Page 1

a

ytafod cylchgrawn cymdeithas yr iaith Chwefror 2013

tafod_chwefror2013.indd 1

28/1/13 10:05:48 Process Black


ytafod

tafod_chwefror2013.indd 1

28/1/13 10:05:48 PANTONE Red 032 U


Prif Swyddfa Swyddogion Cyflogedig: Dafydd Morgan Lewis, Bethan Williams a Meleri Mair Cymdeithas yr Iaith, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ 01970 624501 | post@cymdeithas.org | bethan@cymdeithas.org

Swyddfa’r Gogledd Swyddog Cyflogedig: Osian Jones a Menna Machreth (Cynghrair Cymunedau Cymru) Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Swyddfa’r Gogledd, 10 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RR. 01286 662908 | gogledd@cymdeithas.org | menna@cymunedau.org

Swyddfa’r De Swyddog Cyflogedig: Colin Nosworthy a Jamie Bevan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Swyddfa’r De, Ty’r Cymry, 11 Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd CF24 3AJ 02920 486469 | colin@cymdeithas.org | jamie@cymdeithas.org

hjkl 2 ytafod chwefror 2013 tafod_chwefror2013.indd 2

28/1/13 10:05:49 Process Black


tafod_chwefror2013.indd 2

28/1/13 10:05:49 PANTONE Red 032 U


a

ytafod

ytafoda cylchgrawn cymdeithas yr iaith Chwefror 2013

Chwefror 2013

Golygydd Llinos Roberts Dylunio a Chysodi Rhys Llwyd Lluniau Lleucu Meinir, Robin Farrar a Rhys Llwyd

4

Gair (olaf) o’r Gadair Bethan Williams

6

Dwi eisiau byw yn Gymraeg! Angharad Tomos

8

Diolch Bethan Dafydd Morgan Lewis

10

Holi Robin Dod i adnabod y Cadeirydd newydd

11

Rali’r Cyfrif Adroddiad o Gaernarfon

12

Araith o Ferthyr Morgan Powell

15

Safiad Sir Gâr Adroddiad o Gaerfyrddin

16

Cyfarfod Blynyddol Cynghrair Cymunedau Cymru

18

Ymateb i’r Cyfrifiad Toni Schiavone a Robin Farrar

Cyfarfod Cyngor Cymdeithas yr Iaith Aberystwyth Dydd Sadwrn Chwefror 16eg 2013 Swyddfeydd y Cambria - 10.30 yb

2013 chwefror ytafod 3 tafod_chwefror2013.indd 3

28/1/13 10:05:51 Process Black


a

ytafod

ytafod

Aberystwyth

Swyddfeydd y Cambria - 10.30 yb

tafod_chwefror2013.indd 3

28/1/13 10:05:51 PANTONE Red 032 U


Gair (olaf) o’r Gadair Bethan Williams

D

wi bellach wedi ymddiswyddo fel Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith er mwyn derbyn swydd fel Swyddog Maes Dyfed i’r Gymdeithas, ac yn edrych ymlaen at yr heriau a ddaw. Dwi wedi dysgu sawl peth yn ystod fy nghyfnod gyda’r Gymdeithas, ac yn ddiolchgar iawn am hynny. Un o’r pethau pwysicaf yw i ddefnyddio a

throi pob sefyllfa yn gyfle, hyd yn oed pan na fydd pethau fel yr ydym yn dymuno. Mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn enghraifft dda o hyn. O weld y dirywiad, hawdd byddai digalonni ac anobeithio, mynd yn rhwystredig a meddwl bod yr her yn ormod. Mae digon o bobl ar draws Cymru fydd yn barod i nodi’r problemau. Dydy’r

4 ytafod chwefror 2013 tafod_chwefror2013.indd 4

28/1/13 10:05:53 Process Black


Gair (olaf) o’r Gadair

tafod_chwefror2013.indd 4

28/1/13 10:05:53 PANTONE Red 032 U


Llywodraeth ddim wedi rhoi ystyriaeth teg i’r Gymraeg felly bydd hi’n ras arnyn nhw i baratoi rhywbeth i’w gynnig fel ymateb i’r Cyfrifiad, ac yn siŵr o ddweud yr hyn mae pobl am ei glywed ac yn llawn rhethreg. Cynnig atebion drosdro heb unrhyw gynllun pendant neu weledigaeth. Mae’r Gymdeithas yn gweithredu ymhellach na hynny. Fe wnaethon ni gyhoeddi Tynged yr Iaith 2 bron i ddwy flynedd yn ôl. Ers hynny rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chymunedau ar Daith Tynged yr Iaith ac i sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymraeg. Ein bwriad yw creu cynlluniau gweithredu gyda chymunedau. Mae’n bryd i ni beidio dibynnu ar y Llywodraeth ac ar Awdurdodau Lleol. Nid ydynt yn cymryd y Gymraeg i ystyriaeth wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Mae polisïau’r Llywodraeth yn tanseilio strategaethau a chynlluniau iaith. Mae Cynghorau yn gweithredu trwy’r Saesneg gan gynnig rhai gwasanaethau Cymraeg yn unig a gwasanaethau allgyrsiol ar gael trwy’r Saesneg yn unig, a does neb fel petai nhw’n sylwi fod unrhyw beth yn bod ar hyn. Mae’r slogan ‘Neud nid Deud’ yn ein cyfleu i’r dim. Rydyn ni’n fudiad sy’n cynnig mwy na rhethreg di-ystyr. Ym mhob gweithred rydym yn cyfleu ein gweledigaeth yn glir, a hynny drwy’r hyn a wnawn a’r hyn a ddywedwn. O fod wedi bod ar Daith Tynged yr Iaith a sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymraeg rydyn ni wedi dangos ein bwriad, ond rhaid mynd ymhellach na hynny nawr a gweithredu ein gweledigaeth yn

llawn i sicrhau lle y Gymraeg ar lefel cymunedol.

