Page 1

croeso

Adolygiad o gig Racehorses Arian ychwanegol yn y brifysgol… Cyfweliad gyda Brigyn

Croeso i’r rhifyn cyntaf o gylchlythyr newydd Mantais ar gyfer Blwyddyn 11. Yma fe gewch chi wybod mwy am eich opsiynau i astudio’n ddwyieithog yn y Brifysgol, a chael cyfle i ddarllen pigion am y sîn roc Gymraeg, adolygiadau gigs, cyfweliadau, digwyddiadau, ond mwy na dim - y straeon gorau o ddiddordeb mwyaf i bobl ifanc yng Nghymru.

nill cyfle i teunnes

cerdyn i


Beth yw’r dewis ar ôl ysgol? Mewn rhai pynciau mae’n bosib astudio’r rhan fwyaf o’r cwrs, neu ambell dro, y cwrs i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n ddwyieithog. Efallai mai gwneud ambell fodiwl yn Gymraeg sy’n apelio, yna mae’n bosib gwneud hynny hefyd - neu os ydych yn poeni am eich Cymraeg, beth am wneud seminar cyfrwng Cymraeg i ddechrau er mwyn gweld sut mae pethau’n mynd? •Daearyddiaeth a’r Amgylchedd •Cymdeithaseg •Y Gyfraith •Nyrsio •Chwaraeon •Gwyddorau Biolegol •Mathemateg •Ffiseg •Cemeg •Gwleidyddiaeth •Hanes •Cyfryngau a’r diwydiannau creadigol •Ieithoedd Modern •Cerddoriaeth •Seicoleg •Busnes •Addysg •Diwinyddiaeth

Mae nifer o brifysgolion yn cynnig arian ychwanegol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau cyfrwng Cymraeg. Ewch at ein gwefan am fwy o wybodaeth

www.mantais.ac.uk

ch y Defnydddiwcyrsiau chwilotyd efan am ar ein gw ellach fanylion p

Mwy o arian am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg! Am arian ychwanegol a phrofiad gwaith ym maes yr Amgylchedd neu’r Gyfraith wrth wneud gradd? Mae cyfle i gael hyd at £1,500 dros gyfnod o dair blynedd (am astudio o leiaf 40 credyd yn y maes amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg ac 20 credyd ym mhob blwyddyn gymwys ar gyfer y Gyfraith). Hefyd, cewch gyfle i dreulio cyfnod o brofiad gwaith gyda chyrff perthnasol fel y Cyngor Cefn Gwlad, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth - ac mae hynny’n edrych yn dda ar y CV! Y dyddiad cau ar gyfer llenwi’r ffurflenni cais ar gyfer y ddau gynllun yw 4 Mawrth 2010

tip ychwanegol


Gobaith gwell am waith, a gwaith gwell…! Erbyn hyn mae mwy a mwy o gyflogwyr mewn pob math o feysydd gwahanol yn ystyried dwyieithrwydd fel sgîl ychwanegol. ”Mae'r Gymraeg yn bwysig ac yn berthnasol iawn. Er bod ein cleientiaid wedi'u lleoli ar draws y Deyrnas Unedig ac, yn gynyddol, ar draws Ewrop, mae'n bwysig ein bod yn adfer ac yn ymfalchïo yn ein Cymreictod. Ymhellach, mae'r Gymraeg yn cael ei chydnabod mwy a mwy fel ased. O'r herwydd mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn un o'r ffactorau sy'n helpu gwahaniaethu Capital Law oddi wrth ei gystadleuwyr.” GUTO LLEWELYN Cyfreithiwr dan-hyfforddiant

O newyddiaduraeth i’r heddlu, o iechyd a gofal i’r gyfraith, mae cyflogwyr mewn pob math o feysydd yn chwilio am bobl sydd wedi cael addysg Gymraeg. Ac os ydych wedi astudio yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, mae 'na gyfle gwell wrth chwilio am waith.

