Page 1

ytafod

a

cylchgrawn cymdeithas yr iaith Mehefin 2012

Manylion

Taith Tynged yr Iaith Ryff-geid i Eisteddfod Dyffryn Nantlle Holl gyffro

Dathliadau a GĹľyl 50


Prif Swyddfa

Swyddfa’r De

Swyddogion Cyflogedig: Dafydd Morgan Lewis

Swyddog Cyflogedig: Colin Nosworthy a Jamie Bevan

Post: Cymdeithas yr Iaith, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

Post: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Swyddfa’r De, Ty’r Cymry, 11 Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd CF24 3AJ

Ffôn: +44 (0)1970 624501

Ffôn: +44 (0)2920 486469

E-bost Prif Swyddfa: post@cymdeithas.org

E-bost Swyddfa Caerdydd: colin@cymdeithas.org

Swyddfa’r Gogledd

Swyddfa Sianel 62

Swyddog Cyflogedig: Osian Jones Post: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Swyddfa’r Gogledd, 10 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RR.

Swyddogion Cyflogedig: Greg Bevan â Lleucu Meinir (rhan amser)

Ffôn: +44 (0)1286 662908 Ffacs: +44 (0)1286 662902 E-bost Swyddfa’r Gogledd: gogledd@cymdeithas.org

Ffôn: 07891 819972 E-bost Sianel 62: greg@cymdeithas.org lleucu@cymdeithas.org

hjkl 2 ytafod mehefin 2012


ytafoda

ytafod

a

cylchgrawn cymdeithas yr iaith Mehefin 2012

Manylion

Mehefin 2012 Golygydd Llinos Roberts Dylunio a Chysodi Rhys Llwyd Graffeg Ambiwlans Steffan Dafydd

Taith Tynged yr Iaith Ryff-geid i Eisteddfod Dyffryn Nantlle Holl gyffro

Dathliadau a Gŵyl 50

4

Gair o’r Gadair Bethan Williams

5

Ryff-geid i Ddyffryn Nantlle Angharad Tomos

8

Map o ardal Steddfod yr Urdd

10

Digwyddiadau Steddfod yr Urdd

12

Adolygiad o CD Gwyneth Glyn Manon James

14

Tata Horizon Dylan Morgan

“Mae’r Gymdeithas we blynyddoedd, ond Ha ymlaen yn ofnadwy i fo

I nodi pen-blwydd Cymd ymgyrchu brwd a hyrwyddo cerd yn perfformio mewn gig enfawr

16 18 21

Dyfodol Digidol Adam Jones

Hanner Cant fydd y gig Cy llwyfan o 6yh nos Wener ac o gan yn cael eu cyhoeddi fesul wy

Lleoliad Mae Pontrhydfendigaid yng ng

5

hanesyddol yn y pafiliwn enfawr y ac 80au, Rhyw Ddydd Un Dydd y Pafiliwn Bont a Neuadd y Pentref ddiodydd a bwyd cynnes ac ynglŷn â sut i gyrraed

Gŵyl Hanner Cant

Mae digon o

tocynna

Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr

13–14 Gorffennaf 2012 Cynghrair Cymunedau Cymru Ffred Ffransis Pafiliwn Pontrhydfendigaid

Gruff Rhys Gai Toms Neil Rosser Sen Segur Gildas Gwyneth Glyn Y Bandana Huw M Y Saethau Heather Jones Mr Huw Lleuwen Yucatan Fflur Dafydd Twmffat Yr Ods Cowbois Rhos Botwnnog Y Niwl JJ Sneed Y Lladron Alun Tan Lan Bob Delyn Bryn Fôn Geraint Løvgreen Creision Hud Meic Stevens Llwybr Llaethog Mattoidz Tecwyn Ifan The Gentle Good Crash.Disco! Jakokoyak Tom ap Dan Gwibdaith Hen Frân Clinigol Colorama Ail Symudiad Yr Angen Catrin Herbert Y Bwgan Tŷ Gwydr Jamie Bevan …a rhagor o enwau i’w cyhoeddi’n fuan!

24

Gigs Steddfod 2012 Bro Morgannwg

26

Sianel 62 Greg Bevan

28

Tynged yr Iaith Ned Thomas

30

Taith Tynged yr Iaith

Cadwch lygad ar ein gwefan a ffrwd Twitter am y diweddaraf:

hannercant.com @hannercant hannercant.com @hannercant

Cynnig arbennig: rhag-archeb hannercant.com am ddim on pris llawn ar gael yn

croeso i’r teu Mynediad am ddim i rai dan 13 blant, maes pebyll teuluol, ddifyrru pawb o b

Arddangos

Dros y degawdau, mae Cymdeith Iaith wedi cynnal gigs mawr a bac ledled y wlad. Fyddwn ni’n dathlu perthynas glòs y Gymdeithas â cherddoriaeth Gymraeg mewn arddangosfa unigryw yn Hanner C Os oes gennych chi unrhyw bost lluniau, crysau tî, ffansins, cylchgro neu straeon ac atgofion hoffech gyfrannu, cysylltwch ag arddangosfa@hannercant.com n 01970 624501 os gwelwch yn dda.

2012 mehefin ytafod 3

GR


Gair o’r Gadair Bethan Williams | Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

M

ae pobl yn ddigon parod i gyhuddo ein Cymdeithas o ddifaterwch ynglŷn â’r hyn sydd yn digwydd o ddydd i ddydd ac am wleidyddiaeth yn gyffredinol. Er bod rhyw wirionedd yn hyn, mae pobl yn teimlo pellter oddi wrth wleidyddiaeth ac yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth. Mae’r cwbl yn gallu ymddangos yn amherthnasol, yn rhywbeth nad ydyn nhw’n gallu bod yn rhan ohono ac felly ei fod yn fater i rywun arall. Mae yna nifer o resymau gwahanol dros hynny a dydy’r system ei hun

4 ytafod mehefin 2012

ddim yn helpu weithiau. Wedi i dri ohonom dorri ar draws sesiwn yn Nhŷ’r Cyffredin yn San Steffan fe wnaeth un o bwysigion y lle ddweud wrtha i: ‘You have no business doing that. There’s democracy going on in there – its nothing to do with you!’ Roedd ei ymateb yn adrodd cyfrolau, er nid yn hollol annisgwyl nac yn anghyffredin. Dyna rydyn ni wedi’n cyflyru i feddwl: fod gwleidyddiaeth a democratiaeth yn digwydd o fewn pedair wal San Steffan, ein Senedd ni ein hunain ac adeiladau cynghorau ledled y wlad - ac mae’n cyfraniad ni


