__MAIN_TEXT__

Page 1

Eryri | Snowdonia AM BYTH

FOREVER

Gwanwyn • Spring 2019

Mynydd i'w ddringo ● A mountain to climb Gwerthfawrogir a gwydn ● Valued and resilient Dyfodol antur yn Eryri ● The future of adventure in Snowdonia

Gweithio dros Eryri ● Working for Snowdonia


CCB ● AGM Noddwch dyddiad: Sefydlwyd Cymdeithas Eryri yn 1967 a'i nod yw gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â'r ardal, yn awr ac yn y dyfodol. ~~~ The Snowdonia Society, established in 1967, works to protect and enhance the beauty and special qualities of Snowdonia and to promote their enjoyment in the interests of all who live in, work in or visit the area both now and in the future.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Eryri 2019 Gweler: www.snowdonia-society.org.uk/cy/ digwyddiad

Please note the date: Snowdonia Society 2019 Annual General Meeting

Ymaelodwch heddiw! ● Join Today! Ddim yn aelod?

Cefnogwch ein gwaith o warchod a gwella tirluniau a bioamrywiaeth arbennig Eryri trwy ymaelodi! Aelodaeth unigol: £24

www.cymdeithas-eryri.org.uk

Not a member? Why not help conserve Snowdonia’s magnificent landscape and biodiversity by joining the Society? Individual membership costs £24.

Swyddogion ac Ymddiriedolwyr: Officers and Trustees:

Hydref 19 October Plas y Brenin, Capel Curig

www.snowdonia-society.org.uk Gostyngiadau Discounts

Gwirfoddoli Volunteer

Cylchgronau Magazines

See: www.snowdonia-society.org.uk/event

Digwyddiadau Events

-20%

Staff:

Cyfarwyddwr/Director: John Harold Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu/ Communications & Membership Officer: Llywydd/President: John Lloyd Jones OBE Debbie Pritchard Is-lywyddion/Vice-presidents: Sir John Houghton CBE FRS, Sir Simon Jenkins FSA, Huw Rheolwr Prosiect / Project Manager: MaryKate Jones Morgan Daniel CVO KStJ, David Firth, Morag Swyddogion Prosiect/Project Officers: McGrath, Owain Thomas & Daniel Goodwin Cadeirydd/Chair: David Archer Swyddog Ymgysylltu/Engagement Officer: Is-gadeirydd/Vice-chair: Charles Hawkins Claire Holmes Aelodau'r pwyllgor/Committee members: Cyfrifydd/Accountant: Judith Bellis Netti Collister, Bob Lowe, Peter Weston, Dr Jacob Buis, Julian Pitt, Jane Parry-Evans, Margaret Thomas

Cymdeithas Eryri the Snowdonia Society Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk Delwedd clawr/Cover image: www.cymdeithas-eryri.org.uk Bryn Cader Faner, Llandecwyn© Kris Williams www.snowdonia-society.org.uk Cyfieithu/Translation: Haf Meredydd Rhif elusen/Charity no: 1155401

Dyluniad/Design: Debbie Pritchard

Ymwadiad golygydddol Cynhyrchwyd y cylchgrawn gan dîm golygyddol yn cynnwys Rob Collister, Debbie Pritchard a John Harold. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r holl awduron a ffotograffwyr sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn. Cofiwch mai safbwyntiau personol yr awduron sy'n cael eu mynegi ganddynt, ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu polisi Cymdeithas Eryri.

Editorial disclaimer The magazine is produced by an editorial panel of Rob Collister, Debbie Pritchard and John Harold. We are very grateful to all the authors and photographers who have contributed to this issue. The views expressed by the authors are their own and do not necessarily reflect Snowdonia Society policy.


dd d d u u G G i i a a EErryyrr i i n n o o d d ooww n n S S t t e e SSeeccrr

Š John Farrar

Thema cystadleuaeth ffotograffiaeth yw 'Eryri Gudd' ac mae yn agored i ddehongliad unigol ond rhaid i'r ceisiadau gyfleu rhywfaint o gymeriad Eryri ac mae'n rhaid i'r lluniau fod wedi eu tynnu o fewn terfyn Parc Cenedlaethol Eryri.

Photo Competition theme is 'Secret Snowdonia' and is open to individual interpretation but entries must capture some of the character of Snowdonia and be taken within the Snowdonia National Park boundary.

Bydd y 12 delwedd buddugol a o feirniaid yn ymddangos yn Cyfrannwyd gwobrau gwych yn RAW Adventures, Trefriw Woollen Distillery

The 12 prize winning images selected by a panel of judges will feature in our 2020 calendar. Fabulous prizes have kindly been donated by: RAW Adventures, Trefriw Woollen Mills and Dinorwig Distillery

ddewisir gan banel ein calendr 2020. garedig iawn gan: Mills and Dinorwig

One entry per person and must be in a digital format and sent to: info@snowdonia-society.org.uk by midnight on June 30th 2019 Full terms and conditions can be found on our website: https://www.snowdonia-society.org.uk/comp2019

Un ceisiad y person ar fformat digidol a dylid eu hanfon at: info@snowdonia-society.org.uk erbyn hanner nos ar 30 Mehefin 2019 Mae'r termau ac amodau llawn ar ein gwefan: https://www.snowdonia-society.org.uk/cy/comp2019/

Cynnwys

Contents

4

Golygyddol

4

Editorial

5

Llywydd yn ymddeol: John Lloyd-Jones

5

Retiring President: John Lloyd-Jones

6

Beth sy'n gynhenid a beth sy'n estron yn Eryri?

7

What's native and what's alien in Snowdonia?

9

Crafu'r wyneb am gyfleoedd

10 Scratching the surface for opportunities

12

Beth sydd ar y gorwel i Barciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr?

14 What's on the horizon for the English and Welsh National Parks?

16

Mynydd i'w ddringo

18 A mountain to climb

20

Dyfodol antur yn Eryri

22 The future of adventure in Snowdonia

24

Gwerthfawrogir a gwydn

25 Valued and Resilient

26

Yn Gryno - y diweddaraf a gwybodaeth leol

27 Short Cuts - updates and local knowledge

28

Digwyddiadau

29 Events


Gorwelion

Golygyddol

Editorial

John Harold Mae'r rhifyn hwn yn edrych ar orwelion Eryri sy'n newid. Rydym wedi dod ag ystod o safbwyntiau at ei gilydd, felly rydych yn annhebygol o gytuno gyda phob dim sydd gan ein cyfranwyr i'w ddweud. Mewn ffordd dyna'r pwynt; mae rhannu gwahanol safbwyntiau yn rhan bwysig o gorff sy'n edrych at allan.

This issue scans the horizons of a changing Snowdonia. We've brought together a range of perspectives, so you are unlikely to agree with all that our contributors say. In a way that is the point; sharing differing views is an important part of an outwardlooking organisation.

Fel catalydd dros newid, daw arweiniad mewn sawl ffurf ac o sawl lle. Yn y cylchgrawn hwn byddwn yn clywed gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am Barciau Cenedlaethol; mae ei huchelgais lefel-uchel – fel pob dim o werth – yn gofyn am ymrwymiad, adnoddau ac amser i'w wireddu. Rhown groeso i fodlonrwydd y Gweinidog i wrando ac i symud tirluniau Cymru ymlaen yn dilyn rhai blynyddoedd o adolygiadau llywodraethol.

As a catalyst for change, leadership comes in many forms and from many places. In this magazine we hear from the Minister responsible for National Parks; her high-level ambition will - like all things of value - take commitment, resources and time to achieve. We welcome the Minister's willingness to listen and to move the designated landscapes of Wales forward following several years of government reviews.

Gydag adolygiad hefyd ar y gweill yn Lloegr ar hyn o bryd, mae'n werth ystyried sut all ein profiadau ein cysylltu â theulu ehangach Parciau Cenedlaethol y DU. Pwy well i fwrw golwg tua'r gorwel pell hwnnw na Phrif Weithredwr yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol, y mae ei rôl ar fin dod i ben? Fel Cymdeithas Eryri, mae YPC yn bodoli i hybu Parciau Cenedlaethol fel mynegiant corfforol pwrpas aruchel – cyfarfod anghenion pobl a byd natur drwy'r gwaith o feithrin ein tirluniau mwyaf ysbrydoledig.

With a review now also underway in England, it is worth considering how our experiences link us to the wider family of UK National Parks. Who better to scan that more distant horizon than the outgoing Chief Executive of Campaign for National Parks? Like the Snowdonia Society, CNP exists to further National Parks as the practical expression of a high purpose – to meet the needs of people and nature through the work of nurturing our most inspiring landscapes.

Mae dyheadau yn angenrheidiol, ond mae'r gwaith o'u gwireddu'n dibynnu ar bobl gyda rolau a pherthnasau gwahanol â'r tir. Gallwch ddarllen yma rhai o'u lleisiau hynod o amrywiol; ffermwr o Eryri, cadwraethwr ac arweinydd gweithgareddau awyr agored. Yr hyn sy'n cysylltu eu safbwyntiau yw eu bod i gyd yn ymwneud â phobl a gyda'r byd go iawn.

Aspirations are essential, but the work of bringing them to life falls to people with very different roles and relationships with the land. Read on to hear a few of their varied voices; a Snowdonia farmer, a conservationist and an outdoor activity leader. What links their perspectives is that they are all engaged with people and with the real world.

Cawn eiriau naturiaethwr hefyd, sydd wedi ei fagu yn lleol, yn gofyn i ni ail-ystyried yr hyn mae'n ei olygu i blanhigion a chreaduriaid fod yn 'frodorol' mewn byd sy'n newid. Yr her yma yw cynyddu ein gwybodaeth, ond hefyd i newid sut yr ydym yn meddwl, i weld byd natur fel mwy nag aberth heb lais neu rhywbeth sy'n derbyn budd o'r ffordd yr ydym ni'n gweithredu.

We also hear from a naturalist, native to the area, asking us to rethink what it means for flora and fauna to be 'native' in a changing world. The challenge here is to increase our knowledge, but also to change how we think, to see nature as more than a passive victim or beneficiary of our actions.

Os bydd erthygl yn hybu rhai meddyliau, croeso i chi ei rhannu. Ein dymuniad yw gweld dyfodol Eryri yn un lle bydd pobl yn ffynnu mewn tirlun sy'n fyw gyda harddwch a natur wyllt. Rydym yn gwneud ein gorau i chwarae ein rhan – i hybu'r perthnasau amrywiol rhwng pobl a'r man arbennig hwn. John Harold, Cyfarwyddwr

4 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd

If an article stimulates some thoughts, please share them. We want Snowdonia's future to be one where people flourish in a landscape which is alive with beauty and wild nature. We're doing our best to play our part – to energise the diverse relationships between people and this special place. John Harold, Director


Horizons

Llywydd yn ymddeol Retiring President John Lloyd-Jones OBE

John Lloyd-Jones OBE

Yn drist iawn, mae John Lloyd-Jones, ein Llywydd am y pum mlynedd ddiwethaf, wedi teimlo bod rhaid iddo roi'r gorau i'w swydd. Penodwyd John yn Gadeirydd Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol Cymru, ac oherwydd gwrthdaro posibl rhwng buddiannau, bu iddo ymddeol o'i swydd fel Llywydd. Gyda'i wybodaeth eang a phrofiad o gefn gwlad Cymru a materion yn ymwneud â'r Parc Cenedlaethol, mae ei arweiniad a'i gefnogaeth i Gymdeithas Eryri wedi bod yn ddi-ben-draw. Yn ŵr dylanwadol gyda'i draed ar y ddaear, mae John wedi bod yn gyfaill da i'r Gymdeithas.

John Lloyd-Jones, our President for the last five years, has regretfully felt it necessary to stand down. John has been appointed Chair of the National Infrastructure Commission for Wales, and possible conflicts of interest have obliged him to resign as our President. With an unsurpassed knowledge and experience of Welsh countryside and National Park issues, his guidance and support for the Snowdonia Society has been unstinting. Influential and down to earth, John has been a good friend to the Society.

Mae John yn berchennog fferm Hendy ger Tywyn, ac mae ei yrfa amrywiol a nodedig wedi cynnwys Cadeirydd Undeb Cenedlaethol Ffermwyr Cymru, Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac aelod o Bwyllgor Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Yn ystod 2014/2015, ynghyd â'r Athro Terry Marsden a Dr Ruth Williams, roedd yn aelod o grŵp a gynhyrchodd yr adolygiad o Dirluniau Dynodedig yng Nghymru, “Tirluniau Cenedlaethol: Datgloi eu Potensial”. Bydd aelodau sydd wedi mynychu ein CBC yn cofio bod John wedi cadeirio gyda hiwmor ac anffurfioldeb, gan egluro trafodaeth gyda'i berspectif ehangach yn aml. Bydd yn parhau fel aelod a bydd ei ddiddordeb a'i ymroddiad i'r Gymdeithas yn parhau, a dymunwn yn dda iddo yn ei benodiad newydd. Gan David Archer, Cadeirydd y Gymdeithas Eryri

Ymunwch â dwsinau o wirfoddolwyr ar un penwythnos i Mentro a Dathlu yn Eryri. Archebwch ar gyfer 13-15 Medi 2019: claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685 498

The owner of Hendy farm, near Tywyn, John's diverse and distinguished career has included Chair of the National Farmers Union Wales, Chair of the Countryside Council for Wales, member of the Snowdonia National Park Authority and member of the National Trust Committee for Wales. During 2014/2015, along with Professor Terry Marsden and Dr Ruth Williams, he was a member of the group that produced the authoritative "National Landscapes: Realising their Potential", a review of Designated Landscapes in Wales. Members who have attended our AGMs will remember that John chaired with humour and a light touch, often illuminating discussion with his wider perspective. He will continue as a member, interested and committed to the Society, and we wish him well in his new appointment. By David Archer, Chair of the Snowdonia Society

Join dozens of volunteers for one weekend to Make a Difference in Snowdonia. Book for 13-15 September 2019: claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685 498

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 5


Gorwelion

Beth sy'n gynhenid a beth sy'n estron yn Eryri? Duncan Brown Fe ddaeth yn weddol amlwg dros y ddeugain mlynedd ddiwethaf bod cyfle gwell mewn Parc Cenedlaethol fel Eryri i herio mewnfudwyr estron fel rhododendron, Rhododendron ponticum ac efallai cefnogi anifeiliaid cynhenid, nag ar diroedd o statws cadwraethol is. Tybed ydy awdurdodau'r parciau yn cymryd llawn fantais o'u statws i ddangos y ffordd i'r gweddill ohonom? Mae digon o waith i'w wneud, ond onid rhaid yn gyntaf benderfynu beth sy'n estron a beth sy'n gynhenid cyn mentro ar weithredu'n strategol yn hyn o beth? Mae'n debyg y byddai pawb yn derbyn bod y robin goch cyfarwydd, Erithacus rubecula, yn anifail cynhenid i wledydd Prydain, yn wahanol i rywogaethau fel y rhododendron a'r wiwer lwyd Sciurus carolinensis, sydd yn ddigamsyniol yn rhywogaethau estron ac, i amryw, yn enwedig yn Eryri, yn ddi-groeso. Ond beth yn union mae 'estron' yn ei olygu? A beth yw goblygiadau bod yn 'gynhenid' neu'n 'estron'? Bu'r robin goch yn byw yma'n naturiol drwy gydol Epoc yr Holosen, hynny yw, ers i'r hinsawdd fod yn rhywbeth tebyg i beth ydyw ar hyn o bryd - hyd at tua 11,000 o flynyddoedd felly. Brodor yw hwn yn ei wir ystyr.

Yn llawer mwy diweddar mae'r crëyr bach, Egretta garzetta, wedi'n cyrraedd yn 'naturiol' yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf. Ydi'r crëyr hwn yn gynhenid? Cyrhaeddodd ohono'i hun, efallai gan fanteisio ar newid hinsawdd. Ond, mae'n debyg iddo gael ei hela i ebargofiant yn y Canol Oesoedd ar ôl byw yma 'erioed', felly nid yw'n anifail newydd i Brydain, er mai felly mae'n cael ei ystyried. A beth am y durtur dorchog, Streptopelia decaocto? Dyma aderyn o'r dwyrain pell a ymledodd ar draws Asia ac Ewrop dros y ganrif ddiwethaf cyn cyrraedd yma'n naturiol yn y 1960au. Does neb eto wedi esbonio pam, na sut, y digwyddodd hyn. Ydi'r durtur dorchog yn gynhenid? Oes ganddi gymaint o 'hawl' i'w lle â'r robin goch, ynteu ydi hir-bresenoldeb yn ffactor hefyd yn ein penderfyniad? Yn yr un categori â'r durtur dorchog, ar un wedd, mae telor Cetti , Cettia cetti, rhywogaeth nad yw wedi cyrraedd Eryri ... eto! Er iddo gyrraedd Cymru 'ohono' i hun' yn fwy diweddar na'r durtur, mae un gwahaniaeth mawr - fe gyrhaeddodd gyda help ffactor dynol amlwg, sef newid hinsawdd. Yma felly trwy law dyn mae telor Cetti, ynteu yma o dan ei wynt ei hun?

Categori arbennig o rywogaethau 'estron' yw'r rhai sy'n cael eu cydnabod yn 'fferal'. Enghreifftiau yw geifr gwyllt Capra aegagrus, gwyddau, Canada Branta canadensis, minc, Neovison vison ac anifeiliaid fferal eraill a oedd yn ddof ond sydd bellach wedi rhedeg i'r gwyllt, gyda chanlyniadau cymysg ar ein heconomi ac ar ecoleg ein cefn gwlad - yn enwedig yn Eryri.