kent Morris Astudio gradd nyrsio mae KENT MORRIS o Dexas, Unol Daleithiau “Fel dysgwr Cymraeg, rydw i'n mwynhau'r her o gyflwyno fy ngwaith yn y Gymraeg. Mae ysgrifennu traethodau yn y Gymraeg yn ymestyn fy sgiliau ac mae grwpiau trafod yn ffordd dda o ddysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae 'na ddigon o gymorth ar gael i unrhyw un i fedru llwyddo”. HANNAH MORRIS, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam “Mae cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn fendigedig gan ei fod yn agor drysau ychwanegol i'r rhai sydd yn siarad yr iaith. Trwy astudio Daearyddiaeth, Hanes, Cerdd a'r Fagloriaeth Gymreig fel lefelau A mae gen i'r dewis i wneud cwrs yn y Gymraeg yn y brifysgol hefyd. Petaswn i'n cael y dewis eto, buaswn yn dewis addysg Gymraeg bob tro”.


Cefnogi, Datblygu a Hyrwyddo’r Gwyddorau’n Gymraeg ym Mhrifysgolion Cymru Cefnogi'r astudiaeth o’r gwyddorau’n Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru ydi prif amcan Canolfan Edward Llwyd. Yn fwyfwy erbyn hyn mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n medru trin a thrafod eu pynciau yn ddwyieithog. Y dewis amlwg er mwyn magu hyder unigolion a’u paratoi nhw ar gyfer y sialens hon yw astudio canran o gwrs prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Canolfan Edward Llwyd yn cefnogi’r prifysgolion wrth iddyn nhw ehangu a chynnal y ddarpariaeth yn y Gwyddorau ac yn cefnogi’r myfyrwyr wrth iddyn nhw fanteisio ar y cyfleoedd yma i astudio yn ddwyieithog.

gair gan iolo “Dwi'n credu y dylech chi fanteisio ar y cyfleoedd i astudio pynciau gwyddonol/amgylcheddol trwy'r Gymraeg neu'n ddwyieithog yn y brifysgol. Mae AmNawdd yn gynllun gwych i chi sydd â diddordeb yn y maes nid yn unig er mwyn cael yr arian ychwanegol ond hefyd y cyfle i fynd ar brofiad gwaith gyda'r asiantaethau a defnyddio eich sgiliau dwyieithog. Mae fy sgiliau dwyieithog i wedi bod o fudd mawr i fi yn fy ngyrfa ac wedi galluogi imi ddarlledu yn y Gymraeg a Saesneg ar y teledu a'r radio ar draws y byd i gyd.”

Mentro Iaith Mae Mentro Iaith yn brosiect Cymru gyfan sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc ddod i wybod mwy am y cyfleoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sydd ar gael iddynt mewn Prifysgol. Caiff pob person sy'n ymuno gyfle i gwrdd â myfyrwyr mewn cyflwyniadau yn yr ysgol a chyfle i ofyn cwestiynau i fentoriaid drwy ebost. Bydd yr holl e-byst yn cael eu hanfon at Gydgysylltydd y Prosiect yn y lle cyntaf. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Ffion Gruffudd ar e-bost: fmg@aber.ac.uk neu 01970 621529


I ba ysgol aethoch chi a beth oedd eich hoff bynciau? Aethom i Ysgol Brynrefail, Llanrug ac ein hoff bynciau oedd Dylunio a Thechnoleg, Celf a Cherddoriaeth.

I ba goleg aethoch chi a beth oeddech chi'n astudio (trwy'r Gymraeg)? Mi es i (Ynyr) i Brifysgol Sheffield Hallam, ac Eurig i Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd - ond cyn hynny buodd y ddau ohonom ar gwrs gwych "Sylfaen Celf a Dylunio" drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Menai, Bangor.

