Cess Gwanwyn/ Spring 2018

Page 16

Copaon

‘Esgynwyr’ cynnar Eryri John Griffith Roberts Mae’r cofnodion cyntaf am bobl megis botanegwyr, teithwyr cyfoethog ac ambell i breswylydd lleol yn dringo copaon Eryri yn arwydd o’r canrifoedd o ddiddordeb yn y mynyddoedd. Sonnir am y copaon yn aml fel mannau anghysbell a pheryglus, yno i’w gorchfygu a’u herio. Ymhellach yn ôl, mae llenyddiaeth cynnar a chwedlau’n sôn am wrachod, cewri ac ysbrydion ar yr ucheldir ac roedd y copaon fel arfer yn fannau i’w hofni a’u hosgoi. Yr Wyddfa ei hun yw man claddu chwedlonol Rhita Gawr, cawr ffyrnig a orchfygwyd gan y Brenin Arthur. Ystyr Yr Wyddfa yw ‘bedd’. Fodd bynnag, efallai mai carnedd gladdu cyn-hanesyddol sydd bellach wedi ei dinistrio yw’r bedd y cyfeirir ato, er ein bod yn gwybod iddi fodoli yno ar un pryd. Mae gweddillion archeolegol a thystiolaeth o dirluniau hynafol yn herio’r syniad o’r copaon fel mannau pell a pheryglus nad oedd bobl yn ymweld â nhw. Byddai’r garnedd gladdu ar gopa’r Wyddfa wedi ei chodi yn gynnar yn yr Oes Efydd, oddeutu 4,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae gan lawer o gopaon Eryri garneddau claddu o’r dyddiad hwn; a dyna sut y cafodd crib y Carneddau ei henw. Mae ambell un o’r rhain yn enfawr a hyd yn oed filoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach maen nhw’n parhau’n ddigon mawr i fod yn amlwg o’r cymoedd a’r iseldir gilometrau i ffwrdd. Er eu bod yn debyg i dyrrau di-strwythur o gerrig erbyn heddiw, mae tystiolaeth i rai ohonyn nhw fod yn gymhleth, gyda muriau ymylol a ffurf debyg i ddrwm grisiog. Yr hyn sydd ar goll yw’r wybodaeth am unrhyw gydrannau organig. Rydym yn cael ein temtio i geisio dod â’r safleoedd hyn yn fyw drwy eu cymharu â charneddau oboo Mongolia, safleoedd sanctaidd y mae pobl yn galw heibio iddyn nhw ar bererindod, sydd yn aml wedi eu haddurno’n lliwgar gyda baneri a deunydd. Efallai bod carneddi copaon Eryri hefyd wedi bod yn lleoliadau a oedd yn cysylltu bydoedd daearol gyda bydoedd ysbrydol ein cyndeidiau. Ni wnaethpwyd gwaith cloddio ar y rhan fwyaf o garneddi’r copaon, ond mae pobl wedi ymyrryd â llawer, un ai wrth eu

Cylch Cefn Coch uwchben Penmaenmawr Cefn Coch Circle above Penmaenmawr © Rob Collister

hysbeilio am drysor neu am gerrig cloddio. Ailgodwyd rhai fel llochesi; sawl cerddwr, sy’n ddiolchgar am loches rhag y gwynt ar gopa Carnedd Dafydd, sy’n gwybod ei fod yn eistedd o fewn safle sanctaidd o’r Oes Efydd? Lle maen nhw wedi eu cloddio, mae’r darganfyddiadau’n cynnwys potiau amrywiol eu maint a’u math (o gwpanau bach ar ffurf powlen fach a thebyg i ‘bicer’ i wrnau mwy), gweddillion wedi eu llosgi (ambell dro mewn potiau), pennau saethau callestr, cyllyll neu grafwyr, ac weithiau eitemau bach megis arfau neu emwaith aur, efydd, ambr neu ddefnydd arall. Cafwyd hyd i weddillion llosg merch ifanc ar y Drosgl wrth gloddio yn yr 1970au ynghyd â charreg hogi ar gyfer hogi arfau efydd. Credir bod pot ‘bicer’ sydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol wedi ei ddarganfod yng ngharnedd copa Moel Hebog. Ymhellach i ffwrdd, mae carnedd ar gopa Fan Foel ym Mannau Brycheiniog a gloddiwyd yn y 2000au cynnar yn rhoi i ni gipolwg ar arferion angladdol. Cafwyd hyd i sawl corfflosgiad yn cynnwys plant ac oedolion; dengys paill oedd wedi goroesi bod yr olion yng nghanol y garnedd wedi eu claddu gydag offrwm o flodau’r erwain. Roedd rhannau eraill o’r ucheldir hefyd yn ganolbwynt gweithgaredd seremonïol cyn-hanesyddol. Ceir hyd i gylchoedd cerrig a meini hirion ar lawer o fylchau a llwybrau ucheldir Eryri, a saif cannoedd o garneddi claddu ar gribau, copaon is a llwyfannau’r ucheldir, yn ogystal ag ar y copaon uchaf. Mae cymaint o’r safleoedd yma yn bodoli fel bod eu dehongli fel tirlun sanctaidd neu fyd y meirw’n unig yn ymddangos yn annigonol i’w hesbonio. Mae’n debyg bod iddyn nhw gymaint i’w wneud â byd y byw â byd y meirw. Efallai bod rhai wedi eu defnyddio i nodi llwybr, ond mae’n debyg bod eraill wedi chwarae rhan mewn rheolaeth a mynediad at adnodd ucheldir cyn hyned â’r bryniau – porfa. Dengys astudiaethau o ddangosyddion paill bod lleiniau agored yn dechrau ymddangos yn nhirlun coediog yr ucheldir yn gynnar yn yr Oes Efydd.. Mae dangosyddion paill yn nodi bod gwelltir yn ymddangos ar yr un pryd a chredir bod clirio coedlannau ar gyfer pori wedi cychwyn bryd hynny. Yn ystod yr Oes Efydd, mae’n debyg bod tir pori ar yr ucheldir yn frithwaith cyfoethog o dir agored a phorfa coediog. Bu llawer mwy o glirio yn ystod yr Oes Haearn a’r cyfnodau Rhufeinig oddeutu 2,700 i 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r cofnodion paill ac archeolegol yn awgrymu bod pobl yn weithgar yn uchel yn y mynyddoedd ymhell cyn y cyfnod hwn. Mae gwaith manwl yn y cwm uwchben y Rhaeadr Fawr yn Abergwyngregyn yn awgrymu bod y copaon a chribau’r ucheldir, erbyn rhyw 6,000 o flynyddoedd yn ôl, y cyfnod Neolithig, yn glir o’r fforestydd a oedd wedi datblygu yn y 5,000 o flynyddoedd ers

16 | Gwarchod a dathlu Eryri ers 50 mlynedd: 1967 - 2017


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.