at ddemocratiaeth yw i ethol pobl ar ein rhan i’w weithredu. Er mwyn bod yn rhan o ddemocratiaeth ac o wleidyddiaeth rhaid i ni ddilyn rheolau democratiaeth. Mae’r system ei hun yn dweud hynny wrthym ac yn ein cyflyru i’w dderbyn yn ddi-gwestiwn. Ond eto, dydy’r system ddim bob tro o’n plaid – mae’r Gymdeithas wedi dweud eisoes fod ein cymunedau mewn perygl. Grymoedd gwleidyddol sydd wrth wraidd datblygiadau tai di-angen, cau ysgolion pentref a’u disodli gydag ysgolion mawr mewn trefi a chaniatáu datblygiadau adwerthu gan gwmnïau nad ydynt yn rhoi gwerth ar y Gymraeg na’r ardaloedd y maent yn dod yn rhan ohonynt. Yr un atebion sydd yn cael eu rhoi i bob ardal waeth beth fo’r heriau sydd yn eu hwynebu. Er gwrthwynebu’r pethau hyn, yn ôl y drefn sydd wedi’i osod ar ein cyfer, dydy e ddim yn gwneud gwahaniaeth. Pethau felly sy’n bwrw hyder pobl mewn democratiaeth. Wedi blynyddoedd o ddilyn y drefn fe ddechreuais i sylwi nad yw popeth yn iawn – dydy’r system ddim yn arfogi pobl nac yn annog lleisiau. Yn fwy na hynny, gwelais fod cadw’n dawel yn golygu ymroi i’r system ac yn ei gymeradwyo, yn rhoi cred i’r rhai sydd yn rhan ohono fod

popeth yn iawn. Petai’r dyn bach pwysig yn San Steffan wedi ystyried y peth, roedd democratiaeth yn digwydd yno o’i flaen - nid yn y ffordd fwyaf arferol efallai ac yn sicr nid mewn modd oedd wrth ddant pawb. O weld y gwendidau a’r heriau rhaid i ni ystyried sut y gallwn unioni hynny. Wrth gydnabod fod y Gymraeg yn dirywio yn ein cymunedau a bod nifer o heriau a ffactorau yn cyfrannu at y dirywiad, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd ar daith drwy gymunedau ac ardaloedd ar draws Cymru. Mae pob cymuned y byddwn yn ymweld â hi yn unigryw a chanddi alwadau, anghenion a chryfderau amrywiol. O gydweithio gyda’n cymunedau a chymryd yr her o ddifri gallwn wneud gwahaniaeth a gweld adfer ein cymunedau Cymraeg. Nid ydym yn honni fod yr holl atebion gennym, nac y byddwn yn trawsnewid cymunedau mewn cyfnod byr ond drwy fuddsoddi amser ac egni gallwn fedi llwyddiant tymor hir, yn hytrach na chwilio am ateb sydyn sydd yn datrys problemau dros dro. Awn at ein cymunedau felly gyda gobaith, egni a pharodrwydd - ac ambiwlans!

Bethan Williams mewn gwrthdystiad gweriniaethol diweddar yn Merthyr | Llun: Edwyn Ap Harri

2012 mehefin ytafod 5


Ryff-geid

i Steddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle Angharad Tomos

N

i fu Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal ers 1991, felly braf yw ei chroesawu yn ôl i erwau glan Glynllifon. Os ydych yn aros ar y maes carafannau, mentrwch allan yn ystod yr wythnos, - mae digon i’w weld tu hwnt i’r waliau!

Tafarnau Ty’n Llan, Llandwrog – yr agosaf. Y Afr, Penygroes Pen Nionyn, Groeslon

Caffis Y Gath Ddu, Glynllifon, a swings ger llaw. Bwyty Lleu a siop sglodion, Dinas Dinlle Caffi Home Bakery, Stryd yr Wyddfa, Penygroes Y Crochan Blasus, Stryd Fawr, Penygroes Dau fwyty Tsineaidd, un bwyty Indiaidd (tec awê yn unig) a siop sglodion ym Mhenygroes. Os ydych eisiau bwyty Indiaidd i eistedd, mae un yn Llanwnda, ger Capel Glanrhyd. Caffi Inigo Jones, Groeslon.

Am dro...

6 ytafod mehefin 2012

Cofiwch ymweld â’r Iard yn Glynllifon - i weld y gweithdai crefft Traeth Dinas Dinlle, lle bu Lleu yn Chwedlau’r Mabinogi – cerddech i fyny’r


boncan i gael golygfa o Landwrog a’r mynyddoedd. Ewch i weld eglwys hynafol Clynnog Fawr a Chanolfan Hanes Uwch Gwyrfai. Taith agos yw yr un i weld Chwarel Lechi Dorothea yn Nhalysarn. Os ydych yn hoffi’r mynyddedd, dringwch Grib Nantlle neu fynd am dro i Gwm Dulyn. Ar y ffordd i Nantlle, edrychwch i’r dde i weld yr olygfa a swynodd Richard Wilson yn ei ddarlun enwog. Ewch ymlaen i’r pentref i weld un o’r ysgolion sydd dan fygythiad. Talysarn - mae’r ciosg enwog y canodd Dafydd Iwan amdano yn dal yno!

Enwogion Lleol Rhosgadfan – Cae’r Gors, cartref Kate Roberts. Groeslon – cerddwch i fyny’r stryd i weld y lechen ar gartref y dramodydd John Gwilym Jones. Penygroes – ger y Neuadd Goffa mae englyn enwog Williams Parry sy’n sôn am ‘y rhwyg o golli’r hogia’. I Ysgol Dyffryn Nantlle yr aeth Bryn Terfel i’r ysgol. Llanllyfni – cartref yr actor a’r canwr, Bryn Fôn. Talysarn - cartref R.Williams Parry, y bardd, ac mae cofeb iddo yng nghanol y pentref. Ger y Cwt Band, mae Cloth Hall, a llechen i nodi mai dyna gartref Gwilym R. Jones.


i gaernarfon

Llanwnda

Rhosgadf

Groeslon

Bwyty lleu

Caffi’r Gath Ddu

ed

fa

Llandwrog

n

yn

ty’n llan

fo i l l

M

Dinas Dinlle

Pen nionyn

yn

Gl

Caffi inigo jones

crochan blasus, home bakery, chineese ac indians

s

Penygroe

99

A4

Ciosg

i borthmadog

8 ytafod mehefin 2012

chwarel

Talysarn

Clynnog fawr

A487

i bwllheli

Yr Afr

Llanllyfni

Nant


Waunfawr

y ryff-geid i steddfod yr urdd 2012

a

fan

5

08

A4

Yr Wyddfa

tlle crib nantlle

Rhyd Ddu

i feddgelert

2012 mehefin ytafod 9


Digwyddiadau Eisteddfod yr Urdd “Callia Carwyn” Ie i ynni adnewyddol, Na i niwclear 2 yp, Dydd Mawrth, 5ed Mehefin Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Mi fydd CYIG a PAWB yn lansio cerdyn post i Carwyn Jones yn gofyn iddo atal ei gefnogaeth i adeiladu adweithyddion niwclear newydd yng Nghymru. Bydd siaradwr o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sôn am y berthynas rhwng cymunedau hyfyw ac iechyd ac mi fydd Dr Carl Clowes yn lansio ei lyfr ‘Cryfder ar y Cyd’ ar y pwnc. Richard Jones a Gwenda Jones, Caerdegog Menna Machreth, Dr Carl Clowes, Dylan Edwards

Noson Gynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol 7.30, Nos Fercher, 6ed Mehefin - Neuadd Goffa Pen-y-Groes Noddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Dyma gyfarfod lansio Cynghrair Cymunedau Cymru. Yn ystod y noson fe fyddwn yn canolbwyntio ar fentrau cydweithredol gyda chyflwyniadau gan grwpiau unigol a thrafodaeth panel. Hefyd, mi fydd Dr Carl Clowes yn lansio ei lyfr ar y pwnc. Pengwern Cymunedol, Saith Seren, Dyffryn Nantlle 20/20, Antur Stiniog, Antur Ogwen