Mae’r slogan ‘Neud nid Deud’ yn ein cyfleu i’r dim. Rydyn ni’n fudiad sy’n cynnig mwy na rhethreg di-ystyr. Mae gan y Gymdeithas gyfle yn hynny o beth. Mewn cyfnod pan fo pobl yn teimlo mor bell oddi wrth gwleidyddiaeth er bod y gwleidyddion yn honni mai ganddyn nhw mae’r atebion. Mae eu diffyg gweithredu a’u difaterwch yn arwain at anobaith. Rhaid i Gymdeithas yr Iaith a mudiadau tebyg dangos arweiniad a rhoi cyfle i bobl weithredu’n gadarnhaol dros y Gymraeg. Trwy hyn bydd modd atal dirywiad pellach ac adeiladu a sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg ar gyfer y dyfodol. Fe wnaethon ni gyhoeddi hyn yn ein rali gyntaf yng Nghaernarfon yn dilyn cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad. Roedd hwn yn gyfle i rannu ein gweledigaeth, rhoi cyfle i bobl drafod eu pryderon a’r ffordd ymlaen, ac yn rhoi ein cynllun i gydweithio gyda chymunedau ar waith. Byddwn yn cynnal ralïau a digwyddiadau pellach ar draws Cymru ac yn awyddus i dderbyn cyfraniadau i’r maniffesto byw. Mae cyfle gennym ni nawr i newid pethau drwy ddefnyddio awydd pobl i weithredu. Mae’n ddyletswydd arnon ni i gyd i droi pob sefyllfa yn gyfle.

2013 chwefror ytafod 5 tafod_chwefror2013.indd 5

28/1/13 10:05:53 Process Black


Mae’r slogan ‘Neud nid Deud’ yn ein cyfleu i’r dim. Rydyn ni’n fudiad sy’n cynnig mwy na rhethreg di-ystyr.

tafod_chwefror2013.indd 5

28/1/13 10:05:53 PANTONE Red 032 U


Dwi eisiau byw yn Gymraeg! Angharad Tomos | Grŵp Hawliau’r Gymraeg

M

ae pethau wedi dechrau efo bang efo Sian Howys wrth y llyw.

Pa wasanaethau na fedrwch eu cael yn y Gymraeg? Gwnewch restr ohonynt, a chychwyn ymgyrchu’n ddwys efo un neu ddau ohonynt. Gyda sioc y Cyfrifiad, bydd y Gymraeg yn fater llawer mwy amlwg yn ystod y misoedd nesaf. Er fod gan y Gymraeg statws swyddogol bellach, nid oes gennym hawl mewn deddf i gael gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae angen creu ymgyrchoedd lleol – ynglŷn a siopau, banciau a chwmnïau sy’n gwrthod defnyddio’r Gymraeg. Dewch â chriw ynghyd, cael llun yn y papur a dechrau llythyru. Cewch help gan Swyddog Maes i drefnu hyn. Pan ddaeth ymgyrchydd o Wlad y Basg draw i’r Cyfarfod Cyffredinol, soniodd am ymgyrch lwyddiannus iawn yn ei wlad ef, ac rydym wedi ei mabwysiadu. Y slogan newydd yw Dwi Eisiau Byw yn Gymraeg! Rydym eisiau ehangu’r slogan hon i bob cornel o Gymru. Cafodd hyn ei

lansio yn Rali’r Cyfrif dros y Nadolig a’r Calan. Dyma ein hymateb ni i’r Cyfrifiad. Bid a fo am yr holl ystadegau, yr hyn sydd yn bwysig yw ein hymateb. O’r holl ddigalondid, rydym yn cyhoeddi’r her – Dwi Eisiau Byw yn Gymraeg – yn y gweithle/ ar y stryd/ yn yr ysgol. Bydd sticeri a phosteri yn cael eu cyhoeddi, ond gwreiddioldeb sydd ei angen yn yr ymgyrch hon. Dewch a chriw at ei gilydd i ddod ar daith gerdded, taith feiciau, ras – gan fabwysiadu’r slogan hon. Mater o roi hyder i bobl i fynnu eu hawliau ydyw, a datganiad hyderus o’n bwriad i gefnogi ac adfywio’r Gymraeg. Mae rhai dinosoriaid yn dal ar ei hol hi. Rydym yn parhau i bwyso ar y Cynulliad i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae Ymgyrch y Cofnod yn brwydro i sicrhau y bydd ein gwleidyddion yn adfer cyhoeddi y Cofnod yn Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg o fewn 24 awr. Anfonwch e – bost at Rhodri Glyn i alw am hyn. Os ydych eisiau bod yn rhan o’r bwrlwm hwn, e-bostiwch Sian Howys: sian@cymdeithas.org

6 ytafod chwefror 2013 tafod_chwefror2013.indd 6

28/1/13 10:05:54 Process Black


Dwi eisiau byw yn Gymraeg!

tafod_chwefror2013.indd 6

28/1/13 10:05:54 PANTONE Red 032 U


2013 chwefror ytafod 7 tafod_chwefror2013.indd 7

28/1/13 10:05:54 Process Black


tafod_chwefror2013.indd 7

28/1/13 10:05:54 PANTONE Red 032 U


Diolch Bethan Dafydd Morgan Lewis

‘Canmolwn yn awr y gwyr enwog, a’n tadau a’n cenhedlodd ni.’

