Page 1

STEPASIDE PLEASANT VALLEY & WISEMAN’S BRIDGE


Pam Stepaside? Roedd pobl yn rhwym o geisio esbonio enw mor brofoclyd o anghyffredin a Stepaside, a’r gred yn lleol yw bod Oliver Cromwell ar ei daith i Benfro ym 1648 wedi gorchymyn i’w ddynion gamu i’r naill ochr yn y fan hon er mwyn cael tamaid i’w fwyta. Serch hynny, am nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r traddodiad hwnnw - sydd wedi’i ddylunio ar arwydd tafarn erbyn hyn gyda llaw - mae’n ddoeth peidio a’i gymryd yn ormod o ddifrif. Roedd dwy ddeiliadaeth o’r enw Stepaside yn bodoli ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif. Roedd y naill, ym mhlwyf Amroth eisoes yn rhan o Stad Cilgeti a’r llall yn Sant Ishel wedi’i hychwanegu ati tua 1795.

Awdurdodau Cynharach Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd yr ardal hon yn perthyn i is-adran Iarllaeth Penfro a adwaenid fel Coedrath. Cafodd ei henw o’r coetir a oedd yn nodwedd mor amlwg o ardaloedd Amroth, Sant Ishel, Cronwern a’r Eglwys Lwyd ers llawer dydd.

Stadau a Pherchnogion Tir Eiddo pwysig a adeiladwyd yn ystod yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg oedd Stad Cilgeti a’i chanolbwynt oedd T] Cilgeti. Trosglwyddwyd y Stad i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn ym 1706 ar briodas aeres, a’r teulu hwnnw a fu’n gyfrifol am fwyngloddio yn yr ardal. Daliwyd i ychwanegu at yr eiddo am gyfnod megis pan brynodd yr Arglwydd Milford Stepaside yn Sant Ishel.

Cilgeti Cafodd sawl adeilad ei enwi ar ôl y Stad - megis Melin Lechi Cilgeti a grybwyllir mor bell yn ôl a 1690, Glofa Cilgeti yn Stepaside a Gweithfeydd haearn Cilgeti. T] Cilgeti yn y pentref (Stepaside Inn erbyn hyn) oedd t] Rheolwr y Gweithfeydd Haearn. Roedd hyd yn oed wythien o lo o’r ï enw Cilgeti!

Plasty Cilgeti

Slate Mill Roedd y plasty hwn, a godwyd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg ar safle hen d], ac a newidwyd ac estynwyd yn ddiweddarach, yn gartref i’r teulu Philipps yn ystod y ddeunawfed ganrif. Mae’n debyg i’w gyflwr waethygu’n arw erbyn y 1830au serch hynny, a chafodd ei fwrw i lawr o’r diwedd tua chanol y ganrif. Mae t]r y belfedir neu’r hafdy - wedi goroesi.


Lle Mae Plwyfi’n Cwrdd Ar yr arfordir ar gyrion gorllewinol pellaf plwyf Amroth saif Pont Wiseman (a enwyd ar ôl Andrew Wiseman - Tirddaliwr ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg). Dechreuodd pentref Stepaside dyfu’n ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ychydig dros filltir o’r arfordir. Ynghanol prydferthwch naturiol y dyffryn, mae olion yma ac acw sy’n rhoi cipolwg i ni ar gyfnodau cynharach mewn hanes, megis y ffrwd a yrrai’r Felin Lechi ers The Belvedere llawer dydd, safleoedd hen adeiladau diwydiannol a chyfoeth o draddodiadau ac atgofion yn ogystal.

Cyfoeth Diwydiannol Saif Stepaside ar dir glo carreg, ac roedd glo’n cael ei gloddio yng nghoedwig Coedrath mor gynnar a’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, deuai’r prif ysgogiad i ddatblygu’r diwydiant oddi wrth y tirfeddianwyr lleol a oedd yn fodlon mentro’u harian a chynnig tir ar brydles. Mae mapiau’r Ordnans yn dangos amryw o hen byllau yn yr ardal i’r gogledd o’r pentref, ac yn ystod dwy os nad tair gwahanol adeg yn y gorffennol roedd glofa i’w chael o’r enw ‘Cilgeti’ (M.R.C. Price). Mae gwythiennau haearnfaen hefyd i’w cael yn lleol rhwng y gwythiennau glo. Gellir gweld y ddau fath o wythi’n glir yn y clogwyni rhwng Pont Wiseman ac Amroth.

