Page 1

LLANDUDOCH


Enwau Mae’r enw St.Dogmaels wedi ei gysylltu ag enw’r sant Cymreig Sant Dogfael. Sut felly y mae esbonio yr enw Llandudoch (sy’n cael ei ynganu fel Llan’doch yn lleol)? A oedd Dogfael a Tudoch yn ddau sant gwahanol? Neu a yw’r ddau enw yn cyfeirio at yr un sant neu sylfaenydd, gyda ‘mael’ (tywysog) a ‘tud’ (tir neu drigolion) yn cael eu hychwanegu i Dog/doch fel sydd yn Dog mael a Tud doch? Mae’n glir fod y lle yn bwysig iawn yn y cyfnod cyn y Normaniaid. Er enghraifft, yn 988 diffeithiwyd Llanbadarn, T]ddewi, Llanilltud Fawr, Llancarfan a Llandudoch: y rhain i gyd yn llefydd pwysig yn yr eglwys cyn-Normanaidd.

Cerrig Cerfiedig Y mae cerrig a chofgolofnau Cristnogol cynnar yn profi treftadaeth grefyddol Llandudoch. Mae tair carreg yn yr eglwys a dwy yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Y bwriad yw i arddangos y gweddill yn y cartws ar bwys yr Abaty. Yr enwocaf a’r cynharaf ohonynt yw carreg Sagranus (yn yr eglwys), sy’n dweud mewn ogam: SAGRAGNI MAQI CUNATAMI; ac mewn Lladin: SAGRANI FILI/CVNOTAMI, sy’n golygu (Carreg) Sagranus, mab Cunotamus. Adnabyddwyd hon gan V E Nash-Williams fel carreg o’r 5ed neu o ddechrau’r 6ed ganrif, y cyfnod pan oedd ymsefydlwyr o Iwerddon i’w gweld yn y rhan fwyaf o’r Sir Benfro fodern. Mae’r garreg wedi bod yn hynod bwysig i ysgolheigion fel allwedd i ddeall ysgrifen ogam.

Noddfa Yr oedd gan yr eglwys gyn-Normanaidd statws ‘clas’ - roedd yn sefydliad mynachaidd ac yn fam eglwys. Yr oedd ganddi hawliau noddfa. Efallai fod y ddwy groes o Bryngwyn, sy’n cael eu harddangos bellach yng Nghaerdydd, yn nodi ffiniau’r noddfa.

Normaniaid Ymosododd y Normaniaid ar Gemais tua 1100, ac fe sefydlodd Robert fitz Martin ei bencadlys yn Nanhyfer. Tua 1115, caniataodd ef i abaty Tiron, yng ngogledd Ffrainc i feddiannu clas Llandudoch a sefydlwyd priordy yno. Ym 1120 rhoddwyd statws abaty i’r priordy.

Perchenogaeth a dylanwad yr Abaty Cafodd Abaty Llandudoch statws fel mam fynachlog priordai Ynys B]r, Pill (Aberdaugleddau) a Glascarreg (yn Ne Iwerddon), ac roedd ganddi eiddo yng ngogledd Penfro a Dyfnaint hefyd. Yr oedd y grant i’r mynachod yn cynnwys Pysgodfa Llandudoch. Credir i’r dull o bysgota Sân gael ei gyflwyno gan y mynachod. Yn ôl traddodiad yr oedd yr Abad yn bendithio’r pysgotwyr ger Carreg-y-Fendith ar y Netpwl, cyn iddynt ddechrau ar eu tymor pysgota. Ail-ddarganfuwyd y garreg, a elwir hefyd yn Garreg Ateb, yn y 1960au. Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn ddiweddar yn afalau Llandudoch, sydd o bosib wedi goroesi ar ôl i’r mynachod eu plannu yn eu gerddi. Ar hyn o bryd, mae tri math yn adnabyddus yn Llandudoch: Afal Pren Caled, Afal Pren Glas ac Afal Pig Aderyn.