Pa gig yw’r gig gorau i chi erioed chwarae ynddi? Rydyn ni'n dau yn gytûn mai un ai'r perfformiad yn y Green Man Festival, 2008 neu yn y Theatr Fach, Sesiwn Fawr Dolgellau 2005 yw'r gigs mwyaf cofiadwy a'r gorau i ni chwarae ynddyn nhw hyd yn hyn.

Beth yw’r peth mwyaf doniol sydd wedi digwydd i chi? 'Da ni wedi cael ambell i 'power-cut' yn ystod ein set mewn gigs dros y blynyddoedd. Mae hyn wedi digwydd dwy waith i ni yn ddiweddar, a digwydd bod mewn gigs eithaf pwysig hefyd. Ond er hynny, ddaru ni benderfynu cario mlaen i chware ar y ddau achlysur diweddara 'ma - er gwaetha'r ffaith fod pawb yng nghanol y tywyllwch!!

Ble ydych chi’n gweithio? Beth yw eich swydd? Rydym ni'n dau yn ddylunwyr graffeg hunan-gyflogedig, ac yn gweithio i ystod eang o gwmnïau drwy Gymru. Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu cyfathrebu’n Gymraeg a Saesneg yn werthfawr i ni pan mae'n dod i'r maes gwaith, a delio efo cleientiaid gwahanol.

dod i ’nabod

brigyn Am fwy o wybodaeth ewch draw i syrffio ar wefan brigyn – sy’n llawn manylion am ein holl CDs, rhestr gigs diweddaraf, gemau, a siop! www.brigyn.com


pwydipwy.. Pennaeth y Chweched, Athro Bioleg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, a Dyfarnwr [fel hobi]. Sut ddechreuaist ti ddyfarnu? Dechrau yn 16 mlwydd oed. Wedi cael anaf yn chwarae rygbi yn yr ysgol ac felly yn gorfod rhoi'r gorau i chwarae. Dyfarnu oedd y peth agosaf i chwarae.

Tim Hayes

Beth yw'r gêm fwyaf i ti ddyfarnu hyd yn hyn? Dyfarnu gemau cynghrair Magners, gemau Cwpan Heineken ond y gêm fwyaf oedd dyfarnu Japan v Samoa yn Sendai City a Tokyo. Mae bod yn lumanwr mewn gemau rhyngwladol y 6 gwlad yn dipyn o uchafbwynt hefyd.

Ydi'r iaith Gymraeg o help i ti wrth ddyfarnu? Mae cyfathrebu gyda phobl yn eu hiaith gyntaf yn medru trosglwyddo'r neges tipyn mwy effeithiol. Hefyd, mae'n dda cael deall beth mae rhai o'r chwaraewyr yn dweud o dan eu hanadl amdana i ambell waith!!

Beth yw'r digwyddiad mwyaf rhyfedd/doniol i ti ddod ar ei draws wrth ddyfarnu? Roedd cael fy nhaclo i'r llawr gan Lifeimi Mafi, chwaraewr o Tonga; 1.83m o daldra a 90 kg wrth chwarae dros dîm Munster yn Musgrave Park, Cork yn dipyn o brofiad, a thripio'n bendramwnwgl dros lasen fy hun ar Barc Y Strade o flaen y 'Tanner Bank' yn eiliad i'w anghofio!!

A fyddet ti'n annog myfyrwyr i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol? Roedd yn braf cael sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach yn y Gymraeg yn y brifysgol. Mae'r cyfleoedd yno heddiw i astudio naill ai'r cwrs cyfan neu o leiaf modiwlau unigol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydden i'n annog unrhyw un i fanteisio ar y cyfle. Mae dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfle i dderbyn ffeithiau o sawl ffynhonnell gan fod llu o adnoddau yn Saesneg beth bynnag. Mae clywed am bethau yn Gymraeg yn aml yn rhoi persbectif newydd ar y dysgu.


