Page 1

MAENORB]R


Maenorb}r - y Enw Dywed Dr B G Charles fod Maenorb]r yn gyfuniad o’r hen air Cymraeg ‘mainaur’ neu ‘maenawr’, sef uned weinyddol a’r enw personol ‘Pir’ neu ‘Pyr’. Gwelir yr un elfen yn yr enw cyn-Llychlynaidd Ynys Byr. Eglurhad arall posibl o’r ail elfen yw ei fod yn tarddu o’r hen Saesneg, un ai ‘bere’ sy’n golygu grawn neu haidd neu ‘baer’ sy’n golygu tir pori. Ar fap degymu 1840 nodir tiroedd a elwir yn ‘Beer’. Ni ellir rhoi coel ar yr hanesyn poblogaidd lleol fod yr enw wedi deillio o gystadleuaeth rhwng dyn ac arth.

Cynhanes Mae’r ardal hon yn hynod o bwysig o ran astudio dyn cynnar (gweler hefyd y daflen am Benalun). Yn ystod y cyfnod Mesolithig (rhwng 10,000 a 6,000 o flynyddoedd yn ôl Oesoedd Canol y Cerrig) a blynyddoedd cynnar y cyfnod Neolithig dilynol diflannodd llawer o dir ar hyd arfordir Cymru o dan y môr - efallai o’r llinell 20 gwryd (fathom) o dan y môr i’r arfordir presennol. Weithiau mae tystiolaeth o’r tir coediog blaenorol yn dod i’r golwg; er enghraifft oddeutu 20 llathen i gyfeiriad y môr o’r nôd llanw uchel (ar wely nant y traeth) gellir gweld gweddillion coed sydd eisoes yn dechrau newid yn lo meddal. Cafwyd offer y cyfnodau Mesolithig a Neolithig cynnar. Gellir gweld microlithiau fflint o Faenorb]r mewn amgueddfeydd. Ymddengys mai o gwmpas Bae Maenorb]r a ger yr arfordir i’r gorllewin a’r dwyrain oedd y lloriau gweithio fflint. Un o’r pethau mwyaf syfrdanol sydd wedi goroesi o’r cyfnod Neolithig yw’r siambr gladdu, neu’r gromlech a nodir ar fapiau OS fel y Kings Quoit. Saif y siambr gladdu ar hyd llwybr y clogwyn ar ochr ddwyreiniol Bae King’ Quoit Maenorb]r. Mae tystiolaeth o bresenoldeb dyn yn yr ardal yn ystod Oes y Pres a’r Oes Haearn ddilynol. Cafwyd pen pastwn o garreg o’r Cyfnod Pres ger y Dak ac fe gafwyd eitemau eraill yn Swanlake. Mae sawl tomen gladdu o Oes y Pres i’w cael yn enwedig ar dir uchel y grib. Mae olion cnydau a thystiolaeth lluniau o’r awyr yn dangos y bu yna gaer o’r Oes Haearn ger Gorsaf Maenorb]r ac o fewn ardal Gwersyll modern Maenorb]r ar benrhyn Old Castle Head ceir olion caer amlfuriog. Mae’n bosibl y bu pobl yn byw ynddi hyd y cyfnod Cristnogol cynnar. Cafodd archaeolegwyr hyd i fannau coginio cynhanesyddol ar hyd yr arfordir ger y Dak ac yn Swanlake. Yn y mannau hynny, roedd system ddyfeisgar ar gyfer cynhesu d[r a choginio cig mewn pwll wedi’i leinio â chlai, trwy ddefnyddio cerrig cynnes.


