Issuu on Google+

Sut mae Digartrefedd mewn Teuluoedd yn effeithio ar iechyd Plant? Plant a phobl ifanc sy’n byw mewn teuluoedd digartref yw un o’r grwpiau o blant a phobl sydd yn y perygl mwyaf ac yn aml maent yn dioddef tlodi ac amddifadedd sylweddol parhaus. Yn hyn o beth, maent yn wynebu llawer o broblemau tebyg i deuluoedd statws economaidd-gymdeithasol eraill, ynghyd â nifer o broblemau unigryw a achosir gan ddigartrefedd. Mabwysiadwyd ‘Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn’ (y Confensiwn) yn ffurfiol fel sail ar gyfer proses llunio polisïau Llywodraeth Cymru yn 2004. Mae eu hadroddiad: ‘Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau’, yn nodi 7 o nodau craidd sy’n sail i lywodraeth genedlaethol a lleol wrth iddynt lunio polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc i’w cynorthwyo i wireddu eu potensial llawn a mwynhau eu holl hawliau dynol. Mae Erthyglau 24 a 27 o’r Confensiwn yn disgrifio hawliau plant i dderbyn y gofal iechyd o’r safon uchaf bosibl (Cenhedloedd Unedig 1990, tud 7) ac i safon byw sy’n ddigonol ar gyfer eu datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol (Cenhedloedd Unedig 1990, tud 8), sy’n hawliau dynol nad yw plant yn eu derbyn yng nghyd-destun digartrefedd o bosibl oherwydd y llety a’r sefyllfaoedd y maent yn byw ynddynt a dylanwad y rhain ar eu hiechyd. Derbyniwyd fod 1,655 o aelwydydd yn ddigartref yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2011, ac roedd 635 o’r aelwydydd hyn yn cynnwys plant dibynnol (StatsCymru 2011). Er bod nifer yr aelwydydd a dderbyniwyd yn ddigartref wedi bod yn lleihau ar y cyfan ers 2006, dengys y ffigurau hyn bod digartrefedd yn parhau’n broblem sylweddol yng Nghymru a bod nifer sylweddol o blant yn wynebu digartrefedd. Dylid sicrhau bod gan bob teulu digartref do uwch eu pennau. Yn ôl Deddf Tai 1996, mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu cymorth i bobl sy’n ddigartref yn anfwriadol, sy’n gymwys am gymorth neu sy’n perthyn i’r categori angen blaenoriaethol, sy’n cynnwys aelwydydd â phlant dibynnol (Yr Archifau Gwladol 1996). Er nad yw mor eithafol â bod heb do uwch eich pen, gall byw mewn hostel neu lety dros dro arall achosi cryn her i blant a phobl ifanc. Gall yr heriau hyn yn aml gynnwys problemau fel diffyg cyfleoedd chwarae, dim lle i wneud gwaith cartref, rhannu cegin neu ofod byw o bosibl, amddifadedd sylweddol, iselder a gorbryder, dod i gysylltiad â chamddefnyddwyr sylweddau, ymddygiad treisgar, ymosodol a bygythiol a llawer o sefyllfaoedd eraill a all achosi straen a bygwth diogelwch personol. Nid oes sicrwydd y bydd llety hostel yn yr un ardal â chyn breswylfa’r teulu ac felly gall y teulu, gan gynnwys y plant, wynebu anawsterau wrth geisio defnyddio’u rhwydweithiau cymdeithasol a chymorth ynghyd â gwasanaethau fel meddygfeydd teulu ac ysgolion. Hefyd, gall teuluoedd digartref sydd â chyfeiriad dros dro wynebu anawsterau wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd a dioddef gwahaniaethu. Felly, mae effaith y rhain gyda’i gilydd a llawer o ganlyniadau eraill digartrefedd ar blant a phobl ifanc yn ymestyn llawer ymhellach na newidiadau i’w hamgylcheddau uniongyrchol yn unig; gall effeithio’n fawr ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, a gall hynny effeithio ar bron bob agwedd arall ar eu bywydau. Mae plant a phobl ifanc mewn teuluoedd sy’n ffoi rhag trais domestig yn canfod eu hunain yn aml yn byw mewn cyd-destun digartrefedd a bod ganddynt anghenion sylweddol nad Katie Mack


