Page 1

LYDSTEP


Lleoliad ac Enw Mae Lydstep yn gorwedd ar draws y ffin rhwng Maenorb]r a Phenalun. Ystyr yr enw yw ‘cilfach’ neu ‘bae’ ac mae’n ein hatgoffa o ymosodiadau y Llychlynwyr ar yr arfordir hwn fil neu fwy o flynyddoedd yn ôl. Efallai mai enw personol oedd ‘Lyd’.

Y Cynfyd O bryd i’w gilydd gellir gweld olion coedwig sydd o dan y d[r ym mhen gogleddol Lydstep Haven ac mae darganfyddiadau sydd yn Amgueddfa Dinbych-y-Pysgod erbyn hyn, yn dangos bod pobl wedi crwydro’r tir yn y gorffennol, efallai 6000 o flynyddoedd yn ôl. Efallai mai monolith o’r Oes Efydd oedd y ‘garreg hir’ a arferai sefyll ychydig i’r dwyrain o ffin y plwyf yn y cae y tu ôl i’r Palas. Mae’r gaer bentir (Sgomar) tua hanner milltir i’r de o’r pentref yn awgrymu bod pobl yn byw yn yr ardal yn yr Oes Haearn. Cafodd gwrthgloddiau ar Benrhyn Lydstep eu dinistrio gan chwarelu yn y 19eg ganrif.

Celtiaid, Cymry a Normaniaid Roedd disgynyddion Celtiaid yr Oes Haearn yn rheoli yma tan ddiwedd y 11eg ganrif, ac efallai fod yma dirfeddiannwr neu dirfeddianwyr o statws uchel. Cyrhaeddodd y Normaniaid yn hwyr yn yr 11eg ganrif ac ad-drefnwyd Cantref Penfro fel Arglwyddiaeth Penfro.

Maenor Maenorb}r a Phenalun Wedi bod ym meddiant gwahanol unigolion yn y canol oesoedd a chyfnod y Tuduriaid, gosodwyd y faenor ar les i Thomas Bowen ysw. o Dreflwyn ym Mhenalun ym 1601 gan y Frenhines Elizabeth I. Ym 1670 trosglwyddodd Thomas Bowen arall y faenor i Syr Erasmus Philipps o Gastell Picton.

Lydstep Palace

Llys Maenoraidd Longstone Llys rhydd-ddeiliaid Maenorb]r a Phenalun oedd hwn, yn cael ei gynnal bob pythefnos, o bosib ger ‘carreg hir’ Lydstep.

Y Palas Mae’r adeilad hwn o’r canol oesoedd wedi ennyn chwilfrydedd nifer helaeth o bobl ac mae’r enw ‘Palas’ yn awgrymu cysylltiadau o bwys. Y Cyngor Sir sydd piau’r Palas erbyn hyn. Dadansoddwyd strwythur yr adeilad gan N D Ludlow o Cambria Archaeology sy’n ei ddisgrifio fel ‘enghraifft wych o neuadd-dy llawr cyntaf dros seler gromennog’. Tua diwedd y canol oesoedd adeiladwyd bloc tai bach ar y cornel i’r gogledd-ddwyrain. Bu newidiadau ac ychwanegiadau ar ôl y canol oesoedd ond dirywiodd statws yr adeilad. Ym 1841 roedd yn gartref i ddau weithiwr amaethyddol a’u teuluoedd, ac felly y bu wedyn.


Y Palas a’i Dir Mae’n edrych yn debyg mai rhes o gaeau yn ymestyn tua’r gogledd o’r Palas oedd tir y Palas yn y gorffennol. Erbyn 1699 yr oedd yn eiddo i’r teulu â oedd piau Norchard (ym Maenorb]r) a oedd yn ffinio ag ef.

House or houses formerly on the site of Home Farm, re-drawn from a view by EL Barnwell, 1867 - since demolished

Tai Eraill

Ym 1811 ar ôl i’r hynafiaethydd Richard Fenton wneud sylwadau ar d] ym Mhenalun, dywedodd hefyd, ‘i’r dwyrain a’r de-ddwyrain ymlaen i Ludstep gynt yr oedd y wlad yn frith o dai oedd yn uwch o ran safon na’r hyn y gellid tybio y byddai ffermwyr yn byw ynddynt gyda’r rhan fwyaf wedi eu hamgylchynu â chwrt a mynedfa o siâp bwa ...’ Nododd yr hynafiaethydd a’r arlunydd o’r 19eg ganrif E L Barnwell fod t] hynafol (neu o bosib ddau d]) nepell o Lydstep Home Farm yr oes bresennol. Dymchwelwyd ef tua 1908.

