Page 1

REDBERTH


Yr Enw Roedd ffurfiau tebyg i’r enw presennol yn bod yn yr Oesoedd Canol, er enghraifft, ‘Redebord’, ‘Ridebard’, a ‘Redbarte’. Efallai eu bod yn deillio o’r gair ‘rhyd’. Roedd rhyd bwysig ar yr afon Caeriw lle saif Redberth, yn Norchard. Mae’n bosibl fod yr ail elfen yn deillio o’r gair ‘perth’: ‘rhyd ger y berth’.

Cynhanes Yn sgîl cynigion i adeiladu ffordd osgoi Redberth - Sageston, cynhaliwyd arolwg maes gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. Darganfu Ken Murphy domen bridd Font in gron mewn cyflwr da ger Hoyles; mae’n debyg o fod yn le claddu o Oes y St Mary’s Pres. Yn awr mae Cadw yn trefnu ei rhoi ar restr yr henebion swyddogol. Church

Cysylltiadau Roedd Redberth yn faenor yn perthyn i farwniaeth Caeriw. Rhoddodd arglwydd Normanaidd o Gaeriw, bentref Redberth yn ei gyfanrwydd i Farchogion St. Ioan Jerwsalem oedd â’u Pencadlys yn Slebech ger Hwlffordd. Golygai hyn eu bod yn cael dewis offeiriad y plwyf ac yn berchnogion y tir. Yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII, pasiwyd deddf a arweiniodd at ddiddymu’r Pencadlys, a throsglwyddwyd yr eiddo I’r Goron. Yna cafodd ei lesio neu ei werthu i dirfeddiannwr newydd, sef aelod o deulu Barlow fwy na thebyg. Yn ystod y cyfnod modern mae’r cysylltiad gyda Chaeriw wedi parhau’n gryf, gyda Redberth weithiau’n cael ei ystyried fel Capeliaeth Caeriw. Heddiw mae’n rhan o Gymuned Caeriw. Mae Redberth yn rhyw 300 erw o faint yn unig. Roedd Marchogion St. Ioan Jerwsalem (neu y Marchogion Ysbytaidd) yn Urdd elusengar yn wreiddiol gyda’r aelodau’n fynachod ond datblygodd yn gorff milwrol a’i fryd ar ryfela yn erbyn y Saraseniaid. Roedd ganddynt dai ledled Ewrop, lle’r oeddynt yn rheoli eu hystadau ac yn recriwtio aelodau newydd.

Ffyrdd a Llwybrau Saif canol y pentref ychydig i’r gogledd o’r brif ffordd rhwng Caerfyrddin a Phenfro. Gellir gweld olion system ffyrdd gynnar yn y pentref hyd heddiw, ac i’r gogledd-orllewin mae olion llwybr tuag at Harrolds yn Jeffreyston a thu hwnt i Minnis Pits. Mae’r ffordd A477 yn dilyn llwybr y ffordd dyrpeg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymddiriedolaeth Tyrpeg Tavernspite oedd yn gyfrifol am gynnal y ffordd. Cyn pasio Deddf 1828 roedd y brif ffordd o’r dwyrain yn mynd o Cold Inn Cross drwy East Williamston, heibio Ridge Farm ac ymlaen i Gomin Redberth. Nid oedd ffordd trwy Broadmoor nes i’r Ymddiriedolaeth ddechrau adeiladu ffyrdd yn yr ardal hon. Roedd y ffordd newydd yn ymuno â’r hen ffordd ger Lodge Redberth. Ni fedrwn ddweud a oedd y ffordd dyrpeg i’r gorllewin wedi’i hadeiladu ar hyd llwybr oedd eisoes yn bod neu a oedd ar lwybr cwbl newydd. Codwyd tollborth er mwyn adenill peth o’r costau i’r Ymddiriedolaeth. Erbyn heddiw mae’r Tolldy yn gartref preifat. Mae’n debyg mai Mr T Freeman oedd y ceidwad olaf.


Y Tir Yn niwedd y ddeunawfed ganrif, y teulu Barlow o Lawrenni oedd y prif dirfeddianwyr ond erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg dim ond rhyw 90 erw oedd ganddynt. Roedd perchnogaeth y tir wedi’i rannu rhwng naw o bobl, rai ohonynt yn berchen ar ychydig iawn o dir. Yr unig un oedd yn byw ar ei dir oedd Llewhellin Priday (4 erw). Yn y cyfnod hwn roedd yna 41 erw o dir comin. Roedd un rhan yn cael ei chroesi gan y ffordd dyrpeg i’r dwyrain o’r pentref, a’r llall gan y ffordd i St. Florence. Roedd rhagor o dir caeëdig yn cael ei ystyried fel gweundir. Er enghraifft, roedd chwe chae i’r de o’r enw ‘Horley Moors’. Mae’r enwau traddodiadol a roddwyd ar y caeau yn adlewyrchu’r dulliau ffermio a ddefnyddiwyd, er enghraifft, mae saith cae o’r enw ‘Sheep Place’. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd y diwydiant ffermio ei chwyldroi gyda chyflwyniad y tractor a pheiriannau eraill, ac yn ystod y pedwardegau a’r pumdegau cynyddodd cynhyrchiant llaeth. Daeth enwogrwydd i Redberth yn sgîl y fferm ddofednod a sefydlwyd gan Mr a Mrs F J Thomas yn Harcourt House o 1933 ymlaen.