ydynt o reidrwydd wedi’u cyfyngu i ganlyniadau digartrefedd (Webb et al 2001), ond hefyd o ganlyniad i’r trais domestig. Gall grwpiau eraill o blant a phobl ifanc ddigartref hefyd fod ag anghenion penodol sy’n gysylltiedig â’r hyn sydd wrth wraidd eu digartrefedd. Mae’r rhain yn cynnwys plant ceiswyr lloches digartref, ffoaduriaid a Sipsiwn a Theithwyr, plant a phobl ifanc sy’n gadael gofal a nifer o grwpiau eraill o blant a phobl ifanc. Er ei bod yn hollbwysig ystyried yr anghenion penodol hyn, ni fyddwn yn eu disgrifio yma. Fodd bynnag, bydd llawer o’r materion sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc ddigartref yn realiti i’r holl grwpiau agored i niwed ‘arbenigol’ hyn. Mae nifer o ymchwilwyr wedi canfod fod asthma yn llawer mwy cyffredin ymysg plant digartref. Dywedodd Weinreb et al (1998) fod gwahaniaethau sylweddol yn yr achosion o ‘froncitis/ brest dynn/ pyliau o asthma’ rhwng plant digartref a phlant o gartrefi incwm isel. Mewn 3 lloches i’r digartref, canfuwyd fod asthma yn fwy cyffredin ymysg plant digartref nag unrhyw boblogaeth baediatrig arall y ceir cofnodion ar eu cyfer (Grant et al 2007). Dim ond plant â symptomau a oedd yn gyson ag asthma ‘cymedrol i ddifrifol’ a oedd wedi’u cynnwys yn y boblogaeth a astudiwyd ar gyfer yr astudiaeth hon, ac felly gallai union nifer yr achosion o asthma fod wedi bod hyd yn oed yn uwch. Canfuwyd nifer uchel o achosion o asthma ymysg plant digartref hefyd mewn astudiaethau gan McLean et al (2004) a Cutuli et al (2010), a nodwyd lefelau o 39.8% a 27.9% gan y naill a’r llall. Gallai’r nifer uchel o achosion ddeillio o amodau mewn hostelau a llety dros dro a allai gynnwys sawl ffactor a allai sbarduno asthma. Mae mwy o berygl y bydd plant digartref yn dioddef cyflyrau ar wahân i ddim ond asthma; cafwyd gwahaniaethau sylweddol yn nifer yr achosion o rai heintiau rhwng plant digartref a phlant o gartrefi incwm isel (Raoult et al 2001, Weinreb et al 1998). Roedd 30% o blant digartref o gymharu â 19% o blant o gartrefi incwm isel wedi dioddef haint yn y glust yn ystod un flwyddyn, a dywedodd 37% o blant digartref eu bod wedi dioddef twymyn yn y mis cyn yr astudiaeth, o gymharu â 27% o blant o gartrefi incwm isel (Weinreb et al 1998). Datgelodd astudiaeth arall fod plant digartref 30% yn fwy tebygol o gael eu hanfon i’r ysbyty gyda heintiad y llwybr wrinol a 25% yn fwy tebygol o gael heintiad y llwybr anadlu uchaf na grŵp cymhariaeth statws economaidd-gymdeithasol is (Frencher et al 2010). Datgelodd Victor et al (1989) hefyd fod plant digartref yn fwy tebygol o gael eu hanfon i’r ysbyty gyda haint na phlant lleol, canfyddiad a oedd yn bwysig iawn yn ystadegol. Mewn astudiaeth o 78 o blant a oedd yn byw mewn un lloches i’r digartref yn Massachusetts, gwelwyd fod 8 o’r plant yn cario Giardia lamblis, pathogen asymptomatig, a chanfuwyd fod un plentyn yn dioddef enteritis Giardia sy’n achosi dolur rhydd a chamsugniad (Bass et al 1990). Lledaenir y pathogen hwn drwy’r llwybr ymgarthol-geneuol; felly gallai’r achosion cynyddol ddeillio o amodau byw mewn lloches gymunol ac arferion hylendid gwael posibl. Gallai plant digartref fod mewn mwy o berygl o afiechydon heintus ac afiechydon eraill oherwydd nad ydynt wedi cael eu holl frechiadau, fel y canfuwyd mewn 15% o blant digartref mewn astudiaeth gan Bass et al (1990). Yn yr un modd, roedd 27.2% o 265 o blant digartref a fynychodd glinig paediatrig yn Efrog Newydd wedi gohirio eu brechiadau o gymharu â dim ond 8% o blant a oedd yn byw mewn tai yn yr un clinig (Alperstein et al 1988). Roedd y nifer a gafodd eu himiwneiddio hefyd yn isel ymysg plant a oedd yn byw mewn llochesau ar gyfer menywod a oedd wedi dioddef trais domestig, sef isgrŵp o blant digartref (Webb et al 2001). Katie Mack