D

yna ddywed un o’r adnodau yn yr Apocryffa. Ond fy mwriad i heddiw yw newid peth ar hynny trwy ganmol y gwragedd, ac un wraig yn arbennig. Os yw’r Beibl yn tueddu i ddyrchafu dynion ar draul merched, fy nymuniad yw mynd yn groes i hynny trwy sôn am gyfraniad gwragedd i dwf a datblygiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. O’r dechrau bu iddynt chwarae rhan flaenllaw yn hanes y mudiad. Roedden nhw yno yn eistedd ar Bont Trefechan a Gwyneth Wiliam oedd y ferch gyntaf garcharwyd dros yr iaith. Byddai llawer mwy yn ei dilyn. Fe fyddai merched hefyd yn chwarae rhan flaenllaw cyflogedig i’r mudiad. Cofiaf yr ias wrth i mi ymweld â swyddfa danddaearol y Gymdeithas ym Maes Albert - y Gymdeithas am y tro cyntaf yn fy mywyd. Linda Williams a Claire Richards oedd yn gweithio yno bryd hynny. Ar eu hol hwy bu Jen Dafis a Helen Greenwood yn teyrnasu yno. Er hynny fe gymerodd hi bron i ugain mlynedd cyn i ferch gael ei dyrchafu’n gadeirydd arnom. Meri Huws oedd honno. Daeth merched i’r gadeiryddiaeth yn bur gyson wedyn. Ar ôl Meri etholwyd Angharad Tomos, Helen Prosser, Sian Howys, Branwen Niclas, Branwen Brian, Menna

Machreth a Bethan Williams i’r swydd. Am gyfnod hefyd fe fu rhyw fath o fudiad answyddogol o fewn rhengoedd y Gymdeithas yn dwyn yr enw Merched Peryglus (enw oedd yn adleisio’r geiriau yn un o gerddi Waldo Williams). Bwriad y mudiad oedd dathlu cyfraniad merched i frwydr yr iaith. Pe bai’r ‘mudiad’ hwn wedi datblygu yn rhywbeth mwy mae’n siŵr y byddai Eileen Beasley wedi cael ei gwahodd i fod yn llywydd anrhydeddus arno. Ond fy lle i yn yr erthygl hon yw talu teyrnged i un o’r merched a restrir uchod wrth i’w chyfnod fel Cadeirydd ddod i ben. Wn i ddim pryd y clywais i am Bethan Williams gyntaf. Ond tua’r cyfnod hwnnw roedd y Gymdeithas yn mynd trwy gyfnod o adfywiad ym Mhrifysgol Aberystwyth a hynny i raddau helaeth oherwydd gweithgarwch Catrin Dafydd fel llywydd UMCA, yn arwain yr ymgyrch dros Goleg Cymraeg Cenedlaethol. Byddai merch arall, Menna Machreth, yn ei dilyn gyda’r ymgyrch hon. Ond os oedd yna fwrlwm yn Aber cymharol dawel oedd pethau ym Mangor. Yna fe glywyd sibrwd yr enw, Bethan Williams. Mae’n siŵr hefyd mai Dewi Snelson fel Trefnydd y Gogledd wnaeth ei darganfod, ond ni allaf fod yn gwbl sicr o hynny. Wn i ddim chwaith pryd y gwelais i Bethan am y tro cyntaf. Y cof sydd

8 ytafod chwefror 2013 tafod_chwefror2013.indd 8

28/1/13 10:05:58 Process Black


Diolch Bethan ‘Canmolwn yn awr y gwyr enwog, a’n tadau a’n cenhedlodd ni.’

tafod_chwefror2013.indd 8

28/1/13 10:05:58 PANTONE Red 032 U


gennyf yw rhyw rali neu’i gilydd yng nghysgod y cloc ym Mangor. Yno safai merch hirwallt, sbectolaidd, ffraeth ei thafod efo cap gwlân ar ei phen ar corn siarad yn ei dwylo oedd eisoes yn edrych fel rhan cwbl naturiol o’i hanatomi. Fe wyddwn yn syth fod y fenyw barablus hon yn perthyn i draddodiad anrhydeddus y merched peryglus. A hithau yn dod o Eglwyswrw yn Sir Benfro roedd hi’n amlwg fod ysbryd milwriaethus Merched Beca ynghyd a heddychiaeth digyfaddawd Waldo Williams yn rhan o’i chynhysgaeth. Dros y blynyddoedd nesaf fe ddeuai Bethan yn rhan anhepgor o’r mudiad. Fel llawer o bobl eraill nid ymgyrchu gyda’r Gymdeithas yn unig fyddai yn ei chymhwyso ar gyfer y gadeiryddiaeth. Bydd llawer o bobl ifanc o’r un oed a hi yn chwilio am brofiad ac antur trwy ymuno a’r fyddin, y Foreign Legion neu trwy fynd i weithio yn y Trydydd Byd. Y profiad cyfatebol i aelodau’r Gymdeithas yw cael eu recriwtio i weithio i Cadwyn. Efallai nad ydych yn cael gweld y byd yn gyfan, ond mae yna gyfle i weld dinasoedd Lloegr ac Iwerddon. Mae yna gyfle hefyd i chi gael addysg wleidyddol gan Ffred wrth iddo eich cludo o le i le yn ei fan wen. Nid yn unig hynny, ond mae codi’n fore, mynd i’r gwely’n hwyr a gwybod sut i godi a rhedeg stondin yn baratoad effeithiol ar gyfer rhedeg stondinau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n rhaid mai ei phrofiad gyda Cadwyn wnaeth Bethan yn un o’r merched mwyaf effeithiol welwyd

tafod_chwefror2013.indd 9

yn stondinau’r Gymdeithas erioed. Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf bu Bethan fel cadeirydd yn lobïo ac ymgyrchu’n galed boed hynny dros y Mesur Iaith neu ddyfodol S4C. Cyfarfu â rhai o wleidyddion a gwyr cyhoeddus amlycaf y dydd. Teithiodd Gymru benbaladr ac aeth i Lundain droeon. Yn awr mae’n rhoi’r gorau i’r gadeiryddiaeth ond yn y flwyddyn newydd bydd yn cychwyn ar swydd gyflogedig gyda’r Gymdeithas a hynny fel Swyddog maes yn Nyfed. Mae’n siŵr ei bod hi eisoes wedi ysgrifennu ei llythyr cyntaf at Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion.

