosedd gwneud gwaith o’r fath ar safle heneb a restrwyd heb yn gyntaf dderbyn caniatâd heneb a restrwyd. Ystyrir ceisiadau am ganiatâd heneb a restrwyd yn y goleuni hwn gyda thybiaeth yn erbyn cynigion fyddai’n achosi difrod i heneb, neu yn ei haltro’n sylweddol neu yn effeithio gosodiad yr heneb. Os byddwch yn dymuno gwneud gwaith ar heneb a restrwyd byddwch angen derbyn caniatâd heneb a restrwyd. Nid yw caniatâd cynllunio ar ei ben ei hun yn ddigon i awdurdodi’r gwaith. Mae caniatâd heneb a restrwyd yn cael ei weinyddu gan Cadw. Mae’n bwysig nodi na ellir rhoddi caniatâd ond ar gyfer cynigion manwl. Yn wahanol i ganiatâd cynllunio, nid oes darpariaeth ar gyfer rhoi caniatâd amlinellol. Os byddwch angen gwybodaeth bellach ar henebion a restrwyd gallwch gysylltu â Cadw.. Field Monument Warden i Gwynedd, Conwy a Ynys Mon: Adele Thackray: Adele.Thackray@wales.gsi.gov.uk


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.