Cymry, Llychlynwyr a Normaniaid Celtiaid oedd yn gyfrifol am adeiladu gwersylloedd Oes Haearn fel yr un a geir yn yr Old Castle Head ac o’r Celtiaid y mae’r Cymry yn tarddu. Yn y cyfnod hanesyddol cynnar fe’u trowyd at Gristnogaeth ac adeiladwyd yr eglwysi cyntaf. Mae’n debyg fod yr eglwys gyntaf yn yr ardal ar safle’r eglwys bresennol neu gerllaw iddi. Mae’r fynwent yn gron sy’n nodweddiadol o safleoedd eglwysig cynnar. Nid oes tystiolaeth hyd yn hyn am ganolfan p[er seciwlar yn ‘Mainaur Pir’ ond efallai mai safle’r castell diweddarach oedd honno. Mae’r enwau lleol e.e. Lydstep a Skomer (na ddylid ei gymysgu gydag enw’r ynys i’r gorllewin) yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymosod ar yr ardal. Fe gafodd dyfodiad y Normaniaid a sefydlu Iarllaeth Penfro a oedd yn cynnwys Maenorb]r ddylanwad sylweddol. Adeiladwyd y castell, ac eglwys garreg ac fe gyflwynyd y system faenorol. O’r ddeuddegfed ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd maenor Maenorb]r ynghyd â thiroedd eraill, yn eiddo i deulu’r de Barri. Ymhlith y perchnogion diweddarach yr oedd yr Reconstruction of the Arglwyddes Margaret interior of Manorbier Beaufort, mam y Brenin Harri VII Castle (rhwng 1487 a 1509), teulu Bowen o Drefloyne (1601- 70) a theulu Philipps o Gastell Picton o 1670 ymlaen. Mae’r enw Park Farm yn adlais o’r parc ceirw canoloesol.

Y Castell Roedd cartref plentyndod Gerallt Gymro yn llawer llai a symlach na’r castell a ddatblygodd dros y blynyddoedd wedi hynny. Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r castell yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg. Ymddengys iddo gael ei gipio mewn brwydr oddeutu 1327 ac yn y Rhyfel Cartref tua mis Medi 1645. Mae llawlyfr ar gael.

Manorbier Castle


Gerald de Barri - Giraldus Cambrensis - Gerallt Gymro Cafodd ei eni (oddeutu 1146) yng Nghastell Maenorb]r. Mab ieuengaf teulu de Barri a disgynnydd i Dywysogion Cymru trwy’i famgu, y Dywysoges Nest a Barwniaid y Mers oedd yr eglwyswr, yr ysgolor a’r sylwebydd arbennig hwn. Fe roddodd i ni ddisgrifiad o Faenorb]r yn y ddeuddegfed ganrif sy’n cynnwys cyfeiriadau at y pysgodlyn, y berllan, y winllan, y felin a’r colomendy ac sy’n cloi gan ddweud mai Maenorb]r yw’r ‘man harddaf yng Nghymru’.

Y Pentref Fe fyddai gan y trigolion cynnar dir. Felly, fe fyddai llawer o’r cartrefi wedi bod yn dai fferm gyda buarthau ac adeiladau. Mae llawlyfr ymwelwyr (a gyhoeddwyd ym 1872) yn nodi fod ‘darnau o hen adeiladau o gwmpas y lle’ ac yn holi a oedd y pentref wedi bod yn fwy o ran maint ar un adeg. Roedd yn denu nifer cynyddol o ymwelwyr yn y cyfnod hwnnw ‘...yn ddiweddar mae rhai tai arbennig o hardd wedi cael eu hadeiladu mewn man hynod o braf yn wynebu’r bae. Felly mae ymwelwyr bellach yn gallu cael popeth sydd arnynt ei eisiau a hynny am bris rhesymol iawn’. Agorwyd lein y Pembroke and Tenby Railway i Benfro ym 1863 ac roedd gorsaf i’w chael ym Maenorb]r, 1 filltir i’r gogledd i’r pentref. Ar 1 Gorffennaf 1897, daeth yn rhan o Reilffordd y Great Western. Câi’r teithwyr eu cludo o’r orsaf i’r pentref gan gerbydau a dynnid gan geffylau, ac yn ddiweddarach gan geir wedi eu llogi. Ymwelwyr haf neu bobl a oedd am drigo yn yr ardal am gyfnod oedd y teithwyr hyn. Am gyfnod maith un o rinweddau Maenorb]r oedd y ffaith nad oedd yn rhy fawr ac felly fe ddatblygodd i fod yn bentref glan-môr braidd yn egscliwsif. Daeth llenorion i aros yno gan gynnwys aelodau’r Bloomsbury Set, gwleidyddion, ysgolheigion, cyfoethogion a phobl o dras uchel. Arhosai rhai ohonynt yn adran breswyl y castell. Parhaodd Maenorb]r yn ardal wledig. Fel y dywedodd un o’r trigolion: ‘Rwy’n cofio’r cyfnod bron iawn pan oedd tripiau Ysgol Sul yn cyrraedd ar gert a cheffyl, y certiau wedi’u sgwrio a’r harnais yn disgleirio. Roedd d[r o’r nant yn cael ei gynhesu mewn bwyleri mawr ar dân coed. Roedd yno dwyni tywod mawr yr adeg honno, ac roedd lawnt agored y pentref yn lle gwych i gynnal chwaraeon. Nid oedd yma harbwr na chei ond gellid glanio cychod bychain ac roedd yn lle gwych i bysgota a dal crancod. Roedd y traddodiadau a drosglwyddwyd yn cynnwys hanesion am smyglo mewn cyfnod mwy anhrefnus ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Interior of the Bier House