10 ytafod mehefin 2012

Lansio “Taith Tynged yr Iaith” 2yp, Dydd Iau, 7fed Mehefin – Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg byddwn yn teithio ar draws y wlad er mwyn gweithio gyda’n cymunedau i wrthdroi dirywiad cymunedau Cymraeg ac annog cymunedau i ymuno gyda Chynghrair Cymunedau Cymru er mwyn eu galluogi i lobio’n rymus dros ddyfodol ein cymunedau. Bethan Williams (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Meirion Davies (Menter Ogwen) ac eraill

Cyflwyno Llyfr Du i Gomisiynydd y Gymraeg 2yp, Dydd Gwener, 8ed Mehefin Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Mi fydd y Gymdeithas yn cyflwyno llyfryn i Gomisiynydd y Gymraeg sy’n cynnwys enghreifftiau unigolion o’u problemau gyda gwasanaethau Cymraeg. Meri Huws, Hywel Williams AS, Dr Jerry Hunter, Judith Humphreys, Ceri Phillips


Gig Deffro’r Dyffryn Bryn Fon a’r Band Wali Tomos Y Rhacs Drysau yn agor am 7.30, Nos Wener Mehefin 8fed Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle Plant £4 Oedolion £8 Teulu £20 Tocynnau ar gael o - Ysgol Dyffryn Nantlle, Siop Parry Penygroes, Palas Print Trefnir gan - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg / Dyffryn Nantlle 20.20

Llynnoedd yr Ardal

Nos Fawrth, 7.00 | Neuadd Goffa Penygroes Noson o sleidiau gan y ffotograffydd lleol, Geraint Thomas. Cyfle unigryw i weld y lluniau yn ei gyfrol ddiweddar. Mynediad £2.00 Dyffryn Nantlle 20/20

Taith Bryn Fôn

Nos Iau, 6.30 | Neuadd Llanllyfni Cyfle i fynd am dro i weld y mannau gaiff eu crybwyll yng nghaneuon Bryn Fon. 7.30 Dangos y Ffilm Gaucho Mynediad £2.00 Dyffryn Nantlle 20/20

Noson Bwyd Lleol Nos Sadwrn, 6.30 Crochan Blasus, Penygroes

I bawb sydd wedi blino gormod i wneud swper! Dyffryn Nantlle 20/20


Gwyneth Glyn yn swyno

E

rs cyhoeddi ei hail albwm - ‘Tonau’ yn 2007 mae cefnogwyr Gwyneth Glyn wedi bod yn aros yn eiddgar am ei thrydydd albwm, sef ‘Cainc’ a gafodd ei ryddhau ar label Gwinllan yn nechrau 2011. Yn wahanol i’w dau albwm blaenorol efallai, mae’r deg cân ar ‘Cainc’ i gyd yn wahanol iawn i’w gilydd. Mae yna amrywiaeth o ganeuon bywiog i ganeuon i ymlacio iddynt. Gwyneth Glyn ei hun sydd wedi cyfansoddi’r caneuon i gyd, heblaw am ‘Nei Di Wely Clud’, sydd yn dôn draddodiadol Americanaidd. Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’r gân gyntaf sef ‘Ewbanamandda’ yn fywiog ac yn fachog. Yn bersonol buaswn i’n hoffi gweld mwy o ganeuon hwyliog fel hon ar yr albwm. Wedi dweud hynny, mae’r caneuon ysgafn fel ‘Ferch y Brwyn’ a ‘Fy Lôn Wen i’ hefyd yn hyfryd. Mae’r ffaith bod offerynnau fel ffidil, crwth ac organ geg i’w clywed yn y caneuon yn rhoi naws gwerinol i’r albwm. Ond ar y llaw arall, mae drymiau a gitâr drydan hefyd i’w clywed ar ambell gân, sy’n rhoi amrywiaeth diddorol.

12 ytafod mehefin 2012

Trwy’r gân ‘Adra’ oddi ar ‘Wyneb Dros Dro’ yr adnabyddir Gwyneth Glyn fel cantores gan nifer o bobl. Petai rhaid i mi ddewis anthem fel hon oddi ar ‘Cainc’, ‘Lle Fyswn I’ fuasai’r gân honno. Dyma gân serch hyfryd sy’n sôn am y teimlad o fod ar goll heb un person arbennig. Gitâr acwstig yn unig sy’n cyfeilio, sydd yn rhoi naws ysgafn i’r gân. Mae’r gân chwareus ‘Dansin Bêr’ yn debyg i ‘Cân y Siarc’ oddi ar ‘Tonau’. Mae’r ddwy gân yma’n profi dawn y gantores i adrodd stori trwy gân. Pris yr albwm yw oddeutu £13, sydd braidd yn ddrud. Ond gyda’r cyfuniad o ganeuon bendigedig a thalent Gwyneth Glyn, mae hi werth bob ceiniog! Mi fuaswn i’n rhoi 9/10 i’r albwm. Er ei bod hi braidd yn ddrud, gyda llais swynol Gwyneth Glyn byswn i’n medru gwrando arni am oriau!


Pris 拢13 Sg么r 9/10 Adolygiad Manon James Llun gwynethglyn.co.uk / John Pountney

2012 mehefin ytafod 13


Tata Horizon, Rosatom Dim Diolch Dylan Morgan

N

ewyddion digon anniddorol oedd i’w glywed ar y Post Cyntaf o gwmpas 8 o’r gloch ar fore dydd Iau, Mawrth 29ain. Ond erbyn 8.20 darlledwyd y stori bod RWE ac E.On, y partneriaid sefydlodd cwmni niwclear Horizon yn tynnu allan o’u cynlluniau i godi adweithyddion niwclear newydd yn y Wylfa ac Oldbury ychydig filltiroedd dros y ffin i Loegr yn Sir Gaerloyw. Am weddill y diwrnod bu pump ohonom, yn lefaryddion PAWB yn gwneud cyfweliadau teledu, radio, a phapurau newydd. Nid oedd y cyhoeddiad yn syndod i ni gan fod amheuon cyson o’r Almaen ers Ebrill 2011 oedd yn awgrymu’n gryf na fyddai prosiect Horizon yn cael ei wireddu. Yn sgil trychineb niwclear Fukushima,