d

c

nos sadwrn bach

Ianto Phillips o Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd, aeth i wylio Racehorses. Dyma ei farn… Nos Sadwrn 24ain o Hydref es i i Glwb Ifor Bach i wylio Racehorses - un gig ˆ Swn ynghanol llu o'r rhai eraill fel rhan o Wyl ˆ 2009. Mae'r w ˆ yl yn ei thrydedd flwyddyn bellach ac mae wedi cael cryn argraff arnaf i fel unigolyn sy'n mynychu gigs yn aml a hefyd fel perfformiwr gyda'r band, Nos Sadwrn Bach. Mae'r w ˆ yl wedi bod yn sylfaen i ni, fel band, i wthio ein cerddoriaeth allan o ddyfnderoedd sîn Gymraeg y brifddinas. Fe welais i newid mawr yng ngherddoriaeth y Racehorses (gynt yn Radio Luxembourg) wrth iddyn nhw ganu set o ganeuon dwyieithog. Roedden nhw'n ysbrydoliaeth i unrhyw fand Cymraeg oherwydd roedd eu caneuon Cymraeg yr un mor boblogaidd â'r rhai Saesneg ac nid oedd y gynulleidfa'n gwahaniaethu rhwng y ddwy iaith. Roedd eu perfformiad yn un egnïol ac yn wir fe ddangoson nhw pam maent yn cael eu hadnabod fel un o fandiau gorau'r sîn. Fe fwynheais eu set a'r noson i gyd ac rwyf wir yn credu bydd yr w ˆ yl yn tyfu o nerth i nerth; rhyw fath o Sesiwn Fawr, yng Nghaerdydd ac mae'r diolch yn mynd i'r DJ brwd a gweithgar, Huw Stephens.


digwyddiadau

rygbi

Dechrau 2010 - Brwydr y Bandiau. Cystadleuaeth sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng C2 Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru i ddarganfod talent y dyfodol Ewch i wefan C2 a’u tudalen ar facebook www.bbc.co.uk/radiocymru/c2 26-27/02/10 Ffeinal Drama CFfI Cymru, Neuadd Aberdyfi 21-22/04/10 Gwyl ˆ Rygbi Cenedlaethol Bechgyn a Merched, Llanelli 13/05/10 Pêl-droed Cenedlaethol Bechgyn a Merched, Aberystwyth Mwy o wybodaeth ar www.urdd.org

gemau’r 6 gwlad...

DYLUNIO:COW801S # ARGRAFFU: Y LOLFA

Beth ma’ rhai o artistiaid a chyflwynwyr adnabyddus Cymru yn gobeithio ei gyflawni yn 2010... ‘Creu bin compost. Llai o wastraff, gwell i'r ddaear, a llai o waith mynd â'r biniau at y lôn!’

Sadwrn 6 Chwefror Lloegr v Cymru Sadwrn 13 Chwefror Cymru v Yr Alban Gwener 26 Chwefror Cymru v Ffrainc Sadwrn 13 Mawrth Iwerddon v Cymru Sadwrn 20 Mawrth Cymru v Yr Eidal

yucatan

d... ydd ar draws y by gwasgaru hapusrw

meinir gwilym

Cantores a Chyflwynydd

‘Dwi'n mynd i fod yn fwy gyffredinol. Dwi'n mynd trefnus yn rhestr o bethau i wneud i sgwennu er mwyn cyflawni mwy bob dydd, bob diwrnod.’ Glyn Wise, seren Big Bro ther 2006, cyflwynydd ar C2 a myfyri wr ym Mhrifysgol Caerdydd

‘Trio rhywbeth newydd bob dydd.’ Rhydian Bowen Phillips, Cyflwynydd Uned 5

Anfonwch adolygiad o gig Cymraeg atom (gwybodaeth@mantais.ac.uk) erbyn 25 Chwefror a bydd y gorau yn derbyn cerdyn iTunes anfonwch eich newyddion at: gwybodaeth@mantais.ac.uk argraffwyd ar bapur cynaliadwy wedi ei ailgylchu

Cylchlythur Mantais  

Cylchlythur Mantais v3

Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you