Tai Hanesyddol Roedd 7 aelwyd i Norchard (William Marichurch) ac East Moor (Thomas Lort) ym 1670. Dywedir fod rhannau o’r anedd-dai canoloesol wedi’u cynnwys yn y Norchard modern (lle roedd yna hefyd felin ]d gyda phwll a llifddor). Roedd Plasdy Maenorb]r yn annedd canoloesol caerog ger Middle Hill. Adeiladwyd yr Elordy yng nghanol y pentref i gadw elor y plwy’ (defnyddiwyd yr elor i gario’r meirw i’w claddu). Mae’r Elordy wedi’i adfer erbyn hyn a cheir paneli gwybodaeth ynddo yn adrodd hanes y plwy’.

Tafarndai Ychydig o wybodaeth sydd ar gael ond Simon Hughes oedd landlord y ‘Boot and Shoe’ ym 1822, sy’n addas iawn gan mai crudd ydoedd wrth ei alwedigaeth. John Hughes, a oedd hefyd yn grudd, oedd landlord y ‘Lion’ ym 1851 ac roedd y dafarn hon wedi ei lleoli ar hen safle’r ‘Boot and Shoe’. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel oddeutu 1890. Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yna Old Castle Inn ar safle’r Cross House presennol, neu yn ymyl y safle hwnnw. Roedd Castle Inn i’w gael hefyd.

Y Plwyf Y crib yw’r ffin ogleddol a’r môr yw’r ffin ddeheuol. Yn ogystal â phentref Maenorb]r mae’r plwyf yn cynnwys Maenorb]r Newton, Jameston a Lydstep.

Yr Adran Ryfel Ar droad y ganrif roedd yr Adran Ryfel eisoes yn berchen ar 31 erw ar y clogwyn. Rhagflas oedd hyn o’r rhan a chwaraewyd gan yr ardal fel tir amddiffynol a thir hyfforddi yn ystod yr ail Ryfel Byd.

Ysgolion Ym 1846 daeth Comisiynwyr a oedd yn cynnal arolwg o gyflwr addysg yng Nghymru o hyd i ysgoldy ar bwys yr Eglwys. Bellach mae bwthyn ar y safle a elwir yn Church Hill. Agorwyd yr Ysgol Genedlaethol 13 Ionawr 1873. Dyma ysgol y pentref hyd heddiw. Gwnaethpwyd gwaith adnewddu ac fe agorodd yr ysgol ar ei newydd wedd ym mis Ionawr 1966. Parish Church of St James

Eglwys Plwyf St Iago Fawr Dyma’r unig fan addoli yn y pentref ond roedd yna gapeli anghydffurfiol mewn mannau eraill yn y plwyf. Defnyddir un o’r rhai hynny, sef Penuel, hyd heddiw. Yn ystod y Canol Oesoedd roedd eiddo’r eglwys yn rhan o eiddo Priordy Benedictaidd Monkton. Gellir cael llawlyfr.


