Page 1

MYNACHLOG-DDU, LLANGOLMAN & LLANDEILO

Bedd Arthur


Cynhanes Mae cernydd a meini hirion yn dystiolaeth o weithgareddau dyn yn yr Oes Neolithig a’r Oes Efydd. Ar Gors-fawr ceir cylch o feini a dau faen hir a ddywedir eu bod yn dyddio o tua 3,000 CC. Mae enwau caeau a ffermydd yn aml yn cyfeirio at nodweddion cynhanesyddol: Glynsaithmaen (Clunsaithmaen) er enghraifft (cwm y saith carreg). Mae enwau fel Parc maen llwyd (cae gyda charreg lwyd) hefyd yn arwyddocaol, tra bod cylch cerrig Bedd Arthur a rhes Cerrig Marchogion Arthur yn gysylltiedig â chwedloniaeth y brenin hwnnw. Awgrymwyd bod Mynyddoedd y Preselau gyda’u ‘cerrig gleision’ neu ddolerit brith sydd i’w darganfod ar Garn Ganol a Charnmeini (Carnmenyn ar lafar gwlad), yn atyniad i bobl yr Oes Neolithig a’r Oes Efydd. Credir bod y meini hirion o’r garreg las sydd yn ffurfio rhan o’r deml yng Nghôr y Cewri ar Wastatir Caersallog wedi dod o ardal y Preselau. Mae’r modd y cludwyd y cerrig yno yn gwestiwn dadleuol hyd heddiw. Ychydig i’r gogledd o ffin Mynachlog-ddu ceir Foel Drigarn lle gwelir tair carn o fewn amddiffynfeydd bryngaer Oes yr Haearn. Wrth gerdded ardal yr hynafiaethau hyn mae’n amlwg bod codi meini hirion fel cofebion yn dal yn draddodiad byw, gwelir yn yr ardal ee. gofeb i Waldo ac un arall i W.R. Evans.

Gors Fawr

Lleoliad Mae’r plwyfi hynafol hyn wedi eu lleoli ar lethrau deheuol Mynyddoedd y Preselau. Mae ffin ogleddol Mynachlog-ddu yn dilyn gorwel y mynyddoedd sydd i’w gweld o gryn bellter. Mae’r grib hon yn ddelwedd bwysig yn y gerdd ‘Preseli’ gan Waldo Williams (1904-1971), heddychwr a bardd o WR Evans Waldo Williams R Parri Roberts bwysigrwydd cenedlaethol a 1910-1991 1904-1971 1882-1968 dreuliodd ran o’i blentyndod ym Mynachlog-ddu lle roedd ei dad yn brifathro yr Ysgol Gynradd. Mae’r gerdd a gyfansoddwyd mewn cyfnod o gryn argyfwng i’r gymuned, yn agor gyda’r cwpled ‘Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd, Wrth fy nghefn ym mhob Cofebion annibyniaeth barn’.


Treftadaeth Mae’r Cymry sy’n byw yma heddiw yn parhau i gadw eu diwylliant a’u ffordd o fyw. Bu bron i’r cwbl gael ei golli pan gyhoeddodd y Swyddfa Ryfel yn hydref 1946 ei bod am feddiannu 16,000 erw o’r Preselau i’w defnyddio fel tir ymarfer. Yn ystod mis Tachwedd, cynhaliwyd cyfarfodydd protest a gwrthwynebiad trwy’r gymdogaeth. Cafodd amcanion y Llywodraeth eu gwrthsefyll drwy gyfarwyddyd pwyllgor lleol cryf a frwydrodd dros fodolaeth y gymuned. Ildiodd y Swyddfa Ryfel ac enillwyd y frwydr.

Enwau Mae’r ddau enw Llangolman a Llandeilo yn deillio o gyfnod Cristnogaeth gynnar. Cristion Gwyddelig oedd Colman a Theilo yn [r o ‘Sir Benfro’. Ystyr ‘llan’ yw darn o dir caeëdig neu eglwys. Credir i Fynachlog-ddu gael yr enw wedi i’r faenor gael ei rhoi i fynaich Sant Dogfael gan Robert fitz Martin, arglwydd Normanaidd cyntaf Cemais.