28/1/13 10:05:58 Process Black


Holi Robin Ers Rhagfyr llynedd mae gan Cymdeithas yr Iaith Gadeirydd newydd. Dyma gyfle i ddod i adnabod Robin Farrar ychydig yn well..... Beth wyt ti’n obeithio ei gyflawni yn ystod dy gyfnod fel Cadeirydd? Yn bersonol, gobeithio gweithio efo llawer o bobl difyr, gwrando a dysgu ganddyn nhw, a chydlynu ymdrechion pobl. Mae’n gyfnod cyffrous i’r Gymdeithas - gobeithio gallwn ganolbwyntio ar les cymunedau Cymraeg (a chymunedau sydd eisiau bod yn Gymraeg!), a chael mwy o bobl yn weithgar efo’r Gymdeithas. A chael hwyl.

barddoniaeth, athroniaeth a llyfrau ffeithiol hefyd.

Ers pryd wyt ti wedi bod yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith? Aelod ers nifer o flynyddoedd, ond dim ond ers 2010, pan ddechreuodd Osian Jones ac eraill fy annog i ddod i gyfarfodydd, dwi wedi bod yn weithgar mewn gwirionedd.

Beth sy’n gneud ti’n hapus? Un peth sy’n fy ngwneud yn hapus ydy gweld pobl (pobl ifanc fel arfer) yn sylweddoli eu bod nhw yn gallu newid y byd wedi’r cwbl!

Hoff ffilm? Ffilmiau mewn iaith rydach chi’n (ceisio) ei dysgu yn lot o hwyl... ffilmiau Pwyleg i mi ar hyn o bryd felly. Ffefryn ar hyn o bryd, Dekalog (Y Deg Gorchymyn) gan Kieślowski. Hoff lyfrau? Gormod i’w henwi! Fy hoff lyfr mewn unrhyw iaith yw “Y Tywysog Bach” gan Saint-Exupery. Yn Gymraeg, Un Nos Ola Leuad a rhai o lyfrau Robin Llywelyn ac Angharad Tomos. Dwi’n hoff o lyfrau

Pwy ydy dy arwyr? Aelodau Cymdeithas yr Iaith! Dwi ddim yn licio meddwl sut byddai pethau heb yr holl ymdrechion dros yr 50 mlynedd ddiwethaf. Codwr cynnar neu aderyn y nos? Aderyn y nos! Dim ond os oes argyfwng go-iawn a chyflenwad da o goffi cryf byddai’n codi’n gynnar.

Beth sy’n dy wylltio? Apathi a diffyg dychmygedd, carafans a golffwyr. Sut wyt ti’n ymlacio? Mynd am dro ar y beic (sy’n ffordd eitha’ da o deithio hefyd!), gêm o wyddbwyll neu ambell beint o gwrw mewn cwmni da. Pryd bwyd delfrydol......a gyda phwy? Cyri... unrhyw gynigion? Hoff ddywediad? Ara’ deg mae dal iâr! (Gwyllt gynddeiriog mae dal ceiliog).

10 ytafod chwefror 2013 tafod_chwefror2013.indd 10

28/1/13 10:05:58 Process Black


Beth wyt ti’n obeithio ei gyflawni yn ystod dy gyfnod fel Cadeirydd? Pwy ydy dy arwyr?

Codwr cynnar neu aderyn y nos?

Ers pryd wyt ti wedi bod yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith?

Beth sy’n gneud ti’n hapus?

Beth sy’n dy wylltio? Hoff ffilm? Sut wyt ti’n ymlacio?

Hoff lyfrau?

Pryd bwyd delfrydol......a gyda phwy? Hoff ddywediad?

tafod_chwefror2013.indd 10

28/1/13 10:05:58 PANTONE Red 032 U


Rali’r Cyfrif Caernarfon, Rhagfyr 16eg 2012

D

aeth dros 400 o bobl i’r rali yng Nghaernarfon i godi llais am ganlyniadau’r Cyfrifiad Cododd y dorf arwyddion yn dweud ‘dwi eisiau byw yn Gymraeg’ yn lansio ymgyrch newydd Cymdeithas yr Iaith. Yn ystod y rali, lansiwyd ‘maniffesto byw’ fel ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad. Mae’r maniffesto yn cynnwys dros ugain o bolisïau gyda’r nod o wrth-droi dirywiad y Gymraeg a welwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad yn ddiweddar. Anerchwyd y dorf gan Jill Evans ASE, Eben Muse, Rhys Llwyd a Toni Schiavone. Yn siarad ar ôl y rali, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Mae’r niferoedd heddiw yn profi bod pobl eisiau byw yn Gymraeg, ond mae’r Llywodraeth yn sefyll yn ffordd dyheadau pobl ar lawr gwlad. Mae’n amser am ddewrder a syniadau newydd gan ein gwleidyddion. Os derbynia’r Llywodraeth bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg sydd angen ei ddatrys ar frys, bydd gobaith. Credwn mai dyhead nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; deallwn hefyd mai sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw’r unig ffordd o wireddu’r weledigaeth honno. Yr hyn sydd eisiau arnom yw’r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad”

2013 chwefror ytafod 11 tafod_chwefror2013.indd 11

28/1/13 10:05:58 Process Black


Rali’r Cyfrif

2013 chwefror ytafod 11 tafod_chwefror2013.indd 11

28/1/13 10:05:58 PANTONE Red 032 U


Disgwyl dathlu Morgan Powell | Araith o Rali’r Cyfrif, Merthyr Tudful, Ionawr 5ed, 2013