Datgelodd astudiaeth o 25,312 o blant 0.1 i 9 oed gan Frencher et al (2010), bod plant digartref yn llawer mwy tebygol o gael eu hanfon i’r ysbyty oherwydd anaf na phlant statws economaidd-gymdeithasol isel ac roedd niferoedd yr anafiadau anfwriadol 13% yn uwch ymysg plant digartref. Yn yr un astudiaeth, canfuwyd fod plant bach 3 a 4 oed digartref mewn mwy o berygl o gael eu hanfon i’r ysbyty ar ôl disgyn oddi ar ddodrefn, a allai fod yn arwydd o’r anhawster o fagu plant yng nghyd-destun digartrefedd. Mewn astudiaeth o 5439 o blant gan Coker et al (2009), datgelwyd fod plant digartref yn llawer mwy tebygol o gael anaf difrifol yn y 12 mis blaenorol. Ni sylwodd Richman et al (1991) ar unrhyw wahaniaeth rhwng cyfradd damweiniau plant digartref a phlant â chartrefi, ond roedd y mathau o anafiadau’n amrywio rhwng y grwpiau - gyda phlant digartref yn dioddef dwywaith gymaint o losgfeydd ac anafiadau sgaldio a phlant â chartrefi yn fwy tebygol o ddioddef cleisiau, ysigiadau neu doriadau; sy’n egluro’r cyfraddau anfon i’r ysbyty uwch ymysg plant digartref yn astudiaeth Frencher et al (2010) o bosibl. Ar y llaw arall, mewn astudiaeth o 627 o blant, canfuwyd fod nifer y damweiniau mewn blwyddyn a oedd angen gofal meddygol yn gyfartal wrth gymharu plant digartref a phlant o gartrefi incwm isel (Weinreb et al 1998). Yn ddiddorol, roedd 39.7% o blant digartref wedi ymweld ag Unedau Damweiniau ac Achosion Brys ddwywaith neu fwy o gymharu â 19.5% o blant o gartrefi incwm isel, a oedd yn arwyddocaol iawn gan ddangos bod plant digartref yn defnyddio Unedau Damweiniau ac Achosion Brys yn amlach na phlant o gartrefi yn y sampl hwn, er nad oeddynt yn dioddef mwy o ddamweiniau, sy’n awgrymu eu bod yn dioddef niferoedd cynyddol o achosion brys meddygol eraill. Bu astudiaeth ddiddorol yn UDA yn edrych ar sut roedd digwyddiadau bywyd negyddol a ffactorau risg eraill mewn tlodi plentyndod difrifol yn effeithio ar lefelau cortisol yn y bore plant digartref 4 i 7 oed. Hormon yw cortisol a ganfyddir yn y corff sy’n helpu i reoleiddio lefelau glwcos, gall atal y system imiwnedd a gall hefyd helpu'r corff i ymateb i straen. Canfyddir lefelau uwch o gortisol yn y corff yn y bore fel rheol, ac mae’n gostwng gydol y dydd. Gall hefyd gael ei ryddhau mewn ymateb i straen, ond mae’n dychwelyd i’w lefel sylfaenol o fewn dim fel arfer. Mae straen plentyndod cronig yn gallu ymyrryd â’r ffordd arferol o reoli cortisol, gyda lefelau sylfaenol rhai plant yn uwch. Mae’r corff yn cynhyrchu llawer iawn gormod o gortisol ac mae hyn wedi cael ei gysylltu â chanlyniadau iechyd meddyliol a chorfforol gwael amrywiol. Yn yr astudiaeth gan Cutuli (2010), dangoswyd fod gan blant a oedd wedi dioddef mwy o ddigwyddiadau oes negyddol lefelau cortisol uwch yn y bore, ond nid oedd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol yn lefelau cortisol yn y bore wrth gymharu perygl economaidd-gymdeithasol y plant. Awgryma hyn nad yw bod â llai o adnoddau teuluol ar ei ben ei hun yn achosi i blant digartref fod â lefel gortisol uwch, ond mae bod yn ddiamddiffyn i ddigwyddiadau bywyd negyddol fel trais yn y cartref, y rhoddwr gofal yn camddefnyddio sylweddau neu’r plentyn yn cael ei wahanu oddi wrth y rhoddwr gofal yn cynyddu lefel y cortisol yn sylweddol yn y bore. Felly, yn hytrach na bod pob plentyn digartref yn fwy tebygol o fod â lefelau cortisol uwch, ymddengys bod digartrefedd yn golygu bod plant mewn mwy o berygl o fod yn ddiamddiffyn i ddigwyddiadau bywyd negyddol sy’n achosi i lefelau cortisol gynyddu. Gallai’r lefelau cortisol uwch achosi i’r system imiwnedd beidio â gweithio cystal (McEwan 1998) a allai egluro rhai o’r canlyniadau a drafodwyd yn gynt, fel cyfraddau heintiau uwch ymysg plant digartref. Dengys y canlyniadau hyn nad yw rhai o’r canlyniadau iechyd a welir mewn plant digartref yn deillio o effaith y digartrefedd ei hun o reidrwydd, ond o effaith y ffactorau a arweiniodd at ddigartrefedd. Mae gwahaniaethu rhwng y ffactorau hyn yn her enfawr i ymchwilwyr. Katie Mack