Ffermydd Lydstep Roedd pum eiddo o’r enw Lydstep - a’r sillafu’n amrywio. Gan ddefnyddio 1786 fel dyddiad angor, roedd West ‘Lydstop’ (y Palas) a Lydstep Farm (Home Farm), ym mhlwyf Penalun. Ym Maenorb]r roedd Lydstep House, a fyddai maes o law yn eiddo John Adams ysw., gyda’r ‘Weddw Teague’ yn denant ynddo, eiddo tipyn yn llai a Gweddw Teague yn berchen arno ac yn byw ynddo (Court Farm o bosib?) a fferm o eiddo’r Arglwydd Milford o Gastell Picton. Roedd gan hwn, a brynwyd fel rhan o Ystâd Treflwyn, statws arbennig fel eiddo arglwydd y faenor a chyfeiriwyd ato weithiau fel Manor Farm. Roedd yr un teuluoedd yn berchen Lydstep house circa 1910 ar ‘Lydstep Farm’ a ‘Manor Farm’ ers y 17eg ganrif gynnar, ond prynwyd yr ‘Haven’/’Lydstep House’ gan Adams oddi wrth Ystâd Stackpole.


Yr Haven Eiddo’r teulu Adams am dros ganrif oedd hwn, ac yn aml yn cael ei osod i denantiaid. Nid oedd y t] yn haeddu unrhyw sylw penodol. Ym 1856 ysgrifennodd P H Gosse, ‘Rydym yn tynnu ar draws Bae Lidstep - traeth o raean, gyda bryniau isel gwyrdd a chaeau, ac ychydig o ffermydd y tu ôl iddo’. Roedd gwaith yn mynd ymlaen yn y chwareli a byddai hynny wedi gwneud yr eiddo yn llai atyniadol, ond ym 1841 roedd ganddo Borthdy ar y ffordd oedd yn arwain o’r pentref.

Chwarelu Mae’r map AO cyntaf ar raddfa fawr, yn dangos dau neu dri o hen chwareli i’r gogledd o’r pentref a hen odyn galch bellter cae o’r heol ychydig i’r gogleddThe brigantine ‘Express’ of ddwyrain o Lydstep Barnstaple loading limestone on Cottage. Nodir hen Lydstep beach circa 1870 chwareli eraill gerllaw South Lodge ac ar y penrhyn. Nid oes neb yn gwybod pryd y dechreuwyd mynd â cherrig o’r Penrhyn i’w gwerthu, ond deallwn fod cerrig yn cael eu cludo gan dryciau dros dramffordd ‘ar fflat y chwarel’ i ymyl y clogwyn, lle roedd dyfais yn cynnwys ffrâm i ostwng y cerrig i’r cychod, a oedd, er eu bod gymaint â chan tri deg o dunelli yn gorwedd yn glos o dan y clogwyn ar gyfer llwytho. Busnes yn ystod yr haf oedd hyn ac roedd cychod yn dod o rannau eraill o Gymru (enwir Aberteifi) a Gogledd Dyfnaint (Bideford er enghraifft).

John Wynford Philipps - Is-Iarll Tyddewi Prynodd John Wynford Philipps a’i wraig gyntaf Nora (Gerstenberg), Lydstep House ac eiddo arall yn negawd diwethaf y 19eg ganrif. Cafodd Lydstep House ei ymestyn, adeiladwyd rhodfa newydd, plannwyd cannoedd o goed. Ehangwyd y pentref i roi lle i fyw, i weithwyr a gweision. Adeiladwyd t] newydd yn Lydstep Farm (a ddaeth yn Home Farm) ynghyd â’r Porthdai ac Ystafell Ddarllen. Mae’r panteiliau coch a oedd yn rhan o’r steil i’w gweld o hyd. Roedd gan Mrs Philipps/Y Fonesig Nora ymrwymiad cadarn i amryw o achosion yn Llundain, Cymru a’r ardal leol. Mae ei dull adeiladol i’w weld yn glir yn y naw rhifyn a ymddangosodd o ‘Our Village Society Chronicle’ (Maenorb]r, Penalun, St Florence a Gumfreston) o Ionawr 1913. Yn ei amser olynwyd y Parch Ganon Syr James Erasmus Philipps 12fed Barwnig Picton gan ei fab, Mr Philipps fel y 13eg Barwnig. Roedd yn AS Rhyddfrydol a chafodd ddyrchafiad i D]’r Arglwyddi ym 1908 fel Arglwydd Tyddewi ac yn Is-Iarll ym 1918. Dioddefodd ergydion trwm: marwolaeth Y Fonesig Tyddewi a cholli’u dau fab ar faes y gâd ym 1915 ac 1916. Ganed mab a merch o’i ail briodas.


Main Street circa 1900

Cofio Lydstep House Mae aelod o’r grwp hanes lleol yn cofio bod perthynas iddo, Maurice (Morris) Davies o Lydstep, mab Edward Davies, wedi bod yn brentis i Thomas Davies, Maenorb]r, Adeiladwr a Gwneuthurwr Dodrefn, am bum mlynedd o 24 Mai 1899 ac yn ystod ei brentisiaeth buont yn gweithio yn Lydstep House.