Nid tan yn ddiweddar y bu'n rhaid i mi gwestiynu statws yr hwyaden ddanheddog, Mergus merganser yn y cysylltiad hwn. Clywais mai barn rhai pysgotwyr yw y dylai'r aderyn hwn gael ei reoli - hynny yw, ei ladd - am ei fod yn bla sy'n farus o bysgod ifanc, a'u dadl oedd nad yw'n gynhenid. Eu rheswm dros ddweud hynny oedd nad yw'r hwyaden drawiadol hon ond wedi nythu yma am yr ugain mlynedd ddiwethaf, er iddi ymweld â Chymru a Phrydain yn rheolaidd ers cyn cof. Di-ystyriais y ddadl yn fuan petaem yn derbyn y diffiniad hwn o 'gynhenid' oni fyddai cwmwl dros 'hawliau' alarch y gogledd, Cygnus cygnus, y coch dan adain , Turdus iliacus a'r Ilu o ymwelwyr sydd yn dod yma, ac sy'n dibynnu ar dir Cymru a Phrydain am eu cynhaliaeth erioed, er iddynt nythu mewn mannau eraill pellennig?

Yn y categori hwn hefyd mae'r gwningen, Oryctolagus cuniculus a'r fasarnen, Acer pseudoplatanus sydd wedi ymgartrefu, cynyddu a ffynnu yn y gwyllt ym Mhrydain ers i'r Normaniaid eu cyflwyno yma ers yr 11eg ganrif. Mae'r ddau wedi cael effaith fawr ar economi ac ecoleg cefn gwlad - weithiau er gwell, weithiau er gwaeth. Oes yna le i ni ystyried y cysyniad o 'frodorion anrhydeddus' - ar sail hir-bresenoldeb dros mil o flynyddoedd, defnyddioldeb yn y gadwyn fwyd neu gysylltiadau diwylliannol megis enwau lleoedd, diwydiannau coll, llenyddiaeth?

Beth am y blaidd, Canis lupus sydd wedi cyrraedd yma'n naturiol, wedi byw yma bron mor hir â'r robin goch ond sydd wedi marw o'r tir oherwydd erledigaeth gymharol ddiweddar gan ddyn? Yn naturiol mae'r blaidd yn gymwys i gael ei alw'n 'gynhenid' ond diflanedig. Felly hefyd y lyncs, Lynx lynx, yn ôl tystiolaeth o farddoniaeth Cymraeg y 14eg ganrif. Ydy hynny yn rhoi'r 'hawl' iddynt ail-ymsefydlu yma gyda chymorth arian cyhoeddus? Oes tir yn Eryri sydd yn addas ac yn barod i groesawu'r anifeiliaid hyn yn ôl?

Ond ni fu'r rhododendron ym Mhrydain ond ers amser y frenhines Fictoria, ac yn ddios cyrhaeddodd yma trwy law dyn. Yr ensyniad yw, yng ngwleidyddiaeth yr amgylchedd, bod mwy o 'hawl' gan y robin goch i fod yma na'r rhododendron. Digon syml. Ond, rhwng y robin goch a'r rhododendron, mae gweision y diafol yn llechu!

Mae gwirfoddolwyr yn helpu rheoli rhywogaethau anfrodorol ● Volunteers help control non-native species

Wrth i epoc yr Holosen newid yn raddol i Epoc yr Anthroposen (sef y cyfnod sydd wedi'i effeithio'n sylweddol gan ddyn), ac wrth i nifer cynyddol o rywogaethau gyrraedd a nifer o rywogaethau cynhenid golli tir, fe ddaw'r cwestiynau hyn yn fwy dyrys ac anodd i'w datrys yn y blynyddoedd i ddod. Duncan Brown Hanesydd yr Amgylchedd. Cyn reolwr gwarchdfeydd i CNC (CCG gynt). Golygydd Prosiect Llên Natur ar ran Cymdeithas Edward Llwyd.

6 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd


Horizons

What's native and what's alien in Snowdonia?

Mae jac-y-neidiwr yn gwasgaru ei hadau o’i godennau ‘ffrwydrol’ ● Himalayan balsam’s 'explosive' seedpods

Duncan Brown It has become fairly clear over the last forty years that there is a better chance in a National Park like Snowdonia to challenge alien migrants such as rhododendron Rhododendron ponticum, and perhaps support native animals, rather than on land that has a lower conservation status. Do the park authorities take full advantage of their status to show the way to the rest of us? There is plenty of work to do, but initially we have to decide what is alien and what is native before venturing strategic action in this regard. It is likely that everyone would accept that the familiar red robin, Erithacus rubecula, is an indigenous animal to the United Kingdom, unlike species such as rhododendron and grey squirrel, Sciurus carolinensis, which are unmistakably alien species and are unwelcome to many, especially in Snowdonia.

has yet explained why, or how, this happened. Is the collared dove a native? Does it have as much 'right' to its place as the robin, or is long-standing also a factor in our decision?

But what exactly does 'alien' mean? And what are the implications of being 'native' or 'alien'? The robin lived here naturally throughout the Holocene Epoch, that is, since the climate has been similar to what it is at present - up to about 11,000 years ago. This is a native in the true meaning of the word.

In the same category as the collared dove, in one respect, is Cetti's warbler, Cettia cetti, a species that has not yet arrived in Snowdonia! Although it got to Wales 'by itself' more recently than the collared dove, there is one big difference - it got here with the help of a prominent human factor, which is climate change. Is Cetti's warbler here by man's doing or by itself?

But rhododendron has only been in Britain since Queen Victoria's time, and arrived here by man's hand. The implication is that, in environmental politics, the robin has more 'right' to be here than the rhododendron. That's simple enough. But, between the robin redbreast and the rhododendron, 'there are some tough nuts to crack! A special category of 'alien' species are those that are recognised as 'feral'. Examples are wild goats, Capra aegagrus, Canada geese, Branta canadensis, mink, Neovison vison and other feral animals which were once domesticated but have now run wild, with mixed consequences for our economy and the ecology of our countryside - especially in Snowdonia. Also in this category are the rabbit, Oryctolagus cuniculus, and the sycamore, Acer pseudoplatanus, that have settled, multiplied and flourished in the wild in Britain since the Normans introduced them in the 11th century. Both have had a major impact on the economy and ecology of the countryside - sometimes for better, sometimes for worse. Should we consider the concept of 'honourable natives' - based on a long-standing presence over a thousand years, usefulness in the food chain or cultural connections such as placenames, lost industries, literature? Much more recently, the little egret, Egretta garzetta, has reached us 'naturally' during the last half century. Is this egret native? It came by itself, perhaps taking advantage of climate change. But, apparently, it had been hunted into oblivion during the Middle Ages after 'always' living here, so it's not a new animal to Britain, although it is considered as such. And what about the collared dove, Streptopelia decaocto? This is a bird from the Far East that spread across Asia and Europe during the last century before arriving here naturally in the 1960s. No-one

It was not until recently that I had to question the status of the goosander, Mergus merganser, in this connection. I heard that some fishermen were of the opinion that this bird should be managed - that is, killed - because it is a pest that feeds on young fish, and their argument was that it was not native. Their reason for saying this was that this striking duck had only nested here for the last twenty years, although it has visited Wales and Britain regularly since time immemorial. I rejected the argument very quickly - if we accept this definition of 'native', would there not be a cloud over the whooper swan, Cygnus cygnus, the redwing, Turdus iliacus, and the crowd of visitors that come here and have always depended on Wales and Britain for their sustenance, even though they nest in other distant places? What about the wolf, Canis lupus, which arrived here naturally, has lived here almost as long as the robin but disappeared from the land due to relatively persecution by man? Naturally, the wolf is eligible to be called 'native' - not extinct. Similarly, the lynx, Lynx lynx, according to recent evidence from 14th century Welsh poetry. Does that give them a 'right' to reinstate themselves here with the aid of public money? Is there land in Snowdonia that is suitable and ready to welcome these animals back? As the Holocene Epoch gradually changes to the Anthropocene (the period that has been significantly affected by man), and as growing numbers of species reach our shores and many native species lose ground, these questions will be more complex and difficult to solve in the coming years. Duncan Brown Environmental Historian. Former Nature Reserve Warden for NRW (formerly CCW). Editor of Llên Natur project on behalf of Cymdeithas Edward Llwyd.

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 7


Gorwelion

Crafu'r wyneb am gyfleoedd John Lloyd-Jones I blant ysgol cynradd o'm cenhedlaeth i a oedd yn siaradwyr Cymraeg yn yr 1950au, roedd dysgu cerdd John Ceiriog Hughes yn rhan orfodol o'n haddysg: Aros mae'r mynyddau mawr Rhuo trostynt mae y gwynt Ond bugeiliaid newydd sydd Ar yr hen fynyddoedd hyn Roedd Ceiriog yn ysgrifennu yn y 19eg ganrif, pan roedd yn gweithio fel clerc ym Manceinion ac yn ddiweddarach yn swyddog rheilffordd. Wrth fyw ei fywyd ymhell o'i blentyndod yn y wlad roedd yn gallu crynhoi naws y tirlun yr oedd yn ei adnabod mor dda fel bachgen drwy gyfrwng ei farddoniaeth. Hoffwn ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu cenhedlaeth newydd o 'fugeiliaid' wrth iddyn nhw geisio cyd-fyw efo'r 'tirlun' hwn. Beth am gychwyn gyda'r ddau air yna mewn 'dyfynodau'? Mae bugeilio bellach yn golygu rhywbeth llawer mwy cymhleth ac amrywiol gydag agendâu lu ynglŷn â phrif bwrpas rheolaeth tir yn yr 21ain ganrif. Ac ai'r tirlun corfforol sy'n sail i'n gweithgareddau a'n hamdden yw 'tirlun', neu'r tirlun polisi/gwleidyddol sy'n ceisio gwireddu anghenion canfyddedig y presennol? Neu a ydyn ni'n golygu tirluniau sy'n llenwi'n pennau a'n calonnau, yn seiliedig ar ein profiadau personol, atgofion, dyheadau a dychymyg; tirluniau sy'n unigryw i ni? Wedi oes o weithio o fewn agweddau ymarferol a pholisi ffermio, pa weledigaethau neu gyngor fyddwn i'n eu cynnig i'r genhedlaeth o 'fugeiliaid' sy'n ymddangos heddiw? Cynigiaf y syniadau hyn gan wybod yn iawn y byddaf wedi hen ymadael â'r drafodaeth hon cyn i mi gael fy mhrofi'n gywir neu'n anghywir. Yn gyntaf, peidiwch â chredu bod yr amgylchedd yr ydych yn gweithio ynddo yn eich cyfyngu; chwiliwch am y cyfleoedd yn hytrach na'r pethau negyddol. 'Allwn ni wneud dim ond magu defaid' oedd byrdwn fy nghenhedlaeth i'n aml gan anghofio,

yn gyfleus iawn, bod dau brif bwrpas i'n tir hyd yn ddiweddar, sef bwyd a chynhyrchu ynni. Roedd ceirch ar un pryd yn gnwd pwysig, yn cael ei dyfu nid ar gyfer gwneud uwd ond i fwydo'r ceffyl gwedd, y prif ffynhonnell o rym amaethyddol. Bydd y gofyn am ynni adnewyddadwy mewn amrywiol ffyrdd yn parhau i dyfu; bydd hyn yn darparu cyfleoedd newydd o ganlyniad i baradocs; mae gwell effeithiolrwydd ynni yn arwain at fwy o ofyn am ynni. Daw cyfleoedd o welliannau gwyddonol megis cnydau newydd, yn cynnwys technoleg GMO. Ffenomeg cnydau yw'r wyddoniaeth sy'n datblygu i fesur nodweddion ac amrywiaeth planhigion megis ymatebion i ffactorau amaethyddol. Mae'r datblygiadau'n cynnwys cnydau newydd a ddatblygir oherwydd eu gwell nodweddion fferyllol o'u tyfu o dan amodau heriol – megis y rhai a geir mewn llawer o Barciau Cenedlaethol. Y grym pwysicaf mewn amrywiant ar ffermydd yn ystod fy mywyd gweithiol oedd yr incwm a enillwyd gan aelodau'r teulu nad oedd yn gysylltiedig â ffermio, un ai ar y fferm neu oddi allan iddi. Ychydig o sylw a gafodd hyn ond bellach mae'n diffinio dichonoldeb llawer o ffermydd teuluol. Ni fydd y tueddiad hwn yn lleihau, felly cadwch lygad ar weithgareddau entrepreneuraidd o'ch cwmpas. Beth yw rôl medrau traddodiadol yn hyn oll? Mae gennym ddigon o dystiolaeth bod y medrau'n dod yn ôl yn gyflym unwaith mae marchnad wedi ei sefydlu'n gofyn amdanyn nhw. Mae'r defnydd o forter calch wrth adnewyddu ac addasu hen adeiladau gwag yn enghraifft wych o'r tueddiad hwn. Twristiaeth; mae'n ffaith fod Parciau Cenedlaethol yn brand cryf a chydnabyddedig. Derbyniwn y ffaith bod y diwydiant twristiaeth yn rhan cyn gryfed o'r economi wledig ag ydy amaethyddiaeth, ond fel pob diwydiant mae'n newid ac yn esblygu. Mae cwsmeriaid yn chwilio am ansawdd a newydd-deb. Oherwydd nifer o resymau cymhleth mae'r genhedlaeth newydd yn gwerthfawrogi profiadau ochr yn ochr ag eiddo; sut allwch chi elwa o'r tueddiad yma er budd ariannol i chi? Gellir creu cyfleoedd, ond sut allwn ni gymodi rhwng gofynion croes am lonyddwch a mwynhad tawel gyda'r dymuniad am well mynediad? Byddwch yn ymwybodol

Mae angen amser ac ymdrech i sicrhau seiliau cadarn ● Solid foundations take time and effort

8 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd


Horizons bod y farchnad yn gymhleth ac yn anghyson; mae pobl yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi llonyddwch; fodd bynnag, rhowch gynnig ar gynnal llety nad yw'n darparu wi-fi! Byddwch yn ymwybodol o newyddbethau technolegol. Mae Goretex wedi trawsnewid gweithgareddau tywydd gwlyb ac wedi newid natur tymor y twristiaid. Mae taliadau am reolaeth tir sy'n darparu budd cyhoeddus yn bwnc sy'n fy nigalonni. Pan gynhaliodd yr Arglwydd Haskins Ymholiad Dethol Tŷ'r Arglwyddi i Gynlluniau AmaethAmgylcheddol Ewrop rhyw 15 mlynedd yn ôl, dywedodd mai Tir Cymen a Thir Gofal oedd yr enghreifftiau gorau yn Ewrop gyfan. Bellach yr hyn sydd gennym yw Glastir. Gyda'n gilydd mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd allan o'r sefyllfa wael yma er mwyn adfywio'r economi leol. Daw hyn â ni i'r cysyniad o bartneriaeth; llwyddodd Tir Gofal oherwydd bod swyddogion project a ffermwyr wedi llunio gyda'i gilydd yr hyn oedd yn ddymunol, yn ymarferol ac yn bosibl ei wireddu. Bellach mae'n ymddangos bod cynlluniau'n cael eu cyfyngu gan bresgripsiynau mwy a mwy llym sy'n ceisio ateb yr holl bosibiliadau ond nad ydyn nhw'n gadael lle i synnwyr cyffredin, hyblygrwydd, mentergarwch na phrofiad. Rydym bellach yn ynys gyda phoblogaeth uchel a diwydiant bwyd hynod o soffistigedig. Mae angen i ni ddefnyddio'r arfau technolegol a gwyddonol gorau i fynd i'r afael â materion cymhleth – oes, hyd yn oed yn ein Parciau Cenedlaethol. Mae angen i'r disgwyliadau a roir ar y sawl sy'n gofalu am ein cefn gwlad fod yn rhesymol ac yn realistig. Efallai fy mod yn gwerthfawrogi barddoniaeth Ceiriog, ond rydw i wedi ysgrifennu ei eiriau ar gyfrifiadur yn hytrach na phluen. Yn olaf, mae 'bugeiliaid' heddiw yn grŵp amrywiol. Bydd cyfleoedd y dyfodol yn ddibynnol ar lu o ffactorau: cyfalaf, gobeithion, gallu, hunan-gred, a lwc hefyd. Chwiliwch am opsiynau; mae newid yn digwydd yn gynt ac yn gynt. Byddwch yn hyblyg ac, yn anad dim, byddwch â meddwl agored a rhowch groeso i syniadau a phobl newydd; ni all cymdeithasau caeëdig symud ymlaen. Ond, hefyd, ysbrydolwch y mwyaf disglair a'r gorau i aros a mentro. Ni fydd atyniad cymdeithasau entrepreneuraidd yn lleihau; ni allwch wrthsefyll hyn drwy godi muriau chwedlonol er mwyn gwarchod purdeb diwylliannol ac ieithyddol. Seilir y drafodaeth hon nid ar dirlun na'r amgylchedd ond ar ryngweithio cymdeithasau gyda'u hamgylchedd. Felly trysorwch eich hanes, byddwch yn falch o'ch cyraeddiadau a byddwch â'r hunan hyder i roi cynnig ar wireddu dyfodol hyfyw. Gadawaf y gair olaf i Geiriog: Ond mae'r heniaith yn y tir A'r alawon hen yn fyw.