Plwyfi, Eglwysi a Chapeli Mae eglwys Llandeilo Llwydarth bellach yn adfail ac mae’r benglog, a honnir taw penglog Teilo ydyw, ac a ddefnyddiwyd i yfed d[r o’r ffynnon er mwyn cael iachâd, Sant Dogfael nawr yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Arloeswr Cristnogol cynnar arall oedd Dogfael neu Dogmael a chysegrwyd eglwys Mynachlog-ddu iddo. Adferwyd yr eglwys yn ogystal ag eglwys Llangolman yn y 19eg ganrif. Roedd safleoedd Cristnogol eraill megis Capel Sant Silyn, Capel Cawy, a Chroes Mihangel a oedd yn safle claddu yn yr Oes Efydd yn wreiddiol. Cloddiwyd safle’r olaf ym 50au’r 20fed ganrif ac mae’r gwrthrychau a ddarganfuwyd yno i’w gweld yn Amgueddfa Dinbych-ypysgod. Fe ddaeth y ffermydd mynachaidd o dan berchnogaeth seciwlar wedi diddymiad y mynachlogydd yn ystod teyrnasiad Harri VIII. Yn eu plith roedd fferm Cwm Cerwyn (ym Mynachlog-ddu a Llangolman), fferm ddiddorol ei hanes, yn enwedig gan fod ganddi dir âr mor uchel i fyny’r mynyddoedd. Doedd neb yn byw ar y fferm erbyn yr Ail Ryfel Byd, a dinistriwyd yr adeiladau yn Sant Colman ystod gweithgareddau milwrol y cyfnod.

Capeli Anghydffurfiol Ers yr 17eg ganrif roedd llawer o’r bobl leol yn Anghydffurfwyr neu’n Ymneilltuwyr o’r Eglwys Anglicanaidd. Sefydlwyd achos y Bedyddwyr yn Rhydwilym, ac ymhlith ei aelodau dylanwadol


roedd Griffith Morris o Lynsaithmaen (ac wedi ei briodas Capel yn 1693, o fferm Cwm Cerwyn). Adeiladwyd Capel y Bethel Bedyddwyr ym Mynachlog-ddu yn 1794, a’i gofrestru yn y Sesiynau Chwarterol dan yr enw Bethel yn 1795. Roedd hyn ar safle’r festri bresennol. Agorwyd y capel presennol yn 1877. Adeiladwyd Capel Annibynnol gyda man claddu yn Llandeilo yn 1714. Fe’i codwyd tua thri chwarter milltir i fyny’r rhiw o safle’r capel presennol. Symudwyd oddi yno ddegawdau yn ddiweddarach i d] cwrdd arall. Adeiladwyd y capel presennol, a enwyd ‘Llandilo’, yn 1882, o fewn y ffin yn Llangolman. Roedd y capeli yn ganolfannau addoli a thrafod. Câi gwyliau crefyddol pwysig eu trefnu, cymanfaoedd, darlithoedd gan bobl adnabyddus a gweithgareddau fel y Penny Reading, ynghyd ag eisteddfodau a oedd yn meithrin barddoniaeth a cherddoriaeth. Mae aelodau capeli Llandeilo a Rhydwilym yn parhau i lafarganu’r Pwnc.