Marchnata’r Glo Drwy Pleasant Valley neu Merrixton Valley y cludwyd y glo i Bont Wiseman ers llawer dydd i’w lwytho ar y cychod bach. Ceisiodd yr Arglwydd Milffwrd wella ar y trefniant hwn ym 1792 drwy adeiladu camlas rhwng Stepaside a Phont Wiseman. Yn anffodus, nid oedd hon - sef unig gamlas maes glo Sir Benfro - wedi’i hadeiladu’n ddigon da i allu dal lefel ddigonol o dd]r. Roedd lloc glo i’w gael ym Mhont Wiseman.

Deddf Rheilffordd a Harbwr Saundersfoot, 1829 Canlyniad y ddeddf hon oedd adeiladu harbwr a phrif lein fwnau o Thomas Chapel ac estyniadau i wasanaethu ardal Stepaside. Ym 1846 roedd cei gan Lofa Cilgeti ar brif lanfa Saundersfoot. Ceffylau a oedd yn tynnu’r dramiau cyn ailosod y lein ym 1874. Dechreuwyd defnyddio locomotif stem (y ‘Rosalind’ neu ‘Roslyn’) ar y lein hon o Bont Wiseman i Gilgeti ac roedd cwt pren a gweithdy ar ei chyfer yn Stepaside.

Cwmni Glo a Haearn Sir Benfro 1846 Dechreuwyd adeiladu yn Pleasant Valley ac agorwyd y Gweithfeydd Haearn ym 1849. Cloddiwyd y mwyn haearn o lefelydd yn y clogwyni rhwng Saundersfoot ac Amroth a’i


gludo ar hyd un o leiniau lleol y rheilffordd lle y cai haearn crai hefyd ei gludo i’w allforio o Saundersfoot. Ar ddiwedd eu hoes roedd y gweithfeydd haearn yn cynnwys dwy fwrnais chwyth, peiriannau chwythu, ffyrnau golosg, gweithdai ac odynau calch. Eto i gyd, symol iawn oedd eu llwyddiant: ni chafodd unrhyw haearn crai ei gynhyrchu ar ôl 1874 a daeth y gwaith i ben yn gyfan gwbl ym 1877. Cafodd y gweithdai eu defnyddio gan y pyllau glo lleol tan 1930.

Glofa Grove Agorwyd y pwll hwn er mwyn cyflenwi glo i’r Gweithfeydd ac wrth ei fod yn 640 troedfedd o ddyfnder, hwn oedd y pwll dyfnaf yng Nghymru i gael ei gloddio a llaw. Dechreuwyd ei ddefnyddio ym 1856 ac fe’i cysylltwyd a Lower Level Pit a rheilffordd danddaearol ym 1878.

Adeiladau Cofrestredig Cafodd y gweithfeydd haearn a glofa’r Grove eu rhestru’n Adeiladau Cofrestredig Gradd II ym 1982.

Ffowndri Woodside

Grove Pit

Gan ddefnyddio haearn o Weithfeydd Stepaside, roedd ffowndri David a’i Gwmni’n llunio castinau ar gyfer pyllau glo ynghyd ag olwynion dramiau, dalennau haearn bwrw at drwsio dramiau a ffyrnau domestig, gratiau a berwedyddion, cerrig beddau haearn bwrw a chastinau i Reilffordd Penfro a Dinbych-y-pysgod a Glanfa Fictoria yn Ninbych-y-pysgod. Mae rheiliau o Ffowndri Woodside i’w gweld ym Mhont Wiseman ac mewn mannau pellach i ffwrdd. Pan gaewyd y Ffowndri ym 1924, roedd yn cyflogi 10 o ddynion. Er i rai o’r bythynod a oedd yn gysylltiedig a’r gwaith oroesi, mae safle’r Ffowndri’i hunan erbyn hyn yn faes carafanau.