John Lloyd -ones OBE, Llywydd yn Ymddeol Mae John yn berchennog fferm Hendy ger Tywyn, ac mae ei yrfa amrywiol a nodedig wedi cynnwys Cadeirydd Undeb Cenedlaethol Ffermwyr Cymru, Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac aelod o Bwyllgor Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Project gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn ennill gwobr arbennig Enillodd Dwylo Diwyd, ein project i wirfoddolwyr sy'n gwarchod ac yn gwella tirluniau a chynefinoedd arbennig Parc Cenedlaethol Eryri, Wobr Canmoliaeth Uchel yng Ngwobrau Gwarchod y Parciau 2018. Gweithredir y gwobrau gan Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol i gydnabod, dathlu a chefnogi projectau sy'n gwneud gwahaniaeth i Barciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr. Meddai Mary-Kate Jones, Rheolwr Project Cymdeithas Eryri:

Mary-Kate Jones gyda Caroline Quentin yng Ngwobrau Gwarchodwyr y Parciau ● MaryKate Jones with Caroline Quentin at the Park Protectors Awards

“Mae'n wych bod ein gwirfoddolwyr yn cael cydnabyddiaeth am yr holl oriau a dyddiau y maen nhw wedi eu gweithio ar dirluniau hardd Eryri. Gyda'n gilydd rydym yn trwsio llwybrau, yn mynd i'r afael â rhywogaethau estron, yn rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt a chymaint mwy. Diolch enfawr i bob un o'n partneriaid sy'n rhan o Dîm Eryri.” Cyflwynwyd y gwobrau gan yr actores Caroline Quentin, Llywydd Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol a Julian Glover, sydd ar hyn o bryd yn arwain adolygiad presennol Llywodraeth y DU o AHNE a Pharciau Cenedlaethol Lloegr. Wrth siarad yn y brecwast seneddol ym mis Hydref 2018, meddai Caroline Quentin: “Fe all Cymdeithas Eryri fod mor falch o'u gwaith ac rydw i wrth fy modd yn eu gweld yn derbyn y Wobr Canmoliaeth Uchel. Mae'r Parciau Cenedlaethol yn asedau cenedlaethol pwysig ac mae projectau megis Dwylo Diwyd yn enghreifftiau gwych o bwysigrwydd crwydro yn yr awyr agored a mwynhau'r ardaloedd hardd yma o gefn gwlad i bob un ohonom.” Noddwyd y Gwobrau Gwarchod Parciau gan Ymddiriedolaeth Elusennol Gwyliau'r Ramblers a chefnogwyd y Wobr Canmoliaeth Uchel yn hael gan Grŵp Breedon gan gynnwys siec am £500 i gefnogi ein gwaith. Yn ein tro, hoffem gydnabod cefnogaeth hanfodol ein noddwyr sy'n cynnwys ar hyn o bryd Ymddiriedolaeth Cod Post Lleol, elusen sy'n rhoi grantiau sy'n cael ei chynnal yn llwyr gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, Cronfa Partneriaeth Eryri a'r Garfield Weston Foundation. Mary-Kate Jones yw Rheolwraig Brosiect i Gymdeithas Eryri

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 9


Gorwelion

Scratching the surface for opportunities John Lloyd-Jones For Welsh-speaking primary school children of my generation in the 1950s, committing to memory John Ceiriog Hughes' poem was an obligatory part of our education: Aros mae'r mynyddau mawr Rhuo trostynt mae y gwynt

Timeless stand the mighty peaks, Great winds about them roar

Ond bugeiliaid newydd sydd Ar yr hen fynyddoedd hyn.

Now new shepherds work On these stark and ancient hills.

'Ceiriog' wrote in the 19th century, toiling as a clerk in Manchester and later as a railway official. Living a world apart from his rural childhood he was able through his poetry to distil the essence of the landscape he knew as a boy. I would like to consider the challenges and opportunities that will confront a new generation of 'shepherds' as they seek to co-exist with this 'landscape'. Let's start with those two words in inverted commas. Shepherding has taken on a far more complex and diverse meaning with myriad agendas as to what should be the dominant purpose of land management in the 21st century. As for 'landscape', is that the physical landscape which is the basis of our activities and leisure, or the policy/political landscape which seeks to realise the perceived needs of the present? Or do we mean the landscapes that we carry in our heads and hearts, based on our own individual experiences, memories, aspirations and imagination; landscapes unique to ourselves?

Fe all ffermio a chadwraeth weithredu ochr yn ochr â—? Farming and conservation can work hand in hand

After a lifetime spent working in both the practical and policy aspects of farming, what insights or advice would I give to the emerging generation of 'shepherds'? I offer these thoughts in the comforting knowledge that I will have long departed the debate before I am proved right or wrong. Firstly do not become fixated on the notion that the environment you work in is a constraint; look for the opportunities not the negatives. 'All we can do is breed sheep', has often been the refrain of my generation, conveniently forgetting that, until recently, our land had at least two main purposes, food and energy production. Oats were a dominant crop, grown not for porridge but to feed the horse, the main source of agricultural power. The demand for renewable energy in myriad forms will continue to grow; this will provide new opportunities because of a paradox; greater energy efficiency is leading to greater energy demands. Opportunities arise from scientific advancement such as novel crops and, yes, including GMO technology. Crop phenomics is the developing science of measuring plant characteristics and variability such as responses to environmental factors. Applications include new crops developed for their enhanced pharmaceutical properties when grown under challenging conditions - such as those found in many National Parks. The most important force in farm diversification during my working lifetime has been the non-farming income earned by family members, either on or outside the farm. This has gone largely unnoticed but now defines the viability of many family farms. This trend will not weaken, therefore take notice of entrepreneurial activities around you. What role do traditional skills play in all this? We have ample evidence that once a market is re-established for them, then the skills come flooding back. The use of lime mortar in the renovation and adaptation of derelict buildings is a wonderful example of this trend. Tourism; cherish the fact that National Parks are a strong and recognisable brand. Accept the fact that the tourism industry is as strong a component of the rural economy as agriculture, but like all industries it is changing and evolving. Customers seek quality and novelty. The younger generation for a variety of complex reasons now value experiences alongside that of possessions; how can you benefit from this trend for your financial benefit? Opportunities can be created, but how do we reconcile conflicting demands for tranquillity and quiet enjoyment with the desire for greater accessibility? Be aware that the market is

10 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd


Horizons complex and contradictory; people claim to value solitude, however, try running accommodation that doesn't provide wi-fi! Keep an eye on technological innovations. Goretex has transformed wet weather activities and changed the nature of the tourist season.

Snowdonia Society volunteer project scoops special award

Payment for land management that provides a public benefit is a subject that fills me with despair. When Lord Haskins conducted a House of Lords Select Inquiry into European Agri-Environment Schemes 15 or so years ago, he cited Tir Cymen and Tir Gofal as the best examples in all of Europe. Now we are stuck with Glastir. Collectively we have to find a way out of this mess in order to re-invigorate the rural economy. This brings us to the concept of partnership; Tir Gofal was successful because project officers and farmers worked out together what was desirable, practicable and deliverable. Now it appears that schemes are dominated by ever tighter prescriptions that attempt to cover all eventualities but leave no room for common sense, flexibility, innovation or experience. We are now a heavily populated island with a highly sophisticated food industry. We need to use the best technological and scientific tools to address complex issues – yes, even in our National Parks. The expectations placed on those who deliver our countryside need to be reasonable and realistic. I may value Ceiriog's poetry, but I've written down his lines using a computer rather than a quill pen. Lastly, today's 'shepherds' are a diverse group. Opportunities ahead will depend on a myriad of factors: capital, aspiration, ability, self-belief and also luck. Keep your options open; change occurs with increasing rapidity. Keep flexible and, above all, keep an open mind, embrace new ideas and new people; closed societies stagnate. But also inspire the brightest and the best to stay and innovate. The lure of urban entrepreneurial societies will not diminish; you do not counteract that by building mythical walls in order to protect a cultural and linguistic purity. This debate is based not on landscape or the environment but on the interaction of societies with their surroundings. So cherish your history, take pride in your achievements and have the self confidence to strive for a viable future. I leave the last words to Ceiriog: Ond mae'r heniaith yn y tir A'r alawon hen yn fyw. But our language is in the land Where old harmonies still endure. John LLoyd-Jones OBE, retiring president of the Snowdonia Society The owner of Hendy farm, near Tywyn, John's diverse and distinguished career has included Chair of the National Farmers Union Wales, Chair of the Countryside Council for Wales, member of the Snowdonia National Park Authority, and member of the National Trust Committee for Wales.

Julian Glover, Caroline Quentin & Mary-Kate Jones

'Helping Hands', our volunteer project, conserves and enhances the special landscapes and habitats of Snowdonia National Park and took the Highly Commended award at the 2018 Park Protector Awards. The awards are run by Campaign for National Parks to recognise, celebrate and support projects that make a difference to Welsh and English National Parks. Mary-Kate Jones, Snowdonia Society Project Manager said: “It's fantastic that all our hardworking volunteers can be recognised for the hours and days they have put into Snowdonia's beautiful landscapes. Together we are fixing footpaths, tackling invasive species, managing wildlife habitats and so much more. A big thank you goes to all our partners who make up Team Snowdonia.” The awards were presented by the actress Caroline Quentin who is President of Campaign for National Parks and by Julian Glover, who is leading the current UK Government review of AONBs and National Parks in England. Speaking at the parliamentary reception in October 2018, Caroline Quentin said: “The Snowdonia Society can be so proud of their work and I am delighted to see them receive the Highly Commended prize. The National Parks are important national assets and projects such as Helping Hands are great examples of why we should all be getting out and enjoying these beautiful areas of countryside.” The Ramblers Holidays Charitable Trust sponsored the Park Protector Awards and The Breedon Group generously supported the Highly Commended Award which included a cheque for £500 to support our work. We in turn would like to recognise the vital support of our funders which currently include Postcode Local Trust, a grant-giving charity funded entirely by players of People's Postcode Lottery, Cronfa Partneriaeth Eryri and the Garfield Weston Foundation. Mary-Kate Jones is the Project Manager for the Snowdonia Society

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 11


Gorwelion

Beth sydd ar y gorwel i Barciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr? Fiona Howie Yn 2019 cynhelir pen-blwydd Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad yn 70 oed. Y darn hon o ddeddfwriaeth a greodd y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr ac maen parhau i fod yn sail i'r Parciau heddiw. Mae llawer i'w ddathlu am y Parciau – yn unigol ac yn gasgliadol. Mae gan pob un o'r 13 Parc ei rinweddau unigryw a rhyfeddol ei hun ac mae'r cyferbyniad rhyngddyn nhw i'w weld yn amlwg mewn dau o Barciau Cymru: Eryri ac Arfordir Sir Benfro. Ond tra bod y teulu o Barciau Cenedlaethol wedi ei greu wrth ddefnyddio'r un darn o ddeddfwriaeth (heblaw'r Norfolk Broads!), o ganlyniad i ddatganoli mae'r fframweithiau polisi cyfredol a rhai'r dyfodol yn hollol ar wahân, ac yn mynd i barhau felly. Mae Ymgyrch Parciau Cenedlaethol yn parhau i weithio i sicrhau bod pob un o Barciau Cymru a Lloegr yn derbyn gwell gwarchodaeth, yn hyfrytach fyth ac yn fwy hygyrch. Mae newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a phwysau datblygiad amhriodol yn bygwth pob Parc, o Fannau Brycheiniog hyd at Rosydd Gogledd Efrog. Felly, er bod y fframweithiau polisi wedi gwahanu dros gyfnod o amser, mae sawl her sy'n parhau i gael eu rhannu. Dyfodol ansicr Thema benodol y mae pob Parc yn ei rhannu ar hyn o bryd yw ansicrwydd. Er bod y Parciau wedi eu dynodi yn unol â deddfwriaeth gwledig bydd ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd yn golygu goblygiadau enfawr i'w dyfodol. Mae 27% o Eryri wedi ei dynodi fel Ardal Cadwraeth Arbennig, sy'n golygu ei bod yn rhyngwladol bwysig ac yn derbyn gwarchodaeth arbennig yn unol â Chyfarwyddyd Cynefinoedd Ewropeaidd. Er bod datganiad wedi ei wneud bod gwarchodaeth ar safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd yn mynd i barhau, does dim cytundeb hyd yma ynglŷn â sut y byddan nhw'n cael eu llywodraethu a'u gorfodi. Fel mae erthygl John Lloyd Jones yn ei amlygu, mae polisi amaeth y dyfodol hefyd yn cael ei drafod. Bydd penderfyniadau a wneir yn 2019 ynglŷn â sut y defnyddir arian cyhoeddus i gefnogi a gwobrwyo rheolwyr tir yn golygu goblygiadau enfawr o ran sut fydd Parciau Cymru a Lloegr yn cael eu hamaethu a'u rheoli yn y dyfodol. Mae'n werth cofio, fodd bynnag, nad yw ansicrwydd yn rhywbeth newydd, yn enwedig i Barciau Cenedlaethol Cymru sydd wedi bod drwy sawl proses adolygu ac ymgynghoriadau ynglŷn â'u dyfodol dros y pum mlynedd ddiwethaf. Yn eu mysg yr oedd y posibilrwydd o bwrpasau newydd ar gyfer Parciau Cenedlaethol Cymru – cynnig, yn ôl y penderfyniad a wnaed yng ngwanwyn y llynedd, na fyddai'n cael ei ddatblygu. A lle mae Cymru'n arwain, mae hi'n ymddangos bod Lloegr yn dilyn! O safbwynt adolygiadau a thirluniau dynodedig o leiaf. Y llynedd comisiynodd llywodraeth San Steffan adolygiad yr

12 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd

Uchod: tirlun Llanbedr. Isod; ffordd arfaethedig; yn ôl y sôn, dydy hwn ddim yn ddatblygiad mawr ● Above: landscape at Llanbedr. Below; proposed new road, not treated as major development

21ain ganrif o Barciau ac AHNE Lloegr. Lansiwyd hwn ym mis Mai y llynedd a disgwylir adroddiad yr hydref hwn. Mae telerau cyfeirnod yr adolygiad yn datgan: Amcan yr adolygiad yw peidio â chyfyngu ar gymeriad neu annibyniaeth ein tirluniau dynodedig, na gorfodi beichiau newydd arnyn nhw a'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd o fewn eu ffiniau. Yn hytrach, ei bwrpas yw gofyn beth ellir ei wneud yn well, pa newidiadau fyddai'n gallu eu cynorthwyo, ac a yw diffiniadau a systemau – sydd mewn llawer achos yn dyddio'n ôl i'w creadigaeth gwreiddiol – yn dal yn ddigonol. Mae llawer o ddiddordeb y cyfryngau yn yr adolygiad yn ymwneud â'r potensial ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd. Ond bydd yr adolygiad yn cyrraedd llawer ymhellach na hynny. Er nad ydym yn disgwyl i'r adolygiad Seisnig o anghenraid ddefnyddio iaith y Gymraeg, 'rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol', rydym yn disgwyl yn fras i'r argymhellion nodi sut i wella gwytnwch yr amgylchedd lleol a'r cymunedau sy'n byw ynddo, yn ogystal â sut y gellir gwella eu llywodraethu unigol a chasgliadol. A oes angen i'r Parciau esblygu ac ymrannu ymhellach i ateb disgwyliadau sy'n newid? Mae angen penderfynu ar lefel leol sut y gellir ac y dylid gwella pob un o'r 13 Parc Cenedlaethol unigol, neu sut all pob Parc ddangos eu bod yn enghraifft dda o reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol neu o gadwraeth ar raddfa'r tirlun. A bydd rhaid datblygu'r dull hwn o weithredu gyda phartneriaid, tirfeddianwyr a chymunedau lleol. Mae'n sicr bod cyfle i wella pob un ohonyn nhw i sicrhau eu bod hyd yn oed yn fwy arbennig. Ond mae angen hefyd i ni adnabod a chofio bod barn a theimlad pobl am y Parciau yn bwysig. Credaf, i lawer, yn enwedig y sawl sy'n ymweld â Pharc ond nid yn byw mewn


Horizons Parc, bod cysylltiad emosiynol gyda Pharciau Cenedlaethol a chred sylfaenol eu bod yn beth da heb o anghenraid fod yn berchen ar ddealltwriaeth manwl o amodau, pwysau a chyfleoedd cyfredol o fewn eu ffiniau.