14 ytafod mehefin 2012

penderfynodd llywodraeth yr Almaen gau saith hen orsaf niwclear ar unwaith, a gosod 2022 fel y flwyddyn i gau pob gorsaf niwclear. Arweiniodd cau’r hen orsafoedd golled incwm i RWE ac E.On. Ar ben hynny, cynghorwyd RWE gan gwmni cyfrifyddion KPMG nad oedd y pris llawr carbon a gynigiwyd gan y Llywodraeth Brydeinig yn ddigon o gymorth ariannol i wneud buddsoddiad. Ymateb Cyngor Sir Ynys Môn ar unwaith oedd mynnu bod rhaid bwrw ymlaen gyda’r bwriad o ddatblygu Wylfa B gyda datblygwr newydd. Yr un oedd stori Albert Owen a Ieuan Wyn Jones. Erbyn y bore Gwener, Mawrth 30ain, gwelsom y cyfeiriad cyntaf bod


cwmni niwclear gwladwriaethol Rwsia sef Rosatom yn dangos diddordeb mewn ehangu eu hymerodraeth niwclear ac yn llygadu asedau cwmni Horizon. Yn agos at bythefnos yn ddiweddarach daeth stori Rosatom i sylw ehangach, a diddorol iawn fu’r ymateb. Roedd llawer o bobl Môn yn teimlo rhyddhad o glywed penderfyniad y cwmnïau Almaeneg, ond trodd y rhyddhad hwnnw‘n ddrwgdybiaeth ac anghrediniaeth o glywed am ddiddordeb Rosatom. Diddorol iawn oedd sylwadau’r Cynghorydd Gareth Winston Roberts, Amlwch, cefnogwr selog i’r diwydiant niwclear. Yn y gorffennol, dadleuodd y Cynghorydd Roberts dros ynni niwclear fel y dechnoleg allai ddarparu sicrwydd cyflenwad, gan ychwanegu na ddylid gorfod dibynnu yn y dyfodol ar nwy o Rwsia i ddiwallu’n hanghenion ynni. Mae’n ymddangos ei fod braidd yn nerfus am y diddordeb a ddangoswyd gan Rosatom yn Wylfa B. Ac mae lle ganddo i fod yn nerfus. Dyma’r cwmni sy’n gyfrifol am bopeth niwclear yn Rwsia - pwerdai, arfau niwclear a llongau tanfor niwclear. Mae pymtheg o’r llongau tanfor niwclear hyn a ddaeth i ddiwedd eu hoes yn segur ac yn rhydu yn y môr ger Murmansk ac yn gollwng ymbelydredd i Fôr yr Arctig Rhagflaenydd Rosatom o dan y drefn Sofietaidd oedd yn gyfrifol am orsaf niwclear Chernobyl.

Beth nesaf felly? Rhaid i ni barhau i ymgyrchu yn erbyn Wylfa B ac yn erbyn unrhyw gwmni sy’n llygadu’r safle. Dylem hefyd ddatblygu ymgyrch genedlaethol Gymreig yn erbyn bwriad cwmni Ffrengig EDF i godi Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf, safle sy’n beryglus o agos at Dde Cymru. Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni, Bydd PAWB a Chymdeithas yr Iaith yn cychwyn ymgyrch Callia Carwyn fydd yn pwyso ar Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru i wyrdroi eu penderfyniad gwarthus i gefnogi datblygu Wylfa B. Dewch yn llu i Uned y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod erbyn 2.00 o’r gloch ar brynhawn dydd Mawrth, Mehefin 5ed i lansio’r ymgyrch hon. Bydd cyfle yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg i hybu’r ymgyrch hon ac i danlinellu bygythiad adweithyddion niwclear enfawr Ffrengig posibl yn Hinkley Point. Mae bwriad hefyd i gynnal gweithdy ar ddyddiad i’w gadarnhau yn ystod y misoedd nesaf rhwng PAWB a’r Gymdeithas ynglŷn â rhaglen ynni adnewyddol i Gymru.

2012 mehefin ytafod 15


Dyfodol Digidol Adam Jones

M

ae’r Grŵp Dyfodol Digidol wedi bod yn brysur iawn yn gweithio ar nifer o brosiectau yn ddiweddar. Y prif bethau ‘da ni wedi bod yn canolbwyntio arnyn nhw yw S4C a radio lleol. Yn ddiweddar cynhaliwyd y cyfarfod S4Craffu cyntaf. Grŵp cysgodol yw S4Craffu gydag aelodau o Gymdeithas yr Iaith, cynrychiolwyr undebau megis Bectu a chynrychiolwyr annibynnol

16 ytafod mehefin 2012

o’r sector cynhyrchu. Bydd y grŵp yn monitro safon ac ansawdd S4C yn sgil y toriadau gan roi cyfle i chi leisio’ch pryderon. Rydym hefyd wedi cynnal cyfarfodydd gydag Ofcom i drafod sefyllfa’r Gymraeg ar radio masnachol a chymunedol ar draws Cymru. Yn y cyfarfod diwethaf datgelodd Ofcom eu bod wedi bod yn


Adam Jones

paratoi geiriad i’w gynnwys yn y Ddeddf Darlledu Newydd fydd yn cael ei drafod gan y llywodraeth yn 2013. Bydd y geiriad hwn yn galluogi Ofcom i osod cymalau iaith wrth dyrannu trwyddedau i wahanol gwmnïau. Mae hyn yn gam mawr ymlaen ac rydym yn croesawu hyn yn fawr. Ond mae digon eto gennym i’w wneud. Rydym wrthi’n trefnu protest y tu allan i

stiwdio ‘Town and Country Broadcasting’ er mwyn dwyn mwy o bwysau arnyn nhw i drin y Gymraeg yn gyfartal. Cadwch olwg ar ein gwefan am fanylion. Ymunwch yn ein hymgyrch. Pobol sydd yn creu mudiad a chreu ymgyrch. Mae angen eich cefnogaeth chi!

2012 mehefin ytafod 17


L

Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr 13–14 Gorffennaf 2012 Pafiliwn Pontrhydfendigaid Gruff Rhys Gai Toms Neil Rosser Sen Segur Gildas Gwyneth Glyn Y Bandana Huw M Y Saethau Heather Jones Mr Huw Lleuwen Yucatan Fflur Dafydd Twmffat Yr Ods Cowbois Rhos Botwnnog Y Niwl JJ Sneed Y Lladron Alun Tan Lan Bob Delyn Bryn Fôn Geraint Løvgreen Creision Hud Meic Stevens Llwybr Llaethog Mattoidz Tecwyn Ifan The Gentle Good Crash.Disco! Jakokoyak Tom ap Dan Gwibdaith Hen Frân Clinigol Colorama Ail Symudiad Yr Angen Catrin Herbert Y Bwgan Tŷ Gwydr Jamie Bevan …a rhagor o enwau i’w cyhoeddi’n fuan! Cadwch lygad ar ein gwefan a ffrwd Twitter am y diweddaraf:

hannercant.com @hannercant hannercant.com @ hannercant

5


“Mae’r Gymdeithas wedi trefnu sawl gig chwedlonol dros y blynyddoedd, ond Hanner Cant fydd y mwyaf eto… ni’n edrych ymlaen yn ofnadwy i fod yn rhan o’r parti yma” Mark Lugg, Tŷ Gwydr I nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn hanner cant, ac i ddathlu pum degawd o ymgyrchu brwd a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, bydd 50 o artistiaid Cymraeg blaenllaw yn perfformio mewn gig enfawr ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf. Hanner Cant fydd y gig Cymraeg mwyaf ers degawdau, gyda bandiau’n chwarae ar dri llwyfan o 6yh nos Wener ac o ganol dydd Sadwrn hyd at yr oriau mân. Mae enwau’r artistiaid yn cael eu cyhoeddi fesul wythnos – felly edrychwch ar y wefan am y rhestr diweddaraf.