Hen Gredoau Cyfeirir at arferion oes a fu mewn enwau llefydd. Cofir am hen arferion ffermio drwy enwau caeau fel Parc yr Ychain. Mae enwau llwybrau a lonydd yn awgrymu eu storiâu eu hunain, e.e. Feidir Dywyll a Feidir Wilym ym Mynachlog-ddu a Feidir Helyg yn Llangolman. Mae enwau ffynhonnau yn cynnwys Ffynnon Samson a Ffynnon Felys yn Llangolman. Credwyd bod llanw a thrai’r môr yn effeithio ar lifeiriant Ffynnon yr Ychen islaw Foel Feddau (Fwêl Fedw). Roedd ffynhonnau eraill, yn eu plith, Ffynnon Beswch (Mynachlog-ddu), y credwyd eu bod yn gwella afiechydon. Cyn rhagolygon y tywydd, dibynnai’r trigolion ar ddehongli arwyddion y tywydd yn eu ffordd eu hunain. Roedd ganddynt ddywediadau neilltuol ar yr hyn a welent, megis Ffenest y Barna, sef gwawr olau ar derfyn dydd, ar y gorwel rhwng Cerrig Marchogion Arthur a Thalmynydd neu uwchben Bwlch Ungwr (Wngwr ar lafar gwlad) sydd rhwng Carn Meini a Charn Arthur. Roedd hyn yn arwydd o dywydd teg drannoeth.

Capel Llandeilo


Ennill Bywoliaeth Yn ystod y 18fed ganrif a blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif roedd y boblogaeth yn cynyddu ac roedd mwy o bobl yn dibynnu ar yr un maint o dir i’w cynnal. Roedd pawb yn ddibynnol ar y tir, boed yn berchennog, yn denant neu’n weision a morynion. Ceisiodd rhai unigolion wella eu gobeithion drwy symud i’r tir comin lle caed yr hawl i godi tai unnos. Erbyn 1839 roedd caledi bywyd wedi dwysáu’n ddifrifol.

Beca Achos amlwg a enynnodd anfodlonrwydd oedd y tollborth a godwyd gan Ymddiriedolaeth Tollborth Hendy-gwyn yn yr Efailwen, ar y ffordd a ddefnyddiwyd gan bobl yr ardal i gario calch i’w ddefnyddio ar y tir. Cynhaliwyd cyfarfodydd argyfwng ar fferm Glynsaithmaen ac ar 13eg Mai 1839 chwalwyd y tollborth i’r llawr gan Ferched Beca. Fe’i hadferwyd gan yr Ymddiriedolaeth ond ymosododd Merched Beca yr eilwaith ar y tollborth ar 6ed Mehefin a thrachefn ar 10fed Gorffennaf, a hynny liw dydd. Arweiniwyd y fintai gan Twm Carnabwth (Thomas Rees o Fynachlog-ddu), deiliad t] unnos. Gwisgai bais wlân a fenthycwyd gan Rebeca Fawr, Mynydd bach, (Mini-bach) Llangolman, yn ôl coel gwlad. Drwy’r ymosodiadau hyn, sicrhawyd bod y ffordd yn parhau ar agor. Wrth i’r anfodlonrwydd gynyddu tuag at Ymddiriedolaethau eraill, fe wnaeth sawl Rebeca arall weithredu ar draws de orllewin Cymru. Ond i Twm Carnabwrth a’i fintai y bo’r clod am gychwyn yr ymgyrch. Yn ôl y sôn, câi Twm ei dderbyn gan saint Bethel i gymryd rhan yn y Gymanfa Bwnc am ei fod yn gystal canwr a bu’n aelod ffyddlon, mae’n debyg, wedi ei dröedigaeth. Gellir gweld ei garreg fedd i’r dde o’r capel. Torri’r iet (ailgread)


Chwareli Fe wnaeth amodau economaidd wella ychydig yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Ymfudodd rhan o’r boblogaeth, a oedd yn golled ar un olwg ond yn fodd i leihau’r tlodi ar yr olwg arall. Agorwyd chwareli llechi maes o law. Cwarre’r Mynydd oedd un o’r rhai cyntaf yn ôl y sôn. Y ddau fwyaf enwog oedd Cwarre Tyrch ym Mynachlog-ddu a oroesodd hyd wedi’r Rhyfel Mawr, a Chwarre Llechi Gwyrdd Gilfach (a adnabuwyd erbyn 1919 fel Cwmni Llechi Gwyrdd a Gwledig Preseli). Defnyddiwyd llechi o’r Preselau ar gyfer nifer o adeiladau enwog.