Gweithfeydd Briciau Castell Hean Cafodd y gweithfeydd briciau tân eu hagor tua 1840 wrth ochr Ffowndri Pont Wiseman, yn union y tu ôl i’r rheilffordd, drwy fanteisio ar y clai du a Wiseman’s Bridge orweddai o dan y gwythiennau glo. Cai ei gloddio yn Wilson’s Pit ac amryw o lefydd eraill. Roedd y briciau’u hunain - y gorau yn y wlad yn ôl pob sôn - yn cael eu cyflenwi i’r gweithfeydd haearn a chwsmeriaid eraill. Caewyd y gweithfeydd hyn o’r diwedd ym 1887.


Trên y Glowyr Cychwynodd hwn ym 1900 (M.R.C. Price). Cafodd yr atgof dilynol ei adrodd gan y ddiweddar Gwen Llewellyn, cyn-athrawes yn Ysgol Stepaside. Mae’n sôn am gyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Pan nad oedd gwaith i’w gael yn y pyllau lleol, byddai’r glowyr yn chwilio am waith mewn llefydd eraill yn enwedig Bonville’s Court. ‘Rhedai rheilffordd o Stepaside i Saundersfoot ac wrth ddod allan o’r ysgol, byddem ni’r plant yn gwylio’r injan a’i thramiau’n croesi’r heol ar waelod llwybr yr ysgol. Mr John Brinn oedd y gyrrwr cyntaf i mi ei gofio - hen ddyn annwyl a oedd yn arfer rhoi lifft i ni ar yr injan - neu’r Rosalyn fel byddem ni’n ei galw hi - mor bell a’r felin. Roedd wedi bod wrthi ers cyn toriad y wawr yn codi dynion o wahanol fannau ar hyd y trac - Stepaside, Y Felin a Phont Wiseman gan eu gadael wedyn, rwy’n credu, wrth waelod yr inclen yn Saundersfoot. Yna, yn y prynhawn, byddai’n eu codi eto ac yn gwneud yr un daith o’r pen arall. Roedd yn arferol gweld y glowyr yn dod adref o’r gwaith a’u hwynebau’n ddu. O’n cartref (sef Golden Grove), byddem ni’n gwylio’r injan, neu’r ‘armour’ yn dod ar hyd y trac islaw Pleasant Valley, ac wedyn yn rasio am y gorau i lawr y cae a thros y platfform i gwrdd a ‘nhad. Rwy hefyd wedi teithio ar yr injan i Saundersfoot, a thipyn o wefr oedd cael mynd drwy’r twnel - ac roedd yn ddigon i hala ofn ar blentyn bach hefyd, er na allen ni fyth a bod mewn perygl gyda nhad yno’.

Adegau da a Gwael Roedd hi’n anodd codi’r glo’n aml. Er bod y disgwyl yn fawr pan ailagorwyd Glofa Cilgeti ym 1935, bu’n rhaid i’r perchnogion ei chau unwaith eto yn Chwefror 1939 am fod y gwythiennau wedi’u hollti. Roedd y gwaith yn y pyllau eraill wedi dod i ben erbyn mis Awst a chaewyd y rheilffordd ychydig o amser yn unig ar ôl ei hadnewyddu. (M.R.C. Price). Mae’n debyg mai yn lefel y Wood y codwyd glo am y tro olaf - sef hen bwll a ailagorwyd ym 1943 gan Mr Edgar Howells, Rheolwr chwarel Gellihalog er mwyn sicrhau tanwydd ar gyfer cynhyrchu gortaith patent o’r enw ‘Carblime’. Cai’r glo dros ben ei ddefnyddio i gynhyrchu ‘pele’ sef hen danwydd cefn gwlad a oedd yn gymysg o lo man a chlai. Mae’r lefel i’w chael mewn coedwig ryw hanner milltir i’r gogledd o Stepaside a chai’r ‘pele’ eu cymysgu ar safle’r gweithfeydd cerbydau presennol. Caewyd y busnes ym 1952.