Ymweliad Pwysig Un noson o wanwyn ym 1188 daeth Archesgob Baldwin o Gaergaint a Giraldus Cambrensis (Gerallt Gymro) i Landudoch gyda mintai fawr yn cario baneri wedi eu haddurno â chroesau gwyn. Treuliasant noson yn yr Abaty, a chael eu diddanu gan yr Abad a’r Arglwydd Rhys o’r Deheubarth a Chastell Aberteifi. Y diwrnod canlynol fe bregethodd y ddau y Groes yn Aberteifi, gan recriwtio milwyr ar gyfer y croesgadau.

Diwedd y Cyfnod Mynachaidd Yn ystod teyrnasiad Harri VIII, caewyd yr abaty; rhoddwyd yr eiddo lleol ar les cyn ei werthu i John Bradshaw o Lanandras. Efallai fod ei blasty crand yn arfer sefyll ar yr un safle â’r ficerdy heddiw.

Dilyniant Credir bod adfeilion yr Abaty o fewn ffiniau’r clas hynafol. Cafodd hen eglwys y plwyf, a oedd yn sefyll ychydig i’r gogledd o neuadd yr eglwys bresennol, ei chyfnewid gan un arall ar safle yr eglwys bresennol , o bosib ar ôl i’r mynachdy gau. Adeiladwyd Eglwys Sant Tomos, y Ficerdy a’r Cartws, sydd yn adeiladau cofrestredig heddiw, tua chanol y 19eg ganrif. Rhoddwyd porth newydd yn yr eglwys ym 1925 ac ehangwyd y fynwent yn sylweddol.

Traddodiad Morwrol Y môr oedd y brif ffynhonnell a ddygai waith i bentref Llandudoch. Yr oedd pysgota penwaig yn bwysig iawn o’r Canol Oesoedd hyd at ganol y 18fed ganrif, ac fe barhaodd tan 1914, a châi penwaig wedi eu halltu eu hallforio i Iwerddon a Sbaen. Yn yr haf yr oedd pysgota eogiaid yn digwydd gan ddefnyddio rhwydau Sân. Tua 1884 yr oedd 21 cwch pysgota yn gweithio. Câi cerrig wedi eu rhifo eu tynnu ar y Netpwl cyn bob llanw er mwyn penderfynu ym mha drefn yr oeddent i bysgota’r pyllau. Yr oedd llawer o byllau eog adnabyddus, ond o ganlyniad i’r pyllau lenwi â llaid, mae’r rhan fwyaf o’r rhain wedi diflannu. Mae pedair trwydded ar gael yn awr, ond dim ond un cwch sydd bellach yn pysgota. Fe adeiladwyd y cychod pysgota Sân olaf yn Llandudoch yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Arferai tir gwyrdd y Netpwl gael ei orchuddio â physt pren a gâi eu cysylltu â bariau croes er mwyn hwyluso cywiro a sychu’r rhwydi pysgota ar ôl crafu a glanhau’r rhwydi. Gwelir rhai o hyd lle mae’r llwybr yn mynd i lawr tua’r Pinog. Yr oedd y Pinog a Glanteifon yn ardaloedd adeiladu llongau prysur. Ymhlith y llongau a adeiladwyd yn Llandudoch yn y 18fed a’r 19fed ganrif oedd y Providence, Swallow, Joan, Ecton, Aleona, Anne and Mary, Margaret and Anne, Farmer’s Lass, Peggy, Effort, Ann Jones, Eugenie, Frolic ac Eleanor, ac yr oedd rhai o’r rhain yn gychod pysgota, eraill yn sgwneri. Yr oedd hefyd gwerthu yn digwydd. Y mae trigolion yn cofio’r badlong Eliza Ann yn glanio ac yn cario llwyth o gwlwm (tanwydd: glo caled wedi ei gymysgu â chlai) ar gyfer perchenoges yr Hydd Gwyn, a byddai hi’n medru ei ailwerthu o’r dafarn. Yn Awst 1917 suddodd yr Eliza Ann i’r de ddwyrain o Oleudy’r Lizard ar ôl cael ei saethu gan long danddwr o’r Almaen.