Gall y straen a achosir gan ddigartrefedd effeithio ar niwroddatblygiad plant (Kagan 2004), gan gynnwys oedi yng ngweithgarwch rhesymu y llabed flaen a chynyddu gweithgarwch arall yr ymennydd, gan arwain at adweithiau emosiynol, gorgynhyrfu cyson a sensitifedd. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod gan blant digartref fwy o namau gwybyddol na phlant â chartrefi o gefndiroedd tebyg (Parks et al 2007). Fodd bynnag, nododd astudiaeth o 33 o blant digartref nad oedd unrhyw ddiffygion sgiliau motor gweledol, canfyddiad gweledol neu gydgysylltu motor (Schultz-Krohn a Richardson 2002). Gwelodd Yu (2008) fod sgoriau gwybyddol llafar yn llawer uwch ymysg plant â chartrefi na phlant digartref ond bod sgiliau di-eiriau yr un fath yn y ddau grŵp. O ran oedi yn natblygiad y plant, roedd bron i hanner y plant mewn grŵp o 81 o blant digartref wedi profi o leiaf un achos o oedi yn eu datblygiad ac roedd 33% wedi cael dau brofiad o oedi neu fwy (Bassuk et al 1986). Yr oedi mwyaf cyffredin yn natblygiad y plant oedd caffael iaith a thwf personol a chymdeithasol. Dangosodd astudiaeth arall gan Bassuk a Rosenberg (1990) ganlyniadau tebyg gyda 54% o’r plant digartref a astudiwyd yn dangos un achos o oedi yn eu datblygiad neu fwy. Ni ddatgelodd astudiaeth arall unrhyw wahaniaethau rhwng y ddau grŵp, canfyddiad annisgwyl i’r ymchwilwyr (Garcia-Coll Et al 1998). Gallai hyn fod oherwydd bod y plant digartref a’r plant o gartrefi incwm isel yn rhannu llawer o ffactorau risg ar wahân i statws tai, fel bod â rhieni sengl, rhieni yn camddefnyddio sylweddau a thrais. Mae’r rhain eto’n ffactorau risg a allai achosi cynnydd yn lefelau cortisol cefndirol, a all arwain at ganlyniadau iechyd negyddol. Dangosodd Weinreb Et al (2002) fod plant digartref yn fwy tebygol o fod yn newynog na phlant o gartrefi incwm isel. Gall newynu effeithio’n niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol plant. Yn yr astudiaeth o 308 o blant, roedd gan y plant â newyn difrifol gyfraddau uwch o salwch cronig a thrallod seiciatrig. Roedd gan rieni plant mewn teuluoedd lle’r oedd ‘newyn difrifol’ sgoriau gorbryder ddwywaith yn uwch na sgôr rhieni plant nad oeddynt yn newynog, a gallai’r gorbryder cynyddol hwn hefyd effeithio’n niweidiol ar ofal eu plant. Mewn astudiaeth arall o blant digartref, datgelwyd fod cyfraddau llawer uwch o ymddygiadau cysylltiedig ag anhwylderau pwysau fel ymprydio (24.9% o gymharu â 10.2% yn y grŵp plant â chartrefi) a’r defnydd o bils deiet (12.6% o gymharu â 4.1%). Gallai hyn fod yn wir oherwydd bod ymddygiadau fel hyn yn rhoi synnwyr o reolaeth dros fwyd i blant nad oes ganddynt reolaeth dros ffynonellau eu bwyd (Fournier et al 2009) ac agweddau eraill ar eu bywydau’n aml. Dangosodd astudiaeth gan Fierman et al (1991) fod patrwm ymysg plant digartref o beidio â chyrraedd eu llawn dwf o ran taldra ond bod eu cymhareb pwysau-taldra yn gyffredin, sy’n nodi eu bod yn wynebu straen maethol cymedrol cronig. Fodd bynnag ni welwyd patrwm ymysg plant digartref o bwysau isel a thaldra cyffredin, sy’n gallu golygu diffyg maeth acíwt. Roedd y canfyddiadau hyn yn gyson hyd yn oed wrth ystyried effeithiau ffactorau amrywiol, gan gynnwys pwysau geni, salwch cronig yn y plentyn, rhyw, ethnigrwydd, oed yn rhoi genedigaeth a mamau â hanes o gamddefnyddio cyffuriau. Drwy gymharu’r plant hyn â phlant o gartrefi incwm isel, gwelwyd fod gan blant digartref ganraddau pwysau-taldra llawer is, tuedd a allai ddeillio o’r duedd i blant o gartrefi incwm isel fod yn y categori ‘gordew’; tuedd na chafodd ei hadlewyrchu yn y grŵp digartref. Gall diffyg maeth arwain at nifer o broblemau iechyd, gan gynnwys anaemia diffyg haearn, gyda lefelau cyn uched â 50% wedi’u nodi (Wiecha et al 1991). Mae’r ffigur hwn yn dangos Katie Mack