Gwneud Gwahaniaeth

Yn aml hefyd ceir trafodaeth ynglŷn ag angen y Parciau i esblygu i ateb disgwyliadau, anghenion neu gofynion cenedlaethau cyfredol a chenedlaethau'r dyfodol – yn enwedig mewn perthynas â'r ail bwrpas a sut mae hamdden wedi newid dros y 70 mlynedd ers i'r Parciau gael eu creu. Rydym yn gweld y ddadl hon yn cael ei gwyntyllu ar adegau o ganlyniad i geisiadau cynllunio - un enghraifft amlwg oedd y sip wifrau a gynigiwyd y llynedd yn Ardal y Llynnoedd. Dadl datblygwyr yw mai dyma sydd ei angen ar bobl y dyddiau yma tra bod eraill yn dadlau nad ydyn nhw'n briodol ac mai nid ar gyfer pethau fel hyn y sefydlwyd y Parciau. Yn ôl yn 2016, fel rhan o ben-blwydd Ymgyrch Parciau Cenedlaethol yn 80, rhoesom arolwg arlein ar y gweill o'r enw Cadwraeth Mawr am y Parciau. Roeddem am wybod gan bobl beth oedden nhw'n ei hoffi am y Parciau a beth, os oedd rhywbeth o gwbl, fyddai'n eu gwneud hyd yn oed yn well. Cawsom bron i 10,000 o ymatebion ac roedd y themâu cryfaf o safbwynt gwella'r Parciau yn ymwneud â gwell cadwraeth natur a theimlo'n fwy 'gwyllt'. Mae'r hyn y mae'r olaf o'r rhain yn ei olygu'n ymarferol yn ddiddorol, wrth gwrs, ond byddwn yn dadlau ei fod yn sicr yn golygu y dyliem wrthwynebu mwy o ddatblygiad 'atyniadau', oherwydd mae datblygiad yn cynyddu ymyrraeth ac yn ei dro'n gwneud i leoedd deimlo'n llai 'gwyllt'. Yn ystod fy mhedair blynedd yn y swydd rydw i'n sicr wedi gweld mwy o bwyslais ar wella bioamrywiaeth yn hytrach na sicrhau'n unig bod y Parciau yn weledol hardd. Yn yr adolygiad cyfredol o dirluniau dynodedig yn Lloegr, yn seiliedig ar drafodaethau cychwynnol gyda'r cadeirydd annibynnol, Julian Glover, rhoir pwyslais mawr ar wella bioamrywiaeth. Wedi cyhoeddi adroddiad am fyd natur yn y Parciau Cenedlaethol yn 2018 mae'r pwyslais yma'n iawn gennym ni, ond ni ddylai fod yn bwysicach na'r rhinweddau eraill sy'n gwneud y Parciau'n arbennig. Ond nid yw'r pwyslais hwn yn wahaniaeth arwyddocaol rhwng Lloegr a Chymru. Er nad oedd adolygiad Marsden wedi canolbwyntio arno, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth iddo gyda datganiad Hannah Blythyn ym mis Mawrth y llynedd a Gwerthfawr a Chydnerth: Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2018. Mae cyflwr gwael bioamrywiaeth yn Eryri a'r angen i fynd i'r afael ag o hefyd yn cael blaenoriaeth yn y ddogfen ymgynghori, Cynllun Eryri. Yn drist iawn, dydy rhai o'r Parciau yn Lloegr ddim mor awyddus i gydnabod bod problem yn bodoli! Yn sicr, mae fframweithiau polisi Parciau Cymru a Lloegr wedi ymrannu dros y 70 mlynedd ers iddyn nhw gael eu creu. Os yw pwrpasau, amcanion a gobeithion yr un fath yn fras ym Mharciau Cenedlaethol pob gwlad, ein gobaith, fodd bynnag, ydy y gallwn barhau i werthfawrogi a dathlu'r hyn sy'n unigryw ym mhob Parc, tra hefyd yn ceisio gwella'r teulu cyfan o dirluniau dynodedig. Fiona Howie Prif Weithredwr Ymgyrch Parciau Cenedlaethol hyd mis Ionawr 2019.

Gwirfoddolwyr ar Lyn

Padarn • Volunteers

on Llyn Padarn

Daeth 95 o wirfoddolwyr a chefnogwyr i herio'r rhybuddion tywydd ym mis Medi 2017 ar ail benwythnos Gwneud Gwahanieath, Mentro a Dathlu (MaD) Cymdeithas Eryri yng Nghraflwyn ger Beddgelert. Wedi ei drefnu mewn partneriaeth â llu o local organisations and businesses (cyrff a busnesau lleol) cynhaliwyd 11 o weithgareddau ar gyfer gwirfoddolwyr ledled Eryri dros y tri diwrnod, gyda chanlyniadau gwych i Eryri. • Casglwyd saith sachaid o sbwriel anodd cael gafael arno gan ganŵ ar Lyn Padarn • Adeiladwyd 12 o flychau adar i helpu i warchod y gwybedog brith sydd mewn perygl • Casglwyd dros 100kg o sbwriel plastig oddi ar draeth y Greigddu • Trwsiwyd dros 1¾ milltir o lwybrau ar stad Craflwyn • Casglwyd cannoedd o hadau coed a'u prosesu ar gyfer Project Long Forest • Cynhaliwyd gwaith adfer mawnogydd ar safle 30 hectar ger Beddgelert • Casglwyd 10 bag o sbwriel o'r Wyddfa • Dadwreiddiwyd eginblanhigion Rhododendron mewn 4000 metr sgwâr o gynefin coedlan • Cliriwyd rhyw 200 o goed helyg oddi ar laswelltir twyni pwysig Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold: “Penwythnos Gwneud Gwahaniaeth (MaD) yw'r unig ddigwyddiad o'i fath yma yn Eryri, ac mae gwirfoddolwyr yn teithio o bob cwr o'r wlad i wneud gwahaniaeth yn y Parc Cenedlaethol, Rydym yn falch iawn o weld be all grŵp o unigolion o'r un anian ei gwblhau mewn un penwythnos, gyda chanlyniadau gwych i Eryri.” Bydd penwythnos Mentro a Dathlu (MaD) yn digwydd eto ar 13/09/2019. Cysylltwch â Claire am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb: claire@snowdonia-society.org.uk

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 13


Gorwelion

What's on the horizon for the English and Welsh National Parks? Fiona Howie 2019 is the 70th anniversary of the National Parks and Access to the Countryside Act. This piece of legislation created the National Parks in both Wales and England and continues to underpin them today. There is much to celebrate about the Parks – both individually and collectively. Each of the 13 Parks has its own unique and wonderful characteristics and none of them illustrate the contrasts more obviously, perhaps, than two of the Welsh Parks: Snowdonia and the Pembrokeshire Coast. But, while the family of National Parks were created using the same piece of legislation (other than the Norfolk Broads!), devolution has meant that the current and future policy frameworks for the Parks are, and will continue to be, quite separate. The Campaign for National Parks works to make all of the Welsh and English Parks better protected, even more beautiful and more accessible. Climate change, biodiversity loss and pressure from inappropriate development threaten Parks from the Brecon Beacons to the North York Moors. So, while the policy frameworks may have diverged over time, there remain many shared challenges. Uncertain futures A particular shared theme for all of the Parks at the moment is uncertainty. While the Parks are designated under domestic legislation our exit from the European Union will have major implications for their future. 27 per cent of Snowdonia is designated as a Special Area of Conservation, meaning it is internationally important and receives special protection under the European Habitats Directive. While it has been stated that the protections for European protected sites will be maintained, how they will be governed and enforced is yet to be agreed. As John Lloyd Jones's piece highlights , future agricultural policy is also being discussed. Decisions in 2019 about how public money

is used to support and reward land managers will have major implications for how both the Welsh and English Parks are farmed and managed in the future. It is worth remembering, however, that uncertainty is not new, especially for the Welsh National Parks that have been through several review processes and consultations about their future over the last five years. They included the possibility of new purposes for the Welsh National Parks – a proposal which, it was concluded in spring of last year, would not be progressed. And where Wales leads, England apparently seems to follow! In relation to reviews and designated landscapes at least. Last year the Westminster government commissioned a 21st century review of the English National Parks and AONBs. This launched in May of last year and is due to report this autumn. The terms of reference for the review state: The review aims not to diminish the character or independence of our designated landscapes, or to impose new burdens on them and the people who live and work in the areas they cover. Instead, its purpose is to ask what might be done better, what changes could assist them, and whether definitions and systems - which in many cases date back to their original creation - are still sufficient. Much of the media interest in the review has been around the potential for a new National Park. But the review will be much further reaching than that. While we do not expect the English review to necessarily use the language of the Welsh 'sustainable management of natural resources', we broadly expect the recommendations to set out how to enhance the resilience of the natural environment and communities living within it, as well as how their individual and collective governance could be improved.

Mae gwirfoddoli yn dod â phobl ynghyd • Volunteering brings people together

Do the Parks need to evolve and diverge further to meet changing expectations? How each of the 13 individual National Parks can and should be enhanced, or how each Park can demonstrate they are an exemplar of the sustainable management of natural resources or of landscape scale conservation, needs to be determined at the local level. And that approach will have to be developed with local partners, landowners and communities. There is certainly scope to enhance all of them to make them even more special. But we also need to recognise and remember that how people think and/or feel about the

14 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd


Horizons Parks is important. I think that for many, especially those who visit but don't live in a Park, there is an emotional connection with National Parks and a belief that they are fundamentally a good thing without necessarily having a detailed understanding of current conditions, pressures and opportunities within them.

Make a Difference

There is also often discussion about whether the Parks need to evolve to meet the expectations, needs or wants of current and future generations – especially in relation to the second purpose and how recreation has changed over the 70 years since the Parks were created. We see this debate play out at times due to planning applications, the zip wires proposed in the Lake District last year being one obvious example. Developers argue that they are what people want these days while others argue that they are not appropriate or what the Parks are for. Back in 2016, as part of the 80th anniversary of Campaign for National Parks, we ran an online survey which we badged as a Big Conversation about the Parks. We wanted to know from people what they loved about the Parks and what, if anything, might make them even better. We got nearly 10,000 responses and the strongest themes in terms of improving the Parks were around better nature conservation and feeling 'wilder'. What the latter means in practice is, of course, interesting but I would argue it certainly means we should resist more development of 'attractions', because development increases intrusion and in turn makes places feel even less 'wild'. During my four years in post I have certainly seen a greater emphasis in policy discussions on enhancing biodiversity rather than simply ensuring that the Parks are visually beautiful. In the current review of designated landscapes in England, based on initial discussions with the independent chair, Julian Glover, enhancing biodiversity will be a big focus. Having published a report about nature in the National Parks in 2018 this focus is fine by us, but it must not be at the expense of the other qualities that make the Parks special. But this emphasis is not a significant difference between England and Wales. While the Marsden review may not have focused on it, Welsh Government has prioritised it with Hannah Blythyn's statement in March last year and Valued and Resilient: the Welsh Government's priorities for Areas of Outstanding Natural Beauty and National Parks, which was published by Welsh Government in July 2018. The poor condition of biodiversity within Snowdonia and the need to address that was also explicit in the Cynllun Eryri consultation document. Sadly some of the English Parks are not quite so keen to recognise there is a problem! The policy frameworks for the Parks in England and Wales have certainly diverged over the 70 years since they were created. If the purposes, aims and aspirations are broadly the same for the National Parks in each country, however, hopefully we can continue to value and celebrate the uniqueness of each Park, while also seeking to enhance the entire designated landscapes family. Fiona Howie Chief Executive of Campaign for National Parks until January 2019.

Mynd i’r afael â’r Rhododendron

• Taking out another Rhododendron

95 volunteers and supporters braved the weather warnings in September 2017 for the Snowdonia Society's second Make a Difference (MaD) volunteer weekend at Craflwyn near Beddgelert. Organised in partnership with a host of local organisations and businesses, there were 11 volunteer activities spread out across Snowdonia over the three days, with amazing outcomes for Snowdonia: • Seven sacks of hard-to-reach litter were gathered by canoe from Llyn Padarn • 12 bird boxes were built to help protect the endangered pied flycatcher • Over 100kg of plastic debris was removed from Graigddu ('black rock') beach • Work was completed on over 1¾ miles of footpaths on the Craflwyn estate • Hundreds of tree seeds were collected and processed for the Long Forest Project • Peatland restoration took place on a 30 hectare site near Beddgelert • 10 bags of litter were collected from Yr Wyddfa/Snowdon • Rhododendron saplings were uprooted in 4000 square metres of woodland habitat • Some 200 willows were removed from precious dune grassland. Snowdonia Society Director John Harold said: “The MaD Weekend is the only event of its kind here in Snowdonia, with volunteers travelling from all over to make a difference in the National Park. We're delighted to see what a group of like-minded individuals can achieve in just a weekend, with amazing outcomes for Snowdonia”. The MaD Weekend will take place again 13/09/2019. Contact Claire for more information and to register your interest: claire@snowdonia-society.org.uk

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 15


Gorwelion

Mynydd i'w ddringo James Robertson

Conifferau anfrodorol yn hadu eu hunain ar rostiroedd • Non-native conifers self-seed into heathland

Rhed Llwybr Llechi Eryri am 85 milltir o Borth Penrhyn drwy Fethesda, ar draws i Lanberis yna mewn hanner cylch sy'n cynnwys Croesor a Llan Ffestiniog cyn anelu'n ôl am Fethesda drwy Fetws-y-coed. Partneriaeth leol sydd wedi cynllunio'r llwybr mentrus hwn, ac mewn gwahanol leoliadau ar hyd y daith fe all defnyddwyr dderbyn stamp ar eu pasport i ddangos eu bod wedi cwblhau pob cam. Wedi ennill wyth stamp fe gewch fedal goffaol. Wedi cyrraedd y bryniau, lle mae tinc morthwyl ar lechen wedi hen ddistewi a lle na chlywir ond atgof lleisiau yn yr awel, mae'n bosibl synhwyro rhyfeddod byd natur a diwylliant. Mae archeoleg ddiwydiannol yn derm oeraidd am fywydau pobl ers talwm, ond mae ei phresenoldeb yn amhosibl i'w hanwybyddu. Mae ambell un o'r llu o gapeli ar hyd y llwybr wedi ei newid yn gaffi croesawgar. Mae'r gorffennol wedi trosglwyddo tirlun sy'n llawn o gyfoeth i ni ar gyfer y dyfodol.

da byw. Ymysg y rhain roedd ceffylau a merlod, tarw a gwartheg, bustych a lloi, hwch a moch, a dofednod, yn cynnwys hwyaid. Roedd yn rhaid i'r fferm fod yn hunan-gynhaliol, ond roedd rhaid iddi hefyd gydweithredu gyda chymdogion. Ar adeg y cynhaeaf, arferai deuddeg fferm ddod ynghyd i logi peiriant dyrnu, ac roedd pob fferm yn darparu dyn i ddilyn y peiriant dyrnu, a cheffylau i'w lusgo o fferm i fferm.

Roedd ennill bywoliaeth o'r bryniau yn anodd, ond yno, yn y mannau anghysbell a llonydd, gyda'u byd natur, mae'r dreftadaeth ddiwylliannol yn amlwg. Ewch drwy gymuned Mynydd Llandygai a'i thyddynnod bach a lleiniau cul o dir o fewn crawiau llechi a ddarparwyd gan berchnogion y chwarel i gadw'r gweithwyr yn fyw yn ystod cyfnodau o segurdod yn y chwarel, a byddwch hefyd yn mynd heibio dolydd hyfryd sy'n llawn o flodau gwyllt yn ystod yr haf. Cerddwch ar draws y waun gerllaw, sy'n llawn o lafn y bladur un ai yn ei flodau euraidd neu gyda'i ffrwythau oren, y mawn gwlyb yn sugno eich sodlau, a byddwch yn dilyn y llwybrau yr arferai chwarelwyr eu troedio a lle buon nhw'n gosod pontydd o gerrig trymion i groesi nentydd a ffosydd.

Efallai y daw'r hen ddoethinebau a lywiodd fywyd ar ffermydd cymysg fel hyn, yn cynnwys hunan-ddibyniaeth a chydweithrediad, yn ôl unwaith eto, i fodoli ar y cyd â newyddbethau technolegol. Yn oes y rhyngrwyd, fe all cynhyrchwyr a defnyddwyr greu mannau marchnata newydd sy'n gwobrwyo ansawdd a stori synhwyrol o'r giât i'r plât. Efallai y dylai Hybu Cig Cymru neu asiantaethau eraill fod yn helpu i hyrwyddo gwir ansawdd, yn cynnwys bridiau cynhenid, a gynhyrchir yn lleol, a bwyd organig a dulliau eang o gynhyrchu da byw. Byddai meithrin cwsmeriaid gwerthfawrogol, yn hytrach na cheisio gwerthu cig coch fel nwyddau i gwsmeriaid sy'n fwyfwy amheus, yn cynyddu enw da ffermio a chymwysterau cadwyn fwyd iach a pharchus.

Mae'r hyn a etifeddwn o'r gorffennol yn goleuo ein dyfodol. Gyda chynllunio gofalus, daw'r dreftadaeth naturiol a diwylliannol yn ffynonellau o gryn ddiddordeb i ymwelwyr ac incwm i gymunedau. Mae Chwarel y Penrhyn yn dal ar waith, wrth gwrs, ac felly hefyd y cymunedau y mae eu gwreiddiau yn mynd yn ôl i'r cyfnod pan roedd llechi yn holl bwysig. Yn wir, mae'r tirlun hwn a sicrhaodd do ar gyfer llawer o'r byd yn y 19eg ganrif wedi ei enwebu ar gyfer statws safle Treftadaeth y Byd Unesco. Dylai'r un egwyddor o werthfawrogi rhodd y gorffennol fod yn berthnasol i'r diwydiant hanfodol arall hwnnw sy'n llunio'r tirlun hyd yn oed yn fwy na chloddio am lechi: ffermio.

Mae Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd (PNH) wedi galw am bolisi defnydd tir newydd radical sy'n annog storio carbon, adfer mawnogydd ac ymarferion ffermio carbon isel. Mae llawer o'r gwaith hwn wedi ei ddatganoli ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar gynigion sylfaenol tebyg ar gyfer Rhaglen Rheolaeth Tir newydd i Gymru. Mae'r diwydiant cig o dan bwysau o du'r sawl sy'n dadlau bod cynhyrchu cig yn cyfrannu'n anghyfartal i ollyngiadau o nwyon tŷ gwydr ac yn arwain at ddiet gwael sy'n cynnwys llawer o gig: awgrymwyd treth cig. Yng nghanol hyn, mae ffermwyr defaid yr ucheldir yn wynebu'r posibilrwydd o ddiflaniad marchnad allforio ar gyfer eu cynnyrch.