Y mae tai yn y pentref wedi eu henwi ar ôl lleoedd y bu’r dynion yn ymweld â hwy yn eu llongau. Y mae trychinebau ar y môr yn cael eu Cychod Sân hadlewyrchu yn y mynwentydd. Ym 1789 boddwyd 27 o ddynion a bechgyn y pentref mewn trychineb ar y môr. Yr oedd y chwedl leol am Fôr Forwyn Pergrin, sydd â chofgolofn iddi gerllaw Glanfa Glanteifon erbyn hyn, yn ymwneud â’r digwyddiad. Yn ôl y chwedl, fe rybuddiwyd pysgotwr o’r enw Pergrin am y perygl gan fôr forwyn, ac fe achubwyd ei fywyd. Yr oedd y T] Tollau yn Aberteifi. Adeiladwyd T] Gwylio ger Tafarn y Fferi er mwyn i wylwyr y glannau gadw golwg ar y llongau a oedd yn cyrraedd yr harbwr. Darparwyd y bad achub ym 1849 gan danysgrifwyr lleol, ac fe’i rheolwyd gan y cyngor lleol. Fe’i lleolwyd ar Draeth Bach Popit, a physgotwyr Llandudoch, o dan arweiniad Capten George Bowen, oedd ei chriw. Dilynwyd y bad achub cyntaf gan sawl un arall gan gynnwys y John Stuart o 1865 i 1884, y Lizzy a’r Charles Leigh Clare o 1884 i 1905 a’r Elizabeth Austin rhwng 1905 a 1932. Ers 1971 badau achub gyda’r glannau a leolwyd yma. Y badau achub presennol yw’r Atlantic 75 a’r dosbarth ‘D’. Yn ôl Donald Davies, hanesydd lleol, achubwyd 189 o fywydau gan fadau achub rhwng 1849 a 1990. Bellach mae gorsaf bad Achub RNLI yn Popit ar bwys y Clwb Achub Bywyd.

Llandudoch (1910) - pentre pysgota


Anghydffurfiaeth Mae Bedyddwyr wedi addoli yn yr ardal ers 1706 pan ddechreuodd cyrddau pregethu mewn t] o’r enw Rhosgerdd. Ym 1745 adeiladwyd capel cyntaf Blaenwaun ar hen safle Rhosgerdd. Adeiladwyd capel newydd ym 1795-6. Yr oedd 237 o aelodau, yn cael eu denu o 14 o blwyfi. Teimlwyd bod angen capel Bedyddwyr yn y pentref ac adeiladwyd T]’r Bont ym 1813. Dilynwyd hwn gan Bethsaida, a agorwyd ym 1838 Yn y cyfamser ailadeiladwyd Blaenwaun ym 1885-6. Erbyn 1899 yr oedd 579 o aelodau. Mae Penuel Cemaes a Gerazim yn ferched i Blaenwaun. Y Capel Annibynnol cyntaf oedd Capel Degwel. Prynwyd bwthyn o’r enw Ffynnon Degwel gan y Parchedig Daniel Davies (gweinidog Capel Mair, Aberteifi) a newidiwyd hwn yn gapel ym 1828. Adeiladwyd festri ym 1935. Caewyd Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Seion, a gafodd ei gwblhau ym 1838, tua diwedd yr 20fed ganrif, ac mae’n ddau d] bellach. Sefydlwyd Capel Bedyddwyr Soan yng Nghipyn ym 1798 gan Evan Owen o Manian Fawr, ar dir Trec[n. Fe’i caewyd ym 1848 pan adeiladwyd Capel Bedyddwyr Gerazim ger Esgyr gerllaw.

Ysgolion Defnyddiwyd Capel y Methodistiaid a adeiladwyd tua 1790 yn ddiweddarach fel ysgol ddydd gan y Gymdeithas Genedlaethol. Er mai ysgol eglwys oedd hi, cafodd ei hadnabod fel ‘Ysgol y Capel’. Fe’i caewyd yn y 1950au, a hon bellach yw neuadd yr eglwys. Agorwyd yr ysgol bentref bresennol fel Ysgol Brydeinig ar Fehefin 21ain, 1869. Fe’i hadeiladwyd ar Parc y Bedo, gyda’r cerrig yn dod o chwarel Fferm Penrallt.