Glo Saif Redberth ar gwr Maes Glo Sir Benfro. Bu’r diwydiant glo’n bwysig i’r trigolion lleol er na fu pyllau glo o fewn y plwyf. Roedd un hen drac yn arwain i Jeffreyston lle roedd pwllau glo, a dywedir i rai trigolion lleol weithio yn Llandegwenit (Caeriw) nes i’r pwll hwnnw gau ym 1833. Dim ond un glowr sy’n cael ei restru yng Nghyfrifiad 1851 - pan oedd poblogaeth y pentref ar ei uchaf - 137.

Poblogaeth Ym 1851 y cofnodwyd y boblogaeth uchaf, ond cynhwysai’r ffigurau bedler o Iwerddon a’i deulu a theithwyr eraill oedd yn byw ar y comin: cofnod o’r ffaith fod Redberth yn un o fannau aros y sipsiwn tan tua 1936.

Crefftau a galwedigaethau Ym 1851 roedd 6 chrydd, 2 deiliwr, 2 of, ac un wraig i saer llongau. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach pan oedd y boblogaeth gryn dipyn yn llai (84) roedd 3 gof, 1 wraig i of, 1 cowper ac 1 saer maen. Ymysg y galwedigaethau eraill mae chwarela am feini adeiladu.

Blacksmith’s shop ruins


Erbyn heddiw mae siop y gof yn adfail; y gof olaf i weithio yno oedd Mr T G Davies a ymddeolodd ym 1963. Roedd llawer o bobl yn teithio o Redberth i weithio yn Noc Penfro nes i’r Dociau Morwrol Brenhinol gau ym 1926.

Adeiladau Busnes Ymysg y siopau sy’n cael eu cofio mae’r siop felysion yn Porth Cottage dan ofal Mr a Mrs Mauchland rhwng 1930 a’r pedwardegau, a cyn hynny dan ofal Mrs Beynon. Caewyd y swyddfa bost ym 1986. Ymddengys nad oedd tafarn yno tan tua canol y 1980’au pan fu tafarn am gyfnod yn Redberth Lodge; ail-agorwyd hwn ym 1994.

Cyfleusterau Safai’r ffynnon gerllaw’r Tolldy. Cafodd ei hamgau ym 1934 pan osodwyd pwmp arni, ac ym 1948 darparwyd d[r trwy bibelli i’r pentref. Dechreuodd y gwasanaeth bws cyntaf ym 1930 gan Garej Greys yn Ninbych-y-pysgod. Roedd bws yn mynd i Ddinbych-y-pysgod unwaith yr wythnos am 11 o’r gloch ar ddydd Sadwrn, gan ddychwelyd am 3 y prynhawn. Adeiladwyd y Tai Cyngor cyntaf ym 1953.

Gweithgareddau Cymunedol Mae sawl un yn cofio’r cynhaeaf a’r swperau anferth a gaed i ddilyn. Roeddynt yn achlysuron cymdeithasol pwysig. Agwedd bwysig arall o fywyd y pentref yw’r gangen o Sefydliad y Merched a sefydlwyd ym 1949.

Y Capel Y ddau beth a arweiniodd at sefydlu’r capel oedd dyfodiad John Ashley - pregethwr Wesleaidd - i’r ardal ac esgeuluso adeilad yr eglwys a’r weinidogeth. Symudodd John Ashley, un o Gernyw i fyw i’r pentref ar ôl priodi Jane Phelps, merch Harry Phelps Ysw. o Norchard ym mhlwyf Jeffreyston. Ymdrechodd ef a’i wraig i godi safonau moesol y trigolion lleol gan gynnal cyfarfodydd crefyddol yn y Lodge ac mewn mannau eraill. Ym 1822 cafodd bwthyn a gardd oedd yn eiddo iddynt ei droi’n gapel.