Ymadawiad a Newid Ym 1926 roedd Ystâd Lydstep Haven ar werth. Yn dilyn ymadawiad Arglwydd ac Arglwyddes Tyddewi, bu’r Iarll Essex yn gyntaf, ac wedyn y Cyrnol John Edward Grimble Groves yn byw yn Lydstep Haven House. Ar ôl y rhyfel agorodd Mr Harry Victor Thomas y lle fel gwesty a gosodwyd y carafannau cyntaf ar y safle. Parhaodd ei fab Mr David Thomas y broses ac ym 1982 gwerthodd ef i Pontins. Erbyn hyn mae’n Safle Gwyliau Bourne Leisure.

Yr Ail Ryfel Byd West Lodge built circa 1912

Gofynnodd y fyddin am dai ac adeiladwyd lluestau Nissen ganddynt yn Lydstep Haven. Rhoddwyd y rhan fwyaf o Lydstep House at ddefnydd Ysgol GwrthAwyrennau ym Maenorbyr. Yn ‘The Girls Behind the Guns: With the ATS in World War II’, mae Dorothy Brewer Kerr yn cofio am ei gwaith gyda radar, cyfrifiaduro yn llyfrgell Lydstep House, llety mewn lluest Nissen a’r cynhesrwydd a’r croeso a gafwyd yng nghaffi Mrs Walters.

Mannau Cyfarfod a Thafarnau


Mae caffi Mrs Walters erbyn hyn yn rhan o Dafarn Lydstep lle bu’r gr[p hanes lleol yn cyfarfod. Nid oes eglwys, capel nac ysgol wedi bod yn Lydstep erioed ac mae’r Ystafell Ddarllen erbyn hyn yn gartref (Sea View). Ym 1851 John Twigg oedd tafarnwr Gwesty’r Quarry a oedd yn agos iawn os nad ar safle’r tafarn presennol. Caiff ei ddisgrifio mewn gwahanol ffyrdd megis Gwesty’r Quarry, Tafarn y Quarry a’r Quarry, a chedwid ef am gyfnod hir ar ddiwedd y 19eg ganrif gan Andrew Nicholl ond erbyn 1906 roedd wedi cau, mewn ymgais i atal y gweithwyr rhag yfed eu cyflog mae’n debyg. Mae Cyfeiriadur Masnach 1910 yn rhestru T] Dirwest a gedwid gan Henry Fair yr is-bostfeistr. Ailagorwyd y dafarn fel Tafarn Lydstep ar 4 Gorffennaf, 1974.

Y Traeth Ymysg rhyfeddodau Bae Lydstep roedd ogofâu o’r enw Ogof Harddwch, Ogof y T[r, y ‘Drot’ (ynganiad lleol Droch neu Drought) ac Ogof y Smyglwyr. Mae Mrs F P Gwynne yn ei ‘Guide to Tenby’ yn crybwyll enw Betsy Brinn a oedd yn byw gyda’i phlentyn ym mwthyn y tywysydd: byddai’n dangos yr ogofâu a’r llwybr ar hyd yr Ucheldir o gylch y penrhyn cyfan ac yn ôl i ‘Ivy Lodge’, i’r ymwelwyr. (Roedd Betsy Brinn a’i merch yn byw yn ‘Drot’ ym 1871). Uwchben y traeth yn y pen dwyreiniol, ychydig droedfeddi o’r llwybr, roedd croes-faen gynt er cof am J Cockburn Thompson a foddodd tra’n ymdrochi ar 26 Mai 1860.

Yr

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Ym 1936 prynwyd pentir Lydstep a oedd yn cynnwys tua phum deg pedair erw a Betsy Brinn’s Cottage, now demolished, in the valley above Lydstep Caverns Beach chydag arfordir o filltir a chwarter, gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oddi wrth J L Adams, W G Wynne a F George Loring.


Rasys Lydstep Dechreuodd rasys ceffylau ym 1947, a’r prif ddigwyddiad yw rasys Helfa De Penfro ar ddydd Llun y Pasg.

Teithiau a Bywyd Gwyllt Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr i Benrhyn Lydstep, sy’n eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar y gwastad, ac mae golgfeydd rhagorol. Mae’n werth ymweld ag ogofâu Lydstep ond mae’n rhaid cerdded i lawr llwybr serth a dringo dros greigiau. Cofiwch edrych ar dablau’r llanw; gellir cyrraedd yr ogofâu pan fo’r llanw’n isel yn unig. Ar gyfer taith hirach, ewch tua’r gogledd i Norchard Farm a thros y Ridgeway i St Florence. Gellwch ddychwelyd gan ddefnyddio’r Ritec Walk i Benalun ac yn ôl ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ar hyd lwybr yr arfordir gellwch fwynhau golygfeydd a phlanhigion carreg galch nodweddiadol. Ar lethrau sy’n wynebu’r môr edrychwch am blanhigion sy’n gallu goddef halen megis Betysen Arfor, Ffenigl y Môr, Lafant y Môr a Chlustog Fair. Yn y gwanwyn mae amrywiaeth eang o adar y môr yn nythu ar y clogwyni ac efallai welwch hebog tramor. Uwchben edrychwch am Foncathod a Chudyllod coch.

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Lydstep Local History Group in conjunction with Dyfed Archaeological Trust. Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott & Neil Ludlow SPARC ©

Lydstep welsh  
Lydstep welsh  
Advertisement