F

el nifer ohonoch, roeddwn i’n disgwyl y byddwn yn dod yma heddiw i ddathlu cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg ym Merthyr a’r Cymoedd, ac roedd yna arwyddion yn awgrymu mai hynny fyddai’r sefyllfa. Dros y blynyddoedd ers y cyfrifiad diwethaf rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc yr ardal yn derbyn addysg gyfrwng Gymraeg. Mae dwy ysgol gynradd Gymraeg yr ardal wedi symud i adeiladau newydd, mwy addas. Mae Ysgol Gyfun Rhydywaun ger Aberdâr, gyda thua 49% o’i ddisgyblion yn dod o ardal Merthyr, wedi gweld twf sylweddol yn ei nifer o ddisgyblion, i’r fath raddau bod sôn am ymestyn yr ysgol er mwyn gallu ymdopi â’r twf hwn. Ond yn amlwg nid oeddwn i wedi

ystyried y sefyllfa yn ddigon manwl. Am ryw reswm ystyriais i ddim y ffaith mai yr unig ddewis ar gael i bobl ifanc yr ardal yw symud i ffwrdd neu wynebu bywyd o ddiweithdra. Ni ystyriais fod nifer fawr o’r bobl ifanc sydd yn gadael Rhydywaun yn troi eu cefnau ar yr iaith oherwydd diffyg Cymraeg yn y byd go iawn, diffyg hyder wrth ddefnyddio’r iaith a’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei bortreadu mewn ysgolion. Ni ystyriais fod eraill yn gadael ysgol bron yn gwbl ddi-Gymraeg, wedi eu hamddifadu o’r hawl i fod yn rhugl yn y Gymraeg gan system addysg aneffeithiol a niweidiol. Gadewch i mi wneud fy hun yn glir gyfeillion. Fel rhywun sydd wedi derbyn addysg Gymraeg trwy fy mywyd ac sy’n gwbl ymwybodol o werth dwyieithrwydd, mae gennyf

12 ytafod chwefror 2013 tafod_chwefror2013.indd 12

28/1/13 10:05:59 Process Black


Disgwyl dathlu

tafod_chwefror2013.indd 12

28/1/13 10:05:59 PANTONE Red 032 U


ddigonedd o le i fod yn ddiolchgar tuag at y system hynny sydd wedi rhoi mynediad at y diwylliant unigryw a chyfoethog Cymreig i mi; ac wrth gwrs mae rhaid sicrhau lledaeniad addysg Gymraeg er mwyn sicrhau dyfodol i’r iaith. Credaf, er enghraifft, mai nid ymestyn Ysgol Rhydywaun yw’r ymateb cywir i dwf yn y nifer o ddisgyblion, ond dod ag addysg Gymraeg yn agosach at y bobl sy’n ei fynnu a’i wneud yn fwy hygyrch iddynt, hynny yw trwy agor ysgol gyfun Gymraeg yma, ym Merthyr Tudful.

a thu allan i’r ysgol, a trwy roi’r rhyddid i’r disgyblion ddewis defnyddio’r iaith tu allan i’r dosbarth. Wedi’r cyfan, os oedd y system yn gwneud beth y dylai wneud yn y lle cyntaf, sef dangos bod addysg yn rhywbeth i’w fwynhau a chyfoethogi’n bywydau, yn hytrach na rhyw fath o hyfforddiant i ennill swyddi neis yn y ddinas, ni fyddai angen gorfodi disgyblion i addo i “siarad Cymraeg ar bob adeg”, oherwydd byddai gennym y gallu a’r annibyniaeth i allu gweld gwerth dwyieithrwydd ein hunan.

Ond, cyn gwneud hynny mae angen mynd i’r afael â diffygion amlwg y system addysg ac mae angen brwydro dros newidiadau radical iddi er mwyn sicrhau ei bod yn hybu’r iaith fel iaith i’r ifanc, ac nid fel iaith y sefydliad.

Mae blynyddoedd o’r fath yma o addysg, ynghyd â’r cyfryngau Cymraeg sy’n ddibynnol a’r Llundain wedi creu delwedd o’r iaith ymysg yr ifanc fel iaith y sefydliad - iaith y dosbarth neu swyddfa’r llywodraeth. Mae angen newid hyn yn awr, cyn ei bod yn rhy hwyr.

Nid gorfodi’r iaith ar bobl ifanc yw’r ffordd i sicrhau dyfodol iddi. Nid trwy cosbi’r rhai sydd yn troi at y Saesneg yn naturiol, gan eu dysgu fod yr iaith jyst yn rheol arall i sicrhau cydymffurfiad i’r gyfundrefn. Ond trwy sicrhau fod cymhellion i ddefnyddio’r iaith, o fewn

Mae angen creu delwedd o Gymreictod fel amgen i ddiwylliant dominyddol y presennol. Oherwydd mae’r iaith yn amgen, ac yn ddull o wrthwynebiad i’r diwylliant cydffurfiol, ariangarol a chyfalafol sydd yn