Ffyrdd a Lonydd

Humpback Deuai teithwyr i’r pentref ar hyd Bridge yr ‘Old Welsh Road’ o gyfeiriad Little Kings Park, Longstone a’r Eglwys Lwyd ers llawer dydd. Ar ôl croesi afon Lud wrth y bont neu’r rhyd ai’r ffordd drwy Holloway, Ivy Chimney Lane a Kingsmoor tua Dinbych-y-pysgod. Er nad oes sicrwydd yngl]n a tharddiad yr enw, roedd tenement i’w gael o’r enw ‘Welsh Gate’ ym 1784. Yn ôl y traddodiad roedd tafarn i’w chael yn Camomile Back ers llawer dydd.


Yn sgîl arolwg o’r system ffyrdd, adeiladwyd darn o ffordd dyrpeg,gan gynnwys pont, fel rhan o’r ffordd o Sanclêr i Hobbs Point (yn cael ei defnyddio ym 1839). Hon oedd yr A477 yn ddiweddarach. Adeiladwyd ffordd osgoi i’r pentref yn ddiweddar. Codwyd nifer o dafarndai yn yr ardal i ddiwallu gofynion teithwyr a syched y gweithwyr diwydiannol megis - y Golden Grove, ger Grove Pit a’r New Ales Public House (Pont Wiseman). Yn ôl pob sôn, roedd y Miners Arms a wasanaethai weithwyr glofa Cilgeti’n lle enwog am ymladd. Safai’r Prince of Wales gyferbyn a hi a daliai honno i wasanaethu’r ardal tan ryw hanner can mlynedd yn ôl. Roedd tafarn o’r enw’r Angel i’w chael yn Stepaside hefyd ers llawer dydd. Sardis Congregational Chapel

Stepaside Methodist Church

Mannau Addoli Bydd yr Anglicaniaid yn addoli yn eglwysi plwyfi Amroth a Sant Ishel. Mae tuedd i gynnal angladdau lleol un ai’n Eglwys Amroth neu Gapel Sardis (ym mhlwyf Saint Ishel). Sefydlwyd yr eglwys annibynnol honno ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan godi’r capel cyntaf ym 1809 a’r un presennol ym 1825. Y mannau addoli o fewn cylch y pentref yw Elim (capel annibynnol a godwyd ym 1850 fel cangen o gapel Sardis) a chapel y Methodistiaid yn Pleasant Valley sy’n Wesleaidd fyth oddi ar uno’r Methodistiaid Cyntefig a Wesleaidd ym 1932.

Ysgol Stepaside Agorwyd yr hen Ysgol Fwrdd hon am y tro cyntaf yng Ngorffennaf 1877 gydag Oliver Skidmore yn brifathro. Codwyd Ysgol Gynradd Stepaside Former newydd yn ei lle yng Nghilgeti, ond daliwyd i School gyfeirio ati fel Ysgol Gynradd Stepaside.

Cyfleusterau’r Gorffennol Safai cafn dwr a ffynnon y pentref wrth ymyl capel Elim ers llawer dydd. Cafodd y rhain eu moderneiddio’n system dapiau a chysylltwyd y pentref a’r prif gyflenwad d]r ym 1939.


Tai’r Gorffennol Ymhlith y tai a godwyd i’r gweithwyr diwydiannol, y mae Brook Cottages - sef chwe uned gefn-wrth-gefn yn wreiddiol a drowyd yn dri bwthyn yn ddiweddarach gan yr awdurdod lleol. Un o nodweddion arddull adeiladwyr lleol oedd simnai fawr.

Deublygrwydd Ers llawer dydd, byddai trigolion Tramway Cottage, Pont Wiseman yn casglu gwichiaid ar y traeth a’u coginio a’u gwerthu a chafodd y lle ei lysenwi’n ‘The Winkle Works’ o ganlyniad.

Yr Ail Ryfel Byd Ym Mehefin 1943, cafodd y Prifweinidog Winston Churchill ac uchel swyddogion o’r Fyddin Brydeinig a lluoedd y Cynghreiriaid de yn y Wiseman’s Bridge Inn ar ôl gwylio ymarfer cyflawn ar gyfer y glanio yn Normandi.

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott SPARC © 2001

Stepaside welsh  
Stepaside welsh  
Advertisement