bod anaemia bron i ddwywaith mor gyffredin ymysg plant digartref nag ymysg grwpiau cymhariaeth â chartrefi neu’r poblogaethau cyfeirio safonol (Y Pwyllgor ar Wasanaethau Iechyd Cymunedol 1996). Mae pydredd dannedd yn un o effeithiau eraill deiet gwael. Datgelodd astudiaeth gan DiMarco et al (2009) fod 31% o blant dros 3 oed â thyllau deintyddol amlwg wrth gael eu harchwilio. Yn yr astudiaeth, datgelwyd fod gan fwy na hanner y plant oedran ysgol bydredd y geg, a fyddai’n arwain at dyllau pe na baent yn cael eu trin. Gallai’r nifer uchel o achosion ddeillio o ddiffyg calsiwm yn enamel y dannedd, sy’n gyffredin ymysg poblogaethau incwm isel, bwyta llawer o fwydydd yn llawn siwgr a bod yn llawer llai tebygol o fod wedi gweld y deintydd yn y 12 mis blaenorol o gymharu â phlant a arferai fod yn ddigartref neu blant nad ydynt wedi bod yn ddigartref erioed (Menke a Wagner 1997). Mae effeithiau digartrefedd yn llawer mwy pellgyrhaeddol na niweidio iechyd corfforol, gan amharu ar iechyd meddwl hefyd. Mae llawer o astudiaethau yn defnyddio’r Rhestr Wirio Ymddygiad Plant (CBCL) i bennu a oes angen ymyrraeth glinigol bellach ar blentyn ar gyfer ymddygiad heriol. Mewn rhai astudiaethau nodir bod plant digartref yn fwy tebygol o ddangos ymddygiadau sy’n niweidiol i eraill, fel ymddwyn yn ymosodol, torri rheolau a diffyg canolbwyntio. Datgelodd Menke (1998) fod bechgyn digartref yn llawer mwy tebygol o fod â sgoriau sydd yn yr ystod glinigol yn hytrach na’r sampl normadol, mewn perthynas ag ymddygiad sy’n niweidiol i eraill. Datgelodd sampl arall fod gan blant lefelau cyffredin o ymddygiadau sy’n niweidiol i eraill, ond eu bod yn fwy tebygol o fod â lefelau uwch o ymddygiad a oedd yn niweidiol iddynt yn bersonol fel iselder, gorbryder a chiliad (Buckner et al 1999). Daeth astudiaethau eraill i’r casgliad bod ymddygiadau sy’n niweidiol i eraill neu i’r plentyn ei hunan yn llawer mwy cyffredin ymysg plant digartref (Cumella et al 1998, Masten et al 1993). Datgelodd Masten et al (1993) fod nifer y plant digartref â sgoriau CBCL yn yr ystod glinigol 200% yn uwch na’r gwerth normadol disgwyliedig. Datgelodd Yu (2008) fod anhwylderau ymddygiad aflonyddgar bedair gwaith yn fwy cyffredin ymysg plant digartref na phlant â chartrefi. Gallai’r ymddygiadau hyn ddeillio o’r plentyn yn ymateb i’r straen o ddigartrefedd ac unrhyw drallod emosiynol y mae digartrefedd yn ei achosi i’w roddwr gofal, sy’n anodd ei guddio. Mae’n bosibl hefyd y gallai nodweddion anodd y plant fod wedi bodoli cyn i’r teulu fod yn ddigartref, a allai fod wedi rhoi mwy o bwysau ar y rhiant a chyfrannu at wneud y teulu’n ddigartref (Haber a Toro 2004). Mae iselder yn effeithio ar blant digartref yn amlach na phlant â chartrefi: Mewn astudiaeth gan Menke (1998), bodlonodd 13% o’r plant y meini prawf ar gyfer iselder clinigol, sy’n uwch na’r 1-9% a ddisgwylir mewn poblogaeth arferol. Hefyd, sylwodd Menke a Wagner (1997) fod y gyfran o blant digartref a phlant a arferai fod yn ddigartref oedd â sgôr yn yr ystod glinigol ar gyfer iselder yn llawer uwch na’r boblogaeth normadol. Mewn astudiaeth arall gan Bassuk et al (1986), ar sail Dangosydd Iselder Plant (CDI), roedd angen gwerthusiad seiciatrig pellach ar 54% o’r plant. Mae Bebbington et al (2004) yn awgrymu y gallai plant sy’n cael eu fictimeiddio, a allai gynnwys digartrefedd, fod mewn mwy o berygl o ddatblygu seicosis, sef colli cysylltiad â realiti, yn ddiweddarach yn eu bywydau. O ran ymdopi â straenachoswyr, dengys tystiolaeth fod gan blant digartref wahanol strategaethau ymdopi i blant a arferai fod yn ddigartref a phlant nad ydynt wedi bod yn ddigartref erioed, gyda llawer llai o blant digartref yn nodi cymorth cymdeithasol fel strategaeth ymdopi. O’r rhai a ddywedodd eu bod yn defnyddio cymorth cymdeithasol, dim Katie Mack