Lleoliad Mae Pontrhydfendigaid yng ngogledd Ceredigion, tua 15 milltir o Aberystwyth. Bu sawl gig

50 hanesyddol yn y pafiliwn enfawr yng nghanol y pentref, yn cynnwys Twrw Tanllyd yn y 70au ac 80au, Rhyw Ddydd Un Dydd yn 1991 a Noson Claddu Reu yn 1992. Fyddwn ni’n meddiannu Pafiliwn Bont a Neuadd y Pentref am y penwythnos, felly bydd popeth dan do, gyda dewis o ddiodydd a bwyd cynnes ac oer ar gael. Edrychwch ar hannercant.com am wybodaeth ynglŷn â sut i gyrraedd yr ŵyl (a rhowch wybod i ni os ydych chi am drefnu bws!)

MAES PEBYLL

Mae digon o le i wersylla, felly dewch â’ch pabell i aros am y penwythnos. £2.50 y pen y noson. Toiledau a chawodydd ar gael.

tocynnau

50

Cynnig arbennig: rhag-archebwch docyn penwythnos nawr o hannercant.com am ddim ond £25! Bydd tocynnau pris llawn ar gael yn hwyrach am £30.

croeso i’r teulu Mynediad am ddim i rai dan 13 oed, ardal blant, maes pebyll teuluol, a digon i ddifyrru pawb o bob oed!

Arddangosfa Dros y degawdau, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal gigs mawr a bach ledled y wlad. Fyddwn ni’n dathlu perthynas glòs y Gymdeithas â cherddoriaeth Gymraeg mewn arddangosfa unigryw yn Hanner Cant. Os oes gennych chi unrhyw bosteri, lluniau, crysau tî, ffansins, cylchgronau neu straeon ac atgofion hoffech chi gyfrannu, cysylltwch ag arddangosfa@hannercant.com neu 01970 624501 os gwelwch yn dda.

GRUFF RHYS


Sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymru Ffred Ffransis Mewn Cyfarfod Cyhoeddus a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith ym mhentre Parc ar Sadwrn 17eg o Fawrth eleni, fe gyhoeddwyd y bwriad i sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymru. Daeth degau o drigolion y pentre i arwyddo proclamasiwn yn cyhoeddi mai’r Parc oedd aelod cyntaf y Gynghrair - yn union fel y sefydlwyd Merched y Wawr yn yr un pentre genhedlaeth ynghynt. Cynhaliwyd y cyfarfod ar y dydd pan enillodd Cymru’r Gamp Lawn - gyda chant yn y neuadd yn gwylio’r gêm ar sgrîn fawr. Ond eto roedd bwriad difrifol y diwrnod hwnnw i gasglu ynghyd gwrthwynebiad i fwriad Cyngor Gwynedd i gau’r ysgol. Roedd y diwrnod yn crisialu’r teimladau cymysg o bryder a gobaith sydd yn ein cymunedau Cymraeg. Dyma ran o anerchiad Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith i’r cyfarfod.

“M

ae’r Rhybudd ar y giât o fwriad i gau’r ysgol yn rhybudd i ninnau na allwn ni bellach ddibynnu ar ein Hawdurdodau Lleol nac ar y Llywodraeth i gynnal ein cymunedau lleol. Rhaid i ni gymryd y mater i’n dwylo ein hunain a sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymru gan fod tynged yr iaith yn y fantol. 2012 mehefin ytafod 21


Does dim synnwyr rhesymegol wrth wraidd y rhybudd i gau’r ysgol hon, a does neb mewn difri’n honni hynny. Dim synnwyr o ran addysg gan fod yr ysgol yn llwyddo ac y byddai model Ffederasiwn Penllyn yn cynnig profiadau addysgol ehangach. Dim synnwyr ariannol oherwydd ei bod yn amlwg y dylem, ar adeg o argyfwng economaidd, ddefnyddio’n llawn yr adnoddau sy gyda ni yn lle adnoddau drudfawr newydd. Dim synnwyr o ran llefydd gwag gan na honna neb fod cael gwared â 8 lle gwag yma’n cyflawni unrhyw ddiben. Dim synnwyr o ran cynnal cymuned Gymraeg gan fod y trigolion wedi tystio y caiff cymuned y plant ei chwalu i wahanol gyfeiriadau. Does dim synnwyr oherwydd nad yw’r cynllun yn ymarferol. Yn syml iawn, mae’n “stitch-up” rhwng Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru aberthu’r plant a’r ysgol er mwyn ceisio buddsoddiad ar gyfer cynllun sy’n gweddu â strategaeth bapur y 22 ytafod mehefin 2012

biwrocratiaid. Fuodd ‘na erioed wrando agored ar farn a phrofiad a phryder y bobl. Aeth Cyngor Gwynedd y tu hwnt i’w dyletswydd i gynnal trafodaethau yn y dalgylch ac yna symud trwy gamau ymgynghori hirfaith. Cywir oedd y camau oll, cywir ond gwag. Penderfynwyd ar ateb nad oedd unrhyw un yn y dalgylch wedi’i gefnogi, ac ni wnaeth y degau ar filoedd o ymatebion yn y broses ymgynghorol unrhyw wahaniaeth o gwbl i farn y Cyngor. Roedd yn “done-deal.” Beth felly ddylai fod eich ymateb i’r Rhybudd ar y Giât ? Digalonni? Credu nad oes pwynt mewn gwrthwynebu ? Na, byddwch yn gwrthwynebu ac yn tystio i’r gwirionedd nid oherwydd disgwyliad o ennill brwydrau ond oherwydd mai dyna sydd iawn. Daliwch yn ffyddlon i dystio i’r gwirionedd am bwysigrwydd yr ysgol a’r gymuned, brwydrwch dros ddyfodol y plant ac fe brofwch y rhyddid na all Cyngor Gwynedd na neb ei dwyn oddi arnoch chi. Ar ryw ffurf neu’i gilydd, efallai tu hwnt i’n deall ni nawr, bydd eich


ymdrech yn dwyn ffrwyth. Wrth frwydro dros y plant, dysgwch gan y bachgen bach a roddodd bopeth oedd ganddo - 5 torth a 2 bysgodyn - a gofyn am fendith ar ei ymdrech. Dwi wedi dysgu nad yw’r Gymru Rydd yn gyfyngedig i sefydliadau fel senedd - er bod y rheiny’n bwysig i ni gael grym cynllunio at y dyfodol. Ond mae’r wir Gymru Rydd bob amser wedi bod yno yn ysbryd ein pobl i dderbyn cyfrifoldeb am yr hyn a roddwyd iddynt. Mae’r wir Gymru Rydd wedi torri allan o bryd i’w gilydd - ym mrwydr Tryweryn genhedlaeth yn ôl, yn ystod streic y glowyr a llu o ymdrechion dros ddyfodol ein cymunedau. Yn wir, dysgodd fy nhad-yngnghyfraith mai cymuned o gymunedau yw cenedl y Cymry. Yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf, dwi wedi gweld y Gymru Rydd mewn cyfarfodydd ac ymdrechion ledled ein gwlad. Dwi wedi gweld y Gymru Rydd ym Mynyddcerrig wrth i fewnfudwyr fynnu dyfodol Cymraeg i’w plant yn eu cymuned. Dwi wedi gweld y Gymru Rydd yn Llanwenog wrth i rieni fagu’r hyder i anfon swyddogion addysg ymaith. Dwi wedi gweld y Gymru Rydd yn fy mhentre fy hun wrth i drigolion barhau i feddiannu adeilad eu hysgol. Ac yn bennaf oll, dwi wedi gweld y Gymru Rydd yma yn Y Parc - yn eich ffyddlondeb a’ch parodrwydd i frwydro’n fwyfwy fel y cynydda’r argyfwng. Dyma’r rhyddid a fydd yn esgor ar Gynghrair Cymunedau Cymru - llais unedig o’r diwedd i’n cymunedau ac ernes o’r Gymru Rydd.” 2012 mehefin ytafod 23