Y Colomendy Mae’r adeilad crwn hwn sy’n cynnwys 260 o flychau yn enghraifft wych o dechnegau adeiladu canoloesol. Fel y pysgodlyn, a safai rhwng y colomendy a’r castell, roedd yn cyfrannu’n helaeth at fwyd y cartref.

Y Felin Gwelir yr olion gerllaw’r colomendy. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y nant a oedd yn rhedeg o Park Farm, rhwng y castell a’r colomendy oedd yn gyrru’r felin. Ni ymddengys fod hyn yn gwbl gyson â disgrifiad Gerallt Gymro o’r system, yn y ddeuddegfed ganrif: ‘Ar ben dwyreiniol yr amddiffynfeydd ar y penrhyn, rhwng y castell, os gallaf ei alw’n hynny a’r eglwys, mae afon fechan sydd byth yn sychu yn llifo ar hyd cwm y ceir tywod yno wedi’i daenu gan wyntoedd cryf o’r môr. Mae’r afon fechan yn llifo o lyn mawr ac fe geir melin dd[r ar ei glan’. The Old Mill

The Dovecote

Odynau calch a melinau gwynt

Mae’r rhan fwyaf o odynau calch segur yn agos i’r chwareli. Gellir gweld odyn calch wedi’i adnewyddu o Mud Lane. Fe ddefnyddiwyd p[er y gwynt at ddibenion amaethyddol. Cyfeirir at ‘Middle Windmill’ ym 1618 ac at Windmill Hill ym 1701. Mae’r enw cae, Windmill Park, i’w weld ar fferm Slade yn Rhestr Ddegymau 1840 ac fe ddangosir melin ar fferm Tarr ar gyrion y pentref mewn rhifynnau cynnar o’r map OS. T[r gydag ochrau syth oedd melin Tarr.

Caeau Agored Y bloc mawr o stribedi a pherthi o amgylch pentref Maenorb]r yw un o gaeau’r hen drefgordd.

Maenorb}r ~ Fflora a Ffawna Mae yna gyfres o lwybrau cylchol yng nghyffiniau Maenorb]r. Dilynwch yr arwyddion a chewch weld amrywiaeth o gynefinoedd - glan-môr, twyni tywod, coetir a thir ffermio.


Mae rhan greigiog y lan-môr yn gyforiog o blanhigion ac anifeiliaid; Crancod Gwyrdd, Crancod Coch, Llyfrothod (pysgod bychain sy’n newid eu lliw i gydfynd â’r cefndir), Corgimychiaid, Anemonïau’r Môr a llawer math o Wymon. Fe welwch Bïod y Môr yn chwilio am gregyn yn y creigiau. Mae yna dwyni tywod wedi’u hamgau gan ffens rhag i draed ymwelwyr eu herydu. Clymir y tywod gan wreiddiau’r Morhesg. Mae Tafod y Bwch hefyd yn tyfu ar y twyni. Wrth gerdded ar hyd y meidri a’r llwybrau, fe welwch adar fel y Titw Tomos, y Titw Mawr a Llwyd y Berth. Mae’n bosibl y gwelwch Walch Glas neu Foda (Bwncath). Mae’r cloddiau’n fôr o liw yn yr haf. Mewn rhai mannau, mae’r cloddiau’n drwch o ddail siâp calon Heliotrop y Gaeaf sy’n blodeuo ym mis Ionawr. O dan y coed, fe glywch arogl garllegog dail Garlleg yr Arth. Vipers Bugloss

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Manorbier residents in conjunction with Cambria Archaeology. Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott & Neil Ludlow SPARC © 2002

Manorbier welsh  
Manorbier welsh  
Advertisement