ond 49% o blant digartref ddywedodd eu bod yn gallu siarad â’u rhieni am eu problemau, o gymharu â phob plentyn nad oeddynt wedi bod yn ddigartref erioed (Menke 2000). Datgelodd Masten et al (1993) fod llawer llai o blant digartref yn dweud bod ganddynt ffrind agos. Yn ddiddorol, datgelodd Harpaz-Rotem et al (2006) nad oedd cysylltiad agos rhwng problemau emosiynol plant a statws tai y fam, sy’n awgrymu nad digartrefedd sydd wrth wraidd problemau emosiynol plant; mae’r materion sydd wedi cyfrannu at y digartrefedd hefyd yn ffynonellau trallod emosiynol i’r plentyn fwy na thebyg. Ni ddangosodd pob astudiaeth fod digartrefedd yn niweidiol i ymddygiad plant. Datgelodd Bassuk et al (1986) fod niferoedd llai na’r cyfartaledd o broblemau cysgu, anawsterau llefaru ac ofni pethau newydd yn eu sampl o blant digartref. Daeth Masten et al (1993) i’r casgliad nad oedd llawer o wahaniaeth ar y cyfan wrth gymharu ymddygiad plant digartref a phlant o gartrefi incwm isel, sy’n awgrymu bod plant mewn tlodi yn wynebu continwwm o risgiau sylfaenol, gyda phlant digartref yn dioddef fwyaf. I gloi, mae plant digartref mewn perygl cynyddol o ddioddef canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol negyddol o gymharu â samplau normadol, ac o’u cymharu â phlant o gartrefi incwm isel mewn sawl achos. Fodd bynnag, profwyd nad yw hyn bob amser yn wir a bod plant digartref ym mhen pellaf y continwwm perygl sy’n wynebu’r holl blant sy’n byw yng nghyd-destun tlodi. Mae canlyniadau iechyd negyddol yn cynnwys asthma, heintiau’r llwybr anadlol, heintiad y llwybr wrinol, anaemia diffyg haearn a cheudodau deintyddol. Gall oedi sylweddol wrth frechu gyfrannu at y perygl hwn. Roedd plant digartref yn fwy tebygol o gael eu hanfon i’r ysbyty oherwydd anafiadau difrifol, gan gynnwys llosgiadau a sgaldio ac yn gorfod ymweld ag Unedau Damweiniau ac Achosion Brys yn amlach na grwpiau cymhariaeth plant â chartrefi. Er bod llawer o amrywiaeth, ymddengys bod digartrefedd yn cynyddu’r perygl o fod yn ddiamddiffyn i ddigwyddiadau bywyd negyddol, a all effeithio ar niwroddatblygiad ac achosi oedi yn natblygiad y plentyn a lefelau cynyddol o ymddygiadau sy’n niweidiol i eraill neu i’r plentyn ei hunan fel ymddygiad ymosodol neu iselder. Gellir osgoi rhai o’r problemau iechyd sy’n wynebu plant digartref drwy ofal iechyd ataliol da, ac ymddengys bod llawer yn deillio o ffactorau perygl negyddol eraill sy’n deillio o dlodi plant yn ogystal â digartrefedd. Mae hyn yn golygu y dylid canolbwyntio ar godi’r plant hyn a’u teuluoedd o dlodi er mwyn osgoi llawer o’r problemau iechyd sy’n wynebu plant digartref ar hyn o bryd. Article produced by Alicia Regan Cardiff Univeristy, school of medicine