2013 chwefror ytafod 13 tafod_chwefror2013.indd 13

28/1/13 10:06:00 Process Black


tafod_chwefror2013.indd 13

28/1/13 10:06:00 PANTONE Red 032 U


dominyddu’r cyfryngau poblogaidd heddiw. Mae yma gyfle, mewn cyfnod o newid anhygoel o blaid democratiaeth ar draws y byd, i ni ddangos fod yr iaith yn rhan o’r chwyldro rhyngwladol, a bod Cymreictod yn cynnig ffordd arall o feddwl mewn byd lle caiff y weithred o feddwl ei hun ei ffrwyno a’i anfri gan yr awdurdodau ceidwadol. Dyma sut y gallwn hybu’r iaith ymysg yr ifanc, dyma fydd yn dangos mai iaith dyfodol yw hi, a dyma pam ‘da ni angen Cymdeithas yr Iaith, gweithredu uniongyrchol a’r cyfryngau Cymraeg annibynnol. Mewn ardaloedd fel Merthyr, ac wrth gwrs ar draws Cymru gyfan, mae dyfodol yr iaith wedi ymrwymo â dyfodol economïau ein cymunedau. Roeddwn i’n hynod o falch gweld bod rhan sylweddol o’r Maniffesto Byw yn gwneud galwadau synhwyrol ar Lywodraeth Cymru i sicrhau hynny. Mae gennym ni i gyd ddyletswydd i ymuno â’r frwydr dros gyfiawnder economaidd yn ein cymunedau ac yn genedlaethol, i sefyll ochor yn ochor â phob un gweithiwr sydd yn streicio dros achub ei swydd ac i geisio sicrhau gwrthdroad yn y

dirywiad cymdeithasol sydd wedi ei orfodi ar y cymunedau yma gan olyniaeth di-diwedd o lywodraethau cenedlaetholgar Prydeinig. Os ydym am sicrhau dyfodol i’r iaith yn y Cymoedd, rhaid yn gyntaf sicrhau dyfodol i’r Cymoedd ei hunain. Felly gyfeillion, wrth i ni fynd ati i gyfrannu at y Maniffesto Byw ac i ymgyrchu dros y blynyddoedd nesaf, gobeithiaf y byddwn yn cadw mewn golwg y weledigaeth o Gymru lle caiff yr iaith ei rhannu gan bawb - o’r gweithiwr ffatri ym Merthyr, i’r ffermwr yng Ngwynedd a’r mewnfudwr yng Nghaerdydd. A gobeithiaf y byddwch yn cytuno â’r cynigion yr wyf i wedi gwneud heddiw - sef brwydro dros system addysg radical a blaengar gyda phwyslais a’r ryddid i ddisgyblion yn hytrach na rheolau a chydffurfiad, sicrhau fod yna ddyfodol ar gyfer pobl ifanc ein cymunedau o fewn y cymunedau hynny trwy dangos cydsafiad gyda gweithwyr, a hybu’r ddelwedd o’r iaith sydd yn dangos nad yw’n gyfyngedig i ddynion mewn ffrogiau yn yr Eisteddfod, i grachach mewnblyg nac i swyddfeydd llywodraethol ond yn rhan hanfodol o’r chwyldro bydeang dros hawliau a rhyddid.

14 ytafod chwefror 2013 tafod_chwefror2013.indd 14

28/1/13 10:06:01 Process Black


tafod_chwefror2013.indd 14

28/1/13 10:06:01 PANTONE Red 032 U


Safiad Sir Gâr Caerfyrddin, Ionawr 19eg 2013

“Dwi eisiau byw yn Gymraeg!” - “Addunedwn fyw yn Gymraeg a mynnwn fod creu amodau i gymunedau Cymraeg fyw”

D

aeth tyrfa gref ynghyd i fynnu bod Cyngor Sir Gâr a Llywodraeth Cymru yn cymryd yr argyfwng o ddifri. Llofnodwyd yr adduned gan nifer o wynebau cyfarwydd y Sir gan gynnwys Jonathan Edwards AS, Peter Hughes-

Griffths, Brian Walters, Rhian Morgan, Tudur Dylan Jones, Cefin Campbell, Fflur Dafydd, Alun Lenny, Heledd ap Gwynfor, Heledd Cynwal, Julian Lewis Jones, Phil Grice, Glenys Thomas, Aneirin Karadog, Lewys Aron a Llio Silyn.

2013 chwefror ytafod 15 tafod_chwefror2013.indd 15

28/1/13 10:06:02 Process Black


Safiad Sir G창r

tafod_chwefror2013.indd 15

28/1/13 10:06:02 PANTONE Red 032 U


Cyfarfod Cenedlaethol Ar 12 Ionawr 2013, cynhaliwyd cyfarfod cenedlaethol cyntaf Cynghrair Cymunedau Cymraeg yn Y Morlan, Aberystwyth.

B

u’n gyfnod cyffrous iawn i’r Gynghrair ers ei lansio mis Mehefin diwethaf. Penodwyd Menna Machreth yn gydlynydd y Gynghrair a dechreuodd ar ei gwaith o swyddfa’r Gymdeithas yng Nghaernarfon ym mis Hydref. Hyd yn hyn, mae 20 o aelodau gan y Gynghrair ar draws Cymru. Mae rhai cynghorau cymuned a chynghorau tref wedi ymaelodi, yn ogystal â mentrau cydweithredol a grwpiau cymunedol sydd â bwriad penodol i hybu’r Gymraeg ar lefel gymunedol. Pwrpas Cynghrair Cymunedau Cymraeg yw bod yn fforwm i gymunedau gydweithio a rhannu arferion da er mwyn grymuso eu hunain, a thrwy hynny, adfywio’r Gymraeg hefyd. Cyhoeddwn y bydd chwyldroi sefyllfa’r Gymraeg yn digwydd o’r gwaelod i fyny ac wrth fentro ac arloesi.