Ganrif yn ôl disgrifiodd ffermwr yn Llanllechid ei fywyd ar fferm stad fechan. Hyd yn oed bryd hynny, defaid oedd y prif ffynhonnell o incwm. Ond, fel ei gymdogion, fferm gymysg oedd ganddo. Tyfid llysiau ar gyfer y gegin, a grawn, yn cynnwys ceirch, ar gyfer

Mae cadwraeth yr ucheldir yn dibynnu'n fwy na dim ar gynnal cymuned ffermio sympathetig yn y bryniau, sy'n gallu darparu ystod eang o nwyddau cyhoeddus, yn cynnwys amgylchedd iach, a chynhyrchu bwyd da. Rydw i'n gwybod am ffermwyr yr ucheldir

16 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd


Horizons

Golwg ar Ymddiriedolwr - Julian Pitt sy'n cyfuno medrau ymarferol trawiadol gyda chariad mawr am y tir ac athroniaeth y byddwn yn ei disgrifio fel un holistaidd. Mae angen ein hanogaeth a'n help arnyn nhw. Heb gytundeb newydd a mwy o gefnogaeth ar y cyd rhwng defnyddwyr cefn gwlad a ffermwyr, fe welwn fwy o effeithiau negyddol ffermio wrth i bwysau economaidd ddod yn fwyfwy amlwg. Bydd ffermydd aneconomaidd yn dod o dan bwysau i werthu eu tir i fuddiannau coedwigaeth: mae PNH yn ystyried y bydd angen treblu plannu coed i 27,000ha y flwyddyn erbyn 2030, ac y dylid tyfu cnydau ynni ar dir o ansawdd isel. Mae ochr dywyll i'r ddwy ddyhead yma. Byddai'r plannu, a fyddai'n cael ei hybu gan lobi coedwigaeth hunanlesol, yn bennaf ar draul gwelltir a phori garw, gan ddinistrio un storfa garbon er mwyn creu un arall. Er yr hoffwn weld rhywfaint o dir yn cael ei droi'n goedlan naturiol, mae plannu coed yn fagl ac yn rhithiol: ar y lefel lai mae ei fuddion er cadwraeth wedi eu gorbwysleisio ac ar lefel fasnachol mae ei undonedd yn creithio'r tirlun; a lle mae'n cynnwys conifferau anfrodorol mae'n asideiddio afonydd a llynnoedd ac yn niweidio bioamrywiaeth brodorol. Yn y gorffennol mae wedi dinistrio ffermydd ac o gael cyfle mi ddigwyddith hyn eto. Fe all cnydau ynni gymryd mwy o egni i'w tyfu nag a geir o'r cynhaeaf ei hun. Mae rhywbeth mawr o'i le gyda thargedau'r DU o 1.5 miliwn hectar o goedlannau newydd ac 1.2 miliwn ha o gnydau bioynni. Mae angen i ffermio a chadwraeth gydweithio i warchod rhag bygythiadau o'r fath. Yr haf diwethaf cyhoeddodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd ei blaenoriaethau ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. A ellir sicrhau'r blaenoriaethau yma heb mwy o adnoddau ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol? A yw'r blaenoriaethau i ymgyrraedd â nhw'n briodol i bawb? A fydd colledion mewn bioamrywiaeth yn dod i ben? A fydd cefnogaeth ariannol ar gael i alluogi rhai ardaloedd i newid er budd cynefinoedd megis dolydd llawn blodau gwyllt, rhostir, coed a phrysgwydd, craig noeth a chlytwaith o wlyptir a dŵr agored – yn fyr, sy'n cynnwys mwy o fywyd gwyllt ac yn cynnig mwy o antur? Rydw i'n ôl yn cerdded y llwybr llechi. Rydw i'n agosáu at gasgliad o adeiladau fferm. Mae cynffonnau o blastig du yn ymddangos o bentwr o silwair pydredig ac yn chwifio'n y gwynt ac eraill yn sownd wrth ffens weiren bigog gerllaw. Yn un o'r ffosydd mae carcas anifail ac o gwmpas giât, sy'n fynediad i'r llwybr, mae cadwyn drom. Dringaf dros y giât a pharhau â'r daith, wedi fy siomi braidd. Mae pob un ohonom wedi cael profiadau fel hyn. Fe ddylen nhw ddod yn fwy prin, cyn belled â bod ffermwyr a'r gymuned ehangach yn gallu dod ynghyd i gefnogi'r polisi amaethyddiaeth goleuedig wedi Brexit, sy'n cyfeirio arian cyhoeddus tuag at ddarparu nwyddau cyhoeddus a diwydiant ffermio gwydn, y mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi bod yn eu hybu. Mae ffermio'n wynebu cyfnod o newid mawr: dylai fod yn bosibl peri'r newid hwn er budd pawb. Dyma'n union be ddylai Eryri a Pharciau Cenedlaethol ei gyflawni. Mae James Robertson yn awdur amgylcheddol ac yn rheolwr tir. Helpodd i sefydlu a golygu'r cyfnodolyn Natur Cymru yn 2001 nes iddo ddod i ben yn 2017.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri'n llawn o atgofion gwerthfawriI mi a'm teulu. Dringais Gader Idris am y tro cyntaf pan o'n i'n 8 oed ac rydw i wedi ymweld â'r Parc bron bob blwyddyn ers hynny. Rydw i wedi bod yn dyst i newidiadau yn y Parc dros y degawdau, weithiau er gwaeth ond er gwell ar adegau eraill, ac rydw i'n ceisio bod yn obeithiol. Wedi i mi roi'r gorau i fod yn gyflogedig yn 2016 a symud i ardal Conwy gyda'm gwraig Kay, roeddwn am wneud gwaith gwirfoddol, felly roedd ymaelodi â'r Gymdeithas yn gam amlwg. Mae dod yn ymddiriedolwr i elusen am y tro cyntaf wedi golygu dysgu llawer mewn cyfnod byr, ond yn gyfnod difyr serch hynny – gallaf ei argymell. Rydw i'n arbennig o falch o allu gweithredu ar Is-bwyllgor Polisi'r Gymdeithas oherwydd y profiadau a gefais yn fy ngyrfa mewn dau broffesiwn. Wedi graddio mewn coedwigaeth ym Mangor gweithiais am 15 mlynedd mewn rheolaeth coedlannau, yn gyntaf i'r Comisiwn Coedwigaeth ac yna i Gyngor Hertfordshire. Tra yno, cymhwysais i newid i gynllunio a gweithiais ar gynlluniau datblygu a strategaethau rhanbarthol cyn ymuno â'r Gwasanaeth Sifil. Yno, roeddwn yn cyfrannu at adolygiad o bolisi cenedlaethol a chefais gyfnod hir o gynghori gweinidogion ar geisiadau cynllunio dadleuol. Hoffwn ddefnyddio fy mhrofiad i geisio sicrhau bod datblygiad yn y Parc yn osgoi niwed amgylcheddol a chyfrannu'n bositif lle bynnag bod hynny'n bosibl er mwyn gwarchod rhinweddau arbennig yr ardal. Fel ymddiriedolwr, mae hen ddigon i fy nghadw'n hynod o brysur!

Trustee spotlight - Julian Pitt The Snowdonia National Park is full of treasured memories for me and my family. I first climbed Cadair Idris when I was 8 and have visited the Park just about every year since then. I've witnessed how much it has changed over the decades, in some ways for worse but in others for the better and I try to be optimistic. After I stopped paid employment in 2016 and moved to near Conwy with my wife Kay, I wanted to do some voluntary work, so joining the Society was an obvious step. Becoming a charity trustee for the first time has been a steep learning curve, but an enjoyable one - I can recommend it. I'm particularly pleased to serve on the Society's Policy SubCommittee because of my experience, having had a career spanning two professions. After graduating in forestry at Bangor I worked for 15 years in woodland management, first for the Forestry Commission and then for Hertfordshire County Council. While there I qualified to switch to planning and worked on development plans and regional strategies before joining the Civil Service. There I was a cog in the machinery of a national policy review and had a long stint advising ministers on controversial planning applications. I want to use my experience to try to ensure that development in the Park avoids environmental harm and wherever possible makes a positive contribution to conserving the area's special qualities. As a trustee I feel more 're-tyred' than retired!

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 17


Gorwelion

A mountain to climb James Robertson The Snowdonia Slate Trail winds for 85 miles from Port Penrhyn through Bethesda, across to Llanberis then out in an arc which takes in Croesor and Llan Ffestiniog before heading back to Bethesda via Betws-y-coed. A local partnership has put this wonderfully enterprising route together, and at various venues along the way users can have their passports stamped to show that they have completed each stage. Eight stamps win you a commemorative medal. Once into the hills, where the ring of metal on slate is silent and stilled voices echo, it is impossible not to be awed by both nature and culture. Industrial archaeology is a cold term for the past lives of people, but its presence is impossible to ignore. Some of the many chapels along the route have become welcoming cafes. The past has handed a landscape embroidered with riches to the future. Livings were hard won from the hills, but it is those hills, their remoteness and peace, and their natural life, which make the cultural heritage sparkle. Pass through Mynydd Llandegai's community of smallholdings, whose slate-fenced narrow plots were provided by the quarry owners to keep the workers alive during periods of quarry inactivity, and you also pass some stunning meadows filled with wild flowers in high summer. Walk across the nearby moor, festooned with bog asphodel, in golden star-spangled flower or orange fruit, wet peat sucking at boots, and you will be following the paths where quarrymen trod and built heavy slab bridges to cross runnels and streams. What we inherit from the past gilds the future. With careful planning, the natural and cultural heritage become sources of great interest to visitors and income for communities. Penrhyn Quarry is still active, of course, and so are the communities whose origins go back to the time when slate was king. Indeed this landscape which roofed so much of the 19th century world has been nominated for Unesco World Heritage Site status. The same principle about valuing the legacy of the past should apply to that other vital industry which shapes the landscape more even than quarrying: farming. A century ago a farmer in Llanllechid described life on his small estate farm. Even then, sheep were the main source of income. But like his neighbours, his was a mixed farm. Vegetables were grown for the kitchen, and grain, including oats, for livestock. These included horses and ponies, a bull and cows, bullocks and calves, a sow and pigs, and poultry, including ducks. The farm had to be self-sufficient, but it also had to cooperate with neighbours. At harvest time, twelve farms banded together to hire a threshing machine, and each provided a man to follow the thresher, and horses to take it between farms. The old wisdoms which informed life on mixed farms like this, including self-reliance and cooperation, may come full circle, to sit alongside technological advances. In the age of the internet, producers and consumers can create new market places which reward quality and a coherent story from gate to plate. Perhaps Hybu Cig Cymru or other agencies should be helping to promote genuine quality, including native breeds, locally produced and

18 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd

organic food and extensive methods of livestock production. Nurturing appreciative customers, rather than trying to sell red meat as a commodity to increasingly distrustful ones, would burnish the standing of farming and the credentials of a healthy, respectful food chain. The UK Committee on Climate Change (CCC) has called for a radical new land use policy which encourages carbon storage, the restoration of peatlands and low-carbon farming practices. Much of this work is devolved and Welsh Government has consulted on similarly radical proposals for a new Land Management Programme for Wales. The meat industry is under pressure from those who argue that meat production contributes disproportionately to the release of greenhouse gases and leads to unhealthy meat-heavy diets: a meat tax has been suggested. In the middle of this, upland sheep farmers face the prospect of a disappearing export market for their products. Upland conservation depends above all on keeping a sympathetic farming community in the hills, able to deliver a wide range of public goods, including a healthy environment, and to produce good food. I know upland farmers who combine impressive practical skills with a great love of the land and a philosophy which Mesur dyfnder mawn ger Rhyd-ddu • Measuring peat depth near Rhyd-ddu


Horizons

Capiau eco-gyfeillgar Cymdeithas Eryri I would describe as holistic. They need our encouragement and help. Without a new contract and greater mutual support between countryside user and farmer, we will see more negative impacts from farming as economic pressures bite deeper.

Mae'r Gymdeithas a gwaith ein gwirfoddolwyr yn haeddu cydnabyddiaeth. Felly, rydym wedi cynhyrchu'r capiau yma i'w gwisgo gyda balchder. Maen nhw'n datgan ein hunaniaeth, ond hefyd yn helpu'r amgylchedd, gan eu bod wedi eu cynhyrchu o PET 100% ailgylchedig o boteli diod plastig tafladwy.

Uneconomic farms will come under pressure to sell out to forestry interests: CCC considers that tree-planting will need to more than triple to 27,000ha per year by 2030, and energy crops should be grown on low-quality land. Both these aspirations have a dark side. The planting, urged on by a powerful self-serving forestry lobby, would mainly be at the expense of grassland and rough grazing, destroying one carbon sink in order to create another. While I would like to see some land falling to natural woodland, tree planting is a snare and a delusion: at the smaller scale its conservation benefits have been overstated and at a commercial scale its uniformity scars the landscape; and where it involves non-native conifers it acidifies rivers and lakes and harms native biodiversity. In the past it has wiped farms off the map and given the chance it could do so again. Energy crops can end up taking more energy to grow than they yield. The UK targets of 1.5 million ha of new woodland and 1.2 million ha of bioenergy crops are deeply flawed. Farming and conservation need to work together to head off such threats.

Pan fyddwn yn casglu sbwriel mae gwirfoddolwyr yn gwybod yn iawn faint o blastig sydd yna. Mae cap wedi ei greu o boteli plastig yn gam i'r cyfeiriad iawn. Er nad yw ailgylchu'n berffaith, mae cynnyrch ailgylchedig o ansawdd da yn gosod gwerth ar glirio gwastraff o'r amgylchedd.

Last summer Environment Minister Hannah Blythyn published her priorities for National Parks and Areas of Outstanding Natural Beauty. Can these priorities be achieved without greater resources for National Parks and National Park Authorities? Are the priorities mutually compatible? Will biodiversity loss be halted? Will financial support be available to allow some areas to shift in favour of habitats such as flower-rich meadows, heathland, trees and scrub, bare rock and a mosaic of wetlands and open water – in short, containing more wildlife and offering more adventure? I am back walking the slate trail. I approach a collection of ugly farm buildings. Streamers of black plastic emerge from a pile of rotting silage and wave in the wind, tattered fragments clinging to a nearby barbed wire fence. A carcass lies in a ditch, and a gate, access to the footpath, has a heavy chain around it. I climb over and continue the walk, slightly disconcerted. We have all had experiences like this. They should become rarer, as long as farmers and the wider community can come together to support the enlightened post-Brexit agricultural policy, directing public money towards the delivery of public goods and a resilient farming industry, which Rural Affairs Minister Lesley Griffiths has been championing. Farming is facing a period of great change: it should be possible to effect this change for the benefit of all. This is exactly what Snowdonia and other National Parks should be all about. James Robertson is an environmental author and land manager. He helped to establish and edit the journal Natur Cymru - Nature of Wales in 2001 until it ceased publication in 2017.

Ar du blaen y capiau mae ein logo ac ar y cefn mae enw'r Gymdeithas: fe'u cynhyrchir yn y lliwiau canlynol: Carreg, Mwsogl (Gwyrdd), Eithin (Aur), Llyn (Glas Tywyll), Golosg (Du). Fe'u profwyd gan dîm Cymdeithas Eryri dros dri diwrnod chwilboeth Her Eryri 2018. Eu barn? - mae'r capiau yn sicrhau nad ydy'ch pen yn gor-boethi ac maen nhw'n gyfforddus. Fe allwch chi gefnogi'r Gymdeithas, clirio 5 potel blastig gwastraff o'r amgylchedd, edrych yn dda a chadw'ch pen rhag gor-boethi, wrth brynu cap Cymdeithas Eryri i chi'ch hun, eich ffrindiau neu'r teulu. Wnewch chi hynny? Gellir prynu capiau ar-lein: www.snowdonia-society.org.uk/product/snowdonia-society-caps/ Diolch arbennig i Charles Hawkins, ein Is-gadeirydd am fwrw ymlaen â hyn.

Snowdonia Society eco-friendly caps The Society and the work of our volunteers both deserve recognition. So we have produced these caps to be worn with pride. They proclaim our identity, but also help the environment, being made of 100% recycled PET from disposable plastic drinks bottles. Volunteers on our litter picks know only too well how much plastic is out there. A cap made from recycled plastic bottles is a step in the right direction. Whilst recycling is not perfect, high-quality recycled products do put a value on removing waste from the environment. The caps have our logo on the front and the Society's name on the back and come in these colours: Stone, Moss (Green), Gorse (Gold), Llyn (Dark Blue), Charcoal (Black). Team Snowdonia Society tested them over three scorching days of the 2018 Snowdonia Challenge. Their verdict? – the caps are really breathable and comfortable. You can support the Society, remove 5 waste plastic bottles from the environment, look smart and keep a cool head, just by buying a Snowdonia Society cap for yourself, friends or family. Will you do that? Caps can be purchased online: www.snowdonia-society.org.uk/product/snowdonia-society-caps/ A special thanks to Charles Hawkins, our Vice-chair for moving this forward.