Katie Mack


Cyfeiriadau     

 

  

 

Alperstein, G. Et al. 1988. Health problems of homeless children in New York City. American Journal of Public Health 78 (9) tud. 1232-1233. Bass, J.L. et al. 1990. Pediatric problems in a suburban shelter for homeless families. Pediatrics 85 (1) tud. 33-37. Bassuk, E.L. a Rosenberg, L. 1990. Psychological characteristics of homeless children and children with homes. Pediatrics 85 (3) tud. 257-261. Bassuk, E.L. et al.1986.Characteristics of sheltered homeless families. American Journal of Public Health 76 (9) tud. 1097-1101. Bebbington, P.E. et al. 2004. Psychosis, victimisation and childhood disadvantage: Evidence from the second British National Survey of Psychiatric Morbidity. The British Journal of Psychiatry 185 tud. 220-226. Buckner, J.C. Et al. 1999. Homelessness and its relation to the mental health and behaviour of low income school-age children. Developmental Psychology 35 (1) tud.246-257. Coker, T.R. et al. 2009. Prevalence, characteristics, and associated health and health care of family homelessness among fifth-grade students. American Journal of Public Health 99 (8) tud. 1446-1452 Pwyllgor ar Wasanaethau Iechyd Cymunedol. 1996. Health needs of homeless children and families. Pediatrics 98 tud.789-791 Cumella, S. Et al. 1998. The mental health of children in homeless families and their contact with health, education and social services. Health and Social Care in the Community 6 (5) tud. 331-342. Cutuli, J.J. 2010. Asthma and behaviour in homeless 4 to 7-year olds. Pediatrics 125 (1) tud. 145-151. Cutuli, J.J.2010.Cortisol function among early school-aged homeless children. Psychoneuroendocrinology 35 tud.833-845. DiMarco, M.A. et al. 2009.The pediatric nurse practitioner’s role in reducing oral health disparities in homeless children. Journal of Pediatric Health Care tud.109116. Fierman, A.H. et al. 1991. Growth delay in homeless children. Pediatrics 88 (5)tud. 918-925. Fournier, M.E. et al. 2009. A comparison of weight-related behaviours among high school students who are homeless and non- homeless. Journal of School Health 79 (10) tud. 466-473. Frencher, S.K. et al. 2010. A comparative analysis of serious injury and illness among homeless and housed low income residents of New York City. Journal of Trauma, Injury, Infection and Critical Care 69 (4) tud 191-199. Garcia- Coll, C. Et al. 1998. The developmental status and adaptive behaviour of homeless and low-income housed infants and toddlers. American Journal of Public Health 88 (9) tud. 1371-1374. Grant, R. et al. 2007. Asthma among homeless children in New York City: An update. American Journal of Public Health 97 (3) tud.448-450