Roedd y cyfarfod cenedlaethol cyntaf hwn felly yn gyfle pwysig er mwyn i’r aelodau presennol ac aelodau arfaethedig i ddod at ei gilydd i drafod sut y gellir cydweithio a pa fath o bethau gallwn fod yn ei wneud i gynnal a chryfhau’r Gymraeg ar lawr gwlad. Bu’n gyfarfod hynod o lwyddiannus. Dyma sydd gan rai o aelodau’r Gynghrair i’w ddweud ynghylch pam y penderfynasant hwy ymaelodi â’r fenter newydd hon: Aled Job o Felin 70%+ (grŵp cymunedol sy’n annog pobl diGymraeg i ddysgu’r iaith ac yn cynnig cefnogaeth iddynt wrth wneud hynny): ‘Un o’r rhesymau y mae Felin 70%+ wedi ymuno â Chynghrair Cymunedau Cymraeg yw ein bod yn teimlo ei bod hi’n bwysig iawn i ni fel cymuned i greu cysylltiadau hefo cymunedau Cymraeg tebyg mewn

16 ytafod chwefror 2013 tafod_chwefror2013.indd 16

28/1/13 10:06:06 Process Black


Cyfarfod Cenedlaethol

tafod_chwefror2013.indd 16

28/1/13 10:06:06 PANTONE Red 032 U


ardaloedd eraill yng Nghymru. Wrth fod yn rhan o Gynghrair fel hyn, rydym yn gobeithio gallu rhannu syniadau gyda chymunedau eraill am sut i gryfhau a datblygu ein cymunedau Cymraeg dros y blynyddoedd nesaf.’ Marc Jones - Saith Seren, Wrecsam (menter cydweithredol sydd wedi agor tafarn Saith Seren, canolfan Gymraeg ar gyfer Wrecsam): ‘Mae angen brwydro dros yr iaith a normaleiddio’r Gymraeg fel iaith gymunedol ymhob rhan o Gymru - yn wledig a dinesig. Dim ond 10 milltir o’r ffin ydan ni yn Saith Seren ond mae’n bosib codi ymwybyddiaeth o’r iaith yma. Mae cynnal cymunedau naturiol Gymraeg yn hanfodol fel cadarnleoedd i’r Gymraeg - gallwn fwydo oddi wrth llwyddiant ein gilydd. Dyna pam fod Saith Seren yn cefnogi Cynghrair Cymunedau Cymraeg sy’n tynnu’r holl ymgyrchoedd ar lawr gwlad i ddiogelu’r Gymraeg at ei gilydd.’

Cen Llwyd – Llanwenog (grŵp sydd wedi sefydlu er mwyn cynnal y Gymraeg yn y pentref ac ymrymuso’r gymuned): ‘Roedd tri dewis: 1. Eistedd lawr a gwneud dim 2. Llefaru’n groyw a beirniadu a beio pawb a phopeth 3. Ymuno â’r Gynghrair a chael cyfle i wneud rhywbeth er mwyn ceisio gwella’r sefyllfa. Rydym yn falch bod y Gynghrair yn rhoi cyfle i gyd-weithio gyda’n gilydd.’

Am fwy o wybodaeth am y Gynghrair, cysylltwch â Menna Machreth. Mae Menna ar gael i ddod i siarad â chymunedau ar draws Cymru am y Gynghrair a sut y gallent fod yn rhan o’r fenter. E-bost Menna yw menna@ cymunedau.org a’r rhif ffôn yw 01286 662904 / 07973 820580.

2013 chwefror ytafod 17 tafod_chwefror2013.indd 17

28/1/13 10:06:11 Process Black


Canlyniadau’r Cyfrifiad Tony Schiavone a Robin Farrar

R

oedd canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn syndod i lawer. Methodd Llywodraeth Cymru â chyrraedd eu targed i godi nifer y siaradwyr Cymraeg i 25%, gyda chanran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 20.8% i 19%. Mae hyn yn fethiant polisi, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus gywiro hyn. Mae hyn yn gwbl bosib: mae nifer y siaradwyr iaith Fasgeg wedi codi o 24% i 32% o’r boblogaeth dros y ddau ddegawd diwethaf. Fel man cychwyn rhaid i’r llywodraeth gydnabod yr argyfwng! Dyma pam ein bod wedi gofyn i Carwn Jones am gyfarfod – byddem yn galw arno i gydnabod maint y broblem, ac i fabwysiadu polisïau

Maniffesto Byw y Gymdeithas. Dyma rhai o’r cynigion: Dylai’r system gynllunio ystyried effaith pob datblygiad ar yr iaith Gymraeg. Ond cynhaliwyd asesiad o effaith datblygiadau ar yr iaith Gymraeg mewn dim ond 0.03% o geisiadau cynllunio dros y 2 mlynedd diwethaf! Rydym hefyd yn galw am ddatganoli’r Arolygiaeth Gynllunio i Gymru ac am sefydlu’r egwyddor o ‘Ddatblygu Cynaliadwy’ fel sylfaen i bolisïau tai a chynllunio yng Nghymru. Yn yr un modd, os yw’r Gymraeg i ffynnu, rhaid sicrhau gwaith i bobl yn eu cymunedau. Rhaid cael sylfaen economaidd cadarn a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, fel bod siaradwyr Cymraeg yn gweld gwerth economaidd y Gymraeg. Gall

18 ytafod chwefror 2013 tafod_chwefror2013.indd 18

28/1/13 10:06:12 Process Black


Canlyniadau’r Cyfrifiad

tafod_chwefror2013.indd 18

28/1/13 10:06:12 PANTONE Red 032 U


Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gymryd camau hollol ymarferol, trwy ddiogelu swyddi yn y sector gyhoeddus a chynllunio i ddatganoli adrannau gyfan o Gaerdydd. Yn yr un modd, dylai polisi caffaeliad pob corff a ariennir gan y sector gyhoeddus yng Nghymru rhoi blaenoriaeth i gwmnïau o’r ardal leol, nid yn unig er mwyn hyrwyddo’r economi leol, ond, am resymau amgylcheddol hefyd. Mae angen hefyd sicrhau bod mwy o gyfleodd ar gael i gwmnïau bychain a chanolig eu maint tendro ar gyfer y gwaith yma. Mae angen ail-edrych ar gwaith y 24 menter iaith yng Nghymru. Yn ein tyb ni, beth sydd eu hangen yw ‘Mentrau Iaith a Gwaith’ gyda chyllideb teilwng i hyrwyddo mentergarwch trwy gyfrwng y Gymraeg a defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Un o lwyddiannau mawr yr hanner canrif diwethaf yw twf addysg cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, mae’r llwyddiant yma wedi cuddio’r methiant ym maes dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mewn nifer o ardaloedd mae cyfran sylweddol o ddisgyblion yn trosglwyddo o gyfrwng Cymraeg iaith gyntaf i Gymraeg ail-iaith ar fynediad i addysg Uwchradd, ac mae hyn yn fwy amlwg fyth mewn addysg ôl16. Rhaid mynd i’r afael â hyn ar fyrder,