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 19


Gorwelion

Dyfodol antur yn Eryri Martin Chester Mewn cyfnod lle mae pethau'n newid yn gyflym, mae hi'n teimlo weithiau mai'r mynyddoedd yw'r unig beth sefydlog yn ein bywydau. Felly tybed sut mae Parciau Cenedlaethol (a'r sawl sy'n eu mwynhau) yn esblygu? Does dim amheuaeth ein bod wedi gweld cynnydd mewn gweithgareddau 'antur' hynod o fasnachol yn y blynyddoedd diwethaf. Clywais yn ddiweddar bod safleoedd ZipWorld yn Eryri wedi cael mwy o gleientau mewn un penwythnos prysur nag a gafodd y Ganolfan Fynydda Genedlaethol yn y flwyddyn gynt. Efallai ei fod yn teimlo fel pe bai'r datblygiadau yma'n newid demograffig pobl yn Eryri ac mae hyn yn arwain at drafod ai Parc Cenedlaethol neu Barc Thema ydy hwn. Ond ni allwch greu busnes llwyddiannus os nad oes gofyn amdano ac er bod newid yn gallu creu anesmwythyd ac ofn, fe all hefyd ddod â chyfleoedd. Mae hefyd yn peri i mi ofyn a yw fy ngolwg ar 'newid' yn briodol neu'n fanwl gywir. Dim ond ers cyfnod cymharol fyr mae Parciau Cenedlaethol fel yr ydym yn eu hadnabod wedi bodoli. Yn wir, chwerthais wrth ddarllen dyfyniad o wefan Her y Deg Tor a awgrymai, 'Prior to the 1950s, opportunities to participate in adventurous outdoor activities were extremely limited in Britain'. Rydym yn anghofio effaith Tresmasu Kinder a chyrraedd copa Everest ar godi proffil mynyddoedd ym meddyliau'r cyhoedd. Gellir hefyd anghofio mai dim ond yn 1951 y gwnaed Eryri yn Barc Cenedlaethol. Efallai nad ydy'r status quo y teimlwn bod angen ei amddiffyn mor bendant â'r hyn yr ydym yn hoffi ei ystyried.

yn oed yn fwy rhyfeddol yw bod mwy o bobl wedi cymryd rhan mewn dringo, cerdded mynyddoedd a mynydda na fu'n chwarae pêl-droed. Mewn byd lle mae mwy o iechyd gwael a segurdod, gallwn un ai bod yn falch o rôl ein mynyddoedd yn iechyd y genedl neu gallwn deimlo bygythiad y nifer fawr o bobl sy'n dod yma. Dyma her yr ydym yn gyfarwydd iawn â hi yma yng ngogledd Cymru gan ein bod yn cynnal mynydd prysuraf y DU, sef Yr Wyddfa. Ond dydy cymoedd cudd y Carneddau, neu hyd yn oed gilfachau cudd megis Cwm Hetiau ddim gwaeth o ganlyniad i'r niferoedd cynyddol mewn mannau eraill. Ni ddylem ni anghofio effaith economaidd enfawr twristiaeth antur ar ein hardal, ardal a fyddai fel arall yn eithaf tlawd. Ond er bod gweithgareddau masnachol cyfoes yn ddatblygiad newydd, mae'r ysgogiadau i ymweld â'n Parciau Cenedlaethol wedi bod yn amrywiol erioed. Yn 2015 cefais wahoddiad i gydysgrifennu adroddiad Getting Active Outdoors ar ran Sport England. Dyma gyfle gwych i edrych o'r newydd ar 'fy myd i' a deuthum i ddeall nad 'fy myd i' oedd o mewn gwirionedd. Yn wir, roeddwn mewn lleiafrif o'i gymharu â'r heidiau sy'n mwynhau'r awyr agored. Roeddwn wedi cymryd yn ganiataol bod pawb yn gweld y byd o'r un safbwynt â mi.

Yn yr arolwg, nodwyd wyth grŵp allweddol o ran ysgogaeth pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Roedd y rhain yn amrywio o herwyr sy'n dymuno ymestyn a datblygu eu hunain yn y mynyddoedd (cymharol ychydig) i fforwyr, y grŵp mwyaf, sy'n ystyried ymwneud â byd natur yn allweddol, gyda'r gweithgaredd, boed hwnnw'n wylio adar neu'n ffotograffiaeth, yn eilradd i'w O neidio ymlaen i'r cyfnod hwn, mae'r ffigurau yn rhyfeddol: nod o fwynhau cefn gwlad. Mae nifer o resymau pam fod pobl yn yn Arolwg mwyaf diweddar Active Lives (mesur o lefelau ymweld â'n Parciau Cenedlaethol. Y syndod i mi yw nad ydyn nhw gweithgaredd a ariennir gan Sport England), 'cerdded er o anghenraid yn canolbwyntio cymaint ar eu dull o hamddena hamdden' yw bellach hoff weithgaredd hamdden Lloegr. Hyd neu weithgaredd ag yr oeddwn wedi ei ddychmygu ond eu bod yn cael eu denu'n bennaf gan yr amgylchedd. Pe baech Antur: gwirfoddolwyr yn clirio sbwriel o’r llyn • Adventure: volunteers paddle off to clear lake litter yn torri coesau'r dringwr mwyaf brwdfrydig i ffwrdd, byddai'n cropian i gaiac neu ganŵ er mwyn cael ei wobr, sef y profiad o fod ym myd natur. Y ffactor pwysicaf arall sy'n dylanwadu ar ymwelwyr o ran dod i'r mynyddoedd yw, yn syml, y dymuniad i dreulio amser gyda chyfeillion a theulu ym myd natur. Felly, o ystyried weiren sip mewn chwarel, mae'n bwysig ceisio deall y bobl sy'n cael eu denu ato. Mae'n rhy hawdd o lawer cwyno am ddatblygiad masnachol a'i alw'n 'barc thema' ond dydy'r ymwelwyr yma ddim yn mynd i Alton Towers. Maen nhw'n dod i'r mynyddoedd oherwydd eu bod yn eu caru (ac yn hoffi sut maen nhw'n teimlo ynddyn nhw) cymaint â mi. Yn syml, maen

20 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd


Horizons Mae’r ymateb i fentrau Zipwire yn hynod o amrywiol • Zip it! Zipwires generate diverse reactions

nhw'n dewis cyfrwng arall ac yn cyfnewid esgidiau cerdded am gebl dur, er mwyn hedfan drwy'r tirlun hardd a rhannu'r llawenydd gyda'u ffrindiau a'u teulu. Pan fydd yr ymwelwyr ag Antur Stiniog yn mwynhau'r reid i fyny'r bryn mewn bwsmini mae hynny'n digwydd yn rhannol oherwydd yr olygfa o'r Moelwynion. Does ond angen i chi edrych ar y ceir ym maes parcio ZipWorld i weld nad ydy'r bobl yma'n dwp na'n anwybodus. Ni ddylien eu trin yn nawddoglyd. Mae'r demograffig newydd yn llwyddiannus, yn wybodus ac yn gyfoethog. Dylem edmygu a chymeradwyo'r dychymyg sydd wedi esgor ar Zipworld ac Ewyn Eryri. Dyma'r rhai sydd wedi pecynnu a marchnata 'antur' mewn ffordd sy'n apelio at y rhan helaeth o'r boblogaeth ac sy'n sicrhau mynediad rhwydd i bobl. Hefyd, maen nhw wedi gwneud hyn mewn ffordd sy'n adfywio gweddillion ôl-ddiwydiannol diwydiant sydd wedi diflannu a galluogi pentrefi chwarel unwaith eto i sicrhau incwm o'u hadnoddau naturiol. Dyma, wedi'r cwbl, yw rôl Parciau Cenedlaethol, sef sicrhau cyd-bwysedd rhwng buddion cadwraeth, mynediad ag economi'r rhanbarth. Felly beth am y dyfodol? Ai dechrau'r diwedd yw'r datblygiadau masnachol yma o amgylch cyrion y Parc? A fyddwn yn gweld pwysau cynyddol i fasnachu a sicrhau lleoedd o'r fath yn y Parc yn y dyfodol? A fyddai'n gymaint o broblem pe bai hynny'n digwydd? Yn bersonol, mae'n rhaid i mi gyfaddef fod gan y genhedlaeth newydd yma o 'dwristiaid antur' lai o effaith amgylcheddol yn yr hen chwarel, mae'n debyg, na phan yr af i gerdded neu feicio yn y mynyddoedd. Serch hynny, rydym yn mwynhau'r un golygfeydd ac yn anadlu'r un awyr iach. Efallai nad ydw i'n hoffi'r gair 'antur', gan nad oes dim yn ansicr ynglŷn â'r canlyniad, ond dyna fy meirniadaeth mwyaf ac fel arall ni allaf weld bod unrhyw niwed yn hyn. Yn wir, fel Arweinydd Mynydd proffesiynol, credaf mai ein penderfyniad ni yw cwestiynu sut yr ydym yn pecynnu ein hantur ein hunain i sicrhau ein bod yn berthnasol i gynulleidfa gyfoes. Mae gennym gyfle gwych i weld ein byd drwy lygaid eraill a'u haddysgu i werthfawrogi a gwarchod Eryri am flynyddoedd i ddod. Y tu hwnt i hynny, rydw i'n ymhyfrydu yn y ffaith bod lle i bawb yn ein byd amrywiol a gwyllt. Mae Martin Chester yn Arweinydd Mynydd Prydeinig IFMGA annibynnol sy'n gweithio yn Eryri, ac yn gynghorydd i'r sector awyr agored. Ewch i www.martinchester.co.uk am fwy o wybodaeth.

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 21


Gorwelion

The future of adventure in Snowdonia Martin Chester Ein gwirfoddolwyr yn mynd i’r afael ag erydiad llwybrau • Our volunteers repair footpath erosion

In rapidly changing times, it sometimes feels that the mountains are the only constant in our lives. So I wonder how National Parks (and those that enjoy them) are evolving? There is no doubt that we have seen an upsurge of highly commercial 'adventure' activities in recent years. In fact, I recently heard that the Zip World sites around Snowdonia had more clients in a single busy weekend than the National Mountain Centre had in the past year. It might feel that these developments are changing the demographic of people in Snowdonia leading some to debate whether this is a National Park or a Theme Park. But you cannot create a successful business if there is no demand for it and whilst change can bring discomfort and fear, it can also bring opportunity. It also leads me to question if my perception of 'change' is really appropriate or accurate. National Parks as we know them have only existed for a relatively short time. In fact, I was tickled to read a quote from the Ten Tors Challenge website suggesting that, 'Prior to the 1950s, opportunities to participate in adventurous outdoor activities were extremely limited in Britain'. We forget the impact of the Kinder Trespass and summiting of Everest in raising the profile of mountains in the public psyche. We might also forget that Snowdonia itself only became a National Park in 1951. Maybe the status quo that we feel we need to defend is not as fixed as we like to think. Fast forward to now, and the figures are staggering: in the latest Active Lives Survey (a Sport England funded measure of activity levels) 'walking for leisure' is now England's favourite pastime. Even more remarkable is that more people took part in climbing, hillwalking and mountaineering than played football. In a world of increasingly poor health and inactivity, we can either take pride in Chwareli; treftadaeth meu man chwarae? • Quarries; heritage or playground?

22 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd

the role our mountains play in the health of the nation or we can feel threatened by the idea of people coming in such numbers. It is a challenge we know all too well in North Wales, hosting, in Snowdon, the busiest mountain in the UK. But the wild corners of the Carneddau, or even esoteric nooks like Cwm Hetiau are none the worse for the expanding numbers elsewhere. Let us not forget the tremendous economic impact that adventure tourism has on an otherwise relatively poor area. But whilst modern commercial adventure activities are a new development, the motivations to visit our National Parks have always been varied. In 2015 I was invited to co-author the Getting Active Outdoors report for Sport England. This was a fantastic opportunity to take a fresh new look at 'my world' and I discovered that it was not really 'my world' at all. In fact, I discovered that I was in a minority when compared to the masses that enjoy the outdoors. I had fallen into the common trap of assuming that everyone else saw the world through the same lens as me. We identified eight key groupings in people's motivation to get active outdoors ranging from challengers who wish to stretch and develop themselves in the mountains (a relative minority) to explorers, the largest group, for whom engagement with nature is key, with the activity, be it bird-watching or photography, a secondary means to that important end. There are many reasons why people come to our National Parks. The surprise for me is that they are not necessarily as fixated on their sport or activity as I had imagined but are drawn primarily to the environment. Take the most passionate climber and chop off his legs – and he will simply get in a kayak or canoe to access the same rewards. The other most important factor influencing visitors to come to the mountains is simply the desire to spend time with friends and family in the natural world.


Horizons

Cynnal a chadw llwybrau troed Eryri

Ar ddechrau'r flwyddyn, wrth drafod â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, fe wnaethom ni lunio cynllun: Cydweithio i gynnal diwrnod cynnal a chadw llwybrau troed, ar ddydd Sadwrn cyntaf bob mis o fis Ebrill hyd at fis Hydref 2018.

So when we look at a zip wire in a quarry, it is important to try and understand the people who are attracted to it. It is all too easy to mourn commercial development and write it off as a 'theme park' but these visitors are not going to Alton Towers. They are coming to the mountains because they love them (and the way they feel in them) as much as I do. They simply choose a different vehicle, trading walking boots for steel cable, in order to fly through stunning scenery and share the joy with their friends and family. When the riders at Antur Stiniog enjoy the lift up the hill in the mini-bus it is at least partly because of the outstanding views of the Moelwynion. You only have to look at the cars in the Zip World car park to be assured that these are not stupid or ignorant people. We patronise at our peril. The new demographic is successful, intelligent and well-off. We should admire and applaud the brains behind Zip World and Surf Snowdonia. They are the ones who have packaged and marketed 'adventure' in a way that appeals to the masses, and in a way that people can readily access. Furthermore, they have done it in a way that breathes new life into the post-industrial remains of an extinct industry, once more enabling quarry villages to extract an income from their natural resources. It is, after all, the role of National Parks to balance the conservation, access and economic interests of the region. So what of the future? Are these commercial developments around the fringes of the Park the thin end of the wedge? Will we see increased pressure to commercialise and commoditise the heart of the National Park in the future? Would it be so much of a problem if we did? Personally, I have to admit that the new generation of 'adventure tourists' probably have less environmental impact in that old quarry, than I do when I go walking or biking in the mountains. Yet we both enjoy the same views and breathe the same air. I may take umbrage at the use of the word 'adventure', as there is nothing uncertain about the outcome, but that is my greatest criticism and otherwise I can see no harm in all this. In fact, as a professional Mountain Guide, I believe the onus is on us to question how we package our own adventures to ensure we are relevant to a modern audience. We have a tremendous opportunity to see our world through the eyes of others so that we may inspire and educate them to value and protect Snowdonia for years to come. Beyond that, I take great pleasure in the fact that, in our varied and wild world, there really is space for everyone. Martin Chester is an independent IFMGA qualified British Mountain Guide, writer, and adviser to the outdoor sector, based in Snowdonia. Check out www.martinchester.co.uk for more info.

Dros y saith mis, mae 38 o wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wedi cydweithio â thîm cynnal llwybrau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal rhai o lwybrau troed prysuraf Eryri, sef llwybr Watkin ar yr Wyddfa, y Glyder Fawr, y Garn, Cwm Tryfan, Cwm Bychan a Chraflwyn. Fe aeth y gwaith â ni o'r copaon o dan eira ym mis Ebrill i wres tanbaid Mehefin, ac i liwiau mis Hydref. Dywedodd Owain Thomas, Swyddog Prosiect Cymdeithas Eryri: “Mae'r ymdrech wych hon gan arweinyddion y tîm a'r gwirfoddolwyr yn golygu y gellir cynnal mynediad i'r dyffrynnoedd a'r mynyddoedd hyfryd hyn ac, ar yr un pryd, sicrhau fod miloedd o anturiaethwyr sy'n dod i Eryri yn dilyn y llwybr priodol”. Ychwanegodd: Mae gwneud hynny'n llwyddiannus yn caniatáu i bawb fwynhau'r golygfeydd trawiadol hyn ac, ar yr un pryd, ymddwyn yn gyfrifol trwy beidio ag erydu ein tirwedd arbennig yn ormodol. Diolch o galon i'r 38 o wirfoddolwyr sydd wedi cyfranogi 190 awr o'u hamser yn ystod y saith mis diwethaf ar ran llwybrau Eryri”. Mae gwaith gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wedi cyfrannu at gynnal a gwarchod rhai o'n hoff lwybrau troed a'n hoff dirweddau yn y Parc Cenedlaethol. Bydd y prosiect yn parhau yn 2019, a byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi'n ymuno â ni i wneud y gwaith. Cysylltwch â'n Swyddog Prosiect Owain Thomas os hoffech chi helpu i gynnal a chadw llwybrau troed y flwyddyn nesaf: owain@snowdonia-society.org.uk

Pitching in for Snowdonia's footpaths At the beginning of the year, in conversation with National Trust Wales, we came up with a plan: to jointly host a footpath maintenance day on the first Saturday of each month from April through to October 2018. Across the seven months, 38 Snowdonia Society volunteers worked alongside the local National Trust footpath team to maintain some of Snowdonia's busiest footpaths on Snowdon's Watkin path, Glyder Fawr, Y Garn, Cwm Tryfan, Cwm Bychan and Craflwyn. The work took us from the snow-capped peaks of April, through the sweltering heat of June, and into the autumnal colours of October. Owain Thomas, Snowdonia Society's Project Officer said: “This amazing effort from the team leaders and volunteers allows for continued access to these beautiful valleys and mountains, whilst also helping to keep hundreds of thousands of Snowdonia adventurers on the right path”. He added: “Doing so successfully allows everyone to enjoy these stunning views whilst also being responsible by not over-eroding our special landscape. A huge thanks goes out to the 38 volunteers who contributed 190 hours of their time to the footpaths of Snowdonia.” The work of the Snowdonia Society volunteers has gone towards maintaining and protecting some of our favourite footpaths and landscapes in the National Park. This project will continue in 2019 and we'd love it if you came and joined in. Get in touch with our Project Officer Owain Thomas if you'd like to pitch in for Snowdonia's footpaths next year: owain@snowdonia-society.org.uk