Gigs Eisteddfod Genedl

Awst 4ydd- 11eg 2012 | Clwb Rygbi Lla Sadwrn 4ydd

Sul 5ed

Llun 6ed

Mawrth 7fed

Cwis Cawlach Mic Agored

Noson o Flaen y Bocs gyda Sianel ‘62

Noson Munud i Ddathlu

Gig Coleg Cymraeg

Mynediad am Ddim

Cyfarfod Mawr ‘Dyfodol S62’

Yr Ods Y Rwtch Breichiau Hir

Mynediad am Ddim

Dangos ffilm ‘Munud i Ddathlu’ £7

24 ytafod mehefin 2012

Y Bandana Mr Huw Y Conductors Nebula £7


laethol Bro Morgannwg

anilltyd Fawr | Gwersylla £6 y noson Mercher 8fed

Iau 9fed

Gwener 10fed

Sadwrn 11eg

Dathliad 50

Noson PRS: Chwarae Teg i Gerddorion Cymru

Noson Tynged yr Iaith 2 / Cynghrair Cymunedau

Gig ‘Cymdeithas: yn hyrwyddo’r SRG ers 1962’

Meic Stevens Huw M Jamie Bevan a’r Gweddillion

Steve Eaves Lleuwen Ac eraill

Jess Clinigol Blaidd JJSneed

Noson 50 – yng Nghwmni Tudur Owen Dafydd Iwan Heather J Tony Schiavone Helen Prosser Sian Howys

£10

£10

£10

£7

2012 mehefin ytafod 25


Sianel ‘62 – eich sianel deledu chi! Dyma gyfle i greu teledu sydd werth ei wylio!

P

rosiect gwirfoddol yw Sianel ‘62, i ddathlu 50 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Rydym yn dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh ac ar-alw yn dilyn y darllediad byw. Sianel ‘ifanc ei naws’ yw hi a phobol gyffredin yn y gymuned sydd yn datblygu’r syniadau a chynhyrchu’r rhaglenni o dan arweinyddiaeth tîm proffesiynol. Mae llwyddiant y prosiect yn ddibynnol ar eich cefnogaeth chi, felly cysylltwch os gallwch chi fod o gymorth. Mae ‘na groeso i unrhyw un gymryd rhan! Dyma gyfle i chi felly i arddangos eich gwaith a datblygu eich sgiliau. Mae’r holl adnoddau ar gael gennym ni a byddwn yn cynnig hyfforddiant ar sut i’w defnyddio.

26 ytafod mehefin 2012

Os oes diddordeb gennych chi ond dim profiad nac offer, peidiwch â phoeni. Yr hyn sydd angen felly yw i chi feddwl am syniadau ar gyfer ffilmiau byr a rhaglenni a mynd ati i’w ffilmio. Dwedodd cydlynydd y sianel Greg Bevan: “Mae hwn yn brosiect nid yn unig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas, ond hefyd yn brotest yn erbyn diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes ar hyn o bryd. Mae’r sianel yn cynnig llwyfan newydd i leisiau amgen ac unigryw sydd yn tueddu cael eu hanwybyddu gan y darlledwyr traddodiadol.” Gallwch hefyd gynnig gwaith a ffilmiau byrion rydych eisoes


wedi’u cynhyrchu, neu cynnig eich syniadau am raglenni newydd. Rydym yn edrych am ddigwyddiadau, gigs a mwy i’w ffilmio dros y misoedd nesaf. Dyma gyfle hefyd i bobl gyda diddordeb penodol mewn ffilm, teledu, cyfryngau, cynhyrchu, cyflwyno, sgriptio, dylunio ac animeiddio i ddefnyddio eu sgiliau at fudd y Gymraeg. Wrth gwrs, gall sianel deledu fod yn fecanwaith dylanwadol a phwerus iawn, felly mae hwn yn gyfle digynsail i sefydlu’r strwythurau i rywbeth gall fod yn ganolog i ddiwylliant Cymru am flynyddoedd i ddod. Mae llwyddiant y fenter yn ddibynnol ar bobl yn cyfrannu, felly cysylltwch gyda ni os gallwch fod o gymorth – greg@cymdeithas.org

awen

cyf

meirion

  

 

llyfrau. disgiau. cardiau. crysau ‘cowbois’. crefftau cyflenwyr ysgolion a llyfrgelloedd. gwasanaeth post byd-eang

siop@awenmeirion.com 25 Stryd Fawr, Y Bala 01678 520658

2012 mehefin ytafod 27


Tynged yr Iaith Detholiad o eiriau Ned Thomas o ragair y pumed argraffiad o’r ddarlith radio enwog gan Saunders Lewis, gyda chaniatâd caredig Ned.

A

r Chwefror 13, 1962 gwahoddwyd Saunders Lewis, yr ysgolhaig, dramodydd, bardd a gwleidydd i draddodi darlith Gŵyl Ddewi y BBC ar y radio. Neges wleidyddol oedd ganddo yn dwyn y teitl ‘Tynged yr Iaith’ ac yn sgil ei neges ysbrydolwyd sefydlu Cymdeithas yr Iaith. A hithau hanner can mlynedd ers traddodi’r ddarlith wreiddiol, pa mor berthnasol ym marn Ned Thomas yw geiriau Saunders Lewis erbyn heddiw? Yma mae detholiad o’i eiriau o’r rhagymadrodd i bumed argraffiad Tynged yr Iaith, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer 2012. Diolch am y caniatâd i’w ddefnyddio. ‘Aeth hanner canrif heibio, ac mae hynny’n amser maith mewn gwleidyddiaeth. Rhwng ein hamser ni a dyddiau y ddarlith daeth nifer o wledydd y Trydydd Byd yn rhydd o reolaeth yr ymerodraethau Ewropeaidd, a gwledydd yn nwyrain Ewrop a chanolbarth Asia yn rhydd o reolaeth Rwsia. Ymunodd y Deyrnas Gyfunol â’r Undeb Ewropeaidd ac yna cilio i’w hymylon. Roedd gosodiad Satre mai ‘gweithred chwyldroadol i’r Basgwr yw mynnu siarad ei iaith ei hun ‘ yn agos iawn at eiriau