Katie Mack


   

         

Haber, M.G. a Toro, P.A. 2004. Homelessness among families, children and adolescents: An ecological- developmental perspective. Clinical Child and Family Psychology Review 7 (3) tud. 123-163. Harpaz-Rotem, H. Et al. 2006. The mental health of children exposed to maternal mental illness and homelessness. Community Mental Health Journal 42 (5) TUD. 437-448. Kagan,R. 2004. Rebuilding attachments with traumatised children: Healing from losses, violence, abuse and neglect. The Haworth Maltreatment and Trauma Press. Masten, A.S. et al. 1993. Children in homeless families: Risks to mental health and development. Journal of Consulting and Clinical Psychology 61 (2) tud. 335-343. Menke, E.M. 1998. The mental health of homeless school-aged children. Journal of Child and Adolescent Psychiatric Nursing 11 (3) tud. 87-98. Menke, E.M. 2000. Comparison of the stressors and coping behaviours of homeless, previously homeless and never homeless poor children. Issues in Mental Health Nursing 21. tud. 691-710. Menke, E. M. a Wagner, J.D. 1997. A comparative study of homeless, previously homeless and never homeless school-aged children’s health. Issues in Comprehensive Pediatric Nursing 20 tud.153-173. McEwen, B.S. 1998. Seminars in Medicine of the Beth Israel Deaconess Medical Center: Protective and Damaging Effects of Stress Mediators. The New England Journal of Medicine 338 (3) tud. 171-179. Parks, R. et al. 2007. A systematic review of cognition in homeless children and adolescents. Journal of the Royal Society of Medicine 100 tud.46-50 Raoult, D. Et al. 2001. Infections in the homeless. The Lancet Infectious Diseases 1 tud.77-84. Richman, S. Et al. 1991. Use of acute hospital services by homeless children. Public Health 105 tud.297-302 Schultz-Krohn, W. a Richardson, P.K. 2002. Visual motor skills in homeless children. Occupational Therapy in Healthcare 16 (4) tud.15-28. Yr Archifau Gwladol. 1996. Housing Act 1996 [Online] Ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1996/52/contents [Cyrchwyd 10 Mehefin 2011]. Y Cenhedloedd Unedig. 1990. Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol. Victor, C.R. et al. 1989. Use of hospital services by homeless families in an inner London health district. British Medical Journal 299 tud. 725-727. Weinreb, L. Et al. 1998. Determinants of health and service use patterns in homeless and low income housed children. Pediatrics 102 (3) tud. 554-562. Llywodraeth Cynulliad Cymru. 2004. Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau. Llywodraeth Cynulliad Cymru. StatsCymru. 2011. Acceptances by Priority Need [Ar-lein] Ar gael yn http://www.statswales.wales.gov.uk/ TableViewer/tableView.aspx? ReportId=30652 [Cyrchwyd 23 Mehefin 2011].

Katie Mack


 

Webb, E. et al. 2001. The health of children in refuges for women victims of domestic violence: cross sectional descriptive survey. British Medical Journal 323 (7306) tud. 210-213. Wiecha, J.L. et al. 1991. Nutrition and health services needs among the homeless. Public Health Reports 106 (4) tud.364- 374. Yu, M. 2008. A comparison study of psychiatric and behaviour disorders and cognitive ability among homeless and housed children. Community Mental Health Journal 44 (1) tud.1-10. Ziesemer, C. Et al. 1994. Homeless children: Are they different from other lowincome children? Social Work 39 (6) tud. 658-668.

Katie Mack


Achub y Plant Children's Health