Protecting Protectingand andcelebrating celebratingSnowdonia Snowdoniafor forover over50 50years years||23 23


Gorwelion

Gwerthfawrogir a gwydn Hannah Blythyn AC Mae Cymru wedi ei bendithio â thirlun naturiol hyfryd o fryniau lluniaidd, arfordir garw a mynyddoedd mawreddog. Mae gennym Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) gyda'r gorau yn y byd ac mae miliynau o ymwelwyr o Gymru a thu hwnt yn mwynhau'r rhinweddau arbennig yma bob blwyddyn. Mae ein tirluniau dynodedig ymysg asedau gorau'r wlad o ran ansawdd bywyd i'n pobl a denu ymwelwyr i'n gwlad. Mae rheoli'r asedau yma'n fraint ac yn her. Mae'n amlwg bod rhaid i dirluniau dynodedig a'n dull o'u rheoli barhau i addasu os ydyn nhw'n mynd i barhau i ffynnu yn wyneb heriau amgylcheddol, ariannol a gwleidyddol. Amlinellir y ffordd y mae'n rhaid i ni wneud hyn yn Gwerthfawrogir a Gwydn: blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr AHNE a'r Parciau Cenedlaethol sy'n nodi pedwar dyhead ar gyfer ein tirluniau dynodedig. Y cyntaf yw bod rhaid i'r tirluniau dynodedig fod yn Llefydd Gwerthfawr. Mae'n rhaid iddyn nhw ymestyn y tu hwnt i gynulleidfaoedd traddodiadol. Mae tirluniau'n ffordd rymus o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran dyheadau, medrau, iechyd a lles. Mae tirluniau dynodedig mewn safle unigryw ar gyfer creu partneriaethau gyda chyrff cymunedol, darparwyr iechyd, ysgolion ac eraill a helpu i oresgyn rhwystrau er mwyn i bobl gymryd rhan ac elwa'n uniongyrchol o'u tirluniau. Dim ond pan mae'r genedl gyfan yn teimlo bod ganddyn nhw ran yn hyn maen nhw'n wir dirluniau cenedlaethol. Yr ail yw bod rhaid iddyn nhw gynnwys Amgylcheddau Gwydn. Ledled Cymru rhaid cynyddu gwerth byd natur a gwrthdroi'r prinhad mewn bioamrywiaeth. Mae Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Amgylchedd yn ein gosod mewn safle gref. Rhaid i ni geisio rheoli'n holl adnoddau naturiol yn gynaliadwy ond mewn ffordd sy'n gwarchod ac yn parchu gwerth parhaus pwrpasau gwreiddiol Parciau Cenedlaethol ac AHNE. Mae gwrthdroi'r prinhad mewn bioamrywiaeth yn gymaint o her â newid hinsawdd. Oherwydd graddfa'r her mae angen gweithredu trawsffurfiol i sicrhau ecosystemau iach, gwydn a chynhyrchiol a reolir yn gynaliadwy ac sy'n cyfrannu at gysylltedd rhwng cynefinoedd. Fe all tirluniau dynodedig hefyd gyfrannu at economi carbon isel, ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud hyn. Mae galluogi ynni adnewyddadwy ar raddfa briodol, rheolaeth dŵr a chynnal carbon i gyd yn bwysig. Mae cynhyrchu ynni cymunedol hefyd yn cyfrannu at wytnwch economaidd cymunedau lleol. Y trydydd dyhead yw bod tirluniau dynodedig yn cynnal Cymunedau Gwydn. Mae'n rhaid gwneud mwy i ddatblygu gwytnwch economaidd lleol a chyfleoedd economaidd ac i ddynodiad gefnogi a chreu cyfleoedd yn ymarferol ar gyfer cyflogaeth.

24 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd

Rheswm canolog pam fod ymwelwyr yn dewis Cymru yw ansawdd a hygyrchedd yr amgylchedd naturiol. Mae tirluniau'n nodwedd amlwg o fewn brand twristiaeth Cymru. Mae'n rhaid i ni harneisio'r prif ased, sef ein amgylchedd naturiol, ac eto sicrhau na fydd yr union rinweddau hynny yr ydym yn eu gwarchod yn wynebu pwysau anghynaladwy. Yn olaf, hoffwn ein gweld i gyd yn mabwysiadu Dulliau Mwy Gwydn o Weithredu. Lle bod gennym ddyheadau ar y cyd mae atebion ar y cyd. Rydw i'n hollol sicr bod angen gweld mwy o gydweithredu yn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Hoffwn weld trefniadau gweithredu agosach rhwng ardaloedd dynodedig, yn ogystal â'r rhai heb ddynodiad statudol. Mae cydweithredu'n cynnig cyfle i ddysgu oddi wrth ein gilydd, i herio ein gilydd, a datblygu'r gweithredu trawsffurfiol sydd ei angen i wireddu ein dyheadau. Ar fy ymweliadau â'r Parciau a'r AHNE, rydw i wedi cael y cyfle i gyfarfod staff a gwirfoddolwyr sy'n hynod o wybodus, yn ymroddedig ac yn frwdfrydig am eu tirlun, felly rydw i'n gwybod fod gennym y bobl gorau posibl i ateb y dyheadau hyn, i wneud yn fawr o'r cyfleoedd a gynigir ganddyn nhw ac i ateb yr heriau a wynebwn. Rydw i'n hyderus y gallwn sicrhau cynnydd drwy ddull hyblyg a chydweithredol o weithredu. Mae Cymru'n genedl hyderus a blaengar sy'n gwerthfawrogi, gwarchod a dathlu ei harddwch naturiol. Hannah Blythyn AC, Dirprwy Weinidog dros Gartrefi a Llywodraeth Leol Ymysg cyfrifoldebau gweinidogaethol Hannah mae mynediad i gefn gwlad, yr arfordir a hawliau tramwy ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol. Daw Hannah Blythyn o Sir Y Fflint yng ngogledd ddwyrain Cymru. Yn falch o fod yn Gog, aeth i'r ysgol yn yr etholaeth y mae hi bellach yn ei chynrychioli. Oddi allan i wleidyddiaeth, mae Hannah yn hoff o dreulio amser yn yr awyr agored ac mae hi'n feiciwr brwd, ac wedi cymryd rhan mewn reid feicio elusennol ar draws Cenia. Parciau Cenedlaethol yn dibynnu ar gyfraniad pob un ohonom • National Parks depend on what we all put in


Horizons

Valued and Resilient Hannah Blythyn AM

Yn gwneud eu rhan dros fawnogydd Eryri • Doing their bit for Snowdonia's peatlands

Wales is blessed with a stunning natural landscape made up of rolling hills, rugged coastline and majestic mountains. We have world class National Parks and Areas of Outstanding Natural Beauty (AONBs) and millions of visitors from Wales and beyond enjoy these special qualities every year. Our designated landscapes are among the country's best assets both in terms of the quality of life for our people and in attracting visitors to our country. Managing these assets is both a privilege and a challenge. It is clear that designated landscapes and our management of them must continue to adapt if they are to continue to thrive in the face of environmental, financial and political challenges. The way in which we must do this is set out in Valued and Resilient: the Welsh Government's priorities for the AONBs and National Parks which sets out four aspirations for our designated landscapes. The first is for designated landscapes to be Valued Places. They must reach out beyond traditional audiences. Landscapes are a force to tackle inequalities in aspiration, skills, health and wellbeing. Designated landscapes are uniquely placed to forge partnerships with community organisations, health providers, schools and others to help overcome barriers to people taking part and benefitting directly from their landscapes. They are truly national landscapes only when the whole nation feels they have a stake. The second is they must contain Resilient Environments. Across Wales the value of nature must be enhanced and the decline in biodiversity reversed. The Well-being of Future Generations and Environment Acts place us in a strong position. We must pursue the sustainable management of all our natural resources but in a way which protects and respects the enduring value of the original purposes of National Parks and AONBs. Reversing the decline in biodiversity is as big a challenge as climate change. The scale of the challenge means we require transformational action to secure healthy, resilient and productive ecosystems that are managed sustainably and contribute to connectivity between habitats. Designated landscapes also can and must contribute to a low carbon economy. Enabling renewable energy at an appropriate scale, water management and carbon capture are all important. Community energy generation also contributes to the economic resilience of local communities. The third aspiration is that designated landscapes must support Resilient Communities. More needs to be done to develop local economic resilience and economic opportunities and for designation to actively support and create opportunities for employment.

A central reason why visitors choose Wales is the quality and accessibility of the natural environment. Landscapes feature prominently within the Wales tourism brand. We must harness the major asset that is our natural environment yet ensure the very qualities we are protecting do not face unsustainable pressures. Finally, I want to see us all adopt more Resilient Ways of Working. Where there are common aspirations there are common solutions. I am quite certain that collaboration needs to be more mainstreamed into what we do. I want to see closer operational arrangements between designated areas, as well as those without a statutory designation. Collaboration offers the opportunity to learn from each other, to challenge each other, to develop the transformational action needed to deliver on our aspirations. On my visits to the Parks and AONBs I have had the opportunity to meet staff and volunteers who are highly knowledgeable, dedicated and passionate about their landscape, so I know we have the best people possible to meet these aspirations, to capitalise upon the opportunities they bring and to meet the challenges we face. I am confident that through an agile and collaborative approach, we can make progress. Wales is a confident, progressive nation that values, protects and celebrates its natural beauty. Hannah Blythyn AM, Deputy Minister for Housing and Local Government Hannah's ministerial responsibilities include access to the countryside, coast and rights of way and Areas of Outstanding Natural Beauty and National Parks. Hannah Blythyn is from Flintshire in North East Wales. A proud North Walian, she went to school in the constituency she now serves. Outside of politics, Hannah likes spending time outdoors and is a keen cyclist, having previously taken part in a charity bike ride across Kenya.

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 25


Newyddion

Yn Gryno -

y diweddaraf a gwybodaeth leol

John Harold Llanbedr – gormod o frys?

Ddim yn gweithio go iawn?

Mae caniatâd cynllunio a roddwyd y llynedd am ffordd osgoi 1.5km yn Llanbedr wedi ei ddileu yn y llys yn dilyn her adolygiad cyfreithiol, ar sail methiant i asesu effaith ar Ardal Cadwraeth Arbennig gerllaw. Bydd angen ail-gyflwyno'r cais. Mae hyn yn adlewyrchu'r brys y rhoddwyd y cais cynllunio gerbron, yn ystod cyfnod pan oedd Llywodraeth Cymru'n bidio i ddenu statws Porth Ofod y DU i'r Rhanbarth Menter.

Er gwaethaf newid positif yn yr arweinyddiaeth, ac ymdrechion arwraidd ei staff arbenigol a maes ymroddedig, mae ffurf arbrofol Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych braidd yn simsan. Roedd cyfuno rheoliadau statudol a rolau ymgynghorol gyda gweithgaredd masnachol bob amser yn creu risg. Ond mae CNC yn fwy na dim ond gwireddu ei rôl fel ymgynghorwr yn unig, gan roi cyngor annigonol yn rhy aml ar geisiadau cynllunio a chyfrannu at benderfyniadau sigledig gyda chanlyniadau amgylcheddol negyddol. Mae angen eglurdeb hunaniaeth a phwrpas ar staff ardderchog CNC ac mae angen trefn lywodraethol amgylcheddol annibynnol ar Gymru.

I'r pant y rhed y dŵr Mae dwy afon – y Llugwy a'r Cynfal – ymysg y rhai sydd wedi eu rhoi gerbron ar gyfer cynigion ynni dŵr cyn i'r cyfnod cymhorthdal ddod i ben ym mis Mawrth. Rydym wedi gwrthwynebu nifer fechan o gynlluniau o'r fath yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae'r rhain mewn dosbarth gwahanol: ceisiadau blêr ac annigonol sy'n dangos diffyg parch dybryd tuag at afonydd, tirluniau, a bywyd gwyllt Eryri, yn ogystal â sector mwyaf yr economi leol – twristiaeth. Gwrthodwyd cynllun Cynfal cyn y Nadolig, ond efallai y bydd wedi ail-ymddangos erbyn i chi ddarllen hwn, ac rydym yn gweithio i wrthwynebu'r cynllun ym Mhont Cyfyng ar y Llugwy. Anelu'n uchel yn y Carneddau Erbyn y byddwch yn darllen hwn bydd cais project Partneriaeth Tirlun y Carneddau wedi ei roi gerbron Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Byddwn yn gobeithio'n fawr y cawn benderfyniad ffafriol ar ariannu ar gyfer y project £2.8m yma. O dan y themâu Darganfod, Cofnodi, Gwarchod a Dathlu, mae rhai projectau unigryw wedi eu paratoi ac (yn bennaf) yn barod i gychwyn. Rydym yn falch o fod wedi chwarae rôl sylweddol gyda sicrhau bod y project partneriaeth yn cyrraedd y cam yma, ac rydym yn edrych ymlaen at fwrw i'r gwaith cadwraeth ymarferol, yr hyfforddiant a'r ymwneud âr cyhoedd dros y 5 mlynedd nesaf. Gwyliwch y gofod hwn! O dan yr wyneb Mae'r Grid Cenedlaethol yn bwrw ymlaen yn gyflym gyda'u cynllun i osod llinellau trawsgludo foltedd-uchel o dan y ddaear ar draws aber Dwyryd. Roedd pryderon y byddai penderfyniad Hitachi i gamu'n ôl o'r gwaith niwclear arfaethedig ar Ynys Môn yn effeithio ar y cynlluniau yma. Fodd bynnag, deallwn y bydd y cais cynllunio'n cael ei roi gerbron eleni. Gyda chost enfawr ar gyfer pob peilon a dynnir i lawr, yr opsiwn gorau fyddai peidio â'u gosod mewn Parciau Cenedlaethol yn y lle cyntaf, ond serch hynny rydym yn croesawu'r project hwn a'r gwahaniaeth positif a wnaiff i'r tirlun lleol. Eiriol dros gadwraeth Mae Cynllun Datblygu Lleol adolygedig Eryri newydd ei gyhoeddi. Rydym wedi rhoi sylwadau manwl gerbron ar bob cam o'r adolygiad a ni oedd yr unig gorff anllywodraethol i siarad yng ngwrandawiad yr Archwilydd Cynllunio. Dyna lle wnaethon ni eiriol dros warchod Eryri a darparu rhywfaint o gydbwysedd i'r rhes o ymgynghorwyr yn eu siwtiau lluniaidd a dalwyd i roi barn Llywodraeth Cymru ar bolisi Parth Menter gerbron. Er y byddem wedi hoffi gweld gwell gwarchodaeth mewn ambell i fan, rydym yn croesawu'r CDLl arfaethedig fel fframwaith ar gyfer penderfyniadau cynllunio yn y Parc Cenedlaethol.

26 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd

Baw ieir a mwy Ystyriwch fan tawel yn Eryri. Codwch ffatri yno, dros 400 troedfedd o hyd. Ar y caeau o gwmpas, lledaenwch filoedd o dunelli metrig o'r gwastraff a gynhyrchir gan y ffatri bob blwyddyn. Dywedwch wrth bobl gerllaw bod angen iddyn nhw ddioddef y sŵn, yr arogl, y llwch a'r llygredd. Pan roddwyd cais gerbron am uned dofednod dwys ar gyfer 32,000 o adar, penderfynodd Llywodraeth Cymru nad oedd angen Asesiad Effaith Amgylcheddol arno, gan 'nad oedd mewn ardal sensitif'. Cynsail trychinebus os bydd yn digwydd. Nwyddau cyhoeddus Mae'r hyn fydd yn dod yn lle'r Polisi Amaeth Cyffredin o bwys yn Eryri fel mewn mannau eraill. Bydd system newydd o daliadau rheoli tir yn llunio beth fydd yn digwydd yn ein cefn gwlad ac i'n bywyd gwyllt a'n cynefinoedd. Mae trafodaethau brwd rhwng undebau ffermio a chyrff cadwraeth wedi codi mewn ymateb i gynigion Llywodraeth Cymru y dylai arian cyhoeddus dalu am wireddu a gofalu am 'nwyddau cyhoeddus'. Mae angen diffinio nwyddau cyhoeddus ond fe allan nhw gynnwys bywyd gwyllt, awyr a dŵr glan, pridd iach, storio carbon ac atafaeliad, a thirluniau hardd. Mae'n bwysig ein bod yn cymryd rhan yn y ddadl nwyddau cyhoeddus a sicrhau bod gwybodaeth ddigonol ar gael ar gyfer y ddadl a ninnau. John Harold yw Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri

Carnedd Llewelyn © Nick Livesey


News

Short Cuts -

updates and local knowledge

John Harold Llanbedr – less haste, more speed? Ar fin diflannu o’r tir...• Going, going...