28 ytafod mehefin 2012

cynharach Saunders Lewis: ‘Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru.’ Heddiw, mae nifer o wladwriaethau yn Ewrop yn rhai ffederal neu ddatganoledig, ac mae rhai hawliau ieithyddol wedi eu gwarantu’n rhyngwladol i leiafrifoedd yn y gwledydd a lofnododd ac a gadarnhaodd Siartr Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol. Dinistriodd Thatcheriaeth y diwydiant glo a rhan helaeth o ddiwydiant dur Cymru, ynghyd â’r patrymau cymunedol oedd wedi tyfu o amgylch y diwydiannau trymion. Hunllef y 1950au oedd gweld diboblogi’r ardaloedd Cymraeg yn mynd rhagddo. O’r 1970au ymlaen, er bod Cymru’n dal i golli ei phoblogaeth gynhenid, yr oedd ton ar ôl ton o fewnfudwyr – y mewnlifiad – yn prysur newid cymeriad ieithyddol yr ardaloedd Cymraeg. Yma fel yng ngwledydd y Gorllewin yn gyffredinol, gwelwyd secwlareiddio cynyddol, ac enillwyd hawliau sylweddol gan ferched. Agorodd cwymp comiwnyddiaeth y ffordd i oruchafiaeth ddilyffethair y farchnad rydd yn fyd-eang. Gwelwyd cwmnïau yn symud gwaith i ddwyrain Ewrop


Ned Thomas

ac Asia, a llywodraeth ganol a lleol yn preifateiddio llawer o wasanaethau cyhoeddus. Ar ddechrau’r ganrif newydd fe gafwyd cyfnod o lewyrch economaidd byrhoedlog ym Mhrydain a gydredodd yn fras â degawd cyntaf datganoli. Effeithiodd pob un o’r datblygiadau hyn ar Gymru a’i phobl, ac ar y Gymraeg hefyd. Rydym yn ailddarllen Tynged yr Iaith mewn byd gwahanol iawn i fyd 1962.’ ‘Amhosib yw tynnu un edefyn o wead cymhleth hanes yr hanner canrif ddiwethaf a chloriannu ei union ddylanwad. Heb ddylanwad cychwynnol Saunders Lewis ar Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a’i pholisïau tor cyfraith, mae’n bosib iawn na fyddai’r ymdrechion cyfansoddiadol dros yr iaith wedi llwyddo i’r un graddau ychwaith, gan iddo osod yr agenda, codi’r tymheredd gwleidyddol,

ysbrydoli’r ifanc, pigo cydwybod y rhai mwy cyffyrddus, a gosod esiampl. Afraid dweud mai gweithred Penyberth oedd yn rhoi’r awdurdod moesol i awdur y ddarlith radio ofyn am aberth gan eraill.’ ‘Ond rydym yn dal yma, a’r iaith ‘yn iaith lafar ac yn iaith lên’. Enillwyd llawer o dir dros yr hanner canrif ddiwethaf, ond fe gollwyd tir hefyd. Os ydym yn credu yn y dyfodol, mae testun Tynged yr Iaith yn perthyn i ni nid fel clasur marw ond fel testun sydd ar gael i ni yn y presennol: i ddethol ohono, i’w ddehongli, i’w wrthod yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Mi fydd yn glasur byw os bydd yn ysgogi trafodaeth bellach a gweithredu pellach. Y deyrnged orau i awdur y ddarlith fydd inni fod mor onest ag y gallwn wrth ei thrafod.’

2012 mehefin ytafod 29


Taith Tynged yr Iaith M

ae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trefnu taith ar draws Cymru eleni i dynnu sylw at sefyllfa’r Gymraeg ar lefel gymunedol fel rhan o’n dathliadau hanner canmlwyddiant. Fe ddangosodd y cyfrifiad diwethaf gwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gan 70% o’r boblogaeth. Blaenoriaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y cyfnod nesaf fydd gwrthdroi hynny. Os yw’r iaith yn mynd i barhau fel iaith ffyniannus a hyfyw, mae rhaid i ni amddiffyn a thyfu’r nifer o gymunedau Cymraeg ei hiaith. Yn ein darlith Tynged yr Iaith 2, rydym yn gosod nod o sicrhau dyfodol i’r Gymraeg fel prif iaith ein cymunedau.

Byddwn yn annog aelodau’r Gymdeithas ar lawr gwlad i ddod yn fwy gweithgar yn ymgyrchoedd y Gymdeithas, ac yn annog aelodau newydd. Byddwn yn gweithio i weld aelodau mewn ardaloedd gwahanol o Gymru i ddod efo ni ar y daith. Gobeithiwn y gallwn, ar y daith, sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymru trwy rwydweithiau presennol a newydd er mwyn eu galluogi nhw i lobio’n rymus dros ddyfodol ein cymunedau.

Lleoliadau Fe fydd y daith yn dechrau yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri ym Mis Mehefin eleni ac yn teithio ar draws y wlad, gan orffen yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg.

Pwrpas y daith

Rhagor o wybodaeth

Yn ogystal â chyfle i ddathlu pumdeg mlynedd o ymgyrchu mae’r daith yn gyfle i ddatgan pwysigrwydd ein cymunedau Cymraeg, ac i edrych i’r dyfodol.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y daith neu awgrymu lleoliad neu ddigwyddiad y dylen ni ymweld â nhw, cysylltwch ag Osian Jones gogledd@ cymdeithas.org neu 01286 662908

30 ytafod mehefin 2012


Datganiad o Egwyddorion

Cynghrair Cymunedau Cymru 1. Creu ymwybyddiaeth genedlaethol o’r realiti nad oes dyfodol i’r Gymraeg heb y cymunedau lle mae hi’n parhau i fod yn iaith fyw. 2. Addysgu a chymhathu mewnfudwyr fel bod modd iddynt gyfoethogi ein cymunedau Cymraeg ac nid eu tanseilio. 3. Annog cyd-weithredu diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd rhwng y cymunedau Cymraeg sy’n rhan o Gynghrair Cymunedau Cymru. 4. Mynnwn chwyldroi’r drefn gynllunio a gosod yn ei le gyfundrefn gynaliadwy fydd yn adlewyrchu’r angen lleol am dai a lefelau cyflog lleol. Bydd y drefn newydd yn rhoi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai. 5. Mae potensial gan bob cymuned yng Nghymru i ddatblygu’n gymuned Gymraeg. Gweithiwn i weld twf mewn canran siaradwyr Cymraeg yn y cymunedau sy’n rhan o’r Gynghrair. 6. Mae sicrhau’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hawl sylfaenol na ddylid amddifadu unrhyw berson yng Nghymru ohono. Dylid gwreiddio addysg yn anghenion ein cymunedau. 7. Gwrthodwn y syniad o ddwyieithrwydd tocenistaidd ac anelwn at wneud y Gymraeg yn gyfrwng naturiol bywyd. 8. Gweithio i weld Cynghorau Sir a Chymuned a sefydliadau cyhoeddus eraill yn gweinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg, a mabwysiadu syniadau Dwyieithrwydd Cymraeg. 9. Gwrthodwn dderbyn grym economi’r farchnad rydd yn ddigwestiwn, ac fe weithiwn i drefnu bod yr economi yn gwasanaethu ein cymunedau yn hytrach na’u rheoli.