Ffermydd a Ffermio

T} Fferm Cwm Cerwyn

Mae ffermio wedi newid ar hyd y cenedlaethau wrth i’r tir gael ei gau. Mae’r plwyfi bellach yn glytwaith o ffermydd bach a mawr sydd yn perthyn i’r trigolion. Newidiodd y dull o ffermio yn sylweddol gyda dyfodiad peiriannau fel y tractor ac mae ffermio wedi newid mewn ffyrdd eraill hefyd. Collodd hen ffeiriau Maenclochog (Ffair Gytuno), Arberth, Eglwyswrw (Ffair Feigan) a Threfdraeth (Ffair Gurig) eu pwysigrwydd oherwydd y marchnadoedd anifeiliaid a sefydlwyd yn ystod tridegau’r 20fed ganrif, sef Crymych, Aberteifi, Arberth a Chastell Newydd Emlyn. Daeth yr arferiad o gytuno, sef cyflogi gweision a morynion mewn ffeiriau i ben. Mae’r diwydiant llaeth a fu mor llewyrchus ar un adeg bron wedi diflannu.

Defaid Defaid yw prif gynnyrch ffermio lleol a’r ddafad mynydd Gymreig yw’r brîd amlycaf. Mae ffermwyr o Fynachlog-ddu a Brynberian yn cadw eu defaid dros y gaeaf ar dir hyfforddiant militaraidd Castell Martin yng ngwaelod y sir, cynllun a gychwynnodd ym mis Rhagfyr 1950 yn dilyn colledion enbyd gaeaf 1947. Hyd y 1970au ‘roedd cneifio’r defaid yn achlysur cymunedol pwysig ond erbyn hyn gwneir y gwaith fel arfer gan gontractwyr.

Y Faenor Mewn cydweithrediad ag Arglwydd y Faenor, y ‘cwrt lît’ sydd yn rheoli materion yn ymwneud â’r Faenor. Arferai gwrdd yng Nglanrhyd ond bellach yn Nhrefach. Mae defaid Mynachlogddu a Brynberian yn cael eu didoli yn y ‘stra’ a gynhelir ar hyn o bryd ym Mhantithel. Gellir adnabod y defaid gan eu nodau clust unigryw. Cadwyd cofnod o’r rhain dros y blynyddoedd. Yn y Llyfr Nodau diweddaraf, a gasglwyd gan Mr Lloyd Davies, Penrallt yn 1980, nodir 160 o nodau ‘a ddefnyddir ar hyn o bryd’ yn ardaloedd Mynachlog-ddu, Brynberian, Tafarn Newydd, Trefdraeth a’r Frenni Fawr.

Nodau


Pontydd Roedd o leiaf tair pont yn bodoli yn 1598, Pont Mynachlog-ddu (Cwmisaf) a Phont yr Haiarn (Pont Trahayarne), y ddwy ym mhlwyf Mynachlog-ddu, a Phont Hywel yn Llangolman. Ymhlith pontydd lleol mwy diweddar ceir Pont Tycanol, Pont Awstralia (ger y cae chwarae) a Phont Bethel. Ger Pont Bethel mae bedyddfa Capel Bethel.

Ysgolion Roedd ysgol yn festri Bethel cyn i’r ysgol bentref gael ei chodi yn 1903. Caewyd yr ysgol gynradd hon yn 1995. Gan nad oedd ysgol gynradd yn Llangolman, mynychai plant yr ardal Ysgol Maenclochog ag Ysgol Llan-y-cefn (Nant y Cwm) nes iddi gael ei chau yn 1964. Ail agorwyd hon yn 1979 fel Ysgol Steiner.

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan Gr[p Hanes Cymdeithas Cwm Cerwyn Cynllun gan Waterfront Graphics Darluniau gan: Llyr John & Kris Jones. Map: Wyn Owens PLANED © 2006

Mynach welsh  
Mynach welsh  
Advertisement