codi disgwyliadau a newid agwedd at ddysgu Cymraeg. Ni fydd hyn yn bosib dros nos, ond gellir cychwyn trwy gynnig cyllid ychwanegol i nifer o ardaloedd ar draws Cymru. Gellir cyplysu hyn gyda’r cynnig yn ein Maniffesto ar gyfer strategaeth economaidd bydd yn targedu 6-10 o ardaloedd fel ‘Ardaloedd Adfywio a Datblygu’r Gymraeg’. Dyma rhai yn unig o’r argymhellion yn ein Maniffesto Byw. Nid yw Cymdeithas yr Iaith yn honni bod hwn yn ddogfen gorffenedig, ond rydym yn herio Llywodraeth Cymru i ymateb i’r argymhellion ac i fod yn llawer iawn mwy radical ac arloesol. Ond ni fyddem yn disgwyl am ymateb cyn gweithredu: byddem yn gweithio gyda nifer o Gymunedau ledled Cymru i greu ‘Cynlluniau Cymuned’ yn seiliedig ar yr Economi, Tai a Chynllunio a Iaith tra ar yr un pryd mireinio, newid a datblygu ein Maniffesto Byw trwy drafodaeth gyhoeddus ac agored ar hyd a lled Cymru. Felly, rydym yn annog cyfraniadau i’n Maniffesto ar Twitter trwy defnyddio’r hashnod #maniffestobyw, neu e-bostio post@ cymdeithas.org, fel bod modd datblygu’r syniadau ymhellach. Heb amheuaeth mae’r frwydr dros y Gymraeg yn parhau ac yn mynd i ddwysáu – y degawd nesaf yw’r degawd tyngedfennol.

2013 chwefror ytafod 19 tafod_chwefror2013.indd 19

28/1/13 10:06:13 Process Black


tafod_chwefror2013.indd 19

28/1/13 10:06:13 PANTONE Red 032 U


Nid yw brwydr yr iaith ar ben Mae Cymdeithas yr Iaith yn parhau i ymgyrchu er mwyn sicrhau mae nid diwylliant lleiafrif bydd y Gymraeg dros yr hanner canrif nesaf ond y bydd yn briod iaith ein cenedl.

Os wyt ti’n rhannu’r weledigaeth yma ymuna â ni heddiw! Enw

Rwyf yn eich awdurdodi i dalu i gyfrif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhif 81072102, Banc HSBC, 24 Sgwâr y Castell, Caernarfon 40-16-02.

Cyfeiriad

Ffôn

Ar y cyntaf o fis yn y flwyddyn ac wedi hynny bob mis y swm o:

Ebost Wedi bod yn aelod o’r blaen Nid wyf am dderbyn gohebiaeth Diddordeb mewn maes arbennig o’r gwaith?

£1 £2 Arall:

£5

£10

£20

£25

Arwyddwyd Dyddiad

Archeb Banc

Aelodau dros dro

Hoffwn fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a chyfrannu drwy archeb banc. Enw’r banc

Os dymunwch, gallwch ymaelodi am flwyddyn yn unig: Myfyriwr ysgol / chweched £3

Cyfeiriad y Banc

Myfyriwr coleg £6 Di-gyflog £6 Pensiynwyr £6

Enw’r Cyfrif Rhif y Cyfrif Côd Didoli

Gwaith llawn amser £12 Aelodaeth teulu (plant dan 16) £24

Dychwelwch i: CYIG, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

tafod_chwefror2013.indd 20

28/1/13 10:06:14 Process Black


Nid yw brwydr yr iaith ar ben Mae Cymdeithas yr Iaith yn parhau i ymgyrchu er mwyn sicrhau mae nid diwylliant lleiafrif bydd y Gymraeg dros yr hanner canrif nesaf ond y bydd yn briod iaith ein cenedl.

Enw

Rwyf yn eich awdurdodi i dalu i gyfrif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhif 81072102, Banc HSBC, 24 Sgwâr y Castell, Caernarfon 40-16-02.

Cyfeiriad

Ffôn

Ar y cyntaf o fis yn y flwyddyn ac wedi hynny bob mis y swm o:

Ebost Wedi bod yn aelod o’r blaen Nid wyf am dderbyn gohebiaeth Diddordeb mewn maes arbennig o’r gwaith?

£1 £2 Arall:

£5

£10

£20

£25

Arwyddwyd Dyddiad

Hoffwn fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a chyfrannu drwy archeb banc. Enw’r banc

Os dymunwch, gallwch ymaelodi am flwyddyn yn unig: Myfyriwr ysgol / chweched £3

Cyfeiriad y Banc

Myfyriwr coleg £6 Di-gyflog £6

Enw’r Cyfrif Rhif y Cyfrif Côd Didoli

Pensiynwyr £6 Gwaith llawn amser £12 Aelodaeth teulu (plant dan 16) £24

Dychwelwch i: CYIG, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

tafod_chwefror2013.indd 20

28/1/13 10:06:14 PANTONE Red 032 U

Tafod Chwefror 2013  

Cylchgrawn Cymdeithas yr Gymraeg

Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you