2012 mehefin ytafod 31


Taith Tynged yr 6 Mehefin

Eisteddfod yr Urdd, Dyffryn Nantlle Lansio Cynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol 7.30 yh, Neuadd Goffa Penygroes

7 Mehefin

Lansio Taith Tynged yr Iaith 2 yp, Stondin Cymdeithas yr Iaith, Eisteddfod yr Urdd

9 Mehefin

Maes Sioe Ogwen, Bethesda Gig yn Neuadd Ogwen Bryn Fon + Y Bandana (Trefnir gan Pesda Roc)

13 Mehefin

Felinheli Cyfarfod Cyhoeddus yn y Felin Sgwrsio gyda Aled Job (Trefnir ar y cyd gyda Felinheli 70%) Gig Tom ap Dan i ddilyn 7.30

14 Mehefin

Llangefni Ambiwlans ar y stryd yn ystod y dydd Cemlyn Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghapel Cemlyn i lansio Maniffesto Môn gyda Carl Clowes, Dylan Morgan ac Emlyn Richards, 7.30

15 Mehefin

Blaenau Ffestiniog Ambiwlans ar y stryd o 12.30 ymlaen Ffestiniog Ymweld â Pengwern Cymunedol, 7.00

32 ytafod mehefin 2012

16 Mehefin

Llangadfan Gwŷl y Can Offis, Ambiwlans yn yr wŷl

19 Mehefin

Llanrwst Ambiwlans yn y farchnad 9yb-4yh Penmachno Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd Ty’n y Porth gyda Ceri Phillips a Meirion Llywelyn, 7.00

21 Mehefin

Botwnnog Ysgol Botwnnog, Ambiwlans yn ymweld Llangwnadl Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan Llangwnadl gyda Chyfeillion Llŷn, 7.30

26 Mehefin

Dinbych Ambiwlans ar y stryd o 10yb ymlaen

27 Mehefin

Llandrillo Ambiwlans ar y stryd o 10yb ymlaen Wrecsam Cyfarfod Cyhoeddus yn y Saith Seren, 7.30

30 Mehefin

Llangrannog Gŵyl Nol a Mlan, Ambiwlans yn yr wŷl

6 Gorffennaf

Tal-y-bont Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd y Pentref, 7.30yh


Iaith 7 Gorffennaf

25 Gorffennaf

13-14 Gorffennaf

26 Gorffennaf

Aberystwyth Ambiwlans ar y stryd o 10yb ymlaen Pontrhydfendigaid Gwŷl Hanner Cant, Ambiwlans yn yr wŷl drwy’r penwythnos

17 Gorffennaf

Merthyr Tudful Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan Soar, 7yh Treorci Ambiwlans ar y stryd

28 Gorffennaf

Llandysul Cyfarfod Awyr Agored o amgylch yr Ambiwlans Llanwenog Cyfarfod Cyhoeddus yn Ysgol Llanwenog

Llanilltud Fawr Ambiwlans ar y stryd Cas-gwent Ambiwlans yn ymweld Siop Sglodion Sgwar Beaufort a wnaed yn enwog gan Rhodri Morgan!

18 Gorffennaf

30 Gorffennaf

Caerfyrddin Protest a chyfarfod cyhoeddus yn erbyn y datblygiadau tai anaddas

19 Gorffennaf

Efail Isaf Cyfarfod Cyhoeddus yn Y Ganolfan

4 Awst

Eisteddfod Bro Morgannwg

Ystradgynlais Ambiwlans ar y stryd Ystalyfera Ambiwlans yn ymweld

2012 mehefin ytafod 33


Nid yw brwydr yr iaith ar ben Mae Cymdeithas yr Iaith yn parhau i ymgyrchu er mwyn sicrhau mae nid diwylliant lleiafrif bydd y Gymraeg dros yr hanner canrif nesaf ond y bydd yn briod iaith ein cenedl.

Os wyt ti’n rhannu’r weledigaeth yma ymuna â ni heddiw! Enw Cyfeiriad Ffôn Ebost Wedi bod yn aelod o’r blaen Nid wyf am dderbyn gohebiaeth Diddordeb mewn maes arbennig o’r gwaith?

Rwyf yn eich awdurdodi i dalu i gyfrif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhif 81072102, Banc HSBC, 24 Sgwâr y Castell, Caernarfon 30-16-02. Ar y cyntaf o fis yn y flwyddyn ac wedi hynny bob mis y swm o: £1 £2 Arall:

£5

£10

£20

£25

Arwyddwyd Dyddiad

Archeb Banc

Aelodau dros dro

Hoffwn fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a chyfrannu drwy archeb banc. Enw’r banc

Os dymunwch, gallwch ymaelodi am flwyddyn yn unig: Myfyriwr ysgol / chweched £3

Cyfeiriad y Banc

Myfyriwr coleg £6 Di-gyflog £6

Enw’r Cyfrif Rhif y Cyfrif Côd Didoli

Pensiynwyr £6 Gwaith llawn amser £12 Aelodaeth teulu (plant dan 16) £24

Dychwelwch i: CYIG, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ


Digwyddiadau Eisteddfod yr Urdd “Callia Carwyn” Ie i ynni adnewyddol, Na i niwclear 2 yp, Dydd Mawrth, 5ed Mehefin Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Mi fydd CYIG a PAWB yn lansio cerdyn post i Carwyn Jones yn gofyn iddo atal ei gefnogaeth i adeiladu adweithyddion niwclear newydd yng Nghymru. Bydd siaradwr o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sôn am y berthynas rhwng cymunedau hyfyw ac iechyd ac mi fydd Dr Carl Clowes yn lansio ei lyfr ‘Cryfder ar y Cyd’ ar y pwnc. Richard Jones a Gwenda Jones, Caerdegog Menna Machreth, Dr Carl Clowes, Dylan Edwards

Noson Gynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol 7.30, Nos Fercher, 6ed Mehefin - Neuadd Goffa Pen-y-Groes Noddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Dyma gyfarfod lansio Cynghrair Cymunedau Cymru. Yn ystod y noson fe fyddwn yn canolbwyntio ar fentrau cydweithredol gyda chyflwyniadau gan grwpiau unigol a thrafodaeth panel. Hefyd, mi fydd Dr Carl Clowes yn lansio ei lyfr ar y pwnc. Pengwern Cymunedol, Saith Seren, Dyffryn Nantlle 20/20, Antur Stiniog, Antur Ogwen

Lansio “Taith Tynged yr Iaith” 2yp, Dydd Iau, 7fed Mehefin – Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg byddwn yn teithio ar draws y wlad er mwyn gweithio gyda’n cymunedau i wrthdroi dirywiad cymunedau Cymraeg ac annog cymunedau i ymuno gyda Chynghrair Cymunedau Cymru er mwyn eu galluogi i lobio’n rymus dros ddyfodol ein cymunedau. Bethan Williams (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Meirion Davies (Menter Ogwen) ac eraill

Cyflwyno Llyfr Du i Gomisiynydd y Gymraeg 2yp, Dydd Gwener, 8ed Mehefin Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Mi fydd y Gymdeithas yn cyflwyno llyfryn i Gomisiynydd y Gymraeg sy’n cynnwys enghreifftiau unigolion o’u problemau gyda gwasanaethau Cymraeg. Meri Huws, Hywel Williams AS, Dr Jerry Hunter, Judith Humphreys, Ceri Phillips


Y Tafod - Mehefin 2012  

Y Tafod - Mehefin 2012 Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Advertisement
Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you