Redberth Chapel


Ym 1837 symudodd y teulu Ashley i Dinbych-y-pysgod. Bu farw Mrs Ashley ym 1842 yn 70 oed, a Mr Ashley ym 1857 yn 86 oed. Fe’u claddwyd ym Mynwent Redberth. Ymysg yr arweinwyr cynnar roedd Thomas Howell, a arweiniodd y Gymdeithas ar ôl i’r teulu Ashley symud. Roedd ei fab, Harry Howell (a gafodd ei eni yn Fferm Croft ym 1835) yn bregethwr lleol yng nghylchdaith Penfro. Yn ystod yr 20fed ganrif parhaodd y capel i gyfrannu at fywyd ysbrydol yr ardal ac mae trigolion lleol yn cofio’r Ysgol Sul lewyrchus yn y blynyddoedd cyn y rhyfel. Gallant gofio’r tripiau ysgol Sul i Saundersfoot, Pentywyn, Glanyfferi a Llansteffan. Yn Saundersfoot roedd y bwyd yn cael ei baratoi gan yr oedolion ac roeddent yn cael defnyddio gardd Burgess Bakery a arweiniai i’r traeth. Yn anffodus fe gaewyd y capel ar 12 Mai 1985 ac erbyn heddiw mae’n d] preswyl.

Gwraig gymwynasgar Roedd Ann Pitney Thomas oedd yn denant yn y Lodge wedi i Mr a Mrs Ashley symud i Dinbych-y-pysgod, yn pryderu’n fawr am gyflwr moesol ac addysgol trigolion y pentref. Fe’i ganwyd yn Rheithordy Begeli ar Fedi 30, 1802, yn ferch ieuengaf i’r Rheithor. Daeth i Redberth yn dilyn marwolaeth ei thad y Parchedig Thomas Seth Jones Thomas M.A. ym 1837. Nid yw’n syndod, o edrych ar ei chefndir, ei bod hi’n poeni am bethau o’r fath: ei thad yn rheithor a chysylltiad cynnar ei mam â John Wesley. Roedd hefyd yn ferch ddeallus a blaengar iawn a datblygodd gysylltiadau gwerthfawr er mwyn hyrwyddo’i chynlluniau. Bu’n ymwneud â’r cynlluniau i ail-adeiladu’r eglwys ym 1840 ac roedd yn un o hoelion wyth yr ymgyrch i sefydlu a rheoli’r Ysgol, gan symud i fyw i D]’r ysgol ym 1853. Roedd hefyd braidd yn biwritanaidd: roedd y ffaith nad oedd tafarn yn y pentref yn ei phlesio’n fawr.

Eglwys Santes Fair Ail-adeiladwyd yr eglwys ym 1840-41. Dywedodd Mr Thomas Lloyd wrthym mai’r pensaer oedd George Brown o Grugyborian (plwyf Amroth). Ymysg hynodion yr eglwys yr oedd pulpud tair haen. Dywed Mr Gordon Harries (80 oed) a anwyd yn Redberth fod pobl yn cwyno fod eu gyddfau’n brifo wrth edrych mor uchel, felly tynnwyd yr haen uchaf a heddiw, pulpud dwy haen sydd yn Redberth. Erbyn heddiw mae Eglwys Redberth wedi ei huno â Maenorbyr, St. Florence a Jameston.

St Mary’s Church


Yr Ysgol

The Old School

Sefydlwyd Ysgol Redberth ym 1842 ac ym 1845 daeth dan ofal y Gymdeithas Genedlaethol. Cafodd ei hail-adeiladu ym 1853 gan wasanaethu’r gymuned tan 1953.

Tirlun a Natur Clai trwm yw’r pridd o amgylch Redberth yn bennaf, ac mae yna ardaloedd o dir gwlyb heb eu gwella, megis Comin Redberth, nad ydynt o unrhyw werth amaethyddol. Mae’r tir comin, heb wartheg na defaid yn pori arno bellach, yn gor-dyfu’n gyflym gyda rhedyn a mieri, ynghyd â Draenen Ddu, Eithin a llwyni Helygen. Fodd bynnag, mae rhannau o’r comin yn parhau’n agored ac yn gartref i gyfoeth o flodau gwyllt fel Helyglys Hardd, Bysedd y Cwn, Gludlys Coch a Rhwyddlwyn, gyda Iris Gwyllt, Gold y Gors a Chegid y Dwr yn y rhannau gwlypach. Mae Tylluanod Gwynion, Cyffylogod a llawer o adar llai fel y Ji-binc, y Fwyalchen a Delor y Cnau yn niferus, yn ogystal ag amryw o loynnod byw a gwyfynnod. Mae lonydd a llwybrau tawel cefn gwlad, gyda’u perthi uchel, hefyd yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt. Edrychwch am olion traed y mochyn daear i fyny’r cloddiau a llwybrau llai amlwg y cwningod a’r cadnoaid.

Rosebay Willow Herb


Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Redberth & District Local History Group in conjunction with Dyfed Archaeological Trust Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott SPARC ©

Redberth welsh  
Redberth welsh  
Advertisement