Melinau Ym 1537 yr oedd dwy felin wag a oedd yn eiddo i’r Abaty. Ailadeiladwyd un, a gwelir cyfeirio at ‘felin dd[r ]d mâl’ newydd ym 1619. Credir fod rhan ohoni yn y felin bresennol yn Llandudoch. Adferwyd Y Felin mewn blynyddoedd diweddar gan Michael Hall ac mae ar agor i’r cyhoedd. Cafodd ei chofrestru fel adeilad Gradd II* Yn y rhestr drethi ym 1291, mae cyfeiriad at felin bannu (rhan o’r broses wneud brethyn), yn ogystal â thair melin flawd ym mhentref Llandudoch a thiroedd cyfagos. Yr oedd gwlân yn cael ei gynhyrchu yma tan yn gynnar yn yr 20fed ganrif.

Tafarndai a Thai Cyhoeddus Ymhlith cyn-dafarndai yr oedd Tafarn Bae Aberteifi (ar Longdown Bank), Sailor’s Return, Noyadd Arms, Rose and Crown, Mariners, Sloop, Hen felin/warws Corner House, Treffynnon Arms a’r Royal Exchange. Mae rhai bellach yn dai. Y tafarndai presennol yw’r White Hart, y Teifi, y Ferry a Gwesty’r Webley. Câi tafarndai answyddogol yn y gorffennol eu galw’n ‘dafarnau smwglin’.


Castell Albro Wyrcws Undeb Aberteifi oedd yr adeilad anhygoel hwn yn wreiddiol, sydd bellach yn d] preifat. Cafodd ei adeiladu yn dilyn diwygio Deddf y Tlodion, ym 1834.

Tapestri Mileniwm Llandudoch Fe grëwyd y tapestri gan gr[p yn y pentref, ac mae’n hongian ar hyn o bryd yn y Ganolfan Goffa, ond mae cynlluniau i’w arddangos yn y Cartws. Mae ynddo tua 15 o luniau yn olrhain hanes y pentref. Stryd Fawr

Hanes Llan’doch Mae Hanes Llan’doch yn elusen a lansiwyd yn Hydref 2000 i greu canolfan ymwelwyr (Prosiect y Cartws) fel mynedfa gwybodaeth i’r Abaty Normanaidd, y pentref a’r wlad o amgylch.

Magnelfa’r ‘Royal Naval Reserve’ Yr oedd magnelfa hyfforddi ar lan yr afon rhwng Glanteifon a Gwesty’r Webley. Aelodau lleol o’r ‘Royal Naval Reserves’ oedd yn ei chriwio, ac fe’i chwalwyd ym 1906.

Bywyd Gwyllt Mae yma amrywiaeth o gynefinoedd yn yr ardal - aber, traeth, clogwyni, twyni tywod, cors frwyn, cymoedd a llwyfandir - sy’n caniatáu cyfoeth o rywogaethau. Mae Cwm Degwel yn enghraifft ardderchog o hafn a ffurfiwyd gan rewlif, ac mae’n gartref i rywogaethau megis briallu, cennin Pedr gwyllt, clychau glas, cen anghyffredin, mwswgl a goferllys. Mae’r llwyfandir yn gartref i’r ehedydd a melyn yr eithin, tra bod y frân goesgoch, y gigfran a’r gwalch glas yn ymgartrefu ar Ben Cemais. Lawr ym Mhopit, ceir twyni tywod a chors frwyn. Dyfarnwyd rhan o’r ardal yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Weithiau, ar hyd yr aber, gwelir y crëyr bach copog, y gwyach gorniog, gwalch y pysgod, y dyfrgi a’r morlo.


Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan aelodau o Gr[p Treftadaeth a Diwylliant Llandudoch mewn cydweithrediad â Archeoleg Cambria. Cynllun gan Waterfront Graphics Darluniau gan Oliver Forsyth & Gill Martinez PLANED © 2004

St dogmaels welsh  
St dogmaels welsh  
Advertisement