Planning permission granted last year for a 1.5km bypass at Llanbedr has been quashed in court following a judicial review challenge, on the grounds of failure to assess the impact on a nearby Special Area of Conservation. The application will need to be resubmitted. This reflects the unseemly haste with which the planning application was submitted, at a time when Welsh Government was bidding to attract UK Spaceport status to the Enterprise Zone. Dam them high, sell them cheap Two rivers – Llugwy and Cynfal - are among those caught up in a final flood of hydropower proposals before the subsidy sluicegates close this March. We have opposed a small number of such schemes in recent years, but these take the biscuit; shoddy and inadequate applications which show zero respect for Snowdonia's rivers, landscapes, wildlife or indeed the biggest sector of the local economy - tourism. The Cynfal scheme was rejected before Christmas, but may resurface before you read this, and we're working to oppose the scheme at Pont Cyfyng on the Llugwy. Aiming high in the Carneddau By the time you read this the Carneddau Landscape Partnership project bid will have been submitted to HLF. We'll be keeping everything crossed for a favourable decision on funding for this £2.8m project. Under the themes of Discover, Record, Protect and Celebrate, some unique projects are lined up and (mostly) ready to go. We're proud to have played a significant role in getting this partnership project to this stage, and we're looking forward to getting stuck in with practical conservation work, training and public engagement over the next 5 years. Watch this space! Going underground National Grid's undergrounding of high-voltage transmission lines across the Dwyryd estuary is going full steam ahead. There were concerns that the plans might be affected by Hitachi's decision to step back from the proposed Wylfa Newydd nuclear plant on Anglesey. However, we understand that the planning application will be submitted this year. With a huge cost for each pylon removed, the best option would have been not putting them in National Parks in the first place, but nonetheless we warmly welcome this project and the positive difference it will make to the local landscape. All over bar the shouting Snowdonia's revised Local Development Plan has just been published. We've submitted detailed comments at every stage of the review and were the only non-governmental organisation to speak at the Planning Inspector's hearing. That's where we spoke up for the protection of Snowdonia and provided some balance to the row of sharp-suited consultants paid to put forward Welsh Government's views on Enterprise Zone policy. Whilst we would have liked to see stronger protections in a few places, we welcome the revised LDP as a framework for planning decisions in the National Park.

Not really working? Despite a positive change of leadership, and the heroic efforts of its committed specialist and field staff, the experimental set-up that is Natural Resources Wales looks rather wobbly. Merging statutory regulation and advisory roles with commercial activity was always risky. But NRW is just not delivering on its role as consultee, too often giving inadequate advice on planning applications and contributing to unsound decisions with negative environmental consequences. NRW's excellent staff need clarity of identity and purpose and Wales needs independent environmental governance. When the **** hits the fan Take a quiet spot in Snowdonia. Build a factory there, over 400ft in length. On surrounding fields, in the catchment of a lowland river and a wetland SSSI, spread the thousands of tonnes of waste that the factory produces every year. Tell people living nearby to put up with the noise, stench, dust and pollution. When an application was submitted for a 32,000-bird intensive poultry unit, Welsh Government ruled that it didn't need an Environmental Impact Assessment, as it was 'not in a sensitive area'. Potentially disastrous precedent if it goes ahead. Public goods What replaces the Common Agricultural Policy matters in Snowdonia as elsewhere. A new system of land management payments will shape what happens in our countryside and to our wildlife and habitats. Heated discussions between farming unions and conservation bodies have bubbled up in response to Welsh Government proposals that public money should pay for the delivery and care of 'public goods'. Public goods need defining but might include wildlife, clean air and water, healthy soils, carbon storage and sequestration, and beautiful landscapes. It's important that we engage with the public goods debate and make sure that both it and we are well-informed. John Harold is the Director of the Snowdonia Society

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 27


Digwyddiadau

Digwyddiadau Cymdeithas Eryri Cymdeithas Eryri

Digwyddiadau ar gyfer ein haelodau'n unig:

ar

Beth: Gweithdy Celf Naturiol i Blant

Mae ein gwaith yn fwy amlwg nag erioed gyda dros 1000 o bobl yn ein dilyn ar Instagram ac yn rhannu lluniau o weithgareddau gwirfoddolwyr a digwyddiadau a fynychwyd

Pryd: Dydd Mercher 7 Awst, 2yp-4yp

Cewch hyd i ni ar instagram.com/snowdonia_society a defnyddiwch yr hashtagiau #snowdoniasociety #cymdeithaseryri i rannu eich profiadau.

Lle: Coedlan Tŷ Hyll

Beth: Taith ddiwylliannol gyda Rhys Mwyn Pryd: Dydd Sul 22 Medi, 11yb-2yp Lle: Ardal Harlech

5 10105 mwyaf o bobl yn ei Uchod: Ein ffotograff a gafodd y nifer myfyriwr o IKRAM 50 gyda yd 'hoffi' o 2018 lle daethom yngh Nant Gwynant a yn dron oden rhod â'r l afae i'r UKE i fynd Choed Hafod.

Beth: Digwyddiad Nadolig i Gyfarfod y Gymdeithas Pryd: Dydd Iau, 12 Rhagfyr, 3yp-7yp

Gwnewch eich rhan dros Eryri! I wybod sut allwch chi wneud eich rhan dros Eryri, ewch i'n gwefan am gyfleoedd i wirfoddolwyr ac ymunwch â ni yn y Parc Cenedlaethol am ddiwrnod. Ewch amdani, mae gwirfoddoli'n dda i chi!

www.snowdonia-society.org.uk/ volunteer-programme Dilynwch ni ar Facebook a Twitter: @snowdonia_soc

Lle: Capel Dinorwig, Gwynedd.

I archebu lle, cysylltwch â'n Swyddog Ymwneud â'r Cyhoedd, Claire Holmes:  01286 685498  claire@snowdonia-society.org.uk

@cymdeithaseryrisnowdoniasociety

Ymaelodwch heddiw! I wybod mwy am bob un o'n digwyddiadau, ewch i edrych ar ein Calendr Digwyddiadau a argraffwyd gennym neu ewch i'n gwefan am restr gyfan o ddigwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli yn 2019: www.snowdonia-society.org.uk/events

28 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd

Ddim yn aelod eto? Ymaelodwch â ni i helpu i gefnogi ein gwaith o warchod Eryri a byddwch yn elwa o ystod o deithiau, sgyrsiau, gweithdai a gostyngiadau i aelodau'n unig ledled y Parc Cenedlaethol: www.snowdonia-society.org.uk/joinwww. snowdonia-society.org.uk/join


Events

Snowdonia Society Events Snowdonia Society on

Exclusive events for our members: What: Childrens' Natural Art Workshop

Our work is more visible than ever with 1000+ people following us on Instagram & sharing images of volunteer activities and events attended.

When: Wednesday 7 August, 2pm-4pm

Find us at instagram.com/snowdonia_society and use the hashtags #snowdoniasociety #cymdeithaseryri to share your experiences.

Where: Tŷ Hyll (Ugly House) woodland

What: Cultural walk with Rhys Mwyn When: Sunday 22 September, 11am-2pm Where: Harlech and surrounds

5 10105 2018 where we Above: Our most 'liked' photo from UKE to tackle the M IKRA from teamed up with 50 students and Coed Hafod. nant Gwy Nant in s dron oden Rhod

What: Meet the Society Christmas get together When: Thursday 12 December, 3pm-7pm

Do your bit for Snowdonia!

Where: Capel Dinorwig, Gwynedd.

To find out about how you can do your bit for Snowdonia, go to our website for volunteer opportunities and join us in the National Park for the day. Go on, volunteering is good for you!

www.snowdonia-society.org.uk/ volunteer-programme Follow us on Facebook and Twitter: @snowdonia_soc

To book, contact our Engagement Officer Claire Holmes:  01286 685498  claire@snowdonia-society.org.uk

@cymdeithaseryrisnowdoniasociety

Join today! To find about about all of our events have a look at our printed Events Calendar or go to our website for a a complete list of events and volunteering opportunities for 2019: www.snowdonia-society.org.uk/events

Not yet a member? Join us to help support our work protecting Snowdonia and benefit from a range of walks, talks, workshops and exclusive membership discounts across the National Park: www.snowdonia-society.org.uk/join

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 29


aelodau busnes • business members

Aelodau busnes newydd • New business members Croeso i'n Haelodau Busnes newydd. Diolch enfawr am gefnogi gwaith Cymdeithas Eryri. (Telerau yn weithredol ar gyfer y gostyngiadau; cysylltwch â'r busnes am fanylion.)

Welcome to our new Business Members. A huge thank you to them for supporting the work of the Snowdonia Society. (Terms apply to all discounts; contact the business for details.)

Os ydych yn gwybod am fusnes sy'n gweithredu ym Mharc Cenedlaethol Eryri neu'n agos ato, pam na wnewch chi awgrymu eu bod yn ymaelodi fel Aelodau Busnes? Cysylltwch â ni i ofyn am becyn Aelodaeth Fusnes neu ewch i'n gwefan i ddarganfod rhagor.

If you know a business that operates in or near the Snowdonia National Park, why not suggest they become Business Members? Contact us for a Business Membership pack or visit our website to find out more.

Caffi Moel Siabod, Capel Curig. Wrth geisio darparu bwyd a diod ardderchog ynghyd â chroeso cynnes a chyfeillgar, gobeithiwn ddod â rhywbeth newydd i'ch profiad o ogledd Cymru. Mae ein cariad tuag at Eryri'n golygu ein bod am eich helpu i fwynhau'r lleoliad hardd hwn. www.moelsiabodcafe.co.uk/

Moel Siabod Cafe, Capel Curig. Seeking to provide excellent food and drinks with a warm and friendly welcome we hope to bring something new to your experience of North Wales. Our own love of Snowdonia makes us want to help you enjoy this beautiful location. www.moelsiabodcafe.co.uk/

Mae Symudiad Bhodi, Betws-y-coed yn arbenigo mewn therapi meinwe meddal a symudiad. Yn gweithio gyda phobl leol i helpu i gynyddu symudiad a hyder. Ein nod yw dod a phobl ynghyd yn yr awyr agored i fwynhau'r hyn sy'n hoff ganddyn nhw. www.bodhi-movement.co.uk/

Bhodi Movement, Betws-y-Coed specialise in soft tissue and movement therapy. Working with local people to help increase movement and confidence. We aim to bring people together in the outdoors to enjoy doing what they love. www.bodhi-movement.co.uk/

Crochendy Bethesda. Crochendy Stiwdio a siop gydag Oriel Gelf Gain gyda pheintiadau Fictoraidd, Edwardaidd a chyfoes. www.iandodgsonfinearts.co.uk/studio-pottery

Crochendy Bethesda Pottery. Studio Pottery and shop with Fine Art Gallery of Victorian, Edwardian and Contemporary Paintings. www.iandodgsonfinearts.co.uk/studio-pottery

gadewch cymynrodd i eryri

Leave a Legacy to snowdonia

Mae rhoddion o ewyllysiau yn rhan hanfodol o'n hincwm, ac mae llawer o gymynroddion mawr neu bychan yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r hyn gallwn ei gyflawni. Os byddwch yn ysgrifennu eich ewyllys, wedi i chi gofio eich teulu a'ch ffrindiau, ystyriwch adael cymynrodd i Gymdeithas Eryri os gwelwch yn dda.

Gifts in wills form a crucial part of our income, large or small legacies make a real difference to what we can achieve. If you are writing your will, once you have remembered family and friends, please consider leaving a bequest to the Snowdonia Society.

 https://www.snowdonia-society.org.uk/cy/gadael-cymynrodd/ https://www.snowdonia-society.org.uk/leave-legacy/


Ffarwelio• Saying goodbye Ruth Cox Gyda thristwch mawr y clywsom y newyddion am farwolaeth Ruth Cox ar 16 Tachwedd 2018.

Ruth (de) gyda Eileen Evans • Ruth (Right) with Eileen Evans © Peter Jones

Cyfrannodd Ruth lawer iawn i'r Gymdeithas dros y 28 mlynedd diwethaf. Yn wreiddiol, fe'i cyflogwyd gan y Gymdeithas fel Ysgrifennydd i'r Cyfarwyddwr yn 1990, sef yn ystod blynyddoedd olaf Cadeiryddiaeth Esme Kirby. O ganlyniad i'w hymrwymiad i'r Gymdeithas llwyddodd i gynnal pethau yn ystod cyflogaeth y tri chyfarwyddwr cyntaf. Daeth i adnabod nifer enfawr o aelodau yn dda ac roedd croeso cynnes bob amser yn Nhŷ Hyll. Pan adawodd y trydydd o'r cyfarwyddwyr hynny, bu bron i'r Gymdeithas chwalu ond sicrhaodd Ruth ei goroesiad. Hi a roddodd anogaeth i mi herio Esme am y Gadeiryddiaeth gan ei bod yn credu fy mod yn alluog I ddatblygu'r Gymdeithas, ond ni fyddwn wedi gallu ymdopi heb ei gwaith dygn, ei chymorth a'r oriau hir a gyfrannodd Ruth er gwaethaf y problemau a heriau a wynebai yn ei bywyd personol. Pan benderfynodd Martin Evans na allai barhau fel Cyfarwyddwr oherwydd y problemau yr oedd Esme yn eu cyflwyno, unwaith eto bu Ruth yn allweddol wrth gynnal y Gymdeithas nes i benodiad Rory Francis sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd. Parhaodd fel Ysgrifennydd i'r Cyfarwyddwr hyd 1999 ac ar ôl iddi ymddeol fe'i hetholwyd i'r Pwyllgor a gweithredodd fel Ymddiriedolwr hyd 2006. Roedd gan Ruth fedrau lu a ddefnyddiai er budd y Gymdeithas, a gwnaeth lawer ar yr ochr gymdeithasol. Gyda chymorth Elizabeth Holman, a fy ngwraig Joan, trefnodd ac arlwyodd ar gyfer sawl digwyddiad Nadolig i aelodau ym Meddgelert; wedi hynny, gyda Margaret Thomas a Joan trefnodd ac arlwyodd ar gyfer y cinio pen-blwydd 40 gwych yn Neuadd Craflwyn yn 2007. Ar gyfer y digwyddiad hwnnw roedden nhw o flaen eu hamser wrth ddefnyddio cynnyrch lleol yn unig!

It is with great regret that we have to record the passing of Ruth Cox on 16 November 2018.

Ruth did an enormous amount for the Society over the last 28 years. She was originally employed by the Society as Secretary to the Director in 1990, which was during the last years of Esme Kirby's Chairmanship. It was her dedication to the Society that 'held things together' during the employment of the first three directors. She got to know an enormous number of members by name and there was always a cheerful welcome at Tŷ Hyll. When the third of those directors left, the Society nearly disintegrated and it was Ruth who ensured its survival. She pushed me hard to challenge Esme for the Chair believing that I was capable of taking the Society forward. After I became Chairman I could not have coped without all the hard work, help and long hours that Ruth put in despite problems and challenges she was dealing with in her personal life. When Martin Evans decided he could not continue as Director with the difficulties which Esme was presenting, Ruth again held everything together until the appointment of Rory Francis brought a welcome era of stability. She continued as Secretary to the Director until 1999 and when she retired she was elected to the Committee and served as a Trustee until 2006. Ruth had many talents which she used on behalf of the Society, doing much on the social side. With the help of Elizabeth Holman, and my wife Joan, she organised and catered for several Christmas events for members in Beddgelert; subsequently, with Margaret Thomas and Joan she organised and catered for the wonderful 40th Anniversary dinner at Craflwyn Hall in 2007. For that event they were ahead of their time by only using local produce!

Wedi iddi ymddol ymunodd Ruth ag 'Ellyllon Gardd Tŷ Hyll' a defnyddiodd ei chariad tuag at blanhigion a'i gwybodaeth i helpu i drawsnewid gerddi Tŷ Hyll. Roedd yn hynod o dda am annog eraill i helpu a gweithio fel tîm i greu'r ardd fywyd gwyllt hardd sydd yno heddiw. Gobeithiaf yn fawr y gallwn ddod o hyd i ffordd i gydnabod a chofio cyfraniad enfawr Ruth i'r Gymdeithas.

After her retirement Ruth joined the 'Tŷ Hyll Garden Gnomes' using her love and knowledge of plants to help transform the gardens at Tŷ Hyll. She was extremely good at encouraging others to help and work as a team to create the beautiful wildlife garden we have today. I very much hope that a way can be found to recognise and remember the enormous contribution that Ruth made to the Society.

Gan David firth, Is-Gadeirydd

By David Firth, Vice-Chair

Cyfrannwch... ar-lein yn www.cymdeithas-eryri.org.uk gyda siec, yn daladwy i 'Cymdeithas Eryri'

Donate... on-line at www.snowdonia-society.org.uk by cheque, payable to 'Snowdonia Society'

 Cymdeithas Eryri the Snowdonia Society, Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk www.cymdeithas-eryri.org.uk • www.snowdonia-society.org.uk Elusen gofrestredig rhif/Registered charity no: 1155401

Protecting and celebrating Snowdonia for over 50 years | 31


Ymaelodwch â Chymdeithas Eryri heddiw i warchod ein Parc Cenedlaethol

Join the Snowdonia Society today to protect our National Park

Byddwch yn elwa o ostyngiadau ein Haelodau Busnes, yn cynnwys 20% yn Cotswold Outdoor a'u partneriaid.

Benefit from discounts from our Business Members, including 20% at Cotswold Outdoor and their partners

www.snowdonia-society.org.uk/cy/ymaelodi

www.snowdonia-society.org.uk/join

Profile for Snowdonia Society - Cymdeithas Eryri

Gowelion, Gwanwyn 2019 / Horizons, Spring 2019  

Gowelion, Gwanwyn 2019 / Horizons, Spring 2019  

Advertisement